Statutory guidance

Stalking Protection Orders: statutory guidance for the police (Welsh accessible)

Updated 10 May 2024

Applies to England and Wales

Ebrill 2024

Adran 1 – Statws a diben y ddogfen hon

Cyflwyniad

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 ar 15 Mawrth 2019. Mae’r ddeddf yn cyflwyno Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio sifil newydd. Mae’r gorchymyn newydd yn cau’r bwlch yn y drefn gorchymyn diogelu presennol. Nid oes angen cwrdd â’r trothwy i ddechrau achos troseddol ar gyfer cyflawni trosedd er mwyn gwneud gorchymyn - mae hyn yn caniatáu ymyrraeth gynnar gan yr heddlu mewn achosion o stelcio.

Os yw’r achos eisoes wedi cwrdd â’r trothwy, nid yw Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio yn ddewis arall yn lle erlyn am droseddau stelcio o dan Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997 (a amlinellir yn Atodiad C - Troseddau Stelcio). Gellir defnyddio Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio i ategu erlyniad am drosedd stelcio.

Cyhoeddir y canllawiau hyn fel canllawiau statudol o dan adran 12 o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 a ddaeth i rym ar 20 Ionawr 2020.

Dylid ystyried defnyddio Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio fel rhan o weithdrefnau diogelu oedolion a/neu blant ac amddiffyn y cyhoedd lleol.

Cynulleidfa

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer yr heddlu wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio. Fe’u cynlluniwyd i gynorthwyo swyddogion heddlu i wneud asesiadau priodol a chymesur wrth ystyried a ddylid gwneud cais am orchymyn neu gais i amrywio gorchymyn.

Efallai bydd y wybodaeth yn y canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i gynorthwyo gwaith asiantaethau cyfiawnder troseddol a chyrff statudol eraill, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol a gwirfoddol a all fod yn gysylltiedig â dioddefwyr neu eraill y mae ymddygiad stelcio yn effeithio arnynt.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.

Nodau a diben

Mae gan y canllawiau hyn dair prif swyddogaeth:

  • darparu arweiniad strategol i’r heddlu ar ddefnyddio Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio, a’r broses ymgeisio yn effeithiol, gan gynnwys pryd i ystyried gwneud cais am orchymyn a sut i reoli gwrthrych gorchymyn yn effeithiol;

  • darparu gwybodaeth lefel uchel ar beth yw stelcio a sut i’w adnabod, gan gynnwys y cymhellion y tu ôl i ymddygiad stelcio a chysylltiadau â mathau eraill o gam-drin (Atodiad A); a

  • cyfeirio’r heddlu at ffynonellau eraill o wybodaeth ar stelcio (wedi’u hamlinellu yn Atodiad E - Canllawiau pellach ar stelcio), yn benodol o ran ymchwilio i achosion o stelcio; asesu a rheoli’r risg a berir gan gyflawnwyr; a diogelu a chefnogi dioddefwyr.

Adran 2 - Gwneud cais am orchymyn neu orchymyn dros dro

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â’r darpariaethau penodol yn Neddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 mewn perthynas â cheisiadau am orchymyn neu orchymyn dros dro.

Crëwyd y Ddeddf hon i alluogi ymyrraeth gynnar cyn-euogfarn gan yr heddlu i fynd i’r afael ag ymddygiad stelcio cyn iddo ymwreiddio neu waethygu mewn difrifoldeb ac i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed mwy difrifol. Fodd bynnag, nid oes cyfyngiad ar gam y broses cyfiawnder troseddol y gellir gwneud gorchymyn arni, ac yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellid gwneud gorchymyn yn dilyn euogfarn neu ryddfarn. Mae ceisiadau yn annibynnol ac mae gan y Llys y pŵer i ystyried cais a gwneud Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio ar unrhyw adeg, ar yr amod ei fod yn fodlon bod y tri maen prawf a nodir yn adran 2(1) o’r Ddeddf yn cael eu bodloni.

Gorchymyn sifil y mae’r heddlu yn gallu gwneud cais amdano yw Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio.

Nid oes angen unrhyw euogfarnau blaenorol am droseddau stelcio i wneud cais am orchymyn.

Pryd i wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio

Mae’r meini prawf ar gyfer gwneud cais am orchymyn wedi’u nodi yn adran 1(1) o’r Ddeddf. Dylai’r heddlu ystyried gwneud cais am orchymyn os yw’n ymddangos iddynt fod:

  • Yr ymatebydd wedi cyflawni gweithredoedd sy’n gysylltiedig â stelcio;

  • Yr ymatebydd yn peri risg o stelcio i berson; a

  • Yna achos rhesymol i gredu bod y gorchymyn arfaethedig yn angenrheidiol i ddiogelu’r person arall rhag y risg hwnnw. (Nid oes rhaid i’r person sydd i gael ei ddiogelu fod wedi bod yn ddioddefwr y gweithredoedd y cyfeirir atynt uchod.)

Dim ond pan fodlonir y meini prawf tebyg yn adran 2(1) o’r Ddeddf y caiff llys ynadon wneud gorchymyn.

Mae’r amgylchiadau lle gall yr heddlu wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio fel a ganlyn:

  • mae dioddefwr wedi adrodd am ymddygiad stelcio, neu mae wedi dod i sylw’r heddlu yn ystod ymchwiliad ar wahân neu drwy ddulliau eraill (megis atgyfeiriad trydydd parti trwy brosesau Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC)/Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) neu gan aelod arall o’r cyhoedd);

  • ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad, hyd at a chan gynnwys yr euogfarn (neu ryddfarn), neu le nad yw ymchwiliad wedi dechrau eto; a

  • credir bod y dioddefwr mewn perygl o niwed gan yr ymatebydd a bod angen gorchymyn i ddiogelu’r dioddefwr rhag y risg hwnnw.

Mae’n bwysig nodi y gall stelcio effeithio ar bobl o bob nodwedd, ac er bod dioddefwyr yn fenywod yn anghymesur, mae dioddefwyr yn dod o bob cefndir. Dylai swyddogion hefyd fod yn ymwybodol, yn ôl data Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr[footnote 1], bod pobl â salwch neu anabledd hirdymor yn anghymesur o debygol o fod yn ddioddefwyr stelcio.

Dylai’r swyddog ymchwilio ystyried a ddylid gwneud cais am orchymyn ar ddechrau pob ymchwiliad stelcio, boed hynny mewn cyd-destun cam-drin domestig (megis stelcio gan gynbartner) neu’n achos o’r hyn a elwir yn ‘stelcio gan ddieithryn’. Mae hyn yn caniatáu i gael cynlluniau amddiffyn ar waith hyd yn oed os yw’r achos yn arwain at ryddfarn.

Gall yr heddlu wneud cais am orchymyn yn erbyn plant a phobl ifanc o 10 oed hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed. Llysoedd ieuenctid fydd yn delio â’r achosion hyn.

Dylai’r heddlu ystyried gwneud cais am orchymyn nid yn unig i amddiffyn y dioddefwr ond hefyd, lle bo angen, unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr a allai hefyd fod mewn perygl o gael ei stelcio gan yr ymatebydd.

Gellir gwneud cais am Orchmynion Diogelu Rhag Stelcio hyd yn oed os nad yw’r erlyniad yn mynd yn ei flaen.

Bydd angen i’r heddlu gynnal asesiad o’r risg a berir gan yr ymatebydd er mwyn penderfynu a ddylid gwneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio. Dylai ymchwilwyr ymgynghori â dioddefwyr yn gynnar yn y broses hon gan ei bod yn bwysig ystyried eu barn am y risgiau iddyn nhw. Dylai’r heddlu sicrhau bod asesiad risg neu offeryn sgrinio stelcio arbenigol priodol yn cael ei ddefnyddio, mewn ymgynghoriad ag asiantaethau perthnasol eraill neu drwy asesydd risg annibynnol lle bo hynny’n briodol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddarlun manwl, lle bo hynny’n bosibl, sy’n llywio penderfyniadau trwy gydol y broses Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio.

Nid yw Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio yn gyfyngedig i achosion o’r hyn a elwir yn ‘stelcio gan ddieithryn’ a gellir eu defnyddio hefyd mewn cyddestun cam-drin domestig lle bo hynny’n briodol. Gallant fod yn arbennig o berthnasol mewn achosion o gam-drin economaidd sy’n digwydd yn aml neu’n parhau ar ôl i berthynas gyda phartner ddod i ben. Gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y gorgyffwrdd gyda ffurfiau eraill o gam-drin.

Dylai’r heddlu ystyried rhesymoldeb wrth ystyried a ddylid gwneud cais am orchymyn, gan ystyried amgylchiadau’r mater a chefndir yr ymddygiad. Dylai’r heddlu sicrhau bod y dioddefwr yn canfod yr ymddygiad yn ddigroeso yn rhesymol, y dylai’r ymatebydd fod wedi gwybod hynny’n rhesymol ac y gellir yn rhesymol ystyried bod yr ymddygiad yn peri risg i’r dioddefwr.

Sylwch efallai na fydd dioddefwyr yn gwbl ymwybodol y gall yr holl ymddygiad y maent wedi bod yn destun iddo fod yn stelcio.

Gall y risg o stelcio a achosir gan yr ymatebydd fod mewn perthynas â niwed corfforol neu seicolegol i’r person arall a/neu ddifrod i’w eiddo. Gall risg ddeillio o weithredoedd y mae’r ymatebydd yn gwybod neu y dylent yn rhesymol wybod eu bod yn ddigroeso i’r person arall, hyd yn oed os gall y gweithredoedd ymddangos ynddynt eu hunain neu’n unigol yn ddiniwed mewn amgylchiadau eraill. Er enghraifft, gallai anfon anrhegion neu flodau nas dymunir i rywun ar y cyd ag ymddygiad arall fod yn ymddygiad stelcio. Am fwy o enghreifftiau o weithredoedd neu hepgoriadau a allai fod yn gyfystyr ag ymddygiad stelcio, gweler adran 2A o Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997 (yn Atodiad C - Troseddau Stelcio) neu Atodiad A - Deall stelcio.

Gall yr ymddygiad sy’n sail i gais fod wedi digwydd:

  • yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, neu dramor;

  • cyn neu ar ôl i adran 2(5) o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 ddod i rym.

Efallai y bydd y dioddefwr yn dal i allu gwneud cais am orchmynion amddiffynnol eraill tebyg, megis Gwaharddebau neu Orchmynion Peidio ag Ymyrryd mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.

Fodd bynnag, gall yr heddlu ystyried gwneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio cyn neu yn ystod ymchwiliad am drosedd stelcio y gellir dwyn erlyniad yn nes ymlaen. Pwrpas gwneud cais am y Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio o dan yr amgylchiadau hynny yw amddiffyn y dioddefwr rhag unrhyw risg stelcio a nodwyd cyn neu yn ystod unrhyw ymchwiliad ac achos troseddol.

Gorchmynion dros dro

Mae Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro yn orchymyn dros dro sy’n gosod gwaharddiadau a/neu ofynion cadarnhaol fel y mae’r Llys yn ystyried sy’n briodol.

Pwrpas gorchymyn dros dro yw amddiffyn y dioddefwr yn ystod unrhyw gyfnod rhwng y cais am orchymyn llawn a’i benderfyniad. Mae torri unrhyw un o amodau gorchymyn dros dro yn drosedd sy’n cario’r un gosb uchaf â thorri gorchymyn llawn.

Bwriad gorchmynion dros dro yw darparu proses gyflymach i gael gorchymyn pan fydd risg uniongyrchol o niwed, er enghraifft mewn achosion lle mae ffactorau sy’n cynnwys syniadaeth hunanladdol neu ddynladdol, ond lle mae angen gwybodaeth neu ymchwiliad pellach i fodloni’r meini prawf i gael Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio llawn neu pan na all y llys ddarparu’r gorchymyn llawn mewn pryd.

Mae’n fater i’r llysoedd ddehongli a yw am wneud gorchymyn dros dro ai peidio. Os yw cais yn cael ei wneud a’i gefnogi’n iawn, gellir caniatáu gorchymyn dros dro. Gall y llys wneud gorchymyn dros dro os yw’n ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

Disgwylir y bydd unrhyw orchymyn dros dro a roddir am gyfnod cyfyngedig o amser i alluogi cael/ymchwilio i’r wybodaeth ychwanegol hon ac y bydd cais am orchymyn llawn yn cael ei benderfynu unwaith y bydd wedi’i gwblhau.

Mae’r broses ar gyfer gwneud cais am orchymyn dros dro’r un fath â’r broses ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio llawn. Efallai y bydd yn ofynnol i’r heddlu ddarparu datganiad ysgrifenedig i’r llys neu ddarparu tystiolaeth yn bersonol wrth wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio.

Gall y llys, os yw o’r farn ei bod yn briodol i wneud hynny, wneud Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro—

a. i wahardd yr ymatebydd rhag gwneud unrhyw beth a ddisgrifir yn y gorchymyn, neu

b. er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r ymatebydd wneud unrhyw beth a ddisgrifir yn y gorchymyn.

