TA5 1UD, NNB Generation Company (HPC) Limited: cais am hawlen amgylcheddol
Updated 6 June 2019
Manylion y cais
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi derbyn cais i amrywio hawlen amgylcheddol o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 gan NNB Generation Company (HPC) Limited.
Rhif y cais
EPR/HP3228XT/V004
Math o gyfleuster rheoledig
Gweithgaredd Arllwys Dŵr
Lleoliad cyfleuster rheoledig
Gorsaf Bŵer Hinkley Point C
Hinkley Point
Ger Bridgwater
Gwlad yr Haf
TA5 1UD
Cyfeirnod grid cenedlaethol y pwynt arllwys
ST 19176 47521 a ST 19128 47578
Amgylchedd derbyn
Sianel Bryste
Math o elifiant
Elifiant masnach (yn cynnwys dŵr oeri ac elifiant proses) ac elifion carthion wedi’u trin
Cyfaint
Cyfradd gyfartalog uchaf yr arllwys o 132 metr ciwbig yr eiliad
Y cynnig yw amrywio’r hawlen i ddiwygio neu ddileu’r amodau yn ymwneud â chynllun a gweithrediad ar y system Atal Pysgod Acwstig (AFD).
Caniatawyd yr hawlen wreiddiol yn 2013 ac roedd yn caniatáu arllwys elifion masnach yn cynnwys dŵr oeri echdynedig a ddychwelir (Ffrwd gwastraff A). Roedd y cynllun gwreiddiol arfaethedig ar gyfer y system dŵr oeri yn gofyn i’r cwmni echdynnu ac arllwys y dŵr oeri hwn gan ddefnyddio tri mesur a fyddai’n cydweithio i ostwng effaith amgylcheddol y gweithgaredd hwn. Y mesurau oedd wedi’u cynnwys yn yr hawlen wreiddiol oedd mewnlif Mynediad Ochr Cyflymder Isel (LVSE), system Adfer a Dychwelyd Pysgod (FRR) a system Atal Pysgod Acwstig (AFD).
Nid yw’r Cwmni yn dymuno mwyach gosod system Atal Pysgod Acwstig (AFD) a chan hynny mae’n ymgeisio i amrywio ei hawlen gyfredol i ddileu’r amodau yn ymwneud â’r mesur hwn.
Sylwer bod yr ymgynghoriad hwn yn perthyn i’r dogfennau cais am amrywiad i’r hawlen. Rhaid i ni benderfynu caniatáu neu wrthod y cais am amrywiad i’r hawlen. Os byddwn yn ei ganiatáu, rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn yr hawlen a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach os byddwn yn cyrraedd y cam hwn.
Bydd y Cwmni hefyd yn gwneud ceisiadau am ddiwygiadau i’r Gorchymyn Caniatáu Datblygiad (DCO) sy’n awdurdodi adeiladu’r orsaf bŵer (Gorchymyn 2013: S.I. 2013:248), ac am amrywiad i’r drwydded forol yn ymwneud ag adeiladu’r System Dŵr Oeri sy’n gorwedd islaw lefel y dŵr (rhif trwydded L201300178/3).
Bydd llwybrau ymgynghori ar wahân yn cael eu hysbysebu ac ar gael gan y Cwmni ac Awdurdodau Cymwys mewn perthynas â’r ceisiadau hyn. Mae’n rhain yn debyg o gael eu cynnal ochr yn ochr â’r cais hwn am amrywiad i hawlen. Gallwch ddarllen mwy am ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r cwmni ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn https://www.edfenergy.com/AFDconsultation
Sut i weld y cais
Ar-lein: https://consult.environment-agency.gov.uk/psc/ta5-1ud-nnb-generation-company-hpc-limited-2
Cedwir y wybodaeth hon mewn cofrestrau yn y lleoliadau a ganlyn:
Hinkley Point Visitor Centre (EDF Energy)
Units 18-19 Angel Place Shopping Centre
25 Angel Crescent
Bridgwater
TA6 3TQ
Customer Services Reception
West Somerset Council
West Somerset House
Killick Way
Williton
TA4 4QA
Hyb y Llyfrgell Ganolog
Llyfrgell Ganol Caerdydd
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1FL
Gallwch weld y wybodaeth yng nghofrestr(au) Asiantaeth yr Amgylchedd:
Environment Agency
Public Register
Plas yr Afon
East Quay
Bridgwater
TA6 4YS
Environment Agency
Cofrestr Gyhoeddus
Horizon House
Deanery Road
Bristol
BS1 5AH
Gallwch weld cofrestr Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 9.30am a 4.30pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Ffoniwch ganolfan cyswllt i gwsmeriaid Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 i drefnu apwyntiad. Gallwch ofyn am gopi o ddogfennau ar y gofrestr. Mae’n bosibl y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn codi tâl arnoch am gostau copïo.
Sut i gynnig sylwadau ar y cais
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y cais anfonwch y rhain erbyn 26 Gorffennaf 2019.
Ar-lein: https://consult.environment-agency.gov.uk/psc/ta5-1ud-nnb-generation-company-hpc-limited-2
E-bost: psc-waterquality@environment-agency.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Environment Agency
Permitting and Support Centre
WQ Team
Quadrant 2
99 Parkway Avenue
Sheffield
S9 4WF.
Fel arfer ni fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gosod unrhyw ymatebion y mae’n eu derbyn ar y gofrestr gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt. Dywedwch wrthym ni os nad ydych chi eisiau i’ch ymateb fod yn gyhoeddus.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau at ein Canolfan Cyswllt i Gwsmeriaid Cenedlaethol ar 03708 506 506.