Pobl sy’n gadael carchar: trosolwg o Gredyd Cynhwysol
Diweddarwyd 24 Hydref 2024
Mae’r canllaw hwn yn mynd â chi drwy’r pethau sylfaenol o sut i wneud a rheoli cais am Gredyd Cynhwysol yn ogystal â gweithgareddau y gallwch eu gwneud cyn y dyddiad rhyddhau. Nid yw’n ymdrin â phopeth felly siaradwch â’r anogwr gwaith yn y carchar neu’r tîm adsefydlu os oes gennych ragor o gwestiynau.
1. Am Gredyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli:
- Credyd Treth Plant
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Credyd Treth Gwaith
Fel arfer mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol. Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft:
- os oes gennych blant
- os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
- os ydych angen help i dalu eich costau tai
Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth i dalu Treth Cyngor. Os oes gennych eich tenantiaeth eich hun bydd angen i chi wneud cais am hyn ar wahân; siaradwch â’ch anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ni fydd gennych fynediad at dîm adsefydlu. Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich rhyddhau.
2. Gweithgareddau cyn rhyddhau
-
Cwrdd â staff o’r tîm adsefydlu i drafod tai, cyllid, budd-daliadau ac addysg.
-
Ar tua 12 wythnos, cewch wahoddiad i weld anogwr gwaith y carchar i drafod cyflogaeth, tai, hyfforddiant a budd-daliadau a mwy.
-
Yr wythnos cyn rhyddhau. Bydd anogwr gwaith y carchar yn eich helpu i baratoi eich cais ac yn trefnu eich cyfweliad yn y ganolfan gwaith.
Os oes gennych gyfweliad wedi ei drefnu, nid oes angen i chi fynd iddo ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud yn lle hynny.
2.1 Awgrymiadau cyn rhyddhau
-
Mynychwch unrhyw apwyntiadau a byddwch yn agored am unrhyw bryderon neu faterion sydd gennych am eich rhyddhau.
-
Cewch o leiaf un apwyntiad gyda’r tîm adsefydlu ond gallwch gael mwy os byddwch eu hangen. Siaradwch â’r tîm adsefydlu i drefnu hyn.
-
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gael eich rhyddhau byddwch angen prawf o hunaniaeth a chyfrif banc. Gall y tîm adsefydlu helpu gyda hyn.
-
Os oeddech yn gweithio cyn eich dedfryd a bod gennych ddedfryd tymor byr, gall anogwr gwaith y carchar geisio eich helpu i gadw’ch swydd. Siaradwch â’ch anogwr gwaith y carchar i gael rhagor o wybodaeth.
-
Os oeddech yn rhentu tŷ cyn cael eich anfon i’r carchar a bod eich dedfryd yn llai na 6 mis efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys i gael help gyda’ch tai. Siaradwch â’ch anogwr gwaith y carchar i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych angen mynediad cyflym at arian, siaradwch â’r anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith am wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Ddim yn ffit i weithio? Siaradwch â’ch anogwr gwaith yn y carchar am unrhyw faterion iechyd a allai eich atal rhag gweithio.
3. Rôl anogwr gwaith yn y carchar
Os oes gennych fynediad at anogwr gwaith yn y carchar, gallwch drefnu i’w gweld unrhyw bryd yn ystod eich dedfryd. Dylech eu gweld cyn gynted â phosibl os oedd gennych denantiaeth cyn cael eich dedfrydu ac os oeddech yn gyfrifol am dalu’r rhent.
Gallant wirio os gellir parhau i dalu eich costau tai os ydych yn cael eich cadw yn y ddalfa am 6 mis neu lai.
Gallant hefyd eich helpu i baratoi eich cais am fudd-dal cyn i chi gael eich rhyddhau drwy:
- gwirio pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys amdanynt
- gwirio bod gennych yr ID sydd ei angen a chyfrif banc a thystiolaeth i gefnogi’r cais
- trefnu apwyntiad cychwynnol yn y ganolfan gwaith agosaf at y man lle byddwch yn byw a rhoi gwybod i chi beth i’ w ddisgwyl yn y cyfweliad
4. Beth allai’i ddisgwyl yn y Ganolfan Gwaith
Os oes gennych gyfweliad wedi ei drefnu, nid oes angen i chi fynd iddo ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud yn lle hynny.
