Cyfarwyddyd ymarfer 62A: hawliau i olau neu aer
Cyhoeddwyd 15 July 2024
Yn berthnasol i England and Gymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cefndir
Gall yr hawl i gael golau naturiol trwy agoriad diffiniedig (megis ffenestr neu ffenestr do) fod yn fath o hawddfraint. Fodd bynnag, mae rheolau arbennig yn gysylltiedig â hawliau o’r fath.
Yn aml, rhaid cofnodi:
- hawddfreintiau i gael golau neu aer
- cyfamodau cyfyngu yn ymwneud â golau neu aer, a/neu
- osodiadau’n ymwneud â golau neu aer
Rhaid inni hefyd ystyried ychwanegu, newid neu ddileu cofnodion lle mae partïon yn cytuno i amrywio neu ryddhau hawliau i olau neu aer.
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn amlinellu sut mae CTEF yn ymdrin â cheisiadau o’r fath. Nid yw’n gyfarwyddyd cyffredinol i’r gyfraith yn ymwneud â hawliau o’r fath.
I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o hawddfraint, gweler:
- cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn
- cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau
2. Cofrestru hawl i olau neu aer
Fel unrhyw hawddfraint arall, gall hawl i olau godi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- grant datganedig
- goblygiad
- presgripsiwn
2.1 Grant datganedig ac ymhlyg
Lle mae gweithred yn rhoi neu’n neilltuo yn ddatganedig neu’n ymhlyg hawliau i olau neu aer, byddwn yn trin y rhoi neu’r neilltuo fel y byddem yn trin rhoi neu neilltuo unrhyw hawddfraint arall. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau.
2.2 Hawliau i olau neu aer a hawliwyd trwy bresgripsiwn
Gellir caffael hawl i olau neu aer trwy ddefnydd hir:
- trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad
- o dan yr athrawiaeth grant modern coll, neu
- o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832
Mae presgripsiwn cyfraith gwlad a’r athrawiaeth grant modern coll yn gweithredu ar gyfer hawliau i olau neu aer fel y maent ar gyfer hawddfreintiau eraill. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o geiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru hawliadau i olau trwy bresgripsiwn yn dibynnu ar Ddeddf Presgripsiwn 1832 (gweler Deddf Presgripsiwn 1832). Yn unol â hynny, nid ydym yn trafod presgripsiwn cyfraith gwlad na’r athrawiaeth grant modern coll ymhellach yn y cyfarwyddyd hwn. I gael rhagor o wybodaeth amdanynt, gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn yn nodi’r ffurfiau priodol o gais i warchod hawddfraint trwy bresgripsiwn a hawliwyd ynghyd â’r dystiolaeth sy’n ofynnol gyda cheisiadau o’r fath. Dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd â’r canlynol wrth ymdrin â hawliadau trwy bresgripsiwn i hawliau i olau neu aer.
2.2.1 Deddf Presgripsiwn 1832
Mae adran 3 o Ddeddf Presgripsiwn 1832 yn cynnwys darpariaethau arbennig sy’n gymwys i hawliau i olau. Mae’r rhain yn datgymhwyso rhai o’r cyfyngiadau sydd fel arall yn gymwys i gaffael hawddfreintiau trwy bresgripsiwn o dan y Ddeddf. Yn benodol:
- nid oes unrhyw ofyniad bod defnydd fel hawl (Collis v Home and Colonial Stores [1904] A.C. 179). Ar yr amod y gall ceisydd ddangos 20 mlynedd o ddefnydd parhaus cyn ei gais, gall hawl godi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832;
- rhaid i unrhyw gydsyniad fod yn ysgrifenedig er mwyn atal hawl i olau rhag cronni. Nid yw caniatâd llafar yn atal hawl rhag codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 (Plasterers Co v Parish Clerks Co (1851) 6 Exch. 630)
- nid oes yn rhaid i’r mwynhad fod gan neu yn erbyn perchennog rhydd-ddaliol. Yn unol â hynny:
- gall tenant gaffael hawddfraint dros dir arall y mae ei landlord yn berchen arno, ac
- nid oes gwahaniaeth a oedd y tir sy’n dwyn baich yn destun tenantiaeth yn ystod y cyfnod perthnasol o 20 mlynedd
- nid oes yn rhaid cael grantwr galluog i roi’r hawl
Fodd bynnag, ni fydd unrhyw hawl i olau yn codi o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 lle oedd y tir sy’n dwyn budd a baich ym meddiant yr un person am y cyfan neu ran o’r cyfnod perthnasol o 20 mlynedd (Harbidge v Warwick (1849) 3 Exch. 552).
