Data tryloywder

Gwybodaeth ar reoli’r euogfarnau a ddilëwyd: 5 Rhagfyr 2024

Diweddarwyd 5 Rhagfyr 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynnydd a wnaed gan y Llywodraeth wrth ganfod euogfarnau a orfodwyd yng Nghymru a Lloegr a gafodd eu dileu gan Ddeddf Troseddau Swyddfa’r Post (System Horizon) 2024 ar 24 Mai 2024.

Ym mis Chwefror 2024, bu i Swyddfa’r Post a Gwasanaeth Erlyn y Goron wneud y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o fodolaeth 936 o gofnodion ar gyfer unigolion posibl a allai fod wedi’u cael yn euog oherwydd system gyfrifo ddiffygiol Horizon. O’r rhain, ni fu i 27 cofnod gynnwys digon o ddata inni allu olrhain euogfarn y cyfryw unigolion.

Yn ogystal â hyn, gall unigolion nodi pwy ydynt drwy gysylltu a thîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu drwy wefan Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon ar unrhyw adeg.  Hyd at 29 Tachwedd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o 48 o unigolion sydd wedi nodi pwy ydynt ac nad oeddent yn hysbys i ni o’r blaen. Mae’r achosion hyn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd. Gan nad oes terfyn amser i unigolion nodi pwy ydynt, gall y rhif hwn gynyddu dros amser.

Felly, ar hyn o bryd mae yna 957 o achosion unigol sydd wedi cael eu hystyried neu sydd yn y broses o gael eu hystyried. Hyd at 29 Tachwedd, rydym wedi asesu 91% o’r achosion unigol hyn.

Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth ar asesiadau a wnaed yn ogystal â llythyrau a anfonwyd, gan na fydd pob unigolyn yn cael llythyr. Eglurir hyn mewn rhagor o fanylder yn y nodiadau eglurhaol islaw’r tabl isod.

15 Tachwedd – 29 Tachwedd 2024 Cyfanswm hyd yn hyn (Gorffennaf* – 29 Tachwedd 2024)
Cyfanswm nifer yr unigolion yr aseswyd eu heuogfarnau (1) 53 875
Nifer yr unigolion y nodwyd eu bod ag o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf. (2)

Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (2a)
39


45
561


526
Nifer yr unigolion a aseswyd ac yr ysgrifennwyd atynt (neu’r rhai hynny yr ysgrifennir atynt yn y man), i ofyn am ragor o wybodaeth i helpu i ganfod a yw eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf. (3)

Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (3a)
12




13
157




125
Nifer yr unigolion a gadarnhawyd nad oes ganddynt euogfarnau wedi’u dileu gan y Ddeddf. (4)

Unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf ac/neu unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a)

Unigolion sydd ond ag euogfarnau ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (4b)

Unigolion sydd ag euogfarnau ar wahân i’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr (4c)

Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u hystyried gan y Llys Apêl (4d)

Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u dileu gan y llysoedd (4e)

Unigolion y’u cafwyd yn ddieuog am y trosedd(au) sy’n cael eu hystyried (4f)
2




-1**




0


2




1


0


0
157




23




0


14




18


101


1
Cyfanswm nifer yr euogfarnau a nodwyd fel rhai a gafodd eu dileu gan y Ddeddf (5) 153 1960

*Nododd yr MoJ yr unigolion cyntaf sydd ag o leiaf un euogfarn yng nghwmpas y Ddeddf yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf.

**Gall y ffigurau yn y tabl uchod newid pan fo achos wedi’i ailasesu yn dilyn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Daw’r ffigurau yn y datganiad hwn o system fyw a gallant fod yn wahanol i’r wybodaeth a ryddhawyd yn flaenorol. Ym mis Tachwedd 2024, diweddarwyd y methodolegau cyfrif ar gyfer pob ffigur i roi gwell ystyriaeth i achlysuron o gofnodion wedi’u diweddaru a’u diwygio, prosesau sicrhau data, a’r rhai sy’n hunan-adnabod. Gall gwahaniaethau hefyd fodoli rhwng ffigurau oherwydd gwahaniaethau yn yr amser yr echdynnwyd y data. Mae llythyrau a ddychwelwyd fel rhai na chafodd eu danfon yn cael eu tynnu o chyfansymiau 2a a 3a. Mae cyfanswm yr achosion unigol sydd wedi’u hystyried neu sy’n cael eu hystyried wedi cynyddu i 957 ers y cyhoeddiad diwethaf. Mae hyn oherwydd 8 o unigolion ychwanegol a nododd eu hunain i’r tîm gwaith achos na chawsant eu cynnwys yn y cyfanswm blaenorol.

Beth mae’r data hwn yn ei olygu?

(1) Mae’r rhif hwn yn cynrychioli pob unigolyn sydd a’u heuogfarnau wedi’u hasesu.

(2) Bydd yr unigolion hynny a adnabuwyd fel bod ganddynt o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf yn gymwys ar gyfer Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon . Os yw’r unigolyn wedi marw, gall ei gynrychiolydd personol fod yn gymwys i gyflwyno hawliad. Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod gan rywun euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf, byddwn yn anfon llythyr atynt i’w hysbysu am hyn cyn gynted â phosibl. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion hyn yr ydym wedi anfon llythyrau atynt yn (2a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon. Ar hyn o bryd mae yna 31 o unigolion sydd ag euogfarnau wedi’u dileu na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.

