Credyd Cynhwysol: gwybodaeth bellach i gyplau
Diweddarwyd 20 December 2023
1. Y diffiniad o gwpl
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrif 2 o bobl fel bod mewn cwpl os ydynt yn byw yn yr un cartref ac:
- yn briod a’i gilydd
- yn bartneriaid sifil i’w gilydd, neu
- yn byw gyda’i gilydd fel eu bod yn briod
2. Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn rhan o gwpl byddwch chi a’ch partner angen gwneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol.
Byddwch yn dechrau drwy greu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein bob un. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod partner, fydd yn cael ei arddangos ar y sgrîn.
Bydd angen i’ch partner roi’r cod i mewn pan fyddant yn cofrestru eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cyfuno gyda’u gilydd ac rydych yn gwneud cais yn gywir fel cwpl.
Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif gellir gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd gennych 28 diwrnod o greu’r cyfrif i wneud cais. Dylech anelu i gwblhau’r cais cyn cynted â phosibl er mwyn dechrau eich cais.
Os yw 28 diwrnod yn mynd heibio ac nid oes cais yn cael ei wneud bydd angen i chi gofrestru am gyfrif ar-lein eto.
Os nad yw un ohonoch yn gymwys, efallai bydd eu cyfalaf ac incwm yn parhau i gael ei gymryd i ystyriaeth.
Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol i gael help i wneud eich cais ar-lein.
3. Pwy all wneud cais?
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, mae’n rhaid i chi a’ch partner:
- bod yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- byw yn yr un cyfeiriad
- bod yn briod a’ch gilydd, yn bartneriaid sifil i’ch gilydd neu’n byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod
- peidio â bod mewn addysg uwch llawn amser (oni bai mewn rhai amgylchiadau fel os ydych yn gyfrifol am blentyn neu’n cael rhai budd-daliadau anabledd a bod gennych allu cyfyngedig i weithio)
- peidio â bod gyda chynilion neu gyfalaf ar y cyd dros £16,000
- bod yn 18 oed neu drosodd
Neu fod yn 16 oed neu drosodd os:
- mae gennych allu cyfyngedig i weithio neu rydych yn disgwyl asesiad i weld os oes gennych allu cyfyngedig i weithio
- rydych yn ofalwr dros berson sy’n ddifrifol anabl
- rydych yn gyfrifol am blentyn, neu’n rhan o gwpl ac mae’ch partner yn gyfrifol am blentyn
- rydych yn feichiog ac mae’n 11 wythnos neu lai tan y dyddiad mae disgwyl i chi cael babi, neu roeddech yn feichiog ac mae’n 15 wythnos neu lai ers y dyddiad mae disgwyl i chi cael babi.
- rydych heb gefnogaeth rhieni
Os ydych dros yr oedran cymhwyso Credyd Pensiwn gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych bartner sydd o dan yr oedran cymhwyso Credyd Pensiwn.
O’r 15 Mai 2019 ni fydd y rhan fwyaf o gyplau yn gallu bod yn gymwys am Gredyd Pensiwn hyd nes bydd y ddau bartner wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso Credyd Pensiwn.
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno mewn camau a gall amodau cymhwyso eraill fod yn berthnasol. Bydd eich gallu i wneud cais yn dibynnu ar ble rydych yn byw a’ch amgylchiadau personol.
Os oes gennych blant efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn byw mewn ardaloedd penodol o’r wlad.
4. Os oes un ohonoch yn gweithio
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi a/neu eich partner mewn gwaith cyflogedig neu’n hunangyflogedig ac ar incwm isel.
Os ydych yn ansicr ynghylch a ydych yn gymwys, llenwch ffurflen gais ar-lein. Gofynnir mwy o gwestiynau i chi i wirio os ydych yn gymwys pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
5. Os yw un ohonoch ar fudd-daliadau ar hyn o bryd
Os ydych chi neu’ch partner yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau a ddisodlir gan Gredyd Cynhwysol, bydd y budd-daliadau hyn yn stopio pan fyddwch yn gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.
Os yw un ohonoch yn hawlio credydau treth dylech gysylltu â Llinell Gymorth Credyd Treth neu ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth i ddweud wrthynt eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.
Mae hyn oherwydd na allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.
6. Llinell Gymorth Credyd Treth
Ffôn: 0345 300 3900
Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am i 10pm
Dydd Sul 9am i 10pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
7. Ymrwymiad Hawlydd
Ymrwymiad Hawlydd yw eich cofnod o’r cyfrifoldebau rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol a’r goblygiadau o beidio â’u cwrdd.
Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch cyfrifoldebau.
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn Ymrwymiad Hawlydd. Bydd gennych eich Ymrwymiad Hawlydd eich hunan a gall un chi gael ei effeithio os yw eich partner yn dechrau gweithio neu fod eu hamgylchiadau yn newid.
