Sut i gofrestru fel defnyddiwr proffesiynol cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) ac adjiwfantau
Diweddarwyd 30 Medi 2022
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Pwy sy’n gorfod cofrestru
Rhaid ichi gofrestru os ydych chi’n fusnes, sefydliad neu’n unig fasnachwr sy’n defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban).
Mae hyn yn eich cynnwys chi os ydych chi:
- yn defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau fel rhan o’ch gwaith
- â PPPs ac unrhyw adjiwfantau a daenir gan drydydd parti fel rhan o’ch gwaith ym myd amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau neu goedwigaeth
- yn gontractwr sy’n cael ei hurio i storio neu daenu PPPs ac unrhyw adjiwfantau ar ran pobl eraill
- yn wirfoddolwr a’ch bod yn defnyddio PPPs ac adjiwfantau yn ystod eich gwaith, er enghraifft mewn clybiau chwaraeon amatur
Does dim angen ichi gofrestru os ydych chi’n defnyddio PPPs amatur yn eich gardd. Ffurflen ar gyfer defnyddwyr proffesiynol yw hon.
Sectorau
Mae’r ffurflen yn gofyn pa sector neu sectorau rydych chi’n gweithio ynddyn nhw.
Amaethyddiaeth a garddwriaeth
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth, fel ffermio neu gynnal cnydau âr, cnydau porthiant neu dda byw, neu drin hadau.
Amwynder
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn garddio, tirlunio, cynnal a chadw tiroedd, neu rôl arall mewn lleoliad amwynderau megis:
- parciau
- meysydd chwaraeon, gan gynnwys cyrsiau golff
- eiddo cyhoeddus neu breifat
- isadeiledd, fel ffyrdd, rheilffyrdd a dyfrffyrdd
- cyfleustodau, megis cwmnïau trafnidiaeth a dŵr
Coedwigaeth
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn coedwigoedd neu goetiroedd, megis:
- rheoli coed
- plannu coed
- defnyddio coedwigoedd neu goetir
Awdurdodau lleol
Rhaid i awdurdodau lleol sy’n defnyddio neu’n storio PPPs gofrestru fel defnyddwyr proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys lle mae gweithwyr yr awdurdodau lleol yn taenu PPPs a bod yr awdurdod yn hurio trydydd parti i daenu PPPs ar eu rhan. Dylai contractwyr sy’n cael eu hurio i daenu PPPs ar ran awdurdodau lleol gofrestru’n annibynnol.
Cyfeiriadau’n gysylltiedig â gweithgareddau PPPs
Mae Defra yn cofnodi eich cyfeiriadau busnes. Rhaid ichi gofrestru prif gyfeiriad busnes lle rydych chi’n gwneud un neu fwy o’r canlynol:
- defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau
- eu storio
- cadw cofnodion
Rhaid ichi hefyd gofrestru unrhyw gyfeiriadau ychwanegol lle rydych chi’n storio PPPs ac unrhyw adjiwfantau. Os ydych chi’n fusnes sydd â dros 40 o gyfeiriadau i’w cofrestru, does dim angen ichi ddefnyddio’r ffurflen. Anfonwch neges ebost at ocr-ppp@defra.gov.uk i gael arweiniad pellach.
Peidiwch ag ychwanegu cyfeiriadau lle rydych chi’n storio neu’n taenu PPPs ar ran cleientau ar eu tir nhw.
Cyfeiriadau dros dro
Rhaid ichi gofrestru o leiaf un cyfeiriad busnes parhaol. Does dim angen ichi gofrestru cyfeiriadau dros dro, er enghraifft cyfeiriadau y byddwch yn eu defnyddio am hyd at 2 flynedd yn unig.
Defnyddio PPPau
Mae’r ffurflen yn gofyn ichi amcangyfrif faint o PPPs heb eu glastwreiddio rydych chi’n eu defnyddio mewn blwyddyn nodweddiadol. Mae hyn yn cynnwys y PPPs rydych chi’n eu taenu, ac unrhyw PPPs sydd wedi’u taenu ar eich rhan gan drydydd partïon.
Os yw’r swm rydych chi’n ei ddefnyddio’n newid o flwyddyn i flwyddyn, rhowch y swm y byddech yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn arferol. Os ydych chi’n defnyddio PPPs yn ystod rhai blynyddoedd ond nid eraill, rhowch y swm nodweddiadol y byddech chi’n ei ddefnyddio mewn blwyddyn pan fyddwch chi’n eu defnyddio.
Os ydych chi’n defnyddio hadau sydd wedi’u trin â PPPs, peidiwch â chynnwys hyn wrth gyfrifo faint o PPPs rydych chi’n eu defnyddio mewn blwyddyn arferol.
Os ydych chi’n fusnes trin hadau sy’n taenu PPPs ar hadau, cynhwyswch faint o PPPs rydych chi’n eu taenu ar hadau wrth gyfrifo faint o PPPs rydych chi’n eu defnyddio mewn blwyddyn nodweddiadol.
Cynlluniau sicrwydd
Mae’r ffurflen yn gofyn a ydych yn aelod o unrhyw gynlluniau sicrwydd sy’n ymdrin â defnyddio PPPs.
Mae cynlluniau sicrwydd yn gynlluniau gwirfoddol sy’n sefydlu safonau cynhyrchu. Mae enghreifftiau’n cynnwys y Tractor Coch, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Leaf Marque, Cymdeithas y Pridd, Amenity Assured ac RSPCA Assured.
Os nad ydych yn rhan o unrhyw gynlluniau sicrwydd, gadewch y cwestiwn hwn yn wag.
Sut i gofrestru
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel busnes, sefydliad neu unig fasnachwr sy’n defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau ym Mhrydain Fawr.
Lawrlwytho’r ffurflen
Mae’r ffurf ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi’r ffurflen.
Mae’r ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:
- Fformat OpenDocument (.ods)
- Fformat Excel (.xlsx)
Os ydych chi’n defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi’n defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument .ods.
Llenwi’r ffurflen
Mae’r ffurflen yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer sut i’w llenwi.
Dychwelyd y ffurflen
Ar ôl ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).
Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i GB-OCR-notification@defra.gov.uk.
Dim ond ffurflenni sydd wedi’u cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu.
Os anfonwch chi’ch eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno’r wybodaeth.
Os bydd eich cwmni’n cau ar ôl cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i GB-OCR-closures@defra.gov.uk.
Ffurflenni papur
I ofyn am ffurflen bapur, anfonwch neges ebost at ocr-ppp@defra.gov.uk. Cofiwch gynnwys eich enw a’r cyfeiriad lle dylid anfon y ffurflen. Bydd Defra yn anfon ffurflen bapur atoch gydag amlen ddychwelyd sydd wedi’i thalu ymlaen llaw.
Bydd ffurflenni papur yn cymryd mwy o amser i’w prosesu. Fe gewch chi neges ebost gan Defra pan fyddan nhw wedi prosesu’ch ffurflen.
Help gyda’r ffurflen
I gael help gyda’r ffurflen, gallwch:
- ebostio: defra.helpline@defra.gov.uk (defnyddiwch y llinell bwnc ‘Ymholiad cofrestru OCR-PPP’)
- ffonio’r llinell gymorth: 03459 33 55 77
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.
Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).
I gysylltu â Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).