Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025-26: Nodyn Technegol

Diweddarwyd 23 Ionawr 2025

Mae’r nodyn technegol hwn yn rhoi manylion am y diweddariadau allweddol i Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025-26.

Mae’r wybodaeth isod yn diweddaru rhannau o Brosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, a gynhyrchwyd ar gyfer cyflwyno’r gronfa yn 2022-25.

Dylid defnyddio’r nodyn technegol hwn ar y cyd â Phrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i arwain y broses o gyflwyno’r Gronfa o fis Ebrill 2025 ymlaen. Ac eithrio lle y crybwyllir yn benodol yn y ddogfen hon, nid yw’r arweiniad a roddir yn y Prosbectws wedi newid.

1. Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn disodli adran 1 Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

1.1        Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig – cyflawni Cenadaethau’r llywodraeth

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid, sy’n canolbwyntio ar bum Cenhadaeth genedlaethol: amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, hirdymor sy’n rhoi ymdeimlad cryf o ddiben i’r wlad.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn cefnogi cyflawni’r Genhadaeth yn rhagweithiol: allanoli pŵer i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cyhoeddodd Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig £900 miliwn arall o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2026. Mae pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cael dyraniad ychwanegol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig – gan helpu lleoedd i fanteisio ar hyblygrwydd y Gronfa a chynllunio ar gyfer darparu o Ebrill 2025.

Ar gyfer 2025-26, rydym wedi cysylltu ymyriadau presennol â themâu a arweinir gan y Genhadaeth ar draws y tri maes blaenoriaeth: Cymunedau a Lle; Cefnogi Busnesau Lleol; a Phobl a Sgiliau (gweler y diagram isod).

Bydd cymysgedd y Gronfa o gyllid refeniw a chyfalaf yn sicrhau bod lleoedd yn cyflawni’r brif Genhadaeth i sbarduno twf economaidd yn uniongyrchol. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn cefnogi’r pedair Cenhadaeth sy’n weddill, gan helpu’r rhai hynny sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a hybu cydlyniant cymunedol, gan gynnwys cefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â digartrefedd, mewn ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig.

Blaenoriaethau Buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a Chenadaethau’r Llywodraeth

Disgrifiad o’r ddelwedd: Mae’r darlun hwn yn amlinellu pum Cenhadaeth y Llywodraeth.

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Hawlio ein strydoedd yn ôl
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol

Yna, mae’n dangos y tair blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnesau Lleol, a Phobl a Sgiliau), eu themâu sylfaenol ac is-thema/cwmpas pob un. Mae’n dangos sut y bydd pum Cenhadaeth y Llywodraeth yn cael eu cyflawni gan weithgarwch Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig o dan bob blaenoriaeth a thema.

Cymunedau a Lle

Mae dwy thema o dan y flaenoriaeth Cymunedau a Lle, sef Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol, a Lleoedd sy’n Ffynnu.

Mae Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol yn cefnogi:

  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Hawlio ein strydoedd yn ôl
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol

Mae ei chwmpas yn cynnwys gwella iechyd a lles, lleihau troseddau ac ofn troseddau, dod â chymunedau ynghyd a mynd i’r afael â digartrefedd.

Mae Lleoedd sy’n Ffynnu yn cefnogi Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd. Mae ei chwmpas yn cynnwys datblygu’r economi ymwelwyr, a gwelliannau i strydoedd mawr a chanol trefi.

Cefnogi Busnesau Lleol

Mae’r thema Cymorth i Fusnesau yn dod o dan y flaenoriaeth Cefnogi Busnesau Lleol. Dyma’r unig thema o dan y flaenoriaeth fuddsoddi hon.

Mae Cymorth i Fusnesau yn cefnogi:

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno’r economi
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd

Mae ei chwmpas yn cynnwys cyngor a chymorth i fusnesau, diwylliant menter a chymorth i egin fusnesau, yn ogystal â safleoedd busnes.

Pobl a Sgiliau

Mae dwy thema o dan flaenoriaeth Pobl a Sgiliau, sef Cyflogadwyedd a Sgiliau.

Mae’r ddwy thema’n cefnogi:

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno’r economi
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd

Mae cwmpas y thema Cyflogadwyedd yn cynnwys cynorthwyo pobl, gan gynnwys y rhai hynny sy’n economaidd anweithgar, i symud tuag at ac i gyflogaeth a chymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Mae cwmpas y thema Sgiliau yn cynnwys sgiliau hanfodol (gan gynnwys rhifedd, llythrennedd, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a digidol) a sgiliau cysylltiedig â chyflogaeth.

