Independent report

The Family Court and domestic abuse: achieving cultural change (Welsh accessible)

Updated 1 February 2024

Hydref 2023

1. Cydnabyddiaethau

1.1. Hoffai’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ddiolch i’r canlynol:

Pob dioddefwr a goroeswr sydd wedi ysgrifennu at ein swyddfa neu gymryd rhan yn ein cyfarfodydd bord gron, gwaith arolygu a Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc. Ni allem wneud y gwaith hwn heb eich mewnbwn.

Jenny Birchall (Cyn-Uwch-swyddog Ymchwil a Pholisi, Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr) am ei sylwadau defnyddiol ar fersiwn ddrafft o’r adroddiad hwn.

Yr Athro Rosemary Hunter a’r Athro Mandy Burton a ddatblygodd y model ym Mhennod 4 o’r adroddiad hwn (Cynllun manwl ar gyfer treialu’r System Adrodd ac Adolygu) fel rhan o’u penodiad i gynllunio cam treialu’r system.

Miles and Partners am eu cymorth gyda’r arolwg ymarferwyr, yn ogystal â Chymdeithas y Bar ar gyfer Cyfraith Teulu, Cymdeithas Cyfreithwyr Plant a Chyngor y Bar am eu cymorth i ledaenu’r arolwg ymarferwyr.

Cyngor Cenedlaethol Barnwyr Llysoedd Ieuenctid a Llysoedd Teulu, Unol Daleithiau America, yn arbennig Lorretta Frederick, Darren Mitchell a Jennifer Arsenian, am drafodaethau hynod werthfawr a rhannu gwybodaeth.

Yr holl unigolion, ymgyrchwyr, sefydliadau ac academyddion sydd wedi chwarae rôl o ran sicrhau bod y newidiadau sydd eu hangen i’r Llys Teulu yn cael eu llywio gan brofiadau’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig ac sydd wedi peri i ni fabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

2. Rhagair: Nicole Jacobs, y Comisiynydd Cam-drin Domestig

2.1. Bron bob dydd clywaf gan y rhai sy’n dioddef cam-drin domestig am eu profiadau yn y Llys Teulu. Yn rhy aml o lawer, mae’r hanesion y maent yn eu hadrodd wrthyf am achosion plant cyfraith teulu breifat yn ymwneud ag aildrawmateiddio a phryder ynghylch diogelwch eu plant. Mae newid hyn yn un o’m prif flaenoriaethau fel y Comisiynydd. Wrth ymgysylltu â’r llywodraeth, y farnwriaeth ac asiantaethau cyfiawnder teuluol eraill, gwnaeth eu hymrwymiad hwythau i sicrhau newid cadarnhaol argraff fawr arnaf ac rwy’n hyderus y bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn drobwynt o ran y ffordd y mae’r Llys Teulu yn ymdrin â honiadau o gam-drin domestig. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn nodi fy ngweledigaeth ar gyfer y camau ymarferol y bydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni’r newidiadau y mae pob un ohonom am eu gweld. Er na ellir rhuthro newid ystyrlon, mae arnom ddyletswydd i’r goroeswyr y mae’r system cyfiawnder teuluol wedi effeithio ar eu bywydau i sicrhau’r gwelliannau hyn mewn modd hwylus. Nawr yw’r amser i newid.

2.2. Dros y 30 mlynedd diwethaf, fwy neu lai, mae’r ffordd y mae cam-drin domestig yn cael ei ddeall a’i drin gan y cyhoedd a’r wladwriaeth wedi newid yn sylweddol. Mae agweddau wedi newid yn arbennig o gyflym yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gydag ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol bellach yn cael ei gydnabod fel trosedd a’r ddeddfwriaethol arloesol, Deddf Cam- drin Domestig 2021, yn cael ei phasio. Diolch i’r Ddeddf, mae plant bellach yn cael eu cydnabod yn ffurfiol fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain.

2.3. Wrth fesur y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran sicrhau cyfiawnder i oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr, yn ddealladwy ddigon, mae meddyliau yn aml yn troi at ymateb y system cyfiawnder troseddol ac erlyn cyflawnwyr. Ac eto, yn aml ymgysylltu â’r system cyfiawnder teuluol fydd y rhan anoddaf ond pwysicaf o’u rhyngweithio â’r system cyfiawnder i ddioddefwyr a goroeswyr â phlant sy’n gwahanu â’u camdrinwyr. Rhaid i ddioddefwyr a goroeswyr ddibynnu ar y Llys Teulu i gadw eu plant yn ddiogel rhag cyflawnwyr. Ac eto, yn aml iawn nid yw dioddefwyr na goroeswyr yn teimlo eu bod yn cael eu deall na’u cymryd o ddifrif yn y Llys Teulu. Mae hyn, yn ei dro, yn tanseilio ffydd y cyhoedd yn y system cyfiawnder teuluol, sy’n aml yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr mewn mwy o berygl.

2.4. Mae Marianne Hester yn disgrifio profiad dioddefwyr a goroeswyr sy’n delio â gwahanol asiantaethau fel y ‘Model Tair Planed’, sef:

  • planed trais domestig,[footnote 1] lle yr ystyrir bod cam-drin domestig yn drosedd. Caiff ymddygiad y cyflawnwr ei gydnabod gan yr heddlu ac asiantaethau eraill fel ymddygiad camdriniol a chymerir camau yn erbyn y cyflawnwr.

  • planed amddiffyn plant, lle y disgwylir i ddioddefwyr a goroeswyr wahanu eu hunain a’u plant oddi wrth y cyflawnwr a’u cadw’n ddiogel;

  • planed cyswllt â phlant, lle mae dioddefwr neu oroeswr sydd wedi ceisio amddiffyn ei blentyn drwy ffonio’r heddlu a thynnu ei hun a’i blentyn allan o’r berthynas, bellach yn cael ei orchymyn i ganiatáu cyswllt rhwng y cyflawnwr a’r plentyn.[footnote 2]

2.5. Cafodd y problemau y mae dioddefwyr, goroeswyr a phlant yn eu hwynebu yn y ‘planed cyswllt â phlant’ – y Llys Teulu – eu nodi yn adroddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, (“adroddiad y Panel Niwed”), a nododd yn glir bod y methiannau systemig a nodwyd ganddo yn tanseilio gallu’r llysoedd i asesu’n gywir y risg i ddioddefwyr, goroeswyr a phlant sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.

2.6. Fy mlaenoriaeth fel y Comisiynydd Cam-drin Domestig yw sicrhau bod yr ymateb cenedlaethol i gam-drin domestig yn cael ei wella’n gyffredinol – ac ni ellir gwneud hynny heb wneud gwelliannau sylweddol ar fyrder i achosion plant cyfraith breifat. Rhaid i bob asiantaeth a gweithiwr proffesiynol a ddaw i gysylltiad â phlant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr ac sy’n gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol i’w llesiant, ddeall cam-drin domestig yn llawn, ei effaith ar oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawnwyr ar ôl gwahanu.

2.7. Mae cynnydd wedi’i wneud ers cyhoeddi Adroddiad y Panel Niwed, y mae’n rhaid ei gydnabod.

  • 2.7.1. Daeth y darpariaethau gwahardd croesholi a geir yn Neddf Cam- drin Domestig 2021 i rym ar 21 Gorffennaf 2022 ac maent wedi gwahardd croesholi gan ddiffynnydd ym mhob achos teuluol yn dechrau o’r un dyddiad.[footnote 3]

  • 2.7.2. Sefydlwyd cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys er mwyn helpu i benodi cynrychiolwyr cyfreithiol cymwys i groesholi mewn achosion teuluol.[footnote 4]

  • 2.7.3. Caniatawyd i Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol gael mynediad i’r Llys Teulu er mwyn darparu cymorth hollbwysig i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn ystod achosion ar 6 Ebrill 2023.[footnote 5]

  • 2.7.4. Mae’r Llys Teulu wedi gwneud cryn gynnydd o ran cyfyngu ar y defnydd o luniau o natur bersonol mewn achosion teuluol ac ar 29 Ebrill 2022 rhoddwyd canlllawiau ar sut i ymdrin â lluniau o natur bersonol mewn achosion cyfraith teulu breifat yn nyfarniad Re M.[footnote 6]

  • 2.7.5. Mae Llysoedd Braenaru Peilot yng Ngogledd Cymru a Dorset wedi’u sefydlu er mwyn gwella prosesau rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau megis yr heddlu, awdurdodau lleol a’r llysoedd; darparu cymorth gwell a sicrhau canlyniadau mwy diogel i blant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr; cyflwyno dull datrys problemau sy’n rhoi’r plentyn wrth wraidd achosion teuluol.[footnote 7] Maent wedi bod yn delio ag achosion cyfraith teulu breifat ers dechrau 2022.

2.8. At hynny, ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Cafcass ei Domestic Abuse Learning and Improvement Plan: first year update a oedd yn amlinellu nifer o fesurau a mentrau a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn dilyn adroddiad y Panel Niwed.[footnote 8]

2.9. Ymhlith y rhain roedd:

  • 2.9.1. Cyfeirio at yr amcanion gwreiddiol fel y’u nodwyd yn y Domestic Abuse Learning and Improvement Plan a gyhoeddwyd gan Cafcass ym mis Mehefin 2021;[footnote 9]

  • 2.9.2. Rhoi Rhaglen Dysgu a Gwella orfodol newydd ar gyfer Cam-drin Domestig ar waith i bob Cynghorydd Llys Teulu, sydd wedi’i gwblhau ers hynny gan 95 y cant o’r 1,687 o staff rheng flaen a rheolwyr Cafcass.

  • 2.9.3. Fersiwn wedi’i diweddaru o Lwybr Ymarfer Cam-drin Domestig gyda chanllawiau diwygiedig er mwyn cefnogi Cynghorwyr Llys Teulu.[footnote 10]

2.10. Rwy’n croesawu’n fawr ymrwymiad y llywodraeth i wella bywydau oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr cam-drin domestig. Gwn fod barnwyr, Cafcass, Cafcass Cymru a gweithwyr cymdeithasol hefyd yn ymrwymedig i sicrhau gwelliannau – er eu bod yn wynebu llwythi gwaith trwm a phrinder adnoddau. Gyda’n gilydd, gallwn gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol a nodir yn yr adroddiad hwn i roi’r newidiadau hirdymor sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn cael yr ymateb cydlynus a thosturiol y maent yn ei haeddu, ni waeth i ble maent yn troi.

Diweddariad ar adroddiad y Panel Niwed Mai 2023

2.11. Cafodd adroddiad y Panel Niwed ei groesawu fel sbotolau angenrheidiol ar y Llys Teulu ac ysgogodd gryn ymrwymiad ar ran y llywodraeth a’r farnwriaeth i sicrhau’r diwygiadau sydd eu hangen.

2.12. Mae’r adroddiad hwn yn galw o’r newydd am i ddiwygiadau gael eu gwneud ar fyrder ac am barhau â momentwm argymhellion y Panel Niwed a’r camau nesaf sy’n deillio ohonynt. Caiff llawer o’r argymhellion hyn eu hatgyfnerthu gan y diweddariad ar adroddiad y Panel Niwed a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023,[footnote 11] ychydig cyn yr adroddiad hwn.

3. Cyflwyniad

Gwrandewch arnom o’r dechrau, mae’r profiadau hyn yn cael effaith hirdymor ar ein bywydau.

‘In Our Shoes’, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (2021)

3.1. Bydd angen i lawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sy’n gwahanu â’u camdriniwr fynd drwy achosion yn y Llys Teulu, yn enwedig os bydd anghytundeb ynghylch trefniadau plant (a elwid gynt yn achosion plant cyfraith breifat neu’n achosion trefniadau plant ac y cyfeirir atynt felly yn yr adroddiad hwn). Yn ystod y 12 mis hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn unig, dechreuwyd 52,204 o achosion plant cyfraith breifat.[footnote 12] Fodd bynnag, roedd 10 y cant o’r rhain yn cynnwys rhieni a oedd yn gwahanu.[footnote 13] Roedd astudiaeth fach a gynhaliwyd gan Cafcass a Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr yn 2016 yn awgrymu bod hyd at 62 y cant o achosion o’r fath yn cynnwys honiadau o gam- drin domestig. Felly, amcangyfrifir y gallai fod hyd at 32,400 o achosion plant cyfraith breifat sy’n cynnwys cam-drin domestig bob blwyddyn.[footnote 14] Er nad yw’r ffigurau hyn yn fanwl gywir, maent yn dangos y dylai hyn fod yn achos pryder sylweddol. Rydym yn sylweddoli bod rôl y Llys Teulu yn llawer ehangach na dim ond canolbwyntio ar achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig; mae’n system brysur â llawer o randdeiliaid sy’n gwneud miloedd o benderfyniadau bob dydd.

3.2. Wedi dweud hynny, mae’n amlwg bod ymateb y system cyfiawnder teuluol i gam-drin domestig yn rhan allweddol o’r jig-so wrth ystyried yr ymateb cenedlaethol i gam-drin domestig yn gyffredinol ac mae gwella ymateb y system cyfiawnder teuluol i gam-drin domestig yn flaenoriaeth i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. Ei gweledigaeth yw creu system cyfiawnder teuluol sydd â diwylliant o ddiogelwch ac amddiffyn rhag niwed, lle mae anghenion plant ac effaith cam-drin domestig yn ystyriaethau canolog a lle mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin yn teimlo bod pobl eraill yn gwrando arnynt ac yn eu parchu.

3.3. Mae’r methiannau a nodwyd gan y Panel Niwed yn tanseilio ffydd y cyhoedd yng ngallu’r llysoedd i asesu honiadau o gam-drin domestig yn deg ac maent yn awgrymu nad yw’r risg i blant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr sy’n gysylltiedig â chyflawnwyr cam-drin domestig bob amser yn cael ei deall yn iawn na’i hystyried pan wneir gorchmynion. O ganlyniad, gall cyswllt anniogel gael ei orchymyn, gan beri risg y caiff plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr eu niweidio gan gyflawnwyr, sy’n aml yn cael effeithiau corfforol, emosiynol a seicolegol â chanlyniadau a allai bara drwy gydol eu hoes.[footnote 15] Yn ogystal â’r peryglon amlwg i blant a theuluoedd sy’n gysylltiedig â threfniadau cyswllt anniogel, mae’r broses a’r canlyniadau anniogel yn achosi rhagor o drawma.

3.4. Cafodd rhai o’r canlyniadau dinistriol eu dangos yn un o raglenni’r gyfres Dispatches a ddarlledwyd ar Channel 4, a ddangosodd blant gofidus yn cael eu dwyn ymaith oddi wrth eu mam yn erbyn eu hewyllys yng nghanol y nos ac, mewn achos ar wahân, mam yn gorfod brwydro am flynyddoedd lawer drwy’r Llys Teulu i atal ei chyn-ŵr, a oedd yn bedoffilydd euogfarnedig, rhag cael cyswllt â’i phlant.[footnote 16]

3.5. Fodd bynnag, rydym bellach wedi cyrraedd adeg unigryw yn ymateb y Llys Teulu i gam-drin domestig, gydag ymrwymiad i newid gan y Llywodraeth, y Farnwriaeth a phob asiantaeth cyfiawnder teuluol allweddol, sydd i’w groesawu. Yn ystod y tair blynedd diwethaf ers Adroddiad y Panel Niwed, rydym wedi gweld diwygiadau pwysig, y bydd yr adroddiad hwn yn eu trafod. Mae’r diwygiadau hyn yn gam cyntaf sydd i’w groesawu: mae’r Llywodraeth, y Farnwriaeth ac asiantaethau cyfiawnder teuluol eraill megis Cafcass a Cafcass Cymru i’w canmol am eu hymrwymiad parhaus i weithredu ar yr argymhellion hyn ac argymhellion eraill gan y Panel Niwed.

3.6. Cafwyd oedi wrth gyflawni diwygiadau, er bod hyn i’w briodoli’n rhannol i bandemig COVID-19 a’r galwadau cynyddol ar y Llys Teulu, ac mae’n amlwg bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau newid. Mae’r Comisiynydd yn cefnogi adroddiad y Panel Niwed yn gryf ac wedi pwysleisio dro ar ôl tro bod yn rhaid i’w argymhellion gael eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn lleihau risgiau anniogel i oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr mewn ffordd gynaliadwy er mwyn sicrhau y parheir i roi diwygiadau ar waith.

Nod yr Adroddiad

3.7. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llais i bryderon a fynegwyd yn uniongyrchol i’r Comisiynydd. Fodd bynnag, nid dyma ei sail dystiolaeth sy’n datblygu yn ei chyfanrwydd. Mynediad i’r Llys Teulu drwy System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu fydd yr asesiad swyddogol cyntaf o’r Llys Teulu a disgwylir iddo ddechrau yn ystod Hydref 2023. Bydd System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu yn rhoi mynediad i safleoedd tri Llys Teulu i Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig er mwyn deall sut yr ymdrinnir â cham-drin domestig mewn achosion. Bydd y system ffurfiol ar gyfer ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Llys Teulu, a’r holl gyfranogwyr ynddi, yn ddull arloesol o ymdrin â’r system cyfiawnder teuluol ac fe’i hamlinellir yn fanwl ar dudalennau 44-47 o’r adroddiad hwn. Bydd System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu yn brosiect enfawr ac mae’r Comisiynydd yn ymwybodol y bydd llawer o bethau nad ymdrinnir â nhw, gan gynnwys agweddau ar y Llys Teulu na roddwyd sylw iddynt hyd yma. Bydd yr hyn y disgwylir iddo gael ei ddysgu o System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu yn llywio holl waith y Comisiynydd yn y dyfodol ac mae’n gyfle i ddarparu sail dystiolaeth gliriach er mwyn nodi’r cynnydd a wnaed yn ogystal â’r gwelliannau sydd eu hangen.

3.8. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r prif broblemau y mae dioddefwyr a goroeswyr yn eu hwynebu pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r Llys Teulu ac yn disgrifio sut mae’r methiannau hyn yn galluogi’r Llys Teulu i ddod yn ddull o reoli drwy orfodaeth a cham-drin ar ôl gwahanu ar gyfer cyflawnwr. Un o’r prif broblemau yw diffyg tryloywder o ran achosion llys, sy’n golygu ei bod yn anodd deall yn llawn nifer yr anghysondebau a methiannau a nodwyd mewn ymarfer ac o ran dilyn canllawiau yn y Llys Teulu. Bydd yr adroddiad hefyd yn trafod y diffyg dealltwriaeth o gam-drin domestig yn y Llys Teulu, sy’n arwain at fychanu cam-drin domestig ac, yn sgil hynny, aildrawmateiddio llawer o oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr. Yn bwysig, mae’r adroddiad yn cyfeirio at y ffaith nad yw llais y plentyn na’r niwed a achosir i blant drwy orchmynion cyswllt anniogel mewn achosion plant cyfraith breifat yn cael eu hystyried, yn enwedig pan wneir honiadau o ‘ddieithrio plentyn oddi wrth riant’, fel y’i gelwir.

3.9. Er mwyn mynd i’r afael â’r holl broblemau a nodwyd, mae angen ymrwymiad i ymgorffori a chynnal newid diwylliannol ar raddfa eang yn y Llys Teulu, fel yr argymhellir yn adroddiad y Panel Niwed.

3.10. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio nodi’r fath newid a bydd yn cynnig nifer o argymhellion ymarferol, megis: creu rôl newydd, sef Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig, a datblygu cymorth yn y llys a ddarperir gan Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, y caniateir iddynt bellach gael mynediad i’r Llys Teulu, neu weithiwr cymorth cam-drin domestig arbenigol arall ar gyfer oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr.

3.11. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn adeiladu ar adroddiad blaenorol y Comisiynydd, sef Improving the Family Court Response to Domestic Abuse a bydd yn nodi’n fanwl y cynllun peilot arfaethedig ar gyfer y System Adrodd ac Adolygu. Argymhellodd adroddiad Panel Niwed y Weinyddiaeth Gyfiawnder y dylid sefydlu System Adrodd ac Adolygu ar gyfer y Llys Teulu yn Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr er mwyn cadw golwg ar berfformiad y Llys Teulu o ran diogelu oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr rhag cam-drin domestig a risgiau eraill o niwed mewn achosion plant cyfraith breifat ac adrodd ar y perfformiad hwnnw’n rheolaidd. Gwnaed gwaith ar adroddiad blaenorol y Comisiynydd a’i argymhellion ar gyfer dyluniad y system mewn cydweithrediad â’r cyn-Gomisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird, a chytunwyd arni ac ystyriwyd ei bod yn bartneriaeth rhwng y ddwy Swyddfa. Bydd y system yn monitro cydymffurfiaeth â rheolau a chanllawiau presennol a newydd ac yn ceisio asesu amrywiadau rhanbarthol mewn perfformiad er mwyn sicrhau mwy o gysondeb.[footnote 17] Ymddiswyddodd y Fonesig Vera Baird o’i rôl fel y Comisiynydd Dioddefwyr ym mis Medi 2022 ac, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, nid yw Comisiynydd Dioddefwyr wedi’i benodi eto. Felly, y safbwyntiau a’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad polisi hwn yw rhai’r Comisiynydd Cam- drin Domestig a neb arall.

3.12. Mae’n galonogol i’r Comisiynydd weld dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn o ymdrin ag achosion plant cyfraith breifat yn y Llys Teulu yn cael ei hyrwyddo gan wahanol randdeiliaid a sefydliadau. Mae’r adroddiad hwn, yn bwysig ddigon, yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn cyflwyno fframwaith sy’n canolbwyntio ar y plentyn er mwyn archwilio honiadau o gam-drin domestig yn y Llys Teulu. Mae’r fframwaith hwn yn defnyddio’r darpariaethau cyfreithiol sefydledig presennol ac yn ceisio sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed mewn modd ystyrlon ac y rhoddir blaenoriaeth i’w ddiogelwch drwy gydol yr achos. Nodir yr argymhellion ochr yn ochr â chodi uchelgeisiau ar gyfer diwygiadau y mae angen eu gwneud ar fyrder. Mae’r ddau Lys Braenaru wedi dangos pa mor effeithiol yw Llysoedd sy’n ystyriol o gamdriniaeth o ran adnabod achosion o gam-drin ac ymdrin â nhw’n effeithlon. Mae’r cynlluniau peilot hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr am y ffordd y gall y system gyfreithiol fynd i’r afael â cham-drin domestig mewn ffordd briodol a diogelu oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr. Gall y Llysoedd Braenaru chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cyflawni ar gyfer oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr. Mae’r wybodaeth o’r cynlluniau peilot hyn yn amhrisiadwy a rhaid ei hymgorffori mewn gwaith diwygio yn y dyfodol.

3.13. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod y gwaith o werthuso’r cynlluniau peilot hyn yn dal i fynd rhagddo ond mae’r adborth presennol gan bob partner yn gadarnhaol ac yn dangos y gall manteision sylweddol ddeillio o baratoi i ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd mewn modd amser-effeithlon. Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylid rhoi blaenoriaeth i ddysgu a pharhau i ddatblygu adnoddau ar gyfer y cynlluniau peilot hyn yn ogystal ag ymgorffori’r hyn a ddysgwyd o ddiwygiadau mewn gwledydd eraill a phocedi o arferion da yn y DU. Mae’r Comisiynwyr yn sylweddoli y bydd y canfyddiadau cynnar hyn a’r hyn a ddysgwyd o ran arferion gorau yn destun gwerthusiad llawn ac rydym yn awyddus i ystyried y themâu hyn ymhellach fel rhan o System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu.

Methodoleg a Data

3.14. Cynhaliodd y Comisiynydd Cam-drin Domestig nifer o weithgareddau ymchwil gynradd er mwyn datblygu’r adroddiad hwn. Gellir rhannu hyn yn dair agwedd allweddol, sef:

a. Adolygiad o ohebiaeth a gafodd y Comisiynydd gan ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, yn ogystal â’u ffrindiau, aelodau o’u teulu a phartneriaid newydd. Er bod hyn wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol am brofiad ddioddefwyr a goroeswyr o gyfiawnder gweithdrefnol, rydym yn cydnabod cyfyngiadau’r sampl, am ei fod yn grŵp hunanddewisol â gogwydd posibl tuag at unigolion sydd wedi cael profiadau anodd neu sy’n anfodlon ar ganlyniadau eu hachosion. Nid yw’n sampl gynrychioliadol o’r rhai sydd wedi profi proses y Llys Teulu ac ni ddylid cyffredinoli unrhyw ystadegau disgrifiadol a geir o’r data. Felly, ni chyfeiriwyd at unrhyw ganfyddiadau fel tystiolaeth yn yr adroddiad ar y Llys Teulu.

Ceir methodoleg lawn yr adolygiad hwn a’r dadansoddiad llawn ohono yn yr Adroddiad Cysylltiedig ar Fethodoleg ar wefan y Comisiynydd: https://domesticabusecommissioner.uk/

b. Cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag arbenigwyr o’r sector cyfreithiol, y byd academaidd, y sector plant, Cafcass, Cafcass Cymru, sefydliadau gwasanaeth sy’n cefnogi oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr cam-drin domestig (gyda chyfarfod bord gron ar wahân i sefydliadau sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr gwrywaidd yn benodol), ymgyrchwyr ac aelodau o Fwrdd Cyfiawnder Teuluol a Phobl Ifanc yn ystod Haf 2021. Ceir y fethodoleg ar gyfer y cyfarfodydd bord gron hyn yn adroddiad y Comisiynydd: Improving the Family Court’s Response to Domestic Abuse 2021.[footnote 18]

c. Arolwg o gyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol siartredig, a bargyfreithwyr i feithrin dealltwriaeth o farn ymarferwyr am achosion plant cyfraith breifat yn y Llys Teulu a’u profiadau o achosion o’r fath, a gasglodd ddata rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2023. Cwblhaodd cyfanswm o 138 o ymarferwyr cyfraith teulu yr arolwg. Ceir y sail resymegol dros yr arolwg hwn yn ogystal ag adroddiad llawn am y fethodoleg a’r gwaith dadansoddi, gan gynnwys maint y sampl a’r amserlen, yn yr Adroddiad Cysylltiedig ar Fethodoleg ar wefan y Comisiynydd: https://domesticabusecommissioner.uk/

Cafodd yr adroddiad hwn ei lywio gan y canlynol hefyd:

d. Adolygiad tystiolaeth cyflym o adroddiadau a gwaith ymchwil sy’n bodoli eisoes sy’n ymwneud â’r ffordd yr ymdrinnir â cham-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat.

e. Mae’r Comisiynydd hefyd yn defnyddio canfyddiadau dau arolwg a gynhaliwyd gan raglen Disbatches Channel 4 yn 2021.[footnote 19]Rydym yn cydnabod cyfyngiadau’r arolygon hyn oherwydd natur hunanddewisol y sampl. Fel y nodwyd uchod, ceir yr Adroddiad Cysylltiedig ar Fethodoleg, sy’n rhoi rhagor o fanylion am y dull gweithredu, ar wefan y Comisiynydd: https://domesticabusecommissioner.uk/

Paramedrau’r adroddiad hwn

3.15. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan Swyddfa’r Comisiynydd dair blynedd ar ôl i adroddiad y Panel Niwed gael ei gyhoeddi, tua deufis ar ôl i ddiweddariad Panel Niwed y Weinyddiaeth Gyfiawnder gael ei gyhoeddi a chyn Cynllun Peilot y Comisiynydd i dreialu’r System Adrodd ac Adolygu, a fydd yn bwydo i mewn i amcanion Llywydd yr Is-adran Deulu i wella tryloywder y Llys Teulu (‘y Prosiect Tryloywder’[footnote 20]).

3.16. Felly, mae amseriad yr adroddiad hwn yn benodol: mae mynediad ar fin gael ei roi i’r Llys Teulu ac mae cryn gefnogaeth gan yr uwch-farnwriaeth o blaid hwyluso a galluogi hyn. Mae hyfforddiant ar gam-drin domestig wedi’i bwysleisio a’i ysgogi gan Lywydd yr Is-adran Deulu, Syr Andrew McFarlane, ac mae’r sector cam-drin domestig yn dal i fod yn gadarn o blaid mabwysiadu dull o ymdrin ag achosion teulu sy’n ystyriol o gamdriniaeth.

3.17. O ystyried nad oedd modd cael mynediad i’r Llys Teulu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn, mae’r Comisiynydd wedi defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddi er mwyn taflu goleuni ar leisiau sydd wedi dod i’r amlwg o’r Llys Teulu. Daw’r lleisiau hyn o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sydd wedi ysgrifennu ati gan amlinellu eu pryderon. Er na ellir dweud bod y safbwyntiau hyn yn cynrychioli pawb sy’n cymryd rhan mewn achosion mewn Llysoedd Teulu, mae’r pryderon dilys a godwyd yn yr ohebiaeth a gafwyd gan y Comisiynydd yn helpu i feithrin dealltwriaeth o rai profiadau.

3.18. Er bod hyn wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol am brofiad ddioddefwyr a goroeswyr o gyfiawnder gweithdrefnol, mae’n bwysig cydnabod bod y sampl yn un hunanddewisol â gogwydd posibl tuag at unigolion sydd wedi cael profiad anodd neu sy’n anfodlon ar ganlyniadau eu hachosion. Rydym hefyd yn cydnabod bod y sampl yn cynnwys gohebiaeth o ddau fis cyn cyhoeddiad y Panel Newid.

3.19. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y Llys Teulu, datblygodd y Comisiynydd arolwg o ymarferwyr Llysoedd Teulu (gweler paragraff 3 o’r adran ‘methodoleg’ uchod).

3.20. Mae’r Comisiynydd yn deall bod safbwyntiau gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn yr arolwg hwn yn oddrychol a’u bod yn dibynnu ar eu barn a’u profiadau eu hunain o achosion cyfraith teulu breifat sy’n cynnwys plant. Felly, rydym yn cydnabod bod y canfyddiadau hyn yn gyfyngedig ac mai dim ond er mwyn helpu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig i ddeall y Llys Teulu y maent wedi’u defnyddio.

3.21. At hynny, o fewn paramedrau ei phenodiad, mae’r Comisiynydd:

a. yn rhyngweithio â dioddefwyr a goroeswyr mewn digwyddiadau ac ymweliadau;

b. wedi cyhoeddi adroddiad mapio, Clytwaith o ddarpariaeth sy’n nodi bod 69 y cant o ymatebwyr am weld cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer achosion Llysoedd Teulu yn y tair blynedd diwethaf (roedd yr adroddiad yn seiliedig ar safbwyntiau mwy na 4,000 o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig);

c. yn cael adborth gan wasanaethau rheng flaen sy’n rhyngweithio â miloedd o oroeswyr cam-drin domestig o ddydd i ddydd ac yn ymgysylltu â’r gwasanaethau hynny;

d. wedi sefydlu tîm Ymarfer a Phartneriaethau yn ei Swyddfa, sy’n cynnwys Arweinwyr Daearyddol, sy’n cynrychioli pob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr ac sy’n rhoi gwybodaeth iddi am eu hardaloedd.

Hawliau Dynol

3.22. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod y Llys Teulu yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau hawliau dynol ac ystyrir y rhain fel rhan o’r dull gweithredu ehangach a fabwysiedir gan ei Swyddfa.

Beth yw’r system cyfiawnder teuluol a beth yw achosion plant cyfraith breifat?

Llys Teulu:

Sefydlwyd y Llys Teulu fel un endid o dan Ran 2 o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (cyn hynny roedd materion teuluol yn cael eu gwrando yn y Llys Ynadon, y Llys Sirol neu Adran Siawnsri’r Uchel Lys, ond nid oedd y Llys Teulu yn bodoli fel un endid). Mae Barnwriaeth y Llys Teulu yn cynnwys ynadon lleyg, Barnwyr Rhanbarth (y Llys Ynadon), Barnwyr Rhanbarth, Barnwyr Cylchdaith a Barnwyr yr Uchel Lys. Bydd i ble y caiff achos ei bennu yn dibynnu ar ei gymhlethdod. Mae’r Llys Teulu yn seiliedig ar 43 o ganolfannau lleol (pob un yn cael ei llywyddu gan ‘Farnwr Teulu Dynodedig’) ac yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Arweinyddiaeth y Llys Teulu:

Llywydd yr Is-adran Deulu (sef swydd a ddelir gan Syr Andrew McFarlane ar hyn o bryd) sy’n goruchwylio’r Llys Teulu.

Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol yn fwrdd trawslywodraethol dan arweiniad Gweinidogion sy’n cynnwys arweinwyr cyfiawnder teuluol, a sefydlwyd er mwyn gwella perfformiad y systemau cyfiawnder teuluol.

Mae Byrddau Cyfiawnder Teuluol Lleol yn bodoli’n lleol er mwyn cefnogi gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol drwy ddwyn yr asiantaethau lleol allweddol ynghyd, gan gynnwys y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a staff rheng flaen, er mwyn ysgogi gwelliannau sylweddol ym mherfformiad y system cyfiawnder teuluol yn eu hardaloedd lleol.

Fel sy’n wir am bob barnwr, yn unol ag egwyddor bwysig annibyniaeth farnwrol, mae barnwyr ac ynadon Llysoedd Teulu yn annibynnol ar y llywodraeth. Ni all y llywodraeth na’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ymyrryd mewn achosion unigol.

Asiantaethau eraill sy’n ffurfio’r system cyfiawnder teuluol

Cafcass a Cafcass Cymru (Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd): mae Cafcass yn cynrychioli plant yn y Llys Teulu ac, yn annibynnol, yn rhoi cyngor i’r Llys Teulu ac yn llunio adroddiadau ar ei gyfer ar yr hyn sydd er lles pennaf plant, yn ei farn ef.

Awdurdodau lleol/gwasanaethau cymdeithasol: Os bydd awdurdod lleol eisoes yn ymwneud â theulu, efallai y gofynnir iddo adrodd i’r llys yn lle Cafcass. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys faint o amser sydd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf y bu’r gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â’r teulu.

