Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Glo 2020 i 2021: Adroddiad atebolrwydd

Cyhoeddwyd 15 July 2021

Adroddiad atebolrwydd

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn bodloni gofynion atebolrwydd allweddol i’r senedd. Mae’r gofynion wedi’u seilio ar Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y’i haddaswyd i’r sector cyhoeddus.

Mae’n ymgorffori’r materion y mae’n ofynnol ymdrin â nhw mewn adroddiad cyfarwyddwyr ac yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, fel yr amlinellir ym Mhennod 6 y Ddeddf Cwmnïau. Mae’n ymdrin â materion fel cyflogau cyfarwyddwyr a thaliadau eraill, trefniadau llywodraethu a’r dystysgrif a’r adroddiad archwilio. Mae’r swyddog cyfrifyddu wedi ei lofnodi a rhoi’r dyddiad arno.

Mae’r adroddiad atebolrwydd yn cynnwys tair prif ran, sef:

  1. Adroddiad llywodraethu corfforaethol, sy’n ymdrin â strwythurau llywodraethu’r Awdurdod Glo a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion yr Awdurdod Glo.

  2. Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff, sy’n cynnwys gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr a datgeliadau eraill cysylltiedig â staff sy’n ofynnol gan y Ddeddf Cwmnïau a ffynonellau llywodraethol eraill.

  3. Adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol, sy’n cynnwys datgeliadau ychwanegol sy’n ofynnol gan y senedd, a barn ar faterion fel rheoleidd-dra gwariant, ffïoedd a thaliadau a thueddiadau gwariant tymor hir. Mae’n cynnwys y dystysgrif a’r adroddiad archwilio.

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Mae’r adroddiad llywodraethu corfforaethol yn cynnwys tair prif ran, sef:

  1. Adroddiad y Cyfarwyddwyr, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o ddatgeliadau statudol nad ydynt wedi’u hamlinellu mewn mannau eraill yn yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.

  2. Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, sy’n amlinellu’n glir y cyfrifoldebau yr ymgymerir â nhw gan y swyddog cyfrifyddu enwebedig mewn perthynas â’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, a’r sail ddeddfwriaethol iddynt.

  3. Datganiad llywodraethu, sy’n esbonio cyfansoddiad a threfniadaeth bwrdd a strwythurau llywodraethu’r Awdurdod Glo a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion yr Awdurdod Glo.

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Mae’r Awdurdod Glo yn cyflwyno ei adroddiad a’i ddatganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Mae’r cyfrifon wedi cael eu paratoi ar ffurf a gyfarwyddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Trysorlys EM yn unol â pharagraff 15(1)(b) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 (“y Ddeddf”). Rhoddodd y swyddog cyfrifyddu ganiatâd i gyhoeddi’r datganiadau ariannol hyn ar y dyddiad ardystio gan y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol.

Swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau’r Awdurdod Glo

Amlinellwyd pwerau a swyddogaethau’r Awdurdod Glo mewn deddfwriaeth i ddechrau gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a Deddf Ymsuddiant 1991 (fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994). Gwnaethom ymgymryd â’n swyddogaethau ar 31 Hydref 1994.

Amlinellir y swyddogaethau hyn yn www.gov.uk/coalauthority ac maen nhw’n ymwneud â’r diwydiant glo a rheoli buddiannau a etifeddwyd o Gorfforaeth Glo Prydain, trwyddedu gweithrediadau glofaol, ymdrin ag ymsuddiant glofaol a darparu gwybodaeth.

Mae Deddf 1994 wedi cael ei diwygio ymhellach gan ddeddfwriaeth ddilynol, gan gynnwys Deddf Dŵr 2003 a Deddf Gwasanaethau Dŵr (yr Alban) 2005. Mae hyn wedi ymestyn pwerau’r Awdurdod Glo i atal neu leihau effaith gollwng dŵr llygredig o bwll glo ar unrhyw dir neu i gyrsiau dŵr.

Ymestynnodd Deddf Ynni 2011 bwerau’r Awdurdod Glo i ddefnyddio ei arbenigedd mewn cyd-destunau eraill nad ydynt yn lofaol, gan gynnwys gweithredu i warchod ansawdd dŵr rhag effeithiau dŵr mwynglawdd llygredig sy’n gollwng o fwyngloddiau segur, fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Adolygu gweithrediadau

Mae adroddiad y prif weithredwr yn crynhoi ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn a’r rhagolwg ar gyfer y dyfodol.

Rheoli risg cyllid

Mae’r datganiad llywodraethu yn amlinellu’r strwythurau llywodraethu rydym wedi’u defnyddio i fonitro a rheoli risg ac ymagwedd y bwrdd at reoli risg. Mae hefyd yn amlygu ac yn trafod y risgiau sylweddol a’r mesurau lliniaru sydd ar waith. Mae gennym system gref o reolaeth ariannol a rheoli risg ariannol yn weithredol. Nid oes gennym unrhyw fenthyciadau ac rydym yn dibynnu ar gymorth grant ac incwm arall i ariannu ein gofynion arian parod.

Felly, mae ein hamlygrwydd i risg hylifedd, credyd a llif arian parod yn lleiafsymiol. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau mewn sterling, felly nid oes amlygrwydd i risg arian cyfred. Nid ydym yn dal unrhyw asedau y mae symudiadau cyfradd llog yn effeithio arnynt yn uniongyrchol ac nid ydym ychwaith yn ymwneud ag unrhyw gyfrifyddu ar sail rhagfantoli.

Rydym yn dal rhai eitemau ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol sy’n cael eu gostwng gan ddefnyddio cyfraddau a bennir gan Drysorlys EM, sef darpariaethau, yn benodol. Mae Trysorlys EM yn amrywio’r cyfraddau gostyngol hyn o bryd i’w gilydd, a fydd yn effeithio ar y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol a’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr. Mae hyn wedi cael effaith gymharol isel yn 2020-21 (gostyngiad o £15 miliwn o gymharu â £96 miliwn yn 2019-20).

Datblygiadau yn y dyfodol

Mae ein datblygiadau a’n hamcanion ar gyfer y dyfodol wedi cael eu trafod mewn rhannau eraill o’r adroddiad blynyddol, gan gynnwys adroddiad y prif weithredwr ac adran risgiau strategol yr adroddiad ar berfformiad.

Gweithgareddau ymchwil a datblygu

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil a datblygu i wella effeithlonrwydd ein gweithrediadau ac, yn arbennig, i leihau cost net tymor hir trin dŵr mwynglawdd. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer ein sgil-gynhyrchion (er enghraifft, ocr haearn) a hyrwyddo’r defnydd o ddŵr mwynglawdd sy’n llifo trwy weithfeydd mwyngloddio segur fel ffynhonnell gwres geothermol ac ynni carbon isel.

Canghennau y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Nid oes gennym unrhyw ganghennau y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Rhoddion

Ni wnaethom unrhyw roddion gwleidyddol nac elusennol yn ystod y flwyddyn.

Cyfranogiad cyflogeion

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â staff ar draws y busnes, fel yr amlinellir yn yr adran ‘Ein pobl’.

Cyflogaeth

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae gennym bwyslais cryf ar amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r ymrwymiad hwn yn golygu bod penderfyniadau i benodi, gwobrwyo, hyfforddi, datblygu a dyrchafu yn cael eu gwneud ar sail sgiliau a galluoedd, gan gyfateb y rheiny i ofynion y swydd.

Rydym yn cefnogi ac yn dathlu gwahaniaeth ac yn gweithio i ddenu, datblygu a chynnal gweithlu mwy amrywiol. Rydym yn gwneud cynnydd ond yn gwybod bod mwy i’w wneud.

Rydym yn ceisio denu a chadw cyflogeion o safon uchel. Rhoddir blaenoriaeth uchel i gyfleoedd ar gyfer hyfforddi i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyfrannu at ei ddatblygiad gyrfaol ei hun.

Pensiynau a buddion eraill ar ôl ymddeol

Mae cyflogeion blaenorol a phresennol sydd wedi dewis ymuno wedi’u cwmpasu gan ddarpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr heb ei ariannu. Rhoddir y polisi cyfrifyddu yn nodyn 1 i’r cyfrifon a darperir rhagor o wybodaeth am y cynllun yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff.

Data personol

Nid oedd unrhyw achosion o fynediad diawdurdod at ddata a oedd yn adroddadwy i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ystod y flwyddyn. Mae’r datganiad llywodraethu’n rhoi rhagor o fanylion am ein gweithgareddau rheol risg gwybodaeth.

Tueddiadau gwariant tymor hir

Mae’r cyfarwyddwyr yn adolygu’r rhain yn rhan o’r adolygiad blynyddol o ddarpariaethau.

Archwilwyr

Penodwyd y Rheolwr a’r Archwilydd Cyffredinol o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 ac mae’n adrodd i’r senedd ar yr archwiliad. Y ffi archwilio oedd £65,000. Ni roddwyd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol i’n harchwilwyr am waith nad oedd yn ymwneud ag archwilio ac ni ddarparwyd unrhyw wasanaethau eraill.

Mynediad at wybodaeth a chwynion

A ninnau’n gorff cyhoeddus, mae’n ddyletswydd arnom i ateb ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).

Cawsom 76 o geisiadau (FOIA, EIR a Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Gwrthrych) yn ystod y flwyddyn ac atebwyd pob un o fewn y terfynau amser a’r safonau a osodwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, heblaw am un a atebwyd un diwrnod ar ôl y terfyn amser. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cadarnhau na fydd yn rhoi hysbysiad o benderfyniad mewn perthynas â hyn. Ni aeth unrhyw gais ymlaen at apêl.

Cawsom 28 o lythyrau gan Aelodau Seneddol, 3 gan Aelodau Senedd yr Alban a 2 gan Aelod o Senedd Cymru.

Cawsom 33 o gwynion gan aelodau’r cyhoedd a chwsmeriaid eraill. Ymdriniwyd â nhw o dan ein gweithdrefn gwyno ac fe’u datryswyd o fewn y sefydliad. Ni chyfeiriwyd yr un ohonynt at yr Ombwdsmon. Mae ein gweithdrefn gwyno ar gael ar ein gwefan.

