Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 74: chwiliadau o’r mynegai enwau perchnogion

Diweddarwyd 9 Rhagfyr 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 11 o Reolau Cofrestru Tir, mae’n ofynnol i’r cofrestrydd gadw mynegai enwau perchnogion sy’n dangos ar gyfer pob cofrestr unigol perchennog yr ystad gofrestredig a pherchennog unrhyw arwystl cofrestredig, ynghyd â’r rhif teitl. Pan fyddwch yn chwilio’r mynegai enwau perchnogion, cewch restr o deitlau sydd ym meddiant, neu wedi eu morgeisio, i’r enw rydych wedi chwilio yn ei erbyn.

Bydd canlyniad y chwiliad yn dangos pob teitl lle mae’r enw a chwiliwyd naill ai’n berchennog ystad gofrestredig mewn tir neu’n berchennog arwystl cofrestredig. Os yw’r person neu sefydliad a enwir yn y chwiliad yn berchen ar unrhyw deitlau ar y cyd â pherson neu sefydliad arall, bydd y teitlau hyn yn cael eu datgelu hefyd.

Sylwer hefyd na all canlyniadau chwiliad mynegai enwau perchnogion wahaniaethu rhwng gwahanol bersonau neu sefydliadau sydd â’r un enw. Felly mae angen ichi ystyried canlyniadau’r chwiliad yn ofalus

Ni all canlyniad chwiliad mynegai enwau perchnogion brofi nad yw unigolyn neu sefydliad yn berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn oherwydd:

  • gallai ddatgelu eiddo a berchnogir gan unigolion neu sefydliadau eraill o’r un enw
  • hyd yn oed os nad yw’r canlyniad yn datgelu unrhyw deitlau a berchnogir yn yr enw y chwilir amdano, gallai’r unigolyn neu sefydliad hwnnw berchen ar eiddo nad yw’n gofrestredig

Am ragor o wybodaeth am ganlyniad y chwiliad gweler Canlyniadau chwiliadau.

2. Pwy sy’n gallu gwneud cais am chwiliad mynegai enwau perchnogion

Gall unrhyw un wneud cais i chwilio’r mynegai enwau perchnogion mewn perthynas â:

a) ei enw ei hun

b) enw corff corfforaethol megis cwmni cofrestredig

c) enw person arall y gallent brofi i’r cofrestrydd fod ganddynt ddiddordeb cyffredinol yn ei eiddo. Er enghraifft:

  • gall y Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad chwilio yn erbyn enw’r methdalwr
  • gall cynrychiolydd personol chwilio yn erbyn enw’r ymadawedig ar ôl cyflwyno tystiolaeth berthnasol, fel profiant neu lythyrau gweinyddu

Mewn perthynas ag c) uchod, rhoddir enghreifftiau o bobl sydd wedi cymryd lle’r perchennog trwy freinio statudol. Bydd angen bodloni’r cofrestrydd bob amser fod gan y person sy’n gwneud cais am y chwiliad mynegai enwau perchnogion ddiddordeb cyffredinol yn eiddo’r perchennog o natur debyg i’r enghreifftiau hyn.

Sylwer nad yw gorchymyn methdaliad tramor (gan gynnwys gorchymyn o’r Alban), hyd yn oed os caiff ei gydnabod gan lysoedd Lloegr, yn cael yr effaith o freinio unrhyw ran o eiddo methdalwr yng Nghymru a Lloegr yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad. Effaith hyn yw nad yw gorchymyn methdaliad tramor yn rhoi’r hawl i ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud chwiliad o’r mynegai enwau perchnogion.

Gallwch chwilio’r mynegai enwau perchnogion yn erbyn unigolyn preifat hefyd os oes gennych orchymyn llys yn awdurdodi chwiliad o’r mynegai enwau perchnogion yn benodol ac sy’n nodi’r enw i’w chwilio ac unrhyw amrywiadau ohono, neu os oes gennych awdurdod ysgrifenedig y person rydych am chwilio yn erbyn ei enw ac yn ei amgáu â’ch cais.

