Canllawiau

Cefnogi pobl sy’n gadael carchar: canllaw i Gredyd Cynhwysol

Diweddarwyd 20 November 2023

Mae’r canllaw hwn wedi’i ddatblygu i bobl sy’n cefnogi pobl sy’n gadael carchar.

Mae’n rhoi gwybodaeth ar beth sydd ei angen i baratoi ar gyfer eu cais Credyd Cynhwysol, sut mae’r cais yn cael ei wneud a sut gall y pobl sy’n gadael carchar reoli eu cais.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am y cymorth y gallant ei gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a sefydliadau eraill.

Am Gredyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal presennol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Fel arfer mae’n cael ei dalu’n fisol, ond gall gael ei dalu’n fwy aml os oes angen. Mae’n cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol iddynt, er enghraifft:

  • os oes ganddynt blant
  • os oes ganddynt anabledd neu gyflwr iechyd
  • os oes ganddynt gostau tai

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth i dalu Treth Cyngor. Ble mae gan y pobl sy’n gadael carchar eu tenantiaeth eu hunan bydd angen iddynt wneud cais am yr help hyn ar wahân. Dylent gysylltu â’u cyngor lleol.

Help gyda chostau tai tra yn y carchar

Mae budd-daliadau fel arfer yn dod i ben pan anfonir rhywun i’r carchar. Fodd bynnag, os yw’r carcharor yn cael eu cadw yn y carchar am 6 mis neu lai, neu ar remánd ac wedi cael help gyda chostau tai cyn mynd i’r carchar, gellir talu costau tai Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis.

Yn yr amgylchiadau hyn dylai’r carcharor gysylltu â’r tim adsefydlu am ragor o wybodaeth.

Mae’n wahanol i bobl sy’n gwneud cais am Gredydau Treth /JSA/ESA/Budd-dal Tai cyn mynd i’r carchar.

Mynd i’r carchar:

Mae carcharorion sydd â dedfryd o 13 wythnos neu lai yn gallu parhau i hawlio Budd-dal Tai drwy eu hawdurdod lleol. Mae gan y sawl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa ar remánd hawl i Fudd-dal Tai am hyd at 52 wythnos.

Cyn gwneud y cais am Gredyd Cynhwysol

Ni ellir gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn i’r carcharor gael eu rhyddhau, ond mae’n bosibl dechrau cael yr holl ddogfennaeth a gwybodaeth sydd eu hangen i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

O gwmpas 12 wythnos cyn rhyddhau, byddem yn eich annog i ddechrau’r sgwrs am wneud cais am fudd-daliadau ac i annog y carcharor i weld anogwr gwaith y carchar.

Nid yw’r cais Credyd Cynhwysol yn dechrau tan i’r cais gael ei anfon. Dylai’r pobl sy’n gadael carchar wneud cais ar-lein yn syth neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau oherwydd ni fydd ceisiadau yn cael eu hôl-ddyddio.

Rôl y gweithiwr adsefydlu (Cymru a Lloegr yn unig)

Bydd y gweithiwr adsefydlu yn cwrdd â’r pobl sy’n gadael carchar cyn iddynt gael eu rhyddhau i weithio ar eu cynllun cyn rhyddhau.

Gall y gweithgareddau allweddol y bydd y gweithiwr adsefydlu yn helpu’r pobl sy’n gadael carchar gyda nhw gynnwys:

  • tai
  • cyllid, budd-dal a dyled
  • ymyriadau trais/cam-drin domestig
  • addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

Bydd o leiaf 1 apwyntiad cyn rhyddhau, a gellir gwneud apwyntiadau pellach yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Bydd y gweithiwr adsefydlu yn cysylltu â thrafod gydag asiantaethau eraill, fel darparwyr tai, i sefydlu apwyntiadau ar gyfer y pobl sy’n gadael carchar. Gall y gweithiwr adsefydlu hefyd helpu gydag agor cyfrif banc a rhoi help i gasglu tystiolaeth o hunaniaeth.

Rôl anogwyr gwaith DWP

Mae’n debygol y bydd y pobl sy’n gadael carchar yn ymgysylltu â 2 anogwr gwaith gwahanol a dylid nodi bod y rolau hyn ychydig yn wahanol (i’w gilydd).

Anogwr gwaith yn y carchar (wedi’i leoli mewn carchardai)

Byddant yn cefnogi’r carcharor tra maent dal yn y carchar ac fel maent yn agosáu at gael eu rhyddhau, drwy:

  • helpu’r pobl sy’n gadael carchar gadw eu swydd – gyda chaniatâd, gall anogwr gwaith y carchar gysylltu â’r cyflogwr a gofyn iddynt ystyried cadw’r swydd yn agored
  • gwirio pa fudd-daliadau y gall y pobl sy’n gadael carchar fod yn gymwys amdanynt
  • gwirio bod gan y pobl sy’n gadael carchar yr ID sydd ei angen a chyfrif banc a thystiolaeth, er enghraifft, cytundeb tenantiaeth a phrawf o gostau tai i gefnogi eu cais (byddant yn cyfeirio’r pobl sy’n gadael carchar i sefydliadau partneriaeth y carchar am help pan na fydd ganddynt y wybodaeth maent eu hangen)
  • trefnu apwyntiad cychwynnol yn y ganolfan gwaith agosaf i ble y byddant yn byw ac egluro beth i’w ddisgwyl yn y cyfweliad (bydd hynny’n digwydd ar y diwrnod rhyddhau neu‘r dyddiad cynharaf sydd ar gael)
  • sicrhau bod y pobl sy’n gadael carchar yn deall y pwysigrwydd o fynychu’r cyfweliad yn y ganolfan gwaith, yn cynnwys yr argaeledd o daliadau ymlaen llaw i’w cefnogi pan fyddant yn cael eu rhyddhau

Mae’n bwysig iawn bod y carcharor yn derbyn y cynnig o’r apwyntiad gydag anogwr gwaith y carchar a’r gweithiwr adsefydlu, yn enwedig os bydd angen iddynt wneud cais am fudd-daliadau wedi iddynt gael eu rhyddhau.

