Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer gweithredu cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) gan CThEF
Diweddarwyd 25 January 2024
Yn berthnasol i Gymru
Rhagarweiniad
Pwrpas
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi’r pŵer i Senedd Cymru osod cyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm yng Nghymru i’w chodi ar drethdalwyr Cymreig (fel y’u diffinnir yn adran 116E o Ddeddf 2006). Mae cyfraddau treth incwm Cymru (CTIC) yn dal i fod yn rhan o system Treth Incwm y DU: bydd yn parhau i gael ei gweinyddu gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF); a Senedd y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am y Lwfans Personol, y sylfaen drethu a rhyddhad treth.
Mae derbyniadau treth incwm rhagamcanol Cymru yn llifo o Drysorlys EF i Gronfa Gyfunol Llywodraeth Cymru. Caiff y swm hwn ei gysoni bob blwyddyn yn erbyn swm y dreth incwm a gesglir gan CThEF.
CThEF sy’n gyfrifol o hyd am gasglu a rheoli CTIC, ac mae angen iddo ddangos ei fod yn gwneud hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru dalu unrhyw gostau ychwanegol net yr eir iddynt gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyflwyno CTIC.
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael digon o ddata gan CThEF er mwyn:
- cyflawni ei dyletswyddau o ran: llunio rhagolygon, datblygu polisi treth incwm, pennu cyfraddau; a chyllidebu ar gyfer unrhyw amrywiad yn nhreth incwm Cymru a gesglir yn erbyn rhagolygon
- iddi fod yn sicr o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd CThEF o ran gweithredu CTIC
Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (Cytundeb) hwn yn nodi’r gofynion, yr amserlenni a’r mesurau perfformiad ar gyfer gweithredu CTIC a fydd yn sicrhau gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr Cymreig ac yn galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i gyflawni eu priod gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC.
Mae CThEF wedi ymrwymo i barhau i wella ei ffordd o weithredu CTIC. Bydd CThEF yn sicrhau, yn unol â’i arferion, y bydd gwelliannau i’w brosesau a’i weithdrefnau ar gyfer gweithredu CTIC yn cael eu gweithredu lle bo hynny’n bosibl ac yn gost-effeithiol.
Rolau a Chyfrifoldebau
CThEF sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r refeniw o dreth incwm yn rhinwedd Adran 5(1)(a) o Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005. Mae CThEF wedi penodi Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am CTIC ac sy’n atebol am berfformiad CThEF wrth sefydlu a gweithredu pwerau treth incwm Cymru.
Mae Rhan 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi’r pŵer i Senedd Cymru bennu CTIC, gan ei galluogi (y Senedd) i bennu cyfradd ar gyfer cyfran o’r dreth incwm a delir gan drethdalwyr Cymreig.
Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Senedd basio Penderfyniad ynghylch Cyfraddau Cymru, a fydd yn pennu cyfraddau’r dreth incwm a osodir ar drethdalwyr Cymreig. Mae’n rhaid i’r penderfyniad gael ei wneud yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y disgwylir i’r cyfraddau fod yn gymwys.
Mae’r gallu i newid, ychwanegu at neu ddileu rhyddhadau treth incwm yn parhau i gael ei gadw’n ôl gan Senedd y DU.
Mae’r gallu i ddiffinio, newid, ychwanegu at neu ddileu’r mathau o incwm y gellir cymhwyso treth incwm atynt yn parhau i gael ei gadw’n ôl gan Senedd y DU.
Mater rhwng trethdalwyr Cymreig a CThEF fydd unrhyw anghydfod ynglŷn â CTIC.
At hynny, o dan y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn 2016, mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru ad-dalu i Lywodraeth y DU unrhyw gostau ychwanegol net yr eir iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weinyddu pwerau Treth Incwm Cymru.
Mae CThEF yn gweinyddu CTIC fel rhan o gyfundrefn treth incwm ehangach y DU. Mae’n dal i fod yn gyfrifol am gadw data cwsmeriaid sy’n ymwneud â CTIC a chwsmeriaid CTIC yn unol â’i brosesau arferol.
I’r perwyl hwnnw, mae CThEF hefyd yn dal i fod yn gyfrifol, fel y Rheolydd Data, am CTIC ac am gydymffurfiaeth â deddfwriaeth ehangach ynghylch diogelu data – gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data (DPA) 2018, yn unol â’i Hysbysiad Preifatrwydd sefydliadol ei hun.
Fframwaith y Cytundeb
Partïon sy’n rhan o’r Cytundeb
Gwneir y Cytundeb hwn rhwng Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Llywodraeth Cymru.
Hyd y Cytundeb
Er gwaethaf dyddiad y llofnodion, mae’r Cytundeb hwn, a’i iteriad blaenorol, yn weithredol o 6 Ebrill 2019. Nid oes dyddiad dod i ben i’r ddogfen hon, ond bydd yn peidio â bod yn weithredol os diddymir pwerau treth incwm Cymru. Gellir dirwyn y ddogfen hon i ben drwy gytundeb rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru.
Effaith Gyfreithiol
Cytundeb rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yw hwn. Nid oes iddo rym cyfreithiol ffurfiol. Serch hynny, mae’r naill barti a’r llall yn disgwyl i’w delerau gael eu dilyn. Nodir trefniadau ar gyfer ymdrin ag anghydfodau yn y Cytundeb hwn.
Deilliant
Mae CThEF a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) trosfwaol sy’n nodi priod gyfrifoldebau parhaus CThEF a Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogol mewn perthynas â sefydlu a gweithredu pwerau treth incwm Cymru mewn ffordd effeithlon ac yn effeithiol. Mae hefyd yn rhoi’r fframwaith ar gyfer gwaith rhynglywodraethol ar lefel weinidogol a swyddogol er mwyn goruchwylio’r broses o sefydlu a gweithredu pwerau treth incwm Cymru.
Mae’r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu i Lywodraeth y DU unrhyw gostau ychwanegol net yr eir iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weithredu a gweinyddu pwerau treth incwm Cymru.
Dylid darllen y Cytundeb hwn ar y cyd â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r Fframwaith Cyllidol.
Y Gofyniad o ran Gwasanaeth
Nodau Trosfwaol
Y nodau trosfwaol o ran y ffordd y mae CThEF yn gweinyddu CTIC yw y bydd CThEF yn :
- nodi poblogaeth trethdalwyr Cymreig, a chasglu’r cyfraddau cywir o dreth incwm Cymru ganddi er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael y swm cywir o refeniw o dreth incwm bob blwyddyn
- rhoi cyfrif am y swm o dreth incwm Cymru a gasglwyd, a hysbysu’r Senedd amdano drwy gyflwyno darn o Gyfrifon CThEF iddi bob blwyddyn
- parhau i weinyddu treth incwm ar gyfer trethdalwyr Cymreig, cyflogwyr trethdalwyr Cymreig a darparwyr eu meddalwedd gyflogres yn yr un modd ag y darperir y gwasanaeth mewn rhannau eraill o’r DU
- rhoi data digonol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi allu cyflawni ei dyletswyddau ei hun mewn perthynas â chyfraddau treth incwm Cymru
- anfonebu Llywodraeth Cymru am gostau ychwanegol net y cytunwyd arnynt ac yr aed iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru
Gofynion Allweddol
Nodwyd y gofynion allweddol canlynol o ran gweithredu a gweinyddu pwerau treth incwm Cymru gan CThEF:
- nodi poblogaeth talwyr treth incwm Cymru a chynnal cofnod cywir a chadarn ohoni
- cymhwyso’r cyfraddau Cymreig priodol at incwm trethdalwyr Cymreig, nad yw’n dod o gynilion na difidendau, er mwyn i CThEF allu casglu’r swm cywir o refeniw o dreth incwm sy’n ddyledus i Lywodraeth Cymru a rhoi cyfrif amdano
- rhoi’r un lefel o wasanaeth cwsmeriaid, cymorth a thryloywder i dalwyr treth incwm Cymru, a chyflogwyr trethdalwyr Cymreig, ag a roddir i dalwyr treth incwm yng ngweddill y DU
- trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud â gweithredu a gweinyddu CTIC, yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg CThEF ei hun
- rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â phennu cyfraddau a llunio rhagolygon ar gyfer treth incwm Cymru
- rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian o ganlyniad i unrhyw newid rhwng y rhagolygon a’r symiau o dreth incwm Cymru a gesglir;
- rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru at ddibenion sicrwydd, ac er mwyn cyllidebu’n effeithiol ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol net yr ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt
- cymhwyso gweithgarwch cydymffurfiad seiliedig ar risg at y gwaith o gasglu CTIC yn yr un modd ag y’i cymhwysir at y gwaith o gasglu treth incwm gan drethdalwyr yng ngweddill y DU
- rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi fod yn sicr bod arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol gan CThEF wrth weinyddu CTIC, gan gynnwys gweithgarwch cydymffurfiad a gorfodi
- rhoi asesiad llawn i Lywodraeth Cymru o’r gofynion o ran cyflawni, amserlenni a chostau’r newidiadau arfaethedig i CTIC sydd i’w cael yn y fframwaith cyfreithiol sydd wedi’u nodi yn y Cytundeb hwn
- yn unol â’r asesiad hwn, gwneud y newidiadau angenrheidiol i’w systemau a’i brosesau yn dilyn cadarnhad o unrhyw newidiadau i CTIC gan weinidogion Llywodraeth Cymru. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol, gwneir hyn cyn cyhoeddiad ffurfiol gan weinidogion Llywodraeth Cymru, lle bo angen a phan fo hynny’n bosibl, i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei chasglu gan drethddalwyr Cymru
- trin gwybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ynghylch newidiadau arfaethedig i CTIC yn unol â chytundeb cyfrinachedd CTIC, sydd ynghlwm yn Atodiad C
Atodir mesurau perfformiad mewn perthynas â’r gofynion hyn yn Atodiad A: Mesurau Perfformiad CThEF.
