Adroddiad corfforaethol

Yr Awdurdod Glo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021 i 2022: Adroddiad ar berfformiad

Diweddarwyd 20 December 2022

1. Trosolwg

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol ac yn sefydliad partner i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

1.1 Ein cenhadaeth

Yn creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.

1.2 Ein pwrpas

  • rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt
  • rydym yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd
  • defnyddiwn ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
  • rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i’r trethdalwr

Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.

Rydym yn gweithio gyda BEIS ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i gyflawni blaenoriaethau llywodraeth y DU gan gynnwys y newid i sero-net, ffyniant bro a gweithredu ar yr hinsawdd a natur – gan gefnogi llwybr cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Drwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cefnogi nhw a’n partneriaid i greu gwledydd mwy diogel, glanach a gwyrddach i bob un ohonom.

1.3 Ein trefn lywodraethu

Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am bennu ein cyfeiriad strategol a’n dal ni i gyfrif. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn dod â’n cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd yn fyw. Mae gan ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.

Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol BEIS. Mae cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd ac mae rhai ohonynt wedyn yn cael eu penodi i’r bwrdd, a hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol BEIS.

1.4 Ein gwerthoedd

Ymddiriedaeth

  • gweithredu’n ddidwyll
  • rydym yn agored ac yn dryloyw
  • rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau

1.5 Cynhwysol

  • rydym yn hyrwyddo diwylliant o barch at ein gilydd
  • cydnabyddwn fod ein gwahaniaethau yn ein gwneud yn gryfach
  • rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth

Blaengar

  • rydyn ni’n meddwl yn agored iawn ac yn arloesol
  • cydnabyddwn y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol
  • rydym yn gwrando ac yn dysgu

2. Y gwaith rydyn ni’n ei wneud

Yn ystod 2021 i 2022, ar draws y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu:

2.1 wedi cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt

10,148 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo wedi’u cynnal

ymchwilio i 493 o adroddiadau peryglon ar wyneb y tir

330 o hawliadau difrod ymsuddiant wedi’u hasesu

2.2 Rydym wedi defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus

196,332 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno

1,775 o drwyddedau i groestorri glo wedi’u rhoi

darparu 10,292 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

2.3 Rydym wedi creu gwerth ac wedi lleihau’r gost i’r trethdalwr

£2.9 miliwn wedi’i arbed drwy ailgylchu deunydd gwely cyrs

£6.4 miliwn o incwm wedi ei gynhyrchu drwy ein gwasanaethau cynghori

77% o solidau haearn a dynnwyd wedi’u hailgylchu

2.4 Wedi diogelu a gwella’r amgylchedd

128 biliwn litr o ddŵr wedi’i ei drin

40,816m2 o’n 350,000m2 o welyau cyrs wedi eu hamnewid

3,934 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

3. Rhagair y Cadeirydd

Rydw i wir wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf fel cadeirydd yr Awdurdod Glo ac rydw i’n falch o gyflwyno ein hadroddiad blynyddol 2021 i 2022. Rydw i wedi mwynhau mynd dan groen y sefydliad a threulio amser ar y safle yn gweld ein darpariaeth ymarferol ar lawr gwlad, gan helpu cymunedau y mae gwaddol cloddio wedi effeithio arnyn nhw.

Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weld sut mae cyfleoedd, fel gwresogi dŵr pyllau glo, yn dod yn fyw i gefnogi polisïau di-garbon net, ffyniant bro a diogelwch ynni Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, wrth i ni i gyd adeiladu’n ôl ar effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Eleni, rydym wedi datblygu ein cynllun busnes newydd a fydd yn rhedeg o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2025. Mae hwn yn nodi beth fyddwn ni’n ei wneud a sut byddwn ni’n gwneud hynny.

Cafodd ein cynllun blaenorol ei lunio i bara rhwng 2018 a 2023 ond penderfynodd y bwrdd fwrw ymlaen â’n cynllun newydd yn gynharach am nifer o resymau. Mae’r rhain yn cynnwys y cynnydd rydym wedi’i wneud yn erbyn y cynllun blaenorol, y cyd-destun newidiol rydym i gyd yn byw ac yn gweithredu ynddo, a’r cyfle i gyd-fynd ag adolygiad diweddaraf llywodraeth y DU o wariant.

Mae’r cynllun busnes newydd hwn wedi’i osod yng nghyd-destun gweledigaeth 10 mlynedd sydd wedi ein helpu i ganolbwyntio ein meddwl yn y tymor hwy – yn enwedig yn ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac i gefnogi uchelgeisiau di-garbon net llywodraethau’r tair gwlad rydym yn eu gwasanaethu.

Byddwn yn parhau â’n ffocws i ddangos gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr ag effeithiolrwydd economaidd, sy’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb penodol ynddo. Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn falch o weld hyn yn dod drwodd yn gryfach fyth – er enghraifft, y gwaith a wnaed yn Midlothian.

Yn ystod 2021 i 2022 rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr ymwybyddiaeth o systemau gwresogi dŵr mwyngloddiau ledled Prydain, a’r galw amdanynt. Mae hyn wedi cynnwys cyfryngau prif ffrwd fel Countryfile, a The One Show, ac ymgysylltu’n eang ag ASau ac awdurdodau lleol, gan gynnwys digwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Hydref 2021.

Mae digwyddiadau tebyg yn Senedd yr Alban a Senedd Cymru ar y gweill ar gyfer 2022 i 2023. Mae cynllun gwres dŵr mwynglawdd cyntaf Cyngor Gateshead wedi cael ei adeiladu a bydd ar-lein i ddarparu gwres i 1,250 o gartrefi yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda BEIS, y llywodraethau datganoledig, a phartneriaid, i ehangu’r cyfle i rwydweithiau gwres a gwneud cyfraniad gwirioneddol at gyflawni carbon sero net.

Wrth ddarllen ein cyfrifon, byddwch yn sylwi bod cydbwysedd ein darpariaethau, sy’n adlewyrchu cost datrys effeithiau’r pyllau glo yn y gorffennol, wedi newid eto eleni, gan gynyddu £3.1 biliwn o £2.5 biliwn i £5.6 biliwn ym mis Mawrth 2022.

Cyfrifir y balans hwn drwy gymhwyso rhagdybiaethau Trysorlys EM ar werth amser arian i ragolwg o lif arian ar brisiau heddiw. Mae ein rhagolwg o’r llifoedd arian gwaelodol hyn wedi cynyddu £0.3 biliwn i £2.8 biliwn, gan adlewyrchu’n bennaf gynnydd yn nifer a chostau disgwyliedig adeiladu a gweithredu cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, a chan roi rhywfaint o ystyriaeth i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn disgwyl y bydd effeithiau addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r darpariaethau dros amser wrth i ni gynnal mwy o ymchwil, a byddwn yn parhau i weithio i wrthbwyso costau drwy arbedion effeithlonrwydd a’n rhaglen arloesi.

Mae’r cynnydd gweithredol sydd wedi’i gynnwys eleni yn fach o’i gymharu â’r newidiadau i gyfraddau disgownt Trysorlys EM sy’n cynyddu’r ddarpariaeth ariannol fwy na £2.8 biliwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adolygiad ariannol.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn gweld yn yr adroddiad hwn bod cynaliadwyedd, adfer natur a gwytnwch yn dal yn ganolog i’n gwaith, ac i’n cynllun busnes nesaf. Rydyn ni’n cynnwys hyn yn yr holl benderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud am ein gwaith ac rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon ein hunain er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2030. Fel sefydliad ymateb 24/7, rydyn ni’n gweld effeithiau tywydd eithafol a’r angen i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Ni hefyd yw corff cyflawni’r llywodraeth sy’n gyfrifol am drwyddedu yr hyn sydd ar ôl o’r diwydiant glo. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid i ni ddilyn y profion penodol a nodir yn Neddf Diwydiant Glo 1994 ac ystyried polisi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (ar gyfer trwyddedu glo) a Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru (drwy bolisi cynllunio).

Mae rhai o’n penderfyniadau o ran gweithredu Deddf y Diwydiant Glo wedi bod yn uchel eu proffil dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes sy’n sensitif yn wleidyddol ac yn gyhoeddus ac rydym yn parhau i fod yn ystyriol, yn gwrando ar adborth a darparu gwybodaeth ymarferol a gweithredol i’r llywodraeth i’w helpu i gydbwyso’r penderfyniadau polisi y mae angen iddynt eu gwneud.

Rwy’n falch o’r ymgysylltiad rydym wedi’i gynnal i weithio’n agosach fyth gyda phartneriaid ymateb i argyfwng i godi ymwybyddiaeth well o’n gallu i ymateb i ddigwyddiadau 24/7 a pheryglon cloddio etifeddol. Mae hyn wedi arwain at Swyddfa’r Cabinet yn argymell, yn dilyn eu hadolygiad o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, y dylem fod yn ymatebwr categori 2. Mae hyn yn cydnabod bod 29 o’r 42 ardal fforwm lleol gydnerth ledled Cymru a Lloegr, a phob un o’r 3 partneriaeth cadernid rhanbarthol yn yr Alban, naill ai ar y maes glo neu’n wynebu peryglon nodedig o ran cloddfeydd metel.

Bydd ein gwaith i amddiffyn pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd rhag peryglon mwyngloddio yn parhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu wrth i ni barhau i dyfu a datblygu, ac yr wyf wedi gweld yn uniongyrchol yn ystod fy nghyfnod gyda’r Awdurdod Glo bwysigrwydd ein gwaith brys gydag eraill – gan gynnwys yn Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, Cymru; Workington yn Cumbria, Lloegr; a Saltcoats yn Swydd Ayr, yr Alban, dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ymgysylltu â chwsmeriaid a’r gymuned, a chymorth, yn rhan hanfodol o unrhyw ymateb ac rydym wedi datblygu ein gwytnwch a’n gallu yma, gan ddysgu o adborth a gan bartneriaid.

Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl heb ymroddiad a gwaith caled cydweithwyr yn yr Awdurdod Glo. Roedd 2021 i 2022 yn flwyddyn arall y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arni, ac yn fwy diweddar mae pwysau byw, chwyddiant ac argyfwng yr Wcráin wedi bod yn bwysau ychwanegol yn y gwaith ac yn y cartref. Mae ein ffocws ar les a bod yn ‘lle gwych i weithio i bawb’ yn parhau, ac rydym wedi mynd ati i ddysgu o’r pandemig i ddod yn sefydliad mwy hyblyg, teg a chynhwysol.

Wrth gloi, rhaid i mi nodi i ni ffarwelio â Gemma Pearce ym mis Mawrth 2022 ar ôl 6 blynedd o wasanaeth gwych fel cyfarwyddwr anweithredol, a chadeirydd ein pwyllgor adnoddau dynol a thaliadau cydnabyddiaeth. Rhoddodd Gemma werth mawr i’r Awdurdod Glo ac mae wedi bod yn allweddol i’r datblygiadau rydym wedi’u gwneud o ran dod yn fwy arloesol a deinamig. Hoffwn ddiolch i Gemma am ei hymdrechion ac am y gefnogaeth y mae hi wedi’i rhoi i mi’n bersonol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Mae’n bleser gennyf groesawu David Brooks i’r bwrdd fel olynydd i Gemma ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.

Jeff Halliwell, cadeirydd

4. Adroddiad y Prif Weithredwr

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn o ddysgu, esblygu ac edrych tua’r dyfodol, gan barhau i gyflawni’n gryf, ymateb i ac adfer yn sgil digwyddiadau gan weithio’n agos gyda’n partneriaid, y gadwyn gyflenwi a’r cymunedau lleol. Rwy’n ddiolchgar i’n pobl sydd wedi parhau i weithio drwy’r ansicrwydd a’r heriau ychwanegol a achoswyd gan COVID-19 gydag angerdd ac ymroddiad i gefnogi cymunedau a chyflawni canlyniadau go iawn ar lawr gwlad i helpu i greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol ledled Prydain Fawr.

