Corporate report

Review of support for victims and survivors of terrorism (Welsh)

Updated 26 March 2025

Crynodeb

Mae gwrthderfysgaeth nid yn unig yn ymwneud â’r pwerau sydd gennym i stopio’r rhai sydd eisiau achosi niwed, mae hefyd yn ymwneud â dyletswydd y Llywodraeth i gefnogi’r sawl sy’n cael eu heffeithio gan derfysgaeth. Mae Strategaeth CONTEST 2023 y Llywodraeth yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr wrth ei galon. Mae effaith ddinistriol ymosodiad terfysgol yn cael ei deimlo gan unigolion, eu teuluoedd, a’u cymunedau. Gall amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd ac am wahanol gyfnodau o amser. Mewn nifer o achosion, gall yr effaith bara am oes. Mae effeithiau terfysgaeth wedi’u cysylltu’n annatod â phrofiadau dioddefwyr a goroeswyr o gefnogaeth a dderbyniwyd, gydag effeithiau’n cael eu lliniaru neu eu gwaethygu’n anfwriadol, yn dibynnu ar y math ac ansawdd o gefnogaeth a gafwyd. Dylai gwarantu’r gefnogaeth orau i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth alluogi pobl i adennill eu bywydau a’u hymreolaeth.

Crëwyd Uned Dioddefwyr Terfysgaeth y Swyddfa Gartref (yr Uned) yn 2017 i gydlynu cymorth mewn ymateb i unrhyw ddigwyddiad a ddatganwyd fel terfysgaeth, yn ddomestig neu dramor, sy’n effeithio ar drigolion y DU a dinasyddion Prydain. Mae’r Uned yn gweithio ar draws llywodraeth ganolog, a chyda’r gwasanaethau brys, strwythurau llywodraeth leol a sefydliadau cymorth dioddefwyr yn ôl yr angen, i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael cymorth effeithiol, amserol a chynhwysfawr. Bydd pob dioddefwr a goroeswr, beth bynnag eu cenedligrwydd, yn cael eu cefnogi ar ôl ymosodiad yn y DU.

Ers mis Hydref 2020, mae’r Uned wedi ariannu sefydliadau i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth:

  • Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn rhedeg Canolfan Gyswllt Genedlaethol 24/7 er mwyn  rhoi cymorth uniongyrchol, ymarferol a hawdd ei gyrraedd i ddioddefwyr a goroeswyr. Bydd dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu cyfeirio at Cymorth i Ddioddefwyr yn gyntaf ar gyfer Asesiad Anghenion Digwyddiadau Terfysgol (TINA) cychwynnol llawn ar ddechrau eu taith. Bydd hyn yn sicrhau bod ystod lawn anghenion yr unigolyn yn cael eu nodi a’u datrys, gan arwain at well cefnogaeth yn cael ei ddarparu. Mae TINAs yn eiddo i ddioddefwyr a goroeswyr eu hunain, ac yn teithio gyda nhw wrth iddyn nhw gael mynediad at bob sefydliad cymorth yn y llwybr, sy’n negyddu’r angen iddyn nhw orfod ailadrodd eu straeon bob tro.
  • Mae Ymddiriedolaeth GIG De Llundain a Maudsley (SLAM) yn rhoi cymorth iechyd meddwl clinigol arbenigol, wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys allgymorth rhagweithiol, sgrinio ac asesu dioddefwyr a goroeswyr, ac atgyfeiriadau ymlaen at ymyriadau lleol neu arbenigol, yn ôl ar angen.
  • Mae Sefydliyd Tim Parry Jonathan Ball yn hwyluso digwyddiadau grŵp cymheiriaid a rhwydwaith cymorth cymheiriaid hirdymor, gan ddod â dioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth ynghyd gyda phrofiadau a rennir i gefnogi ei gilydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi cymorth cyflym a chynhwysfawr i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth. Mae’r Uned wedi cynnal adolygiad o’r pecyn cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth, i asesu’r bylchau sy’n bodoli mewn cymorth yn gynhwysfawr ac i nodi ffyrdd o ddiwallu anghenion esblygol dioddefwyr a goroeswyr. Mae crynodeb o’r canfyddiadau wedi’i gynnwys yn y ddogfen hon.