Rhannu Data
Mae’r Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn nodi bod gan y ddwy lywodraeth yr amcan i rannu rhyngddynt fynediad at wybodaeth dechnegol, gwybodaeth weithredol, a gwybodaeth polisi.
Bydd CThEF yn darparu gwybodaeth, gan gynnwys data, i Lywodraeth Cymru pan fo’n ofynnol ar gyfer datblygu polisi Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Lle bo CThEF yn methu â darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cymru, bydd CThEF yn nodi’r rhesymau dros y methiant hwn ar bapur.
Os bydd anghydfodau o ran rhannu’r wybodaeth yn codi, delir â’r rhain gan ddefnyddio’r polisi datrys anghydfod sydd wedi’i nodi yn y Cytundeb hwn.
Trefniadau Rheoli
Costau a Threfniadau Ad-dalu
Bydd CThEF yn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am unrhyw gostau ychwanegol net yr eir iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weinyddu pwerau Treth Incwm Cymru. Codir unrhyw gostau ychwanegol net ar sail cost economaidd lawn.
Mae CThEF a Llywodraeth Cymru wedi datblygu Dogfen Fframwaith (‘Fframwaith’) sy’n nodi’r meysydd hysbys lle y bydd costau gweinyddol ychwanegol net yn codi, yn ogystal â nodi’r wybodaeth y bydd CThEF yn dibynnu arni er mwyn cyfrifo’r costau hyn. Defnyddir hyn fel sail ar gyfer codi a chytuno ar anfonebau gyda Llywodraeth Cymru. Caiff y ddogfen hon ei diweddaru er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i nodi’r holl feysydd gwaith y gellir ailgodi tâl amdanynt ac fe’i hatodir yn Atodiad B: Gweithredu Fframwaith CTIC o ran Costau y Gellir Ailgodi Tâl Amdanynt.
Bydd CThEF yn anfonebu Llywodraeth Cymru am gostau yr eir iddynt bob chwarter ar ôl darparu papur costau manwl yn gyntaf sydd wedi’i ystyried ac y cytunwyd arno yn y cyfarfodydd chwarterol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb, neu cyn pen 30 diwrnod o gael yr anfoneb os bydd oedi o fwy na 5 diwrnod rhwng dyddiad yr anfoneb a’r dyddiad y daw i law.
Lle y bo angen, cytunir ar drefniadau cronni ymlaen llaw rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau Chwarter 4 (Ionawr – Mawrth) er mwyn sicrhau y gwneir y taliadau hyn mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol briodol.
Cysylltiadau o Ddydd i Ddydd
Disgwylir i’r ddau barti wneud pob peth rhesymol o fewn eu pŵer sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol i weithredu ysbryd a bwriad y Cytundeb.
Disgwylir i’r ddau barti ymddwyn yn ddidwyll a gwneud pob ymdrech i ddatrys drwy gytundeb unrhyw anghydfod, anghytundeb neu gwestiwn sy’n deillio o’r Cytundeb hwn neu sy’n codi mewn perthynas ag ef.
Bydd y ddau barti yn enwebu Un Pwynt Cyswllt (SPoC) i oruchwylio’r gwaith o reoli unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r Cytundeb hwn o ddydd i ddydd.
Ymdrinnir ag unrhyw faterion o’r fath mewn ffordd ragweithiol a chynhwysol er mwyn sicrhau bod CTIC yn parhau i gael eu gweinyddu ar y lefelau gofynnol fel y’u nodir yn y Cytundeb hwn.
Pan fydd anghydfod yn codi ynglŷn â gweithrediad y Cytundeb hwn, neu unrhyw amrywiad i’r Cytundeb hwn neu unrhyw ddehongliad ohono, bydd y ddau barti i ddechrau yn ceisio datrys yr anghydfod hwn yn anffurfiol drwy’r Pwyntiau Cyswllt (SPoCs). Os na fydd Pwyntiau Cyswllt unigol yn gallu datrys unrhyw anghydfod o’r fath, byddant yn ei gyfeirio at y Dirprwy Gyfarwyddwr perthnasol ym mhob sefydliad fel Cadeiryddion Bwrdd CTIC er mwyn ceisio ei ddatrys.
Os na fydd hyn yn datrys y mater, caiff ei gyfeirio at lofnodwyr y Cytundeb hwn, a fydd yn gweithio gyda’r Pwyntiau Cyswllt ac unrhyw unigolion perthnasol eraill i’w ddatrys.
Datrys Anghydfod
Os yw’r broses a nodwyd uchod yn methu datrys unrhyw anghydfod rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithrediad y Cytundeb hwn, neu unrhyw amrywiad i’r Cytundeb hwn neu unrhyw ddehongliad ohono, caiff y mater ei gyfeirio at y Swyddogion Atebol Ychwanegol yn CThEF a Llywodraeth Cymru.
O dan amgylchiadau eithriadol, pan na ellir datrys yr anghydfod drwy ddefnyddio’r broses uchod, gall Llywodraeth Cymru gyfeirio’r mater at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a gall CThEF gyfeirio’r mater at y gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yn darparu goruchwyliaeth weinidogol o’r rhaglen waith, a’r pwyllgor hwn fydd yn cael y penderfyniad olaf ar bwyntiau y mae anghydfod yn eu cylch.
Bydd y naill Bwynt Cyswllt yn hysbysu’r llall o unrhyw fwriad i uwchgyfeirio’r mater, a hynny cyn i’r mater gael ei uwchgyfeirio.
Adolygu, Monitro ac Adrodd
Bydd Bwrdd CTIC yn cwrdd bob chwarter, a chaiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan y Dirprwy Gyfarwyddwyr perthnasol ym mhob sefydliad (neu eu dirprwyon). Bydd y Pwyntiau Cyswllt yn cytuno ar agenda, a bydd y Bwrdd yn ystyried unrhyw faterion perthnasol sy’n deillio o gyflawni unrhyw agwedd ar y Cytundeb hwn. Mae hyn yn cynnwys yr holl weithgaredd ‘busnes fel arfer’ mewn perthynas â CTIC, ar draws gweithrediadau, cydymffurfiad, data a pholisi. Bydd y rhain yn ystyried data ariannol a ddarparwyd gan CThEF ar gyfer y cyfnod hwn ac, felly, dylent gyd-fynd â’r gofynion o ran cyflwyno adroddiadau ac anfonebu bob chwarter.
Cynhelir cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn rhwng llofnodwyr y Cytundeb lle y caiff effeithiolrwydd cyffredinol y Cytundeb hwn, a pherfformiad CThEF yn ei erbyn, eu cadw dan adolygiad. Gall y rhain gael eu cynnal fel cyfarfodydd neu drwy ohebiaeth.
Bob mis Medi, bydd CThEF yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar CTIC, a fydd yn trafod y gweithgarwch y mae wedi ymgymryd ag ef yn y flwyddyn dreth flaenorol mewn perthynas â’r Cytundeb hwn a’i fesurau perfformiad. Bydd hefyd yn rhoi diweddariadau i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ac yn darparu gwybodaeth bob chwarter/mis fel y nodir yn fanwl yn yr amserlen cyflawni ac adrodd ar gyfer pob mesur perfformiad yn Atodiad A.
