SD8: Polisi Diogelu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (fersiwn y we)
Diweddarwyd 11 January 2023
Yn berthnasol i England and Gymru
1. Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
1.1
Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ym mis Hydref 2007 gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Asiantaeth weithredol yw o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gyda chyfrifoldebau ar draws Cymru a Lloegr (mae trefniadau ar wahân mewn lle ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon).
1.2
Cyfrifoldeb yr OPG yw i gynnal pobl a’u helpu i gynllunio ymlaen llaw fel bod penderfyniadau am eu hiechyd, eu lles a’u harian yn cael gofal os yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.
2. Cefndir ac egwyddorion
2.1
Roedd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wedi sefydlu swyddogaeth y Gwarcheidwad Cyheoddus. Roedd wedi cyflwyno dyletswydd cyfreithiol i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (gyda chefnogaeth OPG) i oruchwylio dirprwyon a apwyntiwyd gan y Llys Gwarchod, ac i ymchwilio i gwynion neu bryderon ynghylch gweithrediadau’r dirprwyon, atwrneiod cofrestredig a phobl yn gweithredu dan orchymyn gan y Llys Gwarchod.
2.2
Mae’r polisi hwn yn cefnogi swyddogaeth ddiogelu y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n dangos sut bydd yr OPG yn gweithio gydag asiantaethau eraill i adnabod a rheoli amheuon, honiadau a chanfyddiadau o gamdrin oedolion a phlant mewn perygl, sydd oddi mewn i gylch gorchwyl y Gwarcheidwad Cyhoeddus.
2.3
Mae’r OPG wedi ymrwymo i’r egwyddorion a ganlyn ymhob agwedd ar ei waith diogelu.
Galluogi
rhoi pobl yn gyntaf a helpu’r rhai hynny sydd yn brin o alluedd meddyliol i deimlo’n gynwysiedig a gwybodus
Amddiffyn
cefnogi dioddefwyr fel y medrant weithredu
Ataliad
ymateb yn gyflym i achosion tybiedig o gamdrin
Cymesuredd
sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn briodol ar gyfer y sefyllfa a’r unigolyn
Partneriaeth
rhannu’r wybodaeth gywir yn y ffordd gywir
Atebolrwydd
sicrhau bod gan bob asiantaeth swyddogaeth glir
3. Deddfwriaeth newydd yng Nghymru a Lloegr
3.1
Daeth y Ddeddf Gofal 2014 i rym yn Lloegr ar 1 Ebrill 2015. Daethy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2016. Mae’r deddfau yn cyflwyno dyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ar wasanaethu cymdeithasol oedolion yr awdurdod lleol fel y prif asiantaethau sydd yn diogelu oedolion mewn perygl. Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb clir i wasanaethau cyhoeddus a llywodraeth i sicrhau bob pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
3.2
Mae’r OPG yn cefnogi’r egwyddorion yn y deddfau ac yn credu bod diogelu yn fusnes i bawb. Rydym yn gwybod mor bwysig yw hi i sefydliadau weithio ar y cyd a chreu strategaethau i’w rhannu i ddiogelu pobl.
3.3
Rydym wedi ymrwymo i weithredu yn gyflym, yn effeithlon ac yn broffesiynol pan fydd camdrin yn digwydd.
4. Beth yw diogelu?
4.1
Diogelu yw’r term rydym yn ei ddefnyddio i ddisgrifo sut rydym yn amddiffyn oedolion a phlant rhag camdriniaeth neu esgeulustod. Mae’n flaenoriaeth bwysig a rennir gan lawer o wasanaethau cyhoeddus, ac yn gyfrifoldeb allweddol i awdurdodau lleol.
4.2
Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn pobl neilltuol a all fod mewn amgylchiadau agored i niwed. Gall y bobl hyn fod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod oherwydd gweithredu (neu ddiffyg gweithredu) person arall. Yn yr achosion hyn, mae’n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ar y cyd i adnabod pobl sydd mewn perygl, a chymryd camau i helpu atal camdriniaeth neu esgeulustod.[footnote 1]
5. Y termau rydym yn eu defnyddio
5.1
Bydd oedolion a phlant mewn perygl sydd dan ymbarél polisi diogelu yr OPG yn cael eu galw yn y polisi hwn yn ‘gleientiaid’.
5.2
Defnyddir y term ‘oedolyn mewn perygl’ yn y polisi hwn yn lle ‘oedolyn bregus’. Mae hyn gan fod y term ‘oedolyn bregus’ yn medru awgrymu bod y bai am y gamdriniaeth yn gorwedd gyda’r dioddefwr. Rydym yn defnyddio ‘oedolyn mewn perygl’ fel amnewidiad union ar gyfer ‘oedolyn bregus’ gan fod yr ymadrodd hwnnw yn cael ei ddefnyddio trwy gydol canllawiau’r llywodraeth sydd yn bodoli eisoes.
5.3
Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘staff’ trwy gydol y polisi hwn, mae hyn yn golygu staff parhaol, staff dros dro a staff asiantaeth OPG, ymwelwyr â’r Llys Gwarchod a chontractwyr.
6. Ein dyletswydd diogelu
6.1
Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ddyletswydd i ddiogelu:
-
unhryw berson sydd â dirprwy a benodwyd gan Y Llys Gwarchod
-
rhoddwr unrhyw atwrneiaeth barhaus (EPA) a gofrestrwyd neu atwrneiaeth arhosol (LPA)
-
unrhyw un y mae’r Llys Gwarchod wedi awdurdodi rhywun arall i wneud trafodiad ar eu rhan, dan a16 (2) o’r Ddeddf Iechyd Meddwl 2005 (gorchmynion sengl orders).
6.2
Mae hyn yn cynnwys rhai plant a phobl ifanc lle mae’r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy am fod y plentyn neu’r person ifanc yn debyg o fod yn dal heb y galluedd i wneud penderfyniadau ariannol pan fydd ef neu hi yn troi 18.
7. Meysydd ein cyfrifoldeb
7.1
Mae’r polisi yn berthnasol i bob math o gamdriniaeth. Caiff y rhai hyn eu disgrifio mewn adran yn nes ymlaen.