Dim ond am gyfnod penodol a bennir yn y gorchymyn y mae Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro mewn grym, a bydd yn colli ei rym ar ôl dod i benderfyniad ar brif gais y Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio ‘llawn’ a gorchymyn dros dro?

Wrth ystyried a ddylid gwneud gorchymyn dros dro, gall y llys wneud un ‘os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny’ [ychwanegwyd pwyslais] yn unol ag adran 5(3) o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019. Mae hwn yn drothwy is na’r hyn sy’n ofynnol i wneud gorchymyn ‘llawn’, lle gall y llys wneud un dim ond os yw’n ‘fodlon’ bod gorchymyn yn ‘angenrheidiol i amddiffyn person arall’ [ychwanegwyd pwyslais] rhag stelcio yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019. Felly gallai gorchymyn dros dro gael ei wneud yn gyflymach pan asesir bod yna risg uniongyrchol, cyn cynnal archwiliad llawn o’r dystiolaeth i benderfynu ar y cais am y gorchymyn ‘llawn’.

Yn ogystal, mae’n debygol y bydd y llysoedd yn cymhwyso’r safon prawf sifil (y tu hwnt i amheuaeth resymol) i elfennau canfod ffeithiau cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio (SPO) ‘llawn’ (pa un a yw’r diffynnydd wedi cyflawni gweithredoedd sy’n gysylltiedig â stelcio, ac a yw’r diffynnydd yn peri risg sy’n gysylltiedig â stelcio i berson arall), ochr yn ochr ag elfennau canfod ffeithiau cais am SPO dros dro, sef ei drin fel arfer barn neu werthuso.

(Mae’n debygol y bydd y llysoedd hefyd yn cymhwyso’r safon sifil o brawf i elfen nad yw’n canfod ffeithiau y cais am SPO ‘llawn’ (oes angen gorchymyn i amddiffyn person arall) a’r cais am SPO dros dro (pa un a yw’n briodol i wneud gorchymyn dros dro), ond yn hytrach bydd yn cymryd y safbwynt eu bod yn cynrychioli ymarfer barn neu werthuso.)

Sut i wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio a gorchymyn dros dro

Gall prif swyddog heddlu (fel y’i dirprwywyd) wneud cais am orchymyn neu orchymyn dros dro - gan gynnwys prif swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn - mewn perthynas â pherson (yr ymatebydd) sy’n preswylio yn ardal heddlu’r prif swyddog, neu y mae’r prif swyddog yn credu sydd yn yr ardal honno neu’n bwriadu dod iddi.

Nid oes angen i’r ymatebydd gael euogfarn flaenorol am drosedd stelcio i’r heddlu wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio. Gall y llys wneud Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio os yw’n fodlon bod yr amodau yn adran 2(1) o’r Ddeddf yn cael eu bodloni. Gall y llys wneud gorchymyn dros dro os yw’n fodlon ei bod yn “briodol i wneud hynny”, hyd nes y penderfynir ar y prif gais.

Pan yw’r ymatebydd a’r dioddefwr yn byw mewn gwahanol ardaloedd heddlu, naill ai ar adeg caniatáu’r Gorchymyn neu ar ôl i’r naill ochr neu’r llall symud tra bo’r Gorchymyn yn ei le, dylai heddlu lleol yr ymatebydd gysylltu â heddlu lleol y dioddefwr i ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o amgylchiadau’r achos unigol a sicrhau bod y gwaharddiadau a’r gofynion mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau yn cael eu ceisio neu’n parhau i fod yn briodol. Mae cydgysylltu a rhannu gwybodaeth o’r fath rhwng lluoedd yn amodol ar fframweithiau presennol yr heddlu ar gyfer gwneud hynny.

Mae hefyd yn bwysig, os rhoddir Gorchymyn, bod y llu a wnaeth y cais yn trosglwyddo gwybodaeth lawn (manylion y Gorchymyn gan gynnwys unrhyw asesiadau risg a gwblhawyd ac unrhyw gynlluniau rheoli risg) am y Gorchymyn ac amodau i’r llu y mae’r dioddefwr yn byw yn ei ardal (os yn wahanol). Mae hyn er mwyn sicrhau bod y dioddefwr wedi’i amddiffyn yn llawn a bod heddlu yn yr ardal honno’n ymwybodol o unrhyw doriadau ar y Gorchymyn a allai ddigwydd yn eu hardal ac yn gallu mynd i’r afael â hwy. Yn ddelfrydol, dylai’r lluoedd nodi pwynt cyswllt lleol i hwyluso proses drosglwyddo y cytunwyd arni a rheoli achosion yn barhaus (yn amodol ar fframweithiau presennol yr heddlu ar gyfer gwneud hynny).

Nodi y gallai dioddefwr brofi ymddygiad stelcio mewn mwy nag un ardal heddlu, er enghraifft os yw’n byw mewn un ardal heddlu, yn gweithio mewn ardal arall ac yn profi stelcio yn y ddau. Yn yr achosion hynny, lle mae’r ymatebydd yn byw mewn trydedd ardal heddlu, cynghorir llu lleol yr ymatebydd i gydgysylltu â phob llu perthnasol, a darparu manylion unrhyw Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio iddynt.

Rhaid i gais am orchymyn gael ei awdurdodi gan swyddog nad yw’n is na safle uwch-arolygydd.

Dechrau Achos yn y Llys Ynadon

Gwneir cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio ‘llawn’ trwy gŵyn gan yr heddlu - gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn - i lys ynadon. Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn gweithredu yn ei rinwedd sifil ac felly mae’r rheolau tystiolaeth sifil yn berthnasol ac mae achlust yn dderbyniadwy. Mae’n debygol y bydd y llysoedd yn cymhwyso’r safon prawf sifil (cydbwysedd tebygolrwydd) i elfennau canfod ffeithiau cais am SPO (pa un a yw’r diffynnydd wedi cyflawni gweithredoedd sy’n gysylltiedig â stelcio, ac a yw’r diffynnydd yn peri risg sy’n gysylltiedig â stelcio i berson arall). Os a phan fydd y llys yn canfod bod yr unigolyn wedi cyflawni’r gweithredoedd ac yn peri risg, mae’n debygol y bydd y llysoedd hefyd yn cymhwyso’r safon sifil o brawf i drydedd elfen cais am SPO (a oes angen gorchymyn i amddiffyn person arall), ond yn hytrach ei drin fel ymarfer barn neu werthuso.

Mae’r asesiad hwn yn seiliedig ar y dyfarniad yn Nhŷ’r Arglwyddi yn achos R (McCann) v Llys y Goron ym Manceinion [2003] 1 AC 787. Roedd yr achos yn ymwneud â Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a oedd yn debyg i SPOs. Nid yw’r achos hwn yn tanseilio’r safbwynt bod y SPO yn orchymyn sifil ac felly mae’r hawliau gweithdrefnol o dan Erthygl 6 o Siarter Hawliau Dynol Ewrop (ECHR) yn berthnasol. Mae gan bawb hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus, o fewn amser rhesymol, gan dribiwnlys annibynnol a diduedd. Bydd asesu a yw’r camau diogelu hyn wedi’u bodloni yn cael ei benderfynu ar ffeithiau pob achos yng nghyd-destun cyfraith achos berthnasol.

Os yw’r ymatebydd o dan 18 oed, gwneir y gŵyn i lys ieuenctid. Mae’r darpariaethau cyffredinol sy’n llywodraethu ceisiadau am orchmynion sifil yn y llysoedd ynadon fel y nodir yn Rhan 2 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980. Er mwyn hwyluso’r broses, argymhellir bod yr heddlu’n ystyried rhybuddio’r llys cyn gwneud cais, i helpu i’w drefnu.

Gwneir cais am orchymyn dros dro trwy gŵyn hefyd. Gellir naill ai ddechrau’r cais hwn ar yr un pryd â’r prif gais neu lle mae’r prif gais wedi’i wneud ond heb ei benderfynu eto. Mae’n debygol na fydd y llysoedd yn cymhwyso’r safon prawf droseddol ar gyfer unrhyw elfennau canfod ffeithiau cais am SPO dros dro, ac felly’n ei drin fel ymarfer barn neu werthuso.

Gall llys, ac fel rheol bydd, yn cyhoeddi gwŷs i sicrhau presenoldeb yr ymatebydd yn y gwrandawiad. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i’r Heddlu gyhoeddi rhybudd o wrandawiad ychwanegol i’r ymatebydd.

Pan ddechreuir y cais am y prif orchymyn a’r gorchymyn dros dro ar yr un pryd, dylai’r Heddlu ofyn i’r llys gyhoeddi gwŷs ar gyfer y prif gais a’r gorchymyn dros dro, er eu bod ar gyfer yr un dyddiad gwrandawiad. Rhaid i’r un llu heddlu wneud y cais am y prif orchymyn a’r gorchymyn dros dro.

Pan wneir cais am orchymyn dros dro yn y llys tra bo’r ymatebydd yn bresennol, nid oes angen i’r llys godi gŵys i ystyried y cais am y gorchymyn dros dro.

Mae cost ariannol i’r heddlu sy’n gysylltiedig â gwneud cais i’r llys am orchymyn. Dylai’r ffi gael ei thalu ar yr un pryd ag y gwneir y cais. Efallai bod gan heddluoedd drefniadau ar waith yn lleol ar gyfer talu ffioedd Llys.

Mae yna ffi ychwanegol os yw’r cais yn arwain at wrandawiad ac os bydd y cais yn cael ei herio. Mae’r ffioedd yn cael eu pennu gan y Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon 2008 (Diwygiedig)[footnote 2].

Cyflwyno’r wŷs

Bydd y llys yn cyflwyno’r wŷs i’r heddlu ac yna mae’r heddlu yn gyfrifol am gyflwyno’r wŷs i’r ymatebydd. Yn gyffredinol, cyflwynir gwŷs trwy ei phostio i’r ymatebydd i gyfeiriad lle credir yn rhesymol y bydd yn ei derbyn, ei adael mewn cyfeiriad o’r fath i’r ymatebydd neu ei drosglwyddo’n bersonol i’r ymatebydd. Mae Rheol 99, Rheolau Llysoedd Ynadon 1981 fel y’u diwygiwyd gan Reolau Llysoedd Ynadon (Diwygiad) 2019 yn egluro dulliau cyflwyno eraill a ganiateir.

Y Gwrandawiad - Mynd ymlaen yn absenoldeb yr ymatebydd

Os yw’r ymatebydd yn methu â mynychu’r gwrandawiad, gall y llys naill ai:

  • wrando ar y cais am y Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio yn absenoldeb yr ymatebydd. Os yw’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio yn cael ei roi ni fydd angen i’r llys ystyried y gorchymyn dros dro;

  • codi gwarant ar gyfer arestio’r ymatebydd ac ystyried gorchymyn dros dro os oes cais wedi’i wneud;

  • gohirio’r prif gais ac ystyried gorchymyn dros dro os oes cais wedi’i wneud; neu

  • gohirio’r prif gais, a gorchymyn dros dro os oes cais wedi’i wneud, i ddyddiad arall.

Dim ond os bodlonir y gofynion cyfreithiol yn adran 55 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 y caiff y llys godi gwarant neu glywed cais am y prif orchymyn neu unrhyw orchymyn dros dro yn absenoldeb yr ymatebydd. Mae angen i’r llys fod yn fodlon naill ai bod yr ymatebydd yn bresennol mewn gwrandawiad cynharach neu fod yr ymatebydd wedi cael y wŷs trwy un o’r dulliau penodedig o fewn yr hyn y mae’r llys yn penderfynu sy’n amser rhesymol cyn y gwrandawiad. Cyn y gall y llys wneud gorchymyn dros dro yn absenoldeb yr ymatebydd, rhaid bod yr ymatebydd wedi cael ei wysio i ateb y gŵyn y mae’r gorchymyn dros dro yn berthnasol iddo, ochr yn ochr â’r wŷs ar gyfer y prif gais.

Gofynion Tystiolaeth

Gall y llys ystyried tystiolaeth achlust yn ychwanegol at dystiolaeth fyw gan dystion i benderfynu ar y cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu orchymyn dros dro. Felly mae angen rhybuddio tystion yr Heddlu, os oes angen, dim ond ar ôl i’r ymatebydd gadarnhau yn y gwrandawiad cyntaf bod sail dystiolaeth y gorchymyn yn cael ei herio a bod y llys wedi gohirio ar gyfer gwrandawiad sy’n cael ei herio.