Bwrdd y cyfarwyddwyr

Aelodau’r bwrdd a’u buddiannau

Nid oes gan unrhyw aelod o fwrdd yr Awdurdod Glo unrhyw fuddiant ariannol yn yr Awdurdod Glo. Cynhelir cofrestr buddiannau sydd ar gael i’r cyhoedd ei gweld yn ein swyddfeydd ym Mansfield neu yn www.gov.uk/coalauthority

Nid oedd unrhyw drafodion parti cysylltiedig mewn perthynas ag aelodau’r bwrdd yn 2020-21.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr

  • fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr o 1 Mehefin 2018

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Mehefin 2018 tan 31 Mawrth 2020

  • fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Paul Frammingham – Prif Swyddog Cyllid a Gwybodaeth

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2011 tan 31 Mawrth 2014

  • fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2017

  • fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2020

  • fe’i hailbenodwyd hyd at 31 Mawrth 2023

Carl Banton – Cyfarwyddwr Gweithrediadau

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 22 Mawrth 2021 tan 31 Mawrth 2023

Jeff Halliwell (o 1 Ebrill 2021) – Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2024

  • fe’i penodwyd yn Gadeirydd o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2024

Gemma Pearce – Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2016 tan 31 Mawrth 2019

  • fe’i hailbenodwyd tan 31 Mawrth 2022

Steve Wilson – Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2017 tan 31 Mawrth 2020

  • fe’i hailbenodwyd tan 31 Mawrth 2023

Jayne Scott – Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2022

Stephen Dingle (tan 31 Mawrth 2021) – Cyfarwyddwr Anweithredol

  • fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr y Bwrdd o 1 Mai 2008 tan fis Ebrill 2011

  • fe’i hailbenodwyd tan 31 Medi 2014

  • fe’i penodwyd yn Gadeirydd o 1 Ebrill 2013 tan 31 Mawrth 2017

  • fe’i hailbenodwyd tan 31 Mawrth 2020 (wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth 2021)

Datganiad o gyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu

O dan baragraff 15(1)(b) Atodlen 1 Deddf Diwydiant Glo 1994, mae’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Trysorlys EM, wedi cyfarwyddo’r Awdurdod Glo i baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a amlinellir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o gyflwr materion yr Awdurdod Glo a’i wariant net, ei sefyllfa ariannol, newidiadau i ecwiti trethdalwyr a llifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth ac, yn benodol:

  • dilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson

  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol

  • datgan p’un a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol, fel y’u hamlinellir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol

  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol

  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol i benderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae swyddog cyfrifyddu’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi dynodi’r prif weithredwr yn swyddog cyfrifyddu’r Awdurdod Glo.

Mae cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu’n atebol amdano, cadw cofnodion priodol a diogelu asedau’r Awdurdod Glo, wedi’u hamlinellu yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

A minnau’n swyddog cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylswn fod wedi’u cymryd i fod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i gadarnhau bod archwilwyr yr Awdurdod Glo yn ymwybodol o’r wybodaeth honno. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni.

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad llywodraethu hwn yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth sydd ar waith i sicrhau bod amcanion yr Awdurdod Glo yn cael eu cyflawni. Mae’n dod i’r casgliad bod y rhain yn effeithiol ac yn parhau i ddatblygu er mwyn rheoli risgiau’r Awdurdod Glo fel y gallwn barhau i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Fframwaith llywodraethu’r Awdurdod Glo

Rydym wedi ymrwymo i safonau uchel o lywodraethu corfforaethol. Rydym yn gweithio o fewn dogfen fframwaith y mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn ei hadolygu ac yn cytuno arni’n rheolaidd. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu diben yr Awdurdod Glo, elfennau craidd y berthynas â BEIS, a’r fframwaith y byddwn yn gweithredu o’i fewn. Ni fu unrhyw newidiadau i’r fframwaith hon yn 2020-21.

Mae gan yr Awdurdod Glo fframwaith llywodraethu sefydledig a ategir gan ddiwylliant sefydliadol priodol. Crynhoir hyn isod ac fe’i hesbonnir yn y datganiad hwn.

Effaith yr ymateb i COVID-19 ar y fframwaith llywodraethu

Tua diwedd mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i reoli lledaeniad y pandemig COVID-19. Cychwynnodd yr Awdurdod Glo ei gynllun parhad busnes a symudodd i weithio gartref yn bennaf ar unwaith.

Crëwyd Uwch Dîm Rheoli a oedd yn cynnwys y Tîm Arweinyddiaeth Weithredol a rhai penaethiaid adrannau i reoli ymateb yr Awdurdod Glo. Sicrhaodd hyn y gallem flaenoriaethu gweithgarwch i ddiogelu bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd, a chanolbwyntio ar gefnogi ein cwsmeriaid a lles ein timau. Mae’r Uwch Dîm Rheoli wedi parhau i weithredu drwy gydol y cyfnod. Roedd systemau a phrosesau llywodraethu wedi aros yn effeithiol a rhoddir mwy o fanylion yn yr adrannau canlynol.

1. Y bwrdd a’i bwyllgorau

1.1 Bwrdd y cyfarwyddwyr

Mae gan yr Awdurdod Glo fframwaith llywodraethu sefydledig a gefnogir gan fwrdd cyfarwyddwyr. Mae’r bwrdd yn gosod a chyfleu bwriad a chyfeiriad strategol, yn gwneud penderfyniadau strategol na ellir eu dirprwyo ac yn monitro a herio perfformiad busnes corfforaethol.

Drwy gydol y rhan fwyaf o 2020-21, roedd gan yr Awdurdod Glo 6 chyfarwyddwr (2 weithredol statudol a 4 anweithredol). Penodwyd Carl Banton (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) yn gyfarwyddwr gweithredol statudol ar 22 Mawrth 2021.

Ym mis Chwefror 2021, penodwyd ein Cadeirydd newydd, sef Jeff Halliwell, i olynu Stephen Dingle. Bydd cyfnod swyddogol Jeff fel Cadeirydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2021 a mynychodd gyfarfodydd y bwrdd ym mis Chwefror a mis Mawrth. Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol BEIS. Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a’u penodi i’r bwrdd gan yr Ysgrifennydd Gwladol BEIS. Mae’r bwrdd yn gosod a chyfleu bwriad a chyfeiriad strategol, yn gwneud penderfyniadau strategol na ellir eu dirprwyo ac yn monitro a herio perfformiad busnes corfforaethol.

Newidiom ein dull o gynnal cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor yng ngoleuni COVID-19, gan wneud y mwyaf o’r dechnoleg a oedd ar gael a chynnal cyfarfodydd trwy fideogynadledda o fis Mawrth 2020 ymlaen. Cynhaliom gyfarfodydd byrrach ac amlach (10 cyfarfod bwrdd a 6 chyfarfod o’r pwyllgor archwilio a risg yn 2020-21 o gymharu â 7 cyfarfod bwrdd a 3 chyfarfod o’r pwyllgor archwilio a risg yn 2019-20).

Dangosir aelodaeth a phresenoldeb y bwrdd a’i bwyllgorau yn y tabl isod.

Bwrdd (10) Archwilio (6) Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol (4) Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (1)
Stephen Dingle, Cadeirydd y Bwrdd
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
10 n/a[footnote 1] 4 1
Gemma Pearce, Cadeirydd y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
10 6 4 1
Steve Wilson, Cadeirydd y pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
10 6 4 1
Jayne Scott, Cadeirydd y pwyllgor Archwilio
(Cyfarwyddwr Anweithredol)
10 6 4 0
Lisa Pinney, Prif Weithredwr
(Cyfarwyddwr Gweithredol Statudol)
10 6 4 1
Paul Frammingham, Prif Swyddog Cyllid a Gwybodaeth
(Cyfarwyddwr Gweithredol Statudol)
9 6 4 n/a[footnote 1]
Carl Banton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau [footnote 2]
(Cyfarwyddwr Gweithredol Statudol)
1 n/a[footnote 1] 0 0

Roedd y cyfarwyddwr masnachol, y cyfarwyddwr strategaeth a pherfformiad, y cyfarwyddwr gweithrediadau (a benodwyd yn gyfarwyddwr strategol y bwrdd ym mis Mawrth 2021) a’r pennaeth cyfreithiol a llywodraethu wedi mynychu cyfarfodydd y bwrdd trwy wahoddiad. Mae uwch reolwyr eraill yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd i gyflwyno papurau ac ymuno â thrafodaethau strategol ac ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu.

1.2 Perfformiad y bwrdd

Cydymffurfio â’r cod llywodraethu corfforaethol

Rydym yn cydymffurfio â’r cod llywodraethu corfforaethol yn adrannau’r llywodraeth ganolog a chanllawiau’r llywodraeth i’r graddau eu bod yn berthnasol ac yn ymarferol i gorff hyd braich o’n maint a’n cymhlethdod ni. Yn unol â’n Dogfen Fframwaith BEIS:

  • mae’r bwrdd yn monitro perfformiad yr Awdurdod Glo mewn modd effeithiol, gan gynnwys trwy gyflawni rôl weithredol wrth reoli’r berthynas â rhanddeiliaid

  • mae’r bwrdd yn herio’n adeiladol ac yn helpu i ddatblygu strategaeth, a gefnogir gan arweinyddiaeth effeithiol y cadeirydd sy’n goruchwylio trafodaethau a dadleuon o safon uchel mewn cyfarfodydd

  • i’w helpu i wneud penderfyniadau, mae’r bwrdd yn cael gwybodaeth gywir, brydlon a chlir sy’n gryno ac yn addas i’r diben, gan gynnwys diweddariadau mynych ar sefyllfa ariannol, rhagolygon a chyflawniadau’r Awdurdod Glo yn erbyn amcanion corfforaethol

  • mae’r bwrdd yn sicrhau bod asesiad cytbwys a rhesymol o berfformiad yn cael ei adrodd i BEIS ac mae’n trafod y prif risgiau sy’n wynebu’r Awdurdod Glo yn rheolaidd. Trwy ei bwyllgorau archwilio, mae’r bwrdd yn cynnal systemau rheoli risg a rheolaeth fewnol cadarn

  • mae’r bwrdd yn adolygu trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Glo bob blwyddyn, gan gynnwys y cylch gorchwyl ar gyfer ei is-bwyllgorau

  • mae gan y bwrdd gydbwysedd priodol o sgiliau a phrofiad i’w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau’n effeithiol

  • mae’r pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol yn cytuno ar gydnabyddiaeth ariannol swyddogion gweithredol o fewn y canllawiau a osodir gan Drysorlys EM a BEIS. Mae cydnabyddiaeth ariannol swyddogion anweithredol yn cael ei gosod gan BEIS a’i hadolygu’n flynyddol

Adolygiad o berfformiad ac effeithiolrwydd y bwrdd

Mae’r bwrdd yn gwerthuso ei berfformiad ei hun a pherfformiad ei gyfarwyddwyr yn rheolaidd. Mae perfformiad pob aelod o’r bwrdd yn cael ei arfarnu’n flynyddol.