Mae ein darpariaeth weithredol gref wedi parhau. Rydym wedi ymateb i 493 o beryglon ar yr wyneb a 330 o hawliadau am ddifrod ac wedi cadw ein 76 cynllun trin dŵr mwynglawdd yn gweithio gan barhau i fonitro ardaloedd risg uchel ar gyfer llygredd a datblygu cynlluniau pellach ar gyfer y dyfodol.

Mae ein gwaith ar lygredd cloddfeydd metel gyda Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru yn parhau i ehangu, gan wneud cyfraniad gwirioneddol at ansawdd afonydd. Er enghraifft, bydd cynllun dŵr mwynol Nent Hags yn y Pennines, Lloegr yn gwella ansawdd y dŵr mewn 60km o afonydd drwy ddal 3 tunnell o sinc a chadmiwm bob blwyddyn.

Rydym wedi parhau i weithio fel rhan o ‘weithlu tomennydd’ Llywodraeth Cymru i sicrhau bod safleoedd risg uwch wedi cael eu harchwilio’n rheolaidd a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud. Roeddem wedi arwain y gwaith o adfer llithrfa yn Nhomen Wattstown (Rhondda Cynon Taf, Cymru), ac roeddem wedi parhau i gefnogi Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda’r gwaith o adfer ei domen yn Nhylorstown ac wedi arwain treialon technoleg gan gynnwys synwyryddion symud a gweithio gydag Asiantaeth Gofod y DU a phartneriaid eraill i ddefnyddio gallu lloeren i ganfod cynnwys lleithder.

Mae ymateb mewn argyfwng ac yn y gymuned yn dal wrth wraidd ein gwaith. Rydym wedi parhau â’n gwaith yn Sgiwen, De Cymru gyda’r gymuned, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid eraill i’w helpu i wella o’r llifogydd dŵr mwynglawdd ym mis Ionawr 2021 ac i gwblhau cynllun rheoli dŵr mwynglawdd newydd.

Ym mis Medi 2021, cafwyd digwyddiad ymsuddiant cyflym o dan 2 floc o fflatiau yn Saltcoats, Swydd Ayr, yr Alban, a oedd yn golygu bod angen symud 8 teulu. Fe wnaethom gefnogi partneriaid brys yn yr ymateb cychwynnol, a drefnwyd ar gyfer dymchwel yr eiddo’n gyflym er mwyn atal rhagor o risg ac rydym wedi gweithio gyda’r rheini yr effeithir arnynt, y gymuned ehangach a Chyngor Gogledd Swydd Ayr i gefnogi’r preswylwyr a darparu cymorth ymarferol ac ariannol i’w helpu i symud ymlaen gyda’u bywydau.

Wrth ddarparu a delio â digwyddiadau, rydym wedi sicrhau ein bod wedi gwrando ar adborth, wedi dysgu ac wedi datblygu ein sefydliad a’n gallu i fod hyd yn oed yn fwy proffesiynol a chadarn ar gyfer heriau yn y dyfodol. Rydym wedi cyflawni newid strwythurol ac wedi recriwtio cyfarwyddwr newydd ar gyfer Ymateb i Argyfwng a Chymunedol, ac mae ei dimau eisoes yn darparu dulliau mwy cadarn sy’n canolbwyntio mwy ar y gymuned.

Fel y dywed Jeff, rydym hefyd wedi gweithio gyda BEIS a Swyddfa’r Cabinet i gael ein cydnabod fel sefydliad ymateb categori 2 dan ddiwygiadau parhaus i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ac rydym yn gwybod y bydd hyn yn ein galluogi i weithio’n agosach fyth ac yn fwy effeithiol gyda phartneriaid brys a chynyddu ymwybyddiaeth o risg mwyngloddio a’r hyn y gellir ei wneud i’w liniaru a gwarchod bywyd, cartrefi, dŵr yfed a’r amgylchedd.

Yn ein hadroddiad blynyddol diwethaf, fe wnes i nifer o ymrwymiadau ar gyfer 2021 i 22 ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd clir ar bob un o’r canlynol:

  • rydym wedi datblygu ein galluoedd cadernid ymateb i argyfwng a digwyddiadau ymhellach gyda Chyfarwyddiaeth Ymateb i Argyfwng a Chymunedol pwrpasol newydd sy’n cefnogi ein gweithrediadau a chydweithwyr eraill i sicrhau ein bod yn broffesiynol ac yn gadarn ac yn arwain ein hymgysylltiad ag ymatebwyr brys eraill drwy ymgysylltu â’r Fforwm Lleol Gydnerth/Partneriaeth Cadernid Rhanbarthol

  • rydyn ni wedi datblygu Cynllun Digwyddiadau Critigol newydd, gan adeiladu ar ddysgu ac adborth o ddigwyddiadau mawr rydyn ni wedi bod yn ymwneud â nhw, ac wedi dylunio rhaglen ymwybyddiaeth Minesafe newydd ar gyfer sefydliadau ymateb brys a phartneriaid eraill

  • rydym wedi gwneud cynnydd pellach ar ein taith i gyflawni carbon sero net erbyn 2030 drwy gysoni ein hallyriadau a nodi heriau penodol sydd angen ymchwiliad ychwanegol – bydd ein cynllun cynaliadwyedd newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir a bydd yn dangos ein targedau a’n taith i gyflawni carbon sero net erbyn 2030

  • yr ydym wedi datblygu cyfres o 15 o brosiectau gwres dŵr pyllau glo gyda chynghorau a mentrau preifat i alluogi gwresogi carbon isel a gynhyrchir yn lleol ar gyfer cymunedau glofaol a bydd cynllun Gateshead yn dechrau gwresogi cartrefi yn ddiweddarach eleni

  • yr ydym wedi gwneud mwy o waith i asesu’r risg o newid yn yr hinsawdd a thywydd mwy eithafol i’n hasedau ac wedi datblygu cynllun ar gyfer ymchwil pellach wedi’i dargedu i lywio agweddau allweddol ar ein gwaith

  • rydym wedi datblygu ein cynllun busnes tymor hir nesaf i bennu cyfeiriad y sefydliad, i gefnogi’r 3 llywodraeth rydym yn eu gwasanaethu, am y 3 blynedd nesaf yn unol ag Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU – mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth 10 mlynedd ar gyfer ein gwaith, ac rydym yn ddiolchgar am fewnbwn cydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid wrth ddatblygu hyn

Mae cefnogi cwsmeriaid a chymunedau a chyflawni canlyniadau gweithredol wrth galon ein cynllun busnes newydd a’r cynlluniau thematig (cynaliadwyedd, cwsmeriaid, pobl ac ati) sy’n sail iddo. Mae’r cynllun yn glir bod yn rhaid cyflawni hyn yn gynaliadwy a thrwy greu manteision a gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr ag incwm economaidd.

Mae’r cynllun hefyd yn disgrifio sut byddwn yn gweithio, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i fod yn ‘lle gwych i weithio i bawb’ a dangos y camau ymarferol y mae angen i ni eu cymryd – gan gynnwys yn y gofod digidol – i fod yn wirioneddol addas ar gyfer y dyfodol. Mae ein cynllun busnes yn cynnwys targedau a blaenoriaethau clir a heriol dros y tair blynedd fel ein bod yn dryloyw ac yn atebol. Bydd ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon 2022 i 2023 yn adrodd ar flwyddyn gyntaf ein cynnydd yn erbyn y rhain.

Yn 2019, fe wnes i ddisgrifio’r Awdurdod Glo fel sefydliad bach sydd â chylch gwaith mawr a phobl wych. Rydyn ni wedi tyfu ers hynny wrth ysgwyddo hyd yn oed mwy o gyfrifoldebau, gwasanaethau a darpariaeth ledled Prydain Fawr. Yr hyn sydd heb newid yw’r bobl wych sy’n gwneud ein gwaith yn bosibl ac rwy’n dal i fod yn falch o’u harwain a’u cefnogi i wneud gwahaniaeth bob dydd. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi dysgu o weithio’n wahanol drwy’r pandemig ac rydyn ni’n weithle mwy hyblyg a deinamig o ganlyniad i hynny, a hynny yn arwain at well gwasanaeth i’n cwsmeriaid.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar les a chynhwysiant i sicrhau ein bod yn sefydliad lle mae pobl amrywiol a thalentog eisiau gweithio ac fel bod pawb sy’n gweithio i ni neu gyda ni yn teimlo y gallant fod yn nhw eu hunain ac yn perthyn i sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd ac sy’n gwneud gwahaniaeth.

Er mwyn datrys yr heriau cymhleth sydd o’n blaenau, mae angen i ni ganfod, cadw, datblygu a chefnogi pobl wych ledled Prydain Fawr sy’n gallu gweithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion.

Lisa Pinney MBE, prif weithredwr a swyddog cyfrifyddu

5. Ein Gwaith yng Nghymru

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid yng Nghymru, rydym wedi rheoli gwaith cynnal a chadw hollbwysig ar domennydd glo segur i leihau’r risg o lithriad gwastraff tomennydd eto.

Mae tomennydd glo yng Nghymru yn aml wedi’u lleoli ar lethrau serth a mynyddoedd. Mae tomen Wattstown yn domen lo segur a leolir yng nghwm Rhondda, a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif gan ddefnyddio deunydd gwastraff o lofa gyfagos Wattstown.

Daeth tipio yn yr ardal hon i ben yn y 1930au cynnar ac erbyn hyn mae’r safle wedi’i orchuddio’n naturiol ac wedi dychwelyd i fyd natur. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mân symudiadau wedi bod ar y domen ond yn dilyn y stormydd ym mis Mawrth a mis Rhagfyr 2020, llithrodd rhan fawr ac amlwg o’r domen gan achosi i wastraff yn symud i lawr y bryn. Yn dilyn ymchwiliadau, cadarnhawyd bod hwn yn lithriad arwyneb bas, a achoswyd gan y glaw trwm a’r draeniad gwael ar ochr serth y domen.

Galwodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ni i mewn i ddylunio cynllun a fyddai’n gwarchod rhan agored y domen ac atal rhagor o symud dros y tymor byr i ganolig nes y cytunir ar benderfyniad terfynol ynghylch y safle ehangach yn gyffredinol.

Er mwyn cefnogi’r gwaith, fe wnaethom gynnal nifer o arolygon drôn arbenigol i ddeall y sefyllfa’n llawn ac i hysbysu ein barn. Roedd ein tîm Peirianneg wedyn yn gallu dylunio rhaglen a fyddai’n diogelu’r llethrau moel ac yn galluogi tyfiant llystyfiant a fydd, dros amser, yn helpu i rwymo’r wyneb.

Oherwydd lleoliad serth y safle, buom yn gweithio gyda’n contractwyr i sefydlu system mynediad rhaffau arbenigol, a gan ddefnyddio cloddiwr corryn, llwyddwyd i osod 3,000m2 o fatiau rheoli erydiad ar draws yr ardal gyfan yr effeithiwyd arni. Sicrhawyd hyn yn ei le gan 3,000 o angorau sylfaenol a 9,000 o angorau eilaidd. Bydd y matiau hyn sydd wedi’u dylunio’n arbennig yn helpu i ddiogelu’r safle a bydd y domen yn rhan o drefn diogelwch tomennydd glo hirdymor sy’n cael ei rhoi ar waith yng Nghymru. Dechreuodd y gwaith ym mis Hydref 2021 a daeth i ben ym mis Ionawr 2022.

I gefnogi cymunedau o gwmpas ac o dan hen domennydd a thawelu meddwl, rydym yn darparu llinell gymorth tomennydd 24/7 ar 0800 021 9230.