Sicrhewch bod y pobl sy’n gadael carchar yn deall pwysigrwydd mynychu’r apwyntiad canolfan gwaith sydd wedi cael ei drefnu iddynt. Mae hyn yn sicrhau bod hawl i Gredyd Cynhwysol yn dechrau o’r diwrnod hwnnw ac y gallant gael mynediad at daliadau ymlaen llaw os oes angen.

Mae tystiolaeth yn dangos os yw’r carcharor yn ymgysylltu â’u hanogwr gwaith yna gallant, yn y mwyafrif o achosion, gael eu harian yn gynt.

Anogwr gwaith y ganolfan gwaith (wedi’i leoli yn y ganolfan gwaith)

Ar ôl cael eu rhyddhau, pan mae’r pobl sy’n gadael carchar yn mynychu’r ganolfan gwaith byddant yn gweld anogwr gwaith.

Rôl yr anogwr gwaith yn y ganolfan waith yw helpu i gefnogi’r pobl sy’n gadael carchar yn ôl i’r gwaith, os ydynt yn ffit i weithio neu i roi cymorth priodol iddynt os nad ydynt yn ffit i weithio.

Byddant yn:

  • helpu’r pobl sy’n gadael carchar i wneud eu cais am Gredyd Cynhwysol os na allant ei wneud eu hunain
  • gweithio gyda’r pobl sy’n gadael carchar i ddarparu rhaglen o weithgareddau wedi’u teilwra a fydd yn helpu i roi’r hyder a’r gallu iddynt i symud yn ôl i mewn i waith
  • nodi opsiynau cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli
  • rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt, teilwra’u hymrwymiad hawlydd i adlewyrchu sefyllfa’r pobl sy’n gadael carchar os nad ydynt yn gallu gweithio

Beth sydd ei angen i wneud cais

Mae angen nifer o bethau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein:

  • cyfeiriad e-bost
  • cyfeiriad
  • rhif ffôn
  • tystiolaeth o hunaniaeth
  • manylion cyfrif banc (dim yn angenrheidiol ar gyfer gwneud cais ond mae ei angen cyn y gall taliad gael ei wneud)
  • ble mae’r hawlydd â thenantiaeth, bydd DWP hefyd angen gweld cytundeb tenantiaeth diweddar a phrawf o gostau tai

Cyfeiriad e-bost

Ni all cyfeiriad e-bost gael ei sefydlu tra mae’r carcharor yn y carchar. Os nad oes gan y pobl sy’n gadael carchar gyfeiriad e-bost, gall yr anogwr gwaith yn y carchar ddweud wrthynt sut i sefydlu un unwaith maent wedi cael eu rhyddhau.

Opsiynau cyfeiriad

Fel arfer mae angen cyfeiriad i wneud cais. Fodd bynnag, os nad oes gan y pobl sy’n gadael carchar gyfeiriad parhaol pan maent yn cael eu rhyddhau, mae opsiynau ar gael iddynt.

Gallant:

  • ddefnyddio ‘cyfeiriad dan ofal rhywun arall’, er enghraifft, cyfeiriad aelod o’r teulu neu ffrind maent yn ymddiried ynddynt
  • defnyddio cyfeiriad yr hostel ble maent yn aros
  • mewn amgylchiadau eithriadol defnyddio cyfeiriad eu canolfan gwaith lleol

Dylent gael eu hanog i siarad â’r tim adsefydlu os byddant yn ddigartref ar gael eu rhyddhau.

Dyletswydd i gyfeirio (Lloegr yn unig)

Mae’r Homelessness Reduction Act (HRA) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd diddordeb yn gynt gyda’r nod o osgoi digartrefedd. Os bydd y pobl sy’n gadael carchar yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref ar gael eu rhyddhau mae’n rhaid iddynt gael eu cyfeirio nawr gan y tim adsefydlu i awdurdod lleol am gymorth tai beth bynnag fo’r angen blaenoriaeth, cysylltiad lleol neu os ydynt yn cael eu hamau o fod yn ‘ddigartref yn fwriadol’.

Agor cyfrif banc

Yn ddelfrydol dylai Credyd Cynhwysol gael ei dalu i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd sydd yn enw’r pobl sy’n gadael carchar neu eu partner. Gall y gweithiwr adsefydlu helpu’r pobl sy’n gadael carchar i agor cyfrif banc.

Mewn amgylchiadau eithriadol gall Credyd Cynhwysol gael ei dalu i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu rhywun arall. Os yw’r pobl sy’n gadael carchar wedi ceisio yn flaenorol ond wedi methu agor neu gael mynediad at gyfrif banc traddodiadol, gallwn wneud taliad drwy ddefnyddio dull gwahanol:

  • Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post (ond mewn amgylchiadau eithriadol, mae’r rhain yn cael eu diddymu’n raddol o 2020)
  • taliadau i gyfrifon trydydd parti
  • Gwasanaeth Eithriad Talu Llywodraeth Ei Fawrhydi (Arferai fod yn Daliadau Syml)

Darllenwch arweiniad pellach ar ddewis cyfrif banc.

Modd Adnabod

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gadael carchar gadarnhau eu hunaniaeth pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os nad oes ganddynt unrhyw brawf o bwy ydynt, dylent siarad â’u hanogwr gwaith yn y carchar a fydd yn eu cynghori ar beth i’w wneud ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Cael cynrychiolydd

Rydym yn galw rhywun sy’n delio â gwybodaeth ar ran pobl sy’n gadael carchar yn ‘gynrychiolydd’.

