Policy paper

Troi'r fantol: Trawsnewid yr ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig (Welsh accessible)

Updated 15 April 2025

Cyflwynwyd i Senedd y DU yn unol ag adran 8 (6) o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021

Ionawr 2025

© Hawlfraint y Goron 2025

Rhagair

Bydd yr heddlu’n cael galwad am gam-drin domestig bob 30 eiliad. Mae hyn yn fusnes craidd i’r system cyfiawnder troseddol a dylai’r cyhoedd ddisgwyl ymateb cadarn sy’n cydnabod difrifoldeb y troseddau hyn.

Gall y system cyfiawnder troseddol fod yn achubiaeth i bobl sy’n wynebu cam-drin domestig, gyda’r gallu i ddwyn cyflawnwyr y troseddau hyn i gyfrif, atal cam-drin pellach a chadw dioddefwyr a goroeswyr yn ddiogel.

Mae’r Llywodraeth hon, yn briodol ddigon, wedi cydnabod bod cam-drin domestig yn argyfwng cenedlaethol, ac wedi addo haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd.

Fodd bynnag, wrth i gam-drin domestig gael ei gydnabod yn briodol fel trosedd, daw’r galw yn y system ac anghenion dioddefwyr a goroeswyr wyneb yn wyneb â system cyfiawnder troseddol nad yw’n gallu ymateb i anferthwch yr her. Oherwydd canlyniadau cyfiawnder troseddol gwael a methiannau systemig, mae ffydd dioddefwyr a goroeswyr yn y system yn is nag erioed.

Er ei bod yn galonogol clywed gan rai dioddefwyr a goroeswyr eu bod wedi cael profiad cadarnhaol o gyfiawnder troseddol, yn anffodus mae llawer mwy yn disgrifio rhwystredigaeth, siom, a diffyg ffydd mewn system a oedd i fod i’w hamddiffyn.

Mae’r sefyllfa bresennol yn llwm, gan mai dim ond 6% o’r achosion o gam-drin domestig a gofnodir gan yr heddlu sy’n arwain at euogfarn; a dim ond un rhan o bump o ddioddefwyr sydd â’r hyder i roi gwybod i’r heddlu yn y lle cyntaf.

Dyna pam mai nawr yw’r amser i rannu fy ngweledigaeth ar gyfer diwygio ymateb y system cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig.

Yr adroddiad hwn yw fy nghyhoeddiad mawr cyntaf ar gyfiawnder troseddol ond mae wedi bod yn yr arfaeth ers blynyddoedd. Mae’n seiliedig ar wybodaeth gan ddioddefwyr a goroeswyr, gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol ac arolygiaethau cyfiawnder troseddol, yn ogystal â’r adroddiadau ac adolygiadau niferus a ddaeth o’i flaen.

Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r dioddefwyr a’r goroeswyr, gan gynnwys aelodau o VOICES at the DAC, a’r sefydliadau a roddodd o’u hamser i rannu eu syniadau ar gyfer newid. Mae eich adborth wedi bod yn allweddol wrth lunio’r adroddiad hwn.

Er bod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at heriau sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol, mae hefyd yn cydnabod ymdrechion llawer o unigolion ymroddgar sy’n ysgogi newid cadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd yr argymhellion yn ategu eu gwaith.

Caiff fy uchelgeisiau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol eu hadlewyrchu yn y 12 o argymhellion mewn pedair thema allweddol: data ac atebolrwydd; gweithio amlasiantaethol; darparu adnoddau; blaenoriaethu cam-drin domestig. Mae’r themâu hyn yn adlewyrchu’r materion mwyaf dybryd ym mhob rhan o’r system, lle y ceir llawer o botensial i wneud newidiadau a gaiff effaith fawr.

Ond dim ond drwy dderbyn y 12 o argymhellion yn eu cyfanrwydd y gellir diwygio’r ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig mewn ffordd wirioneddol. Yn rhy aml, bydd asiantaethau cyfiawnder troseddol yn gweithio mewn seilos, gan arwain at system dameidiog nad yw’n ddigon cydgysylltiedig na chyson. Daeth fy ngwaith ymchwil mapio i’r casgliad mai’r heddlu yn aml oedd un o’r asiantaethau proffesiynol cyntaf y byddai dioddefwyr a goroeswyr yn dweud wrthynt am y cam-drin. Golyga hyn fod amrywiaeth o gymorth posibl ar gael i oedolion a phlant sy’n ddioddefwyr ac yn oroeswyr os bydd yr heddlu’n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cymorth. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio tuag at ffordd gyfannol ac amlasiantaethol o weithredu.

Yn ei thro, rhaid i’r ffordd hon o weithredu fod yn seiliedig ar gydweithio â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Mae’r cymorth a roddir ganddynt yn gwbl hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr wrth iddynt geisio deall cymhlethdodau’r system cyfiawnder troseddol, a hynny i gyd wrth ddelio â thrawma cam-drin domestig.

Gallai’r system cyfiawnder troseddol fod yn drawsnewidiol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig – lle i gael cyfiawnder, diogelwch, a chymorth. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu llwybr clir ymlaen, gydag argymhellion a all arwain at ddiwygiadau gwirioneddol ystyrlon.

Nid yw newid byth yn hawdd, ond mae ymroddiad ac ymrwymiad y rhai sydd eisoes yn ysgogi cynnydd yn rhoi llawer o obaith i mi. Drwy gydweithio â’n gilydd, gallwn sicrhau dyfodol lle bydd y system cyfiawnder troseddol yn amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr (pwy bynnag y byddant yn cysylltu â nhw), yn dwyn cyflawnwyr i gyfrif ac yn cyfrannu at gymdeithas lle nad oes cam-drin domestig yn digwydd.

Nawr yw’r amser i weithredu – yn bendant ac ar y cyd – er mwyn i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig gael yr ymateb cywir, bob tro.

Y Fonesig Nicole Jacobs

Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr

Cyflwyniad

Yr hyn roeddwn i am ei gael gan y system cyfiawnder troseddol…oedd cyfiawnder, yn gyntaf oll, ond tosturi hefyd – cael fy nhrin fel bod dynol.[footnote 1]

– Goroeswr

Mae’r system cyfiawnder troseddol yn cyflawni rôl allweddol yn ein hymateb i gam-drin domestig, a rhaid i bob dioddefwr neu oroeswr[footnote 2] gael cyfle i gael canlyniad cyfiawnder troseddol. Dim ond un ffordd y byddwn yn dwyn cyflawnwyr i gyfrif am eu troseddau yw canlyniad cyfiawnder troseddol, ac mae’n bwysig cofio bod cam-drin domestig yn drosedd. Nid yw ond yn iawn ymchwilio i achosion o’r fath, eu herlyn a’u cosbi, fel sy’n addas i unrhyw drosedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ddinistriol a hirdymor y gallant eu cael ar ddioddefwyr.

Mae’r ymateb cyfiawnder troseddol wedi newid yn sylweddol ers i’r ddeddfwriaeth benodol gyntaf ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig gael ei phasio yn 1976, ac ers i dreisio o fewn priodas gael ei droseddoli yn 1991. Gwaith diflino eiriolwyr dioddefwyr a goroeswyr, y sector cam-drin domestig arbenigol, ymgyrchwyr, a gweithwyr proffesiynol ymroddedig a brwd sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol ei hun sy’n bennaf cyfrifol am hyn.

Serch hynny, mae llawer mwy o waith i’w wneud. Yn ei hanfod, ni chafodd y system cyfiawnder troseddol erioed mo’i dylunio i ymateb i’r epidemig cam-drin domestig sy’n bodoli yn ein cymdeithas, a’r cynnydd a groesewir yn nifer y dioddefwyr sy’n rhoi gwybod amdano. Mae’r olyniaeth faith o adolygiadau, adroddiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau, yn ogystal â thystiolaeth gan oroeswyr, yn dyst i hyn.

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio dod ag adolygiadau blaenorol, gwybodaeth gan ymarferwyr, dadansoddiadau data newydd ac, yn hollbwysig, lais goroeswyr, ynghyd i nodi gweledigaeth y Comisiynydd Cam-drin Domestig i drawsnewid yr ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig. Yn briodol ddigon, mae’r llywodraeth newydd wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol i haneru trais yn erbyn menywod a merched dros y degawd nesaf. Nod yr adroddiad yw ceisio cyfateb i’r lefel hon o uchelgais a welir mewn ymrwymiadau cenedlaethol, drwy nodi’r newidiadau systemig sylfaenol y bydd yn rhaid eu gwneud er mwyn gwneud y cynnydd sy’n ofynnol i gyflawni’r ymrwymiadau hyn. Ar hyn o bryd, mae dioddefwyr a goroeswyr yn wynebu loteri cod post ym maes cyfiawnder. Nid yw’n iawn bod yr ymateb a gânt yn dibynnu ar yr ardal leol, eu mynediad at wasanaethau, neu’r swyddog heddlu, erlynydd, barnwr neu swyddog prawf y byddant yn rhyngweithio ag ef.

Drwy ddilyn taith goroeswr drwy’r system cyfiawnder troseddol, o roi gwybod am y cam- drin yn y lle cyntaf i’r llys a thu hwnt, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at arferion cadarnhaol a negyddol ym mhob rhan o’r system ac yn crynhoi’r themâu allweddol sydd i’w gweld drwy bob un ohonynt. Ceir materion sy’n ymwneud â data ac atebolrwydd, gweithio amlasiantaethol, darparu adnoddau, a blaenoriaethu cam-drin domestig, sy’n ffurfio’r sail ar gyfer argymhellion allweddol yr adroddiad. Mae’r argymhellion hyn yn berthnasol i’r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd ac felly rhaid iddynt gael eu rhoi ar waith gyda’i gilydd. Yn rhy aml, bydd y system cyfiawnder troseddol dameidiog, ynghyd â chyfyngiadau ar adnoddau, yn arwain at weithio mewn seilos a diffyg cyfeiriad strategol unedig.

Gwyddom na fydd pob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig yn rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol, ac mai dim ond rhan o’r cymorth y bydd dioddefwyr a goroeswyr yn chwilio amdano yw cyfiawnder troseddol. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o’r rhesymau systemig pam na fydd 80% o ddioddefwyr a goroeswyr yn ceisio ymateb cyfiawnder troseddol.

Ar hyn o bryd, bydd y mwyafrif o’r rhai sy’n rhoi gwybod am gam-drin domestig yn rhyngweithio â’r heddlu ond nid â’r un asiantaeth cyfiawnder troseddol arall. Am y rheswm hwn, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddechrau’r daith cyfiawnder troseddol, lle y bydd y rhan fwyaf o ddioddefwyr a goroeswyr yn canfod eu hunain: yr heddlu. Drwy fapio darpariaeth cam-drin domestig, gwelodd y Comisiynydd fod 42% o ddioddefwyr a goroeswyr a ddywedodd wrth weithiwr proffesiynol am y cam-drin domestig roeddent yn ei wynebu wedi dweud wrth yr heddlu cyn unrhyw weithwyr proffesiynol eraill.[footnote 3] Mae’n hollbwysig darparu adnoddau ar gyfer ymdrechion atal ac ymyrryd yn gynnar, er mwyn sicrhau na fydd goroeswyr yn cyrraedd pwynt argyfwng cyn chwilio’n daer am gymorth, ac na fydd y system cyfiawnder troseddol dan bwysau ddarparu’r cymorth hwn ar ei phen ei hun. Fodd bynnag, i’r dioddefwyr a’r goroeswyr hynny a fydd yn defnyddio’r system cyfiawnder troseddol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr ymateb hwn yn iawn bob tro.

Ffigur 1: Data ar gam-drin domestig o’r digwyddiad i’r euogfarn, Cymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024[footnote 4]

Ddioddefwyr amcangyfrifedig 2,307,000
Cofnodwyd gan yr heddlu 851,062
Unigolion dan anheuaeth a atgyfeiriwyd 72,641
Unigolion dan anheuaeth a gyhuddwyd 49,046
Troseddwyr a euogfarnwyd 38,776

Ffynhonnell: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, data ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu gan y Swyddfa Gartref, a Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae hyder mewn asiantaethau cyfiawnder troseddol a’u gallu i ymateb yn effeithiol i gam- drin domestig yn is nag erioed. Dros y pum mlynedd diwethaf, er gwaethaf gwelliannau sylweddol i ddeddfwriaeth a pholisi mewn perthynas â’r ymateb statudol ac ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig, mae nifer y canlyniadau cyfiawnder troseddol wedi lleihau’n raddol. Ategir hyn gan y dioddefwyr a goroeswyr cam- drin domestig sy’n cysylltu â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. Mewn arolwg o 688 o oroeswyr a gynhaliwyd ar wefan y Comisiynydd; gwnaeth 86% ohonynt naill ai roi gwybod i’r heddlu am y cam-drin roeddent yn ei wynebu, neu rhoddwyd gwybod amdano ar eu rhan – ond dim ond 12% a gafodd yr ymateb roedd ei eisiau arnynt.

Yn ddi-os, mae’r system cyfiawnder troseddol yn cael ei gorlethu gan y gofynion sydd arni ac mae’n ei chael hi’n anodd ymdopi. O ganlyniad i fethiannau systemig dros flynyddoedd lawer, mae gwasanaethau cymorth arbenigol yn cael eu tangyllido’n ofnadwy; mae arferion ac ansawdd yr ymateb gan y 43 o heddluoedd yn amrywio’n sylweddol; mae ôl- groniadau yn y llysoedd yn golygu bod cyfiawnder yn y fantol am fisoedd, neu flynyddoedd, hyd yn oed; mae cyflawnwyr troseddau wedi cael eu rhyddhau’n gynnar o system garchardai sydd dan ormod o bwysau; mae’r Gwasanaeth Prawf yn teimlo effeithiau ailstrwythuro; ac mae achosion o gam-drin domestig erchyll a gyflawnwyd gan aelodau o’r heddlu eu hunain wedi dod i’r amlwg.

Er mwyn trawsnewid ymateb y system cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig, rhaid gweithredu mewn ffordd fwy cyfarwyddiadol sy’n gyson ledled y wlad, gan ddarparu adnoddau mewn ffordd uchelgeisiol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd. Rhaid grymuso gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael eu dal yn ôl gan brinder adnoddau ac ymddiried ynddynt i ymateb i gam-drin domestig fel y dylent ymateb iddo; drwy ymchwilio’n drylwyr, erlyn cyflawnwyr a dod â nhw o flaen eu gwell, a rheoli’r risg a berir ganddynt.

Er gwaethaf diffygion systemig, ceir unigolion sy’n gweithio ym mhob rhan o’r system na ddylid tanbwysleisio eu hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at eu gwaith pwysig, a’r dulliau o gyflawni newid y gall y llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eu defnyddio, ac y mae’n rhaid iddynt eu defnyddio, i ysgogi cysondeb cenedlaethol sy’n cyrraedd y safon hon drwyddi draw.

Methodoleg a strwythur

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan ddefnyddio’r ffynonellau canlynol:

  • Adolygiad o lenyddiaeth academaidd, gwaith ymchwil o’r sectorau cam-drin domestig arbenigol a dioddefwyr, ac adroddiadau gan y llywodraeth ac asiantaethau o bob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol.

  • Adolygiad o’r llenyddiaeth ar lefelau ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol ymhlith goroeswyr.

  • Cyfarfodydd bord gron gyda dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, gan gynnwys cyfarfodydd bord gron penodol gyda goroeswyr sy’n fewnfudwyr, goroeswyr sy’n ddynion, a goroeswyr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu.

  • Cyfarfodydd bord gron gyda’r sector cam-drin domestig, gan gynnwys gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol.

  • Galwad am dystiolaeth arbenigol i awdurdodau lleol, heddluoedd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a sefydliadau cymorth cam-drin domestig arbenigol.

  • Yr hyn a ddysgwyd o Adolygiadau Lladdiadau Domestig.

  • Arolwg o’r holl heddluoedd mewn perthynas â’u data ar gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu a’u hymatebion i achosion o’r fath.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried y system cyfiawnder troseddol o safbwynt taith goroeswr o’r dechrau i’r diwedd. Er bod y penodau wedi’u rhannu’n gamau ar y daith hon, mae’r argymhellion yn ymwneud â’r materion cyson a nodir fel rhai sylfaenol drwy gydol yr adroddiad: data ac atebolrwydd; gweithio amlasiantaethol; darparu adnoddau; a blaenoriaethu cam-drin domestig yn yr ymateb cyfiawnder troseddol statudol.

1. Cyn dod i gysylltiad â’r heddlu

Achosion o gam-drin domestig yw un o bob tair trosedd trais yn erbyn y person a gofnodir gan yr heddlu. Yn y 12 mis tan fis Mehefin 2024, roedd hyn yn golygu 651,397 o droseddau. [footnote 5] Fodd bynnag, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi canfod bod llai nag un o bob pum dioddefwr a goroeswr yn rhoi gwybod i’r heddlu.[footnote 6] Pe bai pob dioddefwr yn rhoi gwybod i’r heddlu, byddai nifer y troseddau a gofnodir gryn dipyn yn fwy.

Diben yr adroddiad hwn yw archwilio arferion da a gwael o fewn y system cyfiawnder troseddol a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio. Mae hyn o reidrwydd yn golygu y bydd yn canolbwyntio ar y lleiafrif o ddioddefwyr a goroeswyr sy’n rhoi gwybod i’r heddlu. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod amrywiaeth o resymau pam mae llawer o ddioddefwyr a goroeswyr eraill yn dewis peidio â rhoi gwybod. Mae’r data yn Ffigur 2 o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn awgrymu bod cysylltiad agos, i lawer, rhwng hyn a diffyg hyder yn y system cyfiawnder troseddol. Adlewyrchir hyn yn y wybodaeth a geir o dystiolaeth gan oroeswyr a gwaith ymchwil arbenigol yn y sector; fodd bynnag, byddai’n fuddiol pe bai mwy o waith ymchwil yn cael ei wneud i’r pwnc hwn er mwyn llywio’r ffordd y caiff diwygiadau eu rhoi ar waith i annog pobl i roi gwybod am droseddau. Mae’r bennod hon yn achub ar y cyfle i nodi rhai o’r materion allweddol hyn yn gryno, ac yn esbonio’r cyd-destun o ran pam bod angen mor daer am y diwygiadau a’r gwelliannau a argymhellir gan yr adroddiad hwn.

Ffigur 2: Rhesymau pam na wnaeth dioddefwyr ddweud wrth yr heddlu am y cam-drin gan bartner wynebwyd ganddynt yn ystod y 12 mis tan fis Mawrth 2023[footnote 7]

Rheswm Canran
Rhy ddibwys/ddim yn werth rhoi gwybod 43%
Ddim yn credu y gallent helpu 32%
Cywilydd 22%
Ddim yn credu y byddai’r heddlu’n gwneud dim am y peth 19%
Mater preifat/mater teulol/dim o fusnes yr heddlu 18%
Ddim am i’r person a oedd yn gyfrifol gael ei gosbi 17%
Reswm arall 16%
Ddim yn credu y byddent yn fy nghredu 9%
Credu y byddai’n codi cywilydd 8%
Ofn ragor o drais o ganlyniad i gynnwys yr heddlu 7%
Ddim am fynd i’r llys 7%
Anhoffter o’r heddly/Ofn yr heddlu 5%
Ddim yn credu y byddai’r heddlu’n cydymdeimlo 5%

1.1 Rhwystr 1: Nid yw dioddefwyr a goroeswyr yn uniaethu â therminoleg sy’n ymwneud â cham-drin domestig

Er y bydd dioddefwyr a goroeswyr yn dweud bod rhywbeth o’i le ar eu perthynas, neu hyd yn oed eu bod yn cael niwed, mae’n bosibl na fyddant yn cysylltu hyn yn uniongyrchol ag iaith ‘cam-drin domestig’ neu drosedd mynegai benodol. Gall hyn fod o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys beio a dibwyllo gan y cyflawnwr, yn ogystal â mythau a chamsyniadau cymdeithasol sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ynglŷn ag ystyr cam-drin domestig, a phwy sy’n gallu bod yn ddioddefwr neu’n gyflawnwr.

Yn wir, mae gwaith ymchwil gan Cymorth i Ddioddefwyr yn dangos mai normaleiddio neu beidio â deall cam-drin domestig yw un o’r ffactorau allweddol sy’n atal dioddefwyr a goroeswyr rhag rhoi gwybod i’r heddlu.[footnote 8] Ategir hyn gan ddata o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, sy’n dangos bod 43 y cant o ddioddefwyr a oedd wedi wynebu cam-drin domestig wedi dewis peidio â rhoi gwybod i’r heddlu am eu bod yn teimlo bod y digwyddiad yn rhy ddibwys neu nad oedd yn werth rhoi gwybod amdano.[footnote 9] Mae profiadau goroeswyr y gwnaethom siarad â nhw hefyd yn ategu hyn – dywedodd rhai wrthym nad oeddent yn sylweddoli bod yr hyn roeddent yn ei wynebu’n cael ei ystyried yn gam-drin domestig, yn enwedig pan nad oedd yn cynnwys cam-drin corfforol.[footnote 10]

1.2 Rhwystr 2: Mae’r heddlu wedi colli ymddiriedaeth dioddefwyr a goroeswyr

Mae data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos na wnaeth nifer o ddioddefwyr a goroeswyr roi gwybod i’r heddlu am resymau sy’n awgrymu diffyg ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu ac effeithiolrwydd eu hymateb.[footnote 11] Caiff canfyddiadau o’r fath eu dwysáu gan ddatgeliadau mynych o gamymddwyn gan yr heddlu, a’u dwysáu ymhellach gan fethiannau systemig wrth ddelio â’r camymddwyn hwn.[footnote 12] Caiff hyn ei drafod yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.

Mae’r diffyg hyder hwn yn arbennig o wael ymhlith dioddefwyr a goroeswyr o gymunedau a ymyleiddiwyd a all wynebu risgiau ychwanegol a mathau penodol o niwed. Mae hyn yn cynnwys hiliaeth a gorblismona, diffyg mynediad anghymesur at gymorth, pwysau gan eu cymuned, ac ofn colli eu plant.[footnote 13] Canfu gwaith ymchwil diweddar gan Gynghrair End Violence Against Women (EVAW) fod gan 44% o ddioddefwyr a goroeswyr brofiad blaenorol o wahaniaethu, hiliaeth, ableddiaeth a/neu senoffobia gan yr heddlu.[footnote 14] Ar ben hynny, mae canfyddiadau Adolygiadau Lladdiadau Domestig wedi dangos bod gan weithwyr proffesiynol, mewn rhai achosion, gredoau ynglŷn â normaleiddio a goddefiant tybiedig mewn perthynas â cham-drin domestig mewn cymunedau lleiafrifiedig.[footnote 15]

Mae’r risg o gael ymateb gorfodi mewnfudo oherwydd statws mewnfudo ansicr canfyddedig neu wirioneddol yn creu mwy fyth o rwystrau i rai dioddefwyr a goroeswyr.[footnote 16] Mae gwaith ymchwil gyda menywod sy’n fewnfudwyr yn arbennig wedi dangos bod dros hanner (54%) yn ofni na fyddai’r heddlu’n eu credu oherwydd eu statws mewnfudo.[footnote 17] Bydd cyflawnwyr yn manteisio ar yr ofn hwn, ac ategir hyn gan ddata’r Swyddfa Gartref, sy’n dangos bod pob ardal heddlu ledled Cymru a Lloegr wedi atgyfeirio dioddefwyr cam- drin domestig at asiantaethau Gorfodi Mewnfudo rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2023.[footnote 18] Mae argymhellion Adolygiadau Lladdiadau Domestig wedi tynnu sylw at angen penodol am hyfforddiant mewn perthynas â chymunedau Du a lleiafrifiedig, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â mewnfudo a chamddefnyddio prosesau.[footnote 19]

Roeddwn i’n poeni na fyddai rhoi gwybod amdano’n helpu ac y byddwn i’n cael fy anfon yn ôl i [fy ngwlad wreiddiol]. Byddai hyn yn gyfystyr â chael fy nedfrydu i farwolaeth.[footnote 20]

– Goroeswr

1.3 Rhwystr 3: Mae dioddefwyr a goroeswyr wedi cael eu profiadau negyddol eu hunain – neu wedi bod yn dyst i brofiadau negyddol pobl eraill – o’r system cyfiawnder troseddol

I rai goroeswyr, methiannau asiantaethau a gweithwyr proffesiynol allweddol pan wnaethant ryngweithio â’r system cyfiawnder troseddol o’r blaen, neu brofiadau pobl eraill y maent wedi clywed amdanynt neu eu gweld, sydd wedi llywio eu diffyg ymddiriedaeth a hyder. Yn ogystal ag ymatebion cyntaf gwael, mae hyn hefyd yn cynnwys hyd a natur aildrawmateiddio proses y llys.

Mae’n bosibl bod rhai dioddefwyr a goroeswyr wedi cael profiadau negyddol – neu eu bod yn ofni cael profiad negyddol – a chaiff hyn ei ddwysáu gan ffactorau fel troseddu blaenorol (a all fod wedi cael ei ysgogi gan eu profiadau o gam-drin) a phethau sy’n eu gwneud yn agored i niwed gan gynnwys iechyd meddwl gwael a chamddefnyddio sylweddau. Mae’n bosibl bod yr unigolion hyn yn teimlo na fydd y system cyfiawnder troseddol yn eu trin nhw na’u hymateb i drawma fel dioddefwyr neu ymatebion dioddefwyr ‘go iawn’.

Gall un profiad negyddol, hyd yn oed, atal goroeswyr rhag ceisio cymorth ymhell i’r dyfodol. Dywedodd un goroeswr wrthym fod profiad cychwynnol gwael o ryngweithio â’r heddlu wedi cael effaith mor sylweddol arno nes iddi gymryd naw mlynedd arall cyn iddo allu magu’r dewrder i roi gwybod eto, a’i fod wedi parhau i gael ei gam-drin yn y cyfamser.

Doeddwn i ddim wir am ffonio’r heddlu, oherwydd wnaeth y bobl o’m cwmpas ddim…wnaethon nhw ddim cael y cymorth, wnaethon nhw ddim cael eu hamddiffyn fel y cyfryw pan wnaethon nhw adael – roedd bron fel pe baen nhw’n waeth eu byd, felly roeddwn i am fod yn ddiogel wrth adael a cheisio rhoi trefn ar fy mywyd.[footnote 21]

– Goroeswr

Yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf, o bosibl, yw’r ffaith bod rhai goroeswyr a oedd wedi rhoi gwybod ac wedi parhau â’r broses i’r llys yn dweud eu bod yn difaru eu penderfyniad i fynd ar drywydd canlyniad cyfiawnder troseddol.[footnote 22] Dywedodd un goroeswr wrth y Comisiynydd, “Fyddwn i byth, byth wedi ffonio’r heddlu pe bawn i’n gwybod bod dwy flynedd nesaf fy mywyd yn mynd i fod fel hyn.”[footnote 23]

Mae’r rhwystrau hyn yn dangos bod angen newid strwythurol systemig er mwyn sicrhau y bydd holl ddioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo’n ddiogel i roi gwybod am droseddau ac y gallant ymddiried y bydd yr ymateb a gânt yn dosturiol, yn ystyriol o drawma, ac yn gallu eu helpu i fod yn ddiogel – beth bynnag y bydd hyn yn ei olygu iddynt a ph’un a fydd yn cynnwys canlyniad cyfiawnder troseddol ai peidio.

Rhaid i unrhyw ymdrechion i wella ymddiriedaeth goroeswyr yn y system cyfiawnder troseddol fod yn seiliedig ar newid sylfaenol sy’n canolbwyntio ar eu profiadau ac sy’n dangos gwelliannau clir a chyson – yn hytrach na rhoi’r baich ar y goroeswyr eu hunain i ymddiried yn ddall yn y system.

Dim ond lwc ydyw – pwy gewch chi ar y pryd, pa swyddog y byddwch chi’n rhoi gwybod iddo.[footnote 24]

– Goroeswr

Er gwaethaf methiannau systemig, mae goroeswyr hefyd yn tynnu sylw clir at dosturi, cymorth ac ymroddiad unigolion penodol – boed yn yr heddlu, mewn gwasanaethau cymorth arbenigol, yn y llysoedd, neu mewn rhannau eraill o ymateb y system – a’u galluogodd i barhau i ymwneud â’r broses. Er y dylid canmol effaith gadarnhaol unigolion o’r fath, ni ddylai goroeswyr fod yn ddibynnol ar loteri o bersonoliaeth i benderfynu ar yr ymateb a’r cymorth y byddant yn eu cael. Mae’r sefyllfa hon yn enbyd, yn enwedig o ran yr ymateb cyntaf a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr pan fyddant yn rhoi gwybod. Caiff yr ymateb cyntaf, a’i rôl fel porth i’r system cyfiawnder troseddol ehangach, ei archwilio yn y bennod nesaf.

2. Rhoi gwybod a’r ymateb cyntaf

Roeddwn i am iddo adael, ac roeddwn i am i bopeth ddod i ben nawr – ar fy nhelerau i. Roedd fel pe bawn i’n codi fy llais o’r diwedd.[footnote 25]

– Goroeswr

Fel y mae Pennod 1 eisoes wedi’i ddangos, mae’r ymateb cyntaf y bydd dioddefwyr a goroeswyr yn ei gael ar ôl rhoi gwybod am drosedd yn hollbwysig er mwyn llywio eu profiad o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n debygol o fod yn hanfodol wrth iddynt benderfynu a ydynt am barhau â’r broses, ac a fyddant am roi gwybod eto yn y dyfodol.

Gwnaeth y dioddefwyr a’r goroeswyr y gwnaethom siarad â nhw dynnu sylw at amrywiaeth eang o ffactorau sy’n llywio eu penderfyniad cychwynnol i roi gwybod i’r heddlu. Roedd y themâu’n cynnwys chwilio am y canlynol (ond nid oeddent yn gyfyngedig iddynt):

  • Diogelwch ac amddiffyniad, gan gynnwys i’w plant.

  • Cadarnhad mai cam-drin oedd yr hyn a oedd yn digwydd iddynt.

  • Arweiniad ac arbenigedd.

  • Symud y cyflawnwr ymaith fel bygythiad uniongyrchol.

  • Atebolrwydd i’r cyflawnwr am ei weithredoedd.

I rai, gwnaeth yr hyn roeddent am ei gael newid wrth i’r broses fynd rhagddi – er enghraifft, o ddiogelwch a symud y cyflawnwr ymaith i euogfarn droseddol.

Yn sicr, ei gael allan o’r tŷ oedd nod y rhyngweithiad cyntaf…yn syth ar ôl iddi wawrio arnaf na fyddai’n dod yn ôl – oherwydd dyna oedd y bygythiad uniongyrchol – yna roedd rhaid i mi gael cyfiawnder er mwyn y plant.[footnote 26]

– Goroeswr

Daeth gwaith mapio’r Comisiynydd i’r casgliad mai’r heddlu yw un o’r asiantaethau proffesiynol cyntaf y byddai dioddefwyr a goroeswyr yn dweud wrthynt eu bod wedi cael eu cam-drin.[footnote 27] Fodd bynnag, mae’n debygol y byddant wedi dioddef sawl achos o gam- drin domestig cyn cysylltu â’r heddlu am y tro cyntaf a byddant, ar gyfartaledd, wedi dioddef dros ddwy flynedd o gam-drin domestig cyn ceisio unrhyw fath o gymorth.[footnote 28] Fel y nodwyd ym Mhennod 1, mae dioddefwyr a goroeswyr o gymunedau a ymyleiddiwyd yn llai tebygol fyth o gysylltu â’r heddlu, er eu bod yn wynebu cyfraddau uwch o drais ar sail rhywedd.[footnote 29]

Mae profiad goroeswr wrth ryngweithio â swyddog heddlu rheng flaen yn debygol o lywio ei benderfyniad i geisio cymorth a chefnogaeth yn y dyfodol neu wneud datgeliadau pellach. Ceir tystiolaeth bod ymateb cyntaf gwael wedi cael effaith uniongyrchol ar gyfraddau tynnu’n ôl, a chanfu un astudiaeth fod bron hanner y dioddefwyr dan sylw wedi tynnu eu cefnogaeth o blaid erlyn yn ôl o fewn pum diwrnod i roi gwybod am y igwyddiad.[footnote 30] Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dioddefwyr sydd â nodweddion sy’n eu gwneud yn agored i niwed – gan gynnwys sefyllfa ansicr o ran tai, cofnodion troseddol, dibyniaeth ar alcohol a/neu gyffuriau, ac anghenion iechyd meddwl – yn fwy tebygol fyth o dynnu’n ôl.[footnote 31] Mae’r rhain yn adlewyrchu rhai o’r rhwystrau rhag rhoi gwybod a nodir ar y cam cyn rhoi gwybod, ac maent yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio amlasiantaethol er mwyn diwallu anghenion cyfannol goroeswr.

Ffigur 3: Canran y dioddefwyr a dynnodd yn ôl yn ôl nodweddion dioddefwyr[footnote 32]

Do/Oes Naddo/Nac oes
Nodwyd bodgan y dioddefwr nodweddion sy’nei gwneud yn agored i niwed 64% 39%
Mae gan y dioddefwr blant gyda’r cyflawnwr 50% 54%
Nodwyd bodgan y dioddefwr broblem iechyd meddwl 60% 49%

Gwnaeth yr un gwaith ymchwil hefyd archwilio sut y datblygodd achosion drwy gamau’r broses cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar y math o gam-drin a brofwyd. Er na welwyd bod cyfraddau tynnu’n ôl rhwng achosion o gam-drin corfforol a geiriol yn wahanol iawn yn ystadegol, roedd achosion y rhai a oedd wedi cael eu cam-drin yn gorfforol yn llawer mwy tebygol o fod wedi’u cofnodi fel troseddau gan yr heddlu na’r rhai a roddodd wybod am gam-drin geiriol. Yn yr un modd, ar gyfer arestio a chyhuddo unigolion dan amheuaeth, roedd canran yr achosion a symudodd yn eu blaen drwy’r system cyfiawnder troseddol yn llawer uwch ar gyfer achosion o drais corfforol o gymharu ag achosion o gam-drin geiriol, lle nad oedd trais corfforol yn bresennol. Mae hyn yn arwydd o system nad yw wedi datblygu yn unol â newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys cyflwyno diffiniad o gam-drin domestig drwy Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, sy’n nodi mathau o gam-drin nad ydynt yn gorfforol yn glir, ac sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod yr heddlu’n adnabod ac yn deall Ymddygiad Gorfodaethol a Rheolaethol.

