Canllawiau

Proffiliau Llwyddiant: Trosolwg Ymgeisydd

Diweddarwyd 14 Hydref 2024

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Mae hyn yn golygu ar gyfer pob rôl rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.

Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni:

  • ddod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd
  • gwella perfformiad
  • gwella amrywiaeth a chynhwysiant

Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:

  1. Gallu – y dawn neu’r potensial i berfformio i’r safon gofynnol
  2. Technegol – yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
  3. Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
  4. Cryfderau – y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy’n ein hysgogi
  5. Profiad – y wybodaeth neu’r feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo

Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob rôl. Bydd yn amrywio yn dibynnu ar y proffesiwn, lefel a math o rôl. Dylech ddarllen y disgrifiad swydd yn ofalus. Bydd yn dweud wrthych pa elfennau rydych eu hangen ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Mae canllawiau ar wahân i bob un o’r elfennau. Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â beth a sut y gallwch ddangos gofynion penodol.

Sut mae’r elfennau’n cael eu hasesu

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn asesu ymgeiswyr mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae hyn yn dibynnu ar y math o rôl a lefel rydych yn gwneud cais amdani. Mae defnyddio ystod o ddulliau asesiad yn ein helpu i gydweddu â phobl i ofynion hanfodol y swydd. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais neu ddarparu CV a datganiad ategol.

Gallant ein helpu i asesu eich profiadau, cymwysterau technegol ac ymddygiadau. Neu, efallai y gofynnir i chi fynd i ganolfan asesu neu gwblhau prawf ar-lein i asesu eich galluoedd. Yn aml bydd cyfuniad o’r rhain yn cael eu defnyddio. Efallai bydd mwy nag un elfen yn cael ei brofi o fewn yr un dull asesu.

Mae manylion am ba elfennau a fydd yn cael eu hasesu a sut byddwn yn eich asesu’n erbyn y rhain, yn cael eu cynnwys yn y disgrifiad swydd.

Addasiadau rhesymol

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy’n cael ei ddefnyddio.

Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:

  • darparu dogfennau mewn print bras neu braille
  • caniatáu mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad
  • darparu cymorth mewn canolfan asesu

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.

Dulliau asesu’r Gwasanaeth Sifil

Ffurflen gais

Fel rheol, gofynnir i chi i gwblhau ffurflen gais fel rhan o’r proses asesiad. Yn ogystal â’ch gwybodaeth bersonol, efallai y gofynnir i chi ddarparu enghreifftiau o achlysuron ble rydych wedi dangos ymddygiadau penodol. Ymddygiadau yw’r gweithredoedd a’r gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd. Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi diffinio cyfres o ymddygiadau sydd, pan maent wedi eu dangos, yn gysylltiedig â llwyddiant swydd.

Mae ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil wedi’u teilwra i lefel gradd rôl y swydd. Fodd bynnag, ni ofynnir i chi ddangos yr holl ymddygiadau ar gyfer un rôl. Defnyddiwch yr enghreifftiau a roddir yn ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil i ystyried achlysurau ble rydych wedi dangos yr ymddygiad a ddisgrifir. Efallai y bydd hyn yn y gwaith neu rhywle arall fel:

  • profiad gwaith
  • gwirfoddoli
  • mewn cysylltiad â hobi

Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y rheolwr recriwtio’n gwybod neu’n deall y sefyllfa roeddech yn ei hwynebu. Mae angen i chi fod yn glir o ran sut mae’r enghraifft yn bodloni’r ymddygiad sy’n cael ei asesu.

Ystyriwch ddefnyddio y dull STAR sy’n eich galluogi i osod y sefyllfa, dangos beth a sut wnaethoch a’r canlyniad.

CV a/neu ddatganiad ategol

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno CV (ac ambell waith datganiad ategol) yn ogystal â, neu yn lle, ffurflen gais. Eich CV yw un o’r cyfleoedd cyntaf sydd gennych i ddangos eich:

  • sgiliau
  • profiad
  • cyflawniadau

a gellir eu defnyddio i roi ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer camau recriwtio pellach.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich CV mewn fformat dienw. Bydd hyn yn gadael allan gwybodaeth a allai eich adnabod chi, fel eich enw, oedran neu ryw.

Efallai y gofynnir i chi hefyd i dim ond cynnwys cymwysterau addysgiadol sy’n berthnasol i’r rôl rydych yn gwneud cais amdani. Er enghraifft, cymwysterau proffesiynnol. Mae hyn i sicrhau bod:

  • y broses yn deg
  • nid yw gwybodaeth amherthnasol yn cael ei hystyried yn ystod y broses ddethol

Os gofynnir i chi ddarparu datganiad ategol

Dylech ddefnyddio hyn i amlygu ymhellach sut rydych yn cwrdd â’r meini prawf a osodir i wneud y rôl. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys esiamplau o sut rydych wedi

  • mynd ati i gwblhau tasgau tebyg
  • dangos y sgiliau a amlinellir yn yr hysbyseb swydd

Ystyriwch ddefnyddio y dull STAR sy’n eich galluogi i osod y sefyllfa, dangos beth a sut wnaethoch a’r canlyniad.

