Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws

Diweddarwyd 1 August 2022

Mae’r Prosbectws hwn yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ledled y Deyrnas Unedig am:

Rhan 1

  • Nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Beth i ddefnyddio’r arian ar ei gyfer
  • Y cyllid y bydd lleoedd yn ei dderbyn
  • Sut i gyflwyno’r Gronfa
  • Proses y cynllun buddsoddi

Rhan 2

  • Paramedrau’r Gronfa
  • Sut byddwn ni’n talu bob lle neu brosiect
  • Sut byddwn ni’n gweithio gyda phob lle i fesur effaith

Mae’n adeiladu ar ganllawiau cyn lansio a gyhoeddwyd yn Chwefror 2022.

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni am unrhyw ran o gynnwys y canllawiau hyn neu drwy dîm ardal yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer eich lle chi.

Dyddiadau pwysig

Lansio’r Gronfa: 13 Ebrill 2022 Ffenestr cyflwyno cynlluniau buddsoddi: 30 Mehefin 2022 i 1 Awst 2022 Disgwylir taliadau cyntaf i awdurdodau lleol arweiniol: o Hydref 2022 Cyfnod ariannu: Ebrill 2022 i Fawrth 2025

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys llinell amser fanylach, wedi’i chynnwys yn adran 10.

Rhagair y Gweinidog

Mae cenhadaeth ganolog y llywodraeth hon i hybu ffyniant bro ledled y Deyrnas Unedig yn ymwneud â llawer o bethau.

Mae’n ymwneud â sicrhau’r un cyfle a hybu ffyniant, a goresgyn anghydraddoldebau daearyddol dwfn sydd wedi’n dal ni yn ôl yn rhy hir.

Mae hefyd, yn y bôn, yn ymwneud â sicrhau’r un balchder gan bobl yn y lleoedd y maent yn eu caru, a gweld hynny cael ei adlewyrchu’n ôl mewn arweinwyr a chymunedau lleol wedi’u grymuso, adeiladwaith cymdeithasol cryfach a chyfleoedd bywyd gwell.

Dyma yw ein gweledigaeth a’n huchelgais ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd y DU (UKSPF) gwerth £2.6 biliwn, sy’n olynu hen gronfeydd strwythurol y DU. Bydd yr arian hwn yn mynd yn syth i leoedd lleol, ledled Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i’w fuddsoddi mewn tair blaenoriaeth leol; cymunedau a lle, cymorth i fusnesau lleol a phobl a sgiliau.

Mae gan bob lle ei heriau, ac yn aml mae cyfoeth ac amddifadedd yn cydfodoli. I gydnabod hyn, mae’r UKSPF yn ffrwd gyllido rhagfynegol hirdymor y mae arweinwyr lleol yn rhydd i’w defnyddio fel y gwelant yn dda er mwyn rhyddhau eu potensial unigryw. Gallant ganolbwyntio ar beth sy’n gweithio orau i’w cymunedau, gan gynnwys mewn cyfuniadau newydd ac arloesol, yn rhydd o lyffetheiriau blaenorol yr UE.

Mae hon yn ymagwedd newydd at fuddsoddi a grymuso cymunedau lleol yr wyf yn hyderus y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad ac yn newid bywydau. Y cam nesaf yw i bob lle weithio gyda’r sector preifat, y gymdeithas sifil ac eraill, yn ogystal â’r gweinyddiaethau datganoledig yn yr Albaen, Cymru a Gogledd Iwerddon i ddatblygu cynllun lleol. Dylai hwn amlinellu sut byddant yn targedu’u cyllid at flaenoriaethau lleol, yn erbyn nodau y gellir eu mesur. Pan fydd hyn ar waith, gallant ddatgloi tair blynedd o buddsoddiad yr UKSPF.

Rwy’n teimlo’n gyffrous i weld y dewisiadau creadigol ac uchelgeisiol y mae cymunedau’n eu gwneud wrth iddynt hybu ffyniant bro a chymryd rheolaeth dros eu tynghedau. Ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag arweinwyr a chymunedau ledled y DU i sicrhau eu bod yn llwyddo.

Rhan 1

1. Cyflwyniad

1.1 Beth yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF neu’r Gronfa) yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro uchelgeisiol llywodraeth y DU, ac yn elfen arwyddocaol o’i chymorth ar gyfer lleoedd ledled y DU. Mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025, gyda holl ardaloedd y DU yn derbyn dyraniad o’r Gronfa drwy fformiwla gyllido yn hytrach na chystadleuaeth. Bydd yn helpu lleoedd ledled y wlad i gyflawni deilliannau gwell, ac mae’n cydnabod bod hyd yn oed y rhannau mwyaf cyfoethog o’r DU yn cynnwys pocedi o amddifadedd a bod angen cymorth arnynt.

Mae’n bachu ar y cyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, drwy fuddsoddi mewn blaenoriaethau domestig a thargedu cyllid lle mae ei angen fwyaf: gan feithrin balchder mewn lle, cefnogi hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel, cefnogi cyflogau, cyflogaeth a thwf cynhyrchiant a chynyddu cyfleoedd bywyd. Bydd yn lleihau’r lefelau biwrocratiaeth a’r cyllid sy’n cael ei wario ar weinyddu, o gymharu â chronfeydd yr UE. Bydd yn galluogi gwneud penderfyniadau yn lleol yn wirioneddol, a thargedu blaenoriaethau lleoedd yn y DU yn well. Bydd yn arwain at welliannau pendant, gweladwy i leoedd mae pobl yn byw a gweithio ynddynt, ochr yn ochr â buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, gan roi mwy o resymau i gymunedau ledled y DU i fod yn falch o’u hardal.

Bydd lleoedd yn cael eu grymuso i adnabod ac adeiladu ar eu cryfderau a’u hanghenion eu hunain ar lefel leol, gan ganolbwyntio ar falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd. Bydd lleoedd lleol yn gallu defnyddio’r Gronfa i ategu cyllid fel y Gronfa Ffyniant Bro, a chyflogaeth prif ffrwd a darpariaeth sgiliau i hyrwyddo effaith i’r eithaf a symleiddio cyflawni.

Bydd ymyriadau’r Gronfa yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno gan gynghorau ac awdurdodau maerol ledled Lloegr, yr Alban a Chymru – ‘awdurdodau lleol arweiniol’, gan weithio’n agos â phartneriaid lleol a llywodraethau’r Alban a Chymru.

Yn yr Alban a Chymru, rydym eisiau defnyddio daearyddiaethau ac awdurdodau lleol strategol presennol er mwyn manteisio ar fewnwelediad ac arbenigedd partneriaid lleol, gan gynnwys busnesau, y sector gwirfoddol ac Aelodau Seneddol i dargedu ymyriadau lle maent yn fwyaf priodol.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd gan lywodraeth y DU oruchwyliaeth dros y Gronfa. Rydym eisiau gweithio’n agos â phartneriaid lleol i ddylunio cynllun buddsoddi ar gyfer Gogledd Iwerddon. Byddwn yn mireinio’r cynllun trwy ymgynghori â rhanddeiliaid mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion economi a chymdeithas Gogledd Iwerddon. Gallai’r grŵp hwn gynnwys cynrychiolwyr o Adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, busnesau a’r gymuned a’r sector gwirfoddol.

2. Beth i ddefnyddio cyllid ar ei gyfer

2.1 Nodau’r Gronfa

Bydd yr UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach llywodraeth y DU i ffyniant bro ym mhob rhan o’r DU trwy gyflawni o ran pob un o’r amcanion hybu ffyniant bro:

  • Hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent ar ei hôl hi. Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent yn fwyaf gwan
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent wedi’u colli
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny sydd heb asiantaeth leol.

Prif nod yr UKSPF yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae hyn yn gyson â chenadaethau’r Papur Gwyn Ffyniant Bro, yn enwedig: ‘Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, fel boddhad pobl â’u canol tref ac ymgysylltiad â diwylliant a chymuned leol, wedi cynyddu ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.’

Ochr yn ochr â ffactorau tynnu a gwthio, mae bywydau pobl yn cael eu llywio gan wead cymdeithasol a ffisegol eu cymunedau. Mae’r cymysgedd lleol o gyfalaf cymdeithasol a ffisegol yn rhoi eu cymeriad unigryw i ardaloedd lleol ac yn llywio ble mae pobl yn dewis byw, gweithio a buddsoddi. Gan gydnabod yr heriau difrifol y mae canol trefi a chymunedau wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, bydd y Gronfa hon yn gwella’r lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt, ac yn cefnogi unigolion a busnesau. Bydd yn ysgogi gwelliannau amlwg sy’n bwysig i gymunedau lleol, yn meithrin balchder lleol mewn lle ac yn cynyddu cyfleoedd bywyd, gan gynnwys canlyniadau iechyd.

O dan y nod gyffredinol o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd, mae gan yr UKSPF dair blaenoriaeth fuddsoddi: cymunedau a lle; cynorthwyo busnesau lleol; a phobl a sgiliau. Mae amcanion manwl yn gysylltiedig â phob un o’r blaenoriaethau hyn, ac maent yn gyson â chenhadaeth y Papur Gwyn Ffyniant Bro.

UKSPF Investment Priorities and the Levelling Up Missions

Disgrifiad: mae’r llun hwn yn dangos tair blaenoriaeth fuddsoddi’r UKSPF a sut maent yn ymwneud â 7 o 12 cenhadaeth y Papur Gwyn Ffyniant Bro.

Amcan cyffredinol = Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Mae pob un o’r 3 blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cynorthwyo Busnesau Lleol; a
  • Phobl a Sgiliau

yn ymwneud â Chenhadaeth 9 y Papur Gwyn Ffyniant Bro: Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, fel boddhad pobl â’u canol tref ac ymgysylltiad â diwylliant a chymuned leol, wedi cynyddu ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Mae’r flaenoriaeth fuddsoddi Cymuned a Lle yn ymwneud â:

Cenhadaeth 9. Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, fel boddhad pobl â’u canol tref ac ymgysylltiad â diwylliant a chymuned leol, wedi cynyddu ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 7. Erbyn 2030, bydd y bwlch mewn Disgwyliad Oes Iach (HLE) rhwng ardaloedd lleol lle mae ar ei uchaf a’i isaf wedi lleihau, ac erbyn 2035 bydd Disgwyliad Oes Iach wedi codi bum mlynedd.

Cenhadaeth 8. Erbyn 2030, bydd lles wedi gwella ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 11. Erbyn 2030, bydd cyfraddau dynladdiad, trais difrifol a throseddu yn y gymdogaeth wedi gostwng, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf.

Mae’r flaenoriaeth fuddsoddi Cynorthwyo Busnesau Lleol yn ymwneud â:

Cenhadaeth 9. Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, fel boddhad pobl â’u canol tref ac ymgysylltiad â diwylliant a chymuned leol, wedi cynyddu ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 1. Erbyn 2030, bydd tâl, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi codi ym mhob ardal o’r DU, gyda phob un yn cynnwys dinas gystadleuol ar lefel fyd-eang, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 2. Erbyn 2030, bydd buddsoddiad cyhoeddus domestig mewn Ymchwil a Datblygu y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf yn cynyddu gan o leiaf 40% ac o leiaf traean dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, gyda’r cyllid llywodraeth ychwanegol hwnnw’n ceisio sicrhau o leiaf ddwywaith gymaint o fuddsoddiad sector preifat dros y tymor hir er mwyn ysgogi arloesedd a thwf cynhyrchiant.

Mae’r flaenoriaeth fuddsoddi Pobl a Sgiliau yn ymwneud â:

Cenhadaeth 9. Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, fel boddhad pobl â’u canol tref ac ymgysylltiad â diwylliant a chymuned leol, wedi cynyddu ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 1. Erbyn 2030, bydd tâl, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi codi ym mhob ardal o’r DU, gyda phob un yn cynnwys dinas gystadleuol ar lefel fyd-eang, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Cenhadaeth 6. Erbyn 2030, bydd nifer y bobl sy’n cwblhau hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel yn llwyddiannus wedi cynyddu’n sylweddol ym mhob ardal o’r DU. Yn Lloegr, bydd hyn yn arwain at 200,000 yn fwy o bobl sy’n cwblhau hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel yn llwyddiannus yn flynyddol, wedi’i ysgogi gan 80,000 yn fwy o bobl yn cwblhau cyrsiau yn yr ardaloedd â’r sgiliau isaf.

Cenhadaeth 7. Erbyn 2030, bydd y bwlch mewn Disgwyliad Oes Iach (HLE) rhwng ardaloedd lleol lle mae ar ei uchaf a’i isaf wedi lleihau, ac erbyn 2035 bydd Disgwyliad Oes Iach wedi codi bum mlynedd.

Cenhadaeth 8. Erbyn 2030, bydd lles wedi gwella ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

Mae’r UKSPF yn ffurfio rhan o gyfres o gyllid cydategol ffyniant bro. Mae’n adeiladu ar y Gronfa Ffyniant Bro gystadleuol a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol drwy gyllid sefydlog, tymor hir, a ddyrennir i bob lle. Gellir defnyddio’i gymysgedd o gyllid refeniw a chyllid cyfalaf i gefnogi ystod eang o ymyriadau i feithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd. Gall y rhain gydategu prosiectau cyfalaf y Gronfa Ffyniant Bro, buddsoddiadau Porthladd Rhydd strategol neu brosiectau’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar lefel cymuned, yn ogystal â chyflogaeth a darpariaeth sgiliau bresennol.

Wrth i ni symleiddio’r dirwedd gyllido, byddwn yn ystyried cyfleoedd pellach i integreiddio cyllid gyda’r UKSPF, gan gynnwys cysoni â chyllid gwledig ychwanegol gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Lloegr.

2.2 Defnyddio’r Gronfa i ddiwallu anghenion lleol

Bydd pob lle ledled y DU yn derbyn dyraniad amodol o’r UKSPF.

I gael mynediad i’w dyraniad, gofynnir i bob lle amlinellu deilliannau y gellir eu mesur sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol. Dylai’r rhain lywio’r ymyriadau y dymunant eu cyflawni. Bydd lleoedd yn gallu dewis o fuddsoddiad ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi, sef cymunedau a lle, cymorth i fusnesau lleol a phobl a sgiliau.

Yng nghyd-destun nodau’r Gronfa, bydd yr hyblygrwydd gan bob lle i fuddsoddi ar draws ystod o weithgareddau sy’n cynrychioli’r atebion cywir i wella balchder lleol mewn lle, cynyddu cyfleoedd bywyd, helpu i ledaenu a chreu cyfle, ac ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Dylai’r cydbwysedd blaenoriaethau adlewyrchu anghenion a chyfleoedd lleol. Dylai adeiladu ar ddarpariaeth genedlaethol bresennol i greu’r cymysgedd gorau posibl o gymorth ar gyfer pob lle. Mae’r ymagwedd hyblyg hon yn golygu newid allweddol o system flaenorol yr UE.

Bydd yr ymyriadau hyn yn cael eu hamlinellu mewn cynllun buddsoddi a gyflwynir i lywodraeth y DU i’w cymeradwyo. Mae proses y cynllun buddsoddi yn cael ei disgrifio yma.

Yn y cynlluniau, bydd lleoedd yn dewis allbynnau a deilliannau sy’n berthnasol i bob blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol arweiniol, partneriaid lleol, llywodraeth y DU, a’r gweinyddiaethau datganoledig i fonitro cynnydd.

Mae llywodraeth y DU yn cydnabod y bydd yr amgylchiadau o ran gweithredu’r Gronfa yn gwahaniaethu yn ôl cenedl. Yng nghyd-destun amcanion cyffredinol y Gronfa, rydym wedi gweithio gyda’r cymdeithasau llywodraeth leol, llywodraeth yr Alban a Chymru, ac adrannau ar draws Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i lywio a datblygu’r cymysgedd mwyaf priodol o ymyriadau ar gyfer pob cenedl.

Mae rhestr o’r ymyriadau posibl ac allbynnau a deilliannau dangosol ar gyfer bob blaenoriaeth fuddsoddi ar gael yma.

2.3 Cymunedau a lle

Bydd y flaenoriaeth fuddsoddi cymunedau a lle yn galluogi lleoedd i fuddsoddi i adfer eu mannau a’u perthnasoedd cymunedol a chreu’r sylfeini ar gyfer datblygu economaidd ar lefel y gymdogaeth. Bwriad hyn yw cryfhau gwead cymdeithasol cymunedau, gan gefnogi meithrin balchder mewn lle.