Caiff y Cytundeb hwn ei adolygu ar ôl i gyfraddau a haenau treth incwm Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gael eu cadarnhau bob blwyddyn er mwyn adolygu cydymffurfiad â’r nodau datganedig a sicrhau bod y Cytundeb yn parhau’n addas i’r diben. Caiff unrhyw newidiadau i gynnwys y Cytundeb sy’n deillio o adolygiad o’r fath eu nodi drwy gyhoeddi rhif fersiwn newydd, dyddiedig. Er y caiff adolygiad o’r fath ei arwain gan lofnodwyr y Cytundeb a’r Pwyntiau Cyswllt, bydd yn cynnwys mewnbwn gan arbenigwyr pwnc a chydweithwyr polisi, yn ôl yr angen.
Fodd bynnag, gall y naill barti neu’r llall ofyn am gael adolygu’r Cytundeb ar unrhyw adeg.
Newid neu Amrywio’r Cytundeb
Mae angen i CThEF a Llywodraeth Cymru hysbysu ei gilydd cyn gynted â phosibl am unrhyw amgylchiadau a allai olygu bod angen newid rhwymedigaethau’r naill barti neu’r llall o dan y Cytundeb hwn.
Caiff unrhyw newidiadau sylweddol i’r Cytundeb eu negodi a’u cymeradwyo gan y partïon sydd wedi ei lofnodi.
Fodd bynnag, dylai fod yn bosibl i unrhyw fân amrywiadau i’r ffordd y cyflawnir unrhyw un o’r cytundebau atodol (Atodiadau A a B) gael eu cytuno rhwng y Pwyntiau Cyswllt a nodwyd yn CThEF a Llywodraeth Cymru.
Parhad Busnes
Mae’n rhaid i’r naill barti hysbysu’r llall ar unwaith os bydd unrhyw fater yn codi mewn perthynas â pharhad busnes o ran gweinyddu a chasglu cyfraddau treth incwm Cymru.
Llofnodwyd ar ran eu sefydliadau perthnasol:
Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru
4 Tachwedd 2023
Cerys McDonald, Cyfarwyddwr dros Bolisi Unigolion, CThEF
14 Tachwedd 2023
Atodiad A: Mesurau Perfformiad CThEF
Gofynion
1. Nodi a chynnal cofnod cywir a chadarn o’r boblogaeth trethdalwyr Cymreig.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Bob blwyddyn, mae CThEF yn darparu asesiad o risg a dull arfaethedig, yn seiliedig ar Ddarlun Strategol Cymru o Risg, o nodi trethdalwyr Cymreig fel elfen bwrpasol o weithgarwch cydymffurfiad â threth incwm. Mae hefyd yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar ganlyniad y gweithgarwch cydymffurfiad hwnnw ar ôl iddo gael ei gyflawni. | Rhoddir darlun strategol o risg i Lywodraeth Cymru erbyn mis Awst bob blwyddyn; rhoddir asesiad blynyddol o gydymffurfiad a chynllun gweithredu ar gydymffurfiad i Lywodraeth Cymru erbyn mis Gorffennaf bob blwyddyn; cyhoeddir crynodeb o’r adroddiad ar y cynllun cydymffurfiad a chanlyniad y gweithgarwch cydymffurfiad yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC ym mis Medi. |
Cynnal data cyfeiriadau CThEF: (1) cymharu set ddata CThEF sy’n cwmpasu’r DU gyfan â setiau data trydydd parti – e.e. Cofrestr Etholiadol Cymru ac asiantaethau gwirio credyd – er mwyn cadarnhau’r cyfeiriad sydd gan CThEF; (2) os na chaiff cyfeiriadau unigol eu cadarnhau fesul cam (1), ymarferion cymharu gan ddefnyddio data sy’n gysylltiedig â strydoedd/trefi a data o ran codau post gyda data gan drydydd parti a ffynonellau data mewnol eraill er mwyn nodi’r statws trethdalwr Cymreig tebygol; (3) os na ellir cadarnhau statws trethdalwr Cymreig gan gamau (1 a 2) a nodi ac anfon gohebiaeth at unigolion sydd wedi’u targedu (PTA/e-bost/llythyr) h.y: trethdalwyr Cymreig posibl pan fo gan CThEF gyfeiriad y tu allan i Gymru, ond mae data gan drydydd parti yn dangos cyfeiriad posibl yng Nghymru; unigolion y mae gan CThEF gyfeiriad gohebu yng Nghymru ar eu cyfer ond prif gyfeiriad rywle arall yn y DU; (4) monitro’r ymatebion i ohebiaeth a newidiadau canlyniadol i gyfeiriad trethdalwyr. | Yr amserlen ar gyfer yr ymarfer cymharu â thrydydd parti i’w chytuno bob blwyddyn gan CThEF a Llywodraeth Cymru; rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, yn ystod y flwyddyn, am ganlyniad yr ymarfer cymharu ac unrhyw gamau gweithredu ac amserlenni pellach sy’n deillio o hynny; cofnodir manylion a chanlyniad gweithgarwch y gydymffurfiaeth yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. Disgwylir i’r ymarfer hwn gael ei gynnal o leiaf unwaith pob 2 flynedd. |
Nodi a chywiro cyfeiriadau llygredig neu gyfeiriadau gwag ym mhoblogaeth y trethdalwyr Cymreig posibl: cywiro codau post anghyflawn neu lygredig a nodwyd yn sgil yr ymarfer cymharu drwy ddefnyddio’r Arolwg Ordnans a’r Post Brenhinol: diweddaru cofnodion â chyfeiriadau llygredig neu gyfeiriadau gwag drwy ddefnyddio data trydydd parti; nodi a chywiro cofnodion cwsmeriaid sydd â chyfeiriad yng Nghymru ond lle nad oes cod post wedi’i gofnodi a/neu lle mae’r cod post yn anghyflawn. | Yr amserlen ar gyfer ymarferion cywiro cyfeiriadau i’w chytuno bob blwyddyn gan CThEF a Llywodraeth Cymru. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, yn ystod y flwyddyn, am ganlyniad ymarferion cywiro cyfeiriadau ac unrhyw gamau gweithredu ac amserlenni pellach sy’n deillio o hynny. Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Newidiadau yn ystod y flwyddyn i statws Fflag Cyfeiriad yng Nghymru (bob mis). | Darperir dadansoddiad misol mewn Adroddiadau Gwybodaeth Busnes Chwarterol (Gorffennaf, Hydref, Ionawr, Ebrill). Darperir Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol ym mis Mai, ac fe’i cyhoeddir yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Sicrhau bod cod ‘C’ yn cael ei ddefnyddio’n gywir ar gofnodion sydd â chodau post ar y Gororau. | Yr amserlen ar gyfer ymarfer sicrhau cywirdeb codau post ar y Gororau i’w chytuno bob blwyddyn gan CThEF a Llywodraeth Cymru erbyn dechrau’r flwyddyn dreth. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, yn ystod y flwyddyn, am ganlyniad yr ymarfer sicrhau cywirdeb ac unrhyw gamau gweithredu ac amserlenni pellach sy’n deillio o hynny. Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Proses barhaus i sicrhau cywirdeb codau ‘C’ ar gofnodion trethdalwyr Cymreig. | Cadarnheir y gweithgarwch a’r canlyniad yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Gwiriadau Rheoli Ansawdd ar ddata codau post sy’n helpu i nodi trethdalwyr Cymreig. | Yr amserlen ar gyfer y gwiriad rheoli ansawdd codau post i’w chytuno bob blwyddyn gan CThEF a Llywodraeth Cymru erbyn dechrau’r flwyddyn dreth. Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Proses barhaus i ddarparu statws preswylio trethdalwyr i Ddarparwyr Pensiynau ar gyfer pensiynau Rhyddhad wrth y Ffynhonnell (RAS). | Diweddariad wedi’i ddarparu i Lywodraeth Cymru yn dilyn digwyddiadau busnes allweddol. |
2. Casglu refeniw treth incwm Cymru o gyfraddau treth incwm Cymru a rhoi cyfrif amdano.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Cyhoeddi derbyniadau treth incwm Cymru yng Nghyfrifon Blynyddol CThEF (a gyhoeddir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn ac a archwilir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol) Cyhoeddi derbyniadau treth incwm gweddill y DU (rUk, y ffigurau cyfatebol ar gyfer incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau). | Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol CThEF ym mis Gorffennaf, adroddir yn ystadegau CThEF ar CTIC ac yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC; disgwylir i ystadegau blynyddol CThEF ar CTIC gael eu cyhoeddi ar ôl cyfrifon blynyddol CThEF, cyn pen 4 wythnos. |
Darperir darn o Gyfrifon CThEF i’r Senedd a Gweinidogion Cymru. | Darperir bob blwyddyn, gydag adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC ym mis Medi. |
