Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Glo 2023 i 2024: Adroddiad perfformiad
Diweddarwyd 12 August 2024
1. Trosolwg
Mae’r Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol ac yn sefydliad partner i’r Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.
1.1 Ein cenhadaeth
Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.
1.2 Ein pwrpas:
-
rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt
-
rydym yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd
-
rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
-
rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i’r trethdalwr
Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.
Rydym yn gweithio gydag adrannau ar draws Llywodraeth y DU i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth y DU, gan gynnwys y newid i sero net, ffyniant bro, cydnerthedd cenedlaethol, gwell amgylchedd, ac economi gynaliadwy. Rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraethau Cymru a’r Alban. Drwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cefnogi nhw a’n partneriaid i greu gwledydd mwy diogel, glân a gwyrdd i bob un ohonom.
1.3 Ein trefn lywodraethu:
Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am bennu ein cyfeiriad strategol a’n dal ni i gyfrif. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd.
Mae gan ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.
Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.
Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a chaiff rhai ohonynt eu penodi i’r bwrdd wedyn, hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.
1.4 Ein gwerthoedd
Dibynadwy:
-
rydym yn gweithredu’n ddidwyll
-
rydym yn agored ac yn dryloyw
-
rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau
Cynhwysol:
-
rydym yn hyrwyddo diwylliant o barch at ein gilydd
-
rydym yn cydnabod bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud yn gryfach
-
rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth
Blaengar:
-
rydym yn meddwl yn agored ac yn arloesol
-
rydym yn cydnabod y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol
-
rydym yn gwrando ac yn dysgu
2. Y gwaith rydyn ni’n ei wneud
Yn ystod 2023 i 2024, ar draws y 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu:
2.1 Rydym wedi cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt
10,465 Cynhaliwyd o archwiliadau o fynedfeydd pyllau glo
896 Ymchwiliwyd i ac aseswyd o beryglon mwyngloddio a hawliadau ymsuddiant
823 Cynhaliwyd o archwiliadau ar bentyrrau sborion (tomennydd) sy’n eiddo i’r Awdurdod Glo a’n partneriaid wedi
2.2 Rydym wedi defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
126,513 Cyflwynwyd o adroddiadau mwyngloddio
1,620 Rhoddwyd o drwyddedau i groestorri glo
9,095 Darparwyd o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio
2.3 Rydym wedi gwarchod a gwella’r amgylchedd
231 biliwn litr - y capasiti rydyn ni wedi’i greu neu ei gynnal i drin dŵr mwyngloddiau
4,057 tunnell o haearn wedi’i atal rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
3% Aeth o’n gwastraff solet ocr a haearn a gynhyrchwn i safleoedd tirlenwi
2.4 Rydym wedi creu gwerth a lleihau’r gost i’r trethdalwr
£8.1 miliwn o incwm wedi ei gynhyrchu drwy ein gwasanaethau cynghori
£196,000 Cynhyrchwyd oddeutu drwy werthu sgil-gynnyrch
8 Cafodd o safleoedd â gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ychwanegol eu creu drwy ein gwaith
3. Rhagair y Cadeirydd
Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon ar gyfer 2023 i 2024 sy’n crynhoi blwyddyn arall o gyflawni cadarn a chynnydd arloesol.
Mae’r sefydliad yn dal yn ymwybodol iawn o’r angen i ddatblygu, gwella a chadw’n berthnasol yn barhaus, ac wrth i ni ddathlu ein 30ain flwyddyn, rydym yn parhau i esblygu, datblygu sgiliau, systemau a thechnolegau newydd a chymryd camau tuag at wireddu uchelgeisiau ein gweledigaeth ar gyfer 2032.
Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda swyddogion a gweinidogion yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net sy’n ein noddi, ac roeddem yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog Graham Stuart i gynllun ynni glo Cyngor Gateshead ym mis Ionawr 2024 i weld yn uniongyrchol y manteision y mae’r cynllun yn eu darparu i bobl ac economi Gateshead ers iddo ddod yn weithredol ym mis Mawrth 2023.
Mae ystadegau’r cynllun a straeon go iawn gan y bobl sy’n defnyddio’r cynllun yr un mor bwerus – gyda phrisiau ynni o leiaf 5% yn is na chost nwy, mae rhai preswylwyr yn gallu gwneud dewisiadau ynghylch eu gwres a’u dŵr poeth erbyn hyn, nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny o’r blaen oherwydd pryderon ynghylch trydan a chostau byw.
Mae busnes lleol – GB Lubricants – wedi adrodd am arbedion sylweddol o ran costau gwresogi ochr yn ochr â chyfleoedd busnes newydd o ganlyniad i fod yn gysylltiedig â’r cynllun carbon isel.
Rydym yn parhau i weithio gyda’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net a swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Alban, cynghorau lleol, gwleidyddion lleol, busnesau ac amrywiaeth o bartneriaid eraill i wireddu nifer o gynlluniau gwres dŵr mwynglawdd carbon isel ar draws ardaloedd glofaol Prydain Fawr.
I gefnogi hyn, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Comisiwn Geo-ofodol a phartneriaid eraill i ddatblygu gwybodaeth a mapio effeithiol i helpu pobl i wneud penderfyniadau a dewisiadau gwybodus.
Mae hyn yn cynnwys ein cydweithrediad ag Arolwg Ordnans i ddatblygu mapiau galw am wres ar draws ardaloedd meysydd glo sy’n ategu ein mapiau gwres mwyngloddiau presennol a ddatblygwyd gydag Arolwg Daearegol Prydain.
Gweld dangosydd map yr Awdurdod Glo
Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn helpu awdurdodau lleol, datblygwyr a busnesau i wneud penderfyniadau ynghylch potensial cynlluniau yn eu hardaloedd a lle gellid adeiladu tai a busnesau yn y dyfodol yn fwyaf cynaliadwy ac yn gost effeithiol.
Mae data a gwybodaeth wedi bod yn faes ffocws a datblygiad gwirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf ac roeddwn wrth fy modd o weld ein cynllun data a gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
Mae ein gwybodaeth a’r archif genedlaethol rydym yn ei rheoli o gofnodion mwyngloddio Prydain Fawr yn sail i’n holl waith ac yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau hyder ym marchnad dai’r meysydd glo.
Mae’n bwysig bod y wybodaeth hon yn cael ei moderneiddio a’i chadw’n berthnasol a’n bod yn defnyddio cyfleoedd o ran technoleg a deallusrwydd artiffisial ar draws ein gwaith i sicrhau ein bod mor gynhyrchiol ag y gallwn fod.
Gallwch weld enghreifftiau o ble mae hyn yn digwydd – a sut byddwn yn tyfu’r gwaith pwysig hwn yn y dyfodol yn ein cynllun.
Drwy gydol 2023 i 2024, rydyn ni wedi parhau i weithio’n agos gyda gweinidogion a swyddogion i ddangos gwaith rheng flaen yr Awdurdod Glo mewn cymunedau a’r gwerth am arian rydyn ni’n ei ddarparu ar draws yr amrywiaeth o risgiau rydyn ni’n eu rheoli a’r gweithgareddau rydyn ni’n gyfrifol amdanyn nhw.
Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda thîm Adolygu Corff Hyd Braich yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y canlyniad maes o law.
Rydym hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda llywodraethau Cymru a’r Alban ar gyflawni ar draws Prydain Fawr.
Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn ein hastudiaethau achos sy’n cynnwys amrywiaeth o enghreifftiau o’n gwaith yn ogystal ag ystadegau penodol ar gyfer pob gwlad.
Rydym yn parhau i gyfrannu at ffyniant bro, creu gwerth a thwf a datblygiad economaidd drwy ein gwaith.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi defnyddio ein gwybodaeth, ein gwasanaethau a’n hystâd i gefnogi a galluogi 260,000 hectar ychwanegol o adfywio a datblygu diogel ar gyfer cymunedau lleol ar draws hen feysydd glo Prydain Fawr.
Mae un astudiaeth achos yn dangos sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun adfer ac i gefnogi adferiad natur ar gyfer ardal o goetir hynafol blaenorol yn Hag Wood yn Swydd Durham.
Rhwng 2023 a 2024 roeddem wedi cefnogi’r cwest i farwolaeth Christopher Kapessa, a foddodd yn Afon Cynon ar safle yn Ne Cymru yn 2019. Rydyn ni’n dal i feddwl am deulu Christopher yn dilyn ei farwolaeth drasig, a achoswyd gan iddo gael ei wthio oddi ar bont ar y safle. Rydym yn croesawu cyngor y crwner ar gamau ychwanegol y gallwn eu rhoi ar waith ar draws ein hystâd yn y dyfodol, gan gynnwys cryfhau ein hasesiadau risg safle-benodol gyda pholisi diogelwch dŵr ehangach. Rydym eisoes wedi cymryd camau yn erbyn yr argymhellion hyn.
Rydym yn parhau i gefnogi a chyfrannu at y broses cyn-cwest barhaus i drychineb glofa Gleision 2011. Yr ydym yn meddwl am deuluoedd y glowyr a gollwyd yn y drasiedi hon.
Drwy gydol 2023 i 2024 rydym wedi parhau i benderfynu ar nifer fach o geisiadau am drwyddedau glo yn dilyn y profion penodol a nodir yn Neddf y Diwydiant Glo 1994 ac ystyried polisi llywodraethau’r DU a Chymru (ar gyfer trwyddedu glo) a llywodraethau’r DU, yr Alban a Chymru (drwy bolisi cynllunio).
Rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn faes sy’n sensitif yn wleidyddol ac yn gyhoeddus, a’n nod yw bod mor dryloyw ag y gallwn fod, gan gydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol ar yr un pryd. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth weithredol i’r llywodraeth er mwyn helpu i lywio’r penderfyniadau polisi y mae angen iddynt eu gwneud.
Wrth ddarllen ein cyfrifon, byddwch yn sylwi bod cydbwysedd ein darpariaethau, sy’n adlewyrchu cost datrys effeithiau’r pyllau glo yn y gorffennol, wedi newid eto eleni, gan ostwng £0.6 biliwn o £2.2 biliwn i £1.6 biliwn ym mis Mawrth 2024.
Cyfrifir y balans hwn drwy gymhwyso tybiaethau Trysorlys EM ar werth arian ar wahanol adegau yn y dyfodol i ragolwg o lif arian ar brisiau heddiw.
Mae ein rhagolwg o’r llifoedd arian gwaelodol hyn wedi cynyddu £0.4 biliwn i £3.7 biliwn, yn bennaf gan adlewyrchu cynnydd yng nghost adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, a’r duedd barhaus dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth.
Rydym yn disgwyl y bydd effeithiau addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r darpariaethau dros amser wrth i ni wneud mwy o ymchwil.
Rydym hefyd yn ymwybodol o oblygiadau posibl y gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i ddeall yn well effaith adfer dŵr hallt yn Lloegr.
Byddwn yn parhau i weithio i wrthbwyso costau drwy arbedion effeithlonrwydd a rhagor o welliannau drwy ein rhaglenni arloesi lle bynnag y bo modd.
Mae’r cynnydd gweithredol sydd wedi’i gynnwys eleni yn fach o’i gymharu â’r newidiadau i gyfraddau disgownt Trysorlys EM sy’n lleihau’r ddarpariaeth ariannol £0.9 biliwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adolygiad ariannol a nodyn 13 yn y cyfrifon.
Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o’r Awdurdod Glo, hoffwn ddiolch i’n holl bobl, contractwyr a phartneriaid sydd wedi ein helpu i gyflawni cynifer o ganlyniadau i gymunedau dros y cyfnod hwnnw.
Mae’r sefydliad wedi trawsnewid yn ystod y cyfnod hwn o un sy’n canolbwyntio ar reoli rhwymedigaethau a diwydiant glo sy’n dal yn sylweddol ei faint, i un sy’n canolbwyntio ar ddiogelu bywyd a diogelwch y cyhoedd, diogelu dŵr yfed a’r amgylchedd.
Rydym yn darparu adferiad mwyngloddio, cyfleoedd cynaliadwy o’n hasedau a gwerth amgylcheddol a chymdeithasol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr.
Byddwn yn parhau i ddatblygu a meithrin sgiliau, systemau a thechnolegau newydd wrth i ni esblygu a pharhau i ganolbwyntio ar gefnogi, gwerthfawrogi a datblygu ein pobl a chymryd camau i alluogi llesiant a chynhwysiant ar draws yr Awdurdod Glo i sicrhau ein bod wir yn lle gwych i weithio ynddo.
Ar ôl 7 mlynedd o wasanaeth rhagorol, gadawodd Steve Wilson ein bwrdd fel cyfarwyddwr anweithredol ym mis Mawrth 2024. Mae Steve wedi cadeirio ein pwyllgor diogelwch, iechyd a’r amgylchedd ac, yn fwy diweddar, ein pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd, ac mae wedi darparu cymorth a chyngor amhrisiadwy ar faterion gweithredol i’r weithrediaeth, wedi hyrwyddo iechyd, diogelwch, lles a chynaliadwyedd ac wedi sicrhau ein bod wedi ystyried safbwyntiau, lleisiau a phartneriaid yng Nghymru yn ein gwaith. Hoffwn ddiolch i Steve am ei waith caled a’i ymrwymiad ar y bwrdd.
Mae’n bleser gennyf groesawu Kate Denham i’r bwrdd o 1 Ebrill 2024 ymlaen.
Rydym hefyd yn dechrau ar ail flwyddyn rhaglen Prentis Ystafell Bwrdd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a hoffwn ddiolch i Lisa Robson am ei chyfraniadau rhagorol dan y rhaglen rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023 a chroesawu Naomi Stenhouse a ymunodd â ni am flwyddyn ym mis Ionawr 2024. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a’r sefydliad ehangach yn y flwyddyn sydd i ddod.
Jeff Halliwell, Cadeirydd
4. Adroddiad y Prif Weithredwr
Eleni rydym wedi bod yn canolbwyntio ar gyflawni ein cynllun busnes 2022 i 2025 i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr.