8. Sancsiynau
Os nad ydych yn gwneud yr hyn rydych wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith yn eich Ymrwymiad Hawlydd, er enghraifft, methu mynychu apwyntiadau neu droi i lawr cynigion am swyddi efallai y byddwch yn cael sancsiwn.
Mae sancsiwn yn ostyngiad yn eich budd-dal sy’n cael ei osod os credwn nad ydych wedi cwblhau gweithgaredd gorfodol rydych wedi cytuno ei wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd ac nad ydych yn gallu rhoi rheswm da i egluro pam. Sancsiynau yw’r dewis olaf a bob amser gofynnir i chi am eich rhesymau dros eich gweithredoedd cyn i benderfyniad gael ei wneud.
Os yw sancsiwn yn cael ei gymhwyso i’ch Credyd Cynhwysol byddwn yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei golli ac am ba hyd.
9. Cael taliadau Credyd Cynhwysol
Fel cwpl byddwch yn cael un taliad misol. Os ydych yn byw yn yr Alban gallwch gael eich talu unwaith neu ddwy waith y mis.
Darganfyddwch sut rydych yn cael eich talu Credyd Cynhwysol
Bydd hwn yn cael ei dalu i gyfrif addas o’ch dewis chi, a all fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn unai eich enw chi neu enw eich partner.
Yn ddelfrydol, dylai eich cyfrif ganiatáu i chi wneud taliadau awtomataidd allan o’r cyfrif – fel debydau uniongyrchol neu archebion sefydlog – ar gyfer biliau fel rhent, nwy a thrydan.
Bydd hyn yn eich helpu i baratoi ar gyfer ac ymdopi â bywyd gwaith wrth i chi ddod i arfer â thrin eich arian yn fisol. Mae ystod o wasanaethau cymorth ar gael os ydych angen help gyda chyllidebu a rheoli eich arian.
Gallwch gael help a chyngor gan:
- eich anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith
- Cyngor ar Bopeth
- Help for Households am gymorth gyda’r costau byw cynyddol
- Yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol
- Y teclyn Rheolwr Arian
- HelpwrArian i ddarganfod cynghorydd dyled am ddim
- Y Llinell Gymorth Dyled Genedlaethol
- Shelter am gymorth tai a digartrefedd
- Stepchange
- Turn2Us
Gallwch hefyd gael cymorth gan Breathing Space (y Cynllun Seibiant Dyled), ond byddwch angen cael ymgynghorydd dyled er mwyn gallu gwneud cais.
10. Sut mae’r taliad yn cael ei wneud i fyny?
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei wneud i fyny o symiau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall gynnwys cymorth ar gyfer costau tai, plant a gofal plant yn ogystal â chymorth ar gyfer pobl anabl a gofalwyr.
Darganfyddwch pa Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael
11. Nid yw fy mhartner yn caniatáu mynediad i mi at unrhyw ran o’r taliad
Os oes gennych unrhyw bryderon am gael mynediad at eich taliadau ac rydych angen trafod trefniadau talu amgen mae llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar gael.
Mae trefniadau talu amgen yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos ac yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinweddau unigol.
Mae hyn yn caniatáu i daliad cartref gael ei rannu os mai hyn yw’r cam cywir i chi a’ch teulu. Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd y trefniadau talu amgen hyn dros dro.
12. Chwilio am waith
Os yw’r ddau ohonoch yn ddi-waith ac yn gallu gweithio, bydd disgwyl i’r ddau ohonoch chwilio am waith. Dylech feddwl am chwilio am waith fel eich swydd.
Bydd disgwyl i’r ddau ohonoch chwilio am neu baratoi ar gyfer gwaith am 35 awr yr wythnos, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gall gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith sy’n cyfrif tuag at eich 35 awr gynnwys:
- chwilio am swyddi
- gwneud cais am swyddi
- teithio i gyfweliadau
- ymweld â darpar gyflogwyr
- cyfarfod eich anogwr gwaith
- gweithgareddau i wella eich chwiliad gwaith
- cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddiant
Bydd yr hyn y gofynnir i chi ei wneud yn cymryd i ystyriaeth eich amgylchiadau, fel os oes gennych blant neu ymrwymiadau gofalu eraill.
Os oes gennych chi neu’ch partner gyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar faint neu’r math o waith allech chi ei wneud, bydd hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth i benderfynu pa weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi eu gwneud.
13. Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu na allwch weithio
Os oes gennych chi neu’ch partner gyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu na allwch weithio ar hyn o bryd ac mae gennych (neu rydych yn bwriadu cael) Datganiad o ffitrwydd i Weithio gan eich Meddyg Teulu, bydd hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
Er hynny, efallai y bydd gofyn i chi fynychu apwyntiadau i drafod y gweithgareddau rydych yn gallu eu gwneud.
