Policy paper

Welsh: Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth 2023

Published 30 March 2023

This was published under the 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Cyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag Adran 27 (6) o Ddeddf Pensiynau 2014

Mawrth 2023

Crynodeb Gweithredol

Cyflwyniad

Dyma’r ail adolygiad o oedran Pensiwn y Wladwriaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Mae angen i’r Ysgrifennydd Gwladol, o dan Adran 27 o Ddeddf Pensiynau 2014, adrodd ar y mater hwn o bryd i’w gilydd.

Fel cymdeithas dylem ddathlu gwelliannau mewn disgwyliad o ran oedran bywyd:

  • mae disgwyliad o ran oedran Bywyd wedi cynyddu dros amser a rhagwelir y bydd yn parhau i wneud hynny. Mae disgwyliad o ran oedran bywyd wedi cynyddu 10 mlynedd i ddynion a menywod yn 2020 o’i gymharu â 1951.[footnote 1]
  • erbyn 2070, rhagwelir y bydd disgwyliad o ran oedran adeg genedigaeth gwrywod a benywod yn cyrraedd 92.5 a 94.6 yn y drefn honno, gan adlewyrchu gwelliannau o fwy na 4 blynedd o’i gymharu â 2020.

Fodd bynnag, ers cynnal yr Adolygiad 2017 oedran Pensiwn y Wladwriaeth diwethaf, mae’r gyfradd cynnydd mewn disgwyliad o ran oedran bywyd wedi arafu. Er enghraifft, yn yr amcanestyniadau yn 2014 a lywiodd adolygiad 2017, rhagwelwyd y bydd disgwyliad oes yn 65 oed yn cyrraedd 27.3 blynedd erbyn 2060 ond yn yr amcanestyniadau diweddaraf yn 2020, rhagwelir y bydd yn cyrraedd 24.4 mlynedd.[footnote 2] I’r rhan fwyaf o bobl a chymunedau nid yw hyn yn cynrychioli disgwyliad o ran oedran bywyd sy’n cwympo, gan fod disgwyliad o ran oedran bywyd yn 65 oed yn 20.9 ar 2020, ond cyfradd arafach o welliant yn y dyfodol. Serch hynny, mae’r llywodraeth yn ymwybodol o anghydraddoldebau cynyddol mewn canlyniadau disgwyliad o ran oedran bywyd ac mae’n gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

Ochr yn ochr â newidiadau o ran oedran bywyd, mae nifer y plant sydd gan bobl ar gyfartaledd yn is na’r hyn a welir yn hanesyddol ac mae hefyd yn is nag ar adeg yr Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwiaeth diwethaf yn 2017[footnote 3]. O ganlyniad i newidiadau o ran cyfanswm y cyfraddau ffrwythlondeb a gwelliannau disgwyliad o ran oedran bywyd parhaus, rhagwelir y bydd 5 miliwn yn fwy o bensiynwyr yn y boblogaeth erbyn 2070 a dim ond 1 miliwn yn fwy o oedran gweithio.[footnote 4]

Mae’r gwahaniaethau yn nhwf y boblogaeth pensiynwr a phoblogaeth o ran oedran gweithio yn cael effaith ddemograffig. Roedd 280 o bensiynwyr ar gyfer pob 1000 o bobl o oedran gweithio yn 2020. Bydd hyn yn cynyddu’n gyflym o’r 2030au ac ni fydd yn cyrraedd lefelau na welwyd erioed o’r blaen erbyn 2070, lle rhagwelir y bydd y gymhareb yn 393 o bensiynwyr fesul 1,000 o bobl o oedran gweithio4.

Amancygrifodd Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol[footnote 5] yn eu hadroddiad risgiau cyllidol ac adroddiad cynaliadwyedd 2022 y bydd costau Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu o 4.8% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) yn 2021/22 i 8.1% o GDP yn 2071/72. Mae angen gweld hynny yng ngoleuni’r newid sylweddol yn economi’r DU yn ddiweddar a’r effaith ar gyllid cyhoeddus o ran anwadalrwydd byd -eang cynyddol. Mae hyn wedi newid y cyd-destun tymor canolig a fydd yn effeithio ar ragolygon hirdymor y cyllid cyhoeddus.

Mae’n bwysig bod Pensiwn y Wladwriaeth yn parhau i fod yn sylfaen incwm ar ôl ymddeol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’i fod yn gynaliadwy ac yn deg.