Mae gwybodaeth yn y mynegai enwau perchnogion sy’n ymwneud ag unigolyn preifat yn cael ei hystyried yn ddata personol ac mae ei datgelu yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Byddwn yn dal i allu darparu canlyniad chwiliad lle mae sail gyfreithlon dros ddatgelu’r wybodaeth. Bydd hyn yn cynnwys y sefyllfaoedd a amlinellwyd eisoes uchod (lle mae gorchymyn llys perthnasol neu gallwch ddangos bod gennych ddiddordeb digonol yn eiddo unigolyn preifat fel yn a) neu c) uchod). Mae hyn oherwydd:

  • mae rheol 11(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhoi’r hawl i berson gael y wybodaeth honno os yw’n ymwneud ag enw’r person hwnnw ei hun neu os gall ddangos bod ganddo fudd digonol yn eiddo’r unigolyn preifat (fel yn a) neu c) uchod) ac mae Atodlen 2 paragraff 5(2) y Ddeddf Diogelu Data yn caniatáu datgeliad lle mae deddfwriaeth yn mynnu hynny

  • mae Atodlen 2 paragraff 5(2) y Ddeddf Diogelu Data hefyd yn caniatáu datgelu data personol pan fo gorchymyn llys yn gofyn am hynny.

Lle nad oes sail o’r fath, caiff eich cais ei wrthod. O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel arfer yn darparu llwybr i gael y data ychwaith, gan nad yw adran 40 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol inni ddatgelu data personol lle (a) mae’n ymwneud â’r ceisydd neu (b) byddai datgeliad o’r fath yn mynd yn groes i egwyddorion diogelu data y Ddeddf Diogelu Data.

Nid yw’n cael ei dderbyn, lle ceir achosion cyfreithiol neu ddarpar achosion cyfreithiol, na fyddai datgelu gwybodaeth o’r mynegai enwau perchnogion yn mynd yn groes i egwyddorion diogelu data (at ddibenion adran 40(2) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth) ar y sail y caniateir datgeliad o’r fath gan Atodlen 2 paragraff 5(3) o’r Ddeddf Diogelu Data. Er y gallai fod yn gyfleus, nid yw cais am chwiliad mynegai enwau perchnogion yn angenrheidiol “at ddiben, neu mewn cysylltiad ag, achosion cyfreithiol (gan gynnwys achosion cyfreithiol arfaethedig)” neu “at ddiben cael cyngor cyfreithiol” neu “fel arall…at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol”.

O dan reol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae gan yr heddlu a sefydliadau penodol eraill yr hawl i wneud cais am wybodaeth, gan gynnwys chwiliadau mynegai enwau perchnogion, gan ddefnyddio ffurflen CIT. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 43: Achosion llys, ansolfedd a rhwymedigaeth treth: ceisiadau.

3. Sut i wneud cais

3.1 Gwneud cais trwy’r post neu trwy gyfnewid dogfennau

Dylech lenwi ffurflen PN1 a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen (sylwer na allwn dderbyn ceisiadau trwy ffacs erbyn hyn). Fel rheol dylech lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob enw y chwilir amdano. Fodd bynnag, os ydych yn chwilio yn erbyn enwau cyrff corfforaethol megis cwmnïau cofrestredig yn unig, gallwch gyflwyno un ffurflen PN1 ar gyfer chwiliadau yn erbyn enwau lluosog. Mewn achosion o’r fath, dylid cynnwys rhestr ar wahân o’r enwau i’w chwilio, wedi ei chreu mewn teip mewn gofod dwbl. Sylwch fod ffi yn daladwy am bob enw a chwilir.

Os nad ydych yn drawsgludwr, ymddiriedolwr mewn methdaliad, Derbynnydd Swyddogol neu gynrychiolydd personol, ac rydych yn chwilio yn erbyn enw unigolyn preifat, bydd angen ichi lenwi ac amgáu ffurflen hunaniaeth mynegai enwau perchnogion ynghyd â thystiolaeth o’ch hunaniaeth, wrth wneud eich cais.

Gallwch ofyn i ganlyniadau’r chwiliad gael eu cyfyngu i’r gofrestr perchnogaeth neu’r gofrestr arwystlon, ond bydd canlyniadau chwiliad yn dangos y ddau os na nodir dewis.

Os ydych yn gwneud chwiliad yn erbyn rhywun y mae gennych ddiddordeb cyffredinol yn ei eiddo, bydd angen esboniad o natur y diddordeb ym mhanel 7 ffurflen PN1 ac amgáu tystiolaeth o’ch hawl i wneud chwiliad gyda’ch cais, fel copi o’ch penodiad fel ymddiriedolwr mewn methdaliad, profiant neu lythyrau gweinyddu. Os na fyddwch yn amgáu’r dystiolaeth angenrheidiol, caiff eich cais ei wrthod.