5.1 Ein blwyddyn yng Nghymru…

2,409 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo wedi’u cynnal

ymchwilio i 103 o adroddiadau peryglon ar wyneb y tir

15,320 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno

darparu 1,525 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

15 biliwn litr o ddŵr wedi’i ei drin

423 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

6. Ein perfformiad

Rydyn ni’n 4 blynedd drwy ein cynllun 5 mlynedd presennol ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd da, gan osod y sylfeini i greu sefydliad mwy cynaliadwy a fydd yn gallu cyflawni ein cenhadaeth am flynyddoedd i ddod. Mae’r adrannau isod yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn yn erbyn prif elfennau’r cynllun hwn.

Oherwydd y cynnydd rydym wedi’i wneud yn erbyn y cynllun blaenorol hwn, y cyd-destun newidiol rydym i gyd yn byw ac yn gweithredu ynddo, a’r cyfle i alinio ag Adolygiad Gwariant diweddaraf Llywodraeth y DU, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun busnes newydd.

6.1 Ein Pobl

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar annog a galluogi ein pobl i flaenoriaethu eu hiechyd meddwl a’u lles drwy bandemig COVID-19 a’r heriau cysylltiedig. Buom yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu fframwaith gweithio hybrid newydd sy’n cydbwyso hyblygrwydd â gweithio mewn swyddfa a chydweithio ac yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau a darparu ar gyfer cwsmeriaid ar lawr gwlad.

Rydym wedi datblygu a chyhoeddi ein cynllun Lle Gwych i Weithio i Bawb gyda mewnbwn gan gydweithwyr a phartneriaid. Mae hwn yn nodi rhagor o waith er mwyn dod yn sefydliad mwy amrywiol a chynhwysol i sicrhau ein bod yn gallu recriwtio a chadw pobl wych a gweithio’n effeithiol ac yn barchus gyda’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn dysgu a datblygu drwy ein rhaglenni arweinyddiaeth a thrwy hyfforddiant technegol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Fe wnaethom gynnal arolwg pobl yn rheolaidd i ddangos pa gynnydd rydym wedi’i wneud ers yr arolwg llawn diwethaf yn 2019 a chyn yr arolwg pobl a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer 2022 ac ymatebodd 87% o gydweithwyr. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da o ran cydbwyso bywyd a gwaith, a rhwng unigolion ac amcanion y sefydliad ac rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu yn ei holl ffurfiau ac ar sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel i roi gwybod am unrhyw bryderon.

6.2 Cwsmeriaid a rhanddeiliaid

Mae cwsmeriaid, a’n gwaith cyflawni ymarferol, yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu ac rydym wedi parhau i ddatblygu staff, gwrando ar adborth a datblygu ein dulliau gweithredu i ddarparu gwasanaeth gwell i’n holl gwsmeriaid ac yn enwedig y rheini y mae ymsuddiant neu beryglon cloddio glo yn effeithio arnynt.

Rydym wedi parhau i ddarparu cymorth penodol i’r gymuned yn Sgiwen, De Cymru, yn dilyn y digwyddiad llifogydd dŵr pwll glo sylweddol ym mis Ionawr 2021. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, partneriaid eraill, cynghorwyr lleol, Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol i ddarparu gwybodaeth, cylchlythyrau rheolaidd, sesiynau briffio a chyfarfodydd.

Drwy ein Polisi Sgiwen rydyn ni wedi darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol gyda glanhau, draenio ac adfer 58 o erddi a mannau awyr agored.

Rydyn ni wedi sefydlogi’r nodweddion mwyngloddio sydd wedi’u difrodi ac wedi adeiladu cynllun rheoli dŵr mwynglawdd er mwyn rhoi tawelwch meddwl i’r dyfodol. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain ac wedi darparu gwybodaeth i yswirwyr a sefydliadau ariannol er mwyn gwella dealltwriaeth o’r digwyddiad.

Aethom ati i ddysgu o Sgiwen a datblygu dull gweithredu newydd ar gyfer cymorth cymunedol cyfannol yn dilyn digwyddiad sylweddol neu fawr. Roeddem wedi defnyddio hyn i gefnogi’r rheini y mae digwyddiad yn effeithio arnynt yn Saltcoats, Swydd Ayr, yr Alban, lle roedd 8 fflat wedi ymsuddo a olygai bod angen gwacáu’r adeilad ar frys. Roeddem yn canolbwyntio ar les a chefnogaeth preswylwyr ac roeddem wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Gogledd Swydd Ayr a phartneriaid eraill i ddarparu dull gweithredu cydgysylltiedig.

Rydyn ni wedi parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar y tasglu tomennydd gan ddefnyddio ein harbenigedd i sicrhau bod tomennydd risg uwch yn cael eu harchwilio a’u cynnal yn rheolaidd ac yn treialu technolegau arloesol i lywio dulliau gweithredu yn y dyfodol. Fe wnaethom reoli gwaith ar domen Wattstown (Rhondda Cynon Taf, Cymru) i sefydlogi wyneb y domen. Rydym wedi cyfrannu at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o reoleiddio tomennydd glo yng Nghymru ac rydym yn croesawu’r dull tymor hir o reoli tomennydd, a ddylai helpu i roi mwy o sicrwydd i gymunedau lleol.

Rydym wedi ymateb i 823 o beryglon mwyngloddio, a hawliadau fel ymsuddiant, nwy mwynglawdd neu siafftiau yn dymchwel ac wedi gweithredu yn ôl yr angen. Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yng Nghymru a Lloegr a Phartneriaethau Cadernid Rhanbarthol yn yr Alban i godi ymwybyddiaeth o waddol mwyngloddio, darparu hyfforddiant a chyngor ac i gefnogi ymateb i ddigwyddiadau. Rydym yn croesawu argymhelliad Swyddfa’r Cabinet i ddod yn ymatebydd categori 2 o dan eu hadolygiad o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.

Mae ein rhaglenni adfer dŵr mwyngloddiau yn parhau i fonitro ansawdd dŵr mwyngloddiau, datblygu, dylunio ac adeiladu cynlluniau newydd a chynnal cynlluniau presennol i warchod dŵr yfed, afonydd a’r môr rhag llygredd. Rydym yn darparu ein rhaglen lo sy’n cael ei hariannu gan BEIS ledled Prydain Fawr a rhaglenni mwyngloddiau metel yn Lloegr ar gyfer Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd ac yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn trin 6 biliwn litr o ddŵr mwynglawdd yn fwy na’r adeg hon y llynedd a bydd hyn yn parhau i gynyddu wrth i ni weithio gyda phartneriaid a’n cadwyn gyflenwi i gyflawni rhagor o gynlluniau dros y blynyddoedd nesaf.

Rydym wedi parhau i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu datblygwyr, benthycwyr morgeisi a pherchnogion eiddo i ddeall a rheoli’r risgiau sy’n deillio o gloddio am lo yn y gorffennol yn briodol a chydnabod ein rôl i atgyweirio sawl math o ddifrod mewn perthynas â phyllau glo. Roeddem wedi darparu 196,332 o adroddiadau cloddio i gefnogi’r farchnad dai, wedi darparu 1,775 o drwyddedau i ddatblygwyr gynnal ymchwiliadau tir ar y maes glo ac wedi ymateb i 10,292 o ymgynghoriadau cynllunio gan awdurdodau lleol.

Rydym wedi hyrwyddo potensial gwres dŵr mwynglawdd yn frwd dros y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiad gweinidogol yn Seaham Garden Village, digwyddiad Tŷ’r Cyffredin ar gyfer ASau, gweminar gyhoeddus a sylw sylweddol yn y wasg leol a chenedlaethol. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda gwleidyddion lleol, cynghorau a datblygwyr a’r gwledydd datganoledig i gryfhau’r gyfres o gynlluniau posibl ac rydyn ni wedi cefnogi Cyngor Gateshead i ddatblygu eu rhwydwaith gwres dŵr mwynglawdd a fydd yn weithredol yn 2022 gan ddarparu gwres i 1,250 o gartrefi.

6.3 Prosesau mewnol

Rydym wedi dysgu o’r digwyddiadau argyfwng rydym yn eu rheoli ac wedi creu ein Cyfarwyddiaeth Gymunedol ac Ymateb i Argyfwng newydd, gan gryfhau ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365.

Rydyn ni wedi datblygu ein seilwaith technoleg a TG ymhellach i gefnogi gweithio hybrid ac effeithiol, i gefnogi timau i gydweithio a chydweithredu a gweithio gyda phartneriaid – lle bynnag maen nhw wedi’u lleoli.

Rydym yn parhau i wella ein fframwaith llywodraethu i adlewyrchu ein sefydliad sy’n tyfu ac sy’n gynyddol gymhleth. Rydym wedi sefydlu fframwaith rheoli risg a sicrwydd newydd sy’n hyrwyddo mwy o sgyrsiau ar risg a diwylliant rheoli risg cryfach fyth.

Rydym wedi datblygu ein hymwybyddiaeth o atal twyll ymhellach ac wedi parhau i gyflawni ein cynllun gweithredu atal twyll. Rydym wedi cryfhau ein polisïau risg seiber, cynllunio a phrofi gan ddefnyddio rhaglenni uwchraddio technegol ac ymwybyddiaeth staff i leihau ein hamlygiad i ymosodiadau seiber.

Mae ein gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli prosiectau wedi sefydlu cymuned ymarfer ac wedi llunio trywydd newid a gwella i wella cysondeb rheoli prosiectau ar draws y sefydliad, gan sicrhau ei fod yn ddeinamig a’i fod yn gallu addasu ar sail maint a risg.

Rydym wedi cryfhau ein hasesiad a’n dull gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn ein cadwyn gyflenwi ac rydym wedi cyhoeddi ein datganiad Caethwasiaeth Fodern cyntaf. Rydym wedi gwreiddio gwerth amgylcheddol a chymdeithasol fwyfwy yn ein penderfyniadau caffael.

6.4 Rheoli ein harian

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda BEIS, ein hadran noddi, er mwyn iddynt ddeall ein risgiau a’n cyfleoedd ariannol a helpu i sicrhau ein bod yn darparu ein rhaglenni a’n gweithgareddau yn unol â’r cyfansymiau rheoli y cytunwyd arnynt.

Mae cyfran sylweddol o’n gwariant yn adweithiol ac yn cael ei sbarduno gan ddigwyddiadau argyfwng a diogelwch cyhoeddus a digwyddiadau ymsuddo, ac roeddem wedi delio â nifer o ddigwyddiadau sylweddol a chymhleth yn ystod y flwyddyn. Arweiniodd hyn at gynnydd cytunedig yn y cyllid yn ystod y flwyddyn, o £44.1 miliwn i £53.2 miliwn.

Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwrthbwyso ein costau drwy gynhyrchu incwm. Fe wnaethom gynhyrchu £6.4 miliwn o incwm o’n gwasanaethau cynghori a’n sgil-gynhyrchion gan ddefnyddio ein harbenigedd i helpu sefydliadau eraill y llywodraeth i reoli eu risgiau ac i greu cyfleoedd o waddol mwyngloddio.

Aethom y tu hwnt i’n targedau incwm cyfalaf, gan godi £2.7 miliwn o adfachu a gwaredu asedau yn erbyn targed o £0.7 miliwn, gan wrthbwyso’r gwariant cyfalaf sydd ei angen i drin dŵr mwynglawdd a llifogydd o ganlyniad i ymsuddo.

7. Ein model busnes

Ein model busnes sy’n sail i’n cynllun busnes. Mae’n dangos sut rydyn ni’n mynd i ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid a chreu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o’r gwaddol cloddio.

Mae ein pwrpas wrth galon ein model busnes, gan sicrhau ein bod yn:

  • rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â chloddio
  • creu gwerth a lleihau’r gost i’r trethdalwr
  • cyflawni ein hymrwymiadau
  • defnyddio ein harbenigedd, ein profiad a’n dull gweithredu unigryw

8. Ein Cynllun Busnes

Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun busnes 3 blynedd newydd sy’n rhan o weledigaeth 10 mlynedd. Mae hyn yn egluro sut y byddwn yn creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd cloddio. Mae ein cynllun yn seiliedig ar ein gwerthoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

8.1 Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu

Mae’r Awdurdod Glo yn sefydliad gweithredol ymarferol, sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau statudol craidd ledled Prydain Fawr i helpu i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau ein gwaddol mwyngloddio.