3. Rhoi’r un lefel o wasanaeth cwsmeriaid, cymorth a thryloywder i dalwyr treth incwm Cymru ag a roddir i dalwyr treth incwm yng ngweddill y DU.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Teleffoni (bob mis)[footnote 1]: cyfanswm y galwadau = nifer y galwadau a gafwyd drwy linell ffôn ddynodedig CTIC; Ymateb Llais Rhyngweithiol (IVR) (Teleffoni Deallus) % a allwyrwyd; atebwyd, cyfanswm y galwadau a atebwyd gan ymgynghorydd CThEF; amser aros, ar gyfartaledd, am alwad a atebwyd; rhoddwyd y gorau i giwio, cyfanswm y galwadau; amser aros, ar gyfartaledd, cyn rhoi’r gorau i giwio; canran cyfanswm y galwadau CTIC yr ymdriniwyd â nhw. | Darperir dadansoddiad misol mewn Adroddiadau Gwybodaeth Busnes Chwarterol (Gorffennaf, Hydref, Ionawr, Ebrill). Rhoddir crynodeb o’r flwyddyn bresennol, a blynyddoedd blaenorol, yn yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol ym mis Mai, ac fe’i cyhoeddir yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Cwynion (bob mis): nifer y cwynion a gafwyd ynglŷn â CTIC; nifer y cwynion ynglŷn â CTIC a atebwyd; categori’r gŵyn; statws y gŵyn | Darperir dadansoddiad yn yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol ym mis Mai, ac fe’i cyhoeddir yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Mae’r cyfrifianellau ar-lein sy’n dibynnu ar gyfraddau a throthwyon treth incwm yn gywir ar gyfer trethdalwyr Cymreig. | Cânt eu hadolygu bob blwyddyn a’u diweddaru, yn ôl yr angen, ar gyfer dechrau’r flwyddyn dreth. Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Mae’r tablau treth a ddosberthir i gyflogwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol yn adlewyrchu cyfraddau a throthwyon Cymru. | Ymarfer blynyddol ar ôl i gyfraddau a throthwyon Cymru gael eu cadarnhau – cofnodir y gweithgarwch a’r canlyniad yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Mae allbynnau i drethdalwyr Cymreig unigol (h.y. hysbysiadau cod P2 a Chrynodeb Treth Blynyddol) yn adlewyrchu cyfraddau treth incwm Cymru yn gywir. | Cynhelir prosesau sicrwydd parhaus, a chofnodir y gweithgarwch a’r canlyniadau yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Offer cyflogres CThEF i fusnesau bach wedi’u diwygio ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru. | Ymarfer blynyddol ar ôl i gyfraddau a throthwyon Cymru gael eu cadarnhau – cofnodir y gweithgarwch a’r canlyniad yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Mae’r arweiniad ynghylch trethiant personol sydd ar gael i drethdalwr Cymreig ar GOV.UK yn gymesur â’r arweiniad sydd ar gael i drethdalwr yng ngweddill y DU. | Cânt eu hadolygu bob blwyddyn a’u diweddaru, yn ôl yr angen, ar gyfer dechrau’r flwyddyn dreth. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, yn ystod y flwyddyn, am y camau a gymerwyd. Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Crynodeb o’r defnydd o Wasanaeth Cymraeg CThEF | Darperir crynodeb sy’n cynnwys nifer yr ymholiadau drwy e-bost, nifer y galwadau, a nifer y llythyrau yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
4. Rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi bennu cyfraddau a llunio rhagolygon ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Darparu data Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd ar dreth incwm ar gyfer CY(-2). | Bob blwyddyn – caiff y dyddiad cyflawni ei bennu erbyn diwedd mis Ionawr bob blwyddyn (y dyddiad cyflawni disgwyliedig arferol yw erbyn canol i ddiwedd mis Ebrill). Cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
5. Rhoi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian o ganlyniad i unrhyw newid rhwng y rhagolygon a’r symiau o dreth incwm Cymru a gesglir.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Mae cyflogwyr yn rhoi gwybod am rwymedigaethau misol ar gyfer trethdalwyr Cymreig mewn cyflogaeth (h.y. y rhai yn y system TWE â dynodydd cod ‘C’ ar yr adeg honno). | Caiff y broses o ddarparu, bob mis, rhwymedigaethau’r mis blaenorol ei chydamseru â chyhoeddi data derbyniadau treth incwm misol y DU; cofnodir manylion y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
Bydd Llywodraeth Cymru a CThEF hefyd yn: ystyried ymhellach sut y gall derbyniadau treth incwm alldro Cymru amrywio o rwymedigaethau rhagamcanol a rhwymedigaethau y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod y flwyddyn; ac yn adolygu’n rheolaidd data a ddarperir i Lywodraeth Cymru i wirio ai data gwybodaeth amser real misol gan gyflogwyr ar rwymedigaethau trethdalwyr Cymreig yw’r ffordd orau o ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru o ran data amser real o hyd.[footnote 2] | Ymgysylltu parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a CThEF drwy’r gweithgor dadansoddol; cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
6. Rhoi digon o wybodaeth berthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru at ddibenion sicrwydd ac er mwyn cyllidebu’n effeithiol ar gyfer unrhyw gostau gweinyddol ychwanegol net yr ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt.
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Caiff y fframwaith costau y gellir ailgodi tâl amdanynt ei ddiweddaru er mwyn cwmpasu’r holl gostau gweinyddol a nodwyd ac a ragwelir. | Ymgysylltu parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a CThEF; cofnodir manylion a chanlyniad y gweithgarwch yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC. |
7. Cymhwyso gweithgarwch cydymffurfiad seiliedig ar risg at y gwaith o gasglu CTIC yn yr un modd ag y’i cymhwysir at y gwaith o gasglu treth incwm gan drethdalwyr yng ngweddill y DU (mae hyn yn ychwanegol at y gweithgarwch penodol sy’n ymwneud â phoblogaeth trethdalwyr Cymreig a restrir o dan ofyniad 1).
Mesur CThEF | Amserlen Cyflawni ac Adrodd |
---|---|
Caiff dull CThEF o orfodi a sicrhau cydymffurfiad ei gymhwyso at y gwaith o gasglu’r holl dreth incwm, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru: hyrwyddo – llunio ein prosesau a’n cynhyrchion i drethdalwyr er mwyn atal gwallau diofal. Helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn y tro cyntaf e.e. rhagboblogi ffurflenni â data cyfeiriadau; atal – manteisio ar ein gwasanaethau digidol drwy ddefnyddio ein data i nodi risgiau wrth iddynt godi a rhoi cyfle i gwsmeriaid gywiro eu gwallau cyn iddynt gyrraedd CThEF e.e. blychau gwybodaeth naid ar Ffurflenni Treth Hunanasesiad; ymateb – ymyrryd er mwyn mynd i’r afael â risgiau cydymffurfiad penodol o ran cyfeiriadau drwy: (1) gweithgarwch ar lefel y cyflogwr (caiff Gwybodaeth Amser Real (RTI), a gyflwynir gan gyflogwyr, ei monitro er mwyn sicrhau bod y codau treth a’r tablau treth cywir yn cael eu defnyddio – ymchwilir ymhellach i anghysondebau a nodir); (2) cydymffurfiad asiantau (mae asiantau yn cynrychioli 8 miliwn o gwsmeriaid, felly, mae CThEF yn ymgysylltu’n helaeth ag asiantau er mwyn effeithio ar ymddygiad eu cleientiaid a hyrwyddo cydymffurfiad gwirfoddol); (3) ymchwiliadau i Ffurflenni Treth Hunanasesiad; (4) timau penodol i ddadansoddi’r risg sy’n gysylltiedig ag unigolion Gwerth Net Uchel a threthdalwyr Cyfoethog. Caiff effeithiolrwydd y gwaith hwn ei gofnodi ar lefel y DU, am fod yr un safonau yn cael eu cymhwyso at rwymedigaethau treth incwm Cymru a rhwymedigaethau treth incwm gweddill y DU | Rhoddir asesiad blynyddol o gydymffurfiad a chynllun gweithredu ar gydymffurfiad i Lywodraeth Cymru erbyn mis Gorffennaf bob blwyddyn. Rhoddir crynodeb o weithgarwch a chanlyniadau’r cynllun cydymffurfiad yn adroddiad blynyddol CThEF ar CTIC a gyhoeddir ym mis Medi. |
Rhestr o Dermau a Thalfyriadau
Cod ‘C’
Er mwyn i’r system TWE allu gweithredu’n gywir, mae CThEF yn anfon cod unigol at gyflogwyr sy’n cynnwys llythrennau a rhifau ar gyfer pob cyflogai yn y DU. Mae’r codau hyn yn galluogi cyflogwyr i ddidynnu’r lefelau cywir o dreth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer pob cyflogai. Mae cod gyda rhagddodiad ‘C’ (Cod C) yn dweud wrth y cyflogwr fod y cyflogai yn drethdalwr Cymreig ac, felly, y dylai treth incwm gael ei didynnu o enillion gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon a bennwyd gan y Senedd.