7.2
Mae’r rhan fwyaf o gleientiaid OPG yn oedolion. Gan amlaf bydd honiadau o gamdrin plant bregus (neu bobl ifanc hyd at 21 oed mewn rhai amgylchiadau) yn cael eu trin gan wasanaethau plant awdurdod lleol. Lle ceir honiadau o gamdrin plentyn neu berson ifanc, bydd OPG yn codi’r mater gyda’r heddlu a/neu gyda gwasanaethau plant yr awdurdod lleol.
7.3
Byddwn yn codi pryderon ac honiadau ynghylch pobl nad ydynt yn dod dan ein polisi ni i’r heddlu, awdurdodau lleol a/neu gwasanaethau plant.
8. Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
8.1
Fframwaith cyfreithiol yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005 sydd yn diogelu pobl a all fod yn brin o’r galluedd i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae hefyd yn gosod allan sut dylid gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae’r ddeddf yn cwmpasu pob math o benderfyniadau, o digwyddiadau sydd yn newid bywydau i faterion dydd-i-ddydd. Mae’n rhaid i bob penderfyniad diogelu a wneir gan OPG fod yn unol â’r ddeddf. Dywed y ddeddf bod:
…person yn brin o alluedd mewn perthynas â mater os nad yw, ar yr amser hwnnw, yn medru gwneud ei benderfyniad/phenderfyniad ei hun mewn perthynas â’r mater oherwydd amhariad ar, neu aflonyddwch yng ngweithrediad y meddwl neu’r ymennydd.
8.2
Y rhagdybiaeth yw bod gan oedolion y galluedd meddyliol i wneud dewisiadau gwybodus am eu diogelwch a sut maent yn byw eu bywydau. Mae galluedd meddyliol a gallu person i roi cydsyniad gwybodus wrth galon y penderfyniadau a gymerir a’r gweithredoedd a gyflawnir gan yr OPG dan y polisi diogelu hwn. Bob tro yr ydym yn ymwneud â mater o ddiogelu rhaid i ni ystyried gallu oedolion i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd maent yn dymuno byw a’r risgiau y maent eisiau eu cymryd.
8.3
Mae hyn yn cynnwys pa mor abl maent:
-
i ddeall beth sydd yn debygol i fod o ganlyniad i neu i effeithio ar eu sefyllfa
-
i gymryd camau eu hunain i atal camdriniaeth
-
i chwarae rhan mor gyflawn â phosibl wrth wneud penderfyniadau parthed tynnu partïon eraill i mewn
9. Beth yw camdriniaeth?
9.1
Gall camdriniaeth ac esgeulustod gymryd sawl ffurf[footnote 2]. Gall camdriniaeth arwain at ymyriad â hawliau dynol a sifil rhywun gan berson neu bersonau eraill. Gall camdriniaeth fod yn gorfforol, ariannol, yn eiriol neu yn seicolegol. Gall fod o ganlyniad i weithred neu fethu gweithredu.
Gall ddigwydd pan gaiff oedolyn sydd mewn perygl ei berswadio/pherswadio i gyfnewid ariannol neu rywiol nad ydynt wedi cydsynio iddo, neu na fedrant gydsynio iddo. Gall camdriniaeth ddigwydd mewn unrhyw berthynas a gall arwain at niwed arwyddocaol neu ecsbloetiaeth.
9.2
Mae rhai mathau o gamdriniaeth yn anghyfreithlon, ac yn yr achosion hyn caiff oedolion sydd yn brin o alluedd meddyliol eu diogelu gan y gyfraith yn yr un modd â phawb arall. Os yw OPG yn amau bod trosedd wedi ei chyflawni yn erbyn cleient, rydym yn cyfeirio’r mater at yr heddlu. Weithiau, gwneir atgyfeiriad brys er mwyn diogelu’r oedolyn sydd mewn perygl ac/neu i gadw tystiolaeth.
9.3
Camddefnyddio grym a rheolaeth gan un person dros un arall yw camdriniaeth. Ble mae rhywun yn ddibynnol ar un arall, mae yna bosibilrwydd o gamdriniaeth neu esgeulustod oni bai bod digon o fesurau diogelu mewn lle.
9.4
Gall camdriniaeth ddisgyn i’r categorïau a ganlyn[footnote 3]:
Corfforol
Mae hyn yn cynnwys ymosod, bwrw, slapio, gwthio, rhoi’r feddyginiaeth anghywir (neu ddim meddyginiaeth), ffrwyno rhywun neu ond caniatáu iddynt wneud pethau penodol ar adegau penodol.
Domestig
Mae hyn yn cynnwys camdriniaeth seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol. Mae hefyd yn cynnwys yr hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’.
Rhywiol
Mae hyn yn cynnwys treisio, dinoethiad anweddus, aflonyddu rhywiol, edrych neu gyffwrdd yn anaddas, pryfocio rhywiol neu ensynio, cymryd lluniau rhywiol, gwneud i rywun edrych ar bornograffi neu wylio gweithredoedd rhywiol, ymosod yn rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad oedd yr oedolyn wedi cydsynio iddynt neu a orfodwyd arnynt heb eu cydsyniad.
Seicolegol
Mae hyn yn cynnwys camdriniaeth emosiynol, bygythiadau o niwed neu adael, amddifadu rhywun rhag cael cyswllt gyda rhywun arall, sarhau, beio, rheoli, rhoi pwysau ar rywun i wneud rhywbeth, aflonyddu, camdriniaeth eiriol, bwlio seiber, ynysu neu enciliad afresymol neu digyfiawnhad o wasanaethau neu rwydweithiau cynnal.
Ariannol neu faterol
Mae hyn yn cynnwys dwyn, twyll, sgamio ar y rhyngrwyd, rhoi pwysau ar rywun ynghylch eu trefniadau ariannol (gan gynnwys ewyllysiau, eiddo, etifeddiaeth neu drafodion ariannol) neu gamddefnyddio neu ddwyn meddiant, eiddo neu fudd-daliadau.
Caethwasiaeth fodern
Mae hyn yn cwmpasu caethwasiaeth (gan gynnwys caethwasiaeth domestig), masnachu pobl a llafur dan orfod. Mae’r rhai sydd yn masnachu pobl a meistri’r caethweision yn gwneud beth bynnag a fedrant i wasgeddu, i dwyllo a gorfodi unigolion i fywyd o gamdriniaeth a thriniaeth ac annynol.