Ffigur 4: Cyfran yr achosion a symudodd yn eu blaen drwy’r broses cyfiawnder troseddol yn ôl math o gam-drin[footnote 33]

Trais corfforal Cam-drin geiriol
Trosedd 86% 5%
Arestio 69% 6%
Cyhuddo 22% 1%
Euogfarn 16% 0%
Cyfradd tynnu’n ôl gan ddioddefwr 64% 43%

Byddaf yn clywed yn rheolaidd bod cyflawnwyr honedig yn cael eu calonogi gan y diffyg gweithredu a chanlyniadau i’w hymddygiad, felly mae pobl yn teimlo y bydd rhoi gwybod yn gwneud pethau’n waeth iddyn nhw.[footnote 34]

– Cynrychiolydd gwasanaeth cymorth cam-drin domestig arbenigol

Ar y llaw arall, gall ymateb cyntaf cadarnhaol gyflawni nifer o ddibenion hollbwysig – gwneud y gwahaniaeth rhwng goroeswr yn cefnogi proses cyfiawnder troseddol neu beidio, rhoi’r goroeswr mewn cysylltiad â chymorth statudol ac arbenigol ehangach y tu allan i’r system cyfiawnder troseddol, ac anfon neges gref i’r cyflawnwr bod ei ymddygiad yn anghyfreithlon. Bydd casglu data cywir a chadarn ynghyd â chynnal asesiadau risg ac angen dynamig a chynhwysfawr ar y pwynt hwn yn sicrhau y gellir canfod graddau gwirioneddol y cam-drin a chasglu tystiolaeth ohono, gan roi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i fonitro a gwella ymatebion hefyd ar yr un pryd. Yn yr un modd, bydd eithio mewn partneriaeth yn iawn ar y cam cynnar hwn yn arwain at amrywiaeth eang o gyfleoedd i’r dioddefwr gael cymorth – yn enwedig yr opsiwn i gael eiriolwr arbenigol.

Mae profiad goroeswr o ryngweithio â swyddog heddlu rheng flaen yn debygol o lywio ei benderfyniad i geisio cymorth a chefnogaeth yn y dyfodol neu wneud datgeliadau pellach. Felly, mae’n hollbwysig bod yr heddlu’n cofnodi’n gywir ac yn ymateb yn gadarn pan roddir gwybod am ddigwyddiad.

2.1 Arferion gwael a’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhyngweithiad cyntaf negyddol

Bydd yr heddlu weithiau’n eich trin chi fel pe baech chi wedi caniatáu i hyn ddigwydd. ‘Wel mae e nôl yma’ – ydy, wel, rwyf wedi eich ffonio chi am ei fod e nôl yma. ‘Ond mae’n dod yn ôl yma bob tro’ – wel, nid fy mai i yw hynny. Mae fel dweud bod gennych chi ryw fath o ran yn gwneud i hyn ddigwydd i chi eich hun.[footnote 35]

– Goroeswr

Dywedodd rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cam-drin domestig arbenigol, yr heddlu, a goroeswyr wrthym mai’r ffordd y caiff canllawiau eu rhoi ar waith ac arferion ar lefel leol sy’n gyfrifol am lawer o’r bylchau yn yr ymateb cyntaf. Mewn llawer o achosion, mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau gofynnol ar waith, ond mae amrywiadau o ran blaenoriaethau, fframweithiau, cydberthnasau gwaith ac adnoddau wedi arwain at loteri o ymatebion cyntaf, a hynny’n aml yn seiliedig ar swyddogion unigol.

Yr Arferion Proffesiynol Cymeradwy a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona yw’r ffynhonnell swyddogol o arferion proffesiynol ar gyfer plismona. Dylai’r canllawiau alluogi ymateb plismona cyson i oroeswyr, os bydd heddluoedd lleol yn eu dilyn yn gyson. Fodd bynnag, mae hyblygrwydd yn y canllawiau presennol yn golygu bod modd i arferion amrywio’n sylweddol, hyd yn oed os bydd heddluoedd yn eu dilyn.

Caiff heddluoedd eu cyfarwyddo i ‘ystyried’ atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol, ‘ystyried anghenion unigolion (er enghraifft, anabledd neu dreftadaeth ddiwylliannol)’, defnyddio cyfieithwyr/dehonglwyr cymeradwy ‘os oes modd’, a defnyddio aelodau o’r teulu fel cyfieithwyr/dehonglwyr ‘fel dewis olaf yn unig’. Bydd heddluoedd sydd ag adnoddau digonol, sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sydd wedi’u gwreiddio fel aelodau gweithgar o ymateb y gymuned ehangach i gam-drin domestig yn cyflawni y tu hwnt i’r canllawiau ymarfer. Bydd eraill yn methu’n sylweddol, gan na chaiff y pethau a ddylai gael eu hystyried yn arferion gorau sylfaenol eu gwneud yn orfodol.

Mae tystiolaeth gan oroeswyr a’r gwasanaethau arbenigol sy’n eu cefnogi yn dangos amrywiaeth eang o fethiannau yn y cyswllt cyntaf, a all gyfrannu at aildrawmateiddio, parhau â’r cam-drin, cynyddu’r risg, troseddoli’r goroeswyr – a hyd yn oed farwolaeth. Caiff y methiannau allweddol a nodwyd ar y pwynt hollbwysig hwn eu trafod nawr.

2.1.1 Diffyg dealltwriaeth o gam-drin domestig a risg

Er bod gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yn hollbwysig er mwyn rhoi ymateb cyfannol i’r goroeswr, rhaid bod gan yr heddlu ddealltwriaeth sylfaenol o agweddau allweddol ar gam-drin domestig, effaith trawma, a risg anwadal. Gall diffygion yn y ddealltwriaeth hon olygu y bydd dioddefwyr a goroeswyr ar y lleiaf yn ddiamddiffyn ac, mewn rhai achosion, yn cael eu troseddoli ar gam.

Mae goroeswyr yn pwysleisio bod diffyg dealltwriaeth sylfaenol o ddynameg ac effeithiau cam-drin domestig wedi llywio eu rhyngweithiadau â’r heddlu ar adeg y cyswllt cyntaf yn rhy aml. Mae hyn yn arbennig o enbyd i ddioddefwyr a goroeswyr ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol, sef un o’r mathau mwyaf niweidiol o gam-drin domestig, sy’n peri’r risg fwyaf o anaf difrifol a lladdiad.[footnote 36]

Gall anallu i ddeall a dadansoddi dynameg sefyllfa ar ôl cyrraedd lleoliad arwain at fethiant i adnabod y risgiau ac anghenion dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys plant, yn llawn. Gellir colli cyfleoedd i gymryd camau troseddol os na all swyddogion adnabod troseddau. Er enghraifft, pan fydd troseddau fel tagu nad yw’n angheuol wedi digwydd, mae’n bosibl na chaiff goroeswyr eu hatgyfeirio i gael triniaeth feddygol neu archwiliad fforensig digonol o’u hanafiadau bob amser.

Gall y fath fethiannau cynnar i adnabod risg arwain at ganlyniadau dinistriol. Roedd bron hanner (46%) yr Adolygiadau Lladdiadau Domestig a ddadansoddwyd yn ddiweddar gan dîm ymchwil Homicide Abuse Learning Together (HALT) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion yn cynnwys argymhellion i wella prosesau asesu.[footnote 37] Canfu’r gwaith ymchwil hwn fod gwaith asesu risg ac anghenion a wneir gan yr heddlu, a ddatblygwyd drwy waith ymchwil sylweddol dros nifer o flynyddoedd, yn aml yn cael ei danseilio gan fethiant i feddwl yn gyfannol a chysylltu’r digwyddiad dan sylw â phatrwm o ymddygiadau camdriniol y gall dioddefwyr fod wedi’u hwynebu, gan ddirymu’r gallu i gadw golwg ar y cynnydd mewn risg dros amser.[footnote 38] Yn nodedig ddigon, yn seiliedig ar sampl ehangach o adroddiadau HALT, gwelwyd bod dioddefwyr lleiafrifiedig yn cael eu graddio ar lefel risg is na dioddefwyr Gwyn Prydeinig.[footnote 39]

Mae camddeall a chamadnabod risg yn allweddol, gan mai dulliau seiliedig ar risg sy’n llywio’r ymateb plismona a’r ffordd y caiff yr achos ei reoli wedi hynny. Bydd goroeswyr y tybir eu bod yn wynebu risg uchel o niwed sylweddol ar unwaith yn dilyn llwybr gwahanol at gymorth ac yn cael cynnig lefelau gwahanol o ymyriadau diogelu o gymharu â goroeswr yr ystyrir ei fod yn wynebu risg ganolig o niwed. Caiff lefelau amrywiol o adnoddau eu dyrannu i waith cynllunio diogelwch – dim ond achosion risg uchel a wrandewir mewn Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg a chaiff atgyfeiriadau gwahanol eu gwneud ar gyfer cymorth parhaus, o ystyried y ffordd hierarchaidd a seiliedig ar risg y caiff gwasanaethau yn y gymuned eu comisiynu yn aml. Bydd hyn hefyd yn arwain at oblygiadau ehangach i oroeswyr wrth ddefnyddio gwasanaethau llety diogel, gwneud ceisiadau digartrefedd i awdurdodau lleol neu fynd drwy achosion llys teulu preifat neu gyhoeddus.

Er gwaethaf canllawiau cadarn ar y pwnc hwn gan y Coleg Plismona, gall diffyg dealltwriaeth gynhwysfawr o gam-drin domestig hefyd olygu na fydd yr heddlu’n gallu darganfod pwy yw’r prif gyflawnwr, nac adnabod ac ymateb i wrth-honiadau. Mae dadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig wedi canfod bod rhethreg ynghylch cywerthedd rhwng cyflawnwyr benywaidd a gwrywaidd wedi golygu bod heddlu rheng flaen yn cofnodi menywod fel cyflawnwyr yn hytrach na darganfod y rhesymau dros hyn, e.e. taro’n ôl, hunanamddiffyn ac ati. Mae hyn yn golygu bod disgrifiadau croes o ddigwyddiadau a gorgydadfer drwy wneud mwy o arestiadau pan dybir mai’r fenyw yw’r cyflawnwr yn dangos bod yr heddlu’n dal i drin adroddiadau gan ddioddefwyr sy’n fenywod (a all fod yn gyflawnwyr mewn rhai sefyllfaoedd) yn llai difrifol na’r ffordd y maent bellach yn trin adroddiadau gan ddioddefwyr sy’n ddynion (sef y prif gyflawnwr yn aml). [footnote 40]

Ar ben hynny, pan na fydd yr heddlu’n deall effaith trawma ar y cof a chysondeb naratif, ceir goblygiadau i werthusiad yr heddlu o gredadwyedd y dioddefwr a’r goroeswr. [footnote 41] Gall hyn arwain at effeithiau cynyddol ar oroeswyr yn nes ymlaen yn y system cyfiawnder troseddol a’r system cyfiawnder teuluol. Mae’n bosibl y caiff goroeswyr sy’n oedolion eu troseddoli, ac y caiff achosion teuluol eu newid yn llwyr gan honiadau o gam-drin, a gall effaith hynny newid bywydau goroeswyr sy’n oedolion a goroeswyr sy’n blant. Felly, mae’n hanfodol bod yr heddlu’n cael hyfforddiant ar adnabod achwynwyr sydd wedi’u trawmateiddio yng nghyd-destun cam-drin domestig a’r tu allan i’r cyd-destun hwnnw, ac ymateb i achwynwyr o’r fath, er mwyn sicrhau y caiff y rhai sy’n troseddu o ganlyniad i’w profiad o gam-drin domestig eu hamddiffyn yn hytrach na’u troseddoli ar gam.

Roeddwn i’n chwilio am gadarnhad, er fy mod i yn y cyflwr meddyliol roeddwn i ynddo ac er nad oeddwn i’n deall difrifoldeb y sefyllfa, fy mod i’n gwybod bod y bobl roeddwn i’n ymddiried ynddyn nhw’n gwybod beth oedd y ffordd orau o ofalu amdanaf a fy mhlant…Dyna oedd y prif beth i mi – gallu ymddiried eu bod nhw’n deall difrifoldeb y sefyllfa a’r hyn roedd ei angen arna i yn benodol.[footnote 42]

– Goroeswr

Mae gwaith ymchwil yn dangos mai’r ffaith bod gwaith plismona rheng flaen yn cael ei staffio gan swyddogion â phrofiad cyfyngedig a goruchwylwyr heb ddigon o arbenigedd sy’n gyfrifol i raddau helaeth am y bylchau hyn mewn gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae hyn yn arbennig o allweddol mewn rolau amddiffyn y cyhoedd a diogelwch cymunedol. Hefyd, mae prosesau casglu data a systemau mewnol gwael yn cyfyngu ar y wybodaeth y gall ymatebwyr cyntaf gael gafael arni pan fyddant yn cyrraedd lleoliad.[footnote 43] Mae llwythi achosion trwm ac amrywiol a lleihad mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol yn cyfyngu ar yr amser y gellir ei dreulio ar hyfforddiant. Yn yr un modd, nid yw bob amser yn hawdd i swyddogion yr heddlu ymateb i’r amrywiaeth eang o ymddygiadau a sefyllfaoedd sy’n cyd-fynd â’r diffiniad cyfreithiol o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin o fewn teuluoedd ac o fewn perthnasoedd personol.

Mae swyddogion sydd wedi siarad â swyddfa’r Comisiynydd wedi ategu’r pryderon hyn. Ni chaiff data eu dal mewn modd cyson mewn perthynas â chysondeb a mynychder hyfforddiant cam-drin domestig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried lefelau o drosiant mewn rolau rheng flaen o’r fath. Yn yr un modd, mae asesiad risg Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ei hun o’r bygythiad strategol o drais yn erbyn menywod a merched yn nodi bod diffyg dealltwriaeth ac adnoddau yn ddiffyg difrifol yn yr ymateb plismona i drais yn erbyn menywod a merched, yn ogystal ag amrywiadau o ran gweithio mewn partneriaeth, a data anghyson.

Mae dadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig wedi canfod bod argymhellion ar gyfer hyfforddi a datblygu staff wedi cael eu gwneud mewn 37% o’r achosion a astudiwyd, ac mai argymhellion i’r heddlu oedd y mwyafrif o’r rhain – “staff training nearly always related to an increase in, or development of, domestic abuse training, with specific training recommendations relating to coercive control, DVA enquiry, and Violence Agains Women and Girls more broadly.”[footnote 44] Hefyd, mae gwasanaethau cymorth arbenigol wedi canfod angen penodol i uwchsgilio’r heddlu mewn perthynas â thagu nad yw’n angheuol a dynameg cam-drin ar sail anrhydedd, yn enwedig yng nghyd-destun cam-drin domestig o fewn teuluoedd.

Mae gwaith ymchwil gyda swyddogion rheng flaen wedi canfod mai dim ond 56% o ymatebwyr a oedd yn teimlo’n wybodus ac yn hyderus ynglŷn â chanfod tystiolaeth o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, o gymharu ag 86% mewn perthynas â gwir niwed corfforol yng nghyd-destun cam-drin domestig.[footnote 45] Oherwydd yr amser cyfyngedig y gall swyddogion ei dreulio yn y lleoliad pan fyddant yn ymateb i achosion o gam-drin domestig, byddant yn tueddu i ystyried yr hyn y gellir ei weld a’i wneud yn y fan a’r lle wrth gasglu tystiolaeth.[footnote 46] Gall hyn arwain at ffocws ar y digwyddiad – a ysgogir yn rhannol o leiaf gan bragmatiaeth ynglŷn ag adnoddau’r heddlu – gan chwilio am dystiolaeth ffisegol yn hytrach nag adnabod y digwyddiad o fewn cyd-destun a phatrwm o ymddygiad.[footnote 47] Lle bo heddluoedd wedi cael hyfforddiant ar ddynameg rheolaeth drwy orfodaeth, mae hyn wedi bod yn gysylltiedig â chynnydd o 41% mewn arestiadau am y drosedd hon.[footnote 48]

Rhaid i’r canllawiau a’r hyfforddiant sydd ar gael i swyddogion yr heddlu ar bob agwedd ar gam-drin domestig fod yn gadarn, yn gywir ac yn seiliedig ar arbenigedd. Daeth adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 i rym ar 31 Ionawr 2022. Mae’n sicrhau statws plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain yn ôl y gyfraith, p’un a ydynt wedi gweld, clywed, neu brofi effeithiau cam-drin domestig. Serch hynny, nid yw’r Arferion Proffesiynol Cymeradwy ar gyfer plismona ar eu ffurf bresennol yn adlewyrchu hyn.[footnote 49] Maent yn gwahaniaethu rhwng plant fel dioddefwyr pan fydd trais/camdriniaeth yn eu targedu’n uniongyrchol, os ymosodir arnynt ar ddamwain mewn digwyddiad sy’n cynnwys pobl eraill ac os byddant yn dyst i gam-drin domestig. Rhaid i blismona fynd ymhellach o ran cydnabod plant ac ymateb iddynt fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, a rhaid i hyn gael ei arwain gan ganllawiau clir gan y llywodraeth ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu’n ymarferol.

2.1.2 Diffyg ymateb empathig sy’n ystyriol o drawma ac a gaiff ei arwain gan anghenion

Rwy’n disgwyl, yn enwedig yn achos y rhai sydd i fod i’ch cefnogi chi, rwy’n disgwyl iddyn nhw wrando arna i, rhoi rhywfaint o amser i mi gyflwyno fy achos, a rhoi rhywfaint o gymorth i mi ddelio â’r peth.[footnote 50]

– Goroeswr

Y tu hwnt i ddealltwriaeth o effeithiau penodol camdriniaeth, dywedodd goroeswyr wrthym eu bod hefyd wedi wynebu ymatebion a oedd yn brin o empathi ac a fethodd ag ystyried effaith trawma, gan gynnwys y ffyrdd y gallai gweithredoedd yr heddlu aildrawmateiddio dioddefwyr yn anfwriadol. Er enghraifft, nododd un goroeswr yn glir mai dim ond yn yr orsaf roedd yn dymuno siarad â’r heddlu, oherwydd y profiadau o gamdriniaeth a’r ffaith bod galwadau ffôn yn peri gofid i’r goroeswyr o ganlyniad i hyn. Anwybyddwyd hyn, a chysylltwyd â’r goroeswyr dros y ffôn, gan gynyddu ei ymdeimlad o berygl. Ar ben hynny, o ganlyniad i’r tôn llais a’r iaith a ddefnyddiwyd gan swyddogion, roedd y goroeswyr y gwnaethom siarad â nhw’n teimlo fel mai eu bai nhw oedd y gamdriniaeth, gan olygu nad oeddent yn awyddus i ddatgelu eu profiadau ymhellach a bwrw ymlaen ag achos. Mewn achosion eraill, dywedodd goroeswyr na wnaeth yr heddlu gymryd eu pryderon o ddifrif a’u bod, yn lle hynny, wedi canolbwyntio ar agweddau eraill nad oeddent am fwrw ymlaen â nhw.

Mae canfyddiadau’r Adolygiadau Lladdiadau Domestig yn dangos bod y ffordd y dehonglir p’un a yw dioddefwyr yn gredadwy ai peidio hefyd yn effeithio ar asesiadau o’u hanghenion. Er enghraifft, pe gwelid dibyniaeth ar alcohol neu pe ystyrid bod dioddefwr yn amharod i fod yn dyst, byddai’n ymddangos y byddai dull llai rhagweithiol yn cael ei ddilyn a/neu y byddai risgiau’n cael eu bychanu. Nodwyd hyn yn blwmp ac yn blaen mewn un adolygiad:

“There were many occasions when [victim] had made a complaint of abuse and then retracted. There was an opportunity to gather information and pursue a prosecution without her consent. This positive action process was not utilised and had it been, it may have given a clear message to both [victim] and [perpetrator] that his behaviour was inappropriate, being monitored and would not be tolerated by agencies. The Police response…threatening she would be charged with wasting Police time if she made allegations and then withdrew, was inappropriate and may have influenced whether she made complaints subsequently.” [footnote 51]

Caiff y problemau hyn eu gwaethygu ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr sy’n wynebu rhwystrau cyfathrebu. Mae Gweithgor Rhwystrau Cyfathrebu’r sector trais yn erbyn menywod a merched wedi canfod bod Hawl 1 y Cod Dioddefwyr – ‘gallu deall a chael eu deall’ – yn cael ei hanwybyddu’n rheolaidd, yn enwedig ar gyfer y grŵp hwn.[footnote 52] I oroeswyr nad ydynt yn siarad Saesneg, roedd diffyg cyfieithwyr/dehonglwyr neu ddefnydd amhriodol o gyfieithwyr/dehonglwyr – er enghraifft, gofyn i aelod o’r teulu gyfieithu ar y pryd – yn golygu na allent ymddiried bod eu stori’n cael ei hadrodd yn gywir i’r heddlu ar adeg anhygoel o dyngedfennol. Mae’r ymrwymiad diweddar drwy Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 i egluro’r gofyniad i ddarparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu yn unol â Hawl 1 y Cod yn cydnabod cyfyngiadau yn y maes hwn hyd yma.

Mae’r rhwystrau y rhoddwyd gwybod amdanynt gan lawer o ddioddefwyr a goroeswyr – megis peidio â chael eu credu neu beidio â theimlo eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif – yn gallu bod yn arbennig o enbyd i unigolion o gymunedau lleiafrifiedig. Mae’r rhain yn adlewyrchu problemau mwy sylfaenol ym maes plismona a’r system cyfiawnder troseddol y mae angen mynd i’r afael â nhw.

2.1.3 Cofnodi data yn wael

Er mwyn gallu defnyddio data fel adnodd monitro ar gyfer gwelliannau systemig, rhaid iddynt fod yn gywir ar adeg eu cofnodi a rhaid iddynt fod ar gael yn gyson. Y tu hwnt i’w defnyddio i fonitro canlyniadau, mae’r ffordd y bydd asiantaethau cyfiawnder troseddol yn casglu data yn arwain at effeithiau gwirioneddol ar brofiad goroeswyr o’r system, eu diogelwch, a’u mynediad at gyfiawnder. Disgrifiodd goroeswyr effeithiau casglu data mewn ffordd anghyson, amwys ac anhygyrch, yn enwedig mewn achosion lle roedd y drosedd yn gysylltiedig ag ymddygiad dros gyfnod o amser, megis ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol a stelcio ac aflonyddu. Am fod digwyddiadau’n cael eu cofnodi ar wahân, nid oedd cofnodion yr heddlu’n dangos tystiolaeth o batrymau ymddygiad mewn ffordd glir – hyd yn oed pan oedd y goroeswyr wedi rhoi gwybod amdanynt yn gyson.

Nododd y Consortiwm Stelcio Cenedlaethol fod camadnabod stelcio yn destun pryder mawr yn ei uwch-gŵyn ar ymateb yr heddlu i stelcio.[footnote 53] Mae hyn yn cynnwys yr heddlu’n trin ymddygiadau fel digwyddiadau unigol, yn hytrach nag adnabod y patrwm ehangach o ymddygiad sy’n gyfystyr â stelcio, a/neu eu trin fel trosedd wahanol, megis cyfathrebu maleisus neu aflonyddu, a’r heddlu’n bychanu ymddygiadau. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ymchwiliadau diffygiol a cholli cyfleoedd i ddiogelu a chefnogi goroeswyr.

Mae data gwael hefyd wedi cael eu nodi fel problem benodol yn achos tagu nad yw’n angheuol, a ddaeth i rym fel trosedd yn 2022. Daeth gwaith ymchwil gan yr Institute for Addressing Strangulation yn 2023 i’r casgliad bod rhai heddluoedd yn methu â rhoi data ar dagu nad yw’n angheuol yn gyfan gwbl, a bod data coll ac anhysbys ym mhob heddlu mewn perthynas â’r drosedd.[footnote 54] Nid oedd y data a oedd ar gael bob amser yn ddigon cywrain neu fanwl i allu deall dynameg perthnasoedd yn glir.

Mae problemau sy’n ymwneud â chasglu data a rhannu gwybodaeth o fewn heddluoedd yn atal swyddogion rheng flaen rhag cael gwybod y cyd-destun llawn pan fyddant yn mynd i leoliad trosedd. Y tu hwnt i hyn, lle bo data ar gael, mae’n bosibl na fydd swyddogion yn eu defnyddio’n ddigonol i roi’r sefyllfa yn ei chyd-destun. Dywedodd goroeswyr wrthym fod hyn yn golygu y byddai’n rhaid iddynt barhau i ailadrodd yr un stori wrth nifer o wahanol swyddogion a gweithwyr proffesiynol – a allai eu haildrawmateiddio. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw swyddogion sy’n ymateb wedi’u paratoi’n ddigonol i ymateb yn briodol ac – fel y nodwyd yn flaenorol – yn cyfrannu at golli cyfleoedd i symud ymchwiliadau yn eu blaenau, a diogelu a chefnogi goroeswyr.

Byddai swyddog heddlu gwahanol yn dod bob tro y byddwn i’n rhoi gwybod am drosedd newydd. Ni fyddai’r un ohonynt yn rhannu gwybodaeth a byddai’n rhaid i mi fynd drwy’r cefndir eto bob tro, a oedd yn ddigon i dorri fy ysbryd.[footnote 55]

– Goroeswr

Mae ymchwiliadau trylwyr i ddata a gasglwyd gan yr heddlu mewn perthynas ag achosion o gam-drin domestig wedi tynnu sylw at anghysondebau rhwng heddluoedd ond hefyd at broblemau posibl ynghylch dilysrwydd ar lefel genedlaethol, sy’n peri mwy o bryder o bosibl. Mae diffyg data wedi’u dadgyfuno ar nodweddion gwarchodedig dioddefwyr a goroeswyr yn effeithio ar ein dealltwriaeth o brofiadau arbennig goroeswyr a ymyleiddiwyd ac a leiafrifwyd. Yn dilyn newidiadau i reolau cyfrif y Swyddfa Gartref, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2023, ailgyflwynwyd rheol y brif drosedd a dad-ddynodwyd rhai troseddau, megis troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a chyfathrebu maleisus. Erbyn hyn, gall swyddogion yr heddlu arfer eu barn broffesiynol i benderfynu p’un a ddylid cofnodi’r ddau fath hyn o ddigwyddiad fel troseddau ai peidio; fodd bynnag, dylai digwyddiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig gael eu cofnodi o hyd. Er gwaethaf hyn, gan mai rheol y brif drosedd a gaiff flaenoriaeth, os mai dim ond y drosedd fwyaf difrifol a gofnodir, hyd yn oed os bydd dioddefwr yn rhoi gwybod am sawl trosedd ar yr un pryd, mae niferoedd y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi bod yn lleihau’n raddol dros y flwyddyn ddiwethaf.[footnote 56]

Ffigur 5: Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, fesul chwarter, lle y nodwyd cysylltiad â cham-drin domestig ar gyfer pob heddlu ledled Cymru a Lloegr[footnote 57]

Mae troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ymhlith y rhai sydd wedi lleihau’n fwyaf sylweddol, gyda thros 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid yw niferoedd y troseddau trais yn erbyn y person wedi cynyddu ar y cyd â hyn. Gall troseddau o’r fath ddigwydd fel rhan o batrwm o ddigwyddiadau cam-drin domestig, lle y caiff y trais anghyfreithlon ei gyflawni yn erbyn y dioddefwr mewn lle cyhoeddus.[footnote 58]

Ffigur 6: Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu lle y nodwyd cysylltiad â cham-drin domestig, fesul chwarter, ar gyfer Cymru a Lloegr[footnote 59]

Cyflwynwyd y newidiadau hyn fel ffordd i swyddogion yr heddlu ysgogi arbedion effeithlonrwydd, lleihau baich gweinyddol, a rhyddhau amser yr heddlu. Fodd bynnag, mae cam-drin domestig, fel llawer o droseddau sy’n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched, yn hynod gymhleth ac yn aml yn cynnwys achosion â hanes hir, sy’n golygu y bydd dioddefwyr yn aml yn rhoi gwybod am sawl trosedd ar unwaith. Mae peidio â chofnodi’r troseddau hyn yn unigol yn creu realiti ffug o brofiadau dioddefwyr a gweithgarwch yr heddlu. Mae’r dull hwn o gofnodi troseddau yn diystyru cam-drin yn anghymesur o gymharu â throseddau ‘untro’, a gaiff eu cofnodi’n fwy cywir oherwydd eu natur unigol.

2.2. Arferion da ac effaith rhyngweithiad cyntaf cadarnhaol

Fe wrandawodd hi arna i, ac fe gredodd hi fi. Ac rwy’n credu mai dyna oedd yr adeg gyntaf lle y gwnes i wir deimlo, wyddoch chi beth? Dydw i ddim yn mynd yn wallgof yn fy mhen fy hun…Gwnaeth y ffaith bod rhywun yn gwrando arna i roi cymaint o rym i mi.[footnote 60]

– Goroeswr

Dywedodd rhai goroeswyr wrthym am ymatebion cyntaf anhygoel o gadarnhaol a gawsant gan yr heddlu. Gwnaethant sôn am swyddogion yn ymateb yn gyflym i alwadau ag empathi a thosturi, gan gydnabod dynameg a difrifoldeb y gamdriniaeth ac ymateb yn briodol ar sail yr hyn roedd ei angen ar y goroeswr ar y pryd, a sicrhau y gallai gael cymorth arbenigol. Dywedodd goroeswyr wrthym fod teimlo bod rhywrai’n gwrando arnynt ac yn eu credu yn hollbwysig i’w profiad cadarnhaol a’i effaith ar eu tebygolrwydd o barhau i fynd drwy’r broses cyfiawnder troseddol. Roedd deall effaith mathau penodol o ymyleiddio – er enghraifft, niwrowahaniaeth – hefyd yn hanfodol i oroeswyr.

Mae gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol wedi pwysleisio wrthym pa mor bwysig yw cydberthnasau sefydledig rhyngddyn nhw a’r heddlu er mwyn sicrhau ymateb cyntaf effeithiol. Mae mynd y tu hwnt i lwybrau atgyfeirio a gweithio’n ymroddedig mewn partneriaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau ymateb cyfannol i bob goroeswr. Bydd hyn yn fodd i weithwyr cymorth arbenigol a’r heddlu uwchsgilio ar y cyd, ac fe’i cefnogir mewn argymhellion sy’n deillio o ddadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig ar gyfer ‘dull mwy rhagweithiol’ o feithrin cydberthnasau cadarn a chydweithredol.[footnote 61] Nodir yn arbennig fanteision posibl hyn i oroeswyr yr aseswyd eu bod yn wynebu risg safonol neu ganolig, a fydd ond yn cael taflen neu rif ffôn i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael o bosibl. Bydd y cydberthnasau hyn yn hollbwysig i lwyddiant cynnig diweddar y llywodraeth i wreiddio arbenigwyr cam-drin domestig ym mhob canolfan alwadau 999.

Yn yr un modd, mae swyddogion wedi adrodd yn ôl i Swyddfa’r Comisiynydd ar werth cysylltiadau uniongyrchol a gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Er enghraifft, soniodd un swyddog wrthym am fantais cydleoli Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig â’r heddlu iddo ef ac i’r goroeswyr y bu’n eu cefnogi: “Mae dod i adnabod y ffordd maen nhw’n gweithio a gallu cyfathrebu â nhw mor ddefnyddiol…Rwy’n credu ei bod hi hefyd yn ddefnyddiol gallu esbonio i’ch dioddefwyr nad swyddogion yr heddlu yw’r bobl hyn ac…[eu bod] yn dal yno i roi cymorth [iddyn nhw].”[footnote 62] Gwnaeth swyddogion hefyd nodi’r ffyrdd y mae’r Cynghorwyr yn eu galluogi i ganolbwyntio ar blismona cam-drin domestig, gan fod yn hyderus bod y goroeswr yn cael cymorth i ddelio â rhwystrau eraill megis dod o hyd i le i fyw neu gael gafael ar wasanaethau cymorth ychwanegol. Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn enghraifft o werth y cydleoli hwn.

Astudiaeth achos: Partneriaeth yr Heddlu ar gyfer Ymyrryd yn Gynnar (EIPP)

Mewn ardal fetropolitanaidd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, mae gan Bartneriaeth yr Heddlu ar gyfer Ymyrryd yn Gynnar (EIPP) ddau Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig o wasanaeth cam-drin domestig annibynnol sy’n gweithio ar y ddesg Cam-drin Domestig ac yn yr Uned Amddiffyn y Cyhoedd. Mae’r Cynghorwyr hyn yn ymgynghori â swyddogion yr heddlu ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth gynnar iddynt. Lle y rhoddir cydsyniad i atgyfeirio, gallant hefyd gynnig gwybodaeth, cyngor a llwybrau atgyfeirio ymlaen ar gyfer amrywiaeth o opsiynau cymdeithasol, lles a diogelwch.

Er mwyn cefnogi hyder yn y system cyfiawnder troseddol, mae’r Cynghorwyr yn sicrhau’r canlynol:

  • mai diogelwch sydd o’r pwys mwyaf wrth weithredu

  • bod opsiynau ar gael i ymateb i sefyllfa dioddefwr a diwallu ei anghenion

  • bod yr ymatebion mewn amser real er mwyn i ddioddefwr allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth

  • bod Llwybrau Atgyfeirio Cynnar ar gael at ddarpariaeth arbenigol (er enghraifft, gorchmynion llys neu Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg)

  • y caiff dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr ei ddilyn.

O fewn yr heddlu, bydd y Cynghorwyr yn herio diwylliant o feio dioddefwyr ac yn mynd i’r afael ag ef, yn gweithio i newid iaith, a gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth, o risg yn arbennig. Mae hyn yn bosibl i raddau helaeth oherwydd cefnogaeth ar lefel uwch ac ar lefel weithredol, a chydberthnasau cadarnhaol rhwng gweithwyr arbenigol a swyddogion.

O fewn tri mis, gwnaeth y Cynghorwyr EIPP gefnogi 306 o ddioddefwyr, yn enwedig mewn perthynas â gwaith cynllunio diogelwch cychwynnol ac atgyfeiriadau ymlaen, a chynnal 331 o ymgyngoriadau â chydweithwyr yn yr heddlu. Gwnaethant hefyd gynnal gweminar i roi’r arferion gorau ym maes asesu risg wrth gwblhau asesiadau risg cam-drin domestig yn eu cyd-destun, sydd bellach yn hyfforddiant gorfodol i bob aelod o staff.

