LP13 Cofrestru atwrneiaeth arhosol: canllawiau (fersiwn y we)
Diweddarwyd 18 May 2023
Yn berthnasol i England and Gymru
1. Rhan A – Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol (LPA)
1.1 Pa LPA?
1. LPA a gafodd ei gwneud cyn 1 Gorffennaf 2015
LPA ar ffurflen bapur
Dim ond os gwnaethoch chi eich atwrneiaeth arhosol (LPA) cyn 1 Gorffennaf 2015 a’ch bod wedi defnyddio unrhyw un o’r canlynol y dylech chi ddefnyddio’r canllawiau hyn a’r ffurflen ‘Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol (LP2):
-
‘Atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles’ (ffurflen LPA114)
-
‘Atwrneiaeth arhosol - lles personol (ffurflen LPA PW)
-
‘Atwrneiaeth arhosol - eiddo a materion ariannol’ (ffurflen LPA117)
-
‘Atwrneiaeth arhosol - eiddo a materion ariannol’ (ffurflen LPA PA)
LPA ar lein
Os gwnaethoch chi ddefnyddio’r gwasanaeth digidol i wneud eich LPA, mae’n bosibl y gallwch lawrlwytho ffurflenni sydd wedi’u llenwi eisoes er mwyn cofrestru. Mewngofnodi eto i’ch cyfrif.
2. LPA ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2015
Os gwnaethoch chi’ch LPA ar 1 Gorffennaf 2015 neu wedi hynny, peidiwch â defnyddio’r canllawiau hyn a pheidiwch â defnyddio’r ffurflen ‘Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol’ LP2. Os gwnaethoch chi’ch LPA ar 1 Gorffennaf 2015 neu wedi hynny, byddwch wedi defnyddio un o’r rhain:
-
Ffurflen ‘Atwrneiaeth arhosol’ LP1H ar gyfer penderfyniadau ynghylch iechyd a gofal
-
Ffurflen ‘Atwrneiaeth arhosol LP1F ar gyfer penderfyniadau ariannol
Os gwnaethoch chi eich LPA drwy ddefnyddio’r gwasanaeth digidol a’ch bod am ei chofrestru yn awr, mewngofnodi eto i’ch cyfrif.
Os gwnaethoch chi ddefnyddio un o’r ddwy ffurflen bapur ar ôl 1 Gorffennaf 2015, rhaid ichi ddefnyddio adrannau 12 i 15 o’r un ffurflen. Defnyddiwch ‘Gwneud a chofrestru’ch atwrneiaeth arhosol: canllawiau’ (LP12) i gael help i lenwi adrannau 12 i 15 o’r ffurflen LPA.
1.2 Rhaid ichi gofrestru
Fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio’ch LPA nes bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i chofrestru
Os gwnaethoch chi’ch LPA cyn 1 Gorffennaf 2015, defnyddiwch y ffurflen ‘Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol’ (LP2).
Cyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei chofrestru, byddwn yn sicrhau’r canlynol:
-
bod yr LPA yn gyfreithiol gywir
-
nad oes dim gwallau yn yr LPA
-
bod pobl wedi cael cyfle i wrthwynebu os ydyn nhw’n poeni am rywbeth
Cofrestrwch yn awr
Os gwnewch chi gais am gofrestru’ch LPA eich hun yn awr, bydd y Swyddfa’n gallu sylwi ar unrhyw gamgymeriadau. Dim ond os oes gennych alluedd meddyliol y bydd modd cywiro camgymeriadau.
Os byddwch yn oedi cyn cofrestru ac yn colli’ch galluedd meddyliol, caiff eich atwrnai /atwrneiod wneud cais am gofrestru’ch LPA. Serch hynny, fydd hi ddim yn bosibl cywiro camgymeriadau. Os oes camgymeriadau, fydd y Swyddfa ddim yn gallu cofrestru’r LPA, a fyddwch chi ddim yn gallu ei defnyddio.
Wedyn, bydd rhaid i’ch atwrnai /atwrneiod (neu rywun arall) wneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn gallu gwneud penderfyniadau drosoch neu i gael datganiad bod modd trin yr LPA fel dogfen ddilys. Gall hyn fod yn broses hir a chostus. Wedi dweud hynny, fe gewch chi oedi os dymunwch.
