Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 65: cofrestru mwynfeydd a mwynau

Diweddarwyd 6 April 2018

Yn berthnasol i England and Gymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru mwynfeydd a mwynau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol i’r gyfraith ynghylch mwynfeydd a mwynau.

Mae adran 132(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn nodi bod ‘mwynfeydd a mwynau’ yn cynnwys unrhyw haen neu wythïen o fwynau neu sylweddau yn neu o dan unrhyw dir, a phwerau gweithio a chaffael unrhyw fwynau neu sylweddau o’r fath. Mae’r adran honno yn diffinio ‘tir’ i gynnwys ‘…(c) mwynfeydd a mwynau, p’un ai ydynt yn cael eu dal gyda’r arwyneb ai peidio.’

Nid yw’n orfodol cofrestru mwynfeydd a mwynau a ddelir ar wahân i’r arwyneb (adran 4(9) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac eithrio yn achos gwarediad cofrestradwy o’r mwynfeydd a mwynau (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle bo’r mwynfeydd a mwynau yn rhan o’r arwyneb neu frigiad, er enghraifft ar hyd wyneb clogwyn sy’n gwyro i gyfeiriad y môr, mae’r rheolau arferol ynglŷn â chofrestru gorfodol yn gymwys i’r arwyneb.

Mae’n bosibl gwneud cais gwirfoddol i gofrestru mwynfeydd a mwynau ar unrhyw adeg.

Nid yw hawliau mwynfeydd a mwynau a neilltuwyd i’r arglwydd wrth freinio (p’un ai o dan adran 48 o Ddeddf Copi-ddaliad 1852, adran 23 o Ddeddf Copi-ddaliad 1894 neu baragraff 5 Atodlen 12 i Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922) yn dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ond yn hytrach o fewn adran 1(2)(a) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Nid oes modd cofrestru’r cyfryw hawliau gyda’u teitl eu hunain o dan adran 3(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Lle bu’n ddefod y faenor bod gan yr arglwydd hawl i fynd i dir copi-ddaliad y tenant a chymryd y mwynau, gall fod yn bosibl cofrestru’r hawliau a neilltuwyd i’r arglwydd wrth freinio o dan y Deddfau hynny o dan adran 3(1)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, ond dim ond pan fo’r hawliau yn broffidiau à prendre mewn gros. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 16: proffidiau à prendre (cymryd adnoddau naturiol o dir unigolyn arall) i gael manylion am gofrestru proffid à prendre mewn gros.

Yn ôl y gyfraith gyffredinol, fel rhan o uchelfraint y Goron, mae holl fwynfeydd aur ac arian yn eiddo i’r Goron ac eithrio’r achos prin lle maent wedi cael eu rhoi i ddeiliad. Mae petrolewm hefyd yn cael ei freinio yn y Goron yn ei gyflwr naturiol. Mae’r rhan fwyaf o fuddion mewn glo yn cael eu breinio yn yr Awdurdod Glo. Mae’n bosibl y bydd gan yr Awdurdod Glo deitl i fwynfeydd a mwynau eraill hefyd mewn ardaloedd mwynfeydd glo. Felly ni fydd teitlau cofrestredig yn cynnwys unrhyw rai o’r buddion hyn.

2. Cofrestriad cyntaf mwynfeydd a mwynau rhydd-ddaliol a ddelir ar wahân i’r tir

2.1 Sut i wneud cais a chadw dogfennau

Rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf ar ffurflen FR1 ac, yn unol â rheolau 25 a 26 o Reolau Cofrestru Tir 2003 rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

  • cynllun o’r arwyneb y mae’r mwynfeydd a mwynau yn gorwedd oddi tano
  • unrhyw fanylion digonol eraill trwy gynllun neu fel arall fel y gellir adnabod y mwynfeydd a mwynau yn glir
  • manylion llawn unrhyw hawliau sy’n berthynol i weithio’r mwynfeydd a mwynau

Yn ogystal, bydd yn rhaid i chi gyflwyno:

  • dogfennau sy’n profi teitl i’r mwynfeydd a mwynau (gweler Teitl i fwynfeydd a mwynau
  • yr holl chwiliadau pridiannau tir angenrheidiol
  • y ffi (sy’n daladwy yn unol â’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru yn seiliedig ar naill ai’r pris a dalwyd mewn trafodiad diweddar neu dystysgrif o werth y budd sy’n cael ei gofrestru
  • manylion llawn ar ffurflen DI unrhyw fuddion digofrestredig eraill sy’n effeithio ar y mwynfeydd a mwynau fel y pennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu)
  • tystiolaeth, os yw’n briodol, bod y mwynfeydd a mwynau yn cael eu gweithio ar hyn o bryd (gall hyn fod o gymorth wrth ystyried y dosbarth teitl

