Polisi Cymorth Mewn Ymateb i Lifogydd Sgiwen - 16 Mawrth 2021
Diweddarwyd 16 Mawrth 2021
Ar 21 Ionawr 2021, yn dilyn Storm Christoph a’r tywydd gwlyb estynedig ledled Cymru, fe wnaeth cyfaint sylweddol o ddŵr orlifo i Sgiwen o waith glo ym Mharc Goshen.
Mae’r Awdurdod Glo wedi ymchwilio’n drylwyr i’r digwyddiad. Digwyddodd hyn o ganlyniad i rwystr mewn hen geuffordd draenio (gwaith glo). Rydym yn cynllunio gwaith i adfer y geuffordd hon a’r siafft pwll dan sylw. Byddwn yn adeiladu system rheoli dŵr pwll glo newydd i gasglu’r dŵr sy’n dod i lawr o’r pyllau uwchben Sgiwen i leihau’r risg o ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys systemau monitro llif a thelemetreg (larwm) er mwyn gallu ei fonitro 24/7.
Rydym yn cydnabod bod y llifogydd wedi cael effaith sylweddol ar nifer o gartrefi ac rydym yn cynnig helpu’r gymuned leol i lanhau. Mater i gwmnïau yswiriant yw adfer ar ôl llifogydd a dylai’r preswylwyr gysylltu â’u cwmni yswiriant yn y lle cyntaf, ond mae llawer wedi dweud wrthym nad yw eu polisi yswiriant yn darparu ar gyfer rhan o’r gwaith glanhau ac adfer y tu allan, neu’r gwaith cyfan. Felly, byddwn yn cynnig y cymorth canlynol:
-
Cymorth ar unwaith i glirio ocr, mwd a malurion o’r ardaloedd allanol o amgylch yr eiddo. Bydd y criwiau’n dechrau ar y safle ddydd Llun 1 Chwefror yn Sunnyland Crescent cyn symud i Jubilee Close, Highlands, Dynever Road, Cwrt-y-Clafdy a’r ardaloedd cyfagos, cyn symud i Barc Goshen ddydd Llun 8 Chwefror pan fydd mynediad dros dro newydd ar gael
-
Cymorth i adfer gerddi ac ardaloedd allanol i’w cyflwr cyn y llifogydd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel paneli ffensys, glaswellt, gro a chyweirio tyllau neu graciau mewn dreifiau hyd at gyfanswm o £2000 o ddeunyddiau.
Dyma’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cymorth hwn:
-
Rhaid i berson sy’n gymwys i gael cymorth fod yn berchen neu’n feddiannydd cartref a wnaeth ddioddef llifogydd yn Sgiwen ar 21 Ionawr 2021;
-
Y preswylydd sy’n gyfrifol am gysylltu â’r Awdurdod Glo i ofyn am gymorth drwy’r llinell gymorth i breswylwyr – 0800 288 4268
-
Bydd angen i’r preswylydd gytuno’n ysgrifenedig â’r Awdurdod Glo neu ei gontractwyr pa waith adfer gerddi fydd yn cael ei wneud
-
Gwerth £2000 o ddeunyddiau fesul cartref yw’r cap ar gyfer gwaith adfer gerddi / tu allan (heb gynnwys clirio ocr, gro neu falurion bach i ddechrau)
-
Bydd yr Awdurdod Glo yn darparu cymorth rhesymol arall, fel llafur, yn ôl ei ddisgresiwn
Dylid nodi nad oes gan yr Awdurdod Glo atebolrwydd cyfreithiol am ddŵr sy’n gollwng o byllau glo. Mae’r Awdurdod Glo wedi mabwysiadu’r polisi hwn yn unol â’i swyddogaethau statudol. Ni ellir dehongli unrhyw ran o’r polisi hwn nac unrhyw gamau a gymerwyd cyn neu ar ôl y llifogydd yn Sgiwen ar 21 Ionawr 2021 gan yr Awdurdod Glo, ei weithwyr a’i swyddogion, neu ar ei ran, fel cyfaddefiad o atebolrwydd mewn unrhyw ffordd am y llifogydd ar 21 Ionawr 2021 nac unrhyw ganlyniad i hynny.