Wedi’u Heithrio’n Ddigidol
Mae’n rhaid i’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr anfon eu data cyflogres i CThEF ar-lein. Fodd bynnag, gall nifer fach o gyflogwyr sydd ‘Wedi’u heithrio’n ddigidol’ anfon cyflwyniadau cyflogres i Gyllid a Thollau EF (CThEF) naill ai ar-lein neu ar bapur. Ceir arweiniad ynglŷn â phwy sy’n gymwys yn GOV.UK.
TWE
Mae’r system Talu Wrth Ennill (TWE) yn ddull o dalu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae cyflogwyr yn didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o gyflogau neu bensiynau galwedigaethol eu cyflogeion, cyn i’r cyflogau neu’r pensiynau gael eu talu, ac yn eu trosglwyddo i CThEF.
Hunanasesiad
Mae Hunanasesiad yn system o gasglu trethi gan y rhai nad ydynt yn cyfrannu drwy TWE, neu sy’n ennill incwm ychwanegol ar wahân i’w prif swydd. Mae trethdalwyr yn hunanasesu eu rhwymedigaeth treth, ac yn llenwi Ffurflen Dreth gan nodi’r trethi sy’n ddyledus i CThEF ac unrhyw ryddhad a allai fod yn gymwys.
Statws Fflag Cyfeiriad yng Nghymru
Man preswylio unigolyn sy’n penderfynu p’un a yw’n drethdalwr Cymreig ai peidio. Os oes gan CThEF gyfeiriad yng Nghymru ar gyfer unigolyn, mae’n nodi’n electronig (Fflag Cyfeiriad yng Nghymru) fod y cofnod hwnnw’n un Cymreig – gyda’r nod/fflag yn cael ei (d)dileu neu ei (h)ychwanegu os bydd yr unigolyn yn symud i Gymru neu oddi yno. Os yw’n bresennol a bod yr unigolyn mewn cyflogaeth, mae’r nod/fflag yn ei gwneud yn bosibl i systemau TG CThEF anfon ‘Cod C’ TWE yn awtomatig sy’n dweud wrth y cyflogwr fod y cyflogai yn drethdalwr Cymreig ac, felly, y dylai treth incwm gael ei didynnu o enillion gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon a bennwyd gan y Senedd.
Arolwg o Incwm Personol
Mae’r Arolwg o Incwm Personol (SPI) yn set o ddata treth incwm, a gynhyrchir bob blwyddyn gan CThEF o’r wybodaeth sydd ganddo am grŵp sampl mawr o unigolion yn y DU. Defnyddir yr SPI i asesu’r effaith y gallai newidiadau arfaethedig i gyfraddau a throthwyon treth ei chael er mwyn llywio penderfyniadau’r Gweinidog ar bolisi treth. Fe’i defnyddir hefyd i ddarparu gwybodaeth gryno ar gyfer y Cyfrifon Cenedlaethol a gaiff eu paratoi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ogystal â darparu gwybodaeth i Aelodau o’r Senedd, Adrannau eraill o’r Llywodraeth, cwmnïau, sefydliadau ac unigolion.
Data Treth Incwm y Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd ar gyfer CY(-2)
Mae’r Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd yn set ddata ddienw sydd wedi’i seilio ar yr SPI, a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau cyfrinachedd trethdalwyr. Mae CThEF yn sicrhau bod y Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd ar gael i’r cyhoedd er mwyn i sefydliadau ac unigolion y tu allan i CThEF allu gwneud ymchwil ystadegol. Mae’r SPI ac, felly, y Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd, bob amser yn seiliedig ar y flwyddyn ddiweddaraf y mae gan CThEF set lawn o ddata treth incwm ar ei chyfer – mewn unrhyw flwyddyn benodol, bydd hyn bob amser yn cynnwys y data o ddwy flwyddyn dreth flaenorol (CY-2). Mae hyn i’w briodoli i’r cyfnod o amser pan fydd CThEF yn cael gwybodaeth gan drethdalwyr (e.e. nid oes rhaid i unigolion hunangyflogedig gyflwyno Ffurflen Dreth yn nodi eu hincwm ar gyfer blwyddyn tan 31 Ionawr yn ystod y flwyddyn ganlynol).
Gwybodaeth Amser Real
Gwybodaeth Amser Real (RTI) yw’r system a ddefnyddir gan gyflogwyr i anfon gwybodaeth am gyflogres cyflogeion i CThEF ar yr un pryd ag y telir y cyflogai, bob mis fel arfer, yn hytrach nag ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Cyhoeddiadau
Enw’r cyhoeddiad | Eglurhadau ar gyfer Cynhyrchion/Cyhoeddiadau | Amlder |
---|---|---|
Adroddiad Blynyddol CThEF ar CTIC | Adroddiadau ar weithgarwch CThEF sy’n gysylltiedig â: (1) nodi a sicrwydd: (2) cydymffurfiad; (3) casglu cyfraddau treth incwm Cymru a rhoi cyfrif amdanynt; (4) Data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu; (5) Gwasanaeth a Chymorth i Gwsmeriaid; (6) ailgodi tâl am gostau CThEF. | Bob blwyddyn ym mis Medi |
Ystadegau Alldro o ran CTIC | Twf rhwng CY(-3) a CY(-2); nifer y talwyr Treth Incwm yn ôl math; swm y Dreth Incwm a dalwyd yn ôl math; nifer y trethdalwyr ar gyfer bandiau incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau (NSND); nifer y trethdalwyr ar gyfer bandiau incwm NSND – newid fesul blwyddyn; trothwyon bandiau treth; systemau treth incwm Cymru a gweddill y DU ar gyfer incwm NSND; cyfraddau bandiau treth; systemau treth incwm Cymru a gweddill y DU ar gyfer incwm NSND; cefndir a sylwadau ar yr ystadegau. | Bob blwyddyn ym mis Gorffennaf |
Data RTI misol | Caiff y broses o ddarparu, bob mis, rhwymedigaethau’r mis blaenorol ei chydamseru â chyhoeddi data derbyniadau treth incwm misol y DU. | Bob mis i Lywodraeth Cymru |
Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd | Data Treth Incwm dienw o CY(-2); Rhwymedigaethau Treth Incwm yn ôl band ac yn ôl cyfradd ffiniol, talwyr Treth Incwm Cymru a thalwyr nad ydynt yn talu Treth Incwm Cymru | I’w gytuno bob blwyddyn ym mis Ebrill |
Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol | Manylion metrigau: cyswllt â chwsmeriaid dros y ffôn; cwynion yr ymdriniwyd â nhw; chwiliadau ar y we. | Atodiad i’r Adroddiad Blynyddol |
Asesiad o Gydymffurfiad a’r Cynllun | Bydd dull CThEF o orfodi a chydymffurfiad yn cael ei ddefnyddio ar draws yr holl waith o gasglu treth incwm, gan gynnwys CTIC. Adroddiad blynyddol ar ganlyniad y gweithgarwch cydymffurfiad, unwaith ei fod wedi’i gynnal. Nid yw CThEF yn cyhoeddi hwn am resymau gweithredol. Nodir crynodeb yn yr Adroddiad Blynyddol. | Bob blwyddyn ym mis Gorffennaf |
Darlun Strategol o’r Risg – darn ar gyfer Cymru | Is-set o ymarfer ledled y DU i weld beth yw’r risg gyffredinol i rwymedigaethau, gan ganolbwyntio ar gydymffurfiad â Chyfraddau Treth Incwm Cymru. Darperir y darn hwn i Lywodraeth Cymru. Nid yw CThEF yn cyhoeddi hwn am resymau gweithredol. | Wyth wythnos ar ôl cyhoeddi’r Ystadegau Alldro o ran CTIC |
Cyfrifydd Parod CTIC | Dogfen sy’n dangos yr effaith disgwyliedig y caiff y newidiadau i CTIC ar y refeniw a gasglwyd, gan ystyried effeithiau ymddygiadol. | Bob blwyddyn ym mis Rhagfyr (digwyddiad cyllidol wedi’r hydref). |
Atodiad B: Gweithredu Fframwaith CTIC o ran Costau y Gellir Ailgodi Tâl Amdanynt
Cefndir a Diben
CThEF sy’n gyfrifol am weithredu CTIC fel rhan o system Treth Incwm y DU. O dan y Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu i CThEF unrhyw gostau ychwanegol net yr eir iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weithredu a gweinyddu’r pwerau Treth Incwm.
