Deunydd hyrwyddo

Ffeithiau Treth - adnoddau yn rhad ac am ddim ar gyfer athrawon a rhieni

Diweddarwyd 10 July 2023

Ffeithiau Treth yw rhaglen addysg dreth gan Gyllid a Thollau EF sy’n rhad ac am ddim ac ar gyfer myfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd. O gynlluniau gwersi i fideos, mae’r adnoddau gan y rhaglen i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am system dreth y DU.

Mae hyd yn oed yr opsiwn i lysgennad staff Ffeithiau Treth ddod i’r ysgol i gefnogi athrawon wrth gyflwyno gwers.

Pa adnoddau sydd ar gael i athrawon a rhieni?

Mae dwy set o adnoddau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol:

  • Ffeithiau Treth Iau – ar gyfer plant 8 i 13 oed

  • Ffeithiau Treth – ar gyfer myfyrwyr 14 i 17 oed

Ym mhob pecyn adnoddau, mae:

  • cynllun gwers

  • cyflwyniad ar gyfer y dosbarth

  • taflenni gweithgaredd

  • canllaw cyflwyno

Mae yna hefyd gyfres o fideos byr sy’n delio â chwestiynau fel ‘beth yw treth?’ a sut brofiad yw dechrau gweithio.

Mae’r rhain yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho yn Gymraeg a Saesneg, ac maen nhw wedi’u cysylltu â fframweithiau’r cwricwlwm ledled y DU.

Ffeithiau Treth Iau – ar gyfer plant 8 i 13 oed

Bydd yr adnoddau hyn yn helpu disgyblion ysgolion cynradd a myfyrwyr ysgol uwchradd iau i fynd i’r afael â hanfodion treth. Erbyn diwedd y wers, dylen nhw allu deall:

  • pam mae angen i’r llywodraeth gasglu arian fel ‘treth’

  • sut mae trethi’n talu am y pethau sydd eu hangen ar bawb ac mae pawb yn eu defnyddio

  • y gwaith y mae CThEF yn ei wneud a’r rôl sydd ganddo

Ffeithiau Treth – ar gyfer myfyrwyr 14 i 17 oed

Bydd y pecyn hwn o adnoddau yn helpu pobl ifanc i ddysgu am sut mae’r system dreth yn gweithio a’r rôl ymarferol y mae’n ei chwarae yn eu bywydau. Erbyn diwedd y wers, dylai’r myfyrwyr ddeall:

  • y system dreth yn y DU ac effaith peidio â chasglu treth

  • sut y caiff treth ei thalu pan fyddant mewn swydd

  • y gwaith y mae CThEF yn ei wneud a’r rôl sydd ganddo

Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon mathemateg, busnes ac ABGI.

Help i gyflwyno gwers

Gallai aelod o staff CThEF ddod i’r ysgol fel llysgennad Ffeithiau Treth i arwain gwers 45 munud a rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn unrhyw gwestiynau. Gall ymweliad ysgol eich cefnogi i allu cyflawni Meincnodau Gatsby.

I gael rhagor o wybodaeth am drefnu ymweliadau ysgol anfonwch e-bost atom yn.

Dod o hyd i ragor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae’r tîm Ffeithiau Treth yma i helpu. E-bostiwch hmrc.taxeducation@hmrc.gov.uk.