Guidance

Treuliau busnes gallwch adrodd i Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig

Updated 21 June 2023

Lleoedd busnes

Eich ‘lleoedd busnes’ yw’r lleoedd yr ydych yn gwneud eich gwaith.

Gallwch hawlio costau cynnal ar gyfer rhain, gan gynnwys:

  • rhent
  • biliau cyfleustodau, er enghraifft dŵr ac ynni
  • ardrethi busnes neu dreth cyngor
  • yswiriant eiddo
  • diogelwch a glanhau
  • cynnal a chadw
  • pryniant, cynnal a chadw cyfarpar busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffydd

Ni allwch hawlio treuliau busnes ar gyfer:

  • cinio
  • prynu lleoedd busnes
  • unrhyw ddefnydd nad yw’n ymwneud â’r busnes o gyfarpar busnes

Defnyddio’ch cartref am fusnes

Gallwch hawlio treuliau busnes am ddefnyddio rhan o’ch cartref am eich gwaith hunangyflogedig.

Gall hwn fod am:

  • ddarparu gwasanaethau i gwsmer, er enghraifft fel triniwr gwallt neu fel arlunydd
  • gweinyddu busnes hanfodol, er enghraifft ffeilio anfonebau, cofnodi taliadau neu gymryd stoc
  • gweithgareddau busnes eraill, er enghraifft gweithgareddau gwerthu a marchnata

Ni allwch hawlio treuliau busnes am ddefnyddio’ch cartref am:

  • storio

  • cwblhau ffurflenni treth ar gyfer CThEF
  • hunan-adrodd eich enillion ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • bod ar alwad
  • bod ar gael i wneud gwaith

Er mwyn gallu hawlio treuliau busnes am ddefnyddio rhan o’ch cartref ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig, gallwch naill ai:

  • defnyddio treuliau syml, neu
  • cyfrifo eich costau busnes gwirioneddol

I ddefnyddio treuliau syml, dywedwch wrthym faint o oriau wnaethoch ddefnyddio’ch cartref at ddibenion busnes. Byddwn yn defnyddio cyfradd safonol i gyfrifo’ch treuliau.

Os wnaethoch weithio o adref Eich cost fisol bydd
25 i 49 awr y mis £10
50 i 99 awr y mis £18
100 awr y mis neu’n fwy £26

Byw yn eich lle busnes

Os ydych yn byw mewn adeilad sydd yn bennaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes, fel tafarn neu B&B, gallwch hawlio rhai o’r costau cynnal.

Gallwch naill ai:

  • defnyddio treuliau syml, neu

  • cyfrifo eich costau busnes gwirioneddol

I ddefnyddio treuliau syml, dywedwch wrthym eich costau cynnal llawn a faint o bobl sy’n byw yn eich lle busnes. Byddwn yn defnyddio’ch costau cynnal llawn a’n tynnu:

Faint o bobl oedd yn byw yno Byddwn yn defnyddio’ch costau cynnal llawn a thynnu
1 person £350
2 person £500
3 person neu’n fwy £650

Treuliau car, fan a theithio

Gallwch hawlio costau teithio am fusnes, gan gynnwys:

  • trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft tocyn trên neu fws

  • cost tacsi

  • cost hurio cerbyd

  • teithiau awyr

  • ystafelloedd gwesty

  • prydau yn ystod arhosiad dros nos

  • ffioedd parcio, tollau a thagfeydd

Ni allwch hawlio costau am:

  • gymudo (teithio rhwng eich cartref a’ch lle busnes arferol)

  • costau teithio personol neu nad ydynt ymwneud â’r busnes

  • cosbau, fel cosbau parcio

  • pryniant, lesio neu gaffael car neu minicab sydd heb ei addasu’n arbennig ar gyfer defnydd busnes

Treuliau syml neu gostau busnes gwirioneddol

Mae’r ffordd rydych yn adrodd costau trafnidiaeth yn dibynnu ar ba fath o gerbyd rydych yn ei ddefnyddio.

Os ydych yn defnyddio car neu minicab sydd heb ei addasu’n arbennig ar gyfer busnes, mae’n rhaid i chi ddefnyddio treuliau syml.

Os ydych yn defnyddio beic modur, sgwter neu gerbyd sydd wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer busnes (fel fan, tacsi du neu gar aml-rheolaeth hyfforddwr gyrru), gallwch naill ai:

  • defnyddio treuliau syml, neu

  • cyfrifo eich costau cynnal gwirioneddol

I ddefnyddio treuliau syml, byddwn yn gofyn i chi adrodd sawl filltir wnaethoch deithio am fusnes.

