Policy paper

Ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig: cylch gorchwyl drafft (HTML)

Updated 15 March 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

This policy paper was withdrawn on

This document has been replaced by the final terms of reference for the UK COVID-19 Inquiry.

Bydd yr ymchwiliad yn archwilio, ystyried ac adrodd ar baratoadau a’r ymateb i’r pandemig yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hyd at ac yn cynnwys dyddiad sefydlu’r Ymchwiliad yn ffurfiol. Wrth wneud hynny, bydd yn ystyried materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig ledled y Deyrnas Unedig, yn ôl yr angen, ond bydd yn ceisio cael cyn lleied â phosibl o ddyblygu ymchwilio, casglu tystiolaeth ac adrodd gydag unrhyw ymchwiliad cyhoeddus arall a sefydlir gan y gweinyddiaethau datganoledig.

Nodau’r ymchwiliad ydy:

1. Archwilio’r ymateb i COVID-19 ac effaith y pandemig yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pharatoi adroddiad naratif ffeithiol. Yn cynnwys:

  • Mewn perthynas â gwneud penderfyniadau iechyd y cyhoedd yn ganolog, yn ddatganoledig ac yn lleol a chanlyniadau hynny:
    • parodrwydd a chydnerthedd;
    • sut cafodd penderfyniadau eu gwneud, eu cyfathrebu a’u gweithredu;
    • gwneud penderfyniadau yn rhynglywodraethol;
    • argaeledd data a thystiolaeth, a’r defnydd ohonynt;
    • rheolaeth ddeddfwriaethol a rheoleiddiol;
    • gwarchod ac amddiffyn y rhai sydd yn agored i niwed yn glinigol;
    • y defnydd o gyfyngiadau symud ac ymyriadau ‘anfferyllol’ eraill megis cadw pellter cymdeithasol a’r defnydd o orchuddion wyneb;
    • profi ac olrhain cysylltiadau, ac ynysu;
    • cyfyngiadau ar fynychu lleoliadau addysg,
    • cau ac ailagor y sectorau lletygarwch, adwerthu, chwaraeon a hamdden, a sefydliadau diwylliannol;
    • tai a digartrefedd;
    • carchardai a lleoliadau cadw eraill;
    • y system gyfiawnder;
    • mewnfudo a lloches;
    • teithio a ffiniau; a
    • diogelu cyllid cyhoeddus a rheoli risg ariannol.

  • Ymateb y sector iechyd a gofal ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:
    • parodrwydd, capasiti cychwynnol a’r gallu i gynyddu capasiti, a chydnerthedd;
    • rheoli’r pandemig mewn ysbytai, gan gynnwys atal a rheoli heintiadau, brysbennu, capasiti gofal critigol, rhyddhau cleifion, y defnydd o benderfyniadau ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’ (DNACPR), y dull o ddelio â gofal lliniarol, profi’r gweithlu, newidiadau i arolygiadau, a’r effaith ar staff a lefelau staffio;
    • rheoli’r pandemig mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill, gan cynnwys atal a rheoli heintiadau, trosglwyddo trigolion i neu o gartrefi, triniaeth a gofal i drigolion, cyfyngiadau ar ymweld, a newidiadau i arolygiadau;
    • caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol, yn cynnwys PPE a pheiriannau anadlu;
    • datblygu a chyflwyno ymyriadau therapiwtig a brechlynnau;
    • canlyniadau’r pandemig o safbwynt darpariaeth ar gyfer cyflyrau ac anghenion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID; a
    • darpariaeth ar gyfer y rhai sy’n profi COVID hir.

  • Yr ymateb economaidd i’r pandemig a’i effaith, gan gynnwys ymyriadau llywodraeth ar ffurf:
    • cefnogaeth i fusnesau a swyddi, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, cynlluniau benthyciadau, rhyddhad ardrethi busnes a grantiau;
    • cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus perthnasol; a
    • budd-daliadau a thâl salwch, a chefnogaeth i bobl agored i niwed.

2. Nodi’r gwersi i’w dysgu o’r uchod, a thrwy hynny, llywio paratoadau’r Deyrnas Unedig ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.

Wrth gyflawni’r nodau hyn, bydd yr Ymchwiliad yn:

  • gwrando ar brofiadau teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a phobl eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i’r pandemig. Er na fydd yr ymchwiliad yn ymchwilio’n fanwl i achosion unigol o niwed neu farwolaeth, bydd gwrando ar y straeon hyn yn cyfrannu at ei ddealltwriaeth o effaith y pandemig a’r ymateb, ac o’r gwersi sydd i’w dysgu;
  • tynnu sylw at sefyllfaoedd ble gallai’r gwersi a ddysgir o’r parodrwydd a’r ymateb i’r pandemig fod yn berthnasol i argyfyngau sifil eraill;
  • ystyried profiadau a’r effaith ar weithwyr y sector iechyd a gofal, a gweithwyr allweddol eraill yn ystod y pandemig;
  • ystyried unrhyw anghyfartaleddau a amlygir o safbwynt effaith y pandemig ac ymateb y wladwriaeth, gan gynnwys rhai sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chategorïau cydraddoldeb dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, fel y bo’n berthnasol;
  • rhoi sylw rhesymol i gymariaethau rhyngwladol perthnasol; a
  • paratoi ei adroddiadau (gan gynnwys adroddiadau dros dro) ac unrhyw argymhellion mewn modd amserol.