Cyflwyno’r Adolygiad

Asesodd yr adolygiad, a gyflwynwyd gan Uned Dioddefwyr Terfysgaeth y Swyddfa Gartret, y cymorth presennol a ddarperir, gan gynnwys adrannau llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, a darparwyr trydydd sector. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o ymgysylltiad uniongyrchol â dioddefwyr a goroeswyr ymosodiadau terfysgol domestig a thramor, adolygiad llenyddiaeth ffynhonnell agored, holiaduron ar-lein i randdeiliaid ar draws y llywodraeth a’r trydydd sector a dysgu o wledydd eraill. Roedd yr adolygiad yn cydnabod na allai gyfrif am brofiad pob dioddefwr a goroeswr, er bod ymdrech wedi’i wneud i gasglu sylfaen dystiolaeth helaeth ac ymgysylltu ag ystod eang o gyfranwyr.

Mae’r Uned yn diffinio dioddefwyr a goroeswyr ymosodiadau terfysgol fel unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei effeithio gan ymosodiad terfysgol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi’u hanafu’n gorfforol, y rhai yr effeithiwyd arnynt yn feddyliol, y rhai a welodd neu a gafodd profedigaeth gan ymosodiad, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cefnogi unigolion yr effeithir arnynt mewn capasiti personol neu broffesiynol (er enghraifft, ffrindiau a theulu, ac ymatebwyr cyntaf).

Ni allai’r adolygiad fod wedi digwydd heb nifer fawr o randdeiliaid yn cymryd rhan, gan ddarparu myfyrdodau gonest, egluro prosesau a pholisïau cymhleth yn aml, a rhoi adborth. Dylid diolch i bawb a gymerodd ran yn yr adolygiad a thalwyd teyrnged arbennig i’r dioddefwyr a’r goroeswyr a rannodd eu profiadau a chynigiodd eu cymorth.

Canfyddiadau Allweddol

Nododd yr adolygiad un ar ddeg thema o faterion sy’n wynebu dioddefwyr a goroeswyr, sy’n gysylltiedig â chymorth pwrpasol, cyfathrebu, cymorth iechyd meddwl, cymorth iechyd corfforol, cymorth ariannol, cymorth tramor, plant a phobl ifanc, rhyngweithiadau â’r cyfryngau, ymateb cyntaf a Swyddogion Cyswllt Teulu, cymorth cyfreithiol, a chydnabyddiaeth. Cyflwynodd yr adolygiad nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r materion thematig hyn, wedi’u cynllunio i wella’r pecyn cymorth cyffredinol. Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion allweddol wedi’u crynhoi isod.

Cymorth pwrpasol

Canfu’r adolygiad mai mater allweddol sy’n wynebu dioddefwyr a goroeswyr yw diffyg cymorth i lywio pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw, sut y gallan nhw gael mynediad iddo, ac o ble y gallan nhw gael help i wneud hynny. Dylid gwneud mwy i brofi ac ymarfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth, ac i sicrhau bod gwersi a ddysgwyd yn cael eu gweithredu a’u gweithredu. Er mwyn sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu diwallu, dylai negeseuon cyhoeddus fod yn syml, yn gyson, ac yn pwyntio tuag at un gwasanaeth cymorth fel pwynt cyswllt cychwynnol.

Felly, mae’r adolygiad wedi argymell y dylid creu canolfan gymorth pwrpasol, gyda gweithwyr achos i weithredu fel un pwynt cyswllt (SPOC).

Cyfathrebiadau

Mae cyfathrebu yn thema gyffredinol trwy gydol yr adolygiad. Canfu’r adolygiad fod yna ddiffyg cyfathrebu clir a rhagweithiol ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys ar gymorth iechyd meddwl ac iawndal, a lle gellir dod o hyd i’r cymorth hwn, yn syth ar ôl ymosodiad ac yn y tymor hirach. Mae angen cyfathrebu mwy rheolaidd a chydgysylltiedig. Mae dioddefwyr a goroeswyr nad ydynt yn cael eu neilltuo i Swyddog Cyswllt Teulu yn llai tebygol o dderbyn cyfathrebu cyson ar bynciau fel y broses gyfiawnder a phen-blwyddi.

Gwnaeth yr adolygiad gyfres o argymhellion, gan gynnwys cyflwyno strategaeth gyfathrebu well sy’n cwmpasu pecynnau cymorth pwrpasol a chyfathrebiadau adfywiol i gryfhau ymwybyddiaeth o gefnogaeth a sicrhau bod y pecyn cymorth yn hygyrch i ddioddefwyr a goroeswyr.