Bwriedir hyn i’ch cefnogi i ddechrau gweithio neu i fod yn barod am waith yn y dyfodol, os a phryd y byddwch yn gallu.
14. Os ydych yn gofalu am berson sy’n ddifrifol anabl
Os ydych yn gofalu am berson neu bersonau sy’n ddifrifol anabl am gyfanswm o 35 awr neu fwy’r wythnos yna ni fydd disgwyl i chi chwilio am waith neu wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Mae person difrifol anabl yn cael eu diffinio fel rhywun sy’n cael un neu fwy o’r canlynol:
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) – cyfradd canol neu uwch elfen gofal
- Lwfans Gweini Cyson (CAA) – ar neu dros y gyfradd uchafswm arferol gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu sylfaenol (cyfradd diwrnod llawn gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel)
- Lwfans Gweini (AA)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) – y nail gyfradd neu’r llall o’r elfen bywyd bob dydd
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
Mae hyn hefyd yn berthnasol os yw’r person difrifol anabl wedi gwneud cais am un o’r budd-daliadau hyn ac yn disgwyl i glywed y canlyniad.
15. Cymorth i ddod o hyd i swydd
Gyda Chredyd Cynhwysol byddwch yn cael help i nodi eich sgiliau a chynllun chwiliad gwaith clir i’ch helpu i ddychwelyd i waith yn gyflymach.
Mae rôl eich ymgynghorydd y ganolfan gwaith yn newid o dan Gredyd Cynhwysol gan y byddant yn dod yn eich anogwr gwaith unigol. Byddant yn gosod targedau heriol i chi i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i swydd.
Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau fel cael help gyda drafftio eich CV, gwneud cais am swyddi drwy ddefnyddio Dod o hyd i swydd neu gysylltu â chyflogwyr yn uniongyrchol. Yn gyfnewid am hyn, bydd angen i chi gymryd cyfrifoldeb personol am ddod o hyd i waith.
Mae i fyny i chi i wneud popeth o fewn eich gallu i gynnal eich hun a’ch teulu.
Gallwch wneud cais am ystod ehangach o swyddi a dychwelyd i waith yn gynt oherwydd mae Credyd Cynhwysol yn ychwanegu at eich enillion os ydych ar incwm isel. Yn wahanol i Lwfans Ceisio Gwaith, ni fydd eich taliad yn dod i ben pan ydych yn gweithio mwy na 16 awr yr wythnos. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith.
Gallwch gymryd swyddi dros dro i’ch helpu i ennill sgiliau gwerthfawr ac osgoi bylchau mewn CV oherwydd gyda Chredyd Cynhwysol mae’n gyflym a hawdd i ail ddechrau eich cais.
16. Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn cael swydd?
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pan fydd eich amgylchiadau’n newid, gan gynnwys pan fyddwch yn dechrau gweithio, ennill mwy neu’n newid y nifer o oriau rydych yn eu gweithio.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech barhau i gael cymorth a chyngor ar gynyddu eich enillion tra rydych mewn gwaith.
Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch taliadau Credyd Cynhwysol gael eu lleihau os ydych chi neu’ch partner nail ai:
- yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc
- yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio
Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’. Mae eich lwfans gwaith yn is os ydych yn cael help gyda chostau tai.
Eich amgylchiadau | Lwfans gwaith misol |
---|---|
Rydych yn cael help gyda chostau tai | £379 |
Nid ydych yn cael help gyda chostau tai | £631 |
Os nad ydych yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod wedi dechrau gweithio, ni fyddant yn gwybod pam nad ydych bellach yn mynychu eich apwyntiadau, a byddant yn cymryd yn ganiataol nad ydych bellach yn dymuno cael Credyd Cynhwysol.
Gall hyn olygu eich bod yn colli allan ar daliadau budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
17. Cyfradd tapr enillion Credyd Cynhwysol
Unwaith y byddwch yn ennill mwy na’ch lwfans gwaith bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau ar gyfradd sefydlog. Gelwir hyn y tapr enillion Credyd Cynhwysol.
Ar hyn o bryd mae’r tapr enillion Credyd Cynhwysol yn 55%. Mae hyn yn golygu am bob £1 rydych yn ei ennill dros eich lwfans gwaith (os ydych yn gymwys am un) bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau o 55c.
Bydd y swm hwn yn cael ei ddidynnu allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn awtomatig.
18. Newid mewn amgylchiadau
O dan Gredyd Cynhwysol mae cyplau yn gwneud cais ar y cyd ac mae’r ddau ohonynt yn gyfrifol am gwrdd â’u hamodau hawl, rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau a sicrhau bod yr holl wybodaeth mewn perthynas â’u cais yn gyfredol ac yn gywir.
Os oes gennych newid yn eich amgylchiadau mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano drwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.