Mae angen llai o ymgyngoriadau o gymharu â dechrau’r rhaglen, sy’n adlewyrchu’r cynnydd yng ngwybodaeth ac ymwybyddiaeth swyddogion yn sgil ymgyngoriadau a chyngor cychwynnol. Gwelir cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau at y gwasanaeth cymorth byr, ac mae atgyfeiriadau ymlaen at wasanaethau priodol yn cael eu gwneud.

Mae adborth gan arweinwyr yr heddlu yn dangos effaith y Cynghorwyr ar ymatebion yr heddlu:

Mae hwn yn wasanaeth gwych. Mae cael y Cynghorwyr EIPP yno i hwyluso’r broses o gyfeirio ac atgyfeirio at brosiectau penodol fel tîm Gorchmynion Sifil y Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig yn galluogi ymateb lleol ac arbenigol o reidrwydd i drais domestig a oedd ar goll yn flaenorol…Mae hefyd wedi ein galluogi i gynyddu ein hymrwymiad i weithio amlasiantaethol i’r eithaf er mwyn uwchsgilio swyddogion i ddod yn arbenigwyr trais domestig yn hytrach na swyddogion sy’n digwydd gweithio ar y ddesg Cam-drin Domestig.

Mae swyddogion yn datblygu eu gwybodaeth a’u hyder – mae’r Cynghorwyr yn helpu i friffio a hyfforddi swyddogion mewn perthynas ag ymwybyddiaeth o drais domestig, opsiynau ac ati. (Mae) wedi bod yn agoriad llygad…Mae gweithio gyda’r Cynghorwyr wedi gwella arferion swyddogion ac wedi eu hannog i feddwl am y pethau nad oedden nhw’n meddwl amdanynt o’r blaen o bosibl.

Yn seiliedig ar ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr, gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol, er mwyn cynnig ymateb cyntaf cynhwysfawr i bob dioddefwr a goroeswr, mae’r elfennau canlynol, ar y lleiaf, yn hollbwysig:

  • Sicrhau y caiff y rhai sy’n ateb galwadau, a’r rhai sy’n ymateb i ddatgeliadau cychwynnol o gam-drin, eu hyfforddi’n ddigonol ac yn rheolaidd i adnabod a chanfod cam-drin domestig, gan gynnwys sut i asesu lefelau amrywiol o risg, angen a niwed ac ymateb iddynt, er mwyn i’r holl ddioddefwyr a goroeswyr sy’n oedolion ac yn blant gael ymateb cymesur ar unwaith ac yn y tymor hwy.

  • Sicrhau bod ymatebwyr cyntaf yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael pan fyddant yn cyrraedd y lleoliad, gan gynnwys unrhyw hanes o gam-drin domestig ar gyfer pob parti, asesiadau risg blaenorol, chwiliadau o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, amodau mechnïaeth neu drwydded sydd mewn grym, gwaharddebau sifil neu bryderon diogelu plant, a gwiriadau cuddwybodaeth perthnasol (er enghraifft, arfau tanio, Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu/Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, y Gofrestr o Droseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw (ViSOR)).

  • Cofnodi datganiadau tystion ar adeg y digwyddiad, os mai’r dioddefwr ei hun sy’n rhoi gwybod am y drosedd. Mae hyn yn bwysig er mwyn ffurfio achos cadarn ac er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid i’r dioddefwr barhau i ailadrodd ei brofiadau wrth wahanol swyddogion ac ymarferwyr, sy’n gallu arwain at aildrawmateiddio. Os mai trydydd parti sy’n rhoi gwybod am y drosedd, neu os bydd angen amser ar y dioddefwr i ddod ato ei hun cyn rhoi datganiad, dylai fod gan swyddogion yr adnoddau i allu ailgysylltu â dioddefwr a’i helpu i roi datganiad.

  • Sensitifrwydd a chreu lle diogel lle nad oes neb yn beirniadu wrth gynnal cyfweliadau a chofnodi datganiadau tystion. Mae’n hanfodol sicrhau nad yw’r broses gyfweld ei hun yn atgyfnerthu unrhyw wahaniaethu neu gam-drin blaenorol a wynebodd y tyst.

  • Cynnal asesiad cychwynnol trylwyr o risgiau ac anghenion a llunio cynllun diogelwch, wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn, gan gydnabod bod asesu risgiau ac anghenion a chynllunio diogelwch yn brosesau dynamig a pharhaus eu natur. Mae angen i weithgarwch parhaus gael ei neilltuo’n glir er mwyn i heddluoedd wybod pwy sy’n gyfrifol am asesu risgiau ac anghenion a chynllunio diogelwch bob amser.

  • Gwneud atgyfeiriadau at Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg yn unol â risgiau gweladwy, barn broffesiynol, y posibilrwydd y bydd pethau’n gwaethygu a datgeliadau mynych.

  • Sicrhau bod swyddogion yn broffesiynol chwilfrydig ac yn hyderus wrth adnabod pryderon diogelu ac ymateb iddynt er mwyn amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys unrhyw oedolion neu blant cysylltiedig.

  • Rhannu gwybodaeth am hawliau o dan y Cod Dioddefwyr, ac am ble y gall dioddefwr gael gafael ar wasanaethau cymorth ehangach, megis gwasanaethau cymorth therapiwtig, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, a chyngor ar fewnfudo – gan wneud atgyfeiriadau uniongyrchol gyda chydsyniad a lle y bo’n briodol.

  • Cydweithio â gwasanaethau ‘gan ac ar ran’ arbenigol yn y gymuned sydd ar gael yn ardal dioddefwr, er mwyn cyfeirio cyn gynted â phosibl a sicrhau cyfathrebu dwyffordd rhwng yr eiriolwr arbenigol a’r heddlu.

  • Rhaid i swyddogion fod yn ddiwylliannol gymwys ac ymwybodol o anghenion amrywiol eu cymunedau, er mwyn sicrhau y bydd pob dioddefwr a goroeswr yn cael ymateb teg.

  • Trosglwyddo’n dda, lle bo hynny’n berthnasol, i’r swyddog, yr aelod o staff neu’r tîm sy’n gyfrifol am asesu risgiau ac anghenion a chynllunio diogelwch yn barhaus. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan ddioddefwyr a goroeswyr bwynt cyswllt a’u bod yn gwybod sut i roi gwybod am unrhyw achosion o gam-drin yn y dyfodol.

Caiff pob elfen o’r ymateb y cyfeirir ato uchod ei hatgyfnerthu os caiff ei chyflawni o fewn Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig. Bydd hyn yn arbennig o nodedig pan fydd yr heddlu’n mynd ati’n rhagweithiol i feithrin cydberthnasau a gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol annibynnol i rannu gwybodaeth, asesu risgiau a chydgysylltu gwaith diogelu a chynllunio diogelwch. Fodd bynnag, yn rhannol o ganlyniad i anghysondebau yn y ffordd y caiff gwasanaethau yn y gymuned eu cyllido a’u comisiynu, ceir cryn dipyn o amrywiadau lleol o ran y ffordd y bydd heddluoedd yn dewis, neu’n gallu, gweithio gyda gwasanaethau arbenigol. Mae gan Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 y potensial i atgyfnerthu ymwybyddiaeth asiantaethau cyfiawnder troseddol o rôl bwysig cymorth arbenigol drwy gyflwyno canllawiau i Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais rhywiol, ac mae’n golygu bod modd canfod anghenion cymorth nas diwallwyd yn well – drwy’r Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd.[footnote 63]

Mae’r ddwy astudiaeth achos ganlynol a rannwyd â swyddfa’r Comisiynydd yn cydnabod pwysigrwydd yr ymateb cyntaf ac yn adlewyrchu elfennau allweddol o’r safonau arferion da a nodir.

Astudiaeth achos: Ymateb Fideo Cyflym

Yn 2021, gwnaeth heddlu yn Ne-ddwyrain Lloegr dreialu cynllun cyswllt fideo ymateb cyntaf ar gyfer cyfathrebu cychwynnol â dioddefwr sy’n oedolyn ac sy’n rhoi gwybod am achos o gam-drin domestig, lle nad yw’r cyflawnwr yn y lleoliad mwyach a lle yr asesir bod y digwyddiad ar lefel safonol. Caiff achosion eu hystyried a’u brysbennu er mwyn datblygu protocol ymateb fideo ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Roedd y cyswllt hwn yn fodd i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am unrhyw droseddau

  • cael cyngor a chymorth mewn perthynas â diogelu

  • galluogi’r heddlu i gwblhau asesiadau risg ac angen perthnasol ac ymchwilio i’r camau y bydd angen eu cymryd

  • rhoi gwybod i’r dioddefwr beth fydd yn digwydd nesaf.

Nod y cynllun oedd mynd i’r afael â’r ffaith bod dioddefwyr yn wynebu oedi rhwng rhoi gwybod am y drosedd yn lle cyntaf a chael ymateb gan yr heddlu. Roedd y cynllun peilot yn destun hap-dreial dan reolaeth,[footnote 64] a ddaeth i’r casgliad ei fod yn cyflymu’r ymateb cychwynnol ac yn arwain at ddatrys y digwyddiad yn gyflymach, gan dorri traean oddi ar oriau swyddogion.

Gwelwyd bod y cynllun wedi gostwng lefelau pryder dioddefwyr a gwella cyfraddau boddhad cyffredinol dioddefwyr. Roedd y manteision hyn yn arbennig o nodedig ar gyfer dioddefwyr benywaidd trais gan bartner. Arweiniodd hefyd at gynnydd yn y gyfradd arestio (24% o gymharu ag 16% fel arfer). Yng ngoleuni’r gwerthusiad cadarnhaol hwn, mae Ymateb Fideo Cyflym yn dechrau cael ei gyflwyno fel gwasanaeth ledled y sir, ac mae ymateb galw allan traddodiadol hefyd ar gael pan fydd angen neu yn unol â dewisiadau dioddefwyr.

Astudiaeth achos: Model cysylltu 4P

Mae heddlu yng Nghymru wedi treialu ymateb cynhwysfawr a arweinir gan anghenion i achosion o gam-drin domestig nad ydynt yn rhai risg uchel, drwy fabwysiadu’r model 4P (Paratoi, Atal, Amddiffyn, Ymlid – Prepare, Prevent, Protect, Pursue yn Saesneg) a nodir gan yr NPCC.

Mae’r prosiect yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu gysylltu â dioddefwr o fewn 72 awr ar ôl cael gwybod am drosedd. Bydd y swyddogion yn defnyddio elfen Paratoi’r dull 4P, a dim ond mewn ffordd mor ddiogel â phosibl y gwneir ymgais i gysylltu â’r dioddefwr. Gall hyn gynnwys asiantaethau partner fel rhan o asesiad risg dynamig.

Bydd o leiaf dair ymgais i gysylltu â’r dioddefwr, gan ddeall ei bod yn bosibl na fydd person yn barod i siarad â’r heddlu neu na fydd yn gallu gwneud hynny ar unwaith. Yn ddelfrydol, byddai hyn wyneb yn wyneb ond caiff ei arwain gan y dioddefwr ac mae’n bosibl y bydd problemau o ran adnoddau’n effeithio ar hyn o bryd i’w gilydd.

Pan lwyddir i gysylltu â’r dioddefwr, caiff yr elfennau “Atal, Amddiffyn, Ymlid” eu defnyddio yn y ffordd orau er mwyn diwallu anghenion y dioddefwr, ymateb i’r hyn sy’n ei wneud yn agored i niwed, a’i ddiogelu. Os bydd y dioddefwr yn cydsynio, bydd hyn yn cynnwys asesiad risg (asesiad risg cam-drin domestig/cam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu), yn ogystal ag asesiad ehangach o angen, gan gynnwys tai, iechyd meddwl ac iechyd corfforol, diogelu a chefnogi oedolion a phlant, ffactorau risg ac anghenion sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, cymorth ariannol a mwy. Yn dibynnu ar yr asesiad a’r hyn sydd ei eisiau ar y dioddefwr a’r hyn y mae’n gofyn amdano, caiff atgyfeiriadau at asiantaethau partner eu gwneud neu caiff cyfleoedd cyfeirio eu cynnig.

Bydd pob dioddefwr yn cael ymweliad dilynol 10 diwrnod yn ddiweddarach er mwyn ailasesu angen a risg a chymryd camau dilynol ynghylch unrhyw faterion a phryderon sydd heb eu datrys. Hefyd, bydd hyn yn gyfle i swyddogion geisio cynnal asesiad risg, os gwrthodwyd hyn ar y cyswllt cyntaf. Bydd yr ymweliad dilynol yn helpu i feithrin ymddiriedaeth y dioddefwyr mwyaf agored i niwed ac, yn aml, gall arwain at ddatgeliad manylach o gamdriniaeth. Caiff camerâu a wisgir ar y corff eu troi ymlaen yn ystod pob ymweliad wyneb yn wyneb er mwyn helpu i gasglu’r dystiolaeth orau.

Drwy gydol yr ymgysylltu â’r dioddefwyr, bydd swyddogion yn ystyried sut y gallant atal troseddau pellach drwy adnabod ymddygiadau troseddol, tarfu arnynt a mynd ar eu hôl ar ffurf gwiriadau mechnïaeth, gwiriadau Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig, cynlluniau patrôl gweithredol, a chasglu cuddwybodaeth. Hefyd, bydd swyddogion yn mynd ati i geisio adnabod troseddau nad ydynt yn gysylltiedig â cham-drin domestig, er mwyn diogelu dioddefwyr nad ydynt am fwrw ymlaen â chyhuddiad neu sy’n teimlo na allant wneud hynny neu fod hynny’n anniogel. Caiff yr holl gysylltiadau a chamau a gymerir eu cofnodi mewn traciwr pwrpasol, er mwyn sicrhau gofal cynhwysfawr i’r dioddefwr ac ymateb cynhwysfawr gan yr heddlu, a bwydo i mewn i weithgarwch dysgu a gwaith partneriaeth cydweithredol ehangach.

Mae’r cynllun peilot yn dangos llwyddiant mewn gwerthusiadau cynnar ac yn tynnu sylw at effaith ymateb cychwynnol cadarnhaol gan yr heddlu. Mae dioddefwyr wedi cael eu helpu i gael gafael ar gymorth arbenigol mewn perthynas â cham-drin domestig, ac hefyd mewn perthynas ag anghenion eraill sydd ganddynt a ffactorau eraill sy’n eu gwneud yn agored i niwed. Yn ogystal â hynny, mae gweithio cydgysylltiedig, cydweithio ac ymgysylltu ag asiantaethau partner wedi gwella – gan hwyluso mwy o ymweliadau ar y cyd, cydleoli ac ymddiriedaeth broffesiynol.

Mae’r bennod hon wedi dangos pwysigrwydd allweddol gwaith partneriaeth amlasiantaethol rhwng asiantaethau cyfiawnder troseddol a’r sector cam-drin domestig arbenigol er mwyn helpu goroeswyr i fod yn ddiogel yn yr ymateb cyntaf. Fodd bynnag, nid dim ond er mwyn sicrhau y caiff goroeswyr gymorth os byddant yn dewis parhau â phroses cyfiawnder troseddol y mae’r bartneriaeth hon yn bwysig – mae hefyd yn arwain at gyfleoedd i ddioddefwyr a goroeswyr gael amrywiaeth o gymorth y tu allan i’r system cyfiawnder troseddol. Yn ei absenoldeb, prin yw’r opsiynau i ddioddefwyr a goroeswyr.

Mae’n bosibl na fyddant yn gwybod bod help ar gael, ac ni chânt gymorth os byddant yn anfodlon â’r ymateb cyfiawnder troseddol. Mae partneriaethau o’r fath yn allweddol er mwyn sicrhau y bydd mwy o ddioddefwyr a goroeswyr yn gallu cael gafael ar y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt a, heb y partneriaethau hyn, bydd cyfleoedd hanfodol i gefnogi a diogelu goroeswyr yn cael eu colli.

3. Diogelu yn absenoldeb euogfarn

Bu’n rhaid i mi roi’r gorau i fy ngyrfa, symud tŷ – beth mae e’n ei wneud? Yr un peth i’r fenyw nesaf, fwy na thebyg.[footnote 65]

– Goroeswr

Fel rhan o ymateb system gyfan i gam-drin domestig, mae’n hollbwysig dwyn cyflawnwyr i gyfrif a’u rheoli’n effeithiol er mwyn lleihau risg. O ganlyniad i gyfraddau rhoi gwybod ac euogfarnu isel, bydd y mwyafrif helaeth o gyflawnwyr troseddau’n parhau i fod yn y gymuned. Ar hyn o bryd, dim ond cyflawnwyr sydd wedi cael euogfarn am drosedd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gaiff eu rheoli gan systemau wedi’u ffurfioli, ac – fel y maent yn gweithio ar hyn o bryd – mae hyd yn oed y rhain yn annigonol. Bydd Pennod 6 yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn yn rhoi mwy o fanylion am y cyflawnwyr hyn sy’n cael eu rheoli gan garchardai, y Gwasanaeth Prawf a fframweithiau statudol.

Bydd y bennod hon yn canolbwyntio ar gyflawnwyr nad ydynt wedi cael euogfarn na dedfryd, y mae p’un a gânt eu rheoli ai peidio yn destun loteri cod post ar hyn o bryd – mater i awdurdodau lleol neu heddluoedd, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol, yw penderfynu a ddylent gomisiynu gwasanaethau arbenigol neu greu dulliau mewnol ar gyfer rheoli cyflawnwyr. Os na roddir blaenoriaeth i hyn yn lleol, cyfrifoldeb dioddefwyr a goroeswyr fydd rheoli eu risg a’u diogelwch eu hunain. Felly, mae’r bennod hon yn wahanol i’r gweddill i’r graddau nad yw’n trafod llawer o arferion da. Er i’r Comisiynydd gael ymatebion i’w galwad am dystiolaeth yn y maes hwn, yr arferion safonol disgwyliedig yw’r rhan fwyaf o’r hyn a gyflwynwyd. Mae hyn yn dangos bod angen ymdrechion sylweddol i wella’r ymateb cymunedol i gyflawnwyr nad ydynt wedi cael euogfarn na dedfryd, er mwyn diogelu dioddefwyr a goroeswyr yn y gymuned.

Ar bapur, mae mesurau wedi cael eu datblygu a’u rhoi ar waith ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, yn ogystal â’r heddlu, sydd â’r bwriad o leihau risg a gwella diogelwch tra bydd cyflawnwyr yn dal yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Trais Domestig, a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig a roddir gan y llys, a gyflwynwyd yn 2014 gyda’r nod o ‘gau’r bwlch amddiffynnol’ ar gyfer dioddefwyr yn syth ar ôl digwyddiad. Mae’r canllawiau’n dweud y dylai Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig gael eu defnyddio lle mae hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn amddiffyn y dioddefwr, gan gynnwys pan na fydd dioddefwr yn cefnogi’r cais yn uniongyrchol, oherwydd y posibilrwydd y bydd ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn effeithio ar benderfyniadau’r dioddefwr.[footnote 66] Cafodd Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig eu cyflwyno yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 er mwyn cynnig amddiffyniad ehangach a mwy hirdymor i ddioddefwyr a goroeswyr, ac mae’n drosedd eu torri. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio’n helaeth eto, gan eu bod yn y cyfnod peilot ar hyn o bryd.[footnote 67]

Cafodd y Cynllun Datgelu Trais Domestig (‘Cyfraith Clare’) ei gyflwyno yn 2014 hefyd. Rhoddodd hawl i unigolion ofyn i’r heddlu edrych i weld a oes gan bartner presennol neu gyn-bartner hanes o drais neu gam-drin (‘Hawl i Ofyn’) a galluogodd yr heddlu i fynd ati’n rhagweithiol i ddatgelu gwybodaeth am hanes unigolyn o drais neu gam-drin i bartner presennol neu gyn-bartner y person hwnnw (‘Hawl i Wybod’). Rhoddwyd sail statudol i’r cynllun drwy Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, gyda’r nod o wella cysondeb a gwelededd.[footnote 68] Ar ben hynny, cafodd y defnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo ei ddiwygio yn 2022 er mwyn annog yr heddlu i’w defnyddio yn hytrach na rhyddhau unigolion dan amheuaeth sy’n destun ymchwiliad, yn ogystal â chynnwys dyletswydd i ystyried safbwyntiau’r dioddefwr.[footnote 69]

Fodd bynnag, mae’r bwlch rhwng theori ac ymarfer y mesurau hyn, o ran y ffordd y cânt eu rhoi ar waith a’r ffordd y cânt eu gorfodi, yn sylweddol ac yn dra hysbys – ac fe’u gwelir yn fwyaf amlwg yn uchel-gŵyn Centre for Women’s Justice (CWJ) o 2019 ynghylch methiannau’r heddlu i ddefnyddio mesurau amddiffyn mewn achosion sy’n cynnwys trais yn erbyn menywod a merched. Mae goroeswyr yn parhau i godi pryderon wrth y Comisiynydd ynglŷn â’r diffyg mesurau diogelu a roddir ar waith gan yr heddlu ar ôl iddynt gael gwybod am achos o gam-drin domestig. Yn yr un modd, mae’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi wedi pwysleisio wrth y Comisiynydd effaith y diffygion hyn ar eu gallu i gynllunio diogelwch gyda goroeswr. Dywedodd un goroeswr wrthym am nifer o adegau pan gysylltodd â’r heddlu, tra oedd yn byw mewn llety diogel, ond ni roddodd yr heddlu fesurau amddiffyn ar waith mewn ymateb i hynny. Gwnaeth yr heddlu fychanu’r risg a oedd yn ei hwynebu am nad oedd y cyflawnwr yn bresennol yn y fan a’r lle: “Mae rhoi gwybod i’r heddlu yn un peth, ond sut wyf i’n mynd i gael fy niogelu os bydd e’n cyrraedd yma ac am wneud rhywbeth i mi? Ai dyna pryd y bydd [yr heddlu] yn gweithredu – o wybod fy mod yn byw mewn tŷ diogel a’i fod e’n gwybod ble rydw i?”[footnote 70]

Mae uwch-gŵyn 2019 yn dogfennu natur systemig y broblem hon yn fanwl, gan dynnu sylw at fethiannau sylweddol gan yr heddlu drwy’r ystod lawn o fesurau amddiffyn, gan gynnwys mechnïaeth, gorchmynion peidio ag ymyrryd, Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Trais Domestig, Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig a gorchmynion atal.[footnote 71] Ategir hyn gan ddadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig, sydd wedi dod o hyd i amharodrwydd i fwrw ymlaen ag erlyniadau heb ddioddefwyr ac opsiynau deddfwriaethol megis Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig, neu fethiant i’w hystyried.[footnote 72] Nododd y dadansoddiad hwn fod sawl argymhelliad wedi cael eu gwneud mewn Adolygiadau Lladdiadau Domestig wneud mwy o ddefnydd o’r darpariaethau hyn ac, weithiau, i adolygu digonolrwydd y trefniadau sy’n sail i’r ffordd y maent yn gweithio/y ffordd y cânt eu defnyddio.

3.1 Rhoi mesurau amddiffyn ar waith

3.1.1 Mechnïaeth

Y cyfnod ar ôl arestio a chyn cyhuddo yw un o’r cyfnodau mwyaf peryglus i oroeswyr, pan allai’r defnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo – sy’n ‘adnodd plismona unigryw’ – liniaru risg a lleihau troseddu pellach yn sylweddol.[footnote 73] Fodd bynnag, mae uwch-gŵyn CWJ yn dangos nad oes digon o ddefnydd o fechnïaeth cyn cyhuddo, yn enwedig mewn achosion yr aseswyd eu bod ar lefel risg safonol a chanolig. Ar ben hynny, mae’n dangos cynnydd yn nifer yr unigolion dan amheuaeth a gaiff eu gwahodd i gael cyfweliadau heddlu o’u gwirfodd, yn hytrach na’u harestio, ac – yn anecdotaidd – mae’n debygol mai’r rheswm dros hyn yw ei fod yn fwy cyfleus ac yn defnyddio llai o adnoddau i’r heddlu, sydd eisoes yn delio â llwythi achosion anhygoel o drwm. Fodd bynnag, mae hynny’n golygu, yn gyfreithiol, na ellir defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo.

Mae’r uwch-gŵyn hefyd yn codi pryderon ynglŷn â rhyddhau unigolion sy’n destun ymchwiliad heb amodau mechnïaeth, oherwydd methiant i gydnabod y gall amodau mechnïaeth fod yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn amddiffyn dioddefwyr. Hefyd, mae achosion wedi bod lle na roddodd yr heddlu wybod i Wasanaeth Erlyn y Goron nad oes amodau mechnïaeth ar waith ar gyfer cyflawnwr wrth ofyn am gyngor ar gyhuddo. Gallai hyn danseilio ceisiadau yn y llys am fechnïaeth amodol a gorchmynion atal, a thrwy hynny beri mwy o risg o niwed i ddioddefwyr.[footnote 74]

Hefyd, nid yw’r heddlu’n defnyddio gorchmynion amddiffyn ochr yn ochr ag amodau mechnïaeth yn gyson, hyd yn oed pan fydd hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r dioddefwr. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod canllawiau statudol ar Orchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn nodi’n glir y gellir defnyddio amodau mechnïaeth a gorchmynion amddiffyn gyda’i gilydd er mwyn datblygu mwy o amddiffyniad i’r dioddefwr - gallai canllawiau ar y meini prawf ar gyfer Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig fod yn gliriach yn hyn o beth.[footnote 75]

Gwnaeth yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (HMICFRS) yn dilyn yr uwch-gŵyn godi pryderon ynglŷn â’r gostyngiad mewn cyfraddau arestio ac anallu rhai heddluoedd i ddarparu data ar bresenoldeb gwirfoddol, yn ogystal â beth roedd hyn yn ei olygu o ran pa mor dda roedd heddluoedd yn monitro’r defnydd ohono.[footnote 76] Gellir ystyried bod nifer yr arestiadau y bydd heddlu’n eu gwneud, am droseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig, yn arwydd o’r graddau y maent yn ymateb o ddifrif i gam-drin domestig fel trosedd. Yn y 12 mis tan fis Mawrth 2024, gwnaed 347,830 o arestiadau ledled Cymru a Lloegr. Roedd y gyfradd arestio fesul trosedd y nodwyd ei bod yn gysylltiedig cham-drin domestig yn amrywio’n sylweddol rhwng heddluoedd, fel y gwelir yn Ffigur 7 – o fwy na 90 o arestiadau am bob 100 o droseddau a gofnodwyd mewn un heddlu i lai na 25 o arestiadau mewn rhai eraill.[footnote 77]

Ffigur 7: Cyfraddau arestio fesul 100 o droseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig, yn ôl heddlu, yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024*[footnote 78]
  • Nydd oedd Heddlu Swydd Stafford yn gallu rhoi data ar arestiadu ar adeg cyflwno, felly nid yw wedicael ei gynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried y gall heddluoedd sy’n cofnodi mwy o droseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig fel arfer safonol ei chael hi’n anos cyrraedd cyfraddau arestio uwch na’r rhai sy’n cofnodi llai o droseddau yn y lle cyntaf. Er mwyn rhoi cyd-destun, mae Ffigur 8 yn dangos nifer y troseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig fel cyfran o boblogaeth ardal pob heddlu.

Ffigur 8: Troseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig fesul 1,000 o’r boblogaeth, yn ôl heddlu, yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024[footnote 79]

Yn unol â’r canllawiau statudol ar fechnïaeth cyn cyhuddo, ni ddylid rhyddhau unigolion sydd dan amheuaeth mewn achosion o gam-drin domestig oherwydd y perygl a achosir i ddioddefwyr, gan gynnwys eu plant.[footnote 80] Yn y rhan fwyaf o achosion lle nad yw’r heddlu’n barod i gyhuddo cyflawnwr dan amheuaeth, dylid ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cyhuddo, gydag amodau, yn hytrach na’i ryddhau yn destun ymchwiliad. Bydd angen cydgysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron pan gaiff cyflawnwyr eu rhyddhau ar fechnïaeth neu pan na fydd cyflawnwyr yn ddarostyngedig i amodau mechnïaeth. Mewn achosion o’r fath, mae’n bwysig sicrhau bod mesurau diogelu pellach ar waith.

3.1.2 Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig

Mae’r ffaith bod defnydd heddluoedd o Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn amrywio yn destun pryder, yn enwedig o ystyried bod nifer y gorchmynion y gwneir cais amdanynt yn fach iawn o gymharu â nifer yr achosion o gam- drin domestig – tua 1% o’r holl achosion o gam-drin domestig yn gyson.[footnote 81] Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan un gwasanaeth cam-drin domestig yn uwch-gŵyn CWJ yn dangos, er i Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg leol argymell Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig ar gyfer tua 100 o achosion y mis, mai dim ond tri y byddai’r heddlu lleol yn gwneud cais amdanynt ar gyfartaledd. Mae uwch-gŵyn CWJ a’r ymchwiliad dilynol gan HMICFRS yn tynnu sylw at y niwed a achosir gan danddefnydd o’r fath a ffyrdd y gallai diffyg dealltwriaeth ar lefel swyddogion fod yn ysgogi hyn.[footnote 82]

Mae’n hollbwysig defnyddio’r hyn a ddysgir o ddiffygion Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig i lywio’r gwaith i dreialu Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig a’u cyflwyno wedi hynny, a bod gan swyddogion ddealltwriaeth glir ynghylch pryd a sut y dylid defnyddio gorchmynion o’r fath fel adnodd i amddiffyn dioddefwyr. Ar ben hynny, mae’n bosibl y bydd sicrhau bod adnoddau ar gael i’r heddlu ar gyfer cymorth cyfreithiol i wella ansawdd ceisiadau yn ddefnyddiol er mwyn iddynt gael eu defnyddio’n well.

Ffigur 9: Nifer yr hysbysiadau amddiffyn rhag trais domestig a gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig y gwnaed cais amdanynt ac a roddwyd yn ôl rhanbarth, yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024[footnote 83]

Hysbysiadau Amddyffin Rhag Trais Domestig a roddwyd Gorchmynion Rhag Trais Domestig y gwnaed caes amdanynt Gorchmynion Rhag Trais Domestig a roddwyd Gorchmynion Rhag Trais Domestig a roddwyd fessul 100,000 o’r boblogaeth
Gogledd-ddwyrain Lloegr 637 631 536 20.4
Gogledd-orllewin Lloegr 2,153 2,250 1,944 27.1
Swydd Efrog y Humber 1,770 1,704 1,556 28.9
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1,043 1,409 1,281 27.4
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1,616 1,604 1,430 24.9
Dwyrain Lloegr 677 681 645 10.6
Llundain 1,266 1,199 1,067 12.3
De-ddwyrain Lloegr- 1,336 1,235 1,172 13.1
De-orllewin Lloegr 1,346 1,258 1,132 20.7
Cymru 789 699 638 20.6
Cymru a Lloegr 12,633 12,670 11,401 19.7

Noder: Cafodd nifer o heddluoedd broblemau o ran ansawdd/cyflawnrwydd data wrth gofnodi Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig, felly ma’er cyfansymiau hyn yn debygol o roi amcangyfrif rhy isel.

Fel cyfran o arestiadau, mae nifer y gorchmynion amddiffyn y gwneir cais amdanynt ac a roddir hefyd yn bryderus o fach. Dim ond mewn tua 3% o achosion lle yr arestiwyd unigolyn am drosedd a oedd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig y rhoddwyd Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn ystod y 12 mis tan fis Mawrth 2024.[footnote 84] Er na fydd nifer bach iawn o Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn arwain at gais am Orchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig, mae’n galonogol gweld bod 90% o’r Gorchmynion y gwnaed cais amdanynt wedi cael eu rhoi yn ystod y 12 mis tan fis Mawrth 2024. Fodd bynnag, fel cyfran o nifer yr unigolion dan amheuaeth a atgyfeiriwyd gan yr heddlu at Wasanaeth Erlyn y Goron am droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, dim ond mewn 16% o achosion y rhoddwyd Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig yn ystod yr un cyfnod ledled Cymru a Lloegr.

Gorchmynion Amddiffyn Rhag Trais Domestig a roddwyd fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl rhanbarth, yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024

3.1.3 Cynllun Datgelu Trais Domestig / Cyfraith Clare

Cyflwynwyd y Cynllun Datgelu Trais Domestig mewn ymgais i ddysgu gwersi o’r methiannau a gyfrannodd at farwolaeth drasig Clare Wood yn 2009. Os caiff ei ddefnyddio’n effeithiol, gall rymuso unigolion i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â’r risgiau y gallant eu hwynebu gan bartner presennol neu gyn-bartner. Er bod ganddo sail statudol a chanllawiau wedi’u diweddaru erbyn hyn, mae’r Cynllun yn dal i gael ei ddefnyddio’n anghyson ledled Cymru a Lloegr.

Ni chaiff canllawiau’r Cynllun eu dilyn fel mater o drefn yn y lle cyntaf wrth ystyried cymhwysedd dioddefwyr a goroeswyr ar gyfer y cynllun. Ni chaiff gwybodaeth ei rhoi i ddioddefwyr a goroeswyr bob amser pan ddylai gael ei rhoi, yn enwedig yn rhagweithiol drwy Hawl i Wybod. Pan roddir gwybodaeth, mae’n bosibl na chaiff ei rhoi mewn ffordd sensitif, sy’n cynnwys cynnig cymorth parhaus neu gyfleu i ddioddefwyr yr opsiynau a fydd ar gael o hynny ymlaen. Ar ben hynny, mae data ar ddatgeliadau yn dangos bod y

ffordd y caiff y Cynllun ei ddefnyddio a’i gofnodi yn amrywio’n sylweddol rhwng heddluoedd. Felly, nid yw’n glir p’un ai am nad oedd y dioddefwr yn gymwys; am nad oedd modd datgelu’r wybodaeth a oedd gan yr heddlu am y cyflawnwr; neu am nad oedd gan yr heddlu wybodaeth i’w rhoi oedd y rheswm pam na wnaed datgeliad.

Fodd bynnag, mae’r Comisiynydd wedi croesawu gwaith gan yr NPCC i flaenoriaethu gwelliannau yn y ffordd y caiff y Cynllun ei ddefnyddio ac o ran cysondeb ac mae’n edrych ymlaen at adolygu effaith ymyriadau i’r perwyl hwn.