Cyn ichi bostio’r LPA
Rhaid ichi ddweud wrth unrhyw ‘bobl i’w hysbysu’ (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘bobl sydd wedi’u henwi’) cyn ichi anfon eich LPA at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Defnyddiwch ‘Ffurflen hysbysu pobl’ (LP3) i ddweud wrthynt.
Yn ôl y gyfraith, rhaid disgwyl am bedair wythnos cyn y caiff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru LPA. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i unrhyw bobl sydd wedi’u henwi / pobl i’w hysbysu wrthwynebu.
2. Rhan B - Llenwch y ffurflen ‘Cofrestru eich atwrneiaeth arhosol’ (LP2)
Ystyr ‘Chi’ yw pwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru
Bob tro y gwelwch chi’r gair ‘chi’ o hyn ymlaen, mae’n golygu pwy bynnag sy’n gwneud cais i gofrestru’r LPA: naill ai’r sawl sydd wedi gwneud yr LPA (‘y ‘rhoddwr’) neu’r atwrnai /yr atwrneiod.
2.1 Rhan B1 - Yr atwrneiaeth arhosol
Llenwch adran 1
Rhowch enw’r rhoddwr. Rhaid ichi roi’r enw yn union fel y mae’n ymddangos ar ffurflen yr LPA - hyd yn oed os oes gwall ynddo.
Marciwch un blwch yn unig i ddangos pa fath o LPA sy’n cael ei chofrestru: ariannol neu iechyd a gofal. Os ydych am gofrestru dwy LPA, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru LP2 ar gyfer y naill a’r llall.
2.2 Rhan B2 - Y ceisydd
Llenwch adran 2
Marciwch un blwch yn unig i ddangos ai’r rhoddwr ynteu’r atwrnai/atwrneiod ydych chi.
Os oes mwy nag un atwrnai, gallwch fel rheol wneud cais am gofrestru’r LPA ar eich pen eich hun. Ond rhaid i bob atwrnai wneud cais ar y cyd os yw un o’r canlynol yn wir:
-
mae’r rhoddwr wedi dweud ar ffurflen yr LPA ei bod yn rhaid i bob atwrnai wneud cais am gofrestru
-
rydych wedi’ch penodi ‘ar y cyd’ neu ‘gyda’ch gilydd’
Edrychwch ar adran 4 o ffurflen yr LPA i weld sut mae’r atwrneiod wedi cael eu penodi.
Rhaid ichi roi eich enw(au) a’ch dyddiad(au) geni yn union fel maen nhw’n ymddangos ar ffurflen yr LPA - hyd yn oed os oes gwallau ynddyn nhw.
2.3 Rhan B3 - At bwy yr hoffech inni anfon yr LPA?
Llenwch adran 3
Bydd angen ichi ddewis un person inni gysylltu ag ef/hi rhag ofn ein bod am holi rhywbeth. At yr unigolyn hwn hefyd y byddwn yn anfon dogfen yr LPA ar ôl ei chofrestru.
Marciwch un o dri dewis:
-
y rhoddwr
-
atwrnai
-
rhywun arall
Os byddwch yn dewis y rhoddwr, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad roesoch chi yn adran 1 o ffurflen yr LPA yn gywir. Os ydych wedi symud, rhowch eich cyfeiriad newydd yma.
Os byddwch yn dewis atwrnai, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeiriad wedi’i ysgrifennu yn yr LPA a’i fod yn gywir. Os nad yw, rhowch eich cyfeiriad cywir yma, gan gynnwys y cod post.
Os byddwch yn dewis ‘rhywun arall’ rhowch enw a chyfeiriad y person cyswllt yma, gan gynnwys y cod post.
2.4 Rhan B4 - Ffi gwneud cais
All Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddim cofrestru’ch LPA nes ichi dalu’r ffi. Mae cofrestru un LPA yn costio £82.
Llenwch adran 4
Sut yr hoffech dalu?
Os byddwch yn defnyddio cerdyn i dalu, peidiwch ag anfon manylion eich cerdyn debyd neu gredyd. Rhowch eich rhif ffôn a bydd y Swyddfa’n eich ffonio i brosesu’r taliad. Os byddwch yn talu gyda siec, anfonwch siec yn daladwy i ‘Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus’ gyda’ch cais. Ysgrifennwch enw’r rhoddwr ar gefn y siec.