Cymorth Iechyd Meddwl

Mae llawer o ddioddefwyr a goroeswyr yn profi effeithiau seicolegol o natur amrywiol a difrifoldeb yn dilyn ymosodiad, gan gynnwys anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD). Canfu’r adolygiad fod dioddefwyr a goroeswyr yn cael trafferth cael mynediad at driniaeth trawma amserol ac arbenigol trwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), a all effeithio ar eu rolau o ddydd i ddydd ac mae hyn wedi arwain llawer i gyrchu ffyrdd o ariannu triniaeth iechyd meddwl yn breifat. Nododd yr adolygiad hefyd fod yn rhaid cryfhau cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yr effeithir arnyn nhw gan derfysgaeth.

Felly, roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion ar:

  • Cyhoeddi canllawiau ar ffurf pecyn cymorth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dilyn ymosodiad, gan gynnwys gwybodaeth am y mathau ehangach o gymorth sydd ar gael i gleifion i’w cyfeirio.
  • Cwmpasu hyfywedd ehangu’r cynnig cymorth presennol i gynnwys triniaeth iechyd meddwl, yn ogystal â sgrinio ac asesu, ar gyfer oedolion a phlant a phobl ifanc.

Cymorth Iechyd Corfforol

Cofnododd yr adolygiad fod dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi profi anafiadau corfforol yn gyffredinol yn cael profiad cadarnhaol o’r gofal maen nhw’n ei dderbyn yn lleoliad y digwyddiad ac yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae angen canllawiau clir ynghylch beth i’w ddisgwyl ar ôl rhyddhau, gwell cyfeiriadau at gefnogaeth ehangach a mwy o barhad gofal mewn triniaeth hirdymor. Profwyd newid yn ansawdd a chysondeb gofal ar ôl rhyddhau yn bennaf gan ddioddefwyr a goroeswyr y tu allan i ardaloedd metropolitan y DU.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion ar:

  • Datblygu canllawiau arfer gorau yn bwrpasol i ysbytai, gan gynnwys gwybodaeth am y mathau ehangach o gymorth sydd ar gael i gleifion, a chynlluniau gofal lleol cynhwysfawr i gleifion.
  • Ystyried cylch gwaith canolfan cymorth bwrpasol i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth unwaith y bydd dioddefwyr yn cael eu rhyddhau’n ddiogel o’r ysbyty, a chymorth emosiynol ac ymarferol parhaus wrth iddynt addasu i fywyd cartref.

Cymorth ariannol

Tystiolwyd diffyg ymwybyddiaeth ac eglurder ar ble y gall dioddefwyr a goroeswyr gael mynediad at gymorth ariannol, yn enwedig yn syth ar ôl ymosodiad. Yn benodol, dywedodd tystion ymosodiadau tramor a’r rhai a ddioddefodd anafiadau, nad oedden nhw’n ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael. Ar ben hynny, canfu’r adolygiad fod dioddefwyr a goroeswyr yn cael trafferth cael mynediad at gymorth ariannol ac iawndal amserol a digonol.

Argymhellodd yr adolygiad:

  • Egluro a chyfeirio’n glir canllawiau ar gymorth ariannol ac iawndal i ddioddefwyr a goroeswyr, fel rhan o’r strategaeth gyfathrebu uwch.
  • Gwaith pellach gyda rhanddeiliaid ar draws y system i wella profiad dioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth wrth gael mynediad at gymorth ariannol ac iawndal.

Cymorth Tramor

Datgelodd yr adolygiad sawl mater sy’n effeithio’n benodol ar ddioddefwyr a goroeswyr ymosodiadau terfysgol dramor. Roedd y canfyddiadau yn cynnwys bod rhai tystion o ymosodiadau tramor yn fwy tebygol o fod yn anymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae angen cyhoeddi cyfathrebiadau i’r holl ddioddefwyr a goroeswyr yn gyflymach ac yn fwy rheolaidd, a dylai lefel y gefnogaeth a ddarperir fod yn gyson waeth beth fo’r wlad lle digwyddodd yr ymosodiad. Dylai canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfreithiau, arferion a gweithdrefnau gwlad benodol fod yn glir ac yn dosturiol, a dylid rhoi gwybodaeth rhagweithiol i ddioddefwyr a goroeswyr ynglŷn ag achosion cyfreithiol sy’n digwydd yn y wlad letyol, gan gynnwys mynediad at ddogfennau wedi’u cyfieithu, i’r graddau y mae’r wlad yn caniatáu.