Pan fo’r Heddlu’n dymuno dibynnu ar dystiolaeth achlust, rhaid cyflwyno rhybudd o’r dystiolaeth i’r ymatebydd o leiaf 21 diwrnod cyn y gwrandawiad (Rheol 3 Llysoedd Ynadon (Tystiolaeth Achlust mewn Achosion Sifil) ac adran 2 o Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995). Gall clerc y llys neu glerc yr ynadon arfer disgresiwn i amrywio’r terfyn amser ar gais neu ei fenter ei hun. Nid yw methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwn yn atal y dystiolaeth rhag bod yn dderbyniol ond mae’n ffactor y gall y llys ei ystyried wrth benderfynu sut i symud ymlaen ac ar y mater o gostau.

Er bod y Ddeddf yn caniatáu i’r Heddlu wneud cais am Orchmynion Diogelu Rhag Stelcio i leihau’r effaith bosibl ar ddioddefwyr sy’n agored i niwed, gall fod amgylchiadau lle mae’n briodol i’r dioddefwr neu dyst arall fynychu’r gwrandawiad cais i ddarparu tystiolaeth i gefnogi’r cais. Er nad oes deddfwriaeth yn sail i’r broses lle gall y Llys ganiatáu mesurau arbennig, mae’n gallu dibynnu ar bwerau cyfraith gyffredin i wneud hynny lle bo hynny’n briodol (R v X (1989) 91 Cr App Rep 36, [1990] Crim LR 515). Wrth gwblhau’r cais am SPO, os bydd yr Heddlu’n penderfynu bod angen presenoldeb tystion a bod angen mesurau arbennig, dylent gwblhau’r adran ‘Mesurau Arbennig’ perthnasol o’r cais am SPO sy’n cadarnhau enw’r tyst, y rheswm y ceisir mesurau arbennig, a’r math o fesur a geisir. Bydd y Llys yn ystyried y cais ar ôl derbyn y cais a chyn rhestru’r gwrandawiad. Yna gall yr Heddlu roi gwybod i’r tyst a yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus neu beidio cyn y gwrandawiad.

Telerau i’w cynnwys yn y gorchymyn

O fewn cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio, neu orchymyn dros dro, gall yr heddlu ofyn am waharddiadau a/neu ofynion o fewn gorchymyn i amddiffyn y dioddefwr rhag y risg o stelcio. Fodd bynnag, y llys ynadon sy’n gyfrifol am y penderfyniad terfynol ynghylch pa amodau i’w cynnwys o fewn Gorchymyn.

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro yn cyflawni trosedd.

Bydd y Llysoedd, yn unol â’u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol fel corff cyhoeddus, yn gorfod dehongli Deddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 cyn belled ag y bo modd mewn ffordd sy’n gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR), gan gynnwys Erthygl 2 hawl i fywyd i’r dioddefwr ac Erthygl 8 hawl i breifatrwydd i’r ymatebydd. Byddai’n rhaid cyfiawnhau unrhyw ymyrraeth â hawliau bywyd a phreifatrwydd person am un o’r rhesymau a nodir yn Erthygl 2 ac Erthygl 8 a byddai’n rhaid iddo fod yn gymesur.

Arfer gorau yw i’r heddlu ymgysylltu â’r dioddefwr i gael ei farn ar yr amodau mwyaf priodol i ofyn amdanynt mewn cais am orchymyn. Rhaid i’r cais ddangos yn effeithiol yr angen am y gorchymyn, yr amodau y gofynnir amdanynt a’r risg o niwed (a all fod yn seicolegol a/neu’n gorfforol), yn ogystal â bod yr amodau a awgrymir yn gymesur â’r niwed a berir yn unol â’r meini prawf yn yr adran 1(1) o’r Ddeddf.

Mae gorchymyn mewn grym am gyfnod a nodir yn y gorchymyn, neu nes bydd gorchymyn pellach yn cael ei wneud. Pan nodir cyfnod penodol yn y gorchymyn, rhaid iddo fod am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf. Gellir nodi gwahanol gyfnodau mewn perthynas â gwaharddiadau neu ofynion gwahanol yn nhelerau’r gorchymyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Mae gan waharddiad neu ofyniad rym ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig oni bai ei fod yn cael ei gyfyngu yn glir i ardal benodol.

Gallai amodau gorchymyn gynnwys gwahardd yr ymatebydd rhag:

  • mynd i mewn i leoliadau penodedig neu ardaloedd diffiniedig lle mae’r dioddefwr yn preswylio neu’n ymweld â nhw’n aml;

  • cysylltu â’r dioddefwr mewn unrhyw fodd, gan gynnwys dros y ffôn, trwy’r post, e-bost, negeseuon testun SMS neu’r cyfryngau cymdeithasol;

  • cysylltu neu ryngweithio gyda’r dioddefwr trwy drydydd partïon, er enghraifft ffrindiau neu deulu;

  • cyfeirio at y dioddefwr ar y cyfryngau cymdeithasol naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol;

  • gwneud ceisiadau blinderus i’r llys sifil (gan gynnwys y Llys Teulu) sy’n cyfeirio at y dioddefwr;

  • recordio delweddau o’r dioddefwr

  • defnyddio unrhyw ddyfais sy’n gallu cyrchu’r rhyngrwyd oni bai bod ganddo’r gallu i gadw ac arddangos hanes y defnydd o’r rhyngrwyd;

  • mynd at y dioddefwr yn gorfforol (o gwbl, i mewn i ardal benodedig neu fel yr amlinellir ar fap); a/neu

  • cymryd rhan mewn unrhyw fath o wyliadwriaeth o’r dioddefwr trwy unrhyw fodd.

Gallai amodau’r gorchymyn gynnwys gofynion cadarnhaol i:

  • fynd i asesiad o addasrwydd ar gyfer triniaeth;

  • mynychu rhaglen ymyrraeth briodol ar gyfer cyflawnwyr;

  • mynychu asesiad iechyd meddwl;

  • mynychu rhaglen cyffuriau ac alcohol;

  • ildio dyfeisiau;

  • rhoi mynediad i’r heddlu i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ffonau symudol, cyfrifiaduron, tabledi a chyfrineiriau/codau; a/neu

  • cofrestru mewn swyddfa heddlu.

Dylid ystyried pob cais yn ôl ei amgylchiadau ei hun wrth benderfynu ar yr amodau mwyaf priodol ac nid yw’r rhestrau uchod yn gynhwysfawr.

Wrth ddrafftio cais SPO, cynghorir yr heddlu i sicrhau bod unrhyw amodau a geisir mewn ceisiadau yn glir, yn benodol ac yn gymesur â’r amgylchiadau er mwyn cynorthwyo’r llys sy’n ystyried y cais i osod yr amodau mwyaf priodol.

Ni ddylai’r heddlu ofyn i fonitro electronig gael ei orfodi er mwyn sicrhau cydymffurfiad ag amodau Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio, gan nad yw’r seilwaith ar waith i hynny ddigwydd.

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn cael ei gynnwys os torrir gorchymyn a’i fod yn cael ei erlyn. Felly, gallai hefyd fod yn synhwyrol ceisio cyngor gan y CPS ar eiriad amodau anarferol neu gymhleth er mwyn sicrhau y gellir profi unrhyw doriadau i’r safon prawf droseddol.

Dylai’r heddlu ystyried ceisio cyngor arbenigol ynghylch y telerau y maent yn gofyn iddynt gael eu cynnwys yn y gorchymyn. Efallai y byddant hefyd yn dymuno ymchwilio i argaeledd gwasanaethau a rhaglenni lleol perthnasol. Er enghraifft, efallai y byddant yn dymuno ymgynghori â’r Awdurdod Lleol, eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd, y Grŵp Comisiynu Clinigol lleol, ymarferwyr gofal iechyd arbenigol neu sefydliadau anllywodraethol.

Dylai’r heddlu sy’n gwneud cais SPO sicrhau bod unrhyw ofynion cadarnhaol sydd wedi’u cynnwys mewn cais, megis rhaglenni ymyrraeth cyflawnwyr, yn briodol i ymddygiad stelcio’r ymatebydd a’r amgylchiadau a nodwyd.

Dylai’r heddlu hefyd edrych ar gofnodion heddlu perthnasol i sefydlu a yw’r ymatebydd eisoes yn destun gorchymyn neu waharddeb arall. Os felly, rhaid iddynt sicrhau nad yw’r amodau arfaethedig yn y cais yn gwrthddweud telerau unrhyw orchymyn sydd eisoes yn bodoli.

Dylai’r heddlu sicrhau, cyn belled ag sy’n ymarferol, nad yw unrhyw waharddiadau a gofynion y gofynnir amdanynt mewn cais yn gwrthdaro â chredoau crefyddol yr ymatebydd neu’r amseroedd pan fyddai fel rheol yn mynd i’r gwaith neu sefydliad addysg fel y nodir yn adran 2(3) o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019. Dylai’r heddlu ystyried a yw’r ymatebydd yn gweithio gyda’r dioddefwr neu’n mynd i’r un sefydliad crefyddol.

Rhaid i Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio a Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro nodi—

  • y dyddiad y gwneir y gorchymyn;

  • y cyfnod y bydd mewn grym. Gellir nodi cyfnod penodol ar gyfer Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio ond rhaid nodi cyfnod penodol ar gyfer gorchymyn dros dro. Bydd gorchymyn dros dro yn dod i ben ar ôl penderfynu ar y prif gais;

  • pob gwaharddiad neu ofyniad sy’n berthnasol i’r gwrthrych;

  • a yw unrhyw waharddiad neu ofyniad wedi’i gyfyngu’n benodol i ardal benodol ac, os ydyw, pa ardal;

  • a yw unrhyw waharddiad neu ofyniad yn ddarostyngedig i gyfnod penodol o amser sy’n wahanol i’r cyfnod y mae’r gorchymyn mewn grym ac, os ydyw, beth yw’r cyfnod hwnnw.

Diogelu plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed

Gellir amddiffyn pobl o dan 18 oed trwy Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio.

Mae gan yr heddlu ddyletswydd i ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plentyn neu berson ifanc wrth arfer eu swyddogaethau; ym mhob ymchwiliad dylid dilyn yr egwyddor bod lles y plentyn o’r pwys mwyaf.

Gweler Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant 2018[footnote 3] i gael arweiniad statudol ar ddiogelu plant.

Gwneud cais am orchymyn yn erbyn plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed

Gall unigolion o dan 18 oed fod yn ymatebydd i orchymyn.

Bydd plant a phobl ifanc rhwng 10 oed a 18 oed, sy’n ymatebwyr mewn gorchymyn, yn ddarostyngedig i’r un weithdrefn ag oedolion, ond bydd y llysoedd ieuenctid yn delio â’u ceisiadau yn yr un modd. Mae Rhan 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 yn berthnasol i blant a phobl ifanc mewn achosion diannod o’r fath mewn llysoedd ieuenctid a llysoedd ynadon.

O dan adran 34A o Ddeddf 1933, rhaid i’r llys, mewn perthynas â phlentyn dan 16 oed (neu fel arall mewn unrhyw achos arall) fynnu bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol (a all gynnwys adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol), ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig.

Dylid gwneud pob ymdrech cyn gwrandawiad i sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol, fel nad oes angen i’r llys fynnu eu bod yn bresennol.

Wrth wneud cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio, dylai’r egwyddorion canlynol fod yn berthnasol os yw’r ymatebydd yn berson ifanc:

  • Bod yna ymgynghori cynnar â’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid (YOS) yn y broses o wneud cais lle bo hynny’n berthnasol. Dylai’r cais gael ei ategu gan gofnod o’r cyswllt â’r YOS, yn nodi y gofynnwyd am eu barn am y gorchymyn.

  • Bod natur a maint unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen yn seiliedig ar asesiad strwythuredig sy’n ystyried anghenion y person ifanc a’r risg sydd ar ddod, er enghraifft niwed seicogymdeithasol.

  • Bod lles y plentyn neu’r person ifanc yn hollbwysig, yn unol â gweithdrefnau diogelu lleol.

  • Bod gofynion yr holl orchmynion a dedfrydau eraill a allai fodoli eisoes yn cael eu hystyried i sicrhau nad yw unrhyw ofynion a wneir gan y gorchmynion hyn yn cyfyngu ar allu person ifanc i gwblhau gorchmynion neu ddedfrydau cyfredol eraill, a bod baich cyfun y gofynion yn cael ei ystyried i sicrhau bod gan y person ifanc y gallu i gydymffurfio.

Mae adran 11 o Ddeddf Plant 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu sicrhau eu bod yn hyrwyddo lles plant ac yn eu diogelu wrth gyflawni eu dyletswyddau, a dylai’r egwyddor ‘dim gorchymyn’ (y dylid ystyried dewisiadau amgen i orchymyn yn gyntaf) fod yn berthnasol ym mhob achos.

Adran 3 –Cyflwyno Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio

Rhaid i’r swyddog dynodedig ar gyfer y llys gyflwyno copi o’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl i orchymyn o’r fath gael ei wneud.

Rhaid i’r gorchymyn gael ei gyflwyno gan un o’r dulliau a nodir yn Rheol 115 o Reolau Llysoedd Ynadon 1981 fel y’u diwygiwyd gan Reolau Llysoedd Ynadon (Diwygiad) 2019.