Gwahaniaethol
Mae hyn yn cynnwys mathau o aflonyddwch neu sarhad oherwydd hil rhywun, eu rhyw neu hunaniaeth o ran rhywedd, oedran, anabledd, tueddiadau rhywiol neu grefydd.
Cyfundrefnol
Mae hyn yn cynnwys esgeulustod a gofal gwael mewn sefydliad neu leoliad gofal megis ysbyty neu gartref gofal, neu os yw sefydliad yn darpau gofal yng nghartref rhywun. Gall y gamdriniaeth fod yn ddigwyddiad untro neu’n gamdriniaeth sydd yn cael ei hailadrodd ac yn parhau. Gall y gamdriniaeth ddigwydd oherwydd esgeulustod neu ymarfer proffesiynol gwael, a gall hyn fod oherwydd strywthur, polisïau, prosesau ac ymarferion o fewn sefydliad.
Esgeulustod ac anweithred
Mae hyn yn cynnwys anwybyddu anghenion meddygol, emosiynol neu gorfforol, methu â darparu mynediad i wasanaethau addysgol, neu beidio â rhoi i rywun yr hyn sydd ei angen arnynt i’w helpu i fyw, megis meddyginiaeth, digon o faeth a gwres.
Hunan-esgeulustod
Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o ymddygiadau sydd yn dangos nad yw rhywun yn gofalu am eu hylendid eu hunain, eu hiechyd neu eu hamgylchedd. Mae’n cynnwys ymddygiad megis cronni.
9.5
Gall camdriniaeth gymryd sawl ffurf. Efallai na fydd yn disgyn yn daclus i un o’r categorïau hyn, neu fe all ddisgyn i fwy nag un. Gall un oedolyn sydd mewn perygl gamdrin un arall sydd mewn perygl. Mae’n dal i gael ei ystyried yn gamdriniaeth a dylid delio ag ef. Gall yr oedolyn sydd mewn perygl hefyd esgeuluso ei hunan a gallai hyn hefyd fod yn rheswm dros atgyfeirio ynghylch diogelwch.
10. Pwy all fod yn gamdriniwr?
10.1
Gall oedolion sydd mewn perygl gael eu camdrin gan ystod eang o bobl - yn wir, gan unrhyw un sydd â chyswllt â hwy. Mae hyn yn cynnwys aelodau o’r teulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal sydd yn cael eu talu, oedolion eraill sydd mewn perygl, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaethau eraill, cymdogion, ffrindiau a chydnabod, pobl sydd yn manteisio ar bobl fregus ar bwrpas, dieithriaid a phobl sydd yn gweld cyfle i gamdrin.
10.2
Mae camdriniaeth yn anghywir bob amser, ond mae’n destun gofid arbennig pan fydd rhywun mewn safle o rym neu awdurdod dros rywun, yn defnyddio’r grym hwnnw i niweidio oedolyn mewn perygl.
11. Sylwi ar arwyddion o gamdriniaeth ariannol.
11.1
Mae OPG yn derbyn ac yn cofnodi mwy o enghreifftiau o gamdriniaeth ariannol nag unrhyw fath arall o gamdriniaeth. Gall camdriniaeth ariannol ddigwydd ar ei ben ei hun, ond mae ymchwil wedi dangos ble mae dulliau eraill o gamdriniaeth yn digwydd, mae’n debygol bod camdriniaeth ariannol yn digwydd hefyd. Dylai staff OPG gadw hyn mewn cof.
11.2
Mae rhai arwyddion[footnote 4] a allai ddangos bod camdriniaeth ariannol yn digwydd:
-
newid mewn amgylchiadau byw
-
gwerthu eiddo
-
methu â thalu biliau, neu brinder arian heb esboniad
-
arian yn cael ei dynnu o gyfrif heb reswm
-
dogfennau ariannol yn cael eu colli heb reswm
-
rhywun yn cael eu hynysu oddi wrth eu teulu, ffrindiau neu rwydwaith cymdeithasol
-
y gofalwr â mwy o arian i wario ar bethau fel dillad, teithio neu lety
-
newidiadau sydyn i gyfrif banc neu’r ffordd mae rhywun yn ei ddefnyddio
-
llofnodwyr newydd a awdurdodwyd yn ddiweddar ar gerdyn cyfrif cleient neu roddwr
-
arian yn cael ei dynnu heb ganiatâd o gerdyn ATM yr oedolyn mewn perygl
-
newidiadau yn y ffordd mae’r cerdyn ATM yn cael ei ddefnyddio (megis yn fwy aml neu o leoliadau gwahanol)
-
newidiadau sydyn neu annisgwyl i ewyllys rhywun neu i ddogfennau ariannol eraill
11.3
Mae’r rhestr hon yn dangos rhai o’r arwyddion (gall fod eraill) bod camdriniaeth yn digwydd o bosibl. Os yw rhywbeth ar y rhestr hon yn digwydd, nid yw’n golygu yn awtomatig bod rhywun yn cael ei gamdrin/chamdrin - ond mae angen edrych yn fwy manwl ar y sefyllfa.
12. Ffurfiau eraill o gamdriniaeth
12.1 Mae rhai pethau a all gynyddu’r pergyl o rywun yn cael eu camdrin[footnote 5]:
-
cofnodion bod y cleient wedi cael ei gamdin/chamdrin o’r blaen, neu gofnodion o gamdriniaeth tybiedig
-
aelodau eraill o deulu’r cleient yn cael eu camdrin
-
tensiynau a gwrthdaro teuluol
Mae ffactorau sydd wedi dangos eu bod yn cynyddu’r siawns o gamdriniaeth yn cynnwys:
-
cleient neu roddwr dros 75 oed ac yn fenyw
-
niwed organig i’r ymennydd (gweithredu meddyliol is oherwydd salwch)
-
nam gwybyddol (rhywun yn cael anhawster gyda’r cof, sgiliau meddyliol neu wneud penderfyniadau)
-
trafferthion corfforol, meddyliol neu emosiynol, yn enwedig iselder, colli partner yn ddiweddar, bod heb ffrindiau neu rwydwaith cymdeithasol, byw ar ei ben/phen ei hun, neu beidio cael cyswllt gyda’u plant[footnote 6].
