Marchnad fewnol y DU: crynodeb gweithredol
Published 16 July 2020
Rhoi’r Cefndir: Hanes ein Marchnad Fewnol
1. Daw cryfder marchnad fewnol y Deyrnas Unedig (y DU) o lwyddiant ein Hundeb, ein hadnoddau cyffredin, a dyfeisgarwch a galluoedd ein pobl. Ganrifoedd cyn inni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, cafodd marchnad fewnol y DU ei mynegiant ei hun drwy’r Deddfau Uno, gan warantu rhyddid economaidd sylfaenol i holl ddinasyddion Prydain. Ers 1973, disodlwyd yr hen reolau hyn gan gyfraith Ewrop. Ddegawdau wedyn, pleidleisiodd pobl Prydain dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (yr UE). Wrth i gyfreithiau’r UE ddod i ben, rydym unwaith eto’n cael y cyfle i fynegi rheolau canrifoedd oed y Farchnad Fewnol, gan dynnu ar y deddfau sy’n rhan annatod o’n hanes Prydeinig cyffredin.
2. Cafodd yr Undeb ei greu ym 1707 pan ddaeth Cymru a Lloegr a’r Alban yn rhan o Deyrnas Prydain Fawr a thyfodd yr Undeb ymhellach pan sefydlwyd y Deyrnas Unedig ym 1801.
3. Rhoddodd yr Undeb gyfleoedd economaidd newydd i bobl ledled y wlad newydd: tywysai porthmyn eu da byw o fryniau Cymru i’r farchnad yn Llundain. Yn sgil y diwydiannau glo a haearn roedd Cymru wrth galon y chwyldro diwydiannol a esgorodd ar ddiwydiannau a chadwyni cyflenwi a fu’n datblygu’n barhaus mewn meysydd fel cynhyrchu copr ac alcam a chadarnhau rôl Cymru fel pwerdy diwydiant Prydain yn oes Victoria. Mae greddf fasnachu gref Cymru yn dal yn amlwg heddiw. Mae bod yn rhan o Farchnad Fewnol gref ac unedig yn dal yr un mor bwysig i Gymru heddiw ag y bu erioed.
4. Un o fanteision mawr Undeb 1707 i’r Alban oedd sicrhau mynediad i farchnadoedd Lloegr yma a thros y môr, ar gyfer gwartheg a llieiniau’r Alban yn bannaf ar y pryd. Gwelodd y Ddeddf Uno hwb ar unwaith i fasnach yr Alban, drwy gysylltiadau gwell â’r Baltig a mannau eraill i fasnachwyr yr Alban. Mae adleisiau’r twf hwnnw yn atseinio hyd heddiw: ffynnodd trefi modern yn yr Alban fel Crieff a Falkirk yn wreiddiol fel marchnadoedd poblogaidd i farsiandwyr yn dilyn y cynnydd mewn masnach. Erbyn y 1720au, roedd porthladdoedd Glasgow a Clyde yn tyfu o ganlyniad i’r cynnydd mewn masnach a ddaethai’n bosibl oherwydd yr Undeb. Pan edrychwn yn ôl o safbwynt heddiw – a gweddill y DU yn bartner masnachu mwyaf yr Alban o bell ffordd – mae manteision economaidd yr Undeb wedi mwy na phasio prawf amser.
5. Mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi elwa o berthynas economaidd agos â gweddill y DU. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth Belfast i’r amlwg fel dinas ddiwydiannol fawr, yn enwog am ei diwydiannau lliain ac adeiladu llongau. Fel y rhan gyntaf o’r DU i gael profiad o ddatganoli, cafodd pwysigrwydd economaidd yr Undeb i Ogledd Iwerddon ei barchu. Er bod cytundeb Belfast (Cytundeb Gwener y Groglith) yn cydnabod y potensial ar gyfer cydweithredu rhwng y Gogledd a’r De, mae’r ddeddfwriaeth sy’n sail i setliad datganoli 1998 yn dal i gynnig amddiffyniad i’r farchnad sengl mewn nwyddau a gwasanaethau o fewn y Deyrnas Unedig. Prydain Fawr yw’r farchnad fwyaf gwerthfawr i nwyddau Gogledd Iwerddon o hyd.
Rhan 1: Ein Marchnad Fewnol ar ôl y Cyfnod Pontio
6. Ym mis Ionawr 2020 ymadawodd y DU â’r UE. Yn sgil diwedd y Cyfnod Pontio eleni, ni fydd y ffordd rydym yn rheoleiddio llafur, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn cael ei phenderfynu gan yr UE mwyach. Yn hytrach, byddwn ni yn y DU yn cael rheoleiddio’n masnach mewn nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd bwrpasol, wedi’i chynllunio’n unswydd er budd ein busnesau, ein gweithwyr a’n defnyddwyr ni, gan gynnal ein safonau rheoleiddio uchel yr un pryd.
7. Bydd y gallu hwn i benderfynu ar y ffordd orau o reoli’n masnach mewn nwyddau a gwasanaethau ym mhob rhan o’n gwlad yn allweddol o ran cynnal cydlynedd ein marchnad fewnol gyffredin – h.y. y set gyfan o gydberthnasau masnachu sy’n bodoli ledled y DU. Ar yr adeg hanesyddol hon, byddwn yn gallu rhoi sicrwydd i fyd busnes a hwyluso trosglwyddiad pwerau newydd i’r gweinyddiaethau datganoledig drwy gynnal y rheolau sy’n llywodraethu ein heconomi fewnol.