Os yw ymatebydd yn bresennol yn y gwrandawiad cais, dylid darparu copi o’r gorchymyn iddo yn y llys, lle bo hynny’n ymarferol. Pan fo’r ymatebydd yn blentyn neu’n berson ifanc, dylid rhoi copi i’w riant neu warcheidwad hefyd os yw’n bresennol.

Os na fydd yr ymatebydd yn mynychu’r gwrandawiad rhaid cyflwyno’r gorchymyn trwy un o’r dulliau penodedig eraill.

Dylai’r gorchymyn gael ei gyflwyno ochr yn ochr â rhybudd ysgrifenedig yn hysbysu’r ymatebydd o’r:

  • Broses apelio

  • Y gofynion hysbysu

  • Bod torri unrhyw un o’r gwaharddiadau neu’r gofynion sydd wedi’u cynnwys yn y gorchymyn heb esgus rhesymol, a/neu fethiant i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu heb esgus rhesymol, a/neu ddarparu manylion enw a chyfeiriad ffug yn fwriadol, yn drosedd.

Adran 4 – Rheoli gwrthrych gorchymyn neu orchymyn dros dro

Cofrestru gorchymyn

Unwaith y bydd Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio wedi’i wneud, bydd angen ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) gan gynnwys y gorchymyn ar dudalen Gwybodaeth Weithredol cofnod PNC. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiad y cyhoeddwyd y gorchymyn a’r dyddiad dod i ben, perchnogion heddlu unigol a rhifau cyfeirnod. Gellir ychwanegu unrhyw amodau a osodir fel rhan o’r gorchymyn hefyd at y cofnod PNC. Bydd hyn yn galluogi holl ddefnyddwyr PNC sydd angen gweld y cofnod cysylltiedig i weld y wybodaeth mewn perthynas â’r gorchymyn sy’n cael ei gyhoeddi a’r amodau hynny sydd ynghlwm.

Trwy gydol y broses o wneud cais am SPO ac yn ystod y cyfnod y mae SPO yn ei le dylai’r Heddlu ystyried a yw ymatebydd hefyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn Berson Peryglus o Bosibl ac felly dylid ei gynnwys ar y Gronfa Ddata Pobl Beryglus (ViSOR)[footnote 4].

Mae yna ffactorau risg ychwanegol y dylid eu hystyried wrth reoli gwrthrych gorchymyn, er enghraifft, mynediad yr ymatebydd at ddrylliau cyfreithiol, gallu gyda drylliau/arfau, anawsterau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac ati. Dylai ymchwilwyr gynnal unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol i nodi unrhyw ffactorau risg ychwanegol a dylent gynnwys cynllun o gamau i liniaru’r risgiau.

Cyfeiriwch at ganllaw’r Coleg Plismona ar reoli gwybodaeth i gael mwy o wybodaeth.

Gofynion hysbysu

Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio/ Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro hysbysu’r heddlu o’i enw(au) a’i gyfeiriad cartref, cyn pen cyfnod o 3 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynir y gorchymyn.

Os bydd yr enw a ddefnyddir gan y person neu ei gyfeiriad yn newid yn ystod hyd y gorchymyn, rhaid iddo hysbysu’r heddlu o fewn cyfnod o 3 diwrnod ar ôl y newid hwnnw.

Nid yw’r gofynion hysbysu yn adran 9 o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 yn berthnasol i berson sydd eisoes yn ddarostyngedig i ofynion hysbysu o dan Ran 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, er pe bai’r olaf yn dod i ben cyn i’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio ddod i ben, byddai adran 9 wedyn yn berthnasol, gyda’r dyddiad cau ar gyfer hysbysu 3 diwrnod ar ôl iddynt roi’r gorau i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf 2003.

Mae person y mae ei gyfeiriad cartref yng Nghymru neu Lloegr yn rhoi hysbysiad trwy:

  • fynd i orsaf heddlu yn ei ardal heddlu leol, a

  • rhoi hysbysiad ar lafar i heddwas, neu i unrhyw berson sydd wedi’i awdurdodi at y diben gan y swyddog sy’n gyfrifol am yr orsaf.

Mae’r Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio yn nodi bod “cyfeiriad cartref”, yng nghyswllt unigolyn, yn golygu:

  • cyfeiriad unig neu brif breswylfa’r unigolyn yn y Deyrnas Unedig, neu

  • os nad oes gan yr unigolyn breswylfa o’r fath, y cyfeiriad neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig lle gellir dod o hyd i’r unigolyn yn gyson, os oes mwy nag un lleoliad o’r fath, y lleoedd hynny y bydd y person yn eu dewis.

Mae person nad oes ganddo gyfeiriad cartref yng Nghymru na Lloegr yn rhoi hysbysiad trwy—

  • fynd i orsaf heddlu yn yr ardal heddlu leol lle mae’r llys ynadon a wnaeth Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu Orchymyn Diogelu Stelcio dros dro diwethaf mewn perthynas â’r person wedi’i leoli, a

  • rhoi hysbysiad ar lafar i heddwas, neu i unrhyw berson sydd wedi’i awdurdodi at y diben gan y swyddog sy’n gyfrifol am yr orsaf.

Rhaid cydnabod unrhyw hysbysiad a ddarperir i’r heddlu yn ysgrifenedig a’i gofnodi, ac ar unrhyw ffurf a gyfarwyddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

I wirio hunaniaeth y person sy’n rhoi’r hysbysiad, gall yr heddlu ofyn am dynnu olion bysedd yr unigolyn a/neu dynnu ei lun. Rhaid i’r person sy’n rhoi’r hysbysiad adael i’r swyddog wneud hynny.

Mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r gorchymyn yn cyflawni trosedd os yw naill ai’n methu (heb unrhyw esgus rhesymol) i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu hyn neu ddarparu gwybodaeth yn unol â’r gofynion hynny y maent yn gwybod eu bod yn ffug. Mae hon yn drosedd y naill ffordd neu’r llall y gellir ei chosbi ar euogfarn ddiannod gyda charchar am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis (neu 6 mis am droseddau a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym) neu ddirwy neu’r ddau, neu ymlaen euogfarn ar dditiad, gyda charchar am gyfnod nad yw’n hwy na 5 mlynedd neu ddirwy neu’r ddau. Ond ni all yr unigolyn gael ei erlyn fwy nag unwaith am yr un methiant i hysbysu.

Mae person yn cyflawni trosedd ar y diwrnod y bydd y person yn methu gyntaf heb esgus rhesymol i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu o dan adran 9 o Ddeddf Diogelu Rhag Stelcio 2019. Enghraifft o esgus rhesymol fyddai os yw’r ymatebydd yn y carchar, math arall o ddalfa neu ysbyty. Pan fydd y PNC yn dangos bod yr ymatebydd yn y ddalfa trwy gydol y cyfnod hysbysu ac felly’n methu â mynd i orsaf heddlu, ni fydd yr ymatebydd yn cael ei arestio am dorri’r gofynion hysbysu. Pan fydd unigolyn sy’n destun Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio tra yn y carchar yn cael ei ryddhau o’r carchar, dylai’r Gwasanaeth Carchardai hysbysu’r heddlu o’r dyddiad rhyddhau a ragwelir fel y gellir rheoli monitro’r gofynion hysbysu ar gyfer yr ymatebydd yn briodol.

Gellir dechrau achos am y drosedd hon mewn unrhyw lys ag awdurdodaeth yn unrhyw le lle mae’r person a gyhuddir o’r drosedd yn preswylio neu’n cael ei ddarganfod.

Torri

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro yn cyflawni trosedd.

Dylai’r heddlu weithredu’n gyflym pan fydd toriad wedi digwydd ac mae angen iddynt ymchwilio i’r drosedd yn llawn, oherwydd efallai na fydd y dioddefwr yn ymwybodol o lawn faint y toriad a/neu’r stelcio. Dylent hefyd ystyried a oes unrhyw droseddau stelcio pellach wedi digwydd.

Dylid arestio’r unigolyn ar y cyfle cyntaf. Mae’n bwysig bod yn rhagweithiol, oherwydd gall unrhyw oedi (a) arwain at golli hyder y dioddefwr yn effeithiolrwydd y gorchymyn; a (b) trechu diben y gorchymyn i atal y stelciwr rhag achosi niwed pellach i’r dioddefwr.

Gall oedi wrth arestio ymatebwyr sy’n torri Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio ddangos i’r ymatebydd y bydd yr heddlu yn caniatáu iddynt barhau i dorri’r gorchymyn a stelcio eu dioddefwr heb i’r heddlu weithredu. Gallai hyn gynyddu’r risg i’r dioddefwr, yn enwedig gan y gallai’r stelciwr ystyried bod y Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio ei hun yn her i’w reolaeth dros y dioddefwr.

Felly gallai cais am Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio ei hun hefyd fod yn sbardun i’r stelciwr ddwysáu ei weithredoedd. Mae’n hanfodol bod yr heddlu’n deall y risgiau hyn ac yn cymryd camau brys mewn achosion lle mae gorchmynion yn cael eu torri. Ni ddylai’r cyfrifoldeb fod ar y dioddefwr i ofyn i’r heddlu arestio’r ymatebydd pan fydd Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio yn cael ei dorri; dylai arestio ar frys fod yr ymateb safonol i dorri Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio.

Bydd torri gorchymyn yn drosedd y gellir ei chosbi’r naill ffordd neu’r llall ar euogfarn ddiannod gyda charchar am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis (neu 6 mis am droseddau a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym) neu a dirwy neu’r ddau, neu ar dditiad, gyda charchar am gyfnod nad yw’n hwy na 5 mlynedd neu ddirwy neu’r ddau.

Mewn achos o dorri gorchymyn, mae copi o’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio gwreiddiol neu’r Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro, wedi’i ardystio gan swyddog dynodedig y llys y cafodd ei wneud ynddo, yn dderbyniadwy fel tystiolaeth ei fod wedi’i wneud. Bydd y pwysau sydd ynghlwm wrtho’r un fath â phe bai’n cael ei gyflwyno ar lafar yn yr achos o dorri’r gorchymyn.

Byddai un digwyddiad yn torri’r gorchymyn. Nid oes angen patrwm o ymddygiad i dorri Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio. Gellir defnyddio torri’r gorchymyn fel tystiolaeth cymeriad drwg mewn achos llys dilynol am y drosedd sylwedd wreiddiol.

Dylid paratoi ffeil achos mewn modd amserol.

Bydd erlyniadau am dorri gorchmynion yn cael eu cynnal gan yr CPS. Bydd achosion yn cael eu hadolygu yn y ffordd arferol yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, a bydd angen casglu digon o dystiolaeth cyn dechrau achos am dorri gorchymyn.

Gellir profi achosion naill ai’n ddiannod mewn llys ynadon neu ar dditiad yn Llys y Goron. Fel rheol, bydd unrhyw achosion yn erbyn plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn y llys ieuenctid.

Y safon prawf ar gyfer torri unrhyw orchymyn fydd y safon droseddol h.y. y tu hwnt i amheuaeth resymol’.

Mae Deddf Diogelu Rhag Stelcio 2019 yn ymestyn i Gymru a Lloegr yn unig ac nid yw troseddau o dorri gorchymyn o dan adran 8, neu fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysu o dan adran 11, yn cael effaith alltiriogaethol. Er mwyn i ymddygiad fod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr rhaid i’r troseddu gynnwys cysylltiad sylweddol â’r awdurdodaeth. Gallai enghraifft gynnwys pan fydd ymatebydd yn ymgymryd ag ymddygiad stelcio yn yr Alban yn torri Gorchymyn lle mae dioddefwr wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr. Os bydd angen cymorth pellach ar yr heddlu ynglŷn â’r troseddau hynny, efallai y byddant yn dymuno gofyn am gyngor mewnol neu siarad â’r CPS.

Adran 5 – Amrywio, adnewyddu neu ryddhau gorchymyn neu orchymyn dros dro

Gall yr heddlu neu’r ymatebydd wneud cais i lys ynadon am orchymyn yn amrywio, adnewyddu neu ryddhau Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro. Gwneir y cais trwy gŵyn i lys ynadon.

Disgwylir y bydd yr heddlu’n ymgysylltu â’r dioddefwr wrth wneud cais i’r gorchymyn gael ei amrywio, ei adnewyddu neu ei ryddhau.

Rhaid i’r llys glywed gan yr ymatebydd ac unrhyw brif swyddog heddlu sy’n dymuno cael ei glywed cyn gwneud penderfyniad y maen nhw’n ei ystyried yn briodol ar gais i amrywio, adnewyddu neu ryddhau gorchymyn.