(3) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at unigolion y mae’n ymddangos bod eu heuogfarnau allan o gwmpas ond efallai y byddant yn gallu darparu rhagor o wybodaeth i’n helpu i nodi a yw eu heuogfarnau o fewn cwmpas y Ddeddf. Rydym yn ysgrifennu at yr unigolion hyn i ofyn am yr wybodaeth hon. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion hyn y bu inni anfon llythyrau atynt yn (3a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon. Ar hyn o bryd mae yna 31 o unigolion yn y categori hwn na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.

(4) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at yr unigolion hynny nad yw eu heuogfarnau wedi cael eu dileu gan y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr ac mae’n darparu dadansoddiad o’r rhesymau canlynol yn y categori hwn:

  • Roedd yr euogfarn am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf neu roedd yr euogfarn am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a)
  • Gorfodwyd yr euogfarn ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (a oedd ar 24 Mai 2024). (4b)
  • Ni ddaethpwyd â’r erlyniad gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr. (4c)
  • Mae’r Llys Apêl eisoes wedi ystyried yr euogfarn. (4d)
  • Mae’r llysoedd eisoes wedi dileu’r euogfarn. (4e)
  • Cofnodwyd rheithfarn ddieuog am y trosedd(au) sydd dan ystyriaeth (4f)

Nid ydym yn ysgrifennu llythyrau at yr unigolion yn y grŵp hwn oni bai eu bod wedi dweud wrthym pwy ydynt ac wedi gofyn inni ystyried eu heuogfarnau.

(5) Efallai y bydd gan unigolion fwy nag un euogfarn sy’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Felly, mae cyfanswm yr euogfarnau yn uwch na nifer yr unigolion yr aseswyd bod ganddynt o leiaf un euogfarn o fewn cwmpas y Ddeddf.

Mae unrhyw euogfarnau a roddwyd yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o gwmpas y Ddeddf ond nid yw’r cyhoeddiad hwn yn berthnasol iddynt. Nid yw unrhyw euogfarnau a orfodwyd yn Yr Alban yn gysylltiedig â’r Ddeddf ac fe’u hystyrir fel bod o dan ddeddfwriaeth ar wahân.

Sut rydym yn adnabod pa euogfarnau sydd yng nghwmpas y ddeddf?

Mae’r Ddeddf yn gosod pum amod ochr yn ochr â meini prawf eraill.

Mae’r pum amod a ddylai gael eu bodloni er mwyn i euogfarn gael ei dileu yn cynnwys y canlynol: dyddiad y drosedd; math o drosedd; bod y cyfryw unigolyn yn gweithio mewn swyddfa bost neu’n cyflawni busnes ar ran Swyddfa’r Post ar adeg y drosedd honedig; yr honnir bod y drosedd wedi’i chyflawni mewn cysylltiad â chynnal neu weithio ar fusnes Swyddfa’r Post; a p’un a oedd system Horizon wedi’i gosod yn y gangen lle’r oedd yr unigolyn yn gweithio ar y pryd.

Mae tîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwiriadau cymhleth i ganfod p’un a oes gan yr unigolion hynny sy’n hysbys inni unrhyw euogfarnau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf. Er mwyn cyfyngu’r baich ar unigolion i ddarparu gwybodaeth eu hunain i ddangos bod eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf, rydym yn gwirio nifer o ffynonellau data i gael gwybodaeth am ba euogfarnau sy’n bodloni meini prawf y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys cofnodion o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, Swyddfa’r Post Cyf, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, Cyllid a Thollau EF, a’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol. O ganlyniad i’r anghysondebau a ganfuwyd rhwng y gwahanol fathau o ffynonellau data, mae’r broses o ddod o hyd i euogfarnau a ddilëwyd yn cymryd yn hirach na’r disgwyl.

Unwaith bydd y tîm gwaith achos wedi gwirio fod pob euogfarn yn bodloni meini prawf y Ddeddf, byddant yn ysgrifennu at yr unigolion hynny i’w hysbysu am hyn. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd y llythyrau hyn yn gofyn i’r unigolyn am rhagor o wybodaeth fel y gellid asesu eu heuogfarnau yn llawn. Mewn rhai achosion rydym wedi asesu euogfarn o fewn cwmpas y ddeddf ond ni allwn gysylltu â’r unigolyn oherwydd nad ydym wedi gallu cadarnhau ei gyfeiriad presennol. Hyd yn oed pan na allwn gysylltu â’r unigolyn, bydd ei gofnodion troseddol yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r euogfarn(au) perthnasol a ddilëwyd.

Os nad ydych eisoes wedi cael llythyr ac rydych yn credu bod gennych euogfarn cymwys, rydym yn eich hannog i gofrestru yma neu gysylltu a’r tîm gwaith achos drwy e-bost yn: PostOfficeConvictions@justice.gov.uk. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r tîm gwaith achos euogfarnau a fydd yn cadarnhau p’un a yw euogfarnau’r unigolyn eisoes yn cael eu hystyried ac – os nad oeddent eisoes yn hysbys i’r tîm – yn parhau gyda’r broses o gasglu data a chynnal asesiad.

Gellir dod o hyd i ddata ar iawndal ariannol sy’n gysylltiedig â Horizon yma.