Achosion plant cyfraith breifat

Os na all rhieni sy’n gwahanu gytuno ar drefniadau cyswllt na threfniadau eraill ar gyfer eu plant, megis ble y dylai plant fyw, gallant wneud cais i’r Llys Teulu o dan Ddeddf Plant 1989. Yna, gofynnir i’r llys benderfynu ar yr agweddau ar drefniadau plant na all rhieni gytuno arnynt. Gelwir y rhain yn achosion plant cyfraith breifat neu’n achosion trefniadau plant. Yn sgil dileu cymorth cyfreithiol ar gyfer llawer o achosion cyfraith breifat yn 2013, mae cyfran y ceiswyr a’r atebyddion sy’n cael cynrychiolaeth gyfreithiol yn fach gyda llawer o rieni yn gorfod delio â’r system gyfreithiol gymhleth eu hunain.[footnote 21]

Cyfryngu

Yn achos ceisiadau cychwynnol i’r Llys Teulu o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 ar gyfer gorchymyn cyfraith teulu breifat mae’n ofynnol cyfiawnhau pam nad yw cyfryngu yn addas. Nid yw hyn yn ofynnol ar hyn o bryd mewn achosion lle mae tystiolaeth o gam-drin domestig wedi’i darparu, lle mae pryderon ynghylch amddiffyn plant a lle mae angen gweithredu ar fyrder (gan gynnwys risgiau honedig i’r plentyn neu ddwyn plentyn ymaith o’r awdurdodaeth yn anghyfreithlon ymhlith eraill).[footnote 22]

Achosion plant cyfraith gyhoeddus

Os bydd yr awdurdod lleol o’r farn bod y plentyn yn wynebu risg o niwed sylweddol, gall wneud cais i’r Llys Teulu am Orchymyn Gofal neu Orchymyn Goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â’r plentyn. Mae cymorth cyfreithiol ar gael i rieni y mae eu plant yn rhan o’r achosion hyn. Er bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag achosion plant cyfraith breifat, mae’n werth nodi bod llawer o achosion plant cyfraith gyhoeddus hefyd yn cynnwys cam- drin domestig.[footnote 23]

Gorchmynion Rhwymedi Trais Domestig

O dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, gall dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig wneud cais i’r Llys Teulu am waharddeb i’w hamddiffyn nhw ac unrhyw blant rhag unigolyn sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig. Mae gorchymyn peidio ag ymyrrydd yn amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr ac unrhyw blant perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddu. Mae gorchymyn meddiannaeth yn nodi pwy ddylai fyw yn y cartref teuluol a gall wahardd cyflawnwr rhag dod i mewn i’r ardal oddi amgylch.

Yn 2022, gwnaed 32,049 o geisiadau ar gyfer rhwymedïau trais domestig, sef cynnydd o 4 y cant o gymharu â 2021 yn gofyn am gyfanswm o 36,858 o orchmynion. Gwnaed 38,475 o orchmynion, sy’n debyg i’r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Roedd gorchymyn peidio ag ymyrryd yn cyfrif am 84 o’r gorchmynion y gwnaed cais amdanynt a 95 y cant o’r gorchmynion a wnaed, tra roedd gorchmynion meddiannaeth yn cyfrif am 16 y cant a 5 y cant o’r cyfansymiau yn y drefn honno.[footnote 24]

Mae Hysbysiadau Amddiffyn rhag Trais Domestig a Gorchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig a gyflwynwyd o 2014 ymlaen gan Ddeddf Troseddu a Diogelwch 2010, yn fesurau sy’n rhoi diogelwch brys byrdymor i ddioddefwyr a goroeswyr cam- drin domestig.

Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 y penderfyniad i greu Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig, sy’n ceisio dileu’r fframweithiau gorchmynion amddiffyn presennol ac, yn eu lle, gyflwyno un gorchymyn a all osod amrywiaeth o gyfyngiadau a gofynion ar yr unigolyn y mae’n cael ei wneud yn ei erbyn. Gall hyn amrywio o orfodi unigolyn i gymryd rhan mewn rhaglen ar gyfer cyflawnwyr i amlinellu ardaloedd gwaharddedig neu gyfyngiadau ar feddiannaeth. Bydd y Llywodraeth yn dechrau ar gam peilot y broses o gyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn ystod Gwanwyn 2024.[footnote 25]

4. Pennod 1: Hanes, tryloywder a chysondeb o ran y ffordd yr ymdrinnir â cham-drin domestig yn y Llys Teulu

Mae’r cyfrinachedd sy’n gysylltiedig â’r Llys Teulu yn achosi llawer o drawma. Mae menywod yn ymuno â’r broses gan feddwl y byddant yn cael cyfiawnder ac y cydnabyddir y gamdriniaeth y maent wedi’i dioddef ond ni all y Llys Teulu gynnig hynny.

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021)

Yr hyn sy’n peri syndod i mi yw mai’r llys sy’n rhoi gorchymyn peidio ag ymyrryd ac yn dweud nad yw’n ddiogel i’r unigolyn hwn fod yn agos atoch yw’r un llys sy’n dweud ei bod yn ddiogel i’r unigolyn hwn fod yng nghwmni eich plant. […] Dywedir wrthych am adael perthynas gamdriniol ond pan fyddwch yn gwneud hynny, rydych yn bendant yn cael eich cosbi amdano yn system y Llys Teulu.

Gohebiaeth oddi wrth ddioddef/goroeswr cam-drin domestig at y Comisiynydd Cam-drin Domestig

4.1. Mae llawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn ymuno â’r system cyfiawnder teuluol gan obeithio a disgwyl y cânt wrandawiad teg ac y rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch eu plant. Nododd yr adolygiad o lenyddiaeth a gynhaliwyd ar gyfer adroddiad y Panel Niwed fod y mwyafrif o ddioddefwyr a goroeswyr sy’n ymuno â phroses y Llys Teulu am gael canlyniad lle y gallai plant gael cyswllt â’r rhiant arall mewn ffordd sy’n ddiogel iddyn nhw a’u plant.[footnote 21] Fodd bynnag, nid felly y mae yn achos llawer iawn o ddioddefwyr a goroeswyr ac maent yn wynebu achosion hir sy’n eu haildrawmateiddio, lle y caiff cam- drin domestig ei fychanu ac na roddir blaenoriaeth i ddiogelwch eu plant.[footnote 22] Yn hytrach, caiff gofynion y cyflawnwr eu hyrwyddo, gan ganolbwyntio ar hawliau rhieni, a hynny, fe ymddengys, ar draul hawliau oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr.[footnote 23]

4.2. Ers dros ddau ddegawd bellach, cydnabyddir y dylai risgiau i’r plentyn a’r effaith arno fod yn ystyriaeth ganolog mewn achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig yn y Llys Teulu. Yn 2000, yn achos Re L, V, M and H,[footnote 24], am y tro cyntaf cydnabu Llys y Teulu yng Nghymru a Lloegr (wrth ystyried achosion trefniadau plant) fod angen bod yn fwy ymwybodol o fodolaeth cam-drin domestig a’i effaith ar blant oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr (fel y cyfeiriodd y llys ato ar y pryd). Cyhoeddwyd canllawiau y dylai gwrandawiadau llys mewn achosion o’r fath, lle roedd honiadau o gam-drin domestig wedi’u gwneud, ystyried cynnal gwrandawiadau canfod ffeithiau cyn gynted â phosibl. Cyhoeddwyd canllawiau tebyg ar yr un pryd gan Is-bwyllgor y Ddeddf Plant Bwrdd Cynghori’r Arglwydd Ganghellor ar Gyfraith Teulu yn dilyn proses ymgynghori.[footnote 25]

4.3. Fodd bynnag, yn 2004, cyhoeddodd Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr (WAFE) yr adroddiad ‘Twenty-Nine Child Homicides’, a oedd yn adrodd hanesion 29 o blant a oedd wedi cael eu lladd gan gyflawnwyr cam-drin domestig o dan amgylchiadau a oedd yn ymwneud â chyswllt â phlant rhwng 1994 a 2004.[footnote 26] Arweiniodd hyn at adolygiad gan y Cyngor Cyfiawnder Teuluol a nododd nad oedd canllawiau Re L yn cael eu dilyn.[footnote 27] O ganlyniad, cyflwynwyd Cyfarwyddyd Ymarfer newydd, sef Cyfarwyddyd Ymarfer 12J, yn 2008, er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn yn y Llys Teulu wrth wrando achosion trefniadau plant sy’n cynnwys honiadau o gam-drin domestig. Ers iddo gael ei gyflwyno, mae Cyfarwyddyd Ymarfer 12J wedi’i ddiweddaru ddwywaith (yn 2014 a 2017) er mwyn adlewyrchu’r ddealltwriaeth a oedd yn datblygu o effaith cam-drin domestig ar blant a rhieni.

4.4. Serch hynny, yn 2016, cyhoeddodd Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr adroddiad arall, ‘Nineteen Child Homicides’, a oedd yn adrodd hanesion 19 o blant a gafodd eu lladd gan gyflawnwyr cam-drin domestig rhwng 2005 a 2015, o dan amgylchiadau a oedd yn ymwneud â threfniadau plant (wedi’u trefnu’n ffurfiol neu’n anffurfiol).[footnote 28]

Beth yw’r rheolau y dylai’r Llys Teulu fod yn eu dilyn mewn achosion sy’n cynnwys honiadau o gam-drin domestig?

Canllawiau y mae’n rhaid i lysoedd sifil eu dilyn wrth wrando achosion yw Cyfarwyddiadau Ymarfer. Ceir sawl Cyfarwyddyd Ymarfer sy’n ymwneud yn benodol â’r Llys Teulu a cham-drin domestig.

Cyfarwyddyd Ymarfer 12J – Mae’n gymwys i achosion trefniadau plant lle mae cam-drin domestig yn rhan o achos neu lle yr honnir ei fod yn rhan o achos. Mae’n rhoi manylion am sut y dylai cam-drin domestig gael ei ddeall, pa wrandawiadau y dylid eu cynnal a sut y dylid eu rheoli, a ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn trefniadau plentyn pan fydd cam-drin domestig wedi digwydd.

Mae Cyfarwyddiadau Ymarfer perthnasol eraill yn cynnwys:

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 3AA ar fesurau arbennig (h.y. y mesurau y gellir eu darparu yn y llys er mwyn lleihau natur drawmateiddio achosion a galluogi dioddefwyr a goroeswyr i roi eu tystiolaeth orau, megis defnyddio sgriniau, darparu mynedfeydd, allanfeydd ac ystafelloedd aros ar wahân a’r opsiwn i gymryd rhan mewn gwrandawiadau drwy gyswllt fideo.

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 25B ar ddefnyddio arbenigwyr.

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 3AB sy’n ymdrin â gwahardd croesholi’n bersonol gan gyflawnwyr neu gyflawnwyr honedig cam-drin domestig.

4.5. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 12J yn ganllaw cymharol gynhwysfawr. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn a natur orfodol llawer o’i ddarpariaethau, roedd y Llys Teulu yn dal yn lle anniogel i oedolion a phlant a oedd yn ddioddefwyr ac yn oroeswyr, gan danseilio’r Rheolau Trefniadaeth Teulu sy’n gymwys pan fo’r deiliaid cyfreithiol mwyaf agored i niwed yn gysylltiedig ag achos.[footnote 29] Nododd Adroddiad y Panel Niwed ym mis Mehefin 2020, oherwydd diffygion sylfaenol a systemig, nad oedd y Llys Teulu yn rhoi digon o sylw i honiadau o gam-drin domestig a risgiau cysylltiedig i oedolion a phlant a oedd yn ddioddefwyr ac yn oroeswyr wrth wneud trefniadau cyswllt ar gyfer plentyn,[footnote 30] a oedd yn golygu nad oedd y llysoedd yn asesu’r risgiau i blant nac yn eu hamddiffyn rhag niwed yn ddigonol.[footnote 31] I grynhoi, roedd y rhain yn cynnwys:

  • Diwylliant o beidio â chredu dioddefwyr a goroeswyr a oedd yn codi materion yn ymwneud â cham-drin domestig, gyda’r llysoedd yn dangos diffyg dealltwriaeth o gam-drin domestig a/neu’n bychanu cam-drin domestig. Lleisiodd dioddefwyr a goroeswyr a’u cynghorwyr bryderon fod codi cam-drin domestig fel mater yn aml yn peri risg y byddai naratifau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn cael eu defnyddio’n ddialgar gan bartïon yr oedd honiadau o gam-drin domestig wedi’u gwneud yn eu herbyn fel gwrth-hawliad, gan arwain at ganlyniadau gwaeth i oedolion a phlant a oedd yn ddioddefwyr ac yn oroeswyr.

  • Egwyddor o blaid cyswllt wedi’i hymgorffori yn y gyfraith, y mae’n ddyletswydd ar farnwyr i’w dilyn. Roedd tystiolaeth yn awgrymu mai anaml roedd y rhagdybiaeth o blaid cyswllt yn cael ei datgymhwyso ac nad oedd digon o sylw yn cael ei roi i honiadau o gam-drin domestig na’r effaith ar blant a oedd yn gorfod cael cyswllt â rhiant camdriniol, weithiau yn erbyn eu hewyllys. Atgyfnerthir yr egwyddor o blaid cyswllt gan ragdybiaeth statudol o blaid ymwneud rhiant a gynhwyswyd yn Neddf Plant 1989 yn 2014.

  • Natur aildrawmateiddio y Llysoedd Teulu oherwydd diwylliant o beidio â chredu, natur wrthwynebus achosion a’r ffaith nad oedd mesurau arbennig na chymorth arbenigol drwy’r llys megis Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig mewn Llysoedd Teulu ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, yn ogystal â’r ffaith eu bod yn gorfod wynebu ceisiadau mynych i’r llys gan eu cyn-bartner a oedd yn cael eu gwneud fel ffordd o barhau i’w cam-drin.

  • Defnydd amhriodol o gyfryngu neu fath arall o ddatrysiad y tu allan i’r llys, nad oedd yn briodol ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig

  • Gweithio mewn seilo, heb fawr ddim cyfathrebu cydgysylltiedig na chyson rhwng y system cyfiawnder troseddol, y system diogelu plant (achosion plant cyfraith breifat) a’r system teuluoedd cyfraith breifat.

  • Diffyg adnoddau ar gyfer y system cyfiawnder teuluol a’r ffaith nad oedd cymorth cyfreithiol ar gael

  • Rhwystrau ychwanegol i gyfiawnder yn y Llysoedd Teulu ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a oedd yn oedolion ac yn blant wedi’u hymyleiddio ac wedi’u lleiafrifoli.

4.6. At hynny, nododd Adroddiad y Panel Niwed nad oedd Cyfarwyddwyd Ymarfer 12J yn cael ei ddilyn yn gyson yn ymarferol. Nododd yr adroddiad nad oedd llawer o farnwyr na gweithwyr eraill yn y system cyfiawnder teuluol yn deall cam-drin domestig yn llawn, yn enwedig rheolaeth drwy orfodaeth (sydd, o gymharu â cham-drin corfforol, yn aml yn ymddangos fel patrwm o ddigwyddiadau difrifoldeb isel/niwed uchel yn hytrach na digwyddiadau unigol niwed uchel acíwt), na’r effaith y mae’n ei chael ar blant. O ganlyniad, roedd plant ac oedolion a oedd yn ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn cael eu siomi dro ar ôl tro.[footnote 32]

4.7. Derbyniodd y Llywodraeth ganfyddiadau’r adroddiad, gyda’r Gweinidog ar y pryd a’r Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder presennol (a benodwyd ar 21 Ebrill 2023), Alex Chalk, yn cydnabod “[that the] report lays bare many hard truths about long-standing failings in the family justice system, especially in protecting the victims and survivors of abuse and their children from harm.”[footnote 33]

4.8. Mae’r methiant i roi darpariaethau Cyfarwyddyd Ymarfer 12J ar waith yn amharu ar wrandawiadau llysoedd teulu drwy danseilio gallu dioddefwyr a goroeswyr i roi tystiolaeth. At hynny, mae Cyfarwyddyd Ymarfer 12J yn ceisio lleihau’r trawma a ddioddefir gan ddioddefwyr a goroeswyr wrth sôn am gamdriniaeth yn y llys, y derbynnir yn eang ei fod yn heriol ac yn peri gofid i ddioddefwyr a goroeswyr os na chânt gymorth priodol; mae hyn yn aml yn cael ei waethygu gan leoliad bygythiol, anghyfarwydd a llethol y Llys Teulu. Er bod mesurau diogelwch a mesurau arbennig yn cael eu defnyddio’n fwy cyson mewn llysoedd troseddol, nid oes gan y Llys Teulu y seilwaith na’r arferion cyson er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn teimlo’n ddiogel pan fyddant yn adeiladau llysoedd gyda chyflawnwyr.[footnote 34]

4.9. At hynny, ym mis Mawrth 2021, dyfarnodd y Llys Apêl yn Re H-N and others, er bod Cyfarwyddyd Ymarfer 12J yn addas at y diben, fod “the challenge relates to [its] proper implementation”.[footnote 35] Hefyd, cyhoeddodd y llys ganllawiau ar ba mor bwysig ydyw bod barnwyr yn deall yn iawn natur rheolaeth drwy orfodaeth fel patrwm o ymddygiad, gan nodi y dylid ystyried hyn wrth asesu’r risg o niwed i blant yn y dyfodol.[footnote 36] Pwysleisiodd y llys bwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd eang pan wneir honiadau o’r fath, yn hytrach nag edrych ar un set o ffeithiau fel y’u nodir yn Rhestrau Scott yn unig, gyda’r llys yn dyfarnu bod edrych ar yr honiadau a nodir yn Rhestrau Scott yn unig yn gweithredu fel “a potential barrier to fairness and good process, rather than an aid”.[footnote 37] Croesawodd ymarferwyr a chynghorwyr ar gam-drin domestig y feirniadaeth o Restrau Scott, yr ystyriwyd eu bod yn or-gyfyngol ac, felly, yn anaddas, yn eu hanfod, ar gyfer nodi patrymau cyffredinol o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol ac ymdrin â nhw.

4.10. O ystyried yr anghysondebau o ran y ffordd y defnyddir Cyfarwyddyd Ymarfer 12J ac arferion gwael parhaus, megis edrych ar honiadau a nodir yn Rhestrau Scott yn unig, nid yw’n syndod mai problemau yn y Llys Teulu yw rhai o’r materion mwyaf cyffredin a godwyd gan y dioddefwyr a’r goroeswyr a gysylltodd â’r Comisiynydd. Wedi dweud hynny, sampl hunanddewisol yw hon ac, felly, nid yw’n cynrychioli pob dioddefwr a goroeswr. Mae 35 y cant (153 allan o 443) o’r ohebiaeth a gafwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr, rhwng mis Mai 2020 a mis Mai 2022, yn cyfeirio at achosion mewn llysoedd teulu. Cyfeiriodd 108 o’r 153 (71 y cant) o achosion hyn yn benodol ar achosion cyfraith teulu breifat.[footnote 38]

4.11. At hynny, nododd yr arolwg ymarferwyr a gynhaliwyd gan y Comisiynydd nad oedd y mwyafrif (bron 80 y cant) o’r ymatebwyr yn ymddiried yn effeithiolrwydd ynadon yn y Llys Teulu i ymdrin ag achosion o gam-drin domestig. Pan ofynnwyd iddynt nodi i ba raddau y gallai’r Llys Teulu ymdrin â cham-drin domestig yn effeithiol, roedd ychydig dros hanner o’r farn bod gallu’r llys i ymdrin â cham-drin domestig yn gadarnhaol iawn neu’n eithaf cadarnhaol, ond nododd ychydig o dan draen ei fod yn ‘eithaf negydddol’ neu’n ‘negyddol iawn.’

4.12. Mae’n amlwg bod llawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn ceisio ffeindio eu ffordd drwy’r Llys Teulu bob blwyddyn gan geisio diogelu ein hunain a’u plant. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw drefniadau ar waith i graffu ar achosion na’r graddau y mae llysoedd yn dilyn cyfarwyddiadau ymarfer a rheolau na monitro hynny. Dim ond yr hyn y maent yn ei weld ac yn ei glywed yn y Llys Teulu mewn tri llys yng Nghymru a Lloegr y gall newyddiadurwyr achrededig a blogwyr cyfreithiol adrodd arno, a hynny ar yr amod nad yw adroddiadau yn datgelu enwau’r partïon.[footnote 39] Mae rheolau cyfrinachedd sy’n gymwys i’r Llys Teulu yn golygu ei bod yn anodd i’r wasg adrodd ar achosion. Serch hynny, cyn y tri chynllun peilot i wella tryloywder llysoedd y cyfeiriwyd atynt uchod, roedd rhai newyddiadurwyr yn adrodd ar achosion yn y Llys Teulu er mai prin oedd y fath adroddiadau am fod y broses i wneud cais yn feichus ac yn ddrud. Fodd bynnag, yn ddiweddar ildiodd Kate Kniveton AS ei hawl i aros yn ddienw, a oedd yn gofyn am gryn dipyn o ddyfalbarhad, a chael caniatâd gan y llys i gyhoeddi’r dyfarniad yn ei hachos.[footnote 40] Rhannodd achos Ms Kniveton rai profiadau gofidus iawn a gafodd yn y Llys Teulu â’r cyhoedd, megis y ffaith ei bod wedi gorfod talu hanner costau cyfreithiol ei chamdriniwr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cael darlun llawn o’r heriau y mae miloedd o oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn eu hwynebu wrth iddynt fynd drwy’r Llys Teulu bob blwyddyn. Mae hyn i’w briodoli’n uniongyrchol i’r mynediad cyfyngedig a ganiateir i unigolion nad ydynt yn ymgyfreithwyr i’r Llys Teulu.

4.13. Argymhellodd yr Adolygiad o Dryloywder a gynhaliwyd gan Lywydd yr Is-adran Deulu, Syr Andrew McFarlane, y dylid agor llysoedd i fod yn destun mwy o graffu gan y wasg a’r cyhoedd (gan sicrhau cyfrinachedd partïon ar yr un pryd). Fel y cydnabyddir gan y Llywydd, caiff rhywfaint o’r gwelliant a geisir i dryloywder llysoedd ei sicrhau drwy wella prosesau casglu a chyhoeddi data.[footnote 41] Lansiwyd cynllun peilot blwyddyn ym mis Ionawr 2023 ar gyfer tri llys (Caerdydd, Caerliwelydd a Leeds) er mwyn caniatáu i newyddiadurwyr achrededig a blogwyr cyfreithiol fod yn bresennol yn y llys ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â chyfyngiadau ar yr hyn y gallant adrodd arno a phwy y gellir ei enwi.[footnote 42] Er y bydd y cynllun peilot hwn yn dechrau darparu gwybodaeth am brosesau’r Llys Teulu, a fydd yn werthfawr tu hwnt, ni fydd, ynddo’i hun, yn datblygu sail dystiolaeth glir er mwyn deall gweithrediadau’r Llys Teulu.

4.14. Bydd angen gwneud mwy i ddeall maint y problemau a’r math o broblemau yn fanylach. Fel y cydnabuwyd gan y Llywydd, “The lack of judgments being published and the lack of consistent data on the operation of the family justice system means that it is hard to conduct any evidence-based assessments of what we do.”[footnote 43]

4.15. Mae’n amlwg bod arferion gwael i’w cael yn y Llys Teulu a bod diffyg tryloywder yn atal pob rhanddeiliad, gwasanaeth a system rhag gallu nodi’r hyn sy’n mynd o’i le, ble mae’n mynd o’i le a’r hyn y gellir ei wneud i wella’r gweithrediadau.

Mae enghreifftiau o fethiant y Llys Teulu i roi mesurau arbennig ar waith i’w gweld yn glir yn achos GK v PR [2021] a wrandawyd yn yr Uchel Lys lle y gwnaed 29 o honiadau unigol o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin rhywiol, cam-drin geiriol ac ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.[footnote 29] Gwrthododd y barnwr yn y llys is y rhan fwyaf o’r honiadau o gam-drin domestig roedd GK wedi’u gwneud. Gwnaeth orchymyn yn adfer cyswllt rhwng PR a’r plentyn, yn ogystal â darparu ar gyfer cyswllt dros nos. Apeliodd GK. Ystyriodd y barnwr apêl fethiannau gweithdrefnol a gwnaeth nifer o ganfyddiadau pryderus am eu bod yn dangos yr heriau y mae rhai dioddefwyr a goroeswyr yn eu hwynebu yn y Llys Teulu.

Dyfarnodd y barnwr apêl fod y barnwr yn y llys is:

  • wedi methu ag ystyried a phwyso a mesur datgeliad yr heddlu a’r datgeliad meddygol a gyflwynwyd gan GK mewn perthynas â’i honiad o dreisio;

  • wedi gwneud yn ddibwys natur rhai o’r honiadau o gam-drin domestig a’u heffaith bosibl ar GK;

  • wedi methu ag ystyried y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd a rhoi ystyriaeth lawn i’r ffordd roedd y darnau unigol o dystiolaeth yn ategu’r naratif o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol;

  • wedi dibynnu’n fawr ar asesiad o bob parti fel tyst, heb ystyried yr effaith roedd rhoi tystiolaeth o ddigwyddiadau trawmatig yn debygol o fod wedi’i chael ar GK fel tyst a oedd yn agored i niwed, yng nghyd-destun lleoliad llys llawn pwysau.

Noda’r Comisiynydd fod y barnwr apêl wedi nodi’n glir na ddylid ystyried bod ei ddyfarniad yn awgrymu bod honiadau GK wedi’u profi. Fodd bynnag, dengys y canfyddiadau rai o’r problemau a all godi pan fydd y Llys Teulu yn gwrando honiadau o gam-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat.

Am ragor o fanylion am yr astudiaeth achos hon, gweler Atodiad B.

4.16. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud ers cyhoeddi Adroddiad y Panel Niwed dair blynedd yn ôl, gan gynnwys newidiadau megis:

  • Canllawiau’r Llys Apêl (yn Re. H-N ac F v M);

  • Sefydlu Bwrdd Dysgu a Gwella Cafcass[footnote 44], Cynllun Dysgu a Gwella Cam- drin Domestig Cafcass a’r rhaglen hyfforddiant gysylltiedig ar gam-drin domestig i holl ymarferwyr Cafcass; [footnote 45]

  • Creodd Cafcass Cymru secondiad dwy flynedd o Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer Rheolwr Newid y Panel Niwed er mwyn sicrhau y caiff argymhellion y panel eu hymgorffori ym mholisïau ac arferion Cafcass Cymru.[footnote 46]

  • Ymgais o’r newydd i gasglu data a sicrhau tryloywder;[footnote 47]

  • Rhagdybiaeth newydd o blaid mesurau arbennig a gwahardd croesholi’n bersonol yn y Ddeddf Cam-drin Domestig;[footnote 48]

  • Dau Lys Braenaru yn treialu dull ymchwiliol o ymdrin ag achosion plant cyfraith breifat;

  • Adolygiad gan y llywodraeth o’r rhagdybiaeth o blaid ymwneud rhieni a geir yn Neddf Plant 1989, sy’n dal i fynd rhagddo ac y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Hydref 2023;

  • Drafftio datganiad ar arfer cyffredinol newydd;[footnote 49]

  • hyfforddiant undydd gorfodol newydd ar gam-drin domestig i farnwyr.[footnote 50]

4.17. Mae’r diwygiadau hyn yn fan cychwyn i’w groesawu ac mae’r llywodraeth, y farnwriaeth ac asiantaethau cyfiawnder teuluol eraill megis Cafcass a Cafcass Cymru i’w canmol am eu hymrwymiad parhaus i weithredu ar yr argymhellion hyn ac argymhellion eraill gan y Panel Niwed. Ceir rhagor o fanylion am y cynnydd sydd wedi’i wneud ers adroddiad y Panel Niwed yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023 o dan y teitl: Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update (“Harm Panel Delivery Update”).[footnote 51]

4.18. Fodd bynnag, cafwyd oedi wrth gyflawni newidiadau, er bod hyn i’w briodoli’n rhannol i bandemig COVID-19 a galwadau cynyddol ar y Llys Teulu. Mae’n amlwg bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau newid. Mae’r Comisiynydd yn dal i glywed am arferion annerbyniol sy’n peri pryder yn y Llys Teulu, sy’n aildrawmateiddio oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr ac sy’n aml yn golygu eu bod yn wynebu risg sylweddol o niwed.

5. Pennod 2: Problemau parhaus i oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn y llys teulu

5.1. Yn ogystal â’r dystiolaeth a amlinellir yn adroddiad y Panel Niwed, mae’r adran hon yn defnyddio tystiolaeth o’r cyfarfodydd bord gron a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod Haf 2021; gohebiaeth gan ddioddefwyr a goroeswyr a gafodd y Comisiynydd rhwng mis Mai 2020 a mis Mai 2022; ac arolwg a gynhaliwyd gyda chyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol siartredig a bargyfreithwyr rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2023. Mae’r Adroddiad Cysylltiedig ar Fethodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am fethodoleg y ffynonellau hyn.

5.2. Nid yw’r amrywiaeth o faterion a drafodir yma yn hollgynhwysfawr a dylid cyfeirio at adroddiad y Panel Niwed fel yr esboniad mwyaf cynhwysfawr o’r materion mewn achosion plant cyfraith breifat. At hynny, er bod canfyddiadau llawer o adroddiadau a gwaith ymchwil academaidd yn nodi pryderon tebyg, mae’r Comisiynydd am dynnu sylw at bryderon y mae dioddefwyr a goroeswyr wedi dewis eu rhannu â hi yn uniongyrchol. Unwaith eto, rydym yn cydnabod cyfyngiadau’r dadansoddiad o ohebiaeth dioddefwyr a goroeswyr am mai sampl hunanddewisol oedd hon ac iddi ogwydd posibl tuag at unigolion sydd wedi cael profiadau anodd neu sy’n anfodlon ar ganlyniadau eu hachosion. Nid yw’n sampl gynrychioliadol o’r rhai sydd wedi profi proses y Llys Teulu.

Adran 1: Diffyg dealltwriaeth, arfer o fychanu a phrofiad sy’n aildrawmateiddio yn y Llys Teulu

Bydd dyrnod yn brifo am ddiwrnod neu ddau, ond allwch chi ddim cael gwared ar boen a thrawma cam-drin meddyliol ac emosiynol y mae’n rhaid i chi ei ail-fyw yn y llys.

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021)

Mae llawer o bobl yn credu y bydd y llys yn lle diogel ond, yn lle hynny, maent yn cael eu dal mewn sefyllfa beryglus y maent yn ei chael hi’n anodd delio â hi…. Rwy’n credu fy mod i wedi cael fy nghosbi am godi mater cam-drin domestig.

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021).

5.3. Roedd y dystiolaeth a gafodd y Panel Niwed yn dangos bod mynd drwy’r Llys Teulu yn aildrawmateiddio ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.[footnote 52] Nodwyd nad oedd mesurau arbennig,[footnote 53] er eu bod ar gael mewn egwyddor, yn aml yn cael eu defnyddio’n llwyddiannus a nododd y panel sut y gall cyflawnwyr ddefnyddio’r Llys Teulu fel dull o barhau â mathau o gamdriniaeth, er enghraifft drwy wneud ceisiadau mynych.[footnote 54] Cafodd natur aildrawmateiddio achosion ei gwaethygu gan yr oedi hir a wynebwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr wrth fynd drwy’r llys, y diffyg cynrychiolaeth gyfreithiol[footnote 55] (oherwyd trothwyon cymorth cyfreithiol sy’n eithrio pawb ar wahân i’r rhai â’r incwm isaf) a’r diffyg cymorth arbennig.[footnote 56] Adleisiwyd canfyddiadau’r Panel Niwed yn hyn o beth gan waith ymchwil a gomisiynwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ac a wnaed gan SafeLives i argaeledd cymorth cam-drin domestig arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr sy’n mynd drwy’r system cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr (gweler trafodaeth bellach ynghylch yr adroddiad hwn yn adran 7.1 isod).[footnote 57]

5.4. Adlewyrchir canfyddiadau’r Panel Niwed ac adroddiad y Comisiynydd yn gryf yn yr ohebiaeth a gafodd Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ynglŷn â materion yn ymwneud â’r Llys Teulu. Nododd yr adolygiad o ohebiaeth a gafwyd rhwng mis Mai 2020 a mis Mai 2022 fod dros hanner yr ohebiaeth oddi wrth ddioddefwyr a goroeswyr (62 allan o 108), lle y trafodwyd achosion cyfraith teulu breifat, yn nodi bod yr achosion hyn yn drawmatig iddynt. Nododd llawer o’r dioddefwyr a’r goroeswyr hyn fod y cyflawnwr wedi defnyddio’r Llys Teulu i barhau i’w cam-drin a’u rheoli drwy sicrhau bod y goroeswr yn gorfod parhau i gymryd rhan mewn proses ymgyfreitha ymosodol, ddrud a llawn straen.

5.5. Aeth sawl dioddefwr a goroeswr mor bell â dweud bod eu profiad o’r Llys Teulu yr un mor anodd a thrawmatig â’u profiad yn y berthynas a bod y ffaith nad oedd eu hachos wedi’i ddatrys yn effeithiol yn golygu eu bod yn teimlo eu bod wedi’u dal ac yn bryderus ynghylch eu dyfodol. Mae adroddiadau fel y rhain yn lledaenu drwy gymdeithas ac yn atal dioddefwyr a goroeswyr rhag gadael partneriaid sy’n eu rheoli drwy orfodaeth ac yn eu cam-drin. Ni ddylai ofn yr hyn y gallai’r cyflawnwr ei wneud yn y Llys Teulu, ar ôl iddynt wahanu, atal dioddefwyr a goroeswyr rhag gadael perthynas gamdriniol.

5.6. Roedd yr ohebiaeth a gafodd y Comisiynydd yn cynnwys o leiaf chwe enghraifft o fethiannau i gydymffurfio â mesurau arbennig, a oedd yn golygu bod dioddefwyr a goroeswyr wedi gorfod wynebu’r cyflawnwyr ar ddiwrnod y gwrandawiad a theimlo dan fygythiad ac yn bryderus am eu diogelwch. Dywedodd tua un o bob pump (21 allan o 108) nad oedd rheolau allweddol megis Cyfarwyddyd Ymarfer 3AA a Chyfarwyddyd Ymarfer 12J wedi’u dilyn yn eu hachos ac, felly, ei bod yn fwy anodd iddynt ymdopi â’r achos. Hefyd, nododd dioddefwyr a goroeswyr a ddywedodd ei bod yn anodd iddynt ymdopi â’r achos, fod natur wrthwynebus y Llys Teulu wedi’u haildrawmateiddio, yn enwedig pan fu’n rhaid iddynt sôn am eu profiadau o gam-drin domestig o flaen y cyflawnwr a chael eu croesholi mewn ffordd fygythiol a nawddoglyd a oedd wedi peri gofid mawr iddynt.

5.7. At hynny, nododd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr a ysgrifennodd at swyddfa’r Comisiynydd fod y ffordd roeddent wedi cael eu trin gan rai barnwyr a rhai o weithwyr Cafcass yn anghwrtais ac yn elyniaethus ac wedi peri gofid iddynt, gyda rhai yn nodi eu bod wedi wynebu ymddygiad ‘beio’r dioddefwr’ gan weithwyr proffesiynol a oedd, yn eu barn nhw, yn llawer mwy llym na’r ffordd roeddent wedi trin y cyflawnwr. Noda’r Comisiynydd mai dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi cael profiadau negyddol iawn yn y llysoedd sydd fwyaf tebygol o godi’r pryderon hyn ac na ellir ystyried eu bod yn rhoi darlun llawn o’r sefyllfa nac yn nodi lefel yr arferion gwael na’r ffordd y mae dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu trin gan bob barnwr a phob un o weithwyr Cafcass.