8. Ar ddiwedd eleni, bydd pwerau newydd yn trosglwyddo o’r UE i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, gan wella gallu lefelau gwahanol o lywodraeth i reoleiddio yn unol ag anghenion eu poblogaethau lleol, mewn meysydd fel amaethyddiaeth a safonau bwyd, ymysg pethau eraill. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu moment dyngedfennol i’r DU fel gwlad ddatblygu ei system reoleiddio bwrpasol ei hun â sicrwydd, sydd mor bwysig i fusnesau, dinasyddion ac economi’r DU wrth i ni ymadfer ar ôl effaith COVID-19.
Ffigur 1. Enghreifftiau o feysydd o gymhwysedd datganoledig a swm y pwerau newydd sy’n trosglwyddo i’r gweinyddiaethau datganoledig1
9. Bydd cynnal masnach esmwyth ledled y DU yn hanfodol wrth inni geisio manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy ymadael â’r UE, gan gynnwys y gallu i fynd ati’n gyflym ac yn hyblyg i ddatblygu’r rheoliadau a fydd yn gweithio orau i ddinasyddion ym mhob rhan o’r DU. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo nid yn unig i gadw safonau rheoleiddio uchel (megis lles anifeiliaid) – ond i wneud yn well na’r gwahanol amddiffyniadau a gynigir gan yr UE.
10. Mae gan ein gwlad ni hanes hir o fod â Marchnad Fewnol integredig a di-dor. Mae sicrhau gwarant o fynediad i economi’r DU ar draws pob rhan o’r DU yn dal yn amhrisiadwy i les a ffyniant ei dinasyddion, ac mae llif rhydd nwyddau a gwasanaethau yn un o’r hawliau economaidd sylfaenol y dylid eu cadw i bawb.
11. Wrth i ddylanwad cyfreithiau Marchnad Sengl yr UE edwino, bydd angen inni weithredu i wella’n pensaernïaeth bresennol er mwyn cryfhau’n Marchnad Fewnol, gan ymgorffori yn y gyfraith ddulliau newydd i sicrhau y gallwn fasnachu’n rhydd ar draws pob rhan o’r DU.
Y Papur Gwyn hwn
12. Yn y papur hwn, mae’r Llywodraeth yn cyflwyno dull i’r DU gyfan sicrhau bod y fasnach ddi-dor ar draws Marchnad Fewnol y DU yn cael ei chynnal drwy ddarparu Ymrwymiad i Fynediad i’r Farchnad i bob busnes a dinesydd ledled y DU. Drwy’r ymgynghoriad hwn, ein nod yw sicrhau bod llais y gymuned fusnes a’r gymuned randdeiliaid ehangach yn cael ei gynrychioli yn y gwaith dylunio polisi manwl.
13. Nod y Llywodraeth yw gweithredu system sy’n gweithio ochr yn ochr â phwerau datganoledig newydd ac sy’n gwarantu cysondeb ac eglurder i fusnesau a dinasyddion yr un pryd. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu deddfwriaeth newydd i ymgorffori Ymrwymiad sylfaenol i Fynediad i’r Farchnad yn y gyfraith, gan leihau costau masnach domestig, ansicrwydd i fyd busnes a biwrocratiaeth. Byddwn yn deddfu ar gyfer yr ymrwymiad sylfaenol hwn erbyn diwedd 2020, wrth i ni ddod allan o’r Cyfnod Pontio, er mwyn sicrhau bod holl fusnesau a defnyddwyr y DU yn cael eu diogelu o Ddiwrnod 1 ymlaen.
14. Bydd yr ymatebion i gwestiynau’r Papur Gwyn yn bwydo dull y Llywodraeth o ymdrin â’r ddeddfwriaeth.
Parhau â mynediad i’r farchnad â gwahaniaethau rheoleiddio
15. Fel y soniwyd yn natganiad agoriadol y Papur Gwyn hwn, un o nodweddion allweddol ein heconomi yw ei integreiddiad dwfn. Ceir tystiolaeth o hyn nid yn unig yn nibyniaeth lethol yr Alban a Gogledd Iwerddon ar fasnach ddomestig y DU, neu’r cannoedd o filoedd o gymudwyr sy’n croesi o un genedl yn y DU i’r llall bob blwyddyn. Mae ein diwydiant twristiaeth yn enghraifft yr un mor berswadiol: yn 2019, cymerodd trigolion Prydain Fawr gyfanswm o 122.8m o deithiau dros nos i gyrchfannau yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Roedd hyn yn gyfystyr â 371.8m o nosweithiau a gwariwyd £24.7bn yn ystod y teithiau hyn2.
Ffigur 2. Cymudo ar draws rhanbarthau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr3
Cyfieithu
16. Wrth i bwerau rheoleiddio’r UE edwino, mae yna berygl y bydd rhwystrau rheoleiddiol yn dod i’r amlwg. Byddai’r rhain yn dod â risgiau nid yn unig i economi ehangach y DU, ond hefyd i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unigol. Mae unrhyw ostyngiad yn CMC Cymru a’r Alban yn debygol o fod yn bedair a phum gwaith yn fwy, yn y drefn honno, na’r golled yn CMC cyffredinol y DU, o gofio’u lefel uchel o integreiddio â gweddill y DU.