3.2 Gwneud cais trwy ebost

Gall cwsmeriaid sydd â rhif allwedd Cofrestrfa Tir EM anfon rhai ceisiadau i chwilio’r mynegai enwau perchnogion trwy ebost at pn1searches@landregistry.gov.uk. Sonnir uchod am drefniadau ar wahân ar gyfer ymchwilio neu orfodi. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau a anfonir i unrhyw gyfeiriad ebost arall. Sylwer nad ydym yn rheoli diogelwch cyfathrebiadau ebost cyn iddynt gyrraedd ein systemau. Mae’n bosibl na fydd gwybodaeth a gawn dros y rhyngrwyd wedi ei hamgryptio neu’n gwbl ddiogel. Os byddwch yn anfon gwybodaeth gan ddefnyddio dull ansicr, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.

Rhaid i bob ebost gynnwys fel atodiad ffurflen PN1 wedi ei llenwi’n llawn (atodwch dim ond un i bob ebost), gan gynnwys paneli 1 a 3 wedi eu llenwi i ganiatáu i’r ffi ymgeisio gael ei chymryd trwy ddebyd uniongyrchol. Fel arfer dylech lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob enw a chwilir. Fodd bynnag, os ydych yn chwilio yn erbyn enwau cyrff corfforaethol megis cwmnïau cofrestredig yn unig, gallwch gyflwyno un ffurflen PN1 ar gyfer chwiliadau yn erbyn enwau lluosog. Mewn achosion o’r fath, dylid cynnwys rhestr ar wahân o’r enwau i’w chwilio, wedi ei chreu mewn teip mewn gofod dwbl. Sylwch fod ffi yn daladwy am bob enw a chwilir. Mae gofynion a chyfyngiadau pellach ar ddefnyddio’r gwasanaeth hwn wedi eu nodi yn y rhybudd perthnasol a gyhoeddwyd gan y cofrestrydd o dan reol 14 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac Atodlen 2 iddynt. Yn benodol, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i anfon cais trwy ebost ar yr amod bod gennych rif allwedd Cofrestrfa Tir EF a bod y canlynol yn gymwys hefyd:

  • rydych yn gwneud cais i chwilio yn erbyn enw corff corfforaethol megis cwmni cofrestredig (nid oes angen tystiolaeth gefnogol bellach)

  • rydych yn drawsgludwr sy’n anfon y cais ar ran unigolyn sy’n gwneud cais i chwilio yn erbyn ei enw ei hun ac sy’n atodi tystysgrif y trawsgludwr perthnasol (gweler isod)

  • chi yw’r Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad, a benodwyd yng Nghymru a Lloegr, sy’n gwneud cais i chwilio yn erbyn enw’r methdalwr ac yn atodi tystiolaeth o benodiad (gweler isod)

  • rydych yn gynrychiolydd personol, sy’n gwneud cais i chwilio yn erbyn enw’r ymadawedig ac yn atodi tystiolaeth o benodiad (gweler isod), neu

  • rydych yn drawsgludwr, ar ran ceisydd o fewn y ddau bwynt bwled blaenorol, sy’n atodi tystysgrif y trawsgludwr perthnasol (gweler isod – nid oes angen tystiolaeth penodiad ar wahân)

Nid yw’r gwasanaeth ebost ar gael o dan unrhyw amgylchiadau eraill (mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â gorchymyn llys).

Mae ‘tystiolaeth o benodiad’ a nodir uchod yn golygu, mewn sefyllfaoedd methdaliad, gopïau o orchymyn methdaliad cyfredol a phenodiad presennol y ceisydd fel ymddiriedolwr mewn methdaliad yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer cynrychiolwyr personol, mae’n golygu copi o grant cynrychiolaeth cyfredol, a fydd fel arfer yn grant profiant neu lythyrau gweinyddu.

Mae ‘tystysgrif trawsgludwr perthnasol’ a nodir uchod yn golygu tystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr unigol, yn bersonol mewn ‘inc gwlyb’ ac yn ei enw ef neu hi ei hun (nid enw ei gwmni neu ei chyflogwr). Rhaid iddo fod yn y ffurf ganlynol a rhaid cynnwys copi fel atodiad (nid yng nghorff yr ebost):

“Rwyf i, [nodwch enw’r trawsgludwr unigol], yn drawsgludwr o fewn ystyr rheol 217A(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 a fi neu, yn ôl fel y digwydd, fy nghwmni neu fy nghyflogwr yw’r person a enwir yn y panel 3 ar y ffurflen PN1 atodedig.

Fy rheolydd cymeradwy neu awdurdod trwyddedu perthnasol yw [nodwch fanylion].