Rydym wedi gwneud cynnydd cryf o ran pob un o’n 5 thema cynllun busnes a thuag at wireddu uchelgeisiau ein gweledigaeth 10 mlynedd hyd at 2032, ac rydym wedi gweithio’n uniongyrchol gyda phartneriaid i ddatrys y problemau cynyddol gymhleth y gall etifeddiaeth mwyngloddio eu hachosi ac wedi chwilio am gyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol, ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr ym mhopeth a wnawn.
Ers ennill statws Categori 2 o dan ddiwygiadau i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ym mis Chwefror 2023, rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid gwasanaethau brys i gynyddu dealltwriaeth o risgiau mewn ardaloedd mwyngloddio ac i gefnogi ymateb brys cydgysylltiedig.
Rydyn ni wedi parhau i ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365 sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn ystod y flwyddyn fe wnaethom ymateb i 575 o beryglon ar yr wyneb a riportiwyd, 321 o hawliadau ymsuddiant a 34 o alwadau brys ychwanegol.
Rydym hefyd wedi darparu 420 awr o hyfforddiant ac ymgysylltu â’r 31 o fforymau cadernid lleol a phartneriaethau cadernid rhanbarthol sy’n cwmpasu maes glo Prydain i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud a chynghori ar risgiau, peryglon ac ymatebion.
Rydym wedi cynnal a gweithredu ein 81 cynllun trin dŵr, felly mae gennym y capasiti i drin 231 biliwn litr o ddŵr mwynglawdd er mwyn atal llygru dŵr yfed, afonydd a’r môr.
Cawsom hydref a gaeaf eithriadol o wlyb a arweiniodd at lifogydd sylweddol ac amodau anodd ar y tir ac mae’n glod i’n timau a’n contractwyr bod y gwaith adeiladu a chynnal a chadw wedi parhau drwy’r cyfnod heriol hwn a bod ein hasedau wedi parhau i weithio’n effeithiol.
Rydyn ni wedi symud ymlaen â 7 cynllun arall i’r cam dylunio a/neu adeiladu, gyda mwy o gynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i’r gwaith monitro ddangos bod eu hangen. Mae hyn ar gyfer glo ac ar gyfer metelau, lle rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru i sicrhau gwelliannau amlwg i ansawdd dŵr drwy atal llygredd mwyngloddiau metel.
Rydyn ni wedi ehangu ein gwaith ar adfer dŵr mwynglawdd hallt yn Lloegr ac wedi sefydlu tîm newydd i ganolbwyntio ar hyn a gweithio gyda phartneriaid i bennu’r opsiynau a’r seilwaith y bydd eu hangen i reoli hyn ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi parhau â’n gwaith i Lywodraeth Cymru fel rhan o’u tasglu diogelwch tomennydd glo i sicrhau bod pob safle risg uwch wedi cael ei archwilio’n rheolaidd a bod gwaith cynnal a chadw wedi cael blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.
Rydym yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi symud tuag at ddatblygu ei Bil Diogelwch Tomennydd Segur a’i roi ar waith yn y dyfodol.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym wedi gwneud cynnydd cryf yn erbyn pob un o 5 thema ein cynllun busnes ac rydym wedi cyhoeddi rhagor o gynlluniau a thargedau sylfaenol gan gynnwys ein cynllun cwsmeriaid diwygiedig ar gyfer 2023 i 2026, fframwaith cyfleoedd gwres mwynglawdd 2024 i 2027, fframwaith cyfleoedd sgil-gynhyrchion 2024 i 2027 a chynllun data a gwybodaeth 2024 i 2027 ochr yn ochr â diweddariadau am gynnydd yn erbyn ein cynlluniau allweddol eraill.
Gweld holl gynlluniau allweddol yr Awdurdod Glo a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
Fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun cynaliadwyedd ym mis Ebrill 2023 ac rydyn ni wedi bod yn gwneud cynnydd clir yn erbyn y targedau hyn – gan gynnwys datblygu a chyhoeddi ein cynllun adfer naturiol a gweithio gyda Phrifysgol Nottingham Trent a Severn Trent Water i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy a chynlluniau draenio trefol cynaliadwy ym mhrif swyddfa Mansfield.
Mae ein gwaith yn mynd yn fwyfwy cymhleth ac mae angen atebion cynyddol soffistigedig a datblygu a rheoli contractau a rhaglenni mwy.
Rydym hefyd wedi ymgymryd â gwaith ychwanegol wedi’i ariannu dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi achosi i’r sefydliad dyfu ac esblygu.
Er mwyn cefnogi hyn a sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddatblygu’n effeithlon ac yn effeithiol, byddwn yn gwneud rhai newidiadau strwythurol pellach yn 2024 i’n helpu i ddenu sgiliau ychwanegol a datblygu a chefnogi ein cydweithwyr ymhellach.
Rydym yn darparu amrywiaeth eang iawn o weithgareddau a chanlyniadau, gan reoli a lleihau risgiau cymhleth ar gyfer y 3 llywodraeth rydym yn eu gwasanaethu a byddwn yn parhau i sicrhau bod effeithlonrwydd, gwerth am arian a chyflawni canlyniadau lluosog yn cael eu gwreiddio ym mhob penderfyniad a wnawn.
Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ragor o welliannau digidol a gwelliannau i systemau i wella hygyrchedd ac opsiynau ar gyfer ein cwsmeriaid a sicrhau bod ein cydweithwyr yn gallu gweithio gyda’i gilydd – a gyda phartneriaid – yn effeithiol.
Fel y dywed Jeff, mae ein cynllun data a gwybodaeth newydd yn dangos sut y byddwn yn datblygu rhagor ar gyfleoedd mapio, data a deallusrwydd artiffisial i gefnogi hyn a sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn berthnasol am 30 mlynedd arall.
Mae ymrwymiad ac angerdd y rheini sy’n gweithio yn yr Awdurdod Glo, eu hymroddiad i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a’u ffocws ar ddatrys problemau, gwella’n barhaus ac arloesi yn destun balchder parhaus.
Wrth i ni barhau i esblygu a mynd i’r afael â heriau cynyddol gymhleth a dod o hyd i gyfleoedd, mae’n bwysig ein bod wir yn lle gwych i weithio ynddo i bawb, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, eu datblygu a’u cynnwys a’n bod yn cael ein cydnabod fel cyflogwr gwych fel bod cydweithwyr yn y dyfodol hefyd eisiau gweithio i ni.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl ac i wrando a dysgu er mwyn gwneud hyn. Diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r Awdurdod Glo wedi gwneud gwahaniaeth ers 30 mlynedd. Rydym wedi parhau i esblygu ac addasu drwy gydol y cyfnod hwn gan gydnabod bod angen gwaith adfer mwyngloddiau effeithiol am byth i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel.
Edrychwn ymlaen at y dyfodol a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol gyda’n gilydd.
Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr
5. Ein gwaith i alluogi gwres carbon isel
Rydym yn parhau i geisio arloesi a darparu cyfleoedd i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol. Mae hyn yn cynnwys galluogi defnyddio gwres dŵr mwynglawdd carbon isel o seilwaith pyllau glo segur.
Ym mis Mawrth 2023, gwireddwyd y cynllun gwres dŵr mwynglawdd aml-ddefnyddiwr cyntaf ar raddfa fawr pan ddechreuodd rhwydwaith gwres dŵr mwynglawdd Gateshead weithredu.
Cafodd glo ei gloddio o ardal Saltmeadows yn Gateshead am sawl canrif. Mae’r siafftiau tanddaearol a’r ceuffyrdd (mynedfa neu lwybr) sy’n aros wedi llenwi â dŵr sy’n gynnes oherwydd ei fod yn cael ei gynhesu’n geothermol gan y creigiau y mae’n llifo drwyddynt.
Yn 2017 comisiynodd Cyngor Gateshead rwydwaith gwres a oedd yn cael ei bweru gan beiriannau nwy i gynhyrchu trydan a gwres i gwsmeriaid. Yn 2019, penderfynon nhw dyfu maint eu rhwydwaith ond roedden nhw eisiau lleihau allyriadau carbon yn hytrach na defnyddio mwy o danwydd ffosil.
Buom yn gweithio gyda nhw ac yn defnyddio ein harbenigedd i sefydlu a allai’r mwyngloddiau 150m o dan ganol y dref ddarparu’r gwres ychwanegol oedd ei angen. Dangosodd ein hymchwiliadau botensial rhagorol ar gyfer gwres dŵr mwynglawdd.
Gwnaethom gefnogi Gateshead Energy Company, sy’n eiddo i’r cyngor, a chontractwyr i ddarparu cynllun gwresogi dŵr mwynglawdd sy’n bwydo i mewn i’r rhwydwaith gwresogi ardal presennol. Dim ond 3 blynedd a gymerodd o’r trafodaethau cyntaf i’r cynllun fynd yn fyw a darparu gwres i drigolion a busnesau lleol. Mae’r pŵer ar gyfer pympiau gwres dŵr mwynglawdd yn cael ei ddarparu gan fferm solar helaeth sy’n golygu bod y cynllun yn defnyddio hyd yn oed llai o garbon i weithredu.
Mae cynllun Gateshead bellach yn un o’r mwyaf yn Ewrop ac mae’n sicrhau canlyniadau gwych i’r gymuned leol. Mae’n darparu gwres diogel, carbon isel i 350 o gartrefi, y Glasshouse (Sage Gateshead gynt), Gateshead College, y Baltic Centre for Contemporary Art, a sawl adeilad swyddfa, ac fe all wasanaethu mwy o adeiladau a chartrefi.
Amcangyfrifir bod y prosiect hwn yn arbed 72,000 tunnell o CO2 dros 40 mlynedd, sy’n cyfateb i arbedion o tua 1,800 tunnell o CO2 y flwyddyn.
Yn ogystal â’r manteision clir o ran arbed carbon, mae trigolion a busnesau nawr yn gallu mwynhau gwres a dŵr poeth am brisiau is na phrisiau boeleri nwy. Y busnes preifat cyntaf i ymuno â’r cynllun gwres oedd GB Lubricants.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Paul Booth: “Mae ein cwmni bron yn 150 oed ac mae’n rhaid i ni bob amser fod yn edrych ymlaen a gweithio i ddiogelu ein busnes at y dyfodol, felly roedd yn rhaid i’r newid wneud synnwyr o ran arian a busnes.
“Mae datgarboneiddio ein cadwyn gyflenwi yn bwysig iawn i gwsmeriaid yn ein diwydiant ac mae hyn yn ein helpu i gyrraedd y targedau hynny a bod yn rhan o ddyfodol mwy gwyrdd, ac fel rhiant, rwy’n ddiolchgar o allu dylanwadu yn y gwaith.
“Fy rôl i yw llywio’r cwmni i’r cyfeiriad gorau posibl a chael strategaeth i sicrhau ei fod yn parhau i lwyddo am amser hir i ddod. Rwy’n credu bod y prosiect hwn nid yn unig yn fy ngalluogi i wneud hynny ond bydd hefyd yn gonglfaen hanfodol i gyflawni hynny.”
Rydyn ni’n gwybod y gall gwres dŵr mwynglawdd wneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio gwres ar draws rhannau helaeth o Brydain Fawr ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda llywodraethau, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat ar draws y 3 gwlad rydyn ni’n eu gwasanaethu i’w ddatblygu ymhellach.
6. Ein Gwaith yng Nghymru
Mae dros 2,500 o domennydd glo yng Nghymru ac mae llawer o’r safleoedd hyn bellach yn eiddo cyhoeddus neu breifat.
Rydym yn cymryd rheoli tomennydd o ddifri ac mae’r 26 o hen domennydd glo yn ein perchnogaeth yn destun trefn archwilio a chynnal a chadw drylwyr i sicrhau diogelwch y cymunedau o’u cwmpas. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau i dirfeddianwyr a chyrff eraill.
Mae manyleb a goruchwyliaeth gwaith cynnal a chadw ac adfer ar ein safleoedd tomennydd segur, gan gynnwys arolygiadau rheolaidd, yn cael ei chyflawni gan ein tîm ymateb tomennydd pwrpasol, gyda chymorth ymgynghorwyr arbenigol pan fo angen.
Gall tomennydd fod yn anniogel pan fydd dŵr neu gyflwr y tir yn eu gwneud yn ansefydlog. Rydym yn eu cadw’n ddiogel, yn monitro draeniad dŵr, yn adeiladu twneli a phyllau i ddal y dŵr ffo ac yn cynnal rhaglen reolaidd o waith cynnal a chadw.
Ym mis Mawrth 2020, gofynnodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i’r Awdurdod Glo ddarparu cyngor ac arbenigedd ar dasglu dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tomennydd glo yng Nghymru yn cael eu nodi, eu hasesu o ran risg, eu harolygu a’u fflagio ar gyfer gwaith cynnal a chadw i leihau risg y safleoedd hyn i’r cymunedau o’u cwmpas ac oddi tanynt.
Mae nifer a lleoliadau tomennydd glo segur yng Nghymru wedi bod ar gael i’r cyhoedd gan Lywodraeth Cymru drwy gyfres o fapiau rhyngweithiol.
Rydym wedi parhau â’n gwaith i Lywodraeth Cymru fel rhan o’u tasglu tomennydd i sicrhau bod pob safle risg uwch yn cael ei archwilio’n rheolaidd a bod modd blaenoriaethu unrhyw waith cynnal a chadw.
Mae hyn yn cynnwys arwain y gwaith o adfer llithriad ar domen Wattstown yn Rhondda Cynon Taf, rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022, a’n cefnogaeth barhaus i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Tylorstown ers 2020.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar dreialon technoleg mewn meysydd fel synwyryddion symudiad a gallu lloeren i ganfod lleithder mewn tomennydd glo. Bydd arloesi yn y maes hwn yn ein helpu i fonitro’r tomennydd yn effeithiol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Rydym yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfundrefn newydd fel y nodir yn eu Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomennydd Glo (Cymru) a byddwn yn parhau i’w cefnogi i ddatblygu bil ar ddiogelwch tomennydd glo a’i roi ar waith yn y dyfodol.