17. Heb strwythur marchnad cyfoes a chydlynol, gallai rhwystrau economaidd atal neu lesteirio masnach mewn nwyddau ledled y DU, a gallai effeithio’n sylweddol ac yn andwyol ar wasanaethau. Gallai cymhlethdodau mewn sectorau allweddol fel adeiladu godi, pe bai gwahaniaethau mewn rheoliadau yn dod i’r amlwg dros amser. Pe bai Lloegr a’r Alban yn wahanol yn eu hymagwedd at reoliadau adeiladu neu brosesau ar gyfer sicrhau trwyddedau adeiladu, byddai’n raddol yn mynd gryn dipyn yn anos i gwmnïau adeiladu ddylunio a chynllunio prosiectau’n effeithiol ledled y DU. At hynny, gallai dulliau gwahanol o reoleiddio gweithwyr adeiladu proffesiynol, fel cymwysterau gwahanol i blymwyr a thechnegwyr, gyfyngu ar fynediad i weithwyr adeiladu medrus, a’i gwneud yn anos i gwmnïau adeiladu’r Alban wneud cais am gontractau yn Lloegr
18. Hyd yn oed mewn meysydd lle nad oes pwerau penodol yn dychwelyd, gallai absenoldeb rheolau’r UE ei gwneud yn haws i rwystrau newydd godi. Gallai hyn gynnwys meysydd o weithgarwch economaidd sylweddol yn y dyfodol, a phroffesiynau a chynhyrchion newydd sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ysgogi arweinyddiaeth wyddonol a thechnolegol y DU. Er enghraifft, pe bai cymwysterau gwahanol neu reoliadau eraill i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn dod i’r amlwg yng Nghymru a Lloegr, gallai hynny atal gweithwyr rhag cymhwyso ar gyfer y farchnad lai yng Nghymru, gan gyfyngu ar dwf a buddsoddiadau yno. Gallai hyn hefyd gynyddu’r costau i gwmnïau sy’n dymuno cyflogi gweithwyr o’r fath ledled y DU a lleihau atyniad byd-eang y DU i fuddsoddiadau tramor mewn technolegau newydd.
19. Gallai’r costau uchod hefyd gyrraedd defnyddwyr yn y pen draw, gan gynyddu prisiau, neu leihau dewis. Mae’n amlwg felly y gallai rhwystrau economaidd arwyddocaol, a’r rheiny heb eu rheoli, ledled y DU beri niwed difrifol i fuddiannau’n busnesau a’n defnyddwyr, a hefyd fygwth ffyniant economi’r DU yn ei gyfanrwydd.
Fframweithiau Cyffredin
20. Mae Llywodraeth y DU eisoes yn ymgymryd â phroses i gytuno ar ymagwedd gyffredin gyda’r gweinyddiaethau datganoledig fel rhan o’i gweledigaeth ar gyfer Marchnad Fewnol y DU. Rhaglen y Fframweithiau Cyffredin yw’r mecanwaith sydd fwyaf datblygedig i fynd i’r afael â chydlynedd rheoleiddiol. Mae Fframweithiau Cyffredin wedi’u bwriadu i helpu’r Farchnad Fewnol i weithredu, i reoli adnoddau cyffredin a gallu’r DU i drafod, gwneud a dilysu cytundebau masnach a chytundebau rhyngwladol eraill.
21. Nod Fframweithiau Cyffredin yw diogelu Marchnad Fewnol y DU drwy ddarparu lefelau uchel o gydlynedd rheoleiddiol mewn meysydd polisi penodol drwy gydweithio’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig i reoli gwaith rheoleiddio. Maent yn gwneud hyn drwy alluogi’r swyddogion i gydweithio i bennu a chynnal safonau rheoleiddio uchel. Er hynny, nid yw Fframweithiau ar eu pen eu hunain yn gallu gwarantu cyfanrwydd y Farchnad Fewnol i gyd. Gan eu bod yn tueddu i fod yn benodol i’r sector, nid ydynt yn mynd i’r afael â rheoleiddio’r economi yn ei gyfanrwydd nac effeithiau cronnol ymwahanu, h.y. canlyniadau gwahaniaethau mewn rheoliadau mewn un sector sy’n effeithio ar sectorau eraill. Yn olaf, nid ydynt yn mynd i’r afael yn llawn â’r ffordd orau i ddisodli dylanwad ecosystem ehangach yr UE o sefydliadau a hawliau cytundeb ar farchnad fewnol y DU.
22. Mae deddfwriaeth Marchnad Fewnol y DU a drafodir yn y Papur Gwyn hwn yn ategu Fframweithiau drwy ddarparu lefel sylfaenol o gydlynedd rheoleiddiol ar draws ystod ehangach o sectorau. Mae hyn yn golygu y bydd y meysydd sydd heb Fframwaith Cyffredin yn dal i gael budd o gydlynedd rheoleiddiol lefel-isel. Yn hanfodol ddigon, darperir cydlynedd marchnad ar gyfer materion sy’n ymwneud â fframweithiau sy’n canolbwyntio ar sectorau unigol.
Rhychwant
23. Er mwyn rhoi sicrwydd i ddinasyddion a busnesau’r DU, bydd yr Ymrwymiad i Fynediad i’r Farchnad yn rhychwantu economi’r DU ar draws nwyddau a gwasanaethau. Bydd meysydd penodol y tu allan i’r rhychwant gan gynnwys, er enghraifft, polisi cyllid ac arian, a rheoleiddio eiddo deallusol. Ni fydd trethiant a gwariant, a ddisgrifir yn y fframweithiau cyllid, yn cael eu cynnwys ychwaith. Bydd rhai mesurau polisi cymdeithasol sydd heb fawr o effaith ar y Farchnad Fewnol, a gwahaniaethau a pholisïau a oedd yn bodoli’n barod, yn cael eu hepgor hefyd. Bydd gwaith monitro parhaus yn asesu effaith gwahaniaethau lleol, er enghraifft rhwng Awdurdodau Cyfun yn Lloegr.