Dros yr 50 mlynedd nesaf bydd cynnydd parhaus yn y boblogaeth oedran pensiwn. Yng ngoleuni hyn, bydd y Llywodraeth yn ystyried sut i gynnal system fforddiadwy sy’n gynaliadwy yn y tymor hir yn fwyaf effeithiol.

Rhaid i ni gael y dystiolaeth orau ar gael er mwyn gwneud penderfyniadau am gwrs oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol. Yn yr adroddiad hwn rydym yn disgrifio’r arafu diweddar yng nghyfradd y newidiadau i ddisgwyliad o ran oedran bywyd, sut y bydd gwariant Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod a’r effaith ar bobl o oedran gweithio. Byddwn hefyd yn disgrifio pam mae angen gohirio penderfyniadau o ran pryd y dylai oedran Pensiwn y Wladwriaeth gynyddu i 68 oed nes bod gennym y wybodaeth orau bosibl.

Tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol

Mae Deddf Pensiynau 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth gomisiynu dau adroddiad annibynnol i lywio Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyfnodol:

  • mae’n ofynnol i Actiwari’r Llywodraeth ddadansoddi amserlenni oedran Pensiwn y Wladwriaeth posibl yn y dyfodol, a gyfrifir o’r rhagamcanion disgwyliad o ran oedran bywyd diweddaraf ac yn seiliedig ar gyfrannau penodol o fywyd oedolion y gallai unigolion yn y dyfodol ddisgwyl eu dreulio wrth gael Pensiwn y Wladwriaeth:
  • adroddiad ar ffactorau ehangach sy’n berthnasol i osod oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Adroddodd y Farwnes Neville-Rolfe ar ffactorau a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • cyhoeddir y ddau adroddiad ochr yn ochr â’r adroddiad hwn. Mae’r llywodraeth yn ddiolchgar am waith Actiwari’r Llywodraeth a’r Farwnes Neville-Rolfe.

Adroddiad Actiwari’r Llywodraeth

Gofynnwyd i Actiwari’r Llywodraeth gynnwys sylwebaeth ar dueddiadau mewn disgwyliad data. Gofynnwyd iddo asesu pa mor hir y gall person ddisgwyl ei dreulio ar ôl ymddeol o dan yr amseriadau deddfwriaethol cyfredol ar gyfer y cynnydd i 67 a 68 a’r newid Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth arfaethedig yn 2017 i ddod â’r codiad ymlaen i 68 i 2037-39. Gofynnwyd i Actiwari’r Llywodraeth ystyried y senarios o 32% o fywyd oedolion ar ôl ymddeol, y nod hirdymor a argymhellir o adolygiad 2017, yn ogystal â 31% a 30% i ddangos effeithiau cyfran is o oes oedolion a dreuliwyd yn ymddeol.

Yr adroddiad annibynnol ar ffactorau penodedig eraill

Comisiynwyd y Farwnes Neville-Rolfe i archwilio metrigau y gallai’r llywodraeth eu defnyddio wrth ystyried sut i osod oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys a oedd yn iawn parhau i ddefnyddio cyfran yr oes oedolion a dreuliwyd ar ôl ymddeol wrth bennu amserlen oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yr argymhellion allweddol a wneir gan y Farwnes Neville-Rolfe yw:

  • mae’n parhau i fod yn iawn i gael cyfran sefydlog o fywyd oedolion y dylai pobl ddisgwyl ei dreulio, ar gyfartaledd, wrth gael Pensiwn y Wladwriaeth;
  • dylai’r gyfran hon gael ei gosod ar ‘hyd at 31%’ o fywyd oedolion;
  • dylai’r llywodraeth osod terfyn ar wariant sy’n gysylltiedig â Phensiwn y Wladwriaeth o hyd at 6% o GDP.

Mae argymhelliad y Farwnes Neville-Rolfe ar 31% yn cadw at naws canfyddiadau Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth 2017 lle mai 32% o fywyd oedolion a gafodd Pensiwn y Wladwriaeth oedd profiad cyfartalog pensiynwyr o 1996-2016 yn cyrraedd 65 oed. Mae defnyddio’r rhagamcanion disgwyliad o ran oedran bywyd diweddaraf ac adlewyrchu newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod y gyfran hon bellach yn agosach at 31%. Canfu’r Farwnes Neville Rolfe fod cynnydd o ran oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 67 oed yn 2026-2028 yn gyson â’r metrig 31%, ond nid oedd hyn yn wir gyda’r amserlen gynyddu 68 oed fel y nodir yn Adolygiad 2017 ac, o ganlyniad, argymhellir y dylid gwthio’r amserlen yn ôl i 2041-43.