13. Bod yn ymwybodol o briodas dan orfod
13.1
Mae priodas dan orfod yn digwydd ar draws pob diwylliant. Mae’n digwydd pan fydd rhywun yn cael ei wthio/gwthio i briodas a drefnwyd neu eu gorfodi i briodi rhywun nad ydynt wedi dewis eu hunain. Gall ddigwydd hefyd os nad yw’r gallu meddyliol gan rywun i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
13.2
Gall arwyddion o briodas dan orfod gynnwys:
-
bod gan rywun frawd neu chwaer sydd wedi ei orfodi/gorfodi i briodi
-
rhieni yn siarad am briodas
-
clywed siarad am briodasau neu bartïon
-
siarad am aelodau o’r teulu yn dod i fyw gyda’r teulu, neu deithiau teuluol dramor
-
lluniau priodas, dillad, anrhegion, henna Mehdi
-
cyfyngiadau afresymol yn cael eu rhoi ar rywun yn y cartref
-
i ba raddau mae teulu’r person yn delio gyda phobl broffesyinol a fedrai helpu gyda threfnu priodas neu fisa, cyn taith dramor
14. Swyddogaeth OPG wrth ddiogelu oedolion mewn perygl
14.1
Mae’r diagram isod yn dangos ochrau gwahanol swyddogaeth OPG wrth ddiogelu pobl sydd yn brin o alluedd meddyliol.
14.2
Mae’r ffyrdd rydym yn gweithio i atal camdriniaeth yn cynnwys:
-
gwneud pobl yn ymwybodol o ddulliau diogelu cyfreithiol megis atwrneiaeth arhosol a gwasanaethau’r OPG a’r Llys Gwarchod. Rydym yn hyrwyddo ein diogelu trwy sgyrsiau, hyfforddiant, cyflwyniadau, cyhoeddusrwydd a gwaith gyda’n rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid
-
arolygu dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd yn brin o alluedd meddyliol
-
datblygu ac adolygu strategaethau a pholisïau ynghylch diogelu ein cleientiaid, oddi mewn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mewn partneriaeth gydag adrannau eraill o’r llywodraeth a phartneriaid allanol
-
sicrhau bod systemau mewn lle i atal neu leihau’r posibilrwydd o aelod o staff OPG yn camdrin oedolyn sydd mewn perygl
-
gweithio gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a’r heddlu
14.3
Mae’r ffyrdd yr ydym yn ymchwilio i adroddiadau o gamdriniaeth yn cynnwys:
-
derbyn adroddiadau bod oedolyn mewn perygl yn cael ei gamrdin/chamdrin (‘chwythu’r chwiban’ rydym yn galw hyn)
-
ateb ceisiadau i chwilio cofrestr dirprwyon ac atwrneiod (am ddim)
-
archwilio pryderon ynghylch gweithredoedd dirprwy neu atwrnai cofrestredig, neu rywun sydd yn gweithredu dan orchymyn sengl oddi wrth y Llys Gwarchod
-
gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a’r heddlu, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynadleddau achos
-
cymryd rhan mewn archwiliadau ar y cyd ynghylch camdriniaeth tybiedig
14.4
Mae’r ffyrdd rydym yn gweithio i atal camdriniaeth yn cynnwys:
-
gwneud cais i’r Llys Gwarchod i wahardd, i ollwng neu osod rhywun yn lle dirprwy ac i ddileu neu ddiddymu EPA neu LPA
-
darparu adroddiadau i’r Llys Gwarchod dan adrannau 49 a 58 y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, i helpu’r llys i wneud penderfyniadau gwybodus
-
adolygu ffeiliau ein cleientiaid ac ymweld â chleientiaid ble rydym yn gwybod bod camdriniaeth wedi digwydd yn y gorffennol neu os ydym yn teimlo bod risg y gall camdriniaeth ddigwydd
15. Swyddogaeth stadudol y Llys Gwarchod
Byddwn yn defnyddio’r grymoedd cyfreithiol a roddwyd i’r OPG, ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn y ffyrdd a ganlyn:
15.1
Gall OPG gynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig (LPA neu EPA) neu rywun a awdurdodwyd gan y Llys Gwarchod i weithredu trafodiad i rywun sydd yn brin o alluedd, ac adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Bydd y ffordd y byddwn yn ymchwilio yn cael ei benderfynu ar ddechrau pob achos. Gan amlaf bydd ein hymchwiliadau yn cynnwys cysylltu â phobl ac asiantaethau sydd yn gysylltiedig â’r cleient, a gofyn am gopïau o gyfrifon a thrafodion ariannol, adolygu penderfyniadau ac adolygu ein cofnodion ar ffeil. Gall yr OPG ofyn i ddirprwy neu atwrnai ddarparu gwybodaeth benodol neu ddogfennau pan fyddwn yn ymchwilio i gwynion neu bryderon.
15.2
Fel rhan o ymchwiliad, gall OPG ymweld â chleient neu ddirprwy, neu roddwr neu atwrnai EPA neu LPA cofrestredig. Ymwelydd o’r Llys Gwarchod fydd yn ymweld fel arfer.
16. Pan na fedrwn ymchwilio
16.1
Nid oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdod i ymchwilio mewn ambell achos. Fodd bynnag, hyd yn oed os na fedrwn weithredu yn uniongyrchol, gall fodd gan OPG a/neu’r Llys Gwarchod beth cysylltiad gydag ymchwiliad a gynhelir gan barti arall.
16.2
Nid oes gan yr OPG rym cyfreithiol i ymchwilio yn yr achosion hyn:
Pryderon am weithredoedd atwrneiod yn gweithredu dan EPA nad yw yn gofrestredig
Yn yr achos hwn byddwn gan amlaf yn cyfeirio’r mater at wasanaethau cymdeithasol i oedolion ar gyfer ymchwiliad. Os nad oes gan y rhoddwr y galluedd i wneud penderfyniadau, gall OPG gynghori bod cais yn cael ei gyflwyno i’r Llys Gwarchod i ddiddymu’r EPA a phenodi dirprwy.