Amcanion allweddol
24. Blaenoriaeth y Llywodraeth wrth ddatblygu’r cynigion hyn yw diogelu cyfleoedd i fusnesau, defnyddwyr, gweithwyr a’r trydydd sector ym mhob rhan o’r DU. Mae’r Llywodraeth yn gwerthfawrogi egwyddor datganoli ac yn credu bod ymadawiad y DU â’r UE yn cynnig cyfle i ategu’r setliadau datganoli, gan barhau â gwaith hynod lwyddiannus Marchnad Fewnol y DU hefyd.
25. Fel y nodwyd uchod, caiff system Marchnad Fewnol y DU ei gyrru felly gan y tri amcan polisi cyffredinol a ganlyn:
a) parhau i sicrhau cyfleoedd economaidd ar draws y DU
b) parhau i fod yn gystadleuol a galluogi dinasyddion ledled y DU i fod mewn amgylchedd sydd y lle gorau yn y byd i wneud busnes
c) parhau i ddarparu ar gyfer lles, ffyniant, a diogelwch economaidd cyffredinol ein holl ddinasyddion.
26. Ategir yr amcanion hyn gan y tri nod ategol a ganlyn:
a) parhau â masnach esmwyth rhwng pob rhan o’r DU
b) parhau i gystadlu’n deg ac atal gwahaniaethu
c) parhau i ddiogelu busnes, defnyddwyr a’r gymdeithas sifil drwy eu cynnwys yn y broses o ddatblygu’r farchnad
27. Yn olaf, bydd Marchnad Fewnol y DU hefyd yn dilyn dwy brif reol dylunio:
a) meithrin cydweithrediad a deialog
b) meithrin ymddiriedaeth gyda busnes a pharhau’n agored
Sail ddeddfwriaethol i Farchnad Fewnol y DU
28. Bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn ymrwymo, i bob dinesydd a busnes, i fynediad am ddim i’r gweithgarwch economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn sicrhau mynediad parhaus i’r farchnad ledled y DU, a hynny drwy egwyddorion cyd-gydnabod a pheidio â gwahaniaethu. Heb sail ddeddfwriaethol o’r fath, gallai rhwystrau rheoleiddiol diangen ddod i’r amlwg rhwng gwahanol rannau’r DU. Mae ar fusnesau angen sicrwydd ac eglurder er mwyn gweithredu’n esmwyth ledled y DU a hybu buddsoddiadau, a dim ond y pecyn hwn o ymyriadau a ymgorfforir yn y gyfraith sy’n gallu cyflawni’r amcan hwn yn llawn. Yn niffyg darpariaeth gyfreithiol benodol ar gyfer y Farchnad Fewnol, ni fydd gan lysoedd sy’n gwrando busnesau yn ceisio profi eu hawliau ganllawiau clir am fwriadau’r llywodraethau.
29. Nod y Llywodraeth yw sicrhau bod y sail ddeddfwriaethol hon yn gweithredu ar sail y DU gyfan, gan gymryd i ystyriaeth y rhwymedigaethau sy’n gymwys o dan brotocol Gogledd Iwerddon (y nodwyd ein hymagwedd ato yn y Papur Gorchymyn, The UK’s approach to the Northern Ireland Protocol4). Un rhan ganolog o’r ymagwedd honno fydd deddfu i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i farchnad y DU i Ogledd Iwerddon erbyn diwedd eleni, gan adlewyrchu lle hanfodol Gogledd Iwerddon yn y Farchnad Fewnol a’r diriogaeth dollau.
30. Bydd y mesurau hyn yn diogelu cyfanrwydd Marchnad Fewnol y DU yn barhaus. Bydd y Llywodraeth yn ceisio adeiladu ar y cynseiliau i sicrhau ein bod yn parhau â’r mecanweithiau mwyaf effeithiol i gyflawni’r amcan hwnnw. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth eang o fanteision Marchnad Fewnol y DU fel rhan annatod o’n hundeb. Yn y Papur Gwyn hwn, rydym yn gwahodd syniadau ar y ffordd orau i sicrhau bod y neges hon yn cael ei chyfleu’n effeithiol.
Cynnal safonau uchel
31. Bydd safonau eithriadol uchel y DU yn sail i waith y Farchnad Fewnol, er mwyn diogelu defnyddwyr a gweithwyr ledled yr economi. Nid yw’r safonau uchel hyn yn dibynnu ar aelodaeth o’r UE nac ar yr hyn y cytunir arno mewn Cytundebau Masnach Rydd y byddwn yn eu llofnodi gyda gwledydd eraill. Safonau domestig yw’r rhain. Mewn llawer o achosion, mae’r DU naill ai’n mynd ymhellach na safonau’r UE neu hi yw’r ysgogydd cyntaf i wella safonau cyn yr UE. Byddwn yn parhau â’r safbwynt hwn sy’n arwain y byd wrth inni symud ymlaen.
