Canllawiau

Swyddfa Dyfarnwr y Gadwyn Gyflenwi Amaethyddol Hysbysiad preifatrwydd

Diweddarwyd 18 Medi 2024

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata a gesglir drwy swyddfa Dyfarnwr y Gadwyn Gyflenwi Amaethyddol (ASCA), sydd o fewn Cadwyn Bwyd-Amaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a sut y defnyddir y data hwnnw.

1. Pwy sy’n casglu eich data personol

Defra yw’r rheolydd ar gyfer y data personol a gesglir gan yr ASCA:

Department for Environment, Food and Rural Affairs
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch am sut mae Defra yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig, gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn data.protection@defra.gov.uk neu:

Department for Environment, Food and Rural Affairs
Nobel House
17 Smith Square
London
SW1P 3JR

Y swyddog diogelu data i Defra sy’n gyfrifol am wirio bod Defra yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Gallwch gysylltu â hwy yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk neu:

Department for Environment, Food and Rural Affairs
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

2. Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a sut y caiff ei ddefnyddio

Bydd yr ASCA yn casglu’r data personol canlynol ar gyfer gweithgareddau rheoleiddiol, ymgysylltiad rhanddeiliaid yn nhermau’r ASCA er mwyn cynnal to rhestrau o randdeiliaid perthnasol a/neu gysylltiadau y gallai fod angen cyfathrebu â hwy, cylchlythyr a thanysgrifio ar gyfer digwyddiadau ac ymateb I ymgynghoriadau neu ymchwil:

  • eich enw
  • cyfeiriad gohebu
  • rhif ffôn
  • rhif ffôn symudol
  • cyfeiriad e-bost
  • manylion y materion a godwyd

3. Sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol yn ‘dasg gyhoeddus’. Mae angen prosesu ar gyfer cwblhau tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd.

4. Gyda phwy ydym ni’n rhannu eich data personol

Ni fydd yr ASCA yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall, fodd bynnag o bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag adnoddau cyfreithiol trydydd parti a Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser. Os yw eich busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU, efallai y byddwn yn gofyn am fewnbwn gan yr awdurdodau yn eich awdurdodaeth yn ystod hynt eich cwyn. Rhennir eich data yn unol â phrosesau priodol gyda thrydydd partïon o’r fath a gyflogir gan yr ASCA i gynorthwyo gyda swyddogaethau rheoleiddiol yn unig.

Rydym yn parchu eich preifatrwydd personol wrth ymateb i geisiadau mynediad at wybodaeth. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth pan fydd angen er mwyn cyflawni gofynion statudol Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

5. Cydsyniad i brosesu eich data personol

Nid yw prosesu eich data personol yn seiliedig ar gydsyniad. Ni allwch ei dynnu yn ôl.

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Bydd yr ASCA yn cadw eich data personol yn unol ag amserlen gadw Defra.

Mae gan yr ASCA bolisi rheoli cofnodion sy’n sicrhau bod cyfnodau cadw yn briodol i’r mathau o ddata a gesglir. Ar ddiwedd y cyfnod cadw perthnasol, bydd eich data personol yn cael ei waredu’n ddiogel.

Os ydych wedi tanysgrifio i dderbyn rhybudd e-bost neu wasanaeth tanysgrifio, bydd yr ASCA yn cadw eich data personol cyhyd ag y byddwch wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais i gael eich dileu o’r gwasanaeth hwn, yna bydd eich data personol yn cael ei waredu’n ddiogel.

7. Beth sy’n digwydd os nad ydych yn darparu’r data personol

Os na fyddwch yn darparu eich data personol, ni allwn brosesu eich cwyn.

8. Defnyddio proses gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomataidd

Ni fydd y data personol a ddarparwch yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:

  • llunio penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw gyfranogiad dynol)
  • proffilio (prosesu data personol yn awtomataidd i werthuso pethau penodol am unigolyn)

9. Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r DU

Ni throsglwyddir eich data personol y tu allan i’r DU.

10. Eich hawliau

Gallwch gael gwybod am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018).

11. Cwynion

Mae gennych hawl i wneud cwyn i swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw bryd.

12. Siarter gwybodaeth bersonol

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.