Mae’r bwrdd yn ymgymryd â sesiynau datblygu rheolaidd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y bwrdd i fyfyrio ar agweddau allweddol ar ei waith. Fel arfer, mae aelodau’r bwrdd yn ymweld â safleoedd i weld gwaith yr Awdurdod Glo drostynt eu hunain, ond ni fu’n bosibl gwneud hyn fel bwrdd eleni oherwydd cyfyngiadau teithio’r llywodraeth. Pan oedd angen a phan oedd y cyfyngiadau’n caniatáu, cynhaliodd aelodau bwrdd unigol ymweliadau safle COVID-ddiogel. Ym mis Medi a mis Rhagfyr 2020, cynhaliodd y bwrdd sesiynau strategaeth i adolygu cynnydd yn unol â’i gynllun busnes ac adolygu blaenoriaethau strategol y sefydliad ar gyfer y cyfnod cynllunio busnes nesaf.

Ymgymerodd y bwrdd â sesiwn werthuso a hwyluswyd yn allanol ddiwethaf yn ystod mis Ionawr 2020 i gynyddu ei ddealltwriaeth o ddewisiadau gwaith aelodau unigol y bwrdd er mwyn hwyluso gwaith tîm mwy effeithiol fyth, a deall cryfderau cyfunol y bwrdd a’i feysydd i’w datblygu. Mae’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiad hwn wedi cael ei roi ar waith yn ystod cyfarfodydd bwrdd drwy gydol y cyfnod. Yn ystod mis Ebrill 2021, cynhaliwyd sesiwn gyda’r un hwylusydd i archwilio sut gallai’r cadeirydd newydd effeithio ar gydbwysedd y bwrdd o ran dewisiadau gwaith a’i gryfderau cyfunol.

Mae’r bwrdd o’r farn ei fod wedi cyflawni ei amcanion yn sylweddol a’i fod wedi parhau i weithredu’n effeithiol yn ystod 2020-21. Mae’r bwrdd o’r farn bod adolygu ei berfformiad a’i amcanion yn rheolaidd yn werth chweil, a bod hyn yn sicrhau eu bod yn aros yn gyfredol.

1.3 Pwyllgorau’r bwrdd

Cefnogir y bwrdd gan ei bwyllgorau, fel yr amlinellir isod:

Pwyllgor archwilio a sicrhau risg

Mae aelodau pwyllgor archwilio a sicrhau risg (ARAC) yr Awdurdod Glo yn cynnwys yr holl gyfarwyddwyr anweithredol heblaw am gadeirydd y bwrdd. Mae’r prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth a’r pennaeth cyllid yn mynychu cyfarfodydd trwy wahoddiad. Mae uwch reolwyr eraill yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor i gyflwyno papurau ac ymuno â thrafodaethau. Yn ogystal, arsylwyd 2 gyfarfod pwyllgor ar wahân gan aelodau ARAC BEIS, gan gynnwys ei gadeirydd. Yn ystod 2020-21, cadeiriwyd y pwyllgor archwilio a sicrhau risg gan Jayne Scott.

Yn ystod 2020, adolygodd y pwyllgor ei gylch gwaith i adlewyrchu goruchwyliaeth y pwyllgor o brosesau rheoli risg yn well, a chytunodd y bwrdd y dylai’r pwyllgor newid ei deitl o’r pwyllgor archwilio i’r pwyllgor archwilio a sicrhau risg. Mae’r pwyllgor yn sicrhau ein bod yn gweithredu systemau rheoli risg a rheolaeth effeithiol ac integredig fel bod y lefel sicrwydd gyffredinol yn ddigonol. Mae’n adolygu strategaeth a chanlyniadau archwilio allanol, yn argymell cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, ac yn goruchwylio’r swyddogaeth archwilio mewnol a ddarperir gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA). Cyfarfu’r pwyllgor 6 gwaith yn ystod y flwyddyn a chynhaliodd weithdy ychwanegol a ganolbwyntiodd ar sicrhau risg.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y pwyllgor:

  • adolygu a gwneud sylwadau ar y fframwaith rheoli a sicrhau risg newydd

  • adolygu strategaeth a chynllun gweithredu’r Awdurdod Glo ar gyfer atal twyll

  • parhau i ganolbwyntio ar risg adroddiadau ariannol ac adolygu ein polisïau cyfrifyddu, gan gynnwys adolygu dyfarniadau o bwys a wnaed wrth baratoi’r cyfrifon a thybiaethau sy’n sail i’n balans darpariaethau

  • asesu’r amgylchedd rheoli cyffredinol ar gyfer adrodd i’r bwrdd a’r swyddog cyfrifyddu

  • derbyn diweddariadau rheolaidd ar waith yr Awdurdod Glo i reoli risgiau seiber

  • adolygu gwaith archwilio mewnol arall a wnaed gan GIAA, gan gynnwys:

    • Rheolaethau / Cymeradwyaethau Cyllid Sicrwydd COVID-19

    • Diogelwch Cyhoeddus (Archwiliadau Safle)

    • Iechyd a Diogelwch

    • Gwybodaeth a data mwyngloddio

Yn unol â’r flwyddyn flaenorol, roedd y farn archwilio mewnol ar gyfer 2020-21 yn cynnig lefel ‘sylweddol’ o sicrwydd i reolwyr ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, trefniadau rheoli risg a rheolaethau mewnol y sefydliad. Mae hyn yn dilyn cyfres o adolygiadau archwilio mewnol cryf yn ystod y flwyddyn.

Ni amlygodd archwiliadau mewnol unrhyw ganfyddiadau o bwys yn ystod y flwyddyn, ac mae argymhellion i wella rheolaethau mewn meysydd penodol wedi cael eu mabwysiadu fel y bo’n briodol.

Y pwyllgor Adnoddau Dynol (AD) a Chydnabyddiaeth Ariannol

Mae aelodaeth y pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys 4 cyfarwyddwr anweithredol a’r prif weithredwr. Cadeirir y pwyllgor gan Gemma Pearce. Mae’r cyfarwyddwr strategaeth a pherfformiad, ac aelodau eraill o’r tîm arweinyddiaeth weithredol, yn mynychu cyfarfodydd trwy wahoddiad.

Mae’r pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol wedi cyfarfod 4 gwaith yn ystod y flwyddyn ac wedi parhau i gynorthwyo’r Awdurdod Glo i wella gallu’r sefydliad i fodloni gofynion busnes yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y pwyllgor:

  • adolygu dosbarthiad Adolygiadau Perfformiad a Datblygiad (PDR) ar gyfer 2019-20 i sicrhau bod tâl cysylltiedig â pherfformiad yn cael ei ddosbarthu’n deg

  • adolygu egwyddorion y cylch gwaith tâl cyn eu cyflwyno i’r llywodraeth

  • trafod yr ymagwedd at adolygiadau perfformiad sefydliadol a staff yng ngoleuni’r pandemig COVID-19

  • adolygu a gwneud sylwadau ar yr adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

  • trafod ac adolygu cynigion ar gyfer newidiadau sefydliadol i’r strwythur

  • derbyn diweddariadau rheolaidd ar fentrau strategol allweddol a metrigau AD a dysgu a datblygu, fel gwaith ar amrywiaeth a chynhwysiant, ymgynefino a recriwtio dienw

  • ystyried sut r oedd newidiadau i ffyrdd o weithio a ysgogwyd gan weithio o bell a chychwyn cynllun parhad busnes yr Awdurdod Glo yn effeithio ar les staff a pherfformiad sefydliadol

Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd

Cadeirir y Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd gan Steve Wilson. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys y prif weithredwr, y cyfarwyddwr gweithrediadau, pennaeth yr amgylchedd, y pennaeth diogelwch cyhoeddus ac ymsuddiant a’r pennaeth diogelwch, iechyd a’r amgylchedd.

Adolygwyd cylch gorchwyl ac aelodaeth y pwyllgor eleni i sicrhau bod y pwyllgor yn cynnal goruchwyliaeth strategol ar yr agenda amgylcheddol/cynaliadwyedd yn ogystal â’r agenda iechyd, diogelwch a lles. Ei brif gyfrifoldebau yw goruchwylio strategaeth diogelwch, iechyd a’r amgylchedd a chynaliadwyedd yr Awdurdod Glo, sicrhau bod diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol wedi’i ymwreiddio yn y sefydliad drwyddo draw a chynghori’r bwrdd ar faterion diogelwch, iechyd a’r amgylchedd i gefnogi’r cynllun busnes. Mae’r pwyllgor diogelwch, iechyd a’r amgylchedd yn adolygu gwybodaeth fanwl am iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd i gael sicrwydd ynglŷn â sut mae’r sefydliad yn perfformio ac i osod y blaenoriaethau.

Mae’r pwyllgor wedi cyfarfod unwaith yn ystod y flwyddyn ac wedi ystyried:

  • yr adolygiad rheoli blynyddol sy’n rhoi sicrwydd ynglŷn ag addasrwydd, digonolrwydd ac effeithiolrwydd y system ar gyfer rheoli diogelwch, iechyd a’r amgylchedd ac amcanion arfaethedig ar gyfer y dyfodol i alluogi gwelliant parhaus

  • yr adolygiad iechyd meddwl a lles

  • diweddariad ar berfformiad sefydliadol a mentrau strategol allweddol yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles

  • rheolaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd

  • mabwysiadu arferion gwaith COVID-ddiogel cadarn, a chadw atynt

Fel yr amlinellwyd uchod, cyfarfu’r bwrdd yn amlach yn ystod y cyfnod i ymateb i COVID-19. Ystyriodd y bwrdd amcanion cynaliadwyedd ac effaith COVID-19 ar ddiogelwch, iechyd a lles yn ystod y flwyddyn hefyd.