Gostyngiad ar y ffi ymgeisio
Os yw’r rhoddwr ar incwm isel, efallai na fydd yn rhaid talu’r swm llawn. Os ydych yn gwneud cais am ostyngiad:
-
marciwch y blwch ‘Rwyf am wneud cais am ostyngiad’
-
llenwch y ffurflen Cais i esemptio neu ostwng ffioedd Cais i Gofrestru atwrneiaeth arhosol/atwrneiaeth barhaus LPA120
-
anfonwch LPA120 at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda ffurflen yr LPA a phrawf bod y rhoddwr ar incwm isel
Mae’r canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen LPA120 yn esbonio:
-
pwy sy’n gymwys i dalu ffi is neu i beidio â thalu ffi o gwbl
-
pa brawf y bydd angen ichi ei anfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Os nad yw’r ffurflen ‘Ffi atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus: esemptiad neu ddilead’ LPA120; gennych chi, gallwch:
-
ei lawrlwytho o’r wefan hon
-
ffoniwch ein canolfan gyswllt a gofyn am gopi ar 0300 456 0300
Os ydych am gofrestru’r LPA yn gyflym ac nad oes gennych brawf ar hyn o bryd bod y rhoddwr ar incwm isel, talwch y ffi lawn. Bydd gennych dri mis wedyn i wneud cais am ad-daliad drwy ddefnyddio LPA120.
Pethau i’w cadw mewn cof
Yn aml iawn, gwrthodir rhoi gostyngiad, neu bydd y broses yn cael ei harafu, oherwydd bod pobl yn gwneud camgymeriadau. Cofiwch:
-
dim ond ar sail incwm y rhoddwr y dylech wneud cais am ostyngiad
-
anfonwch brawf o incwm isel neu fudddaliadau’r rhoddwr - os na wnewch chi hynny, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwrthod y cais am ostyngiad
-
rhaid i’r prawf fod yn ddiweddar a rhaid iddo fod yn berthnasol i ddyddiad eich cais i gofrestru
-
ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus dderbyn datganiadau banc ar eu pen eu hunain yn brawf o incwm
2.5 Rhan B5 - Llofnod
Llenwch adran 5
Rhaid ichi ddarllen a llofnodi adran 5. Rydych yn llofnodi i ddweud eich bod yn gwneud cais am gofrestru’r LPA a’ch bod eisoes wedi rhoi gwybod i unrhyw bobl i’w hysbysu (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘bobl y dylid dweud wrthynt’ neu’n ‘bobl sydd wedi’u henwi’). Byddwch yn gwneud hyn drwy anfon ffurflen LP3 at y bobl i’w hysbysu. Gweler rhan C o’r canllawiau hyn.
Os ydych yn un o’r atwrneiod a’ch bod wedi’ch penodi i weithredu ar y cyd, rhaid i chi a phob un o’ch cyd-atwrneiod eraill lofnodi. Os oes mwy na phedwar atwrnai ar y cyd, gwnewch gopïau o adran 5 i’r atwrneiod eraill eu llofnodi.
2.6 Rhan B6 - Cyfeiriadau
Llenwch adran 6
Os yw’r rhoddwr neu unrhyw atwrnai wedi symud cartref ers gwneud yr LPA, rhowch y cyfeiriad(au) mwyaf diweddar yma.
Os cafodd yr LPA ei gwneud cyn 1 Hydref 2009, rhaid ichi ysgrifennu holl enwau a chyfeiriadau’r atwrneiod yma. (Y dyddiad y cafodd yr LPA ei gwneud yw’r dyddiad diweddaraf y cafodd ei llofnodi.)
Os nad ydych yn siŵr pryd gafodd ei wneud, edrychwch ar y dyddiad y llofnodwyd yr LPA.
Os bydd angen ichi ysgrifennu mwy na phedwar o gyfeiriadau, gallwch lungopïo adran 6.
3. Rhan C - Pobl y dylid dweud wrthynt/pobl sydd wedi’u henwi (ffurflen LP3)
Defnyddiwch y ‘Ffurflen hysbysu pobl’ (LP3) i ddweud wrth y bobl y dylid dweud wrthynt / pobl sydd wedi’u henwi.