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2.2 Dosbarth teitl

Mae anawsterau sylweddol yn gysylltiedig â sefydlu teitl da i fwynfeydd a mwynau ac mae’r rhain yn cael eu trafod yn Teitl i fwynfeydd a mwynau. O ganlyniad, gellir cofrestru mwynfeydd a mwynau gyda theitl amodol yn unig, fel rheol.

Bydd yr amod fel a ganlyn:

“AMOD: Nid yw cynnwys pob un neu unrhyw un o’r mwynfeydd a mwynau a phwerau eu gweithio a’u caffael yn y teitl hwn yn effeithio neu yn niweidiol i orfodi unrhyw hawl ystad neu fudd a oedd yn bodoli ynddi cyn [dyddiad cofrestriad cyntaf].”

3. Teitl i fwynfeydd a mwynau

Yn anaml y bydd y gwreiddyn teitl 15 mlynedd arferol yn ddigonol i ganiatáu rhoi teitl llwyr i fwynfeydd a mwynau am y rhesymau canlynol. Mewn llawer o achosion yr anhawster fydd penderfynu a yw unrhyw un o’r sefyllfaoedd a ddisgrifir isod yn berthnasol ai peidio.

3.1 Grantiau’r Goron

Delir yr holl dir yng Nghymru a Lloegr ar ddeiliadaeth o’r Goron. Yn achos rhai grantiau o dir gan y Goron neilltuwyd y mwynfeydd a mwynau a dehonglir unrhyw neilltuo o blaid y Goron yn erbyn y grantî.

3.2 Copi-ddaliad

Math o ddeiliadaeth a oedd yn effeithio ar ardaloedd mawr o’r wlad oedd copi-ddaliad. Fe’i diddymwyd ar 1 Ionawr 1926 gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922. Er mai defod y faenor lle’r oedd y tir o dan sylw a lywodraethai’r sefyllfa o ran perchnogaeth mwynfeydd a mwynau o dan dir copi-ddaliad, yn amlach na dim arglwydd y faenor oedd yn berchen ar yr eiddo yn y mwynau ond ni allai eu gweithio heb ganiatâd y copi-ddeiliad. Hyd yn oed lle bo hawl gan arglwydd y faenor i weithio’r mwynau, ar ôl iddo fynd â’r mwynau, mae’r gofod lle’r oedd y mwynau yn perthyn i ddilynwr mewn teitl y copi-ddeiliaid. (Eardly yn erbyn Granville (1876) 3 Ch. D. 826).

Wrth freinio’r copi-ddaliad (p’un ai o dan Ddeddfau Copi-ddaliad 1841, 1852, 1858 neu 1894 neu o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1922) byddai sefyllfa’r arglwydd a’r tenant o ran mwynfeydd a mwynau fel rheol yn cael ei diogelu trwy neilltuo priodol ymhlyg yn y Ddeddf briodol. Weithiau, fodd bynnag, byddai’r partïon yn delio’n benodol â’r sefyllfa ynghylch mwynfeydd a mwynau wrth freinio. Wrth freinio yn ôl cyfraith gwlad byddai’r mwynfeydd a mwynau fel rheol yn mynd i’r copi-ddeiliad ond mae’n bosibl y byddai’r weithred freinio yn eu trin fel arall. Nid yw bob amser yn amlwg o’r gweithredoedd breinio p’un ai a oedd y breinio yn unol â chyfraith gwlad neu o dan un o’r Deddfau Copi-ddaliad. Breinio oedd y broses o drosi deiliadaeth copi-ddaliad yn deitl rhydd-ddaliol.

3.3 Hen ddemên

Maenor a berthynai i’r Goron yn nyddiau Edward Gyffeswr neu Wiliam I oedd maenor hen ddemên. Gall y sefyllfa o ran perchnogaeth mwynfeydd a mwynau mewn tir a oedd yn hen ddemên fod yn aneglur, oherwydd bod rhydd-ddaliad gan rai tenantiaid mewn hen ddemên tra bod copi-ddaliad gan eraill.

