Prevent duty guidance: England and Wales (2023) (Welsh accessible version)
Updated 6 March 2024
Adran 1: Statws a chwmpas y ddyletswydd Prevent
Crynodeb
Ynglŷn â’r canllawiau hyn
1. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn disodli’r ‘Revised Prevent duty guidance: for England and Wales’, ‘Prevent duty guidance: for further education institutions in England and Wales’, a’r ‘Prevent duty guidance: for higher education institutions in England and Wales’ o 2015 (a ddiweddarwyd ym mis Ebrill 2021).
2. Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu at awdurdodau penodedig yng Nghymru a Lloegr. Rhestrir yr awdurdodau penodedig hynny yn Rhan 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015), sef y rhai y mae’r ddyletswydd Prevent o dan adran 26 o’r Ddeddf yn berthnasol iddynt. Nid yw’r canllawiau hyn yn ymwneud ag awdurdodau penodedig yn yr Alban, sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o’r Atodlen ac sydd hefyd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd Prevent.
3. Nid yw’r ddyletswydd Prevent yn gosod swyddogaethau newydd ar unrhyw awdurdod penodedig. Mae’r term ‘ystyriaeth ddyledus’, fel y’i defnyddir yn CTSA 2015 yn golygu y dylai’r awdurdodau roi pwyslais priodol ar yr angen i atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth pan fyddant yn ystyried yr holl ffactorau eraill sy’n berthnasol i sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau arferol. Diben y cyfarwyddyd hwn yw nodi’r disgwyliadau ar gyfer pob un o’r prif sectorau statudol a disgrifio sut y dylent gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent.
4. Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd yn cynnwys ffynonellau cyngor pellach i hybu arferion gorau. Mae cyfarwyddyd ar wahân ar gyfer awdurdodau penodedig yn yr Alban.
5. Rydym yn defnyddio’r termau ‘rhaid’ a ‘dylai’ drwy gydol y cyfarwyddyd. Rydym yn defnyddio’r term ‘rhaid’ pan fydd gofyniad cyfreithiol ar yr awdurdod penodedig i wneud rhywbeth, a ‘dylai’ pan fydd y cyngor yn nodi disgwyliadau ac arferion da i gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent.
Ar gyfer pwy mae’r cyfarwyddyd hwn?
6. Bwriadwyd i’r cyfarwyddyd statudol hwn gael ei ddefnyddio gan:
- timau uwch arweinyddiaeth mewn unrhyw rai o’r awdurdodau penodedig a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 6 i CTSA 2015
- rhai â chyfrifoldebau Prevent a / neu ddiogelu penodol
- pobl mewn awdurdodau penodedig â chyfrifoldeb am sut y defnyddir adnoddau a chyllid, ac am bartneriaethau allanol
- rhai mewn rôl reng flaen, sy’n debygol o ymgysylltu â phobl a all fod yn dderbyngar gael eu radicaleiddio
7. Awdurdodau penodedig yw’r bobl, y mudiadau a’r sefydliadau a restrir yn Atodlen 6 i CTSA 2015 y mae’r ddyletswydd Prevent yn berthnasol iddynt. Mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau bod y cyfarwyddyd hwn yn cael ei ystyried wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent.
8. Mae rhestr o awdurdodau penodedig sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau i’w gweld yn Atodlen 6 i CTSA 2015.[footnote 1] Ceir rhagor o fanylion yn yr adrannau sy’n cyfeirio at sectorau penodol yn y cyfarwyddyd hwn.
9. Gall y cyfarwyddyd hwn hefyd lywio arferion gorau ar gyfer sectorau eraill, nad ydynt yn awdurdodau penodedig, ond a all fod yn awyddus i ystyried sut i atal y risg y byddai pobl yn dod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth.
Beth yw statws y cyfarwyddyd hwn?
10. Mae hwn yn gyfarwyddyd statudol gan y Swyddfa Gartref, a gyhoeddwyd o dan Adran 29 o CTSA 2015.[footnote 2] Mae’n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
11. Mae’r ddyletswydd Prevent yn gymwys i awdurdodau penodedig yng Nghymru a Lloegr, a’r Alban. Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am wrthderfysgaeth, mae llawer o’r trefniadau cyflawni lleol yng Nghymru a’r Alban, fel iechyd, addysg a llywodraeth leol, mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.
Adran 2: Introduction
12. Prif nod ein strategaeth gwrthderfysgaeth, CONTEST,[footnote 3] yw lleihau peryglon terfysgaeth i’r DU, ei dinasyddion a’i buddiannau tramor, fel y gall pobl fyw eu bywydau’n rhydd ac yn hyderus. Mae Prevent yn parhau i fod yn un o elfennau allweddol CONTEST, ynghyd â’r tri maes gwaith ‘P’ arall:
- Prevent: i atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth
- Persue: i atal ymosodiadau terfysgol
- Protect: i gryfhau ein hamddiffyniad rhag ymosodiadau terfysgol
- Prepare: i liniaru effaith ymosodiad terfysgol
Y ddyletswydd Prevent
13. Nod Prevent yw atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae Prevent hefyd yn ymestyn i gynnwys helpu rhai sydd eisoes yn gysylltiedig â therfysgaeth i adsefydlu a chefnu arno.
14. Mae’r Ddyletswydd Prevent yn rhoi gofyniad ar awdurdodau penodedig fel addysg, iechyd, llywodraeth leol, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol (carchardai a phrawf) i helpu i atal y perygl y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Mae’n bodoli ochr yn ochr â dyletswyddau diogelu sefydledig sydd ar weithwyr proffesiynol i warchod pobl rhag ystod o niweidiau eraill fel cam- drin sylweddau, cysylltiad â gangiau a chamfanteisio corfforol a rhywiol. Mae’r ddyletswydd yn helpu i sicrhau bod pobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio’n cael eu helpu fel y byddent o dan brosesau diogelu.
15. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent yn adran 26 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015), rydym yn disgwyl y bydd pob awdurdod penodedig yn cyfranogi’n llawn mewn gwaith i atal y risg y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Rydym yn cydnabod y bydd y modd y cyflawnir hyn yn ymarferol yn amrywio ac yn ddibynnol ar ffactorau fel y cyd-destun lleol a’r risg, y math o weithgarwch Prevent sydd fwyaf priodol iddynt, a natur eu prif gyfrifoldebau a’u swyddogaethau. Fel enghraifft, i rai sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl a all fod yn dderbyngar i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth, mae’r gweithgarwch fwyaf tebygol o ymwneud â chanfod ac ymyrryd yn gynnar. Gall ffactorau perthnasol gynnwys perthynas â’r unigolyn neu amlder y rhyngweithio.
16. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau penodedig sicrhau hefyd eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill, yn enwedig rhai o dan ddeddfwriaeth diogelu data a Deddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus). Dylai lleoliadau addysg bellach ac addysg uwch fod yn arbennig o ymwybodol o ddyletswyddau i amddiffyn rhyddid i lefaru a rhyddid academaidd.
Amcanion Prevent
17. Amcanion Prevent yw:
- mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth
- ymyrryd yn gynnar i helpu pobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio
- galluogi pobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â therfysgaeth eisoes i adsefydlu a chefnu arno
Model cyflawni Prevent
18. Mae model cyflawni Prevent (isod) yn dangos sut yr ydym yn mynd i’r afael â’r achosion ideolegol sy’n arwain at radicaleiddio, ymyrryd yn gynnar i helpu unigolion sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio, ac adsefydlu unigolion sydd eisoes yn gysylltiedig â therfysgaeth.
19. I fynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth, mae Prevent yn rhoi pwyslais ar leihau dylanwad radicaleiddwyr ar gynulleidfaoedd derbyngar, yn ogystal â lleihau argaeledd, a mynediad at, gynnwys terfysgol. Mae ein gwaith i atal radicaleiddio a lleihau amgylcheddau caniataol yn cynnwys gwaith yn y byd academaidd, cymdeithas sifil, cymunedau, llywodraeth a diwydiant. Mae Prevent yn mabwysiadu dull partneriaeth i amharu ar radicaleiddwyr, gan gynnwys rhai sy’n creu rhaniadau ac yn ennyn casineb, gan weithio â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a phartneriaid eraill y llywodraeth.
20. Mae Prevent yn ymyrryd yn gynnar drwy ganfod pobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio a darparu cymorth i rai sy’n addas ar gyfer ymyriadau. Pan fydd yr heddlu’n asesu risg o radicaleiddio yn dilyn atgyfeiriad Prevent, bydd panel Channel yn cyfarfod i drafod yr atgyfeiriad, asesu’r risg a phenderfynu a ddylid derbyn yr unigolyn i Channel. Os caiff ei dderbyn, bydd y panel yn cytuno ar becyn cymorth wedi’i deilwra a gaiff ei gynnig i’r unigolyn. Mae’r panel yn cael ei gadeirio gan yr awdurdod lleol, a bydd partneriaid aml- asiantaeth fel yr heddlu, gweithwyr addysg proffesiynol, gwasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol yn bresennol. Mae Channel yn broses wirfoddol, a rhaid i bobl roi eu cydsyniad cyn y cânt gymorth. Mewn achosion lle bydd yr unigolyn o dan 18 oed, rhoddir cydsyniad gan riant neu warcheidwad neu’r asiantaeth sy’n gyfrifol am eu gofal. Os na ellir rheoli risgiau yn Channel, byddant yn cael eu hadolygu gan yr heddlu.
21. Mae adsefydlu’n ymdrechu i leihau perygl pobl sydd wedi bod yn gysylltiedig â gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, gan gynnwys rhai sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau. Mae’r Desistance and Disengagement Programme yn darparu darparwyr ymyriadau cymeradwy arbenigol y Swyddfa Gartref i roi help ar ffurf mentora diwinyddol, ideolegol ac ymarferol, i leihau’r risg o droseddu.
Bygythiadau a risgiau
22. Mae Prevent yn ymdrin â phob math o fygythiadau terfysgol i’r DU. Amcan cyntaf Prevent yw mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth. Elfen ideolegol terfysgaeth yw’r hyn sy’n ei wneud yn wahanol i weithredoedd eraill o drais difrifol. Mae ideoleg Islamyddol yn gydnerth a pharhaus. Mae ideoleg Asgell Dde Eithafol ar gynnydd. Mae ideolegau eraill yn llai amlwg, ond er hynny mae ganddynt y potensial i symbylu, i ysbrydoli, ac i gael eu defnyddio i gyfiawnhau terfysgaeth.
23. Yn y DU, daw’r prif fygythiad terfysgol domestig o gyfeiriad terfysgaeth Islamyddol. Terfysgaeth Islamaidd yw bygwth neu ddefnyddio trais fel modd i sefydlu dehongliad caeth o gymdeithas Islamaidd. I rai, mae hon yn ideoleg wleidyddol sydd am greu, er enghraifft, califfiaeth Islamaidd fyd- eang sy’n seiliedig ar ddehongliad caeth o gyfraith shari’ah, sy’n mabwysiadu syniadau gwleidyddol a chrefyddol a ddatblygwyd yn yr 20fed ganrif gan Sayyid Qutb ac Abdallah Azzam. Mae llawer o’u dilynwyr yn credu bod trais (neu ‘jihad’ fel y maent yn meddwl amdano) nid yn unig yn offeryn strategol angenrheidiol i gyflawni eu nodau, ond hefyd yn ddyletswydd grefyddol ar yr unigolyn.
24. Mae Terfysgaeth Asgell Dde Eithafol yn disgrifio’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch Asgell Dde Eithafol sy’n defnyddio trais terfysgol i hybu eu hideoleg. Yn fras, gellir nodweddu’r ideolegau hyn fel Cenedlaetholdeb Diwylliannol, Cenedlaetholdeb Pobl Wyn a Goruchafiaeth Pobl Wyn. Gall unigolion a grwpiau arddel tueddiadau a syniadau ideolegol o fwy nag un categori. Yn wahanol i grwpiau Islamyddol, nid yw terfysgwyr Aasgell Dde Eithafol gan amlaf wedi’u trefnu’n grwpiau ffurfiol gyda hierarchaeth arweinyddiaeth ac uchelgais diriogaethol. Yn hytrach, maent yn dueddol o fod yn gymunedau ar-lein anffurfiol sy’n meithrin cysylltiadau rhyngwladol.
25. Mae Prevent hefyd yn rhoi sylw i ideolegau a phryderon eraill a all fod yn fygythiad terfysgol. Mae naratifau terfysgol sefydledig yn amlygu themâu cyffredin fel gwrth- semitiaeth, casineb at fenywod, gwrth- sefydliadol, ymosodiadau gwrth-LHDT, a goruchafiaeth grefyddol neu ethnig. Ar hyn o bryd mae Terfysgaeth Asgell Chwith, Anarchaidd ac Un Pwnc yn fygythiad llawer llai i’r DU na therfysgaeth Islamaidd neu derfysgaeth Asgell Dde Eithafol ac nid yw’n bresennol yn y DU ar raddfa sylweddol ar hyn o bryd (er bod peth gweithgarwch sydd wedi cyrraedd trothwy terfysgaeth yn y blynyddoedd diwethaf). Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch cysylltiedig yn y DU wedi bod yn brotestiadau cyfreithiol, a lle’r oedd trais wedi deillio ohonynt, roeddent wedi arwain at droseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus.
26. Gall damcaniaethau cynllwyn arwain at syniadaeth wedi’u radicaleiddio ac weithiau at drais. Mewn rhai achosion, bydd y ffin rhwng ideoleg a naratif personol yn pylu sy’n golygu y gall fod yn anos i asesu’r risg a achosir gan bobl. Deall y cymhelliad a’r bwriad yw’r rheswm pam y gall gymryd amser mewn rhai achosion i gyhoeddi a yw digwyddiad yn un terfysgol neu beidio, a pham na ellir bod yn siŵr mewn achosion eraill.
27. Mae ymdrechion gwrthderfysgaeth yn amlygu ystod o gymhellion personol ac ideolegol i weithredu’n dreisgar, gyda naratif terfysgol traddodiadol yn un rhan yn unig o ddarlun mwy cymhleth. Gall terfysgwyr fod ag ystod o achwynion personol, ochr yn ochr â’r brif ideoleg o gyflawni ymosodiad. Mae unigolion yn aml yn mabwysiadu cymysgedd o syniadau o wahanol ideolegau i’w naratif o achwynion. Mae hyn yn ychwanegu at yr her gynyddol o asesu beth yw’r cymhelliad sydd wrth wraidd trais yr unigolyn, wrth benderfynu ar y camau lliniaru mwyaf priodol i’w rhoi ar waith ac i bennu a yw’r trais hwnnw’n cyfrif fel gweithred derfysgol. Mae’n bosibl y gallai dilynwyr treisgar mudiadau ac isddiwylliannau, fel Heb Bartner yn Anwirfoddol (Incels), gyrraedd trothwy bwriad neu weithred derfysgol, pe byddai’r bygythiad neu ddefnydd o drais difrifol yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar lywodraeth, neu i fygwth y cyhoedd.[footnote 4]
28. Dylai gwaith Prevent fod yn ymwybodol bob amser o’r risg y gall y bobl neu’r grŵp dan sylw ei achosi a chydnabod effaith pobl sy’n cysylltu eu hunain â grwpiau eithafol. Mae annog pobl dderbyngar i gyflawni gweithredoedd terfysgol ar eu liwt eu hunain yn strategaeth fwriadol gan grwpiau terfysgol yn eu propaganda ac mae’n cael ei ddwysau gan gymunedau sy’n clodfori gweithredoedd treisiol yn erbyn cymdeithas neu grwpiau penodol mewn cymdeithas.
29. Gwelwyd cynnydd cyflym ym maint y cynnwys terfysgol sydd ar lawer o wasanaethau ar-lein. Mae gwaith ymchwil wedi dangos mai’r rhyngrwyd yw’r cyfrwng ‘a ffefrir’ gan y rhai sy’n chwilio am bropaganda neu gysylltiadau terfysgol. Mae’r rhyngrwyd yn dal i’w gwneud yn haws i unigolion a grwpiau i hyrwyddo a defnyddio cynnwys sy’n radicaleiddio. Mae dadansoddiad y llywodraeth o droseddwyr o dan y Ddeddf Terfysgaeth (TACT) a llwybrau radicaleiddio troseddwyr o dan y TACT yng Nghymru a Lloegr wedi dangos mai radicaleiddio ar-lein yw’r prif lwybr yn achos cyfran gynyddol o droseddwyr TACT.[footnote 5] Cyn hyn roedd yn llwybr hybrid, a oedd yn cynnwys dylanwadau ar-lein ac all-lein.[footnote 6] Gall hyn olygu bod pobl, gan gynnwys nifer pryderus o blant o dan 18 oed, yn cyflawni troseddau drwy lawrlwytho a lledaenu deunyddiau terfysgol.
30. Mae Prevent yn parhau i fonitro tueddiadau ac ideolegau terfysgol sy’n dod i’r amlwg i ganfod a ydynt yn risg o derfysgaeth neu a oes ganddynt rôl mewn radicaleiddio pobl. Mae ystadegau blynyddol ar y bobl sy’n cael eu hatgyfeirio at Prevent, sy’n cynnwys dadansoddiad o ideolegau a math o bryder, ar gael yn GOV.UK. Mae gwybodaeth a dadansoddiad o ideolegau eithafol a therfysgol ar gael gan y Commission for Countering Extremism, sef ‘canolfan ragoriaeth’ y llywodraeth ar wrthderfysgaeth.
Ymateb i’r bygythiad
Gwiriadau Bygythiadau i Ddiogelwch
31. Ar lefel arweinyddiaeth strategol, i sicrhau bod cyflawni a gweithgarwch Prevent yn cael ei lywio gan y bygythiad, mae prosesau penderfynu o fewn Grŵp Diogelwch Gwladol a Phlismona Gwrthderfysgaeth y Swyddfa Gartref yn cael eu llywio gan y Gwiriad Bygythiadau i Ddiogelwch (STC). Dyma gyfres o egwyddorion, fel y nodir isod:
- A yw’r weithred hon yn ystyried y darlun cyfredol o’r bygythiad o derfysgaeth ac eithafiaeth yn y DU?
- A yw’r weithred hon yn gymesur o edrych arni ochr yn ochr â’r darlun cyfredol o’r bygythiad o derfysgaeth ac eithafiaeth yn y DU?
- A yw’r weithred hon yn debygol o leihau’r bygythiad o naratifau terfysgol neu gysylltiedig â therfysgaeth?
32. Er bod yr STC yn cael ei argymell i fyrddau Prevent strategol yn Grŵp Diogelwch Gwladol y Swyddfa Gartref ac ar gyfer Plismona Gwrthderfysgaeth, dylai awdurdodau lleol hefyd gynnal yr STC wrth ddatblygu eu cynlluniau partneriaeth Prevent. Dylai byrddau Prevent strategol eraill ystyried a allai’r egwyddorion hyn fod yn fuddiol i lywio eu prosesau penderfynu, er enghraifft wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu mewn ymateb i asesiadau risg lleol neu broffiliau lleol gwrthderfysgaeth.[footnote 7]
33. Wrth gyflawni eu rolau o dan y ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau penodedig sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn gymesur i’r perygl o derfysgaeth a radicaleiddio yn eu hardal leol, eu sector neu sefydliad. Dylid teilwra’r ddarpariaeth leol i adlewyrchu ac ymateb i fygythiadau lleol.
34. I ymarferwyr, mae’n allweddol eu bod, wrth gyflawni swyddogaethau o dan y ddyletswydd Prevent, yn ymwybodol o’r angen am gymesuredd. Dylid dilyn dull sy’n seiliedig ar risg bob amser, gan ddefnyddio barn broffesiynol a chwilfrydedd. Dylai un trothwy cyson a chymesur gael ei ddefnyddio yn achos gweithgarwch Prevent ar draws yr holl bryderon am ideolegau eithafol a radicaleiddio. Lle bydd gweithwyr proffesiynol rheng flaen wedi canfod pryder y maent yn credu y dylid ei atgyfeirio at Prevent, mae’n bwysig eu bod yn gallu dangos pam fod y risg hon yn berthnasol i Prevent. Gan fod Prevent yn gyfrwng gwrthderfysgaeth, bydd presenoldeb, neu bresenoldeb posibl, unrhyw ideoleg derfysgol neu sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, yn ystyriaeth bwysig.
Derbyngarwch i radicaleiddio
35. Radicaleiddio yw’r broses pan fydd unigolyn yn cyfiawnhau cefnogaeth i, neu’n defnyddio, trais terfysgol. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cyflawni troseddau terfysgol yn gwneud hynny o’u gwirfodd ac o ganlyniad i’w hymroddiad i achos ideolegol.
36. Nid oes un proffil unigol o rywun sydd wedi’i radicaleiddio, ac nid oes un llwybr neu ‘lwybr cludo’ ychwaith at radicaleiddio. Mae llawer o ffactorau a all, naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd, arwain rhywun i fabwysiadu ideoleg sy’n derfysgol neu sy’n cefnogi terfysgaeth. Mae’r ffactorau hyn yn aml yn cynnwys amlygiad i ddylanwadau radicaleiddio, achwynion real neu dybiedig - sy’n aml wedi’u creu neu eu gwaethygu drwy naratifau achwyn sy’n cael eu hyrwyddo gan eithafwyr - a derbyngarwch yr unigolyn ei hun.