32. O dan ymagwedd arfaethedig y Llywodraeth, byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cadw’r hawl i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig sydd ganddynt ar hyn o bryd. Byddai arloesedd deddfwriaethol yn dal yn nodwedd ganolog – ac yn gryfder – yn ein hundeb. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’r pŵer hwn i arloesi yn arwain at unrhyw bryder ynghylch y posibilrwydd o ostwng safonau – drwy weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig drwy’r rhaglen Fframweithiau Cyffredin a thrwy barhau i gynnal ein hymrwymiad ein hunain i’r safonau uchaf posibl.
33. Mae gan y DU rai o’r safonau uchaf yn y byd ar nwyddau. Mae’r rheolau ar gyfer cynhyrchion heblaw bwyd, sydd ran amlaf yn gymwys ledled y DU, eisoes yn golygu bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag y risgiau a achosir gan nwyddau peryglus neu ddiffygiol. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys rheolau sy’n sicrhau:
- bod nwyddau electronig i ddefnyddwyr fel ffonau symudol, gliniaduron a thabledi yn ddiogel i’w defnyddio
- nad yw colur yn cynnwys cynhwysion peryglus
- nad yw teganau yn creu perygl o dagu
34. Mae gan y DU hefyd rai o’r safonau mwyaf cadarn ar fwyd, gyda safonau ar fwyd, iechyd a lles anifeiliaid sy’n arwain y byd. Ni fyddwn yn gostwng ein safonau nac yn peryglu bioddiogelwch y DU wrth inni drafod cytundebau masnach newydd. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i hybu safonau bwyd cadarn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddiogelu buddiannau defnyddwyr, ac i sicrhau y gall defnyddwyr hyderu yn y bwyd y maent yn ei brynu. Byddwn yn parhau i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion, a’r amgylchedd ac yn dal i gydweithredu â rhanddeiliaid ar draws y pedair gwlad drwy gyrff fel y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.
35. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i gynnal ein safonau y tu allan i’r UE a bydd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn trosglwyddo darpariaethau presennol yr UE ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys y gofynion mewnforio presennol, i’r llyfr statudau. Mae’r safonau mewnforio hyn yn cynnwys gwahardd defnyddio hormonau twf artiffisial mewn cynhyrchion domestig a chynhyrchion wedi’u mewnforio ac yn nodi nad oes dim cynhyrchion, heblaw dŵr yfed, wedi’u cymeradwyo i ddadhalogi carcasau dofednod. Byddai unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelwch bwyd yn gofyn am gyflwyno deddfwriaeth newydd gerbron y Senedd hon a’r deddfwrfeydd datganoledig.
36. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Food Standards Scotland yn dal i sicrhau bod yr holl fewnforion bwyd yn cydymffurfio â safonau diogelwch uchel y DU a bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag bwyd anniogel. Law yn llaw â hyn, bydd y DU yn ailberchnogi swyddogaethau archwilio ac arolygu a gyflawnir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd i sicrhau bod partneriaid masnachu yn parhau i fodloni’n hamodau mewnforio o safbwynt diogelwch bwyd a phorthiant, iechyd anifeiliaid a phlanhigion a lles anifeiliaid.
37. Mae gan y DU hanes balch fel arweinydd mewn iechyd a diogelwch yn y gweithle, ac mewn llawer o achosion mae’n mynd ymhellach na gofynion cyfraith yr UE. Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (gyda deddfwriaeth gyfochrog yng Ngogledd Iwerddon), a ddatblygwyd yn annibynnol ar yr UE, yn gosod dyletswyddau cyffredinol ar gyflogwyr i sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl weithwyr yn y gwaith. Mae busnesau yn y DU yn debycach o fod â pholisi iechyd a diogelwch, ac o ddilyn hyn gydag asesiad risg ffurfiol, nag aelod-wladwriaethau’r UE. Mae gennym un o’r hanesion iechyd a diogelwch mwyaf llwyddiannus yn y byd, ac rydym yn perfformio’n dda yn gyson o’n cymharu â chyfartaledd yr UE ar ganlyniadau allweddol mewn iechyd a diogelwch.
38. Mae’r DU wedi arwain ar hawliau gweithwyr. Mae’r DU yn cynnig blwyddyn o absenoldeb mamolaeth gyda’r opsiwn o’i drosi’n absenoldeb rhiant er mwyn galluogi rhieni i rannu gofal; dim ond 14 wythnos yw isafswm yr UE. Cyflwynodd y DU ddwy wythnos o absenoldeb tadolaeth â thâl yn 2002; dim ond yn ddiweddar y deddfodd yr UE ar gyfer hyn. Mae’r DU yn caniatáu i rieni cymwys rannu absenoldeb â thâl – ac felly cyfrifoldebau gofalu – yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i blentyn gael ei eni neu ei fabwysiadu; nid yw’r UE yn darparu ar gyfer yr hawl hon. Cyflwynodd y DU yr hawl i weithio’n hyblyg ar ddechrau 2000 – dim ond nawr y mae’r UE yn dal i fyny. Mae hyn yn gymwys i bob cyflogai yn y DU: cytunodd yr UE ar reolau y llynedd a fydd yn cynnig yr hawl i rieni a gofalwyr yn unig. Gwaharddodd y DU gymalau cyfyngol mewn contractau dim oriau yn 2015; dim ond yn 2019 y cytunwyd ar reolau cyfatebol yn yr UE.