Profion ar-lein

Efallai y gofynnir i chi gwblhau un neu fwy o brofion ar-lein fel rhan o’r broses recriwtio. Fel arfer byddwch yn cael dolen i wefan ble y gallwch gwblhau’r profion. Mae’r profion hyn yn ein helpu i:

  • nodi os oes gennych y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl
  • asesu eich addasrwydd ar gyfer y math o waith y mae’r Gwasanaeth Sifil yn ei wneud

Mae’r nifer a math o brofion y gofynnir i chi gwblhau yn dibynnu ar y math o rôl rydych yn gwneud cais amdani.

Fel arfer gallwch gymryd y profion ar unrhyw amser o fewn nifer penodol o ddiwrnodau. Bydd yr e-bost a anfonwyd atoch yn esbonio hyn. Bydd hefyd nifer o gwestiynau ymarfer y gallwch eu gwneud cyn cymryd y prawf. Efallai bydd y profion yn cael eu hamseru. Dylech sicrhau y gallwch roi eich sylw llawn iddynt cyn dechrau’r asesiad.

Cyfweliad

Bydd rhan o’r broses asesu fel arfer yn golygu cyfweliad. Efallai bydd hyn yn wyneb yn wyneb ond rydym weithiau’n defnyddio cyfweliadau dros y ffôn, fideo neu wedi’u recordio.

Mae pwrpas yr holl gyfweliadau’r un fath: i asesu eich addasrwydd i’r rôl. Bydd yn para 30-60 munud fel arfer. Efallai y gofynnir i chi ddisgrifio achlysuron penodol pan wnaethoch ddangos sgil neu ymddygiad penodol.

Cyn i chi fynychu cyfweliad, edrychwch yn ofalus ar y disgrifiad swydd. Meddyliwch am enghreifftiau y gallwch eu rhoi am adegau pan rydych wedi dangos yr ymddygiadau a amlinellir yn yr hysbysiad swydd. Efallai yr hoffech hefyd ystyried sut y byddech yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

Efallai y gofynnir cwestiynau i chi am eich diddordebau a beth rydych chi’n hoffi ei wneud. Bydd y cwestiynau hyn yn helpu i asesu eich cryfderau a dull gorau o weithio.

Bydd y Geiriadur Cryfderau’r Gwasanaeth Sifil yn rhoi syniad i chi o’r cryfderau rydym yn chwilio amdanynt. Fodd bynnag ni ddisgwylir i chi fyth arddangos y rhain i gyd ar gyfer un swydd.

Cyn y cyfweliad byddai’n ddefnyddiol i adlewyrchu ar beth rydych yn teimlo yw eich cryfderau personol a dull gorau o weithio.

Cyflwyniad

Efallai y gofynnir i chi roi cyflwyniad fel rhan o’r broses asesu. Efallai y byddwch yn cael gwybod beth fydd pwnc y cyflwyniad ymlaen llaw i adael i chi baratoi, neu efallai y bydd yn cael ei roi i chi ar y diwrnod. Gall pwnc y cyflwyniad fod mewn maes rydych yn gyfarwydd neu’n anghyfarwydd ag ef. Efallai y rhoddir rhywfaint o ddeunyddiau ychwanegol i’ch helpu i baratoi.

Bydd yr e-bost yn eich gwahodd i’r asesiad yn dweud wrthych:

  • fformat y cyflwyniad
  • yr amser a ganiateir am yr ymarfer
  • os disgwylir taflenni neu sleidiau cyflwyniad

Yn y gwahoddiad efallai y byddwch hefyd yn disgwyl gweld:

  • pa bwnc neu ymddygiad bydd y cyflwyniad yn ei asesu
  • sut y dylid strwythuro’r cyflwyniad

Mae’n debygol bydd yr aseswyr yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwyniad. Gallai’r rhain ganolbwyntio ar y pwnc ond efallai yn cwmpasu’r ffordd rydych wedi paratoi ar gyfer yr asesiad.

Canolfan Asesu

Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfuniad o ddulliau dethol gwahanol. Er enghraifft, cyfweliad, cyflwyniad a phrawf ar-lein. Bydd yr e-bost sy’n eich gwahodd i’r ganolfan asesu yn dweud wrthych:

  • pa ddulliau dethol a ddefnyddir
  • beth i ddisgwyl ar y diwrnod