37. Gellir gwneud cysylltiad rhwng derbyngarwch unigolyn i radicaleiddio â’i fregusrwydd. Gall unigolyn fod yn agored i niwed os oes angen gofal, cymorth neu warchodaeth arbennig arnynt oherwydd oed, anabledd, risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.[footnote 8] Gall gwendidau unigolyn fod yn berthnasol i’w derbyngarwch i radicaleiddio ac i’r dull ymyrryd cynnar sydd ei angen i’w cyfeirio i ffwrdd oddi wrth radicaleiddio.
38. Mewn achosion eraill, efallai na fydd gwendidau’n bresennol neu ni fyddant yn berthnasol i’r dull ymyrryd cynnar sydd ei angen. Ni fydd pawb sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio yn agored i niwed, ac mi fydd amgylchiadau, anghenion, neu ffactorau sylfaenol eraill a all wneud unigolyn yn dderbyngar i gael ei radicaleiddio nad ydynt yn cael eu cyfrif fel gwendidau.
Ymyrraeth gynnar: atgyfeirio i Prevent
Atgyfeirio
39. Ail amcan Prevent yw ymyrryd yn gynnar i atal pobl rhag ymwneud â therfysgaeth neu gefnogi terfysgaeth. Mae hyn yn golygu darparu ymyriadau pwrpasol i bobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio.
40. Mae atgyfeiriadau Prevent yn debygol o gael eu gwneud yn y lle cyntaf gan bobl sy’n dod i gysylltiad â rhai sy’n ymddangos yn agored i gael eu radicaleiddio. Nid oes un model penodol i siwrnai radicaleiddio unigolion neu un proffil o unigolyn sydd wedi’i radicaleiddio. Dylai gweithwyr proffesiynol rheng flaen, wrth benderfynu a ddylid atgyfeirio, ystyried a ydynt yn credu bod yr unigolyn maent yn poeni amdano ar lwybr a allai arwain at derfysgaeth.
41. Gellir defnyddio arwyddion fod safbwyntiau eithafol yn cael eu mabwysiadu, sy’n cynnwys newidiadau mewn ymddygiad a all fod yn achos pryder, i ystyried a ddylid gwneud atgyfeiriad i ofyn am gymorth o dan Prevent. Wrth benderfynu a yw pryder yn cyrraedd y trothwy ar gyfer atgyfeirio i Prevent, mae’n bwysig ystyried y niwed a achosir i’r unigolyn, yn ogystal ag ystyried a fyddai cael help drwy Prevent yn atal niwed ehangach i gymdeithas a allai gael ei gyflawni gan yr unigolyn.
42. Bydd y broses yn amrywio, ond pan fydd pryder yn cael ei nodi, dylid defnyddio’r weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu ddyletswydd Prevent GOV.UK.[footnote 9], [footnote 10] Dylai awdurdodau penodedig ddefnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol Prevent.[footnote 11]
43. Yn aml, bydd y pryder yn cael ei uwchgyfeirio at Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) y sefydliad neu arweinydd Prevent i’w ystyried. Os oes pryder am radicaleiddio posibl neu reswm dros gredu bod rhywun mewn perygl o ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi, dylid gwneud atgyfeiriad i’r heddlu, a fydd yn asesu a yw’r unigolyn yn addas i gael ei ystyried gan y panel Channel i gael cymorth.
44. Dylai unrhyw un sy’n gwneud atgyfeiriad sicrhau bod pryder y gallai rhywun fod yn dderbyngar i ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi. Mi fydd adegau lle na fydd yr ysgogwr ideolegol yn glir. Ond eto, fel yn achos unrhyw drefniadau diogelu, mae’n llawer gwell cael atgyfeiriadau y gwelir yn y diwedd nad ydynt yn achos pryder na bod rhywun sydd â gwir angen am gymorth yn cael eu colli.
45. Nid oes modd rhoi adborth ar atgyfeiriadau bob amser er mwyn diogelu cyfrinachedd yr unigolyn ar ôl i’r heddlu ei gael.
46. Os nad ydych yn siŵr a yw pryder yn deilwng o atgyfeiriad at Prevent, rydym yn eich annog i gael cyngor gan eich DSL (neu swyddog cyfatebol), arweinydd Prevent yn eich awdurdod lleol neu’r heddlu, yn y lle cyntaf. Dylid ystyried hefyd a all yr unigolyn fod yn dderbyngar i gael ei radicaleiddio ynteu a fyddai’n fwy addas ar gyfer math arall o gymorth neu atgyfeiriad diogelu.
47. Ceir arweiniad pellach ar wneud atgyfeiriad a sut i ddilyn y weithdrefn sylwi, gwirio, rhannu drwy gwblhau hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK.[footnote 12]
48. Os oes gan y cyhoedd bryderon bod rhywun yn cael eu radicaleiddio i derfysgaeth neu i gefnogi terfysgaeth, mae’r wefan ACT Early yn cynnig cyngor ac arweiniad, gan gynnwys yr arwyddion o radicaleiddio i gadw golwg amdanynt, astudiaethau achos a gwybodaeth ar sut i rannu’r pryderon hynny.[footnote 13]
Asesiad Gateway
49. Pan wneir atgyfeiriad i Prevent, bydd yn cael ei asesu gan heddlu a staff arbenigol. Bydd y swyddogion hyn yn penderfynu a oes sail resymol i amau bod unigolyn yn dderbyngar i fod yn derfysgwr neu i gefnogi terfysgaeth ac a ddylai felly gael ei ystyried gan y panel Channel i gael cymorth drwy Prevent. Gelwir hwn yn ‘asesiad gateway’. Os oes angen mathau eraill o gymorth ar yr un pryd neu eu bod yn cael eu hystyried, dylid bwrw ymlaen â’r rhain oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
50. Bydd yr heddlu a’r staff sy’n asesu a ddylai atgyfeiriad fynd yn ei flaen i Channel yn defnyddio fframweithiau penderfynu cadarn i benderfynu a yw atgyfeiriad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer Prevent, ac i sicrhau bod trothwy cyson yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill:
- pennu presenoldeb gyrrwr ideolegol
- penderfynu pa niwed a allai gael ei achosi gan yr unigolyn (neu a allai gael ei achosi i’r unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio)
- ystyried ffactorau fel gweithrediadau’r unigolyn, yn ogystal ag unrhyw ragdueddiad i gamfanteisio
51. Bydd y sawl sy’n gwneud asesiad yn defnyddio cyfuniad o fframweithiau, cyfarwyddyd a chrebwyll proffesiynol i sicrhau nad oes dim amrywiad yn y trothwy ar gyfer gwneud atgyfeiriad sy’n ddibynnol ar ideoleg. Bydd sicrhau bod heddlu a staff arbenigol sy’n asesu atgyfeiriadau wedi cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ideoleg, yn helpu i sicrhau proses benderfynu gyson.
Channel
52. Dylai’r asesiad gateway benderfynu pa fforwm sydd fwyaf priodol i drafod yr atgyfeiriad. Bydd y rhai sy’n briodol i gael eu hystyried yn Channel yn destun asesiad Prevent pellach, mwy manwl o dan arweiniad y swyddog achos Channel. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei oleuo drwy rannu gwybodaeth â phartneriaid ehangach Channel.
53. Pan fydd yr asesiad gateway a’r broses o gasglu gwybodaeth aml-asiantaeth wedi’u cwblhau, pan yn briodol, a phan fydd y panel Channel yn cytuno, gall yr unigolyn gael ei fabwysiadu i Channel a chael cymorth wedi’i deilwra i’w gwneud yn llai derbyngar i gael eu radicaleiddio
Mae Channel yn rhaglen aml-asiantaeth yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu cymorth i bobl sy’n dderbyngar i ymwneud â therfysgaeth neu gefnogi terfysgaeth, ac sydd wedi’i hategu gan Adran 36 o CTSA 2015. Rhaid i’r unigolyn (neu eu rhiant neu warcheidwad cyfreithiol, os o dan 18 oed) a atgyfeirir roi eu cydsyniad cyn y gellir rhoi unrhyw gymorth o dan Channel. Mae rhagor o wybodaeth am Channel[footnote 14] ar gael ar GOV.UK.
54. Mae panelau Channel yn cael eu cadeirio gan yr awdurdod lleol, a bydd partneriaid aml-asiantaeth fel yr heddlu, gweithwyr addysg proffesiynol, gwasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol yn bresennol. Byddant yn cwrdd i drafod yr atgyfeiriad, i asesu’r risg ac, os yn briodol, i gytuno ar becyn cymorth wedi’i deilwra a gaiff ei gynnig i’r unigolyn. Mae Channel yn broses wirfoddol, a rhaid i’r unigolyn roi eu cydsyniad (neu, pan yn briodol, dylid cael cydsyniad eu rhiant neu warcheidwad) cyn y gallant gael cymorth.
55. Os bernir na fydd Channel yn addas, edrychir ar opsiynau eraill pan yn briodol. Mi all yr unigolyn gael cynnig cymorth amgen, fel cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl neu wasanaethau gofal cymdeithasol plant. Os na chafwyd cydsyniad i gael Channel neu os yw lefel y risg a amlygir yn ei wneud yn anaddas, gall yr unigolyn gael ei ystyried ar gyfer Partneriaethau dan arweiniad yr Heddlu. Mae Partneriaethau dan arweiniad yr Heddlu yn cynnwys rheoli pobl, grwpiau neu sefydliadau nad ydynt yn addas ar gyfer Channel, ond sydd wedi amlygu materion sy’n berthnasol i Prevent sydd angen cymorth neu help i’w lliniaru. Mae Partneriaethau a arweinir gan yr heddlu yn cael eu harwain gan yr heddlu, ond maent yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill ac yn defnyddio llawer o’r dulliau sy’n cael eu defnyddio ym mhrosesau aml-asiantaeth Channel.
56. Ceir rhagor o fanylion am atgyfeiriadau ar GOV.UK, ac mi all fod cyfarwyddiadau hefyd sy’n benodol i’ch sector chi.[footnote 15]
Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent
57. Bydd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent yn edrych yn wahanol ym mhob awdurdod penodedig, oherwydd eu swyddogaethau, eu strwythurau a’u cylchoedd gwaith gwahanol.
58. Bydd y risg o radicaleiddio’n amrywio’n fawr, ond nid oes unrhyw faes, sefydliad neu gorff heb risg. Bydd angen felly i bob partner statudol ystyried y risg yn eu maes, sefydliad neu gorff, ac ystyried math a graddfa’r gweithgarwch a fydd yn briodol i roi sylw i’r risg.
59. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn nodi’r disgwyliadau, y gofynion a’r argymhellion ar gyfer gweithgarwch pob sector statudol, sydd wedi’u grwpio yn ôl y themâu canlynol:
- arweinyddiaeth a phartneriaeth
- galluoedd
- lleihau amgylcheddau caniataol
60. Drwy ddilyn y cyfarwyddyd hwn, bydd awdurdodau penodedig mewn sefyllfa gref i gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent.
61. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn disgrifio trefniadau monitro a sicrwydd ar gyfer pob sector.
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
62. Dylai awdurdodau penodedig ddatblygu a chynnal trefniadau arweinyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth priodol i’w helpu i roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.
Arweinyddiaeth
63. O fewn pob awdurdod penodedig, dylai fod person dynodedig mewn swydd arwain sy’n gyfrifol am oruchwylio darpariaeth Prevent, gan gynnwys sicrhau bod staff perthnasol yn cael hyfforddiant a chynefino priodol. Bydd sut y caiff Prevent ei gyflawni ym mhob gwasanaeth, sefydliad neu gorff yn amrywio. Er enghraifft, gall rhai awdurdodau penodedig ddefnyddio rolau Prevent pwrpasol, tra bydd eraill yn cyflawni Prevent drwy ddyletswyddau diogelu ehangach.
64. Yn achos pob awdurdod penodedig, dylid dangos bod yr arweinyddiaeth yn cyflawni Prevent drwy:
- sicrhau bod staff yn deall y risg o radicaleiddio sy’n arwain at gefnogi terfysgaeth neu gysylltiad â therfysgaeth, gan wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyrchu adnoddau hyfforddi ac arweiniad pellach
- adeiladu a hybu galluoedd i ddelio â phryderon ynglŷn â radicaleiddio fel llwybr ffurfiol i uwchgyfeirio pryderon ac atgyfeirio i Prevent
- hyrwyddo pwysigrwydd Prevent a’r rôl sydd gan staff i atal terfysgaeth
Gweithio mewn partneriaeth
65. Mae partneriaethau effeithiol yn elfen allweddol o gyflawni Prevent. I ddangos cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd, dylai awdurdodau penodedig weithio ag arweinyddion Prevent lleol, yr heddlu ac awdurdodau lleol. Dylai hyn gael ei hwyluso drwy fforymau aml-asiantaeth, fel byrddau Prevent strategol lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
66. Pan fydd atgyfeiriad at Prevent yn cael ei fabwysiadu, rhaid i awdurdodau penodedig gydweithio i’r graddau sy’n ymarferol bosibl â phanelau Channel, sy’n cael eu harwain gan yr awdurdod lleol, yn unol ag Adran 38 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015). Ceir rhagor o fanylion yn y cyfarwyddyd dyletswydd Channel.[footnote 16] Mae cyfraniad aml-asiantaeth yn Channel yn hanfodol i sicrhau bod yr ystod lawn o wybodaeth ar gael i’r panel, fel y bydd derbyngarwch, elfennau agored i niwed, risg ac anghenion cymorth yn cael eu hasesu’n llawn.
Galluoedd
67. Dylai awdurdodau penodedig ddatblygu a chynnal galluoedd priodol i roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth. Byddant mewn sefyllfa gref i wneud hynny drwy gael y gallu i:
- ddeall risg
- rheoli risg
- rhannu gwybodaeth
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
68. Mae’n bwysig bod awdurdodau penodedig yn gwybod pam mae radicaleiddio’n berthnasol i’w lleoliad a sut y gall fod yn bresennol. Fel man cychwyn, dylai pob awdurdod penodedig ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r risg o radicaleiddio drwy sicrhau a chofnodi bod staff priodol yn cael hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant ar radicaleiddio. Drwy ddeall y risg, yn ogystal â gwybod sut i ddatgan pryder, mae rhai o dan y ddyletswydd Prevent yn gwneud cyfraniad i sicrhau bod safbwyntiau pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio yn cael eu herio pan yn briodol neu eu bod yn cael help priodol a bod modd eu cyfeirio i ffwrdd oddi wrth derfysgaeth.
69. Dylai pobl sydd â chyfrifoldeb am Prevent o fewn awdurdod penodedig sicrhau bod staff perthnasol wedi cael hyfforddiant priodol ar Prevent.
70. Rydym yn rhagweld y bydd hyfforddiant priodol yn amrywio yn ôl rôl yr unigolyn. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn gwneud argymhellion sy’n benodol i wahanol sectorau, a dylai awdurdodau penodedig sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant sy’n ofynnol ar gyfer eu sector, a hynny cyn gynted â phosibl, i sicrhau bod ganddynt y galluoedd angenrheidiol ar gyfer eu rôl. Gall amlder a’r math o hyfforddiant ddibynnu ar ffactorau fel y cyd-destun lleol a’r risg, natur eu cyfrifoldebau a’u swyddogaethau, a dylid gwneud y penderfyniad yn dilyn asesiad sefydliadol o’r anghenion hyfforddi.
Mae radicaleiddio yn broses bersonol ac unigol, a bydd yn wahanol i bob unigolyn. Wrth sôn am y ‘risg o radicaleiddio’, mi all fod yn anodd ceisio disgrifio sut yn union mae’n edrych. Mae amryw o arwyddion neu ddangosyddion a all awgrymu bod unigolyn mewn perygl o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth.
Mae adnoddau a chanllawiau ar gael y gall awdurdodau penodedig eu defnyddio i wella eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o radicaleiddio. Mae tudalen Prevent y Swyddfa Gartref ar GOV.UK yn cynnwys rhagor o fanylion ar sut i adnabod arwyddion o radicaleiddio a beth i’w wneud os ydych chi’n poeni am rywun.[footnote 17] Mae hyn yn cael ei ategu gan hyfforddiant ar y ddyletswydd Prevent, hefyd ar GOV.UK.[footnote 18] Gall pob awdurdod penodedig hefyd ddarparu eu hyfforddiant a’u canllawiau atodol eu hunain.
71. Dylai staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd ddeall beth mae radicaleiddio yn ei olygu a pham y gall pobl fod yn dderbyngar i ideolegau eithafol sy’n cael eu defnyddio i annog pobl i gymryd rhan mewn terfysgaeth neu ei gefnogi. Dylent fod yn ymwybodol o’r termau ‘radicaleiddio’, ‘terfysgaeth’ ac ‘eithafiaeth’.
72. Dylai staff wybod pa fesurau sydd ar gael i atal radicaleiddio i derfysgaeth a sut i adnabod yr ideolegau eithafol sy’n gwneud pobl yn derfysgwyr neu yn eu hannog i gefnogi terfysgaeth. Dylai staff fod yn ymwybodol o arwyddion o radicaleiddio a dylent ddeall sut i uwchgyfeirio ac atgyfeirio pryderon i Prevent. Mewn rhai achosion, byddai hyn yn golygu cysylltu â’u Harweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) neu swyddog cyfatebol, a fyddai wedyn yn gallu helpu drwy atgyfeirio ymlaen i Prevent, naill ai drwy gysylltu â’r heddlu neu’r awdurdod lleol.
73. Bydd rhai sydd â chyfrifoldebau sy’n benodol i Prevent, fel DSL, yn debygol o fod angen hyfforddiant ychwanegol, mwy rheolaidd i’w galluogi i helpu eraill â materion Prevent a’u diweddaru ar faterion perthnasol.
74. Mae’r Swyddfa Gartref yn cynnig hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK am ddim i helpu’r rhai o dan y ddyletswydd. Mi all cymorth arall, gan gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, fod ar gael hefyd. Rydym yn disgwyl y bydd gan bob staff rheng flaen sy’n gweithio i awdurdodau penodedig ddealltwriaeth resymol a phriodol o ideolegau eithafol a therfysgol, a dylid darparu hyfforddiant ar hyn.
Rheoli risg
Asesiad risg
75. Yn ogystal â sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant priodol, dylai awdurdodau penodedig ddeall beth yw’r risgiau iddynt o ran radicaleiddio. Byddai cynnal asesiad risg yn helpu i gael dealltwriaeth o risgiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a bydd yn helpu i deilwra dulliau ac i reoli risg yn unol â hynny. Bydd ymgysylltu â phartneriaid yn help i ddeall y risgiau a’r bygythiadau. Mi all fod yn briodol i gynnwys risgiau’n ymwneud â radicaleiddio fel rhan o asesiadau risg sefydliadol ehangach.
76. Dylai awdurdodau penodedig feddu ar alluoedd cymesur a phriodol i reoli risg. Dylai hyn gynnwys dull clir i ddelio â phryderon am radicaleiddio, sydd wedi’i amlinellu naill ai mewn polisïau presennol neu mewn polisi Prevent penodol ar wahân. Dylai hefyd gynnwys prosesau i egluro sut y dylid delio â phryderon, gan gynnwys pwy i gysylltu â hwy mewn sefydliad. Dylid defnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol Prevent i wneud atgyfeiriadau.[footnote 19]
Rhannu gwybodaeth
77. Mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau penodedig rannu gwybodaeth am bobl i sicrhau, er enghraifft, bod unigolyn mewn perygl o gael eu radicaleiddio’n cael cymorth priodol, fel ar y rhaglen Channel. Wrth rannu data personol, rhaid i awdurdodau penodedig sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data, fel y mae’n gymwys iddynt hwy.
78. Mae’n bwysig cofio nad bwriad y ddeddfwriaeth diogelu data yw atal rhannu data personol, ond i sicrhau bod hynny’n cael ei wneud yn gyfreithlon a gyda mesurau diogelu priodol ar waith. Er y dylid ystyried rhannu gwybodaeth fesul achos, mi all fod yn arfer da mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft, os oes rhannu rheolaidd – i gael cytundeb rhannu gwybodaeth.
79. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu cyngor ar ofynion y ddeddfwriaeth diogelu data i sefydliadau.[footnote 20] Mi all amgylchiadau godi pan fydd awdurdodau penodedig, yn ystod gwaith yn gysylltiedig â Prevent, yn dod ar draws rhywun sydd eisoes yn cymryd rhan mewn gweithgarwch anghyfreithlon sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Os oes rhywun yn cael ei amau o fod yn rhan o weithgarwch o’r fath, dylid hysbysu’r heddlu ar unwaith.
80. Mae cyngor pellach ar rannu gwybodaeth ar gael yn GOV.UK[footnote 21]
Lleihau amgylcheddau caniataol
81. Un ffordd mae Prevent yn ceisio mynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth yw drwy gyfyngu amlygiad i naratifau sy’n radicaleiddio, ar-lein ac all-lein, ac i greu amgylchedd lle mae ideolegau sy’n radicaleiddio’n cael eu herio a lle na chaniateir iddynt ffynnu.