Communities and place – objectives, outputs and outcomes

Disgrifiad: mae’r llun hwn yn dangos y flaenoriaeth fuddsoddi cymunedau a lle, ei hamcanion, allbynnau a deilliannau, a sut maent yn cysylltu ynghyd i gyfrannu at amcan cyffredinol y gronfa. Mae cadwyn o saethau yn dangos y llif rhesymeg.

1. Blaenoriaeth fuddsoddi = Cymunedau a lle

2. Amcanion

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn yn lleol, drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad i amwynderau, fel seilwaith cymunedol a man gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.

  • Adeiladu cymdogaethau cydnerth, iach a diogel, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o ansawdd y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau targedig i’r amgylchedd adeiledig a naturiol ac ymagweddau arloesol at atal troseddu.

3. Ymyriadau yn benodol i genedl: Er enghraifft: ‘Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith gymunedol a chymdogaeth newydd, neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes’

4. Allbynnau: Er enghraifft, ‘Nifer y cyfleusterau a gafodd eu cefnogi / creu

5. Deilliannau: Er enghraifft: ‘Cynnydd mewn defnyddwyr cyfleusterau / amwynderau’

6. Mae hyn yn gyson â chenadaethau’r Papur Gwyn Ffyniant Bro i Feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Ochr yn ochr â’r genhadaeth gyffredinol ‘balchder mewn lle’, mae’r Papur Gwyn Ffyniant Bro yn nodi tair cenhadaeth bellach a ddylai arwain ymyriadau ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon:

  • Erbyn 2030, bydd lles wedi gwella ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.
  • Erbyn 2030, bydd cyfraddau dynladdiad, trais difrifol a throseddu yn y gymdogaeth wedi gostwng, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf (gyda ffocws yr UKSPF ar droseddu yn y gymdogaeth)
  • Erbyn 2030, bydd y bwlch mewn Disgwyliad Oes Iach rhwng ardaloedd lleol lle mae ar ei uchaf a’i isaf wedi lleihau, ac erbyn 2035 bydd Disgwyliad Oes Iach wedi codi bum mlynedd.

Mae’r cenadaethau hyn, a’r ymrwymiad ehangach i Hybu Ffyniant Bro, wedi llywio amcanion y flaenoriaeth fuddsoddi hon. Mae rhestr o ymyriadau ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon a’r dangosyddion allbynnau a deilliannau dangosol wedi’u hamlinellu yma.

Mae’r dystiolaeth, yr adnoddau a’r astudiaethau achos canlynol wedi eu cynllunio i helpu â hyn.

Astudiaeth Achos - Atebion Trafnidiaeth Gynaliadwy yn cael eu harwain gan y gymuned – Abertawe, Cymru

Bydd y prosiect gwerth £129,000 hwn o dan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU yn cryfhau trafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol fel cynlluniau rhannu ceir a beiciau, trafnidiaeth gymunedol, gwasanaethau cyflenwi lleol, rhannu lifftiau a chymorth ar gyfer teithio llesol. Ei nod yw rhoi sylw i ynysigrwydd cymdeithasol, hyrwyddo cydlyniant cymunedol, galluogi gwell mynediad i wasanaethau a chyflogaeth, gwella iechyd a lles, a chefnogi nodau sero net.

Astudiaeth Achos – Adfywio Diwylliannol Di-Garbon – Inverness, Yr Alban

Mae’r prosiect gwerth £19 miliwn hwn o dan y Gronfa Ffyniant Bro yn cyfuno tri phrosiect cydategol a arweinir gan ddiwylliant a fydd yn ysgogi adfywiad amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd Inverness. Wedi’i leoli ar hyd ardaloedd glan afon difreintiedig yng nghanol y ddinas, byddant yn gyfleoedd trawsnewidiol i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r prosiectau yn cyfuno diwylliant, adfywio ac ynni adnewyddadwy, i gyflawni buddion economaidd i fusnesau lleol a helpu bodloni targedau sero carbon.

Astudiaeth Achos – SMART Tottenham Project, Haringey, Llundain, - Lloegr

Mae £500,000 o ddyfarniad Future High Streets Fund Haringey yn canolbwyntio ar leihau troseddu a chefnogi manwerthu ar Stryd Fawr Tottenham. Gan ariannu mwy o deledu cylch cyfyng ar y stryd fawr, ei nod yw creu newid ymddygiadol ac annog yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddu a gwneud yr ardal yn fwy diogel.

Astudiaeth Achos – The Nile and Villiers Community-Led Project – Sunderland, Lloegr

Bydd £4.7 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei fuddsoddi i ailddatblygu safle tir llwyd ac adeiladau adfail yn gartrefi newydd, gofod gweithdai/masnachol, ac adfywhau adeilad hanesyddol. Bydd y datblygiadau hyn yn ysgogi adfywio Sunniside, sef un o ardaloedd mwyaf amddifad canol y ddinas, a nodweddir gan dai o ansawdd gwael, cyfraddau troseddu uchel, diwydiant adfeiliedig a hosteli ar gyfer oedolion bregus. Bydd yn creu cymuned breswyl boblogaidd ac organig, gan newid canfyddiadau o’r ardal a byw yng nghanol dinas.

Tystiolaeth ac adnoddau

Mae’r flaenoriaeth fuddsoddi cymunedau a lle yn cwmpasu ystod eang o ymyriadau lleol, yn cynnwys prosiectau tir y cyhoedd, mentrau a arweinir gan y gymuned, a phrosiectau diwylliannol a threftadaeth. Mae dadansoddiad o gynigion a gymeradwywyd yng nghylch un y Gronfa Ffyniant Bro yn awgrymu y gall ymyriadau cymunedau a lle gynnig gwerth da am arian. Er bod y dystiolaeth ynghylch achos ac effaith tir y cyhoedd ac ymyriadau cymunedol yn gyfyngedig, mae gwerthuswyr yn nodi y gallant greu lleoedd gwell i fyw a gwneud busnes, cyflawni deilliannau cymdeithasol ehangach pwysig a chynhyrchu buddion amwynderau cadarnhaol o ran creu lleoedd.

Mae gan y What Works Centre for Local Economic Growth (WWLEG) becyn cymorth dylunio polisi yn canolbwyntio ar ‘Le’ ac adolygiadau tystiolaeth sydd ar gael ar gyfer mentrau ardal, tir y cyhoedd, chwaraeon a diwylliant, ac ymyriadau adnewyddu ystadau, ymhlith pethau eraill, a allai helpu llywio penderfyniadau lleol am fuddsoddi yn y flaenoriaeth fuddsoddi hon. Mae’n bwysig nodi bod ffocws y ganolfan ar y graddau y mae’r polisïau hynny yn dangos tystiolaeth o effaith ar ddeilliannau economaidd, yn hytrach na deilliannau sy’n mesur cynnydd tuag at ffocws ‘balchder mewn lle’ ehangach UKSPF.

Un o nodau UKSPF yw cyfrannu at sail dystiolaeth well ar gyfer ymyriadau cymunedau a lle. Pan fydd y dystiolaeth yn fwy cyfyngedig, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau arweiniol i werthuso’n drylwyr sampl o ymyriadau ar y lefel leol i lywio dyluniad cynlluniau cyllid yn y dyfodol y gallai Llywodraeth y DU fod yn dymuno’u datblygu.

Anogir lleoedd i adolygu’r ymyriadau a nodi gweithgareddau a fyddai’n cefnogi’r amcanion hyn yn eu hardal, gan gynnwys unrhyw ymyriadau a gyflawnir orau ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â lleoedd eraill, neu’n fwy lleol.

Anogir lleoedd hefyd i ystyried ymyriadau pwrpasol sy’n diwallu anghenion unigryw eu cymuned a’u lle. Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu manylion pellach am y rhain – gan gynnwys Damcaniaeth Newid, Fframwaith Rhesymegol neu Gadwyn Rhesymeg - yn eu cynllun buddsoddi i gael mynediad i’w cyllid UKSPF.

Anogir yn gryf gweithio gyda lleoedd eraill wrth gyflawni ymyriadau’r Gronfa lle mae hynny’n diwallu anghenion eu lle, ac yn cyflawni gwerth am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl neu fusnesau lleol. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda lleoedd mewn gwahanol rannau o’r DU.

2.4 Cynorthwyo busnesau lleol

Bydd y flaenoriaeth fuddsoddi cynorthwyo busnesau lleol yn galluogi lleoedd i ariannu ymyriadau sy’n cynorthwyo busnesau lleol i ffynnu, arloesi a thyfu.

Supporting local business – objectives, outputs and outcomes

Disgrifiad: mae’r llun hwn yn dangos y flaenoriaeth fuddsoddi cynorthwyo busnesau lleol, ei hamcanion, allbynnau a deilliannau, a sut maent yn cysylltu ynghyd i gyfrannu at amcan cyffredinol y gronfa. Mae cadwyn o saethau yn dangos y llif rhesymeg.

1. Blaenoriaeth fuddsoddi = Cynorthwyo busnesau lleol

2. Amcanion

  • Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, trwy fuddsoddiadau sy’n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol, ac sy’n amrywio o gymorth i fusnesau sy’n cychwyn arni i welliannau gweladwy i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn lleol.

  • Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithredu, drwy ymyriadau sy’n dod â busnesau a phartneriaid at ei gilydd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf.

  • Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n hybu twf, trwy gymorth targedig i fusnesau bach a chanolig i ymgymryd ag arloesi sy’n newydd i’r cwmni, mabwysiadu technolegau a thechnegau effeithlon o ran ynni a charbon isel sy’n gwella cynhyrchiant, a dechrau neu dyfu’u hallforion.

3. Ymyriadau yn benodol i genedl: Er enghraifft: ‘Cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd’

4. Allbynnau: Er enghraifft: ‘Nifer yr entrepreneuriaid posibl a gynorthwywyd i fod yn barod ar gyfer busnes’

5. Deilliannau: Er enghraifft: ‘Nifer y busnesau newydd a grëwyd’

6. Mae hyn yn gyson â chenadaethau’r Papur Gwyn Ffyniant Bro i Feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Ochr yn ochr â’r genhadaeth gyffredinol ‘balchder mewn lle’, mae’r Papur Gwyn Ffyniant Bro yn nodi tair cenhadaeth bellach a ddylai arwain ymyriadau ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon:

  • Erbyn 2030, bydd tâl, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi codi ym mhob ardal o’r DU, gyda phob un yn cynnwys dinas gystadleuol ar lefel fyd-eang, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.

  • Erbyn 2030, bydd buddsoddiad cyhoeddus domestig mewn Ymchwil a Datblygu y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf yn cynyddu gan o leiaf 40% ac o leiaf traean dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, gyda’r cyllid llywodraeth ychwanegol hwnnw’n ceisio sicrhau o leiaf ddwywaith gymaint o fuddsoddiad sector preifat dros y tymor hir er mwyn ysgogi arloesedd a thwf cynhyrchiant (gyda ffocws UKSPF ar helpu busnesau i gael mynediad i gymorth arloesi).

Mae’r cenadaethau hyn, a’r ymrwymiad ehangach i Hybu Ffyniant Bro, wedi llywio amcanion y flaenoriaeth fuddsoddi hon. Mae rhestr o’r ymyriadau ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon a’r dangosyddion allbynnau a deilliannau dangosol wedi’u hamlinellu yma.

Anogir lleoedd i adolygu’r ymyriadau a nodi gweithgareddau a fyddai’n cefnogi’r amcanion hyn yn eu hardal, gan gynnwys unrhyw ymyriadau a gyflawnir orau ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â lleoedd eraill, neu’n fwy lleol. Hefyd, dylai lleoedd ystyried segmentu’u poblogaeth fusnes, gan ganolbwyntio ar ymyriadau penodol a fydd yn diwallu’r angen busnes lleol. Gallai ymgysylltu’n gynnar â chynrychiolwyr busnesau lleol lywio hyn. Mae’r dystiolaeth, yr adnoddau a’r astudiaethau achos canlynol wedi eu cynllunio i helpu â hyn.

Astudiaeth Achos - Tees Valley Business Challenge, Lloegr

Mae’r prosiect gwerth £826,000 hwn o dan y Gronfa Adfywio Cymunedol wedi’i gynllunio i gynorthwyo Mentrau Bach a Chanolig i gyflymu datblygu atebion a arweinir gan y farchnad i heriau arloesi a chyfleoedd y gadwyn gyflenwi sy’n berthnasol i flaenoriaethau economaidd lleol. Bydd yn cryfhau aeddfedrwydd arloesi yn economi Tees Valley, gan adeiladu gwydnwch ar gyfer ymadfer yn economaidd ar ôl Covid a datgloi potensial twf.

Astudiaeth Achos - Canol Tref Barrow in Furness, Lloegr

Bydd y prosiect hwn sy’n werth £16 miliwn o dan y Gronfa Ffyniant Bro yn cyflwyno pecyn o gynlluniau i foderneiddio ac arallgyfeirio neuadd y farchnad a’i chynnig, yn creu pwynt cyrraedd newydd a gwella cysylltiadau i mewn i’r brif ardal fanwerthu. Bydd gwelliannau i hygyrchedd yn cysylltu ardaloedd y dref, ynghyd â buddsoddiad mewn seilwaith teithio cynaliadwy, gan gyfuno i hybu busnesau i gychwyn a’r economi leol.

Tystiolaeth ac adnoddau

Mae’r What Works Centre for Local Economic Growth (WWLEG) wedi darganfod y cafodd ymyriadau cyngor busnes effaith gadarnhaol ar ganlyniad o leiaf un cwmni mewn ychydig dros hanner y cynlluniau a werthuswyd. Mae galwad yr Adolygiad Cynhyrchiant Busnes am dystiolaeth yn rhoi crynodeb o astudiaethau yn archwilio effaith gweithgareddau cefnogi busnes[footnote 1].

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynnal gwaith ymchwil a ganfu fod cynnydd o 1% mewn sgôr reoli yn gysylltiedig â chynnydd cyfatebol o 10% mewn cynhyrchiant[footnote 2]. Mae gwaith ymchwil pellach wedi canfod hefyd fod cynhyrchiant cwmnïau sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu 13% yn uwch na’r rheiny nad ydynt yn buddsoddi ynddynt[footnote 3]. Mae adenillion cymdeithasol o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn nodweddiadol 2 i 3 gwaith yn fwy nag adenillion preifat[footnote 4].

Mae gan y What Works Centre for Local Economic Growth (WWLEG) becyn cymorth dylunio polisi yn canolbwyntio ar ‘Fusnes’ ac adolygiadau tystiolaeth sydd ar gael ar gyfer cael mynediad at gyllid, prentisiaethau, cyngor busnes ac ymyriadau arloesi, ymhlith pethau eraill, a allai helpu llywio penderfyniadau lleol am fuddsoddi yn y flaenoriaeth fuddsoddi hon, ac os byddwch yn penderfynu buddsoddi, y cwestiynau am ddylunio polisi y dylech chi eu gofyn i chi’ch hun i uchafu effeithiau twf lleol. Sylwer mai effeithiau twf lleol yw ffocws y WWLEG, ac rydym yn gwybod llai o lawer am effaith y mathau hyn o ymyriadau ar sicrhau balchder mewn lle neu ddeilliannau cymdeithasol. Mae’r OECD a’r Enterprise Research Centre hefyd yn adnoddau defnyddiol y dylai lleoedd lleol eu hystyried.

Un o nodau UKSPF yw cyfrannu at sail dystiolaeth well ar gyfer cefnogi ymyriadau cymorth busnes lleol. Pan fydd y dystiolaeth yn fwy cyfyngedig, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau arweiniol i werthuso’n drylwyr sampl o ymyriadau ar y lefel leol i lywio dyluniad cynlluniau cyllid yn y dyfodol y gallai Llywodraeth y DU fod yn dymuno’u datblygu.

Anogir lleoedd hefyd i ystyried ymyriadau pwrpasol sy’n diwallu anghenion unigryw eu cymuned a’u lle. Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu manylion pellach am y rhain – gan gynnwys Damcaniaeth Newid, Fframwaith Rhesymegol neu Gadwyn Rhesymeg - yn eu cynllun buddsoddi i gael mynediad i’w cyllid UKSPF.