Mae cynrychiolydd yn wahanol i rywun sy’n cael eu penodi i weithredu – nid yw’n benodiad ar sail gyfreithiol.

Gall cynrychiolydd fod yn unrhyw berson neu sefydliad (er enghraifft ffrind y gellir ymddiried ynddynt neu weithiwr cymorth, swyddog prawf) sy’n gwneud ymholiadau ar ran y pobl sy’n gadael carchar os, er enghraifft, maent yn teimlo eu bod yn methu:

  • dod o hyd i’r wybodaeth maent ei angen
  • deall pethau am eu cais

Mae’n rhaid i ni gael caniatâd y pobl sy’n gadael carchar i ganiatau i berson arall neu sefydliad i weithredu drostynt a chael mynediad at wybodaeth berthnasol amdanynt. Gelwir y caniatâd hwn yn ganiatâd penodol.

Gall hyn gael ei wneud gan y pobl sy’n gadael carchar yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio’r dyddlyfr, neu dros y ffôn.

Nid yw caniatâd penodol yn parhau am byth a gellir ei dynnu’n ôl gan y pobl sy’n gadael carchar unrhyw bryd:

Pan mae rhywun yn analluog o reoli eu materion eu hunain, oherwydd problemau meddyliol neu analluogrwydd arall, gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ar dderbyn cais ysgrifenedig, benodi person 18 oed neu drosodd i weithredu ar eu rhan.

Rydym yn cyfeirio at y person yma fel penodai. Darllenwch fwy o wybodaeth am benodai.

Gwasanaethau cyfieithu

Os nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf y pobl sy’n gadael carchar, dylent ddweud wrth eu hanogwr gwaith neu asiant llinell gymorth Credyd Cynhwysol oherwydd gallwn drefnu cyfieithydd i’w cefnogi.

Gwneud y cais am Gredyd Cynhwysol

Ar gael eu rhyddhau, dylai’r pobl sy’n gadael carchar wneud eu cais ar-lein cyn gynted â phosibl oherwydd mae’r cais Credyd Cynhwysol yn dechrau o’r dyddiad mae’r cais yn cael ei anfon. Os nad oes gan y pobl sy’n gadael carchar fynediad at gyfrifiadur, gallant ddefnyddio ffôn clyfar.

Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd neu ESA Dull Newydd mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y cyfweliad cychwynnol dros y ffôn, ac apwyntiad ymrwymiad hawlydd dros y ffôn. Bydd y ddau gais yn cael eu troi i lawr os byddant yn methu mynychu’r apwyntiadau hyn dros y ffôn.

Ble mae’r pobl sy’n gadael carchar angen help i wneud ac anfon eu cais ar-lein, bydd yr anogwr gwaith yn y carchar yn eu cynghori i ffonio’r ganolfan gwaith ble bydd staff y ganolfan gwaith yn eu cefnogi i wneud ac anfon eu cais ar-lein.

Os ydynt yn methu â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein gall asiant llinell gymorth Credyd Cynhwysol gwblhau’r ffurflen ar-lein dros y ffôn iddynt. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei roi i mewn a’i chywirdeb yn gyfrifoldeb y pobl sy’n gadael carchar.

I hawlwyr Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA), dylent gael eu cyfeirio i’r pwynt cyswllt MAPPA yn y ganolfan gwaith.

Pan yn gwneud y cais bydd angen iddynt gael y wybodaeth ganlynol gyda nhw:

  • cyfeiriad (yn cynnwys cod post)
  • cytundeb rhent (os oes un ganddynt)
  • manylion unrhyw gynilion neu gyfalaf arall
  • manylion unrhyw incwm nad yw’n dod o waith, er enghraifft o gynllun yswiriant
  • manylion unrhyw fudd-daliadau eraill maent yn eu cael

Nid yw cyfrif banc yn angenrheidiol ar gyfer gwneud cais ond mae ei angen cyn y gall taliad gael ei wneud.

Pan fydd pobl sy’n gadael carchar yn cael eu nodi fel bod angen cymorth ychwanegol arnynt, gall yr anogwr gwaith ystyried eu cyfeirio ymlaen i ddarparwyr lleol.

Os bydd y pobl sy’n gadael carchar yn ymuno â phartner gyda chais presennol am Gredyd Cynhwysol, ESA neu JSA, yna mae’r broses yn wahanol.
Bydd angen i bartner y pobl sy’n gadael carchar ddatgan newid mewn amgylchiadau a chael y pobl sy’n gadael carchar wedi’u hychwanegu i’r cais presennol. Gall hyn arwain i’r cwpwl orfod gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn ymuno â chais Credyd Cynhwysol presennol bydd angen iddynt gytuno ar ymrwymiad hawlydd ar wahân o’u partner.

Help i Wneud Cais

Gall y pobl sy’n gadael carchar gael mynediad at gymorth ychwanegol gyda’u cais unwaith mae’r cais newydd am Gredyd Cynhwysol wedi cael ei anfon. Mae’r gwasanaeth Help i Wneud Cais gan Gyngor Ar Bopeth yn cynnig cymorth ymarferol wedi’i deilwra i helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol– hyd at gael eu taliad llawn cywir cyntaf.

Gellir cael mynediad at y gwasanaeth drwy:

  • sgwrs gwe
  • rhif rhadffon

Gall hawlwyr Credyd Cynhwysol hefyd gael eu cyfeirio i Help i Wneud Cais gan staff Credyd Cynhwysol unrhyw bryd pan maent yn nodi y gall yr hawlydd gael trafferthion i gymryd y camau i sefydlu eu budd-dal yn annibynnol.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch canllaw Help i Wneud Cais guide Cyngor Ar Bopeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae canllaw gwahanol ar gyfer pobl sy’n gadael carchar yn yr Alban.