82. Mae radicaleiddwyr yn creu ac yn manteisio ar amgylcheddau caniataol i hyrwyddo neu gyfiawnhau trais ac i ledaenu ideolegau gwenwynig sy’n tanseilio ein gwerthoedd a’n cymdeithas. Wrth ystyried sut i fynd i’r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth, mae’n bwysig ystyried hefyd sut mae radicaleiddwyr yn defnyddio syniadaua naratifau eithafol i annog pobl i gyfranogi mewn terfysgaeth neu ei gefnogi . Mae hyn yn cynnwys achosion lle nad yw’r union ideoleg yn eglur. Mae naratifau terfysgol sefydledig yn amlygu themâu cyffredin fel gwrth-semitiaeth, casineb at fenywod, gwrth-sefydliadol, ymosodiadau gwrth- LHDT, a goruchafiaeth grefyddol neu ethnig. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 22]
83. Mi all cyfyngu ar niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr, yn ogystal â naratifau a chynnwys eithafol sydd â chysylltiad rhesymol â therfysgaeth, helpu i atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu’r defnydd o amgylcheddau ar-lein caniataol neu blatfformau eraill, a all gyfrannu at radicaleiddio drwy hwyluso amlygiad i gynnwys terfysgol ac eithafol a galluogi rhwydweithio â phobl o’r un meddylfryd.
84. Mae annog terfysgaeth, gan gynnwys clodfori comisiynu neu baratoi gweithredoedd terfysgol, codi arian i ddibenion terfysgol, a gwahodd cefnogaeth i fudiad terfysgol gwaharddedig, i gyd yn droseddau. Ni ddylai awdurdodau penodedig roi llwyfan lle gall trosedd gael ei chyflawni, na hwyluso’r gweithgarwch hwn drwy gymeradwyo, ariannu neu roi mathau eraill o gefnogaeth.
85. Mae’n bwysig bod awdurdodau penodedig yn canfod ac yn ystyried cyfleoedd i amharu ar y sawl sy’n ceisio radicaleiddio pobl eraill i ymgymryd â gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth neu gefnogi terfysgaeth, neu sy’n hyrwyddo ideolegau eithafol sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Mi all hyn olygu cael polisïau ar waith a fydd, pan yn briodol, yn cyfyngu ar ddylanwadau sy’n radicaleiddio (gan gynnwys ar-lein), neu sicrhau nad yw cyfleusterau’n cael eu defnyddio mewn ffordd amhriodol. Mi allai olygu herio syniadau eithafol sy’n aml yn cael eu cysylltu â therfysgaeth neu ideolegau terfysgol, ac mi all rhai ohonynt gwmpasu syniadau niweidiol mwy cyffredinol, fel casineb at fenywod a gwrth-semitiaeth, neu ddefnydd o’r cysyniad o gabledd i gyfiawnhau neu esgusodi trais.
86. Yn ogystal, mae’n bwysig nad yw cyllid Prevent yn mynd i sefydliadau neu bobl sydd â safbwyntiau sy’n creu amgylchedd lle mae terfysgaeth yn cael ei annog neu ei gefnogi. Dylai awdurdodau penodedig ystyried a oes risgiau ynghlwm wrth eu gwaith â grwpiau neu unigolion penodol, fel cyfiawnhau sefydliadau sydd â chysylltiad â therfysgaeth neu o bosibl niweidio eu henw da am wneud atgyfeiriadau Prevent. Dylai awdurdodau penodedig ystyried yn ofalus i bwy maent yn dyfarnu cyllid neu gontractau Prevent a sicrhau bod diwydrwydd dyladwy’n cael ei gynnal. Hefyd, wrth gyrchu cyngor ar y ddyletswydd Prevent gan bartïon allanol, dylai awdurdodau penodedig sylweddoli y gall rhai pobl neu sefydliadau geisio hyrwyddo diffyg cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent ac os felly dylid cymryd camau priodol.
87. Dylai unrhyw gamau a gymerir i leihau gofod sy’n ganiataol i radicaleiddio fod yn gymesur, yn gyfreithlon a phriodol. Dylai awdurdodau penodedig ystyried unrhyw ganllawiau perthnasol a gyhoeddwyd ar gyfer eu sector, yn ogystal â’u hadran gyfatebol o’r cyfarwyddyd hwn, i’w helpu i ddeall ystyriaethau sy’n benodol i’w sector.
Adran 4: Monitro a sicrwydd
88. Rhaid i bob awdurdod penodedig gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan Adran 26 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015). I sicrhau cysondeb ac i gyflawni mewn modd cymesur, dylai pob awdurdod gadw cofnodion priodol i ddangos cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent. Dylai hyn gynnwys cadw cofnod o unrhyw hyfforddiant Prevent y bydd staff yn ei gael. Dylai awdurdodau penodedig ystyried eu trefniadau cadw cofnodion ar gyfer atgyfeiriadau Prevent i sicrhau eu bod yn gymesur a phriodol, ond dylent hefyd fod yn ymwybodol o’r gofynion o dan y ddeddfwriaeth diogelu data (er enghraifft, egwyddor cyfyngiadau storio).
89. Bydd monitro a sicrwydd yn cael ei ategu gan y prosesau sicrwydd presennol mewn sectorau penodol. Mae’r rhain yn cael eu manylu yn adran pob sector penodol.
90. Mae gweithredu’r ddyletswydd Prevent yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth drawslywodraethol gan weinidogion. Mae’r Swyddfa Gartref yn cydweithio’n agos ag adrannau eraill o’r llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig a Phlismona Gwrthderfysgaeth i oruchwylio sut mae Prevent yn cael ei redeg. Mae Plismona Gwrthderfysgaeth yn delio â holl atgyfeiriadau Prevent, gan eu hasesu am risg ac a ydynt yn briodol i gael cefnogaeth Prevent.
91. Lle nad yw gweithgarwch Prevent yn cyrraedd y safonau a bennir yn y cyfarwyddyd hwn, gall ymarferwyr a’r cyhoedd fynegi pryderon drwy swyddogaeth gwyno annibynnol.[footnote 23] Mae gan Weinidogion hefyd y pŵer i gyfarwyddo ymchwiliadau drwy’r swyddogaeth hon, gan gynnwys methiant partneriaid statudol i gynnal y ddyletswydd Prevent. Mae’r swyddogaeth hon yn ategu prosesau sicrwydd a chwyno presennol sectorau penodol (fel y nodir yn adran pob sector penodol). Bydd y canfyddiadau yn ddienw a chânt eu cyhoeddi ar GOV.UK.
92. Os na fydd corff penodedig yn cydymffurfio â’r ddyletswydd, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio’r pŵer cyfarwyddo o dan Adran 30 o CTSA 2015 i roi cyfarwyddiadau. Gall y cyfarwyddiadau hyn gael eu gorfodi gan orchymyn llys.
Cymorth a monitro canolog
93. Mae’r Swyddfa Gartref yn goruchwylio gweithgarwch Prevent ym mhob ardal leol a gall ddyfarnu cyllid i helpu ei chyflawni.
94. Bydd y Swyddfa Gartref yn:
- dwyn ynghyd ddata am weithredu Prevent gan arweinyddion Prevent lleol a rhanbarthol (gan gynnwys rhai mewn rolau diogelu â dyletswyddau Prevent mewn iechyd ac addysg), yr heddlu, asiantaethau cudd-wybodaeth ac adrannau a chyrff arolygu eraill pan yn briodol
- monitro ac asesu cyflawni Prevent ym mhob ardal leol
- pennu cyfeiriad cyffredinol ar gyfer polisi a chyflawni Prevent mewn adrannau perthnasol o’r llywodraeth a phartneriaid penodedig
- cynnal mecanweithiau llywodraethu sy’n goruchwylio gweithredu Prevent
- llywio prosesau penderfynu strategol drwy gynnal Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch
Adran 5: Cyfarwyddyd ar gyfer sectorau penodol
95. Mae’r adran hon yn cynnwys cyfarwyddyd sy’n benodol i:
Awdurdodau lleol
96. Gyda’u cyfrifoldebau eang a’u hatebolrwydd democrataidd i’w hetholwyr, mae awdurdodau lleol yn allweddol i waith Prevent. Dylai awdurdodau lleol effeithiol weithio â’u partneriaid lleol i amddiffyn y cyhoedd, i atal troseddu ac i hybu cymunedau cryf, integredig.
97. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol i gyflawni Prevent yn eu hardal. Bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod gweithgarwch ac adnoddau Prevent yn canolbwyntio ar y meysydd â’r bygythiadau mwyaf, mae’r Swyddfa Gartref yn cynnal ymarferiad blaenoriaethu i adolygu’r bygythiad cymharol o derfysgaeth ledled y wlad. Bydd hyn yn penderfynu ym mhle yn y wlad mae’r bygythiad o radicaleiddio ar ei uchaf. Yn yr ardaloedd hynny, gellir dyrannu cyllid ychwanegol i helpu’r awdurdod lleol i gyflawni’r ddyletswydd Prevent.
98. Bydd gan ardaloedd a gaiff gyllid ychwanegol dîm Prevent sy’n cynnwys cydlynydd Prevent, a fydd yn cael eu gefnogi gan staff yn ôl yr angen. Dylai ardaloedd nad ydynt yn cael cyllid Prevent penodol fod ag arweinydd Prevent sy’n rhan o dîm perthnasol yn yr awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg. Mae rhwydwaith o gynghorwyr y Swyddfa Gartref yn gyfrifol am ymgysylltu â, ac am helpu pob awdurdod lleol i gyflawni yn erbyn y ddyletswydd Prevent
99. Ceir arweiniad pellach yn arweinlyfr y ddyletswydd Prevent i awdurdodau lleol.[footnote 24] Mae’r arweinlyfr wedi’i lunio i gynnwys gwybodaeth ymarferol ac enghreifftiau o ymarfer da i helpu awdurdodau lleol a’u partneriaid i amddiffyn pobl rhag radicaleiddio.
Awdurdodau lleol penodedig
100. Rhestrir yr awdurdodau lleol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd Prevent yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015).[footnote 25] Sef:
- cynghorau sir neu ddosbarth yn Lloegr
- Awdurdodau Unedol Un Haen
- Awdurdod Llundain Fwyaf
- cynghorau bwrdeistref Llundain
- Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swyddogaeth fel awdurdod lleol
- Cyngor Ynysoedd Sili
- cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru
- unigolion sy’n cyflawni swyddogaeth awdurdod a grybwyllir yn Adran 1 (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn sgil cyfarwyddyd a wnaed o dan Adran 15 o’r ddeddf honno
101. Lle bydd awdurdodau lleol wedi is- gontractio gwasanaeth, rydym yn disgwyl y bydd gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau, pan yn briodol, bod yr is-gontractwr yn ymwybodol o’r ddyletswydd Prevent ac nad yw’r is-gontractwr yn anfwriadol yn ariannu sefydliadau eithafol. Gall gwasanaethau gynnwys plant a gofal cymdeithasol.
102. Nid yw awdurdodau eraill, gan gynnwys awdurdodau tân ac achub unigol, wedi’u rhestru yn CTSA 2015 ac nid ydynt yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd Prevent. Fodd bynnag, o ystyried eu rôl atal ehangach, mewn llawer o ardaloedd maent yn bartneriaid mewn ymdrechion lleol i atal pobl rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.
103. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau lleol, gan gynnwys aelodau etholedig ac uwch swyddogion fod yn cyflawni gweithgarwch yn y meysydd canlynol.
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
104. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
105. Mae arweinyddion mewn awdurdodau lleol yn hanfodol i hyrwyddo pwysigrwydd Prevent ac i sicrhau bod risgiau o radicaleiddio i derfysgaeth wedi’u deall a’u bod yn cael eu rheoli. Dylent sicrhau bod galluoedd priodol ar waith ym mhob rhan o’r awdurdod lleol.
106. Mae’n bwysig bod gan arweinyddion Prevent lleol gysylltiad â’r uwch arweinyddion yn yr awdurdod lleol i roi cyngor a chymorth.
Partneriaethau aml-asiantaeth
107. Mae’n ofynnol bod gan awdurdodau lleol drefniadau aml-asiantaeth ar waith i fonitro a gwerthuso effaith gwaith Prevent yn effeithiol ac i sicrhau trefniadau llywodraethu strategol.
108. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio eu grŵp(iau) aml-asiantaeth lleol i gytuno ar risgiau, cydlynu gweithgarwch Prevent ac i gynnig cymorth a chyngor. Dylid meithrin cysylltiadau â phartneriaethau statudol eraill fel panelau Channel, Canolfannau Diogelu Aml-asiantaeth (MASHs) a Thimau Troseddu Ieuenctid.
109. Pan fydd atgyfeiriad Prevent yn cael ei fabwysiadu, rhaid i awdurdodau lleol gadeirio panelau Channel a dylent geisio cael cydweithrediad cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl gan awdurdodau penodedig perthnasol, yn unol ag Adran 38 o CTSA 2015. Ceir manylion am yr hyn a olygir wrth gydweithrediad yn y Cyfarwyddyd dyletswydd Channel. Mae cyfraniad aml- asiantaeth yn Channel yn hanfodol i sicrhau bod yr ystod lawn o wybodaeth ar gael i’r panel, fel y bydd derbyngarwch, elfennau agored i niwed, risg ac anghenion cymorth yn cael eu hasesu’n llawn.
Cydweithrediad rhwng ardaloedd
110. Mewn ardaloedd dwy haen yn Lloegr, dylai cynghorau sir a dosbarth gytuno ar drefniadau cymesur i rannu’r asesiadau risg a chytuno ar drefniadau i rannu cynlluniau partneriaeth Prevent lleol. Disgwylir y bydd ardaloedd cyfagos hefyd yn cytuno ar drefniadau cymesur i rannu’r asesiad o risg ac yn cytuno ar gynlluniau partneriaeth Prevent lleol fel sy’n briodol.
Partneriaethau cymunedol
111. Bydd gwaith Prevent a wneir drwy awdurdodau lleol yn aml yn cynnwys ac yn effeithio’n uniongyrchol ar gymunedau lleol. Mae trafod a chydlynu effeithiol â sefydliadau cymunedol yn hanfodol i gyflawni Prevent yn effeithiol. Dylai ymgysylltu hefyd roi pwyslais ar godi ymwybyddiaeth o risgiau radicaleiddio a herio ideolegau grwpiau eithafol mewn modd credadwy, gan gynnwys unrhyw dwyllwybodaeth am Prevent a ledaenir ganddynt.
Asiantaethau a sefydliadau eraill sy’n cynorthwyo plant
112. Mae ystod o asiantaethau a sefydliadau preifat a gwirfoddol yn darparu gwasanaethau neu, mewn rhai achosion, yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â phlant, gan gynnwys gofal cymdeithasol plant. Mae’r ddyletswydd Prevent yn berthnasol i’r cyrff hynny, sy’n cynnwys, er enghraifft, cartrefi plant ac asiantaethau maethu annibynnol a chyrff sy’n cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol boed o dan drefniadau dirprwyo gwirfoddol neu drwy eu defnydd o bwerau ymyrryd statudol. Dylai’r cyrff hyn sicrhau eu bod yn rhan o drefniadau diogelu eu hawdurdod lleol a bod staff yn ymwybodol o’r ddyletswydd Prevent a’u bod yn gwybod sut i wneud atgyfeiriad Prevent pan yn briodol.
Galluoedd
113. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r Ddyletswydd Prevent, Galluoedd.
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
114. Disgwylir i awdurdodau lleol sicrhau bod gan staff rheng flaen priodol, gan gynnwys staff eu contractwyr, ddealltwriaeth dda o Prevent, eu bod wedi’u hyfforddi i sylwi pan fydd unigolyn yn dderbyngar i gael ei radicaleiddio i derfysgaeth a’u bod yn ymwybodol o’r rhaglenni sydd ar gael i’w helpu. Mewn awdurdodau lleol, rydym yn rhagweld y dylai staff rheng flaen priodol gynnwys gweithwyr cymdeithasol plant ac oedolion, gweithwyr teulu, gweithwyr cymorth cynnar, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth. Dylai’r hyfforddiant hwn gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl i sicrhau bod staff yn alluog i ymgymryd â’u rôl.
115. Yn ychwanegol at yr hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK, a argymhellir, disgwylir y bydd gan rai â chyfrifoldebau penodol am Prevent ddealltwriaeth dda o ideolegau eithafol fel prif ysgogwr radicaleiddio a’u bod yn cwblhau unrhyw hyfforddiant gofynnol ar ideolegau.[footnote 26]
116. Mae disgwyl hefyd y bydd staff awdurdodau lleol sydd mewn rolau rheng flaen yn cael hyfforddiant ar sut i wneud atgyfeiriadau Prevent yn eu hawdurdod lleol neu i’r heddlu os ydynt yn credu bod rhywun mewn perygl o gael eu radicaleiddio, ac i ddeall y broses Channel.
117. Argymhellir fod y sawl sydd â chyfrifoldebau sy’n benodol i Prevent yn diweddaru eu hyfforddiant o leiaf bob dwy flynedd, er mwyn eu galluogi i helpu eraill â materion Prevent ac i’w diweddaru ar faterion perthnasol. Gallai hyn gynnwys y tueddiadau yn ystadegau atgyfeirio Prevent, a gyhoeddir yn flynyddol, tueddiadau atgyfeirio lleol a materion sy’n dod i’r amlwg, digwyddiadau a dylanwadau radicaleiddio lleol neu ranbarthol perthnasol, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 27]
Lleoliadau y tu allan i’r ysgol sy’n cefnogi plant
118. Mae llawer o blant yn mynd i sesiynau tiwtora, hyfforddi, gwersi neu weithgareddau heb oruchwyliaeth eu rhieni neu ofalwyr. Gelwir y sefydliadau neu’r unigolion sy’n cynnig y ddarpariaeth hon i blant (ond nad ydynt yn ysgolion, colegau, darparwyr darpariaeth amgen (AP), academïau 16-19 oed, neu ddarparwyr gofal plant cofrestredig) yn ‘lleoliadau y tu allan i’r ysgol’. Mae enghreifftiau nodweddiadol o leoliadau y tu allan i’r ysgol yn cynnwys sefydliadau ieuenctid, clybiau allgwricwlar, tiwtora preifat ac ysgolion atodol. Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn gweithredu y tu allan i ysgolion, ond mae rhai’n cael eu rhedeg yn rhan amser yn ystod y dydd i helpu plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Maent yn gweithredu mewn amrywiaeth eang o leoliadau, o ganolfannau cymunedol i addoldai a chartrefi preifat.
119. Nid yw’r lleoliadau hyn yn cael eu rheoleiddio o dan gyfraith addysg a gofal plant. Mae hyn yn golygu nad oes un corff cyfrifol gyda goruchwyliaeth gyflawn dros ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth yn y lleoliadau hyn. Fodd bynnag, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiogelu plant yn eu hardal, waeth pa leoliad addysg neu ofal plant maent yn eu mynychu. Dylai awdurdodau lleol gymryd camau i ddeall yr ystod o weithgarwch a lleoliadau yn eu hardaloedd a dylent gymryd camau priodol a chymesur i sicrhau bod plant sy’n mynd i leoliadau o’r fath yn cael eu diogelu’n briodol (a dylai hynny gynnwys ystyried a yw plant sy’n mynd i leoliadau o’r fath mewn perygl o gael eu radicaleiddio).
120. Wrth asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â lleoliadau o’r fath, dylai awdurdodau lleol ystyried a yw’r lleoliadau’n gweithredu’r arferion diogelu a argymhellir sydd wedi’u cynnwys yng nghanllaw’r Adran Addysg, ‘Keeping children safe in out-of-school settings’, ac unrhyw dystiolaeth arall ynglŷn ag i ba raddau maent yn cymryd camau i ddiogelu’r plant yn eu gofal.[footnote 28] Pan fydd pryderon am ddiogelu’n codi, dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gallant wneud defnydd o’r ystod lawn o’r pwerau sydd ar gael iddynt i leihau’r risgiau i blant, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn y cyfarwyddyd ar ysgolion annibynnol heb eu cofrestru a lleoliadau y tu allan i’r ysgol.[footnote 29] Dylid sicrhau bod systemau clir ar waith hefyd i rieni, partneriaid diogelu, darparwyr a’r cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiadau difrifol – yn aml drwy Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol neu ofal cymdeithasol plant, neu os oes plentyn mewn perygl ar unwaith, drwy gysylltu â’r heddlu.
Rheoli risg
Asesiad risg
121. I ddeall risg, disgwylir i awdurdodau lleol gynhyrchu asesiad risg sy’n benodol i’w hamgylchiadau eu hunain. Dylai’r asesiad ystyried y risgiau y bydd pobl yn cael eu radicaleiddio, yn ogystal â risgiau dylanwadau radicaleiddio, yn eu hardal. I sicrhau bod cyflawni a darparu Prevent yn cael ei lywio gan y bygythiad, dylid cynnal y Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch. Dylai hwn gael ei oleuo gan y proffiliau lleol gwrthderfysgaeth (CTLPs), a gynhyrchir ar gyfer pob rhanbarth gan yr heddlu. Mae’r CTLPs yn galluogi awdurdodau lleol i dargedu gweithgarwch yn effeithiol i atal terfysgaeth ac i adeiladu cydnerthedd. Mae canllawiau ar broffiliau lleol gwrthderfysgaeth ar gael ar GOV.UK.[footnote 30] Hefyd, dylai awdurdodau lleol gynnwys Prevent yn eu cofrestr risg gorfforaethol.
122. Mae datblygiad asesiadau risg sefyllfaol lleol fel arfer yn cael ei oruchwylio gan yr arweinydd Prevent dynodedig. Fodd bynnag, dylai hefyd fod yn ffrwyth ymgysylltu â staff eraill yr awdurdod lleol, ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal plant cofrestredig, prifysgolion, colegau, carchardai lleol, gwasanaethau prawf, iechyd, gorfodaeth mewnfudo, Timau Troseddu Ieuenctid ac eraill, yn ogystal â gwybodaeth yr awdurdod lleol am ei ardal ei hun.
123. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y ddyletswydd Prevent yn rhan o bolisïau a gweithdrefnau sy’n delio â chanfod a chynorthwyo pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio, fel gofal cymdeithasol plant ac oedolion. Mae’r ddyletswydd Prevent yn berthnasol i swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag amddiffyn y cyhoedd, troseddu ac anhrefn, a diogelu. Dylai awdurdodau lleol a byrddau diogelu sicrhau bod polisïau a phrosesau clir a chadarn ar waith i nodi plant ac oedolion sydd mewn perygl. Dylid darllen y cyfarwyddyd hwn ochr yn ochr â’r canllawiau diogelu.
124. Mae’n bosibl y bydd angen i staff awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan mewn panel Channel ddarparu cymorth i bobl ar y rhaglen Channel. Mae Cyfarwyddyd ar Channel ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr.[footnote 31]
Cynllun partneriaeth Prevent
125. Gyda chymorth arweinyddion Prevent ac eraill drwy’r grŵp aml-asiantaeth, dylai pob awdurdod lleol arwain y gwaith o ddatblygu
- ochr yn ochr â phartneriaid aml-asiantaeth
- cynllun partneriaeth
Prevent sy’n benodol i’r awdurdod lleol i reoli’r risg y bydd pobl yn cael eu radicaleiddio i derfysgaeth yn yr ardal honno. Bydd hyn yn helpu’r awdurdod lleol i gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, ynghyd â phartneriaid, ac i roi sylw i’r risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg lleol a’r CTLPs.
126. Dylai cynlluniau partneriaeth Prevent gael eu haddasu ar gyfer amgylchiadau lleol a dylid eu datblygu drwy ddefnyddio asesiadau risg lleol a phroffiliau lleol gwrthderfysgaeth. Dylid cynnal Gwiriad Bygythiad i Ddiogelwch i sicrhau bod y gweithgarwch yn cyfateb i’r bygythiad. Gall cynlluniau partneriaeth gael eu llunio gan awdurdod lleol unigol a’i bartneriaid, neu ar y cyd gan nifer o awdurdodau lleol. Mewn ardaloedd dwy haen, gallant gael eu datblygu gan awdurdod arweiniol ac sy’n cynnwys anghenion yr holl awdurdodau yn yr ardal honno.
127. Dylai cynlluniau partneriaeth Prevent fod yn gynhwysfawr o ran canfod, blaenoriaethu a hwyluso gweithgarwch i leihau’r perygl bod pobl yn troi at derfysgaeth neu’n cefnogi terfysgaeth sy’n benodol i’r rhanbarth. Dylid defnyddio’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar y pryd, ac ymgorffori gweithgarwch Prevent pan fydd hynny’n bosibl ac yn briodol. Dylid cyfeirio at y cynllun partneriaeth Prevent mewn strategaethau, cynlluniau a pholisïau corfforaethol a gwasanaethau perthnasol, a sicrhau y gwneir cynnydd ar feincnodau’r ddyletswydd Prevent a amlinellir yn arweinlyfr y ddyletswydd Prevent.[footnote 32] Dylai awdurdodau sy’n cael cyllid prosiect Prevent ddefnyddio’r arian hwn i ddarparu prosiectau sy’n benodol i Prevent. Dylai prosiectau gael amcanion pendant sy’n herio ideolegau eithafol a therfysgol, a dylai gweithgarwch gael ei gyfarwyddo gan y cynllun partneriaeth Prevent. Dylai pob prosiect sicrhau bod ganddynt drefniadau goruchwylio priodol a strategaeth werthuso glir. Dylai llawer o’r prosiectau a’r gweithgareddau hyn fod yn rhai cymunedol.
128. Lle bo’n briodol, pan wneir contractau newydd i ddarparu unrhyw wasanaethau, rydym yn disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod egwyddorion y ddyletswydd Prevent yn cael eu hymgorffori mewn ffurf addas yn y contractau hynny.
Rhannu gwybodaeth
129. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Rhannu gwybodaeth.
130. Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data. Mewn rhai achosion o rannu gwybodaeth, mi all fod yn arfer da i gael cytundebau rhannu gwybodaeth.
Lleihau amgylcheddau caniataol
131. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
132. Gall gweithredu i leihau niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr, yn ogystal â naratifau a chynnwys a ddefnyddir gan radicaleiddwyr, helpu i leihau’r risg y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 33]
133. Dylai lleoliadau awdurdodau lleol gael mesurau ar waith i sicrhau nad yw radicaleiddwyr yn manteisio ar eu cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys ymdrechu i sicrhau nad yw gofod digwyddiadau, lleoliadau ac adnoddau neu gyfarpar TG sy’n eiddo i’r cyhoedd yn cael eu defnyddio i hwyluso lledaeniad naratifau eithafol y byddai’n rhesymol i’w cysylltu â therfysgaeth, fel naratifau a ddefnyddir i annog pobl i gymryd rhan mewn terfysgaeth neu ei gefnogi. Bydd mesurau o’r fath yn helpu i gyfyngu ar fynediad at lwyfannau y gellid eu defnyddio i radicaleiddio pobl eraill.
134. Dylai awdurdodau lleol fod â pholisi, sy’n seiliedig ar asesiadau risg lleol, sy’n datgan yn glir pa weithgareddau ac ymddygiadau gan grŵp neu unigolyn a allai olygu y byddai cyfyngiadau arnynt wrth ddefnyddio adnoddau a lleoliadau cyhoeddus. Dylai’r polisi hwn gynnwys ystyriaethau perthnasol ar gyfer dyfarnu contractau i ddarparu gwasanaethau i’r awdurdod lleol. Mae’n bwysig bod y polisi wedi’i ymgorffori ymhob rhan o’r awdurdod lleol.
135. Mae’n bwysig hefyd nad yw cyllid Prevent yn mynd i sefydliadau na phobl sydd â safbwyntiau sy’n cyfiawnhau, yn annog neu’n cefnogi gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Ni ellir ymddiried gwaith gwrth- radicaleiddio i rai sy’n dangos cydymdeimlad tuag at derfysgwyr a’u syniadau. Rydym yn disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn cynnal eu gwiriadau diwydrwydd dyladwy eu hunain i sicrhau nad yw sefydliadau maent yn gweithio â hwy ar Prevent yn cefnogi nac yn cymeradwyo safbwyntiau eithafol sy’n gysylltiedig â therfysgaeth.
136. Rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent a dylent sylweddoli bod ymwneud â, gofyn am gyngor gan bobl neu sefydliadau sy’n annog peidio â chydymffurfio danseilio ffydd y cyhoedd yn eu cydymffurfiad.
137. Dylai awdurdodau lleol ystyried hefyd a ddylai’r cyfarpar TG maent yn ei ddarparu i’r cyhoedd ddefnyddio datrysiadau hidlo i atal mynediad at ddeunydd sy’n cefnogi terfysgaeth neu syniadau eithafol sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Mae arweinlyfr y ddyletswydd Prevent i awdurdodau lleolyn rhoi rhagor o arweiniad ar sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni Prevent.[footnote 34] Mae hefyd yn nodi’r meincnodau ar gyfer lleihau’r amgylchedd caniataol. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau a pholisïau cynhwysfawr sy’n cyfyngu ar ddylanwadau radicaleiddio pan yn briodol, a bod yn ymwybodol o beth ydynt yn yr ardal leol.
Monitro a sicrwydd
138. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4: Monitro a sicrwydd. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i oruchwylio holl arweinyddion Prevent o fewn awdurdodau lleol, yn ogystal â gwerthuso a monitro unrhyw brosiectau a ariennir gan Prevent. Wrth gyflawni ei rôl monitro ganolog, bydd y Swyddfa Gartref yn craffu ar Gynlluniau Partneriaeth Prevent lleol, ac ar effaith a pherfformiad cyffredinol prosiectau. Ceir rhagor o fanylion am y meincnodi a ddefnyddir ar gyfer cynlluniau partneriaeth Prevent yn arweinlyfr y ddyletswydd Prevent.[footnote 35]
139. Os oes pryderon ynglŷn â chydymffurfiaeth, gall y Swyddfa Gartref ystyried pa mor briodol fyddai defnyddio systemau presennol fel penodi arolygydd, gofyn i’r awdurdod lleol gymryd camau penodol, gofyn am ymchwiliad, neu gyhoeddi cyfarwyddyd. Gellir defnyddio pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 neu Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
140. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol o’r farn nad yw unrhyw swyddogaeth sy’n gysylltiedig ag addysg, gofal plant neu ofal cymdeithasol plant a ddarperir gan awdurdod lleol yn cyrraedd safon ddigonol, mi all ddefnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Addysg 1996, y Ddeddf Plant, a gofal cymdeithasol plant o dan Adran 50(1) o Ddeddf Plant 2004 i gymryd pa bynnag gamau y bernir sy’n briodol i sicrhau gwelliant angenrheidiol. Yng Nghymru, mae gan weinidogion Cymru’r pŵer i ymyrryd o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Bydd y mesurau ymyrryd hyn yn cael eu hystyried mewn achosion lle bydd arolygiadau Ofsted (neu Estyn yng Nghymru) yn canfod arferion annigonol a phryderon difrifol ynglŷn ag arferion o ran diogelu, mabwysiadu a phlant sy’n derbyn gofal. Mae gan Arolygiaeth Gofal Cymru rôl yn hyn o beth yn achos lleoliadau a safonau gofal.
Addysg
141. Mae plant a phobl ifanc yn dal i gyfrif am gyfran sylweddol o achosion Channel, ac yn y blynyddoedd diweddar bu pryderon ynglŷn â nifer cynyddol y dysgwyr sy’n cael eu harestio am droseddau’n ymwneud â therfysgaeth. Mae addysgwyr yn aml mewn sefyllfa unigryw, am eu bod mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr, i sylwi ar ymddygiadau sy’n achos pryder ac a allai fod yn arwydd eu bod yn dderbyngar i gael eu radicaleiddio. Dylai lleoliadau gadw golwg nid yn unig am eithafiaeth dreisgar ond hefyd am eithafiaeth ddi-drais, gan gynnwys naratifau penodol sy’n peri rhaniadau neu sy’n anoddefgar ac y byddai’n rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth. Mae Educate Against Hate a hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 36], [footnote 37]
142. Dylai lleoliadau addysg sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd Prevent (fel y nodir yn yr adran awdurdodau penodedig) ddeall y gofynion hyn fel rhan o’u cyfrifoldebau diogelu a llesiant ehangach. Yn achos ysgolion a cholegau, dylid darllen y cyfarwyddyd hwn ochr yn ochr â chanllawiau diogelu perthnasol. Yn Lloegr, mae hyn yn cynnwys ‘Working together to safeguard children’ a ‘Keeping children safe in education’.[footnote 38], [footnote 39] Yng Nghymru, dylid ei ddarllen ochr yn ochr â ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’.[footnote 40]
143. Mae’r Adran Addysg hefyd wedi cyhoeddi cyngor atodol i ysgolion a lleoliadau addysg bellach ar reoli’r risg o radicaleiddio yn eu lleoliadau addysg.[footnote 41]
144. Bydd cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent yn adlewyrchu arferion da presennol ar ddiogelu. Er enghraifft, bydd yn sicrhau bod derbyngarwch i radicaleiddio yn cael ei ymgorffori mewn hyfforddiant, polisïau ac asesiadau risg diogelu. Ni ragwelir y bydd cydymffurfiaeth yn arwain at faich ychwanegol ar leoliadau.
145. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn defnyddio’r term ‘lleoliad’ i gyfeirio at bob darparwr addysg sy’n awdurdodau penodedig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd Prevent, a’r term ‘dysgwr’ i gyfeirio at ddisgyblion a myfyrwyr ym mhob cyfnod o ddarpariaeth addysg.
Awdurdodau penodedig
146. Mae’r ysgolion a’r lleoliadau gofal plant cofrestredig a bennir yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015) fel a ganlyn:[footnote 42]
- perchnogion ysgolion a gynhelir, ysgolion arbennig nas cynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion annibynnol (gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd) ac academïau darpariaeth amgen
- academïau 16 i 19
- pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion
- lleoliadau gofal plant blynyddoedd cynnar cofrestredig
- lleoliadau gofal plant blynyddoedd hŷn cofrestredig
- darparwyr cynlluniau gwyliau i blant anabl
- unigolion sy’n cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol lle nad yw perfformiad yr awdurdod lleol yn ddigonol
- unigolion a awdurdodwyd yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan Adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 i gyflawni swyddogaeth a bennir yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996
147. Mae’r sefydliadau addysg bellach a nodir yn Atodlen 6 i’r CTSA 2015 yn dod o fewn y categorïau canlynol:
- darparwyr addysg bellach sy’n destun cyfundrefn arolygu Ofsted ym Mhennod 3 o Ran 8 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, ac sy’n cael cyllid gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod cyfun a sefydlwyd o dan Adran 103 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 – ariennir sefydliadau addysg bellach yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.[footnote 43]
- deiliaid contractau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd
- corff llywodraethu neu berchennog darparwr addysg bellach lle mae mwy na 250 o fyfyrwyr, ac eithrio myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell, sy’n dilyn cyrsiau i’w paratoi at arholiadau sy’n gysylltiedig â chymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) neu sy’n cael eu rheoleiddio gan Gymwysterau Cymru neu Lywodraeth Cymru.
148. Mae’r sefydliadau addysg uwch a nodir yn Atodlen 6 i’r CTSA 2015 fel a ganlyn:
- corff llywodraethu sefydliadau cymwys o fewn yr ystyr a roddir gan Adran 11 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (‘Cyrff Addysg Uwch Perthnasol’, neu ‘RHEB’), a Deddf Addysg Uwch 2015 (Cymru)
- corff llywodraethu neu berchennog sefydliadau (nad ydynt wedi’u rhestru) lle mae mwy na 250 o fyfyrwyr, ac eithrio myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell, yn dilyn cyrsiau addysg uwch a enwir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988
149. Mae’r rhain yn cynnwys yn benodol:
- darparwyr sydd wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) yn Lloegr neu sy’n cael eu rheoleiddio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yng Nghymru
- darparwyr nad ydynt wedi’u cofrestru â’r OfS yn Lloegr nac yn cael eu rheoleiddio gan CCAUC yng Nghymru ond sydd â mwy na 250 o fyfyrwyr addysg uwch (ac eithrio myfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell)
- sefydliadau sy’n cyflwyno cyrsiau sydd wedi’u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu weinidogion Cymru
- colegau, ysgolion a neuaddau cyfansoddol annibynnol Prifysgolion Caergrawnt, Durham a Rhydychen
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
150. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
151. Dylai pob darparwr addysg gael arweinydd dynodedig mewn rôl reoli uwch sy’n gyfrifol am gyflawni Prevent. Dylent sicrhau bod galluoedd priodol (i ddeall a rheoli risg) a bod rôl a phwysigrwydd Prevent yn cael ei bwysleisio i aelodau staff perthnasol.
152. Yn benodol mewn sefydliadau sy’n rhai mawr ac ar sawl safle, dylai rheoli a chydlynu ystyried y maint a’r trefniadau sefydliadol, fel y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu’n briodol, gyda phwynt cyswllt clir i gyflawni gweithgarwch Prevent.
153. Pan gaiff atgyfeiriad Prevent ei fabwysiadu, rhaid i ddarparwyr addysg gydweithredu mewn modd mor ymarferol â phosibl â phanelau Channel sy’n cael eu harwain gan yr awdurdod lleol, yn unol ag Adran 38 CTSA 2015, gyda manylion am yr hyn mae cydweithredu’n ei gynnwys wedi’i nodi yn y cyfarwyddyd dyletswydd Channel. Mae cyfraniad aml-asiantaeth yn Channel yn hanfodol i sicrhau bod yr ystod lawn o wybodaeth ar gael i’r panel, fel y bydd derbyngarwch, elfennau agored i niwed, risg ac anghenion cymorth yn cael eu hasesu’n llawn.
154. Gellir dangos partneriaethau effeithiol hefyd drwy ymgysylltu’n briodol lle bydd angen â phartneriaid eraill, fel yr heddlu ac arweinyddion Prevent mewn awdurdodau lleol. Bydd hyn yn golygu y bydd ymwybyddiaeth gyfoes o risg a’r bygythiad sy’n bodoli, ac o’r datblygiadau diweddaraf mewn arferion gorau.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl panelau Channel a’r gofynion ar aelodau panelau ar gael yn y cyfarwyddyd dyletswydd Channel.[footnote 44]
Mae hyfforddiant ar gael hefyd i’r rhai y gellir gofyn iddynt gyfrannu at, neu i fod yn aelod o banel Channel.
Galluoedd
155. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Galluoedd.
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
156. Dylai sefydliadau addysg wneud yn siŵr bod staff perthnasol wedi cael eu hyfforddi i allu helpu i atal dysgwyr rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth. Dylai’r hyfforddiant hwn gael ei gyflwyno ar y cyfle cyntaf i sicrhau bod staff mewn sefyllfa i gyflawni eu rôl.
157. Byddem yn disgwyl bod staff priodol yn deall y ffactorau sy’n gwneud i bobl gefnogi ideolegau terfysgol neu gymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Dylai staff o’r fath fod wedi cael digon o hyfforddiant i sylwi os yw rhywun yn dderbyngar i gael eu denu i derfysgaeth ac i wybod pa gamau i’w cymryd mewn ymateb i hynny, gan gynnwys trefniadau atgyfeirio Prevent mewnol y lleoliad.
158. Bydd pob lleoliad yn gyfrifol am benderfynu pwy yw’r aelodau staff perthnasol a pha mor aml y dylai hyfforddiant gael ei gynnal, i fod yn gymesur i’r risg o derfysgaeth ac eithafiaeth yn eu hardal, a’u cam addysg neu’r math o leoliad. Dylai cynllunio ar gyfer hyfforddiant staff gynnwys ystyried pa lefel o wybodaeth sy’n gymesur i wahanol rolau. Bydd hyn yn cynnwys staff sy’n rhyngweithio amlaf â dysgwyr, ond hefyd rhai sy’n gyfrifol am oruchwylio cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent neu rai â swyddogaethau penodol i’w cyflawni, fel rhai sy’n rheoli siaradwyr a digwyddiadau allanol, ac asiantaethau a phartneriaid allanol sydd â chyfrifoldebau penodol.
159. TDylai’r Arweinyddion Diogelu Dynodedig (DSL) neu’r arweinydd Prevent yn y lleoliad gael hyfforddiant mwy trylwyr, sy’n cynnwys hyfforddiant ar ideolegau eithafol a therfysgol, sut i wneud atgyfeiriadau a gweithio â phanelau Channel. Argymhellir fod yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddiweddaru o leiaf bob dwy flynedd, i alluogi’r arweinydd i helpu staff ar faterion Prevent a’u diweddaru ar faterion perthnasol. Gallai hyn gynnwys y tueddiadau yn ystadegau atgyfeirio Prevent, a gyhoeddir yn flynyddol, digwyddiadau lleol neu ranbarthol perthnasol, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 45] Yn achos lleoliadau perthnasol, mae’r gofynion hyn yn gyson â’r rhai a geir yn ‘Keeping Children Safe in Education’.[footnote 46]
160. Dylid ystyried pa mor briodol a dibynadwy yw adnoddau hyfforddi. Dylai lleoliadau ystyried yn ofalus a yw’r deunyddiau maent yn eu defnyddio’n addas ar gyfer eu cyd-destun ac a yw’n dod o ffynhonnell awdurdodol ai peidio - er enghraifft, deunydd sy’n cynnwys cyngor sy’n tanseilio neu sy’n mynd yn groes i ddibenion Prevent, fel annog diffyg cydymffurfiaeth. Argymhellir fod darparwyr yn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy cyn derbyn cyngor neu ddefnyddio adnoddau hyfforddi gan sefydliadau allanol. Gallwch gael rhagor o gyngor ar hyfforddiant gan dîm diogelu eich awdurdod lleol ac mae adnoddau y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau gan y Llywodraeth ar gael yn Educate Against Hate. Mae cyfarwyddyd ar ddefnyddio asiantaethau allanol priodol ar gyfer ysgolion yn Lloegr, gyda phwyslais penodol ar ddidueddrwydd gwleidyddol, ar gael yn GOV.UK.[footnote 47]
Ffynonellau hyfforddi’r Llywodraeth
Mae gwasanaeth hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK ar gael am ddim ac mae’n cynnwys cyrsiau sy’n ymdrin ag ymwybyddiaeth o Prevent, y broses atgyfeirio, Channel a chwrs diweddaru ar ymwybyddiaeth.[footnote 48]
Mi all ysgolion a darparwyr addysg bellach gael deunyddiau hyfforddi, adnoddau a chanllawiau ymarferol ychwanegol sy’n ymdrin ag eithafiaeth a radicaleiddio ar wefan Educate Against Hate yr Adran Addysg.[footnote 49]
Gall darparwyr addysg uwch gael gafael ar ddeunyddiau hyfforddi yn GOV.UK[footnote 50]
Rheoli risg
Asesiad risg
161. Dylai lleoliadau addysg gael polisïau diogelu cadarn i sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio yn cael eu canfod a bod cymorth priodol ar gael iddynt. Dylai lleoliadau ystyried y broses a fyddai’n galluogi dysgwyr a staff i fynegi pryderon ynglŷn â radicaleiddio’n fewnol a’r dull o gyflwyno atgyfeiriad Prevent, gan gynnwys defnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol.[footnote 51] Prevent. Bydd y polisïau a’r gweithdrefnau hyn yn helpu sefydliad i fodloni’i hun a’r llywodraeth ei fod yn gallu nodi a chefnogi pobl.