Anogir yn gryf gweithio gyda lleoedd eraill wrth gyflawni ymyriadau’r Gronfa lle mae hynny’n diwallu anghenion eu lle, ac yn cyflawni gwerth am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl neu fusnesau lleol. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda lleoedd mewn gwahanol rannau o’r DU.

2.5 Pobl a sgiliau

Drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi pobl a sgiliau, gall lleoedd ddefnyddio’u cyllid i helpu lleihau’r rhwystrau y mae rhai pobl yn eu hwynebu rhag cael cyflogaeth, a’u cynorthwyo i symud tuag at gyflogaeth ac addysg. Gall lleoedd dargedu cyllid at sgiliau ar gyfer ardaloedd lleol hefyd i gefnogi cyflogaeth a thwf lleol.

People and skills – objectives, outputs and outcomes

Disgrifiad: mae’r llun hwn yn dangos y flaenoriaeth fuddsoddi pobl a sgiliau, ei hamcanion, allbynnau a deilliannau, a sut maent yn cysylltu ynghyd i gyfrannu at amcan cyffredinol y gronfa. Mae cadwyn o saethau yn dangos y llif rhesymeg.

1. Blaenoriaeth fuddsoddi = Pobl a sgiliau

2. Amcanion

  • Hybu sgiliau craidd a chynorthwyo oedolion i wneud cynnydd mewn gwaith, trwy dargedu oedolion heb unrhyw gymwysterau neu gymwysterau ar lefel isel a sgiliau mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio, gan esgor ar effaith bersonol a chymdeithasol, drwy annog ymagweddau arloesol at leihau rhwystrau i oedolion rhag dysgu (Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn unig. Yn Lloegr, cyflwynir hyn drwy raglen Lluosi yr Adran Addysg).

  • Lleihau lefelau anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddi mewn cymorth dwys ar gyfer bywyd a chyflogaeth wedi’i deilwra at angen lleol. Dylai buddsoddi hwyluso cydgysylltu darpariaeth brif ffrwd a gwasanaethau lleol o fewn ardal ar gyfer cyfranogwyr, drwy’r defnydd o gymorth un i un gan weithwyr allweddol, gwella deilliannau cyflogaeth ar gyfer carfannau penodol sy’n wynebu rhwystrau yn y farchnad lafur:

  • Cynorthwyo pobl sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i oresgyn rhwystrau rhag gwaith trwy ddarparu cymorth cydlynol, wedi’i deilwra’n lleol, gan gynnwys mynediad at sgiliau sylfaenol.

  • Cynorthwyo ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau leol i gefnogi pobl i wneud cynnydd yn y gwaith, ac ategu darpariaeth sgiliau i oedolion yn lleol e.e. trwy gynnig darpariaethau ychwanegol; cyflwyno darpariaeth drwy ystod ehangach o lwybrau neu alluogi darpariaeth fwy dwys/arloesol, ar sail cymwysterau a dim cymwysterau. Dylai hyn fod yn ategol at ddarpariaeth sydd ar gael drwy raglenni cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol.

3. Ymyriadau yn benodol i genedl: Er enghraifft: ‘Cymorth cyflogaeth ar gyfer pobl economaidd anweithgar’

4. Allbynnau: Er enghraifft: ‘Nifer y bobl a gynorthwywyd i ymgysylltu â chwilio am swyddi’

5. Deilliannau: Er enghraifft: ‘Nifer y bobl mewn cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ar ôl cael cymorth’

6. Mae hyn yn gyson â chenadaethau’r Papur Gwyn Ffyniant Bro i Feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Ochr yn ochr â’r genhadaeth gyffredinol ‘balchder mewn lle’, mae’r Papur Gwyn Ffyniant Bro yn nodi pedair cenhadaeth bellach a ddylai arwain ymyriadau ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon:

  • Erbyn 2030, bydd tâl, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi codi ym mhob ardal o’r DU, gyda phob un yn cynnwys dinas gystadleuol ar lefel fyd-eang, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.
  • Erbyn 2030, bydd lles wedi gwella ym mhob ardal o’r DU, gyda’r bwlch rhwng yr ardaloedd â’r perfformiad gorau ac ardaloedd eraill yn cau.
  • Erbyn 2030, bydd nifer y bobl sy’n cwblhau hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel yn llwyddiannus wedi cynyddu’n sylweddol ym mhob ardal o’r DU. Yn Lloegr, bydd hyn yn arwain at 200,000 yn fwy o bobl sy’n cwblhau hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel yn llwyddiannus yn flynyddol, wedi’i ysgogi gan 80,000 yn fwy o bobl yn cwblhau cyrsiau yn yr ardaloedd â’r sgiliau isaf.
  • Erbyn 2030, bydd y bwlch mewn Disgwyliad Oes Iach (HLE) rhwng ardaloedd lleol lle mae ar ei uchaf a’i isaf wedi lleihau, ac erbyn 2035 bydd Disgwyliad Oes Iach wedi codi bum mlynedd.

Mae’r cenadaethau hyn, a’r ymrwymiad ehangach i Hybu Ffyniant Bro, wedi llywio amcanion y flaenoriaeth fuddsoddi hon. Mae UKSPF yn cynnig yr opsiwn i leoedd i ariannu cymorth i bobl leol a sgiliau a fydd yn ategu darpariaeth brif ffrwd, nid ei dyblygu.

Mae’r flaenoriaeth fuddsoddi hon yn cynnwys dwy elfen sylfaenol, sef cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar (y rhai sy’n hawlio budd-dal a heb fod yn ei hawlio) [footnote 1] ac ariannu darpariaeth sgiliau i roi’r sgiliau i bobl y mae eu hangen i ddatblygu mewn bywyd a gwaith, gan gynnwys cynorthwyo ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol. Bydd Lluosi yn cynnwys y carfannau hyn ond gyda ffocws penodol ar rifedd. Bydd e’n cael ei dargedu at y rheini sydd yn 19 oed a throsodd sydd heb ennill TGAU Gradd 4/C, SCQF Lefel 5 neu gymhwyster mathemateg uwch neu gyfwerth.

Mae [rhestr o ymyriadau] (https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus) ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi hon a’r dangosyddion allbynnau a deilliannau dangosol wedi’u hamlinellu yma. Ar gyfer Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Lluosi (Multiply ar gael yma. Dylai pob lle yn Lloegr ddarllen prosbectws Lluosi [insert link] a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg. Dylent ystyried nodau, amcanion a blaenoriaethau Lluosi wrth ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer ymyriadau pobl a sgiliau.

Yn Lloegr, bydd lleoedd yn gallu dewis ymyriadau pobl a sgiliau o 2024-2025 ymlaen, neu’n gynharach os ydynt yn bodloni ystyriaethau’r sector gwirfoddol a amlinellir yma.

I gydnabod eu hamgylchiadau penodol, bydd lleoedd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn gallu dewis ymyriadau o’r flaenoriaeth fuddsoddi pobl a sgiliau o 2022-2023.

Anogir lleoedd i adolygu’r ymyriadau a nodi gweithgareddau a fyddai’n cefnogi’r amcanion hyn yn eu hardal, gan gynnwys unrhyw ymyriadau a gyflawnir orau ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â lleoedd eraill, neu’n fwy lleol. Mae’r dystiolaeth, yr adnoddau a’r astudiaethau achos canlynol wedi eu cynllunio i helpu â hyn.

Astudiaeth Achos - BE BEST - Ards a North Down, Gogledd Iwerddon

Mae’r prosiect gwerth £511,000 hwn o dan y Gronfa Adfywio Cymunedol yn cynnig dewislen o gyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys mynediad i sgiliau sylfaenol, cymorth cyflogadwyedd, mentora a lleoliadau gwaith. Mae buddsoddi mewn pobl yn eu helpu i sicrhau swyddi newydd a gwell, ac yn helpu busnesau lleol i ddiwallu anghenion y gweithlu. Hefyd, mae cymorth arweinyddiaeth, rheolaeth ac entrepreneuriaeth ar gael i fusnesau sy’n annog mentrau ar draws sectorau, gan gynyddu’r sylfaen sgiliau leol ar gyfer cyflogwyr, yn mynd i’r afael ag anghenion busnes ac arloesi lleol drwy gydweithio digidol.

Astudiaeth Achos – 50+ employment support, Manceinion Fwyaf, Lloegr

Fel rhan o’i bargen datganoli, mae Manceinion Fwyaf yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Centre for Ageing Better i dreialu cymorth wedi’i leoleiddio i ddod â phobl anweithgar rhwng 50 oed ac oed Pensiwn y Wladwriaeth yn ôl i waith.

Cynhaliwyd ei gyfnod cyd-greu a phrototeipio o fis Gorffennaf 2020 i fis Ionawr 2022. Nododd gyfres o ymagweddau dichonadwy gan gynnwys cymorth cyflogaeth; cyllidebau personol; lleoliadau gwaith ystyrlon ac am dâl; cymorth hunanarwain i nodi sgiliau trosglwyddadwy ac archwilio opsiynau gyrfa gyda hyfforddiant dewisol (Reach); ac ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person at gomisiynu cymorth cyflogaeth. Bydd y ddwy ymagwedd hyn, sef Reach a chaffael sy’n canolbwyntio ar y person, yn cael eu treialu mewn ail gam gweithio.

Astudiaeth Achos - Lleoliad a Chymorth Unigol (IPS) i bobl â chyflyrau iechyd meddwl a/neu iechyd corfforol cyffredin – Gorllewin Canolbarth Lloegr, De Swydd Efrog a Gogledd Cymru.

Mae IPS yn fenter ag iddi dystiolaeth dda ar gyfer unigolion â salwch meddwl difrifol sy’n darparu cymorth dwys, unigol i helpu pobl ddod o hyd i gyflogaeth addas a chymorth yn y gwaith. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn cynnal prawf i weld p’un a allai weithio hefyd wedi’i wreiddio mewn timau gofal iechyd sylfaenol a chefnogi unigolion â chyflyrau mwy cyffredin. Mae hyn yn integreiddio arbenigwyr cyflogaeth â thimau gofal iechyd gydag atgyfeiriadau’n cael eu gwneud gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Disgwylir i 30% o gyfranogwyr ddod o hyd i swydd o ganlyniad i hyn. Mae’r treialon wedi meithrin perthnasoedd cryfach rhwng llywodraeth leol a’r system gofal iechyd, ac wedi rhoi hyder i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael sgyrsiau’n gysylltiedig â chyflogaeth gyda chleifion. Mae’n parhau i gael ei ddarparu i ryw 3,500 o unigolion yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, De Swydd Efrog a Gogledd Cymru.

Tystiolaeth ac adnoddau

Canfu adroddiad yn archwilio Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn Lloegr 2007-13 fod cynyddu maint ac ystod y cymorth sydd ar gael i gyfranogwyr yn eu helpu i ddod o hyd i swydd ac ennill cymwysterau[footnote 6] Mae’n rhoi mewnwelediad i werth ychwanegol defnyddio model gweithwyr allweddol, gan ddod ag ystod o wasanaethau lleol ynghyd, i gynorthwyo pobl economaidd anweithgar i symud tuag at gyflogaeth. Canfu astudiaeth yn archwilio’r adenillion economaidd i gymwysterau galwedigaethol a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr fod y rhain yn cynhyrchu adenillion cryf[footnote 7].

Canfu’r What Works Centre for Local Economic Growth (WWLEG) fod rhaglenni hyfforddiant cyflogaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar gyflogau a chyflogaeth mewn tua hanner y gwerthusiadau a adolygwyd. Nodon nhw hefyd fod rhaglenni o fewn cwmnïau neu yn y gwaith yn tueddu i fod yn hynod effeithiol a bod cynnwys cyflogwyr mewn dylunio cyrsiau, a sicrhau bod gweithgareddau sy’n adlewyrchu swyddi go iawn, yn ffyrdd pellach o ysgogi effeithiolrwydd.

Mae gan y What Works Centre for Local Economic Growth (WWLEG) becyn cymorth dylunio polisi yn canolbwyntio ar ‘Bobl’ ac adolygiadau o dystiolaeth ar gael ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant cyflogaeth, ymhlith pethau eraill, a allai helpu llywio penderfyniadau lleol ynglŷn â buddsoddi yn y flaenoriaeth fuddsoddi hon, ac os byddwch yn penderfynu buddsoddi, y cwestiynau am ddylunio polisi y dylech chi eu gofyn i chi’ch hun i uchafu effeithiau twf lleol. Mae astudiaethau achos prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop hefyd yn rhoi trosolwg o’r mathau o gymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. Sylwer mai effeithiau twf lleol yw ffocws y WWLEG, ac y bydd gan ymyriadau pobl a sgiliau ddeilliannau cymdeithasol pwysig hefyd.

Un o nodau UKSPF yw cyfrannu at sail dystiolaeth well ar gyfer ymyriadau balchder mewn lle. Pan fydd y dystiolaeth yn fwy cyfyngedig, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau arweiniol i werthuso’n drylwyr sampl o ymyriadau ar y lefel leol i lywio dyluniad cynlluniau cyllid yn y dyfodol y gallai Llywodraeth y DU fod yn dymuno’u datblygu.

Anogir lleoedd hefyd i ystyried ymyriadau pwrpasol sy’n diwallu anghenion unigryw eu cymuned a’u lle. Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu manylion pellach am y rhain – gan gynnwys Damcaniaeth Newid, Fframwaith Rhesymegol neu Gadwyn Rhesymeg - yn eu cynllun buddsoddi i gael mynediad i’w cyllid.

Anogir yn gryf gweithio gyda lleoedd eraill wrth gyflawni ymyriadau’r Gronfa lle mae hynny’n diwallu anghenion y lle, ac yn cyflawni gwerth am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl leol. Yn benodol, anogwn awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i weithio gyda lleoedd eraill (fel ardal, sir neu awdurdodau unedol cymdogol) i gytuno a chomisiynu gweithgarwch pobl a sgiliau dros ddaearyddiaethau mwy. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda lleoedd mewn gwahanol rannau o’r DU.

2.6 Polisïau neu gynlluniau eraill i’w hystyried

Bydd angen i ymyriadau a gefnogir gan UKSPF ystyried polisïau a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol eraill – gan gynnwys rhai llywodraethau’r Alban a Chymru ac adrannau ar draws Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle bo’n berthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dylai buddsoddiad a wneir o dan y Gronfa hon ddangos graddau’r cyfraniad at amcanion sero net ac adfer natur gan gynnwys ymrwymiad cyfreithiol y DU i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ystyriaethau amgylcheddol ehangach, fel gwydnwch i beryglon naturiol ac ymrwymiadau’r Cynllun Amgylchedd 25 Mlynedd, ac unrhyw ymrwymiadau penodol yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon.
  • I gefnogi twf gwyrdd, dylai lleoedd ystyried hefyd y modd y gall prosiectau weithio gyda’r amgylchedd naturiol i gyflawni amcanion y prosiect, a – man lleiaf – ystyried effaith y prosiect ar ein hasedau naturiol a natur. I gael mwy o wybodaeth ar sut i roi sylw i’r ystyriaethau hyn, gweler yr adnoddau [Enabling a Natural Capital Approach (ENCA)] (https://www.gov.uk/guidance/enabling-a-natural-capital-approach-enca).

Dylai pob lle yn yr Alban a Chymru gynnwys Llywodraethau’r Alban a Chymru, a Swyddfeydd Ysgrifennydd Gwladol Yr Alban a Chymru, yn y drefn honno, er mwyn nodi cysylltiadau â pholisïau a blaenoriaethau cenedlaethol perthnasol y dylid eu hystyried wrth baratoi cynlluniau buddsoddi. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried strategaethau a chyllid Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd.

O ran isafswm, dylai hyn gynnwys: - Fframwaith Deilliannau Drafft Rhaglen Gogledd Iwerddon ar gyfer Llywodraeth 2021 - Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Yr Alban ar gyfer Trawsnewid Economaidd, neu’r - Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru

Mae cyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth wneud eu holl benderfyniadau, a dylent sicrhau eu bod yn bodloni’r rhwymedigaethau hyn wrth wneud penderfyniadau ar UKSPF. Byddwn yn gofyn am wybodaeth am hyn fel rhan o’r cynllun buddsoddi.

