Cynllun Gweithredol 2025-2026 PecynUK
Cyhoeddwyd 28 Chwefror 2025
Cyflwyniad
Blwyddyn weithredol lawn gyntaf PecynUK fydd 2025 – 2026. Mae gan PecynUK rwymedigaeth o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024[1] i gyhoeddi Cynllun Gweithredol ar gyfer blwyddyn nesaf y cynllun. Mae’r Datganiad Polisi ar y Cyd ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros Becynwaith yn rhoi manylion ychwanegol am yr hyn y mae’r Pedair Gwlad yn disgwyl i’r Cynllun Gweithredol hwn ei gynnwys. Ar gyfer blwyddyn nesaf y cynllun, mae nifer o bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y cynllun gweithredol, sef:
- cyfanswm costau gwaredu taladwy pob awdurdod perthnasol; a
- cyfanswm y costau y mae PecynUK yn disgwyl eu hwynebu i dalu am waith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd; a’r
- cyfanswm y mae PecynUK yn disgwyl ei adennill gan gynhyrchwyr rhwymedig.
Bydd y ffioedd terfynol ar gyfer blwyddyn gyntaf EPR yn cael eu rhyddhau ar ôl 1 Ebrill 2025 (y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am becynwaith a ddarparwyd gan gynhyrchwyr cofrestredig yn 2024). Felly, ni all PecynUK ddarparu rhagolygon cywir ar gyfer y costau y mae PecynUK yn disgwyl eu hwynebu i dalu am waith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd, a’r symiau y mae PecynUK yn disgwyl eu hadennill gan gynhyrchwyr rhwymedig. Dyma’r elfennau sydd o fewn cwmpas y Cynllun Gweithredol:
- modiwleiddio a dyddiadau cyllid pwysig
- cyflenwr gwasanaethau ariannol
- effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- rhwymedigaethau statudol
Ffioedd a thaliadau
Rhagolygon
Ym mis Rhagfyr 2024[2], cyhoeddodd PecynUK y fersiwn ddiweddaraf o’r Ffioedd Sylfaen Enghreifftiol a’r symiau dangosol a fydd yn cael eu talu i Awdurdodau Lleol. Gallai’r symiau hyn newid wrth i ni gael mwy o ddata a chyfrifo’r union symiau, felly ni allwn ddarparu rhagolygon ar gyfer y swm y mae PecynUK yn disgwyl ei adennill gan gynhyrchwyr rhwymedig a swm y costau gwaredu taladwy y bydd Awdurdodau Lleol yn eu derbyn.
Mae PecynUK yn disgwyl wynebu costau gwaredu yng nghyswllt gwybodaeth i’r cyhoedd a fydd yn talu costau unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd y mae PecynUK yn dymuno eu lansio a fydd yn help gyda’r canlyniadau amgylcheddol y mae’n gobeithio eu cyflawni. I oruchwylio’r gwaith o weithredu a rhedeg diwygiadau pEPR, bydd PecynUK yn wynebu costau gweinyddol a fydd yn talu am bob agwedd ar redeg y cynllun.
Dyddiadau pwysig
Hydref 2025 – Bydd anfonebau’n cael eu hanfon at gynhyrchwyr rhwymedig, a fydd yn cynnwys ffioedd gwaredu, costau gwaith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd. Bydd gan gynhyrchwyr 50 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb i dalu’n llawn neu i drefnu rhandaliadau chwarterol.
Dyma ddyddiadau disgwyliedig y taliadau chwarterol:
- Tachwedd 2025
- Ionawr 2026
- Ebrill 2026
- Mehefin 2026
Tachwedd 2025 – Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol yn derbyn eu taliad cyntaf ym mis Tachwedd 2025 ar gyfer Ch1 a Ch2 y flwyddyn asesu, sef Ebrill 2025-Mawrth 2026. Dyma ddyddiadau’r taliadau yn y dyfodol i Awdurdodau Lleol:
- Ionawr 2026
- Mawrth 2026
Rhagfyr 2025 – Bydd PecynUK yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer ffioedd wedi’u modiwleiddio a fydd yn dechrau yn 2026.
Modiwleiddio
O ail flwyddyn weithredol EPR ymlaen (2026 i 2027), bydd ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau bod deunyddiau pecynwaith sy’n llai cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn arwain at ffioedd uwch. Bydd y mathau o becynwaith y bydd rhaid talu ffioedd uwch neu is arnynt yn seiliedig i ddechrau ar asesiadau ailgylchadwyedd yn unol â Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)[3], a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024.
Disgwylir y bydd y fethodoleg modiwleiddio amlinellol yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.
Ymgyrchoedd Gwybodaeth i’r Cyhoedd
Mae gan PecynUK rwymedigaeth statudol i ddarparu gwybodaeth am ailddefnyddio pecynwaith; adfer, gan gynnwys ailgylchu, a gwaredu gwastraff pecynwaith; ac atal sbwriel pecynwaith.
I gyflawni’r rhwymedigaeth statudol hon, gall PecynUK wneud trefniadau ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth cenedlaethol neu leol a fydd yn rhoi gwybod i’r cyhoedd a busnesau sut i reoli, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff pecynwaith yn ogystal ag atal sbwriel pecynwaith.