3.4 Hen rydd-ddaliad, rhydd-ddaliad yn ôl defod a hawl tenant

Hen rydd-ddaliad oedd tir nad oedd yn barsel y faenor ond yn cael ei ddal trwy ewyllys yr arglwydd a gellid ei drawsgludo heb angen cydnabyddiaeth. Gan fod y rhydd-ddaliad yn cael ei ddal gan y tenant, roedd y mwynfeydd a mwynau fel arfer yn breinio ynddo.

Yn wahanol i hen rydd-ddaliad, a oedd yn fath o ddeiliadaeth rydd, math o gopi-ddaliad breintiedig oedd rhydd-ddaliad yn ôl defod. Gellid trawsgludo rhydd-ddaliad yn ôl defod trwy ildio a chydnabyddiaeth, neu trwy drawsgludiad cyffredin i’w ddilyn gan gydnabyddiaeth, neu trwy drawsgludiad cyffredin ar y cyd ag ildio a chydnabyddiaeth. Gan ei fod yn fath o gopi-ddaliad, mae’r sefyllfa o ran mwynfeydd a mwynau yr un fath ag o dan Copi-ddaliad.

Math o ddeiliadaeth oedd hawl tenantiaid ac yn fwyaf cyffredin yn siroedd Northumberland, Cumberland a Westmorland. Tra gellid dadlau nad oedd yn rhydd-ddaliad na chopi-ddaliad, roedd yn ddeiliadaeth yn ôl defod a gall perchnogaeth y mwynfeydd a mwynau ddibynnu ar y ddefod benodol sy’n effeithio ar y tir o dan sylw.

3.5 Cyfraith leol

Mewn rhai rhannau o’r wlad gall cwestiynau ynghylch perchnogaeth mwynfeydd a mwynau ddibynnu ar ‘gyfraith leol’, er enghraifft, yn Fforest y Ddena neu ardal yr High Peak. Yn y de orllewin (ac efallai mewn mannau eraill) gall cwestiynau godi ynghylch rhandiroedd cytunol neu rwymo tun. Mae’n bosibl y bydd enghreifftiau eraill.

3.6 Tir caeëdig

Lle bo tir yn destun Deddf neu Ddyfarniad Cau Tir gellid ymdrin â pherchnogaeth y mwynfeydd a mwynau trwy’r Ddeddf neu Ddyfarniad hwnnw. Mae’n bosibl bod y tir wedi’i gau mor bell yn ôl â’r 18fed ganrif ac nad yw’r gweithredoedd diweddarach yn cyfeirio at hyn, ond bydd yn dal i benderfynu materion perchnogaeth.

3.7 Awdurdod Glo

Mewn rhai rhannau o’r wlad mae’n bosibl bod glo a mwynfeydd a mwynau eraill yn breinio yn yr Awdurdod Glo. Lle y mae’n briodol, bydd Cofrestrfa Tir EF fel rheol yn gwneud cofnod yn eithrio o’r teitl unrhyw fwynfeydd a mwynau sy’n breinio yn y Comisiwn Glo yn unol â Deddf Glo 1938. Os, yn anarferol, na fyddwch am i gofnod o’r fath gael ei wneud, bydd disgwyl ichi wneud ymholiadau i’r Awdurdod Glo a chyflwyno unrhyw ddeunydd cefnogol i gyfiawnhau eich cais i eithrio cofnod o’r fath (gweler Rhybuddion).

3.8 Meddiant gwrthgefn

Mae’n bosibl bod gweithio tanddaearol wedi arwain at feddiant gwrthgefn gwythïen neu ardal o fwynau.

4. Cynnwys mwynfeydd a mwynau

Ceir rhagdybiaeth amodol y cynhwysir y mwynfeydd a mwynau yn nheitl cofrestredig y tir arwynebol; mae hyn yn adlewyrchu safle cyfraith gwlad o ran mwynfeydd a mwynau lle bo’r tiroedd arwynebol yn ddigofrestredig.

Fodd bynnag, mae paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu nad oes indemniad i’w dalu o ran mwynfeydd a mwynau oni bai bod nodyn penodol yn y gofrestr i’r perwyl bod teitl iddynt yn cael ei gynnwys.