Gweld gwybodaeth am domennydd glo sy’n eiddo i’r Awdurdod Glo ac sy’n cael eu rheoli ganddo
Gweld gwybodaeth am waith monitro lloeren ar domennydd glo segur
Ein blwyddyn yng Nghymru:
- gwnaethom gynnal 2,377 o archwiliadau o fynedfeydd pyllau glo
- gwnaethom benderfynu ar 118 o achosion o berygl ac ymsuddiant
- gwnaethom ddarparu 8,679 o adroddiadau mwyngloddio
- gwnaethon drin 16 biliwn litr o ddŵr *gwnaethom ddarparu 1,205 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio
- gwnaethom atal 378 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
7. Ein perfformiad
Rydyn ni’n 2 flynedd i mewn i’n cynllun busnes 3 blynedd presennol ac rydyn ni’n gwneud cynnydd clir yn erbyn ein cenhadaeth o sicrhau dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.
Mae ein cynllun wedi’i osod yn erbyn ein gweledigaeth 10 mlynedd, sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd ac sy’n canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae’r adran ganlynol yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud yn 2023 i 2024.
7.1 Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu
Canlyniad cerdyn sgorio
Rydym yn gwella ein gwasanaethau cyflawni rheng flaen ar gyfer ein cwsmeriaid fel ein bod yn cyflawni mwy o ganlyniadau a’i bod yn haws gwneud busnes gyda ni.
Rhwng 2023 a 2024:
-
roeddem wedi trin 15 biliwn litr yn ychwanegol o ddŵr o’i gymharu â’n llinell sylfaen ar gyfer 2021 i 2022, felly rydym ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025 (mae gwersi yn ystod cyfnod y cynllun busnes wedi dangos mai targed gwell yw ‘creu’r capasiti i drin 15 biliwn litr ychwanegol o ddŵr mwynglawdd erbyn 2025’, gan na effeithir ar hyn gan law sy’n effeithio ar faint o ddŵr sydd angen i ni ei drin bob blwyddyn, felly byddwn yn mesur y targed newydd hwn ochr yn ochr â’n targed gwreiddiol yn y dyfodol).
-
fe wnaethom greu’r capasiti i drin 10.5 biliwn litr yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn, 13.6 biliwn litr cronnus ers i’r cynllun busnes ddechrau yn 2022
-
roeddem wedi datrys 72% o hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025
-
drwy ein gwasanaethau cynllunio a chaniatáu, roeddem wedi galluogi 260,000 hectar o adfywio a datblygu diogel ar gyfer prosiectau amgylcheddol a defnydd cymunedol ac rydym ar y trywydd iawn i ragori ar ein targed 2025
* rydym wedi adeiladu ar yr adborth o arolwg cwsmeriaid y llynedd ac wedi parhau i gyflawni ein cynllun i helpu cymunedau i gael gafael ar ein gwasanaethau mor rhwydd ac mor effeithlon â phosibl – rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025
Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2025:
-
ein targed gwreiddiol yw trin 13 biliwn litr o ddŵr mwynglawdd yn ychwanegol y flwyddyn i atal llygru dŵr yfed, afonydd neu’r môr erbyn 2025 – mae hyn yn gynnydd o fwy na 10% ar ein llinell sylfaen o 128 biliwn litr y flwyddyn (mae dysgu drwy gyfnod y cynllun busnes wedi dangos i ni mai targed gwell yw ‘creu’r capasiti i drin 15 biliwn litr ychwanegol o ddŵr mwynglawdd erbyn 2025’, gan nad yw hyn yn cael ei effeithio gan lawiad sy’n effeithio ar faint o ddŵr y mae angen i ni ei drin bob blwyddyn, felly byddwn yn mesur y targed newydd hwn ochr yn ochr â’n targed gwreiddiol ym mhob adroddiad yn y dyfodol)
-
byddwn yn datrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis
-
byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth , ein gwasanaethau a’n hystâd i alluogi 300,000 hectar o ddatblygiadau adfywio a diogel ar gyfer cymunedau lleol yn y cyn feysydd glo
-
byddwn yn sicrhau achrediad Nod Gwasanaeth ar gyfer ein safonau gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Mae’r Awdurdod Glo yn sefydliad gweithredol ymarferol 24/7/365 sy’n ymateb i argyfwng, sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau statudol craidd ledled Prydain Fawr i helpu i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau ein gwaddol mwyngloddio. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned.
Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn gwneud yr hyn a ddwedwn ac yn gwrando ac yn dysgu er mwyn i ni allu gwella’n barhaus. Gan weithio gyda phartneriaid a thrwyddynt, rydym yn darparu ymateb cydgysylltiedig i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth i ‘wneud gwell dyfodol i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol’.
7.2 Sicrhau cynaliadwyedd
Canlyniad cerdyn sgorio:
Gwneud rhagor o gynnydd clir ar ein taith i sicrhau carbon sero net erbyn 2030 ac i gyflawni agweddau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach ar gynaliadwyedd.
Rhwng 2023 a 2024:
-
rydym wedi lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystâd, gweithrediadau a theithio 21% yn erbyn ein llinell sylfaen (rydym nawr yn disgwyl lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr 40% yn erbyn ein llinell sylfaen erbyn mis Ebrill 2025 ac ni fyddwn yn cyrraedd ein targed 2025 – effeithiwyd ar y targed oherwydd bod y grid trydan yn mynd yn fwy carbon-ddwys a’r heriau rydym wedi’u hwynebu wrth gaffael paneli solar sy’n bodloni ein hymrwymiadau caffael cymdeithasol ac amgylcheddol, felly byddwn yn cynnal adolygiad llawn o’n dull gweithredu yn 2024 i 2025 ac yn blaenoriaethu cynnydd yn y blynyddoedd sydd i ddod)
-
rydym wedi ymgorffori gwerth cymdeithasol ac economaidd mewn achosion busnes, penderfyniadau ac adroddiadau ac wedi darparu nifer o enghreifftiau ymarferol mewn cymunedau lleol – gweler astudiaeth achos “Ein gwaith i alluogi gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol” – felly rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ein cynllun 2025
-
rydym wedi parhau â’n gwaith i ddeall a chydnabod effeithiau newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau (erbyn mis Ebrill 2025 byddwn yn cytuno ar gynllun addasu lefel uchel cychwynnol gyda rhagor o gamau gweithredu manwl i’w datblygu y tu hwnt i gyfnod y cynllun busnes hwn, felly bydd ein targed 2025 yn cael ei gyrraedd yn rhannol)
-
rydym wedi datblygu cynllun adfer natur, sy’n cyflawni blaenoriaethau ‘bod yn natur bositif’ ein cynllun cynaliadwyedd 2023 i 2026 ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed 2025
Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2025:
-
byddwn yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystâd, ein gweithrediadau a’n teithiau 65% o linell sylfaen 2017 i 2018
-
byddwn yn cyflwyno adroddiadau integredig sy’n defnyddio targedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’u mesur i ddangos ein hymrwymiad a’n cynnydd ar ein nodau cynaliadwyedd
-
byddwn yn deall ac yn cydnabod effeithiau newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau gyda chynllun addasu sydd wedi’i ddiffinio’n glir
-
bydd gennym gynllun adfer byd natur a byddwn yn dangos sut mae ein hystâd a’n gweithrediadau yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer adferiad byd natur
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy, ac yn defnyddio ein gwaith i helpu i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi.
Rydym wedi parhau i gyflawni ein cynllun cynaliadwyedd sy’n cynnwys ystyriaeth wirioneddol o werth amgylcheddol a chymdeithasol ac rydym wedi gwreiddio hyn ymhellach yn ein syniadau a’n prosesau gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad.
Rydym wedi parhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio ein gweithgareddau ymhellach ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i atafaelu carbon ar ein safleoedd. Rydyn ni’n cymryd camau i gefnogi natur a bywyd gwyllt cydnerth drwy reoli ein safleoedd a’n hystâd er mwyn adfer byd natur.
7.3 Gweithio gydag eraill i greu gwerth
Canlyniad cerdyn sgorio
Byddwn yn creu mwy o werth ac yn sicrhau budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o’n hasedau, ein gwasanaethau a’n gwaith.
Rhwng 2023 a 2024:
-
rydym wedi galluogi ail gynllun gwres dŵr mwynglawdd mawr yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, a fydd yn weithredol yn 2024, ac rydym wedi parhau â’n gwaith ehangach a’n dylanwad i gynyddu gwelededd gwres dŵr mwyngloddiau, datblygu a gwella’r cyfleoedd sydd ar y gweill yn y dyfodol, datblygu mapiau cyfleoedd a lleihau rhwystrau i fuddsoddi mewn rhwydweithiau gwres (rydym yn disgwyl galluogi 3 chynllun gweithredol mawr erbyn 2025 a gwneud cynnydd pellach i gefnogi’r sector – rydym yn disgwyl i’r targed hwn gael ei gyrraedd yn rhannol yn 2025)
-
rydym wedi parhau i wneud cynnydd a sicrhau bod llai na 5% o’r solidau haearn ac ocr haearn a gynhyrchir gennym yn mynd i safleoedd tirlenwi – eleni aeth 3% i safleoedd tirlenwi ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025
-
rydym wedi cynyddu ein gwasanaeth i bartneriaid dros 50% o’n llinell sylfaen 2021 i 2022 ac rydym ar y trywydd iawn i ragori ar ein targed ar gyfer 2025
-
rydym wedi parhau i weithio gyda’r diwydiant benthyca i ddatblygu cynnyrch newydd i gefnogi penderfyniadau cyflymach ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025
Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2025:
-
byddwn yn dylanwadu ar 4 cynllun gwres dŵr mwynglawdd gweithredol mawr ledled Prydain Fawr ac yn eu galluogi
-
byddwn yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu 95% o’r ocrau haearn a’r solidau haearn a gynhyrchir o’n cynlluniau trin dŵr mwynglawdd er mwyn atal gwaredu mewn safleoedd tirlenwi
-
byddwn yn cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 30% o’n llinell sylfaen 2021 i 2022 o £2.49 miliwn y flwyddyn
-
byddwn yn cynorthwyo’r diwydiant benthyca i wneud penderfyniadau cyflymach i brynwyr cartrefi ar y meysydd glo
Mae creu gwerth (ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol) yn allweddol i’n ffordd o feddwl yn yr Awdurdod Glo ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o arloesi ac effeithlonrwydd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, cyfleoedd newydd ac arbedion i’r trethdalwr.
Rydyn ni’n frwd dros gymunedau glofaol hanesyddol ac yn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n harbenigedd i roi hyder i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn ac i greu cyfle a budd o waddol mwyngloddio.
Fe wnaethom gyhoeddi ein fframwaith cyfleoedd ar gyfer sgil-gynhyrchion ym mis Ionawr 2024 a’n fframwaith cyfleoedd gwres mwyngloddiau ym mis Mai 2024.
7.4 Creu lle gwych i weithio ynddo
Canlyniad cerdyn sgorio
Byddwn yn gyflogwr o ddewis lle mae ein pobl yn teimlo y gallant berthyn. Bydd gennym ddiwylliant cynhwysol gyda ffocws cryf ar les, dysgu a datblygiad. Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith pwysig i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn byw yn ôl ein gwerthoedd.
Rhwng 2023 a 2024:
-
rydym wedi parhau i wneud cynnydd amlwg drwy gyflawni’r camau gweithredu a amlinellir yn ein cynlluniau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a gwrth-hiliaeth ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025
-
rydym wedi datblygu a gweithredu rhaglenni prentisiaeth a phrofiad gwaith ac wedi cymryd camau ymarferol i ystyried symudedd cymdeithasol yn well yn ein dulliau gweithredu ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025
-
rydym wedi meincnodi ein dull iechyd, diogelwch a llesiant gan ddefnyddio Archwiliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Cyngor Diogelwch Prydain (gan gyflawni sgôr 4 seren cryf) ac rydym yn rhoi’r gwersi a’r camau gweithredu a nodwyd ar waith – rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025
-
rydym wedi parhau i ymgysylltu â chydweithwyr a gweithredu ar y dysgu a nodwyd yn ein harolwg pobl yn 2022 ac i gynnal arolwg pwls a gofyn am adborth arall i hysbysu cynnydd – roedd ein harolwg pobl nesaf ym mis Mehefin 2024 ac rydyn ni’n credu ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025
Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2025:
-
byddwn yn gwneud cynnydd amlwg tuag at sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn ledled Prydain Fawr yn well
-
byddwn yn cefnogi ffyniant bro drwy gymryd camau i wella symudedd cymdeithasol a darparu prentisiaethau i unigolion sy’n byw ar y maes glo ac sydd â chysylltiad teuluol â chloddio
-
byddwn yn cael sgôr 5 seren yn Archwiliad Iechyd, Diogelwch a Lles Cyngor Diogelwch Prydain
-
byddwn yn gwella ein sgôr ar gyfer ymgysylltu ag arolwg gweithwyr 10% yn erbyn meincnod 2019, sef 67%
Mae pobl wych wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a gallwn ond cyflawni’r gwaith pwysig rydyn ni’n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel, diogelu dŵr yfed a’r amgylchedd a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd os gallwn ni eu denu, eu recriwtio a’u cadw.
I gefnogi hynny, rydym yn canolbwyntio ar fod yn ‘lle gwych i weithio’ sy’n denu talent amrywiol ledled Prydain Fawr ac yn helpu cydweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn eu gwaith.
Rydym yn buddsoddi yn sgiliau ein pobl gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu, tyfu a datblygu. Rydym yn gyflogwr o ddewis sy’n fywiog, yn ddeinamig ac yn fodern ac sy’n hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar les ac sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd.
Rydym yn parhau i gyflawni yn erbyn ein cynllun iechyd, diogelwch a llesiant 2022 i 2025, strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 2021 i 2024 a’n cynllun gwrth-hiliaeth 2022 i 2025. Byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant nesaf yn 2024 yn 2025.
7.5 Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol
Canlyniad cerdyn sgorio
Byddwn yn datblygu systemau a phrosesau modern a chadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn cefnogi ein pobl ac yn ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid a’n partneriaid wneud busnes gyda ni.