2. Rheoli perfformiad – y tîm arweinyddiaeth weithredol

Roedd y tîm arweinyddiaeth weithredol yn cynnwys y prif weithredwr, y prif swyddog cyllid a gwybodaeth, y cyfarwyddwr strategaeth a pherfformiad, y cyfarwyddwr gweithrediadau, y cyfarwyddwr masnachol a’r pennaeth cyfreithiol a llywodraethu, a oedd oll yn adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwr yn 2020-21. Mae pob aelod o’r tîm arweinyddiaeth weithredol yn gyfrifol am arweinyddiaeth a chyflawniad ei gyfarwyddiaeth, ond maen nhw hefyd yn gyfrifol, gyda’i gilydd, am arweinyddiaeth a chyflawniad ar draws y sefydliad. Mae 2 bennaeth adran yn ymuno â’r tîm arweinyddiaeth weithredol i fynychu cyfarfodydd fel cyfle datblygu ar rota 6 misol.

Mae patrymau cyfarfod y tîm arweinyddiaeth weithredol eleni wedi ymateb i’r anghenion busnes newidiol a ysgogwyd gan y pandemig a chynnal busnes o bell. Mae gan y cyfarfodydd agenda dreigl ffurfiol sy’n ystyried pob agwedd ar waith y sefydliad. Yn ogystal, mae’r cyfarfod yn ystyried adroddiad diweddariad misol y prif weithredwr sy’n darparu lefel uchel o oruchwyliaeth ar sut mae’r busnes yn cyflawni yn ei gyfanrwydd.

Mae’r adroddiad hwn fel arfer yn cynnwys:

  • diweddariadau gan bob cyfarwyddiaeth

  • adolygiad o berfformiad sefydliadol

  • adroddiad crynodeb ariannol

  • adolygiad o symudiadau yn erbyn risgiau corfforaethol yr Awdurdod Glo

  • gwybodaeth am ein pobl ac iechyd, diogelwch a lles ein pobl, ein cyflenwyr a’r cyhoedd

Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, cynullwyd uwch dîm rheoli ychwanegol (yn cynnwys y tîm arweinyddiaeth weithredol a phenaethiaid adrannau allweddol eraill) ar ddiwedd mis Mawrth 2020 i oruchwylio ymateb yr Awdurdod Glo i COVID-19 a chynllun parhad busnes y sefydliad yn ofalus.

3. Rheolaeth ariannol

Mae gan yr Awdurdod Glo system reolaeth ariannol gref wedi’i seilio ar lefelau awdurdod dirprwyedig a ddiffiniwyd yn dda a fframwaith cyllidebol eglur. Mae’r system hon yn parhau i fod yn effeithiol ac ni nodwyd unrhyw faterion rheoli o bwys gan archwiliad mewnol nac allanol yn ystod y flwyddyn.

Mae materion a gadwyd ar gyfer y bwrdd wedi’u hamlinellu’n glir yn y fframwaith rheolaeth strategol ac mae canllawiau manwl pellach ynglŷn â pholisïau, gweithdrefnau a lefelau awdurdod dirprwyedig wedi’u cyhoeddi ac ar gael i’r staff.

Mae’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn rhan allweddol o’n fframwaith rheolaethau ariannol ac mae ganddo awdurdod dirprwyedig gan y prif weithredwr i gymeradwyo gwariant cyfalaf, rhaglenni allweddol, prosiectau a chyfleoedd masnachol, ar yr amod:

  • eu bod yn unol â strategaeth yr Awdurdod Glo, fel y’i hamlinellir yn ei gynllun busnes 5 mlynedd a gytunwyd gan y bwrdd

  • eu bod o fewn parodrwydd y bwrdd i dderbyn risg

  • nad ydynt yn faterion sydd wedi’u neilltuo i un o adrannau’r llywodraeth

  • eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau eraill y llywodraeth sy’n berthnasol i’r Awdurdod Glo

Pan fydd rhaglenni a phrosiectau wedi cael eu cymeradwyo gan y bwrdd buddsoddi a chyfleoedd, cânt eu goruchwylio gan fwrdd rhaglen perthnasol ac mae’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd yn cael diweddariadau rheolaidd ac yn darparu goruchwyliaeth bellach fel y bo’r angen.

Yn rhan o’n fframwaith rheoli ariannol, rydym yn cynnal adolygiad blynyddol manwl o’n darpariaethau ar gyfer rhwymedigaeth sy’n deillio o fwyngloddio yn y gorffennol. Mae ein timau busnes yn dilysu tybiaethau allweddol ac yn diwygio amcangyfrifon sy’n bwydo i mewn i’r balans hwn ar sail y wybodaeth ddiweddaraf.

Dilynir hyn gan adolygiad cynhwysfawr a her gan ein tîm cyllid ac aelodau o’r tîm arweinyddiaeth weithredol, a chyflwynir dadansoddiad o’r hyn sy’n sbarduno ein balans darpariaethau a symudiadau allweddol i’r pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae allbynnau o’r model darpariaethau yn bwydo i mewn i’n datganiadau ariannol blynyddol (gweler nodyn 13 i’r cyfrifon) yn ogystal â darparu fframwaith ar gyfer ein trefniadau manwl ar gyfer gosod y gyllideb a chynllunio busnes tymor canolig.

4. Rheoli risgiau

4.1 Dulliau rheoli a diwylliant risg sydd wedi’u hymsefydlu

Gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar wella ein prosesau a’n diwylliant rheoli a sicrhau risg yn barhaus ar hyd y flwyddyn. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys pwyslais ar fapio sicrwydd ein risgiau ac ailystyried a diwygio datganiad y bwrdd ynglŷn â pharodrwydd i dderbyn risg. Mae’r fframwaith rheoli a sicrhau risgiau (RMAF) newydd yn cael ei gyflwyno ar draws pob cyfarwyddiaeth, a chefnogir hyn trwy benodi rheolwr risg. Mae tystiolaeth o’n dulliau rheoli a’n diwylliant risg sydd wedi’u hymsefydlu yn cynnwys:

  • ymagwedd at reoli risg sydd wedi bod yn effro i’r heriau newydd a gyflwynir gan COVID-19, wedi’i chefnogi gan allbwn gweithdy risg COVID a hwyluswyd gan GIAA

  • pwyslais y bwrdd ar strategaeth a risgiau allweddol

  • adolygiad o barodrwydd y bwrdd i dderbyn risg ym mis Tachwedd 2020

  • rhyngweithio byw parhaus rhwng ein rheolwyr, aelodau’r tîm arweinyddiaeth weithredol ac aelodau’r bwrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o risg

  • prosesau sy’n sicrhau, yn unol â’n fframwaith rheoli strategol, bod unrhyw fater neu brosiect sydd y tu hwnt i barodrwydd y bwrdd i dderbyn risg yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan y bwrdd ar gyfer penderfyniad

  • cofrestr risgiau sy’n gyfredol, yn cael ei gymeradwyo gan reolwyr bob tri mis ac yn destun archwiliad cyfnodol gan y pwyllgor archwilio, y tîm arweinyddiaeth weithredol a’r tîm busnes

  • gweithredu’r RMAF yn barhaus i sicrhau bod prosesau rheoli risg yn gyson, yn gymesur ac yn gweithio’n effeithiol

  • bwrdd buddsoddi a chyfleoedd sy’n sicrhau bod achosion busnes ar gyfer prosiectau yn rhoi ystyriaeth ddigonol i risgiau allweddol yng nghyd-destun y parodrwydd i dderbyn risg

  • cofrestr risgiau sy’n gyfredol, yn cael ei gymeradwyo gan reolwyr bob tri mis ac yn destun archwiliad cyfnodol gan y pwyllgor archwilio, y tîm arweinyddiaeth weithredol a’r tîm busnes

  • pwyslais parhaus y tîm arweinyddiaeth weithredol ar faterion strategol a risgiau allweddol yn ymwneud â diwylliant, capasiti a chymhwysedd ein sefydliad

  • achosion busnes sy’n cynnwys gwybodaeth am barodrwydd i dderbyn risg

4.2 Sicrwydd gwybodaeth a seiberddiogelwch

Nid yw’r Awdurdod Glo yn dal gwybodaeth dra chyfrinachol na chyfrinachol, ac mae’r risg gwybodaeth gynhenid i’r llywodraeth trwy’r Awdurdod Glo yn gymharol isel. Mae’r uwch berchennog risg gwybodaeth (y prif swyddog cyllid a gwybodaeth) yn aelod o’r bwrdd ac yn sicrhau bod rheolaethau cymesur yn cael eu rhoi ar waith i reoli risg gwybodaeth yn unol â pharodrwydd y bwrdd i dderbyn risg.

Yn rhan o’n hymateb i COVID-19 a newidiadau i’n ffyrdd o weithio, rydym wedi parhau i gynnal cydbwysedd gofalus, gan sicrhau bod ein gwybodaeth yn ddiogel ac ar gael ar yr un pryd â bodloni gofynion y busnes.

Mae gennym bolisïau priodol ar gyfer asesu risgiau, rheoli risg gwybodaeth a diogelu data, yn ogystal â chofrestr asedau gwybodaeth. Eleni, rydym wedi cwblhau hunanasesiad Gwiriad Iechyd Ysgafn Adrannol y llywodraeth ar Ddiogelwch, a ddilyswyd gan sefydliad annibynnol. Ni amlygwyd unrhyw fylchau arwyddocaol mewn rheolaeth.

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal ystod o ymgyrchoedd cyfathrebu sydd wedi parhau i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch gwybodaeth a gwella dealltwriaeth ein staff o risgiau seiber. Eleni, rydym hefyd wedi lansio platfform rhyngweithiol ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch a gwrth-dwyll i ganiatáu i ni gyflwyno pytiau o wybodaeth dargedig i gydweithwyr.

Rydym wedi parhau i wella ein rheolaethau technegol ac mae strategaeth diogelwch technegol o gryfder trwy ddyfnder wedi bod yn effeithiol wrth atal bygythiadau. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion arwyddocaol o dorri diogelwch neu bolisïau neu golli gwybodaeth bersonol a ddiogelir yn ystod y flwyddyn.

4.3 Asesu risgiau

Amlinellir y risgiau allweddol y bydd angen i ni eu rheoli i gyflawni ein cynlluniau yn yr adran risgiau strategol o’r adroddiad ar berfformiad. Rydym yn parhau i reoli’r risgiau hyn yn ofalus. Rhoddir esboniad pellach o’r risgiau a’r mesurau rheoli yn yr adroddiad ar berfformiad.

Nid ydym yn ceisio dileu risgiau na dilyn cyfleoedd heb sicrhau bod risgiau’n cael eu hystyried a’u rheoli. Mae cyfeirio’n benodol at ein parodrwydd i dderbyn risg yn caniatáu i ni ddefnyddio iaith gyffredin ar draws yr Awdurdod Glo a datblygu fframwaith sy’n galluogi rheolwyr i wneud penderfyniadau hyderus ar sail risgiau.