O bryd i’w gilydd bydd y llys yn gorchymyn y Gwarcheiwad Cyhoeddus i ddarparu adroddiad dan adran 49 y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Os yw’r galluedd gan y rhoddwr, gall OPG awgrymu bod asiantaeth leol neu gyfreithiwr neu drydydd parti yn ei helpu i benderfynu diddymu EPA neu beidio a gwneud LPA.
Pryderon am weithredoedd dirprwyon neu dderbynwyr blaenorol
Os oes pryderon ynghylch gweithredoedd dirprwy y mae ei apwyntiad wedi terfynu, neu dderbyniwr blaenorol (rhywun yr oedd ei apwyntiad wedi terfynu cyn 1 Hydref 2007), bydd yr OPG yn cynghori, gan amlaf, ei fod yn fater i’r dirprwy cyfredol, os oes yna un, i ddelio ag ef. Mae hyn yn cynnwys ble mae’r dirprwy blaenorol neu’r derbyniwr wedi marw.
Os yw’r Llys Gwarchod yn rhoi terfyn ar ddirprwyaeth oherwydd pryderon ynghylch gweithredoedd y dirprwy, fe all y llys orchymyn unrhyw ddirprwy newydd i ymchwilio’r dirprwy blaenorol neu’r derbyniwr.
O bryd i’w gilydd codir pryderon wedi i’r cleient farw. Mae unrhyw ddirprwyaeth yn terfynu pan fydd y cleient yn marw. Yna cyfrifoldeb cynrychiolwyr personol y cleient yw delio gydag unrhyw ymchwiliad. Mewn achosion lle mae dirprwy wedi cael ei ollwng, neu os yw’r dirprwy neu’r cleient wedi marw, a bod gan yr OPS bryderon ynghylch camdriniaeth ariannol posibl, gallwn alw am adroddiad terfynol wrth y dirprwy blaenorol (neu gynrychiolwyr personol y dirprwy os yw’r dirprwy wedi marw).
Os nad yw’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn fodlon â’r adroddiad, gallwn wneud cais i’r Llys Gwarchod am orfodaeth o’r bond diogelwch (swm o arian, rhywbeth fel polisi yswiriant, a delir i ddarparwr y bond er mwyn diogelu arian y cleient) dan Reol 40 Rheoliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007. Mae hyn ond yn berthnasol i farwolaethau neu ollyngiadau ar ôl 1 Hydref 2007.
Pryderon am weithredoedd pobl ar wahân i ddirprwyon ac atwerneiod.
Yn y sefyllfa hon, bydd yr OPG yn cyfeirio’r pryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion i’w hymchwilio. Os oes gan yr oedolyn mewn perygl ddirprwy yna bydd yr OPG yn gofyn am gael gwybodaeth gyson am y sefyllfa. Medrem gynorthwyo trwy fonitro’r sefyllfa trwy oruchwyliaeth y dirprwy ac ymweliadau â’r oedolyn mewn perygl oddi wrth ymwelydd o’r Llys Gwarchod.
Pryderon am weithredoedd rhywun sydd yn gweithredu dan rai mathau o orchmynion byrion y Llys Gwarchod
Caniatawyd gorchmynion byrion gan y Llys Gwarchod cyn i’r ddeddf Galluedd Meddyliol ddod i rym ym mis Hydref 2007. Nid oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus rymoedd i ymchwilio i bod sefyllfa gorchmynion byrion. Ble nad oes gennym awdurdod, gan amlaf byddwn yn cyfeirio’r pryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion i’w hymchwilio. Gan hyn arwain at gyflwyno cais i’r Llys Gwarchod i ddiddymu’r gorchymyn, ac, os oes angen, gorchymyn llys i benodi dirprwy.
Medrai’r cais gynnwys awdurdod i ymchwilio i drafodion y person oedd yn gweithredu dan y gorchymyn byr.
Pryderon am bersonau yn gweithredu dan benodeiaeth a wnaed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yr OPG yn cyfeirio’r mater i DWP ac yn gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion i’w hymchwilio yn unol â’u gweithdrefnau hwy.
17. Goruchwyliaeth
17.1
Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ddyletswydd cyfreithiol i oruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd yn brin o alluedd. Mae goruchwylio yn rhan bwysig o ddiogelu, ac mae’n cynnwys:
-
mesurau ataliol, er enghraifft, yn galw am adroddiadau gan ddirprwyon a sicrhau bod dirprwyon yn talu premiymau diogelwch
-
monitro sut mae’r dirprwy yn gwneud penderfyniadau, er enghraifft trwy wirio adroddiadau dirprwyon, cael cyswllt rheolaidd gyda’r dirprwy ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn lles y cleient, a thrwy ymweliadau gan ymwelydd o’r Llys Gwarchod
-
ymateb i bryderon a chwynion am weithredoedd y dirprwy, a gwneud cais i’r llys i ollwng dirprwyon anaddas
18. Delio gyda chamdriniaeth
18.1
Byddwn yn edrych ar ystod o ffyrdd i wneud iawn lle mae achos o gamdriniaeth wedi dod i’r golwg. Fe allwn:
-
wneud cais i’r llys am i ddirprwy gael ei ddiarddel, ei ollwng neu osod rhywun yn ei le/lle
-
wneud cais i’r llys am i orchymyn gael ei amrywio neu i fond diogelwch dirprwy gael ei alw mewn neu ei amrywio
-
wneud cais i’r llys am i rym atwrneiaeth gael ei ddiddymu
-
roi gwybod i’r heddlu, os ydym yn meddwl bod trosedd wedi cael ei chyflawni
-
dweud wrth ddirprwy bod yn rhaid iddo/iddo ddarparu adroddiad terfynol lle mae’r person yr oedd ef neu hi yn gweithredu ar ei ran/rhan wedi cael ei ollwng/gollwng. Os yw’r dirprwy wedi marw, gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus alw ar gynhrychiolwyr personol y diprwy i gyflwyno adroddiad terfynol
-
monitro’r sefyllfa yn glos trwy oruchwylio’r achos gydol yr amser
-
dweud wrth asiantaethau allanol. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i unrhyw gorff proffesiynol y mae’r person sydd wedi cyflawni’r gamdriniaeth yn aelod ohono. Yn ogystal â hyn mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus yr hawl i atgyfeirio i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd , a all olygu bod yr un sydd wedi camdrin yn cael ei rhoi/rhoi ar y ‘rhestr waharddedig’ fel na fedrant weitho eto gydag oedolion mewn perygl na gyda phlant
19. Cynnwys asiantaethu eraill
19.1
Mae gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yr awdurdod lleol yn arwain wrth gydlynu’r ymagwedd amlasiantaethol i ddiogelu oedolion mewn perygl. Gal unrhyw asiantaeth gychwyn ymchwiliadau, ond er hyn yr asiantaeth sydd wedi cysylltu agosaf â’r cleient yw’r un yn y sefyllfa orau i arwain yr ymchwiliad hwn ar y dechrau, gyda gweithredu, rhannu gwybodaeth a chyngor oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ar bod cam o’r ymchwiliad.