5.8. Pwysleisiwyd natur aildrawmateiddio achosion dro ar ôl tro yn ein cyfarfodydd bord gron a’n sesiynau i ddioddefwyr a goroeswyr. Ymddengys fod diffyg cymhwysedd diwylliannol ac ymarfer cynhwysol yn benodol wrth ymdrin â cham-drin domestig. Er enghraifft:

  • Cyfeiriodd dioddefwyr a goroeswyr y gwnaethom siarad â nhw, nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf, at broblemau gyda dehonglwyr a oedd yn ddibrofiad a heb eu hyfforddi ac a oedd wedi camgyfleu profiadau o gam-drin domestig. O ystyried y mân wahaniaethau mewn camdriniaeth sydd angen eu cyfleu’n effeithiol, yn enwedig yn achos rheolaeth drwy orfodaeth, mae hyn yn annerbyniol. Cafodd y problemau hyn eu gwaethygu pan oedd dehonglwyr yn siarad mewn tafodiaith wahanol i dafodiaith dioddefwyr a goroeswyr.

  • Roedd sefydliadau sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr gwrywaidd o’r farn bod stereoteipiau a oedd yn cael eu harddel gan farnwyr a staff llysoedd o ran golwg dioddefwr ‘nodweddiadol’ yn tanseilio eu tystiolaeth ac yn cyfrannu at natur drawmatig achosion.

  • Nododd gwasanaethau ‘gan a thros’ arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr Du ac wedi’u Lleiafrifoli fod angen meithrin gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n nodweddu achosion sy’n cynnwys menywod Du ac wedi’u Lleiafrifoli, gan gynnwys deall materion megis cywilydd a’r ynysigrwydd cymdeithasol y gall dioddefwyr a goroeswyr eu hwynebu yn eu cymunedau os cânt eu gweld yn dwyn achosion drwy’r Llys Teulu.

  • Nododd gwasanaethau sy’n cefnogi menywod ag anableddau at y ffordd y gallai stereoteipiau o fenywod ag anableddau fel mamau annigonol gael eu defnyddio a thybiaethau negyddol ynghylch eu gallu i fagu plant oherwydd eu hanabledd gael eu harddel gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithredu yn y Llys Teulu.

  • O ran dioddefwyr a goroeswyr sy’n fudwyr, daeth ceisiadau brys i atafaelu eu pasbortau a/neu eu gwahardd rhag teithio i’r amlwg fel naratif cyson. Gwneir y ceisiadau hyn hyd yn oed pan nad oes gan ddioddefwr neu oroeswr ddigon o arian i deithio neu, pan nad yw’n fwriad ganddo deithio a/neu pan fo angen i’r rhieni dibreswyl fod yn bresennol er mwyn iddo gael caniatâd i’r plentyn deithio i wledydd penodol. Mae natur ddiangen y ceisiadau hyn yn dangos yn glir y dull ymosodol a chamdriniol a fabwysiedir gan gyflawnwyr yn system y Llys Teulu.[footnote 58]

5.9. Soniodd dioddefwyr a goroeswyr a gymerodd ran yn eu cyfarfodydd bord gron hefyd am achosion yn para am flynyddoedd a’r effaith ddinistriol a gafodd hyn ar eu bywydau a’u hiechyd meddwl. Tynnwyd sylw at y broses apelio fel ffynhonnell benodol o drawma: dywedodd dioddefwyr a goroeswyr, yn arbennig ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, fod y broses apelio yn anodd i’w deall a bod y terfynau amser byr ar gyfer apelio yn anodd i’w rheoli.

5.10. Roedd llawer o weithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n gweithio yn y Llys Teulu hefyd o’r farn y gallai achosion fod yn drawmatig i ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth. Gofynnodd arolwg y Comisiynydd i ymarferwyr nodi pa mor debygol ydoedd y byddai’r Llys Teulu yn aildrawmateiddio dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, yn eu barn nhw. Roedd ychydig dros 80 y cant o’r ymarferwyr cyfreithiol a gwblhaodd yr arolwg o’r farn bod y Llys Teulu yn ‘Debygol’ neu’n ‘Debygol Iawn’ o aildrawmateiddio dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Roedd bron tri chwarter yr ymarferwyr cyfreithiol a atebodd yr arolwg hefyd o’r farn bod achosion yn y Llys Teulu yn debygol o beri gofid i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.

5.11. Mewn 85 y cant (92 allan o 108) o’r ohebiaeth a anfonwyd at y Comisiynydd a oedd yn trafod achosion cyfraith teulu breifat, disgrifiodd dioddefwyr a goroeswyr sut roeddent yn teimlo am y ffaith bod eu profiadau o gam-drin domestig wedi’u bychanu yn ystod eu hachos yn y Llys Teulu, a/neu’r ffaith nad oedd gweithwyr proffesiynol a oedd yn ymwneud â’r Llys Teulu (h.y. staff y Llys Teulu, Cafcass a chynrychiolwyr cyfreithiol) yn deall y mân wahaniaethau mewn camdriniaeth ddomestig. Nododd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr, pan wnaethant sôn wrth Cafcass neu farnwyr am y rheolaeth drwy orfodaeth roeddent wedi’i dioddef, nad oedd hyn yn cael ei gymryd o ddifrif neu nad oedd yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol i fod yn gyfystyr â cham-drin domestig. Pryder arall a leisiwyd oedd bod gweithwyr proffesiynol o’r farn nad oedd faint o effaith roedd y gamdriniaeth yn ei chael ar eu hiechyd meddwl yn cael ei ddeall yn iawn.

5.12. At hynny, ym mis Ebrill 2022, cododd penderfyniad y Llys Apêl yn K v K bryderon newydd ynghylch y ffaith bod barnwyr yn bychanu honiadau o gam- drin domestig yn y Llys Teulu. Yn ei benderfyniad, dyfarnodd y llys mai dim ond pan fo’r “… alleged abuse is likely to be relevant to what the court is being asked to decide relating to the children’s welfare”[footnote 59] y dylid cynnal Gwrandawiad Canfod Ffeithiau, a ddefnyddir fel arfer i nodi pa mor debygol ydyw bod cam- drin domestig wedi digwydd drwy gynnal gwrandawiad ar wahân o fewn yr achos ehangach. Cadarnhawyd y safbwynt hwn drwy Gyfarwyddyd Ymarfer 12J, paragraffau 5 a 17.

5.13. Caiff y diogelwch a geir yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 12J ei danseilio gan y ffaith bod angen i’r Llys Teulu benderfynu a yw’r gamdriniaeth/camdriniaeth honedig yn debygol o fod yn ‘berthnasol’, a gall y penderfyniad hwn gael ei ddefnyddio gan y llys i osgoi cadarnhau bod cam-drin domestig wedi digwydd.

5.14. Gall yr elfen ‘perthnasedd’ greu safbwynt a allai achosi problemau mewn achosion cyfraith teulu breifat:

a) gall y Llys Teulu benderfynu nad oes angen cadarnhau bod camdriniaeth wedi digwydd, gan fychanu camdriniaeth fel y’i profwyd gan yr oedolyn sy’n ddioddefwr neu’n oroeswr;

b) caiff egwyddor o blaid cyswllt sydd wedi’i hymgorffori yn y gyfraith ei hatgyfnerthu heb gadarnhau a yw cam-drin domestig yn digwydd, gan fychanu camdriniaeth fel y’i profir gan y plentyn sy’n ddioddefwr neu’n oroeswr.

5.15. Mae’r Comisiynydd yn maentumio bod pob honiad o gam-drin domestig yn berthnasol i ystyriaethau ynghylch llesiant plentyn ac, os caiff ei herio gan gyflawnwr honedig, y dylai gael ei ystyried yn fanwl gan y llys drwy gynnal Gwrandawiadau Canfod Ffeithiau sy’n asesu a yw batrwm o ymddygiad camdriniol yn bodoli.

Adran 2: Diffyg ystyriaeth i’r risg a’r niwed i’r plentyn sy’n deillio o bresenoldeb cam- drin domestig.

5.16. Mae maint y niwed i blant sy’n dioddef cam-drin domestig yn sefydledig ac yn cael ei dderbyn yn eang.[footnote 60] Arweiniodd hyn at gydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain yn ffurfiol yn Neddf Cam-drin Domestig 2021.[footnote 61] Felly, yng nghyd-destun y Llys Teulu, mae’n hanfodol ystyried beth mae bod yn ddioddefwr cam-drin domestig yn ei olygu mewn gwirionedd i blentyn a’r effaith y gall gorchmynion cyswllt anniogel ei chael ar blant a sut mae gorchmynion yn effeithio ar yr hawliau a sefydlwyd yn y ddeddfwriaeth ddiweddar hon.

5.17. Gall cael eu hamlygu i gam-drin domestig gael effaith ddifrifol ar ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol plant yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Mae plant a amlygir i gam-drin domestig yn dioddef lefelau uwch o ofn, swildod, gorbryder ac iselder o gymharu â’u cyfoedion.[footnote 62] Maent yn parhau i wynebu mwy o risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol pan fyddant yn oedolion.[footnote 63] Gall amlygiad i gam-drin domestig gael effaith ddifrifol ar ddatblygiad niwrolegol, lleferydd, iaith a chyfathrebu plentyn ac achosi problemau ymddygiadol, gan gynnwys ymddygiadau ymosodol.[footnote 64] Gall cam-drin domestig danseilio’r berthynas rhwng plant a’r rhiant sydd hefyd yn ddioddefwr camdriniaeth. Gall y ffordd y mae’r dioddefwr yn magu eu plentyn gael ei reoli neu ei danseilio gan y cyflawnwr, tra gall ei allu rhianta a’i argaeledd emosiynol arferol gael eu lleihau gan salwch meddwl a thrawma sy’n deillio o gamdriniaeth.[footnote 65]

5.18. Mae cam-drin domestig hefyd yn gysylltiedig â mathau eraill o niwed i blant, megis cam-drin ac esgeuluso plant.[footnote 66] Nododd astudiaeth a gynhaliwyd gan Cafcass yn 2016 fod 119 allan o 133 o achosion â honiadau o gam-drin domestig hefyd yn cynnwys honiad ychwanegol, megis camddefnyddio sylweddau neu gamarfer plant. Wrth edrych ar bob un o’r achosion yn yr astudiaeth, roedd 73 y cant o’r achosion yn cynnwys honiadau heblaw cam-drin domestig.[footnote 67]

5.19. Fel yr amlinellir yn yr Adolygiad o Lenyddiaeth a gynhaliwyd gan y Panel Niwed, mae astudiaethau gan Cafcass a WAFE (2017), Harne (2011), Harrison (2008), Holt (2018), Radford a Hester (2006), Stanley (2011) a Thiara a Harrison (2016) yn dangos bod ‘… the effects on, and outcomes for children are poorest when post-separation contact becomes a site for continuing domestic abuse.’[footnote 68] Fodd bynnag, gall plant ddod dros effaith cam-drin domestig pan fyddant mewn amgylchedd mwy diogel, ond gall cyswllt parhaus â’r rhiant camdriniol greu anawsterau o ran gallu plant i ddod dros effaith cam-drin domestig a pharhau i wella (Katz, 2016).[footnote 69]

5.20. Mae’n amlwg y gall presenoldeb cam-drin domestig beri risg uchel i blant a chael effeithiau difrifol arnynt. Mae Erthygl 5 o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau sy’n barti ddiogelu hawliau’r plentyn. Gwneir hyn drwy barchu hawliau’r rhieni i ofalu am y plentyn mewn ffordd sy’n gyson â galluoedd y plentyn sy’n datblygu. Mae presenoldeb cam-drin domestig yn tanseilio’r hawl hon a gall camdriniaeth a gyflawnir gan un rhiant yn erbyn y llall fod yn “… very serious and significant failure in parenting.”[footnote 70]

5.21. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer J12 yn ddigamsyniol wrth adlewyrchu’r ffaith bod plant bellach yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr uniongyrchol cam-drin domestig,[footnote 71] gan nodi’n glir bod: “Domestic abuse is harmful to children, and/or puts children at risk of harm.”

5.22. Serch hynny, soniodd llawer o ymatebwyr i’r Panel Niwed am “professionals displaying a lack of understanding of the complexities of domestic abuse and the effects of that abuse post-separation on both the parent, typically the mother, and the children”. Gan ddod i’r casgliad bod “diffyg dealltwriaeth yma o gamdriniaeth ddomestig a thrawma parhaus yn golygu yr ystyrir bod yr honiadau yn amherthnasol i gyswllt.”[footnote 72] Roedd profiadau cadarnhaol “yn ddibynnol ar y ‘loteri’ o ddod ar draws swyddogion Cafcass/Cymru a barnwyr mwy gwybodus.”[footnote 73] Nodwyd bod diffyg dealltwriaeth o reolaeth drwy orfodaeth yn broblem benodol, gyda gormod o ffocws ar achosion unigol diweddar o drais corfforol.[footnote 74]

5.23. Cyfeiriodd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr at y ffaith, pan wnaethant sôn wrth swyddogion Cafcass neu farnwyr am y rheolaeth drwy orfodaeth roeddent wedi’i dioddef, nad oedd hyn yn cael ei gymryd o ddifrif neu nad oedd yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol i fod yn gyfystyr â cham-drin domestig. [footnote 75] Pryder arall a leisiwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr oedd bod gweithwyr proffesiynol yn aml yn ystyried bod effaith y gamdriniaeth ar eu hiechyd meddwl yn cael ei gor-liwio.

5.24. Pwysleisiodd y sefydliadau plant yr ymgysylltodd y Comisiynydd â nhw bwysigrwydd deall sut mae cam-drin domestig yn effeithio ar blant. Er enghraifft, pwysleisiodd cyfranogwyr bwysigrwydd gwahaniaethu rhwng risg a niwed, gan nodi bod yn rhaid i weithwyr cyfiawnder teulu proffesiynol sicrhau eu bod yn deall y niwed sydd eisoes wedi’i wneud i blentyn gan gyflawnwr cam- drin domestig (y mae ei benderfyniad i gyflawni’r cam-drin domestig, fel y nodwyd uchod, yn ddewis rhianta) ac ystyried hynny wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyswllt, yn ogystal â’r risg sy’n gysylltiedig â’r fath gyswllt yn y dyfodol. Nodwyd hefyd fod angen asesiad risg arbenigol o gyflawnwyr.

5.25. At hynny, mae’r ffaith bod achosion yn hir ac yn drawmatig hefyd yn effeithio ar lesiant plant, ni waeth pa orchmynion a wneir yn y diwedd. Nododd arolwg y rhaglen Dispatches fod 67 y cant o’r rhieni a ymatebodd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod cymryd rhan yn yr achos yn y Llys Teulu wedi effeithio ar iechyd meddwl eu plant.[footnote 76]

5.26. Adlewyrchwyd hyn hefyd yn yr adroddiad ‘Two years, too late’ a gyhoeddwyd gan WAFE y llynedd, a nododd fod llawer o ddioddefwyr a goroeswyr wedi lleisio pryderon bod eu plant yn cael eu trawmateiddio a’u niweidio drwy orfod cael cyswllt â rhiant camdriniol o ganlyniad i’r rhagdybiaeth o blaid cyswllt â rhiant.[footnote 77]

5.27. At hynny, mae canlyniadau llys yn gorchymyn cyswllt anniogel â chyflawnwr cam-drin domestig er mwyn cynnal cyswllt rhiant a’r hawliau gwneud penderfyniadau yn sylweddol. Cyfeirir dro ar ôl tro at y ffaith bod lles pennaf plentyn yn gofyn am gyswllt â’r ddau riant. Fodd bynnag, o ystyried y ganran uchel o honiadau o gam-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat, nid yw’r dull hwn o weithredu yn rhoi sylw priodol i effaith rhoi blaenoriaeth i hawliau rhiant camdriniwr domestig honedig dros lesiant oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr a diystyrru, yn benodol, ddiogelwch a llais plant. Nodir y canlyniadau mwyaf difrifol yn y ddau adroddiad gan WAFE ar Achosion o Ladd Plant,[footnote 78] lle y lladdodd cyflawnwyr cam-drin domestig eu plant yn ystod amser cyswllt â phlant ffurfiol neu anffurfiol. Ond, lle mae’r Llys Teulu wedi methu â sgrinio cam-drin domestig yn effeithiol mewn achosion plant cyfraith breifat, bydd plant hefyd yn dioddef niwed emosiynol, corfforol a datblygol o ganlyniad i orchmynion cyswllt anniogel.

5.28. Mae oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr hefyd yn cael eu niweidio gan orchmynion anniogel oherwydd gall cyflawnwyr ddefnyddio trefniadau cyswllt fel dull arall o reoli drwy orfodaeth a cham-drin, ar ôl gwahanu. Yn dilyn y Ddeddf Cam-drin Domestig, mae hyn bellach wedi’i gynnwys yn llawn yn y drosedd o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol. Cyfeiriodd y Panel Niwed at y ffaith bod llawer o gyflwyniadau wedi nodi effaith hirdymor gorchmynion llys ar oedolion a phlant a oedd yn ddioddefwyr ac yn oroeswyr: roedd y gorchmynion wedi hwyluso camdriniaeth barhaus, gan arwain at “niwed corfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol ac addysgol, a niwed i berthnasoedd plant heddiw ac i’r dyfodol.”[footnote 79] Yn wir, roedd llawer o’r farn bod “… lefel y gamdriniaeth yr oedden nhw a’u plant wedi ei ddioddef wedi gwaethygu ar ôl achosion yn y llys teulu.”[footnote 80]

5.29. Mae’r Comisiynydd yn arbennig o bryderus ynghylch y cynnydd sylweddol yn y defnydd o ‘ddieithrio plentyn oddi wrth riant’, fel y’i gelwir, sydd wedi arwain at gyswllt anniogel. Fe’i codwyd yn aml yn y cyflwyniadau i’r Panel Niwed fel rhywbeth a oedd yn peri pryder. Nododd y Panel Niwed mai’r rheswm a roddwyd amlaf pam nad yw lleisiau plant yn cael eu clywed oedd yr egwyddor o blaid cyswllt lle y rhoddir blaenoriaeth i gyswllt costied a gostio, heb ystyried dymuniadau plentyn na bodolaeth cam-drin domestig. Nododd y panel fod honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn ffactor allweddol yn hyn.[footnote 81] Mae dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn derm heb unrhyw sail wyddonol na chyfreithiol a dderbynnir yn gyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio’r term yn yr adroddiad hwn, am iddo gael ei godi’n aml yn y cyflwyniadau i’r Panel Niwed fel rhywbeth a oedd yn peri pryder, ac mae’n cael ei godi’n aml hefyd gyda’r Comisiynydd fel rhywbeth sy’n peri pryder penodol i ddioddefwyr a goroeswyr sy’n mynd drwy’r Llys Teulu. Mae’r Panel Niwed yn esbonio bod dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn seiliedig ar y syniad bod y rhiant ‘sy’n dieithrio’ wedi dylanwadu ar ddymuniadau a theimladau plant ac, felly, y dylid eu diystyru.[footnote 82]

5.30. Gwyddom fod troi aelodau o’r teulu (gan gynnwys plant) yn erbyn dioddefwr neu oroeswr yn ddull a ddefnyddir gan rai cyflawnwyr, fel rhan o batrwm o gam- drin yn ystod y berthynas neu fel rhan o ymddygiad camdriniol ar ôl gwahanu, ac mae’n amlwg bod hyn yn niweidiol iawn. Dengys Model Duluth Post-separation power and control wheel sut y gall yr ymddygiadau hyn fod yn rhan o batrwm o bŵer a rheolaeth ar ôl gwahanu, fel arfer yng nghyd-destun cam- drin domestig blaenorol yn ystod y berthynas. Cydnabuwyd hyn ers tro ac nid oes dim yn yr adroddiad hwn sy’n ceisio gwadu hyn. Yn hytrach, nod yr adroddiad hwn yw tynnu sylw at y defnydd niweidiol o’r term dieithrio plentyn oddi wrth riant neu’r cysyniad ohono (a’i gyfystyr ‘ymddygiadau dieithrio’, ymhlith termau eraill a ddefnyddir i gwmpasu’r un cysyniad) fel gwrth-honiadau yn y Llys Teulu a’r effaith andwyol y mae hynny yn ei chael ar allu dioddefwyr a goroeswyr i godi mater cam-drin domestig.

5.31. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Panel Niwed yn dangos bod honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant neu ‘ymddygiadau dieithrio’ yn cael eu defnyddio yn y Llys Teulu fel gwrth-honiad i gam-drin domestig, a oedd yn golygu bod sylw’r llys yn cael ei dynnu oddi ar y camdriniwr a bod dymuniadau a theimladau datganedig y plentyn yn cael eu tanseilio. Nododd y Panel Niwed fod “ofni honiadau ffug o elyniaethu rhwng rhieni yn rhwystr i ddioddefwyr camdriniaeth ddweud wrth y llysoedd am eu profiadau.”[footnote 83]

Pam mae honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant neu ‘ymddygiadau dieithrio’ yn destun pryder o ran llais y plentyn?

Mae’r term ‘dieithrio plentyn oddi wrth riant’ yn deillio o’r ‘syndrom dieithrio plentyn oddi wrth riant’ a fathwyd gan Richard Gardiner, seiciatrydd anhygred o UDA, yn y 1980au, a ddywedodd y gallai plant gael eu cyflyru gan riant dialgar (eu mam fel arfer) i ddioddef anhwylder meddyliol ‘syndrom dieithrio oddi wrth riant’ a gwrthod y rhiant arall.[footnote 84] I ddechrau, gwrthododd y llysoedd yng Nghymru a Lloegr gydnabod ‘syndrom dieithrio plentyn oddi wrth riant’, gyda’r Arglwydd Ustus Butler-Sloss yn nodi yn Re, L, V, M and H (children) 2000, nad oedd y term yn cael ei gydnabod yn y dosbarthiadau Americanaidd na rhyngwladol o anhwylderau ac nad oedd yn cael ei gydnabod yn gyffredinol mewn arbenigeddau seiciatrig nac arbenigeddau iechyd meddwl cysylltiedig.[footnote 85] Fodd bynnag, cafodd ‘syndrom dieithrio plentyn oddi wrth riant’ ei addasu wedyn yn ‘ddieithrio plentyn oddi wrth riant’ gan ei gefnogwyr a ddechreuodd ymddangos mewn cyfraith achosion yng Nghymru a Lloegr o 2017 ymlaen[footnote 86]. Eto i gyd, nid oes fawr ddim sail wyddonol na thystiolaethol i ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir.

Nododd y Panel Niwed fod “ofni honiadau ffug o elyniaethu rhwng rhieni yn rhwystr i ddioddefwyr camdriniaeth ddweud wrth y llysoedd am eu profiadau.” Mae hyn yn gwbl gyson ag adroddiadau y mae’r Comisiynydd yn eu clywed dro ar ôl tro gan ddioddefwyr a goroeswyr.

Gall honiadau llwyddiannus o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, gael effaith ddinistriol ar oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr, gyda phlant yn cael eu dwyn ymaith oddi wrth eu prif ofalwyr er mwyn hwyluso sefydlu perthynas â’r rhiant camdriniol dibreswyl. Gan fod cyflawnwyr cam-drin domestig yn aml yn ceisio portreadu eu hunain fel dioddefwyr camdriniaeth, gan ystumio realiti’r gamdriniaeth a thrawmateiddio eu dioddefwr ymhellach, mae’r Comisiynydd o’r farn bod yn rhaid i’r Llys Teulu fod yn gadarn iawn o ran ei allu i adnabod tactegau camdriniol a ddefnyddir yn y Llys Teulu ac ymdrin â nhw.

Gall troi aelodau o’r teulu (gan gynnwys plant) yn erbyn dioddefwr neu oroeswr fod yn ddull a ddefnyddir gan rai cyflawnwyr, fel rhan o batrwm o gam-drin yn ystod y berthynas neu fel rhan o ymddygiad camdriniol ar ôl gwahanu,[footnote 87] ac mae’n amlwg bod hyn yn niweidiol i blant, dioddefwyr a goroeswyr. Pan fydd plentyn yn profi effeithiau uniongyrchol neu anuniongyrchol cam-drin domestig, gall mesur hunanamddiffynnol amlygu ei hun ar ffurf amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad y plentyn i gael cyswllt â’r rhiant camdriniol.

Afraid yw dweud bod plant, ar y cyfan, yn cael budd o gael perthynas â’r ddau riant ac mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1979 yn cydnabod hawl plentyn i gael perthynas â’i ddau riant, oni fydd hynny’n groes i les pennaf y plentyn.[footnote 88] Mae’r Comisiynydd o’r farn, yng nghyd-destun cam-drin domestig, fod plentyn yn dangos amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad i gael cyswllt yn ymateb rhesymol a hunanamddiffynnol i gam-drin domestig. Felly, nid yw’n briodol galw amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad plentyn yn ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir. At hynny mae defnyddio dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, fel ‘gwrth-honiad’ i gam-drin domestig yn cael effaith andwyol ar allu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu clywed yn y Llys Teulu a’u hymdrechion dilys i hysbysu’r Llys Teulu am gam-drin domestig er mwyn sicrhau bod trefniadau cyswllt â phlentyn priodol a diogel yn cael eu rhoi ar waith.[footnote 89] Nododd y Panel Niwed fod “ofni honiadau ffug o elyniaethu rhwng rhieni yn rhwystr i ddioddefwyr camdriniaeth ddweud wrth y llysoedd am eu profiadau”;[footnote 90]rhywbeth y mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn ei glywed dro ar ôl tro gan ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sydd wedi cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Cam- drin o’r farn bod gwrth-honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn cael eu cymryd fwy o ddifrif na honiadau o gam-drin domestig.

Er nad oes unrhyw fframwaith, darpariaeth na sail gyfreithiol, mae honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, wedi’u defnyddio fel dull o dynnu sylw oddi ar y ffaith bod cam-drin domestig wedi’i gyflawni a throi ffocws yr achos at hawliau’r cyflawnwr fel rhiant. Mae’r diffyg tystiolaeth ynglŷn â’r defnydd o’r term yn cael ei amlygu gan y ffyrdd y mae gwledydd wedi ymdrin â’r term dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, gyda nifer o wledydd, megis Sbaen, yn ei atal yn benodol rhag cael ei ddefnyddio, oherwydd y diffyg tystiolaeth.

Mae’r Comisiynydd yn deall y gall rhai rhieni sydd wedi gwahanu ymddwyn mewn modd emosiynol gamdriniol drwy ddylanwadu’n batholegol ar ymateb plentyn i gyswllt â’r rhiant arall, sy’n golygu bod y plentyn wedyn yn amharod i gael cyswllt neu’n gwrthwynebu neu’n gwrthod hynny. Mae hyn yn pwysleisio’r angen i ganfod ffeithiau pob achos mewn modd trylwyr ac ymchwiliol sy’n ystyriol o gamdriniaeth. Mae’r Comisiynydd yn gobeithio meithrin gwell dealltwriaeth o’r Llys Teulu a’r ffordd y mae’n ymdrin â honiadau o’r fath yn System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu.

Mae honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant yn fater o bwys rhyngwladol. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) wedi annog gwledydd a phartïon i beidio â defnyddio’r term,[footnote 91] ac mae Senedd Ewrop wedi pasio cynnig yn condemnio’r term ac yn galw ar bob aelod i wahardd y defnydd o’r term mewn achosion llys.[footnote 92] Mae Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod wedi argymell i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig y dylid gwahardd y defnydd o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir. Yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023 rhydd y rhesymau canlynol pam y dylid ei wahardd: diffyg sail empiraidd (para 11); y ffaith y gall fynd â phlant ymaith a’u rhoi mewn amgylcheddau cartref peryglus, sy’n achos pryder mawr (para 18), y ffaith y gall wthio pryderon ynghylch cam-drin domestig i’r ymylon (para 20); bychanu llais y plentyn (para 22); y defnydd a wneir ohono i barhau i gam-drin dioddefwr ar ôl gwahanu, gan barhau i drawmateiddio plant (para 23). Yn y pen draw, mae’r adroddiad yn gwrthwynebu’r defnydd o’r term dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, ar sail hawliau dynol (para 73). [footnote 93] Mae effaith andwyol y term dieithrio plentyn oddi wrth riant hefyd wedi’i chodi fel rhywbeth sy’n peri pryder gan Bwyllgor CEDAW.[footnote 94]

Cafcass a dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir

Nid yw Cafcass yn defnyddio’r term ‘dieithrio plentyn oddi wrth riant’. Yn lle hynny, mae ei Fframwaith Asesu’r Effaith ar Blant wedi mabwysiadu’r term ‘ymddygiadau dieithrio’ i ddisgrifio amgylchiadau lle mae patrwm parhaus o agweddau, credoau ac ymddygiadau negyddol gan un rhiant (neu ofalwr) a allai danseilio neu rwystro perthynas y plentyn â’r rhiant arall heb reswm dilys neu sydd â’r bwriad datganedig i wneud hynny. Mae Cafcass yn ystyried bod hwn yn un o nifer o resymau pam na fydd plentyn, o bosibl, am weld un o’i rieni ar ôl iddynt wahanu. Mae’r canllawiau yn disgwyl i Gynghorwyr Llysoedd Teulu ystyried y risg y gallai honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant gael eu defnyddio gan gyflanwyr cam-drin domestig mewn achosion fel math o reolaeth drwy orfodaeth neu er mwyn tynnu sylw’r llys oddi ar eu hymddygiad eu hunain.

Safbwynt Cafcass yw bod ymddygiadau dieithrio yn weladwy ac yn bresennol ar sbectrwm, yn aml fel rhan o set ehangch o ddynameg deuluol sy’n gofyn am asesiad pwrpasol a chyfannol o brofiadau unigryw pob plentyn. Pan fydd Cynghorwyr Llysoedd Teulu Cafcass yn asesu achos plentyn lle mae’r plentyn yn gwrthwynebu neu’n gwrthod gweld rhiant, rhaid iddynt ystyried yn gyntaf a yw’r plentyn wedi wynebu cam-drin domestig neu fathau eraill o rianta niwediol fel ffactorau cyfrannol. Mae’r canllawiau ar ymdrin â phlant sy’n gwrthwynebu neu’n gwrthod treulio amser gyda rhiant, a geir yn Fframwaith Asesu’r Effaith ar Blant Cafcass, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt sicrhau eu bod wedi gwahaniaethu’n glir rhwng gwrthdaro niweidiol, cam-drin domestig ac ymddygiadau torri cwlwm a dieithrio sy’n arwain at wrthwynebiad i gael cyswllt â rhiant sy’n anodd i’w esbonio, pan oedd perthynas fuddiol rhwng y plentyn a’r rhiant yn flaenorol.

Yng Nghymru, nododd adolygiad o waith ymchwil a gomisiynwyd gan Cafcass Cymru nad oes unrhyw “… commonly accepted definition of parental alienation and insufficient scientific substantiation regarding the identification, treatment and long- term effects…. Without such evidence, the label parental alienation syndrome has been likened to a ‘nuclear weapon’ that can be exploited within the adversarial legal system in the battle for child residence’’.[footnote 95]

5.32. Mae dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn cael ei godi’n aml gan ddioddefwyr a goroeswyr sy’n mynd drwy’r Llys Teulu mewn gohebiaeth sy’n dod i law’r Comisiynydd.

5.33. Rhwng mis Mai 2020 a mis Mai 2022, roedd 12 y cant (13 allan o 108) o’r ohebiaeth a gafodd y Comisiynydd ynglŷn ag achosion plant cyfraith breifat yn cyfeirio at bryderon ynghylch honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir. Esboniodd dioddefwyr a goroeswyr a soniodd am y mater hwn, pan oeddent wedi codi honiadau o gam-drin domestig, fod gwrth-honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, wedi’u codi gan y cyflawnwr, neu fod tîm cyfreithiol y dioddefwr neu’r goroeswr wedi dweud wrtho am beidio â chyflwyno ei honiadau o gamdriniaeth, am eu bod yn pryderu y byddai gwrth- honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant yn cael eu codi mewn ymateb gan beri risg y byddai’r dioddefwr neu’r goroeswr yn colli cyswllt â’i blant. Roedd y dioddefwyr a’r goroeswyr penodol hyn yn teimlo’n rhwystredig ynghylch pa mor hawdd ydoedd, yn eu barn nhw, i gyflawnwyr gamfanteisio ar system y llysoedd drwy gyflwyno honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant.

Dywedodd fy nghyfreithiwr wrtha i na ddylwn i sôn am y ffaith fy mod i’n ddioddefwr cam-drin domestig neu y byddwn yn cael fy nghyhuddo o ddieithrio plentyn oddi wrth riant.

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021)

5.34. Cafodd pryderon ynghylch y defnydd o honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant eu lleisio dro ar ôl tro yng nghyfarfodydd bord gron y Comisiynydd ac mewn sesiynau grŵp bach a gynhaliwyd gennym gyda dioddefwyr a goroeswyr. Roedd bron pob goroeswr a gymerodd ran yn y sesiynau wedi wynebu honiadau o ddieithrio plentyn wrth oddi wrth riant, fel y’i gelwir, neu roeddent wedi cael eu rhybuddio gan gynghorwyr cyfreithiol ynghylch codi mater cam- drin domestig rhag ofn y byddent yn cael eu cyhuddo o ddieithrio plentyn oddi wrth riant. Yn yr un modd, nododd arolwg rhaglen Dispatches Channel 4, a ddadansoddodd ymatebion gan fwy na 3,000 o ddefnyddwyr llysoedd teulu, fod honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwneud yn erbyn rhieni a ddywedodd eu bod yn ddioddefwyr cam-drin domestig.[footnote 96] Gall cyflawnwyr cam-drin domestig wneud honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, mewn ymateb i honiadau o gam- drin domestig er mwyn rheoli neu gam-drin dioddefwr ymhellach. Gall cyflawnwyr cam-drin domestig hefyd wneud honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant er mwyn parhau i gam-drin dioddefwr ar ôl iddynt wahanu. Ar yr adeg hon, gall dioddefwr cam-drin domestig deimlo ei fod yn gorfod gwneud y canlynol: a) hysbysu’r Llys Teulu bod yr honiad yn fath o gam-drin ar ôl gwahanu er mwyn tynnu sylw oddi ar ei ymddygiad ei hun; b) ceisio dangos ymddygiadau camdriniol eraill – boed hynny yn ystod y berthynas neu ar ôl iddynt wahanu – er mwyn dangos patrwm ehangach o ymddygiad.

5.35. Pan fydd cyflawnwyr cam-drin domestig yn gwneud honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, mewn ymateb i honiadau o gam-drin domestig er mwyn rheoli a cham-drin dioddefwr ymhellach, rhaid i’r Llys Teulu gadarnhau ffeithiau’r ddau honiad mewn modd ymchwiliol er mwyn sicrhau gwrandawiad teg i bawb, o ystyried y gall cam-drin domestig fod yn bresennol.