Mae’n ofynnol i’r parodrwydd i dderbyn risg gael ei nodi ym mhapurau’r bwrdd a’r bwrdd buddsoddi a chyfleoedd. Mae deall y cysyniad o barodrwydd i dderbyn risg yn parhau i gael ei hyrwyddo trwy hyfforddi a sgyrsiau byw, amser real gyda rheolwyr.

5. Ystyriaethau eraill

5.1 Adolygiad treth Alexander

Mae’r Awdurdod Glo wedi cydymffurfio â’r gweithdrefnau oddi ar y gyflogres yn adolygiad treth Alexander yn unol â gofynion Trysorlys EM i sicrhau bod unrhyw staff oddi ar y gyflogres yn talu’r swm priodol o dreth incwm ac yswiriant gwladol.

5.2 Adolygiad MacPherson (2013) o sicrhau ansawdd

Ar hyn o bryd, nid yw’r Awdurdod Glo yn gweithredu unrhyw fodelau dadansoddol sy’n allweddol i fusnes, fel y’u diffinnir yn adolygiad MacPherson (2013).

5.3 Gwrth-dwyll (gan gynnwys gwrth-lwgrwobrwyo, gwrth-lygredd) a chwythu’r chwiban

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd tryloyw ac mae gennym fframwaith polisi cadarn sy’n cynnwys polisïau clir ar gyfer gwrth-dwyll (sy’n cynnwys llwgrwobrwyo a llygredd) a chwythu’r chwiban clir. Mae pob polisi’n rhoi arweiniad i’r staff a thynnir sylw atynt yn rhan o’r broses sefydlu. Adolygir y ddau bolisi’n flynyddol i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn eglur, ac yna rhoddir brîff i’r staff arnynt ac fe’u cyhoeddir ar ein mewnrwyd.

Mae asesu gweithgarwch ac adborth yn cadarnhau y deëllir y polisïau’n dda a’u bod yn effeithiol ac yn hawdd eu defnyddio. Mae’r bwrdd wedi ymrwymo’n arbennig i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso, eu cefnogi a’u diogelu os bydd angen iddynt fynegi unrhyw bryderon.

5.4 Atal caethwasiaeth fodern

Mae pob contract yn cael ei asesu yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ganolog ar atal caethwasiaeth fodern ac i amlygu contractau ar gyfer gwasanaethau neu ddeunyddiau mewn sectorau risg uchel. Ar gyfer y contractau hyn, ceisir sicrwydd ychwanegol gan gyflenwyr a’u cadwyn gyflenwi i wneud yn siŵr bod y llafur a’r deunyddiau’n cael eu trefnu yn unol ag arfer gorau.

6. Amgylchedd rheoli cadarn sy’n gwella’n barhaus

Er gwaethaf newidiadau arwyddocaol yn y ffordd y mae’r sefydliad wedi gweithio yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i COVID-19, parhaodd systemau a phrosesau llywodraethu i fod yn effeithiol ac mae gweithgareddau allweddol yr Awdurdod Glo wedi parhau ar hyd y flwyddyn. Mae gwaith gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) wedi rhoi sicrwydd “sylweddol” bod prosesau rheoli ariannol a chymeradwyo allweddol wedi parhau i fod yn effeithiol a bod ein pobl wedi cael eu cefnogi i weithio gartref yn ddiogel.

Oherwydd COVID-19 a digwyddiad brys yn Sgiwen yng Nghymru, bu’n rhaid ffurfio timau uwch reoli i reoli ein hymateb ar sail tebyg i gynllun parhad busnes. Bu’r ymagwedd hon yn effeithiol yn y ddau achos.

Er gwaethaf yr heriau hyn yn ystod 2020-21, rydym wedi parhau i weithio i wella ein prosesau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg i sicrhau eu bod yn dryloyw, yn hawdd eu defnyddio ac yn addas i’r diben.

Byddwn yn parhau i adolygu ac esblygu ein hamgylchedd rheoli i sicrhau ei fod yn aros yn gymesur ac yn effeithiol wrth i’r amgylchedd allanol a’n sefydliad barhau i newid.

7. Effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli

Mae’r system llywodraethu a rheoli risg wedi’i dylunio i reoli risg i lefel resymol yn hytrach na dileu pob risg o fethiant i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion. Felly, gall roi sicrwydd rhesymol yn unig o effeithiolrwydd yn hytrach na sicrwydd llwyr.

Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith yn yr Awdurdod Glo ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 ac, fel y dangoswyd, hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Yn seiliedig ar holl elfennau fframwaith llywodraethu’r Awdurdod Glo a ddangosir yn y diagram, rwyf yn fodlon bod trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yr Awdurdod Glo yn parhau i fod yn gymesur, yn addas i’r diben ac yn gweithio fel y bwriadwyd.

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff

Cyflwyniad

Paratowyd yr adroddiad hwn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y llywodraeth. Gwneir yr adroddiad gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y bwrdd ar sail argymhellion y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol. Yn rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae’r adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff yn rhoi gwybodaeth allweddol ynglŷn â chyflogau a thaliadau eraill, unrhyw daliadau ymadael neu ddyfarniadau eraill o bwys i uwch reolwyr presennol neu flaenorol. Mae hefyd yn cynnwys polisïau penodol ar gyflogau a materion ehangach, a datgeliad statudol yn ymwneud â materion fel cyflog teg a chyflogi oddi ar y gyflogres.

Mae’r tablau a’r adrannau canlynol yn yr adroddiad hwn yn destun archwiliad:

  • cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr anweithredol

  • cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol

  • hawliadau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol

  • nifer gyfartalog yr unigolion a gyflogir

  • costau staff a chostau cysylltiedig

  • adrodd am gynlluniau’r gwasanaeth sifil a chynlluniau iawndal eraill

  • lluosrifau cyflogau

Y pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol

Fel yr esboniwyd yn y datganiad llywodraethu, mae gan yr Awdurdod Glo bwyllgor Adnoddau Dynol (AD) a Chydnabyddiaeth Ariannol sefydledig. Mae’r pwyllgor hwn yn penderfynu ar y strategaeth cyflogau a gwobrwyon ar gyfer holl staff yr Awdurdod Glo, a’i hadolygu’n barhaus, ac mae’n cymeradwyo egwyddorion y cylch gorchwyl cyflogau i’w gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae cylch gorchwyl y pwyllgor yn pennu na chaiff y prif weithredwr fod yn bresennol pan ystyrir ei gydnabyddiaeth ariannol a’i amodau cyflogaeth.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y cyfarwyddwyr gweithredol

Mae cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol yn dilyn canllawiau’r uwch wasanaeth sifil. Mae’r pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol yn adolygu ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwyr gweithredol, gan gynnwys y prif weithredwr, a bennir yn ffurfiol gan BEIS. Dilynodd y pwyllgor ganllawiau’r uwch wasanaeth sifil a dyfarnodd gynnydd o 2% ar gyfartaledd i gyflogau cyfarwyddwyr gweithredol o 1 Ebrill 2020.

Adolygiadau datblygu perfformiad

Mae’r cyfarwyddwyr gweithredol yn cymryd rhan yn ein proses adolygiadau datblygu perfformiad. Mae’r prif weithredwr a’r cadeirydd yn gwneud asesiadau unigol ac fe’u hadolygir gan y pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol. Mae arfarnu perfformiad unigol wedi’i seilio ar gyflawni amcanion ac ymddygiadau diffiniedig sy’n cael eu hasesu yn unol â 3 sgôr perfformiad.

Tâl cysylltiedig â pherfformiad (PRP)

Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad yn anghytundebol ac yn amhensiynadwy, ac mae’n amodol ar gymeradwyaeth flynyddol gan BEIS trwy’r broses cylch gorchwyl cyflogau. Cymeradwywyd y cylch gorchwyl cyflogau ar gyfer 2020-21 gan BEIS ym mis Rhagfyr 2020.

Enillir tâl cysylltiedig â pherfformiad ar sail dyfarniad corfforaethol, sy’n adlewyrchu perfformiad corfforaethol ac unigol yn erbyn amcanion. Aseswyd perfformiad corfforaethol ar gyfer 2020-21 gan y bwrdd ar 90% ac mae tâl cysylltiedig â pherfformiad wedi cael ei gronni yn unol â hynny.

Rheoliadau’r Undebau Llafur (Gofynion Cyhoeddi Amser Cyfleuster)

O dan y rheoliadau uchod, mae’n ofynnol i’r Awdurdod Glo roi manylion amser undebau llafur. Ar gyfer 2020-21, nid oes unrhyw weithgarwch i’w adrodd.

Trosiant staff

Gadawodd ddau ar hugain o gyflogeion y sefydliad yn ystod y flwyddyn, sef canran o 8.34%, o gymharu â chanran o 12.46% yn 2019-20. Mae’n anodd dod i gasgliadau wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn gan fod COVID-19 a chyfyngiadau cysylltiedig yn debygol o fod wedi dylanwadu’n drwm ar 2020-21. Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad ar berfformiad, roedd ein hymateb i COVID-19 wedi canolbwyntio’n sylweddol ar iechyd a lles cyflogeion.

Absenoldeb Staff oherwydd Salwch

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn oedd 3.2 o ddiwrnodau o gymharu â 7.7 o ddiwrnodau yn 2019-20. Priodolir y gostyngiad hwn i lai o achosion o salwch tymor hir a hefyd llai o ddiwrnodau salwch ad hoc gan fod cyflogeion yn parhau i weithio gartref yn unol â chanllawiau’r llywodraeth mewn perthynas â COVID-19. Roedd trosglwyddo afiechydon heintus fel annwyd/ffliw, sy’n cyfrif am gyfran uchel o’r holl absenoldeb ad hoc, wedi lleihau’n sylweddol yn ystod 2020-21.

Contractau cyfarwyddwyr gweithredol

Ein polisi yw y dylai cyfarwyddwyr gweithredol gael contractau cyflogaeth gyda thymor amhenodol sy’n darparu ar gyfer 6 mis o rybudd.

