Cywiro'r Gofrestr Arwystlon: Rhan 1 - (Arwystlon wedi'u creu cyn 6 Ebrill 2013)
Cyhoeddwyd 24 Chwefror 2016
1. Cywiro’r Gofrestr o dan adrannau 873/888 o’r Ddeddf
Os bydd manylion arwystl yn anghywir ar arwystl a gofrestrwyd gan gwmni yn unol ag Adran 25 o’r Ddeddf (neu’r darpariaethau cyfatebol ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig), yna bydd angen i chi wneud cais i’w cywiro o dan adran 873/888 o’r Ddeddf. Mae rheoliadau [OS 2008/2996] yn rhagnodi manylion arwystlon, ac maent fel a ganlyn: • Dyddiad creu’r arwystl; • Disgrifiad o’r offeryn sy’n creu neu’n tystio i’r arwystl (os oes un • Y swm a ddiogelir gan yr arwystl; • Enw a chyfeiriad y person a chanddo hawl i’r arwystl;a • Manylion cryno’r eiddo y mae’r arwystl yn ei gwmpasu. Gallai achosion godi lle cyflwynir hysbysiad am foddhad ag arwystl ar gam. Mewn achosion o’r fath, bydd angen gwneud cais i ddileu’r cofnodion ar y Gofrestr o dan adran 873/888.
Os ydych chi eisiau cywiro gwybodaeth a gofrestrwyd yn unol ag Adrannau 859K, 859L neu 859O o Bennod A1 o Ran 25 o’r Ddeddf (sy’n ymwneud ag arwystl a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013), yna dylech wneud cais o dan Adran 873/888.
2. Cysylltu â’r cofrestrydd cwmnïau
Dylech gysylltu â’r cofrestrydd cwmnïau cyn gynted â phosibl gyda’ch cais arfaethedig ar ffurf drafft (ynghyd â Gorchymyn drafft). Bydd hyn yn galluogi iddo gymeradwyo’r cais/Gorchymyn, neu awgrymu diwygiadau y gall y ddau barti gytuno arnynt.
3. Gwneud cais i’r llys
Dylech ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol cyn cyflwyno unrhyw gais i’r llys. Dylech gyfeirio hefyd at Reolau Gweithdrefnau Sifil 1998 (fel y’i diwygiwyd), gyda golwg ar wneud cais o dan Adran 8 o’r rheolau hyn. I gael rhagor o wybodaeth am y Rheolau Gweithdrefnau Sifil, Canllawiau o Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ar wneud cais i gywiro
4. Cynnwys y Cofrestrydd Cwmnïau yn y cais
Fe’ch cynghorir i gynnwys y Cofrestrydd fel Diffynnydd yn yr achos am mai ef fydd yn gorfod diwygio’r Gofrestr yn sgil Gorchymyn cywiro gan y llys.
5. Cydsynio i geisiadau
Nid yw’r Cofrestrydd yn cydsynio i geisiadau am ei fod yn teimlo bod rhyddid i gywiro’n beth disgresiynol, a’i bod yn bwysig bod y llys yn penderfynu a ddylid gorchymyn cywiriad ai peidio ar sail y dystiolaeth sydd ger ei fron. Fodd bynnag, os nad yw’r Cofrestrydd yn gwrthwynebu’r gorchymyn ac oes cytundeb na chaiff unrhyw orchymyn ei wneud yn ei erbyn o ran costau, bydd yn cadarnhau ei sefyllfa i’r llys yn ysgrifenedig.
6. Drafftio Gorchymyn llys
Mae’n bwysig bod y gorchymyn drafft yn glir wrth adnabod yr arwystl sydd dan sylw er mwyn sicrhau bod modd canfod yr arwystl cywir. Nid yw geiriad tebyg i hyn yn anghyffredin mewn gorchmynion drafft ar gyfer awdurdod i gywiro: “PAN fydd y Llys yn fodlon bod y camddatganiad, [rhowch y manylion], yn fater o amryfusedd a’i bod yn gyfiawn ac yn deg rhoi awdurdod yn unol ag adran 873/888 o Ddeddf Cwmnïau 2006 “GORCHMYNNIR FEL A GANLYN “Pan ddaw Copi Swyddog o’r Gorchymyn hwn i law’r Diffynnydd, caiff y gofrestr arwystlon statudol mewn perthynas ag arwystl yr Hawliwr, dyddiedig (DD/MM/BBBB) a gyflwynwyd gan yr Hawliwr ar gyfer (DD/MM/BBBB) ac a gofrestrwyd gan y Diffynnydd ar (DD/MM/BBBB) ei chywiro trwy ddileu’r geiriau (XXXXXXXXXXXXX), a gosod y geiriau (XXXXXXXXXXXXX)yn eu lle.”
7. Mynychu gwrandawiad
Os yw’r Cofrestrydd yn hapus i gymeradwyo’r cais, ni fydd yn mynychu unrhyw wrandawiad yn y dyfodol. Mae hyn am fod y Cofrestrydd am gadw’r costau i isafswm. Fodd bynnag, os yw’r cyflwynwyr yn codi meysydd newydd o ran y gyfraith, mae’r Cofrestrydd yn cadw’r hawl i gyflwyno ei sylwadau gerbron y llys.
8. Pan fydd Gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys
Os yw’r llys yn gwneud Gorchymyn dylech anfon copi o’r Gorchymyn i adran Gyfreithiol Tŷ’r Cwmnïau dan sêl. Bydd y cyfreithwyr yn sicrhau bod y Gorchymyn yn dderbyniol, ac yn ei anfon ymlaen i’r adran brosesu er mwyn gwneud y trefniadau priodol i gywiro’r gofrestr
9. Hyd yr amser i gywiro’r gofrestr
Bydd y Cofrestrydd yn gweithredu ar y Gorchymyn a diwygio’r Gofrestr gyn gynted ag y bo modd, ond bydd hyn yn dibynnu ar y baich gwaith sydd ar Dŷ’r Cwmnïau ar y pryd. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni wedi diwygio’r Gofrestr.
10. Osgoi’r angen am wneud cais i ddiwygio’r gofrestr
Dylech sicrhau bod manylion yr arwystl yn gywir cyn eu hanfon at y Cofrestrydd. Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn bod manylion yr arwystl yn cael eu cyflwyno ar ffurflen bwrpasol, ynghyd â’r weithred wreiddiol a’r ffi. Mae hi bob amser yn syniad da edrych eto i sicrhau bod manylion yr arwystl yn y weithred yn cyd-fynd â’r manylion ar y ffurflen. Dylech sicrhau hefyd bod y manylion o ran bodloni’r arwystl yn adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd h.y. a fodlonwyd yr arwystl go iawn; a yw’r arwystl wedi ei fodloni’n rhannol yn hytrach na’n llwyr.