Ffigur 10: Ceisiadau a datgeliadau Hawl i Wybod a Hawl i Ofyn o dan Gyfraith Clare yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024 ar gyfer heddluoedd ledled Cymru a Lloegr[footnote 85]
Ceisiadau a datgeliadau Nifer
Ceisiadau hawl i wybod 19,934
Datgeliadau hawl i wybod 9,057
Ceisiadau hawl i ofyn 38,678
Datgeliadau hawl i ofyn 15,488

3.2 Gorfodi mesurau amddiffyn

Mae’n gwbl allweddol i ddiogelwch goroeswyr bod gorchmynion yn cael eu gorfodi’n effeithiol – fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd yn gyson rhwng heddluoedd. Os na chânt eu gorfodi’n gadarn, bydd mesurau amddiffyn yn aneffeithiol. Caiff cyflawnwyr eu hannog i barhau i gam-drin heb ganlyniadau, a rhoddir goroeswyr mewn mwy o berygl drwy roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch iddynt. Adlewyrchwyd hyn yn yr adborth a gawsom gan oroeswyr, ac mae tystiolaeth i’w gweld yn uwch-gŵyn CWJ, sy’n dangos bod peidio ag arestio am dorri mesurau yn beth cyffredin – er bod torri mesurau yn drosedd.[footnote 86] Mae’n dadlau bod hyn yn rhannol am na chaiff achosion o dorri mesurau eu cymryd o ddifrif – cânt eu dehongli fel troseddau bach y mae’n anodd eu profi, a chânt eu trin ar wahân yn hytrach nag yng nghyd-destun patrymau ymddygiad.

Caiff y pryderon hyn eu hategu ymhellach gan ganfyddiadau Adolygiadau Lladdiadau Domestig, y mae dadansoddiad ohonynt wedi canfod bod methiannau i edrych ar wybodaeth ar gronfeydd data, o ganlyniad i ddiffyg chwilfrydedd (yn rhannol o leiaf), yn golygu na chaiff y darpariaethau cyfreithiol sydd ar waith eu gwerthfawrogi bob amser. Er enghraifft, mewn un achos, cyflwynwyd pedwar llythyr Rhybudd Aflonyddu ar wahân i gyflawnwr mewn cyfnod o bum mlynedd. Cafodd tri o’r rhain eu cyflwyno ar ôl iddo gael euogfarn am aflonyddu a phan oedd gorchymyn atal mewn grym.[footnote 87]

Ffactor arall sy’n cyfyngu ar allu’r heddlu i ymateb yn briodol i achosion o dorri mesurau amddiffyn yw bwlch technolegol rhwng y llysoedd, sy’n rhoi’r gorchymyn, a’r heddlu, sy’n ei orfodi. Ar gyfer gorchmynion peidio ag ymyrryd, mae’r ffaith nad oes cyswllt rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau rhwng cronfeydd data’r llys teulu a systemau’r heddlu yn golygu na chaiff yr heddlu ei hysbysu’n awtomatig pan gaiff gorchmynion eu rhoi a’u cyflwyno i’r cyflawnwr. Bydd problemau hefyd yn codi yn y llysoedd troseddol, lle y ceir arferion anghyson o ran anfon copïau o orchmynion atal i heddluoedd. Pan gaiff gorchmynion eu hanfon, bydd diffyg gwybodaeth ochr yn ochr â’r gorchymyn yn ei gwneud yn anodd i’r heddlu wybod ble mae’r dioddefwr yn byw ac yn cyfyngu ar eu gallu i’w orfodi. Oherwydd y bylchau hyn, mae’n bosibl na fydd yr heddlu’n ymwybodol o orchmynion sydd mewn grym, neu na fydd ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen i’w gorfodi ac, felly, mae’n bosibl na fyddant yn ymateb i achosion o’u torri am y rheswm hwn. Os byddant yn ymateb, y dioddefwr fydd yn gyfrifol am gyflwyno tystiolaeth o’r gorchymyn os bydd argyfwng. Mae’r fath arferion rhannu gwybodaeth a hysbysu yn sylfaen allweddol ar gyfer gorfodi’r mesurau amddiffyn pwysig hyn yn well.

Mewn ymateb i broblem barhaus a hollbresennol gorfodi gwael, mae’r Comisiynydd yn cefnogi argymhelliad y sector trais yn erbyn menywod a merched arbenigol y dylai data ar nifer yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt o dorri gorchmynion peidio ag ymyrryd, o gymharu â nifer yr achosion a erlynwyd, gael eu casglu gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’u monitro gan heddluoedd.[footnote 88]

Mae manteision rhannu gwybodaeth yn rheolaidd ac yn amserol i’w gweld ym mhrosiect Shield yng Ngogledd Swydd Efrog. Cynllun amlasiantaethol yw prosiect Shield, a’i nod yw atal niwed drwy ddarparu gwell gwasanaeth mewn perthynas â gorfodi gorchmynion peidio ag ymyrryd, drwy rannu’r gorchmynion a wneir gan y llys â’r heddlu a gweithwyr diogelu proffesiynol. Cafodd y cynllun peilot effaith sylweddol am iddo alluogi’r heddlu i ymateb yn fwy effeithiol pan fyddai dioddefwyr yn rhoi gwybod am achosion o dorri eu gorchmynion, a helpu’r heddlu i gymryd camau diogelu pendant er mwyn atal niwed.[footnote 89]

Mae angen gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff gorchmynion amddiffyn eu hysbysu, eu cofnodi a’u gorfodi, a hynny ar frys. Mae diffyg ymateb a chamau gorfodi yn destun pryder arbennig yng nghyd-destun tystiolaeth anecdotaidd sy’n dangos bod yr heddlu’n dibynnu ar orchmynion o’r fath fel dewis arall yn lle ymchwilio a chyhuddo.[footnote 90] Er bod methiannau i orfodi ynddynt eu hunain yn peri risg sylweddol i ddioddefwyr, p’un a fydd gorchmynion yn rhai annibynnol neu ar waith ar yr un pryd ag ymchwiliad ai peidio, dim ond pan mai’r gorchymyn hwnnw yw’r prif fesur amddiffyn a diwedd y broses gyfiawnder mewn ymateb i’r gamdriniaeth y bydd risgiau o’r fath yn cynyddu. Mae’n galonogol gweld y llywodraeth, y sector plismona a’r llysoedd yn bwrw ymlaen â gwaith o fynd i’r afael â’r pryderon hyn – ond mae’n hollbwysig blaenoriaethu’r gwaith hwn a darparu adnoddau ar ei gyfer.

3.3 Mynediad at ymyriadau newid ymddygiad i’r rhai sy’n achosi niwed

Mewn egwyddor, mae amrywiaeth o ymyriadau newid ymddygiad ar gael er mwyn mynd i’r afael â gwahanol lefelau o risg ac angen. Fodd bynnag, yn ymarferol, y tu hwnt i fframweithiau cyfiawnder troseddol statudol (a drafodir yn nes ymlaen ym Mhennod 6) ni chaiff llawer o ymyriadau strwythuredig a phecynnau cymorth i ymarferwyr eu darparu mewn modd ffurfiol, ac nid oes dadansoddiadau cynhwysfawr o’u niferoedd na’u heffeithiolrwydd. Mae ymyriadau newid ymddygiad arbenigol yn bryderus o dameidiog ac, mewn rhai ardaloedd, nid oes fawr ddim darpariaeth, os o gwbl. Mae hyn i’w weld yn y ffaith bod llai nag 1% o gyflawnwyr yn cael ymyriad arbenigol i herio neu newid eu hymddygiad.[footnote 91] Canfu ymarfer mapio’r Comisiynydd ei hun yn 2022 mai dim ond 7% o oroeswyr a oedd am i’w cyflawnwr gael cymorth i newid ei ymddygiad a lwyddodd i’w gael, er bod eisiau hyn ar fwy na hanner y goroeswyr.[footnote 92] Gall Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig, sydd ar gam peilot cynnar ar hyn o bryd, gynnwys gofynion cadarnhaol i ddilyn rhaglen newid ymddygiad. Felly, mae’n hollbwysig bod ymyriadau o’r fath yn cael eu darparu’n ddigonol – yn yr ardaloedd peilot ac yn genedlaethol – er mwyn sicrhau y gellir profi’r Gorchmynion hyn yn llawn yn ystod y cam peilot, ac y bydd pob ardal yn barod iddynt gael eu cyflwyno’n genedlaethol.

Lle mae gwasanaethau’n bodoli, prin yw’r rhai sydd â darpariaeth wedi’i theilwra er mwyn diwallu anghenion y rhai o grwpiau a ymyleiddiwyd neu a leiafrifwyd, yn enwedig y rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddynt a’r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg. Ceir bwlch penodol o ran diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n achosi niwed. Fel y nodwyd yn nogfen y Drive Partnership, A call for further action, mae cyllid yn ansicr ac yn annigonol, ac mae arferion comisiynu’n amrywiol, gan gynnwys defnydd cyffredin o gontractau cyfnod byr.

Yn y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig, ymrwymodd y Llywodraeth flaenorol i fuddsoddi £75 miliwn dros dair blynedd mewn mynd i’r afael â chyflawnwyr cam-drin domestig. Erbyn hyn, mae angen atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd o’r buddsoddiad hwn a chreu cysondeb cenedlaethol o ran darpariaeth graidd er mwyn ymateb yn briodol i gyflawnwyr.

3.4 Fforymau amlasiantaethol

Fel rhan o Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig, dylai asiantaethau gydweithio i rannu gwybodaeth, cuddwybodaeth a data er mwyn canfod cyflawnwyr sy’n peri risg uchel ond nad ydynt mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol o bosibl. Dylai unrhyw ddulliau a fabwysiedir weithio’n agos gyda’r trefniadau presennol, megis Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg, er mwyn sicrhau y bydd timau rheoli cyflawnwyr yn cael gwybodaeth allweddol gan baneli sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr. Dylai trefniadau amlasiantaethol i reoli cyflawnwyr allu rhannu data, cuddwybodaeth a gwybodaeth â fforymau o’r fath mewn gwahanol ardaloedd er mwyn diogelu unigolion os byddant yn symud.

Astudiaeth achos: Dull Partneriaeth ar gyfer Cyflawnwyr Cam-drin Domestig

Dull amlasiantaethol o reoli cyflawnwyr cam-drin domestig yn Nwyrain Lloegr yw DAPPA. Mae’n defnyddio cyfrifiadau tystiolaethol a gynhyrchwyd gan y matrics Diweddaredd, Amlder,

Difrifoldeb (RFG) i ganfod cyflawnwyr sy’n peri’r risg fwyaf difrifol neu fynych o niwed. Os penderfynir peidio â chynnwys cyflawnwr, caiff y cyflawnwr ei osod yn y garfan fonitro er mwyn arsylwi arno yn y dyfodol a chaiff adolygiad diogelu ei neilltuo i’r asiantaeth fwyaf priodol.

Ar gyfer y cyflawnwyr hynny a gaiff eu cynnwys yn fframwaith DAPPA, caiff cynlluniau rheoli risg amlasiantaethol eu datblygu, gan gynnwys dau lwybr –

  1. Llwybr Dargyfeirio – cymorth dwys wedi’i dargedu, lle y bydd cyflawnwr yn ymgysylltu â gwasanaethau ac yn gweithio gyda nhw.

  2. Llwybr Tarfu – camau tarfu, megis arestio am drosedd arall ac achub ar gyfleoedd a gynigir gan guddwybodaeth, lle y bydd cyflawnwr wedi gwrthod ymgysylltu.

Caiff pob cyflawnwr ei drafod mewn slot awr ar wahân a bydd cyfrifoldeb ar bob asiantaeth sy’n bresennol yn y cyfarfod i ymateb i wybodaeth, materion a chamau gweithredu ar gyfer eu priod feysydd busnes a sicrhau y gwneir cynnydd ar faterion erbyn y cyfarfod nesaf.

Cysylltir ag unrhyw bartneriaid i gyflawnwyr ar y naill lwybr neu’r llall er mwyn asesu anghenion cymorth ac unrhyw ffactorau risg posibl.

Bydd y tîm DAPPA hefyd yn cynnal cyfarfod monitro wythnos cyn y cyfarfod DAPPA ffurfiol. Yn y cyfarfod hwn, caiff cyflawnwyr sydd yn y garfan fonitro eu trafod yn ogystal â chyflawnwyr sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar, atgyfeiriadau gan bartneriaid ac unrhyw gyflawnwyr a nodir fel risg sy’n datblygu. Caiff unrhyw droseddau diweddar gan y rhai sydd yn y garfan eu hadolygu, a nodir unrhyw feysydd lle y gellid gwella mesurau diogelu presennol.

Fodd bynnag, lle na chaiff gwasanaethau rheoli cyflawnwyr eu comisiynu, mae’n annhebygol y bydd gan ardaloedd lleol strwythurau ffurfiol ar gyfer gwaith amlasiantaethol a rhannu cuddwybodaeth rhwng asiantaethau sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyflawnwyr. Mae hyn yn broblem oherwydd, heb strwythurau ffurfiol ar gyfer canfod cyflawnwyr nad ydynt yn cael eu rheoli gan yr heddlu a’r Gwasanaeth Prawf, nid fydd asiantaethau’n gwybod beth yw eu rôl yn y gwaith o adnabod ac atgyfeirio unigolion sy’n ymddwyn mewn ffyrdd sy’n achosi problemau. Mae hyn yn golygu y gallant lithro drwy’r rhwyd a symud o un dioddefwr i’r llall heb gael eu dal.

Heb strwythurau ffurfiol, mae hefyd yn bosibl y bydd asiantaethau’n betrus ynglŷn â rhannu gwybodaeth am unigolion sy’n destun pryder am eu bod yn ofni y gallant dorri deddfau diogelu data. Felly, mae angen polisïau clir i amlinellu i weithwyr proffesiynol sut y gellir gwneud hyn yn unol â gweithdrefnau diogelu oedolion a phlant.

3.4.2 Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC)

Cafodd Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg eu datblygu yng Nghaerdydd yn 2003 a’u cyflwyno’n eang ledled Cymru a Lloegr erbyn 2007, gan greu defnydd systemig o asesiadau risg a rhannu gwybodaeth er mwyn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr sy’n oedolion ac sy’n wynebu risg uchel. Mae gan y Cynadleddau hyn y potensial i fod yn anhygoel o effeithiol o ran cau’r bylchau mewn system o wasanaethau cyhoeddus sy’n aml yn gymhleth – yn enwedig y rhai o fewn y system cyfiawnder troseddol. Maent wedi’u dylunio ar gyfer achosion yr aseswyd eu bod yn rhai risg uchel, a gallant fod yn gyfle hanfodol i asiantaethau rannu gwybodaeth am droseddwr, a fydd yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun diogelwch ar gyfer y dioddefwr/goroeswr, yn ogystal â chael gwybodaeth sy’n hollbwysig er mwyn deall darlun cyfannol o’r risgiau a sut y gellir eu rheoli. Ar ben hynny, mae Cynhadledd yn broses achub bywydau allweddol a all amddiffyn dioddefwyr rhag cael niwed difrifol neu, mewn rhai achosion, rhag cael eu lladd.

Mae’r Cynadleddau’n gweithredu heb sail statudol ac nid ydynt yn adlewyrchu diweddariadau i ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys Deddf Cam-drin Domestig 2021, sy’n cydnabod bod plant bellach yn ddioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, a throseddau tagu nad yw’n angheuol a mygu nad yw’n angheuol, yn ogystal â Deddf Troseddau Difrifol 2015, a gyflwynodd drosedd ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol mewn perthynas bersonol neu deuluol.

Ar hyn o bryd, mae tua 290 o Gynadleddau’n cael eu cynnal mewn ardaloedd lleol ledled y DU. Yn ôl set ddata genedlaethol ddiweddaraf SafeLives ar Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg, yn ystod y 12 mis tan fis Mehefin 2024, cafodd 127,594 o achosion eu trafod mewn Cynadleddau – cynnydd o 10,917 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.[footnote 93] O’r achosion a wrandawyd yn ystod y cyfnod hwn, roedd 159,710 yn cynnwys plant.

Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid mewn partneriaethau lleol ac yn y sector cam-drin domestig wedi dweud wrth y Comisiynydd nad yw’r Cynadleddau’n gweithio’n effeithiol nac yn effeithlon yn ymarferol. Er bod enghreifftiau o arferion da i’w gweld mewn rhai ardaloedd, mae’r rhan fwyaf yn parhau i ddweud eu bod yn ei chael hi’n anodd rheoli Cynadleddau’n effeithiol ar eu ffurf bresennol. Oherwydd diffyg cymorth ar gyfer Cynadleddau a diffyg adnoddau i’w asiantaethau sy’n cyfrannu atynt, mae eu haddasrwydd wedi cael ei gwestiynu.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu patrwm o bryderon ledled Cymru a Lloegr. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos problemau sylweddol sy’n effeithio ar allu Cynhadledd i fod yn fforwm gwirioneddol effeithiol ar gyfer rheoli’r risgiau a achosir gan gyflawnwyr a gwella diogelwch dioddefwyr, goroeswyr a’u plant. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llawer o achosion a atgyfeirir, gan gynnwys rhai a atgyfeirir fwy nag unwaith.

  • Lefelau uwch o angen a chymhlethdod materion.

  • Heriau sy’n gysylltiedig â rhannu data.

  • Presenoldeb amlasiantaethol anghyson.

  • Ansawdd cadeiryddiaeth, gwaith gweinyddol a chydgysylltu.

  • Diffyg canllawiau cenedlaethol cyfredol neu fframwaith arferion gorau.

  • Cyfyngiadau ar gyllidebau asiantaethau/gweithwyr proffesiynol, cyfyngiadau gweinyddol a chyfyngiadau ar gapasiti.

  • Amlder anghyson – gan amrywio o Gynadleddau dyddiol i Gynadleddau misol.

Er bod gan y Cynadleddau ran bwysig i’w chwarae yn yr ymateb i’r achosion risg uchaf, mae hyn yn dibynnu ar asesiadau risg cywir a chynhwysfawr ym mhob achos, ac mae’n gadael bwlch yn yr ymateb amlasiantaethol i achosion risg safonol a chanolig. Mae’n rhaid cael ymateb amlasiantaethol cadarn i achosion ar bob rhan o’r sbectrwm risg llawn. Roedd enghraifft o arferion da a gyflwynwyd mewn ymateb i alwad y Comisiynydd am dystiolaeth yn dyst i’r pwynt hwn. Dywedodd wrthym am gyfarfod hyb partneriaeth wythnosol gyda chynrychiolwyr gwahanol asiantaethau statudol a’r sector gwirfoddol – yn ogystal â Chynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg – sy’n cynnig fforwm ar gyfer codi pryderon ynglŷn ag achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig. Nod hyn yw helpu i ganfod cam-drin domestig lle na fyddai wedi cael ei adnabod fel arall o bosibl, yn ogystal â rhoi strategaethau ymyrryd yn gynnar ac atal ar waith.

Er mwyn mynd i’r afael â’r anghysondebau hyn ac yng nghyd-destun prinder cyllid awdurdodau lleol, mae’n hollbwysig bod y llywodraeth yn cynnal adolygiadau llawn a chyfannol o’r sefyllfa bresennol ledled y wlad mewn perthynas â Chynadleddau. Ceir sawl canllaw statudol sy’n cyfeirio at rôl allweddol y Gynhadledd, ond eto nid yw’n statudol ynddo’i hun, ac nid oes canllawiau nac adnoddau ar gael er mwyn ei chynnal mewn ffordd gyson ledled y wlad. Mae hyn yn golygu bod dioddefwyr yn cael profiadau cwbl wahanol yn dibynnu ar ble maent yn byw.

4. Ymchwilio a chyhuddo

Drwy gydol yr ymchwiliad…mae arolygwyr a phrif arolygwyr wedi gofyn i mi…‘Beth hoffet ti ei gael allan o hyn?’ Ac mae’n fy ngwylltio i bob tro… Fe hoffwn i pe bai’n cael ei gyhuddo o leiaf am y chwe throsedd y gwnaethoch chi ei arestio amdanyn nhw.[footnote 94]

– Goroeswr

Fel y nodir yn yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer cam-drin domestig ac yn unol â’r hawl yn y Cod Dioddefwyr i ddioddefwyr gael eu trin ag urddas a pharch, dylai ymchwiliadau ganolbwyntio ar weithredoedd y cyflawnwr/cyflawnwyr yn hytrach na chanolbwyntio ar fynd drwy ddatganiad dioddefwr â chrib mân er mwyn chwilio am anghysondebau. Fodd bynnag, mae ymchwiliadau annibynnol i ymatebion asiantaethau i gam-drin domestig[footnote 95] a threisio[footnote 96] wedi canfod bod asiantaethau’n dal i ganolbwyntio mwy ar ymddygiad a chredadwyedd y dioddefwr na’r cyflawnwr yn rhy aml – sy’n gallu mynd yn brofiad sy’n erlid y dioddefwr unwaith eto.

Dywedodd goroeswyr a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi wrthym am broblemau a rhwystrau sylweddol y gwnaethant eu hwynebu drwy gydol proses yr ymchwiliad. Gwnaeth y rhain effeithio ar ansawdd yr ymchwiliad a pheri risg y byddai’r achos yn cael ei gau heb ddim camau pellach, er gwaethaf tystiolaeth o niwed a’r ffaith bod unigolyn dan amheuaeth wedi’i ganfod. Mae hyn yn destun pryder sylweddol – heb ffurfio achos yn gadarn a chyhuddo’n gywir, bydd gallu goroeswr i gael cyfiawnder yn y fantol.

Ategwyd hyn gan ganfyddiadau’r cylch diweddaf o arolygiadau HMICFRS o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL). Fel y gwelir yn Ffigur 10, ‘angen gwella’ neu ‘anfoddhaol’ oedd y geiriau a ddewiswyd i ddisgrifio’r ffordd roedd y rhan fwyaf o heddluoedd yn ymchwilio i droseddau. Roedd y farn ar y ffordd roedd heddluoedd yn amddiffyn pobl agored i niwed fymryn yn well, ond mae’r ffaith mai dim ond ‘boddhaol’ a ddewiswyd i ddisgrifio’r nifer mwyaf o heddluoedd yn destun pryder.[footnote 97]

Ffigur 11: Arolygiadau PEEL HMICFRS 2021/22

Ymchwilio i droseddau Amddiffyn pobl agored i niwed
Rhagarol 0 3
Da 9 10
Boddhaol 12 18
Angen gwella 19 10
Anfoddhaol 3 2

Dros y degawd diwethaf, mae nifer yr unigolion dan amheuaeth o gyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a atgyfeiriwyd at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad ynghylch cyhuddo wedi lleihau 43% – o fwy na 125,000 yn 2014/15 i lai na 75,000 yn 2023/24.[footnote 98] Er bod amrywiadau rhwng ardaloedd heddluoedd, mae’r gwahaniaeth hwn yn ofnadwy – gan olygu bod llawer o’r goroeswyr sydd hyd yn oed yn rhoi gwybod i’r heddlu am droseddau, sydd eisoes yn brin, yn gallu llithro drwy’r rhwyd a methu â chael cyfiawnder. Fodd bynnag, o adeg atgyfeirio ymlaen, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu cyhuddo’n gyson mewn tua thri chwarter y penderfyniadau cyfreithiol a gawsant dros y 10 mlynedd ledled Cymru a Lloegr.

Ffigur 12: Nifer yr unigolion dan amheuaeth o gyflawni troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a atgyfeiriwyd gan yr heddlu at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad ynghylch cyhuddo, 2014/15 tan 2023/24

4.1 Arferion gwael wrth ymchwilio a chyhuddo

Faint o amser a gymerodd i’w arestio – doedd hi ddim yn ymddangos bod [yr heddlu] wir yn chwilio amdano; doedd hi ddim yn ymddangos fel bod ots gan yr heddlu am hynny mewn gwirionedd.[footnote 99]

– Goroeswr

4.1.1 Cyfathrebu’n wael â’r dioddefwr

Mae’r angen i gyfathrebu’n well â dioddefwyr yn y system cyfiawnder troseddol, o ran bod yn brydlon ac yn gynhwysfawr, wedi cael ei nodi’n gyson gan y sector trais yn erbyn menywod a merched arbenigol.[footnote 100] Mae hyn yn dal yn fater canolog y bydd goroeswyr yn tynnu sylw’r Comisiynydd ato. Mae hyn yn cynnwys oedi sylweddol cyn cyfathrebu â’r goroeswr – neu ddiffyg cyfathrebu llwyr – drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses gyhuddo, yn ogystal â methiant i ddeall anghenion hygyrchedd a chyfathrebu a chefnogi goroeswyr yn unol â hynny. Hefyd, mae’n cynnwys diffyg cyfathrebu rhagweithiol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r goroeswr am gynnydd, methiannau i ymateb yn brydlon i negeseuon gan y goroeswyr (neu o gwbl mewn rhai achosion), a diffygion o ran esbonio pan fydd yr heddlu’n cyfathrebu â’r dioddefwr. Mewn un enghraifft nodedig, ar ôl diffyg ymateb i neges gan ddioddefwr ynglŷn â honiadau bod ei chyn-bartner wedi torri gorchymyn atal, canfu’r BBC fod yr heddlu heb edrych ar flwch negeseuon penodedig ar gyfer achosion o drais yn erbyn menywod a merched am naw mis.[footnote 101]

Un o hawliau sylfaenol y Cod Dioddefwyr yw y dylai pob goroeswr gael ymateb prydlon wrth gyfathrebu a diweddariadau rheolaidd ar ei achos. Fodd bynnag, mae’n hanfodol cyfathrebu yn seiliedig ar anghenion y goroeswr ac mewn ffordd a arweinir gan yr anghenion hynny, gan gynnwys o ran dulliau cyfathrebu, gwasanaethau cyfieithu/dehongli, neu addasiadau rhesymol sy’n ofynnol.

Doedd y cyfathrebu dilynol ddim yn dda. O bryd i’w gilydd byddai swyddog yn ffonio ac yn dweud y byddai’n rhoi gwybod i mi beth yw’r canlyniad yr wythnos nesaf – roedd hynny fisoedd yn ôl. Dydw i ddim wedi clywed unrhyw beth o hyd. Peidiwch â gwneud addewidion na allwch chi eu cadw. Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i ni. Peidiwch â gwneud i ni feddwl ein bod ni wedi cael ein hanghofio neu nad ydyn ni’n bwysig.[footnote 102]

– Goroeswr

I rai dioddefwyr, bydd cyfathrebu gwael ac oedi cyn ymateb iddynt yn cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl ac yn peryglu eu diogelwch. Bydd hyn yn arbennig o enbyd pan fyddant yn gwybod bod terfynau amser, megis y dyddiad pan ddaw amodau mechnïaeth neu gyfyngiadau statudol i ben, yn nesáu. Bydd diffyg gwybodaeth am y camau nesaf yn gwneud iddynt ofni am eu diogelwch ac yn amharu ar allu gweithwyr cymorth i gynllunio diogelwch gyda nhw. Ar ben hynny, bydd diffyg pwynt cyswllt i ateb eu cwestiynau neu ffordd glir o gael cymorth yn cynyddu ofnau dioddefwyr a goroeswyr sy’n teimlo eu bod heb gael eu clywed na’u deall drwy gydol yr ymchwiliad.

Wnaeth [Gwasanaeth Erlyn y Goron] ddim cysylltu â mi tan ddiwrnod yr achos llys – felly, nid oedd wedi paratoi o ystyried mai dim ond ar bapur roedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd. Bu’n rhaid i mi dreulio amser yn esbonio agweddau a oedd yn golygu na allai’r drosedd gael ei lleihau, er mwyn sicrhau’r canlyniad cywir. Pe na bawn i’n bresennol, byddai ei drosedd wedi cael ei lleihau.[footnote 103]

– Goroeswr

Gwnaeth tystiolaeth gan wasanaethau cymorth arbenigol ategu hyn, gan bwysleisio’r ffordd roedd cyfathrebu gwael yn cyfyngu ar eu gallu i gefnogi a diogelu dioddefwyr. Mewn rhai achosion, gallent gymharu’r effaith yn uniongyrchol – dywedodd un sefydliad wrthym fod sianel gyfathrebu benodedig rhwng gweithwyr cymorth a’r heddlu lleol wedi cael ei disodli gan system wahanol, a hynny heb ymgynghoriad, gan ei gwneud hi’n anodd cael ymatebion.

Ar ôl i achosion gael eu hatgyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, dywedodd goroeswyr a gwasanaethau arbenigol wrthym fod y cyfathrebu wedi mynd yn fwy prin fyth.

Gwnaethom ddweud wrthym fod diffyg mynediad at erlynwyr a diffyg dulliau clir o gyfathrebu â Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid yn unig yn effeithio ar ymddiriedaeth yn y system, ond hefyd yn ei gwneud hi’n anodd i wasanaethau roi’r wybodaeth ddiweddaraf a chymorth i ddioddefwyr a goroeswyr. Felly, roedd hyn yn golygu nad oedd goroeswyr bob amser yn ymwybodol o’u hawliau ac nad oedd ganddynt wybodaeth am broses yr erlyniad a’r treial. Dangoswyd hyn mewn dadansoddiad astudiaeth achos o Adolygiadau Lladdiadau Domestig, a ganfu, mewn un Adolygiad, y bu oedi o 39 diwrnod cyn i ail ymchwilydd gysylltu â’r dioddefwr ac yna y bu oedi o 89 diwrnod arall cyn unrhyw ymchwiliad pellach (DHR212, tt. 47).”[footnote 104]

Yn anecdotaidd, mae diffyg cyfathrebu wedi cyfrannu at benderfyniad dioddefwyr a goroeswyr i dynnu’n ôl o erlyniadau. Mae hyn ar y sail eu bod, ar ôl peidio â chael gwybodaeth newydd am gyfnodau estynedig, yn ceisio symud ymlaen yn hytrach na chael yr achos cyfiawnder troseddol yn gwmwl uwch eu pennau, am gyfnod amhenodol i bob golwg. Lle na wnaeth achosion arwain ar gyhuddiad, ni chafodd y wybodaeth hon ei rhannu mewn modd sensitif bob amser, gan ymddangos na roddwyd fawr ddim ystyriaeth i effaith y penderfyniad ar y dioddefwr a’i ddiogelwch.

4.1.2 Diffyg gwybodaeth/arbenigedd ym maes cam-drin domestig

Er bod bodolaeth canllawiau ar ymchwilio i achosion o gam-drin domestig a’u herlyn yn beth cadarnhaol, nid ydynt yn cael eu defnyddio’n gyson yn ymarferol. Fel y trafodwyd yn y bennod flaenorol, mae diffyg hyfforddiant, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â cham-drin domestig – yn enwedig cam-drin nad yw’n gorfforol, fel ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol – yn diferu drwodd i ymchwiliadau ac erlyniadau, gan leihau effeithiolrwydd prosesau casglu tystiolaeth a ffurfio achosion a’r tebygolrwydd o gyhuddo ac euogfarnu.

Yn gwbl groes i’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar gam-drin domestig, yn ogystal â chanllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gam-drin domestig, bydd ymatebion cyntaf sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad yn arwain at golli cyfleoedd i gasglu tystiolaeth er mwyn profi troseddau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad dros gyfnod o amser. Gall hyn beri i’r heddlu ganolbwyntio ar droseddau ar wahân – hyd yn oed os bydd y rhain yn anos eu profi neu os na fydd digon o dystiolaeth. Nododd sefydliad sy’n rhoi cyngor cyfreithiol i oroeswyr cam-drin domestig a rhywiol bryderon ychwanegol ynglŷn ag achosion lle y bydd yr heddlu’n mynd y tu hwnt i’w rôl drwy wneud penderfyniadau ynghylch achosion ac, felly, beidio â’u hatgyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron – a gwneud hynny ar sail y baich profi anghywir mewn rhai achosion.[footnote 105] Bydd gweithredoedd o’r fath yn gwneud achos yn sicr o fethu, a gallant fychanu unrhyw gam-drin sy’n digwydd, neu ei ddiystyru’n llwyr, hyd yn oed, a all arwain at effaith gynyddol ar achosion yn y dyfodol, yn ogystal ag achosion eraill, megis yn y Llys Teulu. Mae gan y Comisiynydd bryderon o hyd ynglŷn â’r posibilrwydd y bydd yr heddlu’n cyhuddo am rai troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig oherwydd y problemau hyn yn rhannol.

Ar gyfer troseddau fel ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, mae’r broses o ymchwilio i achosion a’u rheoli drwy’r system cyfiawnder troseddol yn arbennig o siomedig.

Yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024, cafodd 44,212 o droseddau ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol eu cofnodi gan yr heddlu.[footnote 106] Yn wahanol i droseddau a digwyddiadau eraill sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, mae ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn drosedd benodol, yn hytrach na throsedd y nodir ei bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig ac, felly, mae’r heddlu wedi bod yn defnyddio ei chod trosedd ei hun i’w chofnodi ers 2020/21. Mae hyn yn fodd i graffu’n fanylach ar y canlyniadau ar gyfer y math hwn o drosedd drwy’r system. Yn ystod yr un cyfnod o 12 mis tan 31 Mawrth 2024, cyrhaeddodd 3,999 o droseddau ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol wrandawiad cyntaf yn y llys ynadon ac, yn ystod y 12 mis tan fis Rhagfyr 2023, rhoddwyd 745 o euogfarnau i gyflawnwyr am ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol mewn perthynas bersonol neu deuluol.[footnote 107] Fodd bynnag, mae’n bosibl bod rhai cyflawnwyr wedi cael eu heuogfarnu am fwy nag un drosedd ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol (a throseddau eraill), felly ni ddylid trin 745 fel cyfran o 3,999. Er nad yw’r cyfnodau amser amrywiol hyn yn cyd-fynd â’i gilydd, sy’n golygu nad ydynt yn ganlyniadau wedi’u tracio, mae’r data’n rhoi syniad da o’r gyfradd tynnu’n ôl ar gyfer ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol drwy’r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig o ran troseddau sy’n cyrraedd gwrandawiad cyntaf. Dim ond 9% o droseddau ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol a gofnodir gan yr heddlu sy’n cyrraedd y llys.[footnote 108] Er bod hyn yn welliant calonogol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, pan mai dim ond 2,721 (neu 6%) o droseddau ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol a gyrhaeddodd wrandawiadau cyntaf yn y llys ynadon, mae llawer o ffordd i fynd o hyd.

Mae tystiolaeth anecdotaidd gan bartneriaid amlasiantaethol ac arbenigwyr y sector yn awgrymu ei bod yn bosibl bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn amharod i dderbyn risg wrth gyhuddo mewn perthynas â throseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig – yn enwedig pan fyddant yn cynnwys ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol – gan ddefnyddio trothwy uchel. Yn yr un modd â’r heddlu, mae prinder adnoddau a llwythi achosion trwm hefyd yn effeithio ar weithrediad Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn enwedig yn absenoldeb uned cam-drin domestig arbenigol. Mae hyn yn peri risg y bydd gan y staff sy’n ymdrin ag achosion o’r fath ddiffyg profiad o ddeall cam-drin domestig a delio ag ef.