Dangosir manylion contractau cyflogaeth y cyfarwyddwyr gweithredol isod:

Lisa Pinney MBE

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

  • 1 Mehefin 2018

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Paul Frammingham

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

  • 6 Mai 2008

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Carl Banton [footnote 3]

Dyddiad gwasanaeth parhaus:

5 Ionawr 2004

Hawl i gyfnod rhybudd:

  • 6 mis

Mae’n ofynnol i’r prif weithredwr roi 6 mis o rybudd, ac mae’n ofynnol i’r cyfarwyddwyr gweithredol sy’n weddill roi 3 mis o rybudd.

Cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr anweithredol

Ers mis Gorffennaf 2016, penodwyd cyfarwyddwyr anweithredol gan BEIS. Rhwng mis Hydref 2008 a mis Mehefin 2016, fe’u penodwyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. BEIS sy’n penderfynu ar eu telerau cyflogaeth a’u cydnabyddiaeth ariannol bellach. Nid ydynt yn gymwys i gymryd rhan yn y cynlluniau pensiwn nac i gael tâl cysylltiedig â pherfformiad.

Dangosir y ffïoedd a dalwyd i’r cyfarwyddwyr anweithredol isod:

Dyddiad diwedd y contract 2020-21
£
2019-20
£
Jeff Halliwell [footnote 4] 31 Mawrth 2024 2,818 -
Stephen Dingle [footnote 4] 31 Mawrth 2021 27,050 27,050
Gemma Pearce 31 Mawrth 2022 11,666 11,666
Steve Wilson 31 Mawrth 2023 11,666 11,666
Jayne Scott 31 Mawrth 2022 11,666 11,666

Cydnabyddiaeth ariannol cyfarwyddwyr gweithredol

2020-21
Cyflog £000
2019-20
Cyflog £000
2020-21
Lwfans £000
2019-20
Lwfans £000
2020-21
PRP £000
2019-20
PRP £000
2020-21
Buddion pensiwn £000
2019-20
Buddion pensiwn £000
2020-21
Cyfanswm £000
2019-20
Cyfanswm £000
Lisa Pinney MBE 135-140 135-140 - - 15-20 15-20 54 53 205-210 205-210
Paul Frammingham 90-95 90-95 10-15 10-15 10-15 10-15 39 38 155-160 155-160
Carl Banton [footnote 5] 0-5 - 0-5 - 0-5 - 2 - 5-10 -
Lisa Stanger [footnote 6] - 150-155 - 15-20 - - - 35 - 205-210

Mae cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwyr gweithredol yn cynnwys cyflog, tâl cysylltiedig â pherfformiad anghyfunol a enillwyd yn ystod y flwyddyn o dan y broses adolygiadau datblygu perfformiad (anghytundebol), lwfansau penodol a gwerth buddion pensiwn sydd wedi cronni yn ystod y flwyddyn.

Mae lwfansau’n cynnwys lwfansau ceir yn y ddwy flynedd ar gyfer pob cyfarwyddwr, heblaw am Lisa Pinney a Carl Banton, ac:

  • yn 2020-21, lwfansau cyfrifoldeb ar gyfer Paul Frammingham a Carl Banton

  • yn 2019-20, lwfansau cyfrifoldeb ar gyfer Paul Frammingham a Lisa Stanger

Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad wedi’i seilio ar lefelau perfformiad a gyrhaeddwyd ac fe’i gwneir yn rhan o’r broses adolygu perfformiad. Mae tâl cysylltiedig â pherfformiad yn ymwneud â pherfformiad yn ystod y flwyddyn pan ddaw’n daladwy i’r unigolyn.

Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn cynllun beicio i’r gwaith a gymeradwywyd gan HMRC. Mae Paul Frammingham wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn yn 2020-21 a 2019-20.

Ni chafodd unrhyw gyfarwyddwyr gweithredol unrhyw fuddion mewn nwyddau yn ystod 2020-21 neu 2019-20.

Hawliadau pensiwn cyfarwyddwyr gweithredol

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2021 a chyfandaliad cysylltiedig
£000
Gwir gynnydd mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn
£000
CETV ar 31 Mawrth 2021
£000
CETV ar 31 Mawrth 2020
£000
Gwir gynnydd mewn CETV
£000
Lisa Pinney MBE 5-10 2.5-5 97 61 24
Paul Frammingham 25-30 0-2.5 353 315 20
Carl Banton 20-25 0-2.5 416 413 [footnote 7] 2

Gwerthoedd trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (CETV)

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalafu ar ôl asesiad actiwaraidd o fuddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol priod sy’n daladwy o’r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i’w aelodaeth lawn o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch y mae datgeliad yn gymwys iddo.

Mae’r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall a drosglwyddwyd gan yr aelod i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETVau yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl mewn buddion sy’n deillio o Dreth Lwfans Oes a allai fod yn ddyledus pan fydd buddion pensiwn yn cael eu codi.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil ar 1 Ebrill 2015 – y Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n cyfateb i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, ymunodd yr holl weision sifil newydd eu penodi ag alpha, ynghyd â mwyafrif y rhai a oedd eisoes yn eu swyddi. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn cymryd rhan ym Mhrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae gan y PCSPS 4 adran: 3 sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (classic, premium neu classic plus) sydd ag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy’n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) sydd ag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff cost y buddion eu talu gan symiau arian y mae’r Senedd yn pleidleisio arnynt bob blwyddyn. Caiff y pensiynau sy’n daladwy o dan classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha eu cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai a oedd rhwng 10 mlynedd ac 13 mlynedd a 5 mis o’u hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn symud i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 ac 1 Chwefror 2022. Oherwydd bod y Llywodraeth yn bwriadu dileu gwahaniaethu a amlygwyd gan y llysoedd yn y ffordd y cyflwynwyd diwygiadau pensiwn 2015 i rai aelodau, disgwylir, maes o law, y gallai aelodau cymwys â gwasanaeth perthnasol rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 fod yn gymwys i fuddion pensiwn gwahanol mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw (ac fe allai hyn effeithio ar y Gwerthoedd Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod a ddangosir yn yr adroddiad hwn – gweler isod). Caiff buddion PCSPS yr holl aelodau sy’n symud i alpha eu ‘bancio’, a bydd buddion y rhai hynny sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog terfynol PCSPS wedi’u seilio ar eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel y bo’n briodol. Lle mae gan y swyddog fuddion yn PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol ei fuddion yn y ddau gynllun.) Gall aelodau sy’n ymuno o fis Hydref 2002 ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn rhanddeiliaid ‘prynu arian’ â chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05% ar gyfer aelodau classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha. Mae buddion classic yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o’r enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, mae cyfandaliad sy’n gyfwerth â thair blynedd o’r pensiwn cychwynnol yn daladwy wrth ymddeol. Ar gyfer premium, mae buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i classic, ni cheir unrhyw gyfandaliad awtomatig. Yn ei hanfod, mae’r cynllun classic plus yn gynllun hybrid gyda buddion mewn perthynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun classic a buddion mewn perthynas â gwasanaeth o fis Hydref 2002 ymlaen yn cael eu cyfrifo fel y cynllun premium. Mae aelod o gynllun nuvos yn cronni pensiwn yn seiliedig ar ei enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y mae’n aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod ei gredydu â 2.3% o’i enillion pensiynadwy yn y flwyddyn gynllun honno a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i’r cynllun nuvos, ond y gyfradd cronni yw 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (gohirio) i ddarparu cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Trefniant pensiwn rhanddeiliaid yw’r cyfrif pensiwn partneriaeth. Gwna’r cyflogwr gyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (gan ddibynnu ar oed yr aelod) i gynnyrch pensiwn rhanddeiliaid a ddewiswyd gan y cyflogai gan y darparwr a benodwyd – Legal & General. Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond os yw’n cyfrannu, bydd y cyflogwr yn gwneud tâl cyfatebol hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% pellach o gyflog pensiynadwy i dalu cost budd risg a ddarperir yn ganolog (pe byddai’r cyflogai yn marw yn y swydd neu’n ymddeol oherwydd afiechyd).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu’n syth ar ôl iddo/iddi orffen bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn neu’n hŷn na hynny. Yr oedran pensiwn ar gyfer aelodau cynlluniau classic, premium a classic plus yw 60 oed, 65 oed ar gyfer aelodau cynllun nuvos, a’r uchaf o 65 neu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer aelodau alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel y bo’n briodol. Lle mae gan y swyddog fuddion yn PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwch y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.)

Mae rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil i’w gweld ar y wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Cynlluniau buddion diffiniedig amlgyflogwr heb eu hariannu yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a adwaenir fel ‘alpha’ – ac nid yw’r Awdurdod Glo yn gallu nodi ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol ynddynt. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016. Mae manylion ar gael yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiwn Sifil.

Ar gyfer 2020-21, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £2,819,000 yn daladwy i’r cynlluniau uchod (2019-20: £2,664,000) ar un o 4 cyfradd yn yr ystod 26.6% i 30.3% o gyflog pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog (2019-20: 26.6% i 30.3%).

Mae Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd, ar ôl prisio’r cynllun llawn. Pennir y bandiau cyflog a chyfraddau’r cyfraniadau i fodloni costau’r buddion sy’n cronni yn ystod y flwyddyn sydd i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid â chyfraniad gan y cyflogwr. Roedd gan 4 (2019-20:5) o gyflogeion gyfrif partneriaeth yn ystod y flwyddyn, a chyfanswm y cyfraniad oedd £18,969 (2019-20: £23,249).

Nid oedd unrhyw un wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch yn 2020-21 (2019-20: 1). Daeth y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn 2019-20 i £12,522.

Adran 2020-21
Staff
2020-21
Arall
2020-21
Cyfanswm
2019-20
Staff
2019-20
Arall
2019-20
Cyfanswm
Datblygu a Gwybodaeth 56 1 57 55 2 57
Gweithrediadau 93 2 95 89 1 90
Masnachol ac Arloesedd 33 1 34 35 1 36
Technoleg Gwybodaeth 32 2 34 32 - 32
Rheolaeth Gorfforaethol a Gwasanaethau 50 2 52 46 3 49
Niferoedd staff 264 8 272 257 7 264

Mae nifer gyfartalog yr unigolion a gyflogir, fel y’i dadansoddir uchod, yn gyson â strwythur sefydliadol yr Awdurdod Glo ar gyfer y ddwy flynedd.

O’r uchod, codwyd 7.8 o unigolion cyfwerth ag amser llawn ar brosiectau cyfalaf yn ystod 2020-21 (2019-20: 4.3).