Dylai pob lle roi ystyriaeth i’r dirwedd ariannu ehangach, ac yn benodol, ymyriadau cydategol ar lefel y DU, lefel genedlaethol neu leol. Bydd hyn yn sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu’n effeithiol a’i gyflenwi’n effeithlon. Man lleiaf, dylai awdurdodau lleol arweiniol (a phartneriaid Gogledd Iwerddon) ystyried cysondeb â’r canlynol:

  • Y Gronfa Ffyniant Bro sydd bellach wedi lansio cystadleuaeth ail gylch.
  • Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a fydd yn lansio cylch pellach yn y Gwanwyn.
  • Porthladdoedd rhydd lle bo’n berthnasol -Cynlluniau cyflawni seilwaith digidol eraill fel rhan o Brosiect ‘Gigabit’. Ar gyfer ymyriadau seilwaith digidol/cysylltedd sy’n cefnogi cyfleusterau cymunedol, dylai’r buddsoddiad hwn ddarparu seilwaith sy’n ‘gigabit’-gydnaws a bod yn gyson â’r caffaeliadau a’r mathau eraill o ymyriadau a ddarperir gan y rhaglen honno.
  • Cymorth cyflogaeth cenedlaethol yn cael ei ddarparu yn rhan o Ganolfan Byd Gwaith, ei ddarparwyr dan gontract neu gyfwerth yng Ngogledd Iwerddon. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda chynrychiolwyr lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau i feithrin dealltwriaeth o’r ddarpariaeth hon[footnote 2].
  • Darpariaeth bresennol sgiliau oedolion ym mhob cenedl, na ddylid ei dadleoli na’i dyblygu.
  • Darpariaeth cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, sy’n parhau hyd at 2023 mewn rhai ardaloedd.
  • Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig, lle bo’n berthnasol.
  • Ffynonellau cyllido eraill o’r gweinyddiaethau datganoledig.

Byddem yn annog awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i ymgysylltu’n eang â phartneriaid lleol – gan gynnwys darparwyr cyfredol ymyriadau cronfeydd strwythurol yr UE ac awdurdodau rheoli, cyrff hyd braich y llywodraeth, awdurdodau lleol cymdogol, cynrychiolwyr gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau’r gymdeithas sifil, addysg uwch ac addysg bellach a chynrychiolwyr busnes a chyrff strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod cynlluniau buddsoddi lleol yn ategu ac nid yn dyblygu darpariaeth arall a bod ymyriadau’n cael eu cyflawni ar y raddfa briodol.

3. Cyllid y bydd lleoedd yn ei dderbyn

3.1 Cyllid ar gyfer pob lle

Mae cyfran o’r UKSPF wedi’i dyrannu i bob lle yn y DU, gyda’r lleoedd lleiaf, hyd yn oed, yn derbyn o leiaf £1m. Mae hyn yn cydnabod bod hyd yn oed y rhannau mwyaf cyfoethog o’r DU yn cynnwys pocedi o amddifadedd a bod angen cymorth arnynt. Bydd yn helpu pobl i gael cyfleoedd mewn lleoedd sydd mewn angen, fel hen ardaloedd diwydiannol, trefi o amddifadedd a chymunedau gwledig ac arfordirol, ac yn cynorthwyo pobl sy’n economaidd anweithgar neu y maen anghenion sgiliau ganddynt na ellir eu diwallu drwy ddarpariaeth brif ffrwd.

Fel yr amlinellwyd yn yr Adolygiad o Wariant 2021, mae’r Gronfa’n werth £2.6 biliwn dros y cyfnod hyd at 2024-25. Bydd y Gronfa yn codi hyd at £1.5 biliwn yn 2024-25, gan gynnwys Lluosi.

Mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer tair blwyddyn ariannol – 2022-23, 2023-24 a 2024-25, gan ddarparu cyllid twf lleol sylfaenol rhagfynegol.

[Mae dyraniadau ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar gael yma, gan gynnwys dyraniadau Lluosi]. (https://www. gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus). Bydd £179m yn cael ei reoli’n ganolog gan yr Adran Addysg ar gyfer llwyfan digidol DU gyfan ar gyfer rhifedd oedolion.

Mae’r rhaniad lleol o gyfalaf a refeniw ar gyfer y Gronfa yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel a ganlyn:

Blwyddyn UKSPF Craidd: Refeniw UKSPF Craidd: Cyfalaf Lluosi Lleol: Refeniw
2022-23 89.6% 10.4% 100%
2023-24 87.5% 12.5% 100%
2024-25 82.1% 17.9% 100%

Mae’r rhaniad lleol o gyfalaf a refeniw ar gyfer y Gronfa yn Lloegr fel a ganlyn:

Blwyddyn UKSPF Craidd: Refeniw UKSPF Craidd: Cyfalaf Lluosi Lleol: Refeniw
2022-23 90% 10% 100%
2023-24 87% 13% 100%
2024-25 80% 20% 100%

Bydd dyraniad pob lle yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf. Dylai awdurdodau lleol arweiniol bennu pa gymysgedd cyllid y maent yn ei ffafrio yn eu cynllun buddsoddi. Sylwer - rhaid i bob lle nodi canran isaf o gyllid cyfalaf, bob blwyddyn un unol â’r rhaniad refeniw a chyfalaf cyffredinol ar lefel yr UKSPF a amlinellir yn y tabl uchod.

3.2 Sut y penderfynom ar y dyraniadau

Rydym wedi gwneud dyraniadau i bob cenedl i sicrhau cyfatebiaeth termau real o ran cronfeydd strwythurol yr UE. Ar gyfer Lloegr, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd gyfunol at ddyrannu cyllid i bob lle. Mae hyn yn sicrhau bod pob lle yn cael dyraniad sy’n caniatáu ar gyfer parhad sylweddol gyda chronfeydd strwythurol yr UE:

  • o fewn y model parhad sy’n cynnal dosbarthiadau cronfeydd strwythurol yr UE, caiff 70% ei ddyrannu fesul pen o’r boblogaeth, o fewn pob rhanbarth ar sail maint poblogaeth Awdurdod Lleol

  • mae 30% o’r dyraniad yn defnyddio’r un mynegai sy’n seiliedig ar anghenion a ddefnyddiwyd yn flaenorol i adnabod lleoedd blaenoriaeth Cronfa Adfywio Cymunedol y DU, sef:

    • Cyfradd diweithdra
    • Incwm aelwydydd
    • Sgiliau
    • Cynhyrchiant
    • Lleoedd â dwysedd poblogaeth is

Ar gyfer Yr Alban, gan ystyried natur ddiarffordd rhannau o’r wlad ac anghenion arbennig yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, rydym wedi addasu’r ymagwedd hon mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid lleol: - dyrennir 60% o gyllid fesul pen o’r boblogaeth ledled Yr Alban - mae 30% o’r dyraniad yn defnyddio’r un mynegai ar sail anghenion a ddefnyddir i nodi lleoedd blaenoriaeth Cronfa Adfywio Cymunedol y DU - dyrennir 10% gan ddefnyddio’r mesur dwysedd poblogaeth is sydd wedi’i gynnwys yng Nghronfa Adfywio Cymunedol y DU, gan gydnabod cost uwch cyflenwi gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig a natur wledig unigryw rhai o awdurdodau a chymunedau ynysoedd Yr Alban.

Ar gyfer Cymru, rydym wedi addasu ein hymagwedd ddyrannu ar ôl ymgysylltu â phartneriaid, yn unol â’r canlynol: - dyrennir 40% o gyllid fesul pen o’r boblogaeth ledled Cymru. - mae 30% o’r dyraniad yn defnyddio’r un mynegai ar sail anghenion a ddefnyddir i nodi lleoedd blaenoriaeth Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. - dyrennir 30% gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Ar gyfer Gogledd Iwerddon, o gydnabod y rôl wahanol mae Awdurdodau Lleol yn ei chwarae yno o gymharu â Lloegr, Yr Alban a Chymru, nid ydym yn dyrannu islaw lefel Gogledd Iwerddon. Mae mwy o fanylion am yr ymagwedd gyflenwi yng Ngogledd Iwerddon wedi’u hamlinellu isod.

Mae nodyn methodolegol sy’n amlinellu hyn yn fanylach ar gael yma. Bydd y model llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.

4. Sut bydd y Gronfa’n cael ei chyflwyno

4.1 Trosolwg

Mae’r UKSPF yn sefydlu perthnasoedd newydd rhwng Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, llywodraeth leol a phartneriaid lleol ledled y DU. Rydym yn rhoi lle canolog i bobl sy’n adnabod eu lleoedd orau wrth lywio penderfyniadau.

Gan weithio yn unol â fframwaith y DU-gyfan a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd partneriaid lleol yn dylanwadu ar y Gronfa trwy ddatblygu a chyflawni cynllun buddsoddi ar gyfer pob lle. Mae hyn yn newid sylfaenol mewn cyfrifoldeb o gymharu â’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd y mae’r Gronfa’n eu holynu.

Bydd y Gronfa’n gweithredu ledled y DU ac yn defnyddio’r pwer cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i gyflwyno cyllid i leoedd ledled y DU.

Yn ychwanegol at bwerau presennol y gweinyddiaethau datganoledig, mae hyn yn galluogi Llywodraeth y DU i gydategu a chryfhau’r cymorth a roddwyd i bobl, busnesau a chymunedau lleol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, yn ogystal â Lloegr. Rydym wedi gweithio gyda phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu ymyriadau sy’n dilyn egwyddorion ymreolaeth leol y gronfa tra’n cydnabod gwahanol dirluniau polisi a chyllid pob cenedl.

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn goruchwylio’r Gronfa ar lefel y DU, gan weithio gydag adrannau eraill, ac yn arbennig, pan gynigir ymyriadau pwrpasol.

Bydd yr Adran Addysg yn arwain ar gyflawni elfen Lluosi y Gronfa yn Lloegr, a platfform digidol y DU-gyfan ar gyfer llythrennedd oedolion, yn ogystal â rhaglen werthuso, gan gynnwys treialon rheoli ar hap, i adeiladu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio. Byddent yn gweithio’n agos â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, awdurdodau lleol arweiniol a’r gweinyddiaethau datganoledig ar gyflwyno Lluosi yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Byddent yn chwarae rhan allweddol mewn perthynas ag ymyriadau sgiliau ehangach, gan weithio gyda phartneriaid lleol.

Bydd disgwyl i ardaloedd lleol weithio’n agos â’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r gweinyddiaethau datganoledig, lle bo’n berthnasol, wrth gynllunio a chyflawni ymyriadau cyflogaeth i sicrhau cysondeb â ddarpariaeth cyflogaeth y brif ffrwd.

4.2 Rôl awdurdodau lleol arweiniol

Yn Lloegr, yr Alban a Chymru, mae cyfrifoldeb yn cael ei roi ar lywodraeth leol i ddatblygu cynllun buddsoddi i’w gymeradwyo gan lywodraeth y DU, ac am gyflenwi’r Gronfa ar ôl hynny. Mae hyn yn cydnabod mai’r modd gorau o gyflawni balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd yw cyflenwi’n agos at bobl a busnesau lleol; gan awdurdodau sy’n deall cyd-destun a hunaniaeth leol unigryw pob lle, a gyda rheolaeth sefydledig.

Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn derbyn dyraniad ardal i’w reoli, gan gynnwys asesu a chymeradwyo ceisiadau, prosesu taliadau a monitro o ddydd i ddydd.

Lle mae’r Gronfa yn gweithredu dros ddaearyddiaeth strategol (er enghraifft, lleoedd yn yr Alban a Chymru neu’r awdurdodau cyfunol maerol), bydd yr holl ddyraniadau’n cael eu crynhoi ar lefel y ddaearyddiaeth strategol, gan gynnwys 4% ar gyfer gweinyddu. Bydd gan yr awdurdod arweiniol ar gyfer y ddaearyddiaeth strategol atebolrwydd cyffredinol am y cyllid a sut mae’r Gronfa’n gweithredu.

Gall awdurdodau lleol unigol neu gyrff cyhoeddus eraill o fewn y ddaearyddiaeth strategol gymryd cyfrifoldeb arweiniol ar gyfer ymyriad neu bolisi penodol yr UKSPF, naill ai wedi’i gyflawni’n lleol neu ar gyfer y ddaearyddiaeth ehangach, lle mae hyn yn adlewyrchu’r ymagwedd gywir at anghenion llenol. Er mai’r awdurdod lleol arweiniol fyddai’n cadw’r cyfrifoldeb cyffredinol, gall ddyrannu cyfran o’i gyllideb weinyddu i awdurdodau neu gyrff unigol yn yr amgylchiadau hyn.

Gall awdurdodau lleol arweiniol benderfynu, gyda phartneriaid, beth yw’r raddfa fwyaf priodol ar gyfer pob ymyriad – er enghraifft, rhanbarthol, lleol neu drwy gydweithio â lleoedd neu gyrff eraill i gyflawni ymyriadau penodol. Gall hyn gynnwys gweithio gyda lleoedd mewn gwahanol rannau o’r DU. Dylai hyn ystyried gwerth am arian, effeithiolrwydd a threfniadau presennol.

Bydd gan awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer bob ardal hyblygrwydd o ran sut maent yn cyflawni’r Gronfa. Gallant ddymuno defnyddio cymysgedd o gystadlaethau ar gyfer cyllid grant (sef yr ymagwedd ragosodedig a amlinellwyd yn Safonau Grantiau Swyddfa’r Cabinet), caffael, comisiynu neu gyflawni rhyw weithgarwch trwy dimau mewnol. Er enghraifft, gall rhai ymyriadau ar lefel cymuned fynnu ymagwedd gomisiynu neu ymagwedd fewnol, gan gydnabod y gall cystadlaethau am grant greu rhwystrau rhag cyfranogi mewn cymunedau sydd wedi’u gadael ar ôl.

Hefyd, dylai awdurdodau lleol arweiniol ddylunio’u dewis o brosiect a phrosesau contractio fel bod mecanweithiau ganddynt i adfer cyllid lle nad yw buddiolwyr yn cydymffurfio â pharamedrau’r gronfa, cyfraith y DU nac unrhyw ofynion lleol.

Byddwn yn gofyn i bob awdurdod lleol arweiniol ein hysbysu am unrhyw risgiau, neu faterion, gweithredol neu ariannol presennol neu ddatblygol, ac unrhyw fesurau wrth gefn a roddwyd ar waith. Gofynnir am hyn yng nghynllun buddsoddi pob lle ac ym mhob adroddiad ar ôl hynny. Bydd hyn yn ein helpu i bennu lefel y cymorth y gallwn ei ddarparu, a/neu fonitro manylach y gallwn ei fynnu. Gallai hyn arwain hefyd at ddirprwyo llai o’r gronfa yn yr ardal yr effeithiwyd arni.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddylunio cynllun buddsoddi Gogledd Iwerddon. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a fydd â goruchwyliaeth dros gyflawni. Mae hyn yn adlewyrchu’r rôl nodedig a gwahanol y mae llywodraeth leol yn ei chwarae yng Ngogledd Iwerddon.

4.3 Cydweithio â lleoedd eraill

Mae gan bob lle ystod o berthnasoedd econmaidd a chymdeithasol gyda lleoedd eraill ledled y DU, gan gynnwys gyda’u cymdogion a lleoedd ag anghenion a chyfleoedd cyffredin.

Rydym yn disgwyl cynllun buddsoddi ar wahân ar gyfer pob daearyddiaeth gyflawni (p’un a yw hyn yn ddaearyddiaeth strategol, neu’n ardal cyngor dosbarth unigol). Fodd bynnag, anogir yn gryf gweithio gyda lleoedd eraill wrth gyflawni ymyriadau’r Gronfa lle mae hynny’n diwallu anghenion eu lle, ac yn cyflawni gwerth am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl neu fusnesau lleol. Gallai hyn fod ar ffurf ymyriadau cenedlaethol neu ranbarthol, neu brosiectau sy’n cyflawni ar draws lleoedd ar bob ochr i ffiniau cenedlaethol yn y DU sydd â chysylltiadau economaidd a chymdeithasol cryf.

Gallai cyflawni ymyriadau ar y raddfa genedlaethol neu ranbarthol fod yn fuddiol wrth geisio cyflawni prosiectau strategol a mwy, pan mae arbedion maint yn bodoli a fyddai’n arwain at werth uwch am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl a busnesau lleol, neu ble byddai’n lleihau’r baich neu’r cymhlethdod o ran comisiynu. Gallai hefyd ymwneud â lleoedd ar ddau ben gwahanol y DU ag anghenion thematig tebyg yn gweithio gyda’i gilydd ar ymyriadau cyffredin er mwyn cyflawni graddfa. Neu, mwy o gydweithio lleol rhwng cynghorau a’u cymdogion.