Gwnaeth Adolygiad y Swyddfa Gartref o Ymddygiad Gorfodaethol a Rheolaethol gydnabod ei bod yn debygol bod cyfraddau cyhuddo isel yn arwydd o’r ffaith bod profi patrymau o ymddygiad camdriniol yn gallu cymryd mwy o amser. Y rheswm dros hyn yw bod trosedd ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol weithiau’n gofyn am dystiolaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau llai diweddar, yn ogystal â thystiolaeth o gam-drin nad yw’n gorfforol. Mae hyn mewn cyferbyniad â phresenoldeb yr heddlu mewn digwyddiad corfforol treisgar, sy’n gallu cael ei ddogfennu mewn amser real.[footnote 109] Pan fydd hi’n anos casglu tystiolaeth ffisegol, mae’n bosibl y bydd yr achos yn dibynnu’n fwy ar dystiolaeth a gyflwynir gan y dioddefwr, gan ei gwneud hi’n anodd iawn erlyn heb i’r dioddefwr barhau i ymwneud â’r broses.

4.1.3 Diffyg cydgysylltu rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron

Er mwyn gwella erlyniadau ac euogfarnau, mae’n amlwg bod angen i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gydweithio’n helaeth â’i gilydd i ymchwilio a datblygu’r sylfaen dystiolaeth; fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd yn gyson. Felly, gall bylchau yn y cydweithio rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron – yn enwedig diffyg cyfathrebu rhwng yr asiantaethau – gael effaith sylweddol ar lwyddiant achosion. Mae’r Comisiynydd yn cydnabod ac yn cymeradwyo gwaith arweinwyr plismona a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddatblygu’r Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig er mwyn iddynt gydgysylltu’n well yn eu dull o gyhuddo mewn perthynas â throseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, ond gall y ddwy asiantaeth gydweithio ymhellach â’r sector arbenigol hefyd yn eu priod ymatebion i gam-drin domestig, a dylent wneud hynny, er mwyn gwella’r ymateb o’r dechrau i’r diwedd.

Yn 2023, daeth ymchwiliad HMCPSI i’r gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig yn y llys ynadon o hyd i ddiffyg effeithiolrwydd mewn cynlluniau gweithredu a ddarperir gan Wasanaeth Erlyn y Goron i’r heddlu, ynghyd â methiant i fwydo gwybodaeth yn ôl i’r heddlu am ansawdd y ffeiliau a gyflwynwyd a methiant i ddod o hyd i asesiadau risg ac angen sydd ar goll neu’n amwys. Er y dylai cydweithwyr yn yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel mater o drefn, fod yn cyfathrebu’n gyffredinol ac yn rheolaidd er mwyn sicrhau y caiff achosion eu ffurfio’n gywir ac yn fanwl, dylai cynlluniau gweithredu yn benodol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau y caiff darlun cyfannol o’r achos ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron. Roedd un enghraifft gadarnhaol a nodwyd yn ymchwiliad yr arolygiaeth yn cyfeirio at ardal lle y byddai erlynwyr yn cael eu cyfarwyddo i anfon cynlluniau gweithredu fesul cam i’r heddlu, i ddangos yn glir pa eitemau a oedd yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cyhuddo, er mwyn gwella prydlondeb penderfyniad ynghylch cyhuddo.[footnote 110]

Mae hefyd yn hanfodol bod yr heddlu ac erlynwyr yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau y caiff achosion eu profi’n briodol os bydd erlyniad a arweinir gan dystiolaeth yn angenrheidiol. Daeth ymchwiliad HMCPSI i’r casgliad nad oedd gan yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron ddealltwriaeth gyson ynghylch pryd y dylid defnyddio dulliau o’r fath, gan arwain at golli cyfleoedd i gasglu tystiolaeth a strategaethau achos gwael.[footnote 111] Mae’r Cyd-gynllun Cyfiawnder, yn briodol ddigon, yn nodi gwerth ffurfio achosion a mynd ar drywydd erlyniadau mewn ffordd a arweinir gan dystiolaeth yn y lle cyntaf. Bydd hyn, nid yn unig yn sicrhau bod yr heddlu ac erlynwyr yn barod i fwrw ymlaen ag achosion pan fydd angen os bydd dioddefwr yn tynnu cefnogaeth yn ôl, ond bydd hefyd yn sicrhau bod achosion mor gadarn â phosibl waeth beth fo’r amgylchiadau. Mae hon yn thema (‘Gwella’r broses o ffurfio achosion a chadarnhau tystiolaeth’) a ddaeth i’r amlwg drwy ddadansoddi Adolygiadau Lladdiadau Domestig, gan gyfeirio at achos lle y gallai swyddogion, pe baent wedi siarad â’r galwr gwreiddiol a gwneud ymholiadau o ystafell i ystafell ar y pryd, fod wedi darganfod yn gynharach y wybodaeth allweddol a gasglwyd chwe mis yn ddiweddarach gan gymydog a oedd yn dangos digwyddiad domestig yn glir. Roedd hyn yn gyfle a gollwyd i arestio cyflawnwr ac, yn y tymor byr, aeth yn ei flaen i gyflawni tri achos pellach o gam-drin domestig yn fuan wedi hynny. (DHR212, tt. 51)”.[footnote 112]

Caiff y rôl bosibl y gall erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth ei chyflawni mewn achosion o gam-drin domestig ei phwysleisio mewn nifer o adroddiadau ac adolygiadau mewn perthynas â’r ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.[footnote 113] Mae argymhellion niferus wedi cael eu gwneud sy’n dyst i’r angen am well canllawiau i’r heddlu ac erlynwyr, a phrosesau cryfach er mwyn sicrhau y caiff yr opsiwn o erlyniad a arweinir gan dystiolaeth ei ystyried yn llawn ac y caiff penderfyniadau eu hategu gan dystiolaeth.

4.1.4 Heriau mewn gwaith amlasiantaethol ehangach

Fel y nodwyd wrth ddatblygu’r Cyd-gynllun Cyfiawnder, yr heddluoedd a’r ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n perfformio orau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig yw’r rhai sydd â’r cydberthnasau proffesiynol agosaf ac sy’n cydweithio i gyflawni gwelliannau a datrys problemau gyda’i gilydd. Rhaid i hyn gynnwys, nid yn unig cydweithio rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond hefyd ddull amlasiantaethol ehangach sy’n cynnwys cymorth cam-drin domestig arbenigol er mwyn gwella gwaith rheoli risg, diogelu a ffurfio achosion.[footnote 114]

Fodd bynnag, yn anffodus, mae dulliau o weithio mewn partneriaeth yn amrywio’n sylweddol rhwng ardaloedd heddluoedd ac ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae’r problemau cyfathrebu a nodwyd yn flaenorol yn yr adroddiad hwn yn ymestyn hyn, gyda bylchau, nid yn unig mewn cyfathrebu rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond hefyd ag asiantaethau ehangach, gan gynnwys gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Ar ben hynny, fel y nodwyd yn ymchwiliad HMCPSI, mae anghysondebau mewn darpariaeth cymorth arbenigol ledled y wlad, oherwydd prinder cyllid, yn effeithio ar y cydweithio rhwng erlynwyr a gwasanaethau arbenigol, ac mae angen bod mewn cysylltiad uniongyrchol rheolaidd er mwyn i erlynwyr fod yn ymwybodol o gymorth o’r fath.[footnote 115]

Er mwyn ymgysylltu’n iawn ag asiantaethau statudol drwy gydol proses yr ymchwiliad, rhaid i wasanaethau cymorth arbenigol gael adnoddau digonol – a rhaid i ymgysylltu o’r fath fod mor syml ac uniongyrchol â phosibl er mwyn bod mor effeithlon â phosibl. Mae diffyg cydweithio cyson â gwasanaethau arbenigol yn effeithio ar effeithiolrwydd yr ymateb y gall asiantaethau statudol ei gynnig i ddioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys ansawdd y ffeiliau achos a gyflwynir er mwyn sicrhau erlyniadau effeithiol a chyfleoedd i fynd ar drywydd erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth. Mae cymorth arbenigol yn allweddol er mwyn trosglwyddo gwybodaeth gan y dioddefwr a’r goroeswr, yn ogystal ag eirioli ar eu rhan – gall absenoldeb hyn hefyd gael effaith sylweddol ar effeithiolrwydd achosion a chyfraddau tynnu’n ôl gan ddioddefwyr. Ar ben hynny, gall diffyg cydweithio â gwasanaethau arbenigol olygu, os na fydd achos yn arwain at gyhuddiad neu erlyniad, y bydd yr esboniad a roddir i’r dioddefwr yn anghyflawn neu’n ansensitif.

4.1.5 Diffyg integreiddio data

Yn olaf, mae’r anallu i gadw golwg ar achosion rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyfyngu ar ddealltwriaeth o gyfraddau tynnu’n ôl gan ddioddefwyr yn sylweddol ar adeg allweddol yn y broses cyfiawnder troseddol. Fel y nodwyd yn gynharach yn y bennod, mae nifer yr achosion a atgyfeirir at Wasanaeth Erlyn y Goron gan yr heddlu yn lleihau. Dywedir bod y mwyafrif o’r dioddefwyr nad yw eu hachosion yn parhau yn ‘ymddieithrio’ yn ystod ymchwiliad ac felly cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch cyhuddo. Nid yw’r ffordd y caiff data eu cofnodi a’u cyflwyno ar hyn o bryd yn ddigon tryloyw na chynhwysfawr i esbonio’r patrymau hyn.

Er bod canllawiau cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd clir ar wybodaeth y dylid ei chasglu mewn adroddiadau ar ddioddefwyr sy’n tynnu’n ôl, nid yw hyn yn cael ei roi ar waith yn gyson, ac mae anallu i gadw golwg ar hyn yn genedlaethol yn golygu nad oes darlun clir o’r rhesymeg dros beidio ag atgyfeirio achosion. Fel y nodwyd gan Bates et al, bydd hyn yn arbennig o berthnasol pan gaiff canlyniadau 15 (anawsterau tystiolaeth – mae’r dioddefwr yn cefnogi’r camau) ac 16 (anawsterau tystiolaeth – nid yw’r dioddefwr yn cefnogi’r camau) eu cofnodi.[footnote 116]

Mewn dadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig,[footnote 117]dangosodd sawl achos anallu i ffurfio cysylltiad rhwng ofn y cyflawnwr a thynnu datganiadau yn ôl a/neu amharodrwydd i gefnogi ymchwiliadau. Yn yr un modd, pan fyddai dioddefwyr yn newid eu tystiolaeth, byddai’r newid yn cael ei gyfleu fel problem fel arfer, yn hytrach na chael ei weld fel cyfle i fod yn chwilfrydig. Heb ddata clir ar yr hyn y mae goroeswr am ei gael yn sgil rhoi gwybod am y drosedd yn y lle cyntaf, mae’n amhosibl cadw golwg ar b’un a yw hyn wedi cael ei gyflawni ai peidio ac a yw wedi ymddieithrio am fod ei nod wedi cael ei gyflawni.[footnote 118] Os nad hyn yw’r rheswm dros ymddieithrio, mae diffyg gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol hefyd yn amharu ar allu’r heddlu i ddeall cyd- destun ehangach sefyllfa goroeswr a’r rhesymau posibl pam nad yw wedi bod yn awyddus i ymgysylltu ymhellach.

Ychydig iawn y mae canlyniadau 15 ac 16 yn ei ddweud wrthym am ‘ymddieithrio’ gan ddioddefwyr, oherwydd eu diffyg cyd-destun. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cymorth arbenigol y gellir deall hyn yn llwyr, ac mae hynny’n gofyn am newid o ran ffyrdd o ymdrin â goroeswyr, trefniadau cofnodi gwybodaeth, a dulliau atebolrwydd, yn ogystal â newid ehangach mewn ffyrdd o ymdrin ag ‘ymddieithrio’ gan ddioddefwyr. Mewn rhai achosion, mae Bates et al yn dadlau y gallai ymddieithrio fod yn beth cadarnhaol – lle y cafodd yr hyn roedd y goroeswr am ei gael (er enghraifft, lleihau’r bygythiad, neu gofnodi’r digwyddiad) ei gyflawni drwy’r ymateb cychwynnol.[footnote 119] Rhaid i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gael eu dwyn i gyfrif am ‘ganlyniadau ystyrlon’ – yn hytrach na metrigau syml sy’n seiliedig ar gyfraddau ymddieithrio gan ddioddefwyr neu gyfraddau tynnu’n ôl nad ydynt yn rhoi gwybodaeth lawn am yr hyn roedd ar y goroeswr ei eisiau, a ph’un a gafodd hyn yn brydlon ai peidio.

4.2 Arferion da wrth ymchwilio a chyhuddo

Rhaid i ymchwiliadau gael eu harwain gan dystiolaeth o’r cychwyn cyntaf, gan ddechrau wrth i swyddogion gasglu tystiolaeth allweddol pan fyddant yn cyrraedd lleoliad a chynnal yr ymchwiliad mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn dan amheuaeth. Rhaid i’r ffocws ar ddioddefwyr ganolbwyntio ar roi cymorth cyfannol iddynt a rhoi mesurau amddiffynnol ar waith er mwyn sicrhau eu diogelwch a’u helpu i ymwneud â’r broses cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc, y mae’n rhaid eu trin fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ymchwiliadau i droseddau sy’n cynnwys yr elfennau canlynol yn fwy tebygol o gael eu dilyn hyd at erlyniad:[footnote 120]

  • Tynnu ffotograffau.

  • Casglu tystiolaeth fforensig.

  • Recordio datganiadau fideo.

  • Rhoi dioddefwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth yn gyflym.

Rhaid i ymchwiliadau fod yn gymesur, yn drylwyr, ac yn amserol. Fel rhan o hyn, dylai swyddogion bob amser ystyried a allai’r digwyddiad y maent yn ymateb iddo fod yn rhan o batrwm ehangach o ymddygiad y dylid ymchwilio iddo. Mae hyn yn golygu gofyn cwestiynau i’r dioddefwr am ei berthynas â’r cyflawnwr o ddydd i ddydd ac adnabod ymddygiadau camdriniol, siarad â chymdogion a thystion posibl eraill, cymryd datganiadau, a chasglu tystiolaeth allweddol arall ar adeg y digwyddiad.

O ran casglu tystiolaeth, fel rhan o’r fframwaith ‘Sicrhau’r Dystiolaeth Orau’, ceir sawl mesur arbennig y dylid eu cynnig i ddioddefwyr er mwyn eu helpu i roi tystiolaeth mewn modd effeithiol. Rhaid i hyn gynnwys cynllunio cyfweliadau gydag anghenion y dioddefwr mewn cof a’u cynnal mewn ffordd ystyriol o drawma, er mwyn casglu cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl fel na fydd yn rhaid i’r dioddefwr ailadrodd ei stori sawl gwaith. Fel rhan o’r fframwaith, dylai dioddefwyr a goroeswyr gael cynnig cymorth cam- drin domestig arbenigol yn ystod y broses o roi tystiolaeth.[footnote 121]

Fel y mae adroddiad cipolwg EVAW yn ei ddangos, gellir dysgu pethau gwerthfawr o ddull Ymgyrch Soteria o gynnal ymchwiliadau.[footnote 122] Rhaid i hyn gynnwys cymryd datganiad dioddefwr ar adeg y digwyddiad neu cyn gynted â phosibl wedyn, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o risg y bydd y trawma’n parhau neu’n cael ei achosi eto. Rhaid ystyried anghenion penodol y goroeswr wrth wneud hyn – gan gynnwys, er enghraifft, a oes angen cyfieithydd/dehonglydd neu unrhyw addasiadau rhesymol i gefnogi anabledd neu niwrowahaniaeth – er mwyn sicrhau y gall roi gwybodaeth gyflawn. Drwy gydol yr ymchwiliad, rhaid i oroeswyr gael eu diogelu drwy roi mesurau amddiffynnol ar waith a phlismona achosion o’u torri, a dylai’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gydweithio’n agos â’r gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi’r goroeswr er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ei rhannu at ddibenion ffurfio achosion cadarn yn ogystal â chynllunio diogelwch ar gyfer y goroeswr.[footnote 123] Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn rhoi enghraifft o’r dull a ddefnyddiwyd mewn rhai o ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn ceisio cyflawni hyn yn well.

Astudiaeth achos: Fforwm Cyfunol Cam-drin Domestig

Mae sawl un o ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gweithio gyda’u Fforymau Cam-drin Domestig lleol i ddatblygu a lansio cyfeiriadur o gymorth cam-drin domestig er mwyn gwella cydberthnasau gwaith a dealltwriaeth o brosesau Gwasanaeth Erlyn y Goron. Dywed canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gam-drin domestig y dylai erlynwyr weithio ochr yn ochr â Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a gweithwyr cymorth eraill i gefnogi dioddefwyr sy’n mynd drwy’r broses erlyn. Mae’r ddogfen wedi cael ei dosbarthu i erlynwyr a heddluoedd a chaiff fersiynau wedi’u diweddaru eu rhannu o bryd i’w gilydd o fewn ardaloedd.

Er mwyn rhoi hyn ar waith, mae un o ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn Nwyrain Lloegr yn cydweithio’n agos â sawl asiantaeth cam-drin domestig drwy Fforwm Cyfunol Cam-drin Domestig, sy’n cynnwys Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig/Eiriolwyr Annibynnol ar gyfer Trais Rhywiol, asiantaethau cymorth arbenigol, rheolwyr cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron, a chydweithwyr yn yr heddlu. Mae cyfarfodydd misol yn gyfle i asiantaethau arbenigol rannu profiadau dioddefwyr neu roi adborth/awgrymiadau ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae’r cyfarfodydd yn galluogi erlynwyr i wella dealltwriaeth o brosesau gwneud penderfyniadau a rhoi sylw uniongyrchol i ymholiadau er mwyn gwella ymddiriedaeth a dealltwriaeth.

Mae dros 15 o swyddogion yr heddlu wedi bod yn rhan o fy achos. Felly mae’n cael ei basio o gwmpas…ac rwy’n ailadrodd fy hun. Dydy fy sefyllfa ddim wedi newid. Dydy’r hyn rwy’n ei ddweud wrthyn nhw ddim wedi newid. Pam ydw i’n ailadrodd fy hun gynifer o weithiau â hynny?[footnote 124]

– Goroeswr

Dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu gydweithio’n agos er mwyn gwella’r ymateb strategol i gam-drin domestig fel math o drosedd. Mae hyn yn cynnwys hybu’r defnydd o adnoddau erlyn ar fesurau ffurfio achosion, megis cyngor cyfreithiol cynnar a gwell cydweithio, pwyso am gyflwyno Adran 28 ar gyfer achosion cam-drin domestig, gwella’r defnydd o erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth a sicrhau y bydd staff yn ymwneud â hyfforddiant ar gam-drin domestig.

O dan y Cod Dioddefwyr, rhaid i ddioddefwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt eu hachosion a gwybodaeth am y troseddwr yn dilyn euogfarn. Rhaid i asiantaethau sicrhau y cysylltir â dioddefwyr cam-drin domestig drwy’r dulliau sydd orau ganddynt ac y gwneir hynny mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, yn enwedig os byddant yn estyn allan fisoedd neu flynyddoedd lawer wedyn.

Rhaid i Wasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu wahodd craffu a chynnal paneli craffu pan wneir penderfyniadau Dim Camau Pellach. Os gwneir penderfyniad Dim Camau Pellach, dylid cysylltu â’r dioddefwr dros y ffôn, drwy lythyr, a thrwy unrhyw ddull cyfathrebu ychwanegol a ddewisir gan y dioddefwr er mwyn cael ei hysbysu ynghylch y penderfyniad a rhoi cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y rhesymau pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud. Fel rhan o’r broses hon, dylai proses Hawl y Dioddefwr i Adolygu gael ei chrybwyll a’i hesbonio i ddioddefwyr.

Ochr yn ochr â chraffu ar benderfyniadau Dim Camau Pellach, mae’n bwysig bod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio i wella ansawdd data er mwyn gallu casglu rhagor o wybodaeth a meithrin dealltwriaeth fwy craff. Hefyd, dylid casglu a chofnodi data ar ffactorau sy’n arwain at benderfyniadau Dim Camau Pellach.

5. Erlyn, treial, a dedfrydu

Mae’r 6% o droseddau cam-drin domestig a gofnodir gan yr heddlu sy’n cyrraedd treial yn gallu bod yn brofiad sy’n aildrawmateiddio goroeswyr yn arw.[footnote 125] Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall strwythur gweithdrefn droseddol ynddo’i hun, gan gynnwys ei natur wrthwynebol, amserlenni hir, a drwgdybiaeth o ymyriadau, gynyddu ac atgyfnerthu’r hyn sy’n gwneud goroeswr yn agored i niwed.[footnote 126] Ategwyd hyn yn ein cyfarfodydd bord gron gyda goroeswyr a’r rhai sy’n eu cefnogi; dywedwyd bod y cam hwn yn y broses cyfiawnder troseddol yn arbennig yn teimlo fel pe bai’n canolbwyntio’n fwy ar y weithdrefn, y broses, a’r asiantaethau dan sylw, yn hytrach na’r unigolion agored i niwed sy’n ceisio cyfiawnder.

Ffigur 13: Canlyniadau troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a throseddau nad ydynt yn gysylltiedig â cham-drin domestig a gofnodwyd yn ystod y 12 mis tan fis Mawrth 2024[footnote 127]

Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig Trroseddau nad ydynt yn gysylltiedig â cham-drin domestig
Cyhuddo neu alw i’r llys 7% 7%
Y tu allan i’r llys 2% 4%
Anawsterau tystiolaeth (wedi canfod unigolyn dan amheuaeth y dioddefwr yn cefnogi’r camau) 55% 20%
Anawsterau tystiolaeth (y dioddefwr ddim yn cefnogi’r camau) 23% 13%
Ymchwiliad wedi’i gwblhau heb ganfod unigolyn dan amheuaeth 2% 49%
Arall 2% 4%
Trossedau heb ganlyniad wedi’i bennu eto 8% 3%

Ffigur 14: Cyfradd cyhuddo ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, yn ôl ardal heddlu, yn ystod y 12 mis tan fis Mawrth 2024[footnote 128]

5.1 Arferion gwael o ran erlyn, treial, a dedfrydu

Rydych chi’n dod i mewn i’r systemau llysoedd hyn, sy’n codi digon o ofn arnoch chi yn barod, ac maen nhw’n gwneud i chi deimlo fel eich bod chi’n gwneud môr a mynydd o ddim byd, fel pe baech chi’n gwastraffu amser pawb.[footnote 129]

– Goroeswr

5.1.1 Oedi

Un o’r themâu mwyaf arwyddocaol a ddaeth i’r amlwg gan oroeswyr oedd effaith negyddol oedi ym mhrosesau’r llysoedd. Yn ddiweddar, nododd Comisiynydd Dioddefwyr Llundain fod mwy na 67,000 o achosion yn aros i gael eu gwrando yn Llys y Goron ledled y wlad ar hyn o bryd, a bod 28% o’r rhain yn aros am fwy na blwyddyn.[footnote 130] Bydd rhai goroeswyr yn aros am fwy o amser na hynny, hyd yn oed – dangosodd data Rhyddid Gwybodaeth o ddiwedd 2023 fod mwy na 300 o achosion Llys y Goron heb eu penderfynu yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn aros am bedair blynedd neu fwy, a bod 173 o achosion yn dal heb eu penderfynu ar ôl aros am chwe blynedd.[footnote 131]Mae Llysoedd Ynadon yn wynebu ôl-groniadau mwy fyth; ar ddiwedd mis Medi 2024, roedd 327, roedd 327,228 o achosion heb eu penderfynu yn y Llysoedd Ynadon.[footnote 132]

Mae capasiti llysoedd yn broblem fawr; rhwng 2010 a 2020, cafodd hanner yr holl Lysoedd Ynadon yng Nghymru a Lloegr, sef 164 allan o 320, eu cau.[footnote 133] Mae’r ystad llysoedd mewn cyflwr gwael, sy’n cael effaith bellach ar gapasiti.[footnote 134] Caiff problemau o ran capasiti llysoedd hefyd eu hategu gan brinder barnwyr ar bob lefel – gan gynnwys ynadon, barnwyr cylchdaith a barnwyr rhanbarth – sydd felly’n lleihau nifer y diwrnodau eistedd sydd ar gael yn system y llysoedd.[footnote 135] Rhwng 2012/13 a 2019/20, bu lleihad o 12% yn nifer y barnwyr, sy’n fwy na’r lleihad yn nifer yr achosion yn y priod lysoedd a weithredir ganddynt.[footnote 136]

Dywedodd goroeswyr wrthym fod oedi wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol, gan ymestyn eu trawma ac achosi trawma ychwanegol. Er enghraifft, dywedodd un goroeswr wrthym fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi anghofio dweud wrthi, ar ôl i ddyddiad y treial gael ei newid bedair gwaith yn flaenorol, pryd y byddai dyddiad newydd ei threial – o ganlyniad i hynny, roedd y cyflawnwr yn bresennol yn y treial, ond nid oedd hi yno. Dywedodd un arall wrthym ei bod wedi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ac wedi gwneud trefniadau cymorth, dim ond i’w threial gael ei ganslo ychydig ddiwrnodau cyn y dyddiad roedd disgwyl iddo gael ei gynnal, a hynny heb i ddyddiad newydd gael ei drefnu – gan achosi pryder a straen aruthrol.

Nid yn unig y bydd oedi yn y llys yn achosi straen gormodol i oroeswyr, ond bydd hefyd yn arwain at effeithiau cynyddol ar wasanaethau arbenigol y bydd angen iddynt weithio gyda chleientiaid am fwy o amser nag oeddent wedi’i ragweld, ac achosion Llys Teulu sy’n dibynnu ar dystiolaeth o’r llys troseddol.

Mae’r broses yn araf; bu’n rhaid i mi fynd i lys troseddol flwyddyn ar ôl i’r heddlu gael gwybod am y troseddau, a daeth hynny â phopeth yn ôl eto ar ôl cymaint o amser.[footnote 137]

– Goroeswr

Er mwyn mynd i’r afael â’r ôl-groniad yn y tymor byr, rhaid darparu cyllid ar gyfer ‘Llysoedd Nightingale’, yn unol ag argymhellion Comisiynydd Dioddefwyr Llundain. Yn y tymor hwy, rhaid cael rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf yn yr ystad llysoedd er mwyn cynnal, gwella ac ymestyn capasiti.

5.1.2 Diffyg dealltwriaeth y farnwriaeth o gam-drin domestig Rhoddodd goroeswyr ddisgrifiadau sy’n peri gofid o sylwadau a wnaed wrthynt ac amdanynt gan aelodau o’r farnwriaeth a oedd yn gwrando eu hachosion, yn y Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron. Gall datganiadau o’r fath ddylanwadu ar reithgorau neu ynadon eraill, gan greu rhagfarn yng nghanlyniadau treialon neu mewn dedfrydau.

Gallant hefyd gael effaith bersonol sylweddol ar y dioddefwr.

Dywedodd goroeswyr wrthym am sylwadau gan farnwyr, gan gynnwys y canlynol:

  • Ei diystyru fel dioddefwr posibl am fod ganddi “swydd dda”. Mae’r cyflawnwr bellach yn defnyddio trawsgrifiad y Llys Troseddol i gael mynediad at y plant drwy’r Llys Teulu.[footnote 138]

  • Dweud wrthi ei bod yn annibynadwy am ei bod wedi aros wyth mis cyn rhoi gwybod am y drosedd.[footnote 139]

  • Dweud wrth y Swyddog â Gofal, “Dydw i ddim yn siŵr a fydd [y goroeswr] yn gwneud unrhyw ffafrau â ni am ei bod mor huawdl.”[footnote 140]

  • Dweud wrthi yn y llys nad oedd hi’n edrych fel dioddefwr, a bod y treial wedi bod yn “wastraff amser”.[footnote 141]

O ystyried eu rôl allweddol yn y broses o benderfynu ar dynged achos, mae’n hanfodol bod gan aelodau o’r farnwriaeth ddealltwriaeth glir o ddynameg cam-drin domestig ac effaith trawma ar ddioddefwyr a goroeswyr. Wedyn, rhaid iddynt gymhwyso hyn at y ffordd y byddant yn rheoli ystafell y llys ac yn gwneud penderfyniadau ynddi. Fodd bynnag, mae diffyg arolygiaeth o dueddiadau a diffygion drwy’r system gyfan yn cyfyngu ar y posibilrwydd o ddwyn y farnwriaeth i gyfrif.

Rhaid i’r system cyfiawnder troseddol hefyd fynd i’r afael â’r arfer sydd ar led o erlyn dioddefwyr a goroeswyr yn amhriodol ar ôl iddynt droseddu o ganlyniad i gael eu cam- drin. Fel yr esbonia Centre for Women’s Justice, mae methiannau yng nghanllawiau ac arferion yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn golygu bod menywod a ddylai gael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin yn cael eu harestio, eu cadw yn y ddalfa, eu rhybuddio neu eu herlyn yn lle hynny. Mae diffyg amddiffyniad effeithiol yn golygu nad oes gan lawer o fenywod fawr ddim dewis ond pledio’n euog. I’r rhai sy’n mynd drwy dreial, nid yw’r llysoedd wedi’u paratoi’n ddigonol i roi ystyriaeth briodol i’r cyd-destun o gamdriniaeth y digwyddodd eu troseddau honedig ynddo.[footnote 142] Caiff problemau dioddefwyr a goroeswyr o fewn y system cyfiawnder troseddol eu trafod ymhellach ym Mhennod 6.

5.2 Arferion da o ran erlyn, treial, a dedfrydu

Cefais fy nghefnogi’n dda iawn drwy gydol proses y llys. Cefais lawer o gymorth gan yr heddlu. Yn ystod proses y llys, roedd gen i gysylltiadau fideo fel nad oedd rhaid i mi fynd i mewn ac fe allwn i fod mewn dinas wahanol. Rhoddodd hyn lawer o gysur i mi am nad oedd rhaid i mi fod yn yr un ardal â’r cyflawnwr na bod wyneb yn wyneb ag ef.[footnote 143]

– Goroeswr

Soniodd goroeswyr wrthym am werth cymorth arbenigol drwy gydol proses y llys, gan ddweud yn aml mai eu heiriolwr neu weithiwr cymorth oedd un o’r unig agweddau cadarnhaol ar y profiad cyfan. Yn galonogol, mae canllawiau drafft ar rolau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig a Chynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion yn annog asiantaethau cyfiawnder troseddol i gydnabod rôl bwysig eiriolaeth a chymorth arbenigol, gan gynnwys darpariaeth gwasanaethau ‘gan ac ar ran’.

Nid yn unig y mae’r cymorth arbenigol hwn yn helpu dioddefwyr i ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol a chael cymorth drwy’r broses, ond mae hefyd yn galluogi’r system i weithredu’n fwy effeithiol; megis sicrhau bod mesurau arbennig (er enghraifft, mynedfeydd neu ystafelloedd aros ar wahân, neu sgriniau) ar waith. Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Dystion yn cyflawni rôl bwysig, ond nid oes ganddo bob amser y capasiti neu’r arbenigedd i roi’r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr cam-drin domestig.

Pan oedd hi yn y llys ac yn cael gwybod y byddai e’n mynd i’r carchar, roedd e yno wrth ei hochr hi a dim ond darn o bapur sidan oedd yn ei hamddiffyn. Roedd hi’n gallu gweld ei siâp, a gwnaeth hyn iddi deimlo’n sâl iawn. Mae hi wedi dweud, ‘Pam nad oedd ystafell wahanol lle y gallai’r ddau ohonom ni edrych ar y barnwr? Pam roedd angen i mi fod yn agos ato?[footnote 144]

– Goroeswr

Gwnaeth gwaith mapio SafeLives ar gymorth gan y llysoedd i ddioddefwyr cam-drin domestig amcangyfrif bod 71% o ddioddefwyr a fu’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol a’r system cyfiawnder teuluol wedi gwneud hynny heb fawr ddim cymorth wedi’i neilltuo iddynt, os o gwbl, a bod un o bob pump o Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig wedi cael eu gwahardd rhag cefnogi dioddefwyr yn y llys.[footnote 145] Mae hyn er gwaethaf bodolaeth darpariaethau yn y Cod Dioddefwyr sy’n pwysleisio bod gan ddioddefwyr hawl i gael cymorth o safon ar bob cam o’u taith.

Mae’n amlwg nad yw’r mwyafrif o ddioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt, ac mae cymorth yn cael ei wrthod i lawer ohonynt. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos goroeswyr lleiafrifiedig a goroeswyr yr ystyrir eu bod yn wynebu risg ‘safonol’ neu ‘ganolig’.[footnote 146]

Llysoedd arbennig a gaiff eu staffio gan arbenigwyr sydd wedi cael hyfforddiant a phrofiad o reoli achosion cam-drin domestig yn benodol yw Llysoedd Cam-drin Domestig Arbenigol, ac mae gwasanaethau cymorth arbenigol ar gael ynddynt yn gyson.[footnote 147] Caiff y mesurau hyn eu hategu gan bartneriaeth amlasiantaethol a chydgysylltydd llys sydd, gyda’i gilydd, yn helpu i roi prosesau gweithio mewn partneriaeth ar waith a hyfforddi personél allweddol. Mae’r mesurau hyn yn sicrhau bod diogelwch dioddefwyr yn rhan ganolog o’r broses, y caiff gwybodaeth ei rhannu’n effeithlon, ac y caiff arbenigedd ei ddefnyddio yn brydlon ac yn gyson.

Un o fanteision canolog Llys Cam-drin Domestig Arbenigol yw’r bartneriaeth amlasiantaethol sy’n sail iddo. Heb ddulliau i orfodi a chynnal hyn, soniodd gwasanaethau cymorth arbenigol wrthym am weithio mewn seilos ac anawsterau sylweddol wrth geisio cyfathrebu ag HMCTS.[footnote 148] Mae cyfathrebu a rhannu gwybodaeth, yn ogystal â chymorth arbenigol cyson, yn hollbwysig i lwyddiant dull amlasiantaethol o gynnal proses y llys.