Eich camau | Camau’r Ganolfan Gwaith |
---|---|
Rwyf yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein cyn gynted â phosibl. Gallaf wneud hyn drwy fynd i’r Ganolfan Gwaith cyn fy apwyntiad i ddefnyddio eu cyfrifiaduron. Rwyf yn trefnu i fynd i’r ganolfan gwaith tua awr cyn fy Nghyfweliad Tystiolaeth Cychwynnol i wneud fy nghais am Gredyd Cynhwysol. | Gall staff y ganolfan gwaith eich helpu i wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol. |
Rwyf yn mynychu fy ‘Cyfweliad Tystiolaeth Cychwynnol’, helpodd yr anogwr gwaith yn y carchar i mi gasglu’r wybodaeth yr oedd ei hangen i brofi fy hunaniaeth cyn i mi gael fy rhyddhau. Rwyf yn mynychu fy ‘Cyfweliad Cais Newydd’ a chytuno fy Ymrwymiad Hawlydd. Rwy’n glir ac yn onest am fy sefyllfa a’ r anawsterau rwy’ n eu hwynebu a chael y cymorth a’ r cyngor rwyf ei angen. | Yn y cyfweliad cais newydd, mae’ r anogwr gwaith yn siarad â chi am eich amgylchiadau a’ ch cyfrifoldebau ac yn drafftio Ymrwymiad Hawlydd (cytundeb sy ‘n nodi eich cyfrifoldebau) sy’n adlewyrchu eich amgylchiadau presonol. Maent yn dweud wrthych am y cymorth ychwanegol sydd ar gael gan y gwasanaeth Helpu i Wneud Cais unwaith mae eich cais Credyd Cynhwysol wedi cael ei anfon. Mae’r gwasanaeth Helpu i Wneud Cais gan Gyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth ymarferol wedi’i deilwra i helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol - hyd at gael eich taliad llawn cywir cyntaf. |
Gallaf gael arian trwy wneud cais am daliad ymlaen llaw a gwybod bod cyngor cyllidebu ar gael os wyf ei angen. | Mae’r anogwr gwaith yn cynnig trefnu taliad ymlaen llaw ac yn siarad â chi am gyngor ariannol a dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael, yn cynnwys Rheolwr Arian. |
Rwy’n poeni am gael fy nhalu’n fisol felly rwy’n gofyn am gael taliadau yn amlach. Rwy’n gofyn i’m anogwr gwaith pa gymorth arall sydd ar gael yn lleol. | Mae’r anogwr gwaith yn trafod cyllidebu gyda chi ac yn cytuno i sefydlu taliadau yn amlach na bob mis. Bydd yr anogwr gwaith yn ystyried pa gymorth lleol arall y gallech fod ei angen. |
Rwyf wedi newid fy nghyfeiriad felly rwy’n dweud am y newid ar fy nghyfrif ar-lein a gofyn i’m anogwr gwaith am gael taliadau rhent wedi’u hanofn yn uniongyrchol i’m landlord. | Mae eich hawl gyffredinol misol bellach yn cynnwys costau tai ac, ar ôl trafodaethau, sefydlir taliadau rhent yn uniongyrchol i’r landlord. |
Rwy’n barod i ddechrau chwilio am a pharatoi am waith. Rwy’n gwybod bydd fy anogwr gwaith yn fy helpu i gael y cymorth neu’ r hyfforddiant cywir. | Mae’r anogwr gwaith yn eich helpu i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith drwy awgrymu cyrsiau neu raglenni eraill a allai eich helpu. Gallant hefyd eich helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau paratoi am waith eraill fel ysgrifennu CV. |
5. Taliadau Ymlaen Llaw
Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw o’ch Credyd Cynhwysol os ydych mewn angen ariannol tra rydych yn disgwyl am eich taliad cyntaf. Gallwch gael taliad ymlaen llaw hyd at 100% o’ch hawl misol i Gredyd Cynhwysol.
Yna caiff didyniadau eu tynnu o’ ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol i dalu’n ôl eich taliad ymlaen llaw. Ni fydd y didyniad yn fwy na 25% o’r lwfans safonol Credyd Cynhwysol.
Mae rhaid i chi dalu’r taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn:
- 24 mis os gwnewch gais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
- 12 mis os gwnewch gais cyn 12 Ebrill 2021
Gallwch ofyn i’ch ad-daliadau gael eu rhoi ar un ochr am hyd at 3 mis os na allwch eu fforddio. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn.
I wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol gallwch naill a’i:
- gwneud cais drwy eich cyfrif ar-lein, siarad â’ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Gwaith, neu
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
6. Bod yn agored am eich sefyllfa
Deallwn ei bod weithiau’n anodd i chi siarad â ni am faterion neu heriau rydych yn eu profi, ond mae eich anogwr gwaith yno i’ch helpu. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion a allai fod gennych gan gynnwys digartrefedd, dibyniaeth neu iechyd meddwl gwael.
Y cynharaf mae’r anogwr gwaith yn gwybod, y cynharaf y gallant roi’r cymorth rydych ei angen. Mae eich Ymrwymiad Hawlydd yn nodi’r hyn rydych wedi cytuno i’w wneud er mwyn paratoi neu chwilio am waith yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol, fel y gellir ei deilwra i gymryd i ystyriaeth eich amgylchiadau.
Dylai eich Ymrwymiad Hawlydd gael ei adolygu’n rheolaidd.
Siaradwch â’ch anogwr gwaith os ydych yn cael trafferth gyda’r gweithgareddau yn eich Ymrwymiad Hawlydd neu os yw eich amgylchiadau’n newid.
7. Ffyrdd o reoli eich cais
Oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn system ar-lein byddwch fel arfer angen gwirio eich cyfrif i weld os yw eich anogwr gwaith wedi gosod gweithgareddau i chi eu gwneud, gelwir y rhain yn ‘bethau i’w gwneud’.
Os nad oes gennych fynediad rheolaidd at gyfrifiadur neu ffôn glyfar gallwch fynd i’ch canolfan gwaith leol i wirio’ch cyfrif Credyd Cynhwysol neu ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd. Gall anogwyr gwaith eich helpu i wneud hyn.
8. Hawddfreintiau
Mewn rhai amgylchiadau gall eich anogwr gwaith benderfynu a ddylai Ymrwymiad Hawlydd gael ei newid neu ei droi i ffwrdd dros dro am gyfnod o amser. Gelwir hyn yn hawddfraint.
Bydd eich anogwr gwaith yn penderfynu os oes angen hyn yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft os ydych yn ddigartref neu’n cael triniaeth am gam-drin cyffuriau ac alcohol.