Dywedwch wrth bob un
Anfonwch y ‘Ffurflen hysbysu pobl’ (LP3) at bawb sydd wedi’i enwi/pobl y dylid dweud wrthynt yn yr LPA.
Os ydych yn cofrestru dwy LPA a bod y bobl y dylid dweud wrthynt/sydd wedi’u henwi yr un fath yn y ddwy, rhaid ichi hysbysu pawb ddwywaith. Yn yr achos hwn, bydd pob unigolyn yn cael dwy ffurflen LP3: un ffurflen LP3 ar gyfer pob LPA.
I weld manylion y bobl i’w hysbysu
Edrychwch yn:
-
rhan A, adran 9 o ffurflen yr LPA 114 neu 117 (maen nhw’n cael eu galw’n ‘bobl y dylid dweud wrthynt’ yma)
-
rhan A, adran 10 o ffurflen yr LPA PW neu PA (maen nhw’n cael eu galw’n ‘bobl sydd wedi’u henwi’ yma)
Os bydd dau neu ragor o bobl wedi’u henwi ar ffurflen yr LPA, gallwch arbed amser drwy lenwi tudalennau 2 a 3 o ffurflen LP3 ac wedi eu llungopïo - un i bob person.
Os nad oes neb i’w hysbysu/pobl y dylid dweud wrthynt/pobl sydd wedi’u henwi wedi’u nodi ar ffurflen yr LPA, does dim angen ichi lenwi ffurflen LP3.
Rhowch:
-
fanylion unrhyw un y dylid dweud wrthynt/pobl sydd wedi’u henwi ar dudalen 1
-
manylion y rhoddwr, gan gynnwys pa bryd y llofnodwyd yr LPA, ar dudalen 2
-
y math o LPA a phwy sy’n gwneud cais am ei chofrestru ar dudalen 2
-
manylion yr atwrneiod ar dudalen 3
Atwrneiod
I gael gwybod pwy yw’r atwrneiod gwreiddiol, edrychwch ar ffurflen yr LPA:
-
rhan A o adran 2 o ffurflen LP114 neu LPA117 (ac, os oes mwy na dau atwrnai, dalen barhad A1)
-
rhan A o adran 3 o ffurflen LPA PW neu LPA PA
Anfonwch eu ffurflenni LP3 at bawb y dylid dweud wrthynt/y bobl sydd wedi’u henwi cyn ichi anfon ffurflen yr LPA i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w chofrestru.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r ‘Ffurflen hysbysu pobl’ (LP3) yn esbonio pam a sut y gall pobl y dylid dweud wrthynt/ pobl sydd wedi’u henwi wrthwynebu cofrestru’r LPA. Gelwir y rhain yn rhesymau ‘ffeithiol’ a ‘rhagnodedig’. Ni chaiff pobl wrthwynebu dim ond oherwydd nad ydyn nhw am weld yr LPA yn cael ei chofrestru.
Os nad oes dim byd yn eu poeni
Os na fydd y sawl sydd wedi cael ei hysbysu’n poeni am ddim, does dim angen iddyn nhw wneud dim byd.
Os oes rhesymau dros wrthwynebu’r LPA
Os bydd rhywun sydd wedi’i hysbysu’n dymuno codi pryderon am yr LPA, bydd ganddo dair wythnos i roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei fod yn gwrthwynebu o’r dyddiad pan gafodd ei hysbysu.
4. Rhan D - Dileu eich LPA, pryderon am atwrneiod, polisi preifatrwydd a chysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
4.1 Dileu eich LPA
Gallwch chi (y rhoddwr) ddileu eich LPA unrhyw bryd, cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol. Does dim ots a yw’r LPA wedi’i chofrestru neu beidio.
Os yw wedi’i chofrestru, rhaid ichi ysgrifennu ‘gweithred ddiddymu’ i’w dileu. Dyma enghraifft o weithred ddiddymu y gallwch ei defnyddio:
Mae’r weithred ddiddymu hon yn cael ei gwneud gan [enw’r rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr].
-
Rhoddais atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau ariannol/penderfyniadau ynghylch iechyd a gofal [dilëwch fel sy’n briodol] ar [y dyddiad pan lofnodwyd yr LPA] gan benodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel atwrnai/atwrneiod ar fy rhan.