Mae hyn yn cynnwys capasiti ymateb i ddigwyddiadau 24/7. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned. Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn gwneud yr hyn a ddywedwn ac yn gwrando ac yn dysgu er mwyn i ni allu gwella’n barhaus. Drwy weithio gyda phartneriaid eraill a thrwyddynt, gallwn ddarparu ymateb cydgysylltiedig a sicrhau’r canlyniad gorau posibl y gellir ei gyflawni. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth i ‘wneud gwell dyfodol i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol’.

8.2 Sicrhau cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy, ac rydyn ni eisiau defnyddio ein gwaith i helpu i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth wirioneddol i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol a chynnwys y meddylfryd hwn yn ein penderfyniadau a’n hadroddiadau.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gweithio gydag eraill, gan rannu gwersi a ddysgwyd a chymryd camau ymarferol i symud tuag at ein huchelgais i fod yn sefydliad sero net erbyn 2030 fel y mae ein bwrdd wedi ymrwymo iddo. Byddwn yn parhau i gymryd camau i ddatgarboneiddio ein gweithgareddau a storio cymaint â phosibl o garbon yn ein safleoedd. Byddwn hefyd yn cymryd camau i gefnogi byd natur a bywyd gwyllt gwydn drwy reoli ein safleoedd a’n hystâd yn y ffordd orau bosibl.

8.3 Gweithio gydag eraill i greu gwerth

Mae creu gwerth – ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol – yn allweddol i’n ffordd o feddwl yn yr Awdurdod Glo ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o arloesi ac effeithlonrwydd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, cyfleoedd newydd a/neu arbedion i’r trethdalwr.

Rydyn ni’n frwd dros gymunedau glofaol hanesyddol ar y maes glo a thu hwnt ac yn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n harbenigedd i roi hyder i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn ac i greu cyfle a budd lle bo hynny’n bosibl o’n gwaddol mwyngloddio.

Creu lle gwych i weithio ynddo

Mae pobl wych wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a gallwn ond cyflawni’r gwaith pwysig rydyn ni’n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel, diogelu’r amgylchedd a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd os gallwn ni eu denu, eu recriwtio a’u cadw.

I wneud hynny, rhaid i ni fod yn lle gwirioneddol wych i weithio ynddo sy’n denu talent amrywiol ar draws pob rhan o Brydain Fawr ac yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu gyda’r cyfle i dyfu a datblygu.

Rydym am fod yn gyflogwr o ddewis sy’n fywiog, yn ddeinamig ac yn fodern ac sy’n hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar les ac sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd.

8.4 Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol

Rydym wedi nodi uchelgais uchel drwy ein gweledigaeth a’r cynllun busnes 3 blynedd cyntaf hwn. Rhaid i ni alluogi’r uchelgeisiau hyn drwy systemau a dulliau effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau craidd sy’n cadw pobl yn ddiogel, y cyfleoedd sydd gennym i greu gwerth a’r angen i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.

Byddwn yn dylunio ac yn cynnal rhaglen sydd wedi’i galluogi’n ddigidol o safbwynt ein pobl a’n cwsmeriaid er mwyn cefnogi diwylliant ‘Un Awdurdod Glo’ a’n gwneud yn hawdd i wneud busnes â ni.

9. Cerdyn sgorio ein Cynllun Busnes

Byddwn yn mesur ac yn adrodd ar ein cynnydd dros y 3 blynedd nesaf gan ddefnyddio’r cerdyn sgorio hwn

Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu

Rydym yn gwella ein gwasanaethau cyflawni rheng flaen ar gyfer ein cwsmeriaid fel ein bod yn cyflawni mwy o ganlyniadau a’i bod yn haws gwneud busnes gyda ni. Erbyn Ebrill 2025:

  • byddwn yn trin 13 biliwn litr ychwanegol o ddŵr mwynglawdd bob blwyddyn i atal llygredd dŵr yfed, afonydd neu’r môr erbyn 2025 – cynnydd o fwy na 10% ar y cyfaint presennol (128 biliwn litr y flwyddyn)
  • byddwn yn datrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis
  • byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth , ein gwasanaethau a’n hystâd i alluogi 300,000 hectar o ddatblygiadau adfywio a diogel ar gyfer cymunedau lleol yn y cyn feysydd glo
  • byddwn yn sicrhau achrediad Nod Gwasanaeth ar gyfer ein safonau gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Sicrhau cynaliadwyedd

Gwneud rhagor o gynnydd clir ar ein taith i sicrhau carbon sero net erbyn 2030 ac i gyflawni agweddau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach ar gynaliadwyedd. Erbyn Ebrill 2025:

  • byddwn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystâd, ein gweithrediadau a’n teithiau 65% o linell sylfaen 2017-2018
  • byddwn yn cyflwyno adroddiadau integredig sy’n defnyddio targedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’u mesur i ddangos ein hymrwymiad a’n cynnydd ar ein nodau cynaliadwyedd
  • byddwn yn deall ac yn cydnabod effeithiau newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau gyda chynllun addasu sydd wedi’i ddiffinio’n glir
  • bydd gennym gynllun adfer byd natur a byddwn yn dangos sut mae ein hystâd a’n gweithrediadau yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer adferiad byd natur

Gweithio gydag eraill i greu gwerth

Byddwn yn creu mwy o werth ac yn sicrhau budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o’n hasedau, ein gwasanaethau a’n gwaith. Erbyn Ebrill 2025:

  • byddwn yn dylanwadu ar 4 cynllun gwres dŵr mwynglawdd gweithredol mawr ledled Prydain Fawr ac yn eu galluogi
  • byddwn yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu 95% o’r ocrau haearn a’r solidau haearn a gynhyrchir o’n cynlluniau trin dŵr mwynglawdd er mwyn atal gwaredu mewn safleoedd tirlenwi
  • byddwn yn cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 30% o’n llinell sylfaen 2021 i 2022 o £2.49 miliwn y flwyddyn
  • byddwn yn cynorthwyo’r diwydiant benthyca i wneud penderfyniadau cyflymach i brynwyr cartrefi ar y meysydd glo

Creu lle gwych i weithio.

Byddwn yn gyflogwr o ddewis lle mae ein pobl yn teimlo y gallant berthyn. Bydd gennym ddiwylliant cynhwysol gyda ffocws cryf ar les, dysgu a datblygiad. Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith pwysig i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn byw yn ôl ein gwerthoedd. Erbyn Ebrill 2025:

  • byddwn yn gwneud cynnydd amlwg tuag at sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn ledled Prydain Fawr yn well
  • byddwn yn cefnogi ffyniant bro drwy gymryd camau i wella symudedd cymdeithasol a darparu prentisiaethau i unigolion sy’n byw ar y maes glo ac sydd â chysylltiad teuluol â chloddio
  • byddwn yn cael sgôr 5 seren yn Archwiliad Iechyd, Diogelwch a Lles 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain
  • byddwn yn cynyddu ein sgôr ymgysylltu ag arolwg gweithwyr 10% yn erbyn meincnod 2019 sef 67%

Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol

Byddwn yn datblygu systemau a phrosesau modern a chadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn cefnogi ein pobl ac yn ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid a’n partneriaid wneud busnes gyda ni. Erbyn Ebrill 2025:

  • byddwn yn diweddaru 100% o’n systemau TG strategol ac yn eu rhedeg yn y cwmwl
  • byddwn yn gwneud ein gwasanaethau digidol a’n gwybodaeth yn fwy hygyrch, perthnasol a gyda mwy o ddewisiadau hunanwasanaeth – bydd 100% o’n gwasanaethau yn ddigidol yn ddiofyn a bydd 100% o’n systemau trafodol newydd yn dilyn safonau gwasanaeth a dylunio GOV.UK
  • byddwn yn gwneud cynnydd amlwg o ran gweithredu systemau sy’n caniatáu cydweithio symlach a gwell o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid
  • byddwn yn gwneud cynnydd amlwg o ran gwella ein sgoriau hunanasesu data canfyddadwy, hygyrch, rhyngweithredol ac amldro (FAIR).

10. Risgiau strategol

10.1 Diogelwch y Cyhoedd

Er gwaethaf mesurau rheoli yr Awdurdod Glo, mae perygl sylweddol a achoswyd gan waith cloddio glo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn gallu achosi anaf difrifol neu farwolaeth.

Diweddaru a lliniaru

Rydym wedi sefydlu prosesau i reoli ein risgiau gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell ymateb brysbennu 24/7.

Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu.

Sgôr gymharol

Uchel (sefydlog)

10.2 Newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol

Nid ydym yn gallu deall, addasu a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r tywydd eithafol yn ddigonol, sy’n effeithio ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith.

Diweddaru a lliniaru

Mae ein rhaglenni adnewyddu ac adeiladu ag arian cyfalaf sylweddol wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac yn atal llygredd a llifogydd.

Rydym yn cynnal adolygiad o effaith addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau a bydd hyn yn siapio ein rhaglenni ar gyfer y dyfodol.

Sgôr gymharol

Uchel (yn cynyddu)

10.3 Dŵr mwynglawdd hallt iawn

Oherwydd natur hallt iawn a lleoliad canolog dŵr mwynglawdd ym Maes Glo Swydd Nottingham, gall atebion posibl fod yn gymhleth ac angen cyllid ychwanegol sylweddol.

Diweddaru a lliniaru

Mae dadansoddiad diweddar o’n gwaith monitro helaeth ar faes glo Swydd Nottingham yn dangos bod cemeg dŵr y mwynglawdd yn heriol dros ben ac y bydd angen triniaeth ychwanegol i’r hyn a gyflawnir fel arfer.
Mae gwaith manwl yn mynd rhagddo yn awr i gynhyrchu a gwerthuso opsiynau ar gyfer triniaeth.

Sgôr gymharol

Uchel (yn cynyddu)

10.4 Cadwyn gyflenwi Mae marchnad lafur sy’n fwyfwy cyfyngedig a chystadleuol, chwyddiant a ffactorau eraill yn cynyddu’r pwysau ar ein cadwyn gyflenwi gan arwain at ddiffyg deunyddiau a chontractwyr sy’n ofynnol i gyflawni ein hamcanion strategol, neu gostau uwch iddynt.

Diweddaru a lliniaru

Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r gwaith sydd yn yr arfaeth, ac rydyn ni’n ymgysylltu’n gynnar â’n cyflenwyr. Rydym yn parhau i fonitro a gweithio gyda rhanddeiliaid i fanteisio i’r eithaf ar ein cyfleoedd a chadernid cadwyni cyflenwi lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda BEIS i gyfathrebu a rheoli pwysau o ran costau a chyllid.

Sgôr gymharol

Uchel (yn cynyddu)

10.5 Recriwtio a chadw staff

Mae pwysau ac ansicrwydd economaidd yn arwain at anhawster recriwtio a chadw digon o allu i gyflawni ein hamcanion strategol ac yn arwain at fwy o gostau ac oedi wrth gyflawni.

Diweddaru a lliniaru

Rydym wedi datblygu a gweithredu ein rhaglen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac wedi diweddaru ein Cynllun Pobl, ac yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i fireinio a datblygu ein ffyrdd newydd o weithio, gyda gwaith hybrid yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus.

Rhwng 2022 a 2023, byddwn yn datblygu cynllun integredig i adnewyddu ein dulliau recriwtio, adnoddau a phrentisiaethau. Cyfeiriwch hefyd at fesurau lliniaru risg y gadwyn gyflenwi uchod.

Sgôr gymharol

Uchel (yn cynyddu)

10.6 Digwyddiadau

Mae maint digwyddiadau critigol a mawr, neu’r ffaith eu bod yn gallu cyd-ddigwydd, yn effeithio ar allu’r Awdurdod Glo i gyflawni ei amcanion strategol.