Mae model cyflwyno dirprwyedig, cyffyrddiad ysgafn y Gronfa yn galluogi llywodraeth leol i barhau i fuddsoddi mewn blaenoriaethau lleol a thargedu cyllid i’r man lle y mae ei angen fwyaf. Mae’n galluogi gwneud penderfyniadau’n gwbl leol a bydd yn cael ei gynllunio a’i gyflawni gan gynghorau ac awdurdodau maerol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban (‘awdurdodau lleol arweiniol’).

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn goruchwylio’r Gronfa, gan weithio’n agos gyda phartneriaid

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ystod y flwyddyn bontio.

2. Ar gyfer beth y dylid defnyddio’r cyllid

Mae adran 2.1-2.3 o’r nodyn technegol hwn yn disodli adran 2.1-2.5 o Brosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Dylid darllen Adran 2.4 y nodyn technegol hwn ochr yn ochr ag adran 2.6 y prosbectws.

2.1      Defnyddio’r Gronfa i fodloni anghenion lleol a chefnogi blaenoriaethau’r llywodraeth

Bydd gan awdurdodau lleol arweiniol yr hyblygrwydd o hyd i fuddsoddi ar draws ystod o weithgareddau sy’n cynrychioli’r datrysiadau iawn i’w hardaloedd. Ar gyfer 2025-26, rydym wedi symleiddio ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Bellach, mae gennym bum thema ledled y Deyrnas Unedig a deuddeg is-thema sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflawni Cenadaethau’r Llywodraeth, sy’n golygu bod y Gronfa’n haws ei rheoli, gyda llai o adroddiadau i’w gwneud. Mae’r deuddeg is-thema newydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn cysylltu â’r hyd at 53 o ymyriadau blaenorol, sy’n golygu bod y Gronfa’n gallu parhau i gefnogi’r un ystod eang o weithgarwch ag ers 2022. Nid ydym yn disgwyl y bydd angen unrhyw ymyriadau pwrpasol ar gyfer 2025-26.

2.2 Lluosi

Ar gyfer 2025-26, ni fydd y rhaglen Lluosi yn parhau fel rhaglen benodol wedi’i chlustnodi. Bydd awdurdodau lleol yn cadw’r hyblygrwydd i ddefnyddio eu dyraniad lleol yn unol â’r angen, gan gynnwys gallu parhaus i ariannu cymorth rhifedd ar gyfer oedolion ochr yn ochr â’r gyfres ehangach o weithgareddau sy’n gysylltiedig â phobl a sgiliau.

2.3 Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig

Rydym yn gweithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a byddwn yn rhoi diweddariad ar Gronfa Ffyniant Lloegr Wledig, maes o law.

2.4 Polisïau neu gynlluniau eraill i’w hystyried

Bydd angen i weithgareddau a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ystyried polisïau a blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi’u diweddaru – gan gynnwys y rhai hynny gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle y bo’n berthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, y papur gwyn ‘Cael Prydain i Weithio’ a’r papur gwyrdd ‘Buddsoddi 2035: Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y Deyrnas Unedig’.

3. Y cyllid y bydd lleoedd yn ei dderbyn

Mae’r adran hon yn disodli Adran 3 Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Bydd pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn derbyn dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025-26. Mae dyraniadau lefel gwlad ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gael yma.

Bydd dyraniad pob lle yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf. Mae swm y cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer pob awdurdod lleol arweiniol wedi’i nodi ar y dudalen we dyraniadau. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, isafswm yw’r dyraniad cyfalaf.

4. Sut bydd y Gronfa’n cael ei chyflwyno

Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag Adran 4 Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Mae unrhyw newidiadau wedi cael eu hamlinellu isod.

4.1  Trosolwg

Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn parhau i oruchwylio’r Gronfa ar lefel y Deyrnas Unedig ar gyfer y flwyddyn bontio, gan weithio mewn partneriaeth agos â’r llywodraethau datganoledig ac adrannau eraill Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Nod blwyddyn estyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yw pontio’n ddidrafferth o raglen bresennol y Gronfa i fframwaith cyllido newydd ar gyfer y dyfodol. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ddychwelyd y cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllid strwythurol i gynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig i barchu’r ymrwymiad hwn.

4.2  Rôl awdurdodau lleol arweiniol

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, bydd rôl awdurdodau lleol arweiniol o ran cyflwyno’r Gronfa yn 2025-26 yn aros yr un fath. Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn derbyn dyraniad ardal i’w reoli, gan gynnwys asesu a chymeradwyo ceisiadau, prosesu taliadau a monitro o ddydd i ddydd.