Gwnaeth yr adolygiad gyfres o argymhellion, gan gynnwys:

  • Archwilio’r sianeli mwyaf effeithiol i gyrraedd dioddefwyr a thystion gyda gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys y sawl sydd ddim yn ceisio am gymorth consylaidd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn dilyn ymosodiad.
  • Parhau i gynnal asesiadau arferol o allu a pharodrwydd i ymateb i ddigwyddiadau dramor, gan gynnwys cymorth dioddefwyr a goroeswyr.
  • Archwilio ffyrdd o wella canllawiau ar ymgysylltu ag achosion cyfiawnder dramor, gan gynnwys goresgyn rhwystrau iaith.

Plant a Phobl Ifanc

Nododd yr adolygiad set o faterion sy’n ymwneud yn arbennig â phlant a phobl ifanc a bod angen cryfhau’r gefnogaeth i’r garfan hon. Mae Plant a phobl ifanc yn ei chael hi’n anodd i cael mynediad at gymorth iechyd meddwl sy’n briodol i’w grŵp oedran ac mae rhai yn teimlo anghydbwysedd pŵer gydag oedolion. Mae llawer o Blant a Phobl Ifanc yn dibynnu ar eu rhwydweithiau cymorth personol i gynorthwyo adferiad, gydag ysgolion yn chwarae rhan fawr yn hyn. Mae mynediad dioddefwyr a goroeswyr at gymorth arbenigol yn amrywio, ac mae rhai yn ‘cwympo trwy’r bylchau’ wrth bontio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion.

Yn unol â’r canfyddiadau hyn, gwnaeth yr adolygiad gyfres o argymhellion, gan gynnwys:

  • Gwella’r cynnig cymorth cymheiriaid ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, nodi ffyrdd posibl o gael mynediad at rwydweithiau cymorth trydydd sector, a gwella gwelededd cymorth trwy ddulliau creadigol, fel cyfryngau cymdeithasol.
  • Ystyried rôl canolfan gymorth bwrpasol i helpu Plant a Phobl Ifanc sydd ag anghenion ychwanegol hirdymor i ddysgu sgiliau newydd ac ennill diddordebau newydd y tu allan i’r amgylchedd addysgol.
  • Galluogi gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a phlant i ganiatáu parhad gofal pan fydd dioddefwyr a goroeswyr yn troi’n 18 oed.
  • Cryfhau canllawiau i ysgolion drwy becyn cymorth pwrpasol a gwella ymgysylltiad ag Awdurdodau Lleol i sicrhau eu bod yn ddigonol ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr ac yn gallu cyfeirio’n gywir at wasanaethau cymorth yn syth ar ôl digwyddiad ac yn y tymor hirach.

Rhyngweithiadau Cyfryngau

Adroddodd dioddefwyr a goroeswyr fod ymddygiad allfeydd cyfryngau yn effeithio ar eu lles yn dilyn ymosodiad. Amlygodd yr adolygiad y dylai dioddefwyr a goroeswyr gael mwy o gefnogaeth wrth ymdrin â diddordeb gan y cyhoedd a’r cyfryngau, a chanllawiau cynhwysfawr yn y tymor byr a hir. Mae angen i ganllawiau fod ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg yn dilyn yr ymosodiad.

Argymhellodd yr adolygiad ddatblygu canllawiau cryfach ar y camau ymarferol y dylid eu cymryd, er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu cefnogi yn eu rhyngweithio â’r cyfryngau, yn dilyn ymosodiad terfysgol ac o amgylch cerrig milltir allweddol fel cwestau, ymchwiliadau, a phen-blwyddi digwyddiadau.

Ymatebwyr Cyntaf a Swyddogion Cyswllt Teulu

Adroddodd yr adolygiad fod mwyafrif y dioddefwyr a’r goroeswyr sy’n derbyn cymorth gan ymatebwyr cyntaf yn fodlon â’r gefnogaeth hon. Mae dioddefwyr a goroeswyr yn gweld y gefnogaeth a gynigir gan Swyddogion Cyswllt Teulu yn arbennig o gadarnhaol a defnyddiol. Serch hynny, mae rhai dioddefwyr a goroeswyr yn profi problemau sy’n ymwneud â chamgyfathrebu ynghylch prosesau cyfreithiol, ac fe wnaethon nhw adrodd anawsterau addasu pan ddaeth yr amser i’w Swyddog Cyswllt Teulu ymddiswyddo.