Diweddaru a lliniaru

Rydym wedi dysgu o’r digwyddiadau argyfwng rydym yn eu rheoli ac wedi creu ein Cyfarwyddiaeth Gymunedol ac Ymateb i Argyfwng newydd, gan gryfhau ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365.

Rydym wedi dadlau y dylai’r Awdurdod Glo fod yn ymatebydd categori 2 a pharhau i wella ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid.

Sgôr gymharol

Uchel (sefydlog)

10.7 Methiant seiberddiogelwch

Mae hinsawdd wleidyddol y byd, dibyniaeth ddigidol gynyddol, dulliau cynyddol soffistigedig ac arloesol o ymosod yn arwain at fethiant seiberddiogelwch, gan arwain at golli arian neu ddata, amharu ar wasanaeth neu niweidio enw da.

Diweddaru a lliniaru

Rydym yn gwella ein rheolaethau technegol yn barhaus. Rydym yn deall bod diwylliant seiberddiogelwch cadarnhaol yn allweddol i gynnal amddiffyniad effeithiol ac rydym wedi parhau i gynnal ymgyrchoedd hyfforddi i hybu ymwybyddiaeth.

Sgôr gymharol

Canolig (yn cynyddu)

10.8 Datganoli

Mae datganoli pellach a blaenoriaethau gwahanol y tair gwlad yn arwain at fwy o wahaniaethau polisi rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan achosi aneffeithlonrwydd, ansicrwydd neu effeithiau ar enw da.

Diweddaru a lliniaru

Mae’n bosibl y gallai’r gwahaniaethau polisi rhwng y gwledydd barhau i gynyddu. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwledydd i gyflawni ein gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn y DU ac yn genedlaethol.

Sgôr gymharol

Canolig (yn cynyddu)

10.9 Data a gwybodaeth

Oherwydd diffyg adnoddau neu flaenoriaethu buddsoddiad, nid ydym yn esblygu ein data awdurdodol yn ddigon cyflym, gan arwain at anallu i gyflawni yn erbyn ein hamcanion strategol a chreu gwerth.

Diweddaru a lliniaru

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi dechrau rhaglen gwella data newydd y byddwn yn parhau i’w datblygu.
Rydym yn datblygu ein rhaglen addas ar gyfer y dyfodol – a byddwn yn cyhoeddi cynllun data a gwybodaeth manwl ym mis Mehefin 2023.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog)

10.10 Ymwybyddiaeth o’r cyhoedd a phartneriaid

Mae strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu aneffeithiol â rhanddeiliaid yn golygu nad oes gan randdeiliaid ddealltwriaeth glir o’n cylch gwaith a’n gweithgareddau sy’n arwain at golli cyfleoedd i wella canlyniadau ar y maes glo ac ar gyfer cymunedau.

Diweddaru a lliniaru

Rydym wedi cyflwyno achos cryf y dylai’r Awdurdod Glo fod yn ymatebydd categori 2 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i BEIS a Swyddfa’r Cabinet ac mae Swyddfa’r Cabinet wedi argymell hyn yn ei adroddiad ar ôl gweithredu CCA04 (2022).

Byddwn yn parhau i wella ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ar gyfer Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a Phartneriaethau Cadernid Rhanbarthol sy’n cwmpasu’r maes glo, ac yn cryfhau ein cynlluniau Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ymhellach, gan wreiddio’r rhain ym mhrosesau cyflawni’r prosiect.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog)

10.11 Arloesedd

Oherwydd cyfyngiadau cyllido a’r risg gynhenid o ran arloesi, gall y cynnydd i ddatblygu technoleg, prosesau a chynnyrch newydd gymryd mwy o amser na’r disgwyl, gan arwain at oedi o ran arbedion cost a chreu gwerth.

Diweddaru a lliniaru

Rydym yn parhau i nodi ffyrdd arloesol o ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion ac yn cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol. Rydym yn parhau i wneud gwaith ymchwil a datblygu, datblygu ein prosesau trwyddedu, a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mwynglawdd.

Rydym yn cydweithio â’n hadran noddi, sef BEIS, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i sicrhau’r llwyddiant gorau posibl i ni.

Sgôr gymharol

Canolig (sefydlog)

11. Ein Gwaith yn Yr Alban

Rydym yn adolygu ac yn adnewyddu ein cynlluniau trin dŵr mwynglawdd presennol yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i warchod dyfrhaenau dŵr yfed, afonydd a nentydd rhag llygredd ac yn gwella’r amgylchedd a’r ardal i bobl leol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi adnewyddu ein cynllun trin dŵr mwynglawdd ar safle hen lofa Polkemmet, ger Whitburn yng Ngorllewin Lothian. Cafodd y cynllun ei adeiladu’n wreiddiol yn 1997 ac mae’n gynllun lled-oddefol sy’n golygu bod dŵr y mwynglawdd yn cael ei bwmpio i’r wyneb ac yna’n llifo gyda disgyrchiant drwy’r cynllun sy’n cynnwys 3 morlyn a gwely cyrs. Yna, ychwanegir ychydig o hydrogen perocsid i helpu i setlo’r solidau haearn cyn i’r dŵr lifo i Cultrig Burn – y cwrs dŵr lleol.

Mae’r cynllun yn rheoli lefelau’r dŵr sy’n codi ym mloc cloddio Polkemmet (tua 100km2) sy’n rhan o faes glo Gorllewin Lothian. Heb ein hymyriad ni, byddai dŵr y pwll yn mynd drwy hen weithfeydd glo ac yn dod allan ger Afon Almond gan achosi llygredd ac effaith ar greaduriaid di-asgwrn-cefn lleol, pysgod a bywyd gwyllt arall.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o dywydd eithafol a glawiad uwch yn yr ardal sydd wedi cyfrannu at gynnydd cyflymach yn lefelau dŵr y mwynglawdd. Er mwyn rheoli’r risg o lygredd, bu’n rhaid i ni gynyddu’r gyfradd bwmpio a thrin o 67 litr yr eiliad i 100 litr yr eiliad. Roedd hyn yn gofyn am ailfeddwl i sicrhau bod y safle’n gallu delio â hyn yn effeithiol a bod yn gydnerth yn wyneb effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Gan weithio gyda’n partneriaid, JBA Bentley, fe wnaethom ddylunio cynllun mwy effeithlon a chynaliadwy gyda bron i 3 gwaith y capasiti trin – gan ei wneud yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn fwy cynaliadwy.

Roedd y dyluniad yn cynnwys modelu i leihau’r carbon adeiladu a newid agweddau ar y gwaith er mwyn lleihau’r defnydd o gemegau – gan ddisodli’r system dosio cemegol â rhaeadr awyru sy’n caniatáu i haearn gael ei dynnu gan ddefnyddio prosesau mwy naturiol.

Bydd yr ardal yn cael ei phlannu i annog bywyd gwyllt ac i gyd-fynd â’r dirwedd leol.

11.1 Ein blwyddyn yn yr Alban

1,754 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo wedi’u cynnal

ymchwilio i 59 o adroddiadau peryglon ar wyneb y tir

61,680 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno

darparu 1,200 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

32 biliwn litr o ddŵr wedi’i ei drin

798 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

12. Adolygiad ariannol

Rydyn ni wedi cyflawni’n dda dros y flwyddyn. Mae ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch y cyhoedd wedi parhau i gadw pobl yn ddiogel a thawelu eu meddwl, a bydd buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau yn ein galluogi i drin dŵr mwynglawdd a diogelu’r amgylchedd yn y dyfodol.

Rydym wedi parhau i gynyddu incwm ein gwasanaethau cynghori wrth i ni gefnogi ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau a darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda BEIS i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd sy’n sail i’n gofynion cyllido ac rydym wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon. Roedd grant BEIS a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yn £53.2 miliwn (2020-21: £44.1 miliwn) sy’n adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau.

Mae hyn yn cael ei egluro a’i ddangos yn y graffig isod. (Noder y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol o’r gost hon mewn blynyddoedd blaenorol fel yr esbonnir yn nodyn 13 y datganiadau ariannol ac nid yw’n cael ei briodoli’n uniongyrchol i’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).

12.1 Sut rydym wedi defnyddio ein harian?

Ein gwariant 2021 i 2022 2020 i 2021
Gweithrediadau: Diogelwch y Cyhoedd £21.1 miliwn £13.3 miliwn
Gweithrediadau: Cynlluniau trin dŵr pyllau glo £16.9 miliwn £14.4 miliwn
Gweithrediadau: Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant £1.4 miliwn £1.0 miliwn
Datblygu: Cynllunio, trwyddedu, caniatadau ac eiddo £3.2 miliwn £4.1 miliwn
Data a gwybodaeth £3.9 miliwn £3.9 miliwn
Masnachol £9.4 miliwn £8.9 miliwn
Arloesedd £0.8 miliwn £0.9 miliwn
Cynlluniau trin dŵr pyllau glo (cyfalaf) £16.5m £10.9m
Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (cyfalaf) £0.5 miliwn £0.4 miliwn
Arall (cyfalaf) £1.9 miliwn £2.4 miliwn
Cyfanswm £75.6 miliwn £60.2 miliwn
Ein hincwm 2021 i 2022 2020 i 2021
Cymorth Grant (BEIS) £53.2 miliwn £44.1 miliwn
Adroddiadau mwyngloddio £8.4 miliwn £7.9 miliwn
Gwasanaethau cynghori a thechnegol £6.4 miliwn £6.0 miliwn
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall £0.0 miliwn £0.2 miliwn
Indemniadau trwyddedu a chaniatadau £0.8 miliwn £0.8 miliwn
Trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio £1.5 miliwn £1.2 miliwn
Cysylltiedig ag eiddo £2.9 miliwn £0.7 miliwn
Arall £0.0 miliwn £0.1 miliwn
Symudiad cyfalaf gweithio £2.4 miliwn -£0.8 million
Cyfanswm £75.6 miliwn £60.2 miliwn

Yr incwm o £20.0 miliwn yn ôl y datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau incwm uchod ac eithrio cymorth grant a symudiad cyfalaf gweithio.

Wrth i ni adael cyfyngiadau COVID-19, rydyn ni wedi dysgu o’r cyfnod i bontio i’n ffyrdd o weithio, ochr yn ochr â’n cyflenwyr, i wella’r ddarpariaeth ar gyfer ein cwsmeriaid a’r cymunedau ar draws y tair gwlad rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Gan weithio gyda’n partneriaid, fe wnaethom gyflawni ein rhaglen gyfalaf flynyddol fwyaf erioed i warchod cyrsiau dŵr a dyfrhaenau dŵr yfed. Gwnaethom gynyddu gwariant i sicrhau bod nifer cynyddol o gynlluniau pwmpio dŵr mwynfeydd ac ymsuddiant, sydd hefyd yn heneiddio, yn gweithredu’n effeithiol. Bydd ein rhaglenni parhaus yn lleihau’r gost o redeg y cynlluniau hyn yn y dyfodol drwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffordd arloesol a drwy greu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill.

Mae ein gwariant ar ddiogelwch cyhoeddus wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y cyfnod gan adlewyrchu’r gwaith rydym wedi’i wneud i ddatrys nifer o honiadau a digwyddiadau sylweddol ac mae’n cynnwys ein cefnogaeth i’r ymateb brys yn Saltcoats, Gogledd Swydd Ayr a gwaith parhaus i adfer nodweddion mwyngloddio yn Sgiwen, De Cymru.

Mae incwm adroddiadau mwyngloddio o £8.4 miliwn yn adlewyrchu cynnydd o £0.4 miliwn ers y flwyddyn flaenorol, yn dilyn effeithiau blaenorol ar y farchnad o ganlyniad i COVID-19. Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £5.4 miliwn (2020 i 2021 £6.0 miliwn) gan adlewyrchu ein llwyddiant parhaus wrth gyflawni gyda sefydliadau eraill y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cynllun dŵr mwynglawdd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru, a chefnogi Llywodraeth Cymru i reoli tomennydd yn ddiogel.