Taliadau Ymlaen Llaw

Gall y pobl sy’n gadael carchar ofyn am daliad ymlaen llaw o’u Credyd Cynhwysol tra maent yn disgwyl am eu taliad cyntaf os nad ydynt yn gallu fforddio costau byw cyffredinol.

Dylech nodi bod yn rhaid talu’n ôl taliadau ymlaen llaw.

Os ydynt eisiau gwneud cais am daliad ymlaen llaw bydd angen iddynt:

  • egluro pam eu bod angen taliad ymlaen llaw
  • darparu manylion cyfrif banc ble y dylai’r taliad ymlaen llaw gael ei dalu
  • cael eu hunaniaeth wedi’i gadarnhau mewn cyfweliad ffôn yn y ganolfan gwaith

Yna i wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol gallant:

Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn rhan o gwpl gofynnir iddynt hefyd os yw eu partner yn cytuno i gymryd y taliad ymlaen llaw.

Gallant wneud cais am hyd at 100% o’r swm o Gredyd Cynhwysol rydym yn disgwyl iddynt fod yn gymwys i’w gael. Dylid annog pobl sy’n gadael carchar i ystyried os dylent/ydynt angen gwneud cais am y swm llawn drwy ystyried yr ad-daliadau ac os gallant eu fforddio.

Yna bydd didyniadau yn cael eu gwneud o’u taliadau Credyd Cynhwysol i dalu’n ôl y taliad ymlaen llaw. Mae rhaid i’r person sy’n gadael carchar dalu’r taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn:

  • 24 mis os gwnânt gais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os gwnaethant gais cyn 12 Ebrill 2021

Unwaith maent wedi dechrau ei dalu’n ôl, os bydd rhywbeth yn digwydd iddynt sy’n golygu y byddant mewn caledi ariannol os ydynt yn parhau gyda’u had-daliadau, gallant ofyn i’w ad-daliadau gael eu hatal am hyd at 3 mis.

Bydd hyn ond yn cael ei ganiatáu mewn amgylchiadau eithriadol.

Rhowch gyngor i’r pobl sy’n gadael carchar am hyn a gofynnwch iddynt siarad â’u hanogwr gwaith os mai dyma yw’r amgylchiadau.

Datgelu materion i’r anogwr gwaith

Rydym yn deall ei bod weithiau’n anodd i bobl fod yn agored am faterion neu heriau y maent yn eu profi ond mae’r anogwr gwaith yno i’w helpu.

Pan fydd y pobl sy’n gadael carchar yn mynd i’r ganolfan gwaith bydd yr anogwr gwaith yn llunio Ymrwymiad Hawlydd y mae’n rhaid i’r pobl sy’n gadael carchar gytuno iddo i gael Credyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig iawn bod y pobl sy’n gadael carchar yn dweud wrth yr anogwr gwaith am unrhyw faterion sydd ganddynt, fel bod yn ddigartref, mewn perygl o ddigartrefedd, dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol neu iechyd meddwl gwael. Y cynharaf y mae’r anogwr gwaith yn deall amgylchiadau’r pobl sy’n gadael carchar, yna y cynharaf y gallant roi’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Dylai’r ymgysylltiad hwn ddechrau gyda’r anogwr gwaith yn y carchar. Anogwch y pobl sy’n gadael carchar i fod mor agored â phosibl.

Mae’r Ymrwymiad Hawlydd yn gosod beth mae’r pobl sy’n gadael carchar wedi cytuno i’w wneud i baratoi am waith neu chwilio am waith yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol. Bydd yn cael ei deilwra i gymryd i ystyriaeth eu hamgylchiadau. Dylai’r Ymrwymiad Hawlydd gael ei adolygu’n rheolaidd.

Anogwch y pobl sy’n gadael carchar i siarad â’u hanogwr gwaith os ydynt yn cael trafferth gyda’r tasgau yn eu Hymrwymiad Hawlydd unrhyw bryd.

Hawddfreintiau

Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n gadael carchar yn aml yn wynebu sawl rhwystr gwahanol wrth sicrhau cyflogaeth. Mae hyn yn amlygu’r pwysigrwydd o ddarparu cymorth cyflogaeth yn syth o’r diwrnod cyntaf.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pobl sy’n gadael carchar fod angen cymorth ychwanegol os yw eu gallu i wneud gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith (fel chwilio am waith) yn cael ei amharu arno am gyfnod dros dro oherwydd eu hamgylchiadau personol.

Mae yna ystod o amgylchiadau lle dylid troi i ffwrdd gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith dros dro oherwydd bod pobl sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn profi amgylchiadau personol anodd.

Mae dwy enghraifft i’w weld isod, ond dylid annog y pobl sy’n gadael carchar i drafod eu hamgylchiadau’n agored gyda’u hanogwr gwaith.

Cyffuriau ac alcohol

Byddwn yn cefnogi’r pobl sy’n gadael carchar gyda dibyniaeth ar gyffuriau a/neu alcohol i ymgysylltu gyda thriniaeth wedi’i strwythuro a gwasanaethau cymorth fel rhan o’u llwybr i gyflogaeth.

Er mwyn darparu’r pobl sy’n gadael carchar gyda’r cyfle maent eu hangen i ganolbwyntio ar eu hymdrechion i wella, gall anogwyr gwaith droi i ffwrdd y gofynion i chwilio am waith am hyd at 6 mis os ydynt yn ymgysylltu mewn rhaglen driniaeth strwythuredig.

Bydd gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn parhau wedi eu troi i ffwrdd yn ystod y cyfnod o 6 mis ar yr amod bod y darparwr triniaeth yn cadarnhau bod yr hawlydd yn dal i fynychu a chael cefnogaeth ganddynt.

Digartrefedd

Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn dweud eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd, bydd yr anogwr gwaith yn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau a galluoedd unigol y pobl sy’n gadael carchar.

Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn briodol i droi i ffwrdd dros dro y gofynion chwiliad gwaith a bod ar gael i weithio tra bod y pobl sy’n gadael carchar yn trefnu lle i aros neu’n symud i mewn i lety newydd neu dros dro.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd yr anogwr gwaith yn adolygu’n rheolaidd, gyda’r pobl sy’n gadael carchar, eu bod yn cymryd y camau priodol i ddatrys eu mater tai a’u bod wrthi’n weithredol yn chwilio am lety sefydlog.

Cronfa Cymorth Hyblyg

Efallai bydd y pobl sy’n gadael carchar yn gymwys am help ariannol gan y Gronfa Cymorth Hyblyg (FSF). Mae hwn yn gyllideb sydd wedi’i reoli’n lleol y gall anogwyr gwaith gael mynediad ato. Gellir ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant ac addysgu sy’n eu symud ymlaen ymhellach tuag at gael swydd.

Gellir hefyd gael ei ystyried i gael gwared â’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag:

  • chwilio am waith
  • derbyn cynnig penodol o swydd neu symud i hunangyflogaeth

Enghreifftiau yw:

  • dillad addas i gyfweliadau neu i ddechrau gwaith
  • dillad angenrheidiol i waith (ond nid dillad diogelwch oherwydd mae gan y cyflogwr ddyletswydd i ddarparu hwn)
  • offer angenrheidiol
  • costau teithio

Siaradwch ag anogwr gwaith am ragor o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Hyblyg.

Cymorth ariannol ychwanegol

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) Sefydliad Cyd-Ariannu (CFO) yn cefnogi carcharorion yn y ddalfa ac ar ryddhau i symud i mewn i gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg.

Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop tan 2023. Nid yw ariannu CFO ar gael yn yr Alban.

Gall HMPPS CFO helpu unigolion i lywio a chael mynediad at wasanaethau sydd eisoes yn bodoli, neu ddarparu gwasanaethau ychwanegol lle nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Gellir atgyfeirio am ddarpariaeth CFP gan staff carchar, gwasanaeth prawf neu adsefydlu eraill.

Gall unigolion hefyd hunangyfeirio. Gall y broses hunangyfeirio fod yn wahanol yn unol â lleoliad, felly dylid cynghori unigolion i siarad â’u Goruchwyliwr Troseddwyr, Rheolwr Troseddwyr neu debyg am ragor o wybodaeth yn y lle cyntaf.

Unwaith y bydd atgyfeiriad, bydd y darparwr CFO yn asesu cymhwyster ac addasrwydd yr unigolyn am wasanaethau CFO.

Efallai y bydd cyllid ar gael y gellir ei ddefnyddio i dalu am eitemau penodol i gynorthwyo unigolion i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu addysg, er enghraifft:

  • costau teithio i fynychu cyfweliad, cwrs neu leoliad gwaith
  • dogfennau hunaniaeth newydd sydd eu hangen i fynychu cwrs neu waith
  • offer sydd ei angen i ddechrau busnes neu fynychu hyfforddiant

Gallai cymorth CFO arall gynnwys:

  • gwaith ymgysylltu ac ysgogi
  • datgelu priodol o euogfarnau, i gefnogi unrhyw gyngor cyffredinol arall sydd ar gael
  • cefnodaeth arbennigol, fel cysylltiadau teuluol, iechyd ac iechyd meddwl, dibyniaeth, ailintegreiddio ar ôl treulio dedfryd hir
  • cyngor gyda llety neu gymorth i gael mynediad
  • mentora
  • mynediad at ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant
  • profiad/lleoliadau gwaith
  • sicrhau cyflogaeth neu gymorth gyda cheisiadau/cyfweliadau

Cyngor ar arian

Gellir cynnig cyngor ariannol ar-lein neu dros y ffôn, fel arfer gan sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes hwn fel Cyngor Ar Bopeth neu HelpwrArian.

Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn alluog yn ddigidol gallant ddefnyddio eu teclyn rheolwr arian ar-lein.

Os nad ydynt yn alluog yn ddigidol, neu ddim yn cael defnyddio’r rhyngrwyd fel rhan o’u amodau rhyddhau, bydd eu hanogwr gwaith yn eu cyfeirio am gyngor ar arian.

Newid sut mae pobl yn cael eu talu

Os na all y pobl sy’n gadael carchar reoli’r taliad misol sengl, neu byddant yn cael trafferthion i gyllidebu, gall DWP ystyried:

  • talu costau tai yn uniongyrchol i landlord
  • newid pa mor aml mae’r pobl sy’n gadael carchar yn cael eu talu os ydynt yn ei chael hi’n anodd i gyllidebu’n fisol – (gallant ofyn i gael eu taliad Credyd Cynhwysol wedi’i rannu dros y mis fel ei fod yn cael ei dalu’n fwy aml, er enghraifft, dwywaith y mis, neu mewn eithriadau, 4 gwaith y mis)
  • rhannu taliad o ddyfarniad rhwng partneriaid

Gelwir y rhain yn Drefniadau Talu Amgen (APA). Gellir gofyn am APA unrhyw bryd yn ystod cais, yn cynnwys cyn gynted ag y maent wedi gwneud eu cais.

Ni ellir gwneud APA tan mae’r taliad misol cyntaf o Gredyd Cynhwysol wedi cael ei wneud. Cynghorwch y pobl sy’n gadael carchar i siarad â’u hanogwr gwaith neu asiant linell gymorth Credyd Cynhwysol am ragor o wybodaeth.