Mewn perthynas â’r cgeisydd a enwir ym mhanel 2 y ffurflen PN1 atodedig, tystiaf fy mod yn fodlon bod camau digonol wedi eu cymryd i wirio:

  • hunaniaeth y person hwnnw, a

  • cywirdeb y datganiad a ddewiswyd ym mhanel 7 y ffurflen PN1 atodedig

Llofnod [rhaid i drawsgludwr unigol lofnodi yn ei enw ei hun ac nid enw ei gwmni neu gyflogwr]

……………………………………………………

Dyddiad……………………………………………”

Ni ddylid diwygio’r ffurflen uchod ac eithrio i gwblhau’r manylion lle nodir. Yn benodol, rhaid iddi barhau i fod yn dystysgrif trawsgludwr a reoleiddir yn unigol ac felly ni ddylai gyfeirio at ardystiad neu gadarnhad gan gwmni, cleient neu geisydd nad yw’n drawsgludwr.

Ni allwch wneud cais i chwilio’r mynegai enwau perchnogion trwy borth e-wasanaethau Busnes Cofrestrfa Tir EM.

3.3 Awgrymiadau ar gyfer chwilio yn erbyn unigolion preifat

Bydd canlyniadau’r chwiliad yn seiliedig ar baru enw’n union, ond bydd yn caniatáu ar gyfer amrywiadau o ran atalnodi a bylchau. Er enghraifft:

  • byddai chwiliad am Patrick O’Neil yn datgelu canlyniadau ar gyfer Patrick ONeil neu Patrick O Neil, ond nid Patrick David O’Neil na David Patrick O’Neil
  • byddai chwiliad yn erbyn Sally Anne Smith yn datgelu Sally-Anne Smith hefyd, ond nid Sally Ann Smith

Caiff Mac a Mc eu trin fel dau enw gwahanol, felly ni fyddai chwiliad am Peter McMullen yn datgelu teitlau ym meddiant Peter MacMullen.

Ni ddefnyddir teitlau fel Arglwydd, Arglwyddes, Doctor, Hŷn, Iau ac ati ar gyfer nodi manylion chwiliad ar y system mynegai enwau perchnogion ond cânt eu cynnwys yn y canlyniadau.

Bydd chwiliadau yn erbyn cyfenwau cyplysedig yn cynnwys canlyniadau gyda’r cyplysnod a hebddo.

Ni fyddai chwiliad am Rosemary Smith yn datgelu teitlau ym meddiant Rose Mary Smith, felly os yw’n bosibl rhannu neu gyplysu enw cyntaf, gallai fod yn fuddiol gwneud cais am chwiliad yn erbyn y ddau fersiwn o’r enw.

3.4 Awgrymiadau ar gyfer chwilio yn erbyn sefydliadau

Mae chwiliadau yn erbyn cwmni cyfyngedig neu gwmni cyfyngedig cyhoeddus yn cynnwys y byrfoddau arferol a’r byrfoddau cyfatebol yn Gymraeg.

Limited Cyfyngedig
Ltd Cyf
LD  
Public Limited Company Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus
PLC CCC
P L C  
  Cyfyngedig Cyhoeddus
  Cwmni Cyf Cyhoeddus

felly byddai chwiliad am Badger Chocolates Cyfyngedig yn datgelu canlyniadau ar gyfer Badger Chocolates CYF, Badger Chocolates CCC a Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Badger Chocolate.

Ni chaiff cwmnïau buddion cymunedol eu datgelu oni fydd y cais am chwiliad yn cynnwys y geiriau Community Interest Company.

Os ydych yn chwilio am gwmni heb CCC neu Cyfyngedig yn yr enw, bydd y canlyniadau’n datgelu unrhyw achosion lle y nodwyd yr enw gyda CCC neu Cyfyngedig, hefyd. Byddai’r canlyniad a gyflwynwyd yn cynnwys nodyn yn tynnu eich sylw at hyn.

Bydd chwiliadau yn erbyn partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn cynnwys yr amrywiadau canlynol.

Limited Liability Partnership

Limited Partnership

LP

L P

LLP

L L P

Bydd chwiliadau yn erbyn cwmni atebolrwydd cyfyngedig yn cynnwys yr amrywiadau canlynol.