162. Dylai polisïau fod yn gymesur ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth, a rennir â phartneriaid, o’r bygythiad a’r risg yn yr ardal leol, y cyfnod addysg, a maint a’r math o leoliad. Dylai pob lleoliad gynnal asesiad risg sy’n asesu sut y gallai eu dysgwyr neu eu staff fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth, gan gynnwys ar-lein. Os canfyddir risgiau penodol, dylai lleoliadau ddatblygu cynllun gweithredu sy’n dangos pa gamau y byddant yn eu cymryd i liniaru’r risg. Nid yw’r cyfarwyddyd yn rhagnodi beth fyddai penderfyniadau priodol, oherwydd dewis y lleoliadau fydd hyn, ar ôl iddynt ystyried yr holl ffactorau.
163. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i leoliadau gael polisi ar wahân ar y ddyletswydd Prevent. Dylid edrych ar y ddyletswydd Prevent fel rhan o ddull diogelu ehangach y lleoliad, ac felly dylai’r ystyriaethau hyn gael eu hymgorffori mewn polisïau ac asesiadau risg presennol, pan fydd yn briodol i wneud hynny. Fel rhan o hyn, dylai lleoliadau gynnwys y broses i alluogi dysgwyr neu staff i fynegi pryderon am radicaleiddio’n fewnol, a sut y bydd y rhain wedyn yn cael eu hasesu.
164. Wrth lunio polisïau a chynnal asesiadau risg, dylai lleoliadau ystyried cyfrifoldebau a gofynion perthnasol eraill. Mae hyn yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 a gofynion deddfwriaeth diogelu data. Mewn ysgolion, dylai lleoliadau hefyd ystyried gofynion i fod yn ddiduedd yn wleidyddol, a dylai lleoliadau addysg bellach ac addysg uwch roi ystyriaeth arbennig i ddyletswyddau i amddiffyn rhyddid i lefaru a rhyddid academaidd (gan gynnwys o dan Adran 31 o CTSA 2015). Os bydd lleoliad wedi is-gontractio’r gwaith o gyflwyno cyrsiau i leoliadau eraill, rydym yn disgwyl y bydd gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod yr is-gontractwr yn ymwybodol o’r ddyletswydd Prevent.
Mae pecynnau hunanasesu anstatudol ar gael i gynorthwyo sgolion a fdarparwyr addysg bellach i ddeall i ba raddau mae eu polisïau a’u harferion presennol wedi ymwreiddio.[footnote 52], [footnote 53] Mae cyngor ar ddeall a chanfod y risg o radicaleiddio yn eich lleoliad addysg hefyd ar gael.[footnote 54]
Ar gyfer ysgolion a darparwyr addysg bellach, mae cyngor anstatudol ychwanegol ar reoli’r risg o radicaleiddio, gan gynnwys ystyriaethau wrth wneud atgyfeiriad Prevent, ar gael yn GOV.UK.[footnote 55] Dylent ystyried hyn, ochr yn o’ch â’r cyfarwyddyd ehangach ar ddiogelu, gan gynnwys ‘Keeping children safe in education’.[footnote 56]
Ar gyfer addysg uwch, mae deunyddiau hyfforddi ar asesiadau risg a chynlluniau gweithredu ar gael yn GOV.UK.[footnote 57] Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr hefyd wedi cyhoeddi gweminar i leoliadau addysg uwch ar gynnal asesiadau risg.[footnote 58]
165. Pan yn berthnasol, dylai lleoliadau ystyried cyfarwyddyd ychwanegol arall, gan gynnwys:
- Pennod un o ‘Working together to safeguard children’, sy’n cynnwys canllaw sy’n chwalu chwedlau o ran rhannu gwybodaeth[footnote 59]
- ‘Keeping children safe in education’[footnote 60]
- ‘Rhannu gwybodaeth: cyngor i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau diogelu i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr’[footnote 61]
- ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’ (Cymru)[footnote 62]
Undebau a chymdeithasau myfyrwyr
166. Pan yn berthnasol, dylai polisïau nodi’r hyn a ddisgwylir gan undebau myfyrwyr a chymdeithasau myfyrwyr mewn perthynas â Prevent. Byddwn yn disgwyl bod lleoliadau’n ymdrechu i ymgysylltu ac i ymgynghori â myfyrwyr ar eu cynlluniau i weithredu’r ddyletswydd, a bod undebau myfyrwyr a chymdeithasau myfyrwyr yn cydweithio’n agos â’u lleoliad ac yn cydweithredu â’u polisïau.
167. Mae undebau myfyrwyr sy’n gyrff elusennol ac wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau’n ddarostyngedig i gyfraith a rheoliadau elusennau, gan gynnwys y rhai sy’n ymdrin ag atal terfysgaeth. Dylai cyrff elusennol ddatgan yn glir yn eu polisïau sut y byddant yn amddiffyn pobl rhag niwed. Dylent ddilyn y cyfarwyddyd ‘Protecting charities from abuse for extremist purposes’.[footnote 63] Mae hwn yn cynghori ymddiriedolwyr y dylent reoli risgiau y gallai siaradwyr neu lenyddiaeth dorri’r gyfraith, er enghraifft drwy:
- annog neu glodfori terfysgaeth
- ysgogi casineb ar sail hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol
- ysgogi gweithredoedd troseddol neu droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
168. Dylai darparwyr addysg bellach ac addysg uwch hefyd ystyried a fyddai staff ac aelodau etholedig eu hundeb myfyrwyr yn elwa ar hyfforddiant ymwybyddiaeth Prevent, gan gynnwys cynnig e-ddysgu’r Swyddfa Gartref, neu hyfforddiant perthnasol arall a ddarperir gan y Comisiwn Elusennau, cydlynwyr Prevent rhanbarthol, neu eraill.
Rhannu gwybodaeth
169. Fel rhan o’u dull presennol yn achos diogelu, dylai lleoliadau fod â gweithdrefnau trylwyr eisoes ar gyfer rhannu gwybodaeth, yn fewnol ac yn allanol. Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i hybu llesiant dysgwyr a staff. Gall methiant i rannu gwybodaeth berthnasol effeithio ar ddiogelwch, llesiant a deilliannau addysgol dysgwyr. Fel rhan o hyn, dylai’r lleoliad gael polisi clir ar eu dull i gyflwyno atgyfeiriad Prevent, gan gynnwys defnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol. Prevent.[footnote 64]
170. Wrth fynd ati i rannu data personol am bobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio, dylai ymarferwyr ystyried a yw’n briodol i ddibynnu ar gydsyniad yr unigolyn, a rhaid cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data. Os nad oes modd dibynnu ar gydsyniad, mi fydd yn dal yn bosibl i rannu gwybodaeth os oes sail gyfreithiol i wneud hynny.
171. Mewn ysgolion a cholegau, mae’n bwysig cyfeirio at y gofynion a geir yn ‘Keeping children safe in education’ yn Lloegr, neu ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’ yng Nghymru.[footnote 65], [footnote 66] Mae hyn yn cynnwys sicrhau pan fydd plentyn yn gadael ysgol neu goleg, bod gwybodaeth berthnasol am eu hymgysylltiad â Channel, a chanlyniad hynny, yn cael ei throsglwyddo’n ddiogel yn ffeil amddiffyn y plentyn priodol. Bydd hyn yn galluogi’r lleoliad newydd i sicrhau bod cymorth ar gael cyn i’r plentyn ymuno â hwy.
172. Gall lleoliadau gael gwybodaeth am eu rhwymedigaethau a sut i gydymffurfio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.[footnote 67]
Lleihau amgylcheddau caniataol
173. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Lleihau amgylcheddau caniataol.
174. Mi all cymryd camau i leihau niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr, yn ogystal â naratifau a chynnwys terfysgol y gellid yn rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth, helpu i leihau’r risg y bydd pobl yn ymwneud â therfysgaeth neu’n cefnogi terfysgaeth. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 68]
175. Dylai lleoliadau fod â mesurau ar waith i atal radicaleiddwyr rhag camfanteisio ar eu cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys ymdrechu i sicrhau nad oes gofod digwyddiadau na chyfarpar TG yn cael eu defnyddio i helpu i ledaenu naratifau eithafol sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn neu i gefnogi terfysgaeth. Bydd mesurau o’r fath yn helpu i gyfyngu ar fynediad at lwyfannau y gellid eu defnyddio i radicaleiddio pobl eraill.
176. Nid yw hyn yn golygu y dylai’r ddyletswydd Prevent gyfyngu ar drafodaethau ar y materion hyn. Yn hytrach, dylai lleoliadau addysg fod yn ofodau lle gall pobl ddeall a thrafod materion sensitif, gan gynnwys, pan yn briodol, terfysgaeth a’r syniadau eithafol sy’n rhan o’r ideoleg derfysgol, a dysgu sut i herio’r syniadau hyn.
177. Wrth wneud hynny, dylai lleoliadau annog dysgwyr i barchu pobl eraill, gyda sylw arbennig i’r nodweddion gwarchodedig a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
178. Rhaid i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch roi sylw arbennig i angen neu ddyletswydd berthnasol i sicrhau rhyddid i lefaru, ac i bwysigrwydd rhyddid academaidd.
179. Dylai awdurdodau penodedig ystyried yn ofalus i bwy y byddant yn dyfarnu cyllid neu gontractau Prevent a sicrhau y rhoddir diwydrwydd dyladwy i hynny. Hefyd, wrth gael cyngor ar y ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau penodedig fod yn ymwybodol y gallai rhai pobl, grwpiau neu sefydliadau sy’n honni eu bod yn rhoi cyngor o’r fath eu hannog i beidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent.
Meithrin cydnerthedd drwy’r cwricwlwm (ysgolion ac addysg bellach)
180. Mae ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn helpu dysgwyr i gael yr wybodaeth, y sgiliau, a’r gwerthoedd a fydd yn eu paratoi i fod yn ddinasyddion yn y Brydain fodern. Fel rhan o hyn, yn Lloegr, mae’n ofynnol eu bod yn hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig sylfaenol, sef democratiaeth, rheolaeth cyfraith, rhyddid unigol a pharch a goddefgarwch tuag at wahanol grefyddau a chredoau.
181. Yn ogystal â pharatoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn y Brydain fodern, drwy hyrwyddo’r gwerthoedd cyffredin hyn, gall lleoliadau helpu i adeiladu cydnerthedd rhag radicaleiddio ac eithafiaeth. Er enghraifft, gallant ddarparu amgylchedd diogel i drafod materion dadleuol a helpu dysgwyr i ddeall sut y gallant ddylanwadu a chymryd rhan mewn penderfyniadau.
182. Mewn ysgolion, mae cyfleoedd yn y cwricwlwm i edrych ar destunau perthnasol, fel mewn Addysg Dinasyddiaeth a Pherthnasoedd, Rhyw ac Iechyd (RSHE). Mae hyn yn cynnwys dysgu am feithrin perthnasoedd positif a phwysigrwydd parchu gwahaniaethau, ac er enghraifft, cymryd rhan yn Rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau y Cenhedloedd Unedig. Gall ysgolion hefyd ddatblygu cydnerthedd drwy eu hethos a sut maent yn trefnu eu hunain, gan gynnwys drwy hybu democratiaeth drwy etholiadau ysgolion.
183. Wrth ystyried sut i adeiladu cydnerthedd dysgwyr i wrthsefyll radicaleiddio, dylai ysgolion a lleoliadau addysg bellach fabwysiadu dull cymesur, sy’n ystyried oedran y dysgwyr a’r math o addysg sy’n cael ei gynnig.
184. Wrth wneud hynny, dylai ysgolion yn Lloegr fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau presennol i fod yn ddiduedd yn wleidyddol ac i sicrhau bod materion gwleidyddol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gytbwys. Mae cyfarwyddyd ar ddidueddrwydd gwleidyddol ar gael yn GOV.UK[footnote 69]
185. Yng Nghymru, mae ysgolion annibynnol yn llunio eu cwricwlwm eu hunain, ond rhaid iddynt gydymffurfio â Safonau Ysgolion Annibynnol a bennir gan weinidogion Cymru. Mae’r safonau hyn hefyd yn cynnwys gofyniad i hybu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol dysgwyr.
Mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi deunyddiau ac adnoddau dysgu i ysgolion a darparwyr addysg bellach ar sut i herio safbwyntiau radical yn Educate Against Hate.[footnote 70]
Mae hyn yn cynnwys adnoddau penodol ar sut i gael trafodaeth sy’n ymdrin â gwahanol fathau o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth Islamyddol ac ideoleg Asgell Dde Eithafol. Mae adnodd penodol hefyd ar eithafiaeth ar-lein.[footnote 71]
Mae cyfarwyddyd ar hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig sylfaenol hefyd ar gael yn GOV.UK[footnote 72]
Ar gyfer blynyddoedd cynnar, mae fframwaith statudol y cyfnod sylfaenyn helpu darparwyr i wneud hyn mewn ffordd sy’n briodol i oedran y plant, drwy sicrhau bod plant yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gywir ac anghywir, sut i gymysgu a rhannu â phlant eraill, ac i werthfawrogi safbwyntiau eraill.[footnote 73]
Polisïau TG
186. Mae’n debygol y bydd gan leoliadau bolisïau eisoes sy’n ymwneud â defnydd priodol o’u cyfarpar a’u rhwydweithiau TG, ac a ddylai gynnwys cyfeiriad penodol at y ddyletswydd Prevent. Mae llawer o sefydliadau eisoes yn defnyddio hidlo fel ffordd o gyfyngu mynediad at ddeunydd niweidiol a dylent ystyried defnyddio hidlyddion fel rhan o’u strategaeth gyffredinol i atal pobl rhag ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi.
187. Mae cynnwys a chymesuredd y polisïau hyn yn fater i ddarparwyr a bydd yn cael ei lywio, i raddau, gan asesiad risg Prevent.
188. Yn achos darparwyr addysg bellach ac addysg uwch, bydd polisïau penodol ar waith ar gyfer myfyrwyr a staff sy’n defnyddio cyfarpar a rhwydweithiau TG i ymchwilio i derfysgaeth a gwrthderfysgaeth yn ystod eu dysgu. Mae Universities UK wedi cyhoeddi cyngor ar hyn.[footnote 74]
Ar gyfer ysgolion a cholegau yn Lloegr, mae ‘Keeping children safe in education’ a ‘Meeting digital and technology standards’ darparu cyngor ar systemau hidlo a monitro priodol.[footnote 75], [footnote 76] Yng Nghymru, dylid dilyn ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel’.[footnote 77]
Mae’r UK Safer Internet Centre wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar sut y dylai hidlo a monitro priodol edrych.[footnote 78]
Ar gyfer lleoliadau addysg uwch, mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar hidlo a monitro’r we, gan gynnwys arferion effeithiol.[footnote 79]
Gall Jisc, elusen addysg sy’n canolbwyntio ar dechnoleg, sy’n gallu darparu cyngor a help arbenigol i’r sectorau addysg bellach ac uwch i helpu darparwyr i sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel ar-lein a bod mesurau diogelu priodol ar waith.
Siaradwyr a digwyddiadau allanol
189. Dylai lleoliadau ystyried i ba raddau y gall siaradwyr a digwyddiadau allanol a gynhelir ar eu safleoedd fod yn risg o radicaleiddio dysgwyr i derfysgaeth.
190. Mae annog terfysgaeth, gan gynnwys clodfori, comisiynu neu baratoi gweithredoedd terfysgol, codi arian i ddibenion terfysgaeth, a gwahodd cefnogaeth i sefydliad terfysgol gwaharddedig, i gyd yn droseddau. Ni ddylai lleoliadau roi llwyfan sy’n galluogi cyflawni’r troseddau hyn.
191. Wrth benderfynu a ddylid croesawu siaradwr penodol, dylai lleoliadau ystyried yn ofalus a yw’r safbwyntiau sy’n cael eu mynegi, neu sy’n debygol o gael eu mynegi, yn cyfrif fel safbwyntiau sy’n cael eu defnyddio i annog pobl i gymryd rhan mewn neu gefnogi terfysgaeth neu sy’n cael eu rhannu gan grwpiau terfysgol. Argymhellir fod lleoliadau’n cynnal ymarferiad diwydrwydd dyladwy i ddeall unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig ag unrhyw siaradwr.
Ysgolion
192. Fel rhan o reoli’r risg o radicaleiddio, dylai polisïau diogelu ysgolion gynnwys protocolau clir sy’n sicrhau bod unrhyw siaradwyr gwadd, boed hwy wedi’u gwahodd gan staff neu gan y plant eu hunain, yn addas a’u bod yn cael eu goruchwylio’n briodol. Yn Lloegr, mae’r ddyletswydd Prevent yn ategu cyfrifoldebau eraill ysgolion i sicrhau nad yw siaradwyr yn tanseilio gwerthoedd Prydeinig sylfaenol democratiaeth, rheolaeth cyfraith, rhyddid unigol a pharch a goddefgarwch tuag at wahanol ffydd a chredoau.
193. Wrth ddefnyddio asiantaethau allanol, rhaid i ysgolion yn Lloegr fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau presennol o ran didueddrwydd gwleidyddol ac i sicrhau bod materion gwleidyddol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gytbwys. Mae cyfarwyddyd ar ddidueddrwydd gwleidyddol ar gael yn GOV.UK[footnote 80]
Lleoliadau addysg bellach ac uwch
194. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent, rhaid i leoliadau addysg bellach ac uwch roi ystyriaeth ddyledus i’w dyletswyddau o ran rhyddid i lefaru a rhyddid academaidd.
195. Nid yw rhyddid i lefaru’n hawl absoliwt, ac nid yw’n rhoi’r hawl i unigolion i aflonyddu ar eraill na’u hannog i ymwneud â thrais neu derfysgaeth.
196. Dylai pob lleoliad gael polisïau a gweithdrefnau ar waith i asesu a rheoli risgiau digwyddiadau sydd wedi’u hariannu, sy’n gysylltiol neu wedi’u brandio, ni waeth a ydynt yn cael eu cynnal ar, neu oddi ar, y safle, neu’n cael eu cynnal ar-lein. Dylai’r polisïau ddatgan yn eglur yr hyn sydd ei angen cyn y gall unrhyw ddigwyddiad fynd yn ei flaen.
197. Bydd angen i bob lleoliad gydbwyso ei ddyletswyddau cyfreithiol o ran sicrhau rhyddid i lefaru ac amddiffyn llesiant dysgwyr a staff. Nid yw’r llywodraeth (na’r OfS) yn rhagnodi pa gamau y dylai lleoliadau eu cymryd ar ôl iddynt roi ystyriaeth ddyledus o dan y ddyletswydd Prevent. Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn disgwyl y gellid lliniaru’r risgiau hyn heb amharu ar ryddid i lefaru.
Dyletswyddau rhyddid i lefaru o dan Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986
Mae Adran 43 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 yn berthnasol i ddarparwyr addysg uwch cofrestredig a sefydliadau addysg bellach yn Lloegr.
Mae hwn yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr i “gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith yn cael ei ddiogelu ar gyfer aelodau, myfyrwyr a gweithwyr y sefydliad, ac ar gyfer siaradwyr gwadd”.
Mae’r ddyletswydd yn cynnwys sicrhau, i’r graddau sy’n ymarferol bosibl, nad yw defnydd o eiddo’r sefydliad yn cael ei wrthod i unrhyw unigolyn neu grŵp ar unrhyw sail sy’n gysylltiedig â naill ai gredoau neu safbwyntiau’r unigolyn hwnnw neu unrhyw aelod o’r grŵp hwnnw, na pholisi nac amcanion y grŵp hwnnw.
Dyletswyddau rhyddid i lefaru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) 2023
Mae Deddf Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) 2023 yn berthnasol i Loegr yn unig a rhagwelir y daw i rym ym mlwyddyn academaidd 2024/25. Bydd yn diwygio Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 i osod dyletswyddau newydd, cryfach ar ddarparwyr addysg uwch cofrestredig, eu colegau cyfansoddol, ac undebau myfyrwyr mewn darparwyr (cap ar ffioedd) cymeradwy.
Ar ben hynny, mae’n cryfhau’r ddyletswydd a osodwyd yn flaenorol ar gyrff llywodraethu darparwyr addysg uwch cofrestredig gan Adran 43, i “take steps that, having particular regard to the importance of freedom of speech, are reasonably practicable for it to take in order to achieve the objective” i sicrhau rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith i staff, aelodau, myfyrwyr a siaradwyr gwadd.
Pan fydd mewn grym, ni fydd Adran 43 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 bellach yn berthnasol i ddarparwyr addysg uwch cofrestredig.
198. Fel rhan o’r ymateb i’r Adolygiad Annibynnol o Prevent, mae’r Adran Addysg wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol ar gael i’r rhai sy’n asesu’r risg gan siaradwyr allanol mewn addysg uwch, gan gynnwys ar gynnal diwydrwydd dyladwy effeithiol. Bydd hwn ar gael ar GOV.UK.
Monitro a sicrwydd
199. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4: Monitro a sicrwydd
Ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig
200. Mae Ofsted yn arolygu’r awdurdodau penodedig perthnasol (a restrir ar ddechrau’r adran hon) yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai â chyfrifoldebau llywodraethu neu ‘r rhai sy’n goruchwylio lleoliadau yn cyflawni eu dyletswyddau statudol o dan y ddyletswydd Prevent.