Nid oes modd caffael hawliau i olau o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832 dros dir y Goron (Perry v Eames [1891] 1 Ch. 658).
2.2.2 Rhybuddion rhwystr i olau
Mae’n bosibl peri i atal cyfnod y presgripsiwn rhag rhedeg trwy gael tystysgrif gan yr Uwch Dribiwnlys a chofrestru rhybudd rhwystr i olau fel pridiant tir lleol, yn unol â Deddf Hawliau Goleuni 1959. Mae rhybudd o’r fath, ar ôl ei gofrestru, yn gweithredu fel rhwystr tybiannol i gael defnydd i olau i’r adeilad trech ar draws y tir caeth ac yn atal amser rhag rhedeg at ddibenion hawliad hawddfraint trwy bresgripsiwn:
- hyd nes y caiff y cofrestriad ei ddileu
- am y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau gyda’r dyddiad cofrestru, neu
- tan y dyddiad dod i ben (yn achos tystysgrif dros dro a gyhoeddwyd o dan adran 2(3)(b) o Ddeddf 1959)
Yn unol â hynny, yn ychwanegol at y dystiolaeth y cyfeirir ati yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn, pan fyddwch yn gwneud cais i:
- gofrestru hawl i olau neu aer trwy bresgripsiwn, neu
- gofnodi rhybudd a gytunwyd o hawl o’r fath pan nad yw perchennog y tir sy’n dwyn baich yn cydsynio iddo gael ei gofnodi
rhaid ichi ddarparu chwiliad pridiannau tir lleol sy’n dangos naill ai:
- nid yw unrhyw rybudd rhwystr i olau yn effeithio ar yr eiddo, neu
- lle mae rhybudd o’r fath yn effeithio ar yr eiddo:
- daeth y rhybudd i rym ar ôl i’r hawl trwy bresgripsiwn godi (yn achos hawliad o dan yr athrawiaeth grant modern coll), neu
- yn achos hawliad o dan Ddeddf Presgripsiwn 1832, bod y rhybudd wedi cael ei gofrestru llai na blwyddyn cyn dyddiad eich cais a mwy nag 19 mlynedd ac 1 diwrnod ar ôl i’r defnydd ddechrau
I gael rhagor o fanylion am rybuddion rhwystr i olau, eu cofrestru, eu dileu a’u hamrywio, lle mai Cofrestrfa Tir EF yw’r awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol perthnasol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol.
3. Cyfamodau cyfyngu sy’n gysylltiedig â golau neu aer
Weithiau, bydd gweithredoedd yn cynnwys cyfamodau cyfyngu sy’n gysylltiedig â golau neu aer. Enghraifft fyddai cyfamod i beidio â rhwystro llif golau neu aer i’r ffenestri yn yr adeiladau sydd eisoes ar dir y gwerthwr. Rydym yn trin y rhain fel y byddem yn trin unrhyw gyfamod arall.
3.1 Cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod mewn perthynas â chyfamodau cyfyngu a roddwyd gan denant i’w landlord yn gysylltiedig â’r tir a brydleswyd (adran 33(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Lle mae landlord yn rhoi cyfamodau cyfyngu mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.
3.2 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill – tir sy’n dwyn baich wedi ei gofrestru
Lle mae’r cyfamodau cyfyngu yn effeithio ar ystad gofrestredig ac mewn gweithred sy’n cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad neu weithred hawddfraint, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wahân i nodi’r cyfamodau yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.