12.2 Datganiadau ariannol

Mae ein cyfrifon yn cael eu dominyddu gan y balans darpariaethau o £5,618.0 miliwn. Dangosir y rhesymeg a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn ein hadolygiad ariannol.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol ar ddiwedd y flwyddyn (2021-22). Mae’r balans hwn wedi codi £3,102.0 miliwn (2020 i 2021: cynnydd o £223.0 miliwn). Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian i adlewyrchu gwerth amser yr arian ar sail rhagdybiaethau a chyfraddau a ddarperir gan Drysorlys EM. Mae’r newid mewn cyfraddau eleni wedi arwain at gynnydd o £2,759.0 miliwn (2020 i 2021: gostyngiad o £15.0 miliwn).

Mae ein costau sylfaenol wedi cael eu diweddaru i gynnwys 2 gynllun dŵr mwyngloddiau ataliol newydd, i gydnabod y pwysau parhaus ar gostau gweithredu’r cynllun, ac i adlewyrchu’r duedd o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch y cyhoedd cymhleth.

12.3 Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr

Roedd y gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2022 yn £3,149.2 miliwn o’i gymharu â £260.9 miliwn yn 2020 i 2021. Mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd yn cael ei yrru gan y symudiadau darpariaethau a amlinellir uchod. Heb gynnwys y symudiadau darpariaethau hyn, roedd gwariant net cynhwysfawr am y flwyddyn yn £18.9 miliwn (2020-21: £16.9 miliwn), cynnydd o £2.0 miliwn.

Amlinellir y rhesymau y tu ôl i’r symudiad hwn isod.

Cyfanswm incwm gweithredu

Roedd cyfanswm yr incwm gweithredu, nad oedd yn cynnwys cymorth grant, yn £20.0 miliwn (2020 i 2021: £16.9 miliwn) gan adlewyrchu ein strategaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau’r llywodraeth i’w cefnogi i reoli eu risgiau, gan hyrwyddo cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae ein cyfran o 44% o’r farchnad adroddiadau mwyngloddio (2020 i 2021 50%) yn dangos llwyddiant ein polisi i sicrhau bod ein data ar gael ac i agor y farchnad o sefyllfa fonopoli bron 7 mlynedd yn ôl. Mae gostyngiad bach yn y gyfran o’r farchnad yn ystod y flwyddyn wedi cael ei wrthbwyso, a mwy, o ganlyniad i gynnydd mewn trafodion cyffredinol yn y farchnad eiddo (2020 i 2021 yn dilyn effaith COVID-19). Cynyddodd refeniw adroddiadau mwyngloddio £0.5 miliwn i £8.4 miliwn, tra cynyddodd refeniw trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio £0.3 miliwn i £1.5 miliwn.

Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol wedi codi, £0.4 miliwn, i £6.4 miliwn. Mae hyn yn cael ei sbarduno’n bennaf gan ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru i wella’r gwaith o reoli tomennydd yn ddiogel.

Mae’r newid arall yn ein hincwm rhwng 2020 a 2021 yn ymwneud â gwerthu eiddo gyda chynnydd o £1.0 miliwn o drefniadau ‘adfachu’ a £1.1 miliwn o elw ar waredu eiddo buddsoddi (gweler nodyn 4 i’r datganiadau ariannol). Gall yr incwm hwn fod yn annisgwyl gan fod ei amseru y tu allan i’n rheolaeth i raddau helaeth.

Gwariant

Roedd costau staff o £17.8 miliwn yn dangos cynnydd o £2.0 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol wrth i ni gynyddu nifer y staff yn unol â’n cynlluniau i ddarparu mwy o wasanaethau rheng flaen i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed ar gyfer dŵr mwynglawdd i warchod yr amgylchedd, darparu mwy o gyngor a gwasanaethau technegol i’n cwsmeriaid, a galluogi’r sefydliad i ddarparu gallu ymateb brys hyd yn oed yn fwy cadarn ac effeithiol wrth i ni ddelio â nifer cynyddol o ddigwyddiadau cymhleth.

Roedd prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau a ddarparwyd yn flaenorol) wedi cynyddu £0.6 miliwn i £9.1 miliwn, gan gynnwys cynnydd yng nghostau’r gadwyn gyflenwi sy’n cefnogi darparu incwm gwasanaethau cynghori a thechnegol a chynnydd mewn costau teithio a chynhaliaeth wrth i ni ddychwelyd i ffyrdd mwy arferol o weithio ar ôl cyfyngiadau symud COVID-19.

Cynyddodd taliadau dibrisiant, ailbrisio ac amhariad £2.6 miliwn i £21.0 miliwn, sy’n adlewyrchu cynnydd mewn buddsoddiad drwy ein rhaglen cynllun trin dŵr mwynglawdd a chwblhau cynlluniau, lle mae ein polisi cyfrifyddu’n amharu ar gynlluniau ar unwaith i ddim gwerth net ar lyfrau pan fyddant yn dod yn weithredol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 3 a 4 y datganiadau ariannol.

12.4 Datganiad o’r sefyllfa ariannol

Mae’r ffigurau cymharol ar gyfer 2020 i 2021 wedi cael eu hailddatgan mewn rhai achosion wrth weithredu’r safon cyfrifyddu newydd IFRS16: Lesoedd Mae gwybodaeth fanwl am y safon hon a’i heffeithiau ar y datganiadau ariannol wedi’i chynnwys yn nodiadau 1.18 a 14 y datganiadau ariannol.

Cynnydd o £3,096.0 miliwn yn y rhwymedigaethau net i £5,607.4 miliwn (wedi’i ailddatgan yn 2020-21: £2,511.4 miliwn). Y ffactorau allweddol oedd:

  • cynyddodd y darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol £3,102.0 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad mewn darpariaethau a amlinellir uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 y datganiadau ariannol

  • mae’r cynnydd mewn eiddo, offer a chyfarpar o £6.6 miliwn i £25.8 miliwn, yn cael ei yrru gan fuddsoddiad mewn cynlluniau dŵr mwynglawdd o fewn ‘asedau sy’n cael eu hadeiladu’

  • mae asedau anniriaethol wedi gostwng ychydig, sef £0.0.1 miliwn, gan adlewyrchu tuedd gynyddol tuag at ddefnyddio technoleg a systemau cwmwl

  • mae symiau derbyniadwy drwy fasnach wedi cynyddu £1.1 miliwn i £4.7 miliwn, o ganlyniad i amseriad anfonebu a derbyn taliad gan un o’n cwsmeriaid yn y llywodraeth

  • Mae’r arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn £14.3 miliwn (2020 i 2021: £10.8 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian i gael manylion am symudiadau.

  • mae masnach a symiau taladwy eraill wedi gweld cynnydd sylweddol o £5.1 miliwn, gyda’r prif yrrwr yn gynnydd o £7.2 miliwn mewn croniadau ar gyfer gwariant diogelwch cyhoeddus a gwariant cyfalaf ar gynlluniau dŵr mwyngloddiau, wedi’i wrthbwyso gan; ostyngiad o £1.1 miliwn yn y balansau diogelwch a ddelir i ryddhau rhwymedigaethau sy’n ymwneud â hawliadau’r diwydiant; gostyngiad o £0.6 miliwn sy’n ymwneud ag amseru talu credydwyr masnach; a symudiadau eraill £0.4 miliwn

12.5 Llif arian Roedd cynnydd net mewn arian parod yn ystod y flwyddyn o £3.5 miliwn. Dyma rannau cyfansoddol y symudiad hwn:

  • derbyn grant o £53.2 miliwn gan BEIS (2020 to 2021: £44.1 miliwn) – mae’r cynnydd, sef y prif symudiad yn ein balans arian o un flwyddyn i’r llall, yn cael ei dynnu i lawr i dalu am gyfalaf gweithio sy’n ymwneud â dau brif faes: datrys digwyddiadau diogelwch y cyhoedd a’n rhaglenni cyfalaf, yn unol â’r sylwebaeth ar groniadau uchod

  • all-lif arian net o weithgareddau gweithredu o £35.7 miliwn (2020 i 2021: (£7.9 miliwn) – rydym wedi gwario mwy eleni ar ein gweithrediadau, yn enwedig; yr ymateb brys yn Saltcoats, Gogledd Swydd Ayr; gwaith parhaus i adfer y nodweddion mwyngloddio yn Sgiwen, De Cymru; a nifer o hawliadau a digwyddiadau pwysig eraill o ran diogelwch y cyhoedd

  • all-lif arian net o weithgareddau buddsoddi o £13.5 miliwn (2020-21: £10.5 miliwn) – mae hyn yn ymwneud â phrynu eiddo, offer a chyfarpar fel rhan o’n rhaglen barhaus i ddatblygu, adeiladu a chynnal cynlluniau dŵr mwynglawdd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, ac yn y buddsoddiad parhaus yn ein technoleg a’n systemau gwybodaeth, ac mae’r buddsoddiad cynyddol yn cael ei wrthbwyso’n rhannol gan £3.0 miliwn o incwm (2020-2021: £0.9 miliwn) o werthu eiddo

  • ar 31 Mawrth 2022 roeddem yn dal £14.3 miliwn o arian parod (2021: £10.8 miliwn) – mae hyn yn cynnwys £1.4 miliwn (2021: £2.2 miliwn) o gyllid wedi’i neilltuo ar gyfer diogelwch a gafodd ei alw i mewn gan weithredwyr mwyngloddio sydd wedi’u diddymu, a defnyddir y symudiad mewn diogelwch a elwir i mewn i ryddhau rhwymedigaethau hawliadau’r diwydiant fel rhan o’n gweithgareddau gweithredu

12.6 Busnes byw

I’r graddau nad ydynt yn cael eu diwallu o’n ffynonellau incwm eraill, dim ond drwy grantiau neu grantiau yn y dyfodol gan ein hadran noddi BEIS y gellir cwrdd â’n rhwymedigaethau. Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, efallai na fydd grantiau o’r fath yn cael eu cyhoeddi cyn yr angen.

Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, dalu i’r Awdurdod Glo unrhyw swm y mae’n penderfynu mai dyna’r swm sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Glo ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”

Ar sail hynny, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid er mwyn gallu cyflawni ein rhwymedigaethau. Rydym felly wedi paratoi ein cyfrifon ar sail busnes byw.

13. Ein pobl

Mae 2021 i 2022 wedi bod yn flwyddyn arall lle mae pawb sy’n gweithio yn yr Awdurdod Glo wedi wynebu heriau newydd yn y gwaith ac yn y cartref.

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i bartneriaid, cwsmeriaid a chymunedau ar draws y tair gwlad lle rydym yn gweithio gan gefnogi ein pobl a’u lles ar yr un pryd.

Rydym wedi parhau i ddysgu o gyfnodau newidiol y pandemig a symud ymlaen tuag at ein ‘normal newydd’, rydym yn cefnogi’r rheini sy’n poeni am gostau cynyddol pwysau byw ac yn cydnabod yr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ein pobl o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang fel yr ymosodiad ar Wcráin.

Rydym wedi annog defnyddio ein rhaglen cymorth i weithwyr, wedi parhau i flaenoriaethu ymgysylltu â staff, wedi annog gwirfoddoli ac wedi cymryd camau ymarferol lle bo modd, fel darparu nwyddau mislif am ddim i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif.

Mae buddsoddiad pellach yn ein seilwaith TG wedi galluogi ein pobl i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i gefnogi cwsmeriaid a darparu gwasanaethau o’r swyddfa, ar y safle neu gartref. Rydym wedi dod i arfer â gweithio o bell gan gydnabod y cyfleoedd a’r manteision o dreulio amser gyda’n gilydd ac rydym wedi bod yn greadigol o ran dod â phobl at ei gilydd yn ddiogel yn y swyddfa, allan ar y safle a gyda chwsmeriaid a phartneriaid.