201. Mae ysgolion yn Lloegr sy’n cael eu hariannu’n breifat yn cael eu harolygu naill ai gan Ofsted neu’r Arolygiaeth Ysgolion Annibynnol (ISI). Mae Ofsted ac ISI yn arolygu ysgolion annibynnol yn erbyn y Safonau Ysgolion Annibynnol, ac mae hyn yn cynnwys bod trefniadau wedi’u gwneud i ddiogelu a hybu llesiant disgyblion a bod y lleoliad yn dilyn unrhyw gyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
202. Yng Nghymru, mae pob ysgol a ariannir yn gyhoeddus ac ysgolion annibynnol yn cael eu harolygu gan Estyn.
203. Mae’r Fframwaith Arolygu Addysg yn dangos sut mae Ofsted yn arolygu ysgolion a gynhelir, academïau, ysgolion annibynnol digyswllt, addysg bellach a darpariaeth sgiliau a lleoliadau blynyddoedd cynnar cofrestredig yn Lloegr. Mae fframwaith arolygu cyfredol Ofsted ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar yn adlewyrchu’r gofynion yn y fframwaith statudol ar gyfer cyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar. Mae fframwaith arolygu ISI yn disgrifio sut mae’n arolygu ysgolion annibynnol yn Lloegr, gan gynnwys ysgolion preswyl a lleoliadau blynyddoedd cynnar cofrestredig.
204. Bydd arolygwyr yn gwerthuso i ba raddau mae gan y lleoliad ddiwylliant diogelu, sy’n hybu trefniadau effeithiol i ganfod dysgwyr a all fod angen help cynnar neu sydd mewn perygl o niwed neu gamfanteisio, gan gynnwys radicaleiddio. I Ofsted ac i ISI, mae hyn yn rhan o’r dyfarniadau arweinyddiaeth a rheoli. Rhaid i lywodraethwyr, yn fwyaf penodol, sicrhau bod trefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu’n diwallu gofynion statudol.
Addysg bellach
205. Mae Ofsted yn arolygu darparwyr a’r ddarpariaeth addysg bellach a sgiliau a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr o dan y fframwaith arolygu addysg. Mae hyn yn cynnwys colegau addysg bellach, colegau chweched dosbarth ac academïau 16-19 oed, a darparwyr prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau eraill. Mae’r broses arolygu a’r meini prawf gwerthuso wedi’u hamlinellu yn y llawlyfr arolygu addysg bellach a sgiliau. Mae’r arolygiadau hyn yn seiliedig ar risg ac mae amlder arolygiadau i ddarparwyr yn dibynnu’n rhannol ar y risg hon. Mae diogelu’n cael ei arolygu fel rhan o’r dyfarniad arweinyddiaeth a rheoli.
206. Yng Nghymru, mae arolygiadau’n cael eu cynnal gan Estyn. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso i ba raddau mae gan y sefydliad ddiwylliant diogelu, sy’n cynnwys amddiffyn dysgwyr rhag radicaleiddio ac eithafiaeth.
207. Mae’n amod cyllido gan yr Adran Addysg a Llywodraeth Cymru bod pob lleoliad addysg uwch a hyfforddi annibynnol yn hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig ac yn cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent. Mae deddfwriaeth ar wahân, ac amodau cyllido, yn ei gwneud yn ofynnol bod lleoliadau’n cydymffurfio â dyletswyddau a chyfarwyddyd diogelu.
Addysg uwch
208. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi OfS i fonitro cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent yn Lloegr. Mae’r OfS wedi cyhoeddi fframwaith monitro ar wahân sy’n cynnwys manylion ar sut i fynd ati i fonitro’r ddyletswydd.[footnote 81]
209. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi dirprwyo cyfrifoldeb i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent ar gyfer Cyrff Addysg Uwch Perthnasol (RHEB) yng Nghymru.
210. Rhaid i RHEB yng Nghymru ddilyn fframwaith monitro CCAUC i ddangos cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd.[footnote 82]
Gofal Iechyd
211. Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol rôl allweddol wrth weithredu Prevent oherwydd byddant yn cyfarfod ac yn trin pobl a all fod yn dderbyngar i gael eu radicaleiddio. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig eithafiaeth dreisgar ond eithafiaeth ddi-drais hefyd y byddai’n rhesymol i’w chysylltu â therfysgaeth, fel naratifau a ddefnyddir i annog pobl i ymwneud â neu gefnogi terfysgaeth.
212. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cyflawni troseddau terfysgol yn gwneud hynny o’u gwirfodd ac o ganlyniad i’w hymroddiad i achos ideolegol. Gall derbyngarwch unigolyn i gael eu radicaleiddio fod yn gysylltiedig â’u helfennau agored i niwed sylfaenol. Mae cyfran sylweddol o waith o dan y ddyletswydd Prevent mewn gofal iechyd yn ymwneud â diogelu pobl agored i niwed dydd sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu o brofi camfanteisio. Mae gwahanol sefydliadau a gwasanaethau’n diffinio pobl agored i niwed mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn orfodi dyletswyddau diogelu, er enghraifft, yn ymwneud ag oedran neu gyflyrau meddyliol neu gorfforol penodol. Gall hefyd gynnwys ffactorau ehangach sy’n gysylltiedig ag amgylchiadau personol, teuluol neu gymdeithasol.
213. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ystyried budd pennaf yr unigolyn a budd y cyhoedd. Er enghraifft, pe byddent yn poeni bod claf yn cael ei radicaleiddio, gallai atgyfeiriad Prevent alluogi’r claf i gael yr help a’r gefnogaeth sydd ei angen i’w hatal rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth.
Awdurdodau penodedig iechyd
214. Mae’r awdurdodau penodedig iechyd a nodir yn Atodlen 6 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015) fel a ganlyn:[footnote 83]
- Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a Lloegr
- Ymddiriedolaeth sefydledig y GIG
- Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru
- Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
215. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
216. Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, dylai’r sawl sydd mewn swyddi rheoli uwch ymgysylltu â phartneriaid eraill gan gynnwys yr heddlu ac arweinyddion Prevent lleol neu ranbarthol eraill. Dylent sicrhau bod galluoedd priodol (i ddeall a rheoli risg) a bod rôl a phwysigrwydd Prevent yn cael ei bwysleisio i aelodau staff perthnasol. Yn ogystal, mae ystod o bartneriaid Prevent lleol eraill a all gynnig cyngor a chymorth. Bydd y ddarpariaeth hon yn amrywio’n ôl lleoliad daearyddol, ond byddant fel arfer yn gyrff lleol fel grwpiau llywio Prevent neu Ganolfannau Diogelu Aml-asiantaeth.
217. Pan gaiff atgyfeiriad Prevent ei fabwysiadu, rhaid i ddarparwyr gofal iechyd gydweithredu â phanelau Channel o dan arweiniad yr awdurdod lleol i’r graddau sy’n briodol a rhesymol, yn unol ag Adran 38 o CTSA 2015. Mae cyfraniad aml-asiantaeth yn Channel yn hanfodol i sicrhau bod yr ystod lawn o wybodaeth ar gael i’r panel, fel y bydd derbyngarwch, elfennau agored i niwed, risg ac anghenion cymorth yn cael eu hasesu’n llawn.
218. Gellir dangos partneriaethau effeithiol hefyd drwy ymgysylltu’n briodol lle bydd angen â phartneriaid eraill, fel yr heddlu ac arweinyddion Prevent mewn awdurdodau lleol. Mae hyn yn galluogi ymwybyddiaeth gyfoes o’r risg a’r bygythiad a achosir, a’r datblygiadau diweddaraf o ran cyflawni gweithredol ac arferion gorau.
219. Mae gan y Prif Swyddog Nyrsio yn NHS England swyddogaeth arweinyddiaeth weithredol ac atebolrwydd i sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu statudol NHS England, gan gynnwys Prevent, yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau a strwythurau diogelu ar gael yn fframwaith atebolrwydd a sicrwydd diogelu NHS England.[footnote 84]
220. Dylai pob isranbarth yn Lloegr o fewn y GIG, o dan y fframwaith, fod â fforymau diogelu lleol ar waith, sy’n cynnwys comisiynwyr a darparwyr lleol gwasanaethau GIG. Mae gan y fforymau hyn oruchwyliaeth dros y ddyletswydd Prevent ac i sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni’n effeithiol. Ym mhob ardal, mae’r Arweinyddion Diogelu Rhanbarthol (RSL) yn gyfrifol am hyrwyddo Prevent ymhlith darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau’r GIG, ac am helpu sefydliadau â’u polisïau, gweithdrefnau a chydymffurfiaeth Prevent, yn ogystal â darparu hyfforddiant.
221. Mae’r Grŵp Partneriaeth Prevent, o dan arweiniad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn fforwm i gyflwyno materion polisi a gweithredu cyfoes i’r grŵp i gael eu trafod a’u hystyried. Mae’n cynnig golwg ar waith adrannau eraill y llywodraeth a sefydliadau partner Prevent. Bydd arweinyddion gweithrediadol o adrannau’r llywodraeth, RSL a chynrychiolwyr o gyrff hyd braich y GIG yn ei fynychu.
222. Yng Nghymru, mae gan Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd y GIG arweinyddion strategaeth gwrthderfysgaeth (CONTEST) Prevent, ac maent yn rhan o strwythurau aml-asiantaeth lle mae’r rhain ar waith. Dylid darllen y cyfarwyddyd hwn ochr yn ochr â ‘Building partnerships, staying safe’ a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n darparu cyngor i sefydliadau gofal iechyd ar eu rôl i atal pobl rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth fel rhan o’u cyfrifoldebau diogelu. Mae penaethiaid diogelu’n darparu arweiniad sefydliadol ar Prevent ac yn mynychu grwpiau cyflawni Prevent, cyfarfodydd Channel a CONTEST, fel cynrychiolwyr iechyd.
Galluoedd
223. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent Galluoedd.
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
224. Un o’r prif ddisgwyliadau sydd ar y sector gofal iechyd yw sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi i wybod os yw unigolyn yn dderbyngar i gael ei radicaleiddio i derfysgaeth, gwybod sut i atgyfeirio rhywun i Prevent, a bod yn ymwybodol o’r rhaglenni sydd ar gael i ddarparu cymorth. I wneud hyn, dylid cael:
- rhaglen i gyflwyno hyfforddiant Prevent, yn unol â chyfarwyddyd y Swyddfa Gartref a Health Education England
- prosesau ar waith i sicrhau bod staff, yn ogystal â defnyddio’r cyfarwyddyd rhyng-golegol, yn cael hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth o Prevent sy’n briodol i’w rôl fel y nodir yn fframwaith hyfforddi a chymwyseddau Prevent[footnote 85]
- asesiad risg sy’n helpu i lywio penderfyniadau ar y gofynion hyfforddi priodol, yn ogystal â rheoli risg ehangach i, a chan bobl a all fod yn dderbyngar i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth
225. Dylai atal rhywun rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth gael ei reoli yn yr un ffordd â chyfrifoldebau diogelu eraill mewn gofal iechyd - er enghraifft, cam-drin plant neu drais domestig.
226. Mae Prevent yn elfen allweddol o drefniadau diogelu NHS England, sy’n golygu bod ymwybyddiaeth o Prevent a hyfforddiant perthnasol arall yn cael ei gyflwyno i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau i gleifion y GIG. Mae’r trefniadau hyn yn effeithiol a dylent barhau.
227. Mae’r dogfennau cyfarwyddyd rhyng- golegol, ‘Safeguarding children and young people: roles and competencies for healthcare staff’, ac ‘Adult safeguarding: roles and competencies for health care staff’ yn cynnwys gwybodaeth am Prevent ac maent yn nodi cymwyseddau ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn erbyn chwe lefel.[footnote 86], [footnote 87] Mae hyfforddiant Prevent yn orfodol i holl ymddiriedolaethau ac ymddiriedolaethau sefydledig y GIG. Mae hyfforddiant yn orfodol hefyd i sefydliadau darparwyr y GIG, comisiynwyr a sefydliadau’r GIG sy’n darparu gwasanaethau ar ran y GIG, i gyflawni ymrwymiadau contractau o ran hyfforddiant diogelu, fel y nodir yng Nghontract Safonol y GIG.[footnote 88] Dylai’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael diweddariadau blynyddol a hyfforddiant diweddaru bob tair blynedd.
228. Mae’r hyfforddiant yn rhoi i’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol y sgiliau i adnabod pobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth a pha gamau i’w cymryd mewn ymateb i hynny. Mae hyn yn cynnwys prosesu a pholisïau lleol a fydd yn eu galluogi i wneud atgyfeiriadau i Prevent a sut i gael cyngor a chymorth ychwanegol. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK ar gael i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.[footnote 89] Hefyd, mae gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) eu hyfforddiant penodol eu hunain ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu sectorau eu hunain. Mae gan Health Education England hefyd gyfres o adnoddau hyfforddi Prevent sy’n benodol i’r GIG o ran cynnwys ac astudiaethau achos.
229. Yn ychwanegol at hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK, sy’n cael ei argymell, disgwylir y bydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â chyfrifoldebau Prevent ddealltwriaeth dda o ideolegau eithafol fel ffactor allweddol mewn radicaleiddio a dylent gwblhau unrhyw hyfforddiant ideoleg gofynnol.[footnote 90]
230. Argymhellir fod y sawl sydd â chyfrifoldebau sy’n benodol i Prevent yn diweddaru eu hyfforddiant o leiaf bob dwy flynedd, er mwyn eu galluogi i helpu eraill â materion Prevent ac i’w diweddaru ar faterion perthnasol. Gallai hyn gynnwys y tueddiadau yn ystadegau atgyfeirio Prevent, a gyhoeddir yn flynyddol, tueddiadau atgyfeirio lleol a materion sy’n dod i’r amlwg, digwyddiadau a dylanwadau radicaleiddio lleol neu ranbarthol perthnasol, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 91]
Rheoli risg
Asesiad risg
231. Gan fod y ddyletswydd Prevent yn weithredol ers 2015, rydym yn disgwyl y bydd trefniadau sefydledig ar waith erbyn hyn. Dylai pob sefydliad ddeall ym mhle a sut y gall y bobl maent yn eu gwasanaethu fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth, ac wedi’u teilwra i’w hamgylchiadau lleol. Dylai asesiadau risg Prevent gael eu hadolygu a phan yn briodol, eu diweddaru’n flynyddol. Mi all fod yn briodol yn aml i ymgorffori’r asesiadau risg hyn mewn asesiadau risg diogelu ehangach.
232. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent, dylai sefydliadau iechyd arddangos camau effeithiol yn y meysydd canlynol:
- cefnogi a chymryd rhan yn y broses Channel lle bydd angen
- polisïau sy’n cynnwys egwyddorion cyfarwyddyd ac arweinlyfr Prevent y GIG, a geir yn ‘Building partnerships, staying safe: guidance for healthcare organisations’[footnote 92]
- gweithdrefnau sy’n cydymffurfio â fframwaith hyfforddi a chymwyseddau hyfforddiant Prevent y GIG
233. Rydym yn disgwyl y bydd gan yr arweinydd diogelu rwydweithiau ar waith ar gyfer eu cyngor a’u cymorth eu hunain i wneud atgyfeiriadau i Prevent. Dylid defnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol Prevent ar gyfer atgyfeiriadau i Prevent.[footnote 93]
234. Defnyddir Contract Safonol y GIG ar gyfer yr holl wasanaethau a gomisiynir, heblaw gofal sylfaenol, gan gynnwys sefydliadau preifat a gwirfoddol. Mae adran y contract ar ddiogelu yn datgan bod yn rhaid i ddarparwyr gynnwys Prevent yn eu gwasanaethau, polisïau a’u hyfforddiant diogelu.[footnote 94]
Rhannu gwybodaeth
235. Dylai sefydliadau gofal iechyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data, ac mae’n bwysig bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall sut mae cydbwyso cyfrinachedd cleifion a’r ddyletswydd Prevent.
236. Wrth wneud atgyfeiriad, dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymwybodol o unrhyw drefniadau rhannu gwybodaeth sydd ar waith â sectorau eraill. Dylent ddeall hefyd sut i gael cyngor a chymorth ar faterion cyfrinachedd wrth ymateb i dystiolaeth bosibl bod rhywun yn cael eu radicaleiddio i derfysgaeth neu’n cefnogi terfysgaeth, naill ai yn ystod cysylltiad anffurfiol neu ymgynghoriad a thriniaeth.
237. Cafodd cyfarwyddyd rhannu gwybodaeth y GIG ei ddatblygu i gynorthwyo staff gofal iechyd sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth a llywodraethu gwybodaeth i ddibenion diogelu pobl rhag cael eu radicaleiddio o dan y rhaglen Prevent.[footnote 95] Nod y ddogfen hon yw helpu ymarferwyr iechyd i fod yn hyderus yn eu gweithredoedd ac i ddeall sut y gallant rannu gwybodaeth yn briodol, yn gymesur ac yn gyfreithlon.
Lleihau amgylcheddau caniataol
238. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Lleihau amgylcheddau caniataol.
239. Gall gweithredu i leihau niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr, yn ogystal â naratifau a chynnwys a ddefnyddir gan radicaleiddwyr, helpu i leihau’r risg y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Dylai awdurdodau penodedig fod â mesurau ar waith sy’n sicrhau nad yw radicaleiddwyr yn manteisio ar eu cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys ceisio gwneud yn siŵr nad oes dim gofod digwyddiadau na chyfarpar TG yn cael eu defnyddio i hwyluso lledaeniad naratifau eithafol a ddefnyddir i annog pobl i ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi. Bydd mesurau o’r fath yn helpu i gyfyngu ar fynediad at lwyfannau y gellid eu defnyddio i radicaleiddio pobl eraill. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 96]
240. Dylai darparwyr iechyd ystyried a ddylai cyfarpar TG sydd ar gael i’r cyhoedd ddefnyddio datrysiadau hidlo sy’n atal mynediad at ddeunydd sy’n cefnogi terfysgaeth neu syniadau eithafol sy’n gysylltiedig â therfysgaeth.
241. Dylai awdurdodau penodedig ystyried yn ofalus i bwy maent yn dyfarnu cyllid neu gontractau Prevent, a sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei gynnal. Hefyd, wrth gael cyngor ar y ddyletswydd Prevent, dylai awdurdodau penodedig fod yn ymwybodol y gallai rhai pobl, grwpiau neu sefydliadau sy’n honni eu bod yn rhoi cyngor o’r fath eu hannog i beidio â chydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent.
Monitro a sicrwydd
242. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4: Monitro a sicrwydd
243. Yn y GIG, mae gan fforymau diogelu lleol, gan gynnwys comisiynwyr a darparwyr lleol y GIG, oruchwyliaeth dros gyflawni’r ddyletswydd Prevent a sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni’n effeithiol. NHS England sydd â’r rôl sicrwydd hon drwy Gontract Safonol y GIG.[footnote 97]
244. Yn allanol, mae gan y Comisiwn Ansawdd Gofal oruchwyliaeth reoleiddiol dros ddarparwyr sy’n annibynnol a darparwyr sy’n cael eu rheoli gan y GIG, i sicrhau eu bod yn darparu gofal o safon uchel i gleifion mewn ffordd gynaliadwy.
245. Yng Nghymru, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am drefniadau monitro.
Yr Heddlu
246. Mae’r heddlu mewn sefyllfa unigryw i fynd i’r afael â therfysgaeth ac mi allant felly chwarae rôl hanfodol yn y rhan fwyaf o’r agweddau ar waith Prevent. Maent yn cadw gwybodaeth a all helpu i asesu’r risg o radicaleiddio ac amharu ar y sawl sy’n ceisio radicaleiddio pobl eraill. Mae’r heddlu hefyd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cymunedol, yn ogystal ag awdurdodau penodedig eraill.
247. Gan gydnabod y berthynas rhwng radicaleiddio a mathau eraill o niwed, dylai Prevent gael ei ymgorffori ym mhob agwedd ar blismona, gan gynnwys swyddogaethau patrôl, cymdogaethau a diogelu. Wrth gyflawni’r ddyletswydd Prevent, dylid rhoi ystyriaeth i’r defnydd o holl adnoddau addas yr heddlu, ac nid yn unig y rhai sydd wedi’u dylunio’n benodol fel Prevent.
Awdurdodau heddlu penodedig
248. Mae’r awdurdodau heddlu penodedig a restrir yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015) fel a ganlyn:[footnote 98]
- heddluoedd yng Nghymru a Lloegr (drwy eu Prif Swyddogion yr Heddlu)
- Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
- Heddlu Trafnidiaeth Prydain
- heddluoedd porthladdoedd
- yr Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
249. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
250. Mae llawer o gyfraniad yr heddlu at waith gwrthderfysgaeth yn digwydd drwy’r rhwydwaith Plismona Gwrthderfysgaeth. Dylai Prif Gwnstabliaid gael sicrwydd bod eu heddlu’n gweithio’n effeithiol â’r rhwydwaith Plismona Gwrthderfysgaeth ac Unedau Gwrthderfysgaeth. Dylent gynnal galluoedd Prevent, gan gynnwys y gallu i nodi pobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio, a dylent gasglu gwybodaeth yn unol â hynny.
251. I gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, dylai’r sawl sydd mewn swyddi arwain ymgysylltu â phartneriaid mewnol ac allanol eraill, fel arweinyddion Prevent strategol yr Awdurdodau Lleol, Cydlynwyr Prevent Rhanbarthol neu arweinyddion Prevent lleol neu ranbarthol eraill. Bydd y ddarpariaeth hon yn amrywio’n ôl lleoliad daearyddol ond bydd fel arfer yn cynnwys cysylltiadau Prevent yr awdurdod lleol a chyrff lleol fel grwpiau llywio Prevent neu Ganolfannau Diogel Aml-asiantaeth.