Rhwng 2023 a 2024:
-
rydym wedi diweddaru 70% o’n systemau TG strategol i redeg yn y cwmwl gan sicrhau cadernid a manteision cynaliadwyedd (rydym wedi dysgu drwy’r gwaith hwn ac wedi addasu’r rhaglen lle byddai’n fwy effeithlon peidio â mudo ychydig o systemau swyddfa gefn – er enghraifft, lle rydym yn symud at gyflenwr neu system newydd ac y byddai’n aneffeithlon mudo system a fydd yn cael ei dileu cyn bo hir – felly mae hyn yn golygu ein bod nawr yn disgwyl i 90% o’n systemau symud i’r cwmwl erbyn 2025 a bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni’n rhannol)
-
Mae 78% o’n gwasanaethau bellach yn ddigidol yn ddiofyn a 99% o’n trafodion gyda chwsmeriaid – ni chafodd unrhyw wasanaethau trafodion newydd eu hadeiladu yn ystod y flwyddyn (rydym wedi dysgu drwy’r gwaith hwn ac wedi gwrando ar adborth gan gwsmeriaid a chydweithwyr sydd wedi dangos i ni ei bod hi’n fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon canolbwyntio ar y systemau a’r gwasanaethau sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid digidol ac i ystyried a diogelu ffyrdd eraill y mae’n well gan rai cwsmeriaid eu defnyddio i ymgysylltu â ni, felly mae hyn yn golygu y bydd 89% o’n gwasanaethau’n ddigidol yn ddiofyn erbyn 2025 ac mai ein llinell ffôn 365/24/7 fydd y prif ddull o gofnodi digwyddiadau a chael cymorth ac ymateb brys - bydd 100% o’n systemau trafodion newydd yn dilyn GOV. Bydd safonau’r DU a’r targed hwn yn gyffredinol yn cael eu cyrraedd yn rhannol yn 2025)
-
rydym wedi cyflwyno a gwreiddio offer cynhyrchiant newydd, gan gynnwys cyfres o gynhyrchion Microsoft 365, i wella cydweithio rhwng cydweithwyr a phartneriaid. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025
-
rydym wedi cyhoeddi cynllun data a gwybodaeth 2024 i 27 sy’n disgrifio sut byddwn yn moderneiddio ac yn datblygu mynediad at ein data a’n gwybodaeth ymhellach ac yn parhau i wella ein sgoriau asesiad canfyddadwy, hygyrch, rhyngweithredol ac amldro (FAIR) er budd ein cwsmeriaid – rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025
Targedau’r cynllun busnes erbyn Ebrill 2025:
-
byddwn yn diweddaru 100% o’n systemau TG strategol ac yn eu rhedeg yn y cwmwl
-
byddwn yn gwneud ein gwasanaethau digidol a’n gwybodaeth yn fwy hygyrch, perthnasol a gyda mwy o ddewisiadau hunanwasanaeth – bydd 100% o’n gwasanaethau yn ddigidol yn ddiofyn a bydd 100% o’n systemau trafodol newydd yn dilyn safonau gwasanaeth a dylunio GOV.UK
-
byddwn yn gwneud cynnydd amlwg o ran gweithredu systemau sy’n caniatáu cydweithio symlach a gwell o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid
-
byddwn yn gwneud cynnydd amlwg o ran gwella ein sgoriau hunanasesu data FAIR.
Rydym wedi nodi uchelgais lefel uchel drwy ein gweledigaeth a’n cynllun busnes 3 blynedd y mae angen ei alluogi drwy systemau a dulliau gweithredu effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae’r rhain yn ein cefnogi i ddarparu’r gwasanaethau craidd sy’n diogelu bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd ac yn ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr.
Mae ein rhaglenni a’n gwelliannau digidol yn seiliedig ar adborth gan ein cwsmeriaid, ein partneriaid, ein contractwyr a’n cydweithwyr i gefnogi cydweithio a’n gwneud yn hawdd gwneud busnes â ni.
Mae ein data a’n gwybodaeth yn sail i bob darn o waith a wnawn fel sefydliad ac yn helpu eraill i wneud penderfyniadau gwybodus – gan gynnwys trawsgludo gyda hyder yn y maes glo. Fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun data a gwybodaeth ym mis Ebrill 2024.
8. Adolygiad ariannol
Rydyn ni wedi cyflawni’n dda dros y flwyddyn. Mae ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch y cyhoedd wedi parhau i gadw pobl yn ddiogel a thawelu eu meddwl, a bydd buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau dŵr mwynglawdd yn ein galluogi i drin dŵr mwynglawdd a diogelu’r amgylchedd yn y dyfodol.
Rydym wedi parhau i gynyddu incwm ein gwasanaethau cynghori wrth i ni gefnogi ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau a darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd sy’n sail i’n gofynion cyllido ac rydym wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon.
Roedd y cymorth grant a gafwyd gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn ystod y flwyddyn yn £67.1 miliwn (2022 i 2023: £58.0 miliwn) sy’n adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau fel yr amlinellir isod.
Mae hyn yn cael ei egluro a’i ddangos yn y tabl canlynol (noder y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol o’r gost hon mewn blynyddoedd blaenorol fel yr esbonnir yn nodyn 13 y datganiadau ariannol ac nid yw’n cael ei briodoli’n uniongyrchol i’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).
8.1 Sut roedden ni wedi defnyddio ein harian yn 2023 i 2024
Ein hincwm o | 2022 i 2023 | 2023 i 2024 |
---|---|---|
Adroddiadau mwyngloddio | £7 miliwn | £6.6 miliwn |
Gwasanaethau cynghori a thechnegol | £6.8 miliwn | £8.1 miliwn |
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall | £100,000 | £300,000 |
Indemniadau trwyddedu a chaniatadau | £800,000 | £700,000 |
Trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio | £1.6 miliwn | £1.7 miliwn |
Cysylltiedig ag eiddo | £2 miliwn | £800,000 |
Incwm arall | £0 | £100,000 |
Symudiad cyfalaf gweithio | £0 | -£800,000 |
Cymorth grant (Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net neu’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) | £58 miliwn | £67.1 miliwn |
Cyfanswm incwm | £76.3 miliwn | £84.6 miliwn |
Ein gwariant ar | 2022 i 2023 | 2023 i 2024 |
---|---|---|
Gweithrediadau: Diogelwch y Cyhoedd | £15.9 miliwn | £20.2 miliwn |
Gweithrediadau: Cynlluniau trin dŵr mwynglawdd | £20 miliwn | £24 miliwn |
Gweithrediadau: Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant | £1.6 miliwn | £2.6 miliwn |
Datblygu: Cynllunio, trwyddedu, caniatadau ac eiddo | £4.2 miliwn | £4.9 miliwn |
Data a gwybodaeth | £4.3 miliwn | £4.5 miliwn |
Masnachol | £8.7 miliwn | £9.8 miliwn |
Arloesedd | £2 miliwn | £2.1 miliwn |
Cynlluniau trin dŵr pyllau glo (cyfalaf) | £16.6 miliwn | £13.6 miliwn |
Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (cyfalaf) | £1.2 miliwn | £300,000 |
Arall (Cyfalaf) | £1.8 miliwn | £2.6 miliwn |
Cyfanswm gwariant | £76.3 miliwn | £84.6 miliwn |
Yr incwm o £18.3 miliwn yn ôl y datganiad o wariant net cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau incwm uchod ac eithrio cymorth grant a symudiad cyfalaf gweithio.
Gan weithio gyda’n partneriaid, gwnaethom gyflawni rhaglen gyfalaf flynyddol sylweddol i ddiogelu cyrsiau dŵr, dyfrhaenau dŵr yfed ac atal llifogydd.
Mae gwariant gweithredu ein cynlluniau wedi parhau i gynyddu o ganlyniad i lefelau uchel parhaus o chwyddiant, sy’n effeithio’n bennaf ar gostau pŵer, yn ogystal â’r gwaith rydym wedi’i ddechrau i asesu opsiynau i ddiogelu cyrsiau dŵr a dyfrhaenau rhag problem halwynedd mewndirol.
Bydd ein rhaglenni parhaus yn lleihau’r gost o redeg y cynlluniau hyn yn y dyfodol drwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffordd arloesol. Drwy gynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill, rydym wedi cwblhau ein blwyddyn lawn gyntaf o ddanfon sgil-gynnyrch ocr i’w ddefnyddio mewn treulio anaerobig. Mae hyn wedi perfformio yn unol â’n disgwyliadau a disgwylir i’r fenter hon leihau ein cost net o leiaf £1 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd.
Mae ein gwariant ar ddiogelwch cyhoeddus yn adweithiol a gall amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Cynyddodd gwariant 2023 i 2024 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gan adlewyrchu’r gwaith rydym wedi’i gwblhau ac rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i ddatrys nifer o hawliadau a digwyddiadau sylweddol gan gynnwys prosiectau sylweddol i adfer nodweddion mwyngloddio yn Ashton-under-Lyne, Manceinion Fwyaf a Falkirk, yr Alban.
Mae incwm adroddiadau mwyngloddio o £6.6 miliwn yn dangos gostyngiad o £400,000 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu arafu mewn trafodion eiddo, yn ogystal â’n polisi i sicrhau bod ein data ar gael ac i agor y farchnad o sefyllfa a oedd bron â bod yn fonopoli.
Cynhyrchodd ein gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £8.1 miliwn (2022 i 2023: £6.8 miliwn), sy’n adlewyrchu ein llwyddiant parhaus o ran gweithio gydag eraill i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar draws y llywodraeth.
Mae hyn yn cynnwys cyflawni cynllun dŵr mwynglawdd ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yng Nghymru yn ogystal â’n cefnogaeth i Lywodraeth Cymru o ran rheoli tomennydd yn ddiogel.
8.2 Datganiadau ariannol
Mae ein datganiadau ariannol yn cael eu dominyddu gan y balans darpariaethau o £1,611 miliwn. Dangosir y rhesymeg a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 y datganiadau ariannol.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023 i 2024. Mae’r balans hwn wedi gostwng £600 miliwn (2022 i 2023: gostyngiad o £3,407 miliwn).
Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian i adlewyrchu gwerth amser yr arian ar sail rhagdybiaethau a chyfraddau a ddarperir gan Drysorlys EM. Mae’r newid mewn cyfraddau eleni wedi arwain at ostyngiad o £876 miliwn (2022 i 2023: gostyngiad o £4,467 miliwn).
Mae ein llifoedd arian gwaelodol, y cyfrifir y balans darpariaeth arnynt, wedi cael eu diweddaru ar sail y wybodaeth ddiweddaraf ac maent wedi cynyddu £383 miliwn i £3,733 miliwn.
Mae hyn yn cydnabod cynnydd o ganlyniad i gyfraddau chwyddiant uchel, sydd wedi effeithio’n arbennig ar waith adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw ein cynlluniau dŵr mwyngloddiau, yn ogystal ag adlewyrchu’r duedd dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau cymhleth sy’n ymwneud â diogelwch y cyhoedd. Mae’r newid hwn yn y llifoedd arian gwaelodol, ar ôl addasu ar gyfer gwerth amser yr arian, yn golygu cynyddu balans y ddarpariaeth £276 miliwn.
8.3 Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr
Roedd yr incwm net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 yn £534.6 miliwn (2022 i 23: £3,347.5 miliwn). Mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd yn cael ei yrru gan y symudiadau darpariaethau a amlinellir uchod. Heb gynnwys y symudiadau darpariaethau hyn, roedd gwariant net cynhwysfawr am y flwyddyn yn £33.2 miliwn (2022 i 2023: £34.4 miliwn), gostyngiad o £1.2 miliwn.
Amlinellir y rhesymau y tu ôl i’r symudiad hwn isod.
8.4 Cyfanswm incwm gweithredu
Roedd cyfanswm yr incwm gweithredu, nad oedd yn cynnwys cymorth grant, yn £18.3 miliwn (2022 i 2023: £18.3 miliwn) gan adlewyrchu ein strategaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau’r llywodraeth i’w cefnogi i reoli eu risgiau, gan hyrwyddo cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau mwyngloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol wedi codi, £1.3 miliwn, i £8.1 miliwn. Mae hyn yn cael ei yrru’n bennaf drwy raglenni mwyngloddio metel estynedig rydyn ni’n eu darparu ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gostyngiad o 6% o un flwyddyn i’r llall ym maint y farchnad, oherwydd effaith yr amodau economaidd cyfredol ar nifer y trafodion eiddo, ynghyd â cholli cyfran fach o’r farchnad yn ystod y flwyddyn, wedi arwain at ostyngiad mewn incwm o adroddiadau mwyngloddio. Cynyddodd refeniw o adroddiadau mwyngloddio £0.5 miliwn i £6.6 miliwn, tra cynyddodd refeniw trwyddedu data a gwybodaeth mwyngloddio £200,000 miliwn i £1.7 miliwn.
Mae’r newid arall yn ein hincwm o 2022 i 2023 yn ymwneud â gwerthu eiddo gyda gostyngiad o £1.3 miliwn mewn elw ar waredu eiddo buddsoddi ac enillion o drefniadau adfachu sy’n ymwneud â gwerthu tir yn hanesyddol (gweler nodyn 4.2 y datganiadau ariannol). Yn benodol, gall incwm o drefniadau adfachu fod yn anodd ei ragweld gan fod ei amseriad y tu hwnt i’n rheolaeth i raddau helaeth.
Mae mân newidiadau mewn sgil-gynhyrchion, incwm rhent ac incwm arall yn cyfrif am y cynnydd sy’n weddill o £200,000.
8.5 Gwariant
Roedd costau staff o £23.1 miliwn yn gynnydd o £3.2 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r dyfarniad cyflog o 5% yn unol â chanllawiau cylch cyflog y gwasanaeth sifil, yn cyfrif am £900,000.