Fodd bynnag, fel y gwelwyd yng ngwaith mapio Standing Together ar Lysoedd Cam-drin Domestig Arbenigol, gall y paradocs rhwng ymgysylltu gan unigolion a difaterwch sefydliadol – er y gall olygu y bydd unigolion yn mynd i’r afael â phroblemau’n gyflym ac yn anffurfiol ar y pryd – arwain at beidio â gwreiddio fforymau amlasiantaethol ehangach lle y gellir codi problemau, a thrwy hynny effeithio ar gynaliadwyedd gwaith partneriaeth drwy ei wneud yn ddibynnol ar ymrwymiad unigolion er mwyn gweithio.[footnote 149]

Mae sefydliadau yn y sector arbenigol wedi argymell Llysoedd Cam-drin Domestig Arbenigol droeon.[footnote 150] Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn tynnu sylw at yr enghraifft hon o arferion gorau.

Astudiaeth achos: Llys Cam-drin Domestig Arbenigol[footnote 151]

Yn ardal Llundain Fwyaf, caiff Llys Cam-drin Domestig Arbenigol ei gynnal mewn Llys Ynadon lleol sy’n gweithredu gyda ffactorau allweddol ar waith er mwyn amddiffyn a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn well:

  • Caiff achosion o gam-drin domestig eu grwpio mewn un gwrandawiad a gaiff ei oruchwylio gan ynadon neu farnwr rhanbarth a staff llys penodedig, sy’n cael hyfforddiant ar faterion yn ymwneud â cham-drin domestig.

  • Bydd cydgysylltwyr y llys yn cadw golwg ar bob achos ac yn helpu’r asiantaethau cyfiawnder troseddol perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn yr achos, a chael a rhannu gwybodaeth am y risgiau i’r dioddefwr, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau diogelu priodol.

  • Caiff dioddefwyr eu cefnogi drwy’r broses gan Gynghorydd Trais Domestig Annibynnol a gyflogir gan elusen cam-drin domestig ac sydd â gwybodaeth arbenigol am y system cyfiawnder troseddol. Bydd y Cynghorydd yn rhoi cymorth emosiynol ac yn esbonio’r system cyfiawnder troseddol, yn helpu i gynllunio diogelwch drwy gydol yr achos ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wrandawiadau achos.

  • Rhoddir pwyslais ar wneud darpariaethau arbennig er mwyn lleihau ofn bygythiadau neu fygylu cymaint â phosibl, megis cynnig y defnydd o fynedfa wahanol neu gysylltiadau fideo neu sgriniau y tu mewn i’r llys.

  • Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i’r model, sy’n uno cyfranogwyr cwbl wahanol o dan strwythur llywodraethu a phrotocolau amlasiantaethol er mwyn cynnig ffordd gydgysylltiedig a chyson o weithredu. Mae hyn yn atgyfnerthu gallu gwasanaethau prysur sydd dan bwysau i gydweithio â’i gilydd a sicrhau bod profiad y goroeswr wrth wraidd y broses.

  • Bydd rheolwyr y llys yn cynnal grwpiau llywio a grwpiau gweithredol yn rheolaidd gydag asiantaethau’r trydydd sector ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i drafod arferion y llys, er mwyn gwella’r cydgysylltu ac atebolrwydd rhwng asiantaethau statudol ac anstatudol allweddol.

Daeth gwerthusiad o fodel y llys[footnote 152] i’r casgliad bod y nodweddion hyn yn gwella’r ymdeimlad o ddiogelwch a chyfraddau ymgysylltu ymhlith dioddefwyr a goroeswyr yn ystod proses y llys, yn ogystal â gwella trefniadau rhannu gwybodaeth, gweithio amlasiantaethol ac atebolrwydd rhwng asiantaethau’r system cyfiawnder troseddol. Gwnaeth hefyd hwyluso mwy o argymhellion a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth gan y gweithwyr proffesiynol a oedd yn gallu cael gafael ar fwy o wybodaeth am achosion yn ogystal â chymhwyso eu gwybodaeth arbenigol am gam-drin domestig wrth roi dedfrydau, amodau mechnïaeth a gorchmynion amddiffyn.

6. Carchardai a phrawf

Mae’n teimlo i mi fel na allan nhw wneud dim byd â’r cyflawnwr, felly maen nhw’n rhoi’r cyfan ar y dioddefwr.[footnote 153]

– Goroeswr

6.1 Rheoli cyflawnwyr mewn carchardai

Gall dedfryd o garchar gynnig cyfnod allweddol o seibiant i ddioddefwyr a goroeswyr wneud cynlluniau ar gyfer eu diogelwch a’u dyfodol. Fodd bynnag, mae dioddefwyr a goroeswyr wedi rhoi gwybod am fethiannau systemig o ran eu diogelu, hyd yn oed ar y cam hwn, a diffygion difrifol yn atebolrwydd a nodau adsefydlu’r system garchardai.

Mae cyfraddau cyhuddo ac euogfarnu Gwasanaeth Erlyn y Goron am droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig wedi aros yn gymharol sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf, sef tua 6% ar gyfer cyhuddiadau a thua 5% ar gyfer euogfarnau.[footnote 154] Yn ystod chwarter cyntaf 2024/25, cofnododd Gwasanaeth Erlyn y Goron 13,013 o gyhuddiadau ar gyfer troseddau cysylltiedig a 10,089 o euogfarnau allan o 205,315 o droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu.[footnote 155]

Fodd bynnag, nid oes gennym ddata ar ddedfrydau ar gyfer troseddau y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig, y tu hwnt i droseddau penodol ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol a thagu nad yw’n angheuol, sy’n cynrychioli bwlch sylweddol yn ein dealltwriaeth o’r ymateb i gam-drin domestig o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’r Comisiynydd wedi gweld tystiolaeth sy’n peri pryder o’r ffordd y caiff cyflawnwyr eu rheoli yn y carchar, yn achos y rhai sy’n cyrraedd mor bell â hynny. Yn ôl tystiolaeth anecdotaidd a rannwyd â’r Comisiynydd gan wasanaethau cymorth cam-drin domestig arbenigol, bydd cyflawnwyr yn gallu parhau â’u hymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn rhy aml o’r tu mewn i’r carchar, heb fonitro na sancsiynau effeithiol. Dywedodd un goroeswr fod y cyflawnwr wedi parhau i gysylltu o’r carchar, gan ddweud celwydd wrth swyddogion y carchar na wnaethant gadw golwg ar y rhifau ffôn a ffoniodd.[footnote 156] Cafodd goroeswr arall ei gorfodi i ymweld â’i chyflawnwr yn y carchar, a soniodd am “gael eich trin gan yr heddlu fel pe baech chi’n caniatáu i hyn ddigwydd”, yn hytrach na chydnabod nad oedd wedi cael ei diogelu’n ddigonol rhag yr orfodaeth hon.[footnote 157] Dywedodd gwasanaethau mai prin yw’r canlyniadau pan gaiff ffôn symudol ei ddarganfod yng nghell carcharor er ei fod wedi’i wahardd, oherwydd anallu i brofi pwy sy’n berchen ar y ffôn.

Bydd hyn yn anfon neges glir a difrifol at oroeswyr, gan danseilio eu hymddiriedaeth a’u hyder yn y system cyfiawnder troseddol, hyd yn oed ar ôl i gyfiawnder gael ei ‘weinyddu’ yn ffurfiol.

Mae’r argyfwng capasiti presennol mewn carchardai wedi taflu goleuni ar yr heriau a’r diffygion dwys sy’n wynebu’r system garchardai a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Roedd carchardai mor orlawn fel y bu’n rhaid i’r llywodraeth gyflwyno cynllun SDS40 ym mis Medi 2024 i leddfu’r argyfwng. Mae ‘SDS40’ yn cynrychioli newidiadau a wnaed i’r cyfnod o ddedfryd diffiniedig safonol y mae’n rhaid ei chwblhau, sy’n golygu y caiff y rhan fwyaf o droseddwyr eu rhyddhau ar ôl cwblhau 40% o’u dedfryd bellach. Er gwaethaf rhai eithriadau (a groesewir) ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, mae llawer o gyflawnwyr cam-drin domestig wedi cael eu rhyddhau’n gynnar, a bydd hynny’n parhau i ddigwydd. Mae’r diffyg data ar ddedfrydu ar gyfer cam-drin domestig yn golygu nad oes gennym syniad faint yn union o gyflawnwyr cam-drin domestig sydd wedi cael eu rhyddhau’n gynnar o dan SDS40. Gwyddom o wybodaeth gan Arolygiaeth Prawf EF fod tua 30% o’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y Gwasanaeth Prawf yn gyflawnwyr cam-drin domestig hysbys, hyd yn oed os nad hynny oedd eu trosedd mynegai.[footnote 158] Mae dioddefwyr wedi cael eu rhoi mewn perygl; hyd yn oed yn achos y cyflawnwyr hynny a oedd i fod i gael eu heithrio, cafodd 37 ohonynt eu rhyddhau drwy gamgymeriad pan gafodd y carcharorion cyntaf eu rhyddhau.[footnote 159] Roedd yr unigolion hyn yn y carchar am dorri gorchmynion atal, sy’n awgrymu’r posibilrwydd o risg uchel i’w dioddefwyr ac obsesiwn â nhw – gan ei bod yn amlwg nad yw cyfyngiadau cyfreithiol a roddwyd ar waith wedi eu hatal.

Mae cynllunio diogelwch yn hollbwysig i ddioddefwyr sy’n disgwyl i’w cyflawnwyr gael eu rhyddhau; fodd bynnag, caiff llawer ohonynt eu rhyddhau heb i’r dioddefwr gael unrhyw fath o rybudd ymlaen llaw. Mae hyn yn dangos problem sylfaenol a systemig o ran cyfathrebu â dioddefwyr a goroeswyr, sy’n dyddio’n ôl ymhellach nag SDS40. Dim ond y rhai â dedfryd o fwy na 12 mis, neu’r rhai a oedd yn ddioddefwr uniongyrchol i’r drosedd y cafodd y cyflawnwr euogfarn amdani, sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr. Golygai hyn fod y mwyafrif o ddioddefwyr a goroeswyr – y bydd cyflawnwyr llawer ohonynt yn cael dedfrydau o lai na 12 mis yn y carchar – yn y tywyllwch. Rhaid cydnabod y gofid dwys, yr ofn dilys, a’r risg wirioneddol a achoswyd gan hyn. Collodd dioddefwyr a goroeswyr y gallu i gynllunio ar gyfer eu diogelwch eu hunain a’u plant. Er enghraifft, dywedodd un goroeswr wrth y Comisiynydd: “Chefais i ddim rhybudd gwirioneddol. Roedd gen i ddyddiad rhyddhau mewn golwg pan fyddai’n dod allan – roeddwn i wedi archebu cloch drws Ring, ond ni fyddai’n cyrraedd am bythefnos arall.”[footnote 160] Ar ben hynny, mae’r diffyg data ar ddedfrydu yn golygu nad oes gennym wir syniad faint o bobl y mae hyn yn effeithio arnynt.

Yn 2023, gwnaeth y sector trais yn erbyn menywod a merched arbenigol argymell y dylai’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr gael ei ymestyn i gynnwys achosion â dedfrydau o lai na 12 mis ym mhob achos o gam-drin domestig.[footnote 161]

Er gwaethaf hyn, mae gan garchardai y potensial i gyflawni rôl wirioneddol a sylweddol, nid yn unig o ran amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr yn ystod y ddedfryd o garchar ond hefyd o ran defnyddio’r cyfnod hwn yn rhagweithiol er mwyn atal niwed yn y dyfodol. Nid oes rhaid i’r dyfyniad “nid yw dedfryd fer o garchar yn dda i ddim i neb” fod yn wir.[footnote 162] Gall buddsoddiad mewn gwaith adsefydlu i herio a newid ymddygiadau’r rhai sydd yn y carchar am droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, neu sydd â hanes o gam- drin domestig, helpu i ddiogelu dioddefwr cyfredol cyflawnwr a lleihau’r risg o aildroseddu – gan atal rhagor o niwed a’r ‘drws tro’ yn ôl i’r carchar. Ceir un enghraifft o’r math hwn o fuddsoddiad yn yr astudiaeth achos ganlynol o garchar yng Nghymru.

Astudiaeth achos: Rhaglen Drive mewn Carchardai

Mewn carchar yng Nghymru, nodwyd bod 95% o gyflawnwyr a oedd yn peri risg o niwed difrifol i’w dioddefwyr yn cael dedfrydau o lai na chwe mis. O ganlyniad i hynny, roedd gallu’r carchar i gwblhau asesiadau manwl a llunio cynlluniau rheoli risg cadarn yn gyfyngedig. Achosodd hyn nifer o heriau a bylchau o ran goruchwyliaeth a gweithredu amlasiantaethol yn ystod cyfnod y garfan hon yn y carchar – gan golli cyfleoedd hanfodol i darfu ar ymddygiad troseddol, helpu i atal troseddu a gwella diogelwch y dioddefwr cysylltiedig o bosibl.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae llinyn newydd wedi cael ei ychwanegu at raglen newid ymddygiad yn y gymuned Drive, sydd ar waith y tu mewn i’r carchar. Drwy banel cyflawnwyr cam-drin domestig y mae’r llwybr at y rhaglen hon, gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol yn helpu i asesu, cynllunio, cynnal ac adolygu’r rhaglen. Nod canolog y rhaglen yw lleihau achosion a ailadroddir ac achosion cyfresol o gam-drin domestig yn yr un perthnasoedd neu mewn perthnasoedd yn y dyfodol, atal atgwympedd a throseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ac achosion o ddychwelyd i’r carchar.

Mae Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig ynghlwm wrth y rhaglen, sy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr y rhai sy’n ymwneud â rhaglen Drive yn y carchar.

6.2 Rheoli cyflawnwyr ar brawf

Mae rôl y Gwasanaeth Prawf o ran rheoli cyflawnwyr cam-drin domestig yn bwysicach nag erioed. Mae hyn yn cynnwys paratoi adroddiadau cyn dedfrydu, asesu risg ac anghenion a gwneud gorchmynion atal priodol. Fodd bynnag, y realiti blaen yw bod 30 allan o 31 o Unedau Cyflawni Prawf a arolygwyd yn 2023 wedi cael gradd ‘anfoddhaol’ neu ‘angen gwella’.[footnote 163] Daeth dadansoddiad o Adolygiadau Lladdiadau Domestig i’r casgliad bod 22% o’r cyflawnwyr yn yr achosion a aseswyd wedi ymwneud â’r Gwasanaeth Prawf yn ystod cyfnod yr Adolygiad Lladdiadau Domestig.[footnote 164]

Yn sicr, mae carchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn cydnabod pwysigrwydd gweithio amlasiantaethol, gan gynnwys drwy Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg, ond, yn wyneb prinder adnoddau, bydd y systemau hyn sydd dan ormod o bwysau yn aml yn methu ag ymgysylltu’n effeithiol yn y partneriaethau hyn. Ceir tystiolaeth bod dulliau Rheoli Troseddwyr yn Integredig wedi bod yn fwy effeithiol na gwaith rheoli achosion safonol, ond caiff cyfleoedd ar gyfer ymyriadau eu colli o hyd, ac ni fydd cydweithio bob amser yn digwydd mor ddidrafferth â’r hyn sydd ei angen.[footnote 165] Mae dulliau o’r fath yn dangos addewid, ond rhaid i weithwyr proffesiynol eu defnyddio’n gyson gyda’r arbenigedd i reoli cyflawnwyr cam-drin domestig.

Mae’n hollbwysig rheoli cyflawnwyr cam-drin domestig yn gyfannol drwy weithio ar y cyd nid yn unig rhwng asiantaethau statudol ond hefyd gyda’r sector arbenigol. Credwn fod gwerth sylweddol mewn cydberthynas gadarn rhwng y Gwasanaeth Prawf a gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol lleol, ac mae enghreifftiau addawol o hyn i’w cael. Er enghraifft, mae rhai gwasanaethau’n rhan o’r gwaith o ddatblygu adroddiadau cyn dedfrydu. Mae hyn yn golygu bod modd canfod y risgiau sy’n cael eu peri i fwy nag un dioddefwr, yn hytrach na dim ond y dioddefwr sy’n gysylltiedig â’r achos dan sylw.

Hefyd, mae gwasanaethau wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Prawf tuag at ddiwedd cyfnod cyflawnwyr yn y carchar i newid eu cyfeiriad ‘rhyddhau o’r carchar’ er mwyn eu hatal rhag cael eu rhyddhau i gartrefi’r dioddefwyr. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod cydweithio o’r fath yn digwydd ar sail ad hoc ac nad yw’n ddull cyson a systematig o weithio ledled Cymru a Lloegr. Yn wir, yn 2023, argymhellodd Arolygiaeth Prawf EF y dylid cyhoeddi strategaeth cam-drin domestig ar gyfer y Gwasanaeth Prawf, ac y dylai arweinwyr prawf ymwneud yn llawn ag ymatebion amlasiantaethol i gam-drin domestig.[footnote 166] Er enghraifft, mae data ar Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer y 12 mis tan 31 Mawrth 2024 yn dangos mai dim ond 2.6% o atgyfeiriadau a gaiff eu gwneud gan y Gwasanaeth Prawf.[footnote 167]

Yr unig ddull rheoli cyflawnwyr amlasiantaethol sydd â sail statudol yw Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA), a weithredir yn seiliedig ar y Gofrestr o Droseddwyr Treisiol neu Droseddwyr sydd wedi Cam-drin yn Rhywiol (ViSOR). Mae nifer o resymau pam nad yw hyn yn ddigonol ar ei ben ei hun. Yn gyntaf, ni fyddai’r mwyafrif helaeth o’r cyflawnwyr cam-drin domestig euogfarnedig yn cael eu monitro o dan y trefniadau hyn, gan na fyddent yn cyrraedd y trothwy. Bydd y rhan fwyaf o droseddwyr cam-drin domestig sy’n cyrraedd y trothwy yn perthyn i Gategori 3 MAPPA (troseddwyr peryglus eraill), ond hyd yn oed wedyn ceir nifer o broblemau allweddol sy’n golygu nad yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i reoli cyflawnwyr cam-drin domestig yn effeithiol.

Ni fydd y ffaith bod cyflawnwr ar ViSOR o reidrwydd yn golygu yr eir ati i’w reoli’n benodol, gan mai dim ond yn ymatebol y caiff y rhan fwyaf o droseddwyr eu rheoli. Troseddwyr Categori 1 (troseddwyr rhyw cofrestredig sydd wedi cael eu heuogfarnu am drosedd rhyw benodedig) yw’r rhai yr eir ati i’w rheoli fwyaf, oherwydd ystyrir mai nhw yw’r mwyaf peryglus. Yn yr un modd, nid yw’r wybodaeth sydd ar ViSOR bob amser yn hygyrch, sy’n golygu na all y mwyafrif o swyddogion gael gafael ar guddwybodaeth yn rhwydd pan fyddant yn pryderu am unigolyn. Yn olaf, mae’n werth nodi mai dim ond troseddwyr sydd wedi cael eu heuogfarnu a fydd wedi’u cofnodi ar MAPPA a ViSOR, wrth gwrs, sy’n golygu, yn anffodus, nad yw hynny’n cynnwys y mwyafrif o droseddwyr cam- drin domestig. Felly, dim ond ar adeg argyfwng y bydd y system yn rheoli cyflawnwyr, yn hytrach na cheisio atal niwed.

Yn ystod y broses o basio Deddf Trais Domestig 2021 a Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024, cafwyd trafodaethau ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli cyflawnwyr cyfresol cam-drin domestig. Roedd hyn yn cynnwys gwelliannau i greu categori MAPPA newydd y gellir rhoi cyflawnwyr cyfresol stelcio a cham-drin domestig ynddo (a elwir weithiau’n ‘gofrestr cyflawnwyr’), yn ogystal ag opsiynau eraill a gafodd eu crynhoi a’u dadansoddi’n gynhwysfawr mewn gwaith ymchwil gan Hadjimatheou a Hamid (2024).[footnote 168] Mae’r Comisiynydd wedi codi pryderon drwy gydol y broses o basio’r ddwy Ddeddf ynghylch a fyddai atebion ‘cofrestr’ o’r fath yn cyflawni’r diben bwriadedig yn ymarferol. Nid yn unig mae cyfyngiadau sylweddol ar y systemau presennol fel y nodwyd yn flaenorol, ond gallai naratif cyhoeddus ynglŷn â ‘chofrestr cyflawnwyr’ beri risg o greu ymdeimlad ffug o ddiogelwch i ddioddefwyr – y byddai cynnwys cyflawnwr ar ‘gofrestr’ o’r fath yn eu cadw’n ddiogel, er na fyddai hynny ar ei ben ei hun yn gwneud hynny. Dywed Hadjimatheou a Hamid (2024) na fyddai cofrestr o’r fath yn gwneud llawer i helpu dioddefwyr a goroeswyr ac mai dim ond i ffracsiwn o droseddwyr cam-drin domestig a stelcio y byddai’n berthnasol, ond y byddai’n costio rhwng £8.6 miliwn ac £11.2 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig.[footnote 169]

Yn lle hynny, mae’n bosibl mai opsiynau anstatudol – sy’n casglu gwybodaeth am gyflawnwyr heb euogfarnau yn ogystal â’r rhai sydd ag euogfarnau – fyddai’r ffordd orau o reoli cyflawnwyr yn y gymuned. Mae nifer o fodelau anstatudol sy’n enghreifftiau o arferion gorau ar waith ledled Cymru a Lloegr. Y ddau sydd â’r dystiolaeth orau ac sydd wedi ennill eu plwyf fwyaf yw Drive a Thasgau a Chydgysylltu Amlasiantaethol (MATAC), ac mae tystiolaeth dda o effeithiolrwydd y naill a’r llall.[footnote 170] Yr hyn sydd gan Drive a Matac yn gyffredin yw bod eu dull yn seiliedig ar weithio amlasiantaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau statudol ddod ynghyd i greu strategaethau ar gyfer ymyrryd yn ymddygiad cyflawnwr. Os bydd cyflawnwr yn gwrthod ymwneud â gwasanaethau a dilyn rhaglenni ymyrryd, caiff ymateb cyfiawnder troseddol ei ysgogi er mwyn tarfu ar ei ymddygiad a’i atal rhag achosi niwed pellach. Mae ymateb sy’n canolbwyntio ar oroeswyr yn hollbwysig i’r dulliau hyn, a chaiff cymorth cyfannol ei gynnig i oroeswyr, ochr yn ochr â gwaith rheoli ac ymyriadau gyda’r cyflawnwr.

Ceir tystiolaeth dda o allu ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau i newid ymddygiad neu darfu arno ac atal cam-drin pellach. Canfu’r gwerthusiad o raglen Drive, o blith yr unigolion hynny a ddefnyddiodd yr ymyriad, y bu gostyngiad o 82% mewn cam-drin corfforol, 88% mewn cam-drin rhywiol, 75% mewn aflonyddu a stelcio, a 73% mewn ymddygiad cenfigennus a rheolaethol.[footnote 171] Hefyd, mae data MARAC yn dangos bod Drive wedi helpu i leihau troseddau risg uchel, gan gynnwys gan gyflawnwyr sy’n troseddu eilwaith neu’n gyfresol, a bod hyn wedi cael ei gynnal am flwyddyn ar ôl i’r achos gael ei gau.[footnote 172] Mae Rhaglen Ymddygiad Troseddol y Gwasanaeth Prawf ar gyfer cyflawnwyr cam-drin domestig, sef ‘Building Better Relationships’, wedi cael ei ddisodli’n ddiweddar gan raglen newydd, sef ‘Building Choices’. Mae’r Comisiynydd yn edrych ymlaen at weld gwerthusiadau cadarn o’i heffeithiolrwydd o ran atal aildroseddu sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.

Yn 2022, cyhoeddodd y llywodraeth flaenorol gonglfaen Pursuing Perpetrators yn ei Chynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig.[footnote 173] Roedd hyn yn gam cyntaf cadarnhaol ymlaen tuag at Strategaeth Cyflawnwyr lawn ond bu diffyg buddsoddiad cynaliadwy hirdymor. Fel y nodwyd yn ddiweddar yn nogfen y Drive Partnership, A call for further action, gadawodd hyn fylchau, heriau ac anghysondebau systemig allweddol sy’n galluogi cyflawnwyr i lithro drwy rwyd yr ymateb cenedlaethol presennol, parhau â chylch cam-drin domestig, a pheri niwed eilwaith neu gyfresol i ddioddefwyr a goroeswyr sy’n oedolion ac yn blant.[footnote 174] Mae HMPPS wedi cyhoeddi fframwaith polisi cam-drin domestig, sy’n ymdrin yn gadarnhaol â’r ffordd y dylai’r system ymateb i gyflawnwyr unigol yn ogystal â dioddefwyr a goroeswyr o fewn ei gwmpas, ond mae hefyd yn methu â rhoi’r lens systemig sy’n ofynnol i ddeall yr hyn sydd ei angen o ran gwaith partneriaeth ehangach ac ymgysylltu strategol lleol er mwyn ymateb i gyflawnwyr cam-drin domestig.

Mae elusen Respect Standard yn nodi fframwaith achredu ar gyfer gwaith diogel ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr i’w wneud gyda chyflawnwyr cam-drin domestig.

Hefyd, ym mis Ionawr 2023, cyhoeddodd y llywodraeth flaenorol safonau i ategu’r broses o gomisiynu ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr.[footnote 175] Y lens gyffredinol y dylid gweld yr holl safonau drwyddi yw mai rhoi mwy o ddiogelwch a rhyddid i bob dioddefwr a goroeswr, gan gynnwys plant, ddylai fod y prif ganlyniad yn sgil ymyriadau. Mae’r safonau hefyd yn dyst i’r angen i ymyriadau fod yn rhan o’r Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig ehangach, i fod ar gael ar yr adeg gywir i’r bobl gywir, ac i gael eu cyflawni gan staff medrus a gaiff eu cefnogi. Mae monitro a gwerthuso yn allweddol er mwyn gwella arferion yn barhaus ac ehangu’r sylfaen wybodaeth mewn perthynas ag ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr.

Mae’r Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i dargedu’r cyflawnwyr cam-drin domestig mwyaf mynych a niweidiol yn ddidrugaredd, a chroesewir hynny’n fawr iawn. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod yn seiliedig ar strategaeth hirdymor glir ar gyfer ymateb i gyflawnwyr. Rhaid i hyn gynnwys y canlynol:

  • Gorfodi gorchmynion amddiffyn yn gadarn (fel y trafodwyd yn flaenorol ym Mhennod 2).

  • Cynnal rhaglenni newid ymddygiad o safon sy’n atal aildroseddu.

  • Mynd i’r afael â chyflawnwyr ar bob lefel risg, gan gynnwys yr hyn a elwir yn risg ‘ganolig’ a ‘safonol’, gan gydnabod natur ddynamig risg.

  • Atal cychwynnol, gan gynnwys ymatebion gwylwyr.

  • Ymgyrchoedd cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth.

  • Ymatebion arbenigol i’r cyflawnwyr mwyaf peryglus a chyfresol.

6.3 Goroeswyr yn y systemau Carchardai a Phrawf

Rwyf wedi cael fy siomi gan…yr heddlu a’r holl gyrff eraill a oedd yn rhan o’r broses; rwy’n cael fy nghosbi gan y system a oedd i fod yno i fy helpu a fy amddiffyn i.[footnote 176]

– Goroeswr

Mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig hefyd i’w gweld, yn bryderus o fynych, o fewn y system cyfiawnder troseddol eu hunain. Dywed mwy na hanner (57%) menywod sydd yn y carchar iddynt ddioddef cam-drin domestig, a dywed 53% eu bod wedi cael eu cam-drin yn emosiynol, yn gorfforol neu’n rhywiol yn ystod eu plentyndod.[footnote 177] I nifer sylweddol, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng eu troseddu a’u profiadau o gam-drin domestig.[footnote 178] Mae’r mwyafrif o fenywod sydd yn y carchar yn bwrw dedfryd fer ac nid ydynt wedi cael eu heuogfarnu am droseddau treisgar.

Am y rhesymau hyn, mae’r Comisiynydd yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan yr Arglwydd Ganghellor y caiff Bwrdd Cyfiawnder i Fenywod newydd ei greu, gyda’r nod o leihau nifer y menywod sydd yn y carchar.[footnote 179] Er bod yr uchelgais hwn yn dal yn un teilwng a groesewir yn fawr, i’r menywod hynny sydd eisoes yn y system garchardai, ceir methiant cyson i ddeall eu hanghenion, ac anghenion eu plant, sydd hefyd yn ddioddefwyr, ac ymateb iddynt. Fel yr esbonia CWJ, caiff dioddefwyr cam-drin domestig sydd wedi’u cyhuddo o droseddu, neu sydd â hanes o droseddu, eu trin yn wahanol i ddioddefwyr eraill cam-drin domestig gan y system cyfiawnder troseddol am eu bod yn wynebu stigma oherwydd eu hanes o achosion troseddol, ac nid oes polisi na fframwaith ymarfer clir i’w hatal rhag cael eu herlyn.[footnote 180]

Er bod amrywiaeth o ymyriadau cymorth ar gael mewn egwyddor, mae’r ddarpariaeth yn gyfyngedig o hyd yn ymarferol, ac nid oes dadansoddiadau na gwerthusiadau cynhwysfawr ohonynt.[footnote 181] Mae prosesau atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yn gymhleth ac nid yw pobl yn eu deall.[footnote 182] Ni lwyddodd cydarolygiad diweddar i ddod o hyd i dystiolaeth o gymorth ymarferol penodol sydd ar gael i osgoi neu reoli’r risg o ddychwelyd i berthynas gamdriniol.[footnote 183] Yn yr un modd, o’r achosion a arolygwyd ar y cyd yn 2024, dim ond 35% o waith cynllunio achosion a aeth i’r afael â risgiau ac anghenion yn ddigonol, ac roedd llai na hanner yn ystyriol o rywedd. [footnote 184]

Mae’r pryderon hyn hefyd yn ymestyn i’r ymateb a gaiff goroeswyr sydd wedi’u troseddoli gan y Gwasanaeth Prawf, ac mae arolygiadau wedi tynnu sylw at fethiannau i ystyried diogelwch a llesiant yn ddigonol a mynd i’r afael â risgiau hysbys, gan gynnwys cam-drin domestig, a diffyg ymwybyddiaeth o’r cymorth arbenigol sydd ar gael i grwpiau lleiafrifol.[footnote 185]

Gall gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol ychwanegu gwerth sylweddol at yr ymateb y bydd goroeswyr cam-drin domestig yn ei gael o fewn y systemau carchardai a phrawf. Mae hyn yn cynnwys helpu i wreiddio gwell dealltwriaeth o gam-drin domestig yn y systemau hyn, gan gynnwys canfod ac ymateb. Dangosir hyn yn yr astudiaeth achos ganlynol.

Astudiaeth achos: Gwasanaeth i Fenywod sy’n Wynebu Anfanteision Lluosog

Mae gwasanaeth arbenigol i fenywod yn Nwyrain Lloegr yn gweithio gyda menywod sy’n wynebu anfanteision lluosog ac sydd ag anghenion nas diwallwyd. Gall hyn gynnwys dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â digartrefedd, anghenon iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a chamddefnyddio sylweddau.

Mae 85% o ddefnyddwyr presennol y gwasanaeth wedi wynebu neu wrthi’n wynebu cam-drin domestig yn ogystal â phroblemau croestoriadol. Felly, mae’r tîm yn cynnwys Ymarferydd Cam-drin Arbenigol i Fenywod, sy’n gweithio gyda menywod sy’n wynebu risg ganolig neu risg uchel o gam-drin domestig neu drais rhywiol y mae gwasanaethau traddodiadol wedi’i chael hi’n anodd ymgysylltu â nhw.

Mae’r gwasanaeth wedi gosod ffocws allweddol ar feithrin cydberthnasau gwaith ag asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol. Mae hyn yn cynnwys gwaith allgymorth mewn carchar lleol i fenywod, yn ogystal â bod yn bresennol mewn paneli craffu amlasiantaethol, byrddau strategol, a chyfarfodydd gweithredol.

Sefydlwyd y gwasanaeth pwrpasol hwn ym mis Medi 2023 fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer comisiynu yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid yw’n cael cyllid, grantiau na chontractau gan unrhyw ddarpariaeth statudol.

7. Cam-drin Domestig a Gyflawnir gan yr Heddlu

Mae cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn felltith ar y system cyfiawnder troseddol ac yn un sy’n arwain at effeithiau di-ben-draw ar ddioddefwyr a goroeswyr, yn enwedig drwy danseilio ffydd a hyder mewn plismona yn gyffredinol. Yn briodol ddigon, mae ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn cynyddu, ac mae’n hollbwysig bod pob heddlu’n gweithredu i gael gwared ar gamdrinwyr o’u rhengoedd a sicrhau bod cymorth ar gael i ddioddefwyr. Rhaid rhoi dulliau ar waith yn genedlaethol er mwyn sicrhau bod y broses hon yn gyson ac yn syml.[footnote 186]

Daeth y mater i amlygrwydd arbennig yn sgil uwch-gŵyn a gyflwynwyd gan Centre for Women’s Justice yn 2020, ac yna yn sgil llofruddiaeth drasig Sarah Everard gan swyddog heddlu a oedd yn ei swydd ar y pryd. Tynnodd yr uwch-gŵyn sylw at bryderon ynglŷn â diffyg uniondeb a chamddefnyddio’r system ar raddfa helaeth, a gynyddodd y risgiau i ddioddefwyr a oedd eisoes mewn sefyllfa arbennig o fregus, o ystyried pŵer y camdriniwr yn y system a ddylai fod yn eu hamddiffyn.[footnote 187] Argymhellodd CWJ nifer o newidiadau er mwyn mynd i’r afael â’r methiannau systemig wrth ddelio ag achosion o’r fath, gan gynnwys newidiadau i brosesau cofnodi, cyfyngu ar rolau swyddogion cyhuddedig, ac allanoli trefniadau adrodd ac ymchwilio drwy Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) a heddluoedd eraill. Byddai mesurau o’r fath, nid yn unig yn amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, ond byddent hefyd yn anelu at helpu i leddfu pryderon y cyhoedd a gwella hyder mewn plismona.

Yn anffodus, bedair blynedd yn ddiweddarach, er bod nifer o fentrau cenedlaethol wedi cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â phroblemau o’r fath, canfu CWJ nad oedd llawer o gynnydd wedi cael ei wneud mewn gwirionedd. Er i newidiadau polisi gael eu gwneud yn genedlaethol, mae llawer o’r problemau y tynnwyd sylw atynt yn 2020 yn dal yn gyffredin i oroeswyr, ac nid ydynt wedi diferu i lawr i arferion rheng flaen eto.[footnote 188]

Felly, ym mis Gorffennaf 2024, defnyddiodd y Comisiynydd ei phwerau o dan Ran 2 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig i gasglu gwybodaeth gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr ynghylch eu hymateb i gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu.