Dylid nodi bod Actiwari’r Llywodraeth yn darparu dadansoddiad sensitifrwydd i’w ganfyddiadau. Mae’n nodi y bydd llinellau amser a ragwelir yn yr adroddiad yn newid gyda rhagamcanion disgwyliad o ran oedran bywyd yn y dyfodol ac y gall “newidiadau cymharol fach yn y rhagdybiaethau marwolaeth arwain at newidiadau eithaf mawr i’r amserlen SPa a gyfrifir”. Mae’r dadansoddiad yn dangos y gallai newid y gyfradd gwella marwolaethau hirdymor (1.2% ar hyn o bryd) 0.2% y flwyddyn i’r naill gyfeiriad y llall symud cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth hyd at 10 mlynedd o dan y senario 32%.

Casgliadau Adolygiad oedran Pensiwn y Wladwriaeth 2023

Mae’r llywodraeth eisiau sicrhau bod Pensiwn y Wladwriaeth yn parhau i fod yn sylfaen incwm ar ôl ymddeol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’i fod yn gynaliadwy ac yn deg.

Mae wedi ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Actiwari’r Llywodraeth a’r Adroddiad Annibynnol ac wedi nodi’r ymateb i’r Alwad am Dystiolaeth a wnaed gan y Farwnes Neville-Rolfe.

Mae’r llywodraeth yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad annibynnol. Mae’r Farwnes Neville-Rolfe wedi tynnu sylw at heriau allweddol mewn perthynas â disgwyliad o ran oedran bywyd a chynaliadwyedd cyllidol Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi ceisio cydbwyso’r ystyriaethau hyn ochr yn ochr ag uchelgais hirsefydlog y llywodraeth o ddarparu tegwch rhwng cenedlaethau.

Mae’r llywodraeth yn cytuno â chasgliad yr Adroddiad Annibynnol bod codi oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 66 i 67 yn briodol. Felly bydd y codiad hwn yn digwydd rhwng 2026-2028

Mae’r llywodraeth yn nodi argymhellion yr adroddiad annibynnol ar godi oedran o 67 i 68. Fodd bynnag, nid oedd y Farwnes Neville-Rolfe yn gallu ystyried effaith hirdymor heriau allanol sylweddol diweddar, gan gynnwys y pandemig COVID-19 a phwysau chwyddiant byd-eang diweddar. Daw hyn â lefel o ansicrwydd mewn perthynas â’r data ar ddisgwyliad oes, marchnadoedd llafur a’r cyllid cyhoeddus. Mae’r llywodraeth yn ymwybodol y gallai penderfyniad gwahanol fod yn fwy priodol unwaith y bydd hyn yn gliriach. O ystyried yr effeithiau eang, mae’n bwysig cymryd yr amser i gael hyn yn iawn.

Rydym yn bwriadu cael adolygiad pellach o fewn dwy flynedd i’r Senedd nesaf i ystyried 68 oed. Bydd hyn yn sicrhau bod y llywodraeth yn gallu ystyried y wybodaeth ddiweddaraf nad oedd ar gael i’r adolygydd annibynnol ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys data cyfrifiad 2023, y sefyllfa economaidd gyfredol, yr effaith ar farchnad lafur ein pecyn o fesurau i fynd i’r afael ag anweithgarwch ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill. Felly mae’r rheolau cyfredol ar gyfer codi’r oedran o 67 i 68 yn parhau i fod yn briodol ac nid yw’r llywodraeth yn bwriadu newid y ddeddfwriaeth bresennol cyn i’r adolygiad nesaf ddod i ben. Bydd yr holl opsiynau ar gyfer codi oedran pensiwn y wladwriaeth o 67 i 68 sy’n cwrdd â’r cyfnod rhybudd o 10 mlynedd o fewn y cwmpas yn yr adolygiad nesaf.

Mae’r llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i egwyddor 10 mlynedd o rybudd o newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bydd yn sicrhau y gellir cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth mewn modd amserol.



  1. Tablau Bywyd, Prif dafluniad, y DU - Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ons.gov.uk) 

  2. Cyfrifiadau DWP i wneud disgwyliad oes unrhywiol gan ddefnyddio disgwyliad oes carfan ONS a data amcanestyniadau poblogaeth dros dro cenedlaethol. 

  3. Genedigaethau yng Nghymru a Lloegr - Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ons.gov.uk) 

  4. Cyfrifiadau DWP drwy ddefnyddio Rhagamcanion Poblogaeth Dros Dro Cenedlaethol 2020 

  5. Risgiau cyllidol a chynaliadwyedd – CP 702 (obr.uk)