Lle mae gweithred gyfamod annibynnol neu lle nad yw’r cyfamodau wedi eu cofrestru fel arall ac mae’r tir sy’n dwyn baich yn gofrestredig, bydd yn rhaid ichi wneud cais i’w nodi yn erbyn teitl y tir sy’n dwyn baich. Gallwch wneud cais am:
- rybudd a gytunwyd gan ddefnyddio ffurflen AN1, neu
- rybudd unochrog gan ddefnyddio ffurflen UN1
Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn cynnwys manylion pellach am sut i wneud cais.
Os yw’ch cais i nodi’r cyfamodau cyfyngu yn llwyddiannus, byddwn naill ai yn:
- nodi’r cyfamodau yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu’n
- ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi o’r weithred
Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.
3.3 Cyfamodau cyfyngu mewn gweithredoedd eraill – yr ystad sy’n dwyn baich yn ddigofrestredig
Lle mae’r ystad sy’n ddarostyngedig i’r cyfamodau cyfyngu yn ddigofrestredig, dylech gofrestru pridiant tir dosbarth D(ii) yn erbyn enw(au) perchnogion yr ystad. Mae cyfarwyddyd ymarfer 63: y cofrestri pridiannau tir a’r gofrestr credydau amaethyddol: cofrestru, chwiliad swyddogol, copi swyddfa a dileu yn cynnwys gwybodaeth bellach am hyn.
Gallwch hefyd gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf mewn perthynas â’r ystad yr effeithir arni. Nid yw rhybuddiad o’r fath yn gwarchod y cyfamodau ond bydd yn sicrhau eich bod yn cael rhybudd am unrhyw gais am gofrestriad cyntaf yr ystad yr effeithir arni. Mae cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn cynnwys manylion pellach.
Ni allwn wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n dangos bod eiddo yn cael budd o gyfamod cyfyngu.
4. Gosodiadau ynghylch golau neu aer
Mae gweithredoedd yn aml yn cynnwys gosodiadau sydd â’r nod o atal eiddo rhag caffael hawliau i olau neu aer yn y dyfodol, er enghraifft, datganiad sy’n nodi bod gan y defnydd i olau neu aer i’r eiddo ganiatâd trosglwyddwr. O dan reolau 36 (ar gofrestriad cyntaf) a 76 (mewn achosion eraill) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wneud nodyn o hyn yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir yr effeithir arno.
4.1 Gosodiadau mewn prydlesi
Nid ydym yn gwneud unrhyw gofnod yn y gofrestr o osodiadau sydd wedi eu cynnwys mewn prydlesi. Mae hyn oherwydd bod y brydles wedi ei hymgorffori yn y gofrestr ac yn dod yn rhan ohoni (R (on the application of HCP (Hendon) Ltd) v Chief Land Registrar [2020] EWHC 1278 (Admin)). Fodd bynnag, fel arfer rydym yn cadw copi o’r brydles, fel y gall y rhai sydd â budd weld y gosodiad.
Lle mae’r teitl y rhoddir y brydles ohono yn ddarostyngedig i gofnod mewn perthynas â gosodiad o’r fath, gallwn ddyblygu’r cofnod hwnnw ar y teitl ar gyfer y brydles newydd.
4.2 Cofrestriad cyntaf
Lle rydym yn gweld bod eiddo rhydd-ddaliol yn ddarostyngedig i osodiad yn ymwneud â golau neu aer ar gofrestriad cyntaf, fel arfer byddwn naill ai yn:
- nodi’r gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu’n
- ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys gosodiadau ac yn ffeilio copi o’r weithred
Fodd bynnag, lle mae’r gosodiad wedi ei gymysgu â chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau sydd wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wahân yn y gofrestr eiddo.