Yn benodol, anogwn awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i weithio gydag awdurdodau eraill (cynghorau dosbarth, sir neu unedol lle bo’n berthnasol) i gytuno a chomisiynu gweithgarwch pobl a sgiliau, neu weithgarwch cymorth busnes dros raddfa fwy sy’n gynrychioliadol o’r farchnad lafur neu’r sylfaen fusnes leol lawn. Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol amlinellu’u hymagwedd yn eu cynllun buddsoddi.

Yn ogystal, lle mae’r Gronfa’n gweithredu dros ddaearyddiaeth strategol, rhaid i awdurdodau lleol arweiniol ymgysylltu â’u hawdurdodau cyfansoddol ac unrhyw bartneriaid lleol eraill i sicrhau y gellir mynd i’r afael yn effeithiol ag anghenion lleoedd o fewn y ddaearyddiaeth strategol.

4.4 Trefniadau cyflawni ledled y DU

4.4.1 Lloegr

Yn Lloegr, bydd y Gronfa’n gweithredu’n bennaf dros ddaearyddiaethau strategol yr Awdurdodau Cyfunol Maerol (MCAs) ac Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA), a chynghorau dosbarth neu awdurdodau unedol mewn mannau eraill. Y rhain yw’r awdurdodau lleol arweiniol at ddibenion yr UKSPF. Mae’r daearyddiaethau cyflawni wedi’u hamlinellu yma.

Y tu allan i’r MCAs ac Awdurdod Llundain Fwyaf, bydd Lluosi yn cael ei gyflawni ar y lefel haen uchaf neu’r lefel unedol yn Lloegr. Dylai Awdurdodau lleol Lluosi yn Lloegr amlinellu cynlluniau ar gyfer darparu cymorth rhifedd oedolion mewn cynllun ar wahân a gyflwynwyd i’r Adran Addysg.

Dylai awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer Lluosi neu’r UKSPF craidd weithio’n agos â’i gilydd i sicrhau bod pob elfen o’r Gronfa yn gweithio’n gydlynus, yn cyflawni gwerth da ac mor gydnaws ag y bo modd. Dylai awdurdodau lleol arweiniol ystyried y Gyllideb Addysg Oedolion a buddsoddiadau Gronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n weddill, sydd yn gweithredu ar ddaearyddiaethau mwy, ac ymgysylltu â chyrff cyflogaeth a sgiliau perthnasol a rhanddeiliaid, gan gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a’r Panelau Cynghori ar Sgiliau, hyd yn oed lle gwneir y penderfyniad i beidio â chyflawni ymyriadau ar y raddfa strategol.

Unedoli

Ers cyhoeddi’r canllawiau cyn-lansio, mae’r Senedd wedi cytuno deddfwriaeth i ailstrwythuro llywodraeth leol yng Ngogledd Swydd Efrog, Gwlad yr Haf a Cumbria. Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddiweddaru’r trefniadau cyflawni ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Yng Ngogledd Swydd Efrog a Gwlad yr Haf, bydd cyngor unedol newydd sengl – o 1 Ebrill 2023 – yn disodli’r holl brif gynghorau yn yr ardaloedd hyn. Cyn hynny, bydd cynghorau sir Gogledd Swydd Efrog a Gwlad yr Haf yn ‘awdurdodau parhau’; bydd gan y cynghorau hyn yr hawl i lofnodi pob buddsoddiad newydd gan gynghorau dosbarth, gan gynnwys yr UKSPF. O ganlyniad, mae angen cynllun sir gyfan arnom ar gyfer Gogledd Swydd Efrog a Gwlad yr Haf. Disgwylir i’r cynghorau sir a’r cynghorau dosbarth weithio’n agos i dargedu ymyriadau yn ôl yr angen yn lleol, ac yn benodol, sicrhau bod buddsoddiadau cymunedau a lle yn cyrraedd pob rhan o’r ardaloedd sirol.

Yn Cumbria, bydd dau gyngor unedol newydd – o 1 Ebrill 2023 – yn disodli’r holl brif gynghorau yn yr ardaloedd hyn. Bydd angen cydsyniad y ddau awdurdod unedol newydd hyn – Cyngor Cumberland a Chyngor Westmorland a Furness, hyd yn oed ar ffurf gysgodol, ar gyfer buddsoddiad newydd gan gynghorau dosbarth, gan gynnwys UKSPF. Gan y byddant ond yn bodoli ar ffurf gysgodol hyd at Ebrill 2023, mae angen cynlluniau unigol ar gyfer pob un o ardaloedd cyngor dosbarth Cumbria o hyd. Disgwyliwn gydweithio agos rhwng dosbarthau sy’n arwain cynlluniau buddsoddi a’r cynghorau unedol cysgodol. Dylai hyn gynnwys rhai elfennau ar y cyd o bob cynllun dosbarth, a threfniadau cyflawni yn nodedig, a chydsyniad gan yr awdurdodau unedol cysgodol cyn cyflwyno. O 1 Ebrill 2023, mae’r ardaloedd dosbarth yn cael eu diddymu. Ar yr adeg hon, disgwyliwn i gynlluniau buddsoddi’r dosbarthau perthnasol gael eu huno yn gynlluniau ar gyfer pob ardal cyngor newydd.

Y Genhadaeth Ddatganoli

Mae’r Papur Gwyn Ffyniant Bro yn pennu cenhadaeth ddatganoli ar gyfer Lloegr: Erbyn 2030, bydd bob rhan o Loegr sydd eisiau un yn cael bargen ddatganoli gyda phwerau ar neu gerllaw’r lefel ddatganoli uchaf, a setliad ariannol syml, tymor hir.

Disgwyliwn i gyfrifoldeb cyflawni ar gyfer y Gronfa i gysoni â’r bargeinion hyn maes o law. Er mwyn darparu cyllid a sicrwydd cyflawni i’r holl bartneriaid lleol, bydd y trefniadau cyflawni a amlinellir yn y prosbectws hwn yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Yn y cyfamser, disgwylir i bob cyngor dosbarth neu gyngor unedol gynhyrchu a chyflwyno cynllun buddsoddi annibynnol ar gyfer ei le. Fel y nodwyd uchod, anogir yn gryf gweithio gyda lleoedd eraill wrth gyflawni ymyriadau’r Gronfa lle mae hynny’n diwallu anghenion eu lle, ac yn cyflawni gwerth am arian neu ddeilliannau gwell ar gyfer pobl neu fusnesau lleol. Gall hyn gynnwys gweithio ar draws daearyddiaethau sirol ehangach neu ddaearyddiaethau eraill. Dylai unrhyw gynlluniau felly gael eu nodi yng nghynllun buddsoddi lleol y lle.

Yn benodol, anogwn awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i weithio gydag awdurdodau dosbarth, sirol neu unedol eraill i gytuno a chomisiynu gweithgarwch pobl a sgiliau neu gymorth busnes lle bo’n berthnasol.

4.4.2 Yr Alban a Chymru

Mae’r partneriaethau sy’n cyflawni Bargeinion Dinesig a Thwf yn yr Alban a Chymru yn enghreifftiau cryf o gydweithio. Gyda chefnogaeth llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, mae’r bargeinion wedi grymuso arweinwyr a phartneriaid lleol i ddod at ei gilydd i ysgogi twf a chynhyrchiant ar draws eu rhanbarth.

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig hefyd wedi sefydlu, neu wrthi’n sefydlu, strwythurau cydategol i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth dros ddaearyddiaethau strategol. Mae’r rhain yn cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru a Phartneriaethau Economaidd Rhanbarthol yn yr Alban. Mae llywodraeth y DU eisiau adeiladu ar yr ymagwedd hon a hyrwyddo’r gweithio presennol mewn partneriaeth ledled yr Alban a Chymru.

Mae awdurdodau lleol ar draws bob daearyddiaeth strategol wedi’u gwahodd i gydweithio i ddatblygu cynlluniau buddsoddi a chyflawni’r Gronfa. Mae hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth gref dros ymagwedd ranbarthol gan bartneriaid lleol yn Llywodraethau’r Alban a Chymru.

Yn yr Alban, rydym yn cynorthwyo cyflawni trwy Bartneriaethau Economaidd Rhanbarthol os yw ardaloedd lleol yn ffafrio hyn. Mae’r partneriaethau rhanbarthol hyn yn adeiladu ar bartneriaethau llwyddiannus y Fargen Ddinesig a Thwf Rhanbarthol.

Rydym yn bwriadu gweithio gyda Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban a Llywodraeth yr Alban i hwyluso cydweithio ar draws y daearyddiaethau Partneriaeth Economaidd Ranbarthol hyn. Mae hyn yn cydnabod bod cyfansoddiad terfynol rhai partneriaethau heb gael ei benderfynu o hyd, a bod rhai awdurdodau eisiau cydweithredu â phartneriaid mewn nifer o gyfeiriadau. O dan drefniadau o’r fath, bydd yr awdurdod lleol arweiniol ar gyfer pob partneriaeth yn cyflwyno cynllun buddsoddi unigol.

Yng Nghymru, rydym yn cefnogi cyflawni ar draws y pedair daearyddiaeth strategol ranbarthol sy’n cyd-ffinio ag ardaloedd y Fargen Ddinesig a Thwf. Rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynorthwyo gwaith ar draws y pedair daearyddiaeth bresennol a datblygu trefniadau atebol cynhwysfawr i weinyddu’r Gronfa mewn pryd ar gyfer cyflwyno cynllun buddsoddi pob lle.

4.4.3 Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rheoli cyflawni ar raddfa Gogledd Iwerddon.

I wneud hyn yn effeithiol, rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid lleol i ddylunio cynllun buddsoddi. Byddwn yn mireinio’r cynllun trwy ymgynghori â rhanddeiliaid mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion economi a chymdeithas Gogledd Iwerddon. Gallai’r grŵp hwn gynnwys cynrychiolwyr o Adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, busnesau a’r sector gwirfoddol. Bydd hyn yn sefydlu ffyrdd newydd o weithio a chyfleoedd ledled Gogledd Iwerddon.

Bydd datblygu’r cynllun buddsoddi unigol ar gyfer Gogledd Iwerddon a’i gyflawni yn creu rolau ar gyfer partneriaid ar draws bob un o ddaearyddiaethau Bargeinion Dinesig a thwf Gogledd Iwerddon. Bydd yn hyrwyddo deallusrwydd, mewnwelediad a gwybodaeth leol i’r eithaf, i gydnabod y cyfleoedd a’r heriau sy’n unigryw Ogledd Iwerddon a’r rôl arbennig a gwahanol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yno.

Er mwyn cefnogi cyflawni ymyriadau ar eu lefel fwyaf priodol, rydym yn rhagweld y bydd ymagwedd amrywiol at y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Er enghraifft, gallai ymwneud â dewis prosiect lleol ar draws ardaloedd y Fargen Ddinesig a Thwf neu gellir cyflawni ymyriadau ar lefel ledled Gogledd Iwerddon. Bydd yr ymagwedd at gyflawni yn cael ei harwain gan fersiwn derfynol cynllun UKSPF ar gyfer Gogledd Iwerddon.

4.5 Cynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol i gyflawni

Paratoi’r cynllun buddsoddi

Rydym yn darparu £20,000 fesul awdurdod lleol arweiniol neu £40,000 ar gyfer bob Awdurdod Cyfunol Maerol ac Awdurdod Llundain Fwyaf yn Lloegr i ymgymryd â gwaith paratoadol cychwynnol ar gyfer y Gronfa, gan gynnwys datblygu’u cynllun buddsoddi lleol i’w gyflwyno yn yr haf.

Yn yr Alban a Chymru, bydd yr awdurdod lleol arweiniol ar gyfer pob daearyddiaeth strategol yn derbyn £40,000. Mae hyn yn adlewyrchu’r gwaith ychwanegol sydd ei angen i sefydlu trefniadau cyflawni a llywodraethu newydd yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at ddyraniad pob lle, a bydd yn cael ei dalu pan lofnodir cynllun pob lle.

Gweinyddu’r Gronfa o Ddydd i Ddydd

Rydym yn gwybod y bydd angen cymorth ar lywodraeth leol i weinyddu’r Gronfa. Bydd bob awdurdod lleol arweiniol yn Lloegr, yr Alban a Chymru’n gallu defnyddio hyd at 4% o’u dyraniad yn ddiofyn i ymgymryd â gwaith gweinyddu angenrheidiol y Gronfa, fel asesu prosiectau, contractio, monitro a gwerthuso, ac ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid.

Gall fod angen cyllideb weinyddu fwy i sefydlu’r Gronfa yn y flwyddyn gyntaf nag mewn blynyddoedd diweddarach. Mae hyn yn dderbyniol ar yr amod nad eir uwchlaw’r ganran yn gyffredinol.

Ni fydd angen 4% llawn ar awdurdodau mwy, a’r rheiny â dyraniadau mwy o’r Gronfa. Yn yr achosion hyn, gellir defnyddio swm llai, gyda’r gweddill yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo ymyriadau’r Gronfa.

Drwy eithriad, gall fod angen i awdurdodau lleol llai, y rheiny â dyraniadau llai o’r Gronfa neu ddaearyddiaethau strategol yn yr Alban a Chymru ddefnyddio mwy na 4% o’u dyraniad er mwyn gweinyddu’r Gronfa yn llwyddiannus. Lle mae hyn yn berthnasol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol arweiniol amlinellu achos ar gyfer canran fwy yn eu cynllun buddsoddi. Bydd y cais hwn yn cael ei asesu, a lle bydd wedi’i gymeradwyo, yn cael ei fonitro i sicrhau bod buddion cyllideb weinyddol fwy yn cael eu sicrhau.

Cymorth galluogrwydd tymor hwy

Rydym hefyd yn archwilio’r angen am gymorth galluogrwydd ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a phartneriaid eraill er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd y mae’r Gronfa yn eu cynnig i’r eithaf.

Er mwyn ein helpu i ddeall yr angen hwn yn well, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol ateb cwestiynau penodol ynglŷn â phrofiad a galluogrwydd eu timau, fel rhan o’u cynllun buddsoddi.

Byddwn yn archwilio gweithio gydag awdurdodau lleol profiadol, y llywodraeth a phartneriaid sector i ddatblygu rhwydweithiau cymheiriaid a all helpu rhannu arfer da. Gall awdurdodau lleol arweiniol sydd â diddordeb mewn arwain rhwydweithiau ddefnyddio rhan o’u dyraniad gweinyddu i gynorthwyo’r gwaith hwn.

5. Pwy ddylai fod ynghlwm â’r Gronfa

5.1 Grwpiau partneriaeth lleol

Ledled y DU, mae mynediad i fewnwelediad ac arbenigedd lleol yn hanfodol er mwyn i bob lle adnabod a mynd i’r afael ag angen a chyfle, ac ymateb gyda’r atebion cywir ar gyfer bob lle. Bydd partneriaethau cynhwysfawr a chytbwys yn elfen graidd o’r modd y caiff y Gronfa ei gweinyddu’n lleol.

Mae awdurdodau lleol arweiniol (neu lywodraeth y DU mewn cydweithrediad â phartneriaid Gogledd Iwerddon) wedi cael y dasg o weithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid lleol a rhanbarthol, sefydliadau’r gymdeithas sifil, cyrff cyflogwyr sy’n gyfrifol am adnabod cynlluniau sgiliau lleol, a busnesau neu grwpiau cynrychiolwyr busnesau i gyflawni deilliannau’r Gronfa yn eu hardaloedd.

Dylai partneriaid lleol gynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer pob lle i ddatblygu cynllun buddsoddi. Pan fydd cynlluniau wedi’u cymeradwyo, dylid gofyn i bartneriaid ddarparu cyngor ar ffit strategol ac ymarferoldeb cyflawni – gan fod yn ofalus i osgoi gwrthdaro buddiannau. Bydd hyn yn sicrhau bod buddsoddiadau’r Gronfa yn cydategu gweithgareddau eraill yn yr ardal ac yn bodloni amcanion y Gronfa ac amcanion lleol.