Ni all y llys osod gwaharddiadau na gofynion ychwanegol ar orchymyn oni bai bod angen amddiffyn person sydd mewn perygl. Ni all y llys ychwaith ryddhau gorchymyn cyn diwedd y cyfnod o 2 flynedd heb gydsyniad yr ymatebydd a phrif swyddog yr heddlu a wnaeth y cais am y gorchymyn neu, os yw’n wahanol, prif swyddog yr heddlu yn ardal yr heddlu lle mae’r ymatebydd yn preswylio.

Dylid rhoi neu anfon copïau o’r gorchymyn sy’n gwrthod y cais, y gorchymyn amrywio, y gorchymyn adnewyddu neu’r gorchymyn rhyddhau, trwy’r post dosbarth cyntaf at yr ymatebydd. Os yw’r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymatebydd gydymffurfio â’r gofynion hysbysu, dylid anfon copïau at bawb a gafodd rybudd o rwymedigaeth yr ymatebydd i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu.

Adran 6 – Apeliadau

Mae apêl yn erbyn Gorchymyn yn cael ei wneud yn Llys y Goron.

Gall yr ymatebydd apelio i Lys y Goron yn erbyn -

  • gwneud Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio parhaol;

  • gwneud gorchymyn i amrywio, adnewyddu neu ryddhau gorchymyn, yn dilyn cais gan yr heddlu; neu

  • y penderfyniad i wrthod cais yr ymatebydd i amrywio neu ryddhau gorchymyn.

Gall prif swyddog yr heddlu a wnaeth gais am y Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio, gorchymyn dros dro neu orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ryddhau apelio i Lys y Goron yn erbyn -

  • y penderfyniad i wrthod gwneud Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio parhaol;

  • y penderfyniad i wrthod cais yr heddlu i amrywio, adnewyddu neu ryddhau gorchymyn;

  • gwneud gorchymyn i amrywio, adnewyddu, neu ryddhau gorchymyn, yn dilyn cais gan yr ymatebydd.

Wrth wrando ar apêl, caiff Llys y Goron wneud unrhyw orchmynion pellach a fydd ar waith wrth iddo benderfynu ar yr apêl, gan gynnwys gorchmynion cysylltiedig neu ganlyniadol.

Bydd unrhyw orchymyn a wneir gan Lys y Goron ar apêl yn cael ei drin at ddibenion unrhyw gais diweddarach am amrywio neu ryddhau fel pe bai’n orchymyn llys ynadon gwreiddiol, oni bai ei fod yn orchymyn sy’n cyfarwyddo bod y cais yn cael ei ail-glywed gan y llys ynadon.

Adran 7 – Cymorth Cyfreithiol

Efallai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i wrthrych Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio neu Orchymyn Diogelu Rhag Stelcio dros dro ar gyfer gwneud, amrywio, rhyddhau, adnewyddu ac apelio yn erbyn y gorchymyn, yn ogystal ag mewn perthynas ag achos am dorri gorchymyn neu fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysu. Dylai darparwyr cymorth cyfreithiol troseddol gyflwyno cais am orchymyn cynrychiolaeth yn y ffordd arferol. Bydd y cais yn ddarostyngedig i’r prawf modd a’r prawf ‘Budd Cyfiawnder’ safonol. Pan fydd cais yn cael ei wrthod, bydd yr ymgeisydd yn cael rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i wrthod ynghyd â manylion am y prosesau apelio ac adolygu perthnasol. Mae manylion pellach am y broses o wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gael o: https://www.gov.uk/guidance/apply-for-legal-aid.

Atodiad A: Deall Stelcio

Beth yw stelcio?

Nid oes yna ddiffiniad cyfreithiol penodol o stelcio. Fodd bynnag, mae’r heddlu a’r CPS wedi mabwysiadu’r disgrifiad canlynol[footnote 5]: “patrwm o ymddygiad digroeso ac obsesiynol sy’n aflonyddol. Gall gynnwys aflonyddu sy’n gyfystyr â stelcio neu stelcio sy’n achosi ofn o drais neu ofn neu ofid difrifol i’r dioddefwr.”

Nid oes y fath beth â chyflawnwr stelcio ‘nodweddiadol’ neu ddioddefwr stelcio ‘nodweddiadol’. Mae’r drosedd hon yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched; fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y gall dynion a bechgyn fod yn ddioddefwyr hefyd. Mae stelcio yn effeithio ar bobl o bob oed, ac mae dioddefwyr yn dod o ystod eang o gefndiroedd - nid yw stelcio wedi’i gyfyngu i ffigurau cyhoeddus ac enwogion.

Bydd cyflawnwyr yn amrywio yn y cymhellion sy’n gyrru eu hymddygiad, y mathau o ymddygiad y maent yn ymgymryd â nhw, a’r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni wrth fynd ar drywydd y dioddefwr. Gall y berthynas rhwng y cyflawnwr a’r dioddefwr, yn ogystal â’r cyd-destun y mae’r ymddygiad stelcio yn digwydd ynddo, amrywio’n sylweddol hefyd.

Gall ymddygiad y cyflawnwr ymddangos yn ‘ddiniwed’ a gallant ynddynt eu hunain ymddangos yn gyfreithlon, yn enwedig os cânt eu hystyried ar wahân yn hytrach nag fel rhan o batrwm o ymddygiad.

Fodd bynnag, gall yr ymddygiad fod yn gyfystyr â stelcio yn dibynnu ar:

  • cyd-destun yr ymddygiad;

  • y cymhellion sy’n gyrru’r ymddygiad; a’r

  • effaith ar y dioddefwr.

Enghreifftiau o ymddygiad stelcio

Mae Deddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997 (gweler Atodiad B) yn cynnwys y rhestr anghynhwysfawr ganlynol o enghreifftiau o ‘weithredoedd neu hepgoriadau sy’n gysylltiedig â stelcio’:

a. dilyn person,

b. cysylltu, neu geisio cysylltu, a pherson trwy unrhyw ddull,

c. cyhoeddi unrhyw ddatganiad neu ddeunydd arall-

i. sy’n ymwneud â pherson neu sy’n honni ei fod yn ymwneud â pherson

ii. neu’n honni ei fod yn dod oddi wrth berson,

d. monitro’r defnydd gan berson o’r rhyngrwyd, e-bost neu unrhyw ddull arall o gyfathrebu electronig

e. loetran mewn unrhyw le (boed yn gyhoeddus neu’n breifat),

f. ymyrryd ag unrhyw eiddo sydd ym meddiant person

g. gwylio neu ysbïo ar berson

Mae enghreifftiau eraill o ymddygiad a allai fod yn gyfystyr â stelcio yn dibynnu ar gyd-destun yr ymddygiad, y cymhellion sy’n gyrru’r ymddygiad, a’r effaith ar y dioddefwr yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cysylltu â phlant, partner, aelodau eraill o deulu, ffrindiau, cydweithwyr y dioddefwr neu drydydd partïon eraill.

  • Stelcio trwy ddirprwy (stelcio pobl sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr ‘cynradd’).

  • Anfon anrhegion neu eitemau eraill na ofynnwyd amdanynt at y dioddefwr.

  • Hacio cyfrifon cyfyngau cymdeithasol, e-bost, ffôn neu gyfrifiadur y dioddefwr.

  • Defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn lluosog i gysylltu â’r dioddefwr, a allai gynnwys defnyddio arallenwau.

  • Casglu gwybodaeth am y dioddefwr, megis trwy gysylltu â thrydydd partïon, chwilio trwy gofnodion cyhoeddus, dwyn dogfennau preifat sy’n eiddo i’r dioddefwr neu ei wylio heb yn wybod i’r dioddefwr.

  • Personadu’r dioddefwr er mwyn casglu gwybodaeth amdanynt.

  • Dod ag ymgyfreitha blinderus neu wneud gwrth-honiadau blinderus yn erbyn y dioddefwr, neu fel arall ddefnyddio prosesau swyddogol i barhau i gysylltu â’r dioddefwr, achosi gofid iddo neu gymryd ei adnoddau.

  • Canslo neu gaffael nwyddau neu wasanaethau i’r dioddefwr.

  • Ymuno â’r un gampfa, eglwys, practis meddygol, cwrs addysgol, gweithle, clwb chwaraeon neu grŵp arall â’r dioddefwr.

  • Difrod troseddol neu dorri i mewn i gartref, gardd neu gerbyd y dioddefwr.

  • Creu neu fanteisio ar anghydfodau rhwng y dioddefwr a’i ffrindiau, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach, i ynysu’r dioddefwr a’i wneud yn ddibynnol ar y cyflawnwr.

  • Creu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefannau sy’n cynnwys deunydd maleisus neu bersonol sy’n ymwneud â’r dioddefwr, neu gyfeirio at bethau a fyddai ag ystyr i’r dioddefwr yn unig.

  • Bygwth trais yn erbyn y dioddefwr, neu ymosod arno.

  • Monitro’r dioddefwr trwy osod dyfeisiau tracio neu fygio, neu trwy osod neu ysgogi rhaglen neu gymhwysiad ar ddyfeisiau personol y dioddefwr.

  • Cyhoeddi neu fygwth cyhoeddi gwybodaeth bersonol neu ddelweddau yn ymwneud â’r dioddefwr (‘pornograffi dial’, neu ‘doxing’ fel y’u gelwir).

  • Bygwth hunanladdiad neu hunan-niweidio, neu ddylanwadu ar y dioddefwr fel arall i ymateb i gyswllt.

  • Yn achos cyn bartneriaid, cynnal ymgyrch o gam-drin economaidd (er enghraifft, ceisio rheoli mynediad at arian, cyflogaeth, bwyd neu adnoddau hanfodol eraill).

Gall y cyflawnwr arddangos cyfuniad o unrhyw un o’r ymddygiadau uchod y gall y dioddefwr fod yn ymwybodol ohonynt neu beidio.

Gellir cynnal yr ymddygiadau hyn ar-lein, neu ddefnyddio technoleg benodol, neu gallant fod wedi’u ‘hwyluso yn ddigidol’ fel arall. Efallai y bydd yna gyfuniad o ymddygiadau ar-lein ac all-lein.

Cymhellion ac ymddygiadau sy’n gyrru stelcio

Mae cymhelliant yn ffactor diffiniol wrth adnabod stelcio, a’r hyn sy’n gwneud stelcio yn wahanol i ymddygiadau niweidiol eraill a mathau eraill o droseddu.

Er mwyn deall lefel y risg y mae cymhellion y cyflawnwr yn ei chael ar ddioddefwr, gallai’r heddlu ystyried y pum math o stelciwr:

  • Wedi’i wrthod

  • Chwilio am agosatrwydd

  • Anghymwys

  • Dig

  • Rheibus[footnote 6]

Mae rhagor o fanylion ar gael trwy ddilyn y dolenni hyn: https://www.stalkingriskprofile.com/what-is-stalking/types-of-stalking / https://safeguardinghub.co.uk/stalking-the-five-motivation-types/. Nid hon yw’r unig ffynhonnell wybodaeth gydnabyddedig am fathau o stelcio.

Gall y cymhelliant/cymhellion sy’n gyrru ymddygiad y cyflawnwr newid dros gyfnod yr erledigaeth.

Er y gall yr ymddygiadau gwirioneddol a arddangosir amrywio rhwng cyflawnwyr, bydd yr ymddygiadau hyn yn aml yn rhannu set gyson o nodweddion. Ystyriwch yr acronym Saesneg FOUR mewn perthynas â stelcio. A yw’r ymddygiad yn Fixated (wedi gwirioni), Obsessive (obsesiynol), Unwanted (nas dymunir) ac yn Repeated (parhaus)[footnote 7]?

Gall cyflawnwyr stelcio fod yn arbennig o fedrus wrth ecsbloetio gweithwyr proffesiynol, asiantaethau a systemau a gallant ddefnyddio ystod o dactegau er mwyn parhau i ddod i gysylltiad â’r dioddefwr a’i reoli, gan gynnwys:

  • Mynd ati’n fwriadol i dargedu pobl a allai fod yn agored i niwed.

  • Dylanwadu ar iechyd meddwl person (er enghraifft, gwneud i rywun feddwl ei fod yn ‘gwallgofi’).

  • Achosi neu greu blinder, neu ddefnyddio’r system yn erbyn y dioddefwr trwy wneud honiadau ffug neu flinderus.

  • Gwneud gwrth-honiadau yn erbyn y dioddefwr e.e. gwneud adroddiadau ffug neu honni eu bod wedi dioddef ymddygiad stelcio’r dioddefwr go iawn.

  • Ceisio llesteirio neu ymyrryd ag ymchwiliad yr heddlu.

  • Defnyddio bygythiadau er mwyn ceisio dylanwadu ar y dioddefwr. Er enghraifft, trwy ddweud wrth y dioddefwr y byddant yn gwneud gwrthhoniad yn ei erbyn; na fydd y dioddefwr yn cael ei gredu gan yr heddlu nac asiantaethau eraill; y bydd yn hysbysu’r gwasanaethau cymdeithasol; neu y bydd yn hysbysu swyddogion mewnfudo os nad oes gan y dioddefwr ganiatâd i fod yn y DU.