19.2
Ar ôl trafodaeth gyda rheolwr llinell neu gyd-weithiwr hŷn, gall unrhyw dybiaeth o gamdrin gael ei atgyfeirio gan OPG i’r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion perthnasol trwy wneud atgyfeiriad i Diogelu Oedolion mewn Perygl (SAAR).
19.3
Mae’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithio yn amrywio, ond bydd pob ymateb oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol i oedolionn wedi ei seilio ar ganllawiau Deddf Gofal/Gwasanaethau Cymedithasol a Lles. Bydd yr awdurdod lleol yn cytuno ar unrhyw ymchwiliad trwy ei gyfarfod strategaeth a phroses drafod fel nad yw’r ymholiadau cychwynnol yn peryglu unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu.
19.4
Bydd swyddogaeth OPG mewn unrhyw ymchwiliad yn cael ei benderfynu fesul achos. Fe allwn:
-
ymchwilio i’r achos ein hunain. Bydd hyn yn digwydd pan fydd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus rymoedd statudol dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i ymchwilio i weithredoedd atwrnai neu ddirprwy. Yn yr achosion hyn, gall y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a/neu’r heddlu gael gwybod ein bod wedi derbyn adroddiad am gamdriniaeth dybiedig. Nid oes yn rhai i ni brofi bod camdriniaeth wedi digwydd cyn dweud amdano wrth asiantaethau eraill
-
cyfeirio ar unwaith at y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a/neu’r heddlu os nad oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus yr awdurdod i ymchwilio
-
gweithio gydag asiantaethau eraill (gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn benodol) i ymchwilio a delio gyda honiad cysylltiedig â chleient OPG
19.5
Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar yr angen i gynnwys asiantaethau eraill gyda’r awdurdod lleol neu brif asiantaeth mewn unrhyw ymchwiliad.
20. Adrodd wrth yr heddlu am gamdriniaeth
20.1
Os credir bod digwyddiad o gamdriniaeth yn drosedd, bydd yr OPG yn ei gyfeirio at yr heddlu. Mae enghreifftiau o weithredoedd a fedrant fod yn droseddau gynnwys: ymosod corfforol, ymosod seicolegol, ymosod rhywiol a threisio, lladrad, twyll neu ffurfiau eraill ar ecsbloetio ariannol, a rhai mathau o wahaniaethu ar sail hil neu ryw.
20.2
Yn ogystal â hyn, mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi bod dirprwy neu atwrnai yn euog o drosedd os yw ef neu hi yn esgeuluso cleient yn fwriadol.
20.3
Am nad yw penderfynu a ddylid cyfeirio achos at yr heddlu yn glir bob amser, bydd penderfyniadau ynghylch cynnwys yr heddlu yn cael eu gwneud gan y rheolwr cydymffurfiaeth, gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol OPG, os bydd angen.
21. Adrodd am gamdriniaeth wrth yr Uned Priodas Dan Orford
21.1
Os ydym yn amau camdriniaeth yn ymwneud â phriodas dan orfod, byddwn yn cyfeirio’r mater i’r Uned Priodas Dan Orfod (FMU). Asiantaeth yw’r FMU ar y cyd â’r Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
21.2
Mae’r FMU yn tawelu meddwl, yn cynorthwyo ac yn cynnig dewisiadau i ddioddefwyr priodasau dan orfod. Mae’n gweithio gyda’r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, athrawon, swyddogion lles a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddiogelu pobl mewn perygl, ac mewn achosion eithafol yn helpu achub dioddefwyr sydd wedi eu cludo dramor.
21.3
Os yw priodas dan orfod rhoddwr neu gleient wedi cael ei drefnu gan atwrnai neu ddirprwy, neu or yw’r atwrnai neu ddirprwy yn ymwybodol ohoni, yn ogystal â chyfeirio’r achos at yr e FMU, gall yr OPG ymchwilio.
22. Rhannu gwybodaeth
22.1
Byddwn ni’n trin unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UKGDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn ei roi i unrhyw un arall oni bai bod gennym bryder ynghylch diogelu neu fod yn rhaid i ni wneud cais i’r Llys Gwarchod, pan fyddai ar gael i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r achos llys. Am ragor o wybodaeth: ewch i GOV.UK a chwiliwch am “OPG privacy”.
22.2
Rydym yn trafod gwybodaeth bersonol sensitif am bobl, gan gynnwys hunaniaeth bersonol a gwybodaeth am faterion iechyd ac ariannol. Rydym yn sicrhau nad oes mynediad anawdurdodedig, colled, camddefnydd, newidiadau na datgeliadau o’r wybodaeth hon. Pan yn diogelu oedolion mewn perygl, weithiau bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda rhywun o sefydliad arall. Bydd OPG ond yn gwneud hyn pan fydd y gyfraith yn dweud y cawn wneud, a ble bydd rhannu’r wybodaeth er budd pennaf y cleient, gan gynnwys lle gall atal trosedd rhag digwydd.
22.3
Lle bydd camdriniaeth yn cael ei honni neu ei amau, bydd yr OPG yn rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol er mwyn i ni amddiffyn yr unigolyn dan sylw, neu bobl eraill. Mae gan unrhyw un sydd yn cael ei gamdrin/chamdrin neu dan amheuaeth o gael ei gamdrin/chamdrin, yr hawl i ddisgwyl y byddwn yn diogelu eu preifatrwydd. Mae hyn yn wir am deuluoedd a gofalwyr hefyd.