Bydd y bartneriaeth leol yn cael ei chynnull gan yr awdurdod lleol arweiniol (neu lywodraeth y DU mewn cydweithrediad â phartneriaid Gogledd Iwerddon). Mewn amgylchiadau lle mae grŵp y gellid ei ddefnyddio gan le yn barod, yna gellir dynodi’r grŵp at ddibenion y Gronfa hon, gan gymryd gofal i sicrhau bod y panel yn gwbl gynrychioliadol a bod ei gylch gorchwyl yn bodloni anghenion y Gronfa.

Mae’r rhestr isod yn ganllaw ar gyfer y mathau o grwpiau y dylid eu cynrychioli ar y grwpiau partneriaeth lleol. Bydd yr union gyfansoddiad yn rhywbeth i bob lle i benderfynu arno, ar sail ei anghenion:

  • Cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol arweiniol (gallai hyn gynnwys awdurdodau cymdogol hefyd, neu awdurdodau cyfansoddol lle bo’n berthnasol ac i hyrwyddo cydnawsedd)
  • Busnesau a buddsoddwyr lleol (cyflogwyr mawr a chyflogwyr bach a chanolig)
  • Darparwyr neu gynrychiolwyr cymorth busnes, gan gynnwys cynrychiolwyr sector sy’n berthnasol i’r lle (er enghraifft - cyrff clwstwr, sefydliadau twristiaeth)
  • Byrddau partneriaeth lleol a chyrff strategol lle bo’n berthnasol (er enghraifft, Partneriaethau Mentrau Lleol neu Bartneriaethau Gwella Sgiliau Lleol yn Lloegr, partneriaeth Bargeinion Dinesig a Thwf yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon)
  • Cynrychiolwyr rhanbarthol cyrff hyd braich y llywodraeth lle bo’n briodol
  • Sefydliadau cymunedol lleol amlwg a sefydliadau ffydd
  • sefydliadau gwirfoddol, menter gymdeithasol a’r gymdeithas sifil, gan gynnwys Grwpiau Cydgysylltu’r Trydydd Sector yn Yr Alban
  • Cynrychiolwyr gwledig oni bai nad oes yna unrhyw gymunedau gwledig yn yr ardal
  • Darparwyr addysg a sgiliau – er enghraifft, sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach, darparwyr dysgu oedolion
  • Arbenigwyr a darparwyr cyflogaeth – er enghraifft, cynrychiolwyr y Ganolfan Byd Gwaith a darparwyr gwasanaeth yn gysylltiedig â chyflogaeth
  • Cynrychiolwyr natur, amgylcheddol neu gynrychiolwyr cysylltiedig
  • Cynrychiolwyr iechyd y cyhoedd
  • Cynrychiolwyr heddlu a throseddu (fel Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, lle bo’n berthnasol)
  • Swyddogion gweinyddiaethau datganoledig neu eu hasiantaethau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon
  • Aelodau Seneddol lle bo’n briodol (eglurir yn adran 5.2 isod)

Gall cynrychiolwyr llywodraeth y DU fynychu hefyd, a gallant gynnig mynediad i arbenigedd penodol lle mae hyn yn angenrheidiol.

5.2 Rôl Aelodau Seneddol yn y Gronfa

Mae Aelodau Seneddol y DU yn chwarae rhan bwysig wrth gynrychioli barnau’u hetholwyr, gan gydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill i weithio er budd lleoedd lleol. Dylent ymwneud yn fanwl â dylunio a chyflawni’r Gronfa. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai’r holl ASau yn yr ardal gael gwahoddiad i ymuno â’r grŵp partneriaeth lleol.

Lle mae awdurdod neu ddaearyddiaeth strategol mor fawr fel bod hyn yn anymarferol (mewn lleoedd fel Llundain a Gogledd Iwerddon), dylai awdurdodau lleol arweiniol wahodd yr holl ASau ar gyfer y lle i grŵp ymgysylltu ASau a gynullir, a sicrhau bod eu barnau wedi’u cynrychioli ar y grŵp partneriaeth lleol.

Dylent ddarparu rôl gynghori i awdurdodau lleol arweiniol, gan adolygu’r cynllun buddsoddi cyn ei gyflwyno i lywodraeth y DU ei gymeradwyo. Bydd angen i bob cynllun nodi’r ASau sy’n gysylltiedig yn y grŵp partneriaeth lleol, a ph’un a yw bob un ohonynt yn gefnogol i’r cynllun terfynol a gyflwynwyd i lywodraeth y DU ei ystyried.

Disgwyliwn i awdurdodau lleol arweiniol ddangos eu bod wedi mynd ati i estyn allan i ASau a phartneriaid eraill. Mae angen i’r cynllun buddsoddi ddangos consensws lleol i’r cynllun. Os nad ydyw, mae gweinidogion yn cadw’r hawl i ohirio cymeradwyo’r cynllun hyd nes y sicrheir consensws eang. Ni fyddai methiant un neu fwy o ASau i gytuno yn atal ystyriaeth o’r cynllun buddsoddi.

Mae awdurdodau lleol arweiniol yn cael eu hannog hefyd i ymgysylltu’n rhagweithiol ac yn adeiladol gydag ASau o bryd i’w gilydd, ar ôl cymeradwyo’r cynllun buddsoddi – gan gynnwys drwy adolygiadau rheolaidd a chyfarfodydd y grŵp partneriaeth yn ei gam cyflawni.

Dylid ymgysylltu ag aelodau o Senedd yr Alban, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd, lle bo’n berthnasol.

5.3 Rôl y gweinyddiaethau datganoledig

Gan gydnabod bod y rhaglen ffyniant bro ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, bydd yr UKSPF yn cael ei gweithredu ledled y DU, gan ddefnyddio ein pwerau yn Neddf Marchnad Fewnol y DU. Mae’n flaenoriaeth i’r Gronfa sicrhau buddsoddi’n effeithiol ym mhob rhan o’r DU, er mwyn hyrwyddo buddion i ddinasyddion a’r economi.

Gwyddwn ein bod yn rhannu’r nodau hyn gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ac rydym wedi ymgysylltu â phob llywodraeth ar ddylunio a chyflenwi’r Gronfa hon cyn cyhoeddi. Ni fydd ein hymgysylltiad a’n cydweithio yn gorffen yma.

Trwy gydol oes yr UKSPF, rydym eisiau i leoedd lleol weithio gyda graen gweithgarwch y gweinyddiaethau datganoledig a chyflawni deilliannau gwell i gymunedau ledled y DU mewn partneriaeth â nhw. Dylai hyn olygu bod cynlluniau’n cael eu dylunio gan ystyried sicrhau gwell gwerth am arian, ac osgoi dyblygu fel y gallwn gyflawni ein cyd amcanion.

I alluogi hyn, bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn ymgymryd â nifer o rolau a chyfrifoldebau yn y Gronfa. Mae llywodraethau’r Alban a Chymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o fforwm gweinidogol y DU gyfan, a fydd yn cefnogi cyflawni’r Gronfa. Yn Yr Alban a Chymru, rydym eisiau i’r naill lywodraeth weithio gyda’u daearyddiaethau strategol ar ddatblygu cynlluniau buddsoddi, ac i fynychu’r holl grwpiau partneriaeth lleol mewn ffordd lawn.

5.4 Rôl llywodraeth y DU

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn atebol am weithrediad cyffredinol y gronfa, gan weithio mewn partneriaeth ag ystod o adrannau llywodraeth y DU.

Bydd yr Adran Addysg yn cymeradwyo cynlluniau buddsoddi Lluosi yn Lloegr.

Lle bo’n berthnasol, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ceisio cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Addysg ar weithredu’r flaenoriaeth fuddsoddi pobl a sgiliau, a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer y flaenoriaeth fuddsoddi cynorthwyo busnesau lleol.

6. Sut i ysgrifennu cynllun buddsoddi

6.1 Cynlluniau buddsoddi

Er mwyn cael mynediad i gyllid yr UKSPF, gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol gwblhau cynllun buddsoddi, yn amlinellu sut maent yn bwriadu defnyddio a chyflawni’r cyllid. Mae’r UKSPF wedi’i gynllunio i rymuso arweinwyr a chymunedau lleol i gyflawni blaenoriaethau a nodwyd yn lleol, ac mae proses y cynllun buddsoddi wedi’i ddylunio gyda hyn mewn cof.

Gofynnir i awdurdodau lleol ddatblygu’u cynllun buddsoddi ar y cyd â rhanddeiliaid lleol. Dylai lleoedd sefydlu neu ddynodi grŵp partneriaeth lleol i ymgynghori ag ef wrth ddatblygu’u cynllun buddsoddi. Wedyn bydd angen i gynlluniau gael eu cytuno gan yr awdurdod lleol arweiniol a chan lywodraeth y DU i ddatgloi’r dyraniadau.

Yn yr Alban a Chymru, rydym eisiau i bob daearyddiaeth strategol gynnwys llywodraethau’r Alban a Chymru, a Swyddfeydd Ysgrifennydd Gwladol Yr Alban a Chymru yn y drefn honno, wrth baratoi eu cynlluniau buddsoddi.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddylunio cynllun buddsoddi ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fydd â goruchwyliaeth dros gyflawni; mae hyn yn adlewyrchu’r rôl arbennig a gwahanol y mae llywodraeth leol yn ei chwarae yng Ngogledd Iwerddon.

6.2 Cwestiynau’r cynllun buddsoddi

Bydd y cynlluniau buddsoddi yn cynnwys tri cham bras:

1. Cyd-destun lleol: cyfle i leoedd amlinellu eu tystiolaeth leol o gyfleoedd a heriau o safbwynt y tair blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer UKSPF.

2. Dewis deilliannau ac ymyriadau: lle bydd lleoedd yn nodi’r deilliannau y dymunant eu targedu ar sail cyd-destun lleol, a’r ymyriadau y maent yn dymuno eu blaenoriaethu, o dan bob blaenoriaeth fuddsoddi, o’r ddewislen o opsiynau. Dylid cysylltu’r rhain yn glir â chyfleoedd a heriau lleol.

3. Cyflawni: hwn fydd cam mwyaf manwl y cynlluniau buddsoddi, ac fe’i dadansoddir fel a ganlyn:

a. Ymagwedd at gyflawni a llywodraethu: lle mae lleoedd yn amlinellu’r strwythurau a’r prosesau a fydd yn cefnogi cyflawni’u hymyriadau dewisedig. Byddwn hefyd yn disgwyl i leoedd amlinellu’r gwaith ymgysylltu y maent wedi’i wneud fel rhan o ddatblygu’u Cynllun, gan gynnwys eu hymgysylltiad ag ASau.

Yn yr adran hon, byddwn hefyd yn gofyn i leoedd amlinellu sut y bwriadant gydweithio â lleoedd eraill i gyflawni ymyriadau penodol – er enghraifft, gyda lleoedd cymdogol, neu gyda lleoedd ledled y DU sydd ag anghenion neu heriau cyffredin.

b. Gwariant a chyflawniadau: yn nodi manylion beth mae lleoedd eisiau ei gyflawni gyda’u cynllun buddsoddi, gan gynnwys y proffil gwariant ar gyfer tair blynedd y gronfa, yn ogystal â ffigurau allbynnau a deilliannau, a ble mae lleoedd eisoes wedi nodi prosiectau penodol y maent yn dymuno eu hariannu o dan bob un o’r blaenoriaethau buddsoddi.

Fel rhan o’r proffiliau gwariant a dangosyddion hyn, gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol nodi manylion eu cyllidebau bwriadedig ar lefel blaenoriaeth ac ymyriad. Bydd Llywodraeth y DU yn defnyddio’r wybodaeth hon fel rhan o’r asesiad ac fel gwybodaeth am reolaeth perfformiad gychwynnol, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am reoli perfformiad wedi’i amlinellu mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (neu Gytundeb Cyllid Grant yng Ngogledd Iwerddon).

Nodwch – rhaid i broffiliau gwariant fod yn gywir a rhaid bod modd eu cyflawni. Rhaid i bob lle bennu lleiafswm o gyllid cyfalaf i’w fuddsoddi bob blwyddyn yn ei gynllun buddsoddi, a fydd yn cael ei fonitro. Pan fydd gan awdurdodau bach ddyraniadau cyffredinol llai, byddwn yn ystyried ceisiadau am hyblygrwydd. Rydym yn cadw’r hawl i ddal yn ôl neu ddileu taliad o 2023-24 ymlaen lle nad yw hyn yn digwydd.

c. Galluogrwydd ac adnoddau: i alluogi lleoedd i amlinellu’r adnodd sydd ganddynt i reoli a gweithio ar yr UKSPF, yn ogystal â’u galluogrwydd a’u profiad blaenorol o gyflawni cronfeydd tebyg.

6.3 Cyflawni darpariaeth arloesol

Er ein bod wedi datblygu set eang o ymyriadau, i roi hyblygrwydd i leoedd, rydym yn cydnabod y bydd yna achosion lle nad yw ein dewislen o opsiynau yn bodloni heriau neu flaenoriaethau lleol penodol sydd wedi’u nodi. I liniaru yn erbyn hyn, bydd lleoedd yn cael dewis ymyriadau ‘pwrpasol’ nad ydynt wedi’u cynnwys yn ein dewislen o opsiynau. Bydd angen i leoedd ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u hymyriad pwrpasol, gan gynnwys gadwyn rhesymeg neu ddamcaniaeth newid a dangos lle byddant yn gydnaws â blaenoriaethau buddsoddi’r UKSPF.

6.4 Sut i gyflwyno eich cynllun buddsoddi lleol

Bydd angen llenwi ffurflen cyn-gofrestru cyn cael mynediad i’r llwyfan cynlluniau buddsoddi. Bydd y ffurflen hon yn gofyn am enw a chyfeiriad e-bost y person sy’n bwriadu cyflwyno’r cynllun buddsoddi ar ran pob lle, yn ogystal â chyfeiriad e-bost arall.

Pan fydd y ffurflen hon wedi’i llenwi, byddwch yn derbyn:

  • dolen i’r platfform ar-lein i gyflwyno’ch cynllun buddsoddi, a
  • dolen i’ch galluogi i lanlwytho’r ddogfennaeth ategol sydd ei hangen arnom fel rhan o broses y cynllun buddsoddi.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r cwestiynau cynllun buddsoddi y gellir cyfeirio atynt all-lein.

Dylid cyflwyno cynlluniau buddsoddi drwy’r platfform ar-lein yn ystod y ffenestr gyflwyno. Mae’r ffenestr gyflwyno yn agor ar 30 Mehefin 2022 ac yn cau ar 1 Awst 2022. Mae hyn wedi’i gynllunio i alluogi lleoedd sy’n barod, i gyflwyno’u cynllun i’w asesu’n gynharach. Mae hefyd yn cydnabod y gallai fod angen mwy o amser ar leoedd yn yr Alban a Chymru, neu leoedd lle mae etholiadau lleol wedi’u cynnal, i gyflwyno’u cynlluniau. Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn gweithio’n uniongyrchol gyda phartneriaid i baratoi cynllun buddsoddi. Dylai awdurdodau lleol arweiniol sydd wedi dioddef oedi anrhagweledig o ganlyniad i etholiadau lleol neu fater gweithdrefnol tebyg a fydd yn effeithio ar fodloni’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ar 1 Awst 2022, gysylltu â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ukspfenquiries@communities.gov.uk gan anfon copi at eu Harweinydd Ardal. Dylai awdurdodau lleol ystyried yr effaith ar gyflawni yn sgil cyflwyno’u cynllun buddsoddi ar ôl oedi cyn gwneud cais am estyniad. Byddwn yn ystyried estyniadau byr, lle y bo’n briodol.

6.5 Sut byddwn ni’n cytuno eich cynllun

Disgwyliwn i gynnwys pob cynllun buddsoddi fod yn gydlynus a bod gefnogaeth eang iddo gan bartneriaid perthnasol. Rhaid gallu cyflawni’r ymyriadau, yr allbynnau a’r deilliannau a amlinellwyd yn y cynllun buddsoddi. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol amlinellu sut byddant yn cyflawni rhaglen lwyddiannus a darparu proffil gwariant a chyflawniadau cyflawn a chywir.