Gwneud cais yn yr Alban (Scottish Choices)

Os yw’r pobl sy’n gadael carchar yn byw yn yr Alban mae’r broses yn wahanol oherwydd nad oes unrhyw ganolfannau adsefydlu cymunedol mewn carchardai yn yr Alban. Dylai’r pobl sy’n gadael carchar wneud eu cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Dylid cynghori’r pobl sy’n gadael carchar y bydd cais am Gredyd Cynhwysol ond yn dechrau pan mae’r cais ar-lein wedi cael ei anfon.

Gofynnir iddynt a ydynt am gael eu talu unwaith neu ddwywaith y mis.

Hefyd gofynnir iddynt a ydynt am gael eu swm ar gyfer tai wedi’i dalu’n uniongyrchol i’w landlord. Bydd y landlord yn cael gwybod os ydynt wedi dewis hyn.

Gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithredu’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Fel arfer mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu ddwywaith y mis i gartref a bydd angen i hawlwyr gyllidebu am hyn.

Fodd bynnag, gellir gofyn am daliad misol.

Efallai y gall person sy’n gadael carchar gael arian i helpu talu eu costau tai. Bydd cymhwyster a faint allant ei gael yn dibynnu ar eu hoedran a’u hamgylchiadau.

Gall y taliad gwmpasu:

  • rhent
  • Cymorth ar gyfer Llog Morgais (benthyciad i’w dalu’n ôl)
  • rhai taliadau gwasanaeth

Bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i’w landlord neu fenthyciwr morgais. Gall y pobl sy’n gadael carchar ofyn iddo gael ei dalu’n uniongyrchol iddynt gan adael iddynt dalu eu rhent eu hunain.

Budd-daliadau eraill

Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol, mae nifer o fudd-daliadau eraill isod y gallai’r person sy’n gadael carchar wneud cais amdanynt.

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai y gallant gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • maent eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol
  • roeddent yn hawlio Credyd Cynhwysol o fewn y 6 mis diwethaf a ddaeth i ben oherwydd enillion uchel

Bydd angen eu bod wedi gweithio fel cyflogai ac wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer yn y 2 flynedd treth lawn diwethaf cyn y flwyddyn galendr maent yn gwneud y cais ynddo. Os nad oes ganddynt ddigon gall credydau Yswiriant Gwladol dosbarth un gael eu hychwanegu atynt os ydynt wedi cael eu derbyn.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd

Os ydynt yn sâl neu gyda chyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio efallai y gallant gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘Dull Newydd’.

Mae ESA ‘Dull Newydd’ yn daliad bob bythefnos a gellir gwneud cais amdano ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd a Chredyd Cynhwysol.

Mae ESA ‘Dull Newydd’ yn fudd-dal cyfraniadau. Fel arfer mae hyn yn golygu efallai y gallant ei gael os ydynt wedi talu a/neu gael eu credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y 2 flynedd treth lawn cyn y flwyddyn maent yn gwneud cais ynddo.

Taliadau Tai Dewisol

Gall Taliadau Tai Dewisol (DHPs) ddarparu arian ychwanegol pan fydd eu cyngor yn penderfynu bod angen help ychwanegol arnynt i dalu eu costau tai.

Bydd y cyngor yn edrych ar eu hamgylchiadau er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gael DHP. Byddant yn penderfynu a ddylid rhoi DHP iddynt, faint fydd yn cael ei dalu ac am faint o amser y byddant yn cael y taliad.

Mae budd-daliadau eraill yn cynnwys:

Budd-daliadau pasbort

Mae budd-daliadau pasbort yn fudd-daliadau neu gynlluniau y mae gan rhai pobl hawl iddynt oherwydd eu hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth penodol eraill.

Mae cymorth ychwanegol y gallai hawlwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol fod yn gymwys i’w gael gynnwys:

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond rhain yw’r prif fudd-daliadau.

Rheoli’r cais Credyd Cynhwysol

Ffyrdd o reoli’r cais

Oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn system ar-lein, fel arfer bydd y pobl sy’n gadael carchar angen edrych ar eu cyfrif i weld os yw eu hanogwr gwaith wedi gosod camau iddynt weithredu, gelwir y rhain yn ‘pethau i’w gwneud’.

Os nad oes gan y pobl sy’n gadael carchar fynediad rheolaidd at gyfrifiadur gallant edrych ar eu cyfrif Credyd Cynhwysol ar ffôn clyfar. Gall anogwyr gwaith eu helpu i wneud hyn. Mae’n bwysig bod y pobl sy’n gadael carchar yn cwblhau unrhyw ‘pethau i’w gwneud’ oherwydd gallai eu taliad gael ei oedi os na fyddant yn eu cwblhau.

Rhoi gwybod am newid

Dylai’r pobl sy’n gadael carchar roi gwybod am unrhyw newid i’w amgylchiadau cyn gynted â phosibl i sicrhau eu bod yn parhau i gael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol bob mis.

Efallai bydd eu cais yn cael ei stopio neu ei leihau os nad ydynt yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar unwaith.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i swydd neu orffen swydd
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda phartner
  • dechrau gofalu am blentyn
  • symud i gyfeiriad newydd
  • newid eu manylion banc
  • rhent yn codi neu’n gostwng
  • newidiadau i gyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gwrdd â’u hanogwr gwaith
  • newidiadau i enillion (ond os ydynt yn hunangyflogedig)

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr; mae’n rhaid iddynt ddweud wrth DWP am unrhyw newid i’w amgylchiadau.

Gall pobl sy’n gadael carchar roi gwybod am newid i’w amgylchiadau drwy unai:

  • mewngofnodi i’w cyfrif Credyd Cynhwysol os oes un ganddynt
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol os na allant gael mynediad at eu cyfrif ar-lein neu os ydynt yn rheoli eu cais dros y ffôn

Dolenni defnyddiol

Cysylltiadau defnyddiol

Mae nifer o sefydliadau isod efallai y byddwch am gyfeirio’r pobl sy’n gadael carchar iddynt am help neu gefnogaeth ychwanegol.