Costau staff a chostau cysylltiedig

Mae costau staff yn cynnwys: 2020-21
Staff
2020-21
Arall
2020-21
Cyfanswm
2019-20
Staff
2019-20
Arall
2019-20
Cyfanswm
Cyflogau 11,014 - 11,014 10,904 - 10,904
Costau nawdd cymdeithasol 1,207 - 1,207 1,147 - 1,147
Costau pensiwn eraill 2,819 - 2,819 2,687 - 2,687
Costau staff asiantaeth - 773 773 - 318 318
Cyfanswm costau staff 15,040 773 15,813 14,738 318 15,056

Cyfansoddiad staff

Ar 31 Mawrth 2021 Cyfarwyddwyr anweithredol Tîm arweinyddiaeth weithredol Uwch reolwyr Staff Cyfanswm
Gwrywaidd 3 4 11 155 173
Benywaidd 2 2 6 105 115
Cyfanswm 5 6 17 260 288

Anabledd, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn gyflogwr cynhwysol sy’n cymryd camau pendant i annog a chroesawu ceisiadau gan bawb a allai feddu ar y sgiliau iawn i’n helpu i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd mwyngloddio.

Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud y pethau sylfaenol, fel darparu addasiadau rhesymol i ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr a chanddynt alluoedd gwahanol ar adeg cyfweliad a’u helpu i lwyddo yn y gwaith. Rydym yn annog gweithio hyblyg, oriau rhan-amser ac yn ystod y tymor, ac yn y blaen, ond ymdrechwn i fynd ymhellach na hyn a datblygu i fod yn sefydliad mwy amrywiol a chynhwysol – ‘lle gwirioneddol wych i weithio i bawb’. Rydym yn hyrwyddo datblygiad gyrfaol, camu ymlaen mewn gyrfa a chadw ein holl gyflogeion. Rydym wedi cefnogi ac annog ein pobl i sefydlu ystod o rwydweithiau amrywiaeth, ac rydym yn parhau i wneud hynny, a cheisiwn sicrhau bod amrywiaeth eang o leisiau’n gallu cael eu clywed ar bob lefel o’r sefydliad.

Mae gennym gynllun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n canolbwyntio ar gamau ymarferol i’n helpu i fod yn well fyth, ac rydym yn parhau i wrando a dysgu. Rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wella a thyfu.

Adrodd am gynlluniau’r gwasanaeth sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

2020-21 (2019-20 mewn cromfachau) Nifer yr ymadawiadau gorfodol o ganlyniad i ddileu swydd Nifer yr ymadawiadau eraill y cytunwyd arnynt Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael
<£10,000 0 (0) 0 (0) 0 (0)
£10,000 - £25,000 0 (0) 0 (0) 0 (0)
£25,000 - £50,000 0 (0) 0 (1) 0 (1)
£50,000 - £100,000 0 (0) 1 (0) 1 (0)
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael 0 (0) 1 (1) 1 (1)
Cyfanswm y gost - £000 0 (0) 85-90 (45-50) 85-90 (45-50)

Yn ystod 2020-21, talwyd costau dileu swydd a chostau ymadael eraill o £85,000-£90,000 (2019-20: £45,000-£50,000) i un ymadäwr. Cyfrifwyd am gostau ymadael yn y flwyddyn ymadael a phennwyd y dyfarniad yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a wnaed o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972.

Nid oedd unrhyw gynlluniau iawndal eraill wedi cronni yn ystod 2020-21 na 2019-20.

Adrodd am benodiadau cyflog uchel oddi ar y gyflogres

Gweithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres a oedd wedi’u penodi ar 31 Mawrth 2021, yn ennill £245 neu fwy y dydd:

Nifer
Trefniadau presennol ar 31 Mawrth 2021 6
Sydd wedi bodoli am (ar yr adeg adrodd):  
llai na blwyddyn 4
rhwng 1 a 2 flynedd 2
rhwng 2 a 3 blynedd 0
rhwng 3 a 4 blynedd 0
4 blynedd neu fwy 0

Yr holl weithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres a benodwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, yn ennill £245 neu fwy y dydd:

Nifer
Nifer y gweithwyr oddi ar y gyflogres a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 8
A oedd:  
heb fod yn destun deddfwriaeth oddi ar y gyflogres 8
yn destun deddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac y pennwyd eu bod yng nghwmpas IR35 -
yn destun deddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac y pennwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR35 -
Nifer y penodiadau a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd
yn ystod y flwyddyn, yr oedd:
 
nifer y penodiadau a welodd newid i statws IR35 yn dilyn yr adolygiad cysondeb dd/b

Mae’r Awdurdod Glo yn cynnal gwiriadau ar rolau arfaethedig fel mater o drefn, gan gynnwys profion Gwasanaeth Statws Cyflogaeth HMRC, i bennu statws IR35 cyn gwneud unrhyw gynnig. Lle mae’r gwiriadau hyn yn awgrymu bod angen sicrwydd ynglŷn â rhwymedigaethau treth incwm ac yswiriant gwladol, mae contractau’n cynnwys y cymalau a grybwyllir uchod a gofynnir am sicrwydd gan y gweithiwr neu’r asiant y mae’n gweithio trwyddo.

Penodiadau oddi ar y gyflogres ar gyfer aelodau’r bwrdd, a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021:

Penodiadau presennol ar 31 Mawrth 2021 Nifer
Nifer yr aelodau bwrdd a/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol a benodwyd oddi ar y gyflogres yn ystod y flwyddyn ariannol -
Nifer yr unigolion yr ystyriwyd eu bod yn ‘aelodau’r bwrdd a/neu’n uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol’ yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys penodiadau ar y gyflogres ac oddi ar y gyflogres 12

Y gwariant ar ymgynghoriaeth ar gyfer y flwyddyn oedd £dim (2019-20: £dim).

Lluosrifau cyflogau

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol ganolrifol gweithlu’r sefydliad.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a oedd ar y cyflog uchaf yn yr Awdurdod Glo yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 oedd £155,000 i £160,000 (2019-20: £150,000 i £155,000). Roedd hyn 3.7 gwaith (2019-20: 3.7 gwaith) yn fwy na chydnabyddiaeth ariannol ganolrifol y gweithlu, sef £42,098 (2019-20: £40,738).

Yn 2020-21 a 2019-20, ni dderbyniodd unrhyw gyflogai gydnabyddiaeth ariannol uwch na’r cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £17,565 i £160,000 (2019-20: £18,287 i £155,000).

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, lwfansau a thâl anghyfunol cysylltiedig â pherfformiad. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod pensiynau.

Mae ffigurau 2019-20 ar gyfer Lisa Stanger yn cynnwys taliadau penodol yn lle rhybudd. Nid yw’r rhain yn rhan o’r cyfrifiadau uchod, a wneir ar sail flynyddol.

Adroddiad atebolrwydd seneddol ac archwilio

Yn rhan o’r adroddiad atebolrwydd, mae’r adroddiad atebolrwydd Seneddol ac archwilio yn amlinellu’r datgeliadau ychwanegol hynny sy’n ofynnol gan y senedd, os na fanylir arnynt mewn rhannau eraill o’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, ac mae’n cynnwys yr adroddiad archwilio allanol.

Mae’r rhannau canlynol yn destun archwiliad.

Rheoleidd-dra gwariant: colledion, taliadau arbennig a rhoddion

Ni fu unrhyw golledion, taliadau arbennig a/neu roddion perthnasol yn ystod 2020-21.

Ffïoedd a thaliadau

Mae’r Awdurdod Glo yn cydymffurfio â’r gofynion dyrannu costau a chodi tâl a amlinellir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EM a chanllawiau Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.

Esbonnir isod ffrydiau incwm mwyaf arwyddocaol yr Awdurdod Glo, fel yr amlinellir yn nodiadau 2 a 4.1 i’r cyfrifon.

Mae’r segment gweithredu Masnachol ac Arloesedd yn cynnwys darparu adroddiadau mwyngloddio, a gynhyrchodd incwm o £7,906,000 (2019-20: £9,489,000), costau o £4,866,000 (2019-20: £5,905,000), a gwarged o £3,040,000 (2019-20: £3,584,000). Mae gwariant sy’n gysylltiedig â rhaglenni a gweithgareddau penodol yn cael ei reoli a’i adrodd o dan y segment gweithrediadau, ond mae’n ymwneud â gwella data a gwybodaeth. Codir tâl am wasanaethau adroddiadau mwyngloddio ar gyfradd fasnachol.

Mae Masnachol ac Arloesedd yn cynnwys darparu gwasanaethau cynghori a thechnegol, a gynhyrchodd incwm o £5,956,000 (2019-20: £5,342,000), costau o £5,914,000 (2019-20: £5,120,000) a gwarged o £42,000 (2019-20: £222,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori a thechnegol yw naill ai adennill costau llawn, gan gynnwys lwfans ar gyfer adennill gorbenion wrth ddarparu gwasanaethau ar draws y llywodraeth, neu gyfraddau masnachol, sy’n adlewyrchu’r lefelau risg uwch, wrth ddarparu gwasanaethau i farchnadoedd cystadleuol.

Y cyfrannau incwm yw 99.9% (2019-20: 85.2%) o ganlyniad i adennill costau llawn a 0.1% (2019-20: 14.8%) o gyfraddau masnachol, sy’n adlewyrchu twf parhaus gwasanaethau a ddarperir i’n cwsmeriaid ar draws y llywodraeth wrth i ni eu cynorthwyo i gyflawni rhaglenni allweddol.

Mae Datblygu a Gwybodaeth yn cynnwys darparu trwyddedu data a gwybodaeth fwyngloddio, a gynhyrchodd incwm allanol o £1,197,000 (2019-20: £994,000), taliadau mewnol wedi’u hailgodi o £1,788,000 (2019-20 £2,178,000), costau o £4,532,000 (2019-20: £4,944,000) a diffyg o £1,547,000 (2019-20: £1,772,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau trwyddedu a chaniatáu yw adennill costau llawn ynghyd â lwfans ar gyfer adennill gorbenion.

Mae Datblygu a Gwybodaeth yn cynnwys darparu gweithgareddau trwyddedu a chaniatáu, a gynhyrchodd incwm o £769,000 (2019-20: £834,000), costau o £934,000 (2019-20: £926,000) a diffyg o £165,000 (2019-20: deficit of £92,000). Yr amcan ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau trwyddedu a chaniatáu yw adennill costau llawn ynghyd â lwfans ar gyfer adennill gorbenion.