O dan Raglen a Phrosiectau Datganoli Treth CThEF, mae CThEF wedi gwneud newidiadau i’w systemau a’i brosesau er mwyn sicrhau y caiff cyfraddau Treth Incwm Cymru eu casglu a’u rheoli yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae costau gweinyddol newydd a pharhaus o ran gweithredu prosesau a systemau CTIC yn gysylltiedig â’r newidiadau hyn.
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yn nodi, ym mharagraffau 4.1 i 4.3, pa gostau y dylai CThEF eu talu a pha gostau y dylai Llywodraeth Cymru eu talu. Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r egwyddorion y bydd CThEF yn eu cymhwyso wrth nodi’r costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â gweithredu CTIC yr ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt. Bydd CThEF yn codi am ei wasanaethau ar gost fusnes lawn, yn unol â pholisi Trysorlys EF (‘Managing Public Money’). Pan fydd trydydd parti yn ysgwyddo costau, gan gynnwys cyflenwr TG CThEF, codir y rhain ar gost[footnote 3].
Mae’n ddogfen fyw a gaiff ei diweddaru er mwyn adlewyrchu’r holl gostau gweinyddol hysbys a disgwyliedig, a dylid ei darllen ar y cyd â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru.
Egwyddor Costau Ychwanegol Net
Bwriad CThEF fydd ailgodi tâl am gostau elfennau sy’n ymwneud yn benodol â gweinyddu pwerau treth incwm Cymru ac nid pob cost sy’n gysylltiedig â gweinyddu’r system Treth Incwm ar gyfer trethdalwyr Cymreig. Felly, wrth gymhwyso’r egwyddor hon, nid yw’r costau y gellir ailgodi tâl amdanynt yn disodli cost arall sy’n ymwneud â’r trethdalwr hwnnw. Golyga hyn mai costau ychwanegol yw’r rhain, ac nad oes unrhyw arbediad i CThEF netio yn ei erbyn.
Enghreifftiau o Egwyddor Costau Ychwanegol Net
Cyswllt cwsmeriaid: Mae CThEF yn cael amrywiaeth eang o alwadau gan drethdalwyr Cymreig. Fodd bynnag, ni fyddai tâl yn cael ei ailgodi ar Lywodraeth Cymru am y mwyafrif helaeth o’r rhain. Bydd CThEF yn ailgodi tâl am alwadau gan rywun sy’n gofyn am ei statws trethdalwr Cymreig, ond nid y cwsmer sy’n drethdalwr Cymreig sy’n ffonio i newid ei enw.
Allbynnau cwsmeriaid: Mae CThEF yn cyflwyno hysbysiadau cod P2 i drethdalwyr Cymreig drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, dim ond pan fydd yr hysbysiad P2 wedi’i gyflwyno o ganlyniad i newid yn statws y cwsmer i fod yn drethdalwr Cymreig neu i beidio â bod yn drethdalwr Cymreig mwyach, neu o ganlyniad i ymarfer codio ychwanegol sy’n ymwneud yn benodol â Chymru, y bydd CThEF yn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am y costau argraffu a phostio. Felly, ni fyddai’n ailgodi tâl am anfon codau blynyddol na chodau dyddiol (ac eithrio oherwydd y newid mewn statws) at drethdalwyr Cymreig, am fod hyn yn rhan o weithdrefnau arferol CThEF i gynnal y system dreth ledled y DU.
Ailgodi Tâl am Gostau Ychwanegol Net
Bydd CThEF yn nodi’r holl gynhyrchion a ddefnyddiwyd a’r holl waith a wnaed i weinyddu CTIC a phenderfynu a ydynt yn bodloni’r egwyddor costau ychwanegol net cyn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am unrhyw gostau cysylltiedig. Bydd Byrddau Rheoli Newid (CCBau) yn cael eu cynnal i ystyried cynhyrchion a gwaith lle y mae’r gost yn uwch na £50,000. Yn y CCBau hyn, bydd CThEF yn nodi’r rhesymeg dros y costau, a bydd gan Lywodraeth Cymru gyfle i herio CThEF am y gwariant arfaethedig.
Bydd CThEF yn nodi costau sy’n deillio o unrhyw waith i ymgorffori ffactorau allanol sy’n effeithio ar ddarparu cynhyrchion dadansoddol sy’n gysylltiedig â CTIC a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybod amdanynt cyn i’r tâl ar y costau hynny gael ei ailgodi ar Lywodraeth Cymru.
Bydd CThEF yn coladu ac yn gallu darparu’r data ategol perthnasol er mwyn sicrhau bod y taliadau sy’n cael eu codi yn gywir a, lle bo hynny’n briodol, nodi sut mae’r costau hyn yn gysylltiedig â’r gofynion yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG). Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i ofyn am y data ategol a’u cwestiynu. Bydd diweddariadau misol yn cael eu darparu er mwyn adolygu costau’r mis blaenorol a’u cymharu â’r rhagolwg, a bydd y Bwrdd CTIC yn cymeradwyo’r adroddiadau cyllid chwarterol cyn i anfoneb gael ei chodi ar gyfer y costau gweinyddol.
Bydd CThEF yn rhoi rhagolwg o’r costau gweinyddol blynyddol i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y trydydd chwarter ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol er mwyn helpu Llywodraeth Cymru gyda’i phrosesau pennu cyllideb. Syniad o’r costau blynyddol yn unig fydd hyn, gan na fydd yn cynnwys unrhyw geisiadau pwrpasol, tasgau dilynol a nodir na thasgau presennol y rhoddir y gorau iddynt yn ystod y flwyddyn ddilynol. Caiff newidiadau a fydd yn effeithio ar flynyddoedd yn y dyfodol eu hadlewyrchu yn y rhagolwg blynyddol nesaf.
Yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol benodol bydd gweithgareddau arferol a fydd yn digwydd unwaith, yn ogystal â gweithgarwch a fydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, gall fod ceisiadau gan Lywodraeth Cymru sy’n arwain at weithgarwch pwrpasol, ychwanegol.
Gall tasgau sy’n ymwneud â Meysydd Busnes Gweithredol arwain at gyfnodau prysur o waith neu adnodd ychwanegol bach ar sail barhaus. Bydd CThEF yn asesu nifer yr aelodau o staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE), wedi’i chyfrifo ar sail flynyddol, (neu ran o swyddog FTE) sydd eu hangen i gyflawni’r tasgau hyn, a’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o neilltuo adnodd CThEF – e.e. gall CThEF gyflogi staff ar sail oriau hyblyg i ymdrin â chyfnodau prysur penodol o waith neu nodi rhan o adnodd FTE sy’n bodoli eisoes am ychydig oriau bob wythnos ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i holl adnoddau staff CThEF sy’n gweithio ar dasgau sy’n ymwneud â CTIC, y nodwyd bod costau ychwanegol net yn gysylltiedig â nhw, gofnodi’r amser a dreuliwyd ar y tasgau hyn, a’r data hyn a ddefnyddir i gyfrifo’r gost a ailgodir ar Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull o godi tâl am adnoddau staffio y mae CThEF yn ei ddefnyddio ar gyfer adrannau eraill o’r llywodraeth.
Bydd rhai costau ychwanegol net yn cael eu pennu gan gontractau masnachol sy’n bodoli eisoes rhwng CThEF a chyflenwyr TG allanol, e.e. Llinellau Gwasanaethau TG, costau argraffu a phostio, ceisiadau i newid TG. Fodd bynnag, mae CThEF wedi ymrwymo i sicrhau gwerth am arian a chystadleurwydd o ran pris drwy ddyfarnu contractau byrdymor a gosod gwaith ar dendr pan ddaw contractau cyfredol i ben. Bydd CThEF yn rhoi dogfennaeth i ategu’r costau hyn i Lywodraeth Cymru wrth ddiogelu cyfrinachedd masnachol unrhyw drydydd parti e.e. copi wedi’i olygu o ddogfennaeth y Cyflenwr TG. Llywodraeth Cymru sy’n dwyn y risg ariannol, pe bai cwmpas y gwaith yn newid a/neu pe bai unrhyw gymhlethdod annisgwyl yn codi mewn perthynas â darparu’r TG gan Gyflenwr y TG, sy’n annhebygol o ddigwydd.
