Policy paper

Deddf Terfysgaeth (Gwarchod Anheddau) 2025 – Taflen Ffeithiau Rheoleiddiwr, Sancsiynau a Gorfodi

Updated 22 April 2025

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio rôl Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) wrth gyflawni swyddogaeth reoleiddiol Deddf Terfysgaeth (Diogelu Annedd) a’r pecyn cymorth sancsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio.

Y rheoleiddiwr (yr Awdurdod Diwydiant Diogelwch)

Rôl y rheoleiddiwr fydd rhoi cyngor ynglŷn â, a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol y ddeddfwriaeth, cefnogi’r rhai sy’n gyfrifol am adeiladau a digwyddiadau cymwys i fodloni eu rhwymedigaethau a phenderfynu pa weithdrefnau a mesurau rhesymol ymarferol y dylid eu rhoi ar waith.

Rhaid i’r SIA baratoi canllawiau ynghylch sut y bydd yn arfer ei swyddogaethau, gan gynnwys ei bwerau gorfodi.  Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Cartref cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi. 

Pwerau arolygu a chasglu gwybodaeth

Pwerau i gael mynediad i safle a digwyddiadau er mwyn cynnal arolygiadau

Gall arolygydd fynd i mewn i’r safle ar ôl rhoi 72 awr o rybudd i archwilio ac arsylwi gweithgareddau. Pan fydd angen mynediad gyda llai na 72 awr o rybudd, gwrthodir mynediad, neu lle byddai rhoi hysbysiad o’r fath yn trechu pwrpas cael mynediad,  gall yr arolygydd wneud cais am warant er mwyn cael mynediad i’r safle. 

Yn ystod arolygiad, bydd yr arolygydd yn gallu gweld dogfennau ac offer ac yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar y safle gynorthwyo gyda’r arolygiad (e.e. rhoi eglurhad o’r dogfennau). Gall yr arolygydd wneud cais am warant i dynnu eitemau, dogfennau neu offer fel tystiolaeth, er enghraift lle nad oes copïau ar gael.

Gall unigolion eraill hefyd ddod yn gwmni i’r arolygydd i’w gynorthwyo gyda’r arolygiad (e.e. arbenigwr technegol i gynghori ar fesurau diogelwch penodol, neu swyddog heddlu).

Pwerau i gasglu gwybodaeth (hysbysiadau gwybodaeth)

Bydd arolygydd yn gallu cyhoeddi hysbysiad i fynnu darparu gwybodaeth at ddibenion asesu cydymffurfiaeth. Gall hyn gynnwys gofyniad i ddarparu dogfennau sy’n ymwneud â diogelwch yn y safle neu’r digwyddiad, neu i unigolyn perthnasol fynychu cyfweliad, fel pobl sy’n gweithio yn y safle.

Sancsiynau

Lle bydd achosion o ddiffyg cydymffurfio difrifol neu barhaus, bydd yr SIA yn gallu cyhoeddi ystod o sancsiynau sifil gan gynnwys hysbysiadau cydymffurfio, cosbau ariannol a hysbysiadau cyfyngu. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys rhai troseddau.

Sancsiynau sifil
Hysbysiadau cydymffurfio Bydd rhain yn gofyn am gywiro ddiffyg cydymffurfiaeth o fewn amserlen benodol a gallai fod angen cymryd camau penodol.
Hysbysiadau cyfyngu Gellir cyhoeddi’r rhain mewn perthynas â safle dyletswydd uwch a digwyddiadau cymwys lle mae gan yr SIA sail resymol i gredu (i) bod y person cyfrifol wedi methu â sicrhau bod mesurau a/neu weithdrefnau diogelu cyhoeddus priodol ar waith a (ii) bod y cyfyngiadau yn angenrheidiol i leihau’r risg o niwed sy’n deillio o weithredoedd terfysgaeth. Am y rhesymau hyn rhagwelir y bydd hysbysiadau cyfyngu yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, lle mae risg sylweddol i ddiogelwch y cyhoedd sy’n gofyn am weithredu ar unwaith. Gallai hysbysiad cyfyngu wahardd sut mae adeilad yn cael ei ddefnyddio; gwahardd digwyddiad rhag digwydd; neu osod cyfyngiadau penodol (e.e. cyfyngu ar nifer y bobl a all fynychu ar unrhyw un adeg) nes bod mesurau addas ar waith.
Hysbysiadau cosb Bydd yr SIA yn gallu cyhoeddi cosbau diffyg cydymffurfio hyd at uchafswm o £10,000 ar gyfer safle ar ddyletswydd safonol a £18m neu 5% o refeniw byd-eang ar gyfer adeiladau ar ddyletswydd uwch neu ddigwyddiadau cymwys. Y gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofyniad i fynychu cyfweliad fydd £5,000. Pan ddyroddir cosb o ddiffyg cydymffurfio am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu gyfyngiad, bydd yr SIA hefyd yn gallu cyhoeddi cosbau dyddiol (hyd at £500 y dydd ar gyfer safle ar ddyletswydd safonol a £50,000 y dydd ar gyfer safle ar ddyletswydd uwch neu ddigwyddiadau cymwys) os bydd diffyg cydymffurfio yn parhau ar ôl y dyddiad y mae’r gosb yn daladwy. Wrth benderfynu ar swm cosb, rhaid i’r SIA ystyried effeithiau diffyg cydymffurfio, camau lliniarol a gymerwyd i unioni’r diffyg cydymffurfio neu ei effeithiau, a gallu’r person i dalu.

Bydd yn ofynnol i’r SIA hysbysu’r parti yr effeithir arno cyn iddyn nhw gyhoeddi unrhyw un o’r hysbysiadau uchod a rhoi cyfle iddyn nhw wneud sylwadau (oni bai bod angen brys i gyhoeddi hysbysiad cyfyngu).

Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyhoeddi gan yr SIA, mae hawl i apelio i’r Tribiwnlys.

Troseddau

Bydd yn drosedd i roi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r SIA, neu rwystro neu ddynwared arolygydd awdurdodedig yn fwriadol.

Pan fydd hysbysiad gwybodaeth wedi’i gyhoeddi, neu lle mae hysbysiad cydymffurfio neu gyfyngu yn cael ei gyhoeddi mewn perthynas â safle ar ddyletswydd uwch neu ddigwyddiad cymwys, bydd yn drosedd i fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad. Fodd bynnag, rhagwelir mai hysbysiadau cosb fydd y prif ddull o orfodi am beidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau hyn. Ni ellir cyhoeddi hysbysiadau cosb i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio o’r fath pan fydd y person eisoes wedi’i ddyfarnu’n euog o drosedd sy’n ymwneud ag ef.