Mae gweddill y cynnydd yn cael ei yrru gan niferoedd, sydd eu hangen i ddarparu mwy o wasanaethau rheng flaen i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys diogelu’r amgylchedd drwy gyflawni ein rhaglen cynllun dŵr mwynglawdd, cynnal gwaith dichonoldeb i asesu opsiynau i reoli halwynedd mewndirol a darparu mwy o gyngor a gwasanaethau technegol i’n cwsmeriaid.
Cynyddodd prynu nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys costau rheng flaen a ddarparwyd yn flaenorol) £1.2 miliwn i £11.9 miliwn. Prif rannau hyn yn bennaf yw cynnydd o £800,000 mewn ffioedd cyfreithiol allanol ar gyfer 2 gwest, a £400,000 o gostau cadwyn gyflenwi i gefnogi’r cynnydd yn ein hincwm gwasanaethau cynghori a thechnegol.
Gostyngodd taliadau dibrisiant, ailbrisio ac amhariad £5.7 miliwn i £16.5 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu lefel is o fuddsoddiad drwy ein rhaglen cynllun trin dŵr mwynglawdd ac amseru cwblhau’r cynllun. O dan ein polisi cyfrifyddu, rydym yn gostwng ein cynlluniau ar unwaith i ddim gwerth net ar bapur pan fyddant yn dod yn weithredol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 3 a 4 y datganiadau ariannol.
8.6 Datganiad o’r sefyllfa ariannol
Roedd y rhwymedigaethau net o £1,6005.5 miliwn wedi gostwng £60 miliwn (2022 i 2023: rhwymedigaethau net o £2,201.9 miliwn). Caiff hyn ei yrru gan ddarpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol, sydd wedi gostwng £600 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad mewn darpariaethau a amlinellir uchod.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 y datganiadau ariannol
8.7 Llif arian
Ar 31 Mawrth 2024 roeddem yn dal £15.6 miliwn o arian parod (2023: £13.2 miliwn). Mae hyn yn cynnwys £1.4 miliwn (2023: £1.4 miliwn) o gyllid wedi’i neilltuo mewn perthynas â diogelwch a alwyd i mewn gan weithredwyr mwyngloddio sydd wedi cael eu diddymu.
Roedd cynnydd net mewn arian parod yn ystod y flwyddyn o £2.4 miliwn. Eglurir rhannau cyfansoddol y symudiad hwn isod.
Derbyn £66.5 miliwn net o weithgareddau cyllido. Prif ran y symudiad hwn yw derbyn cymorth grant o £67.1 miliwn gan yr Adran Ynni a Sero Net (2022 i 2023: £58 miliwn). Mae’r cynnydd, sef y symudiad mawr yn ein balans arian o un flwyddyn i’r llall, yn cael ei dynnu i lawr gan yr adran i dalu am gyfalaf gweithio sy’n ymwneud â thri phrif faes – gweithredu ein cynlluniau dŵr mwynglawdd, rheoli hawliadau a digwyddiadau diogelwch y cyhoedd a darparu ein rhaglenni cyfalaf.
All-lif arian net o weithgareddau gweithredu o £46.9 miliwn (2022 i 2023: £39.9 miliwn). Rydym wedi gwario mwy eleni ar ein gweithrediadau, yn enwedig o ganlyniad i’r pwysau chwyddiant parhaus ar gostau mewn perthynas â gweithredu ein cynlluniau dŵr mwynglawdd, ar yr ymateb brys i domen yn llosgi yn Beever Lane, Barnsley, mewn perthynas â nifer o hawliadau a digwyddiadau sylweddol ynghylch diogelwch y cyhoedd, a chynnydd mewn ffioedd cyfreithiol allanol, fel yr esbonnir uchod.
All-lif arian net o weithgareddau buddsoddi o £17.2 miliwn (2022 i 2023: £18.7 miliwn). Mae hyn yn ymwneud â phrynu eiddo, offer a chyfarpar fel rhan o’n rhaglen barhaus i ddatblygu, adeiladu a chynnal cynlluniau dŵr mwynglawdd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, ac yn y buddsoddiad parhaus yn ein technoleg a’n systemau gwybodaeth, yn ogystal â gostyngiad o £400,000 miliwn mewn incwm (2022 i 2023: £1 miliwn) o werthu eiddo.
8.8 Busnes hyfyw
I’r graddau nad ydynt yn cael eu diwallu o’n ffynonellau incwm eraill, dim ond drwy grantiau neu grantiau yn y dyfodol gan ein hadran noddi, Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, y gellir cwrdd â’n rhwymedigaethau.
Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, efallai na fydd grantiau o’r fath yn cael eu cyhoeddi cyn yr angen.
Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, dalu i’r Awdurdod Glo unrhyw swm y mae’n penderfynu mai dyna’r swm sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Glo ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”
Ar sail hynny, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid er mwyn gallu cyflawni ein rhwymedigaethau. Rydym felly wedi paratoi ein datganiadau ariannol ar sail busnes byw.
9. Ein Gwaith yn Yr Alban
Ym mis Mawrth 2023, cysylltodd y Gwasanaeth Tân ac Achub â ni ynghylch cwymp yn y ddaear ar ddarn o ffordd a glaswelltir ar Rodfa Thornwood yn Ayrshire.
Diogelwyd y cwymp er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Oherwydd ei leoliad mewn ardal breswyl brysur, cysylltodd rheolwr y prosiect yn gyflym â’r gymuned leol i ddweud wrthynt beth oedd wedi digwydd a beth fyddai natur ein gwaith.
Yn yr Awdurdod Glo, ystyriwyd bod hwn yn ddigwyddiad blaenoriaeth uchel. Cafodd tudalen we bwrpasol ei chreu i helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am gynnydd y gwaith ar Rodfa Thornwood, a chafodd y wybodaeth hon ei rhannu â’r trigolion drwy gylchlythyrau wedi’u dosbarthu â llaw yn ogystal ag ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd rhanddeiliaid allweddol eraill yn y gymuned leol, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn ogystal â chynghorwyr lleol, yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith oherwydd y posibilrwydd o darfu ar drigolion wrth i’r prosiect gael ei gwblhau.
Cysylltodd y cyfryngau lleol â ni’n rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaeth ein helpu i wella dealltwriaeth y cyhoedd o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud a rhannu ein diweddariadau â chynulleidfa ehangach.
Er mwyn archwilio a thrin y siafft, fe wnaethon ni osod platfform dur dros y safle er mwyn gallu cwblhau’r gwaith yn ddiogel.
Roedd yn rhaid cau rhannau o Rodfa Thornwood ar wahanol adegau drwy gydol y prosiect. Sicrhaodd tîm y prosiect bod preswylwyr yn cael diweddariadau amserol drwy gylchlythyrau a ddanfonwyd â llaw a sgyrsiau wyneb yn wyneb.
Cwblhawyd y gwaith yn 2023. Rydyn ni’n parhau i ymgysylltu â’r gymuned wrth i’r gwaith monitro a’r gwaith tirweddu terfynol gael ei wneud.
Ein blwyddyn yn yr Alban:
-
gwnaethom gynnal 1,831 o archwiliadau o fynedfeydd pyllau glo
-
gwnaethom benderfynu ar 74 o achosion o berygl ac ymsuddiant
-
gwnaethom ddarparu 54,659 o adroddiadau mwyngloddio
-
gwnaethom ddarparu 1,052 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio
-
gwnaethon drin 31 biliwn litr o ddŵr
-
gwnaethom atal 747 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
10. Iechyd, diogelwch a lles
Rydym wedi parhau i wneud cynnydd cryf tuag at yr amcanion a nodir yn ein cynllun iechyd, diogelwch a lles 2022 i 2025.
Rydym wedi gweithredu ar yr hyn a ddysgwyd o archwiliad 5 seren Cyngor Diogelwch Prydain a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2023 ac wedi rhoi cynllun gweithredu ymarferol ar waith i sbarduno gwelliannau ymhellach ar draws ein system iechyd, diogelwch a lles.
Rydym wedi adnewyddu ein dull diogelwch ymddygiadol ac yn parhau i ysgogi ein diwylliant cadarnhaol, gan hyrwyddo ymddygiad diogel.
Mae ein system rheoli iechyd, diogelwch a lles symudol newydd bellach wedi’i gwreiddio’n llawn yn ein ffyrdd o weithio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cydweithwyr wedi gallu rhoi gwybod am ymddygiad cadarnhaol a phryderon ynghylch diogelwch, iechyd a lles, lle bynnag sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw, gan arwain at adroddiadau mwy effeithlon ac amserol.
Gallwn adolygu tueddiadau a chael adroddiadau wedi’u targedu drwy gasglu data’n well. Mae hyn yn golygu y gallwn leihau risg ymhellach a galluogi arfer da.
Rydym yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar lesiant ar draws ein sefydliad. Eleni, fe wnaethom lansio cynllun llesiant newydd, gyda chamau gweithredu allweddol i gefnogi llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol, cymdeithasol ac ariannol ein pobl.
Rydym yn siarad yn rheolaidd am faterion iechyd a lles ar alwadau ymgysylltu â chydweithwyr ac yn cynnal ymgyrchoedd gwybodaeth penodol. Dangosodd ein harolwg pwls cydweithwyr ym mis Tachwedd 2023 fod 87% o’n pobl yn credu ein bod yn darparu cymorth da ar gyfer iechyd, lles a gwytnwch gweithwyr.
Mae ein grwpiau ymgysylltu â staff a’n rhwydweithiau cydweithwyr yn golygu bod modd gweithredu’n brydlon a rhoi adborth.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chontractwyr a phartneriaid i sicrhau bod gweithrediadau safle’n cael eu cyflawni’n ddiogel. Rydym yn monitro ac yn adrodd ar berfformiad ac yn mynegi meysydd sy’n peri pryder yn brydlon. Rydym yn mynnu bod digwyddiadau a damweiniau a fu bron â digwydd yn cael eu hadrodd a’u hymchwilio’n llawn yn brydlon, gyda chamau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt.
Rydym yn rhannu dysgu ac arferion da gyda chontractwyr a phartneriaid i leihau risg ar draws y sector. Wrth i’n rhaglenni dyfu a dod yn fwy cymhleth, byddwn yn cynnal ac yn cryfhau’r ymgysylltu hwn.
Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag Arolygiaeth Mwyngloddiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a phartneriaid fel Cymdeithas Drilio Prydain i godi ymwybyddiaeth o risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â drilio mewn ardaloedd cloddio glo. Mae hyn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ac mae wedi ein galluogi i ofyn am adborth i wella ein prosesau trwyddedu.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gefnogi’r cwest i farwolaeth drasig Christopher Kapessa ar ein safle yn Abercwmboi, De Cymru yn 2019. Rydym wedi cymryd camau ers 2019 ac wedi rhoi gwersi ychwanegol ar waith o adroddiad y crwner ar atal marwolaethau yn y dyfodol yn dilyn y cwest. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefn diogelwch dŵr newydd, ochr yn ochr â’n prosesau diogelwch a safleoedd cyhoeddus.
Mae ein hystadegau ar gyfer 2023 i 2024 yn dangos lefelau da o fonitro rhagweithiol a gostyngiad yn ein cyfradd ddamweiniau. Mae llai o weithredoedd anniogel ac enghreifftiau o arferion da wedi cael eu hadrodd yn gyffredinol, sy’n gysylltiedig â llai o brosiectau adeiladu na’r flwyddyn flaenorol.
Roedd y ddamwain adroddadwy o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) yn ddigwydded pan fu i weithiwr contractwr gael torasgwrn yn rhan isaf y goes, a achoswyd yn ystod gweithgaredd codi. Canfuwyd mai achosion sylfaenol y ddamwain oedd asesiad risg a datganiad dull annigonol a goruchwyliaeth annigonol ar gyfer y gweithgaredd. Rhoddwyd sylw i’r materion hyn drwy adolygu’r dogfennau a darparu hyfforddiant gloywi i weithwyr. Rydyn ni wedi rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu â’n cadwyn gyflenwi.
Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn arolygiadau iechyd, diogelwch a lles, sy’n adlewyrchu ein diwylliant, pa mor hawdd yw adrodd drwy ein system ar-lein newydd a nifer cynyddol o gydweithwyr ar draws y sefydliad.
Mesurau rhagweithiol | 2022 i 2023 | 2023 i 2024 |
---|---|---|
Arsylwi ar iechyd, diogelwch a lles – gweithredoedd anniogel (staff a chontractwyr) | 1,962 | 1,624 |
Arsylwi ar iechyd, diogelwch a lles – enghreifftiau o arferion da (staff a chontractwyr) | 574 | 499 |
Archwiliadau iechyd, diogelwch a lles (staff) | 322 | 483 |
Mesurau adweithiol | 2022 i 2023 | 2023 i 2024 |
---|---|---|
Damweiniau – dim amser yn cael ei golli (staff a chontractwyr) | 11 | 7 |
Damweiniau – amser wedi’i golli (staff) | 1 | 2 |
Digwyddiadau – RIDDOR (staff a chontractwyr) | 2 | 1 |
Rydym yn falch o’n perfformiad iechyd, diogelwch a lles, ond nid ydym yn hunanfodlon, ac yn ymdrechu’n barhaus i wella. Rydym yn cydnabod mai monitro rhagweithiol yw’r cyfle gorau i nodi risgiau a chymryd camau ataliol. Pan fydd damweiniau’n digwydd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio, bod gwersi’n cael eu nodi a chamau’n cael eu cymryd i atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol.
Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn datblygu ein cynllun iechyd, diogelwch a lles am y tair blynedd nesaf i barhau i gryfhau ein diwylliant a’n perfformiad ymhellach.
11. Ein Gwaith yn Lloegr
Ar 2 Awst 2022 cawsom wybod am dân mewn gwythïen lo danddaearol yn ardal Gawber yn Barnsley, Swydd Efrog. Mae tanau gwythiennau glo yn eithriadol o brin, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl.
Roedd y tân hwn sawl metr o dan y ddaear yn y pileri glo a adawyd gan waith cloddio glo a wnaed yn y 1890au, ac a achoswyd gan losgi gwastraff ar ddarn cyfagos o dir.