Gweler adran 4.2 Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i gael rhagor o wybodaeth am rôl awdurdodau lleol arweiniol yn benodol o ran Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Sylwch na fydd rhaid i awdurdodau lleol arweiniol gyflwyno cynllun buddsoddi diwygiedig ar gyfer 2025-26.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd MHCLG yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Gronfa yn 2025-26.

Anogir cydweithio â lleoedd eraill yn gryf wrth gyflwyno ymyriadau’r Gronfa pan fydd hynny’n bodloni anghenion y lle ac yn cyflawni gwerth am arian neu ganlyniadau gwell i bobl leol neu fusnesau.

4.4      Trefniadau cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig

4.4.1   Lloegr

Yn Lloegr, bydd y Gronfa’n gweithredu trwy’r un awdurdodau lleol arweiniol ag ar gyfer 2022-25, ac eithrio lle y cytunwyd ar fargeinion datganoli ar gyfer ardaloedd. Nid oes unrhyw drefniadau cyflwyno ar wahân ar gyfer Lluosi yn unig yn 2025-26.

Datganoli

Yn rhan o’n hymrwymiad i ddatganoli yn Lloegr, bydd Awdurdodau Cyfunol Manceinion Fwyaf a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn derbyn cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig trwy eu setliad integredig ar gyfer 2025-26.

Ers i ardaloedd cyflwyno gwreiddiol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig gael eu cyhoeddi, cytunwyd ar fargeinion datganoli newydd yn Lloegr a bydd y cyfrifoldeb am gyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn trosglwyddo i’r awdurdodau lleol arweiniol newydd canlynol ar gyfer 2025-26:

Awdurdod lleol arweiniol newydd Awdurdodau lleol na fyddant yn derbyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig mwyach fel awdurdod lleol arweiniol
Awdurdod Cyfunol y Gogledd-ddwyrain Cyngor Sir Durham, Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Gateshead, Awdurdod Cyfunol Gogledd Tyne, Cyngor De Tyneside, Cyngor Dinas Sunderland
Awdurdod Cyfunol Efrog a Gogledd Swydd Efrog Cyngor Dinas Efrog, Cyngor Sir Gogledd Swydd Efrog
Awdurdod Sirol Cyfunol Dwyrain Canolbarth Lloegr Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Amber, Cyngor Dosbarth Ashfield, Cyngor Dosbarth Bassetlaw, Cyngor Dosbarth Bolsover, Cyngor Bwrdeistref Broxtowe, Cyngor Bwrdeistref Chesterfield, Cyngor Dinas Derby, Cyngor Dosbarth Dyffrynnoedd Swydd Derby, Cyngor Bwrdeistref Erewash, Cyngor Bwrdeistref Gedling, Cyngor Bwrdeistref High Peak, Cyngor Dosbarth Mansfield, Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood, Cyngor Dosbarth Gogledd-ddwyrain Swydd Derby, Cyngor Dinas Nottingham, Cyngor Bwrdeistref Rushcliffe, Cyngor Dosbarth De Swydd Derby
Awdurdod Sirol Cyfunol Maerol Swydd Lincoln Fwyaf Cyngor Bwrdeistref Boston, Cyngor Dosbarth Dwyrain Lindsey, Cyngor Dinas Lincoln, Cyngor Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln, Cyngor Dosbarth Gogledd Kesteven, Cyngor Gogledd Swydd Lincoln, Cyngor Dosbarth De Holland, De Kesteven, Cyngor Dosbarth Gorllewin Lindsey
Awdurdod Cyfunol Hull a Dwyrain Swydd Efrog Cyngor East Riding Swydd Efrog, Cyngor Dinas Hull
Awdurdod Sirol Cyfunol Swydd Gaerhirfryn Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen, Cyngor Bwrdeistref Blackpool, Cyngor Bwrdeistref Burnley, Cyngor Bwrdeistref Chorley, Cyngor Bwrdeistref Fylde, Cyngor Bwrdeistref Hyndburn, Cyngor Dinas Caerhirfryn, Cyngor Bwrdeistref Pendle, Cyngor Dinas Preston, Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Ribble, Cyngor Bwrdeistref Rossendale, Cyngor Bwrdeistref De Ribble, Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, Cyngor Bwrdeistref Wyre
Dyfnaint a Torbay Cyngor Dosbarth Dwyrain Dyfnaint, Cyngor Dinas Caerwysg, Cyngor Dosbarth Canol Dyfnaint, Cyngor Dosbarth Gogledd Dyfnaint, Cyngor Dosbarth South Hams, Cyngor Dosbarth Teignbridge, Cyngor Torbay, Cyngor Dosbarth Torridge, Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint
Surrey Cyngor Bwrdeistref Elmbridge, Cyngor Bwrdeistref Epsom ac Ewell, Cyngor Bwrdeistref Guildford, Cyngor Dosbarth Dyffryn Mole, Cyngor Bwrdeistref Reigate a Banstead, Cyngor Bwrdeistref Runnymede, Spelthorne, Cyngor Bwrdeistref Surrey Heath, Cyngor Dosbarth Tandridge, Cyngor Bwrdeistref Waverley, Woking
Swydd Warwig Cyngor Bwrdeistref Gogledd Swydd Warwig, Cyngor Bwrdeistref Nuneaton a Bedworth, Cyngor Bwrdeistref Rugby, Cyngor Dosbarth Stratford-on-Avon, Cyngor Dosbarth Warwig