Buom yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu a chyflwyno fframwaith gweithio hybrid newydd gyda chategorïau’n ymwneud â’r math o rôl. Mae hyn yn cydnabod ein bod bob amser wedi cael gweithlu o bell sy’n caniatáu i ni gynnal ymateb brys 24/7 ledled Prydain Fawr gan geisio taro’r cydbwysedd rhwng hyblygrwydd, presenoldeb a chydweithio – rhywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n bwysig i’n pobl ac sy’n berthnasol i unrhyw sefydliad sy’n recriwtio yn y farchnad gystadleuol bresennol. Mae’r dull hwn wedi cynyddu ein gallu i recriwtio o gymunedau ar draws ardaloedd meysydd glo Prydain Fawr, sy’n gwella ein hymateb a’n hymgysylltiad rheng flaen.

Rydyn ni wedi dysgu o raglen ‘gynefino’ y llynedd ar gyfer gweithwyr newydd ac wedi datblygu’r rhaglen ymhellach er mwyn rhoi’r cychwyn gorau i gydweithwyr yn yr Awdurdod Glo, p’un a ydynt wedi’u lleoli yn y maes yn bennaf, yn gweithio mewn swyddfa neu’n hybrid.

Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan ffocws parhaus ar ddysgu a datblygu drwy raglenni arweinyddiaeth ffurfiol, hyfforddi a mentora, hyfforddiant technegol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae ein hymrwymiad amlwg i gydraddoldeb a chynhwysiant yn parhau. Yn 2021 roeddem wedi cyhoeddi ein cynllun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant diweddaraf, Lle Gwych i Weithio i Bawb, sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd rhwng nawr ac Ebrill 2024 i sicrhau ein bod yn gallu denu pobl o bob cefndir i weithio gyda ni, gwella ein diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar lesiant a darparu gwasanaethau effeithiol ac empathig ar gyfer y cymunedau amrywiol rydym yn gweithio gyda nhw.

Fel rhan o hyn, rydym wedi gwrando ar gydweithwyr a lleisiau ar draws ein busnes a’n sector ac wedi gweithio gyda phartneriaid fel rhwydwaith amrywiaeth y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol o sefydliadau ar draws y sector amgylcheddol i ddatblygu a chyhoeddi ein cynllun gwrth-hiliaeth.

Bydd hyn yn ein herio i barhau i wella ein polisïau, ein prosesau a’n dull gweithredu i fod yn sefydliad sy’n fwy gwrth-hiliol ac yn ein helpu i ddenu a chadw mwy o bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg yn ein sefydliad ar hyn o bryd.

Eleni, fe wnaethom gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nawr gallwn gymharu data ar draws 3 blynedd sy’n dangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir yn gyffredinol, gyda’r bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau yn gostwng 1.97% ers 2018 i 2019 a’r canolrif yn 5.28%.

Mae cynnydd eleni wedi arafu gyda’n bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau yn gostwng 0.04% a’r canolrif yn gostwng 0.2%. Roedd llai o recriwtio yn ystod y pandemig wedi effeithio ar hyn. Rydym yn falch o weld mwy o fenywod yn symud ymlaen drwy ein graddau ac i rolau uwch a rolau rheoli – cynnydd o 6.63% o fenywod yn y chwartel canol uchaf. Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021 yn gymedr o 19.93% a chanolrif o 26.21% ac mae’r adroddiad yn dangos sut byddwn yn parhau i weithredu i leihau hyn.

Eleni, mae ein hadroddiad ar y bwlch cyflog hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol. Effeithir ar gywirdeb y cyfrifiadau hyn gan gynrychiolaeth isel yn ein sefydliad a chyfraddau hunan-ddatgelu isel (yr ydym yn gweithio arnynt) ond credwn fod y wybodaeth yn dal yn ddefnyddiol ac y bydd mwy o dryloywder yn ein helpu i wneud gwell cynnydd.

Rydym wedi parhau â’n gwaith mewn ymateb i’r arolwg llawn diwethaf o bobl a gynhaliwyd gennym yn 2019, gan ganolbwyntio’n benodol ar wella cydbwysedd bywyd a gwaith, mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu a chreu naratif cliriach i’n pobl yn dilyn newid mewn nifer o feysydd ers 2018.

Bydd yr arolwg llawn nesaf yn cael ei gynnal yn 2022 ond fe wnaethom gynnal mân arolygon rheolaidd yn ystod 2021 gydag 87% o gydweithwyr yn ymateb. Roedd hyn yn dangos gwelliannau mewn sawl maes allweddol gan gynnwys cydbwysedd bywyd a gwaith a rhwng anghenion unigolion ac amcanion y sefydliad. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu yn ei holl ffurfiau a sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel i roi gwybod am unrhyw bryderon.

Rydym yn adolygu ein holl bolisïau pobl, a hynny wedi ei gynllunio, ac eleni roeddem yn canolbwyntio ar ein polisïau ‘cyfeillgar i deuluoedd’, gan weithio gyda’n rhwydweithiau cydweithwyr a cheisio arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus i’w gwneud mor glir, cynhwysol a chefnogol â phosibl.

Rydym hefyd wedi cynyddu ein cefnogaeth i gydweithwyr drwy ddarparu porth buddion EdenRed newydd sy’n darparu gostyngiadau iechyd a lles ac arbedion arian mewn amrywiaeth o adwerthwyr.

14. Ein Gwaith yn Lloegr

Yn 2021 gwelwyd cynnydd mawr o ran adfer safle cymhleth yn Cumbria er mwyn gallu defnyddio’r safle yn awr er budd y gymuned leol.

Mae hyn yn dilyn sawl blwyddyn o waith gyda pherchnogion cartrefi a’r gymuned leol a effeithiwyd gan oedi a achoswyd gan gyfyngiadau symud yn ystod pandemig COVID-19.

Ym mis Tachwedd 2018, galwodd perchennog cartref lleol Gyngor Bwrdeistref Allerdale i roi gwybod am bant yn llawr ystafell fyw eu heiddo. Ar ôl tynnu rhai o’r estyll, daeth y cyngor o hyd i le gwag mawr ac oherwydd bod yr ardal yn adnabyddus am ei gloddfa, gofynnodd i ni ymchwilio. Roedd ein cofnodion yn dangos siafft gloddfa wedi’i chofnodi ers dros 100 mlynedd yn yr ardal leol.

Canfu ymchwiliadau tir mai’r gwagle y tu mewn i’r eiddo oedd y siafft mwynglawdd a gofnodwyd. Roedd agoriad siafft y mwynglawdd tua 20 metr o dan lefel y ddaear gyda deunydd graean ansefydlog meddal, tywodlyd rhwng lefel y ddaear ac agoriad y siafft a oedd yn bygwth sefydlogrwydd sawl eiddo ar y naill ochr a’r llall i’r un a nodwyd ar y dechrau.

Buom yn gweithio’n agos gyda’r perchnogion tai yr effeithiwyd arnynt i ddarparu cefnogaeth a threfnwyd i brynu 7 eiddo am bris llawn ar y farchnad fel y gallai’r preswylwyr symud ymlaen gyda’u bywydau wrth i ni ymgymryd â’n gwaith. Cafodd yr eiddo hyn eu dymchwel yn ofalus er mwyn lleihau’r effaith ar eiddo cyfagos. Cafodd yr eiddo cyfagos a’r eiddo cyffiniol eu monitro’n gyson drwy gydol y cyfnod dymchwel er mwyn rhoi sicrwydd nad oedd ein gwaith yn effeithio arnynt.

Roedd y safle’n gompact iawn gyda strydoedd cul ac roedd ymgysylltu agos â’r gymuned yn hanfodol drwy gydol y prosiect. Buom yn gweithio’n agos gyda Mark Jenkinson, yr AS lleol, y Cyngor Plwyf a Chyngor Bwrdeistref Allerdale i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb. Fe wnaethom hefyd gynnal cyfarfod cyhoeddus a chyhoeddi 6 cylchlythyr drwy gydol y prosiect.

Ar ôl dymchwel y tai, y flaenoriaeth oedd sefydlogi siafft y mwynglawdd a’r tir o’i amgylch. Er mwyn gwneud hyn yn ddiogel, fe wnaethom weithio gyda’n contractwyr i osod platfform diogelwch 27 metr o hyd ar draws siafft y mwynglawdd a’r ardal o’i amgylch. Roedd hyn yn caniatáu i ni ddrilio a chadarnhau union leoliad a dimensiynau’r siafft i lywio dyluniad terfynol y gwaith atgyweirio a dangos bod y siafft yn 120 metr o ddyfnder.

Cafodd siafft y mwynglawdd ei hatgyweirio drwy ddrilio a chwistrellu 517 tunnell o ddeunydd growt sment yn syth i siafft y mwynglawdd. I sefydlogi’r deunydd graean tywodlyd uwchben y siafft mwynglawdd, chwistrellwyd 2,300 litr o resin a deunydd growt sment i wneud yn siŵr bod y tir wedi’i sefydlogi’n llwyr.

Mae siafft y mwynglawdd a’r ardal gyfagos bellach wedi’u diogelu’n barhaol ac yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.

Yr ydym yn cynnal trafodaethau gyda’r AS a’r cynghorau ynghylch defnyddio’r safle yn y dyfodol i sicrhau y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl ar gyfer anghenion yr ardal leol.

14.1 Ein blwyddyn yn Lloegr

5,985 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo wedi’u cynnal

ymchwilio i 331 o adroddiadau peryglon ar wyneb y tir

119,332 o adroddiadau mwyngloddio wedi’u cyflwyno

darparu 7,567 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio

81 biliwn litr o ddŵr wedi’i ei drin

2,713 tunnell o solidau haearn wedi’u hatal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr

15. Iechyd, diogelwch a lles

Buom yn gweithio’n rhagweithiol i ymateb i newidiadau mewn canllawiau diogelu COVID-19 ar draws y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu a sicrhau ein bod yn gallu parhau i wneud gwaith rheng flaen yn ddiogel mewn cymunedau a rhoi hyder i gwsmeriaid a phartneriaid i weithio gyda ni yn eu cartrefi neu ar y safle.

Roedd ein swyddfa yn Mansfield yn dal ar agor i’r rheini a oedd yn poeni am weithio’n ddiogel gartref, ac fe wnaethom sicrhau bod safonau uchel ar gael ar gyfer swyddfeydd safle a chyfleusterau lles. Roedd 74.4% o gydweithwyr yn cytuno ein bod yn darparu cymorth da ar gyfer Iechyd, Diogelwch a Lles yn ein mân arolygon rheolaidd yn 2021.

Buom yn gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i ddatblygu a chyhoeddi ein cynllun HSW newydd sy’n adeiladu ar ein record iechyd a diogelwch gref ac yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd hyd at Ebrill 2025 i gefnogi ein pobl, ein cadwyn gyflenwi a’r cyhoedd.

Y flwyddyn nesaf byddwn yn cyflwyno system rheoli iechyd, diogelwch a lles ar-lein newydd i gefnogi’r dull gweithredu hwn, a fydd yn gwella ein defnydd o ddata, yn ein galluogi i gymryd camau amserol a gwybodus i leihau risg ymhellach a symleiddio’r broses adrodd ar gyfer ein pobl, ein partneriaid a’n cadwyn gyflenwi.

Mae ein hystadegau 2021 i 2022 yn adlewyrchu’r cynnydd yn y gwaith gweithredol rydym wedi gallu ei wneud o’i gymharu ag effeithiau mwy difrifol cyfnodau clo yn 2020 i 2021. Mae hyn wedi arwain at fwy o archwiliadau safle a mwy o adroddiadau am arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – y rheini a allai fod yn anniogel (sy’n hwyluso dysgu ac yn lleihau damweiniau) ac arferion da y gellir eu rhannu a’u dathlu.