Limited Liability Company

Limited Company

LC

L C

LLC

L L C

Lle bo enw cwmni’n cynnwys llythrennau cyntaf, atalnodi a/neu gromfachau, bydd y canlyniadau yn cynnwys unrhyw amnewidiad posibl. Bydd chwiliad am A H Badger Chocolates (UK) Limited yn dangos y canlyniadau ar gyfer:

AH Badger Chocolates (UK) Limited

A.H. Badger Chocolates (UK) Limited

A. H. Badger Chocolates (UK) Limited

AH Badger Chocolates UK Limited

A H Badger Chocolates (United Kingdom) Limited

a phob opsiwn bylchau/atalnodi posibl arall gyda’r cromfachau a hebddynt a phob amrywiad o Cyfyngedig ac CCC hefyd.

Anwybyddir y gair “the” – byddai chwiliad am The Badger Chocolate Company yn datgelu’r canlyniadau ar gyfer Badger Chocolate Company hefyd ac i’r gwrthwyneb.

Caiff byrfoddau ar gyfer geiriau fel cymdeithas a chwmni eu datgelu hefyd, felly trinnir yr enghreifftiau canlynol fel yr un peth ar ddibenion chwiliad.

Company Co Company’s Companies Coys
Association Assoc Ass    
Property Propertys Property’s Properties Props
Brothers Bros Bros.    
And &      
Road Rd Rd.    
Street St St.    
Saint St St.    

3.5 Chwiliadau am awdurdodau lleol

Chwilir amdanynt yn ôl enw lle a’r math o gyngor. Er enghraifft, os ydych yn chwilio am ‘Plymouth Corporation’ cewch ganlyniadau ar gyfer ‘Plymouth City Council’, ‘The Mayor Aldermen & Burgesses of the City of Plymouth’, ‘Plymouth Council’, ‘Council of Plymouth’, ‘Borough Council of Plymouth’ ac ati.

3.6 Enwau cymhleth

Yn aml mae gan elusennau, ysgolion a cholegau lawer o ffyrdd o gael eu hysgrifennu a bydd chwiliad mynegai enwau perchnogion bob amser yn ceisio cynnwys cymaint o opsiynau â phosibl. Caiff geiriau megis ‘Governors’, ‘Trustees’, ‘Governing body of’ ac ati eu hanwybyddu wrth gyflawni’r chwiliad ond byddant yn ymddangos yng nghanlyniadau’r chwiliad.

3.7 Adrannau’r llywodraeth

Caiff y chwiliad ei gyflawni ar enw’r adran, gan anwybyddu geiriau megis ‘Secretary of’, ‘Minister of’, ‘Department of’ ac ati. Er enghraifft, gwneir cais am chwiliad ar gyfer ‘The Secretary of State for Environment, Food & Rural Affairs’ ei wneud ar y testun ‘Environment, Food & Rural Affairs’, a byddai’n datgelu’r holl deitlau oedd yn ymddangos yn enw’r perchennog. Fodd bynnag, ni fyddai’n datgelu rhifau teitlau ar gyfer unrhyw adran unigol a enwir yn y testun, megis ‘the Department for the Environment’.

4. Ffïoedd

Y ffi am bob enw y chwilir amdano yw £15, felly os ydych yn chwilio yn erbyn yr enw presennol ac un enw blaenorol, cyfanswm y ffi yw £30.

5. Canlyniadau chwiliadau

Os ydych yn cynnwys cyfeiriad ebost ym mhanel 3 ffurflen PN1, byddwn fel rheol yn anfon canlyniadau’r chwiliad i’r cyfeiriad hwnnw fel taenlen a/neu ddogfen PDF trwy ebost. Os na fyddwch yn cynnwys cyfeiriad ebost ym mhanel 3 ffurflen PN1, byddwn yn anfon canlyniadau’r chwiliad atoch trwy’r post neu trwy gyfnewid dogfennau.

Ar gyfer chwiliadau yn erbyn enw unigolyn preifat, byddwn yn amgryptio unrhyw negeseuon ebost a anfonwn wrth gyhoeddi canlyniadau i’w gwneud yn ofynnol ichi ddilysu eich hun i gael mynediad at y manylion a ddarparwyd. Gweler ein cyfarwyddyd ar Amgryptio negeseuon ebost Cofrestrfa Tir EF ar gyfer sut i agor ebost wedi ei amgryptio gan Gofrestrfa Tir EM. Pan gewch fanylion am unigolion preifat gennym ni, trwy ebost neu ar bapur, efallai y bydd gennych rwymedigaethau diogelu data mewn perthynas â nhw. Rhaid ichi gymryd yr holl fesurau diogelwch angenrheidiol neu gamau eraill i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Bydd y canlyniadau yn rhoi pâr enw union ac ni fyddant yn ystyried unrhyw amrywiadau sillafu a allai ymddangos ar y gofrestr, heblaw’r byrfoddau safonol a’r amrywiadau atalnodi a restrir yn Awgrymiadau ar gyfer chwilio yn erbyn unigolion preifat ac Awgrymiadau ar gyfer chwilio yn erbyn sefydliadau. Ni chaiff teitlau a drosglwyddir neu a arwystlir i’r person neu’r cwmni a enwir, lle nad yw’r cofrestriad wedi ei gwblhau eto, eu datgelu gan mai dim ond gwybodaeth yn ymwneud â chofrestriadau wedi eu cwblhau mae’r mynegai enwau perchnogion yn ei gynnwys.

