Erlyniadau cwmnïau trên
Cyhoeddwyd 21 June 2024
Mae’r Weithdrefn Un Ynad (SJP) yn caniatáu i’r rhai hynny sy’n pledio’n euog i droseddau lefel isel ble na ellir rhoi dedfryd o garchar ddatrys eu hachos heb fynd i’r llys.
Mae cwmnïau trên ac amryw o gyrff eraill wedi’u hawdurdodi gan Orchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (Dull Newydd o Gychwyn Achos) (Pennu Erlynwyr Perthnasol) 2016 i gyflwyno hysbysiadau Gweithdrefn Un Ynad.
Mater i erlynwyr yw penderfynu defnyddio’r Weithdrefn Un Ynad. Pan fydd achosion yn dod i’r llys, mae ynadon yn gwneud penderfyniad ar yr achos ac ar y ddedfryd, cynghori’r gan cynghorwyr cyfreithiol.
Troseddau tocynnau trên
Mae GLlTEF, Adran Drafnidiaeth a ‘r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol bod nifer o gwmnïau trên wedi mewn camgymeriad defnyddio’r Weithdrefn Un Ynad wrth euogfarnu unigolion am gyflawni rhai troseddau penodol:
- pan nad oedd y drosedd wedi’i gynnwys yng Ngorchymyn 2016 neu
- pan nad oedd y drosedd yn un y gellir rhoi dedfryd o garchar ar ei gyfer (er ni roddwyd dedfryd o garchar ar gyfer y troseddau hyn drwy’r Weithdrefn Un Ynad).
Byddai unrhyw wall gweithdrefnol o’r math hwn yn berthnasol i droseddau tocynnau trên penodol yn unig, ac nid yw’n effeithio ar unrhyw fath arall o erlyniad gan ddefnyddio’r Weithdrefn Un Ynad.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Dim ond y llysoedd all wrthdroi neu ddiddymu euogfarn ansicr.
Ein camau gweithredu
Mae’r Adran Drafnidiaeth, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a GLlTEF yn cydweithio i:
- adolygu pa gwmnïau trên a allai fod wedi euogfarnu unigolion gan ddefnyddio’r ddeddfwriaeth hon
- ystyried y camau nesaf os canfyddir bod unrhyw achos wedi’i drin yn anghywir gan y llysoedd
Mae cyfarwyddyd wedi’i roi i’r llysoedd, a byddant yn monitro unrhyw erlyniadau newydd.
Unwaith y byddwn wedi adolygu’r sefyllfa yn llwyr byddwn, os bydd angen, yn darparu diweddariad yn uniongyrchol i’r bobl a allai fod wedi’u heffeithio. Ni allwn ymateb i ymholiadau unigol tan fyddwn wedi cwblhau’r adolygiad, felly gofynnir i aelodau’r cyhoedd beidio â chysylltu â’r llysoedd neu unrhyw gwmni trên yn y cyfamser.