-
Rwy’n diddymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a roddwyd drwyddi.
Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]
Rhaid ichi lofnodi a dyddio’r weithred yng ngŵydd tyst, a rhaid i hwnnw hefyd lofnodi a dyddio’r weithred.
Does dim rhaid i’r tyst hwn fod yr un tyst ag a ddefnyddiwyd yn yr LPA wreiddiol.
Yna, rhaid ichi anfon y weithred i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda’r ddogfen LPA gofrestredig wreiddiol.
Rhaid ichi hefyd ddweud wrth eich atwrneiod i gyd eich bod yn dileu’ch LPA.
Gallwch gael gwybod rhagor yn www.gov.uk/power-of-attorney/end
Os na allwch gysylltu â’r rhyngrwyd gartref, gall eich llyfrgell leol eich helpu.
4.2 Pryderon am atwrneiod
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn amddiffyn pobl nad oes ganddyn nhw’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostyn nhw’u hunain.
Os bydd unrhyw un yn meddwl nad yw atwrneiod yn gweithredu er lles gorau rhoddwr, gallan nhw sôn am eu pryder wrth y Swyddfa, wrth yr heddlu neu wrth y gwasanaethau cymdeithasol.
4.3 Eich gwybodaeth bersonol chi
Mae’r siarter gwybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol chi, ei defnyddio neu ei rhannu. Mae’n dweud wrthych chi sut i gael gafael ar y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Y weinyddiaeth yw’r ‘rheolydd data’ o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac mae’n gyfrifol am y wybodaeth bersonol rydym yn ei dal. Rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth chi i’n helpu i gyflawni dyletswyddau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Byddwn yn casglu’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
-
yn gwneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio gwasanaeth digidol LPA
-
yn talu ffi drwy ddefnyddio cerdyn credyd, cerdyn debyd neu drwy ddebyd uniongyrchol
-
yn cytuno i gymryd rhan yn ein hymchwil i gwsmeriaid
-
yn cysylltu â ni i ofyn cwestiwn
-
yn cwyno
Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:
-
cofrestru eich awrneiaeth arhosol
-
prosesu taliad eich ffi
-
cadw cofrestr o atwrneiaethau arhosol
-
gwneud ymchwil i gwsmeriaid
-
gweinyddu
Rydym yn addo:
-
gofyn dim ond am y wybodaeth sydd ei hangen arnon ni
-
sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac na chaiff neb heb awdurdod fynd ati
-
sicrhau na fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth yn hwy nag y bydd rhaid
-
rhoi’r cyfle ichi ofyn inni newid y wybodaeth sydd gennym amdanoch os ydych yn meddwl ei bod hi’n anghywir
Yn gyfnewid am hynny, rydym yn gofyn i chi:
-
sicrhau bod yr wybodaeth a rowch inni’n gywir
-
dweud wrthym am unrhyw newidiadau perthnasol i’ch sefyllfa bersonol (er enghraifft newid enw, teitl neu gyfeiriad) cyn gynted ag sy’n bosibl
Rhannu gwybodaeth bersonol
Dim ond pan mae’r gyfraith yn dweud y gallwn wneud hynny y byddwn yn rhannu’n gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth i ddiogelu pobl fregus.
Efallai y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyswllt â sefydliadau sy’n cynnal ymchwil ymhlith cwsmeriaid ar ein rhan. Rhaid iddynt wneud yn siŵr y bydd unrhyw wybodaeth a roddwn iddynt yn ddiogel ac na fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall.
Mynediad at wybodaeth bersonol
Dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi. (Gelwir hyn yn ‘gais gwrthych am wybodaeth’.)
Ysgrifennwch atom yn:
Data Access & Compliance Unit, Information Directorate
Ministry of Justice
Post point 10.34
102 Petty France
Llundain SW1H 9AJ.
Bydd angen ichi gynnwys y canlynol:
-
Siec am £10 yn daladwy i HM Paymaster General
-
dau fath o ddogfen adnabod, e.e. llungopi o’ch pasbort neu drwydded yrru neu fil trydan, nwy, treth gyngor gwreiddiol neu arall yn eich enw chi o’r chwe mis diwethaf
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu’n credu ein bod yn dal gwybodaeth anghywir amdanoch, anfonwch e-bost at customerservices@publicguardian.gov.uk