Achosion lle na ellir Ailgodi Tâl am Gostau Ychwanegol Net
Bydd CThEF yn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am gostau ychwanegol net y gall eu nodi a’u dilysu, yn unol â thelerau’r CLG. Fodd bynnag, bydd CThEF yn mynd ati mewn ffordd ymarferol i gasglu’r data sydd eu hangen i nodi costau y gellir ailgodi tâl amdanynt, a hynny er mwyn sicrhau na fydd unrhyw system codi tâl ynddi ei hun yn rhy ddrud i’w chynnal.
Hefyd, mae’n bosibl y bydd achosion lle y gall CThEF nodi costau ond, oherwydd y niferoedd isel sydd dan sylw, bydd y gwaith o gasglu’r dystiolaeth yn fwy beichus ac yn ddrutach. Ni fyddai CThEF yn mynd ati i geisio ailgodi tâl am y costau o dan yr amgylchiadau hyn am y byddai islaw lefel de minimis.
Enghreifftiau o Achosion lle na ellir Ailgodi Tâl am Gostau Ychwanegol Net
Cyswllt cwsmeriaid: Mae CThEF yn casglu gwybodaeth am fathau o alwadau drwy eu tagio o fewn system deleffoni awtomataidd (system adnabod llais ryngweithiol y caiff galwadau sy’n dod i mewn eu sianelu drwyddi yn seiliedig ar yr hyn y mae’r galwr yn nodi y mae ei ymholiad yn ymwneud ag ef). Fel hyn, mae’n hawdd nodi ymholiadau uniongyrchol ynglŷn â statws yn unigryw a gellir codi tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt.
Fodd bynnag, caiff rhai galwadau sy’n ymwneud â statws CTIC eu trosglwyddo o dan dag gwahanol neu fel rhan o alwad ehangach e.e. Hunanasesiad. Ar gyfer y mathau hyn o alwadau, ni fyddai’r system deleffoni yn eu nodi fel galwad sy’n ymwneud â CTIC, ac ni fyddai’n bosibl nodi â llaw faint o amser a dreuliwyd ar yr elfen o’r alwad a oedd yn ymwneud â chyfraddau treth incwm Cymru ychwaith. Felly, ni fyddai CThEF yn ceisio ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru yn yr achosion hyn.
Ysgogwyr Costau a Systemau Codi Tâl
Isod ceir tabl o gategorïau o waith a nodwyd sy’n gysylltiedig â chostau gweinyddu CTIC a’r mathau o systemau codi tâl y cytunwyd arnynt a ddefnyddir i ddilysu a chyfrifo’r costau. Mae’r amrywiaeth o systemau yn adlewyrchu natur amrywiol y tasgau, gan gynnwys amser cofnodi adnoddau staff CThEF ar dasg, yn ogystal â Cheisiadau Pwrpasol i Newid TG sy’n cael eu gwneud gan Gyflenwyr TG CThEF, ac y mae Cyflenwyr TG CThEF hefyd yn effeithio arnynt. Cedwir rhestr fanylach sy’n nodi pob tasg weinyddol a gyflawnir gan CThEF, gan gynnwys asesiad y cytunwyd arno o ba system codi tâl a ddefnyddir.
Bydd y mathau o systemau codi tâl a’r rhestr o dasgau unigol y mae tâl yn cael eu codi amdanynt yn agored i’w newid pan nodir tasgau newydd neu os bydd newid yn y system codi tâl yn dod i’r amlwg.
Bydd CThEF a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn sicrhau y caiff y tabl isod (a’r rhestr fanwl gysylltiedig ar wahân o dasgau) eu diweddaru’n rheolaidd ac y cytunir arnynt.
Categorïau o Gost
Cyswllt Cwsmeriaid
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Cyswllt dros y ffôn | Adnodd CThEF – hyd cyfartalog y galwadau: Mae gwasanaeth teleffoni rhyngweithiol CThEF yn nodi nifer y galwadau â geiriau wedi’u tagio (e.e. statws trethdalwr Cymreig); caiff nifer y galwadau ei lluosi â hyd cyfartalog y galwadau er mwyn rhoi cyfanswm yr amser a ddefnyddiwyd; caiff yr amser a gyfrifwyd ei luosi â chostau busnes llawn, a chodir tâl amdano ar y sail honno. |
Gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys ymdrin â chwynion | Cofnodi amser adnoddau CThEF: Mae CThEF yn cofnodi nifer y cysylltiadau/cwynion ysgrifenedig a gaiff ynghylch statws trethdalwr Cymreig gan ddefnyddio naill ai Eitem Rheoli Gwaith TG, os caiff ei chreu, neu gofnod â llaw; caiff amser staff a gymerir i ymdrin â phob eitem ei gofnodi, a hysbysir y Tîm Cyllid amdano; codir tâl yn seiliedig ar y costau busnes llawn a’r amser a gymerwyd. |
Ymdrin ag achosion cydymffurfiad | Cofnodi amser adnoddau CThEF: Mae CThEF yn cofnodi’r nifer a’r math o achosion cydymffurfiad sy’n ymwneud â CTIC gan ddefnyddio naill ai Eitem Rheoli Gwaith TG, os caiff ei chreu, neu gofnod â llaw; caiff nifer yr achosion o bob math ei luosi â’r amser y mae’n ei gymryd i ymdrin ag achosion, ar gyfartaledd, er mwyn rhoi cyfanswm yr amser a ddefnyddiwyd; caiff yr amser a gyfrifwyd ei luosi â’r costau busnes llawn, a chodir tâl amdano ar y sail honno. |
Cynnal a Chadw CTIC (systemau a phrosesau)
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Gweithgareddau blynyddol nad ydynt yn ymwneud â chyflenwyr TG. | Cofnodi Amser Adnoddau CThEF: bydd gwaith cynnal a chadw blynyddol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau y bwriedir iddynt sicrhau cywirdeb y system Treth Incwm; gall y costau hyn gynnwys gweithgareddau megis diweddaru arweiniad penodol, cynnal codau post, newidiadau i dablau treth, dadansoddi data a gwaith sy’n gysylltiedig â chydymffurfiad; caiff amser staff ei gofnodi a’i ddarparu i’r Tîm Cyllid; caiff yr amser a gyfrifwyd ei luosi â’r costau economaidd llawn, a chodir tâl amdano ar y sail honno; dim ond am y gweithgareddau hynny sy’n ymwneud â chyfraddau treth incwm Cymru yn unig y codir taliadau, a rhoddir disgrifiad o’r allbwn/canlyniad. |
Effeithiau cyflenwyr TG – Llinellau gwasanaeth | Anfonebau contractwyr cyflenwyr TG: Mae CThEF yn herio holl gostau cyflenwyr TG er mwyn sicrhau eu bod yn unol â’r contractau y cytunwyd arnynt; Llinellau gwasanaeth SO2 – costau sy’n gysylltiedig â chymwysiadau busnes, cymorth a gwaith cynnal a chadw; rhoddir amcangyfrif 5 mlynedd cychwynnol yn ystod trafodaethau ynghylch cynigion terfynol cyflenwyr; nodi llinellau sy’n benodol i CTIC (11 ar hyn o bryd); bydd CThEF yn cael y costau blynyddol yr aed iddynt gan y cyflenwr TG o ran y llinellau hyn ac yn ailgodi tâl am y costau hyn. |
Effeithiau cyflenwyr TG – Ceisiadau i newid | Anfonebau contractwyr cyflenwyr TG: Mae CThEF yn herio holl gostau cyflenwyr TG er mwyn sicrhau eu bod yn unol â’r contractau y cytunwyd arnynt; bydd unrhyw weithgarwch cynnal a chadw blynyddol, neu geisiadau pwrpasol sy’n gofyn am newid i TG, yn mynd drwy’r broses Cais i Newid; caiff effaith TG ei chodi, a chaiff yr wybodaeth ffurfiol am yr effaith ac amcangyfrif o’r costau eu rhannu â Llywodraeth Cymru er mwyn dod i gytundeb ynghylch p’un a ddylid bwrw ymlaen â’r newid; bydd CThEF yn cael anfonebau am y costau gwirioneddol yr aed iddynt gan y cyflenwr TG o ran yr hyn a oedd i’w gyflawni o ran y Cais i Newid ac yn ailgodi tâl am y costau hyn. |
Allbynnau CThEF o ran Trethdalwyr Cymreig
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Hysbysiadau codio P2 a P9 | Costau Argraffu a Phostio: Bydd CThEF yn cofnodi nifer yr hysbysiadau codio a gaiff eu creu o ganlyniad i newid i statws trethdalwr Cymreig; bydd y tîm proses TWE yn rhoi manylion costau gwirioneddol argraffu a phostio sy’n ymwneud â’r niferoedd hyn i’r Tîm Cyllid; codir tâl yn seiliedig ar y costau gwirioneddol hyn, yn unol â chontract presennol CThEF ar gyfer y gwasanaethau hyn/bydd CThEF yn cael anfonebau am y costau gwirioneddol yr aed iddynt gan y darparwr trydydd parti ac ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt. |