39. Mae gan y DU gyfundrefn gystadleuaeth o’r radd flaenaf ar ffurf yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Mae hwn yn annibynnol ar safonau’r UE, ar ôl mabwysiadu mesurau cadarn o’i wirfodd yn Neddf Cystadleuaeth 1998 a Deddf Menter 2002, ac mae cyfundrefn y DU eisoes yn rhagori ar drefn yr UE mewn mannau. Y DU yw’r unig wlad yn Ewrop y gall ei hawdurdod cystadlu orfodi atebion strwythurol ac ymddygiadol y gellir eu gorfodi yn dilyn ymchwiliad i’r farchnad. Mae’r pwerau hyn yn mynd y tu hwnt i Reoliad 1/2003, lle mae’r UE yn cael ei bwerau ar gyfer ymchwiliadau yn y sector. Mae gan y DU gosbau troseddol hefyd i gartelau a phwerau i anghymhwyso cyfarwyddwyr, nad ydyn nhw ar gael yn y Comisiwn Ewropeaidd na’r rhan fwyaf o’r aelod-wladwriaethau.
40. Mae gan y DU drefn gadarn a blaengar ar gyfer diogelu defnyddwyr. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r DU wedi bod yn ddylanwadol o ran gwrthsefyll cysoniad yng nghyfraith yr UE a fyddai wedi lleihau’r safonau hyn. Mae’r DU wedi negodi’n llwyddiannus i barhau ag amddiffyniadau blaenllaw i gadw hyder defnyddwyr mewn meysydd fel nwyddau diffygiol a llwyfannau tocynnau ar-lein. Gan weithio ochr yn ochr â’r CMA, yr amcanion ar gyfer polisi rhyngwladol yw adeiladu a datblygu cydweithrediad ym maes rhyngwladol gorfodaeth defnyddwyr lle bo modd. Y DU oedd yr Aelod-wladwriaeth gyntaf i ddatblygu system diogelu defnyddwyr ar gyfer prynu cynnwys digidol, sef dull y mae’r UE wedi’i fabwysiadu erbyn hyn. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r Aelod-wladwriaethau, mae’r DU yn nodedig am roi hawl i ddefnyddwyr gael ad-daliad ar unwaith os yw nwyddau’n ddiffygiol.
41. Y DU oedd yr economi mawr cyntaf yn y byd i osod targed cyfreithiol rwymol i sicrhau dim allyriadau nwyon tŷ gwydr net o bob rhan o’r economi erbyn 2050. Mae’r DU yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac ni fydd cytundebau masnach rydd yn y dyfodol yn rhwystro hyn. Mae’n fframwaith arloesol o gyllidebau carbon a sefydlwyd o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 yn sicrhau cynnydd parhaus tuag at ein targedau lleihau allyriadau. Rydym yn ceisio cynyddu’r uchelgais o dan Gytundeb Paris drwy’r broses o ddiwygio NDCs. A ninnau’n dod yn Llywydd COP26 mewn partneriaeth â’r Eidal, byddwn yn dal i weithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i gyflawni’r uchelgais cynyddol y mae ei hangen i gyflawni amcanion Cytundeb Paris.
42. Mae gan y DU safonau amgylcheddol sy’n arwain y byd. Yn y Mynegai Perfformiad Amgylcheddol, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Brifysgolion Yale a Columbia mewn cydweithrediad â Fforwm Economaidd y Byd, gosodwyd y DU yn y 10 uchaf o 180 o wledydd yn 2018. Mae’r DU wedi bod yn gyflym i gymryd camau yn erbyn plastig untro, gyda gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, troellwyr diodydd a ffyn cotwm yn dod i rym ym mis Hydref 2020, bron blwyddyn cyn amserlen yr UE ei hun, sef Gorffennaf 2021. Cafodd Strategaeth Aer Glân y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019, ei chanmol gan Sefydliad Iechyd y Byd fel “enghraifft i weddill y byd ei dilyn”, gan osod nodau uchelgeisiol newydd i leihau amlygiad y cyhoedd i lygredd gronynnol ar sail targedau llym.
43. Mae safonau amgylcheddol y DU mewn llawer o feysydd yn rhagori ar safonau’r UE. Mae’r DU wrthi’n cyflwyno un o waharddiadau llymaf y byd i amddiffyn eliffantod rhag potsio, a chafodd ein deddfwriaeth ni ei mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2018, sef yr un flwyddyn ag y dechreuodd yr UE ymgynghori ar dynhau’r cyfyngiadau er nad yw wedi deddfu ar y mater hwn eto, er gwaethaf pwysau gan y rhanddeiliaid. Mae’r DU yn arwain y gad o ran diogelu’r môr, gan arwain y fenter ‘30 erbyn 30’ i sicrhau bod o leiaf 30% o’r cefnfor byd-eang yn cael ei warchod erbyn 2030: mae hyn yn gyfystyr â threblu’r targed presennol. Bydd Cynghrair y Cefnfor Byd-eang o dan arweiniad y DU yn galw am fabwysiadu’r uchelgais hwn yn y Confensiwn nesaf ar Amrywiaeth Biolegol yn Tsieina. Daeth gwaharddiad y DU ar feicrobelenni i rym ym mis Ionawr 2018, sef cam nodedig yn y broses o gyflwyno un o waharddiadau llymaf y byd ar y darnau niweidiol hyn o blastig. Wnaeth yr UE ddim symud i gyflwyno gwaharddiad cyfatebol tan 2019.
44. Wrth gynnal y lefelau gwarchodaeth uchel hyn, rydym hefyd yn meithrin y gallu i’w hadolygu fel y gallant gyd-fynd â’r arferion gorau a, lle bo’n briodol, eu symleiddio i helpu busnesau i gydymffurfio.