Sefydliad Disgrifiad o’r cymorth a gynigir
Addaction Yn cefnogi pobl i wneud newidiadau ymddygiadol cadarnhaol, yn fwyaf arbennig gyda chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac iechyd meddwl.
Apex Charitable Trust Mae Apex Charitable Trust yn gweithio ar draws Gogledd Orllewin Lloegr ac yn ceisio helpu pobl sydd â chofnodion troseddol i gael swyddi neu hunangyflogaeth addas drwy roi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y farchnad lafur a thrwy weithio gyda chyflogwyr i dorri’r rhwystrau i’w cyflogaeth. Cysylltwch â: 01744 612 898.
Centrepoint Yn cefnogi pobl ifanc yr effeithir arnynt gan neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Os ydynt o dan 26 oed ac yn poeni am eu sefyllfa tai, gallant ffonio Llinell Gymorth am ddim a chyfrinachol Centerpoint ar 0808 800 0661 am wybodaeth, cyngor a chymorth.
Crisis Yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl ddigartref. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am sut y gallant helpu. Os oes gan yr hawlydd fater tai, gallwch gysylltu â’r tîm tai ar 020 7426 5685 neu drwy e-bost housing@crisis.org.uk.
Homeless Action Scotland Homeless Action Scotland yw’r sefydliad Aelodaeth Genedlaethol ar gyfer ddigartrefedd yn yr Alban.
Homeless Link Yr elusen aelodaeth genedlaethol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl sy’n dod yn ddigartref yn Lloegr. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal.
Mind Mae Mind yn elusen iechyd meddwl sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n dioddef problem iechyd meddwl. Edrychwch ar eu gwefan i gael gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal.
HelpwrArian Help i glirio dyledion, sut i leihau gwariant a gwneud y gorau o’ch incwm. Call 0800 138 0555.
Nacro Mae Gwasanaeth Cyngor Ailsefydlu Nacro yn cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, carcharorion presennol, eu teuluoedd a chyfeillion a sefydliadau sy’n gweithio gyda hwy. 0300 123 1999.
Samaritans Os yw’r hawlydd angen siarad am rywbeth sy’n eu tynnu i lawr, ffoniwch 116 123.
SACRO Mae SARCO yn cynnig help a chyngor i gyn-droseddwyr, troseddwyr a’u teuluoedd.
Shelter Mae Shelter yn elusen tai a digartrefedd. Ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys, gellir cysylltu â nhw ar 0808 800 4444. Os yw’r mater yn fater brys, ffoniwch 0808 164 4660.
Step Together Mae Step Together yn darparu cefnogaeth un i un wedi’i theilwra i helpu unigolion i leoliadau gwirfoddoli sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u diddordebau, a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau personol ac ymarferol sy’n ofynnol i adeiladu dyfodol mwy cadarnhaol. 0117 955 9042.
St Giles Trust Mae St Giles Trust yn rhedeg ystod o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i helpu cyn-droseddwyr; cyflogaeth, cymorth, hyfforddiant yn y gymuned â thai/llety brys. 020 7708 8000
SOVA Supporting Others through Voluntary Action Mae SOVA yn sefydliad mentora gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr yn gweithio yn y Sector Cyfiawnder Troseddol a phobl ifanc ar orchmynion troseddu ieuenctid yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal, y di-waith tymor hir a cheiswyr lloches a ffoaduriaid.
Trailblazers Mae Trailblazers yn elusen genedlaethol sy’n lleihau aildroseddu ymhlith pobl ifanc trwy ddarparu mentoriaid gwirfoddol. Maent yn lleihau aildroseddu ymhlith pobl ifanc trwy eu helpu i newid eu hagwedd, meddwl ac ymddygiad trwy fentora dwys, cyngor, eiriolaeth a chymorth arbenigol wedi’i dargedu. 07807 267280.
Unlock Mae Unlock yn elusen annibynnol ar gyfer pobl ag euogfarnau sy’n delio ag effeithiau cael cofnod troseddol. Maent yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar draws meysydd fel: sut i ddatgelu i gyflogwyr, gwiriadau cofnodion troseddol, cael yswiriant a theithio dramor trwy eu llinell gymorth gyfrinachol a redir gan gymheiriaid. 01634 247350.
Women in Prison Mae Women in Prison yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar ferched, sy’n cael ei redeg gan ferched, ac sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i ferched yr effeithir arnynt gan y system cyfiawnder troseddol yn y carchar ac yn y gymuned ledled Lloegr. 0800 953 0125 neu 0207 359 6674.
Working Chance Mae Working Chance yn elusen sy’n helpu merched sy’n troseddu i wneud y trosglwyddiad i gyflogaeth, gan eu helpu i ddod o hyd i waith â thâl a chynnig lleoliadau gwirfoddol.
YMCA Mae‘r YMCA yn gweithio mewn partneriaeth â charchardai a gwasanaethau prawf i gefnogi troseddwyr ifanc gyda chyfleoedd dinasyddiaeth a hyfforddiant cyn eu rhyddhau 0207 186 9500.

ID Derbyniol

Prif dystiolaeth

Prif dystiolaeth yw lle mae’r ffynhonnell gyhoeddi tystiolaeth hunaniaeth yr ymgeisydd wedi ei chadarnhau trwy broses gwirio hunaniaeth.