Yn unol â’r canfyddiadau hyn, roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion i:

  • Cryfhau hyfforddiant i’r sawl sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys datblygu pecyn cymorth pwrpasol i wella cysondeb rhannu gwybodaeth.
  • Ymgorffori profiadau byw dioddefwyr a goroeswyr mewn hyfforddiant Swyddogion Cyswllt Teulu Gwrthderfysgaeth; rhywbeth sydd bellach yn ei le.

Cymorth Cyfreithiol

Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn achosion cyfreithiol yn hynod o bwysig i nifer fawr o ddioddefwyr a goroeswyr. Canfu’r adolygiad fod y rhai a fynychodd achos cyfreithiol yn gyffredinol yn teimlo’ eu bod wedi cael eu cefnogi’n dda gan yr heddlu a staff y llys. Fodd bynnag, nododd yr adolygiad yr angen i roi negeseuon digonol a chyson ar draws asiantaethau’r llywodraeth ynglŷn ag achosion cyfreithiol a phresenoldeb yn y llysoedd, ac i ystyried cymorth pellach a chynrychiolaeth gyfreithiol dramor.

Gwnaeth yr adolygiad gyfres o argymhellion yn ymwneud â chymorth cyfreithiol, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod gan yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr ddealltwriaeth gyson o’r rolau a’r prosesau cyfreithiol.
  • Canllawiau adfywiol i sicrhau eglurder ar y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, cyfreithiol a seicolegol.

Cydnabyddiaeth

Nododd yr adolygiad fod cydnabyddiaeth o brofiadau dioddefwyr a goroeswyr o arwyddocâd mawr. Er bod pen-blwyddi digwyddiadau yn ffynhonnell anhawster dro ar ôl tro i lawer o ddioddefwyr a goroeswyr, mae nodi’r dyddiadau hyn hefyd yn ffordd o gydnabod eu profiadau a thalu teyrnged i’r rhai a gollwyd yn anffodus i derfysgaeth. Canfu’r adolygiad y gallai fod mwy o gysondeb yn y modd y cyfathrebir â dioddefwyr a goroeswyr yn y cyfnod cyn pen-blwyddi digwyddiadau.

Argymhellodd yr adolygiad gynnal ymgynghoriad ar weithredu Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr a Goroeswyr Ymosodiadau Terfysgol Tramor a Domestig yn y DU. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, dylid archwilio dewis dioddefwyr a goroeswyr o enw, dyddiad, terminoleg a ffyrdd o goffáu.

Casgliad

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n ddwfn i roi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth a cafwyd gwelliannau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, canfu’r adolygiad fod angen i’r gefnogaeth bresennol fynd ymhellach; i gyfathrebu’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr yn well, helpu i lywio drwyddo, ac i sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyfeirio at yr anghenion amrywiol a’r profiadau unigryw.

Nododd yr adolygiad sawl ffordd o wella’r pecyn cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys symleiddio’r daith gymorth, lleihau’r angen i ddioddefwyr a goroeswyr gydlynu eu cefnogaeth eu hunain, a chynnig eglurder ar y gefnogaeth maen nhw’n gymwys i’w gael ar adeg pan fyddan nhw’n prosesu trawma.

Bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad i adeiladu ar y cynnig cymorth presennol. Y cam cyntaf fydd gweithredu canolfan cymorth bwrpasol i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth. Mae’r argymhelliad hwn yn tanategu nifer o’r meysydd arfaethedig i’w gwella a welir yn yr adolygiad, a bydd yn sefydlu un ffynhonnell ar gyfer yr holl gyfathrebu â dioddefwyr a goroeswyr yn y tymhorau agos a hir.

Yr ail gam, wrth gydnabod canfyddiadau’r adolygiad ar bwysigrwydd talu teyrnged i’r sawl a gafodd eu heffeithio gan derfysgaeth, fydd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chynnal Diwrnod Cenedlaethol i Ddioddefwyr a Goroeswyr Ymosodiadau Terfysgol.

Roedd ehangder yr adolygiad yn gynhwysfawr ac mae rhai o’r canfyddiadau’n gymhleth. Mae’r adolygiad wedi cynhyrchu ystod eang o argymhellion ar draws y themâu a nodwyd a bydd Uned Dioddefwyr Terfysgaeth y Swyddfa Gartref yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn cefnogi’r gwaith hwn.

Unwaith eto, diolch yn ddiffuant i’r bobl a gefnogodd yr adolygiad, gan gynnwys y dioddefwyr a’r goroeswyr a rannodd eu profiadau yn ddewr.