Byddwn yn arwain asesiad o’r tri maes yn y cynllun buddsoddi:

  • Cyd-destun lleol – gan gynnwys heriau a chyfleoedd
  • Dewis o ddeilliannau, allbynnau ac ymyriadau arfaethedig
  • Cyflawni

Os yw ymyriadau pwrpasol yn cael eu cynnwys h.y. y rheiny nad ydynt yn ein dewislen o opsiynau, byddwn yn disgwyl gweld esboniad clir o’r ddamcaniaeth newid neu gadwyn rhesymeg a chyfiawnhad dros yr ymyriad arfaethedig cyn cymeradwyo’r ymyriad, yn ogystal â sut bydd yr ymyriad yn cael ei fonitro a’i werthuso.

Mae nifer o feysydd y mae angen cyflwyno gwybodaeth gyflawn a chywir ar eu cyfer i’w hasesu. Lle na chaiff y wybodaeth hon ei darparu, byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach e/neu ailgyflwyno gwybodaeth, er enghraifft:

  • Cyfiawnhad cyfyngedig dros ddewis ymyriadau pwrpasol
  • Methiant i nodi sail resymegol ddigonol mewn blychau testun yn unol â’r gofyn
  • Proffil anghywir neu anghyflawn o wariant a chyflawniadau – darllenwch yr arweiniad ar y tab cyntaf i sicrhau ei gwblhau’n llwyddiannus
  • Methiant i amlinellu eich cynllun cyflawni, gan gynnwys strwythurau llywodraethu ac adnoddau, yn ogystal â dyluniad cyflawni a rheoli elfennau cyflawni penodol, e.e. rheoli cymorthdaliadau/Cymorth Gwladwriaethol

Bydd angen i gynlluniau gael eu cytuno gan yr awdurdod lleol arweiniol a llywodraeth y DU i alluogi eu cymeradwyo. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn arwain proses asesu’r llywodraeth a bydd yn ymgysylltu ag adrannau perthnasol, fel y bo angen.

Lle na ellir cymeradwyo cynllun y tro cyntaf, byddwn yn darparu adborth i’r awdurdod lleol arweiniol ac yn gweithio’n ailadroddol i sicrhau cymeradwyaeth.

Rhan 2

7. Paramedrau’r Gronfa

Mae’r Gronfa wedi’i chynllunio i fod yn hyblyg ac ymatebol i amgylchiadau lleol, gan ymestyn i hyblygrwydd o ran sut caiff ymyriadau’r gronfa eu dylunio a’u cyflawni. Serch hynny, dylai awdurdodau lleol arweiniol, a phartneriaid lleol, ystyried paramedrau canlynol y gronfa wrth ddrafftio cynlluniau buddsoddi a dylunio ymyriadau:

7.1 Pwy all y Gronfa eu cynorthwyo?

Bwriadwyd i’r Gronfa helpu cymunedau ledled y wlad, cynorthwyo pobl sy’n byw neu’n gweithio yn y DU, gan gynnwys dinasyddion sydd â chaniatâd i weithio yma, a helpu busnesau sy’n gweithredu yn y DU. Gall unrhyw sefydliad â statws cyfreithiol [footnote 4] dderbyn cyllid i gyflawni ymyriad yr UKSPF, gan gynnwys cyrff hyd braich y llywodraeth, lle bo’n briodol.

Am resymau gwerth am arian ac effeithlonrwydd, argymhellir nad yw cyllid yn cael ei ddarparu fel arfer i fusnesau unigol neu unigolion, er eu budd eu hunain yn unig.

Gallai fod yn briodol gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol lle mae’n cynnig ffordd addas o fodloni anghenion lleol.

7.2 Pryd gall buddsoddiadau’r Gronfa ddechrau?

Gall y Gronfa gefnogi buddsoddiad mewn ymyriadau sy’n dechrau o 1 Ebrill 2022 lle maent yn cydweddu â’r pecyn cymorth ymyriadau perthnasol a holl ofynion y Gronfa a amlinellwyd yn y Prosbectws hwn.

Bydd unrhyw ymyriadau o’r fath dan risg cyn i gynlluniau buddsoddi lleol gael eu cymeradwyo. Gall awdurdodau lleol arweiniol ddewis canolbwyntio ar ymyriadau penodol o’r pecyn cymorth, lle mae angen clir, ac ymagwedd gyflawni sefydledig er mwyn lleihau risg.

Gall awdurdodau lleol arweiniol fynd i gostau gweinyddol a pharatoadol hefyd o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn amodol ar ddarpariaethau ar ddefnyddio’r Gronfa ar gyfer gweinyddu, wedi’u hamlinellu yn adran 4.5, a holl ofynion eraill y Gronfa a amlinellwyd yn y Prosbectws hwn, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i frandio a chyhoeddusrwydd, ac adrodd.

Cadarnheir cyllid am dair blwyddyn ariannol – 2022-23, 2023-24 a 2024-25 – sy’n darparu elfen sylfaenol rhagfynegol o gyllid twf lleol. Dylai’r holl ymyriadau ddod i ben erbyn Mawrth 2025, neu gynnwys cymal terfynu sy’n caniatáu ar gyfer cau erbyn Mawrth 2025 os yw’n ofynnol (er enghraifft, cyllid adnewyddol blynyddol).

7.3 Sut allwn ni ariannu ymyriadau?

Gellir defnyddio’r Gronfa yn hyblyg i gynorthwyo ymyriadau drwy:

  • grant i sefydliadau cyhoeddus neu breifat,
  • comisiynu sefydliadau trydydd parti
  • caffael darpariaeth gwasanaeth
  • darpariaeth fewnol

Dylai pob lle roi ystyriaeth i Safonau Grantiau Swyddfa’r Cabinet wrth benderfynu pa opsiwn sy’n cydweddu orau i’w amgylchiadau. Dylai awdurdodau lleol arweiniol nodi mai cystadlaethau am brosiectau yw’r ymagwedd ddiofyn ar gyfer dewis derbynyddion grantiau cyhoeddus.

Hefyd, dylai awdurdodau lleol arweiniol ddylunio’u prosesau dewis prosiect a chontractio fel eu bod yn cynnwys mecanweithiau i adfer cyllid lle nad yw buddiolwyr yn cydymffurfio â pharamedrau’r gronfa, cyfraith y DU neu unrhyw ofynion lleol.

Gallai benthyciadau i sefydliadau neu fusnesau fod yn briodol hefyd mewn amgylchiadau cyfyngedig. Fodd bynnag, mae cyllid benthyciadau yn mynnu arbenigedd penodol a bydd yn destun craffu manwl. Rhaid i unrhyw ymyriad beidio â dyblygu cyllid arall Llywodraeth y DU yn unig, gan gynnwys y £1.6 biliwn a gyhoeddwyd yn Adolygiad Gwariant 2021 ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gronfeydd buddsoddi’r DU a gyflawnir gan Fanc Busnes Prydain.

7.4 Hyrwyddo ffynonellau ariannu eraill

Ni fydd arian cyfatebol yn ofynnol i ddatgloi dyraniad ardal. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, yn lleihau biwrocratiaeth ac yn grymuso awdurdodau lleol arweiniol i deilwra’u hymagwedd at amgylchiadau lleol.

Ni fydd cyrchu arian cyfatebol/trosoledd yn ffactor yn yr asesiad o gynllun buddsodd pob lle.

Er nad yw arian cyfatebol yn ofynnol ac na fydd yn ffurfio rhan o feini prawf asesu’r cynlluniau buddsoddi, yn Lloegr, yr Alban a Chymru, anogir yr holl awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i ystyried arian cyfatebol gan y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector ac opsiynau trosoledd wrth ddewis ymyriadau cymunedau a lle, a chynorthwyo busnesau lleol i’w hariannu. Bydd hyn yn hyrwyddo gwerth am arian ac effaith y Gronfa.

Dylai gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw arian cyfatebol hysbys neu ddisgwyliedig neu gyllid a ddenwyd gael ei darparu yn y cynllun buddsoddi os yw ar gael adeg cyflwyno, a dylid ei hystyried wrth ddylunio ymyriadau a chytuno allbynnau a deilliannau’r Gronfa. Byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu diweddariadau rheolaidd ar yr arian cyfatebol/trosoledd y maent wedi’i gyflawni trwy gydol oes y Gronfa fel rhan o’u cyfrifoldebau adrodd.

Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnir i ymgeiswyr prosiectau a phartneriaid cyflawni ddatgan a oes ganddynt arian cyfatebol fel rhan o’u cais. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r asesiad gwerth am arian o ymyriadau ac fel rhan o’r asesiad Cymorth Gwladwriaethol.

7.5 A oes unrhyw derfynau ar gyllid?

7.5.1 Ni ddylai’r costau canlynol gael eu cynnwys mewn ymyriad UKSPF:

  • tâl am lobïo, diddanu, deisebu neu herio penderfyniadau, sy’n golygu defnyddio’r Gronfa i lobïo (drwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn ymgymryd â gweithgareddau a fwriedir i ddylanwadu neu geisio dylanwadu ar y Senedd, Llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol, yn cynnwys derbyn cyllid UKSPF; neu geisio dylanwadu ar weithredu deddfwriaethol neu reoleiddiol
  • taliadau am weithgareddau o natur plaid wleidyddol neu natur grefyddol yn gyfan gwbl
  • TAW y gellir ei adhawlio o CThEF
  • rhoddion, neu daliadau am roddion neu gyfraniadau
  • dirwyon statudol, dirwyon troseddol neu gosbau
  • taliadau am waith neu weithgareddau y mae gan yr awdurdod lleol arweiniol, cyflawnwr prosiect, buddiolwr terfynol, neu unrhyw aelod o’u partneriaeth ddyletswydd statudol i ymgymryd â nhw, neu sydd wedi’u hariannu’n llawn gan ffynonellau eraill
  • cyfyngau a rhwymedigaethau digwyddiadol
  • difidendau
  • dyledion drwg, costau’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr, neu ddirwyn cwmni i ben
  • treuliau mewn perthynas ag ymgyfreitha, diswyddo annheg neu iawndal arall
  • costau yr aethpwyd iddynt gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu tuag at gynlluniau pensiwn preifat

7.5.2 Dosrannu costau

Ar gyfer prosiectau a ariennir gan fwy nag un Cyllidwr neu fwy nag un dyraniad UKSPF lleol, disgwylir y bydd costau fel arfer yn cael eu dosrannu ar sail canran yn unol â chyfraniadau ariannu.

Lle mae costau i’w dosrannu, dylai’r dull dosrannu fod yn glir a thryloyw, a’i gytuno gan yr awdurdod lleol arweiniol (neu lywodraeth y DU gyda phartneriaid cyflawni yng Ngogledd Iwerddon).

7.6 Cydymffurfio â chyfraith y DU

7.6.1 Rheoli cymorthdaliadau a Chymorth Gwladwriaethol

Yn y cynllun buddsoddi, gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol nodi sut bydd eu hymyriadau arfaethedig yn cael eu cyflawni o fewn y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau, a’u capasiti a’u galluogrwydd i reoli cymorthdaliadau (a Chymorth Gwladwriaethol yn achos ymyriadau sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon).

Ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru, byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach ar reoli cymorthdaliadau ac UKSPF yn yr haf. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol i weithredu’u rôl gyflawni ddirprwyedig.

Ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn goruchwylio cyflawni’r Gronfa, gan gynnwys cyfrifoldeb am asesu a monitro Cymorth Gwladwriaethol a rheoli cymorthdaliadau ar gyfer ymyriadau unigol. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol, fel y bo’n briodol.

7.6.2 Caffael cyhoeddus

Ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru, rhaid i bob gwariant sy’n gysylltiedig â’r Gronfa gael ei asesu gan yr awdurdod lleol arweiniol ymlaen llaw i sicrhau bod buddsoddiad arfaethedig yn cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus (yr Alban) 2015 lle bo’n berthnasol, ac yn dilyn cyfansoddiad lleol a rheolau, prosesau a gweithdrefnau grantiau, fel y bo’n berthnasol.

Ar gyfer ymyriadau Gogledd Iwerddon, rhaid i bob gwariant sy’n gysylltiedig â’r Gronfa gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, lle bo’n berthnasol. Caiff hyn ei asesu gennym ni cyn cymeradwyo ac yn amodol ar fonitro ar ôl cymeradwyo, mewn cydweithrediad â sefydliadau perthnasol, fel y bo’n briodol.

7.7 Brandio a chyhoeddusrwydd

Rhaid i awdurdodau lleol arweiniol a chyflawnwyr prosiectau sicrhau bod logos priodol Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio’n amlwg yn yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a dogfennau cyhoeddus yn ymwneud â gweithgarwch a ariennir - gan gynnwys argraffu a chyhoeddiadau, at ddeunyddiau digidol ac electronig.

Dylir defnyddio’r logos canlynol hefyd pan yn cyfathrebu yn Saesneg a Chymraeg yn y drefn honno:

Ochr yn ochr â logos priodol Llywodraeth y DU, rhaid i awdurdodau lleol arweiniol a chyflawnwyr prosiectau sicrhau hefyd fod gwefannau a deunyddiau printiedig yn cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid gan yr UKSPF. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch paratoadol sy’n gysylltiedig â’r Gronfa.

Byddwn yn mynnu bod cyflawnwyr prosiectau yn gosod plac o faint sylweddol mewn lleoliad sy’n hawdd i’r cyhoedd ei weld, yn cynnwys logo priodol Llywodraeth y DU, enw’r prosiect a’r testun safonedig. Dylai placiau fod yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.

Dim ond gydag awdurdodau lleol arweiniol (neu frandio unrhyw ddaearyddiaeth strategol) neu gyllidwyr y caniateir cyd-frandio.

Bydd manylion pellach am frandio a gofynion cyhoeddusrwydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.

8. Sut byddwn ni’n talu lleoedd a phrosiectau

Bydd y Gronfa’n gweithredu ledled y DU ac yn defnyddio’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i gyflwyno cyllid i leoedd ledled y DU.

Yn ychwanegol at bwerau presennol y gweinyddiaethau datganoledig, mae hyn yn galluogi Llywodraeth y DU i gydategu a chryfhau’r cymorth a roddwyd i bobl, busnesau a chymunedau lleol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, yn ogystal â Lloegr.

8.1 Lloegr, yr Alban a Chymru

Byddwn yn talu bob awdurdod lleol arweiniol yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn flynyddol ymlaen llaw. Yn 2022-23, bydd cyllid yn cael ei dalu pan fydd y cynllun buddsoddi lleol wedi’i gymeradwyo. Yn 2023-24 a 2024-25, byddwn yn talu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn derbyn llythyr penderfyniad am grant a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu gofynion a rhwymedigaethau’r Gronfa. Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol ddychwelyd unrhyw danwariant ar ddiwedd pob Blwyddyn Ariannol.

Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn yr Alban a Chymru yn derbyn dyraniad Lluosi fel rhan o’u taliad blynyddol. Byddwn yn mynnu adroddiadau a monitro ar wahân ar gyfer y swm hwn.

Disgwyliwn y bydd buddsoddiadau ac allbynnau’r Gronfa yn cael eu cyflawni yn unol â chynllun buddsoddi pob lle, yn brydlon ac o fewn y flwyddyn. Rydym yn cadw’r hawl i gadw’n ôl neu oedi taliad ac addasu cylchoedd talu o 2023-24 ymlaen lle ceir materion yn ymwneud â pherfformiad neu faterion eraill gyda chyflawni.

8.2 Gogledd Iwerddon

Mae’n fwriad gennym i gefnogi cyflawniad a bwriadwn dalu cyflawnwyr prosiectau uniongyrchol (gan gynnwys cyflawnwyr Lluosi) yng Ngogledd Iwerddon ymlaen llaw, ar gylch chwe misol. Gellir talu hwn drwy gytundeb cyllid grant neu ddull amgen wedi’i gytuno, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys statws y corff cyflawni. Bydd hyn yn cael ei arwain gan y cynllun buddsoddi a gytunwyd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd pob cyflawnwr prosiect yn derbyn datganiad clir o ofynion a rhwymedigaethau’r Gronfa.

Disgwyliwn i fuddsoddiad ac allbynnau’r Gronfa gael eu cyflawni yn unol â chais cytûn a phroffil gwariant ac allbynnau pob ymyriad. Yma, rydym yn cadw’r hawl hefyd i gadw’n ôl neu oedi taliad ac addasu cylchoedd talu lle ceir materion yn ymwneud â pherfformiad neu faterion eraill gyda chyflawni. Amlinellwn yn adran 9 sut y byddwn yn mesur perfformiad.