Nid oes rhaid i leoedd sydd â bargen ddatganoli newydd neu ddiwygiedig ar waith erbyn 31 Mawrth 2025 (gan gynnwys y rhai hynny a restrir uchod neu y cytunir arnynt wedi hynny) gyflwyno cynllun buddsoddi diwygiedig. Y cyfan a ofynnwn yw bod awdurdodau lleol arweiniol yn rhoi diweddariad i ni ar gynlluniau ar gyfer 2025-26 trwy adroddiadau arferol.

Bydd rhaid i awdurdodau lleol na fyddant yn gweithredu fel ‘awdurdod lleol arweiniol’ mwyach ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig o 2025-26 ymlaen gau eu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Bydd yr awdurdodau hynny’n cael gwybodaeth am y broses gau, maes o law.

I gefnogi’r broses o gyflwyno’r Gronfa, anogwn awdurdodau lleol arweiniol newydd i gydweithio ag awdurdodau lleol sydd eisoes wedi bod yn darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig rhwng 2022-25.

4.4.2   Cymru a’r Alban

Yng Nghymru a’r Alban, bydd y Gronfa’n gweithredu trwy’r un awdurdodau lleol arweiniol ag ar gyfer y cyfnod 2022-25.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ystod y flwyddyn bontio fel y gallwn gytuno ar lwybr ar gyfer cyflwyno y tu hwnt i fis Mawrth 2026.

4.4.3   Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd MHCLG yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Gronfa yn 2025-26. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid lleol trwy Grŵp Partneriaeth, a chydag adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i gefnogi cyflwyno’r Gronfa.

4.5 Gweinyddu’r Gronfa o ddydd i ddydd

Bydd pob awdurdod lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn parhau i allu defnyddio hyd at 4% o’u dyraniad yn ddiofyn i ymgymryd â gwaith gweinyddol angenrheidiol y Gronfa. Pan na fydd hyn eisoes wedi’i gytuno, bydd rhaid i awdurdodau lleol arweiniol gytuno â phartneriaid lleol ac adrodd i MHCLG ar unrhyw gynlluniau i ddefnyddio mwy na 4% o’u dyraniad i weinyddu’r Gronfa.

5. Pwy ddylai ymwneud â’r Gronfa

Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr ag adran 5 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Anogir awdurdodau lleol arweiniol yn gryf i ymgysylltu â phartneriaid lleol a cheisio eu cymorth i gyflwyno’r Gronfa. Bydd hyn yn sicrhau bod buddsoddiadau’r Gronfa’n ategu gweithgareddau eraill yn yr ardal ac yn bodloni amcanion y Gronfa ac amcanion lleol.

Anogir sefydlu grŵp partneriaeth lleol, ac mae arweiniad ynglŷn â’r mathau o randdeiliaid a grwpiau y dylid eu cynrychioli ar gael yn adran 5.1 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae’r flwyddyn bontio ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn adeg allweddol i gadarnhau perthnasoedd â llywodraethau datganoledig. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac mae’n bwriadu gweithio’n agos ac yn adeiladol ar ddatblygiadau polisi twf lleol hirdymor yn y dyfodol.

6. Cynllunio ar gyfer cyflwyno yn 2025-26

Mae’r adran hon yn disodli adran 6 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Yn unol â’r model cyflwyno dirprwyedig, ni fyddwn yn mynnu bod awdurdodau lleol arweiniol yn cyflwyno cynllun buddsoddi diwygiedig – y cyfan a ofynnwn yw bod awdurdodau lleol arweiniol yn rhoi diweddariad i ni ar eu cynlluniau ar gyfer 2025-26 trwy adroddiadau arferol cyfan.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd MHCLG yn ymgysylltu ag adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac aelodau Grŵp Partneriaeth Gogledd Iwerddon Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i lywio cynlluniau ar gyfer 2025-26.