Gellir cofnodi nodyn o’r fath o ganlyniad i’r canlynol:

  • cais penodol ar gofrestriad cyntaf
  • cais dilynol ar ffurflen AP1

Bydd angen yr un dystiolaeth gefnogol â’r hyn sydd ei hangen i roi teitl llwyr ar gofrestriad cyntaf y mwynfeydd a mwynau (gweler Teitl i fwynfeydd a mwynau a rhaid iddi fod yn ddigonol i fodloni’r cofrestrydd bod y mwynfeydd a mwynau hynny wedi’u cynnwys yn yr ystad gofrestredig (rheol 71 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Lle nad yw’r dystiolaeth o deitl i’r mwynfeydd a mwynau yn ddigonol i roi teitl llwyr, gellir creu teitl amodol ar wahân (adrannau 9(4) a 10(5) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer: Gweler Sut i wneud cais a chadw dogfennau o ran dogfennau a anfonir atom.

Bydd y nodyn yn y gofrestr sy’n estyn indemniad i’r mwynfeydd a mwynau fel rheol ar y ffurf ganlynol:

“SYLWER: I ddibenion paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 cynhwysir [manylion y mwynfeydd a mwynau] yn y teitl hwn.”

Lle nad oes modd rhoi nodyn yn y gofrestr i’r perwyl bod teitl yr ystad gofrestredig yn cynnwys mwynfeydd a mwynau, ond lle bo disgrifiad yr ystad gofrestredig yn cyfeirio at fwynfeydd a mwynau, gall cofnod yn debyg i’r canlynol ymddangos:

“SYLWER: Cofnod a wnaed o dan reol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw’n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i’r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau. Mae’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir wedi’u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i’r graddau y maent wedi’u cynnwys yn [rhif teitl].”

Gellir defnyddio’r cofnod hwn, er enghraifft, lle mynegir trosglwyddiad o ran o ystad gofrestredig i gynnwys y mwynfeydd a mwynau, ond nid yw cofrestr eiddo’r trosglwyddwr yn cynnwys nodyn at ddibenion paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Bydd y cofrestrydd am sicrhau nad yw unrhyw gyfeiriad at fwynfeydd a mwynau yn y disgrifiad yng nghofrestr eiddo’r trosglwyddwr yn nodyn at ddibenion paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

5. Prydlesi o fwynfeydd a mwynau

5.1 Cofrestriad cyntaf

5.1.1 Sut i wneud cais

Rhaid i gais am gofrestriad cyntaf fod ar ffurflen FR1 ac, o dan reolau 25 a 26 o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid cyflwyno’r canlynol ar yr un pryd:

  • cynllun o’r arwyneb y mae’r mwynfeydd a mwynau yn gorwedd oddi tano
  • unrhyw fanylion digonol eraill trwy gynllun neu fel arall fel y gellir adnabod y mwynfeydd a mwynau yn glir
  • manylion llawn unrhyw hawliau sy’n berthynol i weithio’r mwynfeydd a mwynau

Yn ogystal bydd rhaid i chi gyflwyno:

Sylwer: Gweler Sut i wneud cais a chadw dogfennau o ran dogfennau a anfonir atom.

5.1.2 Dosbarth teitl

Lle nad oes modd cadarnhau teitl y prydleswr yn ddigonol, bydd teitl prydlesol da yn cael ei gofrestru. Bydd angen tystiolaeth teitl y prydleswr os yw teitl llwyr i gael ei gofrestru (gweler Teitl i fwynfeydd a mwynau.

5.2 Prydlesi o fwynfeydd a mwynau allan o dir cofrestredig

Lle bo prydles o fwynfeydd a mwynau yn cael ei roi allan o deitl llwyr i fwynfeydd a mwynau, neu lle bo nodyn ar deitl y prydleswr am gynnwys y mwynfeydd a mwynau hynny, gellir cofrestru teitl llwyr. Yn absenoldeb unrhyw nodyn o’r fath a lle bo’r prydleswr yn gofrestredig gyda theitl llwyr, bydd modd cofrestru teitl llwyr i’r ystad brydlesol o hyd ond bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud yn dilyn disgrifiad yr ystad gofrestredig:

“SYLWER: Cofnod a wnaed yn unol â rheol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw’n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i’r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau o dan y tir. Mae’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir wedi’u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i’r graddau y maent wedi’u cynnwys yn [rhif teitl teitl y prydleswr].”

Yn yr achosion hynny lle bo’r prydleswr yn gofrestredig gyda theitl amodol neu deitl meddiannol, caiff teitl prydlesol da ei gofrestru.