22.4
Ond ble bydd eu ‘lles hanfodol’[footnote 7] (hynny yw, mater o fywyd neu farwolaeth) neu ‘fudd pennaf’[footnote 8], yn y cwestiwn, neu os yw’n fater o fudd y cyhoedd, bydd canfod y ffeithiau trwy rannu gwybodaeth yn fwy pwysig nag unrhyw beth arall.
22.5
Dan rai amgylchiadau, medrwn rannu gwybodaeth gyda phobl eraill neu asiantaethau, yn ôl Deddf Diogelu Data 1998. Gellir rhannu data gyda thrydydd partïon ‘er lles hanfodol testun y data’ neu ‘er lles y cyhoedd’ (er enghraifft, er lles y cleient neu bobl erail yn yr un lleoliad gofal). Gall rhannu gwybodaeth, neu ofyn am i wybodaeth gael ei rhannu gyda OPG, fod yn briodol os, er enghraifft, bydd perygl posibl i eraill oddi wrth y camdriniwr honedig. Dylid rhannu unrhyw wybodaeth am y gamdriniaeth dybiedig gyda’r adran gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu sydd yn ymchwilio i’r achos.
22.6
Yn ogystal â hyn mae adrannau yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 sydd yn caniatáu rhannu gwybodaeth rhwng OPG ac awdurdodau lleol, ac asiantaethau eraill sydd yn gofalu am neu yn trin cleient:
-
Mae adran 58(2) y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn caniatáu i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus oruchwylio dirprwyon ac ymchwilio i bryderon ynghylch y ffordd mae dirprwy neu atwrnai yn ymarfer eu grymoedd. Rydym yn gwneud hyn mewn cydweithrediad ag unrhyw berson arall sydd yn delio gyda gofal neu driniaeth ‘P’ (‘P’ yw’r term a ddefnyddir yn y ddeddf ar gyfer y person sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau)
-
Mae adran 58(5) y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn rhoi awdurdod i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnodion gwasanaethau cymdeithasol sydd gan awdurdod lleol sydd yn gysyltiedig â ‘P’ (ond dim cofnodion perthnasol i ddirprwy neu atwrnai)
22.7
Bydd yr OPG yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff proffesiynol a rheoleiddio os yw er budd y cyhoedd. Mae’r cyrff hyn yn cynnwys Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y Comisiwn Ansawdd Gofal (Lloegr) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).
22.8
Os ydym yn mynd i rannu gwybodaeth bersonol neu sensitif, byddwn yn gwneud hyn (lle mae’n bosibl) gyda chydsyniad y person. Os na fyddant yn cytuno, byddwn yn penderfynu a fyddai rhyddhau’r wybodaeth er eu budd pennaf. Os yw rhannu gwybodaeth er budd y cyhoedd fe allwn deimlo bod yr angen i ryddhau’r wybodaeth yn fwy pwysig na barn y person dan sylw. Ble mae oedolion heb y galluedd meddyliol i ddiogelu eu hunain, bydd angen i eraill wneud hyn ar eu rhan yn unol â’r Cod Ymarfer ac er budd pennaf y person. Rydym yn parchu hawliau y ‘chwythwyr chwiban’ a’r bobl a gyhuddir o fod wedi camdrin.
22.9
Byddwn ar bob achlysur yn rhannu gwybodaeth sydd yn diogelu oedolion mewn perygl, a phlant, ar sail ‘angen gwybod’. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth yr ydym yn rhannu yn gywir.
23. Asesu ac ymateb i’r lefel o ring
23.1
Byddwn yn cymryd pob amheuaeth neu honiad o gamdrin o ddifrif.
23.2
Mae staff OPG yn gwybod bod anghenion yr oedolyn neu’r plentyn mewn perygl o’r pwys mwyaf.
23.3
Byddwn ar bob achlysur yn ceisio gweithredu er lles pennaf yr oedolyn neu’r plentyn sydd mewn perygl, tra’n cofio bod y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cefnogi cynnwys pobl sydd yn brin o alluedd meddyliol, mewn penderfyniadau sydd yn effeithio arnynt. Ble mae gan unigolyn alluedd ac nad yw dan bwysau, yn cael ei fygwth/bygwth, wedi dychryn neu’n cael ei fwlio/bwlio, mae gan y person hwnnw yr hawl i wneud penderfyniad annoeth.
23.4
Byddwn yn ymateb yn gyflym i honiadau bod camdriniaeth wedi digwydd, neu yn debygol o ddigwydd. Mae cynllun busnes OPG yn dangos pa mor gyflym byddwn yn ymateb.
24. Swyddogaethau a chyfrifoldebau staff OPG
24.1
Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud popeth o fewn ei allu/gallu i warantu diogelwch ac amddiffyniad oedolion a phlant mewn perygl. Mae’r polisi hwn wedi ei fabwysiadau gan fwrdd yr asiantaeth, y tîm gweithredol a’r tîm o uwch arweinyddion. Byddant yn lledu’r negeseuon ynddo ac yn sicrhau bod pob aelod o staff yn glynu wrtho.
24.2
Mae’r tîm o uwch arweinyddion yn gyfrifol am:
-
sicrhau bod y staff yn hollol ymwybodol o’r polisi diogelu
-
ddweud wrth bobl bod y polisi yn bwysig ac yn ei ddiweddaru
-
caniatáu i staff fynychu cyrsiau hyfforddi a rhoi mynediad iddynt i ganllawiau fydd yn eu helpu i adnabod camdriniaeth a’r risg ohono, a delio gyda ef yn y ffyrdd a nodir yn y polisi hwn
-
sicrhau bod staff yn gwybod am, ac yn dilyn, systemau adrodd
-
cynllunio nodau perfformiad sydd yn cefnogi polisi diogelu OPG ar gyfer staff sydd yn gweithio mewn swyddogaethau diogelu
24.3
Mae gan y swyddogaethau hyn gyfrifoldebau penodol hefyd:
Mae pennaeth ymarfer a chydymffurfiaeth yn gyfrifol am sicrhau bod OPG yn dilyn y polisi hwn ac am roi’r systemau gwaith a phrosesau cywir mewn lle.