5.36. Mae’r Comisiynydd yn gwrthwynebu’r pwys cyfartal ymddangosiadol a roddir ar honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant a honiadau o gam-drin domestig pan fydd y Llys Teulu yn ymchwilio i’r honiadau hyn ochr yn ochr â’i gilydd.

5.37. Ym Mhennod 6 o’r adroddiad hwn, mae’r Comisiynydd yn amlinellu dull ymarferol o fynd i’r afael â’r pryderon hyn, sy’n cael ei lywio gan ei dyletswydd statudol i annog arferion da o ran adnabod y canlynol: pobl sy’n cyflawni cam- drin domestig; dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig; plant y mae cam- drin domestig yn effeithio arnynt.[footnote 97]

Adran 3: Llais y Plentyn

Rhaid i chi wrando arnom a’n clywed o ddifrif, am ei fod yn cael effaith go iawn ar fywyd. Ymddiriedwch yn y ffaith ein bod yn gwybod beth sydd ei eisiau arnom, hyd yn oed os ydym yn ifanc. Cynrychiolwch yr hyn rydym yn ei ddweud waeth beth fo’ch dehongliad. Hefyd, meddyliwch am yr hyn nad yw plentyn yn ei ddweud wrthych, ydy e’n ofni siarad â chi?

‘In Our Shoes’, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (2021)

5.38. Yng Nghymru a Lloegr, mae achosion plant cyfraith breifat hefyd yn cwmpasu agweddau eraill ar fagwraeth plentyn, yn ogystal â ffurfioli trefniadau cyswllt. Mae achosion o’r fath hefyd yn penderfynu sut y caiff plentyn ei fagu o ddydd i ddydd, a all gael effaith uniongyrchol hefyd ar fywyd y prif ofalwr o ddydd i ddydd. Er enghraifft, gellir cyflwyno ceisiadau i wahardd symud plentyn o un ddinas neu fwrdeistref yn Llundain i ddinas arall neu fwrdeistref arall yn Llundain yn ogystal â cheisiadau i sicrhau bod plentyn yn mynd i ysgol benodol. Felly, gall canlyniadau’r achosion hyn lywio penderfyniadau a wneir yn y dyfodol ynghylch amrywiaeth o ddewisiadau bywyd a fyddai, fel arall, yn cael eu gadael i ddisgresiwn yr uned deuluol.

5.39. O dan adran 1(3) o Ddeddf Plant 1989 mae’n ofynnol i’r Llys Teulu ystyried “the ascertainable wishes and feelings of the child concerned (considered in the light of his age and understanding)” mewn achosion plant. Mae hyn yn adlewyrchu’r hawliau sydd wedi’u hymgorffori yn Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989 er mwyn i blant gael cyfle i gael eu clywed mewn achosion cyfreithiol sy’n effeithio arnynt. O ystyried mandad y Comisiynydd, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar achosion cyfraith teulu breifat sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Fodd bynnag, dylid nodi y dylai llais y plentyn gael ei gynnwys mewn modd ystyrlon ym mhob cais cyfraith breifat, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gwneud honiadau o gam-drin domestig. Er enghraifft, gallai mathau eraill o niwed gael eu codi, yn ogystal ag achosion cyfraith teulu breifat lle nad oes unrhyw honiadau o niwed wedi’u gwneud. Rhaid i lais y plentyn fod wrth wraidd pob cais cyfraith breifat. Mae hyn yn bwysicach fyth mewn achosion lle y codir cam-drin domestig.

5.40. Serch hynny, nododd y Panel Niwed mai “thema gref iawn mewn nifer o gyflwyniadau oedd bod safbwyntiau plant yn aml yn cael eu diystyru, yn bennaf mewn achosion pan fo plant yn nodi nad ydynt eisiau treulio amser gyda rhiant camdriniol”[footnote 98] gyda’r canlyniad allweddol y gallai hynny “danseilio ansawdd penderfyniadau’r llys” ac “arwain at orchmynion nad ydynt yn hyrwyddo, neu’n tanseilio, lles y plentyn.”[footnote 99]

5.41. Adleisiwyd hyn mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, a edrychodd ar waith ymchwil mewn nifer o wledydd, gan gynnwys y DU ac a nododd fod “[c]hildren overwhelmingly feel unheard in court proceedings” a bod “[t]his causes them significant distress.”[footnote 100] Nododd astudiaeth Nuffield fod safbwyntiau plant ynghylch cyswllt mewn achosion o gam-drin domestig yn gymhleth ond, lle roedd plant wedi nodi nad oeddent am gael cyswllt â rhiant, ond roeddent wedi cael eu gorfodi i wneud hynny o hyd, ei bod wedi peri gofid sylweddol iddynt.[footnote 101] Yn yr un modd, yn ystod sesiwn y Comisiynydd ag aelodau o Fwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, cyfeiriodd sawl un at y ffaith nad oeddent yn teimlo bod pobl eraill yn gwrando arnynt yn ystod achosion er bod ganddynt syniad clir o’r hyn roedd ei eisiau arnynt.[footnote 102]

5.42. Pwysleisiodd unigolion a gymerodd ran yng nghyfarfodydd bord gron y Comisiynydd pa mor bwysig ydyw bod lleisiau plant yn cael eu clywed ac roedd yn gryf o’r farn y dylai profiadau plant fod yn ystyriaeth ganolog yn ystod achosion llys. Pwysleisiodd unigolion a gymerodd ran yng nghyfarfodydd bord gron y sefydliadau plant a Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc y dylai plant gael eu hystyried ar wahân i’w rhieni, nid dim ond fel ‘ychwanegiad’ a gwnaethant argymell y dylai’r llysoedd fod yn gofyn sut roedd profiadau plant o’r cyflawnwr wedi newid bywyd plentyn. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth ystyried cwmpas Adran 3 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig sy’n nodi bod plentyn sy’n ‘sees or hears, or experiences the effects of, the abuse’ yn ddioddefwr cam-drin domestig yn ei rinwedd ei hun. Dywedodd unigolion a gymerodd ran yn y cyfarfodydd bord gron y dylai gweithwyr cyfiawnder teuluol proffesiynol allu cyflwyno tystiolaeth mewn ffordd sy’n dangos sut brofiad oedd byw gyda cham-drin domestig ar gyfer y plant a’r effaith a gafodd ar eu llesiant (yn hytrach na dim ond cyflwyno rhestr o ddigwyddiadau).

5.43. Roedd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr y siaradodd y Comisiynydd â nhw yn y cyfarfodydd bord gron hefyd o’r farn nad oedd unrhyw un wedi gwrando ar eu plant ac roeddent yn cytuno bod angen rhoi mwy o lais i blant mewn achosion. Atgyfnerthir hyn ymhellach gan y dybiaeth o blaid cyswllt ac, yn arbennig, y ffaith bod plant iau yn cael eu hannog i gael cyswllt â’r ddau riant waeth beth maent yn ei gyfleu.

Dim amdana i hebdda i! Fi ddylai gael gwybod yn gyntaf beth sy’n digwydd. A chyfeiriwch blant a phobl ifanc at wasanaethau cymorth eraill y gallwn gysylltu â nhw pan fydd eu hangen arnom.

‘In Our Shoes’, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (2021)

5.44. Nododd adroddiad y Panel Niwed mai’r rheswm a roddwyd amlaf pam nad yw lleisiau plant yn cael eu clywed oedd yr egwyddor o blaid cyswllt (lle y rhoddir blaenoriaeth i gyswllt costied a gostio, heb ystyried dymuniadau plentyn na bodolaeth cam-drin domestig). Nododd y panel hefyd fod honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn ffactor allweddol yn hyn o beth, am fod y dieithrio wedi dylanwadu ar ddymuniadau a theimladau’r plentyn ac, felly, y dylid eu diystyru.[footnote 103]

5.45. Felly, mae effaith gyffredinol dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, i’w gweld yn y ffaith bod llais y plentyn yn cael ei fychanu neu y rhoddir taw arno’n gyfan gwbl. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol, sef nad oes fawr ddim pwys yn cael ei roi ar ddymuniadau na theimladau’r plentyn fel y nodir yn y rhestr wirio llesiant yn adran 1(3) o Ddeddf Plant 1989. O ystyried pwysigrwydd hyn, rhaid ymdrin â’r gwyro oddi wrth wrando ar y plentyn a’i gredu yn ofalus. Mae hyn yn destun pryder penodol gan nad oedd gan y Llys Teulu system ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau bod gorchymyn llys yn gweithio’n dda dros blentyn. Er mwyn dychwelyd i’r llys, rhaid cyflwyno cais i amrywio gorchymyn, sy’n aml yn ddrud iawn ac yn anneniadol i bartïon sydd eisoes wedi wynebu achos llawn straen. Mae’r llysoedd Braenaru wedi nodi bod hwn yn faes i’w wella a bydd gwaith dilynol yn elfen o’u dull o ymdrin â phlant mewn achosion o gam-drin domestig. Er ei bod yn rhy gynnar i wneud sylwadau ar hyn, mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol iawn y bydd o werth i’r plentyn a’r teulu.

5.46. Yng nghyd-destun plant, dioddefwyr a goroeswyr y rhoddir mwy o ddiogelwch iddynt o dan y gyfraith, er gwaethaf hyn, mae’r defnydd llwyddiannus o’r strategaeth ar gyfer dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn arwain at sefydlu’r hierarchaeth ganlynol o hawliau gan y Llys Teulu:

6. Pennod 3: Sicrhau Newid Diwylliannol

6.1. Mae’n amlwg, er mwyn mynd i’r afael â methiannau cyson o’r fath, mae angen dysgu o ddifrif am systemau a newid diwylliannol ar raddfa eang ac eto mae’n dra hysbys ei bod yn anodd sicrhau newid o’r fath.[footnote 104] Mae hyn yn arbennig o wir mewn system cyfiawnder teuluol sy’n cynnwys sawl sefydliad ac asiantaeth, sydd o dan gryn bwysau oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion cyfraith breifat, effaith y pandemig a diffyg adnoddau sylweddol.[footnote 105] Disgrifiodd un ymatebydd barnwrol i’r Panel Niwed y system fel un sy’n “crumbling…we just can’t cope with it.”[footnote 106] Hefyd, nododd y Panel Niwed yn glir fod y methiannau a nodwyd ganddo yn rhai systemig a’u bod yn rhan o ddiwylliant sy’n treiddio drwy’r Llys Teulu.

6.2. Mae newid diwylliannol yn gofyn am ddull systemau cyfan ac mae’n werth ystyried yr egwyddorion a ddatblygwyd gan Ellen Pence yn UDA ac a fabwysiadwyd wedyn i’w defnyddio yn y DU gan yr elusen Standing Together Against Domestic Abuse wrth roi’r model Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig ar waith.[footnote 107] Mae’r model hwn wedi bod yn allweddol i wella’r ymateb cymunedol i gamdrin domestig ac mae’n bwysig ei ystyried wrth nodi sut i newid ymateb system gymhleth i gam-drin domestig. Mae’r Comisiynydd yn awgrymu bod gofynion craidd ar gyfer newid systemau yn llwyddiannus y gellir eu trosglwyddo’r o’r model Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig i’r Llys Teulu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gweledigaeth ac amcanion a rennir. Mae’r rhain wedi’u darparu gan adroddiad y Panel Niwed a esboniodd ym mha ffordd y mae’r system bresennol yn methu â chadw dioddefwyr, goroeswyr a phlant yn ddiogel ac a nododd weledigaeth ar gyfer system ddiwygiedig â digon o adnoddau a diwylliant o ddiogelu ac amddiffyn pobl rhag niwed a dull gweithredu cydgysylltiedig rhwng gwahanol rannau o’r system.[footnote 108]

  • Strategaeth ac arweinyddiaeth ar bob lefel Gwyddom fod y llywodraeth a’r uwch-farnwriaeth yn ymrwymedig i wella ymateb y Llys Teulu i gam-drin domestig. Yn ogystal â’r arweinyddiaeth hon o’r brig i’r bôn, mae’n hollbwysig bod arweinyddiaeth leol er mwyn ymgorffori a chynnal newid systemig, sy’n elfennau hanfodol o’r Llysoedd Braenaru (a drafodir ar dudalennau 57-58 o’r adroddiad hwn), sy’n cynnwys arbenigwyr ym maes cam-drin domestig a phob cyfranogwr yn system y llys teulu. Mae hyn yn cynnwys Byrddau Cyfiawnder Teuluol sy’n darparu fforwm ar gyfer mewnbwn a datrys problemau gan bob arweinydd yn y Llys Teulu gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a’r rhai sy’n eu cefnogi;

  • Adnoddau. Mae hyn yn cynnwys cyllid, ond hefyd pobl, angerdd ac egni. Er enghraifft, mae’r Llysoedd Braenaru yn cyflwyno adnoddau newydd er mwyn i blant allu cael eu hasesu yn gynnar mewn achosion.

  • Cydgysylltu. Wrth drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig, dylai pob asiantaeth mewn system fod yn cydweithio, gyda’r un weledigaeth a dealltwriaeth. Mae rôl cydgysylltydd yn hanfodol ond, fel y’i nodir yn glir yn y model Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig, rhaid i bob asiantaeth yn y system chwarae ei rhan. Er enghraifft, yn y Llysoedd Braenaru, bydd y gweithgorau sy’n datblygu’r cynlluniau peilot yn cydgysylltu’r broses drawsnewid. At hynny, mae rôl Swyddog Hynt Achosion, sy’n adnodd gwybodaeth i deuluoedd, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt eu hachos a’u cyfeirio at adnoddau ychwanegol lle y bo’n briodol.

  • Hyfforddiant. Mae hyfforddiant yn rhan annatod o sicrhau bod asiantaethau yn y system yn gweithio tuag at yr un weledigaeth ac yn rhannu dealltwriaeth o ddynameg cam-drin domestig. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried goblygiadau diffiniadau ac, felly, ddeall problemau. Er enghraifft, mae diffiniad cadarn a ddeëllir gan bawb o reolaeth drwy orfodaeth wedi bod yn hanfodol wrth wneud math ‘cudd’ o gamdriniaeth yn fwy gweladwy.

  • Adborth ar brofiad goroeswyr. Mae sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed yn elfen hanfodol o’r Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig ac rydym yn awgrymu y dylai fod sianel hefyd i adborth gan ddefnyddwyr y Llys Teulu gael eu clywed yn lleol.

  • Croestoriadedd.[footnote 109] Mae angen dull gweithredu croestoriadol er mwyn deall sut mae profiadau hanesyddol a pharhaus o wahaniaethu yn effeithio ar brofiadau dioddefwyr a goroeswyr o’r system cyfiawnder teuluol a’r ffaith bod rhwystrau gwahanol i gyfiawnder ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr.

  • Monitro, data a thryloywder. Mae gwaith monitro, casglu data a dadansoddi yn hanfodol wrth newid system a bydd y System Adrodd ac Adolygu yn chwarae ei rôl o ran sicrhau’r newid hwn. Bydd y Comisiynydd yn ategu ymdrechion i gael data drwy’r System Adrodd ac Adolygu. Fodd bynnag, mae’r gwaith o ddiwygio systemau TG, sy’n dal i fynd rhagddo dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod data Llysoedd Teulu yn parhau i gael eu casglu’n effeithiol.

6.3. Mae cynnydd wedi’i wneud ers adroddiad y Panel Niwed fel y nodir ar dudalennu 4-6. Mae’r Llysoedd Braenaru hefyd yn fodel sy’n datblygu o ran sut i sicrhau ymateb cydgysylltiedig gan ddefnyddio’r gofynion craidd hyn fel y trafodir ar dudalennu 57-58.

6.4. Bydd y gwersi a ddysgir o’r rhain yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ymateb y Llys Teulu i gam-drin domestig yn newid yn llwyr.

6.5. Dyna pam mae’r Comisiynydd wedi darparu cyfres o argymhellion yn yr adroddiad hwn er mwyn adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud eisoes ac sy’n berthnasol i nifer o’r egwyddorion a nodwyd uchod. Felly, rhaid ystyried pob agwedd ar yr argymhellion er mwyn sicrhau newid.

7. Pennod 4: Cynllun manwl ar gyfer treialu System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu[footnote 110]

Rwyf am i’m stori fod yn ganllaw goroesi i rywun arall. Gallaf siarad am fy mhrofiad ond nid yw pawb yn yr un sefyllfa. Byddwn i wir wedi hoffi rhoi adborth yn ystod yr achos ac ar wahanol gamau o’r daith

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021)

7.1. Fel y nodwyd uchod, un o argymhellion adroddiad y Panel Niwed oedd y dylid sefydlu System Adrodd ac Adolygu genedlaethol yn Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr, er mwyn cadw golwg ar berfformiad y Llys Teulu o ran diogelu plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr rhag cam-drin domestig a risgiau eraill o niwed mewn achosion plant cyfraith ac adrodd ar y perfformiad hwnnw’n rheolaidd. Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r Comisiynydd Dioddefwyr bapur ar y cyd, Improving the Family Court response to domestic abuse, a oedd yn nodi’r amcanion cyffredinol yn ogystal â chwestiynau a manylebau manwl ar gyfer y System Adrodd ac Adolygu genedlaethol.

7.2. Amcanion y System Adrodd ac Adolygu yw gwella tryloywder ac atebolrwydd y Llys Teulu o ran ymateb i honiadau o gam-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat, er mwyn nodi a lledaenu arferion gorau wrth wneud hynny a sicrhau cysondeb wrth sicrhau prosesau a chanlyniadau mwy diogel i blant ac oedolion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig. Rhagwelir y bydd y system yn llunio adroddiad blynyddol ar y sefyllfa bresennol yn y Llys Teulu, yn seiliedig ar y ddau faes o ddata cenedlaethol neu ddata cenedlaethol gynrychioliadol ac archwiliadau dwfn o broblemau penodol neu feysydd penodol sy’n destun pryder. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall beth sy’n mynd yn dda, nodi a lledaenu arferion gorau a deall lle mae angen gwneud gwelliannau. Cyn i’r system lawn gael ei sefydlu, bydd angen cam peilot, ac mae’r adran hon yn nodi sut y bydd y cam peilot yn gweithredu.

Cam Peilot y System Adrodd ac Adolygu

7.3. Disgwylir i’r cam peilot ddechrau ar ddiwedd 2023 a phara am 12 mis. Nodau’r cam peilot yw cwmpasu amrywiaeth o ffynonellau data posibl a dulliau posibl o gasglu data a darparu data sylfaenol ar y ffordd yr ymdrinnir â cham-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat. Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, gwneir argymhellion ar gyfer dyluniad terfynol y System Adrodd ac Adolygu genedlaethol sy’n dal i gael ei datblygu.

7.4. Mae dwy elfen i gam peilot System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu, sef:

(a) – ymarfer cwmpasu: er mwyn pennu cwmpas ffynonellau data sydd ar gael a phrosesau cyrchu data

(b) – astudiaeth ddwys o lysoedd: er mwyn casglu a dadansoddi data o safleoedd tri llys i brofi dulliau amgen o gasglu data a darparu adroddiad systematig ar y ffordd y mae’r llysoedd hynny yn ymdrin ag achosion o gam-drin domestig.

Cwmpasu setiau data a ffynonellau data gweinyddol

7.5. Ymgynghorir â’r asiantaethau canlynol er mwyn nodi i ba raddau y gall y data gweinyddol y maent yn eu casglu ar hyn o bryd gyfrannu at y System Adrodd ac Adolygu.

  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS)

  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yn Lloegr (Cafcass)

  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (Cafcass Cymru)

  • Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

7.6. Bydd hyn yn cynnwys casglu data ar systemau data newydd arfaethedig a phrosesau llys newydd arfaethedig.

7.7. At hynny, caiff yr ohebiaeth a geir gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr ei dadansoddi ac ymgynghorir â’r sefydliadau cenedlaethol perthnasol ynghylch yr adborth a gânt gan ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth a gan blant ar eu profiad o achosion yn y Llys Teulu.

Yr astudiaeth ddwys o lysoedd

7.8. Bydd yr astudiaeth ddwys o lysoedd yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • trosolwg cyd-destunol o safleoedd tri llys a ddewiswyd (nad ydynt wedi’u dewis eto ac y bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y Barnwr Teulu Rhanbarth perthnasol a bod yn destun ymgynghoriad â Llywydd yr Is-adran Deulu).

  • adolygiad o sampl o ffeiliau achosion wedi’u cau

  • arsylwi ar wrandawiadau

  • grwpiau ffocws/cyfweliadau â dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, cyflawnwyr a phlant â phrofiad o achosion cyfraith breifat mewn tair ardal llys.

7.9. Bydd y trosolwg cyd-destunol yn darparu gwybodaeth am natur y llys, ei bersonél a’i gyfleusterau, yr ardal leol a wasanaethir ganddo a safbwyntiau proffesiynol ar y ffordd y caiff cyfarwyddiadau ymarfer a chanllawiau eu rhoi ar waith, er mwyn helpu i ddeall rhesymau posibl dros y diffyg cysondeb rhwng llysoedd.

7.10. Bydd yr astudiaeth o ffeiliau achosion wedi’u cau yn adolygu hapsampl haenedig o achosion plant Cyfraith breifat o bob llys. Y nod fydd casglu data systematig o 100 o achosion o bob llys, 50 yr ymdriniwyd â nhw yn Haen 1 (Ynadon) a 50 yr ymdriniwyd â nhw ar Haen 2 neu 3 (barnwyr Rhanbarth neu Gylchdaith).

Canlyniadau

7.11. Bydd y cam peilot yn arwain at adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer dyluniad y system Adrodd ac Adolygu genedlaethol. Bydd yn gwneud y canlynol:

  • awgrymu pa ddata cenedlaethol neu genedlaethol gynrychioliadol y dylid eu casglu bob blwyddyn a pha feysydd neu faterion a ddylai fod yn destun archwiliadau dwfn, er mwyn cyflawni amcanion y system;

  • adrodd ar allu setiau data gweinyddol presennol a rhai sydd i’w cyhoeddi i ddarparu’r data cenedlaethol sydd eu hangen;

  • gwneud argymhellion ar gyfer diwygio unrhyw rai o’r setiau data hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fwy addas at ddibenion y System Adrodd ac Adolygu;

  • awgrymu pa ffynonellau data a dulliau casglu data eraill y dylid eu defnyddio er mwyn darparu’r data cenedlaethol gynrychioliadol sydd eu hangen a chyfrannu at archwiliadau dwfn o faterion penodol;

  • adroddiad ar ganfyddiadau ystadegol ac ansoddol yr astudiaeth ddwys o lysoedd;

  • rhoi’r canfyddiadau hynny yng nghyd-destun gwaith ymchwil blaenorol a datblygiadau cyfredol mewn perthynas ag achosion plant cyfraith breifat sy’n cynnwys honiadau o gam-drin domestig; dadansoddi’r canfyddiadau hynny o ran sut maent yn darparu llinell sylfaen at ddibenion y System Adrodd ac Adolygu genedlaethol.

Argymhelliad 1

Mae’n rhaid dyrannu cyllid digonol i’r System Adrodd ac Adolygu a gymeradwywyd gan y Panel Niwed sy’n cael ei sefydlu yn Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr ar gyfer ei chynllun peilot ac, wedyn, y broses o’i chyflwyno’n genedlaethol. Fel hyn, bydd yn gallu gweithredu ar sail flynyddol. Disgwylir i gam peilot y System Adrodd ac Adolygu ddechrau ar ddiwedd 2023 a phara am 12 mis, y mae’r cyllid ar ei chyfer wedi’i gadarnhau. Dylid ystyried cyllid yn dilyn y cam peilot cyn gynted â phosibl.

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddarparu cynnig i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ynglŷn â’r ffordd y bydd y gwersi a ddysgwyd o System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu yn bwydo i mewn i’r broses bresennol o ddatblygu trefniadau llywodraethu a pholisi ar gyfer y Llys Teulu.

8. Pennod 5: Arferion Gorau yn y Llys Teulu

Dros y pum mlynedd diwethaf rwyf wedi cefnogi cryn nifer o oroeswyr drwy’r Llysoedd Teulu [sic] sydd wedi rhewi’n llwyr, wedi cael eu llethu’n gyfan gwbl neu wedi cael pyliau o orbryder cyn i’r achos ddechrau hyd yn oed. Rwyf wedi cefnogi sawl menyw sydd wedi cael eu dychryn i’r fath raddau gan y profiad cyfan a thrwy fod mor agos at eu camdriniwr, fel eu bod wedi chwydu tra roeddent yn y llys.

Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig ar gyfer y Llys Teulu yn sôn am ei phrofiadau o helpu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig drwy achosion yn y Llys Teulu ar gyfer blog y Comisiynydd Cam-drin Domestig (Gorffennaf 2021)

8.1. Rhaid i ddysgu am systemau ddigwydd er mwyn sicrhau newid diwylliannol a sicrhau bod plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn wirioneddol ddiogel a bod eu hawliau yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo yn y Llys Teulu. Mae dioddefwyr a goroeswyr yn parhau i deimlo bod eu profiadau o gamdriniaeth yn cael eu bychanu ac nad yw’r effaith ar blant yn cael ei deall yn ddigon da. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd parhau â momentwm y diwygiadau a ysgogwyd gan y Panel Niwed. Bydd System Adrodd ac Adolygu’r Llys Teulu yn ein helpu i nodi anghysondebau mewn arferion ond dim ond os byddwn yn gwybod i ba raddau y mae’r canllawiau yn cael eu dilyn, lle y cydymffurfir â Chyfarwyddiadau Ymarfer cyfreithiol gyfrwymol a lle mae problemau ac anghysondebau yn codi dro ar ôl tro, y gallwn sicrhau newid diwylliannol.

Adran 1: Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig ar gyfer y Llys Teulu

8.2. Mae’r Comisiynydd yn cynnig y dylid creu rôl newydd ym mhob ardal llys, sef Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig, er mwyn helpu i sicrhau a chynnal newid er mwyn sicrhau mwy o gysondeb yn genedlaethol. Fel y nodwyd uchod, mae cam-drin domestig yn fater canolog mewn achosion plant cyfraith breifat heddiw. Mae diwygiadau arfaethedig sy’n bwriadu dargyfeirio mwy o achosion o gam-drin annomestig allan o’r llys,[footnote 111] yn golygu y bydd y rhain, wedyn, yn ffurfio canran uchel o’r achosion gerbron y Llys Teulu.

Yr hyn y byddai’r rôl yn ei gynnwys

8.3. Byddai Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn:

a) Adnodd ychwanegol gwerthfawr ar gyfer Barnwyr Teulu Dynodedig o ran helpu i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer y system cyfiawnder teuluol a nodir yn adroddiad y Panel Niwed, yn ogystal â rhoi gwelliannau sy’n ymwneud â chanfyddiadau posibl y System Adrodd ac Adolygu newydd sy’n cael ei sefydlu yn Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr, ar waith;

b) Bwydo i mewn i’r system llysoedd bresennol, gan gynnwys y Gweithgor Cam-drin Domestig a Chanlyniadau Cadarnhaol i Blant o dan y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, o’r hyn a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot ar gyfer diwygio cyfraith breifat yn ogystal ag unrhyw raglen genedlaethol i gyflwyno diwygiadau i gyfraith breifat yn y dyfodol;

c) Chwarae rhan yn y gwaith o roi’r Datganiad ar Arfer cyffredinol ar gyfer achosion plant cyfraith breifat ar waith, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan y llywodraeth a phartneriaid er mwyn cyflawni argymhellion y Panel Niwed ac a fydd yn adeiladu ar “y geiriad sylfaenol a ddarparwyd gan [a] cysylltu â grwpiau llywodraethu traws-system presennol er mwyn sicrhau bod hynny yn cael ei roi ar waith yn effeithiol a’i fod yn ysgogi newid diwylliannol yn y system drwyddi draw.”;[footnote 112]

d) Datblygu cysylltiadau â gwasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol, yn ogystal â’r canolfannau teuluol newydd sy’n cael eu datblygu gan y llywodraeth;[footnote 113]

e) Rhoi arweiniad i farnwyr ar yr hyn sydd ar gael ym mhob llys a sefydlu systemau sy’n sicrhau, pan fydd barnwyr yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer mesurau arbennig, bod y rhain yn cael eu darparu. Gallent hefyd ddadlau dros wella’r mesurau arbennig sydd ar gael yn eu llys(oedd) lleol;

f) Hwyluso’r defnydd o fesurau arbennig mewn achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig a sicrhau bod ymgyfreithwyr yn ymwybodol o’r canllawiau a’r Rheolau Trefniadaeth a’r Cyfarwyddiadau Ymarfer y gallant ddibynnu arnynt yn ystod yr achos;

g) Os bydd honiadau o gam-drin domestig wedi’u gwneud a bod barnwyr wedi defnyddio Cyfarwyddiadau Ymarfer yn yr achos, megis 12J a 3AA, neu Gyfarwyddiadau Ymarfer perthnasol eraill, byddant yn cofnodi’r ffordd y caiff mesurau o’r fath eu rhoi ar waith;

h) Gweithredu fel man cyswllt a gwybodaeth canolog i bartïon a gweithwyr proffesiynol yn y system cyfiawnder teuluol, gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol lleol a’r canolfannau teuluol newydd,[footnote 114] yn ogystal â chydgysylltu ag asiantaethau eraill megis yr heddlu i leihau gweithio mewn seilo;

i) Hwyluso adborth anffurfiol gan ddefnyddwyr llysoedd a gwasanaethau cam-drin domestig lleol;

j) Gweithredu fel hyrwyddwr ar gyfer nodi a lledaenu arferion gorau (gan gynnwys ynghylch y problemau penodol a wynebir gan ddioddefwyr a goroeswyr â nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr);

k) Gwella dealltwriaeth o gam-drin domestig yn lleol a chydgysylltu ag Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig, gan awgrymu hyfforddiant a gwelliannau ar gyfer staff llysoedd a helpu i sicrhau system cyfiawnder teuluol sy’n ystyriol o drawma;

l) Rydym yn awgrymu y dylai’r rôl hon fod yn atebol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.

Yr hyn na fyddai’r rôl yn ei gynnwys

8.4. Mae’n bwysig nodi’n glir yr hyn na fyddai’n rhan o’u cylch gwaith. Ni fyddai Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn:

  • eiriolwyr dros bartïon mewn achosion na chymryd lle rôl y Cynghorydd Annibynnol ar Gam-drin Domestig. Yn hytrach, byddent yn hyrwyddwyr tegwch. cynghori ar argaeledd mesurau arbennig yn y ganolfan lys berthnasol a chofnodi a gafodd mesurau o’r fath eu defnyddio mewn achos, yn ogystal â chofnodi a ddilynwyd y rheolau a’r canllawiau perthnasol yn yr achos.

  • amharu ar annibyniaeth farnwrol.

  • rhoi cyngor cyfreithiol i bartïon, na gweithredu fel Cyfaill McKenzie.

  • gweithredu fel system gwyno amgen.

Hwyluso, monitro a gwella cysondeb

8.5. Byddai’r Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn hwyluso elfennau sy’n berthnasol i honiadau o gam-drin domestig a gwneud nodiadau ar yr elfennau hynny, er mwyn gwella ei ddealltwriaeth gyfannol o arferion gorau a defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau mwy o gysondeb mewn ardaloedd llys a rhyngddynt.

8.6. Byddai’r Arweinydd yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr llysoedd a staff Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF a monitro’r ffordd y defnyddir y canlynol:

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 12J (y canllawiau sy’n rheoli’r ffordd y mae’r Llys Teulu yn ymdrin â honiadau o gam-drin domestig mewn achosion sy’n ymwneud â threfniadau plant);

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 3AA (mesurau arbennig), gan gynnwys y rhagdybiaeth newydd o blaid mesurau arbennig yn adran 63 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Gallai hyn gynnwys archwiliadau rheolaidd o ddiogelwch ffisegol adeiladau llysoedd, er mwyn sicrhau y gellir rhoi mesurau arbennig ar waith yn effeithiol pan gânt eu dyfarnu a phwyso ar iddynt fod ar gael yn y llysoedd y maent yn gyfrifol amdanynt;

  • Cyfarwyddyd Ymarfer 3AB (gwaharddiad newydd ar groesholi’n bersonol o dan adran 65 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021).

8.7. Byddai’n ddefnyddiol casglu data ar gydymffurfiaeth â chyfarwyddiadau ymarfer perthnasol, a allai gael eu bwydo i mewn i System Adrodd ac Adolygu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, a ddatblygir ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr. Fodd bynnag, efallai y byddai’n well i’r data hyn gael eu casglu gan aelodau iau o staff er mwyn sicrhau bod y broses yn gosteffeithiol ac y gall Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig ganolbwyntio’n fwy penodol ar y dyletswyddau allweddol a nodwyd uchod.

8.8. Yn ogystal ag amcanion yr Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig, mae’r Comisiynydd yn annog y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddarparu adnoddau ar gyfer y ffrydiau gwaith canlynol a fyddai’n helpu i hwyluso achosion:

  • Monitro hynt achosion sy’n cynnwys honiadau o gam-drin domestig, gan nodi ymlaen llaw broblemau posibl a allai godi mewn gwrandawiad a helpu i fynd i’r afael â nhw er mwyn osgoi gohirio achosion yn ddiangen. Un enghraifft fyddai nodi achosion lle nad yw tystiolaeth berthnasol wedi’i darparu gan yr heddlu a chysylltu â’r heddlu er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

  • Nodi unrhyw achosion sy’n gorgyffwrdd (ceisiadau am ryddhad gwaharddol, achosion o dan y Ddeddf Plant ac achosion trefniadau ariannol ac, os yw’n bosibl, achosion troseddol sy’n gorgyffwrdd) a dwyn y rhain i sylw’r barnwyr perthnasol, gan ddefnyddio dull sy’n ystyriol o gamdriniaeth i ddangos perthnasedd materion a nodwyd i gam-drin domestig. Efallai y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ystyried sefydlu dull cyson ar gyfer y broses hon.[footnote 115]

8.9. Nodwn fod y ddwy elfen uchod (hwyluso achosion) yn cael eu cynnal yn y cynlluniau peilot ar gyfer diwygio cyfraith breifat gan Swyddogion Hynt Achosion, ond nad yw’r rolau hyn yn bodoli yn y system bresennol y tu hwnt i’r Llysoedd Braenaru, ac nid yw’n glir eto a gânt eu cyflwyno’n genedlaethol, os caiff y Llysoedd Braenaru eu cyflwyno.

8.10. Byddai’r elfennau o’r rôl a nodwyd uchod yn golygu y byddai Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig mewn sefyllfa dda i helpu i sicrhau mwy o gysondeb yn eu hardal llys ddynodedig, drwy hysbysu staff llysoedd a barnwyr am dueddiadau a welwyd yn lleol, ac yn genedlaethol, drwy gydgysylltu ag Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig eraill.