Drwy arolwg ar-lein a anfonwyd i wahanol Adrannau Safonau’r Heddlu, casglwyd gwybodaeth am y canlynol:

  • Sut y caiff honiadau o gamymddwyn, gan gynnwys cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, eu cofnodi.

  • Nifer yr honiadau ffurfiol o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu a gofnodwyd dros gyfnod o 12 mis.

  • Sawl aelod o’r gweithlu roedd yr honiadau hyn yn gysylltiedig â nhw.

  • Canlyniadau’r honiadau hyn.

Os na allai heddluoedd roi’r wybodaeth hon i ni, gofynnwyd iddynt esbonio pam.

7.1 Canfyddiadau

1. Cofnodi: Cadarnhaodd pob un o’r 44 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr (gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) eu bod yn defnyddio’r system TG Centurion i gofnodi honiadau o gamymddwyn, a dywedodd pum heddlu eu bod hefyd yn defnyddio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu. Roedd dau heddlu hefyd yn defnyddio Crimson, Niche ac Optio yn ychwanegol at Centurion.

2. Nifer yr honiadau a gofnodwyd: Rhoddodd yr heddluoedd gyfansymiau’r honiadau a gofnodwyd o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024. Cofnododd Adrannau Safonau’r Heddlu (ac eithrio un heddlu nad oedd yn gallu rhoi’r wybodaeth hon) gyfanswm o:

a. 1,294 o honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu; a oedd yn gysylltiedig ag

b. 899 o unigolion yng ngweithlu’r heddlu (0.4% o’r gweithlu gan gynnwys yr holl swyddogion, staff, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol).

3. Canlyniadau: Mae Ffigur 15 yn nodi’r wybodaeth am ganlyniadau a gafwyd gan heddluoedd (ac eithrio dau heddlu nad oedd yn gallu rhoi’r data hyn).

a. Arweiniodd y mwyafrif helaeth o’r honiadau at ganlyniadau ‘Dim achos i’w ateb’, ‘Atal dros dro’ a ‘Canlyniadau dysgu’.189

b. Dim ond 4% o unigolion y gwnaed honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn eu herbyn a gafodd eu diswyddo.

Ffigur 15: Canlyniadau ar gyfer gweithlu’r heddlu y gwnaed honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn eu herbyn yn ystod y 12 mis tan 31 Mawrth 2024, ledled Cymru a Lloegr*

Canlyniadau Nifer y canlyniadau
Ymchwiliad yn mynd rhadago 60%
Dim achos i’w ateb 55%
Atal dros dro 27%
Canlyniadau dysgu 15%
Deliwyd â’r mater o dan y rheoliadau perfformiad 5%
Diswyddo 4%
Wedi ymddeol / ymdiswyddo cyn i’r achos ddod i ben 4%
Rhoddwyd y gorau i’r achos 2%
Rhybudd ysgrifenedig terfynol 1%
Rhybudd ysgrifenedig 0%
Gostwng rheng 0%
Rhybudd llafar 0%
  • Noder fod dau heddlu heb roi data ar gyfer honiadau o gam-drin domestig a gylflawnir gan yr heddlu. Gall fod mwy nag un canlyniad ar gyfer pob aelod o’r gweithlu gwnaed honiadau yn a erbyn, felly ni fydd y canrannau (na’r cyfansymiau) yn gwyneud 100 (nag 899).

4. Canllawiau:

a. Fel y nodir yn Ffigur 16, nid oedd gan fwy na hanner yr heddluoedd ganllawiau ar gyfyngu ar rolau a dyletswyddau y gallai swyddogion eu cyflawni tra bônt yn destun ymchwiliad, er gwaethaf argymhelliad clir gan CWJ.

Ffigur 16: Heddluoedd sydd â chanllawiau penodol ar gyfyngu rolau swyddogion sydd wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwilio i gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu

Heddluoedd Nifer
Oes, yn llawn* 5
Oes, yn rhannol; ond dim ond ar gyfer rhai canlyniadau achosion 5
Oes, yn rhannol; ond nid yw’r cyfyngiadau’n benodol i ddioddefwyr agored i niwed 3
Oes, yn rhannol; ond nid yw’r cyfyngiadau’n benodol i weithio gyda dioddefwyr agored i niwed, ac maent yn ddibynol ar ganlyniad yr achos 5
Nac oes; nid oes gennym ganllawiau penodol ar hyn 25

* Os bydd swyddogion wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwilio (yn y presennol neu’r gorffennol) i gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu (waeth beth fo canlyniad unrhyw achos troseddol neu achos camymddwyn) fel na fyddant yn gweithio gyda dioddefwyr agored i niwed.

b. Fel y nodir yn Ffigur 17, roedd gan lai fyth o heddluoedd ganllawiau ar ei gwneud yn ofynnol i heddlu cyfagos gynnal ymchwiliadau allanol ac achosion camymddwyn. Nid oedd gan 20 allan o 44 o heddluoedd ganllawiau o’r fath a dim ond chwech oedd wedi rhoi canllawiau o’r fath ar waith ar gyfer pob honiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu.

Ffigur 17: Heddluoedd sydd â chanllawiau penodol ar ei gwneud yn ofynnol cynnal ymchwiliadau allanol i honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu

Heddluoedd Nifer
Ansicr 2
Oes, ar gyfer pob mater troseddol a mater camymddwyn 6
Oes, ar gyfer rhai materion troseddol a materion camymddwyn 15
Nac oes; nid oes gan yr heddlu ganllawiau penodol 20

Caiff y canfyddiadau o’n harolwg eu hategu gan dystiolaeth a gasglwyd mewn mannau eraill sy’n destun pryder difrifol. Nid yn unig nad yw swyddogion yn cael eu diswyddo, ond maent hefyd yn mynd drwy drothwyon fetio yn llwyddiannus wedi hynny. Yn 2022, cyhoeddodd HMICFRS ddata a oedd yn dangos bod swyddogion a staff yr heddlu’n cael eu fetio hyd yn oed ar ôl cyflawni troseddau megis dinoethi anweddus ac ymosodiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.[footnote 190] O ystyried y risg i’r dioddefwyr agored i niwed y byddant yn gweithio gyda nhw, mae hyn yn anfaddeuol.

Yn yr un modd, yn ei ymchwiliad i flaenoriaethau plismona, canfu’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref fod prosesau camymddwyn yn tueddu i ddibynnu’n ormodol ar ganlyniad troseddol heb ystyried goblygiadau i addasrwydd ar gyfer y rôl, hyd yn oed os nad eir ar drywydd cyhuddiad neu euogfarn droseddol. [footnote 191] Caiff hyn ei waethygu gan berfformiad gwael o ran adnabod patrymau ymddygiad a diffyg proses awtomatig i hysbysu heddluoedd os bydd eu swyddogion neu eu staff wedi dod i sylw’r heddlu yn rhywle arall.[footnote 192]

Pam wnaethon nhw ddefnyddio eu statws proffesiynol i helpu eu ffrindiau?…Roedd yno ddiwylliant cyfan lle roedden nhw’n teimlo ei bod hi’n dderbyniol gwneud hynny am ei fod yn un o’u pobl nhw, ac ni wnaeth neb sefyll i fyny na chwestiynu’r peth.[footnote 193]

– Goroeswr

Mae cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu a thrais yn erbyn menywod a merched yn arbennig o niweidiol, o ystyried y gwahaniaeth pŵer rhwng y dioddefwr a’r cyflawnwr a gallu’r cyflawnwr i atal y dioddefwr rhag sicrhau mesurau amddiffyn ac atebolrwydd drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mewn cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, dywedodd goroeswyr wrthym am y ffordd y byddai’r gamdriniaeth yn cael ei pharhau gan gydweithwyr plismona a fyddai’n cefnogi’r cyflawnwr ac yn ei warchod rhag atebolrwydd. Nid yn unig y mae cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu yn niweidio’r dioddefwyr uniongyrchol, ond mae hefyd yn tanseilio hyder yn yr heddlu yn gyffredinol, a gallai gael effaith frawychus o ran atal dioddefwyr cam-drin domestig yn ehangach rhag rhoi gwybod am droseddau.

I ddioddefwyr a goroeswyr a gyflogir gan yr heddlu, caiff hyn ei waethygu gan effeithiau uniongyrchol ar eu gyrfaoedd yn ogystal â llai o hawliau i gwyno a dwyn yr heddlu i gyfrif am unrhyw ddiffygion yn yr ymchwiliad.194 Mae’n hollbwysig bod hawliau’r dioddefwyr a’r goroeswyr hyn yn cael eu codi i’r un lefel â hawliau’r cyhoedd.

Mae rhaglenni gwaith pwysig ar y gweill ar lefel genedlaethol er mwyn gwella’r ymateb i gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, a cheir enghreifftiau o arferion da. Er enghraifft, mae gan rai heddluoedd linellau rhoi gwybod penodedig i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, neu maent yn comisiynu cymorth gan Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol ar gyfer eu staff eu hunain. Fel y nodir drwy gydol yr adroddiad hwn, mae cymorth arbenigol annibynnol o’r fath yn hollbwysig i ddioddefwyr a goroeswyr.

Fodd bynnag, mae angen newid strwythurol er mwyn amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd mewn plismona. Rhaid i hyn ddechrau â newidiadau i brosesau recriwtio’r heddlu, er mwyn sicrhau bod yr heddlu’n cyflogi’r bobl gywir yn y lle cyntaf. Mae gwelliannau i brosesau camymddwyn yr heddlu’n hanfodol hefyd. Rhaid i hyn gynnwys trin honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu fel materion cofnodadwy, a threfnu bod heddlu allanol yn ymchwilio i honiadau dan oruchwyliaeth yr IOPC. Os gwneir honiadau troseddol, dylai’r rhain arwain yn awtomatig at atal yr unigolyn dros dro ar adeg cyhuddiad, a’i ddiswyddo’n awtomatig os bydd euogfarn. Mae Ymchwiliad Angiolini yn archwilio llawer o’r materion hyn yn ei ail ran – dylai heddluoedd, cyrff plismona cenedlaethol a’r llywodraeth ystyried unrhyw argymhellion yn ofalus er mwyn mynd i’r afael â’r problemau strwythurol ehangach hyn.

8. Sylfeini strwythurol ac argymhellion ar gyfer newid

Mae’r adroddiad hwn wedi archwilio ymateb y system cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig ym mhob rhan o’r system, gan nodi manylion profiadau dioddefwyr a goroeswyr a rolau asiantaethau statudol a gwasanaethau arbenigol drwy gydol y broses. Ar hyd y daith hon, mae nifer o themâu allweddol wedi dod i’r amlwg fel diffygion drwy’r system gyfan sy’n effeithio ar allu’r system cyfiawnder troseddol i ddwyn cyflawnwyr i gyfrif a diogelu dioddefwyr a goroeswyr yn llwyddiannus.

Mae’r Comisiynydd yn gwneud argymhellion mewn perthynas â phob un o’r themâu allweddol hyn – data ac atebolrwydd, gweithio amlasiantaethol, darparu adnoddau, a blaenoriaethu cam-drin domestig. Nid yr adroddiad hwn yw’r cyntaf i argymell newidiadau sylweddol i’r ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig, ac mae’r Comisiynydd yn annog y llywodraeth ac asiantaethau i ystyried, ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, yr argymhellion niferus sydd wedi cael eu cyflwyno gan y sector cam-drin domestig arbenigol yn ogystal ag ymchwiliadau, arolygiadau a gwaith ymchwil blaenorol yn y maes hwn.

Mae argymhellion y Comisiynydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer y system gyfan ac maent yn uchelgeisiol o fwriad a rheidrwydd. Dylent ffurfio un rhan hollbwysig o ymrwymiad y llywodraeth i haneru trais yn erbyn menywod a merched o fewn degawd. Fel y cyfryw, rhaid i’r argymhellion hyn gael eu rhoi ar waith yn eu cyfanrwydd a’u hategu gan arweinyddiaeth strategol drawslywodraethol, a fydd yn cynnal atebolrwydd am eu rhoi ar waith.

8.1 Data ac atebolrwydd

Heb adlewyrchiad gwirioneddol o raddfa’r her sy’n wynebu asiantaethau cyfiawnder troseddol mewn perthynas â cham-drin domestig, ni ellir dyrannu adnoddau’n effeithiol ac mae’n bosibl na fydd blaenoriaethau strategol yn cyd-fynd â’r angen. Yn yr un modd, ni fydd yr Ysgrifennydd Cartref, arolygiaethau, comisiynwyr a phleidleiswyr yn gallu deall perfformiad mewn gwahanol rannau o’r wlad lle mae data gwael yn dirymu unrhyw ymdrechion i fod yn dryloyw. Felly, mae’n hollbwysig bod data o bob rhan o’r system yn cael eu casglu’n gyson ac yn gywir, y cânt eu hintegreiddio ym mhob rhan o’r system, a’u bod yn hygyrch er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae hyn wedi cael ei nodi’n glir mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi. Yn ei adroddiad cysgodol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn Erbyn Menywod a Thrais Domestig yn 2023, ategodd y sector trais yn erbyn menywod a merched arbenigol yr heriau a nodir yn yr adroddiad hwn sy’n deillio o ddata gwael, gan argymell trefniadau casglu data trawslywodraethol cymaradwy a chynhwysfawr.[footnote 195] Hefyd, yn ei adroddiad cyfiawnder troseddol yn 2024, gwnaeth Advance, sy’n sefydliad arbenigol blaenllaw ym maes cymorth i fenywod a merched, argymell y dylai’r llywodraeth gyhoeddi matrics ar gyfer perfformiad yr heddlu ac awdurdodau cyfiawnder troseddol sy’n dangos sut mae heddluoedd ac asiantaethau eraill yn perfformio yn eu hymateb i gam-drin domestig.[footnote 196]

Pan fydd data wedi’u casglu ac ar gael i’r cyhoedd, bydd yn rhaid eu defnyddio wedyn i ddwyn y llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyfrif o ran gwella’r ymateb cyfiawnder troseddol i gam-drin domestig, yn ogystal â sicrhau y caiff ymrwymiad uchelgeisiol y llywodraeth i haneru trais yn erbyn menywod a merched ei fesur mewn ffordd sy’n seiliedig ar fetrigau cadarn.

Argymhelliad 1

Dylai’r Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ailwampio ac integreiddio data ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol, er mwyn gwella gwaith gweithredol, gwella cywirdeb, hybu tryloywder ac, yn y pen draw, ddatblygu atebolrwydd. Dylai hyn gynnwys:

  • Buddsoddi mewn systemau technolegol newydd.

  • Adolygu codau canlyniad, yn enwedig Canlyniadau 15 ac 16.

  • Cydweithio’n agos â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r sector cam-drin domestig arbenigol.

Rhaid i’r llywodraeth fuddsoddi mewn systemau a fydd yn galluogi asiantaethau cyfiawnder troseddol i gael mynediad rhwydd at realiti’r troseddau y rhoddir gwybod iddynt, a gallu adrodd ar y realiti honno. Anaml y bydd codau canlyniad yn dweud wrthym pam y tynnodd rhywun ei gefnogaeth i erlyniad yn ôl, a rhaid archwilio hynny. Os caiff ei roi ar waith, bydd yr argymhelliad hwn yn sicrhau’r canlynol:

  • Bydd pob trosedd y rhoddir gwybod i’r heddlu amdani yn arwain at ‘drosedd a gofnodwyd gan yr heddlu’, gan ddiogelu amser ac effeithlonrwydd yr heddlu.

  • Caiff pob achos sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ei ddilyn o adeg rhoi gwybod amdano i gamau’r llys, y dedfrydu, y carchar a rheoli yn y gymuned (lle y byddant yn berthnasol).

  • Bydd data cywir ar ddedfrydu mewn perthynas â cham-drin domestig ar gael i asiantaethau, i’r llywodraeth, ac i’r cyhoedd.

  • Dealltwriaeth fwy cywir o foddhad dioddefwyr â’r system, neu b’un a gawsant y canlyniad roeddent am ei gael ai peidio.

  • Caiff gwybodaeth am orchmynion amddiffyn ei rhannu rhwng systemau’r llysoedd a’r heddlu.

Byddai hyn yn trawsnewid yn gyfan gwbl allu arweinwyr y system cyfiawnder troseddol, gweinidogion y llywodraeth ac arolygiaethau i ddwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyfrif, deall yn iawn holl weithgarwch y system cyfiawnder troseddol mewn perthynas â cham-drin domestig, dyrannu adnoddau’n briodol, gorfodi’r gyfraith a chadw dioddefwyr yn ddiogel.

Yn y cyfamser, rhaid mynd i’r afael â diffygion allweddol yn y system, a hynny ar frys. Rhaid i’r rhain gynnwys:

  • Cydnabod yn glir fod newidiadau a wnaed yn 2023 i Reolau Cyfrif y Swyddfa Gartref wedi arwain at ragor o dangofnodi troseddau gan yr heddlu, ac ystyried effaith hyn o fewn metrigau a phrosesau gwneud penderfyniadau ar lefelau gweithredol a strategol yn lleol ac yn genedlaethol.

  • Rhoi wal dân lawn ar waith ar gyfer rhannu data rhwng yr heddlu ac asiantaethau Gorfodi Mewnfudo ar gyfer pob trosedd trais yn erbyn menywod a merched.

  • Datblygu cynllun gweithredu er mwyn sicrhau, o fewn blwyddyn, y bydd gan swyddogion yr heddlu fynediad gweithredol at wybodaeth am orchmynion amddiffyn o’u dyfeisiau llaw.

  • Cyhoeddi cynllun gweithredu manwl er mwyn gwella’r ffordd y caiff yr holl orchmynion amddiffyn eu gorfodi.

  • Defnyddiau dulliau o nodi bod troseddau’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn holl ddata’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys data ar ddedfrydu.

Fel man cychwyn, dylid casglu’r wybodaeth ganlynol yn gywir, i gyd yn ôl ardal heddlu, a’u dadgyfuno yn ôl nodweddion demograffig:

Data Ffynhonnell Yn bodoli ar hyn o bryd?
Yr holl droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig y rhoddir gwybod i’r heddlu amdanynt yng Nghymru a Lloegr Yr heddlu Nac ydy
Faint o amser sydd rhwng cofnodi a chanlyniad (yn ôl canlyniad) Yr heddlu Nac ydy
Canlyniadau ar gyfer yr holl droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig y rhoddir gwybod i’r heddlu amdanynt Yr heddlu Nac ydy
Gwybodaeth am b’un a gafodd y dioddefwr y canlyniad roedd am ei gael ai peidio Yr heddlu a’r sector arbenigol Nac ydy
Nifer y dioddefwyr cam-drin domestig a roddodd wybod i’r heddlu, yn ôl grŵp demograffig, gan gynnwys plant yr effeithir arnynt Yr heddlu Nac ydy
Nifer y ceisiadau a datgeliadau a wnaed i’r Cynllun Datgelu Trais Domestig Yr heddlu Ydy – yn anghyson
Nifer yr honiadau a wnaed o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu Yr heddlu Ddim yn rheolaidd
Canlyniadau troseddol yr holl honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu Yr heddlu/Gwasanaeth Erlyn y Goron Ddim yn rheolaidd
Canlyniadau achosion camymddwyn yr holl honiadau o gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu Yr heddlu Ddim yn rheolaidd
Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a atgyfeiriwyd at Wasanaeth Erlyn y Goron Gwasanaeth Erlyn y Goron Ydy
Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a arweiniodd at gyhuddiad Gwasanaeth Erlyn y Goron Ydy
Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a arweiniodd at euogfarn Gwasanaeth Erlyn y Goron Ydy
Dedfrydau am droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu HMCTS Naddo/Nac oes
Boddhad dioddefwyr ag asiantaethau cyfiawnder troseddol (yn ôl asiantaeth) Y sector arbenigol, asiantaethau cyfiawnder troseddol Ddim yn rheolaidd
Atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol (yn ôl asiantaeth) Y sector arbenigol Ydy – yn lleol Nac ydy – yn genedlaethol
Atgyfeiriadau at Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (yn ôl asiantaeth) Data SafeLives ar Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg Ydy
Nifer staff FTE gwasanaethau arbenigol wedi’u cydleoli (yn ôl asiantaeth) Y sector arbenigol/pawb Nac ydy
Data ar 12 elfen graidd Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig Partneriaeth strategol leol Ddim yn rheolaidd
Nifer y gorchmynion amddiffyn sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a wnaed HMCTS Nac ydy
Nifer y gorchmynion amddiffyn sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a dorrwyd Yr heddlu Nac ydy
Data ar ddedfrydau am yr holl droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig HMCTS Nac ydy
Troseddwyr yn y carchar am droseddau mynegai sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig HMPPS Nac ydy
Troseddwyr yn y carchar sydd â hanes o gam-drin domestig HMPPS Nac ydy
Troseddau a reolir yn y gymuned am droseddau mynegai sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig HMPPS Nac ydy
Troseddwyr a reoli yn y gymuned sydd â hanes o gam-drin domestig HMPPS Nac ydy

Argymhelliad 2: Dylai’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder atgyfnerthu atebolrwydd drwy fynnu cael data cadarn a chyhoeddus gan Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, sefydlu panel craffu cenedlaethol, ac atgyfnerthu pwerau’r holl arolygiaethau cyfiawnder troseddol.

Rhaid i Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol sicrhau bod data eu hardal ar berfformiad, canlyniadau a boddhad dioddefwyr o adeg rhoi gwybod i’r heddlu tan y llys mewn achosion o gam-drin domestig yn gadarn a’u bod ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys drwy eu rhannu â’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rhaid i’r data hyn gynnwys gwybodaeth ddemograffig am y dioddefwr a’r cyflawnwr, yn ogystal â gwybodaeth am y berthynas rhyngddynt. Hefyd, rhaid i’r data hyn gynnwys gwybodaeth am yr Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig ehangach, er mwyn sicrhau atebolrwydd ar gyfer partneriaethau amlasiantaethol ac er mwyn deall iechyd y partneriaethau ar lefel leol.

Dylai’r Asesiadau Anghenion Strategol ar y Cyd sydd bellach yn ofynnol yn ôl y Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion fod yn rhan allweddol o’r gwaith hwn.

Rhaid i’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol sefydlu panel craffu annibynnol i fonitro ac adolygu’r data hyn yn rheolaidd.

Er mwyn sicrhau atebolrwydd, rhaid i bwerau’r holl arolygiaethau cyfiawnder troseddol – HMICFRS, HMCPSI, Arolygiaeth Carchardai EF, ac Arolygiaeth Prawf EF – gael eu hatgyfnerthu drwy ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth ymateb i argymhellion ar gyfer y system gyfan yn gyhoeddus yn Senedd y DU. Hefyd, dylid pennu cwmpas opsiynau ar gyfer arolygiaeth i system y llysoedd a’r farnwriaeth.

8.2 Gweithio amlasiantaethol

Rhaid gwreiddio Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig er mwyn sicrhau ymateb cyfannol i gam-drin domestig. Mae’r astudiaethau achos yn yr adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o’r ffordd y mae ardaloedd lleol wedi cyflawni hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Er mwyn i weithio amlasiantaethol fod yn effeithiol, rhaid i bob sefydliad ddeall yn glir beth yw ei ddyletswyddau, rhoi strategaethau ar waith i’w cyflawni, ac adrodd yn dryloyw ar gynnydd. Ar ben hynny, rhaid bod ymrwymiad strategol a gweithredol i weithio mewn partneriaeth gyfartal rhwng asiantaethau a gwreiddio strwythurau i sicrhau hyn. Rhaid i weithio amlasiantaethol olygu mwy na chyfarfodydd rhwng cynrychiolwyr o wahanol asiantaethau.[footnote 197] Rhaid iddo fod yn seiliedig ar barch a chydberthnasau cadarn.[footnote 198] Gellir galluogi hyn, o fan cychwyn, drwy roi fframwaith clir a chyson ar waith sy’n rhoi cyfeiriad ac atebolrwydd.

Yn yr un modd, rhaid cydnabod rôl allweddol y sector cam-drin domestig arbenigol o ran sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn gweithredu’n effeithiol, ac mae’r Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion yn helpu i wneud hynny. Drwy’r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth newydd hon, rhaid i’r Llywodraeth ddiffinio rolau arbenigol ymhellach a helpu i’w llunio, a sicrhau y caiff y sector ei gefnogi yn yr un ffordd â phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol, drwy raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar eirioli dros gyfiawnder.

Rhaid i waith partneriaeth o’r fath hefyd gael ei ddatblygu gyda gwasanaeth ‘gan ac ar gyfer’. Daeth gwaith ymchwil gan Centre for Women’s Justice ac Imkaan i’r casgliad, o’r achosion a astudiwyd, nad oedd mwyafrif helaeth y menywod Du a lleiafrifiedig a fu farw o ganlyniad i laddiadau domestig a hunanladdiadau yn cael cymorth gan wasanaeth ‘gan ac ar gyfer’, er bod 71% wedi datgelu i asiantaethau eu bod yn cael eu cam-drin.[footnote 199] Mae hyn yn awgrymu naill ai nad yw goroeswyr yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â chymorth o’r fath, neu nad oes cymorth o’r fath ar gael yn eu hardal. Felly, mae’n hollbwysig bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ymgysylltu â gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ y tu allan i’r ardal yn y tymor byr iawn, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu adnoddau’n lleol yn y tymor hwy.

Argymhelliad 3: Rhaid i’r llywodraeth wella ac atgyfnerthu gweithio amlasiantaethol drwy wneud y canlynol:

  • Darparu adnoddau i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig allu datblygu egwyddorion ar gyfer gweithio amlasiantaethol effeithiol.

  • Cynnal adolygiad sylfaenol o ymatebion amlasiantaethol lleol i gam-drin domestig, yn enwedig o fewn y system cyfiawnder troseddol.

  • Rhoi canllawiau ar ymateb a chomisiynu amlasiantaethol.

  • Cynnal adolygiadau treigl yn lleol, gan fonitro’r ffordd y mae ardaloedd lleol yn bodloni’r egwyddorion hyn ar gyfer gweithio amlasiantaethol.

  • Cefnogi a datblygu’r sector cam-drin domestig arbenigol drwy ddatblygu rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus ar eirioli dros gyfiawnder.

Rhaid i’r gwaith hwn gynnwys ystyriaeth benodol o fforymau amlasiantaethol gan gynnwys trefniadau diogelu lleol i ganfod a lliniaru risg (er enghraifft, Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg a Chanolfannau Diogelu Amlasiantaeth); partneriaethau a llywodraethu strategol lleol; yr ymateb plismona; yr ymateb i blant; yr ymateb i ddioddefwyr a goroeswyr a ymyleiddiwyd ac a leiafrifwyd; a rheoli cyflawnwyr.

Rhaid i’r egwyddorion ar gyfer partneriaethau amlasiantaethol a werthusir ar lefel leol gael eu hadlewyrchu yn y ffordd y caiff yr ymateb strategol cenedlaethol i gam-drin domestig ei lywodraethu – gan gynnwys drwy berchnogaeth a goruchwyliaeth drawslywodraethol dros y Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched.

8.3 Darparu adnoddau

Ceir tystiolaeth gadarn o werth cymorth arbenigol i oroeswyr – yng ngwaith mapio’r Comisiynydd, gwelwyd bod 67% o ddioddefwyr a goroeswyr a oedd wedi defnyddio gwasanaethau cymorth yn dweud eu bod bellach yn teimlo’n fwy diogel o gymharu â 45% o oroeswyr nad oeddent wedi defnyddio gwasanaethau o’r fath, a bod 73% a oedd wedi cael cymorth yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu bywydau o gymharu â 50% nad oeddent wedi cael cymorth.[footnote 200] Fodd bynnag, nid yw hyd y prosesau cyfiawnder troseddol presennol yn cyfateb i’r adnoddau cymorth arbenigol – er enghraifft, bydd rhywun yn cael cymorth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig am 97.5 diwrnod ar gyfartaledd, ond gall gymryd blynyddoedd i achosion troseddol gyrraedd treial a dedfryd.[footnote 201] Er mwyn sicrhau y gellir gwreiddio gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol annibynnol, gan gynnwys gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’, yn llawn yn yr ymateb cyfiawnder troseddol ac ymateb i unrhyw gynnydd mewn galw yn y presennol a’r dyfodol, rhaid darparu adnoddau iddynt wneud hynny. Nid yn eu hannibyniaeth sy’n hollbwysig, ond hefyd eu ffordd o weithredu, sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn galluogi gwell rheoli risg a chymorth. Ond dim ond gyda chapasiti digonol y bydd hyn yn bosibl.

Rydym yn amcangyfrif bod angen £544m y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol ledled Cymru a Lloegr.[footnote 202]

Rhaid i wasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ hefyd gael cyllid penodedig o bot cenedlaethol o £187.8m y flwyddyn, er mwyn datblygu capasiti a sicrhau y gall goroeswyr gael gafael ar y gwasanaethau hyn ble bynnag y maent yn byw.[footnote 203] Daeth gwaith mapio’r Comisiynydd o hyd i wahaniaeth clir rhwng canlyniadau goroeswyr a ymyleiddiwyd yn dibynnu ar b’un a oeddent wedi defnyddio gwasanaeth ‘gan ac ar gyfer’ ai peidio, gyda’r rhai a oedd wedi defnyddio gwasanaeth o’r fath yn dangos canlyniadau gwell o lawer. Gall y sefydliadau hyn gynnig asesiadau mwy cynhwysfawr o risgiau ac anghenion, cymorth ychwanegol megis cyngor ar les, cyfieithwyr ar y pryd a chwnsela arbenigol, a byddant yn aml yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr am gyfnodau llawer hwy.

Er y dylai gwasanaethau arbenigol gael eu cyllido’n ddigonol i roi’r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr a goroeswyr, ni ddylid byth disgwyl iddynt lenwi’r bylchau pan na fydd gwasanaethau statudol yn cyrraedd y nod. Fodd bynnag, yn Archwiliad Blynyddol Cymorth i Fenywod, dywedodd 44.2% o sefydliadau cam-drin domestig arbenigol eu bod yn darparu gwasanaeth y dylai asiantaeth statudol ei ddarparu.[footnote 204] Felly, mae’n hollbwysig darparu digon o adnoddau i asiantaethau ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol allu ateb y galw sy’n eu hwynebu, a bod ganddynt y personél a’r amser sydd eu hangen i gyflawni eu rôl o ran diogelu goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif. Rhaid i hyn gynnwys darparu adnoddau ar gyfer ymwneud yn ystyrlon â rhannu gwybodaeth a phartneriaethau diogelu, er mwyn sicrhau y gall dioddefwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi asesu risg a chynllunio diogelwch yn gywir.

Argymhelliad 4

Dylai Trysorlys EF fuddsoddi’n uchelgeisiol, yn strategol ac yn gynaliadwy yn y sector cam-drin domestig arbenigol – sy’n hollbwysig i’r ymateb statudol i gam-drin domestig – a darparu adnoddau i asiantaethau strategol ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol er mwyn datblygu capasiti mewn ymateb i’r galw cynyddol am gymorth cam-drin domestig.

Rhaid i hyn gynnwys cymorth arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr yn y system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â datblygu capasiti ac adnoddau o fewn y Gwasanaeth Cymorth i Dystion.

Rhaid i hyn gynnwys dyletswydd ar lywodraethau cenedlaethol i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr a nodir drwy’r Asesiadau Anghenion Strategol ar y Cyd, sydd bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith drwy’r Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion, a sicrhau bod cyllid amlflwydd yn llifo tuag at ddeiliaid dyletswyddau lleol er mwyn iddynt gomisiynu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr. Rhaid i hyn gynnwys pot cyllido penodedig o £187.8m y flwyddyn wedi’i glustnodi ar gyfer darparu a datblygu capasiti sefydliadau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol sy’n cefnogi goroeswyr Du a lleiafrifiedig, Byddar ac anabl, ac LHDT+.

Argymhelliad 5

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder annog proses o ailsefydlu a chyflwyno Llysoedd Cam-drin Domestig Arbenigol mewn Llysoedd Ynadon ledled Cymru a Lloegr, a darparu adnoddau digonol ar eu cyfer, drwy sicrhau, yn hollbwysig, y caiff achosion eu clystyru’n effeithiol ac y caiff adnoddau eu darparu ar gyfer rôl cydgysylltydd y llys.

8.4 Blaenoriaethu cam-drin domestig yn yr ymateb cyfiawnder troseddol statudol

Mae cam-drin domestig yn gymhleth ac mae angen lefel sylweddol o arbenigedd i ddeall natur y drosedd, effaith trawma a’r ymddygiadau sydd i’w gweld mewn perthnasoedd camdriniol. Mae’n wahanol yn ei hanfod i fathau eraill o droseddau ac, felly, mae’n gofyn am arbenigedd a gwybodaeth benodol. Er mwyn cynnig ymateb empathig sy’n ystyriol o gamdriniaeth i ddioddefwyr a goroeswyr, rhaid i weithwyr cyfiawnder troseddol proffesiynol gael eu hyfforddi, eu mentora a’u huwchsgilio i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn ymateb yn gadarn, a dylai’r arbenigedd y byddant yn ei ddatblygu gael ei gydnabod a’i wobrwyo. Felly, rhaid i asiantaethau statudol ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol flaenoriaethu cam-drin domestig, a rhaid i hyn gael ei adlewyrchu yn eu trefniadau hyfforddi, darparu adnoddau, recriwtio, a llywodraethu mewnol.

Mae sawl adroddiad ac adolygiad, gan gynnwys Adolygiadau Lladdiadau Domestig ac adolygiadau diogelu eraill, dros y degawd diwethaf wedi gwneud argymhellion clir a chyson am hyfforddiant arbenigol, rheolaidd a chyson ar gam-drin domestig ar gyfer gweithwyr cyfiawnder troseddol proffesiynol, yn enwedig yr heddlu a barnwyr ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.[footnote 205] Mae’r ffaith bod yr angen hwn wedi cael ei nodi droeon a’i fod yn parhau i ddod i’r amlwg fel thema allweddol yn yr adroddiad hwn, yn dyst i broblem systemig sydd â gwreiddiau dwfn, a nodwyd yn yr un modd mewn asesiad o ymateb y system cyfiawnder troseddol i dreisio:

CJS leaders need to be committed to investing in workforce development that is embedded as part of a wider system of cultural change within the CJS and its effectiveness evaluated.[footnote 206]

Yn yr un modd, rhaid cydnabod ymateb i gam-drin domestig a rhoi iddo’r statws uchel y mae’n ei haeddu o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae wir yn gofyn am lefel sylweddol o sgìl a deallusrwydd emosiynol, a dylid deall yn glir ei fod yn dangos plismona fel y dylai fod ar ei orau.