Masnach ryngwladol
45. Bydd sicrhau bod y DU yn dal yn economi gydlynol ac integredig yn allweddol i feithrin yr holl gyfleoedd mewn masnach. Bydd system sy’n cyflawni’r nod ar draws y DU gyfan yn helpu i ddatblygu a gweithredu cytundebau masnach uchelgeisiol a all gynnig manteision i fusnesau a dinasyddion ledled y DU. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod pob cwr o’r DU yn fwy deniadol i fuddsoddiadau tramor ac yn meithrin hyder yn ein partneriaid masnach nawr ac yn y dyfodol. Bydd helpu busnesau i ffynnu yn cefnogi allforion y DU, ac yn galluogi cwmnïau i fod yn fwy cystadleuol, gan roi hwb i enw da’r DU mewn masnach ledled y byd. Gan hynny, bydd system Marchnad Fewnol sy’n gweithio’n dda, wedi’i theilwra at fuddiannau busnesau ledled y DU, yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi’n huchelgais hirdymor mewn masnach fyd-eang, gan sicrhau bod y DU yn ei chyfanrwydd yn gallu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.
Sicrhau buddsoddiadau
46. Bydd y Llywodraeth yn sicrhau, lle mae trefi a dinasoedd wedi cael eu gadael ar ôl o’r blaen, y byddant yn gallu elwa ar fentrau’r Llywodraeth ledled y DU megis gwarchod Marchnad Fewnol y DU, fel rhan o’r agenda o unioni lefelau ac ymadfer ar ôl y Coronafeirws. Bydd y pecyn hwn o fesurau yn ein helpu i gyflawni’n huchelgais o sicrhau bod ein heconomi ddatblygedig yn cynnig manteision ac yn rhoi cyfleoedd i fusnesau a dinasyddion ledled y DU.
47. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried pa bwerau gwario y mae arni eu hangen i wella Marchnad Fewnol y DU, i helpu pobl a busnesau ym mhob gwlad i fanteisio arni, ac i ddatblygu ei huchelgais i unioni lefelau ym mhob rhan o’r DU. Wrth arfer unrhyw bwerau newydd o’r fath, bydd y Llywodraeth yn darparu arian yn deg ar draws y gwledydd
Rhan 2: Cyd-gydnabod a pheidio â gwahaniaethu
48. Seilir y ddeddfwriaeth arfaethedig ar egwyddorion cyd-gydnabod a pheidio â gwahaniaethu, a bydd yn gymwys ar draws nwyddau a gwasanaethau. Ochr yn ochr ag elfennau eraill megis Fframweithiau Cyffredin, bydd yr egwyddorion hyn yn sicrhau bod Marchnad Fewnol y DU yn gweithio i bawb.
49. Nod sylfaenol pob system gyd-gydnabod yw sicrhau bod cydymffurfio â rheoliadau mewn unrhyw un diriogaeth yn cael ei chydnabod fel cydymffurfio yn y llall neu’r lleill. Er enghraifft, os gall nwydd a gynhyrchir yn yr Alban, sy’n glynu at reoliadau labelu’r Alban, gael ei osod ar farchnad yr Alban, mae’n gallu cael ei roi hefyd ar y marchnadoedd yng Nghymru a Lloegr heb fod angen cydymffurfio â gofynion Cymru neu Loegr hefyd.
50. Serch hynny, ni fydd cyd-gydnabyddiaeth yn briodol nac yn bosibl ym mhob maes. O fewn system gyd-gydnabod, fe fydd “eithriadau”. Bydd y rhain yn cyfeirio at feysydd sydd y tu allan i rychwant y system pan ddaw honno i rym. Mae hyn wedi bod yn nodwedd o Farchnad Fewnol y DU ers 1707 (megis systemau cyfreithiol). Bydd angen cytuno ar unrhyw eithriadau ar y dechrau ac ni fydd disgwyl i’r rhain newid yn gyffredinol. Os bydd Llywodraeth y DU neu un o’r gweinyddiaethau datganoledig yn cyflwyno rheoliadau sy’n syrthio o fewn eithriad, yna ni fydd y system gyd-gydnabod yn gymwys, megis mewn trethiant a gwariant, y meysydd sydd wedi’u cadw’n ôl ar hyn o bryd, neu bolisïau cymdeithasol sydd heb fawr o effaith ar y Farchnad Fewnol.
51. Bydd y system gyd-gydnabod yn cael ei chyfuno â’r egwyddor o beidio â gwahaniaethu. Bydd hyn yn diogelu busnesau, gweithwyr a defnyddwyr rhag gwahaniaethu drwy sicrhau bod rhaid i awdurdod reoleiddio mewn ffordd sy’n osgoi triniaeth wahaniaethol ac anffafriol i nwyddau neu wasanaethau sy’n tarddu o ran arall o’r DU o’i chymharu â’r driniaeth a gynigir i’w nwyddau neu ei gwasanaethau ei hun. Bydd yr egwyddor o beidio â gwahaniaethu yn canolbwyntio ar sicrhau bod unrhyw rwystrau gwahaniaethol yn cael sylw (e.e. rheoleiddio yn erbyn nwyddau o wlad benodol o fewn y DU), tra bydd cyd-gydnabyddiaeth yn ceisio lleihau’r baich rheoleiddiol cyffredinol y gallai busnes ei wynebu o ganlyniad i amrywiaeth mewn rheoliadau sy’n effeithio ar nwyddau a gwasanaethau. Barn y Llywodraeth yw y dylid gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol; mae hi hefyd yn ceisio barn ar sut i ddeddfu ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol. Nodir y ddau ddiffiniad priodol o wahaniaethu yn Rhan 2 isod.