Man cyswllt, cydgysylltu ac adborth canolog

8.11. Byddai’r Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn gweithredu fel man cyswllt a gwybodaeth canolog ar gyfer partïon mewn achosion a gwasanaethau cam-drin domestig lleol. Byddent yn cydgysylltu ag asiantaethau eraill megis yr heddlu neu gynadleddau asesu risg amlasiantaethol (MARACs) ac yn hwyluso adborth gan ddefnyddwyr llysoedd a gwasanaethau cam-drin domestig lleol.[footnote 116] Yn benodol, byddai’r Arweinydd yn gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod partïon yn ymwybodol o’u hawliau i gael mesurau arbennig a mynnu bod croesholi’n bersonol yn cael ei wahardd, a’u bod yn ymwybodol pan fydd y mesurau hyn wedi’u rhoi.

  • Meithrin cydberthnasau â gwasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol lleol a helpu i ledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o brosesau’r Llys Teulu o fewn gwasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol er mwyn sicrhau bod gan ddioddefwyr a goroeswyr well dealltwriaeth o’r hyn y gallant ei ddisgwyl. Gallai hyn gynnwys allgymorth ac ymweliadau ymgyfarwyddo â llysoedd ar gyfer gwasanaethau lleol. Byddai’n arbennig o bwysig sicrhau bod cydberthnasau yn cael eu datblygu â gwasanaethau ‘gan a thros’ arbenigol lleol (sy’n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr sydd ymhlith y bobl sydd wedi’u lleiafrifoli fwyaf mewn cymdeithas, megis pobl LHDT+, Fyddar ac anabl a phobl Ddu ac wedi’u lleiafrifoli) a bod dealltwriaeth o’r cyd-destunau lle mae’r dioddefwyr a’r goroeswyr hyn yn cael eu cam-drin wedi’i hymgorffori mewn dysgu ac arferion gorau lleol.[footnote 117]

  • Cyfeirio partïon at wasanaethau cymorth arbenigol lleol, gan gynnwys at sefydliadau arbenigol a redir gan a thros ddioddefwyr a goroeswyr Du ac wedi’u lleiafrifoli, LHDT+ a Byddar ac anabl.

  • Trefnu cyfleoedd rheolaidd i ddefnyddwyr llysoedd a gwasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol, gan gynnwys Cynghorwyr Annibynnol arbenigol ar Gam-drin Domestig ar gyfer y Llys Teulu (lle y maent i’w cael), roi adborth.[footnote 118] Byddai’n cael ei nodi’n glir nad yw’r fath gyfleoedd i roi adborth yn system gwyno nac yn apêl o unrhyw fath ynghylch achosion unigol ond, yn hytrach, eu bod yn ffordd i ddioddefwyr a goroeswyr, a’r gwasanaethau y maent yn eu cefnogi, roi adborth cyffredinol ar broblemau roeddent wedi’u hwynebu.

  • Cydgysylltu ag asiantaethau perthnasol eraill, gan gynnwys yr heddlu a phartneriaethau amlasiantaethol lleol a chenedlaethol megis MARACs neu fyrddau cyfiawnder teuluol lleol, er mwyn gwella prosesau a lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio mewn seilos.

Datblygu arferion gorau tuag at greu system sy’n ystyriol o drawma

8.12. Byddai Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn nodi arferion gorau ac yn eu lledaenu i bob rhanddeiliad perthnasol yn y broses er mwyn gwella dealltwriaeth o gam-drin domestig, gan weithredu fel adnodd ychwanegol i Farnwyr Teulu Dynodedig a helpu i sicrhau system cyfiawnder teulu sy’n ystyriol o drawma. Yn benodol, byddai’r Arweinydd yn gwneud y canlynol:

  • Nodi a lledaenu gwybodaeth newydd, canllawiau ac arferion gorau newydd gyda’r Grŵp Cam-drin Domestig a Chanlyniadau Cadarnhaol i Blant (DA-POC), sef un o is-grwpiau’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol, gan gynnwys ynglŷn â phrofiadau dioddefwyr a goroeswyr â nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr, gan wella’r ddealltwriaeth o gam-drin domestig yn yr eu hardal llys leol;

  • Cydgysylltu ag Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig eraill yn lleol ac yn genedlaethol;

  • Awgrymu gwelliannau a cheisio sicrhau cefnogaeth iddynt gan randdeiliaid yn y system cyfiawnder teuluol lle mae arsylwadau neu adborth yn nodi tueddiadau lleol y mae angen mynd i’r afael â nhw (er enghraifft, y ffaith nad yw tystiolaeth yr heddlu yn cael ei rhannu mewn modd amserol);

  • Hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo dull o ymdrin â chyfiawnder teuluol sy’n ystyriol o drawma;

  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith staff a swyddogion diogelwch llysoedd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, barnwyr ac ynadon a chyfrannu at yr hyfforddiant a ddarperir iddynt, lle y bo’n briodol;

  • Helpu Barnwyr Teulu Dynodedig i roi gwelliannau ar waith yn seiliedig ar ganfyddiadau System Adrodd ac Adolygu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a ddatblygir mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr, ar ôl iddi gael ei sefydlu.

Llywodraethu ac atebolrwydd

8.13. Byddai angen recriwtio i’r rôl yn benodol a byddai angen diffinio cylch gorchwyl a dyletswyddau’r rôl yn ofalus a phennu paramedrau ar ei chyfer sy’n parchu annibyniaeth farnwrol ac yn ategu rôl a swyddogaethau Barnwr Teulu Rhanbarth. Diben hyn yw sicrhau’r hynafedd a’r annibyniaeth sydd eu hangen i sicrhau newid drwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag arweinwyr lleol ym maes cyfiawnder teuluol, sef y Barnwr Teulu Dynodedig, yn ogystal â’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol ac, ar yr un pryd, sicrhau’r angen am annibyniaeth farnwrol. Rhagwelwn mai’r ffordd fwyaf tebygol o gyflawni hyn fyddai drwy benodi Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig fel staff lefel ganol i lefel uwch yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (gyda strwythur rheoli ar wahân er mwyn sicrhau annibyniaeth; er enghraifft, gallent fod yn atebol i Reolwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig rhanbarthol). Byddai angen i Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig weithio’n agos gyda’r Barnwr Teulu Dynodedig. Ni fyddai angen cymhwyster cyfreithiol ond byddai’r rôl yn addas i rywun â chefndir cyfreithiol. At hynny, byddai hanes da seiliedig ar dystiolaeth o ddeall y Llys Teulu a materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn gymhwyster hanfodol.

8.14. Felly, byddai angen i ddeiliaid swyddi naill ai ddangos profiad rheng flaen ymarferol helaeth o weithio ym maes cam-drin domestig a/neu gael hyfforddiant personol manwl ar gam-drin domestig gan ddarparwr a gymeradwywyd gan fwrdd annibynnol sy’n cynnwys arbenigwyr ym maes cam-drin domestig ac a gadeirir gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig.

Effaith y rôl hon

8.15. Un o nodau allweddol Llywydd presennol yr Is-adran Deulu yw adfer hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder teuluol,[footnote 119] ac mae hwn wedi bod yn un o nodau hirsefydlog deiliaid blaenorol y rôl.[footnote 120] Mae llawer o’r ffocws yn hyn o beth, yn ddealladwy ddigon, wedi bod ar wella tryloywder, rhywbeth sy’n hollbwysig, ym marn y Comisiynydd, ac y bydd ein System Adrodd ac Adolygu yn gwneud cyfraniad sylweddol ato. Elfen bwysig arall yn y broses o wella hyder y cyhoedd yw gwella cyfiawnder gweithdrefnol. Ystyr cyfiawnder gweithdrefnol yw tegwch canfyddedig achosion llys a barn pobl am y ffordd y maent wedi’u trin (p’un a gaiff achos ei benderfynu o’u plaid ai pleidio). Mae hyn yn gymwys i bawb sy’n cymryd rhan mewn achos, yn unol â’u darpariaethau hawliau dynol perthnasol yn yr hawl i gael treial teg (Erthygl 6). Mae Natalie Byrom yn crynhoi pedair elfen allweddol cyfiawnder gweithdrefnol fel: “whether there are opportunities to participate (voice); whether the authorities are neutral; the degree to which people trust the motives of the authorities; and whether people are treated with dignity and respect during the process.”[footnote 121]

8.16. Byddai rôl yr Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig, petai’n cael ei chyllido’n iawn a’i chroesawu gan staff llysoedd a’r farnwriaeth, yn gwella cyfiawnder gweithdrefnol i oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr cam-drin domestig yn sylweddol. Byddai’r rôl yn hwyluso, yn atgyfnerthu ac yn ymgorffori’r newidiadau y mae’r llywodraeth wedi ymrwymo iddynt yn ei chynllun gweithredu yn dilyn Adroddiad y Panel Niwed, sef: rhoi datganiad ar arfer cyffredinol newydd ar waith er mwyn “drive cultural change across the system as a whole”; diwygio achosion plant cyfraith breifat yn llwy; cryfhau llais y plentyn; diogelwch a chymorth yn y llys; cyfathrebu, cydgysylltu, parhad a chysondeb; darparu adnoddau; monitro a goruchwylio.[footnote 122] Wrth wneud hynny, byddai Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau a godir dro ar ôl tro gyda’r Comisiynydd, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth o gam-drin domestig yn y system cyfiawnder teuluol a natur aildrawmateiddio achosion.

8.17. Yn bwysig, byddai’r rôl yn helpu i sicrhau bod canfyddiadau blynyddol System Adrodd ac Adolygu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, a ddatblygir mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr, yn sicrhau newidiadau go iawn ar lawr gwlad ym mhob ardal llys. Er mwyn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei rhannu, byddai’r Arweinwyr Arfer Gorau, yn ddelfrydol, yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau mwy o gysondeb gweithredol yn genedlaethol.

Y cyllid sydd ei angen

8.18. Mae Cymru a Lloegr wedi’u rhannu’n ardaloedd Barnwr Teulu Dynodedig ac mae Barnwyr Teulu Dynodedig yn arwain y Llys Teulu ac yn rheoli ei lwyth gwaith ym mhob ardal. Mae gan bob ardal Barnwr Teulu Dynodedig Lys Teulu Dynodedig, sef prif leoliad y llys teulu ar gyfer yr ardal Barnwr Teulu Dynodedig honno. Dyma’r lleoliad y caiff yr holl geisiadau teulu o’r ardal Barnwr Teulu Dynodedig honno eu hanfon iddo i’w hystyried yn y lle cyntaf cyn cael eu pennu ar gyfer gwrandawiadau. Ar hyn o bryd ceir 43 o Lysoedd Teulu Dynodedig sy’n cael ceisiadau cyfraith teulu breifat. Fodd bynnag, mae gan rai Llysoedd Teulu Dynodedig sawl man mynediad ar gyfer ceisiadau oherwydd ffactorau daearyddol neu lwyth gwaith. (Er enghraifft, yn achos ardal Llys Teulu Dynodedig Portsmouth mae tri man mynediad, sef: Portsmouth, Southampton a Basingstoke; yn achos ardal Canolfan Deulu Ddynodedig Bryste y mannau mynediad yw Bryste a Chaerloyw.) Mae cyfanswm o 52 o fannau mynediad ar gyfer achosion plant cyfraith breifat yng Nghymru a Lloegr.[footnote 123] Mae llwythi achosion gwahanol Lysoedd Teulu Dynodedig yn amrywio’n fawr: yn chwarter cyntaf 2022 (mis Ebrill i fis Mehefin) roedd llwythi achosion Llysoedd Teulu o achosion newydd a gafwyd yn ystod y chwarter hwnnw gan Lysoedd Teulu Dynodedig yn amrywio o 101 i 716, gyda chanolfannau trefol yn cael cryn nifer o achosion (gan gynnwys Llundain lle nad oes ond tri Llys Teulu Dynodedig (Canol, Dwyrain a Gorllewin) yn cael holl geisiadau Llundain.)[footnote 124]

8.19. Felly, awgrymwn y dylai fod o leiaf un Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam- drin Domestig ar gyfer pob un o’r 52 o fannau mynediad ar gyfer achosion cyfraith teulu breifat yng Nghymru a Lloegr ac o leiaf ddau Arweinydd ar gyfer mannau mynediad â niferoedd uwch megis Llundain.

8.20. Petai pob Arweinydd Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig yn costio £60,323 (sef cyfanswm y gost staffio gyfartalog ar gyfer rôl ym Mand B (yn cyfateb i SEO) gan gynnwys costau cyflog a chostau tâl eraill)[footnote 125] a’n bod yn amcangyfrif bod angen 1.5 Arweinydd ar gyfer pob un o’r 52 o fannau mynediad, byddai angen £4,705,194.

Argymhelliad 2

Dylai’r llywodraeth sefydlu rôl newydd o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, sef Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig ym mhob ardal Llys Teulu, a darparu cyllid priodol ar gyfer y rôl honno. Dylai’r rôl hon ysgogi’r newid diwylliannol a argymhellir gan y Panel Niwed, drwy wneud y canlynol:

  • gwella cydymffurfiaeth â rheolau a chanllawiau allweddol;
  • gwella prosesau cyfathrebu â phartïon a gwasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol;
  • hwyluso adborth;
  • gwella dealltwriaeth o gam-drin domestig yn y llys, gan gynnwys y problemau a’r rhwystrau penodol a wynebir gan ddioddefwyr a goroeswyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr;
  • llywio arferion gorau er mwyn sicrhau system cyfiawnder teuluol sy’n ystyriol o drawma;
  • llywio dull gweithredu cenedlaethol mwy cyson yn weithredol, y mae’n rhaid iddo ddarparu ar gyfer paramedrau y gellir nodi anghysondebau o’u mewn er mwyn ysgogi hyfforddiant priodol ac atebolrwydd.

Adran 2: Llysoedd Braenaru

8.21. Mae Llysoedd Braenaru Peilot yng Ngogledd Cymru a Dorset wedi’u sefydlu er mwyn gwella prosesau rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau megis yr heddlu, awdurdodau lleol a’r llysoedd; darparu cymorth gwell a sicrhau canlyniadau mwy diogel i blant ac oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr; cyflwyno dull datrys problemau sy’n rhoi lle canolog i’r plentyn.[footnote 126] Maent wedi bod yn delio ag achosion cyfraith teulu breifat ers dechrau 2022. Tra ein bod yn aros i werthusiadau ffurfiol gael eu cynnal, mae adborth cadarnhaol iawn wedi’i dderbyn ar gyfer pob safle. Mae’r Comisiynydd wedi cael adborth gwych a chyson ar ffurf canmoliaeth gan bartïon mewn achosion, staff llysoedd ac aelodau o’r farnwriaeth.

8.22. Mae’r ganmoliaeth a roddwyd i’r llysoedd arbenigol i’w phriodoli’n bennaf i’r canlynol:

  • Cyfarwyddiadau ymarfer newydd sy’n darparu ar gyfer asesu’r effaith ar blant ynghynt o gymharu â llysoedd cenedlaethol;

  • Y ffaith bod adroddiad ar effeithiau sy’n canolbwyntio ar y plentyn ar gael yn gynharach ym mhroses y llys;

  • Asesiadau newydd o gam-drin domestig fel rhan o adroddiad cychwynnol a ddefnyddir i nodi graddau’r cam-drin domestig mewn achosion

  • Presenoldeb a chymorth swyddogion hynt achosion sy’n darparu ar gyfer cymorth parhaus ac yn helpu i reoli achosion cymhleth yn effeithiol

  • Cysylltiadau cryf â sefydliadau cam-drin domestig arbenigol sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol a chymorth cyfeirio.

8.23. Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod llawer o’r ganmoliaeth a roddwyd i’r Llysoedd Braenaru i’w phriodoli i’r dull llai gwrthwynebus o ymdrin ag achosion cyfraith teulu breifat, gyda phwyslais ar y plentyn a dull o ymdrin ag achosion sy’n ystyriol o gamdriniaeth. At hynny, mae darparu cymorth cyfannol i bartïon yn ystod achosion hefyd wedi bod yn fuddiol iawn o ran lleihau’r straen sy’n gysylltiedig â’r Llys Teulu ar gyfer teuluoedd. Roedd y pwyslais ar ddull mwy ymchwiliol o ymdrin ag achosion plant cyfraith teulu breifat yn un o argymhellion yr Adroddiad Niwed ac mae wedi bod yn effeithiol o ran lleihau lefelau straen mewn achosion a chefnogi pob parti.

Argymhelliad 3

Mae’r adborth ar y Llysoedd Braenaru wedi bod yn gadarnhaol iawn ac maent wedi bod yn effeithiol wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig a chyflawni uchelgeisiau Deddf Cam-drin Domestig 2021. Felly, mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddatblygu a chyflwyno cynllun uchelgeisiol i gyfuno’r gwersi gorau a ddysgwyd o’r Llysoedd Braenaru, yn ogystal ag o arferion lleol da mewn mannau eraill yng Nghymru a Lloegr, ac yn rhyngwladol er mwyn llywio arferion, darpariaeth a gwaith datblygu polisi yn y dyfodol.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn argymell y dylid darparu adnoddau priodol ar gyfer Llysoedd Braenaru fel rhan o ymdrechion ehangach i’w cyflwyno’n genedlaethol. Mae hyn yn adlewyrchu gallu’r llysoedd hyn i fynd i’r afael yn effeithiol â cham-drin domestig oherwydd eu harbenigedd, eu dulliau sy’n ystyriol o gamdriniaeth a’u dull o ymdrin ag achosion sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

9. Pennod 6: Rhoi Lle Canolog i Lais y Plentyn

9.1. Ar sail gweithgarwch ymgysylltu’r Comisiynydd â dioddefwyr a goroeswyr, ymarferwyr a’r sector cam-drin domestig arbenigol, mae’n amlwg bod rhoi lle canolog i’r plentyn a sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed mewn ffordd ystyrlon yn flaenoriaeth gyffredinol.

9.2. Mae Diweddariad ar Gyflawni y Panel Niwed yn dangos amrywiaeth o weithgarwch sydd wedi digwydd i roi mwy o lais i’r plentyn mewn achosion plant cyfraith breifat ac mae hyn i’w groesawu.[footnote 127] Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Sicrhau bod dymuniadau a barn plant wrth wraidd cynllun peilot y Dull Ymchwiliol;

  • Mae Cafcass Cymru wedi creu secondiad dwy flynedd ar gyfer Rheolwr Newid y Panel Niwed yn ogystal ag adolygu ei gyfres o adnoddau ymarfer a dulliau ymgysylltu ac mae wrthi’n eu datblygu ymhellach, er mwyn sicrhau prosesau ymgysylltu gwell fyth â phlant a phob ifanc;

  • Sefydlodd Cafcass Fwrdd Dysgu a Gwella er mwyn ystyried goblygiadau adroddiad y Panel Arbenigol a chyhoeddodd ei Gynllun Dysgu a Gwella ar gyfer Cam-drin Domestig ym mis Mehefin 2021, gydag adolygiad 12 mis o gynnydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2022. Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran camau gweithredu yn cynnwys lansio Llwybr Arferion ym maes Cam-drin Domestig newydd a chanllawiau er mwyn helpu Cynghorwyr Llysoedd Teulu i weithio gyda phlant a theuluoedd y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

  • Mae’r Grŵp Cynghori ar Gyfraith Breifat wedi cwmpasu gwaith i ddeall ac ystyried beth arall sydd angen digwydd er mwyn sicrhau bod plant yn cymryd mwy o ran mewn achosion cyfraith breifat, gan gynnwys yr hyn y gallai fod yn bosibl ei brofi yng nghynlluniau peilot y Llysoedd Braenaru ar gyfer y Dull Ymchwilio yn Dorset a Gogledd Cymru.

9.3. Fodd bynnag, drwy ei gweithgarwch ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni fynd ymhellach o ran cryfhau llais y plentyn oherwydd yr amrywiaeth o bryderon a godwyd ym Mhennod 2. Mae’r Comisiynydd wedi dwyn ynghyd ddyletswyddau cadarnhaol perthnasol i ddiogelu plant drwy lunio fframwaith sy’n canolbwyntio ar y plentyn a fydd yn gymwys i achosion cyfraith teulu breifat lle ceir honiadau o gam-drin domestig. Mae’r fframwaith hwn wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar arferion gorau yn y DU ac UDA er mwyn manteisio ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud gan y Llys Teulu.

Felly, mae’r tair egwyddor ganlynol yn sefydlu’r fframwaith dyletswydd cadarnhaol. Ar ôl nodi tair egwyddor y Comisiynydd, ystyrir dau fath o honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, o fewn y fframwaith hwn am ei fod yn faes â blaenoriaeth uchel y mae angen mynd i’r afael ag ef ac yn ffocws i’r broblem hon sy’n destun pryder, fel y dangosir gan ohebiaeth goroeswyr

Egwyddor 1: Ystyried Dyletswyddau i Ddiogelu’r Plentyn.

9.4. Mae’r Comisiynydd yn cydnabod yr amrywiaeth o egwyddorion llesiant, ymrwymiadau cyfreithiol a deddfau perthnasol y dylid eu darllen a’u cymhwyso mewn ffordd sy’n sicrhau bod y Llys Teulu yn cynnig y lefel uchaf o ddiogelwch i blant sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig, fel y nodir yn adroddiad y Panel Niwed.[footnote 128] Mae’r Llys Teulu yn rhwym wrth adran 1 o Ddeddf Plant 1989, yn enwedig y rhestr wirio llesiant. Caiff cyfreithiau cenedlaethol eu cefnogi ymhellach gan y fframwaith cyfraith hawliau dynol rhyngwladol,[footnote 129] sef y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn 1989 sy’n diogelu ac yn hyrwyddo hawl y plentyn sydd wedi’i wahanu oddi wrth un rhiant neu’r ddau i gadw perthynas bersonol a chael cyswllt uniongyrchol â’r ddau riant yn rheolaidd, oni fydd hynny’n groes i les pennaf y plentyn (Erthygl 9).

9.5. Fodd bynnag, un o’r agweddau cyffredinol ar fframwaith y Comisiynydd yw’r angen i asesu effaith ymddygiadau camdriniol, gelyniaethus neu reolaethol a wynebwyd gan y goroeswr o ganlyniad i ymddygiad y cyflawnwr. Mae’r Comisiynydd yn ystyried bod yr effaith ddilynol ar y plentyn, o ganlyniad i’r gamdriniaeth a oedd wedi’i hanelu at yr oedolyn sy’n ddioddefwr neu’n oroeswr, yn bodloni trothwy Adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gael ei ystyried yn ddioddefwr y gamdrinaeth yn ei rinwedd ei hun am iddo brofi effeithiau cam-drin domestig yn anuniongyrchol. Rhestrir y niweidiau a’r risg i blant sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig ym Mhennod 2 ac maent yn dangos nad yw’r ddarpariaeth nodedig hon yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd.

Adran 3 Plant fel dioddefwyr cam-drin domestig

  1. Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymddygiad person (“A”) tuag at berson arall (“B”) yn gam-drin domestig.
  2. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf hon at ddioddefwr cam-drin domestig hefyd yn cyfeirio at blentyn—
    • sy’n gweld neu’n clywed y gamdriniaeth neu’n profi ei effeithiau, a
    • (b)  sy’n perthyn i A neu B.
  3. Mae plentyn yn perthyn i berson at ddibenion is-adran (2)—
    • (a)  os yw’r person yn rhiant i’r plentyn neu os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano, neu
    • os yw’r plentyn a’r person yn perthyn i’w gilydd.
  4. Yn yr adran hon—
    • ystyr “plentyn” yw person o dan 18 oed;
    • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf Plant 1989 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno);
    • mae i “perthynas” yr ystyr a roddir gan adran 63(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

9.6. Mae’r Comisiynydd yn annog rhoi cydnabyddiaeth fwy penodol i Adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ochr yn ochr â’r egwyddorion llesiant, yr ymrwymiadau cyfreithiol a’r deddfau perthnasol wrth ystyried achosion cyfraith teulu breifat sy’n cynnwys honiadau o gam-drin domestig. Mae’r egwyddorion pellach a nodir yn y Bennod hon yn gweithio i helpu’r Llys Teulu i ymateb i honiadau o gam-drin domestig yn fwy effeithiol ac, felly, gyflawni’r egwyddor llesiant ac uchelgeisiau ewyllys y Senedd wrth gynnal Deddf Cam-drin Domestig 2021.

Egwyddor 2: Archwiliad sy’n canolbwyntio ar y plentyn o honiad o gam-drin domestig.

9.7. Pan wneir honiad o gam-drin domestig, dylai’r Llys Teulu oedi ac yna gymryd yr amser priodol sydd ei angen i ymchwilio i’r honiad. Ar hyn o bryd, byddai’r gyfraith yn mynnu bod hyn yn digwydd petai cadarnhau cam-drin domestig yn berthnasol i’r materion llesiant gerbron y llys, fel y noda Cyfarwyddyd Ymarfer 12J. Mae’r Comisiynydd yn maentumio y bydd cam-drin domestig bob amser yn fater perthnasol mewn perthynas â llesiant y plentyn. Gan fod Deddf Cam-drin Domestig 2021 wedi’i phasio, mae’r Comisiynydd yn disgwyl i adran 3 fod yn ddarpariaeth ddiogelu sylfaenol mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed.

9.8. Dylai ymchwiliad o’r fath gael ei gynnal er mwyn nodi a yw cam-drin domestig yn bresennol a rhoi ymddygiad y plentyn yn ei gyd-destun o fewn y ddealltwriaeth honno. Mae ymarfer ymchwiliol cadarnhaol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, i’w weld yn y Llysoedd Braenaru sy’n gweithio’n agos gydag asiantaethau cam-drin domestig arbenigol ac mae’n sicrhau bod asiantaethau yn cydweithio’n agos â’i gilydd. Awgrymir bod elfennau ymarfer ymchwiliol fel a ganlyn:

a) Rhaid i’r Llys Teulu weithio i nodi a oes cyd-destun a phresenoldeb hanesyddol o gam-drin domestig er mwyn cyd-destunoli ymddygiad y plentyn, a allai helpu i adnabod y cyflawnwr a’r oedolyn sy’n ddioddefwr neu’n oroeswr.

b) Rhaid i honiadau bod plentyn yn gwrthwynebu cyswllt gael eu cadarnhau yn gyntaf er mwyn nodi a yw plentyn (i) yn gwrthwynebu cyswllt mewn gwirionedd neu (ii) a yw ymateb y plentyn i’w briodoli i gamdriniaeth o’r fath. Ni ddylid ystyried bod methiant i gadarnhau cam-drin domestig drwy (1) yn golygu nad yw cam-drin domestig yn bresennol.

c) Er mwyn sicrhau bod unrhyw ddyletswydd tuag at y plentyn fel dioddefwr cam-drin domestig yn cael ei nodi a’i chyflawni, rhaid ystyried i ba raddau y mae’r plentyn yn agored i niwed. Dylai hyfforddiant sy’n ystyriol o gamdriniaeth ymdrin â’r holl ffyrdd y mae plant yn dangos arwyddion eu bod wedi profi effeithiau uniongyrchol neu anuniongyrchol cam-drin domestig. Drwy fabwysiadu’r dull hwn o weithredu, rhoddir y lefel uchaf o ddiogelwch i’r plentyn a chaiff strategaethau i danseilio dymuniadau a theimladau canfyddadwy plentyn sy’n mynegi amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad, eu diogelu’n briodol.

d) Rhaid trin ymchwiliadau i’r ffordd y mae plant yn cael eu defnyddio fel arf mewn achosion cyfraith teulu breifat yn ofalus a chraffu arnynt yn drylwyr, o ystyried bregusrwydd y plentyn a’r ffaith bod cam-drin domestig mor gyffredin mewn achosion cyfraith teulu breifat. [footnote 130]

e) Yng nghyd-destun cam-drin domestig, dylai ymdrechion gan y dioddefwr cam-drin domestig i ymdrin â chyswllt â phlentyn mewn ffordd sy’n sicrhau y perir cyn lleied o ofid â phosibl i’r plentyn, gael eu cydnabod fel rhianta amddiffynnol ac ni ddylid eu camgymryd am ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, mewn achosion o gam- drin domestig.

f) Ni ddylid camgymryd ‘mesurau hunanamddiffynnol’ (ymdrechion gan y dioddefwr cam-drin domestig i amddiffyn ei lesiant corfforol neu seicolegol ei hun) gael eu camgymryd am amharodrwydd i hwyluso cyswllt rhwng y plentyn a’r rhiant camdriniol.

g) Ni ddylid ymdrin â mesurau hunanamddiffynnol a fabwysiedir gan blentyn, sy’n amlygu eu hunain ar ffurf amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad i gael cyswllt, neu fwy o gyswllt, fel effaith rhiant yn annog, yn cynllunio neu’n cymell ymddygiad o’r fath.

h) Rhaid i fesurau hunanamddiffynnol yn (f) ac (g) uchod gael eu hystyried o safbwynt ymchwiliol sy’n ystyriol o gamdriniaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â’r Llysoedd Braenaru sy’n integreiddio ymwybyddiaeth o hyfforddiant ar gam-drin domestig ar bob lefel er mwyn diogelu plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr yn briodol.

i) Rhaid ystyried effaith uniongyrchol cam-drin domestig ar blentyn. Mae hyn yn ymestyn i, ac yn cynnwys, effaith cam-drin domestig a gyflawnir gan y naill riant yn erbyn y llall, o ran ymddygiadau rhianta.

j) Rhaid i amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad plentyn i gael cyswllt (gweler egwyddor 3), neu fwy o gyswllt, gael ei bennu o fewn y fframwaith o ymateb i gamdriniaeth os cadarnheir bod cam-drin domestig yn bresennol. Nid oes angen i gam-drin domestig ffurfio’r rheswm cyfan dros ymateb plentyn a gellir ystyried ei fod yn rhan ohono.

k) Ceir nifer o resymau dros amharodrwydd, gwrthwynebiad neu wrthodiad plentyn, megis: ymlyniad plentyn wrth brif ofalwr; ofn lleoliad newydd; neu gynnydd sylweddol mewn cyswllt â rhiant a oedd yn absennol yn flaenorol. Rhaid i ymddygiad o’r fath gael ei ddeall o safbwynt sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac ni ddylid dechrau drwy dybio bod un rhiant wedi mynd ati i ddylanwadu’n batholegol ar blentyn neu geisio dieithrio’r plentyn oddi wrth y rhiant arall.

l) Rhaid i dystiolaeth i helpu’r Llys Teulu i ddeall yr uchod gael ei derbyn o gofio bod cam-drin domestig yn gofyn am nodi patrymau ymddygiad. Felly, gall mathau o dystiolaeth fod yn bresennol mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Dylai tystiolaeth sy’n berthnasol i gam-drin domestig a llesiant y plentyn gael ei derbyn a’i hystyried gan y Llys Teulu.

Egwyddor 3: Deall ymgyflwyniad y Plentyn (Gwrthwynebiad, Amharodrwydd, Gwrthodiad).

9.9. Er mwyn arfer egwyddor 2 yn llwyddiannus, rhaid bod dealltwriaeth gynhwysfawr o ymgyflwyniad y plentyn. Mae amrywiaeth o ymatebion y gellir yn rhesymol eu disgwyl gan blentyn pan fydd ei rieni yn gwahanu. Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys beth yw oedran y plentyn, y berthynas sydd rhyngddo â phob rhiant a’r math o berthynas sydd ganddynt a’r patrwm sefydledig o ofal ac amserlen.

9.10. Mae sawl ffynhonnell sy’n annog rhieni sy’n gwahanu i gyfathrebu ac ymdrin â’u plentyn yn sensitif, gan adlewyrchu’r angen i drin plant mewn ffordd sydd wedi’i theilwra at eu cyflwr gwybyddol sy’n datblygu yn ogystal â chydnabod, yn ystod unrhyw ysgariad/newid mewn perthynas, gan gynnwys dynameg nad yw’n gamdriniol, fod rhywfaint o anhawster a straen oherwydd natur y digwyddiad. Gellir yn rhesymol ddisgwyl o hyd i blant ddangos emosiynau negyddol, megis gofid, dicter a rhwystredigaeth pan fyddant yn cael gwybod bod eu rhieni yn gwahanu o dan amgylchiadau nad ydynt yn rhai camdriniol. Gellir ystyried bod y fath adweithiau yn ymatebion naturiol a disgwyliedig i newid mewn sefyllfa ac ni ddylai gofid plentyn sy’n gymesur â’r amgylchiadau fod yn sail i honiad o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir.

9.11. Cred y Comisiynydd fod angen ystyried y fframwaith ieithyddol a ddefnyddir mewn perthynas â phlant yn y Llys Teulu yn ofalus. Mae’r termau canlynol wedi’u mabwysiadu yn ymarferol yn Unol Daleithiau America gan y National Council of Juvenile and Family Court Judges,[footnote 131] ac mae wedi bod yn ddefnyddiol i’r Comisiynydd ar gyfer cwmpasu amrywiaeth o ymddygiadau a ddangosir gan blant:

Model Amharodrwydd – Gwrthwynebiad – Gwrthodiad

Term Diffiniad Enghraifft yn ei chyd-destun
Amharodrwydd Amharodrwydd neu ddiffyg awydd i wneud rhywbeth. Gall fod angen i blentyn gael sicrwydd gan y prif ofalwr neu sicrwydd bod ei deimladau (gan gynnwys teimladau o dawedogrwydd) yn cael eu cydnabod.
Gwrthwynebiad Anghytuno â rhywbeth. Cael eich newid gan rywbeth. Gall plentyn redeg i ffwrdd ar adeg ei drosglwyddo, mynnu ei fod yn anfodlon ar gynigion a cheisio apelio i’w brif ofalwr, oedolion mewn ysgolion neu eraill.
Gwrthodiad Dweud na fyddwch yn gwneud/derbyn rhywbeth. Plentyn yn datgan na fydd yn gwneud y canlynol: aros dros nos, cael cyswllt, derbyn cael ei gasglu gan riant dibreswyl, cymryd rhan mewn galwadau ffôn/fideo.

9.12. Gall yr ymatebion uchod amlygu eu hunain mewn sawl ffordd yn dibynnu ar oedran ac aeddfedrwydd y plentyn a’i allu i ddeall goblygiadau gwneud dewisiadau (ymhlith ffactorau eraill). Mae ieithyddiaeth debyg eisoes yn cael ei defnyddio gan Cafcass a Cafcass Cymru.[footnote 132]

9.13. Mae’n ddefnyddiol nodi bod y Comisiynydd o’r farn bod ieithyddiaeth yn hanfodol i roi sylw priodol i lais y plentyn. Gall y ffordd y cynrychiolir y plentyn drwy iaith gael ei defnyddio i ystumio’r ddealltwriaeth o blentyn, er enghraifft defnyddio’r term ‘gelyniaethus’ drwy’r amser wrth gyfeirio at blentyn. Fodd bynnag, fe’i defnyddir i ddisgrifio plentyn yn y Llys Teulu. Mae’r term ‘gelyniaethus’ yn rhy gyffredinol, nid yw’n ddigon manwl gywir ac nid yw’n ystyried yr amrywiaeth o ffyrdd y gall plentyn ymateb. Mae’r Model Amharodrwydd, Gwrthwynebiad, Gwrthodiad arfaethedig yn symud y ffocws oddi ar ymddygiad plentyn ac yn ystumio ymatebion plant a ddeëllir yn well drwy ddefnyddio iaith sy’n disgrifio ymddygiad gwirioneddol plentyn yn fwy cywir.