Rhwymedigaethau digwyddiadol annhebygol

Nid oes rhaid datgelu rhwymedigaethau digwyddiadol annhebygol o dan Safon Gyfrifyddu Ryngwladol (IAS) 37, ond fe’u hystyrir yma at ddibenion adrodd i’r senedd ac atebolrwydd. Mae’r Awdurdod Glo yn credu bod datgeliad digonol ar gael yn nodyn 16 i’r cyfrifon: Rhwymedigaethau Digwyddiadol ac yn nodyn 13 i’r cyfrifon: Darpariaethau i roi dealltwriaeth lawn i’r darllenydd o’r rhwymedigaethau y mae’n eu hwynebu ac y gallai eu hwynebu.

Busnes gweithredol

Crëwyd yr adroddiad hwn ar y sail bod yr Awdurdod Glo yn fusnes gweithredol fel y manylir ym mhwynt 1.3 o’r nodiadau i’r cyfrifon.

Cymeradwywyd yr adroddiad atebolrwydd hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu.

Lisa Pinney MBE

Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

1 Gorffennaf 2021

Tystysgrif ac adroddiad y rheolwr a’r archwilydd cyffredinol i ddau Dŷ’r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol yr Awdurdod Glo ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys: y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Llifoedd Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr; a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i’w paratoi yw’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol fel y’u dehonglir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM.

Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Atebolrwydd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwnnw fel gwybodaeth a archwiliwyd.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2021 a’r gwariant net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;

  • wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a roddwyd o dan y Ddeddf honno.

Pwysleisio mater

Tynnaf sylw at y datgeliadau a wneir yn nodiadau 1.20 ac 13 i’r datganiadau ariannol ynglŷn â’r ansicrwydd sy’n rhan annatod o’r costau tebygol mewn perthynas â rhwymedigaethau’r Awdurdod Glo ar gyfer Trin Dŵr Mwynglawdd, Diogelwch Cyhoeddus a Hawliadau Ymsuddiant a Gorsafoedd Pwmpio Ymsuddiant, sy’n dod i gyfanswm o £2,458.0 miliwn. Fel yr amlinellir yn y nodiadau, o ystyried natur tymor hir y rhwymedigaethau, bu’n rhaid i’r rheolwyr arfer eu barn yn sylweddol wrth amcangyfrif y ddarpariaeth. Nid wyf wedi addasu fy marn mewn perthynas â’r mater hwn.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (ISAs) (y Deyrnas Unedig), y gyfraith berthnasol a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol o’m tystysgrif.

Mae’r safonau hynny yn mynnu fy mod i a’m staff yn cydymffurfio â Safon Foesegol Ddiwygiedig 2019 y Cyngor Adrodd Ariannol. Rwyf hefyd wedi dewis cymhwyso’r safonau moesegol sy’n berthnasol i endidau rhestredig. Rwyf yn annibynnol ar yr Awdurdod Glo yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol a phriodol i fod yn sail i’m barn.

Casgliadau ynglŷn â busnes gweithredol

Mae defnydd yr Awdurdod Glo o’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith yr wyf wedi’i wneud, nid wyf wedi amlygu unrhyw ansicrwydd o bwys yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw cryn amheuaeth ar allu’r Awdurdod Glo i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu o ran busnes gweithredol yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon/yr adroddiad hwn.

Defnyddir y sail busnes gweithredol o gyfrifyddu ar gyfer yr Awdurdod Glo o ystyried y gofynion a amlinellir yn y Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol, fel y’u dehonglir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM, sy’n mynnu bod endidau’n defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi datganiadau ariannol lle y disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau yn y dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwnnw fel gwybodaeth sydd wedi’i harchwilio, y datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilydd ar hynny. Mae’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y wybodaeth arall. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn anghyson yn faterol â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gefais wrth gynnal yr archwiliad neu, fel arall, yn ymddangos ei bod wedi’i chamddatgan yn faterol. Os amlygaf anghysondebau perthnasol o’r fath neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os dof i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, bod y wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn faterol, mae’n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w adrodd yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed wrth gynnal yr archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a wnaed o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994; ac

  • mae’r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd am y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Materion yr adroddaf arnynt drwy eithriad

O ystyried y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r Awdurdod Glo a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi amlygu camddatganiadau perthnasol yn yr adroddiad ar Berfformiad a’r adroddiad Atebolrwydd. Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd yn ei gylch mewn perthynas â’r materion canlynol yr adroddaf i chi arnynt, os, yn fy marn i:

  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol neu nid wyf wedi derbyn yr adroddiadau sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad gan ganghennau nad yw fy staff wedi ymweld â nhw; neu

  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion neu’r adroddiadau cyfrifyddu; neu

  • ni wnaed datgeliadau cydnabyddiaeth ariannol penodol a bennir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM;

neu

  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae’n ofynnol i mi eu cael ar gyfer fy archwiliad; neu

  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfiad ag arweiniad Trysorlys EM.

Cyfrifoldebau’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am:

  • baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;

  • rheolaethau mewnol y mae’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu’n pennu eu bod yn angenrheidiol i allu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd rhag camddatganiad perthnasol, boed hynny o ganlyniad i dwyll neu wall.

  • asesu gallu’r Awdurdod Glo i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a chyfrifyddu ar sail busnes gweithredol oni bai bod y Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu’n disgwyl na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod Glo yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf y Diwydiant Glo 1994.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn â ph’un a yw’r datganiadau ariannol cyfan yn rhydd rhag camddatganiad perthnasol, boed hynny o ganlyniad i dwyll neu wall, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhaliwyd yn unol ag ISAs (y Deyrnas Unedig) bod amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol pe gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu’n gyfunol, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Rwyf yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas â diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr Awdurdod Glo a’r rhai hynny sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod Glo mewn perthynas ag:

    • amlygu, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a ph’un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;

    • datgelu ac ymateb i risgiau twyll a ph’un a ydynt yn ymwybodol o unrhyw dwyll gwirioneddol, twyll a amheuir neu dwyll honedig; a’r

    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gan gynnwys rheolaethau’r Awdurdod Glo sy’n ymwneud â Deddf y Diwydiant Glo 1994 a Rheoli Arian Cyhoeddus

  • trafod gyda’r tîm ymgysylltu sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw arwyddion posibl o dwyll. Yn rhan o’r drafodaeth hon, amlygais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw a phostio cyfnodolion anarferol;

  • cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod yr Awdurdod Glo yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Awdurdod Glo yn gweithio ynddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau’r Awdurdod Glo. Roedd y deddfau a’r rheoliadau allweddol a ystyriais yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf y Diwydiant Glo 1994, Rheoli Arian Cyhoeddus, Cyfraith Cyflogaeth a deddfwriaeth dreth

Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a amlygwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi i gefnogi dogfennau er mwyn asesu cydymffurfiaeth â’r deddfau a’r rheoliadau perthnasol a drafodwyd uchod;

  • holi rheolwyr, y pwyllgor Archwilio a Risg a chynghorwyr cyfreithiol mewnol ynglŷn ag ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;

  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai hynny sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;

  • wrth fynd i’r afael â risg twyll trwy drechu rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolyn ac addasiadau eraill; asesu p’un a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn dangos tuedd bosibl; a gwerthuso sail fusnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i hynt arferol busnes; ac

  • wrth ymateb i risg twyll wrth gydnabod refeniw, cynnal gweithdrefnau penodol i gael sicrwydd o ddigonolrwydd y rheolaethau sydd ar waith gan yr Awdurdod Glo, yn ogystal â phrofion penodol o dorbwynt a balansau incwm cronedig amcangyfrifedig ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn ogystal, rhoddais wybod i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, gan gynnwys arbenigwyr mewnol a thimau archwilio elfennau arwyddocaol, am ddeddfau a rheoliadau perthnasol a amlygwyd a risgiau posibl twyll, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad manylach o’m cyfrifoldebau ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m tystysgrif.

Yn ogystal, mae’n ofynnol i mi gael tystiolaeth ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant a adroddwyd yn y datganiadau ariannol wedi eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd, a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith materion eraill, cwmpas ac amseru cynlluniedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol a amlygaf yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw arsylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol

Dyddiad: 13 Gorffennaf 2021

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol 157-197 Buckingham Palace Road Victoria Llundain SW1W 9SP

  1. Nid yw’r cyfarwyddwr yn aelod o’r pwyllgor na’r bwrdd hwn  2 3

  2. Penodwyd Carl Banton yn gyfarwyddwr gweithredol statudol ar 22 Mawrth 2021, ond, gan gynnwys ei rôl weithredol, mynychodd gyfarfodydd y bwrdd (10), y pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (1) a’r pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth Ariannol (4). 

  3. Penodwyd Carl Banton i fwrdd yr Awdurdod Glo ar 22 Mawrth 2021 

  4. Ym mis Chwefror 2021, penodwyd ein cadeirydd newydd, sef Jeff Halliwell, i olynu Stephen Dingle. Mae cyfnod ffurfiol Jeff yn y swydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2021 a mynychodd gyfarfodydd y bwrdd ym mis Chwefror a mis Mawrth.  2

  5. Penodwyd Carl Banton yn gyfarwyddwr statudol gan BEIS ar 22 Mawrth 2021. Mae ei becyn fel cyfarwyddwr statudol yn cynnwys cyflog yn y band £75,000-£80,000, lwfans pensiynadwy yn y band £5,000-£10,000 a dyfarniad tâl cysylltiedig ag elw nad yw wedi’i warantu nac yn bensiynadwy a oedd, ar gyfer y flwyddyn 2020-21 (ar draws rolau statudol ac anstatudol Carl yn ystod y flwyddyn), yn y band £5,000-£10,000. Ni roddir unrhyw ffigurau cymharol gan eu bod yn ymwneud â rôl anstatudol Carl 

  6. Gadawodd Lisa Stanger yr Awdurdod Glo ar 31 Mawrth 2020 a chafodd daliad yn lle rhybudd o £70,000-£75,000. Mae hyn yn cynnwys taliad yn lle 6 mis o gyflog (£40,000-£45,000), tâl gwyliau (£5,000-£10,000) ac iawndal am gyfraniad pensiwn cyflogwr (£10,000-£15,000), sydd oll wedi’u cynnwys yn y ‘cyflog’ uchod, a lwfansau o £5,000-£10,000. Esbonnir lwfansau’r cyfarwyddwyr isod 

  7. Y ffigur CETV ar 31 Mawrth 2020 ar gyfer Carl Banton yw’r CETV ar adeg ei benodi’n gyfarwyddwr statudol ar 22 Mawrth 2021.