Rhan 3: Llywodraethu, cyngor annibynnol, a monitro
52. Bydd angen i drefniadau rhwng y llywodraethau gael eu hymestyn i gyfrif am ddeddfwriaeth y Farchnad Fewnol a byddwn yn cefnogi’r trefniadau hyn â dwy swyddogaeth a gyflawnir yn annibynnol.
53. Bydd y swyddogaeth gyntaf yn darparu gwaith cyson i fonitro ac adrodd ar iechyd Marchnad Fewnol y DU wrth iddi ddatblygu. Bydd hyn yn cynnwys monitro’r effeithiau cronnol ar draws sectorau neu ranbarthau a gwylio’r gorwel i chwilio am dueddiadau sy’n dod i’r amlwg.
54. Yr ail swyddogaeth yw sefydlu rhyngwyneb ar-lein fel y gellir gwahodd barn busnesau, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr yn uniongyrchol a mynd ati i’w chasglu er mwyn cryfhau’r gronfa dystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer cynghori a monitro annibynnol.
Rhan 4: Rheoli cymorthdaliadau
55. Mae cymorthdaliadau yn cyfeirio at gymorth (mewn arian neu mewn da) o unrhyw lefel o lywodraeth i fusnesau dethol. O ganlyniad i’n haelodaeth o’r UE, rydym wedi bod o dan reolau’r UE ar gymorth gwladwriaethol, sy’n cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’n bwysig ein bod yn parhau â dull cydgysylltiedig o weithredu o ran y ffordd rydym yn cefnogi busnesau ledled y DU.
56. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i bennu sut y dylai cymorthdaliadau gael eu rhoi mewn ffordd gydlynol ledled y DU sy’n diogelu cydlynedd y farchnad fewnol, ac ar yr un pryd yn sicrhau y gall y gweinyddiaethau datganoledig barhau i reoli eu penderfyniadau gwariant unigol eu hunain o fewn y system hon. O gofio bod y rheolau ynglŷn â rhoi cymhorthdal i fusnesau’n fater lle mae dull unffurf yn allweddol ar gyfer ein gallu i barhau’n economi cystadleuol, barn y Llywodraeth yw y dylai hyn gael ei gadw’n ôl (neu ei eithrio, yn achos Gogledd Iwerddon5). Er nad ymdrinnir â hyn yn y papur hwn, mae’n bwysig galluogi’r Llywodraeth i ddeddfu ar gyfer un gyfundrefn unedig ar gyfer rheoli cymorthdaliadau, pe bai’n penderfynu gwneud hynny.
Rhan 5: Casgliadau
57. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd a chysondeb i fusnesau a defnyddwyr. Ar adeg o ansicrwydd economaidd mawr o ganlyniad i COVID-19, bydd darparu sefydlogrwydd yn allweddol i hybu buddsoddiadau ar draws y Farchnad Fewnol, gan helpu i sicrhau bod adferiad y DU mor gryf ac mor gyflym â phosibl. Bydd hyn yn cynnal ein ffyniant cyffredin fel Undeb gan ein galluogi i ffynnu fel cenedl annibynnol y tu allan i’r UE.
-
Nid yw’r rhestr o feysydd datganoledig yma yn gynhwysfawr. Dylid nodi hefyd fod pob setliad datganoli yn unigryw ac y gall y gwahaniaeth rhwng pwerau a gadwyd a phwerau datganoledig fod yn gymhleth. Er enghraifft, gellir datganoli/trosglwyddo meysydd polisi i un genedl ond nid i eraill, a gellir cadw/eithrio elfennau o un polisi tra bo eraill wedi’u datganoli/wedi’utrosglwyddo. I gael niferoedd y pwerau newydd sy’n arferadwy gan bob deddfwrfa ddatganoledig, gweler Revised Frameworks Analysis: Breakdown of areas of EU law that intersect with devolved competence in Scotland, Wales and Northern Ireland, Ebrill 2019 ↩
-
VisitBritain, Great Britain Domestic Overnight Trips Summary – All Trip Purposes, 2019, ↩
-
SYG, Cyfrifiad 2011 ↩
-
The UK’s approach to the Northern Ireland Protocol, (Mai 2020) ↩
-
Mae datganoli yng Nghymru a’r Alban wedi’i rannu rhwng materion a gadwyd yn ôl (lle gall Llywodraeth y DU ddeddfu) a materion datganoledig (lle gall y gweinyddiaethau ddeddfu). Mae gan ddatganoli Gogledd Iwerddon derminoleg wahanol ac mae’n ymrannu’n dri maes: 1) materion a drosglwyddwyd – lle mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon bwerau deddfu llawn; 2) materion a eithriwyd – lle mae Llywodraeth y DU yn cadw’r cyfrifoldeb deddfwriaethol; a 3) materion a gadwyd yn ôl – lle Llywodraeth y DU yw’r awdurdod deddfwriaethol yn gyffredinol, ond y gall Cynulliad Gogledd Iwerddon ddeddfu gyda chydsyniad priodol yr Ysgrifennydd Gwladol. Safbwynt y Llywodraeth yw y dylai rheolaeth cymorthdaliadau gael ei heithrio yng Ngogledd Iwerddon. ↩