Gweithiodd ein tîm prosiect yn agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Swydd Efrog a roddodd wybod am y tân. Gwnaethom weithio i sefydlu maint a difrifoldeb y tân o dan y ddaear a defnyddio ein cofnodion mwyngloddio hanesyddol a dronau delweddu thermol i ddeall sut roedd y tân yn lledaenu.
Dangosodd ein gwaith fod y tân yn y wythïen lo yn ymledu’n araf o dan sawl gardd a thuag at eiddo preswyl, a buom yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y gwasanaeth tân i gytuno ar y ffordd orau o reoli’r tân.
Buom yn gweithio gyda’r gymuned leol i gytuno ar yr ymateb gorau i bawb. Roedd y teulu yn yr eiddo agosaf at y tân yn awyddus i aros yn eu cartref er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar addysg eu plant a’u trefn ddyddiol.
Buom yn gweithio gyda nhw i’w cadw’n ddiogel a chynllunio’r gwaith angenrheidiol helaeth o amgylch eu hamserlen. Roedd arolygon thermol rheolaidd yn sicrhau bod diogelwch y teulu’n cael ei fonitro ac roeddem wedi cynllunio gwaith i leihau’r risg ac roedd gennym gynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn y byddai eu hangen.
Cafodd yr holl deuluoedd a effeithiwyd arnynt eu cefnogi gan ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid a’r rheolwyr prosiect dan sylw i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru, a roeddent yn gallu hysbysu a chytuno ar waith adfer gerddi a oedd yn eu bodloni.
Buom yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Barnsley Metropolitan a’r gymuned ehangach i leihau’r rhwystrau a’r tarfu ar ffyrdd a phalmentydd a sicrhau mynediad i’r ysgol a’r feithrinfa gyfagos.
Gyda’n gilydd, fe wnaethom anfon negeseuon rheolaidd at y gymuned leol, yr ASau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill. Roedd gweithio’n agos gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt a gwrando ar adborth yn hanfodol i sicrhau bod yr ymateb cymhleth hwn i’r digwyddiad yn llwyddiant.
Mae hi’n anodd diffodd tanau mewn gwythiennau glo gan fod glo yn ffynhonnell danwydd gyson sy’n parhau i fudlosgi. Roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar atal y tân rhag lledaenu a lleihau ei gyflenwad aer drwy ddrilio nifer o dyllau yn y ddaear a’u llenwi â deunydd growt. Lle’r oedd glo’n agos at yr wyneb, buom hefyd yn tyllu ac yn tynnu rhai o’r pileri glo a oedd yn llosgi.
Ar ôl diffodd y tân, gwnaethom barhau i fonitro’r ardal gan ddefnyddio arolygon drôn thermol. Nid oedd y rhain yn dangos unrhyw ‘fannau poeth’ pellach dros gyfnod o 6 mis ac rydym yn hyderus bod ein hymateb a’n dull gweithredu wedi bod yn llwyddiant.
Ein blwyddyn yn Lloegr:
-
gwnaethom gynnal 6,257 o archwiliadau o fynedfeydd pyllau glo
-
gwnaethom benderfynu ar 704 o achosion o berygl ac ymsuddiant
-
gwnaethom ddarparu 6,838 o ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio
-
gwnaethom ddarparu 63,175 o adroddiadau mwyngloddio
-
gwnaethon drin 96 biliwn litr o ddŵr
-
gwnaethom atal 2,932 tunnell o solidau haearn rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
12. Ein pobl
Rydym wedi parhau i esblygu i adlewyrchu twf cynyddol y sefydliad a’r gwasanaethau rheng flaen ychwanegol rydym yn eu darparu.
Rydym wedi trawsnewid ein dull o recriwtio a chynefino ac wedi parhau i ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu, ymgysylltu â chydweithwyr a lles i fod yn gyflogwr o ddewis.
Mae hyn yn sicrhau bod gennym bobl sydd â sgiliau, hyder ac empathi i gefnogi cymunedau a datrys y problemau cymhleth sy’n ein hwynebu 24/7/365.
Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom gynnal arolwg pwls ac rydyn ni’n falch o ddweud bod 90% o’n cydweithwyr wedi cwblhau’r arolwg gyda:
-
74% o gydweithwyr yn fodlon â’n pecyn buddion cyflawn, cynnydd o 18% o’n harolwg blaenorol
-
80% o gydweithwyr yn dweud eu bod wedi cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith
-
90% o gydweithwyr yn dweud eu bod yn cael eu trin â pharch
Rydym yn parhau i gynnal digwyddiadau ymgysylltu â chydweithwyr ar themâu allweddol i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’n harolygon pobl ac i ddefnyddio ein grŵp ymgysylltu â staff, rhwydweithiau staff, galwadau cydweithwyr bob pythefnos a digwyddiad blynyddol i gydweithwyr i wrando a thrafod ffyrdd o’n gwneud ni’n lle gwell byth i weithio ynddo, a gallu cyflawni’n well y gwaith pwysig rydyn ni’n ei wneud ar draws y 3 gwlad rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydym wedi gweld trosiant gweithwyr yn gostwng yn ystod y flwyddyn i 10.1% o’i gymharu â 18.4% rhwng 2022 a 2023.
Rydyn ni’n cyrraedd mwy o ymgeiswyr drwy ein dull recriwtio ac yn gweld niferoedd uchel o ymgeiswyr rhagorol ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi – gan gynnwys cynnydd o 50% mewn ymgeiswyr ethnig amrywiol.
Mae ein holl reolwyr sy’n penodi wedi mynychu ein hyfforddiant parod i recriwtio ac rydym wedi parhau i wreiddio dulliau mwy cynhwysol i ganiatáu i bawb roi eu gorau drwy’r broses ymgeisio, gan gynnwys ein cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ethnig amrywiol ac anabl. Mae 5.29% o’n cydweithwyr bellach yn nodi eu bod o gefndir ethnig amrywiol, sy’n gynnydd o 3% ers i ni lansio ein cynllun gwrth-hiliaeth yn 2022.
Mae ein hadroddiad ar y bwlch cyflog yn dangos bod ein hamrywiaeth o ran rhywedd yn cynyddu dros amser. Mae 45% o’n cydweithwyr yn fenywod o’i gymharu â 39% yn 2018 ac rydym wedi gweld cynnydd o 2.62% ers y llynedd.
Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cau’n raddol dros amser. Ers i ni ddechrau casglu data yn 2018, mae ein bwlch cyflog cymedrig wedi gostwng o 28% i 16% a’n canolrif o 26% i 17%. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, mae ein bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi cynyddu ychydig, sef 2%, ac mae canolrif ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gostwng 1.35%. Mae hyn yn cael ei sbarduno’n bennaf drwy gael mwy o ddynion na menywod yn gydweithwyr, ac yn benodol mwy o ddynion na menywod mewn rolau arwain a thechnegol uwch sy’n denu lefelau uwch o dâl.
Rydym yn gweithio i gau hyn ac mae gennym eisoes fwy o fenywod mewn swyddi arwain – gyda 6% yn fwy o fenywod yn y chwartel uchaf eleni. Mae hyn yn cynnwys menywod yn ymuno â ni mewn swyddi arwain uwch a menywod yn symud ymlaen i rolau uwch.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bylchau cyflog o ran ethnigrwydd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol a sut bydd ein cynlluniau gweithredu yn ein helpu i wneud cynnydd pellach dros amser. Gwyddom fod gennym fwy i’w wneud ac rydym yn parhau i wella.
Mae symudedd cymdeithasol yn dal yn bwysig i ni ac rydym yn parhau i annog ceisiadau o gyn ardaloedd mwyngloddio a’r rheini sydd â chysylltiad teuluol â mwyngloddio. Mae gennym 4 prentis ar hyn o bryd ac rydym wedi ailddatblygu ein polisi profiad gwaith mewn partneriaeth ag ysgol leol yn ardal ein prif swyddfa yn Mansfield, Swydd Nottingham yn barod i dreialu lleoliadau profiad gwaith newydd yn 2024 i 2025.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn dysgu a datblygu ac rydym wedi adnewyddu ein dull gweithredu i gynnwys cyflwyno mynediad i lwyfannau hyfforddi Campws y Llywodraeth i gael mynediad mwy effeithiol at gyfleoedd dysgu a datblygu achrededig o bob rhan o’r sector cyhoeddus.
Wrth i ni barhau i dyfu a darparu mwy o wasanaethau, arloesi pellach a chroesawu deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol newydd, rydym yn gwybod bod angen i ni barhau i ddatblygu ein sgiliau a’n harbenigedd i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle a’r gwerth y gallwn ei ddarparu i’r trethdalwr.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom lansio ein cynllun lles sy’n adeiladu ar y cynnydd rydym eisoes wedi’i wneud i gefnogi a grymuso cydweithwyr i reoli eu lles eu hunain a chefnogi lles pobl eraill. Mae cymorth iechyd meddwl a dealltwriaeth o’r pwysau ariannol y gall ein pobl eu hwynebu ynghyd â phwysau bywyd ac ansicrwydd byd-eang yn gwneud cymorth yn bwysicach nag erioed.
Rydym yn parhau i hyfforddi a chefnogi ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, yn hyrwyddo ein rhaglen cymorth i weithwyr, Health Assured, ar gyfer gweithwyr a’u teuluoedd, yn darparu mynediad at wasanaethau meddygol a gofal iechyd am bris gostyngol, pigiadau ffliw am ddim ac amrywiaeth o ostyngiadau gan fanwerthwyr a darparwyr gwasanaethau mwyaf poblogaidd y DU drwy ein llwyfan buddion i weithwyr, Edenred.
Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu ein polisïau pobl ‘gorau yn y sector cyhoeddus’ ac yn parhau i gynnig gweithio hybrid sy’n briodol i’r rôl ac annog gweithio hyblyg i hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i’r unigolyn, gan gynnal y gallu i gyflawni ar gyfer y bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr.
Byddwn yn parhau i weithio yn ystod y flwyddyn sydd i ddod er mwyn sicrhau ein bod wir yn lle gwych i weithio ynddo i bawb, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, eu datblygu a’u cynnwys a’n bod yn cael ein cydnabod fel cyflogwr gwych fel bod cydweithwyr yn y dyfodol hefyd eisiau gweithio i ni. Mae hyn yn ein gwneud yn fwy abl i fuddsoddi yn ein pobl a gwrando a dysgu er mwyn gwneud hyn.
13. Ein gwaith i alluogi gwerth amgylcheddol a chymdeithasol
Rhwng 2023 a 2024, buom yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Durham a Choetiroedd yr Alban i ddatblygu a gweithredu cynllun adfer ecolegol ar gyfer ardal o goetir hynafol blaenorol yn Hag Wood yn Swydd Durham i gefnogi adferiad byd natur a sicrhau gwerth amgylcheddol a chymdeithasol i’r gymuned leol a’r ardal.
Mae Hag Wood yn goetir 46 erw ger Chester-le-Street yn Swydd Durham. Roedd yr ardal wedi’i dosbarthu’n flaenorol fel coetir hynafol sy’n golygu ei bod wedi’i gorchuddio â choed brodorol ers o leiaf y 1600au. Yn y 1960au, cliriwyd y rhan fwyaf o’r coetir brodorol er mwyn i goed conwydd, a dyfwyd at ddefnydd masnachol, gael eu plannu yn eu lle.
Prynwyd y safle gennym yn 2004 i drin llygredd dŵr mwynglawdd sy’n llifo i nant Cong sy’n llifo drwy’r coetir. Dangosodd ein gwaith monitro fod y safle’n trin y dŵr mwynglawdd yn naturiol oherwydd bod y llystyfiant wedi’i derasu’n naturiol yn y nant, sy’n golygu bod yr haearn a’r metelau eraill yn y dŵr yn setlo allan o’r dŵr a bod dŵr y mwynglawdd yn cyrraedd safonau ansawdd dŵr pan fydd yn gadael y coetir.
Mae hyn yn dangos pŵer natur a sut y gall adfer llygredd gyda’r cymorth cywir. Yr ydym yn rheoli’r ardal yn ofalus i sicrhau y gall y driniaeth naturiol hon barhau ac y bydd yn digwydd mewn ffordd nad yw’n niweidio’r amgylchedd coetir ehangach.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cael cyngor gan arbenigwyr ym maes rheoli coetiroedd ac yn ystyried y ffordd orau o adfer Hag Wood i’w goetir brodorol blaenorol a chefnogi rhywogaethau coetiroedd hynafol sy’n ddangosyddion. Rydyn ni wedi datblygu cynllun adfer ecolegol ar gyfer yr ardal er mwyn cyfrannu at y camau y dylem eu cymryd i gyflawni hyn.
Yn ystod 2023, fe wnaethom dorri’r coed conwydd anfrodorol ar y safle a chyflenwi’r pren i felinau lleol o dan y Cynllun Stiwardiaeth Coedwigaeth sy’n sicrhau bod y cynhyrchion pren yn dod o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol ac sy’n darparu manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Drwy gydol y prosiect, rydym wedi dysgu o’r coetir cyfagos sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Durham ac wedi gweithio gyda Scottish Woodlands Ltd i reoli’r prosiect a cheisio’r caniatâd angenrheidiol er mwyn gallu torri’r coed ac adfer y coetir i’r llydanddail brodorol.
Mae ein gwaith cwympo coed wedi creu’r amodau golau haul brith sydd eu hangen i adfer y fflora coetir amrywiol sy’n nodweddiadol o goetir hynafol. Rydym eisoes wedi nodi 15 o rywogaethau dangosol coetir hynafol sydd wedi goroesi o dan y canopi conwydd tywyll ac sydd bellach yn gallu ffynnu eto.
Rydyn ni wedi plannu rhywogaethau llydanddail brodorol yn ofalus ac wedi annog adfywio naturiol o’r rhywogaethau brodorol presennol ar y safle fel coed derw, ffawydd, celyn a chyll a fydd yn tyfu i adfer y safle a hyrwyddo ecosystem fwy amrywiol.