Mae’r mynegai enwau perchnogion yn cynnwys manylion perchnogaeth yn ymwneud â thros 23 miliwn o deitlau cofrestredig ac yn anffodus mae’n anochel bod mynegai o’r maint hwn yn cynnwys rhai gwallau. Er enghraifft, weithiau datgelir teitlau sydd wedi cau.

Rhybudd: Nid yw’r mynegai enwau perchnogion yn gwahaniaethu rhwng gwahanol unigolion neu sefydliadau sydd â’r un enw. Fe’ch cynghorir yn gryf i gael copi o’r gofrestr o unrhyw deitl a ddatgelir cyn ichi gymryd unrhyw gamau’n seiliedig ar ganlyniad y chwiliad.

Efallai y bydd angen ichi wirio’r gofrestr ar gyfer pob teitl, a/neu unrhyw gofnodion a allai fod gennych o ddaliadau eiddo’r unigolyn neu sefydliad o dan sylw er mwyn sicrhau mai eiddo’r unigolyn neu sefydliad rydych yn chwilio yn ei erbyn ydyw, yn hytrach na pherson neu sefydliad arall â’r un enw. Yn amlwg, dylech fod yn wyliadwrus wrth ddelio a pherson gydag enw eithaf cyffredin, neu lle rydych yn ymwybodol fod gan aelod arall o’r teulu yr un enw.

Bydd copïau swyddogol o’r gofrestr yn datgelu cyfeiriad y teitl ac enw a chyfeiriad y perchennog ac fel arfer bydd yn nodi’r dyddiad y’i cofrestrwyd fel y perchennog. Gall y wybodaeth hon eich helpu i benderfynu, ar y cyd ag unrhyw gofnodion eraill a allai fod gennych neu y gallwch gael gafael arnynt, a yw’r teitl ym meddiant y person neu’r sefydliad y mae gennych ddiddordeb ynddynt neu rywun arall â’r un enw. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael gafael ar gopi swyddogol o’r gofrestr.

Os na allwn ddod o hyd i bâr ar gyfer yr enw y chwiliwyd amdano, byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych na lwyddwyd i ddod o hyd i barau i’r enw y chwiliwyd amdano.

5.1 Unigolyn preifat

Rhif teitl Perchennog cofrestredig Swyddfa Cofrestrfa Tir EF Cod yr Is Gofrestr Math o Enw
HCB354865 John Smith Nottingham B S
CS719538 John Smith Plymouth B J
WSL4884 John Smith Abertawe B S

Bydd y canlyniadau yn dangos yr holl deitlau yn unrhyw ran o Gymru a Lloegr lle bo’r union enw yn ymddangos ar y mynegai enwau perchnogion, ynghyd â swyddfa Cofrestrfa Tir EF sy’n delio â’r teitl. Ni allwch gyfyngu’r canlyniad i ran benodol o’r wlad na nodi fod gan y perchennog gyfeiriad penodol.

Mae Cod yr Is Gofrestr yn dweud wrthych a yw’r person yn berchennog y tir (cod B) neu’n berchennog arwystl cofrestredig (cod C).

Mae math o enw S yn nodi mai’r unig berchennog yw’r enw y chwiliwyd amdano ac mae math o enw J yn dangos mai’r cydberchennog yw’r enw y chwiliwyd amdano.

5.2 Cwmni

Rhif teitl Perchennog cofrestredig Swyddfa Cofrestrfa Tir EF Cod yr Is Gofrestr Math o Enw
WSL29694 Badger Chocolates Limited Abertawe B C
WSL19857 Badger Chocolates Limited Abertawe B C
WSL63856 Badger Chocolates Ltd Abertawe B C
WSL4831 Badger Chocolates Ltd Abertawe B C

6. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.