Rydym wedi gweld cynnydd bach mewn damweiniau, gan gynnwys un ddamwain y gellid adrodd amdani dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR), yn ymwneud â rhyddhau calch hydredig yn ddamweiniol yng nghynllun dŵr pwll glo Wheal Jane. Mae’r rhain wedi cael eu hymchwilio’n drylwyr gyda’r achos gwaelodol wedi’i nodi a chamau’n cael eu cymryd a’u rhannu â’n cadwyn gyflenwi i atal hyn rhag digwydd eto.

Mesur 2021 i 2022 2020 i 2021
Arsylwadau HSW – gweithredoedd anniogel posibl (staff a chontractwyr) 2,407 959
Sylwadau HSW – enghreifftiau o arferion da (staff a chontractwyr) 281 320
Archwiliadau HSW (staff) 218 140
Damweiniau – dim amser yn cael ei golli (staff a chontractwyr) 7 6
Damweiniau – amser wedi’i golli (staff) 1 0

16. Ein gwaith i sicrhau budd i’r gymuned

Rydym yn gweithio gydag eraill ledled Prydain Fawr i alluogi adfywio ardaloedd meysydd glo er budd cymunedau lleol.

Un enghraifft o hyn yw ein gwaith gyda Llywodraeth yr Alban, Cyngor Midlothian a Shawfair LLP i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ‘tref newydd’ ar hen Bwll Glo Monktonhall yn Midlothian, yr Alban a fydd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a hunaniaeth gymunedol. {:#midlothian}

Mae hen Lofa Monktonhall a’r tir llwyd o’i amgylch, i’r de-ddwyrain o Gaeredin, wedi bod yn eiddo inni ers i’r lofa gau yn 1997. Yn 2018, fe wnaethom ymuno â fforwm tir lleol i edrych ar sut y gellid addasu’r tir er budd y gymuned leol.

Bydd y datblygiad newydd arfaethedig yn creu 4,000 o gartrefi, mannau masnachol, amwynderau newydd gan gynnwys ysgol a swyddfeydd yn ogystal â rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded i helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd. Bydd gan y fenter newydd gysylltiadau gwych â Chaeredin gyda gorsaf Waverley Caeredin 15 munud i ffwrdd.

Rydym yn trosglwyddo rhywfaint o’n tir er mwyn gallu adeiladu’r seilwaith angenrheidiol. Mae ein dull gweithredu yn ein galluogi i ddangos gwerth i’r trethdalwr ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cymuned newydd lle mae ei hangen.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid y prosiect i weld lle gallai ein tir sy’n weddill fod o fudd ac i annog defnyddio gwres dŵr mwynglawdd a fyddai’n adnodd gwresogi carbon isel, cynaliadwy, cost effeithiol a diogel ar gyfer cartrefi a busnesau ar draws y dref newydd ac yn darparu cysylltiad clir â threftadaeth y safle. Byddai hyn yn defnyddio Prosiect Ynni Gwres Ardal Shawfair.

17. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd

Rydym wedi gwneud rhagor o gynnydd ar ein taith i sicrhau carbon sero net erbyn 2030 drwy symleiddio ein hallyriadau a nodi heriau penodol y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ganfod a gwella ein prosesau casglu, monitro a mesur data er mwyn i ni ddeall ein heffeithiau’n llawn a gallu cymryd camau i’w lleihau.

Fel rhan o hyn, rydym wedi esblygu ein hadroddiadau i ddangos ein cynnydd yn well ac i gyd-fynd ag Ymrwymiadau Gwyrddu Llywodraeth y DU. Mae gwaelodlin y rhain yn 2017 i 2018.

Mae cynaliadwyedd yn thema allweddol yn ein cynllun busnes newydd ac mae’n amlwg wedi dylanwadu ar ein ffordd o feddwl dros y tair blynedd nesaf yn ogystal â’n gweledigaeth 10 mlynedd sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun. I ategu hyn, rydym wrthi’n cwblhau cynllun cynaliadwyedd newydd a byddwn yn ei gyhoeddi yn yr hydref ac yn dangos sut byddwn yn gweithredu i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd eang ar gyfer pobl, byd natur a’r hinsawdd.

17.1 Yn ystod 2021 i 2022 rydym wedi:

  • lleihau carbon ein teithiau busnes, gan gynnwys defnyddio mwy o gerbydau allyriadau sero neu’n allyriadau isel iawn
  • lleihau dwysedd carbon ein gweithrediadau drwy ddefnyddio llai o nwy ac olew ar gyfer generaduron
  • ailgylchu 86% o’n gwastraff
  • cynnydd pellach yn y compostio a’r defnydd amaethyddol o’n gwely cyrs a’n gweddillion gwlyptir, gyda 90% yn awr ddim yn cael ei waredu
  • pennu gwaelodlin ar gyfer ein hadroddiadau plastig untro er mwyn i ni allu datblygu cynlluniau i leihau a dileu eu defnydd
  • defnyddio ein dulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy i wneud mwy o’n defnydd ein hunain ac i allforio ynni wedi’i ddatgarboneiddio i’r grid
  • gwella effeithlonrwydd dŵr ein Prif Swyddfa ym Mansfield
  • datblygu polisi caffael cynaliadwy newydd sy’n cynnwys egwyddorion gwerth cymdeithasol ac sy’n ymrwymo i 30% o wariant contract gyda busnesau bach a chanolig
  • cyhoeddi ein datganiad ar gaethwasiaeth fodern

17.2 Ein hymrwymiadau llywodraeth gwyrddu

Mae Ymrwymiadau Gwyrddu Llywodraeth y DU yn gamau gweithredu y bydd adrannau llywodraeth y DU a’u hasiantaethau yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Pŵer 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Y pŵer a gynhyrchwyd drwy ein defnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (kWh)[footnote 1] 1,337,849 2,476,541 4,151,179
Cyfanswm allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) [footnote 2] 341.08 633.431 1,141.29
allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) [footnote 2] 12.49 11.9 13.7
Trydan a brynwyd (kWh) [footnote 3] 27,009,063 28,385,841 20,494,016
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr o drydan a brynwyd (tCO2e) [footnote 3] 6,242.33 7,187.01 7,878.51
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o drydan a brynwyd (tCO2e) [footnote 3] 257.61 267.38 364.94
Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd (kWh) [footnote 3] 1,359,417 1,362,719 189,966
Ynni adnewyddadwy a ddefnyddiwyd (kWh) [footnote 3] 883,224 835,100 165,501
Ynni adnewyddadwy wedi’i allforio i’r grid (kWh) [footnote 4] 476,193 527,619 24,465
Dwysedd carbon (kgCO2e/kWh) [footnote 4] 0.225 0.247 0.364
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â phŵer y brif swyddfa (tCO2e) 270.1 279.281[footnote 5] 378.64
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â phŵer (tCO2e) 6,583.41 7,820.44 9,019.80
Cyfanswm gwariant ar ddefnyddio ynni £5,497,513.14 £4,902,496.84 £4,348,855.17
Allyriadau sy’n ffoi 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Oeri ac Aer-dymheru (tCO2e) 34 System newydd wedi’i gosod 6

Canfuwyd gollyngiad yn y system aer-dymheru, ac fe’i hatgyweiriwyd yn 2021 i 2022, ond arweiniodd hynny at allyriadau ychwanegol.

Teithio sy’n gysylltiedig â busnes 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Cilometrau (km) a deithiwyd 1,372,251 2,201,861 1,799,174
Nifer yr hediadau 0 0 73
Allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e) 229.06 385.63 305.9
Dwysedd (tCO2e/100,000km) 16.69 17.51 17
Cyfanswm gwariant ar deithio (domestig a rhyngwladol) £305,191.76 £236,317.00 £354,537.00
% cerbydau fflyd sy’n gerbydau allyriadau isel iawn neu allyriadau sero (hybrid neu drydan llawn) 26.3% (cyfartaledd) 37% (diwedd blwyddyn) 28% 0%

Rydyn ni’n diweddaru ein polisi teithio er mwyn integreiddio cynaliadwyedd yn well a chefnogi gostyngiad mewn allyriadau yn uniongyrchol. Rydym yn teithio mwy ar ôl y pandemig ond mae ein dwysedd carbon yn llai gan ein bod yn defnyddio dulliau trafnidiaeth carbon is.

Rydym yn newid polisi a chymysgedd ein fflyd i newid yn llwyr i gerbydau dim allyriadau erbyn 2027.

Adnoddau – defnyddio dŵr 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Defnyddio dŵr (m3) – prif swyddfa 484 478 1,910
Safleoedd dŵr mwynglawdd 3,435 3,075 (amcangyfrif o’r defnydd cyfartalog) 3,075 (amcangyfrif o’r defnydd cyfartalog)
Cyfanswm gwariant ar ddŵr £46,068.02 £15,851.14 £65,259.32

Cynyddodd gollyngiadau yng nghynllun trin dŵr mwynglawdd Frances y defnydd o ddŵr yn 2021 i 2022. Mae gennym welliannau i’w gwneud o ran casglu data i gefnogi ein cynlluniau rheoli a lleihau dŵr.

Adnoddau – defnydd papur 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Defnydd papur (rîm cyfwerth ag A4) 348 60 718

Mae’r defnydd o bapur wedi mwy na haneru yn ystod gweithio o bell a gwaith hybrid. Mae angen mwy o waith i gynnal cynnydd a lleihau’r defnydd o bapur ymhellach.

Gwastraff 2021 i 2022 2020 i 2021 2017 i 2018 (ein blwyddyn gwaelodlin)
Cyfanswm gwastraff (tunnell) 30,383 - 1,417
Gwastraff prif swyddfa wedi’i ailgylchu (tunelli) 2.88 - 12
Gwastraff wedi’i ailgylchu (tunelli) 27,325 - 0
Gwastraff prif swyddfa i safleoedd tirlenwi (tunelli) 0.45 - 6.9
Gwastraff i safleoedd tirlenwi (tunelli) 3,058 - 1,405
Gwastraff wedi’i losgi (ynni o wastraff) (tunelli) 0 0 0
Gwastraff TGCh 0 0 0
% Gwastraff prif swyddfa i safleoedd tirlenwi 14% - 37%
% gwastraff i safleoedd tirlenwi 10.10% - 99.20%
Cyfanswm gwariant ar waredu gwastraff £4,264.71 - £3,175.71

Nid yw data gwastraff ar gael yn rhwydd ar gyfer 2020 i 2021 oherwydd newidiadau mewn systemau.

Rydyn ni’n ailddefnyddio, yn addasu neu’n ailgylchu ein hoffer TGCh.

Mae ein gwastraff cynnal a chadw gwlyptir a gwely cyrs yn cael eu compostio, eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu yn bennaf. Mae gennym heriau gyda deunyddiau ocr o’n morlynnoedd a’n safleoedd trin dosio cemegol a mwy i’w wneud o ran ein swyddfa a’n gwastraff gweithredol.

Cymeradwywyd yr adroddiad perfformiad hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu, Lisa Pinney MBE, 5 Gorffennaf 2022

  1. Nwy petroliwm hylifedig (LPG) ac olew tanwydd 

  2. Rydym yn defnyddio llai o olew tanwydd (disel ar gyfer generaduron ar y safle) yn dilyn newid i gysylltiadau grid ar gyfer ein profion pwmpio.  2

  3. Rydym yn defnyddio mwy o ynni o bwmpio mwy o ddŵr mewn lleoliadau ychwanegol. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn is yn gyffredinol oherwydd dwysedd GHG is y grid ac oherwydd ein bod yn defnyddio mwy o’n pŵer adnewyddadwy ein hunain.  2 3 4 5

  4. Rydym yn cefnogi datgarboneiddio grid drwy allforio ynni gwyrdd. Mae’r grid yn lanach drwy ddefnyddio mwy o ynni gwyrdd.  2

  5. Mae’r gwerth yn 2020 i 2021 wedi’i newid o’r hyn a adroddwyd yn adroddiad a chyfrifon blynyddol y llynedd oherwydd gwell proses casglu data a defnyddio dwysedd carbon cyfartalog y grid yn unol â GGC, yn hytrach na’r hyn a gafwyd gan ein cyflenwr dwysedd carbon is.