7. Paramedrau’r Gronfa

Mae paramedrau’r Gronfa ar gyfer 2025-26 yr un fath â’r rhai hynny a amlinellir yn adrannau 7.1, a 7.3 – 7.5 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Mae unrhyw newidiadau wedi cael eu hamlinellu isod.

7.2      Pryd gall buddsoddiad y Gronfa ddechrau?

Mae blwyddyn ychwanegol o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025-26 wedi cael ei chadarnhau.

Gellir defnyddio cyllid ar gyfer 2025-26 i gefnogi buddsoddiad mewn gweithgareddau o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026, gan gynnwys parhau â gweithgarwch presennol, lle y bo’n briodol.

7.6      Cydymffurfio â chyfraith y Deyrnas Unedig

7.6.1    Rheoli Cymorthdaliadau a Chymorth Gwladwriaethol

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol gydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 ac unrhyw ofynion Cymorth Gwladwriaethol perthnasol.

Mae arweiniad a gwybodaeth ynglŷn â chyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r Deyrnas Unedig ar gael yma, gan gynnwys y gofynion allweddol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.

7.6.2 Caffael cyhoeddus

Mae’n rhaid i’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r Gronfa gydymffurfio â Deddf Caffael 2023, lle y bo’n berthnasol.

Mae rhagor o arweiniad a gwybodaeth ynglŷn â chaffael ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gael yma.

7.7        Brandio a chyhoeddusrwydd

Mae’n rhaid i frandio a gweithgarwch cyhoeddusrwydd gydymffurfio â’r canllawiau sydd ar gael yma.

8. Sut byddwn yn talu lleoedd a phrosiectau

Mae’r adran hon yn disodli adran 8 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae’r Gronfa’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig a bydd yn parhau i ddefnyddio’r grym cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ar gyfer blwyddyn bontio 2025-26 i ddarparu cyllid i leoedd ledled y Deyrnas Unedig.

8.1      Cymru, Lloegr a’r Alban

Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn cael Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i ddiweddaru, a llythyr penderfyniad grant, sy’n cynnwys amserlen dalu, ar ddechrau blwyddyn ariannol 2025-26.

8.2      Gogledd Iwerddon

I gefnogi’r broses gyflwyno, byddwn yn talu’r rhai sy’n cyflwyno prosiectau yng Ngogledd Iwerddon yn rhannol mewn ôl-daliadau, yn rhannol o flaen llaw, ar sail cylch chwe misol. Cânt eu talu trwy gytundeb cyllid grant neu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Llythyr Penderfyniad Grant, yn dibynnu ar statws y corff cyflwyno.

9. Sut byddwn yn mesur perfformiad

Mae’r adran hon yn disodli adran 9 prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Bydd yn ofynnol o hyd i awdurdodau lleol arweiniol (a’r rhai sy’n cyflwyno prosiectau yng Ngogledd Iwerddon) gwblhau cais am adroddiad ffurfiol bob chwe mis, yn brydlon ac yn unol â’r safon sy’n ofynnol. Mae’n rhaid i’r adroddiadau hyn gael eu cymeradwyo gan y Prif Swyddog Ariannol neu swyddog cyfatebol (er enghraifft y Swyddog Adran 151/Adran 95 mewn awdurdodau lleol arweiniol) cyn eu cyflwyno.

Rydym yn parhau i symleiddio’r Gronfa, lle y bo’n bosibl, gan gynnwys lleihau’r rhestr o allbynnau a chanlyniadau ar gyfer 2025-26 a symleiddio gofynion adrodd. Bydd rhestr wedi’i diweddaru o allbynnau a chanlyniadau ar gyfer 2025-26 yn cael ei chyhoeddi, maes o law.

Byddwn hefyd yn parhau i fynnu diweddariadau ar gynnydd bob tri mis gan y rhai sy’n cyflwyno prosiectau yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd gwybodaeth ychwanegol am adrodd, monitro a rheoli perfformiad yn cael ei diweddaru, maes o law, gan gynnwys y wybodaeth ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Bydd y Gronfa’n parhau i gael ei gwerthuso yn 2025-26 a bydd strategaeth werthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn cael ei diwygio, maes o law, i adlewyrchu hyn.

10. Y camau nesaf

Dylai awdurdodau lleol arweiniol gynllunio ar gyfer cyflwyno yn 2025-26 gyda rhanddeiliaid lleol. Byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol roi gwybod i ni am eu rhagolygon trwy adroddiadau arferol. Byddwn yn trefnu gweminar, maes o law, i gynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol a fydd yn cyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf.

Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn ymgysylltu ag adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac aelodau Grŵp Partneriaeth Gogledd Iwerddon Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i lywio cynlluniau ar gyfer 2025-26.