Bydd PecynUK yn datblygu ei ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn weithredol gyntaf. Dylai’r ymgyrchoedd hyn helpu i sicrhau’r effeithiau amgylcheddol y mae’r cynllun yn ceisio eu cyflawni, sef:
- defnyddio pecynwaith sy’n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol
- atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff
- sicrhau bod mwy o becynwaith yn cael ei ailddefnyddio, a chynyddu nifer ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy’n cael eu hailgylchu; a lleihau faint o ddeunyddiau pecynwaith a roddir ar y farchnad
Cyflenwr gwasanaethau ariannol
Ar gyfer y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn canolbwyntio ar weithredu a pharatoi’r Cyflenwr Gwasanaethau Ariannol (FSS) cyn anfonebu ym mis Hydref 2025. Bydd y Cyflenwr Gwasanaethau Ariannol yn goruchwylio’r gwaith o gasglu ffioedd gan gynhyrchwyr rhwymedig a gwneud taliadau i Awdurdodau Lleol.
Sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr
Ar gyfer y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn gosod y sylfeini i sefydlu’r Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO), gan ddatblygu rôl y Sefydliad a’r broses ymgeisio gyda’r nod o benodi er mwyn dirprwyo swyddogaethau Gweinyddwr y Cynllun. Bydd y gwaith hwn yn nodi rôl gychwynnol y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr o ran cyflawni swyddogaethau’r cynllun, a phroses ymgeisio gadarn i sicrhau bod ymgeisydd o ansawdd uchel yn cael ei benodi gyda chefnogaeth cynhyrchwyr.
Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
Bydd PecynUK yn cynnal asesiadau o Awdurdodau Lleol i asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau casglu ac ailgylchu ar gyfer gwastraff pecynwaith. Wrth wneud hynny, bydd yn darparu cynllun sy’n dangos gwerth am arian i gynhyrchwyr yn ogystal â dinasyddion.
Ym mis Ebrill 2025, bydd PecynUK yn anfon rhagor o lythyrau taliadau dangosol a chanllawiau cysylltiedig, gan gynnwys canllawiau ar effeithiolrwydd i Awdurdodau Lleol, cyn anfon llythyrau talu terfynol ym mis Tachwedd 2025.
O fis Mai 2025 ymlaen, bydd y gwaith i gaffael yr asiant a fydd yn gweithio ar ran PecynUK yn cydredeg â’r gwaith i gychwyn fframwaith ar gyfer y Sefydliadau Cymorth. Bydd PecynUK hefyd yn datblygu cyfres o feini prawf cymorth a chymhwysedd ar gyfer Awdurdodau Lleol mewn Cynllun Gweithredu Gwelliant. Mae cynlluniau hefyd i gynnal astudiaeth beilot gyda llond llaw o Awdurdodau Lleol ar draws y Pedair Gwlad ar gyfer gwaith y Cynllun Gweithredu Gwelliant.
Bydd PecynUK yn datblygu ac yn cynnal llyfrgell adnoddau i Awdurdodau Lleol ei defnyddio a darparu adborth arni erbyn mis Tachwedd 2025.
Ar yr un pryd, bydd gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu’n barhaus â chynrychiolwyr Awdurdodau Lleol, i ddeall y berthynas rhwng polisïau a’r Pedair Gwlad, ac i geisio meithrin gwell dealltwriaeth o’r problemau data sy’n wynebu Awdurdodau Lleol. Byddwn yn defnyddio cynlluniau peilot i sicrhau bod camau gwella yn cael eu hintegreiddio â fframweithiau gwelliant presennol pob Gwlad.
Rhwymedigaethau statudol
Mae gan PecynUK nifer o rwymedigaethau statudol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024. I fodloni’r rhwymedigaethau hyn yn y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn cyflawni’r gweithgareddau canlynol.
- datganiad Polisi ar Fodiwleiddio Ffioedd Gwaredu – bydd PecynUK yn ceisio ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2025 er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i gynhyrchwyr rhwymedig
- strategaeth – bydd PecynUK yn cyhoeddi strategaeth ym mis Mehefin 2025 a fydd yn cynnwys amcanion a swyddogaethau, trefniadau llywodraethu’r cynllun, a’r canlyniadau y mae’n bwriadu eu cyflawni
- adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon – bydd PecynUK yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon ym mis Medi 2025, yn unol â safonau cyfrifyddu Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus (PSFA) a’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)
- hysbysiadau asesu ac atebolrwydd – ym mis Hydref/Tachwedd 2025, bydd PecynUK yn anfon pob hysbysiad angenrheidiol at gynhyrchwyr ac Awdurdodau Lleol
- canllawiau i Gynhyrchwyr ac Awdurdodau Lleol – bydd PecynUK yn ceisio cyhoeddi canllawiau i gynhyrchwyr rhwymedig ynghyd ag Awdurdodau Lleol ar elfennau fel cyfrifo ffioedd, methodoleg talu, ac Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi pan ddaw rhagor o wybodaeth ar gael am y pynciau sydd eisoes wedi cael eu crybwyll.
- rhestrau – rhaid i PecynUK gyhoeddi rhestr o eitemau pecynwaith sy’n cael eu gwaredu’n aml mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel ar y llawr, ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael i PecynUK. Bydd y rhestrau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd PecynUK yn casglu’r dystiolaeth angenrheidiol i allu eu cyhoeddi.
[1] https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2024/9780348264654/contents
[2] https://www.gov.uk/government/publications/epr-for-packaging-updated-illustrative-base-fees-december-2024/extended-producer-responsibility-for-packaging-illustrative-base-fees-december-2024
[3] https://www.gov.uk/guidance/recycling-assessment-methodology-how-to-assess-your-packaging-waste