Diffynyddion sy’n Oedolion: Pan fyddwch yn mynd i’r llys ac eisiau dweud eich bod yn ddieuog
Updated 20 August 2021
Applies to England and Wales
Siarad â chyfreithiwr
Cyn dyddiad y gwrandawiad llys, siaradwch â chyfreithiwr ar unwaith.
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr trwy:
- chwilio ar GOV.UK
- cysylltu â Chymdeithas y Cyfreithwyr ar-lein neu ffonio 020 7320 5650
Efallai y gall Asiantaeth Gynghori fel Cyngor ar Bopeth eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.
Sut y gall cyfreithiwr eich helpu chi
Bydd y cyfreithiwr yn edrych i weld pa un a allwch gael cymorth cyfreithiol ai peidio. Byddwch yn cael hwn fel rheol. Os yw’r llys yn cytuno, mae’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu arian i’r cyfreithiwr.
Gall y cyfreithiwr roi cyngor i chi ynghylch a ydych chi’n euog neu’n ddieuog o’r drosedd.
Bydd y cyfreithiwr yn eich cynrychioli yn y llys. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â’r llys ar eich rhan.
Mae angen i chi ddweud wrth y cyfreithiwr am bopeth a ddigwyddodd. Maen nhw yno i helpu.
Mae angen i chi roi’r holl wybodaeth sydd gennych am eich achos i’r cyfreithiwr. Byddant yn cadw popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol oni bai eich bod chi’n cytuno i’r llys gael gwybod.
Sut mae’r cyfreithiwr yn amddiffyn eich hawl i breifatrwydd yn y llys.
Mae popeth sy’n cael ei ddweud rhyngoch chi a’ch cyfreithiwr yn gyfrinachol, a dim ond gyda’ch caniatâd chi y gellir ei rannu.
Fodd bynnag, ni chaniateir i gyfreithiwr gamarwain y llys na dweud rhywbeth y maent yn gwybod sy’n ddim yn wir.
Bydd angen i’ch cyfreithiwr rannu manylion yr amddiffyniad gyda’r llys i baratoi ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd angen eich caniatâd chi ar y cyfreithiwr i wneud hyn.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn dweud wrth y llys eich bod yn ddieuog
Fel rheol mae angen i’ch cyfreithiwr, yr erlynydd a’r llys lenwi’r ffurflen paratoi ar gyfer treial mewn llys ynadon.
Mae angen i’r llys ddeall pam rydych chi’n dweud eich bod yn ddieuog a phenderfynu beth fydd yn digwydd yn y treial.
Bydd y llys fel arfer yn dweud wrthych pa bryd ac i ble y mae’n rhaid i chi ddod i’r llys ar gyfer eich treial.
Gwybodaeth sydd ei hangen ar eich cyfreithiwr
Bydd angen i’ch cyfreithiwr siarad â chi am eich achos cyn y treial, felly mae angen i chi ddweud wrthynt:
- ble rydych yn byw
- beth yw eich rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost os oes gennych un
Mae angen i’ch cyfreithiwr wybod popeth am eich achos, fel:
1) Beth ddigwyddodd yn eich achos chi?
2) Pam ydych chi’n dweud eich bod yn ddieuog? Dyma beth rydych chi’n dweud ddigwyddodd.
3) Os oes gennych unrhyw dystion. Mae’r rhain yn bobl a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu sy’n gallu dweud wrth y llys amdanoch chi. Mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr (os ydych chi’n gwybod hyn) eu henw, ble maen nhw’n byw, dyddiad geni, rhif ffôn ac a ydyn nhw’n siarad iaith arall. Efallai nad ydych yn gwybod hyn i gyd ond dywedwch wrth eich cyfreithiwr beth allwch chi.
Os na fyddwch chi’n dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr
Efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu eich helpu chi.
Os na fyddwch yn dweud wrth y cyfreithiwr am dyst neu unrhyw dystiolaeth ar unwaith, gallai’r llys benderfynu i gynnal y treial heb y dystiolaeth honno na’r tyst hwnnw. Efallai y bydd y llys yn penderfynu cynnal eich treial ar ddiwrnod arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu arian i’r llys am yr amser sy’n cael ei wastraffu.
Os byddwch yn anghofio dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr, dywedwch wrthynt cyn gynted ag y gallwch ar ôl i chi gofio.
Os bydd rhywbeth yn newid, dywedwch wrth eich cyfreithiwr ar unwaith.
Beth sy’n digwydd pan fydd y llys yn penderfynu ar ddyddiad y treial
Bydd y llys yn dweud wrthych beth yw dyddiad, amser a lleoliad y treial. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd tua 30 munud cyn amser y gwrandawiad. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros.
Efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr siarad â chi cyn y treial. Gwnewch yn siŵr fod ganddyn nhw eich rhif ffôn. Os bydd eich rhif ffôn wedi newid, mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr.
Rhaid i chi ddod i’r llys ar gyfer eich treial. Os na allwch ddod, er enghraifft gan eich bod yn sâl neu bod argyfwng, rhaid i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr a’r llys ar unwaith. Rhaid i chi gael rheswm da iawn am beidio bod yn bresennol.
Os na fyddwch yn dod i’r llys:
- efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu siarad â’r llys ar eich rhan
- efallai bydd y llys yn penderfynu os ydych chi’n euog neu’n ddieuog yn eich absenoldeb
- efallai y bydd yr heddlu yn eich arestio
- efallai y bydd y llys yn penderfynu yn ddiweddarach nad oedd gennych reswm da dros beidio â dod – gall y llys eich cosbi am hyn
Gwybodaeth bellach am fynd i’r llys
Mae’r taflenni hyn yn egluro beth sy’n digwydd pan fyddwch chi a’ch plentyn yn mynd i’r llys- a rhai o’r geiriau y byddwch chi’n eu clywed yn y llys:
- Cyn mynd i’r llys: mynd i lys troseddol fel diffynnydd
- Yn y llys: bod yn ddiffynnydd mewn llys ynadon
- Mynd i’r llys fel diffynnydd: deall y termau cyfreithiol sy’n cael eu defnyddio yn y llys
Maent hefyd ar gael yn eich llys lleol.