9.14. Mae’r Comisiynydd o’r farn mai’r dull mwyaf diwyd o ymdrin â llesiant plant a’u diogelu yw i’r Llys Teulu ystyried plentyn sy’n amharod i gael cyswllt â rhiant ar ôl gwahanu o safbwynt sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n ystyriol o gamdriniaeth, er mwyn sicrhau’r lefel uchaf posibl o ddiogelwch mewn perthynas â cham-drin domestig. Wrth wneud hynny, dylid ystyried y rhestr ganlynol nad yw’n hollgynhwysfawr:

a. y berthynas rhwng pob rhiant a’r plentyn cyn iddynt wahanu;

b. oedran a datblygiad y plentyn (gan gynnwys a yw’n niwrowahanol);

c. ffactorau risg;

d. ymddygiad ac agwedd y rhiant tuag at y prif ofalwr;

e. cam-drin domestig;

f. damcaniaeth ymlyniad plentyn;

g. datblygiad gwybyddol plant;

h. addysgeg plant a chyflwr plant ar wahanol adegau;

i. trawma plentyn;

j. niwroamrywiaeth;

k. natur hollbwysig trefn arferol, amserlenni a chysondeb;

l. effaith anuniongyrchol gweld, clywed neu brofi effeithiau cam-drin domestig (gan gynnwys effaith ar blentyn os yw’r prif ofalwr yn ddioddefwr cam-drin domestig.

9.15. At hynny, rhaid mabwysiadu dull croestoriadol o ystyried goblygiadau ehangach statws economaidd-gymdeithasol, diwylliant, crefydd a statws ymfudo o ran mân wahaniaethau mewn cam-drin domestig ac, felly, yr effaith ar y plentyn.

9.16. Yn unol â dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y plentyn, rhaid ystyried a deall yr holl agweddau ar ddatblygiad ac ymddygiadau plant. Gall ymatebion anffafriol i gyswllt â rhiant amlygu eu hunain drwy’r plentyn yn dangos petruster, gorbyder a/neu ofid yn ystod cyswllt neu wrth ystyried y posibilrwydd o fwy o gyswllt: y mae’n rhaid iddynt oll gael eu deall mewn perthynas â’r plentyn a’r berthynas â’r rhiant. Gall yr ymddygiadau hyn amlygu eu hunain mewn ffyrdd gwahanol, ar gyfer plant gwahanol, a gall plant ddangos ymatebion gwahanol dros amser.

9.17. Mae hefyd angen nodi bod yn rhaid i blant gael eu deall fel plant. Er mwyn i’r Llys Teulu integreiddio llais y plentyn, rhaid i’r llais hwnnw gael ei ddeall mewn perthynas â’r plentyn unigol a’i brosesau meddwl. Mae parchu’r safbwyntiau a fynegir gan blentyn yn allweddol i gydnabod ei bersonoldeb annibynnol ei hun a’i ymreolaeth sy’n datblygu. At hynny, nid yw llais y plentyn o reidrwydd yn llythrennol. Mae hyn yn wir am fabanod, plant bach a phlant di-eiriau, ond gall gael ei fynegi hefyd drwy archwilio sensitif ac ymgysylltu’n briodol â’r plentyn.

Cyd-destun ategol: Nodi’r math o honiad

9.18. Gall camdriniaeth ar ôl gwahanu fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys dulliau sy’n defnyddio plant fel arfer ac yn defnyddio’r Llys Teulu fel cyfrwng i gyflawni nod. Caiff y Llys Teulu ei gyflwyno i amrywiaeth o deipolegau pan wneir honiadau o gam-drin domestig. A siarad yn fras, mae’r Comisiynydd yn clywed am ddau adroddiad yn bennaf, sef:

Honiadau Math I: mae’r camdriniwr yn ceisio tynnu sylw oddi ar gam- drin domestig

Honiadau Math II: mae’r camdriniwr yn defnyddio’r plentyn fel dull gorfodi a rheoli.

Honiadau Math I: mae camdrinwyr yn ceisio tynnu sylw oddi ar gam-drin domestig

9.19. Mewn achosion Math I, mae’r cyflawnwr yn gwneud yr honiad yn erbyn y dioddefwr neu’r goroeswr.

9.20. Fel arfer, mae ceisiadau mewn achosion cyfraith teulu breifat yn ymwneud â sicrhau mwy o gyswllt ar gyfer y rhiant dibreswyl.[footnote 133] Mewn rhai o’r achosion hyn, mae’r plant dan sylw yn dangos arwyddion o amharodrwydd, gwrthwynebiad a/neu wrthodiad wrth ystyried y posibilrwydd o’r canlynol:

a) cyswllt â’r rhiant dibreswyl;

a) mwy o gyswllt â’r rhiant dibreswyl; a/neu

c) gadael eu prif ofalwr.

9.21. Yn achos honiadau Math I, mae cyflawnwr cam-drin domestig yn cyhuddo’r prif ofalwr o fod yn gyfrifol am y ffaith bod plentyn yn dangos gwrthwynebiad, gwrthodiad a/neu amharodrwydd wrth ystyried y posibilrwydd o gyswllt, neu fwy o gyswllt, ag ef. Felly, pan gyflwynir dadl, ac ni waeth pa derminoleg a ddefnyddir, rhaid i’r achos gael ei asesu a’i sgrinio i weld a yw cam-drin domestig yn bresennol drwy broses canfod ffeithiau fwy trylwyr ac effeithiol. Pan fo cam-drin domestig yn bresennol, naill ai yn y berthynas cyn i’r rhieni wahanu neu yn ystod achosion yn y Llys Teulu eu hunain, dylid ystyried bod honiadau Math I yn ddulliau posibl o gamdriniaeth rheoli drwy orfodaeth.

9.22. Gwneir honiadau Math I dan gochl pryder rhiant ac fe’u hategir drwy gyflwyno dadleuon sy’n defnyddio hawliau rhieni sy’n bodoli eisoes. Gall yr honiadau hyn dynnu sylw oddi ar archwiliad priodol o gam-drin domestig lle mae ei angen neu ystumio archwiliad o’r fath. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn amlygu eu hunain fel honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, a ategir gan gymhelliant i gam-drin y rhiant arall neu aflonyddu arno/arni ymhellach, gan dynnu sylw oddi ar ei (h)ymddygiad camdriniol ei hun. Mae honiadau Math I wedi cael cryn dipyn o lwyddiant oherwydd y ffordd y mae cam-drin domestig yn cael ei fychanu yn y Llys Teulu, y gellir ei briodoli i egwyddor ‘o blaid cyswllt’, sy’n adlewyrchu deddfau cenedlaethol a rhyngwladol i annog cysylltiadau rhwng plentyn a’r ddau riant. Mae’r arfer hwn yn peri risg y rhoddir taw ar lais y plentyn.

9.23. O fewn y ddynameg hon sy’n destun pryder, ni roddir digon o sylw i egwyddor 3 yn y Llys Teulu ar hyn o bryd: caiff llais y plentyn ei fychanu; caiff rhianta amddiffynnol (ymdrechion gan y goroeswr, sef y prif ofalwr yn aml, i fabwysiadu dull o ymdrin â chyswllt â phlentyn sy’n peri cyn lleied o ofid â phosibl i’r plentyn) ei gosbi; a rhoddir lle canolog a blaenoriaeth i hawliau’r cyflawnwr mewn achosion plant sy’n ymwneud â cham-drin domestig.[footnote 134] Mae honiadau Math I wedi bod yn effeithiol iawn wrth roi taw ar leisiau plant a dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.[footnote 135] Effaith hyn yw bod diogelwch plant a dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn cael ei beryglu, sy’n annerbyniol ac yn groes i Ddeddf Cam-drin 2021.

9.24. Fel rhan o’i gwaith o ddydd i ddydd[footnote 136], mae’r Comisiynydd wedi’i hysbysu am achosion lle roedd y ddealltwriaeth o gam-drin domestig yn annigonol o ran methu â rhoi digon o sylw i brofiad y plentyn o gam-drin domestig, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn ogystal ag adroddiadau am fethiant i ymdrin â cham-drin domestig yn effeithiol drwy Wrandawiadau Canfod Ffeithiau nad ydynt wedi a) canfod cam-drin domestig na b) ystyried cam-drin domestig y canfuwyd ei fod yn berthnasol i lesiant y plentyn.

9.25. Mewn achosion o’r fath, gall honiad Math I arwain at ddyfarnu cyswllt neu fwy o gyswllt i’r cyflawnwr; gwneud gorchmynion cyswllt sy’n dileu rhwystrau diogelwch; a mynd â phlentyn oddi wrth oroeswr ac yna ei roi yng ngofal rhiant sy’n gyflawnwr, sy’n peri’r pryder mwyaf. Y gall pob un ohonynt fod yn anniogel ac yn erbyn dymuniadau’r plentyn.[footnote 137] Mae’r Comisiynydd yn pryderu nad yw dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y plentyn wedi’i fabwysiadu ac nad yw dealltwriaeth lawn o gam-drin domestig wedi’i dangos.

9.26. Mae’r gorchmynion llys hyn wedi’u hystyried yn angenrheidiol gan y Llys Teulu ar sail ymlyniad cefnogol rhwng y plentyn a’r rhiant sy’n gyflawnwr. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar lesiant a lles y plant, a all, mewn rhai achosion, gael eu dwyn ymaith oddi wrth eu prif ofalwr a’u rhoi yng ngofal cyflawnwr. Mae’n ffordd o gam-drin plentyn ac oedolion sy’n ddioddefwr ar ôl gwahanu ac, felly, mae’n bosibl y cyflwynir honiad Math II i’r llys yn ddiweddarach.

Honiadau Math II: mae’r cyflawnwr yn defnyddio’r plentyn fel dull gorfodi a rheoli.

9.27. Mewn achosion Math II, mae’r dioddefwr neu’r goroeswr yn gwneud honiadau tuag at y cyflawnwr.

9.28. Dengys Model Duluth Post-separation power and control wheel sut y gall ymddygiad cyflawnwyr, gan gynnwys tarfu ar berthnasoedd â phlant, fod yn rhan o batrwm o bŵer a rheolaeth ar ôl gwahanu, fel arfer yng nghyd-destun cam-drin domestig blaenorol yn ystod y berthynas.[footnote 138] Mae’r Comisiynydd Cam- drin Domestig yn cydnabod hyn fel math o gamdriniaeth ar ôl gwahanu.

9.29. Efallai y bydd y Llys Teulu yn gweld honiadau Math II (a) mewn perthynas ag ymddygiad dylanwadol patholegol, sy’n arwain at danseilio’n fwriadol berthynas a arferai fod yn gryf rhwng y plentyn a’i riant (sy’n ddioddefwr neu’n oroeswyr). Er enghraifft, gan ymestyn i’r canlynol, ac yn eu cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: annog y plentyn i frifo’r rhiant nad yw wedi cyflawni camdriniaeth, yn emosiynol ac yn gorfforol; newid dyddiadau cyswllt drwy’r amser er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-daro â diwrnodau pan oedd disgwyl i’r plant ymweld ag aelodau o’r teulu estynedig; defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan y plentyn i darfu ar yr oedolyn sy’n ddioddefwr neu’n oroeswr neu ei reoli.[footnote 139] Mae’r Comisiynydd o’r farn bod y math hwn o gamdriniaeth ar ôl gwahanu yn ymddygiad rheoli drwy orfodaeth ac, felly, yn gyfystyr â cham-drin y plentyn. Dylai paramedrau’r deipoleg hon gael eu datblygu’n ofalus a defnyddio llenyddiaeth a gwaith ymchwil cadarn a chredadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Crynodeb

9.30. Mae’r ddau fath o honiad uchod yn fathau o gam-drin domestig. Er mwyn deall yn llawn gymhlethdodau rheolaeth drwy orfodaeth a cham-drin ar ôl gwahanu, y caniatawyd iddo ffynnu drwy gamddefnyddio honiadau o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, rhaid cael darlun llawnach. Rhaid ystyried a nodi cymhlethdodau’r fath honiadau er mwyn sicrhau y caiff plant ac oedolion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig eu diogelu’n briodol.

Argymhelliad 4

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol weithio gyda’r Comisiynydd er mwyn manteisio i’r eithaf ar waith sy’n mynd rhagddo eisoes, megis y Llysoedd Braenaru, er mwyn atgyfnerthu ymhellach yr ystyriaeth a roddir i lais y plentyn a’r ddealltwriaeth ohono pan godir cam-drin domestig drwy ddefnyddio’r egwyddorion a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Mae’n hanfodol nodi y bwriedir i’r egwyddorion hyn weithredu:

  • O fewn yr argymhellion ehangach a wnaed mewn perthynas â diwygio diwylliant y Llys Teulu;
  • Cyn gynted ag y codir honiadau o gam-drin domestig mewn achosion cyfraith teulu breifat.

Pennod 7: Trosolwg o argymhellion pellach y Comisiynydd ar gyfer newid

Adran 1: Hyfforddiant

Mae’n anodd dod wyneb yn wyneb â phartner camdriniol ac mae’n rhaid i chi sicrhau bod y ddau riant yn teimlo’n ddiogel yn y broses. Os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel yn yr amgylchedd hwnnw, bydd yn effeithio ar ba mor hyderus y gallwch gyflwyno eich tystiolaeth. Er ei bod yn bosibl na fydd y penderfyniad o’ch plaid, mae’n bwysig bod pobl eraill yn gwneud i chi deimlo bod yr hyn rydych wedi’i wneud o werth cyfartal.

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Awst 2021)

9.31. Mae canfyddiadau’r Panel Niwed a gweithgarwch ymgysylltu’r Comisiynydd â dioddefwyr a goroeswyr yn ogystal â gweithwyr cyfiawnder teuluol proffesiynol yn gyson â chanfyddiadau arolwg o weithwyr cyfreithiol proffesiynol y Llys Teulu a gynhaliwyd gan raglen Dispatches ar Channel 4. Nododd yr arolwg fod pedwar o bob pum cyfreithiwr a ymatebodd iddo wedi dweud bod dealltwriaeth ynadon o gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth yn wael neu’n wael iawn, tra bod un o bob tri wedi dweud bod dealltwriaeth Barnwyr Rhanbarth o’r materion hyn hefyd yn wael neu wael iawn.[footnote 140]

9.32. Hefyd, yng nghyfarfodydd bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig, cyfeiriwyd dro ar ôl tro at yr angen i sicrhau gwell dealltwriaeth o gam-drin domestig yn y system cyfiawnder teuluol. Ystyriwyd ei bod yn hanfodol y dylai barnwyr a swyddogion Cafcass ddeall y canlynol yn well:

  • natur rheolaeth drwy orfodaeth;

  • dynameg ryweddol cam-drin domestig;[footnote 141]

  • y tactegau y bydd cyflawnwr yn eu defnyddio i reoli a dominyddu goroeswr;

  • y ffordd y gellir defnyddio ceisiadau i’r Llys Teulu i barhau i gam-drin unigolyn ar ôl gwahanu, gan gynnwys drwy honiadau anwir o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir.

9.33. Tynnodd llawer o’r cyfranogwyr yng nghyfarfodydd bord gron y Comisiynydd sylw at yr angen i lysoedd ddeall profiadau penodol dioddefwyr a goroeswyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr, yn well, yn ogystal â’r rhwystrau ychwanegol y maent yn eu hwynebu wrth geisio cymorth a chael cyfiawnder. Ymhlith y rhwystrau a drafodwyd roedd:

  • diffyg dealltwriaeth o’r ffyrdd gwahanol y gall dioddefwyr a goroeswyr mewn cymunedau gwahanol brofi cam-drin domestig;

  • rhagfarn mewn asiantaethau cyfiawnder teuluol (er enghraifft, holi rhywun am ei statws ymfudo);

  • diffyg cymorth cam-drin domestig arbenigol priodol;

  • mewn perthynas â dioddefwyr a goroeswyr Byddar ac anabl, camganfyddiadau o alluoedd rhianta dioddefwyr a goroeswyr;

  • mewn perthynas â dioddefwyr a goroeswyr gwrywaidd, syniadau ystrydebol am sut y dylai ‘dioddefwr’ edrych.

9.34. Rydym yn deall y bydd y rhan fwyaf o unigolion sy’n gweithio yn y system cyfiawnder teuluol wedi cael hyfforddiant gorfodol ar gam-drin domestig fel rhan o’u rôl. Mae’r Farnwriaeth, Cafcass a Cafcass Cymru wedi datblygu’r hyfforddiant a ddarperir ganddynt ymhellach a’i wella ers i adroddiad y Panel Niwed gael ei gyhoeddi. Mae’r Comisiynydd wedi croesawu’r cyfle i fod yn aelod o Fwrdd Dysgu a Gwella Cafcass a chymryd rhan yn ein gweithgarwch ymgysylltu â Cafcass Cymru, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd i gyfarfod â’r Coleg Barnwrol er mwyn trafod ei gynlluniau hyfforddi ar gyfer barnwyr ar gam- drin domestig.

9.35. Ar hyn o bryd, mae graddau’r hyfforddiant hwn yn amrywio, ac nid oes unrhyw gysondeb rhwng y mathau o hyfforddiant a ddarperir i wahanol asiantaethau ac unigolion sy’n gweithio yn y system cyfiawnder teuluol nac o ran pa mor aml yr ymgymerir â hyfforddiant o’r fath. Er mwyn sicrhau newid diwylliannol hirdymor, mae’n hanfodol bod cyfreithwyr, y farnwriaeth, ynadon, cynghorwyr cyfreithiol ynadon, swyddogion Cafcass a gweithwyr cymdeithasol yn cael hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gyfredol o’r mân wahaniaethau mewn cam-drin domestig a sut y gall amlygu ei hun. Yn benodol, mae angen sicrhau bod ynadon a chynghorwyr cyfreithiol yn cael hyfforddiant digonol, cadarn a thrylwyr, am mai nhw yw’r farnwriaeth mewn llawer o achosion o gam-drin domestig pan fydd ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn cynrychioli eu hunain. Gan nad yw bargyfreithwyr na chyfreithwyr yn cymryd rhan mewn achosion o’r fath, mae eu gallu i ymdrin â cham-drin domestig yn briodol ac yn gywir yn bwysicach fyth.

9.36. Mae gan yr Arglwydd Brif Ustus, Uwch-lywydd y Tribiwnlysoedd a’r Prif Grwner gyfrifoldeb statudol am hyfforddi deiliaid swyddi barnwrol. Caiff y cyfrifoldebau hyn eu harfer drwy’r Coleg Barnwrol. Ers mis Ebrill y llynedd, mae Llywydd yr Is-adran Deulu a Chadeirydd y Coleg Barnwrol wedi arwain adolygiad o hyfforddiant barnwrol ar gam-drin domestig ac, yng ngoleuni cyfraith achosion ddiweddar, yr Adroddiad Niwed a’r Ddeddf Cam-drin Domestig. Cafodd hyn ei groesawu’n fawr gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig.

9.37. Lansiwyd hyfforddiant digidol arbenigol wedi’i ddiweddaru ar gam-drin domestig ym mis Hydref 2021 ar gyfer pob barnwr teulu, gan gynnwys Cofiaduron a Dirprwy Farnwyr Rhanbarth. At hynny, lansiwyd hyfforddiant hanfodol digidol newydd ar gam-drin domestig er mwyn diwallu anghenion ynadon a chynghorwyr ym mis Hydref. Mae hyfforddiant newydd sy’n ymdrin â’r gyfraith achosion ddiweddar, yr Adroddiad Niwed a’r Ddeddf Cam-drin Domestig wedi’i gyflwyno ers mis Ebrill 2022.[footnote 142]

9.38. Mae hwn yn gam da ymlaen ac mae’r Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad y Llywydd a’r Coleg Barnwrol yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae angen parhau i ddarparu hyfforddiant a rhaid i’r Coleg Barnwrol, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill, fod yn dryloyw ynglŷn â’r hyn y mae’r hyfforddiant yn ei gynnwys a’r ffordd y’i cyflwynir er mwyn ennyn ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder teuluol. Byddai’r Comisiynydd yn annog cyhoeddi rhagor o fanylion cyhoeddus am natur yr hyfforddiant; sut y caiff presenoldeb ar y cwrs ei fonitro; a pha hyfforddiant dilynol a ddarperir. Byddai hefyd yn annog cyhoeddi manylion yr hyffforddiant y bwriedir ei ddarparu ar gyfer ynadon teulu.

9.39. Mae cynnydd pellach yn cael ei wneud o ran hyfforddiant i gyfreithwyr teulu. Mae SafeLives yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi ar newid diwylliannol er mwyn sicrhau trawsnewidiad systemig yn y system cyfiawnder teuluol a meithrin gallu ymarferwyr i ymateb yn dda i gam-drin domestig, sy’n cael ei hariannu gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol. Bydd yn uwchsgilio cyfreithwyr teulu i adnabod achosion o gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth a darparu tystiolaeth ohonynt, yn ogystal â nodi effeithiau camdriniaeth a chymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol priodol.[footnote 143] Fodd bynnag, rhaid i ni weld darpariaeth a buddsoddiad mwy cyson ar gyfer hyfforddi ymarferwyr.

9.40. At hynny, dylid helpu gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol i feithrin eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Mae dioddefwyr a goroeswyr wedi tynnu sylw’r Comisiynydd at bwysigrwydd y cymorth a ddarperir gan wasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau o’r fath bob amser yn cael y cyllid na’r ymgysylltiad sydd eu hangen i uwchsgilio eu staff i ddarparu’r ymateb mwyaf effeithiol.

9.41. Ochr yn ochr â hyn, mae gan hyfforddiant amlasiantaethol rôl i’w chwarae o ran meithrin cydweithrediad a dealltwriaeth a rennir yn lleol. Dylai’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol hyrwyddo hyfforddiant rhagorol a dysgu parhaus er mwyn gwella safonau yn gyffredinol.

9.42. Mae’n hanfodol bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn llywio’r Llys Teulu a sicrhau newid diwylliannol ac mae’r sector cam-drin domestig wedi chwarae rôl allweddol dros y blynyddoedd o ran darparu hyfforddiant arbenigol. Er enghraifft, mae rhaglenni Newid Diwylliannol Safelives wedi arwain at welliannau mesuradwy a nodwyd bod yr hyfforddiant ar Faterion Cam-drin Domestig i heddluoedd wedi arwain at gynnydd o 41 y cant yn nifer yr unigolion a arestiwyd am ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.[footnote 144] Yn y cyfamser, nododd gwerthusiad o gynllun peilot SafeLives i weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol plant fod cyfranogwyr yn ystyried bod y rhaglen yn “challenging and thought-provoking experience that would lead to changes in how they think, behave and act,” gan gynnwys newidiadau o ran y ffordd y byddent yn adnabod arwyddion o gam-drin domestig a’u dealltwriaeth o gamau camdriniaeth.[footnote 145] Mae model hyfforddiant newid diwylliannol Safe and Together (a ddefnyddir yn bennaf i hyfforddi gweithwyr cymdeithasol ond a gyflwynwyd yn ddiweddar i hyfforddi barnwyr yn Awstralia) hefyd wedi llwyddo i wella’r ddealltwriaeth o gam-drin domestig mewn systemau a sefydliadau.[footnote 146]

9.43. Hefyd, dylid rhoi ystyriaeth ofalus i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn y safleoedd Braenaru a dylai’r hyn a ddysgir o’r Prosiectau Braenaru, yn ogystal ag enghreifftiau o asiantaethau cyfiawnder teuluol lleol, ac yn rhyngwladol, megis Hyfforddiant Safe and Together yn Awstralia, lywio pecynnau hyfforddiant i bob asiantaeth cyfiawnder teuluol yn y dyfodol.

Argymhelliad 5

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai fod mwy o dryloywder a chysondeb ym mhob rhan o’r system cyfiawnder teuluol , er mwyn sicrhau y darperir rhaglen hyfforddiant newid diwylliannol lawn ar gam-drin domestig. Mae hyn yn cynnwys y farnwriaeth, ynadon, cynghorwyr cyfreithiol ynadon, swyddogion Cafcass a gweithwyr cymdeithasol awdurdodau lleol, yn ogystal â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Dylai goruchwyliaeth hyfforddiant o’r system cyfiawnder teuluol ddod o dan Ganlyniadau Cadarnhaol i Blant y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol. Dylai’r Comisiynydd fynd i gyfarfodydd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol er mwyn trafod hyfforddiant ar gyfer pob asiantaeth a gwasanaeth yn y system cyfiawnder teuluol a chyfrannu at yr hyfforddiant hwnnw.

Argymhelliad 6

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddarparu cyllid ar gyfer hyfforddiant arbenigol ar gam-drin domestig. Dylai’r hyfforddiant hwn gynnwys effaith cam-drin domestig ar oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr; yn hyn o beth, dylai gynnwys o leiaf yr elfennau canlynol y nodwyd eu bod yn hanfodol yn ein cyfarfodydd bord gron:

  • natur rheolaeth drwy orfodaeth;
  • dynameg ryweddol cam-drin domestig;
  • y tactegau y bydd cyflawnwr yn eu defnyddio i reoli a dominyddu goroeswr;
  • y ffordd y gellir defnyddio ceisiadau i’r Llys Teulu i barhau i gam- drin unigolyn ar ôl gwahanu 6).

Dylai’r hyfforddiant gynnwys mewnbwn gan y sector cam-drin domestig arbenigol. At hynny, gellid ei gysylltu â’r Datganiad ar Arfer newydd sy’n cael ei ddatblygu er mwyn cyflawni argymhellion y Panel Niwed ac a fydd yn cwmpasu’r holl asiantaethau a gweithwyr proffesiynol allweddol yn y system cyfiawnder teuluol.[footnote 147] Byddai’r Comisiynydd yn croesawu ymgysylltiad parhaus gan bob asiantaeth cyfiawnder teuluol berthnasol, yn enwedig y Coleg Barnwrol a Cafcass mewn perthynas â hyfforddiant.

Adran 2: Cymorth llys

9.44. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod achosion yn deg ac yn gyfiawn, rhaid galluogi dioddefwyr a goroeswyr i gymryd rhan yn effeithiol drwy ddarparu cymorth hollbwysig nad yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhan 1: Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig

Mae datgysylltiad rhwng yr hyn y mae goroeswr yn ei ddisgwyl, yr hyn y mae’r llys yn ei gyfarwyddo a’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd o fewn y broses…Cafodd fy merch ei dwyn oddi wrthyf dros nos bron ac ni chefais unrhyw gymorth eirioli nac unrhyw un i’m tywys drwy’r profiad

Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig a gymerodd ran yn nhrafodaeth bord gron y Comisiynydd Cam-drin Domestig ynghylch y Llys Teulu (Medi 2021)

9.45. Cyn mis Ebrill 2023, roedd dwy broblem yn gysylltiedig â gallu dioddefwyr a goroeswyr i gael cymorth llys, sef: (1) gallu cyfyngedig dioddefwyr a goroeswyr i gael Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol ar gyfer y Llys Teulu neu arbenigwyr cam-drin domestig arbenigol a (2) y ffaith nad oedd cymorth o’r fath yn cael mynd i mewn i’r llys.

9.46. Ar 6 Ebrill 2023, rhoddwyd caniatâd i Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig fynd i mewn i’r Llys Teulu er mwyn rhoi cymorth hollbwysig i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn ystod achosion, fel y nodir yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 27C o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu.[footnote 148] Mae hyn yn gam mawr ymlaen a sicrheir cymorth hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr o ganlyniad i hynny.

9.47. Ym mis Hydref 2021, cyn cyhoeddi’r Cyfarwyddyd Ymarfer, nododd Llywydd yr Is-adran Deulu:

To my mind, there are unlikely to be many cases where it is appropriate to refuse a party’s application to be supported by an IDVA at a hearing. In like manner to an application for special measures, a request for an IDVA should almost invariably be granted. The IDVA is simply in the room as a supporter to enable the party to participate effectively in the proceedings. In addition, specialist support can be essential where the party is a victim of abuse and where plans for their safety, both in and outside the courtroom, must be made.[footnote 149]

9.48. Nododd gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Comisiynydd, ac a wnaed gan SafeLives, na chafodd mwy na 70 y cant o ddioddefwyr cam-drin domestig gymorth arbenigol ffurfiol drwy’r Llysoedd Teulu ac, o blith y dioddefwyr a’r goroeswyr hyn, nad oedd bron i 90 y cant yn ymwybodol bod cymorth ar gael. [footnote 150] Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai cymorth arbenigol yn y llys yw’r ateb mwyaf cyffredin a roddwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr pan ofynnwyd iddynt nodi beth fyddai’n gwella eu profiadau o fynd drwy’r llys.[footnote 151] Prin iawn yw’r Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol ar gyfer y Llys Teulu a’r arbenigwyr cam-drin domestig cymunedol oherwydd y diffyg cyllid arbenigol ar gyfer y rolau hyn. Bydd cynghorwyr sy’n rhoi cymorth cyffredinol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn cefnogi cleientiaid drwy achosion yn y Llys Teulu pan fydd eu contract a’u hamser yn caniatáu hynny, ond fel arfer dim ond er mwyn gweithio gyda chleientiaid am gyfnodau byr o amser y maent yn cael eu hariannu.

9.49. Er bod Cyfarwyddyd Ymarfer 27C yn gosod sail ardderchog i’r Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig allu cefnogi’r dioddefwr a system ehangach y Llys Teulu â’i arbenigedd, mae cyllid digonol yn hanfodol i lwyddiant y Cyfarwyddyd Ymarfer.

9.50. Fel y dangosir yng ngwaith ymchwil SafeLives, roedd y cymorth a ddarparwyd gan Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig cyffredinol i gleientiaid yn para am 14 wythnos (o gymharu â 12 wythnos yn 2019),[footnote 152] o gymharu ag achosion yn y Llys Teulu a all bara am flynyddoedd. Gan fod Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig yn canolbwyntio ar achosion risg uchel fel arfer, erbyn i achos gyrraedd y Llys Teulu, mae’n bosibl na fydd y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig sy’n darparu cymorth cyffredinol yn gweithio gyda’r goroeswr hwnnw mwyach. Fodd bynnag, gwyddom fod gwrthdaro ynghylch cyswllt â phlentyn yn peri risg[footnote 153] ac, felly, mae’n bosibl y bydd achosion a oedd wedi’u rheoli’n llwyddiannus ar lefel risg ‘safonol’ yn gwaethygu pan fyddant yn cyrraedd y Llys Teulu. Fel y nodwyd yn adroddiad Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr, ‘Nineteen Child Homicides’, mae hyn yn rhywbeth nad yw’n cael ei ddeall gan asiantaethau bob amser.[footnote 154] At hynny, mae’n bosibl na fydd Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig nodweddiadol mewn lleoliadau cymunedol bob amser yn y sefyllfa orau i eirioli yn y llys teulu ac y bydd angen rôl fwy arbenigol. Nid yn unig y gallai goroeswr gael ei symud ymlaen o’i Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig cymunedol i gymorth tymor hwy (hyd yn oed pan allai’r Llys Teulu gynyddu’r risg unwaith eto) ond gallai fod gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig cymunedol cyffredinol lai o gyswllt â system y Llys Teulu.

9.51. Gwyddom fod meithrin cydberthnasau â sefydliadau a deall cymhlethdodau prosesau a gweithdrefnau yn ofynion allweddol ar gyfer eiriolaeth effeithiol ac mae’n bosibl na fydd Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig cymunedol yn rhyngweithio â’r Llys Teulu yn rheolaidd. Felly, bydd Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol dynodedig yn deall cymhlethdodau achosion yn well a sut mae’r llysoedd yn gweithio yn eu hardal a bydd ganddo ddealltwriaeth dda o’r ffordd y gall achosion gynyddu’r risg i ddioddefwyr a goroeswyr.

Beth yw rôl Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig ar gyfer y Llys Teulu neu weithiwr cymorth cam-drin domestig?

Diben Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig mewn llysoedd, neu weithwyr cymorth a ddarperir gan wasanaethau ‘gan a thros’ arbenigol, yw darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sy’n mynd drwy’r Llysoedd Teulu a’r broses cyfiawnder troseddol lle mae cyhuddiadau wedi’u dwyn yn erbyn y cyflawnwr. Mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol ar gyfer y Llys Teulu yn deall proses y llys teulu, yn helpu i esbonio’r broses hon i ddioddefwyr a goroeswyr ac yn meithrin cydberthnasau â staff llys er mwyn iddynt allu cydgysylltu â nhw, gofyn am fesurau arbennig neu ddehonglwyr lle y bo’u hangen a bwydo i mewn i asesiadau risg sy’n cael eu cynnal gan Cafcass a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol plant. Yn fwy cyffredinol, gallant ddarparu cymorth cofleidiol i ddioddefwyr a goroeswyr, drwy wneud atgyfeiriadau at asiantaethau a gwasanaethau cymorth therapiwtig. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 27C a gyflwynwyd yn ddiweddar wedi sicrhau bod ganddynt fynediad i’r Llys Teulu.

Bydd y safleoedd Braenaru hefyd yn helpu i ddiffinio’r ddwy agwedd ar rôl gwasanaethau cam-drin arbenigol, sef: yr asesiad fel rhan o’r adroddiad cychwynnol; y cymorth a ddarperir.

Maent yn gyfrifol am helpu dioddefwyr a goroeswyr i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus yn y llys er mwyn iddynt allu rhoi eu tystiolaeth orau a theimlo eu bod yn fwy abl i ymdopi ag achosion. Maent hefyd yn gyfrifol am helpu i gadw dioddefwyr a goroeswyr yn gorfforol ddiogel: er enghraifft, er mwyn sicrhau y gall dioddefwyr a goroeswyr fynd i’r llys heb daro ar y cyflawnwr.

Mae’n arbennig o bwysig y gall dioddefwyr a goroeswyr â nodweddion gwarchodedig a/neu statws mudwr droi at weithiwr cymorth arbenigol sy’n deall eu hanghenion (a ddarperir, yn ddelfrydol, gan sefydliad ‘gan a thros’ arbenigol), er mwyn helpu i leihau’r trawma a achosir gan broses y Llys Teulu.[footnote 155]

Mae rôl Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig yn arbennig o bwysig am na all llawer o ddioddefwyr a goroeswyr gael cyfreithiwr oherwydd trothwyon cymorth cyfreithiol uchel a, hyd yn oed pan allant wneud hynny, am nad oes gan lawer o gyfreithwyr ddealltwriaeth dda o gam-drin domestig. Nid yw Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig yn cymryd lle cyngor cyfreithiol ond gallant helpu dioddefwyr a goroeswyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Argymhelliad 7

Dylai gweithiwr cymorth cam-drin domestig arbenigol fod ar gael i bob goroeswr sy’n mynd drwy’r Llys Teulu. Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ystyried opsiynau i fuddsoddi yn y rolau hyn at ddibenion cyflawni’r rôl yn ogystal â datblygu’r rôl yn broffesiynol.