Byddwn yn defnyddio cyfradd safonol i gyfrifo’ch costau:

Ar gyfer car, fan, neu gerbyd modur arall:

  • 45 ceiniog ar gyfer pob milltir am y 833 milltir gyntaf

  • 25 ceiniog ar gyfer pob milltir dros 833 milltir

Ar gyfer beiciau modur neu sgwteri: 24 ceiniog y filltir

Treth, Yswiriant Gwladol a phensiynau

Gallwch hawlio costau treuliau busnes ar gyfer unrhyw:

  • treth incwm sydd wedi’i dalu i CThEF ar eich enillion hunangyflogedig

  • TAW sydd wedi’i dalu i CThEF, os ydych yn adrodd enillion sy’n cynnwys TAW

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 4

  • Cyfraniadau y telir i gynllun pensiwn cofrestredig

Rhaid bod y rhain yn daliadau rydych wedi’i wneud yn wirioneddol yn ystod y cyfnod adrodd misol, dim amcangyfrif.

Nwyddau a deunyddiau

Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer nwyddau a deunyddiau

Mae hwn yn cynnwys:

  • stoc a nwyddau i’w hailwerthu

  • deunyddiau crai

  • costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau

  • gwerth ariannol unrhyw waith a wnaeth eich busnes fel taliad am nwyddau neu wasanaethau

  • unrhyw gostau nwyddau a deunyddiau eraill sy’n angenrheidiol ac yn briodol i’ch busnes

Costau swyddfa a chyfarpar

Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer costau swyddfa a chyfarpar

Mae hwn yn cynnwys:

  • biliau ffôn, ffôn symudol a rhyngrwyd

  • deunyddiau ysgrifennu a phostio

  • argraffu, gan gynnwys inc argraffydd a chetris

  • meddalwedd Cyfrifiadurol

  • cyfarpar neu offer, gan gynnwys prynu, llogi neu atgyweirio

  • unrhyw gostau swyddfa neu gyfarpar eraill sy’n angenrheidiol ac yn briodol i’ch busnes

Marchnata a hysbysebu

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer twf eich busnes

Mae hwn yn cynnwys:

  • hysbysebu a marchnata

  • samplau am ddim

  • costau wefan

Costau dillad

Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer dillad gwaith.

Mae hwn yn cynnwys:

  • gwisgoedd

  • dillad amddiffynnol sydd eu hangen ar gyfer eich gwaith

  • gwisgoedd, er enghraifft ar gyfer actorion neu ddiddanwyr

Ni allwch hawlio costau dillad arferol, hyd yn oed os ydych yn ei wisgo ar gyfer gwaith

Costau cyfreithiol ac ariannol

Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer gwaith cyfreithiol ac ariannol sy’n cael ei wneud ar gyfer eich busnes.

Mae hwn yn cynnwys:

  • llog benthyciad busnes (hyd at uchafswm o £41 bob mis)

  • ffioedd Cyfrifyddu

  • ffioedd cyfreithiol

  • yswiriant

  • taliadau banc

  • eich cyfran o’r treuliau, os ydych chi mewn partneriaeth fusnes

  • treuliau gan gwmni rydych chi’n berchen arno neu sydd â rheolaeth drosto, er enghraifft lle rydych chi’n gyfarwyddwr

Ni allwch hawlio costau ar gyfer ad-dalu cyfalaf benthyciad busnes

Tanysgrifiadau proffesiynol

Gallwch hawlio treuliau busnes ar gyfer tanysgrifiadau proffesiynol os ydynt yn berthnasol i’ch busnes.

Mae hwn yn cynnwys:

  • tanysgrifiadau i gofnodion masnachu neu broffesiynol

  • aelodaeth corff masnachu neu sefydliad proffesiynol

Treuliau staff

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer:

  • cyflogau staff a gweithwyr

  • costau is-gontractwr

  • cyfraniadau cynllun pensiwn cyflogwr

  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr

  • bonysau a buddion

  • ffioedd asiantaeth

  • cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes

  • eich cyflog, os ydych chi’n talu cyflog i chi’ch hun gan ddefnyddio PAYE

Ni allwch hawlio costau:

  • gofalwyr neu help domestig, er enghraifft gwarchodwyr plant neu arddwyr

  • cyflogau a delir i bartner busnes