4.3 Gwarediadau a deliadau eraill â thir cofrestredig
Lle mae’r gosodiad mewn gweithred (ac eithrio prydles) sy’n cael ei chofrestru, megis trosglwyddiad, nid oes yn rhaid ichi wneud cais ar wahân i gofnodi’r gosodiad yng nghofrestr(i) y tir yr effeithir arno ar yr amod bod yr holl rifau teitl yr effeithir arnynt wedi eu cynnwys yn y cais.
Lle nad yw’r weithred sy’n cynnwys y gosodiad yn cael ei gofrestru, gallwch wneud cais i gofnodi’r gosodiad. Gwnewch yn siwr fod y cais yn cynnwys trafodiad ‘Gosodiadau’, a:
- chopi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o’r weithred berthnasol
- y ffi berthnasol
Os yw’r cais yn gywir, fel arfer byddwn naill ai yn:
- nodi’r gosodiad yn y gofrestr (weithiau byddwn yn defnyddio atodlen at y dibenion hyn), neu’n
- ychwanegu cofnod at y gofrestr yn datgan bod y weithred yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ac yn ffeilio copi o’r weithred
Fodd bynnag, lle mae’r gosodiad wedi ei ymgorffori gyda chyfamodau cyfyngu eraill neu hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo rydym yn eu nodi yn y gofrestr, byddwn yn cynnwys y gosodiad gyda nhw ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod ar wahân yn y gofrestr eiddo.
4.4 Y teitl sy’n cael budd y gosodiad
Yn flaenorol, roedd rheol 197 o Reolau Cofrestru Tir 1925 yn caniatáu inni wneud cofnod ar y gofrestr ar gyfer y teitl oedd yn cael budd y gosodiad. Nid oes unrhyw beth cyfatebol yn Rheolau Cofrestru Tir 2003. Yn unol â hynny, nid ydym yn gwneud cofnod o’r fath mwyach.
Lle rydym yn dod ar draws cofnod a wnaed o dan Reolau Cofrestru Tir 1925, ni fyddwn yn ei ddileu. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ei gario ymlaen i unrhyw deitl newydd sy’n cael ei roi o’r teitl buddiol (er enghraifft wrth drosglwyddo rhan neu brydles).
5. Rhyddhau hawliau i olau neu aer
Gall hawliau i olau neu aer ddod i ben fel unrhyw hawddfraint arall. Mae cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau yn cynnwys manylion pellach am ddulliau amrywiol a sut i adlewyrchu hyn ar y gofrestr. Wrth geisio cofrestru gweithred rhyddhau hawliau i olau neu aer, dylech ddarllen y cyfarwyddyd hwnnw ar y cyd â’r canlynol.
5.1 Rhyddhad neu amrywiad o hawliau i olau neu aer wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles
Lle bo’r rhyddhad neu’r amrywiad yn effeithio ar hawliau wedi eu rhoi neu eu neilltuo mewn prydles, ar yr amod bod y cais yn gywir, byddwn yn adlewyrchu’r amrywiad yn nheitlau’r landlord a’r tenant. Mae cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig yn rhoi manylion pellach am sut rydym yn trin gweithredoedd sy’n newid prydlesi cofrestredig.
5.2 Rhyddhad llwyr ac mae’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr
Lle mae’r weithred yn rhyddhau’n llwyr unrhyw hawl i olau ac mae’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr, byddwn naill ai yn:
- dileu unrhyw gyfeiriad at yr hawl o’r gofrestr, neu’n
- ychwanegu cofnod at y gofrestr berthnasol gan ddefnyddio’r geiriad canlynol:
“Trwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PARTÏON] mae’r [DISGRIFIAD O’R HAWL] y cyfeirir ati uchod wedi cael ei diddymu.
NODYN: Copi yn y ffeil.”
Fel rheol, byddwn yn dewis yr opsiwn olaf lle mae’r cofnod neu’r ddogfen berthnasol yn cynnwys hawddfreintiau eraill nad ydynt wedi cael eu rhyddhau.
Os yw’r weithred hefyd yn cynnwys gosodiad sy’n atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae’r rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.