Dylai’r heddlu archwilio a yw unrhyw un o’r ymddygiadau a ddisgrifir uchod wedi bod yn nodwedd mewn perthnasoedd blaenorol lle mae’r cyflawnwr yn gynbartner.

Yng ngoleuni’r gorgyffwrdd rhwng stelcio a cham-drin domestig, gall yr heddlu gyfeirio at Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar ymchwilio i gam-drin domestig, sy’n nodi “Efallai y bydd cyflawnwr ystrywgar yn ceisio tynnu’r heddlu i gyd-gynllwynio â’u rheolaeth trwy orfodaeth ar y dioddefwr. Rhaid i swyddogion heddlu osgoi chwarae i ddwylo’r prif gyflawnwr ac ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael.” Gall cyflawnwyr stelcio hefyd ddefnyddio’r tactegau hyn i ddylanwadu ar y llysoedd ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.

I gael arweiniad pellach ar asesu hygrededd a deall tactegau cyflawnwyr, gweler tabl 1 o Becyn Cymorth y CPS ar gyfer Erlynwyr ar Achosion Trais yn erbyn Menywod a Merched sy’n Cynnwys Dioddefwr sy’n Agored i Niwed.

Effaith ymddygiad stelcio

Gall stelcio effeithio’n andwyol ar bob agwedd ar fywyd bod dydd y dioddefwr, yn ogystal â’i iechyd corfforol a meddyliol. Gall effeithiau stelcio amrywio ym mhob amgylchiad a gall fod yn ddifrifol a pharhaus. Gallant barhau i effeithio ar y dioddefwr ar ôl i’r cyfnod o erledigaeth uniongyrchol ddod i ben oherwydd effaith gronnus yr ymddygiad digroeso parhaus.

Mae dioddefwyr stelcio yn gallu profi:

  • Teimladau o ddiymadferthwch, unigrwydd, dicter a drwgdybiaeth

  • Anhunedd/diffyg cwsg

  • Symptomau sy’n gysylltiedig â straen

  • Symptomau o orbryder

  • Symptomau o iselder

  • Symptomau o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)

  • Cyflyrau iechyd presennol yn gwaethygu

  • Effeithiau Andwyol ar Iechyd o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o gyffuriau, alcohol neu sigaréts i ymdopi â’u sefyllfa.[footnote 8]

Gall cael ei stelcio orfodi’r dioddefwyr a’u teulu a’u ffrindiau i wneud newidiadau sylweddol i’w gweithgareddau bob dydd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Ddileu neu roi’r gorau i ddefnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

  • Newid ei rif ffôn.

  • Prynu dyfeisiau personol newydd.

  • Cario larwm ymosod personol.

  • Newid amseroedd neu lwybrau teithio arferol.

  • Newid dull teithio neu brynu cerbyd newydd.

  • Newid eu patrwm gweithio.

  • Rhoi’r gorau i weithgareddau rheolaidd fel cymdeithasu, ymarfer corff, cerdded anifeiliaid anwes neu siopa, neu wneud y rhain ar wahanol adegau neu mewn lleoliadau gwahanol.

  • Peidio â gadael cartref, neu beidio â gadael eu cartref ar eu pen eu hunain.

  • Absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch

  • Newid cloeon eu cartref.

  • Gosod offer diogelwch yn eu cartref, megis camerâu, larymau neu oleuadau.

  • Symud eu plant i ysgol wahanol.

  • Gadael eu swydd.

  • Dod â pherthynas gyda phartner i ben.

  • Symud tŷ neu fyw yn rhywle arall dros dro.

Yn yr un modd, gall y dioddefwr benderfynu nad yw am wneud newidiadau i’w fywyd ei hun neu na ddylent orfod gwneud hynny oherwydd ymddygiad y stelciwr.

Nid oes rhaid i’r ofn o anaf difrifol neu farwolaeth fod yn bresennol i ymddygiad y cyflawnwr fod yn gyfystyr â stelcio, nac i’r dioddefwr wneud newidiadau sylweddol i’w weithgareddau bob dydd. Gweler adrannau 2A a 4A o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 (Atodiad C).

Gall yr effeithiau a amlinellir uchod effeithio’n andwyol ar allu’r dioddefwr i gymdeithasu, cynnal ei rwydwaith cymorth neu ffurfio perthnasoedd, a all gynyddu unigedd a bregusrwydd i erledigaeth bellach yn sylweddol. Gall rhai o’r effeithiau arwain at ansefydlogrwydd ariannol oherwydd colli incwm neu gostau a achosir gan y dioddefwr, gan gynnwys costau cyfreithiol.

Gall yr holl effeithiau a amlinellir uchod hefyd effeithio’n anuniongyrchol ar bartner y dioddefwr, plant, aelodau ehangach o’r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr.

Gweithio gyda dioddefwyr

Ar gyfartaledd, gall dioddefwyr ddioddef hyd at 100 o ddigwyddiadau o stelcio cyn mynd at yr heddlu. Gall hyn fod oherwydd:

  • teimlo eu bod yn gorymateb ac na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif

  • nad ydynt yn sylweddoli ei fod yn achos o stelcio a’r risg y maent yn ei wynebu * profiad blaenorol sydd wedi arwain at ofni’r heddlu neu atgasedd tuag atynt

  • diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol

  • bygythiadau neu ofn sgil-effeithiau gan y stelciwr

  • ddim eisiau gwneud pethau’n waeth os ydynt yn ffonio’r heddlu

  • ddim yn siŵr a all yr heddlu helpu.[footnote 9]

Felly mae’n hanfodol, pan fydd dioddefwyr yn mynd at yr heddlu, bod eu hachosion yn cael eu cydnabod fel stelcio ac yn cael eu trin a’u hymchwilio’n briodol.

Ffactorau i’w hystyried

Merched yn bennaf yw’r dioddefwyr a’r dynion yw cyflawnwyr stelcio mewn achosion o stelcio cyn bartner (y grŵp a nodwyd fel y deipoleg ‘gwrthodedig’). Efallai bod y dioddefwyr hyn hefyd wedi bod yn destun cam-drin domestig o’r blaen, ond nid ym mhob achos ac nid yw’r diffyg camdriniaeth flaenorol yn ddangosydd amddiffynnol. Ar gyfer y teipolegau stelcio eraill, mae’r rhaniad rhyw yn llai eglur ac mae angen gwneud mwy o ymchwil. Mae’n wir fod yna ddioddefwyr benywaidd a gwrywaidd ac mae tangofnodi yn broblem yn gyffredinol. Gall diffyg cydnabyddiaeth gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith a gweithwyr proffesiynol hefyd effeithio ar adrodd troseddau stelcio yn gywir. Yr hyn y mae’r ymchwil yn ei awgrymu yw bod y risg o ymddygiad treisgar wedi’i gysylltu’n fwy â’r cyn bartner sy’n cymryd rhan mewn ymddygiad stelcio. Mae’r risg o niwed seicolegol yn rhychwantu pob teipoleg o stelcio, ac mae’n sylweddol.[footnote 10]

Mae rhyddid rhag trais a cham-drin yn cael ei gydnabod yn benodol mewn cyfraith ryngwladol mewn perthynas â hawliau dynol a rhywedd. Mae trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) yn cael ei gydnabod ledled y byd, a chan Lywodraeth y DU, fel math o droseddu lle mae rhywedd yn chwarae rhan. Lle bo hynny’n briodol, dylid gwneud cysylltiadau â phynciau VAWG eraill, fel y rhai y cyfeirir atynt yn nes ymlaen yn yr atodiad hwn, yn ogystal â cham-drin plant, troseddau yn erbyn y person hŷn, pornograffi, masnachu pobl a phuteindra.

Deall ymddygiad dioddefwyr

Ni ddylai swyddogion farnu dioddefwyr nad ydynt yn dilyn cyngor diogelwch. Gall ymatebion ac ymddygiad dioddefwyr amrywio yn ôl amgylchiadau’r dioddefwr. Nid yw hyn yn golygu bod y dioddefwr yn bod yn ‘anghydweithredol’ - maent yn ymddwyn mewn ffordd y maent yn credu a fydd yn eu cadw’n ddiogel. Mae’n bwysig deall bod lefelau gwytnwch dioddefwyr yn amrywio.

Mae’n hanfodol ymgysylltu â’r dioddefwr er mwyn deall pa fesurau y mae’n cymryd i gadw ei hun yn ddiogel a pham.

Efallai y bydd yr heddlu’n ystyried y rhesymau pam nad yw dioddefwr efallai eisiau dechrau a/neu barhau ag ymchwiliad troseddol. Er mai mater i’r heddlu yn y pen draw yw penderfynu a oes ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal ai peidio, dylai’r heddlu geisio egluro rhinweddau mynd ar drywydd erlyniad a dylent geisio tawelu meddwl y dioddefwr am eu pryderon. Os yw’r dioddefwr yn aros o’r un farn, dylai’r heddlu fwrw ymlaen â Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio. Dylai’r heddlu wneud y dioddefwr yn ymwybodol bod torri Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio yn drosedd ac felly byddai’n arwain at achos troseddol. Fodd bynnag, dylai’r heddlu gynghori’r dioddefwr i beidio â datblygu ymdeimlad ffug o ddiogelwch dim ond oherwydd bod gorchymyn ar waith. Ni ddylid byth defnyddio Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio yn lle erlyniad pan fydd erlyniad yn opsiwn ymarferol.

Casglu a chadw tystiolaeth

Mae’n hanfodol casglu tystiolaeth briodol i ymchwilio i achos yn llawn ac i ddeall ymddygiad y stelciwr. I wneud hynny, dylai swyddogion heddlu ddarparu arweiniad i ddioddefwyr ar sut y gallant gasglu a chadw tystiolaeth, yn enwedig tystiolaeth electronig.

Dylai’r canllawiau canlynol gael eu darparu ar gyfer dioddefwyr:

  • Rhannwch y ddolen ganlynol â dioddefwyr https://www.suzylamplugh.org/forms/how-to-record-incidents-and-collect-evidence-leaflet.

  • Ni ddylai dioddefwyr ymyrryd â ffôn symudol na’i gerdyn SIM na chael gwared arnynt heb ymgynghori â’r swyddog ymchwilio yn gyntaf.

  • Cadw unrhyw negeseuon sydd wedi’u storio, gan gynnwys negeseuon testun, neu rifau ffôn sydd wedi gwneud galwadau i ffôn symudol neu wedi ymddangos ar uned adnabod galwyr.

  • Cadw dyddiadur sy’n grynodeb cronolegol o ddigwyddiadau.

  • Cadwch y gwreiddiol mewn lle diogel a chopi o bopeth mewn lleoliad arall.

  • Tynnu lluniau a/neu gadw anrhegion nas dymunir.

Gwasanaethau cymorth stelcio

Wrth i’r heddlu a swyddogion diogelwch cymunedol gymryd camau priodol yn erbyn yr ymatebydd a chynnig camau cefnogol i’r dioddefwr, rhaid ystyried -

  • Atgyfeiriadau triniaeth y GIG neu gymorth iechyd a lles trwy bresgripsiynu cymdeithasol gan feddyg teulu

  • Mynediad at wasanaethau cymorth cymunedol ac eiriolaeth dethol. (enghreifftiau wedi’u rhestru yn Atodiad D – Gwasanaethau cymorth stelcio).

Mae hefyd yn bwysig ystyried cyfeirio dioddefwyr at wasanaethau cymorth arbenigol. Gweler Atodiad D.

Gorgyffwrdd â mathau eraill o gam-drin

Gall ymddygiadau stelcio rannu nodweddion â mathau eraill o gam-drin, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gam-drin domestig, treisio a throseddau rhywiol eraill, aflonyddu, a cham-drin ‘ar sail anrhydedd’ fel y’i gelwir.

Mae’n hanfodol bod ymddygiad y tramgwyddwr yn cael ei ystyried yn ei gyd-destun ac fel rhan o batrwm o ymddygiad er mwyn i stelcio gael ei adnabod a’i gofnodi’n gywir cyn gynted â phosibl, ac er mwyn rhoi ymyriadau asesu risg a rheoli risg priodol ar waith.

Aflonyddu

Efallai y bydd yr ymddygiad sy’n cael ei arddangos gan y cyflawnwr yn ymddangos yn debyg mewn achos o stelcio ac achos o aflonyddu. Y nodwedd allweddol sy’n gwahaniaethu stelcio yw bod ymddygiad y cyflawnwr yn cael ei ysgogi gan obsesiwn. Ystyriwch yr acronym Saesneg FOUR (Fixated (wedi gwirioni), Obsessive (obsesiynol), Unwanted (nas dymunir) a Repeated (parhaus)) mewn perthynas â stelcio. Mae hyn yn golygu y gall gweithredoedd sy’n gysylltiedig yn aml ag aflonyddu fod yn gyfystyr â stelcio yn dibynnu ar gyd-destun yr ymddygiad, y cymhellion sy’n gyrru’r ymddygiad, a’r effaith ar y dioddefwr.

