Canllawiau

Cynllunio eich sgwrs cynhaliaeth plant (Gallwch ei weld ar-lein)

Cyhoeddwyd 12 Awst 2019

Pam y gallai cael y sgwrs yma fod yn syniad da

Defnyddiwch y canllaw yma i’ch helpu i gynllunio sgwrs cynhaliaeth plant gyda rhiant arall eich plentyn. Gallech ofyn i’r rhiant arall weithio drwy’r canllaw ar wahân fel bod gan y ddau ohonoch gynllun pan fyddwch yn dechrau siarad.

Os gallwch weithio gyda’ch gilydd i gytuno ar drefniant cynhaliaeth plant sy’n gweithio i’r ddau ohonoch, gallai gael effaith gadarnhaol ar eich plant.

Nid yw’n costio unrhyw beth i sefydlu trefniant eich hun, nid oes angen i unrhyw un arall gymryd rhan ac efallai y byddwch yn gallu newid eich trefniant os bydd amgylchiadau’n newid i’r naill un ohonoch.

Cyfrifo taliadau cynhaliaeth plant

Os ydych angen help i gyfrifo’r swm o gynhaliaeth i’w dalu, gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant.

Gallech gytuno ar daliad rheolaidd neu gynnwys taliadau ‘mewn nwyddau’. Rhain yw taliadau am eitemau fel gwisgoedd ysgol, gweithgareddau cymdeithasol neu siopa am fwyd.

Y peth pwysig yw bod y ddau ohonoch yn cytuno i drefniant sydd yn gweithio fel ei fod yn rhoi cymorth dibynadwy tuag at gostau pob dydd o fagu eich plant.

1. Am beth ydych eisiau siarad?

Ysgrifennwch restr o bopeth rydych eisiau siarad amdano o ran trefniadau ar gyfer eich plant.

Penderfynwch pa eitemau sydd fwyaf pwysig i’w trefnu

Yna meddyliwch am ba bethau rydych yn barod i gyfaddawdu arnynt.

Siaradwch drwy eich cynlluniau gyda ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu i feddwl am unrhyw gwestiynau eraill.

2. Sut, lle a phryd ydych am siarad?

Meddyliwch am rywle i gyfarfod lle y bydd y ddau ohonoch yn teimlo y gallwch siarad gyda’ch gilydd.

Mae’n well gan rai pobl siarad yn rhywle preifat, fel eu cartref. Os ydych yn teimlo’n anghyfforddus yn mynd i gartref eich gilydd, yn lle hynny gallech ofyn i ffrind neu berthynas adael i chi ddefnyddio eu cartref.

Mae’n well gan rai pobl gyfarfod mewn rhywle mwy cyhoeddus, fel caffi neu barc.

Meddyliwch am ddulliau eraill o gyfathrebu os na fydd cyfarfod yn bersonol yn gweithio - er enghraifft, neges testun, e-bost neu dros y ffôn - a chytunwch ar amser i gyfathrebu.

Ceisiwch ddod o hyd i amser addas pan fydd y ddau ohonoch yn gallu siarad yn agored, heb y plant fod o gwmpas.

Gadewch ddigon o amser i chi’ch hun fel nad ydych o dan bwysau. Er enghraifft, peidiwch â threfnu i siarad os oes yn rhaid i chi fod yn y gwaith ymhen yr awr, neu pan fyddwch angen nôl neu ddanfon y plant.

3. Hoffech i unrhyw un arall fod yna?

Os credwch y byddai’n ddefnyddiol, gallech ofyn i ffrind neu berthynas fod yna yn ystod eich sgwrs. Mae rhai pobl yn gweld hyn yn ddefnyddiol, os yw’n berson y mae’r ddau riant yn ymddiried a’u bod yn gallu aros yn ddigynnwrf a niwtral.

Gallech hefyd ofyn i gyfryngwr teuluol proffesiynol eich helpu. Darllenwch mwy o wybodaeth am gyfryngu teuluol.

Os ydych am i rywun arall fod gyda chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y rhiant arall fel eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

4. Sut hoffech egluro eich syniadau?

Gallech ysgrifennu eich meddyliau i lawr neu siarad amdanynt.

Efallai y byddwch yn darganfod y gallwch gytuno’n hawdd gyda rhai pethau. Dechreuwch gyda’r rhain, i gael rhywfaint o dir cyffredin, hyd yn oed os nad eich prif flaenoriaeth ydynt.

Byddwch yn gwrtais a thrin y rhiant arall fel y byddech am gael eich trin.

Gwrandewch ar beth mae’r rhiant arall yn ei ddweud. Ceisiwch beidio â defnyddio ymadroddion sy’n swnio fel cyhuddiadau, fel ‘ nid wyt byth yn…’ neu ‘ti’n wastad yn…’. Gallai defnyddio’r geiriau hyn wneud y sgwrs yn llawer mwy caled.