5.3 Rhyddhad rhannol ac mae’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr
Yn aml, bydd gweithred yn rhyddhau hawliau i olau neu aer yn rhannol yn unig. Enghraifft gyffredin yw rhyddhau hawliau i olau neu aer i’r graddau sy’n angenrheidiol i gyflawni datblygiad penodol.
Lle daw gweithred o’r fath ac mae’r hawliau yn ymddangos ar y gofrestr, fel arfer byddwn yn ychwanegu nodyn i adlewyrchu’r amrywiad a berir gan y weithred ac yn cadw copi o’r weithred. Os yw’r weithred hefyd yn cynnwys gosodiad sy’n atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae’r rhan fwyaf), byddwn hefyd yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer.
5.4 Rhyddhad llwyr ac nid yw’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr
Os yw’r weithred yn rhyddhau’n llwyr unrhyw hawliau i olau a allai fod gan eiddo ond nid yw’r hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn o’r rhyddhad ar y gofrestr.
Fodd bynnag, os yw’r weithred yn cynnwys gosodiad sy’n atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae’r rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad yw’n cynnwys gosodiad o’r fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestru’r weithred.
Fel y nodir yn Rhyddhad llwyr ac mae’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr, ein harfer lle mae hawl i olau neu aer yn cael ei ryddhau yw naill ai:
- dileu unrhyw gyfeiriad at yr hawl o’r gofrestr, neu
- ychwanegu cofnod pellach yn y ffurf a nodir yn Rhyddhad llwyr ac mae’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr
Mae hyn yn gyson â’n harfer ar gyfer mathau eraill o hawddfreintiau (gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau). Fodd bynnag, nid yw’r un o’r opsiynau hyn yn bosibl lle nad oes cofnod presennol sy’n gysylltiedig â’r hawl yn y gofrestr.
5.5 Rhyddhad rhannol ac nid yw’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr
Os yw’r weithred yn rhyddhau’r hawliau i olau neu aer yn rhannol ac nid yw’r hawliau hynny yn ymddangos ar y gofrestr, ni fyddwn yn gwneud unrhyw nodyn o’r rhyddhad ar y gofrestr. Mae hyn am y rhesymau a nodir yn Rhyddhad llwyr ac nid yw’r hawl yn ymddangos ar y gofrestr. Fodd bynnag, gallwch wneud cais i gofrestru unrhyw hawliau sy’n weddill yn y ffordd arferol (gweler Cofrestru hawl i olau neu aer). Dylech gynnwys copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o’r weithred ryddhau gyda’r cais hwnnw. Yna byddwn naill ai’n newid y cofnod hawddfraint neu’n ychwanegu cofnod ychwanegol at y gofrestr i adlewyrchu’r rhyddhad rhannol.
Waeth beth am yr uchod, os yw’r weithred yn cynnwys gosodiad sy’n atal hawliau i olau neu aer rhag codi yn y dyfodol (fel y mae’r rhan fwyaf), byddwn yn gweithredu fel y nodir yn Gosodiadau ynghylch golau neu aer. Os nad yw’r weithred yn cynnwys gosodiad o’r fath, byddwn yn dileu unrhyw gais i gofrestru’r weithred.
5.6 Cofnodion lle nad yw’n glir a yw’r hawl wedi cael ei diddymu’n gywir
Os nad yw’n glir bod yr hawl i olau neu aer wedi cael ei diddymu ac y byddem fel arall yn dileu cofnod neu’n gwneud cofnod yn nodi bod yr hawl wedi cael ei rhyddhau, gallwn wneud cofnod ar hyd y llinellau canlynol:
“Trwy weithred ddyddiedig [DYDDIAD] a wnaed rhwng [PARTÏON] mynegwyd bod [DISGRIFIAD O’R HAWL A’R WEITHRED SYDD WEDI EI GYNNWYS YNDDI] i’w ryddhau ond nid yw dilysrwydd y rhyddhad wedi ei bennu.
NODYN: Copi yn y ffeil.”
6. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd am ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.