Cam-drin domestig, gan gynnwys ymddygiad rheoli neu orfodaeth a chamdrin economaidd

Mae tebygrwydd nodedig rhwng ymddygiad stelcio - yn enwedig ymddygiad sy’n gysylltiedig â gwyliadwriaeth, bygwth a rheoli’r dioddefwr - ac ymddygiad rheoli neu orfodol sy’n digwydd yng nghyd-destun cam- drin domestig. Efallai y bydd tebygrwydd hefyd yn yr effaith ar y dioddefwr a’r newidiadau a wna i’w weithgareddau dyddiol.[footnote 11]

Y diffiniad traws-lywodraethol o gam-drin domestig yw “Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheolaethol, gorfodol, bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng y rhai sy’n 16 oed neu hŷn neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos neu aelodau’r teulu waeth beth yw eu rhyw neu rywioldeb. Gall y gamdriniaeth gwmpasu, ond nid yw wedi ei gyfyngu i: ffurfiau seicolegol, corfforol, rhywiol, economaidd ac emosiynol o gam-drin.

Mae ymddygiad rheoli yn cael ei ddiffinio fel amrywiaeth o weithredoedd a gynlluniwyd i wneud rhywun yn israddol ac/neu yn ddibynnol trwy ei ynysu rhag ffynonellau cefnogaeth, ymelwa ar ei adnoddau a’i allu er elw personol, ei amddifadu o’r moddion angenrheidiol ar gyfer annibyniaeth, gwrthsefyll a ffoi a rheoli ei ymddygiad o ddydd i ddydd.

Mae ymddygiad gorfodol yn cael ei ddiffinio fel gweithred neu batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, bychanu a brawychu neu gamdrin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi, neu godi ofn ar y dioddefwr.[footnote 12]

Gall ymddygiadau stelcio fod yn barhad o reolaeth orfodol pan ddaw perthynas â phartner i ben, a/neu nad yw’r cyflawnwr na’r dioddefwr yn byw gyda’i gilydd mwyach.

Nid yw Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio yn gyfyngedig i achosion o’r hyn a elwir yn ‘stelcio gan ddieithryn’ a gellir eu defnyddio hefyd mewn cyddestunau cam-drin domestig, fel cyn bartneriaid ac achosion o gam- drin economaidd, lle bo hynny’n briodol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd pobl sy’n dioddef stelcio gan gyn bartneriaid bob amser wedi profi cam-drin domestig blaenorol.

Efallai na fydd y berthynas rhwng y cyflawnwr a’r dioddefwr bob amser yn glir, gall newid yn ystod cylch bywyd yr achos, neu gall y naill barti neu’r llall ei herio. Er enghraifft, gall y cyflawnwr fod yn gweithredu yn y gred ei fod mewn perthynas partner agos â’r dioddefwr, pan nad yw hyn yn wir mewn gwirionedd.

Mae cam-drin economaidd yn fath o gam-drin domestig sy’n digwydd yn aml neu’n parhau ar ôl i berthynas â phartner ddod i ben ac nad yw’r partneriaid yn byw gyda’i gilydd mwyach. Mae’n fath o reolaeth orfodol lle mae’r cyflawnwr yn cyfyngu’n fwriadol ar allu ei ddioddefwr i gaffael, defnyddio neu gynnal adnoddau economaidd sylfaenol gan gynnwys arian, tai, bwyd, cludiant, dillad neu gyfleustodau. Gall effeithiau cam-drin economaidd ar ddioddefwyr a’u plant fod yn ddifrifol a phara am gyfnod hir.

Mae enghreifftiau o gam-drin economaidd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cronni dyled yn enw’r dioddefwr, a all niweidio ei statws credyd.

  • Cymryd cardiau credyd neu fenthyciadau yn enw’r dioddefwr.

  • Rhoi biliau yn enw’r dioddefwr fel bod rhaid iddo eu talu nhw.

  • Gwrthod cyfrannu at gostau gofal plant.

  • Dod â chyfreitha blinderus yn erbyn y dioddefwr fel bod yn rhaid iddo dalu ffioedd cyfreithiol.

  • Llesteirio yn fwriadol gwerthiant asedau a rennir, neu gau cyfrifon neu morgeisi ar y cyd.

Gall y cyflawnwr arddangos cyfuniad o unrhyw un o’r ymddygiadau uchod y gall y dioddefwr fod yn ymwybodol ohonynt neu beidio. Gellir cynnal yr ymddygiadau hyn ar-lein, neu ddefnyddio technoleg benodol, neu gallant fod wedi’u ‘hwyluso yn ddigidol’ fel arall, yn enwedig os yw’r cyn bartner yn gwybod cyfrineiriau’r dioddefwr, atebion i gwestiynau diogelwch ar-lein neu wybodaeth bersonol berthnasol arall.

Gellid defnyddio Gorchymyn Diogelu Rhag Stelcio mewn cyd-destun camdrin economaidd i, er enghraifft, wahardd yr ymatebydd rhag gwneud ceisiadau blinderus i’r llys sifil sy’n cyfeirio at y dioddefwr, neu rhag defnyddio unrhyw ddyfais sy’n gallu cyrchu’r rhyngrwyd oni bai bod ganddo’r gallu i gadw ac arddangos hanes y defnydd o’r rhyngrwyd.

Canllawiau pellach ar stelcio

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â chanllawiau anstatudol eraill i’r heddlu ar stelcio, a nodir yn Atodiad E - Canllawiau pellach ar stelcio.

Am fanylion am sefydliadau anllywodraethol sy’n darparu gwybodaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar stelcio, gweler Atodiad D - Gwasanaethau cymorth stelcio.

Annex B: Stalking Protection Act 2019

Stalking protection orders

1: Applications for orders

(1) A chief officer of police may apply to a magistrates’ court for an order (a “stalking protection order”) in respect of a person (the “defendant”) if it appears to the chief officer that—

(a) the defendant has carried out acts associated with stalking,

(b) the defendant poses a risk associated with stalking to another person, and

(c) there is reasonable cause to believe the proposed order is necessary to protect another person from such a risk (whether or not the other person was the victim of the acts mentioned in paragraph (a)).

(2) A stalking protection order is an order which, for the purpose of preventing the defendant from carrying out acts associated with stalking—

(a) prohibits the defendant from doing anything described in the order, or

(b) requires the defendant to do anything described in the order.

(3) A chief officer of police for a police area in England and Wales may apply for a stalking protection order only in respect of a person—

(a) who resides in the chief officer’s police area, or

(b) who the chief officer believes is in that area or is intending to come to it.

(4) A risk associated with stalking—

(a) may be in respect of physical or psychological harm to the other person; may arise from acts which the defendant knows or ought to know are unwelcome to the other person even if, in other circumstances, the acts would appear harmless in themselves.

(5) It does not matter— (a) whether the acts mentioned in subsection (1)(a) were carried out in a part of the United Kingdom or elsewhere, or

(b) whether they were carried out before or after the commencement of this section.

(6) See section 2A of the Protection from Harassment Act 1997 for examples of acts associated with stalking.

2: Power to make orders

(1) A magistrates’ court may make a stalking protection order on an application under section 1(1) if satisfied that—

(a) the defendant has carried out acts associated with stalking,

(b) the defendant poses a risk associated with stalking to another person, and

(c) the proposed order is necessary to protect another person from such a risk (whether or not the other person was the victim of the acts mentioned in paragraph (a)).

(2) A magistrates’ court may include a prohibition or requirement in a stalking protection order only if satisfied that the prohibition or requirement is necessary to protect the other person from a risk associated with stalking.

(3) Prohibitions or requirements must, so far as practicable, be such as to avoid—

(a) conflict with the defendant’s religious beliefs, and

(b) interference with any times at which the defendant normally works or attends an educational establishment.

(4) A prohibition or requirement has effect in all parts of the United Kingdom unless expressly limited to a particular locality.

(5) It does not matter— (a) whether the acts mentioned in subsection (1)(a) were carried out in a part of the United Kingdom or elsewhere, or

(b) whether they were carried out before or after the commencement of this section.

(6) Subsection (7) applies where a magistrates’ court makes a stalking protection order in relation to a defendant who is already subject to such an order (whether made by that court or another).

(7) The court may not include any prohibition or requirement in the new stalking protection order which is incompatible with a prohibition or requirement in the earlier stalking protection order.

3: Duration of orders

(1) A stalking protection order has effect— (a) for a fixed period specified in the order, or (b) until a further order.

(2) Where a fixed period is specified it must be a period of at least 2 years beginning with the day on which the order is made.

(3) Different periods may be specified in relation to different prohibitions or requirements.

4: Variations, renewals and discharges

(1) The defendant or a relevant chief officer of police (see section 14(1)) may apply to a magistrates’ court for an order varying, renewing or discharging a stalking protection order.

(2) Before making a decision on an application under subsection (1), the court must hear—

(a) the defendant, and

(b) any relevant chief officer of police who wants to be heard.

(3) On an application under subsection (1) the court may make any order varying, renewing or discharging the stalking protection order that the court considers appropriate.

(4) But the court may not— (a) in renewing or varying an order, impose an additional prohibition or requirement unless satisfied that it is necessary to do so in order to protect a person from a risk associated with stalking;

(b) discharge an order before the end of 2 years beginning with the day on which the order was made without the consent of the defendant and—

(i) where the application was made by a chief officer of police, that chief officer, or

(ii) in any other case, the chief officer of police who applied for the stalking protection order and (if different) the chief officer of police for the area in which the defendant resides, if that area is in England or Wales.

5: Interim stalking protection orders

(1) This section applies where an application for a stalking protection order (the “main application”) has not been determined.

(2) A magistrates’ court may make an order (an “interim stalking protection order”) in respect of the defendant on an application—

(a) made at the same time and by the same chief officer of police as the main application, or

(b) if the main application has already been made, made by the chief officer of police who made that application.

(3) The court may, if it considers it appropriate to do so, make an interim stalking protection order—

(a) prohibiting the defendant from doing anything described in the order, or

(b) requiring the defendant to do anything described in the order.

(4) Prohibitions or requirements must, so far as practicable, be such as to avoid—

(a) conflict with the defendant’s religious beliefs, and interference with any times at which the defendant normally works or attends an educational establishment.

(5) A prohibition or requirement has effect in all parts of the United Kingdom unless expressly limited to a particular locality.

(6) An interim stalking protection order—

(a) has effect only for a fixed period specified in the order, and

(b) ceases to have effect, if it has not already done so, on the determination of the main application.

(7) The defendant or the chief officer of police who applied for an interim stalking protection order may apply to a magistrates’ court for an order varying, renewing or discharging the interim stalking protection order.

(8) On an application under subsection (7), the court may make any order varying, renewing or discharging the stalking protection order that the court considers appropriate.

6: Content of orders

A stalking protection order and an interim stalking protection order must specify—

(a) the date on which the order is made;

(b) whether it has effect for a fixed period and, if it does, the length of that period;

(c) each prohibition or requirement that applies to the defendant;

(d) whether any prohibition or requirement is expressly limited to a particular locality and, if it is, what the locality is;

(e) whether any prohibition or requirement is subject to a fixed period which differs from the period for which the order has effect and, if it is, what that period is.

Appeals and enforcement

7: Appeals

(1) A defendant may appeal to the Crown Court against— (a) the making of a stalking protection order,

(b) the making of an interim stalking protection order,

(c) the making of an order under section 4 on an application by a chief officer of police, or

(d) the refusal to make an order under section 4 on an application by the defendant.

(2) A chief officer of police who applied for a stalking protection order, an interim stalking protection order or an order under section 4 may appeal to the Crown Court against—

(a) the refusal to make a stalking protection order,

(b) the refusal to make an interim stalking protection order, or

(c) the refusal to make an order under section 4 on an application by the chief officer.

(3) A relevant chief officer of police (see section 14(1)) may appeal to the Crown Court against the making of an order under section 4 on an application by the defendant.

(4) On any such appeal, the Crown Court may make—

(a) such orders as may be necessary to give effect to its determination of the appeal, and

(b) such incidental or consequential orders as appear to it to be appropriate.

8: Offence of breaching stalking protection order etc

(1) A person who, without reasonable excuse, breaches a stalking protection order or an interim stalking protection order commits an offence.

(2) A person guilty of an offence under this section is liable— (a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding 12 months or to a fine or both, or

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding 5 years or to a fine or both.

(3) In relation to an offence committed before section 154(1) of the Criminal Justice Act 2003 comes into force, the reference in subsection (2)(a) to 12 months is to be read as a reference to 6 months.

(4) If a person is convicted of an offence under this section, it is not open to the court by or before which the person is convicted to make an order under subsection (1)(b) of section 12 of the Powers of Criminal Courts (Sentencing) Act 2000 (conditional discharge).