6. Trosglwyddiadau allan o dir cofrestredig

Lle bo mwynfeydd a mwynau yn cael eu trosglwyddo allan o deitl cofrestredig i fwynfeydd a mwynau, neu un sy’n cynnwys nodyn ynghylch cynnwys y mwynfeydd a mwynau hynny, caiff y teitl newydd ei gofrestru gyda’r un dosbarth teitl â’r dosbarth teitl sy’n bodoli eisoes. Yn absenoldeb unrhyw nodyn o’r fath, caiff y teitl newydd ei gofrestru gyda’r un dosbarth teitl â’r dosbarth teitl sy’n bodoli eisoes ond bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud yn dilyn disgrifiad yr ystad gofrestredig:

“SYLWER: Cofnod a wnaed yn unol â rheol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw’n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i’r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau o dan y tir. Mae’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir wedi’u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i’r graddau y maent wedi’u cynnwys yn [rhif teitl y trosglwyddwr].”

Lle ceir nodyn mewn teitl cofrestredig sy’n cynnwys mwynfeydd a mwynau’n benodol neu sy’n dawel o ran cynnwys neu eithrio mwynfeydd a mwynau, bydd unrhyw drosglwyddiad o’r teitl hwnnw sy’n eithrio’r mwynfeydd a mwynau yn peri i’r mwynfeydd a mwynau gael eu tynnu o’r tir arwyneb.

O dan yr amgylchiadau hyn:

  • os cyflwynir trosglwyddiad o’r cyfan, caiff teitl newydd ei greu ar gyfer y mwynfeydd a mwynau a gedwir gan y trosglwyddwr
  • os cyflwynir trosglwyddiad o ran, caiff y mwynfeydd a mwynau eu cadw gan y trosglwyddwr yn y teitl cofrestredig

Mewn rhai achosion, megis ystadau sy’n datblygu lle y mae’n debygol y bydd sawl trosglwyddiad o ran, mae’n bosibl y bydd yn briodol cofrestru’r mwynfeydd a mwynau ar gyfer yr holl ystad ar wahân, o dan rif teitl newydd.

7. Rhybuddion

Gallwn gyflwyno rhybudd o’r cais i berchennog teitl arwynebol a gallwn hefyd gyflwyno rhybudd i bartïon eraill, er enghraifft, o dan amgylchiadau priodol, i’r Goron neu’r Awdurdod Glo (rheol 30(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn y sefyllfa anghyffredin lle bo teitl llwyr yn cael ei ystyried, a’r cais mewn ardal mwynfeydd glo ac mae’r ceisydd am hepgor y cofnod eithriedig y cyfeirir ato yn Awdurdod Glo, bydd disgwyl i’r ceisydd wneud ymholiadau ymlaen llaw i’r Awdurdod Glo i gadarnhau a oes ganddo unrhyw hawl i’r mwynfeydd a mwynau sy’n destun cais i’w cofrestru. Gellir gweld manylion ardaloedd mwynfeydd glo ar wefan yr Awdurdod Glo.

8. Indemniad

Mae paragraff 2 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu nad oes unrhyw indemniad i’w dalu o ran mwynfeydd a mwynau oni bai bod nodyn penodol yn y gofrestr i’r perwyl bod teitl iddynt yn gynwysedig.

9. Buddion gor-redol

Mae tir cofrestredig yn ddarostyngedig i unrhyw fuddion gor-redol sy’n bodoli (adrannau 11, 12, 29, 30 ac Atodlenni 1 a 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • budd mewn unrhyw lo neu fwynfa glo, yr hawliau sydd ynghlwm wrth unrhyw fudd o’r fath a hawliau unrhyw berson o dan adrannau 38, 49 neu 51 o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994
  • yn achos tir y cofrestrwyd teitl iddo cyn 1898, hawliau i fwynfeydd a mwynau (a hawliau perthynol) a grëwyd cyn 1898
  • yn achos tir y cofrestrwyd teitl iddo rhwng 1898 ac 1925 yn gynwysedig, hawliau i fwynfeydd a mwynau (a hawliau perthynol) a grëwyd cyn dyddiad cofrestru’r teitl

10. Proffidiau à prendre

Gall rhoi hawl i fynd ar dir a chloddio mwynau fod yn broffid à prendre. Mae modd cofrestru hawl o’r fath os yw mewn gros (gweler cyfarwyddyd ymarfer 16: proffidiau à prendre (cymryd adnoddau naturiol o dir unigolyn arall) a rhaid ei chofrestru os yw’n cael ei rhoi allan o dir cofrestredig, oni bai bod yr hawl sy’n cael ei rhoi yn un y gellir ei chofrestru o dan Ddeddf Tiroedd Comin 19655.