Ni ddylai hyn fod ar draul cyllid cyffredinol gwasanaethau cymunedol. Dylid hefyd ystyried yr angen i beidio â gosod baich ychwanegol ar awdurdodau lleol. Yn hytrach, mae angen cyllid arbenigol hirdymor ychwanegol sydd wedi’i glustnodi er mwyn darparu’r Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol hyn neu weithwyr cymorth arbenigol eraill. Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ystyried yr hyn a ddysgwyd o’r Llysoedd Braenaru er mwyn gwella darpariaeth.

Rhan 2: cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys

9.52. Daeth y darpariaethau gwahardd croesholi a geir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 i rym ar 21 Gorffennaf 2022 ac maent wedi gwahardd croesholi gan ddiffynnydd ym mhob achos teuluol yn dechrau o’r un dyddiad.[footnote 156] Yr amcan oedd atal y dioddefwr rhag cael ei aildrawmateiddio wrth gael ei groesholi gan ei gamdriniwr.

9.53. Er mwyn rhoi’r gwaharddiad ar groesholi ar waith, sefydlodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys. Mae’r cynllun yn gofrestr o ymarferwyr cyfraith teulu priodol a all groesholi mewn achosion teuluol.[footnote 157] Penodir Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys ar gyfer y dioddefwr a’r cyflawnwr o dan amgylchiadau lle nad yw’r naill barti na’r llall yn cael ei gynrychioli ac mae angen cynnal gwrandawiad â thystiolaeth.

9.54. Rydym ar ddeall nad yw cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys wedi cael fawr o lwyddiant oherwydd y cyfraddau tâl isel, a waethygir gan y ffaith na all eiriolwyr sy’n Gynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys adennill costau teithio na threuliau rhesymol eraill. Mae hyn yn golygu, i bob pwrpas, bod y cynllun yn ddiwerth mewn rhannau mwy anghysbell o Gymru a Lloegr oherwydd gall costau teithio ffurfio rhan sylweddol o’r gydnabyddiaeth ariannol neu fod yn fwy na’r gydnabyddiaeth ariannol hyd yn oed. Dangosir hyn gan y prinder Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys yn genedlaethol a’r ffaith bod y rhai sydd wedi ymuno â’r cynllun yn ei adael oherwydd y gyfradd tâl wael.

9.55. Lle na cheir unrhyw Gynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys, rhaid i farnwyr groesholi, sy’n rhoi mwy o bwysau ar adnoddau prin y farnwriaeth. Mae’r Comisiynydd yn annog y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddarparu adnoddau digonol ar gyfer cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys effeithlon, effeithiol a phriodol.

Argymhelliad 8

Dylid darparu adnoddau llawn a phriodol ar gyfer cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys er mwyn sicrhau y caiff ei roi ar waith yn effeithiol.

Roedd cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys yn fesur blaenllaw yn Neddf Camdrin Domestig 2021 ac mae’n canolbwyntio ar y dioddefwr a’r llys. Fodd bynnag, er ei bod yn amlwg bod angen y cynllun, nid yw wedi cael fawr o lwyddiant, sydd i’w briodoli, yn ôl pob tebyg, i’r cyfraddau tâl isel, a waethygir gan y ffaith na all eiriolwyr sy’n Gynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys adennill costau teithio na threuliau rhesymol eraill.

Rhan 3: Cymorth cyfreithiol

Ceisiadau mynych a all achosi cryn dipyn o straen a dinistrio bywyd yn ariannol.

Ymarferydd Cyfraith Teulu, arolwg ymarferwyr 2023 y Comisiynydd Cam-drin Domestig

Achosion yn cael eu dwyn gan ymgyfreithwyr drostynt eu hunain y mae’n amlwg eu bod yn gyflawnwyr. Maent yn aml yn oddefol ymosodol, yn gwrthod cyfaddawdu, yn afresymol ac ati. Anaml y maent yn agored elyniaethus, ar y cyfan, gan barhau â chamdriniaeth sy’n llawer mwy cynnil.

Ymarferydd Cyfraith Teulu, arolwg ymarferwyr 2023 y Comisiynydd Cam-drin Domestig

9.56. Yn arolwg y Comisiynydd o ymarferwyr cyfraith teulu, pan ofynnwyd i weithwyr proffesiynol nodi pa rai o’r canlynol, os oedd rhai o gwbl, yr oeddent yn ystyried eu bod yn feysydd sydd angen eu gwella mewn achosion cyfraith breifat (gweler y fethodoleg am restr), argaeledd cymorth cyfreithiol oedd yr ateb mwyaf cyffredin o bell ffordd gyda bron i wyth o bob 10 ymarferydd yn cytuno â’r gosodiad hwn.

9.57. Dengys canfyddiadau ein harolwg cenedlaethol diweddar o oroeswyr fod y Llys Teulu yn fater pwysig iawn i ddioddefwyr a goroeswyr, gyda 69 y cant yn nodi eu bod am gael cymorth neu gyngor cyfreithiol ar gyfer achosion Llys Teulu o gymharu â 42 y cant a oedd am gael cymorth neu gyngor cyfreithiol ar gyfer achosion llys troseddol.[footnote 158] Yn anffodus, nid yw’r dymuniad i gael cymorth o’r fath yn cael ei ateb â darpariaeth am fod diffyg cymorth llys megis Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys a gweithwyr cymorth arbenigol eraill,[footnote 159] a phrinder cynrychiolwyr cyfreithiol.[footnote 160]

9.58. Cymorth cyfreithiol yw’r cyfle i gael arian cyhoeddus a roddir gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i unigolion er mwyn helpu i dalu am gyngor cyfreithiol, gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd a chynrychiolaeth yn y llys. Gall cymorth cyfreithiol dalu rhai o gostau cyfreithiol parti neu ei holl gostau cyfreithiol. Ers 2010, mae gwariant blynyddol ar gymorth cyfreithiol wedi lleihau’n sylweddol, gyda lleihad net o 35 y cant mewn gwariant rhwng 2010 a 2020 o £2.6 biliwn i £1.7 biliwn.[footnote 161] Gwnaeth cyflwyno Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 newid cwmpas cymorth cyfreithiol teuluol, sy’n golygu na all cyfranogwyr gael cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion cyfraith teulu breifat ac eithrio rhai eithriadau.[footnote 162] Er bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gymwys, mewn egwyddor, i gael cymorth cyfreithiol o dan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, mae’r Ddeddf wedi’i gwneud yn fwy anodd i gael y cymorth hwn oherwydd prawf modd cyfyngol.

Mae’r terfyn uchaf ar gyfer cael cymorth cyfreithiol mor isel fel bod yn rhaid i bron pob menyw sydd â swydd ariannu ei chostau cyfreithiol ei hun… Mae hyn yn creu sefyllfa lle mae ar fenywod sydd wedi cael eu cam-drin ofn colli eu plant, maent yn ofni eu partner ac maent yn cael eu trawmateiddio gan y syniad o orfod delio â’r llys ar eu pen eu hunain, heb gyngor, cynrychiolaeth nac arweiniad.

Gohebiaeth oddi wrth ddioddef/goroeswr cam-drin domestig at y Comisiynydd Cam- drin Domestig

9.59. Mae’r broses o wneud cais am gymorth cyfreithiol yn gymhleth ac mae’n gofyn i ddioddefwyr a goroeswyr ddarparu tystiolaeth helaeth o’u sefyllfa ariannol, gan gynnwys copïau gwreiddiol o basbortau, slipiau cyflog, cyfriflenni banc a chostau tai. Mae Canllawiau’r Arglwydd Ganghellor ar benderfynu ar gymhwystra ariannol i gael gwasanaethau Gwaith a Reolir a Chyfryngu Teuluol (Ebrill 2021) yn cynnwys 43 o dudalennau ac mae’r canllawiau ar benderfynu ar gymhwystra ariannol i gael gwasanaeth gwaith ardystiedig yn cynnwys 137 o eiriau. Efallai y bydd llawer o ddioddefwyr a goroeswyr yn ei chael hi’n anodd deall cymhlethdod y canllawiau ac y cânt eu hatal rhag gwneud cais neu, yn wir, rhag deall eu bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, os oes unrhyw elfen annarferol i’w sefyllfa ariannol. Mae hefyd yn anodd iawn darparu gwybodaeth a/neu ddogfennau ychwanegol a/neu atodol, yn enwedig pan allai eu pasbortau fod wedi cael eu cymryd oddi arnynt gan gyflawnwr neu os cyfyngwyd ar fynediad at eu cyfrifon banc neu gyd-asedau yn ystod eu perthynas. Felly, mae’r broses bresennol o wneud cais am gymorth cyfreithiol yn rhwystr rhag cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a’u plant.

9.60. Mae’r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol wedi’i rannu’n dair elfen wahanol, sef: incwm gros; incwm gwario; cyfalaf defnyddiadwy.[footnote 163] Os methir unrhyw un o’r profion hyn, gwrthodir rhoi cyllid cymorth cyfreithiol. Mae’n anodd bodloni trothwy’r prawf modd ac, fel y dengys adroddiad diweddar gan Surviving Economic Abuse,[footnote 164] mae’n gweithredu fel rhwystr rhag cyfiawnder i’r unigolion hynny na allant fforddio talu am eu cynrychiolaeth gyfreithiol eu hunain, am y rhesymau canlynol:

  • Nid yw trothwy’r prawf incwm y mae’n rhaid i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ei fodloni, wedi’i adolygu ers dros 10 mlynedd ac nid oes unrhyw addasiad wedi’i wneud er mwyn darparu ar gyfer newidiadau i’r cyflog canolrifol cenedlaethol yn ystod y cyfnod hwn. Mae gwaith ymchwil a wnaed gan Gymdeithas y Cyfreithwyr wedi dangos bod pobl ag incwm sydd eisoes rhwng 10 y cant a 30 y cant yn llai na’r isafswm incwm yn methu â chael cymorth cyfreithiol.[footnote 165]

  • Nid yw’r asesiad o incwm gwario wedi’i addasu er mwyn darparu ar gyfer newidiadau mewn costau tai a gofal plant ac nid yw’n adlewyrchu gwariant hanfodol arall megis costau teithio.[footnote 166] Gan nad oes gan y rhan fwyaf o ddioddefwyr a goroeswyr sy’n ennill y cyflogau hyn fawr ddim incwm gwario, nid oes gan lawer ddim dewis ond cynrychioli eu hunain a gweithredu fel ymgyfreithwyr drostynt eu hunain mewn achosion, neu gymryd benthyciadau ymgyfreitha mawr sy’n golygu bod ganddynt ddyledion mawr.[footnote 167]

  • Mae’r prawf cyfalaf wedi achosi problemau i wahanol ddioddefwyr a goroeswyr sy’n berchen ar ran o’u cartref neu eu cartref cyfan ond nad oes ganddynt fawr ddim incwm, os o gwbl, neu sy’n berchen ar eu heiddo ar y cyd â’r cyflawnwr ac, felly, na allant gael gafael ar y cyfalaf a ddelir yn yr eiddo. Yn ymarferol, mae’r prawf cyfalaf yn gweithredu ar sail y dybiaeth y gall unigolion werthu eu hasedau neu fenthyca yn eu herbyn er mwyn ariannu achosion ymgyfreitha. Cafodd adolygiad barnwrol eu dwyn yn erbyn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol er mwyn ceisio profi cyfreithlondeb hyn yn R (On the Application of GR) v Director of Legal Aid Casework [2020] EWHC 3140 (Gwein), a arweiniodd at ddiwygio rheoliadau cymorth cyfreithiol er mwyn i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol allu arfer disgresiwn o ran a oedd yn prisio ased cyfalaf fel eiddo yn sero.[footnote 168] Er i benderfyniad yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i ddiwygio’r rheoliadau gael ei groesawu’n fawr, mae’r rheolau newydd yn parhau i gael eu defnyddio mewn modd anghyson am mai mater i aseswyr unigol yw penderfynu p’un a ddylid rhoi esemptiadau ai peidio. Yn anffodus, yn achos llawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, nid yw’r esemptiad hwn yn cael ei roi.

9.61. Mae’r newidiadau hyn i gwmpas cymorth cyfreithiol mewn achosion cyfraith teulu breifat wedi arwain at newid patrwm cynrychiolaeth gyfreithiol drwy ei leihau’n sylweddol. Ar gyfer 2022, cyfran yr achosion a benderfynwyd mewn achosion cyfraith breifat lle nad oedd gan y ceisydd na’r atebydd gynrychiolaeth gyfreithiol oedd 39 y cant, tra mai cyfran yr achosion lle roedd gan y naill a’r llall gynrychiolaeth gyfreithiol oedd 19 y cant. Roedd hyn i fyny 2 bwynt canran ac i lawr 2 bwynt canran yn y drefn honno o gymharu â 2021.[footnote 169] Anaml y mae ymgyfreitha drosoch chi eich hun yn briodol mewn achosion o gam-drin domestig oherwydd cymhlethdod yr achosion hyn a’r trawma y mae dioddefwyr yn ei ail-fyw drwy orfod dwyn achos cyfreithiol yn erbyn eu cyflawnwyr.

9.62. Yn arolwg y Comisiynydd, holwyd gweithwyr cyfraith teulu proffesiynol am eu gwaith gydag ymgyfreithwyr drostynt eu hunain a oedd wedi’u cyhuddo o gam- drin domestig. Roedd mwy na dau o bob tri ymatebydd i’n harolwg o’r farn bod ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, yr honnir eu bod wedi cam-drin y rhiant arall, yn ymosodol o ran eu dull o gyfathrebu, gan bwysleisio’r ffaith bod angen cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys effeithiol (gweler tudalennau 67-68 uchod). Pan gawsant eu holi am ymddygiad ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn fwy cyffredinol, cadarnhaodd tri chwarter yr ymarferwyr cyfreithiol fod ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn siarad gormod mewn achosion yn y Llys Teulu. Roedd ychydig dros hanner y cyfranogwyr a atebodd y cwestiwn am ddull cyfathrebu o’r farn bod dull cyfathrebu ymgyfreithwyr drostynt eu hunain weithiau yn cael ei ddefnyddio’n fwriadol i beri gofid i’r rhiant arall.

9.63. Mae materion eraill yn cynnwys cyflwyno ffioedd sefydlog am waith cymorth cyfreithiol sydd, ar y cyd â diffyg cyllid ar gyfer achosion â chymorth cyfreithiol, wedi arwain at leihad sylweddol yn nifer y darparwyr sy’n cwblhau gwaith cymorth cyfreithiol ac mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae rhai ardaloedd lle na ddarperir unrhyw gymorth cyfreithiol o gwbl neu lle nad oes gan ddarparwyr fawr ddim adnoddau, os o gwbl, i dderbyn achosion newydd.[footnote 170] Felly, hyd yn oed pan fydd unigolion yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarparwyr a all fynd ymlaen â’u hachosion. Ar hyn o bryd, mae’r broblem hon yn cael effaith anghymesur ar unigolion o gefndiroedd wedi’u hymyleiddio a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.[footnote 171]

9.64. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Profion Modd ar gyfer Cymorth Cyfreithiol, lle y nododd gynigion ar gyfer diwygiadau i’r system cymorth cyfreithiol. [footnote 172] Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, nododd y Comisiynydd Cam-drin Domestig, er bod llawer o’r cynigion yn yr Adolygiad o’r Profion Modd ar gyfer Cymorth Cyfreithiol yn dangos gwelliant o gymharu â’r trefniadau presennol o ran cymorth cyfreithiol sifil, nad yw’r cynigion a gyflwynwyd yn mynd yn ddigon pell mewn achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig a bod disgwyl i rai mesurau gael effaith anghymesur ar ddioddefwyr a goroeswyr sy’n unig rieni.[footnote 173] At hynny, byddai’r gofyniad i ddarparu tystiolaeth ychwanegol i ategu cais am brawf modd yn gosod gormod o faich ar ddioddefwyr a goroeswyr, yn ogystal â phwrs y wlad oherwydd yr haenau ychwanegol o waith gweinyddol y byddai eu hangen i brosesu’r ceisiadau drwy’r pyrth arfaethedig.[footnote 174]

Argymhelliad 9

Dylai’r Llywodraeth ddileu’r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol ar gyfer holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sy’n mynd drwy achosion cyfraith teulu breifat. Byddai hyn yn galluogi unrhyw barti sy’n codi honiadau o gam-drin domestig i gael cynrychiolaeth gyfreithiol yn ystod ei achos ac yn golygu bod modd darparu cymorth hollbwysig i’r dioddefwr neu’r goroeswr er mwyn iddo ddelio â’r system gyfreithiol gymhleth.

Er mwyn osgoi ardaloedd lle nad oes unrhyw gymorth cyfreithiol ar gael, mae’r Comisiynydd yn cefnogi’r argymhelliad a wnaed gan y Comisiwn Cymorth Cyfreithiol (sef menter drawsbleidiol a ffurfiwyd gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gymorth Cyfreithiol) y dylai’r Llywodraeth gynnal adolygiad o gynlluniau ffioedd cymorth cyfreithiol er mwyn helpu i sicrhau y gall unigolion sy’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol gael y gynrychiolaeth gyfreithiol sydd ei hangen arnynt.[footnote 175] Mae hyn yn ymestyn i bob parti yn yr achos, ac yn eu cynnwys.

Adran 3: Y defnydd o arbenigwyr

9.65. Rheolir y defnydd o arbenigwyr yn y Llys Teulu gan Gyfarwyddyd Ymarfer 25B. Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol i arbenigwr gael ei reoleiddio gan gorff rheoleiddio/goruchwylio allanol. Yn hytrach, mabwysiedir dull gweithredu fesul achos. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 25B yn nodi: “If the expert’s area of professional practice is not subject to statutory registration (e.g. child psychotherapy, systemic family therapy, mediation, and experts in exclusively academic appointments) the expert should demonstrate appropriate qualifications and/or registration with a relevant professional body on a case by case basis.”[footnote 176]

9.66. Roedd y rhai a gymerodd ran yn y cyfarfodydd bord gron yn pryderu’n benodol ynghylch y defnydd a wneir o arbenigwyr (weithiau â chymwysterau cydnabyddedig mewn seicoleg a ffisiotherapi ac weithiau heb y cymwysterau hynny) i lunio adroddiadau i’r llys yn honni bod plentyn wedi bod yn destun ymgais i ddieithrio plentyn oddi wrth riant, gyda’r barnwr yn dibynnu ar yr adroddiadau hyn. Mae rhai o’r adroddiadau hyn yn ddrud iawn i’w cael ac maent yn golygu y gall rhiant sydd â mwy o arian gael adroddiadau a allai ddarbwyllo’r Llys Teulu i wneud gorchymyn nad yw er lles pennaf y plentyn. Cododd sawl eitem o ohebiaeth a anfonwyd at y Comisiynydd bryderon hefyd ynghylch y mathau hyn o arbenigwyr. Yn yr achosion hyn, pwysleisiodd llawer o gyfarfodydd bord gron y ffaith bod yr honiad o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, fel petai’n disodli unrhyw gam-drin domestig sy’n bresennol. Mae’r defnydd o arbenigwyr heb eu rheoleiddio i’r perwyl hwn yn destun pryder ac mae eu presenoldeb cynyddol wedi codi ofn ar unigolion a thanseilio eu ffydd yng ngallu’r Llys Teulu i ymdrin â cham-drin domestig.

9.67. At hynny, cyfeiriodd cyflwyniadau i’r Panel Niwed at y ffaith bod y Llys Teulu yn dibynnu ar ‘arbenigwyr’ yn gysyniad o ddieithrio plentyn oddi riant fel y’i gelwir, sef cysyniad y mae cryn ddadlau yn ei gylch. Codwyd pryderon gyda’r Panel Niwed nad oedd cymwysterau’r fath arbenigwyr bob amser yn cael eu harchwilio na’u herio gan y llys.[footnote 177] Roedd Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr o’r farn bod anghysondeb o ran y dull o ymdrin â thystiolaeth arbenigwyr a nododd fod llysoedd yn caniatáu tystiolaeth arbenigwyr am ddieithrio plentyn oddi wrth riant ond, yn aml, na fyddent yn caniatáu tystiolaeth arbenigwyr am gam-drin domestig. [footnote 178] Mae cynnydd ymddangosiadol yn nifer yr arbenigwyr ym maes dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi’i nodi mewn llenyddiaeth academaidd, gyda Birchall a Choudhry yn crynhoi hyn fel a ganlyn:

Barnett notes that a significant feature of the most recent case law is the increasing number of parental alienation ‘experts’ instructed in cases. These child psychologists and psychiatrists referred to Gardner’s now discredited theories and recommended transfers of residence from mothers to fathers, as well as therapy for ‘alienated’ children and ‘alienating’ parents (Barnett, 2020a). These concerns around the use of psychological witnesses in the Family Courts echo the findings of a study analysing 126 expert psychological reports from family law proceedings. The quality of the reports was extremely variable with two thirds rated ‘poor’ or ‘very poor’, and there was evidence of unqualified experts being instructed to provide ‘expert’ psychological opinion (Ireland, 2012).[footnote 179]

9.68. Mae’r cyfarwyddyd a roddir gan ‘arbenigwyr’ ym maes dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, mewn achosion yng Nghymru a Lloegr yn destun pryder, yn enwedig am fod yr astudiaeth fwyaf diweddar o ddulliau ymchwil a fabwysiadwyd gan gefnogwyr dieithrio plentyn oddi wrth riant, fel y’i gelwir, wedi dod i’r casgliad bod: “empirical work related to parental alienation is weak in design and implementation, and assertions about that work are pseudo- scientific in nature.”[footnote 180] Pan nad yw arbenigwyr o’r fath yn cael eu rheoleiddio gan gorff proffesiynol, mae hyn yn achosi hyd yn oed mwy o bryder ac nid oes unrhyw le arall i droi ato pan fydd arbenigwyr yn parhau i wneud honiadau disail mewn achosion yn y Llys Teulu. Mae hwn yn bryder sydd wedi’i fynegi hefyd gan Gymdeithas y Seicolegwyr Clinigol (ACP-UK), sydd wedi nodi bod “‘Psychological experts’ without the necessary qualifications are sometimes being instructed to act as expert witnesses in the Family Court. This can result in harm to the public. ACP-UK are aware of several cases in which ‘psychological experts’ who are not Health Care Professions Council (HCPC) registered have suggested inappropriate diagnoses and made recommendations for children to be removed from their mothers based on these diagnoses.”[footnote 181] Mae ACP-UK yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio ymarferwyr- seicolegwyr sydd wedi’u cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal fel arbenigwyr mewn Llysoedd Teulu.

9.69. Croesawodd y Comisiynydd femorandwm Llywydd yr Is-adran Deulu a ddaeth i’r casgliad canlynol, “pseudo-science, which is not based on any established body of knowledge, will be inadmissible in the Family Court.”[footnote 182] Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor Cyfiawnder Teuluol yn cynnal adolygiad o’r defnydd a wneir o dystion arbenigol yn y Llys Teulu a disgwylir i ganllawiau llawn gael eu cyhoeddi yn 2023.[footnote 183] Yn y cyfamser, cyhoeddodd ganllawiau a dynnodd sylw at faterion lle mae gwrthdaro buddiannau a geir mewn asesiadau arbenigol lle mae honiadau o ymddygiadau dieithrio wedi’u gwneud. Pwysleisiodd y canllawiau pa mor bwysig ydyw bod y llys yn dibynnu ar ddulliau seicolegol cadarn i lywio unrhyw argymhellion therapiwtig y bydd yn eu gwneud, yn ogystal â nodi na fyddai’n briodol i’r llys gorchymyn ymyriadau na allent gael eu cyflawni ac eithrio gan dyst arbenigol neu ei gydweithwyr.[footnote 184]

9.70. Ymhellach i’r memorandwm, ailddatganodd Llywydd yr Is-adran Deulu y safbwynt hwn yn Re C [2023]. Canolbwyntiodd ar rôl seicolegwyr arbenigol mewn achosion cyfraith teulu, yn arbennig seicolegwyr nad ydynt wedi’u cofrestru â chorff proffesiynol perthnasol. Cadarnhaodd y Llywydd y dylai arbenigwyr gael eu cyfarwyddo fesul achos ond bod yn rhaid i’r llys fod yn ofalus wrth archwilio cymwysterau ac arbenigedd unrhyw seicolegydd nad yw wedi’i gofrestru â chorff proffesiynol.[footnote 185]

9.71. Er mor ddryslyd yw swydd a theitl seicolegydd, nododd y llywydd yn glir yn Re C nad mater i’r farnwriaeth yw ‘prohibit the instruction of any unregulated psychologist’ [98]. Mater i’r Senedd fydd penderfynu a oes angen i’r term ‘seicolegydd’ gael ei ddiffinio’n fwy manwl a chynnwys diogelwch i’r rhai sydd wedi’u cofrestru o dan reoliadau penodol.

9.72. Gan fod llawer o bartïon mewn achosion yn y Llys Teulu yn ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, mae’n debygol y bydd yn anodd iddynt geisio gwrthwynebu arbenigwyr sy’n dibynnu ar ddadleuon lled-wyddonol, er enghraifft, pan na fydd ganddynt fawr ddim dealltwriaeth, os o gwbl, o’r canllawiau perthnasol yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 25B nac o’r weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu penodi arbenigwr (neu hyd yn oed bod ganddynt yr hawl i wrthwynebu arbenigwr o gwbl).

9.73. Mae’r Comisiynydd yn pryderu’n fawr ynghylch y defnydd a wneir o’r fath arbenigwyr, yn enwedig o ystyried ei phryderon ynghylch dilysrwydd dieithrio plentyn oddi riant, fel y’i gelwir. Mae maint y broblem hon yn cael ei adlewyrchu gan y ffordd y mae adroddiadau arbenigol o’r fath yn cael eu troi’n fasnach. Gall arbenigwyr heb eu rheoleiddio godi ffioedd sylweddol am adroddiadau sy’n ‘cadarnhau’ dieithrio plentyn oddi riant, fel y’i gelwir. Mae’r Comisiynydd yn annog y Senedd i gyfarwyddo bod y term seicolegydd yn cael ei reoleiddio’n fwy llym, y nododd Llywydd yr Is-adran Deulu yn Re C [2023] mai dyma’r awdurdod cywir i wneud hynny. Mae’r Comisiynydd yn cynnig helpu’r Senedd gyda’i dull o fynd ati i wneud hyn ac yn annog ymgysylltu â’r sector cam-drin domestig er mwyn sicrhau y gall arbenigedd ym maes cam-drin gael mynediad i’r Llys Teulu.

Argymhelliad 10

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ymgynghori â’i Swyddfa, y sector cam-drin domestig arbenigol, y cyrff rheoleiddio perthnasol, NHS England, GIG Cymru a’r sector plant arbenigol er mwyn datblygu diffiniad mwy manwl o seicolegydd. Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder nodi cyfle deddfwriaethol priodol i roi’r diffiniad hwn ar waith.

10. Casgliad

Heddiw mae gennyf fywyd sy’n werth ei fyw. Rwyf wrth fy modd yn byw fy mywyd a phriodais i. Penderfynais ar y math o fywyd yr hoffwn ei gael i mi fy hun ac i’m plant yn y dyfodol.

‘In Our Shoes’ – Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (2021)

10.1. Er bod diwygiadau pwysig i achosion plant cyfraith breifat yn mynd rhagddynt, rhaid i’r newidiadau fynd ymhellach na hynny. Rhaid i wella ymateb y Llys Teulu i gam-drin domestig fod yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth wrth ystyried ei gwaith i wella’r ymateb cenedlaethol i gam-drin domestig a rhaid neilltuo digon o adnoddau yn unol â hynny.

10.2. Yn bwysig, nid yw’r Llys Teulu yn delio’n effeithiol â cham-drin domestig ac nid oes ganddo fodel sy’n canolbwyntio ar y plentyn er mwyn iddo allu gwneud hynny. Fel yr argymhella’r Comisiynydd, byddai’r model sy’n canolbwyntio ar y plentyn a ddarperid yn sicrhau bod honiadau a wneir gan bartïon yn y llys yn cael eu harchwilio mewn ffordd fwy effeithiol a diogel.

10.3. Rydym wedi cyrraedd adeg unigryw yn y broses o ddiwygio’r Llys Teulu ac yn elwa ar ymrwymiad parhaus y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr uwch-farnwriaeth, Cafcass a Cafcass Cymru i sicrhau gwelliannau ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sy’n wynebu’r Llys Teulu. Mae’r Comisiynydd yn arbennig o ddiolchgar am eu mewnbwn a’u hymrwymiad i sefydlu’r System Monitro ac Adrodd.

10.4. Pan gyhoeddwyd adroddiad y Panel Niwed a Chynllun Gweithredu cysylltiedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder, nododd y Gweinidog Cyfiawnder ar y pryd, Alex Chalk: “we are committed to both immediate action and longer-term reform, to ensure the system fully supports those who are victims of domestic abuse or otherwise vulnerable, and delivers the right outcomes for them and their children.”[footnote 186] Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr ymrwymiad hwn wedi’i ailgadarnhau gan y cyn-Weinidog yr Arglwydd Wolfson, a nododd mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ym mis Tachwedd 2021 fod diwygio dull y Llys Teulu o ymdrin â cham-drin domestig yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.[footnote 187]

10.5. Mae’r Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i wella profiad dioddefwyr a goroeswyr o’r Llys Teulu. Gyda’i gilydd, byddai’r cynigion ymarferol, cyflawnadwy hyn yn arwain at newid sylweddol o ran y ffordd y caiff achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig eu trin yn y Llys Teulu a sicrhau’r gwelliannau y mae oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr yn eu haeddu. Byddent yn cyflawni’r nod uchelgeisiol o barhau â’r newid diwylliannol hirdymor a argymhellwyd gan adroddiad y Panel Niwed ac yn sicrhau bod Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cyflawni ei hamcan i gydnabod plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain yn unol â bwriad y Senedd. Er mwyn cyflawni’r atebion a gynigir yn yr adroddiad hwn, rhaid rhoi’r argymhellion canlynol ar waith gyda’i gilydd.

11. Atodiad A – Crynodeb o’r Argymhellion

Argymhelliad 1

Mae’n rhaid dyrannu cyllid digonol i’r System Adrodd ac Adolygu a gymeradwywyd gan y Panel Niwed sy’n cael ei sefydlu yn Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Dioddefwyr ar gyfer ei chynllun peilot ac, wedyn, y broses o’i chyflwyno’n genedlaethol.

Fel hyn, bydd yn gallu gweithredu ar sail flynyddol. Disgwylir i gam peilot y system fonitro ddechrau ar ddiwedd 2023 a phara am 12 mis, y mae’r cyllid ar ei chyfer wedi’i gadarnhau. Dylid ystyried cyllid yn dilyn y cam peilot cyn gynted â phosibl.

Argymhelliad 2

Dylai’r llywodraeth sefydlu rôl newydd o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, sef Arweinwyr Arfer Gorau ym maes Cam-drin Domestig ym mhob ardal Llys Teulu, a darparu cyllid priodol ar gyfer y rôl honno.

Argymhelliad 3

Felly, mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddatblygu a chyflwyno cynllun uchelgeisiol i gyfuno’r gwersi gorau a ddysgwyd o’r Llysoedd Braenaru, yn ogystal ag o arferion lleol da mewn mannau eraill yng Nghymru a Lloegr, ac yn rhyngwladol er mwyn llywio arferion, darpariaeth a gwaith datblygu polisi yn y dyfodol. Mae’r Comisiynydd hefyd yn argymell y dylid darparu adnoddau priodol ar gyfer Llysoedd Braenaru fel rhan o ymdrechion ehangach i’w cyflwyno’n genedlaethol.

Argymhelliad 4

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol weithio gyda’r Comisiynydd er mwyn manteisio i’r eithaf ar waith sy’n mynd rhagddo eisoes, megis y Llysoedd Braenaru, er mwyn atgyfnerthu ymhellach yr ystyriaeth a roddir i lais y plentyn a’r ddealltwriaeth ohono pan godir cam-drin domestig drwy ddefnyddio’r egwyddorion a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Argymhelliad 5

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai fod mwy o dryloywder a chysondeb ym mhob rhan o’r system cyfiawnder teuluol, er mwyn sicrhau y darperir rhaglen hyfforddiant newid diwylliannol lawn ar gam-drin domestig.

Argymhelliad 6

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddarparu cyllid ar gyfer hyfforddiant arbenigol ar gam-drin domestig. Dylai’r hyfforddiant hwn gynnwys effaith cam-drin domestig ar oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr.

Argymhelliad A7

Dylai gweithiwr cymorth cam-drin domestig arbenigol fod ar gael i bob goroeswr sy’n mynd drwy’r Llys Teulu. Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ystyried opsiynau i fuddsoddi yn y rolau hyn at ddibenion cyflawni’r rôl yn ogystal â datblygu’r rôl yn broffesiynol.

Argymhelliad 8

Dylid darparu adnoddau llawn a phriodol ar gyfer cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys er mwyn sicrhau y caiff ei roi ar waith yn effeithiol.

Argymhelliad 9

Dylai’r Llywodraeth ddileu’r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol ar gyfer holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig sy’n mynd drwy achosion cyfraith teulu breifat.

Argymhelliad 10

Mae’r Comisiynydd yn argymell y dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ymgynghori â’i swyddfa, y sector cam-drin domestig arbenigol, y cyrff rheoleiddio perthnasol, NHS England, GIG Cymru a’r sector plant arbenigol er mwyn datblygu diffiniad mwy manwl o seicolegydd. Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder nodi cyfle deddfwriaethol priodol i roi’r diffiniad hwn ar waith.

12. Atodiad B – Enghraifft Fanwl o Achos

Enghraifft o achos

Mae achos GK v PR[footnote 188] y cyfeirir ato yn y ddogfen hon yn helpu i ddangos rhai o’r problemau a wynebir gan ddioddefwyr a goroeswyr sy’n mynd drwy achosion yn y llys teulu.

Roedd yr achos yn destun apêl i’r Uchel Lys, a gyflwynwyd gan GK, sef y fam, yn dilyn gwrandawiad canfod ffeithiau lle y gwrthododd y barnwr yn y llys is honiadau o gam-drin domestig a wnaed gan GK yn erbyn ei chyn-bartner, PR. Roedd gan GK ddiabetes a chafodd ei chyflwr ei waethygu gan straen.