Argymhelliad 6

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref, mewn cydweithrediad ag asiantaethau perthnasol a’r sector cam-drin domestig arbenigol, sicrhau y caiff gweithwyr proffesiynol ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol – gan gynnwys yr heddlu, erlynwyr, y farnwriaeth, a swyddogion prawf – eu hyfforddi’n gynhwysfawr, yn gyson ac yn rheolaidd i adnabod yr holl fathau o gam-drin domestig ac ymateb iddynt.

Rhaid i hyn gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus a goruchwyliaeth, a rhaid monitro ei effeithiolrwydd a’i gysondeb ac adrodd ar hynny yn genedlaethol. Yn yr un modd, mae’r problemau penodol sy’n wynebu cymunedau a ymyleiddiwyd ac a leiafrifwyd, megis pobl Ddu a lleiafrifiedig, LHDT+, Byddar neu anabl – yn ogystal â dioddefwyr gwrywaidd a dioddefwyr hŷn – yn datgelu problemau sylfaenol o fewn asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn.

Dylid gwreiddio diwylliant o chwilfrydedd proffesiynol yn y dull hyfforddi hwn er mwyn mynd i’r afael â’r holl gyfleoedd a gollir i atal cam-drin pellach a niwed mwy difrifol.

Argymhelliad 7

Dylai’r Swyddfa Gartref, ynghyd ag arweinwyr plismona, godi statws cam-drin domestig ym maes plismona, a sicrhau y caiff gwaith da ei gydnabod a’i wobrwyo’n briodol.

Dylai hyn sicrhau bod yr ymateb i gam-drin domestig yn fwy cyson â mathau eraill o droseddau â blaenoriaeth sy’n uchel eu proffil, megis gwrthderfysgaeth a throseddau difrifol a chyfundrefnol, ac ysgogi gwelliannau mewn galluogrwydd ym mhob rhan o’r sector plismona.

Dylai’r rhaglen waith hon gael ei harwain yn ganolog ac ystyried y canlynol o ddifrif:

  • gwella tâl a chymorth i swyddogion mewn Unedau Diogelu’r Cyhoedd

  • ei gwneud yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth o alluogrwydd – drwy amser mewn Unedau Diogelu’r Cyhoedd – er mwyn ceisio dyrchafiad i rolau plismona ar lefelau uwch.

8.4.1 Cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu

Mae canfyddiadau o adolygiadau fel Ymchwiliad Angiolini ac Adolygiad Casey hefyd yn tynnu sylw at broblemau sylfaenol yn y diwylliant plismona – gan gynnwys casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia sefydliadol a systemig – sy’n ategu’r ymateb niweidiol a wynebir gan lawer o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Er nad yw’r adroddiad hwn yn gwneud sylwadau manwl ar y newidiadau y bydd angen eu gwneud i drefniadau recriwtio a strwythuro’r heddlu er mwyn mynd i’r afael â’r problemau systemig hyn, mae’r Comisiynydd yn disgwyl gweld yr argymhellion o Ran 1 o Ymchwiliad Angiolini yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym, ac mae’n edrych ymlaen at ganfyddiadau ac argymhellion Rhan 2 sydd ar ddod. Mae argymhellion yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y newidiadau i drefniadau hyfforddi, goruchwylio, a delio â chamymddwyn yn fewnol sy’n ofynnol er mwyn gwella’r ymateb plismona i gam-drin domestig.

Argymhelliad 8

Dylai’r Swyddfa Gartref atgyfnerthu rheoliadau camymddwyn a phrosesau fetio’r heddlu er mwyn dwyn cyflawnwyr sy’n aelodau o’r heddlu i gyfrif, yn ogystal â dwyn heddluoedd i gyfrif o ran canfod swyddogion a staff camdriniol drwy gofnodi cywir a chyson a chanlyniadau clir.

Rhaid gwneud y canlynol er mwyn cyflawni hyn:

  • Blaenoriaethu rhoi’r argymhellion a gyflwynwyd gan Centre for Women’s Justice, yn ei hadroddiad dilynol ar uwch-gŵyn 2020 ynghylch cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, ar waith.

  • Diwygio Rheoliadau’r Heddlu (Ymddygiad) er mwyn sicrhau y caiff unrhyw swyddog neu aelod o staff ei atal dros dro yn awtomatig os caiff ei gyhuddo o gyflawni trosedd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais yn erbyn menywod a merched ei atal dros dro yn awtomatig, a’i ddiswyddo’n awtomatig os caiff euogfarn am unrhyw drosedd o’r fath. Yn absenoldeb cyhuddiad neu euogfarn, dylai’r rheoliadau nodi’n glir ddull cyfannol sy’n seiliedig ar gofnodi ac asesu risgiau ac anghenion yn gyson, a rhoi mesurau perthnasol ar waith mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a wneir yn erbyn swyddog heddlu sydd yn ei swydd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais yn erbyn menywod a merched.

  • Cynnal adolygiad o’r broses fetio ar gyfer yr heddlu gyda’r nod o sicrhau bod y broses yn ffurfio darlun mwy cyfannol o’r ymgeisydd, gan gynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ychwanegol o wybodaeth a chuddwybodaeth, megis data gan wasanaethau arbenigol a gomisiynir ac asiantaethau statudol perthnasol.

  • Sicrhau y gall pob goroeswr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu gael gafael ar gymorth arbenigol drwy ei gwneud yn ofynnol i bob heddlu gyhoeddi polisi ar gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu sy’n sefydlu mannau diogel i roi gwybod a llwybrau clir at gymorth.

8.4.2 Rheoli cyflawnwyr yn y gymuned

Ochr yn ochr â chymorth cofleidiol cyfannol i ddioddefwyr a goroeswyr, rhaid bod digon o raglenni newid ymddygiad cyflawnwyr y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau ar gael ledled Cymru a Lloegr, yn ogystal â mesurau plismona tactegol i ddargyfeirio a rheoli’r risg a achosir gan y cyflawnwyr mwyaf niweidiol.

Mae cyflwyno ‘SDS40’ – hynny yw, rhyddhau carcharorion yn gynnar er mwyn lleddfu’r argyfwng gorlenwi mewn carchardai – wedi amlygu problemau sylweddol yn y ffordd y caiff cyflawnwyr eu rhyddhau o’r carchar a’r ffordd y caiff eu risg ei rheoli yn y gymuned. Mae’n destun pryder mai dim ond y dioddefwyr hynny y caiff eu cyflawnwyr ddedfryd o fwy na 12 mis yn y carchar sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr ac, o’r rhain, dim ond 51% o ddioddefwyr cymwys sy’n dewis bod yn rhan o’r cynllun.

Hefyd, mae’r prosesau presennol yn canolbwyntio’n ormodol ar euogfarn cyflawnwr, er y caiff llawer o gyflawnwyr cam-drin domestig hysbys eu carcharu am droseddau eraill.

Mae’n bwysig sicrhau y caiff y risgiau ehangach a achosir gan gyflawnwr – p’un a gaiff euogfarn am drosedd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ai peidio – eu cydnabod a’u rheoli, ac y caiff eu dioddefwyr eu trin felly.

Caiff pryderon ynglŷn â rhyddhau carcharorion yn gynnar eu cynyddu gan ddiffyg capasiti yn y Gwasanaeth Prawf i reoli cyflawnwyr yn ddiogel yn y gymuned, a rheoli eu risg yn gadarn. Rhaid ystyried hyn o ddifrif ochr yn ochr ag ymdrechion i ddiwygio’r gyfundrefn ddedfrydu a lleddfu gorlenwi mewn carchardai.

Argymhelliad 9

Dylai’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyllido a chyflwyno ymyriadau plismona tactegol (megis MATAC) a rhaglenni newid ymddygiad cyflawnwyr y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau i bob ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Bydd hyn yn sicrhau’r canlynol:

  • Caiff pob cyflawnwr, yn enwedig y rhai sy’n peri’r risg fwyaf o niwed, eu hadnabod yn gadarn, y caiff eu risg ei hasesu, ac y rhoddir cynlluniau ar waith i ddargyfeirio a rheoli’r risg a achosir ganddynt.

  • Bydd gan bob cyflawnwr fynediad at raglenni newid ymddygiad cyflawnwyr y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau, ac ni fydd argaeledd darpariaeth yn atal defnydd cadarn o ofynion cadarnhaol o fewn yr Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig newydd nac awydd cyflawnwr i newid.

Argymhelliad 10

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ddatblygu rhaglen o waith i greu ymyriadau a goruchwyliaeth yn y gymuned ar gyfer cam-drin domestig yn benodol.

Heb hyn, bydd dioddefwyr a goroeswyr yn parhau i dalu’r pris am yr argyfwng gorlenwi mewn carchardai, ac mae’n hollbwysig gwneud y gwaith hwn ar yr un pryd â diwygio’r gyfundrefn ddedfrydu. Ochr yn ochr ag argymhelliad 9, dylai hyn sicrhau y caiff cyflawnwyr wir eu rheoli’n gadarn yn y gymuned; ac y bydd dioddefwyr a goroeswyr – o adeg rhoi gwybod am y drosedd yn y lle cyntaf nes i’r cyflawnwr gael ei ryddhau o’r carchar – yn gwybod bod y system cyfiawnder troseddol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w cadw’n ddiogel.

Argymhelliad 11

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ehangu cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig, waeth beth fo hyd y ddedfryd neu b’un a yw euogfarn y cyflawnwr am drosedd sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn benodol ai peidio.

8.4 Dioddefwyr a goroeswyr yn y system cyfiawnder troseddol

Mae diwylliant o fewn y system cyfiawnder troseddol lle y bydd dioddefwyr a goroeswyr yn ofni datgelu, neu lle na chânt eu credu pan fyddant yn gwneud hynny, yn rhywbeth y mae’n rhaid ei herio.[footnote 207] Ar ben hynny, byddai cyflwyno amddiffyniad statudol ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod a merched sy’n troseddu oherwydd eu profiadau o gael eu cam-drin yn anfon neges gref a chlir o gefnogaeth at ddioddefwyr a’r gweithwyr proffesiynol y byddant yn dod ar eu traws, a byddai’n gam pwysig tuag at wynebu’r her hon.

Argymhelliad 12

Dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn haws i ddioddefwyr cam-drin domestig sy’n defnyddio grym yn erbyn eu camdrinwyr arfer eu hawl i hunanamddiffyn, a chynnig amddiffyniad pan gaiff dioddefwyr cam-drin domestig eu gorfodi i droseddu.

  1. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  2. Yn yr adroddiad hwn, defnyddiwn y gair ‘goroeswr’ neu’r geiriau ‘dioddefwr a goroeswr’ lle bo modd, ond rydym yn cydnabod nad yw pawb yn defnyddio’r geiriau hyn i’w disgrifio eu hunain. Mewn rhai achosion, defnyddiwn y gair ‘dioddefwr’ lle y cyfeirir at y categori cyfreithiol a’r hawliau sy’n gysylltiedig ag ef. 

  3. Comisiynydd Cam-drin Domestig (2022) Clytwaith o Ddarpariaeth: Sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr. Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  4. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse in England and Wales overview: November 2024. 

  5. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Crime in England and Wales: Appendix Tables – Taflen Waith B9: Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr y nodwyd eu bod yn gysylltiedig â cham-drin domestig 

  6. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Partner abuse in detail, England and Wales: year ending March 2023 – Tabl 13: Pam na wnaeth y dioddefwr ddweud wrth heddlu am y cam-drin gan bartner a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pobl 16 oed a throsodd, Cymru a Lloegr 

  7. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Partner abuse in detail, England and Wales: year ending March 2023 – Tabl 13: Pam na wnaeth y dioddefwr ddweud wrth heddlu am y cam-drin gan bartner a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pobl 16 oed a throsodd, Cymru a Lloegr 

  8. Mayes, A, Moroz, A. a Thorsgaard Frolunde, T. (2017) Survivor’s justice: How victims and survivors of domestic abuse experience the criminal justice system. Llundain: Cymorth i Ddioddefwyr. 

  9. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Partner abuse in detail, England and Wales: year ending March 2023 – Tabl 13: Pam na wnaeth y dioddefwr ddweud wrth heddlu am y cam-drin gan bartner a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pobl 16 oed a throsodd, Cymru a Lloegr 

  10. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  11. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Partner abuse in detail, England and Wales: year ending March 2023 – Tabl 13: Pam na wnaeth y dioddefwr ddweud wrth heddlu am y cam-drin gan bartner a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pobl 16 oed a throsodd, Cymru a Lloegr 

  12. Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) (2023) IOPC Public Perceptions Tracker 2022-2023. Llundain: IOPC. 

  13. Imkaan a Centre for Women’s Justice (2023) Life or Death? Preventing domestic homicides and suicides in Black and minoritised women. 

  14. End Violence Against Women (2023) Listen to us! Communication barriers: how statutory bodies are failing black, minoritised, migrant, deaf and disabled women and girls victims/survivors of VAWG. 

  15. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report, DHR267. 

  16. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2021) Safety before Status: Improving pathways to support for migrant victims of domestic abuse. Llundain: Y Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  17. McIlwaine, C. J., Granada, L. a Valenzuela-Oblitas, I. (2019) The Right to be Believed: Migrant women facing Violence Against Women and Girls (VAWG) in the ‘hostile immigration environment’ in London. Latin American Women’s Rights Service. 

  18. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2023) Safety before Status: How to ensure the Victims and Prisoners Bill meets the needs of all victims. Llundain: Y Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  19. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report, DHR145. 

  20. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig sy’n fewnfudwyr, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  21. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  22. Y Comisiynydd Dioddefwyr (2024) Annual Victims’ Survey 2023 ; Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  23. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  24. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  25. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  26. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  27. Comisiynydd Cam-drin Domestig (2022) Clytwaith o Ddarpariaeth: Sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr. Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  28. SafeLives (2023) Insights Idva Dataset 2022-23. 

  29. Step Up Migrant Women (2019) The right to be believed: Migrant women facing Violence Against Women and Girls (VAWG) in the ‘hostile immigration environment’ in London. 

  30. Barrow Grint, K. (2016) Attrition rates in domestic abuse: time for change? Application of temporal sequencing theory, Policing: A Journal of Policy and Practice, t.256. Mae’n werth nodi y daw’r ffigur hwn o astudiaeth gyfyngedig o 50 o achosion a gofnodwyd gan Heddlu Dyffryn Tafwys yn 2014, a ganfu fod y dioddefwr wedi tynnu’n ôl o fewn pum diwrnod i roi gwybod am ddigwyddiad mewn 21 o achosion (42%). 

  31. Yn y gwaith ymchwil hwn, penderfynwyd bod dioddefwyr yn ‘agored i niwed’ os oes ganddynt anabledd corfforol, anawsterau dysgu neu gofnod troseddol, os ydynt yn feichiog, yn ddigartref neu’n wynebu problemau sy’n gysylltiedig â thai, alcohol neu gyffuriau (gan gynnwys dibyniaeth), hunan-niweidio neu broblem iechyd meddwl arall. Daeth y gwaith ymchwil o hyd i fwy o lawer o ddioddefwyr agored i niwed nag a oedd wedi’u cofnodi felly yn systemau’r heddlu. Dim ond 14.2% o ddioddefwyr a oedd wedi’u nodi fel rhai agored i niwed yn systemau’r heddlu, ond canfu dadansoddiad y gwaith ymchwil ehangach fod 48.2% yn bodloni’r meini prawf a bennwyd ar gyfer bod yn agored i niwed. McPhee, D. et al (2021) Criminal justice responses to domestic violence and abuse in England: an analysis of case attrition and inequalities using police data. Policing and Society, 1-18. 

  32. McPhee, D. et al (2021) Criminal justice responses to domestic violence and abuse in England: an analysis of case attrition and inequalities using police data. Policing and Society, 1-18. 

  33. McPhee, D. et al (2021) Criminal justice responses to domestic violence and abuse in England: an analysis of case attrition and inequalities using police data. Policing and Society, 1-18. 

  34. Cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  35. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  36. Bates, L., Hoeger, K., Stoneman, M. a Whitaker, A. (2021) Domestic homicides and suspected victim suicides during the Covid-19 pandemic 2020-2021. Vulnerability Knowledge and Practice Programme. 

  37. Chantler et al (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism for the Criminal Justice System Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  38. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  39. Chantler et al (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism for the Criminal Justice System Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  40. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  41. Ellison, L. a Munro, V.E. (2017) Taking Trauma Seriously: Critical Reflections on the Criminal Justice Process. International Journal of Evidence and Proof, 21 (3). 1365712716655168. tt. 183-208. 

  42. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  43. Davies, P. a Barlow, C. F. (2024) Policing domestic abuse: the onus on first responders. Policing and Society, 34(7), tt. 627–640. 

  44. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  45. Davies, P. a Barlow, C. F. (2024) Policing domestic abuse: the onus on first responders. Policing and Society, 34(7), tt. 627–640. 

  46. Davies, P. a Barlow, C. F. (2024) Policing domestic abuse: the onus on first responders. Policing and Society, 34(7), tt. 627–640. 

  47. Davies, P. a Barlow, C. F. (2024) Policing domestic abuse: the onus on first responders. Policing and Society, 34(7), tt. 627–640. 

  48. Brennan, I., Myhill, A., Tagliaferri, G, a Tapley, J. (dim dyddiad) Policing a new domestic abuse crime: Effects of force-wide training on arrests for coercive control 

  49. Y Coleg Plismona (2024) Authorised Professional Practice: Domestic Abuse. 

  50. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig sy’n ddynion, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  51. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report, DHR312. 

  52. End Violence Against Women (2023) Listen to us! Communication barriers: how statutory bodies are failing black, minoritised, migrant, deaf and disabled women and girls victims/survivors of VAWG. 

  53. Suzy Lamplugh Trust (2022) Super-complaint on the police response to stalking. Submitted by the Suzy Lamplugh Trust, on behalf of the National Stalking Consortium. 

  54. Institute for Addressing Strangulation (IFAS) (2023) Strangulation and Suffocation Offences: June 2022 - June 2023. An Analysis of Police Report Data. 

  55. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  56. Y Swyddfa Gartref (2024) Crime Recording Rules for Front line Officers and Staff 2024/25. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  57. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Crime in England and Wales Statistical bulletins. Appendix tables. 

  58. Y Ddeddf Trefn Gyhoeddus, Rhan I (1986) 

  59. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Crime in England and Wales Statistical bulletins. Appendix tables. 

  60. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig sy’n ddynion, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  61. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  62. Cyfarfod bord gron gyda swyddogion yr heddlu, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam- drin Domestig (2022). 

  63. Y Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion (2024) 

  64. Rothwell, S., McFadzien, K., Strang, H. et al. (2022) Rapid Video Responses (RVR) vs. Face-to-Face Responses by Police Officers to Domestic Abuse Victims: a Randomised Controlled Trial. Cambridge Journal of Evidence-Based Policing, 6, tt. 1–24. 

  65. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  66. Y Swyddfa Gartref (2022) Domestic Violence Protection Notices (DVPNs) and Domestic Violence Protection Orders (DVPOs) guidance. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  67. Y Swyddfa Gartref (2020) Domestic Abuse Protection Notices/Orders factsheet. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  68. Y Swyddfa Gartref (2023) Domestic Violence Disclosure Scheme (DVDS) Statutory Guidance. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  69. Y Swyddfa Gartref (2022) Better protection for victims under pre-charge bail reforms.; Y Coleg Plismona (2023) Pre-charge bail - Statutory guidance. 

  70. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  71. Centre for Women’s Justice (2019) Police failure to use protective measures in cases involving violence against women and girls. 

  72. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  73. Y Coleg Plismona (2023) Pre-charge bail - Statutory guidance. 

  74. Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (HMICFRS) ac Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi (HMCPSI) (2020) Pre-charge bail and released under investigation: Striking a balance 

  75. Y Swyddfa Gartref (2022) Domestic Violence Protection Notices (DVPNs) and Domestic Violence Protection Orders (DVPOs) guidance. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  76. Y Coleg Plismona, HMICFRS, IOPC (2021) A Duty to Protect: Police use of protective orders in cases involving violence against women and girls. 

  77. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  78. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  79. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse prevalence and victim characteristics – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  80. Y Coleg Plismona (2023) Pre-charge bail - Statutory guidance. 

  81. Centre for Women’s Justice (2019) Centre for Women’s Justice Super-complaint Police failure to use protective measures in cases involving violence against women and girls. 

  82. Y Coleg Plismona, HMICFRS, IOPC (2021) A Duty to Protect: Police use of protective orders in cases involving violence against women and girls. 

  83. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  84. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  85. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  86. Centre for Women’s Justice (2019) Centre for Women’s Justice Super-complaint Police failure to 

  87. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report, DHR177. 

  88. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) Shadow Report on the Implementation of the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence (Istanbul Convention). 

  89. Heddlu Gogledd Swydd Efrog (2021) North Yorkshire Police and IDAS, in partnership with HMCTS, Edge Hill University and CGI, lead seminar to address domestic abuse. 

  90. Centre for Women’s Justice (2019) Centre for Women’s Justice Super-complaint Police failure to 

  91. The Drive Partnership (2024) A call for further action. Strengthen the Response to Perpetrators of Domestic Abuse. 

  92. Comisiynydd Cam-drin Domestig (2022) Clytwaith o Ddarpariaeth: Sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr. Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  93. O’r 290 o Gynadleddau yn y DU, cyflwynwyd data gan 282. Safelives (2024) Latest UK MARAC data. 

  94. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  95. HMIP, HMICFRS, CQC et al (2017) The multi-agency response to children living with domestic abuse. 

  96. HMICFRS a HMCPSI (2021) A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase one: From report to police or CPS decision to take no further action. 

  97. HMICFRS (2023) PEEL Assessments 2021/22. 

  98. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  99. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  100. Advance (2024) Her Story Her Justice: Making criminal justice work for women and girl survivors of domestic abuse. ; Cymorth i Ddioddefwyr (2018) How victims and survivors of domestic abuse experience the criminal justice system. ; Rape Crisis England & Wales (2023) Breaking Point: the re-traumatisation of rape and sexual abuse survivors in the Crown Courts backlog. ; End Violence Against Women (2023) Listen to us! Communication barriers: how statutory bodies are failing black, minoritised, migrant, deaf and disabled women and girls victims/survivors of VAWG. 

  101. BBC News (2024). West Mercia Police inbox for victims of violence not monitored - BBC News 

  102. Tystiolaeth gan oroeswr a gyflwynwyd mewn ymateb i Alwad y Comisiynydd am Dystiolaeth o Arferion (2024). 

  103. Tystiolaeth gan oroeswr a gyflwynwyd mewn ymateb i Alwad y Comisiynydd am Dystiolaeth o Arferion (2024). 

  104. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  105. Cyfreithiwr o elusen sy’n rhoi cyngor cyfreithiol i oroeswyr cam-drin domestig a rhywiol, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  106. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Crime in England and Wales Statistical bulletins. Appendix tables. 

  107. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  108. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system. 

  109. Y Swyddfa Gartref (2021) Review of the Controlling or Coercive Behaviour Offence 

  110. HMCPSI (2023) The service from the CPS to victims of domestic abuse. 

  111. HMCPSI (2023) The service from the CPS to victims of domestic abuse. 

  112. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  113. Advance (2024) Her Story Her Justice: Making criminal justice work for women and girl survivors of domestic abuse. ; HMICFRS (2020) Evidence led domestic abuse prosecutions. 

  114. Gwasanaeth Erlyn y Goron (2022) Domestic Abuse: Policy Statement. 

  115. HMCPSI (2023) The service from the CPS to victims of domestic abuse. 

  116. Bates, L., Hopkins, A., Taylor-Dunn, H. a Morrison, S. (heb ei gyhoeddi eto). Final Project Report: Victim disengagement from the CJS in domestic abuse cases. Canolfan Ymchwil a Dysgu Plismona y Brifysgol Agored. 

  117. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  118. Bates, L., Hopkins, A., Taylor-Dunn, H. a Morrison, S. (heb ei gyhoeddi eto). Final Project Report: Victim disengagement from the CJS in domestic abuse cases. Canolfan Ymchwil a Dysgu Plismona y Brifysgol Agored. 

  119. Bates, L., Hopkins, A., Taylor-Dunn, H. a Morrison, S. (heb ei gyhoeddi eto). Final Project Report: Victim disengagement from the CJS in domestic abuse cases. Canolfan Ymchwil a Dysgu Plismona y Brifysgol Agored. 

  120. McGuire, J., Evans, E. a Kane, E. (2021) Victim and Witness Retraction and Disengagement: A Systematic Review of Contributing Factors. Evidence-Based Policing and Community Crime Prevention. 

  121. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r NPCC (2022) Achieving Best Evidence in Criminal Proceedings: Guidance on Interviewing Victims and Witnesses and guidance on using special measures. 

  122. End Violence Against Women (2023) Snapshot report 2022-23. 

  123. Gwasanaeth Erlyn y Goron (2022) Domestic Abuse: Policy Statement. 

  124. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  125. Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse in England and Wales overview – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) – Ystadegau Gwasanaeth Erlyn y Goron (methodoleg y Comisiynydd Cam-drin Domestig) 

  126. Prifysgol Leeds (2016) Taking Trauma Seriously: Critical Reflections on the Criminal Justice Process. 

  127. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  128. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Domestic abuse and the criminal justice system - Office for National Statistics (ons.gov.uk) 

  129. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  130. Comisiynydd Dioddefwyr Annibynnol Llundain (dim dyddiad) The Court System London’s Victims’ Commissioner Policy Paper. 

  131. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) Shadow Report on the Implementation of the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence (Istanbul Convention). 

  132. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2023) Criminal cases in the magistrates courts. 

  133. Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin (2020) Constituency data: Magistrates’ court closures 

  134. Comisiynydd Dioddefwyr Annibynnol Llundain (dim dyddiad) The Court System London’s Victims’ Commissioner Policy Paper. 

  135. Tŷ’r Arglwyddi (2022) Oral Evidence: Annual Evidence Session with the Lord Chief Justice, Pwyllgor y Cyfansoddiad 

  136. Cyngor y Bar (2022) Access Denied: The State of the Justice System in England and Wales 

  137. Tystiolaeth gan oroeswr a gyflwynwyd mewn ymateb i Alwad y Comisiynydd Cam-drin Domestig am Dystiolaeth o Arferion (2024). 

  138. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r 

  139. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  140. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  141. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  142. Centre for Women’s Justice (2022) Double Standard: Ending the unjust criminalisation of victims of violence against women and girls. 

  143. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r 

  144. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  145. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2021) Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse. Llundain: Y Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  146. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2021) Understanding Court Support for Victims of Domestic Abuse. Llundain: Y Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  147. Standing Together Against Domestic Abuse (2023) Coordination of Specialist Domestic Abuse Courts. 

  148. Rheolwr cyfiawnder troseddol o elusen cam-drin domestig genedlaethol, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  149. Standing Together Against Domestic Abuse (2023) National Specialist Domestic Abuse Court Mapping Findings Report 2023. 

  150. Cymorth i Ddioddefwyr (2018) How victims and survivors of domestic abuse experience the criminal justice system. ; End Violence Against Women (2023) A whole-society approach to ending violence against women and girls: VAWG sector manifesto. ; Advance (2024) Her Story Her Justice: Making criminal justice work for women and girl survivors of domestic abuse. 

  151. Y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder (2021) The Westminster Specialist Domestic Abuse Court. 

  152. Y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder (2022) Evaluation of the Westminster Specialist Domestic Abuse Court. Part of the Standing Together Against Domestic Abuse Mentor Court project. 

  153. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  154. Methodoleg y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn seiliedig ar gyfran y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu sy’n arwain at euogfarn, gan ddefnyddio data o CPS Quarterly Statistics (domestic abuse flagged offences) a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) ONS Crime in England and Wales, Police Recorded Crime Statistics. 

  155. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) CPS Quarterly Statistics (domestic abuse flagged offences) ac ONS Crime in England and Wales, Police Recorded Crime Statistics 

  156. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  157. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r 

  158. Arolygiaeth Prawf EF (2023) A thematic inspection of work undertaken, and progress made, by the Probation Service to reduce the incidence of domestic abuse and protect victims. 

  159. BBC News (2024). Reoffending prisoner was let out by mistake, BBC told. 

  160. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  161. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) Shadow Report on the Implementation of the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence (Istanbul Convention). 

  162. Rheolwr cyfiawnder troseddol o elusen cam-drin domestig genedlaethol, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r 

  163. Arolygiaeth Prawf EF (2023) HM Inspectorate of Probation Annual Report 2022/2023. 

  164. Chantler et al. (2023) Domestic Homicide Oversight Mechanism: Criminal Justice Research Report. 

  165. Ymateb trawsasiantaethol i droseddau a’r bygythiad o aildroseddu yw Rheoli Troseddwyr yn Integredig, a chaiff ei gyflawni drwy fynd ati ar y cyd i adnabod a rheoli troseddwyr mynych a phroblemus. Arolygiaeth Prawf EF (2023) HM Inspectorate of Probation Annual Report 2022/2023. 

  166. Arolygiaeth Prawf EF (2023) A thematic inspection of work undertaken, and progress made, by the Probation Service to reduce the incidence of domestic abuse and protect victims. 

  167. Safe Lives (2024) Latest UK MARAC data: Data by police force, region, and country 2023-2024. 

  168. Hadjimatheou, K. a Hamid, R. (2024) A Register for Domestic Abuse and Stalking Offenders in England and Wales? A Report to Inform Policy and Practice. Essex: Prifysgol Essex. 

  169. Hadjimatheou, K. a Hamid, R. (2024) A Register for Domestic Abuse and Stalking Offenders in England and Wales? A Report to Inform Policy and Practice. Essex: Prifysgol Essex. 

  170. Davies, Pam (2018) Tackling domestic abuse locally: paradigms, ideologies and the political tensions of multi-agency working. Journal of Gender-Based Violence, 2 (3). tt. 429-446. ; Y Coleg Plismona (2024) Multi-agency tasking and coordination (MATAC) to reduce domestic abuse offending. 

  171. The Drive Partnership (2020) University of Bristol evaluation of The Drive Project. 

  172. The Drive Partnership (2020) University of Bristol evaluation of The Drive Project. 

  173. Y Swyddfa Gartref (2022) Tackling Domestic Abuse Plan. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  174. The Drive Partnership (2024) A call for further action: Strengthen the Response to Perpetrators of Domestic Abuse. 

  175. Respect (2022) Respect Standard. Accreditation for work with perpetrators of domestic abuse.; Y Swyddfa Gartref (2023) Standards for domestic abuse perpetrator interventions. 

  176. Cyfieithiad o ddyfyniad Naomi, goroeswr cam-drin domestig, yn adroddiad ‘Double Standard’ CWJ – Centre for Women’s Justice (2022) Double Standard: Ending the unjust criminalisation of victims of violence against women and girls. 

  177. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) A whole-society approach to ending violence against women and girls: VAWG sector manifesto.; 

  178. Yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (2017) “There’s a reason we’re in trouble” - Domestic abuse as a driver to women’s offending. 

  179. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2024) Extra support for women through the criminal justice system announced. 

  180. Centre for Women’s Justice (2022) Double Standard: Ending the unjust criminalisation of victims of violence against women and girls. 

  181. Cydarolygiad Cyfiawnder Troseddol (2024) The quality of work undertaken with women : A joint inspection by HM Inspectorate of Probation and HM Inspectorate of Prisons. 

  182. Cydarolygiad Cyfiawnder Troseddol (2024) The quality of work undertaken with women : A joint inspection by HM Inspectorate of Probation and HM Inspectorate of Prisons. 

  183. Cydarolygiad Cyfiawnder Troseddol (2024) The quality of work undertaken with women : A joint inspection by HM Inspectorate of Probation and HM Inspectorate of Prisons. 

  184. Cydarolygiad Cyfiawnder Troseddol (2024) The quality of work undertaken with women : A joint inspection by HM Inspectorate of Probation and HM Inspectorate of Prisons. 

  185. Cydarolygiad Cyfiawnder Troseddol (2024) The quality of work undertaken with women : A joint inspection by HM Inspectorate of Probation and HM Inspectorate of Prisons. 

  186. Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) (2023) IOPC Public Perceptions Tracker Summary Report, Waves 6.1–6.3 

  187. Centre for Women’s Justice (2020) Super-complaint by Centre for Women’s Justice Failure to address police perpetrated domestic abuse. 

  188. Centre for Women’s Justice (2024) Police Perpetrated Domestic Abuse. Has anything really changed since the 2020 super-complaint? Executive summary. 

  189. End Violence Against Women (2023) Snapshot report 2022-23. 

  190. Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin (2023) Policing priorities: Fifth Report of Session 2022-23 

  191. Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin (2023) Policing priorities: Fifth Report of Session 2022-23 

  192. Cyfarfod bord gron gyda goroeswyr cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  193. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) Shadow Report on the Implementation of the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence (Istanbul Convention). 

  194. Advance (2024) Her Story Her Justice: Making criminal justice work for women and girl survivors of domestic abuse. 

  195. Uwch-arweinydd o sefydliad aelodaeth ail haen, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  196. Arweinydd polisi o elusen sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig arbenigol, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024). 

  197. Imkaan a Centre for Women’s Justice (2023) Life or Death? Preventing domestic homicides and suicides in Black and minoritised women. 

  198. Comisiynydd Cam-drin Domestig (2022) Clytwaith o Ddarpariaeth: Sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr. Llundain: Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. 

  199. SafeLives (2023) Insights Idva Dataset 2022-23. 

  200. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024) Domestic Abuse Commissioner’s submission to the HM Treasury Autumn Budget and Spending Review 2024. 

  201. Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024) Briefing paper on proposals for a specialist by and for funding pot. 

  202. Women’s Aid (2024) The Domestic Abuse Report 2024: The Annual Audit. 

  203. Y Sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched (2023) Shadow Report on the Implementation of the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence (Istanbul Convention).; Advance (2024) Her Story Her Justice: Making criminal justice work for women and girl survivors of domestic abuse. ; HMCPSI (2023) The service from the CPS to victims of domestic abuse ; Cymorth i Ddioddefwyr (2018) How victims and survivors of domestic abuse experience the criminal justice system. 

  204. Centre for Women’s Justice, End Violence Against Women, Imkaan, a Rape Crisis England and Wales (2020) The Decriminalisation of Rape: Why the justice system is failing rape survivors and what needs to change. 

  205. Prif Swyddog Gweithredol a chyfarwyddwr gwasanaeth cam-drin domestig yn y gymuned, cyfarfod bord gron gyda chynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig, a gynhaliwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (2024).