11. Enghreifftiau lle gall teitl llwyr i fwynfeydd a mwynau fod yn briodol

Oherwydd yr anhawster o brofi’r ffeithiau negyddol sy’n angenrheidiol i sefydlu teitl (gweler Teitl i fwynfeydd a mwynau) mae’r enghreifftiau hyn yn seiliedig yn bennaf ar sefyllfaoedd lle bo tystiolaeth glir bod y tir yn gopi-ddaliad gynt.

11.1

Roedd y Goron yn arglwydd maenor (nid maenor hen ddemên – gweler Hen ddemên) ar 1 Ionawr 1926 pan ddaeth Deddf Cyfraith Eiddo1922 i rym. Pryd hynny nid oedd y Goron wedi rhoi unrhyw brydlesi o fwynfeydd a mwynau neu wedi delio fel arall â’r mwynfeydd a mwynau. Deliodd y cytundeb iawndal yr ymrwymwyd iddo gan y Goron a chyn gopi-ddeiliad, nid yn unig â diddymu’r nodweddion maenoraidd a gadwyd gan Ran V Deddf Cyfraith Eiddo 1922 a oedd yn effeithio ar dir y cyn gopi-ddeiliad ond hefyd â diddymu “hawliau’r arglwydd yn neu i unrhyw fwynfeydd a mwynau yn neu o dan y tir dywededig a’r hawliau hela ac eraill sy’n effeithio ar yr un tir a gadwyd gan Ddeuddegfed Atodlen y Ddeddf honno.” Mae’r ceisydd yn gallu profi nad yw’r copi-ddeiliad a’i ragflaenwyr a’i olynwyr yn y teitl wedi delio â’r mwynfeydd a mwynau, neu unrhyw fudd a oedd ganddynt yn y rheiny, ar wahân i’r tir. Nid yw unrhyw fwynau o dan y tir wedi cael eu gweithio.

Yn y sefyllfa hon mae’n amlwg bod gan olynydd y copi-ddeiliad hawl i’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir o dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

11.2

Yn ôl telerau dyfarniad cau mae’r tir yn cael i roi i un person fel copi-ddeiliad ac mae’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir yn cael eu dyfarnu i arglwydd y faenor. Wrth freinio’r tir copi-ddaliad o dan Ddeddf Copi-ddaliad 1894, ni ddeliwyd yn benodol â’r mwynfeydd a mwynau, felly nid oedd unrhyw effaith ar berchnogaeth arglwydd y faenor. Mae’r ceisydd yn gallu profi nad yw’r arglwydd a’i ragflaenwyr a’i olynwyr yn y teitl wedi delio â’r mwynfeydd a mwynau, neu unrhyw fudd a oedd ganddynt yn y rheiny, ar wahân i’r tir. Nid oes unrhyw drydydd parti wedi bod mewn meddiant gwrthgefn y mwynfeydd a mwynau.

Yn y sefyllfa hon mae’n amlwg bod gan olynydd arglwydd y faenor deitl i’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir o dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

11.3

Yn dilyn breinio tir copi-ddaliad o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo1922 ymrwymodd arglwydd y faenor a’r cyn gopi-ddeiliad i gytundeb iawndal ar ffurf gweithred a thrwyddi neilltuwyd yr holl fwynfeydd a mwynau yn a than y tir i arglwydd y faenor. Cyn hyn nid oedd naill ai arglwydd y faenor na’r copi-ddeiliad wedi delio ag unrhyw fudd a oedd gan arglwydd y faenor yn y mwynfeydd a mwynau. Nid oes unrhyw beth i awgrymu y neilltuwyd y mwynfeydd a mwynau ar adeg y grant gwreiddiol gan y Goron.

Yn y sefyllfa hon mae’n amlwg bod gan olynydd arglwydd y faenor deitl i’r mwynfeydd a mwynau o dan y tir o dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

11.4

Gall perchennog tir sy’n gallu profi’r canlynol ddisgwyl i deitl llwyr gael ei gymeradwyo:

  • teitl sy’n deillio yn uniongyrchol o grant y goron a oedd yn cynnwys mwynfeydd a mwynau
  • nad yw’r tir erioed wedi bod yn destun grant copi-ddaliad
  • nad oes gwarediad wedi bod erioed o’r mwynfeydd a mwynau cyn dyddiad y cais am gofrestriad cyntaf

12. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.