Cyfarfu GK â PR ym mis Hydref 2017 a chawsant blentyn ym mis Mawrth 2019. Daeth y berthynas i ben ym mis Tachwedd 2019. Gwnaeth PR gais am Orchymyn Trefniadau Plentyn fis yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2019. Gwnaeth y Llys Teulu Orchmynion Interim ym mis Mawrth 2020 a mis Mehefin 2020, gan alluogi PR i weld y plentyn heb oruchwyliaeth. Ym mis Tachwedd 2020, terfynodd GK y trefniadau dros dro.

Ym mis Ionawr 2021, cynhaliwyd gwrandawiad canfod ffeithiau dros flwyddyn ar ôl i PR wneud y cais cyntaf am y gorchymyn. Gwnaeth GK 29 o honiadau unigol o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin rhywiol, cam-drin geiriol ac ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol. Roedd bwndel y gwrandawiad yn cynnwys mwy na 1000 o dudalennau ac nid oedd gan y barnwr fawr ddim amser i’w ddarllen cyn y gwrandawiad. Cynhaliwyd yr achos ar sail hybrid (h.y. gyda’r mwyafrif o’r bobl a oedd yn cymryd rhan yn yr achos yn y llys, ond gyda GK yn ymuno â’r gwrandawiad dros gyswllt fideo am ei bod yn gwarchod ei hun. Roedd GK yn ei chael hi’n anodd ymdopi â straen yr achos ac aethpwyd â hi i’r ysbyty ar ôl diwrnod cyntaf y gwrandawiad. Ymunodd â’r gwrandawiad o’r ysbyty y diwrnod canlynol.

Gwrthododd y barnwr yn y llys is y rhan fwyaf o’r honiadau o gam-drin domestig roedd GK wedi’u gwneud. Gwnaeth orchymyn yn adfer cyswllt rhwng PR a’r plentyn, yn ogystal â darparu ar gyfer cyswllt dros nos.

Apeliodd GK. Caniataodd y barnwr apêl yr apêl ac ailgyfeiriodd yr achos yn ôl i’r llys is ar gyfer ailwrandawiad. Wrth wneud hynny, ystyriodd y barnwr apêl fethiannau gweithdrefnol a gwnaeth nifer o ganfyddiadau sy’n peri pryder am eu bod yn dangos yr heriau y mae rhai dioddefwyr a goroeswyr yn eu hwynebu yn y llysoedd teulu.

Methiannau o ran mesurau arbennig

Dyfarnodd y barnwr apêl, er ei bod yn bosibl bod GK yn barti agored i niwed:

  • Na chynhaliwyd unrhyw wrandawiad rheolau sylfaenol[footnote 189] cyn y gwrandawiad canfod ffeithiau;

  • Nad oedd unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i broses groesholi wahanol (cwestiynau ysgrifenedig a/neu gwestiynau wedi’u cyfeirio drwy’r barnwr efallai, neu ffocws ar bynciau penodol);

  • Bod problemau gyda’r cyswllt fideo a oedd yn golygu bod PR yn gallu gweld GK ar y sgrin a bod GK hefyd yn gallu gweld PR – a dylid bod wedi ymdrin â’r problemau hyn ar y dechrau;

  • Nad oedd y barnwr yn y llys is wedi ystyried effaith natur fregus GK ar ei gallu i roi tystiolaeth. Cyfeiriodd at y ffaith bod ei thystiolaeth lafar fel petai wedi’i pharatoi ymlaen llaw a’i bod yn “dissociated” ond nid ystyriodd a allai bregusrwydd a achoswyd gan drawma fod wedi peri iddi ymddangos fel hyn;

  • Ni chafodd GK gyfle i roi tystiolaeth ar y ffurf fwyaf priodol. Roedd hyn yn arbennig o bwysig mewn achos lle y rhoddodd y barnwr bwys, wrth bennu hygrededd, ar sut roedd GK yn ymddangos fel tyst.

Methiant i fabwysiadu’r dull cywir o ymdrin â honiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dyfarnodd y barnwr apêl fod y barnwr yn y llys is:

  • wedi methu ag ystyried a phwyso a mesur datgeliad yr heddlu a’r datgeliad meddygol a gyflwynwyd gan GK mewn perthynas â’i honiad o dreisio;

  • wedi gwneud yn fach o natur rhai o’r honiadau o gam-drin domestig a’u heffaith bosibl ar GK;

  • wedi methu ag ystyried y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd a rhoi ystyriaeth lawn i’r ffordd roedd y darnau unigol o dystiolaeth yn ategu’r naratif o ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol;

  • wedi dibynnu’n fawr ar asesiad o bob parti fel tyst, heb ystyried yr effaith roedd rhoi tystiolaeth o ddigwyddiadau trawmatig yn debygol o fod wedi’i chael ar GK fel tyst a oedd yn agored i niwed, yng nghyd-destun lleoliad llys llawn pwysau.

Felly, ailgyfeiriwyd yr achos yn ôl i’r llys is i’w ailwrando.

Nodwn fod y barnwr apêl wedi nodi’n glir na ddylid ystyried bod ei ddyfarniad yn awgrymu bod honiadau GK wedi’u profi.

Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y canfyddiadau a wnaed ganddo yn dangos rhai o’r problemau a all godi pan fydd y llys teulu yn gwrando honiadau o gam-drin domestig mewn achosion plant cyfraith breifat a’r ffordd y gall goroeswyr gael eu hatal rhag rhoi eu tystiolaeth orau a rhag sicrhau bod eu honiadau o gam-drin domestig a cham-drin rhywiol yn cael eu hystyried mewn modd teg. Darparwyd llythyr gan feddyg teulu GK i’r llys yn ddiweddarach, a oedd yn cadarnhau ei bod wedi’i derbyn i’r ysbyty. Dywedodd y meddyg teulu:

She was unwell and was in resus for a couple hours while her condition stabilised. Her symptoms started after the court hearing on 14th; she was extremely stressed and anxious. She was questioned about past trauma which included about when she was raped, smothered and choked by her ex-partner on several occasions… She reports her symptoms were highly likely the stress of this event…

Dengys hyn yr effaith eithafol bosibl y gall achosion o’r fath ei chael ar ddioddefwyr a goroeswyr a phwysigrwydd defnyddio achosion llys y bwriedir iddynt gynorthwyo partïon pan fydd honiadau o’r fath wedi’u gwneud.

  1. Mae’r model tair planed yn dyddio o 2011 pan oedd y term ‘trais domestig’ yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn cyferbyniad, tra ein bod bellach yn defnyddio’r term ‘cam-drin domestig’ i gwmpasu pob math o reolaeth drwy orfodaeth a chamdriniaeth seicolegol, yn ogystal â thrais corfforol. 

  2. Hester, M., 2011. The three planet model: Towards an understanding of contradictions in approaches to women and children’s safety in contexts of domestic violence. British journal of social work, 41(5), tudalennau 837-853. 

  3. Adran 65 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, fel y’i gweithredir gan Gyfarwyddyd Ymarfer 3AB. 

  4. Adrannau 65 a 66 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. 

  5. Cyfarwyddyd Ymarfer 27C o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu. 

  6. M (A child: Private Law Children Proceedings: Case Management: Intimate images) [2022] EWHC 986 (Fam). 

  7. Llywodraeth Cymru (3 Mawrth 2022), Llys Teulu Gogledd Cymru yn treialu dull newydd o gefnogi teuluoedd wedi gwahanu sy’n dod i’r llys | LLYW.CYMRU Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (8 Mawrth 2022), Pioneering approach in family courts to support domestic abuse victims better - GOV.UK (www.gov.uk) 

  8. Cafcass (Mehefin 2022), Learning and Improvement Board - Cafcass - Children and Family Court Advisory and Support Service 

  9. Cafcass (Mehefin 2021), Cafcass publishes new Domestic Abuse Learning and Improvement Plan - Cafcass - Children and Family Court Advisory and Support Service 

  10. Cafcass Domestic-Abuse-Practice-Pathway-Final-version-December-2021 (1).pdf 

  11. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update (publishing.service.gov.uk) 

  12. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Family Court Statistics Quarterly: October to December 2022 - GOV.UK (www.gov.uk) 

  13. Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (Ebrill 2023) Uncovering private law: The Other 10% (nuffieldfjo.org.uk) 

  14. CAFCASS, Cymorth i Ferched (2016), Allegations of domestic abuse in child contact cases, 

  15. Barnardo’s (2020), Not just Collateral Damage The hidden impact of domestic abuse on children. ‘Not just collateral damage’ Barnardo’s Report_0.pdf (barnardos.org.uk) 

  16. Channel 4 Dispatches, Torn Apart: Family Courts Uncovered, a ddarllewyd ar 20 Gorffennaf 2021, 10pm 

  17. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig, (2021) Improving the family court response to domestic abuse, Improving-the-Family-Court-Response-to-Domestic-Abuse-final.pdf (domesticabusecommissioner.uk) 

  18. Ibid Tudalennau 8 a 23. 

  19. Rhaglen Dispatches Channel 4 (2021), arolwg a gynhaliwyd ar gyfer: Torn Apart: Family Courts Uncovered: Dispatches. Cynhaliodd rhaglen Dispatches ddau arolwg: un i weithwyr cyfreithiol proffesiynol (yr ymatebodd 297 o gyfreithwyr a bargyfreithwyr cyfraith teulu iddo) ac un drwy holiadur ar-lein i’r rhai sydd wedi defnyddio’r Llysoedd Teulu (yr ymatebodd mwy na 4,000 o ddefnyddwyr iddo).cyf 

  20. Y Prosiect Tryloywder, Making Family Justice Clearer 

  21. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, (2020) Domestic abuse and private law children cases A literature review, Domestic abuse and private law children cases (publishing.service.gov.uk)  2

  22. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat  2

  23. Linda C. Neilson, 2018 Parental Alienation Empirical Analysis: Child Best Interests or Parental Rights? (FREDA Centre for Research on Violence Against Women and Children) Jenny Birchall a Shazia Choudhry, 2018 What About My Right Not to Be Abused: Domestic Abuse Human Rights and the Family Courts, Modern Law Review.  2

  24. [2000] 2 FCR 404; [2000] 2 FLR 334.  2

  25. Bwrdd Cynghori’r Arglwydd Ganghellor ar Gyfraith Teulu: Is-bwyllgor y Ddeddf Plant, Guidelines for Good Practice on Parental Contact in cases where there is Domestic Violence (TSO 2001).  2

  26. Cymorth i Ferched (2004), Twenty-Nine Child Homicides: Lessons still to be learnt on Domestic Violence and Child Protection. 

  27. Barnett, A (2015) ‘Like Gold Dust These Days’: Domestic Violence Fact-Finding Hearings in Child Contact Cases. Fem Leg Stud 23, 47–78, 9. 

  28. Cymorth i Ferched (2016), Nineteen Child Homicides. 

  29. Yn ogystal ag adroddiadau Cymorth i Ferched, cafodd pryderon ynghylch y ffordd roedd honiadau o gam-drin domestig yn cael eu trin mewn achosion plant cyfraith breifat eu dogfennu mewn corff cynyddol o waith ymchwil academaidd, fel y nodir yn yr adolygiad o lenyddiaeth a gynhaliwyd ar gyfer adroddiad y Panel Niwed. Gweler Adrienne Barnett, Domestic abuse and private law children cases: A literature review, yn enwedig adrannau 7.1, 7.2 a 7.3.  2

  30. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 40, 48. 

  31. Ibid, 40. 

  32. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat. 

  33. Datganiad gan Alex Chalk (yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder) (Mehefin 2020). 

  34. Ibid, 111. 

  35. Re HN and Others (children) (domestic abuse: finding of fact hearings) [2021] EWCA Civ 448, paragraff 28. 

  36. Gweler Re HN, paragraff 53: “Where…an issue properly arises as to whether there has been a pattern of coercive and/or controlling abusive behaviour within a family, and the determination of that issue is likely to be relevant to the assessment of the risk of future harm, a judge who fails expressly to consider the issue may be held on appeal to have fallen into error.” 

  37. Ibid, paragraff 43. Am esboniad o Restr Scott, ewch i: https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/civil/standard-directions/general/scott-schedule-note 

  38. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig, (2023) Accompanying Methodology Report to the Family court and Domestic abuse: achieving cultural change, y Comisiynydd Cam-drin Domestig 

  39. Grŵp Gweithredu Tryloywder yn y Llys Teulu – yr Adroddiad Cynnydd Cyntaf: Family Court Transparency Implementation Group - First Progress Report - Courts and Tribunals Judiciary 

  40. Independent (Rhagfyr 2021), MP to campaign for domestic abuse victims after rape ruling against ex-husband. Gweler hefyd y dyfarniad cyhoeddedig: Griffiths v Griffiths fact finding judgment (judiciary.uk) 

  41. Ibid. 

  42. Syr Andrew McFarlane, Llywydd yr Is-adran Deulu, The Reporting Pilot - Guidance.docx (judiciary.uk) 

  43. Syr Andrew McFarlane, Llywydd yr Is-adran Deulu (Hydref 2021), Confidence and Confidentiality: Transparency in the Family Courts. 

  44. Cafcass (2020) Terms of Reference for Learning and Improvement Board 

  45. Cafcass (2020) Domestic Abuse Learning and Improvement Plan 

  46. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update, 12-13. 

  47. Syr Andrew McFarlane (Hydref 2021), Confidence and Confidentiality: Transparency in the Family Courts. 

  48. Fel y’u gweithredir gan Gyfarwyddyd Ymarfer 3AB o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu 

  49. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Ionawr 2023), Standards for domestic absue perpetrator interventions (publishing.service.gov.uk) 

  50. Syr Andrew McFarlane (Hydref 2021), Supporting Families in Conflict: There is a better way. Gweler ein sylwadau pellach ar hyfforddiant i farnwyr a gweithwyr cyfiawnder teuluol proffesiynol raill isod yn adran 7.1. 

  51. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update. 

  52. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 136. 

  53. Mae’r mesurau y gellir eu darparu yn y llys er mwyn lleihau natur drawmateiddio achosion a galluogi dioddefwyr a goroeswyr i roi eu tystiolaeth orau (megis sgriniau, mynedfeydd ac allanfeydd, ac ystafelloedd aros ar wahân a defnyddio cyswllt fideo). 

  54. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 131. 

  55. Ibid, 108. 

  56. Ibid, 125. 

  57. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (Mehefin 2021), SafeLives, Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse, 19, 7. 

  58. Er mwyn osgoi amheuaeth, fel arfer gwneir gorchmynion pasbort mewn achosion sy’n cynnwys herwgipio plentyn yn rhyngwladol er mwyn atal y plentyn rhag cael ei ailherwgipio i awdurdodaeth arall. Mae’r gorchmynion hyn yn gwbl briodol mewn achosion o’r fath a lle na cheir unrhyw gam-drin domestig. 

  59. K v K [2022] EWCA Civ 468, paragraff 8 

  60. Er enghraifft, adroddiad Barnardo’s (2020), Not just collateral damage. 

  61. Adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 sy’n nodi bod plant yn ddioddefwyr cam-drin domestig pan fyddant yn “see, hear or experience the effects of domestic abuse”. 

  62. Kitzmann KM, Gaylord NK, Holt AR, Kenny ED. (2003) Child witnesses to domestic violence: a meta- analytic review), y cyfeirir ato yn Barnardo’s (2020), Not just collateral damage: the hidden impact of domestic abuse on children. Gweler hefyd: Diez, C. et al (2018) Adolescents at serious psychosocial risk: what is the role of additional exposure to violence in the home? Journal of Interpersonal Violence, 33(6): 865-888, y cyfeirir ato yn NSPCC (2021) Protecting children from domestic abuse. 

  63. Adroddiad Barnardo’s (2020), Not just collateral damage: the hidden impact of domestic abuse on children. 

  64. James (1994), Domestic violence as a form of child abuse: identification and prevention. Australian Institute of Family Studies a Hester (2007), Making an impact: children and domestic violence: a reader, y cyfeirir ato yn adroddiad Barnardo’s (2020), Not just collateral damage: the hidden impact of domestic abuse on children. Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, (2021), RCSLT welcomes Domestic Abuse Bill receiving Royal Assent Policy statement - 29 April 2021, Domestic-Abuse-Act-Royal-Assent-Statement-April-2020.pdf (rcslt.org) 

  65. Callaghan et al, (2015), Beyond “witnessing”: Children’s experiences of coercive control in domestic violence and abuse, Journal of Interpersonal Violence, 33(10), 1,551–1,581; Humphreys et al (2006), Talking to my mum: Developing communication between mothers and children in the aftermath of domestic violence. Journal of Social Work, 6, 53–63. 

  66. Lamers-Winkelman et al (2012), Adverse Childhood Experiences of referred children exposed to Intimate Partner Violence: Consequences for their wellbeing, Child Abuse & Neglect, 36(2), 166–179. 

  67. CAFCASS, Cymorth i Ferched (2016), Allegations of domestic abuse in child contact cases, https://www.cafcass.gov.uk/wp-content/uploads/2017/12/Allegations-of-domestic-abuse-in-child-contact-cases-2017.pdf 11. 

  68. Barnett, Adolygiad o Lenyddiaeth y Panel Niwed Domestic abuse and private law children cases (justice.gov.uk) 48. 

  69. Adolygiad o Lenyddiaeth y Panel Niwed, 4. 

  70. Sturge a Glaser (2000), Contact and Domestic Violence – The Experts’ Court Report. 

  71. Adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. 

  72. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 51. 

  73. Ibid, 70 

  74. Ibid, 56. 

  75. Ibid, 51 

  76. Rhaglen Dispatches Channel 4 (2021), arolwg a gynhaliwyd ar gyfer: Torn Apart: Family Courts Uncovered: Dispatches. Gweler rhif 65 uchod am gyfyngiadau’r arolwg hwn. 

  77. Birchall, J (2022), Two years, too long: Mapping action on the Harm Panel’s findings (Two Years, Too Long: Mapping action on the Harm Panel’s findings), 8. 

  78. Cymorth i Ferched (2004), Twenty-Nine Child Homicides: Lessons still to be learnt on Domestic Violence and Child Protection; Cymorth i Ferched (2016), Nineteen Child Homicides. 

  79. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 8. 

  80. Ibid. 

  81. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 66, 82 

  82. Ibid, 84. 

  83. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 66. 

  84. Mercer, Drew (2021), Challenging Parental Alienation: New Directions for Professionals and Parents (Routledge, Llundain; Efrog Newydd), 26. 

  85. Ibid, 47. 

  86. Adrienne Barnett (2020), A genealogy of hostility: parental alienation in England and Wales, Journal of Social Welfare and Family Law, 42:1, 18-29. 

  87. Duluth Model (2013), Post-separation power and control wheel. 

  88. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Erthygl 9.3. 

    1. Ministry of Justice (June 2020), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases, 62. 

  89. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 66. 

  90. CEDAW, Concluding Observations on the combined 7th and 8th periodic reports of Spain (39(b), Dogfen y Cenhedloedd Unedig CEDAW/C/ESP/CO/7-8 (2015); Concluding Observations on the combined 8th and 9th periodic reports of Canada (para 52, Dogfen y Cenhedloedd Unedig CEDAW/C/CAN/CO/8-9 (2016). 

  91. Senedd Ewrop (2021) The impact of intimate partner violence and custody rights on women and children, Texts adopted - The impact of intimate partner violence and custody rights on women and children - Wednesday, 6 October 2021 (europa.eu) 

  92. Cyngor Hawliau Dynol Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (2023), Custody, violence against women and violence against children Report of the Special Rapporteur on violence against women and girls, its causes and consequences, Reem Alsalem, 1680ab4067 (coe.int) 

  93. Gweler, er enghraifft, Concluding Observations on the combined 7th and 8th periodic reports of Spain (39(b), Dogfen Cenhedloedd Unedig CEDAW/C/ESP/CO/7-8 (2015); Concluding Observations on the combined 8th and 9th periodic reports of Canada (para 52, Dogfen y Cenhedloedd Unedig CEDAW/C/CAN/CO/8-9 (2016). 

  94. Cafcass, Resources for assessing child refusal/resistance, “https://www.cafcass.gov.uk/grown-ups/professionals/ciaf/resources-for-assessing-child-refusal-resistance/ (2022) 

  95. Rhaglen Dispatches Channel 4 (2021), arolwg a gynhaliwyd ar gyfer: Torn Apart: Family Courts Uncovered: Dispatches. 

  96. Adran 7(1)(c)(i-iii). 

  97. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 77. 

  98. Ibid. 

  99. Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (2021), Children’s experience of private law proceedings: Six key messages from research, Children’s experience of private law proceedings: six key messages from research (nuffieldfjo.org.uk) 3. 

  100. Ibid, 9. 

  101. Gweler hefyd: Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, In Our Shoes. 

  102. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 66. 7-84. 

  103. CIPD (October 2020), Organisational culture and culture change; Parmelle et al (2011), The effectiveness of strategies to change organisational culture to improve healthcare performance: a systematic review. 

  104. Yn 2019/20 gwnaed 46,500 o geisiadau cyfraith breifat, o gymharu â 35,000 yn 2007/08: gweler Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (Chwefror 2021) Uncovering private family law: Who’s coming to court in England? Summary. 

  105. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat: Cynllun Gweithredu. 

  106. Standing Together Against Domestic Abuse (2020), In search of Excellence: a refreshed guide to effective domestic abuse partnership work: The Coordinated Community Response. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r elfennau sy’n ffurfio’r Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig, sy’n galluogi ymateb system gyfan i gam-drin domestig. Mae’r adran hon o’r adroddiad yn defnyddio’r elfennau hyn. 

  107. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 9. 

  108. Bathodd Kimberlé Crenshaw y term ‘intersectionality’ (croestoriadedd) yn Crenshaw (1989), ‘Demarginalizing the Intersection of Race and Sex: A Black Feminist Critique of Antidiscrimination Doctrine, Feminist Theory and Antiracist Politics’ fel lens y gellir deall yr effaith y mae sawl math o wahaniaethu a gorthrwm yn ei chael ar unigolion drwyddi. 

  109. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig, (2021) Improving the family court response to domestic abuse Proposal for a mechanism to monitor and report on domestic abuse in private law children proceedings (domesticabusecommissioner.uk)](https://domesticabusecommissioner.uk/wp-content/uploads/2021/11/Improving-the-Family-Court-Response-to-Domestic-Abuse-final.pdf) 

  110. Grŵp Cynghori ar Gyfraith Breifat (Rhagfyr 2020), Final report, 3; Grŵp Cynghori ar Gyfraith Breifat (Mawrth 2020), Ail Adroddiad i Lywydd yr Is-adran Deulu, 4. 

  111. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat: Cynllun Gweithredu, 5. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update, 9. 

  112. Bydd canolfannau teuluol yn “a way of joining up locally and bringing existing family help services together to improve access to services, connections between families, professionals, services, and providers, and putting relationships at the heart of family help.” Ewch i: Adran Addysg (Tachwedd 2021), Family Hubs: Local Transformation Fund Application guide. 

  113. Adran Addysg (Tachwedd 2021), Family Hubs: Local Transformation Fund Application guide. 

  114. Mae Achosion Trefniadau Ariannol yn achosion cyfreithiol i benderfynu sut y dylid rhannu asedau a ddelir gan bâr priod ar ôl iddynt wahanu a threfnu swm unrhyw daliadau cynhaliaeth gan y naill barti i’r llall. 

  115. Mae MARAC yn gyfarfod lle y rhennir gwybodaeth am yr achosion risg uchaf o gam-drin domestig. Yn bresennol yn y cyfarfod mae cynrychiolwyr o feysydd plismona, amddiffyn plant, iechyd, tai a phrawf yn ogystal â Chynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig. 

  116. Efallai y bydd angen sefydlu protocolau lleol ynghylch y ffordd y mae’r rolau hyn yn rhyngweithio â gwasanaethau cymorth arbenigol lleol – bydd cydberthnasau da yn hyn o beth yn bwysig i lwyddiant y rôl. 

  117. Bydd yn bwysig bod hyn yn cynnwys adborth yn benodol ar brofiadau goroeswyr Du ac wedi’u lleiafrifoli, y rhai â statws mudwr, goroeswyr byddar ac anabl a goroeswyr LHDTC+. 

  118. Syr Andrew McFarlane (Hydref 2021), Confidence and Confidentiality: Transparency in the Family Courts. 

  119. Gweler, er enghraifft, Syr James Munby (May 2021), Submission to the President’s Transparency Review. 

  120. Natalie Byrom (2019), Developing the Detail: Evaluating the Impact of Court Reform in England and Wales on Access to Justice, 19. 

  121. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat: Cynllun Gweithredu. 

  122. Ffigurau mewnol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF a ddarparwyd i swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  123. Ibid. 

  124. Ibid. 

  125. Llywodraeth Cymru (3 Mawrth 2022), Llys Teulu Gogledd Cymru yn treialu dull newydd o gefnogi teuluoedd wedi gwahanu sy’n dod i’r llys | LLYW.CYMRU Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (8 Mawrth 2022), Pioneering approach in family courts to support domestic abuse victims better - GOV.UK (www.gov.uk) 

  126. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update, 12-13. 

  127. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat: Cynllun Gweithredu. 

  128. Ibid. 

  129. CAFCASS, Cymorth i Ferched (2016), Allegations of domestic abuse in child contact cases, https://www.cafcass.gov.uk/wp-content/uploads/2017/12/Allegations-of-domestic-abuse-in-child-contact-cases-2017.pdf 

  130. National Council of Juvenile and Family Court Judges (2022), Revised Chapter Four: Families and Children, Revised-MC-Chapter-Four-Dec.-2022-FINAL.pdf.pdf (ncjfcj.org) , 19. 

  131. Resources for assessing child refusal/resistance - Cafcass - Children and Family Court Advisory and Support ServiceAnfodlonrwydd neu wrthodiad plant i dreulio amser gyda rhiant: canllawiau ymarfer Cafcass Cymru | LLYW.CYMRU 

  132. Macdonald, G. S. (2016). Domestic violence and private family court proceedings: Promoting child welfare or promoting contact? Violence Against Women, 22(7), 832-852. https://doi.org/10.1177/1077801215612600 

  133. Linda C. Neilson, 2018, Parental Alienation Empirical Analysis: Child Best Interests or Parental Rights? (FREDA Centre for Research on Violence Against Women and Children) 

  134. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat – Cynllun Gweithredu. 

  135. O fewn paramedrau ei phenodiad, mae’r Comisiynydd: 1) yn rhyngweithio â dioddefwyr a goroeswyr mewn digwyddiadau ac ymweliadau; 2) wedi cyhoeddi adroddiad mapio, Clytwaith o ddarpariaeth sy’n nodi bod 69 y cant o ymatebwyr am weld cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer achosion Llysoedd Teulu yn y tair blynedd diwethaf (roedd yr adroddiad yn seiliedig ar safbwyntiau mwy na 4,000 o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig); 3) yn cael adborth gan wasanaethau rheng flaen sy’n rhyngweithio â miloedd o oroeswyr cam- drin domestig o ddydd i ddydd ac yn ymgysylltu â’r gwasanaethau hynny; 4) wedi sefydlu tîm Ymarfer a Phartneriaethau yn ei Swyddfa, sy’n cynnwys Arweinwyr Daearyddol, sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o Loegr ac yn rhoi gwybodaeth iddi am eu hardaloedd. 

  136. Against Violence and Abuse, (2022), Staying Mum Findings from peer research with mothers surviving domestic abuse & child removal, Staying-Mum-Final-1.pdf (avaproject.org.uk) 

  137. Rhaglen Ymyriadau Cam-drin Domestig (2013) Post Separation Power and Control Wheel, Using-Children-Wheel.pdf (theduluthmodel.org) 

  138. Callaghan J, Alexander J, Sixsmith J and Fellin L (2015) ‘Beyond “witnessing”: Children’s experiences of coercive control in domestic violence and abuse’. Journal of Interpersonal Violence. 

  139. Rhaglen Dispatches Channel 4 (2021), arolwg a gynhaliwyd ar gyfer: Torn Apart: Family Courts Uncovered: Dispatches. Gweler rhif 65 uchod am fanylion cyfyngiadau arolwg Dispatches. 

  140. Mae dynameg ryweddol yn cynnwys natur ryweddol cam-drin domestig (h.y. y ffaith mai menywod yn bennaf yw dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ac mai dynion bennaf yw’r cyflawnwyr), yn ogystal â’r ffordd y gall rhyw’r dioddefwr neu’r goroeswr ddylanwadu ar yr ymateb a gânt (h.y. yn aml nid yw dioddefwyr a goroeswyr sy’n ddynion yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr neu ni roddir sylw iddynt). 

  141. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mai 2023), Assessing Risk of Harm to Children and Parents in Private Law Children Cases - Implementation Plan: delivery update, 16. 

  142. Domestic abuse training for family lawyers | Safelives 

  143. Brennan, Myhill, Tagliaferri, a Tapley (2021) ‘Policing a new domestic abuse crime: Effects of force- wide training on arrests for coercive control’, Policing and Society, 1–16. Noda’r Comisiynydd fod hyfforddiant ar Faterion Cam-drin Domestig yn cael ei ddarparu i heddluoed gan Safe Lives a Cymorth i Ferched. 

  144. SafeLives (July 2020), Domestic Abuse: The Whole Picture, Culture Change Programme for Children’s Social Care Professionals. 

  145. Iriss (2019), Evidence on the Safe and Together Approach. 

  146. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat, 78 

  147. Cyfarwyddyd Ymarfer 27C o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu 

  148. Syr Andrew McFarlane (Hydref 2021), Supporting Families in Conflict: There is a better way. 

  149. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig, Safe Lives (Mehefin 2021), Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse, 19. 

  150. Ibid, 7. 

  151. Ibid, 11. 

  152. Mae rhestr wirio DASH (Cam-drin domestig, stelcio a thrais ar sail ‘anrhydedd’) yn cynnwys y cwestiwn a oes gwrthdaro ynglŷn â chyswllt â phlentyn, gan nodi bod astudiaeth o fenywod wedi gwahanu wedi dangos bod cyswllt â phlentyn yn fan gwan penodol i oroeswyr a’u plant (Humphreys a Thiara 2003), a bod “this has also been reiterated through research with IDVA projects confirming that harassment and stalking often continue post separation. Child contact is used by perpetrators to legitimise contact with ex-partners…”. Gweler SafeLives (2014), Dash risk checklist for the identification of high risk cases of domestic abuse, stalking and ‘honour’-based violence. 

  153. Cymorth i Ferched (2016), Nineteen Child Homicides, 29. Rhan 2: cynllun Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys 

  154. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat; Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (Mehefin 2021), SafeLives, Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse. 

  155. Adran 65 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, fel y’i gweithredir gan Gyfarwyddyd Ymarfer 3AB. 

  156. Adrannau 65 a 66 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. 

  157. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2022), Adroddiad Cryno Clytwaith o Ddarpariaeth, DAC_Mapping-Abuse-Suvivors_Summary-Report_Feb-2023_Digital.pdf 

  158. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (Mehefin 2021), SafeLives, Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse. 

  159. The LexisNexis Legal Aid Deserts report (2022), The LexisNexis Legal Aid Deserts report 

  160. Pyper, D., Sturge, G., Lipscombe, S., Holland, S. (2020) Spending of the Ministry of Justice on Legal Aid, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 

  161. Ibid. 

  162. Nodir y trothwyon cyfredol yn: Civil legal aid: means testing - GOV.UK (www.gov.uk) 

  163. Surviving Economic Abuse (2021), Denied Justice: How the legal aid means test prevents victims of domestic abuse from accessing justice and rebuilding their lives. 

  164. Professor David Hirsch (2018), Priced out of justice? Means testing legal aid and making ends meet, Cymdeithas y Cyfreithwyr. 

  165. Surviving Economic Abuse (2021) Denied Justice: How the legal aid means test prevents victims of domestic abuse from accessing justice and rebuilding their lives. 

  166. Katie Tarrant (20 Gorffennaf 2021) Divorced from reality: How legal loans racked up half a million debt for a standard divorce, Byline Times; Surviving Economic Abuse (2021) Denied Justice: How the legal aid means test prevents victims of domestic abuse from accessing justice and rebuilding their lives. 

  167. Public Law Project (2021) Practice Note: Trapped Capital. 

  168. Ystadegau Chwarterol y Llys Teulu: rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022, Family Court Statistics Quarterly: October to December 2022 - GOV.UK (www.gov.uk) 

  169. Comisiwn San Steffan ar Gymorth Cyfreithiol (Hydref 2021) Inquiry into the Sustainability and Recovery of the Legal Aid Sector. 

  170. Ibid. 

  171. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mawrth 2022) Adolygiad o’r Profion Modd ar gyfer Cymorth Cyfreithiol 

  172. Swyddfa Comisiynydd Cam-drin Cymru a Lloegr (Mehefin 2022) Domestic Abuse Commissioner’s response to the Legal Aid Means Test Review Consultation 

  173. Ibid, tudalen 2 

  174. Comisiwn San Steffan ar Gymorth Cyfreithiol (Hydref 2021) Inquiry into the Sustainability and Recovery of the Legal Aid Sector 

  175. Cyfarwyddyd Ymarfer 25B, Atodiad, paragraff 6. 

  176. Y Panel Niwed, 63. 

  177. Ibid. 

  178. Birchall, Choudhry (2021), ‘I was punished for telling the truth’: how allegations of parental alienation are used to silence, sideline and disempower survivors of domestic abuse in family law proceedings. 180 Mercer, Drew (2021), Challenging Parental Alienation: New Directions for Professionals and Parents (Routledge, Llundain; Efrog Newydd), 246. 

  179. Mercer, Drew (2021), Challenging Parental Alienation: New Directions for Professionals and Parents (Routledge, Llundain; Efrog Newydd), 246. 

  180. Cymdeithas y Seicolegwyr Clinigol (Rhagfyr 2021), The Protection of the Public in the Family Courts, The Protection of the Public in the Family Courts (acpuk.org.uk) 

  181. Llywydd yr Is-adran Deulu (2021), President’s Memorandum: Experts in the Family Court, Letterhead Template (judiciary.uk) 

  182. Y Cyngor Cyfiawnder Teuluol (2022) Interim Guidance in relation to expert witnesses in cases where there are allegations of alienating behaviours – conflicts of interest, FJC-interim-Guidance-use-of- experts-in-cases-with-allegations-of-alienating-behaviours.pdf (judiciary.uk) 

  183. Ibid, tudalen 2 

  184. Re C [2023] EWHC 345 (Fam). 

  185. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mehefin 2020), Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat Cynllun Gweithredu, 3. 

  186. Digwyddiad rhithwir a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ar Wella Ymateb y Llys Teulu i Gam-drin Domestig. 

  187. [2021] EWFC 106. 

  188. Cyfarfod rhwng y partïon a’r barnwr lle y cytunir sut y cynhelir y gwrandawiad canfod ffeithiau a pha fesurau arbennig sydd eu hangen.