Mae pennaeth strategaeth a datblygiad busnes yn gofalu am berthnasau gydag asiantaethau allanol a rhanddeiliaid ynghylch materion diogelu, ac ynghyd â’r tîm cyfathrebu yn gyfrifol am gyfathrebu gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid ynghylch materion diogelu.
Bydd pennaeth gwasanaethau corfforaethol yn rheoli polisïau ac ymarferion ariannol yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i) ddarparu polisi ffïoedd cadarn i gefnogi materion diogelu, canllawiau ar ymdrin ag arian, a pholisi rheoli risg addas ar gyfer rheolwyr.
Mae pennaeth gwasanaethau corfforaethol yn gyfrifol hefyd am reoli gwybodaeth yng ngofal OPG, gan gynnwys darparu canllawiau ar sut rydym yn ymdrin â chofnodion diogelu.[footnote 9]
24.4
Bydd holl staff OPG yn gwybod lle i gael gafael ar gopi o’r polisi hwn. Bydd staff yn gyfrifol am ddarllen a deall y polisi hwn. Os yw rhywun heb ddeall rhan o’r polisi, gallant ofyn i’w rheolwr llinell am gymorth.
24.5
Os ydynt yn gweithio ym maes diogelu, bydd staff yn cytuno i nodau perfformiad sydd yn cyfrannu i swyddogaeth ddiogelu OPG ac yn cofnodi cyfraniadau cadarnhaol maent yn eu gwneud i ddiogelu.
24.6
Bydd yr holl staff, ac yn benodol y rhai hynny sydd â chysylltiad â chleientiaid, dirprwyon ac atwrneiod, yn defnyddio’r polisi hwn i’w helpu i adnabod a delio gyda chamdriniaeth neu berygl o gamdriniaeth.
24.7
Mae rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod staff yn eu timoedd yn deall y polisi hwn ac yn ddigon medrus i’w ddilyn.
24.8
Bydd yr holl staff yn gwirio’r canllawiau ar sicrhau gwybodaeth a diogelwch pan yn rheoli gwybodaeth bersonol am gleientiaid, dirprwyon ac atwrneiod.
24.9
Caiff ymwelwyr (ymwelwyr) â’r Llys Gwarchod gopi o’r polisi hwn.
24.10
Mae pob ymwelydd yn gyfrifol am ddarllen a deall y polisi hwn. Os nad yw ymwelwyr yn deall rhywbeth yn y polisi hwn pan fyddant yn ei ddarllen, neu pan fyddant yn delio ag achos cleient, byddant yn gofyn i reolwr ymweliadau yr OPG neu’r rheolwr cydymffurfiaeth.
24.11
Bydd ymwelwyr yn defnyddio’r polisi hwn, eu hyfforddiant proffesiynol ac unrhyw wybodaeth arall a roddir iddynt, i helpu adnabod ac ymdrin yn briodol gyda pherygl neu gamdriniaeth.
24.12
Os yw ymwelwyr yn sylwi ar bryderon diogelu yn ystod ymweliad, byddant yn gweithredu i atal neu roi terfyn am y camdriniaeth neu’r esgeulustod i’r cleient, gan weithio gyda rheolwr diogelu OPG a/neu’r rheolwr ymweliadau. Gall gweithredu gynnwys gwneud SAAR, cyfeirio’r mater i’r heddlu neu godi pryderon gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
25. Hyfforddiant
25.1
Bydd pob uwch reolwr OPG, rheolwyr ac arweinyddion tîm yn mynychu hyfforddiant neu gyfarfodydd am gyfrifoldebau OPG, sut i adnabod camdriniaeth neu’r perygl o gamdriniaeth, ac ar weithdrefnau OPG.
25.2
Bydd holl staff OPG sydd â chysylltiad â chleientiaid, dirprwyon, atwrneiod a ffeiliau achosion yn mynychu hyfforddiant ar y polisi hwn.
25.3
Rydym yn disgwyl i ymwelwyr â’r Llys Gwarchod, fel rhan o’u telerau penodi gyda’r OPG, i fynychu cyfarfodydd neu hyfforddiant ar y polisi hwn - sut i adnabod camdriniaeth yn benodol.
25.4
Caiff sesiynau hyfforddiant a briffio gorfodol eu darparu i ddiweddaru’r holl staff ar newidiadau i’r polisi hwn neu ar ein prosesau yn ei gylch.
26. Adolygu’r polisi hwn
26.1
Mae’r polisi hwn yn rhan o broses barhaol i atgyfnerthu gweithio gydag asiantaethu eraill. Bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru pryd bynnag bydd newid yn y polisi cenedlaethol neu’r gyfraith.
26.2
Pennaeth ymarfer a chydymffurfiaeth sydd yn gyfrifol am wneud i hyn ddigwydd.
-
Taflen Ffaith 7: Taflen Ffaith Deddf Gofal: Diogelu Oedolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod ↩
-
‘Canllawiau Gofal a Chefnogaeth statudol – cyhoeddwyd dan y Ddeddf Gofal’. Adran Iechyd/Swyddfa Gartref (2014) ↩
-
‘Canllawiau Gofal a Chefnogaeth statudol – cyhoeddwyd dan y Ddeddf Gofal’. Adran Iechyd/Swyddfa Gartref (2014) ↩
-
Help the Aged (2008) ‘Camdrin yr Henoed yn Ariannol - adolygiad o’r llenyddiaeth’ ↩
-
Help the Aged (2008) ‘Camdrin yr Henoed yn Ariannol - adolygiad o’r llenyddiaeth’ ↩
-
Help the Aged (2008) ‘Camdrin yr Henoed yn Ariannol - adolygiad o’r llenyddiaeth’ ↩
-
Deddf Diogelu Data 1998, Atodlen 2, dehonglwyd gan y Comisynydd Gwybodaeth ↩
-
Adroddiad ar adolygiad gwybodaeth adnabyddadwy am glaf gan Bwyllogr Caldecott (1997) ↩
-
Mae pob Perchennog Asedau Gwybodaeth yn gyfrifol am gydymffurfio â pholisïau o’r math ↩