Costau Gweinyddol Eraill nad ydynt wedi’u Cynnwys yn y Costau Busnes Llawn
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Costau gweinyddol eraill, megis teithio a chynhaliaeth, a hyfforddiant | Costau gweinyddol CThEF nad ydynt wedi’u cynnwys yn y costau busnes llawn: Bydd CThEF yn cofnodi costau teithio a chynhaliaeth ac yn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am y costau; bydd CThEF yn cofnodi costau hyfforddiant perthnasol ac yn ailgodi tâl ar Lywodraeth Cymru am y costau. |
Ceisiadau gan Lywodraeth Cymru
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Cais gan Lywodraeth Cymru | Trwy gytundeb: Bydd CThEF yn amcangyfrif costau unrhyw gais gan Lywodraeth Cymru i CThEF ymgymryd â gweithgarwch pwrpasol ychwanegol (e.e. gwaith cydymffurfiad ychwanegol y darperir ar ei gyfer o dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth); bydd CThEF yn cynnal asesiad o’r effaith a fydd yn cwmpasu adnoddau staff a/neu gostau TG, fel y bo’n briodol; caiff yr wybodaeth am yr effaith ac amcangyfrif o’r costau eu rhannu â Llywodraeth Cymru er mwyn dod i gytundeb ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â’r gweithgarwch hwn; cytunir ar system codi tâl priodol ar gyfer y gweithgarwch; cynhyrchir cynllun gwaith sy’n crynhoi’r gweithgarwch y cytunwyd arno a’r amcangyfrif o’r costau, a gyflwynir i’r Bwrdd CTIC cyn dechrau’r flwyddyn dreth i’w gymeradwyo. |
Rheoli Cydberthnasau
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Gwaith Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid CThEF (CRM) ar gyfraddau Treth Incwm Cymru, a chyda Llywodraeth Cymru | Cofnodi amser adnoddau CThEF: mae hon yn rôl newydd a grëwyd er mwyn cefnogi’r gydberthynas barhaus rhwng Llywodraeth Cymru a CThEF; caiff amser staff a gymerwyd ei gofnodi a’i ddarparu i’r Tîm Cyllid, ynghyd â chrynodeb chwarterol o’r gweithgareddau a gynhaliwyd; caiff yr amser a gyfrifwyd ei luosi â’r costau economaidd llawn, a chodir tâl amdano ar y sail honno |
Amser na ellir Codi Tâl Amdano
Ysgogydd costau ychwanegol | Gwaith dilysu a thystiolaeth CThEF o ran y costau yr aed iddynt |
---|---|
Ni ellir ei fesur | Ni fydd CThEF yn codi tâl am weithgareddau sy’n ymwneud â CTIC na ellir eu mesur ar wahân, e.e. am eu bod yn rhan o ymholiad/gweithgaredd llawer ehangach. |
O dan ‘de minimis’ | Efallai na fydd CThEF yn codi tâl am weithgareddau sy’n ymwneud â CTIC, er y gellir eu mesur, os bydd y broses o’u mesur yn costio mwy na’r gost wirioneddol yr aed iddi. |
Atodiad C: Cytundeb Cyfrinachedd o ran Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Er mwyn sicrhau bod newidiadau i CTIC yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth sensitif mewn perthynas â’r Gyllideb gyda CThEF a fydd yn rhoi manylion ar gyfer datblygu polisi CTIC.
Bydd CThEF yn parchu’r confensiwn y gall Gweinidogion Llywodraeth Cymru ofyn am gyngor gan CThEF ar ddarparu opsiynau polisi o fewn cwmpas CTIC, ac yn gyfrinachol rhwng Llywodraeth Cymru a CThEF yn unig.
Bydd Cyllid a Thollau EF yn cyfyngu mynediad at wybodaeth sensitif ar opsiynau polisi a rennir gan Lywodraeth Cymru i’r unigolion hynny sydd ag angen busnes clir i gael mynediad ati, er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau gofynnol yn cael eu cyflawni’n weithredol. Bydd rhestr o’r unigolion hyn yn cael ei diweddaru a’i chytuno gyda Llywodraeth Cymru cyn y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhannu.
Wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif a rennir gan Lywodraeth Cymru, bydd swyddogion Cyllid a Thollau EF yn cadw at y safonau ymddygiad a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil. Mae’r Cod wedi’i gyhoeddi yma.
Bydd Cyllid a Thollau EF yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn sydd â mynediad at wybodaeth sensitif a rennir gan Lywodraeth Cymru gwblhau’r hyfforddiant diogelwch perthnasol mewn perthynas â’r Gyllideb yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi arweiniad i swyddogion ar sut i drin gwybodaeth sensitif am y Gyllideb a sicrhau ei bod yn aros yn gyfrinachol.
Os bydd CThEF yn sefydlu prosiect i gyflawni unrhyw newidiadau angenrheidiol i CTIC, bydd CThEF yn cymryd camau i sicrhau bod y newidiadau polisi sy’n deillio o’r prosiect yn aros yn gyfrinachol rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yn unig. Bydd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, neilltuo enw i’r prosiect ar ffurf cod.
Efallai y bydd angen i CThEF ddatgelu gwybodaeth sensitif a rennir gan Lywodraeth Cymru â rhanddeiliaid TG allanol dibynadwy i gefnogi’r gwaith o gyflawni newidiadau i CTIC. Bydd CThEF yn cytuno ar hyn gyda Llywodraeth Cymru cyn rhannu’r wybodaeth.
Bydd CThEF yn sicrhau bod y rhanddeiliaid TG allanol hyn yn gweithio o dan gytundebau peidio â datgelu i ddiogelu cyfrinachedd yr wybodaeth sensitif a rennir gan Lywodraeth Cymru.
Nid yw’r Cytundeb Cyfrinachedd hwn yn atal CThEF rhag rhannu gwybodaeth nad yw’n sensitif ynghylch prosiectau i gyflawni newidiadau i CTIC y tu hwnt i’r unigolion allweddol y cytunwyd arnynt â Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd hyn yn angenrheidiol pan fydd y newidiadau’n effeithio ar flaenoriaethau ehangach CThEF.
Os bydd unrhyw anghydfod ynghylch cyfrinachedd, ymdrinnir â’r rhain gan ddefnyddio’r polisi datrys anghydfodau a nodir yn y Cytundeb hwn.
-
Mae’r mesurau hyn yn ymwneud ag ymholiadau ynglŷn â statws trethdalwyr Cymreig yn unig. Mae nifer yr ymholiadau sy’n ymwneud yn benodol â CTIC (h.y. y rhai sy’n ymwneud â statws trethdalwyr) yn debygol o fod cryn dipyn yn is na nifer yr ymholiadau cyffredinol ynglŷn â threth incwm (h.y. y materion hynny a allai effeithio ar drethdalwyr Cymreig a threthdalwyr yng ngweddill y DU i’r un graddau) – felly, mae’r potensial ar gyfer mwy o anwadalwch yn y ffigurau sy’n ymwneud yn benodol â Chymru yn uwch nag ar gyfer ymholiadau ynglŷn â threth incwm sy’n ymwneud â’r DU gyfan. Mae adroddiadau perfformiad chwarterol CThEF ar gyfer y DU yn cynnwys unrhyw gyswllt a wneir gan drethdalwyr Cymreig ynglŷn ag unrhyw faterion eraill, gan gynnwys unrhyw gyswllt drwy i-ffurflenni. Cyhoeddir y rhain ar GOV.UK. ↩
-
Gan gydnabod y bydd hon yn broses a fydd yn datblygu wrth i ddata alldro gael eu casglu a gwell dealltwriaeth gael ei meithrin o’r tueddiadau cymharol o ran pryd y cesglir rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig ag unrhyw flwyddyn dreth benodol (h.y. dim ond yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw y caiff rhwymedigaethau Hunanasesiad eu casglu ac, yn yr un modd, dim ond yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y gellir nodi statws trethdalwyr Cymreig â sicrwydd). ↩
-
Gweler ‘Managing Public Money’ am ragor o wybodaeth. ↩