252. Dylid arddangos gweithio effeithiol mewn partneriaeth drwy ymgysylltu â phartneriaid eraill fel yr awdurdod lleol a’r Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn helpu i gael dealltwriaeth o’r risg a’r bygythiad sy’n bodoli a’r datblygiadau diweddaraf mewn cyflawni gweithredol ac arferion gorau. Mae hefyd yn golygu ymgysylltu â grwpiau aml- asiantaeth lleol a fydd yn asesu’r risg i bobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio, a rhannu’r proffil lleol gwrthderfysgaeth (CTLP) â phartneriaid priodol.
253. Mae Prevent yn gofyn am ddull aml- asiantaeth i helpu pobl sy’n dderbyngar i ymwneud â therfysgaeth neu i gefnogi terfysgaeth. Fel partneriaid allweddol ar banelau Channel sy’n cael eu cadeirio gan yr awdurdod lleol, dylai’r heddlu gydweithio’n glos â phartneriaid Channel i helpu i hybu gweithgarwch Channel.
254. Yn ogystal, dylai’r heddlu:
- weithio â phartneriaid aml-asiantaeth i ddatblygu cynllun gweithredu Prevent i roi sylw i’r risg yn lleol
- helpu’r arweinyddion Prevent yr awdurdod lleol i ddatblygu prosiectau sy’n gysylltiedig â Prevent i helpu i hybu cadernid cymunedol
- sicrhau bod ystyriaethau Prevent yn rhan gyflawn o ymchwiliadau gwrth-derfysgol
- cynnig cymorth i Reoli Achosion Prevent
Galluoedd
255. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Galluoedd.
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
256. Fel yn achos pob awdurdod penodedig, mae’n bwysig bod swyddogion a staff priodol yn gwybod pam mae radicaleiddio i derfysgaeth yn berthnasol i’w lleoliad a sut y gallai ymddangos. Dylai swyddogion a staff sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd ddeall beth mae radicaleiddio’n ei olygu a pham y gall pobl fod yn dderbyngar i ideolegau eithafol a chael eu radicaleiddio i derfysgaeth. Mae angen iddynt ddeall yr hyn a olygir wrth y termau ‘radicaleiddio’ a ‘therfysgaeth’. Dylent hefyd wybod sut i uwchgyfeirio unrhyw bryderon o fewn eu heddlu.
257. Yn ychwanegol at hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK, sy’n cael ei argymell, disgwylir y bydd gan staff rheng flaen ac eraill sydd â chyfrifoldebau Prevent ddealltwriaeth dda o ideolegau eithafol fel prif anogwr radicaleiddio a dylent gwblhau unrhyw hyfforddiant ideoleg gofynnol.[footnote 99]
258. Rydym yn disgwyl y bydd hyfforddiant a ddarperir yn briodol i rolau, a bod y rhai sydd â chyfrifoldebau Prevent yn cael hyfforddiant priodol ar y cyfle cyntaf. Yn ogystal, dylai’r hyfforddiant gael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd. Dylai cofnodion gael eu cadw o unrhyw hyfforddiant. Mae’n bwysig bod heddluoedd yn ystyried y risg yn eu hardaloedd, a bod hynny’n cael ei ddefnyddio fel sail i raglenni hyfforddi. Argymhellir fod y sawl sydd â chyfrifoldebau sy’n benodol i Prevent yn diweddaru eu hyfforddiant o leiaf bob dwy flynedd, er mwyn eu galluogi i helpu eraill â materion Prevent ac i’w diweddaru ar faterion perthnasol. Gallai hyn gynnwys y tueddiadau yn ystadegau atgyfeirio Prevent, a gyhoeddir yn flynyddol, tueddiadau atgyfeirio lleol a materion sy’n dod i’r amlwg, digwyddiadau a dylanwadau radicaleiddio lleol neu ranbarthol perthnasol, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 100]
Rheoli risg
Asesiad risg
259. Mae gan yr heddlu rôl allweddol i reoli’r risg o radicaleiddio i derfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys risgiau i a gan bobl.
260. Dylai heddluoedd gynnal asesiadau risg sy’n benodol i’w heddlu sy’n ystyried y risgiau o radicaleiddio i derfysgaeth, a bydd lefel a natur y risg yn awgrymu pa mor aml y dylai’r asesiadau gael eu hadolygu. Dylai heddluoedd weithio â Phlismona Gwrthderfysgaeth i gynhyrchu CTLP. Dylai’r CTLP gael ei lywio gan, a’i ledaenu i awdurdodau lleol a phartneriaid statudol eraill. Mae cyfarwyddyd ar CTLP ar gael yn GOV.UK[footnote 101]
261. Dylai pob heddlu gael cynllun gweithredu, sydd wedi’i seilio ar asesiad risg, i sicrhau bod risgiau i’w heddlu’n cael eu rheoli’n briodol. Dylai polisïau fod ar waith i ddelio â phryderon am radicaleiddio, ynghyd â phrosesau i gynghori ar sut i ddelio â phryderon.
262. Pan fydd rhywun sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio yn cael ei adnabod, bydd yr heddlu’n derbyn ac yn brysbennu atgyfeiriadau Prevent ac yn ystyried ymyriadau priodol.
263. Mae derbyn a brysbennu atgyfeiriadau Prevent yn penderfynu a oes sail resymol i gredu bod unigolyn yn dderbyngar i fod yn derfysgwr neu i gefnogi terfysgaeth, ac a all felly fod yn briodol i gael help drwy Channel. Mae’r ‘asesiad gateway’ hwn yn defnyddio cronfeydd data’r heddlu ac adnoddau eraill i benderfynu ar y lefel derbyngarwch, y risg, ac a oes unrhyw elfennau agored i niwed sylfaenol eraill yn achos yr unigolyn sydd wedi’i atgyfeirio, ac a fydd yr atgyfeiriad yn symud i mewn (neu allan o) Prevent. Bydd yr heddlu’n ystyried a all yr unigolyn sydd wedi’i atgyfeirio fod mewn perygl o gymryd rhan mewn gweithredoedd terfysgol neu ymwneud â gweithgarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, os na fydd yr awdurdodau’n mynd i’r afael â’r sefyllfa.
264. Bydd yr heddlu’n ystyried ymyriadau priodol mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys yr awdurdod lleol. Y prif lwybr i bobl y bernir sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio yw help drwy banelau aml- asiantaeth Channel, sy’n cael eu harwain gan yr awdurdod lleol. Nid yw pobl y mae gan yr heddlu amheuaeth resymol eu bod mewn perygl difrifol neu ar unwaith o droseddau terfysgol, yn debygol o gael eu cyfeirio am help drwy Channel, gyda’r risg yn hytrach yn cael ei rheoli drwy ymyriadau eraill yr heddlu. Bydd yr heddlu’n ystyried y ffordd orau o reoli risg rhywun a all fod yn derfysgwr neu sy’n cefnogi terfysgaeth.
Rhannu gwybodaeth
265. Dylai’r heddlu sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion perthnasol y ddeddfwriaeth diogelu data.
Lleihau amgylcheddau caniataol
266. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Lleihau amgylcheddau caniataol.
267. Gall cyfyngu ar niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr, yn ogystal â naratifau a chynnwys eithafol y byddai’n rhesymol i’w cysylltu â therfysgaeth, helpu i leihau’r risg y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 102]
268. Dylai’r heddlu fod â mesurau ar waith i sicrhau nad yw radicaleiddwyr yn manteisio ar eu cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys ymdrechu i sicrhau nad oes gofod digwyddiadau na chyfarpar TG yn cael eu defnyddio i helpu i ledaenu naratifau eithafol sy’n annog pobl i ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi.
269. Disgwylir i awdurdodau penodedig gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent. Gallai cydymdeimlo, gofyn am gyngor gan bobl neu sefydliadau sy’n annog diffyg cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd statudol danseilio hyn neu gyfrannu at amgylchedd sy’n ganiataol i radicaleiddio i derfysgaeth.
270. Wrth ofyn am gyngor a chyfranogiad pobl neu grwpiau, argymhellir fod yr heddlu’n ystyried pa lefel o ddiwydrwydd dyladwy sy’n briodol ac a allai ymgysylltu roi dilysrwydd i naratifau ac ideolegau y byddai’n rhesymol i’w cysylltu â therfysgaeth, fel rhai a ddefnyddir i annog pobl i gymryd rhan mewn neu gefnogi terfysgaeth. Dylai heddluoedd ddeall beth yw risgiau ymgysylltu â phobl neu grwpiau pobl neu grwpiau sydd wedi’u cysylltu â sefydliadau terfysgol, neu sydd â safbwyntiau a gysylltir â therfysgaeth. Rydym yn argymell bod heddluoedd yn gwneud eu gwaith diwydrwydd dyladwy eu hunain ac yn ymgynghori â Phlismona Gwrthderfysgaeth i ddeall y risgiau.
271. Mae gan yr heddlu rôl allweddol i helpu cymunedau i adeiladu cydnerthedd i wrthsefyll dylanwadau radicaleiddio ac ideolegau eithafol. Dylent wneud hyn drwy:
- cefnogi cydlynwyr neu arweinyddion Prevent awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau sy’n gysylltiedig â Prevent a chynlluniau gweithredu i helpu i ddatblygu cadernid cymunedol
- cynorthwyo’r Comisiwn Elusennau drwy, er enghraifft, gynnig arweiniad, i geisio sicrhau nad oes arian yn cael ei roi’n anfwriadol i sefydliadau a all gymeradwyo terfysgaeth neu eithafiaeth, a gorfodi deddfwriaeth lle mae troseddau, fel twyll, yn cael eu canfod
- coladu a dadansoddi adroddiadau am densiynau cymunedol ledled y DU i alluogi’r heddlu a phartneriaid i ganfod ac ymateb i bryderon sy’n dod i’r amlwg
- cyflawni’r Gofyniad Plismona Strategol i hybu cyfleoedd, pan yn briodol, i ddatblygu heriau cymunedol i eithafwyr ac amharu ar weithgarwch radicaleiddio ac eithafol y gellid yn rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth, fel lledaenu naratifau sy’n annog pobl i ymwneud â therfysgaeth neu ei gefnogi, mewn partneriaeth ag awdurdodau penodedig eraill - dylai hyn ganolbwyntio ar amharu ar weithgarwch o’r fath yn y wlad hon, ynghyd ag amharu neu fynd i’r afael yn gyfreithlon â deunydd a gweithgarwch o’r fath ar y rhyngrwyd
272. Dylai swyddogion ystyried yr ystod lawn o opsiynau ymchwilio ac erlyn pan ddaw’n fater o amharu ar radicaleiddwyr a’r rhai sy’n coleddu naratifau eithafol sy’n ysbrydoli pobl i gefnogi terfysgaeth, gan gynnwys defnyddio pwerau’r drefn gyhoeddus pan yn briodol. Gall hyn gynnwys:
- gorfodi deddfwriaeth terfysgaeth a’r drefn gyhoeddus - er enghraifft, troseddau’n ymwneud â chefnogi sefydliad (terfysgol) gwaharddedig
- gweithio ag awdurdodau lleol i ystyried pwerau dinesig, gan gynnwys is-ddeddfau priffyrdd a dosbarthu taflenni lleol, a sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu diogelu
- sicrhau presenoldeb gweladwy gan yr heddlu mewn digwyddiadau perthnasol mewn mannau cyhoeddus
- darparu cyngor i awdurdodau penodedig eraill - er enghraifft, awdurdodau lleol neu brifysgolion
Monitro a sicrwydd
273. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4: Monitro a sicrwydd.
274. Mae’r Gofyniad Plismona Strategol (SPR) yn datgan bod yn rhaid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC) a Phrif Gwnstabliaid ddangos eu bod wedi cyfrannu at strategaeth gwrthderfysgaeth y llywodraeth (CONTEST).[footnote 103] Mae hyn yn cynnwys Prevent, lle mae’r gofynion yn cynnwys cynnal galluoedd Prevent fel y gallu i gasglu ac asesu atgyfeiriadau Prevent. Mae’r SPR hefyd yn rhoi gofyniad ar Brif Gwnstabliaid i ddatblygu partneriaethau lleol i gyflawni prosiectau i warchod pobl rhag cael eu radicaleiddio ac i hybu cyfleoedd i ddatblygu heriau cymunedol i eithafwyr sy’n defnyddio naratifau a allai annog pobl i gyfranogi neu gefnogi terfysgaeth. Gall yr Ysgrifennydd Cartref gyfarwyddo PCC i gymryd camau penodol i roi sylw i fethiant penodol.
275. Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (HMICFRS) yw’r corff statudol sy’n arolygu’r heddlu. Gallant gynnal arolygiadau thematig a gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud cais i arolygu heddlu neu thema benodol.
Asiantaethau cyfiawnder troseddol (carchardai a phrawf)
276. Fel asiantaeth weithredol o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) yn gyfrifol am amddiffyn y cyhoedd ac am leihau aildroseddu drwy ddarparu gwasanaethau carchardai a phrawf. Mae HMPPS yn gyfrifol am bobl sydd wedi’u dedfrydu i garchar, sydd wedi’u remandio yn y ddalfa, neu sydd o dan oruchwyliaeth brawf, sy’n destun dedfrydau cymunedol neu amodau trwydded ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ddalfa.
277. Mae’r cyfrifoldeb am amddiffyn y cyhoedd a lleihau aildroseddu’n golygu bod gan HMPPS rôl eglur a phwysig, sef gweithio â phobl sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol neu droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, ac i atal pobl eraill rhag bod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.
278. Mae HMPPS yn rheoli’r risg y bydd pobl yn cael eu denu i, neu’n dychwelyd i unrhyw fath o droseddu fel rhan o’i fusnes craidd (canfod a rheoli’r risgiau a achosir ganddynt).
279. Mae Timau Troseddu Ieuenctid yn rhan o’r awdurdod lleol ac maent ar wahân i’r heddlu a’r llysoedd. Maent yn gweithio â phobl ifanc sy’n mynd i drafferthion â’r gyfraith, gan ymchwilio i’w cefndiroedd a cheisio eu helpu i gadw draw o unrhyw weithgarwch troseddol. Maent yn gweithio ar y cyd â’r heddlu, swyddogion y gwasanaeth prawf, iechyd, tai a gwasanaethau plant, ysgolion ac awdurdodau addysg, elusennau a’r gymuned leol.
Awdurdodau penodedig
280. Mae’r awdurdodau penodedig a restrir yn Atodlen 6 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015) ym maes cyfiawnder troseddol fel a ganlyn:[footnote 104]
- llywodraethwr carchar yng Nghymru a Lloegr (neu, yn achos carchar sydd wedi’i gontractio allan, ei gyfarwyddwr)
- llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi diogel (neu, yn achos sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi diogel sydd wedi’u contractio allan, y cyfarwyddwr)
- pennaeth coleg diogel
- darparwr gwasanaethau prawf o fewn yr ystyr a roddir gan Adran 3(6) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007
Arweinyddiaeth a phartneriaeth
281. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Arweinyddiaeth a phartneriaeth.
282. Gellir arddangos arweinyddiaeth drwy sicrhau bod galluoedd i ddelio â phryderon sy’n gysylltiedig â radicaleiddio, ymddygiadau sy’n risg o derfysgaeth a rheoli’r unigolion hynny sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol, a bod staff yn deall y rôl sydd ganddynt i fynd i’r afael â therfysgaeth.
283. Mae Uned Eithafiaeth ar y Cyd HMPPS yn rhoi arweinyddiaeth weithredol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i sicrhau bod prosesau ar waith i ganfod, asesu a rheoli pobl mewn perygl o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth neu rai sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgaeth.
284. Bydd uwch arweinyddion rhanbarthau’r Gwasanaeth Prawf, yr Is-adran Diogelwch Gwladol a llywodraethwyr carchardai hefyd yn darparu arweinyddiaeth yn y maes hwn. Dylai pob rhanbarth y gwasanaeth prawf fod ag Arweinydd Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Prawf dynodedig i roi’r arweiniad sydd ei hangen ar lefel ranbarthol i wneud yn siŵr bod prosesau ar waith a’u bod yn cael eu dilyn i ganfod, asesu a rheoli pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth neu sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol.
285. Gellir dangos partneriaethau effeithiol drwy ymgysylltu’n briodol lle bydd angen â phartneriaid eraill, fel yr heddlu ac arweinyddion Prevent mewn awdurdodau lleol. Mae hyn yn galluogi ymwybyddiaeth gyfoes o’r risg a’r bygythiad a achosir, a’r datblygiadau diweddaraf o ran cyflawni gweithredol ac arferion gorau.
286. Ym mhob achos o weithio mewn partneriaeth, rydym yn disgwyl y bydd holl ddarparwyr gwasanaethau carchar a phrawf yn cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent. Er enghraifft, mae HMPPS yn bartner mewn byrddau Prevent lleol a gweithgorau Prevent priodol. Bydd cyfranogi’n weithredol mewn cyfarfodydd Prevent yn galluogi pob darparwr charchar a phrawf i gydweithio â phartneriaid eraill i rannu gwybodaeth ac i ddatblygu perthnasoedd, strategaethau a phartneriaethau lleol.
287. Bydd HMPPS yn gweithio i reoli’r risgiau sy’n codi ymhlith rhai sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgaeth a’r unigolion hynny sydd wedi’u hasesu fel rhai sy’n achosi risg derfysgol yn sgil cyfarfodydd aml-asiantaeth a gynhelir mewn carchardai ac yn y gymuned, lle bydd partneriaid allweddol yn bresennol.
288. Yn achos rhai sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgaeth eisoes, bydd HMPPS yn arwain ac yn cyfrannu at brosesau priodol fel Trefniadau Aml-asiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) gyda chyfraniadau gan asiantaethau eraill yn ôl yr angen. Bydd y prosesau hyn yn sicrhau bod gofynion y ddyletswydd Prevent yn cael eu cyflawni wrth reoli troseddwyr troseddol yn y gymuned gyda’r Gwasanaeth Prawf a’r heddlu fel yr asiantaethau arweiniol yn MAPPA mewn achosion o’r fath.
289. Os bydd atgyfeiriad Prevent yn cael ei fabwysiadu, rhaid i asiantaethau cyfiawnder troseddol gydweithredu â phanelau Channel, sy’n cael eu harwain gan yr awdurdod lleol, yn unol ag adran 38 o CTSA 2015. Mae cyfraniad aml-asiantaeth at Channel yn hanfodol i sicrhau bod yr ystod lawn o wybodaeth ar gael i’r panel, fel y bydd derbyngarwch, elfennau agored i niwed, risg ac anghenion cymorth yn cael eu hasesu’n llawn.
Galluoedd
290. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Galluoedd.
Deall risg
Hyfforddi a chynefino
291. Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, dylid darparu hyfforddiant i staff ar y cyfle cyntaf i sicrhau eu bod yn alluog i gyflawni eu rôl.
292. Dylai’r holl staff, gan gynnwys uwch arweinyddion, gael hyfforddiant rheolaidd ar risg terfysgaeth sy’n seiliedig ar enghreifftiau gwirioneddol. Dylent hefyd gwblhau unrhyw hyfforddiant gorfodol fel sy’n ofynnol gan HMPPS. Gall hwn gael ei ategu gan hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK[footnote 105], sy’n cael ei argymell. Dylai’r rhai sydd â chyfrifoldebau sy’n benodol i Prevent roi cymorth i eraill gyda materion Prevent a’u diweddaru ar faterion perthnasol. Gallai hyn gynnwys y tueddiadau yn ystadegau atgyfeirio Prevent, a gyhoeddir yn flynyddol, materion sy’n dod i’r amlwg, digwyddiadau lleol neu ranbarthol perthnasol a dylanwadau radicaleiddio, neu adnoddau a deunyddiau hyfforddi newydd.[footnote 106]
293. Dylai awdurdodau penodedig gynnal asesiad risg i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â radicaleiddio i derfysgaeth yn eu hamgylchiadau hwy. Dylai hyn lywio gofynion hyfforddi, gan gynnwys pa mor aml mae hyfforddiant yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru.
Carchardai
294. Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, dylai pob aelod newydd o staff carchardai gael hyfforddiant ymwybyddiaeth (wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer carchardai). Yn achos staff sydd eisoes yn eu swydd, dylai gael ei gyflwyno drwy hyfforddiant arbenigol a phecynnau briffio sy’n ymdrin â gweithio ag ymddygiad eithafol. Dylai’r holl staff ddeall risg a bygythiad terfysgaeth, a sut i’w adnabod, sut i roi gwybod amdano, a sut i ymateb iddo. Dylai hyfforddiant gynnwys systemau cudd-wybodaeth a ddefnyddir i roi gwybod am bryderon i’w galluogi i roi gwybod am bobl sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio ac ymddygiadau sy’n risg o derfysgaeth.
295. Mae’r timau Gwrthderfysgaeth Carchardai rhanbarthol yn arwain y gwaith o gyflwyno’r pecyn hyfforddi gwrthderfysgaeth (wyneb yn wyneb neu o bell) a modiwlau penodol ar fygythiadau ar gyfer amrywiadau rhanbarthol.
Y Gwasanaeth Prawf
296. Yn achos staff y gwasanaeth prawf, gellir cyrchu’r hyfforddiant Prevent sy’n ofynnol gan HMPPS drwy blatfform MyLearning HMPPS a disgwylir i bob aelod o staff ei gwblhau bob tair blynedd.