9. Sut byddwn yn mesur perfformiad

9.1 Trosolwg o reolaeth perfformiad

9.1.1 Lloegr, yr Alban a Chymru

Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol yn Lloegr, yr Alban a Chymru i roi data i ni er mwyn sicrhau bod dyraniadau’n cael eu gwario yn unol â graddfeydd a cherrig milltir cytûn, gan gynnwys cyflawni allbynnau a deilliannau ar lefel prosiect. Byddwn hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd am allbynnau a deilliannau prosiectau unigol ar lefel etholaeth Senedd y DU.

Bydd y cerrig milltir, disgwyliadau a graddfeydd amser wedi’u hamlinellu mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda phob awdurdod lleol arweiniol. Bydd cais am adroddiad ffurfiol bob chwe mis, a bydd yn ofynnol rhoi diweddariadau ansoddol yn fwy mynych hefyd.

Cyn bob taliad blynyddol, gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol gwblhau adroddiad hefyd. Gan ddibynnu ar amseriadau’r taliad cyntaf, ar gyfer yr ail daliad blynyddol, efallai y gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol gyflwyno adroddiad yn gynharach na chwe mis ar ôl cyflwyno’r adroddiad cyntaf.

Bydd awdurdodau lleol arweiniol nad ydynt yn gallu bodloni cerrig milltir yn cael cefnogaeth gan swyddogion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i sicrhau rhoi cyflawni’n ôl ar y trywydd iawn. Os yw awdurdodau lleol arweiniol yn dymuno gwneud newidiadau i’r gweithgarwch cynlluniedig, gellir adolygu hyn.

Byddwn yn gofyn i bob awdurdod lleol arweiniol ein hysbysu am unrhyw risgiau, neu faterion, gweithredol neu ariannol presennol neu ddatblygol, ac unrhyw fesurau wrth gefn a roddwyd ar waith. Gofynnir am hyn yng nghynllun buddsoddi pob lle ac ym mhob adroddiad ar ôl hynny. Bydd hyn yn ein helpu i bennu lefel y cymorth y gallwn ei ddarparu, a/neu fonitro manylach y gallwn ei fynnu. Gallai hyn arwain hefyd at ddirprwyo llai, cyfnodau talu byrrach neu gadw cyllid yn ôl yn yr ardal yr effeithiwyd arni.

Disgwylir i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar agweddau cyflawni technegol hefyd, fel twyll a risg.

Bydd gwybodaeth fanwl bellach, gan gynnwys y fformat a’r broses adrodd, yn cael eu hamlinellu mewn canllawiau manwl yn yr haf.

9.1.2 Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd perfformiad prosiectau unigol yn cael ei reoli gan swyddogion o’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Bydd gofynion penodol yn cael eu hamlinellu mewn cytundeb cyllid grant, neu ymagweddau eraill gan ddibynnu ar amgylchiadau. Byddwn yn mesur p’un a yw cyllid yn cael ei wario yn unol â graddfeydd amser a cherrig milltir cytûn, gan gynnwys cyflawni allbynnau a deilliannau. Bydd cais am adroddiad ffurfiol i reolwyr bob chwe mis, a bydd yn ofynnol rhoi diweddariadau anffurfiol hefyd.

Bydd cyflawnwyr prosiectau yng Ngogledd Iwerddon nad ydynt yn gallu bodloni cerrig milltir yn cael cymorth gan swyddogion y llywodraeth i sicrhau rhoi cyflawni’n ôl ar y trywydd iawn. Os yw cyflawnwyr prosiectau yn dymuno gwneud newidiadau i’w gweithgarwch cynlluniedig, gellir adolygu hy gyda ni.

Bydd disgwyl i gyflawnwyr prosiectau yng Ngogledd Iwerddon adrodd ar, neu gydymffurfio ag, agweddau cyflawni technegol a gofynion cyfreithiol fel brandio, risg a Chymorth Gwladwriaethol neu reoli cymorthdaliadau.

Bydd gwybodaeth fanwl bellach, gan gynnwys y fformat a’r broses adrodd, yn cael eu hamlinellu mewn canllawiau manwl yn yr haf.

9.2 Sut byddwn ni’n monitro a gwerthuso’r Gronfa ar lefel y DU

Bydd y Gronfa’n cael ei gwerthuso ar sail damcaniaeth newid sy’n gyson ag amcanion y Papur Gwyn Ffyniant Bro, ei ddamcaniaeth newid[footnote 5] a’r deilliannau canlyniadol y mae’r llywodraeth eisiau eu cyflawni ar draws yr agenda Ffyniant Bro. Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol gyfeirio at y deilliannau a’r dangosyddion hyn yn eu cynllun buddsoddi.

Rydym yn datblygu ymagwedd genedlaethol at werthuso, gan gynnwys astudiaeth gwmpasu mewn partneriaeth â’r What Works Centre for Local Economic Growth. Ni ellir pennu’r fethodoleg werthuso yn llawn hyd nes ein bod wedi derbyn cynlluniau buddsoddi a deall ystod y gweithgareddau sydd i’w hariannu. Gallai hyn gynnwys cronni neu gyfosod data o nifer o ardaloedd gwahanol.

Bydd y gwerthusiad cenedlaethol yn gwerthuso’r Gronfa yn ei chyfanrwydd o ddau safbwynt cysylltiedig:

  • Gwerthusiad/au o brosesau ar lefel y Gronfa i ddangos atebolrwydd a deall beth weithiodd yn dda, beth na weithiodd yn dda, a pham, yn nyluniad a chyflawniad y Gronfa. Bydd dangosyddion perfformiad gan awdurdodau lleol arweiniol neu gyflawnwyr prosiectau yn cyfrannu at werthuso prosesau ar lefel rhaglenni. Yn ogystal, gallai fod yn ofynnol i leoedd gydweithredu â gweithgarwch gwerthuso prosesau yr ymgymerir â nhw gennym ni neu ar ein rhan.

  • Archwilio ymarferoldeb gwerthuso effaith achosol. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r modd y gwerthusir gwerth am arian a gyflawnir gan y Gronfa. Gallai fod yn ofynnol i leoedd gydweithredu â gweithgarwch gwerthuso effaith, neu werth am arian (gan gynnwys casglu data) a wneir gennym ni neu ar ein rhan.

Byddwn yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill i werthuso UKSPF, gan gynnwys yr Adran Addysg ar gyfer ymyriadau Lluosi. Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach am ein dulliau gwerthuso ar gyfer y Gronfa (gan gynnwys y gwerthusiad cyffredinol ar lefel y Gronfa) pan fydd y cynlluniau buddsoddi wedi’u hadolygu.

9.3 Gofynion monitro a gwerthuso ar gyfer lleoedd lleol

Damcaniaethau newid

Bydd angen i unrhyw ymyriadau pwrpasol a gynigir gan awdurdodau lleol arweiniol gael eu cefnogi gan eu Damcaniaeth Newid, Fframwaith Rhesymegol neu Gadwyn Rhesymeg eu hunain yn eu cynlluniau buddsoddi. Dylid seilio hyn ar dystiolaeth rifyddol lle bo modd.

Monitro

Disgwyliwn i bob awdurdod lleol arweiniol, man lleiaf, fonitro gwariant, allbynnau a deiliannau yn erbyn dangosyddion cytûn a chyflwyno’r wybodaeth hon i ni i gynorthwyo gyda gwerthuso ar lefel rhaglenni. Mae angen i hyn gynnwys metrigau perthnasol o’r Papur Gwyn Ffyniant Bro. Ceir rhagor o wybodaeth am ddangosyddion yn adran 9.4.

Gwerthusiadau o brosesau a arweinir yn lleol

Cynghorir bob awdurdod lleol arweiniol i gynnal gwerthusiad/au o brosesau pob prosiect y maent yn eu hariannu i ddangos effeithiolrwydd cyflawni’r ymyriadau a gynhelir. Gall hyn helpu cyfrannu at atebolrwydd lleol a darparu dysgu ar beth wnaeth weithio o ran cyflawni.

Gwerthusiadau o effaith achosol a arweinir yn lleol

Er mwyn adeiladu’r sail dystiolaeth ar beth sy’n gweithio ar gyfer ymyriadau balchder lleol, anogir awdurdodau arweiniol yn gryf hefyd i gynnal eu gwerthusiadau o effaith achosol meintiol eu hunain ar gyfer rhai prosiectau, lle bo’n ymarferol.

Dylai hyn fod yn gymesur â’u dyraniadau a chynlluniau buddsoddi. Er enghraifft, disgwylir i’r cyfleoedd i gynnal gwerthusiadau o effaith achosol fod yn fwy ar gyfer dyraniadau mwy. Yn ogystal, gall awdurdod lleol arweiniol roi blaenoriaeth i werthusiadau o effaith achosol ar brosiectau penodol, os yw gwerthusiadau o effaith ar rai prosiectau eraill yn annhebygol o ddarparu canlyniadau ystyrlon.

Rydym yn priodoli mwy o werth i ansawdd dros nifer y gwerthusiadau o effaith, gan gynnwys cynigion i ddiffinio achosiaeth neu gyfraniad. Lle gallai cynnydd yng nghyfran cyllideb leol y tu hwnt i’r 4% a ddyrannwyd ar gyfer gweinyddu a gwerthuso arwain at welliant sylweddol mewn ansawdd a gallu i ddysgu gwersi, dylid amlinellu’r achos hwn yn y cynllun buddsoddi.

Gwerthusiadau o effaith achosol a arweinir gan lywodraeth y DU

Bwriadwn ddefnyddio’r UKSPF hefyd i adeiladu’r sail dystiolaeth ar beth sy’n gweithio ar gyfer ymyriadau balchder lleol, cyfleoedd bywyd, a thwf lleol, drwy werthuso’n gadarn nifer o’r ymyriadau hynny a gyflawnwyd drwy’r Gronfa (gan ddefnyddio dulliau arbrofol neu led-arbrofol, os yw’n briodol) i bennu’u heffeithiolrwydd. Bydd y gwerthusiadau hyn yn bwydo i’r gwerthusiad o’r gronfa yn gyffredinol hefyd.

Byddwn yn penderfynu pa ymyriadau fydd yn cael eu gwerthuso ar ba lefel a chan ddefnyddio pa ddulliau, ar ôl adolygu’r cynlluniau buddsoddi lleol. Er mwyn gwerthuso mathau gwahanol o ymyriad, gall fod angen i leoedd gydweithredu â gweithgarwch gwerthuso a wneir gennym ni neu ar ein rhan (er enghraifft, trwy ddarparu data penodol). Gallwn bennu gofynion penodol ar leoedd o ran beth maent yn ei gasglu, er mwyn ein galluogi i edrych ar draws ystod o ardaloedd neu fathau o ymyriadau. Yn ogystal â data deilliannau blaenorol a dilynol, dylai awdurdodau lleol arweiniol ddisgwyl cais am ddata arall hefyd sy’n ein helpu i wneud hyn. Gallai gofynion tebygol gynnwys data am leoliad prosiectau (e.e. codau post) a dynodwyr unigryw i bobl neu fusnes (e.e. rhifau Yswiriant Gwladol neu Rifau Cofrestru Cwmni) i’n galluogi i adnabod grwpiau rheoli cymharus. Dylai ardaloedd gadw hyn mewn cof wrth ddatblygu’u cynlluniau buddsoddi, a pharatoi ar gyfer casglu, storio a rhannu (dan reolaeth) data o’r fath.

Efallai y gofynnwn i chi hefyd ystyried trefnu ymyriadau am yn ail i’n galluogi i fanteisio ar wahaniaethau mewn amseriad cyflwyno er mwyn cael dysgu mwy am effeithiau.

Ni fydd gwerthusiadau o effaith achosol a arweinir gan lywodraeth y DU yn dyblygu unrhyw rai a arweinir yn lleol.

9.4 Dangosyddion y Gronfa

Rhaid i bob lle, a phob ymyriad ledled y DU, ddefnyddio dangosyddion cyffredin, fel yr amlinellir ar gyfer pob ymyriad i fesur allbynnau, deilliannau ac effeithiau. Mae hyn yn sicrhau y gallwn gymharu ymyriadau tebyg mewn lleoedd gwahanol, ac ymgymryd â gweithgareddau gwerthuso a’u cyfosod.

Mae’n golygu hefyd y bydd lleoedd yn gallu gweithio gyda’i gilydd yn haws, a bydd sefydliadau sy’n cyflawni mewn amryfal leoedd yn gallu cyflawni’u hymyriadau’n fwy effeithlon.

Mae dangosyddion dangosol y Gronfa wedi’u hamlinellu ar gyfer pob ymyriad yma. Dylai awdurdodau lleol arweiniol ddefnyddio’r rhain fel canllaw wrth ddrafftio cynlluniau buddsoddi lleol.

Bydd diffiniadau dangosyddion terfynol yn cael eu cadarnhau yn yr haf, cyn dyddiad cyflwyno’r cynlluniau buddsoddi, pan fydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK.

10. Camau nesaf a dyddiadau pwysig

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a amlinellwyd yn y Prosbectws hwn, anogir pob awdurdod lleol arweiniol (neu Lywodraeth y DU gan weithio gyda phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon) i weithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid lleol, grwpiau a sefydliadau priodol i ddatblygu’u cynllun buddsoddi.

Mae llinell amser o ddyddiadau allweddol wedi’i chynnwys isod er gwybodaeth; nodwch mai dangosol yw rhai o’r rhain, a gallent gael eu newid.

Pa bryd |Gweithgarwch 2 Chwefror 2022 | Canllawiau cyn lansio 13 Ebrill 2022 |Lansio’r Gronfa Ebrill – Mai 2022 | Sesiynau ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill i gefnogi proses y cynlluniau buddsoddi Ebrill – Mehefin/ Gorffennaf 2022 | Awdurdodau lleol arweiniol (a Llywodraeth y DU yng Ngogledd Iwerddon) yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau buddsoddi lleol

Cysylltiadau ar gyfer pob awdurdod lleol arweiniol yn cofrestru i gael mynediad i’r porth cynlluniau buddsoddi.

Manylion mewngofnodi’r porth cynlluniau buddsoddi yn cael eu cyhoeddi. Haf 2022 |Canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi gan gynnwys canllawiau ar fonitro buddion a gwerthusiadau, sicrwydd, rheoli cymorthdaliadau, brandio a chyhoeddusrwydd.

Bydd prosesau gwneud cais a thempledi ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael eu cyhoeddi – gall y rhain gael eu defnyddio gan awdurdodau lleol arweiniol yn Lloegr, yr Alban a Chymru lle dymunir. 30 Mehefin 2022 | Ffenestr cynlluniau buddsoddi yn agor. 1 Awst 2022 | Ffenestr cynlluniau buddsoddi yn cau Gorffennaf – Medi 2022 | Cyfnod asesu cynlluniau buddsoddi dangosol ar gyfer Llywodraeth y DU Hydref 2022 ymlaen |Dyddiad disgwyliedig i’r cynlluniau buddsoddi cyntaf gael eu cymeradwyo Hydref 2022 ymlaen | Taliad cyntaf disgwyliedig i’w wneud i awdurdodau lleol arweiniol Mawrth 2025 |Cyfnod ariannu tair blynedd yn dod i ben

  1. Business productivity review: call for evidence  2

  2. ONS (2018) Management practices and productivity in British production and services industries.  2

  3. Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (2014) Innovation Report 2014: Innovation, Research and Growth. 

  4. Science and innovation: rates of return to investment 2

  5. England ESF Programme 2007–2013: Evidence synthesis

  6. Measuring the net present value of further education in England 2018 to 2019

  7. Mae anweithgarwch economaidd yn cyfeirio at y rheiny heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos ddiwethaf a/neu nid ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, er, yn ymarferol, bydd llawer o bobl sy’n anweithgar wedi bod felly am gyfnod hir. Ar gyfer buddsoddiadau pobl a sgiliau UKSPF, mae’r term yn cynnwys pobl nad ydynt mewn swydd sydd yn ôl ac ymlaen ar fudd-daliadau, ac eithrio’r rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sydd yn y grwpiau amodoldeb cyfreithiol y mae eu holl ofynion yn gysylltiedig â gwaith (h.y. Chwiliad Gwaith Llai Manwl a Dwys).