Mae ein gwaith yn cefnogi ein huchelgais o fod yn natur bositif, sy’n un o themâu allweddol ein cynllun cynaliadwyedd, a bydd yn creu gwerth amgylcheddol i’r ardal. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol a’r gymuned i wella mynediad a chreu gwerth cymdeithasol o’r safle ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Bydd llwybrau troed caniataol newydd yn cael eu datblygu i ategu’r hawliau tramwy cyhoeddus presennol drwy’r coed a byddwn yn darparu byrddau dehongli sy’n egluro hanes Hag Wood, y rôl bwysig y mae’n ei chwarae a sut mae’n rhan o brosiect Coedwig Gymunedol y Gogledd-ddwyrain, sy’n brosiect 30 mlynedd, gwerth sawl miliwn o bunnau gan amrywiaeth o gynghorau, elusennau a phartneriaid i blannu coed a chreu cymunedau cynaliadwy y gellir byw ynddynt, sy’n helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chwymp bioamrywiaeth, cefnogi adfywiad a darparu cyfleoedd ar gyfer ymlacio a hamdden.
14. Risgiau strategol
Risgiau | Diweddariadau a chamau lliniaru | Sgôr gymharol |
---|---|---|
Risg diogelwch y cyhoedd: perygl sylweddol a achoswyd gan waith cloddio glo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth. | Mae gennym brosesau sydd wedi hen sefydlu i reoli ein risgiau gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol a llinell ymateb brysbennu 24/7. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu. | Uchel - sefydlog |
Newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol: nid ydym yn gallu deall, addasu a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r tywydd eithafol yn ddigonol, sy’n effeithio ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith. | Mae ein rhaglenni adnewyddu ac adeiladu ag arian cyfalaf sylweddol wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac yn atal llygredd a llifogydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o effaith addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystâd a’n gweithrediadau a bydd hyn yn helpu i siapio ein rhaglenni ar gyfer y dyfodol. | Uchel - sefydlog |
Dŵr mwynglawdd hallt o feysydd glo mewndirol: oherwydd natur hallt a lleoliad dŵr mwynglawdd yn y meysydd glo canolog, gall atebion posibl fod yn gymhleth ac mae angen cyllid ychwanegol sylweddol. | Mae dadansoddiad o’n gwaith monitro helaeth ar feysydd glo mewndirol Lloegr yn dangos bod cemeg dŵr y mwynglawdd yn heriol dros ben ac y bydd angen triniaeth ychwanegol i’r hyn a gyflawnir fel arfer. Rydym yn parhau â’n gwaith i ddeall maint a dosbarthiad y mater hwn, a gan weithio gyda’n partneriaid rydym yn gwneud cynnydd da i ddatblygu opsiynau cynaliadwy i unioni’r risg. | Uchel - sefydlog |
Digwyddiadau: mae maint digwyddiadau critigol neu fawr, neu’r ffaith eu bod yn gallu cyd-ddigwydd, yn effeithio ar allu’r Awdurdod Glo i gyflawni ei amcanion strategol. | Mae’r Awdurdod Glo yn cadw ei statws fel ymatebydd categori 2, gan danlinellu ein rôl sylweddol wrth ymateb i argyfyngau a digwyddiadau sy’n digwydd ar y maes glo. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o beryglon mwyngloddio hanesyddol gyda sefydliadau partner, gan gynnwys drwy ein rhaglen Mine Safe. | Uchel - sefydlog |
Cadwyn gyflenwi: mae marchnad lafur sy’n fwyfwy cyfyngedig a chystadleuol, chwyddiant a ffactorau eraill yn cynyddu’r pwysau ar ein cadwyn gyflenwi gan arwain at ddiffyg deunyddiau a chontractwyr sy’n ofynnol i gyflawni ein hamcanion strategol, neu gostau uwch iddynt. | Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r gwaith sydd yn yr arfaeth, ac rydyn ni’n ymgysylltu’n gynnar â’n cyflenwyr. Rydym yn cysylltu â thîm masnachol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ac yn cael sgyrsiau rheolaidd â’n cadwyni cyflenwi. Mae’r ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar y risg hon yn gymharol sefydlog ar hyn o bryd. | Canolig – yn gostwng |
Methiant seiberddiogelwch: mae hinsawdd wleidyddol y byd, dibyniaeth ddigidol gynyddol, dulliau cynyddol soffistigedig ac arloesol o ymosod yn arwain at fethiant seiberddiogelwch, gan arwain at golli arian neu ddata, amharu ar wasanaeth neu niweidio enw da. | Rydym yn parhau i fonitro’r dirwedd risg fyd-eang ac yn cynnal a gwella ein rheolaethau technegol yn barhaus. Rydym yn deall bod diwylliant seiberddiogelwch cadarnhaol yn allweddol o ran cynnal amddiffyniad effeithiol a hyrwyddo hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth ymysg yr holl gydweithiwr. | Canolig - sefydlog |
Polisi’r Llywodraeth: newidiadau polisi a deddfwriaeth mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan gynnwys mwy o wahaniaethau mewn blaenoriaethau ar draws y 3 gwlad a achosir gan ragor o ddatganoli, yn achosi aneffeithlonrwydd, her gyfreithiol, ansicrwydd neu effaith ar enw da. | Rydym yn parhau i weithio gyda’r 3 gwlad i gyflawni ein gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn y DU ac yn genedlaethol. | Canolig - sefydlog |
Data a gwybodaeth: oherwydd diffyg adnoddau neu flaenoriaethu buddsoddiad, nid ydym yn esblygu ein data awdurdodol yn ddigon cyflym, gan arwain at anallu i gyflawni yn erbyn ein hamcanion strategol a chreu gwerth. | Rydym wedi adeiladu strwythur rhaglen “addas ar gyfer y dyfodol” a fydd yn cael ei wreiddio yn ystod 2023 i 2024. Fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun data a gwybodaeth manwl yn 2023 i 2024. | Canolig – yn gostwng |
Iechyd, diogelwch a lles: rydym yn methu ag adnabod a rheoli’n briodol risgiau iechyd a diogelwch sy’n arwain at farwolaeth, anaf, afiechyd neu les gwael i unrhyw un y mae ein gweithgareddau neu ein hasedau’n effeithio arnynt. | Rydyn ni’n blaenoriaethu diogelwch a lles ein pobl ac mae gennym brosesau a gweithdrefnau cadarn a rhagweithiol i reoli ein risgiau iechyd, diogelwch a lles. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu. | Canolig - sefydlog |
Arloesi: oherwydd adnoddau mewnol cyfyngedig neu brosesau mewnol neu gleientiaid, gall datblygu/darparu cynnyrch neu wasanaeth gymryd mwy o amser na’r disgwyl, gan arwain at oedi wrth greu gwerth neu arbed costau. | Gwnaethom gyflwyno’r defnydd o’n ocr mewn treulio anaerobig i gynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol ac atal gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran datblygu dilyniant o gyfleoedd ynni dŵr mwynglawdd, gan gydweithio â’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i greu’r llwyddiant mwyaf posibl. | Canolig – yn gostwng |
Llywodraethu: mae methu ag esblygu ein fframweithiau llywodraethu mewnol yn ddigonol ar gyflymder twf sefydliadol cynyddol a chymhlethdod yn arwain at dorri mesurau rheoli, sy’n effeithio ar enw da a hyder allanol. | Mae gennym fframweithiau rheoli llywodraethu ar waith ac rydym yn cydnabod yr angen i’r rhain barhau i esblygu gyda chyflymder newid sefydliadol. Rydym yn datblygu ein galluoedd sicrwydd rheoli rhaglenni a chontractau i reoli maint a chymhlethdod cynyddol ein rhaglenni. | Canolig – yn gostwng |
Ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaid: mae ymgysylltu a chyfathrebu aneffeithiol yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth glir ymysg y cyhoedd a rhanddeiliaid o’n cylch gwaith a’n gweithgareddau, gan arwain at golli cyfleoedd ac effeithiau niweidiol ar ganlyniadau. | Rydym yn parhau i wella ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid mewn fforymau cadernid lleol a phartneriaethau cadernid rhanbarthol sy’n cwmpasu’r maes glo. Rydym wedi cyflwyno prosesau ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd ac wedi cynnal digwyddiadau ymgysylltu ym mhob un o’r 3 gwlad rydym yn eu gwasanaethu rhwng 2023 a 2024. Mae rhagor o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod. | Isel – yn gostwng |
15. Ein gwaith i ddatgloi gwerth o’n data a’n gwybodaeth
Rydym yn rheoli archif Prydain Fawr o weithfeydd glo tanddaearol, ac mae’n cofnod cynharaf yn dyddio’n ôl i 1690.
Mae gweithfeydd glo yn bodoli o dan 25% o eiddo ym Mhrydain Fawr ac mae ein data a’n gwybodaeth yn cael eu defnyddio bob dydd i gefnogi ein gwaith gweithredol – er enghraifft wrth ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau sy’n ymwneud â mwyngloddio, canfod peryglon, dylunio cynlluniau trin dŵr mwynglawdd sy’n atal dŵr mwyngloddiau rhag llygru dŵr yfed, afonydd a’r môr ac wrth ddarparu adroddiadau i gefnogi’r farchnad eiddo.
Mae ein data hefyd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan eraill ac mae’n hanfodol er mwyn creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.
Ym mis Ebrill 2024, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun data a gwybodaeth sy’n amlinellu sut byddwn yn parhau i ddatblygu a diweddaru ein data a’n gwybodaeth dros y 3 blynedd nesaf i ddiwallu anghenion ein busnes a’n cwsmeriaid.
Mae ein hymrwymiad i wneud ein data’n fwy hygyrch gan eraill yn linyn drwy’r cynllun. Rydym wedi cynnig ein data yn rhad ac am ddim ar gyfer prosiectau a gweithgareddau a ariennir gan y trethdalwr i gydnabod rôl bwysig y sector cyhoeddus o ran ariannu a chyflawni gwaith er mwyn diogelwch y cyhoedd, seilwaith a diogelu’r amgylchedd.
Rydym yn edrych ar sut y gellir defnyddio ein data ar gyfer gwaith newydd ac arloesol – er enghraifft, er mwyn gallu defnyddio gwres dŵr mwynglawdd ledled Prydain. Dros y flwyddyn ddiwethaf, buom yn gweithio gydag Arolwg Ordnans i ddeall y mathau o adeiladau a’r galw am wresogi ac oeri ym meysydd glo Prydain Fawr.
Mae’r mapiau newydd hyn yn gweithio’n arbennig o dda ochr yn ochr â’r mapiau gwres mwyngloddiau a ddatblygwyd gennym yn 2020 gydag Arolwg Daearegol Prydain sy’n dangos y potensial gwres ar draws ein gweithfeydd glo hanesyddol. Mae’r mapiau’n dangos bod dros 6 miliwn o gartrefi a 300,000 o swyddfeydd a busnesau uwchben pyllau glo segur a allai elwa o gynlluniau gwres dŵr mwynglawdd.
Mae’r ddwy set o fapiau ar gael ar ein dangosydd mapiau rhad ac am ddim ac rydym yn annog awdurdodau lleol, datblygwyr tai, busnesau a phartneriaid eraill i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau yn y dyfodol a datgarboneiddio adeiladau presennol.
Rydym yn parhau i gefnogi’r ddealltwriaeth o gynlluniau gwres dŵr mwynglawdd, a’r nifer sy’n eu defnyddio, drwy ymchwil. Yn 2023 i 2024, fe wnaethom sefydlu “labordy byw” i fonitro’r cynllun gwres dŵr mwynglawdd gweithredol yn Gateshead. Bydd y data yn ein helpu i ddangos yn glir ymddygiad thermol a hydrolig cynlluniau gwres dŵr mwynglawdd, a darperir y data monitro ar sail mynediad agored.
Ochr yn ochr â’n prosiectau, rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein systemau a’n seilwaith digidol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Rhwng 2023 a 2024, fe wnaethom lwyddo i symud dros ddwy ran o dair o’n systemau digidol o weinyddion swyddfa i amgylchedd cwmwl cadarn a diogel newydd.
Mae hyn yn ein galluogi i storio a phrosesu setiau data cymhleth yn effeithlon a chreu a defnyddio gwasanaethau data ar-lein sy’n cefnogi ein pobl ac yn ein gwneud yn haws i’n cwsmeriaid wneud busnes gyda ni. Byddwn yn gwneud rhagor o welliannau ac yn parhau i wella hygyrchedd ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn y flwyddyn i ddod.
16. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd yn erbyn ein cynllun cynaliadwyedd ar gyfer 2023 i 2026 sy’n gwreiddio ein hymrwymiad i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy ac mae’n un o themâu craidd ein cynllun busnes a’n gweledigaeth 10 mlynedd.
Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ac er ein bod wedi gwneud cynnydd clir ar nifer o flaenoriaethau (natur bositif, cefnogi’r economi gylchol, galluogi gwerth cymdeithasol a grymuso newid cynaliadwy yn benodol) rydym wedi gwneud llai o gynnydd nag yr oeddem wedi’i obeithio yn erbyn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’n cynlluniau ar gyfer addasu i newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi dysgu a byddwn yn cynyddu ein hymdrechion yn y flwyddyn i ddod.
Rydym wedi gweld cynnydd yn ein hallyriadau eleni oherwydd y gaeaf eithriadol o wlyb, sy’n golygu ein bod wedi gorfod defnyddio mwy o bwmpio ynni a thrin dŵr mwyngloddiau i atal llygredd.
Rydyn ni wedi asesu potensial a blaenoriaethau ynni adnewyddadwy ar draws ein hystâd ond rydyn ni wedi wynebu oedi wrth osod paneli solar oherwydd heriau caffael. Mae gweithredu ein rhaglen ynni adnewyddadwy yn ymarferol yn flaenoriaeth allweddol yn y flwyddyn i ddod.
Rydym wedi parhau i wneud cynnydd mewn ffyrdd eraill ar ein hallyriadau fel y gwelwch yn yr adran llwyddiannau allweddol a’r tablau manwl isod. Rydyn ni wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o’r ystod eang o ystyriaethau ar gyfer ein cynllun addasu i’r newid yn yr hinsawdd a byddwn yn llunio cynllun interim erbyn diwedd 2024 i 2025.