297. Ar ben hynny, mae timau Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Prawf yn arwain ar gyflawni pecyn hyfforddi gwrthderfysgaeth HMPPS (wyneb yn wyneb neu o bell) a modiwlau penodol ar fygythiadau ar gyfer amrywiadau rhanbarthol. Mae Arweinyddion Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Prawf yn gweithio ag Unedau Cyflawni’r Gwasanaeth Prawf i hwyluso sesiynau datblygiad proffesiynol i swyddogion newydd gymhwyso a staff rheng flaen fel sy’n briodol ac yn ddibynnol ar angen.
298. Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, rydym yn disgwyl y bydd hwn a hyfforddiant perthnasol arall yn parhau.
Yr ystad ddiogel i rai dan 18 oed
299. Mae timau Gwrthderfysgaeth Rhanbarthol HMPPS yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i holl safleoedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa.
300. Rydym yn disgwyl y bydd pob aelod staff ym mhob ystad ddiogel a Thîm Troseddu Ieuenctid sy’n goruchwylio gofal plant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant priodol i adnabod a rheoli rhai sydd mewn perygl o fod yn derfysgwyr neu o gefnogi terfysgaeth.
301. Bydd pob aelod staff newydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc yn cael yr un brentisiaeth swyddogion carchar â’u cydweithwyr yn yr ystad oedolion. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant gwrthderfysgaeth (wyneb yn wyneb neu o bell) a gyflwynir gan y timau Gwrthderfysgaeth Carchardai rhanbarthol. Bydd pob aelod staff sy’n gweithio mewn Canolfannau Hyfforddi Diogel a Chartrefi Plant Diogel yn cael hyfforddiant gwrthderfysgaeth gorfodol fel rhan o’u hyfforddiant a’u trefniadau cynefino.
302. Fel rhan o’r gwaith parhaus o fonitro a gofalu am bob plentyn neu berson ifanc, dylid nodi unrhyw arwydd o risgiau, anghenion neu dderbyngarwch sy’n gysylltiedig â therfysgaeth. Dylid cysylltu â thîm Gwrthderfysgaeth Rhanbarthol HMPPS i benderfynu ar y camau gweithredu priodol.
Rheoli risg
Asesiad risg
303. Rhaid i awdurdodau penodedig sicrhau bod prosesau ar waith i reoli risg i ac oddi wrth rai sy’n dderbyngar i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth, yn ogystal ag i ac oddi wrth rai sydd mewn perygl o gyflawni gweithredoedd terfysgol neu sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol.
304. Mae asesu’r risg sydd ynghlwm wrth droseddwyr yn gymhleth. Nid yw ymgysylltu â rhaglenni neu ymyriadau lleihau risg ynddo’i hyn yn golygu bod y risg yn cael ei lleihau. Os bydd ymddygiad ymddangosiadol troseddwyr yn awgrymu lleihad mewn risg, rhaid cael tystiolaeth hefyd bod y newid wedi’i fewnoli er mwyn gallu gwneud asesiad o newid didwyll. Hyd yn oes os gwnaed asesiad o newid didwyll, mae risg unigolyn yn ddynamig. Mae posibilrwydd y gall newid dros amser ac o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau (gan gynnwys symud o gaethiwed i’r gymuned). Felly, dylid dilyn egwyddor ragofalus gref. Dylai asesiadau risg gael eu cynnal yn rheolaidd gan ymarferwyr arbenigol dros gyfnod estynedig.
Carchardai
305. Yn ogystal â chael asesiadau risg cyffredinol ar gyfer pob sefydliad, dylai HMPPS fod yn asesu’r risgiau i a gan bobl. Dylai carchardai gynnal asesiadau risg cychwynnol ar adeg derbyn, gan gynnwys asesiadau risg rhannu celloedd, a chyfweliadau derbyn a chynefino cychwynnol i ganfod pryderon ynglŷn ag unrhyw fath o radicaleiddio neu derfysgaeth.
306. Mae cysylltiad â chaplaniaeth y carchar yn rhan hanfodol o’r broses gynefino. Dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon a fynegir yn sgil cysylltiad y gaplaniaeth â charcharorion, gan gynnwys unrhyw bryderon am radicaleiddio neu os yw’r carcharor yn agored i niwed ar y pryd a thrwy gydol y ddedfryd.
307. Os oes pryderon bod rhywun yn cael eu radicaleiddio i derfysgaeth (sy’n cynnwys rhywun wedi’u heuogfarnu o unrhyw drosedd, y bernir sy’n risg o gyflawni gweithred derfysgol neu a all fod yn dderbyngar mewn ffordd arall i droseddau terfysgol), dylai staff y carchar roi gwybod am hynny, drwy’r system adrodd cudd- wybodaeth. Dylai adroddiadau o’r fath gael eu hasesu’n rheolaidd gan staff gwrthderfysgaeth arbenigol, ar y cyd â’r heddlu. Dylid cymryd camau i helpu a herio’r unigolyn fel sy’n briodol, gan ddefnyddio adnoddau tactegol ac arbenigol lleol yn ôl yr angen. Dylai staff ymgynghori â thimau Gwrthderfysgaeth Carchardai os oes pryderon bod rhywun yn cael eu radicaleiddio.
308. Dylid sicrhau bod gwybodaeth a chudd- wybodaeth yn cael eu rhannu’n briodol, er enghraifft â phartneriaid gorfodi’r gyfraith, i ddeall a yw radicaleiddio’n broblem ac i ganfod a rheoli unrhyw ymddygiadau sy’n achos pryder.
Asesu risg barhaol ac ymyriadau
309. Yn achos pobl sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol neu droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, dylid defnyddio prosesau rheoli troseddwyr prif ffrwd i benderfynu a oes angen ymyrryd. Bwriedir i’r rhain herio’r brif drosedd a gall gynnwys, pan yn briodol, defnyddio ymyriadau.
310. Pan ddaw pryderon o’r fath i’r amlwg, dylai sefydliad ymdrechu i gynorthwyo’r unigolyn hwnnw. Mae nifer o ymyriadau neu dechnegau amharu y gellid eu defnyddio, gan gynnwys eu symud oddi wrth ddylanwad negyddol, darparu mentora ar eu cyfer, neu eu hatgyfeirio at un o’r gwasanaethau a gynigir gan HMPPS neu’r Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn defnyddio adnoddau tactegol ac arbenigol lleol yn ôl yr angen a gallant sbarduno atgyfeiriadau at raglenni adsefydlu gwrthderfysgaeth.
311. Gallai camau rheoli hefyd gynnwys gostwng lefel y breintiau, ymyriadau atal bwlio, dyfarniadau, neu wahanu. Mae canolfannau gwahanu ar gael ar gyfer rheolaeth arbenigol i garcharorion terfysgol neu rai sy’n risg o’r derfysgaeth fwyaf chwyldroadol, sef y rheini sy’n cael eu gweld fel rhai sy’n peri risg ddigon uchel i’w symud i ganolfan wahanu, i’w hatal rhag lledaenu eu hideoleg faleisus ymhlith eraill. Mi all fod yn briodol i ddarparu ymyriadau diwinyddol, cymhellol ac ymddygiadol hefyd.
312. Dylai pecynnau cudd-wybodaeth a briffio sydd wedi’u targedu at staff sy’n gweithio â charcharorion sydd mewn perygl o fod yn derfysgwyr neu o gefnogi terfysgaeth, yn ogystal â rhai sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, barhau i fod ar gael. Dylai’r rhain gael eu cyflwyno ar y cyd gan staff carchardai sydd wedi cael hyfforddiant priodol a dylid eu diweddaru’n ôl yr angen.
Y Gwasanaeth Prawf
313. Rydym yn disgwyl y bydd staff prawf yn mabwysiadu safbwynt ymchwiliol wrth gynnal asesiadau risg, fel y dylent ei wneud ym mhob achos, a bod yn effro i achosion o anonestrwydd. Os bydd pryderon bod rhywun yn cael ei radicaleiddio, dylai staff ymgynghori a chael cymorth gan rwydwaith y Tîm Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Prawf i ymgorffori’r pryderon hyn ym mhecyn asesu risg craidd HMPPS, a elwir yn OASys. Bydd asesiad arall yn cael ei gynnal wedyn i benderfynu a oes angen asesiadau ac ymyriadau arbenigol.
314. Bydd y rhan fwyaf o droseddwyr terfysgol a rhai a aseswyd fel bod yn risg uchel o derfysgaeth yn cael eu rheoli gan yr Is-adran Diogelwch Gwladol, uned o’r Gwasanaeth Prawf sy’n darparu monitro uwch ac yn rheoli achosion arbenigol. I eraill ar brawf a aseswyd fel risg o derfysgaeth, bydd eu cyfnod goruchwylio’n cael ei oruchwylio gan ranbarthau’r Gwasanaeth Prawf, gyda help Tîm Gwrthderfysgaeth y Gwasanaeth Prawf.
315. Dylai cynllunio ar gyfer goruchwylio ddigwydd i bawb, gan gynnwys rhai ar ddedfrydau cymunedol. Dylid meddwl am ba risgiau fydd angen eu rheoli yn y gymuned gan gynnwys rhai sydd wedi codi pan oeddent yn y ddalfa (yn achos rhai sydd wedi gwasanaethu dedfryd o garchar) ac sy’n dangos derbyngarwch i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth. Mewn achos o’r fath, bydd ymyriadau ac asesiadau arbenigol yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynlluniau rheoli risg. Mi all hyn gynnwys cwblhau atgyfeiriad Prevent mewn achosion perthnasol. Lle bydd hyn wedi’i asesu fel ymateb priodol dylai gael ei wneud cyn gynted â phosibl gan y tîm Gwrthderfysgaeth Prawf, a dylid defnyddio ffurflen atgyfeirio genedlaethol Prevent.[footnote 107]
316. Yn achos pobl sydd wedi’u heuogfarnu eisoes am droseddau terfysgol, bydd HMPPS yn cyfrannu at brosesau cyn rhyddhau priodol fel Trefniadau Aml- asiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) o dan arweiniad yr heddlu ac Is-adran Diogelwch Gwladol y Gwasanaeth Prawf, gyda chyfraniad gan asiantaethau eraill lle bydd angen. Mae’r prosesau hyn yn sicrhau bod gofynion y ddyletswydd Prevent yn cael eu cyflawni wrth reoli troseddwyr terfysgol yn y gymuned gyda HMPPS yn gweithredu fel yr asiantaeth arweiniol yn MAPPA ar gyfer achosion o’r fath.
317. Yn achos pobl sydd eisoes wedi’u heuogfarnu o droseddau terfysgol rydym yn disgwyl y bydd y Gwasanaeth Prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys carchardai a’r heddlu, i reoli unrhyw risgiau a ganfuwyd drwy MAPPA ac i ddarparu ymyriadau pwrpasol os yn berthnasol. Yn achos pobl sydd heb eu heuogfarnu o droseddau terfysgol ac na fydd o reidrwydd yn gymwys i MAPPA, ond a aseswyd fel risg uchel o gael eu radicaleiddio i derfysgaeth, rydym yn disgwyl y bydd gan HMPPS brosesau ar waith i uwchgyfeirio’r achosion hyn i asiantaethau eraill neu i atgyfeirio’r unigolyn at ymyriadau priodol. Er enghraifft, gellid eu hatgyfeirio at y rhaglen Channel. Mi all opsiynau eraill i reoli risg fod yn fwy addas, yn ddibynnol ar y ddarpariaeth leol a rhanbarthol.
Yr ystad ddiogel i rai dan 18 oed
318. Mae sefydliadau gwarchodol ieuenctid yn dod o dan y ddyletswydd Prevent a dylai plant yn eu gofal gael eu diogelu rhag y risg o ymwneud â therfysgaeth neu gefnogi terfysgaeth. Mae adolygiadau o alluogrwydd, sy’n asesu pob agwedd ar y ddarpariaeth, yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn yr ystad ddiogel ieuenctid. Mae’r nifer fechan o risgiau’n cael eu rheoli mewn modd wedi’i deilwra’n fanwl gyda phwyslais penodol ar adsefydlu.
Rhannu gwybodaeth
319. Rhaid i awdurdodau penodedig sicrhau eu bod yn gweithredu’n unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data. Mi all fod yn arfer da i gael trefniadau rhannu gwybodaeth ar waith ar gyfer peth rhannu data personol.
Lleihau amgylcheddau caniataol
320. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 3: Cydymffurfio â’r ddyletswydd Prevent, Lleihau amgylcheddau caniataol.
321. Gall cyfyngu ar niwed a dylanwad posibl radicaleiddwyr a’r llwyfannau maent yn ceisio’u defnyddio, yn ogystal â naratifau a chynnwys eithafol y byddai’n rhesymol eu cysylltu â therfysgaeth, helpu i leihau’r risg y byddai pobl yn troi at derfysgaeth neu’n cefnogi terfysgaeth. Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am naratifau eithafol.[footnote 108]
322. Gall amharu ar radicaleiddwyr, sy’n creu amgylcheddau caniataol ar gyfer trais ac yn lledaenu ideolegol gwenwynig sy’n tanseilio ein gwerthoedd a’n cymdeithas, helpu i atal pobl rhag cael eu radicaleiddio i derfysgaeth. Gall hyn olygu cael polisïau ar waith a fydd, pan yn briodol, yn cyfyngu ar ddylanwadu radical, fel drwy ddefnyddio canolfannau gwahanu neu ganfod a chael gwared ar ddeunyddiau, gan gynnwys llyfrau, cylchgronau, a CDau sain, y gellid eu defnyddio i ledaenu ideolegau niweidiol. Gallai hyn olygu grymuso staff i herio syniadau eithafol y gellid yn rhesymol eu cysylltu ag ideolegau terfysgol, lle mae rhai ohonynt yn cynnwys syniadau niweidiol mwy cyffredinol, fel casineb at fenywod a gwrth-semitiaeth. Mae’n bwysig hefyd nad yw cyllid Prevent yn mynd i sefydliadau neu bobl, gan gynnwys darparwyr ymyriadau, sydd wedi’u cysylltu â therfysgaeth neu sydd â syniadau eithafol a ddefnyddir i gyfiawnhau terfysgaeth. Dylid rhoi diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod asesiadau o’r fath yn cael eu hasesu’n briodol.
Monitro a sicrwydd
323. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4: Monitro a sicrwydd
324. Fel yn achos pob awdurdod penodedig, lle bydd tystiolaeth bendant o ddiffyg cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd, gall y Swyddfa Gartref argymell bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio’r pŵer cyfarwyddo o dan Adran 30 o CTSA 2015. Ni fyddai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio oni bai bod pob opsiwn arall i geisio gwella wedi methu. Byddai modd ei weithredu hefyd yn achos awdurdodau penodedig Cymru a’r Alban a bydd yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â gweinidogion Cymru neu weinidogion yr Alban, yn y drefn honno, cyn rhoi cyfarwyddyd o’r fath.
Carchardai
325. Mewn carchardai, rydym yn disgwyl y bydd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent yn cael ei fonitro a’i orfodi’n fewnol drwy:
- gydymffurfedd gorfodol â fframweithiau polisi sy’n diffinio polisïau a’r arferion gorau
- asesu lefelau a risg eithafiaeth a radicaliaeth yn fewnol yn rheolaidd drwy arweinyddion gwrthderfysgaeth rhanbarthol ac, yn lleol, drwy Arweinyddion Prevent yn y carchardai
Y Gwasanaeth Prawf
326. Yn achos darparwyr y gwasanaeth prawf, yn fewnol, mae cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd Prevent yn cael ei orfodi drwy’r fframwaith polisi rheoli eithafiaeth. Mae cydymffurfiaeth â chyfarwyddiadau’r gwasanaeth prawf yn cael ei fonitro a’i sicrhau’n fewnol drwy swyddogaethau rheoli contractau ac archwilio o fewn HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
-
https://www.gov.uk/government/publications/counter-terrorism-strategy-contest-2023. ↩
-
George Clover, ‘The Challenge of Understanding Terrorism in a New Era of Threat’, The RUSI Journal (volume 168, number 4, 2023), pages 1 to 9. I ddarllen rhagor am ideolegau, gweler CONTEST: The United Kingdom’s Strategy for Countering Terrorism. ↩
-
Pobl wedi’u heuogfarnu o dan the Ddeddf Terfysgaeth 2000 neu 2006 eu droseddau eraill yn gysylltiedig â therfysgaeth. ↩
-
Jonathon Kenyon, Jens Binder, and Christopher Baker-Beall, ‘The Internet and radicalisation pathways: technological advances, relevance of mental health and role of attackers’, Ministry of Justice Analytical Series, 2022. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/counter-terrorism-local-profiles-ctlps. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/vulnerabilities-applying-all-our-health/vulnerabilities-applying-all-our-health. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/channel-and-prevent-multi-agency-panel-pmap-guidance. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/channel-and-prevent-multi-agency-panel-pmap-guidance. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://ico.org.uk/for-organisations/uk-gdpr-guidance-and-resources/accountability-and-governance/accountability-framework/training-and-awareness/. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/safeguarding-practitioners-information-sharing-advice. ↩
-
Argymhellwyd sefydlu uned safonau a chydymffurfiaeth Prevent yn Adolygiad Annibynnol Prevent. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn a disgwylir y bydd y swyddogaeth gwyno newydd yn weithredol o wanwyn 2024. Yn y cyfnod nes bydd yn weithredol, bydd cwynion yn cael eu prosesu drwy brosesau presennol y sectorau. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-toolkit-for-local-authorities. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-statistics. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-out-of-school-settings-code-of-practice/keeping-children-safe-during-community-activities-after-school-clubs-and-tuition-non-statutory-guidance-for-providers-running-out-of-school-settings. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/regulating-independent-schools. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/counter-terrorism-local-profiles-ctlps. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/channel-and-prevent-multi-agency-panel-pmap-guidance. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-toolkit-for-local-authorities. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-toolkit-for-local-authorities. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-toolkit-for-local-authorities. ↩
-
https://www.educateagainsthate.com/category/school-leaders/advice-and-training-school-leaders/. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/working-together-to-safeguard-children–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/the-prevent-duty-safeguarding-learners-vulnerable-to-radicalisation. ↩
-
https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2009/20/section/103#:~:text=103Combined%20authorities%20and%20their%20areas&text=(1)The%20Secretary%20of%20State,local%20government%20areas%20in%20England.&text=(c)an%20integrated%20transport%20area. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/channel-and-prevent-multi-agency-panel-pmap-guidance. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-statistics. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.educateagainsthate.com/category/school-leaders/advice-and-training-school-leaders/. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/the-prevent-duty-in-higher-education-he-training-and-guidance-for-practitioners. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-self-assessment-tool-for-schools. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-self-assessment-tool-further-education. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/the-prevent-duty-safeguarding-learners-vulnerable-to-radicalisation/understanding-and-identifying-radicalisation-risk-in-your-education-setting. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/the-prevent-duty-safeguarding-learners-vulnerable-to-radicalisation/managing-risk-of-radicalisation-in-your-education-setting. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/risk-assessment-and-action-planning-when-implementing-the-prevent-duty-in-higher-education-he. ↩
-
https://www.officeforstudents.org.uk/news-blog-and-events/events/prevent-risk-assessments-webinar/. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/working-together-to-safeguard-children–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/safeguarding-practitioners-information-sharing-advice. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/protecting-charities-from-abuse-for-extremist-purposes. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/political-impartiality-in-schools/political-impartiality-in-schools#the-law. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/promoting-fundamental-british-values-through-smsc. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/early-years-foundation-stage-framework–2. ↩
-
https://www.universitiesuk.ac.uk/what-we-do/policy-and-research/publications/oversight-security-sensitive-research. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/meeting-digital-and-technology-standards-in-schools-and-colleges/filtering-and-monitoring-standards-for-schools-and-colleges. ↩
-
https://saferinternet.org.uk/guide-and-resource/teachers-and-school-staff/appropriate-filtering-and-monitoring. ↩
-
https://www.officeforstudents.org.uk/site-search/?query=Web+filtering+and+monitoring+considerations+for+the+higher++education+sector+in+the+context+of+the+Prevent+duty. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/political-impartiality-in-schools/political-impartiality-in-schools#the-law. ↩
-
https://www.officeforstudents.org.uk/publications/prevent-duty-framework-for-monitoring-in-higher-education-in-england-2018-19-onwards/. ↩
-
https://www.hefcw.ac.uk/en/publications/circulars/w16-39he-the-prevent-duty-monitoring-framework-for-higher-education-providers-in-wales/. ↩
-
https://www.england.nhs.uk/publication/safeguarding-children-young-people-and-adults-at-risk-in-the-nhs-safeguarding-accountability-and-assurance-framework/. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/nhs-prevent-training-and-competencies-framework/nhs-prevent-training-and-competencies-framework. ↩
-
https://www.rcpch.ac.uk/resources/safeguarding-children-young-people-roles-competencies. ↩
-
https://www.rcn.org.uk/Professional-Development/publications/adult-safeguarding-roles-and-competencies-for-health-care-staff-uk-pub-007-069. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-statistics. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/building-partnerships-staying-safe-guidance-for-healthcare-organisations. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/prevent-and-the-channel-process-in-the-nhs-information-sharing-and-governance. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-statistics. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/counter-terrorism-local-profiles-ctlps. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/strategic-policing-requirement-2023. ↩
-
https://www.gov.uk/government/collections/individuals-referred-to-and-supported-through-the-prevent-programme-statistics. ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/get-help-if-youre-worried-about-someone-being-radicalised. ↩