(5) In proceedings for an offence under this section, a copy of the original stalking protection order or interim stalking protection order, certified by the designated officer for the court which made it, is admissible as evidence of its having been made and of its contents to the same extent that oral evidence of those things is admissible in those proceedings.

Notification requirements

9: Notification requirements

(1) A person subject to—

(a) a stalking protection order (other than one which replaces an interim stalking protection order), or

(b) an interim stalking protection order, must, within the period of 3 days beginning with the date of service of the order, notify to the police the information set out in subsection (2).

(2) The information is— (a) the person’s name and, where the person uses one or more other names, each of those names; (b) the person’s home address.

(3) A person who—

(a) is subject to a stalking protection order or an interim stalking protection order, and uses a name which has not been notified under this section, must, before the end of the period of 3 days beginning with the date on which that happens, notify to the police that name.

(4) A person who—

(a) is subject to a stalking protection order or an interim stalking protection order, and

(b) changes home address, must, before the end of the period of 3 days beginning with the date on which that happens, notify to the police the new home address.

(5) The requirements imposed by this section do not apply to a person who is subject to notification requirements under Part 2 of the Sexual Offences Act 2003.

(6) Subsection (7) applies where— (a) a person is subject to a stalking protection order or an interim stalking protection order,

(b) at the time the order is made, the requirements imposed by this section do not apply to the person as a result of subsection (5),

(c) the person ceases on a subsequent day (“the final day”) to be subject to the notification requirements mentioned in that subsection, and (d) the order remains in effect on the final day.

(7) The requirements imposed by this section apply to the person as from the final day, but as if the reference in subsection (1) to the date of service of the order were a reference to the final day.

(1) A person whose home address is in England or Wales gives a notification under section 9(1), (3) or (4) by—

(a) attending at a police station in the person’s local police area, and

(b) giving an oral notification to a police officer, or to any person authorised for the purpose by the officer in charge of the station.

(2) A person who does not have a home address in England or Wales gives a notification under section 9(1), (3) or (4) by—

(a) attending at a police station in the local police area in which the magistrates’ court which last made a stalking protection order or an interim stalking protection order in respect of the person is situated, and

(b) giving an oral notification to a police officer, or to any person authorised for the purpose by the officer in charge of the station.

(3) In relation to a person giving a notification under section 9(4), the references in subsections (1) and (2) to the person’s home address are references to—

(a) the person’s new home address if the person gives the notification after changing home address, or

(b) the person’s old home address if the person gives the notification before changing home address.

(4) A notification given in accordance with this section must be acknowledged—

(a) in writing, and

(b) in such form as the Secretary of State may direct.

(5) When a person gives notification under section 9(1), (3) or (4), the person must, if requested to do so by the police officer or person mentioned in subsection (1)(b), allow that officer or person to—

(a) take the person’s fingerprints, (b) photograph any part of the person, or (c) do both of these things.

(6) The power in subsection (5) is exercisable for the purpose of verifying the identity of the person.

11: Offences relating to notification

(1) A person commits an offence if the person—

(a) fails, without reasonable excuse, to comply with section 9(1), (3) or (4), or with section 10(5), or

(b) notifies to the police, in purported compliance with section 9(1), (3) or (4), any information which the person knows to be false. (2) A person guilty of an offence under this section is liable— (a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding 12 months or to a fine or both, or

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding 5 years or to a fine or both.

(3) A person commits an offence under subsection (1)(a) on the day on which the person first fails, without reasonable excuse, to comply with section 9(1), (3) or (4).

(4) The person continues to commit the offence throughout any period during which the failure continues.

(5) But the person may not be prosecuted more than once in respect of the same failure.

(6) Proceedings for an offence under this section may be commenced in any court having jurisdiction in any place where the person charged with the offence resides or is found.

(7) In relation to an offence committed before section 154(1) of the Criminal Justice Act 2003 comes into force, the reference in subsection (2)(a) to 12 months is to be read as a reference to 6 months.

Guidance

12: Guidance

(1) The Secretary of State must issue guidance to chief officers of police about the exercise of their functions under this Act.

(2) The Secretary of State may, from time to time, revise the guidance issued under subsection (1).

(3) The Secretary of State must arrange for any guidance issued or revised under this section to be published in such manner as the Secretary of State considers appropriate.

General

13: Procedure

(1) An application to a magistrates’ court under any provision of this Act is to be by complaint.

(2) Section 127 of the Magistrates’ Courts Act 1980 (time limits) does not apply to a complaint under any provision of this Act.

14: Interpretation

(1) In this Act—

“acts” includes omissions;

“chief officer of police” means—

(a) the chief constable of a police force maintained under section 2 of the Police Act 1996 (police forces in England and Wales outside London);

(b) the Commissioner of Police of the Metropolis;

(c) the Commissioner of Police for the City of London;

(d) the chief constable of the British Transport Police;

(e) the chief constable of the Ministry of Defence Police; “defendant” has the meaning given by section 1(1);

“home address”, in relation to a person, means—

(a) the address of the person’s sole or main residence in the United Kingdom, or

(b) if the person has no such residence, the address or location of a place in the United Kingdom where the person can regularly be found and, if there is more than one such place, such of those places as the person may select;

“interim stalking protection order” has the meaning given by section 5(2);

“local police area”, in relation to a person, means—

(a) the police area in which the person’s home address is situated,

(b) in the absence of a home address, the police area in which the home address last notified is situated (whether that notification was in accordance with the requirements imposed by section 9 or in accordance with notification requirements under Part 2 of the Sexual Offences Act 2003), or

(c) in the absence of a home address and of any such notification, the police area in which the magistrates’ court which last made a stalking protection order or an interim stalking protection order in respect of the person is situated;

“magistrates’ court”, in relation to a defendant under the age of 18, means youth court;

“photograph” includes any process by means of which an image may be produced;

“relevant chief officer of police”, in relation to an application for an order under section 4 or to an appeal under section 7, means—

(a) the chief officer of police for the area in which the defendant resides,

(b) a chief officer of police who believes that the defendant is in, or is intending to come to, that chief officer’s police area, and

(c) the chief officer of police who applied for the stalking protection order to which the application or appeal relates; “stalking protection order” has the meaning given by section 1(1).

(2) In this Act, references to a “risk associated with stalking” are to be read in accordance with section 1(4).

15: Extent, commencement and short title

(1) This Act extends to England and Wales only.

(2) This section comes into force on the day on which this Act is passed.

(3) The other provisions of this Act come into force on such day as the Secretary of State may by regulations made by statutory instrument appoint.

(4) This Act may be cited as the Stalking Protection Act 2019.

Annex C: Stalking offences

Protection from Harassment Act 1997

[Section 2A - Offence of stalking

(1) A person is guilty of an offence if—

(a) the person pursues a course of conduct in breach of section 1(1), and (b)the course of conduct amounts to stalking.

(2) For the purposes of subsection (1)(b) (and section 4A(1)(a)) a person’s course of conduct amounts to stalking of another person if— (a)it amounts to harassment of that person,

(b) the acts or omissions involved are ones associated with stalking, and

(c) the person whose course of conduct it is knows or ought to know that the course of conduct amounts to harassment of the other person.

(3) The following are examples of acts or omissions which, in particular circumstances, are ones associated with stalking—

(a) following a person,

(b) contacting, or attempting to contact, a person by any means, (c)publishing any statement or other material—

(c) relating or purporting to relate to a person, or (ii)purporting to originate from a person,

(d) monitoring the use by a person of the internet, email or any other form of electronic communication,

(e) loitering in any place (whether public or private),

(f) interfering with any property in the possession of a person, (g)watching or spying on a person.

(4) A person guilty of an offence under this section is liable on summary conviction to imprisonment for a term not exceeding 51 weeks, or a fine not exceeding level 5 on the standard scale, or both.

(5) In relation to an offence committed before the commencement of section 281(5) of the Criminal Justice Act 2003, the reference in subsection (4) to 51 weeks is to be read as a reference to six months.

(6) This section is without prejudice to the generality of section 2.]

[Section 4A - Stalking involving fear of violence or serious alarm or distress

(1) A person (“A”) whose course of conduct— (a)amounts to stalking, and

(b) either—

(i) causes another (“B”) to fear, on at least two occasions, that violence will be used against B, or

(ii) causes B serious alarm or distress which has a substantial adverse effect on B’s usual day-to-day activities,

is guilty of an offence if A knows or ought to know that A’s course of conduct will cause B so to fear on each of those occasions or (as the case may be) will cause such alarm or distress.

(2) For the purposes of this section A ought to know that A’s course of conduct will cause B to fear that violence will be used against B on any occasion if a reasonable person in possession of the same information would think the course of conduct would cause B so to fear on that occasion.

(3) For the purposes of this section A ought to know that A’s course of conduct will cause B serious alarm or distress which has a substantial adverse effect on B’s usual day-to-day activities if a reasonable person in possession of the same information would think the course of conduct would cause B such alarm or distress.

(4) It is a defence for A to show that—

(a) A’s course of conduct was pursued for the purpose of preventing or detecting crime,

(b) A’s course of conduct was pursued under any enactment or rule of law or to comply with any condition or requirement imposed by any person under any enactment, or

(c) the pursuit of A’s course of conduct was reasonable for the protection of A or another or for the protection of A’s or another’s property.

(5) A person guilty of an offence under this section is liable—

(a) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding [ten years], or a fine, or both, or

(b) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding twelve months, or a fine not exceeding the statutory maximum, or both.

(6) In relation to an offence committed before the commencement of section 154(1) of the Criminal Justice Act 2003, the reference in subsection (5)(b) to twelve months is to be read as a reference to six months.

(7) If on the trial on indictment of a person charged with an offence under this section the jury find the person not guilty of the offence charged, they may find the person guilty of an offence under section 2 or 2A.

(8) The Crown Court has the same powers and duties in relation to a person who is by virtue of subsection (7) convicted before it of an offence under section 2 or 2A as a magistrates’ court would have on convicting the person of the offence.

(9) This section is without prejudice to the generality of section 4.]

Atodiad D: Gwasanaethau cymorth stelcio

Gweithredu yn Erbyn Stelcio

Alice Ruggles Trust

Aurora New Dawn

Black Country Women’s Aid 0121 553 0090

Tîm Eiriolaeth Stelcio Annibynnol Changing Pathways

Llinell Gymorth Genedlaethol Camdrin Domestig Rhadffon (a redir gan Refuge) 0808 2000 247

Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio (a redir gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh) 0808 802 0300

Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin 020 3866 4107

Supportline 01708 765200

Sussex Stalking Support 01273 083647

Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh

Veritas Justice 01273 234 773

Cymorth i Ddioddefwyr 0808 1689111

You Trust 01329 825 930

Atodiad E: Canllawiau pellach ar stelcio

Canllawiau perthnasol eraill

  1. Stelcio: darganfyddiadau Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr, y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2019 - https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/datasets/stalkingfindingsfromthecrimesurveyforenglandandwales (Tabl 6b) 

  2. Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon 2008 (Diwygiedig) - https://www.legislation.gov.uk/uksi/2014/875/made?view=plain 

  3. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/779401/Working_Together_to_Safeguard-Children.pdf 

  4. [https://www.college.police.uk/app/major-investigation-and-public-protection/managing-sexual-offenders-and-violent-offenders/potentially-dangerous-persons](https://www.college.police.uk/app/major-investigation-and-public-protection/managing-sexual-offenders-and-violent-offenders/potentially-dangerous-persons 

  5. Mae hwn yn seiliedig ar ddisgrifiad a ddatblygwyd gan Paladin, y Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol, i gynyddu dealltwriaeth o stelcio. 

  6. Mullen PE, Pathé M, Purcell R., “Stalkers and their victims”, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2000. 

  7. Canllawiau ar Stelcio ac Aflonyddu’r Coleg Plismona (2019) - http://library.college.police.uk/docs/appref/Stalking-or-harassment-guidance.pdf 

  8. MacKenzie, McEwan, Pathé, James, Ogloff, & Mullen, 2011. 

  9. Dr Lorraine Sheridan (2005) 

  10. McEwan, T., Mullen, P.E., & Purcell, R. (2007) Identifying risk factors in stalking: a review of current research. International Journal of Law and Psychiatry, 30,1-9 

  11. Y Swyddfa Gartref (2015), “Controlling or coercive behaviour in an intimate or family relationship – statutory guidance framework”, [https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/482528/Controlling_or_coercive_behaviour_-statutory_guidance.pdf](https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/482528/Controlling_or_coercive_behaviour-_statutory_guidance.pdf) 

  12. O’r diffiniad traws-lywdoraethol o gam-drin a thrais domestig. Nid yw hwn yn ddiffiniad cyfreithiol. https://www.gov.uk/guidance/domestic-violence-and-abuse#domestic-violence-and-abuse-new-definition