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd cryf ar ein blaenoriaethau adfer natur a chynnydd parhaus ar ein blaenoriaethau eraill – cefnogi’r economi gylchol, galluogi gwerth cymdeithasol a grymuso newid cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu mwy o’n gwastraff – yn enwedig gwastraff o’n gwaith glanhau a’n gweithfeydd trin dŵr mwynglawdd drwy ei adfer â gwelyau cyrs, gyda llai na 3% o’n gwastraff solid haearn ac ocr yn mynd i safleoedd tirlenwi erbyn hyn.
Mae ein gwybodaeth a’n gwasanaethau wedi galluogi 260 hectar o adfywio a datblygu diogel ar gyfer cymunedau glofaol i gefnogi gwerth cymdeithasol a ffyniant bro, ac rydym wedi creu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ychwanegol ar 8 safle
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynllun adfer natur ac wedi sefydlu gwaelodlin bioamrywiaeth. Rydyn ni wedi datblygu adnoddau cost a budd sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd i’w defnyddio gan ein timau gweithrediadau ac rydyn ni wedi gwreiddio metrigau gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn ein contractau newydd.
Rydym yn parhau i wella ein prosesau casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata yn unol ag Ymrwymiadau Gwyrddu Llywodraeth y DU.
Yn ystod 2023 i 2024, mae’r llwyddiannau allweddol yn cynnwys:
-
cynyddu nifer y cerbydau allyriadau sero neu isel iawn yn ein fflyd i 75%
-
lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnyddio tanwydd ffosil yn uniongyrchol 16%
-
gosod is-fesuryddion i ddeall ein proffil ynni yn well yn ein swyddfa ym Mansfield
-
ailddefnyddio neu ailgylchu 97% o’n gwastraff[footnote 1]
-
gwerthu ocr haearn i’w ddefnyddio mewn treulio anaerobig (cefnogi’r economi gylchol a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi)
-
lleihau’r defnydd o blastig untro yn ein swyddfa ym Mansfield 90%
-
rhoi ein cynllun adfer ecolegol ar waith ar gyfer safle Hag Wood
-
cwblhau gwaelodlin bioamrywiaeth lefel uchel ar 77 safle fel rhan o’n gwaith adfer natur
-
cyhoeddi ein cynllun adfer natur
17. Ein hymrwymiadau llywodraeth gwyrddu
Mae’r ymrwymiadau llywodraeth gwyrddu yn nodi’r camau y bydd adrannau llywodraeth y DU a’u hasiantaethau yn eu cymryd i leihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd yn y cyfnod 2021 i 2025.
2017 i 2018 oedd ein blwyddyn gwaelodlin
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Y pŵer a gynhyrchwyd drwy ein defnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (kWh) | 996,740 | 1,137,505 | 4,151,179 |
Cyfanswm allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) | 245.01 | 290.94 | 1,141.29 |
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) | 8.46 | 5.89 | 13.7 |
Mae hyn yn ymwneud â nwy petrolewm hylifedig (LPG) a brynwyd ar gyfer ein swyddfa ym Mansfield ar gyfer gwresogi, ac olew tanwydd disel a ddefnyddir mewn generaduron mewn safleoedd gweithredol. Rydyn ni’n defnyddio llai o olew tanwydd disel ar safleoedd gan ein bod wedi newid i gysylltiadau grid ar gyfer profion pwmpio lle bo hynny’n bosibl. Mae cynnydd wedi bod yn y LPG sydd wedi cael ei brynu a’i storio i’w ddefnyddio yn ein Swyddfa ym Mansfield.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Trydan a brynwyd (kWh) | 30,482,157 | 26,478,211 | 20,494,016 |
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr o drydan a brynwyd (tCO2e) | 6,858.16 | 5,588.76 | 7,878.51 |
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o drydan a brynwyd (tCO2e) | 243.09 | 239.7 | 364.94 |
Mae’r defnydd o ynni wedi cynyddu gan i ni bwmpio 17% yn fwy o ddŵr mwynglawdd yn ein safleoedd gweithredol yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod tywydd gwlyb wedi creu mwy o ddŵr mwynglawdd i’w bwmpio. Rydym hefyd wedi ychwanegu 1 cynllun trin newydd.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd (kWh) | 984,540 | 932,282 | 189,966 |
Ynni adnewyddadwy a ddefnyddiwyd (kWh) | 671,502 | 725,954 | 165,501 |
Ynni adnewyddadwy wedi’i allforio i’r grid (kWh) | 313,037 | 206,328 | 24,465 |
Rydyn ni wedi cynhyrchu mwy o ynni o’n gosodiadau solar o ganlyniad i fwy o heulwen dros fisoedd yr haf. Dydyn ni ddim wedi gallu defnyddio’r holl gynnydd gan nad yw wedi digwydd pan oedd angen pŵer arnom ni fwyaf (gaeaf gwlyb) felly mae mwy wedi cael ei allforio i’r grid. Mae hyn yn helpu i gefnogi datgarboneiddio’r grid trydan.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Dwysedd carbon (kgCO2e/kWh) | 0.221 | 0.207 | 0.364 |
Yn gyffredinol, mae’r grid trydan wedi mynd yn fwy carbon-ddwys. Mae hyn wedi cynyddu ein dwysedd carbon gan ein bod wedi gorfod defnyddio mwy o drydan o’r grid ar yr adegau pwmpio prysuraf, sef pan fydd ein hynni solar yn cynhyrchu llai o ynni.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â phŵer y brif swyddfa (tCO2e) | 251.55 | 245.59 | 378.64 |
Roedd cynnydd bach o ganlyniad i fwy o bobl yn ein swyddfa ym Mansfield wedi cynyddu’r LPG a brynwyd ac a storiwyd i’w ddefnyddio.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â phŵer (tCO2e) | 7,112.17 | 5,879.70 | 9,019.80 |
Mae allyriadau wedi cynyddu oherwydd ein galw cynyddol am bwmpio a chynnydd yn nwysedd carbon y grid trydan.
Pŵer | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cyfanswm gwariant ar ddefnyddio ynni | £8,433,478.84 | £6,345,257.46 | £4,348,855.17 |
Mae’r gwariant wedi cynyddu oherwydd y cynnydd yn y galw am bwmpio a chostau ynni uwch drwy gydol y cyfnod hwn.
Allyriadau sy’n ffoi | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Oeri ac Aer-dymheru (tCO2e) | 6 | 46 | 6 |
Cafodd gollyngiad yn system aerdymheru swyddfa Mansfield ei ganfod a’i drwsio yn 2022 i 2023, a arweiniodd at yr allyriadau uwch.
Teithio sy’n gysylltiedig â busnes | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cilometrau (km) a deithiwyd | 1,504,063 | 1,340,761 | 1,799,174 |
Nifer yr hediadau | 0 | 4 | 73 |
Allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e) | 207.66 | 201.42 | 305.9 |
Dwysedd (tCO2e/100,000km) | 13.81 | 15.02 | 17 |
Cyfanswm gwariant ar deithio (domestig a rhyngwladol) | £455,631.29 | £302,932.96 | £354,537.00 |
Rydym wedi teithio ymhellach eleni wrth ymateb i ddigwyddiadau ac ymgymryd â’n gwaith ac ymgysylltu â phartneriaethau, ond rydym wedi lleihau dwysedd ein hallyriadau o deithio drwy leihau allyriadau ein fflyd a defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus.
Teithio sy’n gysylltiedig â busnes | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
% cerbydau fflyd sy’n gerbydau allyriadau isel iawn neu allyriadau sero (hybrid neu drydan llawn) | 75.00% | 54.10% | 0% |
Rydyn ni wedi cymryd camau i newid cyfansoddiad ein fflyd. Ffigurau ar 31 Mawrth 2024.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cyfanswm gwastraff (tunnell) | 30,895[footnote 2] (26,950[footnote 3] ) | 20,237[footnote 2] (17,621[footnote 3]) | 1,417[footnote 4] |
Gwastraff swyddfa Manselfield wedi’i ailgylchu (tunelli) | 4.49 | 3.55 | 12 |
Gwastraff wedi’i ailgylchu (tunelli) | 26,015 | 15,756 | 0 |
Wheal Jane Waste (tunelli) | 3,945 | 2,616 | Heb ei gofnodi |
Gwastraff swyddfa Mansfield i safleoedd tirlenwi (tunelli) | 0.04 | 0 | 7 |
Gwastraff i safleoedd tirlenwi (tunelli) | 926 | 1859 | 1405 |
Gwastraff wedi’i losgi (ynni o wastraff) (tunelli) | 4.1 | 2.26 | 0 |
Ers 2022 i 2023, rydyn ni wedi cynnwys gwastraff o fwynglawdd metel Wheal Jane rydyn ni’n ei reoli ar gyfer Defra yn ein ffigurau blynyddol. Rydym yn dangos y rhifau heb Wheal Jane mewn cromfachau i gael cymhariaeth agosach â’r llinell sylfaen. Mae gwastraff Wheal Jane yn mynd i gyfleuster gwastraff mwyngloddio ar y safle gyda’r potensial i adfer adnoddau yn y dyfodol yn amodol ar dechnoleg ac amodau economaidd.
Mae ein gwastraff o drin dŵr mwynglawdd wedi cynyddu o’r flwyddyn sylfaen wrth i ni fesur y gwastraff hwn yn fwy cywir, gwneud mwy o waith glanhau ac adfer â gwelyau cyrs ac adeiladu mwy o gynlluniau. Mae’r meintiau’n amrywio’n flynyddol yn dibynnu ar ein rhaglen adnewyddu a faint o ddŵr mwynglawdd y mae angen ei drin bob blwyddyn (sy’n gysylltiedig â glawiad). Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y defnydd gorau posibl o’n gwastraff er mwyn ei droi’n gynnyrch defnyddiol a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi. Ein nod yw cyrraedd 0% o wastraff i safleoedd tirlenwi.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Gwastraff TGCh | 0 | 0 | 0 |
Rydyn ni’n ailddefnyddio, yn addasu neu’n ailgylchu ein hoffer TGCh.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
% Gwastraff prif swyddfa i safleoedd tirlenwi | 0.9% | 0% | 37% |
Mae adroddiadau gwell wedi dangos bod swm bach gweddilliol o ludw o wastraff wedi’i losgi o’n swyddfa ym Mansfield yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
% gwastraff i safleoedd tirlenwi[footnote 5] | 3.00% | 9.20% | 99.2% |
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar waith i leihau canran y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Cyfanswm gwariant ar waredu gwastraff | £8,157.00 | £6,220.14 | £3,175.71 |
Mae hyn yn ymwneud â chostau gwaredu gwastraff o’n swyddfa ym Mansfield yn unol â chanllawiau ymrwymiad gwyrddu y llywodraeth.
Gwastraff | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Nifer yr eitemau o blastigau untro i ddefnyddwyr (CSUPs) | 11,210 | 110,341 | Heb eu cofnodi |
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar leihau plastigau untro yn ein swyddfa ym Mansfield yn unol â’r cynllun a ddatblygwyd gennym y llynedd.
Adnoddau – dŵr | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Defnyddio dŵr (m3) – swyddfa Mansfield | 932 | 819 | 1,910 |
Safleoedd dŵr mwynglawdd (m3) | 15,969 | 15,820 | 3,075[footnote 6] |
Cyfanswm gwariant ar ddŵr | £54,840.43 | £22,582.52 | £65,259.32 |
Cynyddodd y defnydd o ddŵr yn ein swyddfa ym Mansfield yn 2023 i 2024 wrth i fwy o bobl ddychwelyd i weithio yn y swyddfa. Mae’r defnydd yn parhau i fod yn is ers 2017 i 2018 oherwydd mesurau effeithlonrwydd dŵr gwell a gweithio hybrid parhaus.
Mae dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y broses gemegol ar rai o’n safleoedd trin dŵr mwynglawdd. Rydym wedi gwella ein systemau i gasglu data ar ddefnydd sy’n fwy cywir na’r amcangyfrif llinell sylfaen gwreiddiol, a byddwn yn gweithio i wneud gostyngiadau o hyn ymlaen, gan gynnwys defnyddio mesuryddion clyfar i gael gwell dealltwriaeth o’r defnydd a biliau mwy cywir.
Adnoddau – papur | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2017 i 2018 |
---|---|---|---|
Defnydd papur (rîm cyfwerth ag A4) | 305 | 246 | 718 |
Mae’r defnydd o bapur wedi cynyddu wrth i fwy o bobl ddod i’r swyddfa.
Cymeradwywyd yr adroddiad perfformiad hwn gan y prif weithredwr a’r swyddog cyfrifyddu.
Lisa Pinney MBE, Prif weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, 15 Gorffennaf 2024
-
Mae hyn yn cynnwys yr holl wastraff o’n swyddfa ym Mansfield a’r holl wastraff o’n cynlluniau trin dŵr mwynglawdd ac eithrio ein cynllun mwyngloddiau metel yn Wheal Jane, Cernyw sy’n mynd i gyfleuster gwastraff mwyngloddio arbenigol ar gyfer adferiad posibl yn y dyfodol pan fydd amodau technolegol ac economaidd yn caniatáu hynny. ↩
-
Mae’n cynnwys holl wastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd, gan gynnwys Wheal Jane. ↩ ↩2
-
Mae’n cynnwys holl wastraff cynlluniau trin dŵr mwynglawdd ond heb gynnwys Wheal Jane er mwyn cymharu’n agosach â’r llinell sylfaen ↩ ↩2
-
Mae’n cynnwys gwastraff o gynlluniau trin dŵr mwynglawdd gweithredol (Dawdon ac Ynysarwed) ond nid yw’n cynnwys cynlluniau trin dŵr mwynglawdd eraill a gwastraff Wheal Jane. ↩
-
Nid yw’n cynnwys Wheal Jane, sy’n cael ei storio mewn cyfleuster gwastraff mwyngloddio, nac ocr wedi’i stori i’w ailddefnyddio. ↩
-
Amcangyfrifwyd o’r defnydd cyfartalog ↩