Canllawiau

Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Diweddarwyd 11 October 2024

1. 1. Cyd-destun

Mae GSR yn rhoi ymchwil, cyngor a dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl a chymdeithas wrth wraidd penderfyniadau’r llywodraeth. Mae GSR yn gwneud hyn trwy fewnbwn, ymgysylltu a chydweithio effeithiol a dylanwadol.

Nod GSR yw cyfrannu a hyrwyddo perthnasedd a defnydd gwyddor gymdeithasol ac ymddygiadol yn rhagweithiol mewn penderfyniadau polisi, deddfwriaethol, cyflwyno a gwariant.

2. 2. Diben

Mae’r Cod GSR yn atodiad i God y Gwasanaeth Sifil. Fel Gweision Sifil eraill, fel Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, rydym yn rhwym i God y Gwasanaeth Sifil a’i werthoedd craidd sef:

  • cywirdeb
  • gonestrwydd
  • gwrthrychedd
  • didueddrwydd.

Diben y Cod GSR yw nodi safonau ymddygiad proffesiynol ychwanegol y GSR.

Mae’r safonau ymddygiad hyn wedi’u nodi dan yr un pedwar gwerth craidd Gwasanaeth Sifil ac yn ymwneud â darparu ymchwil, gwerthuso a dadansoddi o ansawdd uchel sy’n wyddonol drylwyr, yn berthnasol a gwerthfawr.

Drwy ddiffinio’r safonau ymddygiad hyn, mae’r cod GSR yn:

  1. arwain ein gwaith a’n hymddygiad fel aelodau GSR
  2. dangos ymrwymiad y GSR i dryloywder a didwylledd
  3. darparu fframwaith i sicrhau ein bod ni, aelodau GSR, yn cynnal ymchwil a dadansoddiadau ar gyfer y llywodraeth sydd o ansawdd uchel, yn drylwyr, yn berthnasol a gwerthfawr
  4. caniatáu i weinyddiaethau datganoledig, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill y llywodraeth asesu eu gallu ymchwil cymdeithasol a datblygu cynlluniau ar gyfer gwella.

3. 3. Safonau ymddygiad

3.1 3.1 Cywirdeb

Mae hyn yn golygu rhoi rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol chi.

Fel Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, byddwn yn:

  • sicrhau bod ein harferion yn gyson â Sicrwydd Moesegol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol ac Ymddygiadol y GSR
  • cydymffurfio â’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, lle bo’n berthnasol
  • darparu argymhellion, lle bo’n berthnasol, y gellir eu gweithredu ac sy’n cynrychioli gwerth am arian
  • agored am gyfyngiadau ymchwil a sut mae’r rhain yn effeithio ar y mewnwelediadau a’r argymhellion a wneir
  • tryloyw ynghylch sut mae dulliau a chanfyddiadau yn berthnasol i’r sylfaen dystiolaeth ehangach.

3.2 3.2 Gonestrwydd

Mae hyn yn golygu bod yn eirwir ac yn agored. Rhaid i bob Gwas Sifil nodi’r ffeithiau a’r materion perthnasol yn onest a chywiro unrhyw wallau cyn gynted â phosibl.

Fel Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, byddwn yn:

  • llywio trafodaeth gyhoeddus drwy gyhoeddi ein gwaith a, lle bynnag y bo modd, y data sylfaenol
  • sicrhau bod ein gwaith cyhoeddedig yn hygyrch, yn glir ac yn gryno – yn unol â Phrotocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
  • cyfathrebu’n rhagweithiol â chydweithwyr ar draws proffesiynau perthnasol eraill y llywodraeth, gan gynnwys proffesiynau perthnasol eraill yn swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth, wrth gynnal a hyrwyddo ymchwil
  • sefydlu a chynnal cydberthnasau â’r gymuned ymchwil gymdeithasol ac ymddygiadol ehangach er mwyn cyfathrebu ymchwil yn effeithiol – er enghraifft, trwy ffurfio cysylltiadau â sefydliadau llywodraethol, academaidd a masnachol eraill.

3.3 3.3 Gwrthrychedd

Mae hyn yn golygu seilio cyngor a phenderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o’r dystiolaeth.  

Fel Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, byddwn yn:

  • ·        sicrhau bod cynigion ymchwil yn canolbwyntio ar ateb cwestiynau clir, perthnasol y gellir ymchwilio iddynt, a defnyddio methodolegau sy’n briodol i’r cwestiynau hynny
  • ·        seilio dyluniadau ymchwil ar fethodolegau ac egwyddorion gwyddonol sydd â chefnogaeth eang o fewn y gymuned ymchwil
  • ·        cynnal hyfforddiant proffesiynol er mwyn sicrhau bod y dulliau mwyaf diweddar yn cael eu defnyddio
  • ·        darparu’r dyluniadau ymchwil gorau posibl, gan ystyried ffactorau fel cyllideb, gwerth ychwanegol, argaeledd staff, ac amserlenni
  • ·        sicrhau ansawdd cadarn ym mhob cam o’r ymchwil
  • adolygu cynllun ymchwil yn barhaus
  • sicrhau bod casgliadau ac argymhellion yn cael eu cefnogi gan y sylfaen dystiolaeth.

3.4 3.4 Didueddrwydd

Mae hyn yn golygu gweithredu yn unol â’r dystiolaeth yn unig a gwasanaethu llywodraethau o wahanol argyhoeddiadau gwleidyddol gystal â’i gilydd.

Fel Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth, byddwn yn:

  • dylunio ymchwil i gasglu tystiolaeth sy’n adlewyrchu ystod o farnau, safbwyntiau a dylanwadau ymddygiadol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
  • ceisio sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael golwg gytbwys ar y dystiolaeth a gynhyrchir gennym
  • herio rhagdybiaethau a chasgliadau nad ydynt yn cael eu cefnogi’n glir gan y sylfaen dystiolaeth neu sy’n gwrthdaro â theori sefydledig.
  1. Mae gan weision sifil sy’n gweithio i Lywodraethau Cymru a’r Alban, a’u hasiantaethau, eu fersiynau eu hunain o’r cod. Mae codau tebyg yn berthnasol i wasanaeth sifil Gogledd Iwerddon a’r Gwasanaeth Diplomyddol. Mae gweision sifil sy’n gweithio mewn adrannau anweinidogol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn dod o dan y cod hwn.
  2. Ymddygiadau yw’r gweithredoedd a’r gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy’n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd.
  3. Mae’r Concordat a’r ddogfen gysylltiedig Canllawiau i weithredu’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil o fewn y llywodraeth - GOV.UK (ww.gov.uk) yn gymwys i Adrannau, Adrannau a Labordai Cyhoeddus Llyowdraeth y DU.
  4. Rhaid i aelodau GSR yn yr Alban ddilyn Protocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth yr Alban neu eu protocol asiantaeth penodol lle bo hynny’n berthnasol.