Mae prif dystiolaeth yn cynnwys:

  • pasbort sy’n dangos bod y deilydd, neu berson a enwir yn y pasbort fel plentyn y deilydd
  • trwydded yrru cerdyn â llun llawn neu dros dro
  • trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen sy’n ardystio neu’n nodi preswyliad parhaol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref neu Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i ddinesydd o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir
  • cerdyn preswylio parhaol wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref neu’r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo i aelod o deulu ddinesydd o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir
  • Trwydded Preswylio Biometreg wedi’i gyhoeddi gan Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i’r deilydd sy’n nodi bod y person a enwir ynddo yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes ganddynt unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig. (Dylech nodi yn achos ffoadur sydd heb unrhyw ffurf arall o ID, gellir derbyn y Drwydded Preswylio Biometreg fel yr unig dystiolaeth o hunaniaeth)
  • pasbort neu ddogfen deithio arall wedi’i nodi i ddangos bod y deiliad wedi’i eithrio o reolaeth mewnfudo, yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig, sydd â hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig, neu nad oes unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig
  • cerdyn ‘Young Scot’ gyda hologram PASS
  • cerdyn dinesydd
  • Dogfen Statws Mewnfudo wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref neu Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig i’r deiliad gyda chymeradwyaeth sy’n nodi bod y person a enwir ynddo yn cael aros yn amhenodol yn y Deyrnas Unedig neu nad oes unrhyw derfyn amser ar eu harhosiad yn y Deyrnas Unedig
  • tystysgrif cofrestru neu frodori fel dinesydd Prydeinig sy’n nodi bod hawl gan y deiliad i gymryd cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig
  • gall hawlwyr Gogledd Iwerddon sydd yng Ngogledd Iwerddon ond defnyddio eu cerdyn ID etholiadol

Yn ogystal, yn absenoldeb y wybodaeth uchod, gall hawlydd ddefnyddio’u cerdyn banc fel tystiolaeth prif dystiolaeth o hunaniaeth. Rhaid i’r cerdyn banc hwn ddangos enw, cod didoli a rhif cyfrif yr hawlydd neu gael ei gefnogi gan fantolen banc diweddar. Dylai hyn gyd-fynd â’r manylion y mae’r hawlydd wedi’u datgan ar eu cais.

Tystiolaeth eilaidd

Gall dogfennau tystiolaeth eilaidd gael eu cyhoeddi gan y llywodraeth neu heb fod o’r llywodraeth a gallant gynnwys rhai nodweddion diogelwch (er na chawsant eu datblygu’n sylweddol) i gynorthwyo dilysu’r ddogfen.

  • unrhyw ffurf o Brif dystiolaeth (sydd heb ei ddefnyddio’n barod fel prif dystiolaeth)
  • tystysgrif cofrestru neu frodori fel dinesydd Prydeinig
  • tystysgrif geni wreiddiol a gyhoeddwyd ar Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon (neu gopi wedi’i ardystio gan y Cofrestrydd)
  • tystysgrif geni dramor
  • tystysgrif geni/mabwysiadu gwreiddiol (neu gopi ardystiedig gan y Cofrestrydd)
  • cerdyn Young Scot
  • cerdyn dinesydd
  • paslyfr cymdeithas adeiladu
  • cerdyn rhent awdurdod lleol
  • dogfennau treth cyngor
  • polisïau sicrwydd bywyd/yswiriant
  • polisïau ad-dalu morgais
  • biliau tanwydd /ffôn a dalwyd yn ddiweddar yn enw’r cwsmer
  • tystysgrif briodas wreiddiol
  • tystysgrif partneriaeth sifil wreiddiol
  • papurau ysgariad neu ddiddymiad
  • papurau diddymu partneriaeth sifil
  • tystysgrif neu gontract cyflogaeth lluoedd Ei Fawrhydi
  • tystysgrif neu gontract cyflogaeth o dan y Goron
  • tystysgrif neu gontract cyflogaeth yn y Llynges Fasnachol
  • tystysgrif gofrestru bresennol yr heddlu
  • tystysgrif gwn gyfredol
  • slip cyflog neu slip pensiwn cyfredol sy’n cynnwys enw’r talai a rhif Yswiriant Gwladol
  • llythyr gan gyflogwr neu gontract cyflogaeth
  • tystysgrif newid enw
  • mantolenni cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu neu gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post cyfredol (6 mis oed neu lai os yw’r hawlydd wedi defnyddio eu cerdyn banc fel prif ID yna bydd yn rhaid i unrhyw fantolenni fod ar gyfer cyfrif gwahanol)
  • llyfr cyfrifon cynilo agored/cyfredol
  • llyfr siec personol
  • cerdyn debyd neu switch cyfredol (oni bai bod yr hawlydd wedi defnyddio hwn fel prif ID)
  • cerdyn tâl cyfredol
  • cerdyn aelodaeth undeb llafur
  • pas teithio gyda llun wedi’i osod
  • cytundebau prentisiaeth
  • dogfennau cofrestru cerbyd/yswiriant modur
  • pasbort sydd wedi dod i ben
  • ffurflen B79 (ffurflen a ddefnyddir i hysbysu staff DWP bod person wedi cael ei ryddhau o’r carchar ac fe’i cynghorwyd i wneud cais am fudd-dal
  • taflen fechnïaeth
  • gohebiaeth gan CThEF
  • cytundeb tenantiaeth ar gyfer eiddo presennol
  • anfonebau (hunangyflogedig)
  • llythyr gan gyfrifydd sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n helpu i sefydlu hunaniaeth
  • llythyr gan gyfreithiwr sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n helpu i sefydlu hunaniaeth
  • penodi o offeryn llys cyfredol/diweddar er enghraifft Profiant neu Bŵer Atwrnai wedi’i gofrestru gan y llys
  • tystysgrif trosglwyddo stoc (Cyfarwyddwr)
  • tystysgrif ymgorffori (Cyfarwyddwr)
  • memorandwm cymdeithasiad (Cyfarwyddwr)
  • cerdyn meddygol GIG
  • cerdyn ID myfyrwyr (myfyriwr)
  • llythyr gan sefydliad addysgol (myfyriwr)
  • dogfennaeth benthyciad myfyrwyr

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.