Canllawiau

Credyd Cynhwysol: Canllaw i gyflyrau iechyd ac anabledd

Diweddarwyd 18 March 2024

Taliad misol yw Credyd Cynhwysol i helpu gyda’ch costau byw. Efallai y byddwch yn gymwys  os ydych ar incwm isel, allan o waith neu’n methu â gweithio.

Mae eich taliad misol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft, eich enillion neu incwm eich cartref, costau tai ac unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd sydd gennych.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Universal Credit in Northern Ireland.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol.

1. Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd pan yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gofynnir i chi os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar faint o waith allwch chi ei wneud.

Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar faint o waith allwch chi ei wneud am fwy na 28 diwrnod, efallai y byddwch angen cael Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Efallai y cewch eich cyfeirio am WCA yn gynt os ydych:

  • yn feichiog ac mae perygl difrifol o ddifrod i’ch iechyd, neu iechyd eich plentyn sydd heb ei eni os na fyddwch yn ymatal rhag gweithio neu weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

  • yn derbyn neu ar fin cael triniaeth ar gyfer canser trwy gemotherapi neu radiotherapi – neu rydych yn gwella o driniaeth o’r fath

  • mewn ysbyty neu sefydliad tebyg am 24 awr neu fwy

  • yn cael eich atal rhag gweithio yn ôl y gyfraith

  • yn derbyn triniaeth fel dialysis, plasmapheresis neu faethiad rhiant llwyr ar gyfer nam gros o swyddogaeth enterig neu’n gwella ar ôl derbyn un o’r mathau hyn o driniaeth

1.1 Cael help i wneud eich cais Credyd Cynhwysol

Help i Hawlio

Mae Help i Hawlio yn wasanaeth cyfrinachol a ddarperir gan Gyngor ar Bopeth. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn cytuno.

Gallwch gael help am ddim gan ymgynghorwyr hyfforddedig i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gallant eich helpu gyda phethau fel ceisiadau ar-lein neu baratoi am eich apwyntiad cyntaf yn y ganolfan gwaith.

Ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol a holi am wneud cais.

Mae galwadau i linell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim.

Cysylltu â Chredyd Cynhwysol

Gofyn i berson arall neu sefydliad i ddelio â’ch cais

Gallwch ofyn i berson arall neu sefydliad i ddelio â’ch cais os ydych yn teimlo nad ydych yn gallu:

  • dod o hyd i’r wybodaeth rydych ei hangen

  • deall pethau am eich cais

  • rheoli eich materion eich hun

Gallwch wneud hwn ar unrhyw bwynt yn ystod eich cais.

2. Datgan cyflwr iechyd neu anabledd ar gais Credyd Cynhwysol presennol

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen rhoi gwybod am gyflwr iechyd neu anabledd newydd fel newid mewn amgylchiadau.

Rhowch wybod am eich salwch yn eich cyfrif ar-lein.

3. Tystiolaeth feddygol fel nodiadau ffitrwydd

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar faint o waith allwch chi ei wneud, gallwch hunan-ardystio am hyd at y 7 diwrnod cyntaf o’ch salwch. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol fel nodyn ffitrwydd (a adnabyddir hefyd fel nodyn salwch neu ddatganiad o allu i weithio).

Mae’n rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar faint o waith allwch chi ei wneud am fwy na 7 diwrnod.

Darganfyddwch fwy am sut i roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

4. Eich Ymrwymiad Hawlydd

I gael Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gytuno â’ch anogwr gwaith pa weithgareddau y gallwch eu gwneud i baratoi am neu i chwilio am waith. Bydd eich anogwr gwaith yn cymryd i ystyriaeth eich cyflwr iechyd neu anabledd wrth ystyried beth i’w gynnwys yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod gennych 12 mis neu lai i fyw, ni fyddwch angen ymrwymiad hawlydd.

5. Asesiad Gallu i Weithio

Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu faint o waith allwch chi ei wneud am fwy na 28 diwrnod, efallai y byddwch angen Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Defnyddir y WCA i ddarganfod faint mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n asesu beth allwch chi ei wneud, yn ogystal â’r hyn na allwch ei wneud.

Darganfyddwch fwy am beth sy’n digwydd os byddwch angen Asesiad Gallu i Weithio pan fyddwch yn roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

Cyn eich asesiad, bydd angen i chi gwblhau holiadur Gallu i Weithio. Gelwir hyn yn UC50. Bydd hwn yn cael ei bostio i chi.

6. Cwblhau’r holiadur Gallu i Weithio (UC50)

Gallwch anfon copïau o wybodaeth feddygol arall gyda’r UC50, fel cynlluniau triniaeth neu ganlyniadau profion.

Mewn rhai achosion, gellir gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a’r dystiolaeth a anfonwch. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd angen i chi gael WCA.

Os byddwch angen help i gwblhau’r holiadur Gallu i Weithio (UC50), gallech ofyn i ffrind, perthynas, gofalwr neu weithiwr cymorth.

Neu gallwch ofyn i rywun yn y Ganolfan Asesu Iechyd ac Anabledd, y sefydliad sy’n anfon allan yr holiadur. Gallant eich helpu i ateb y cwestiynau.

Gweler enghraifft o holiadur UC50. Ni ddylech gwblhau’r holiadur hwn nes y byddwn yn gofyn i chi.

6.1 Canolfan Asesu Iechyd ac Anabledd


Ffôn: 0800 288 8777

Darganfyddwch am gostau galwadau

Am fwy o wybodaeth am yr holiadur UC50 a’r WCA ewch i Canolfan Asesu Iechyd ac Anabledd.

7. Ar ôl y WCA

Os ydych yn cael WCA bydd penderfyniad yn cael ei hafnon i chi wedyn yn dweud os ydych:

  • yn ffit i weithio (a elwir hefyd yn ‘gallu gweithio’)

-gyda gallu cyfyngedig i weithio (LCW), ond angen paratoi i weithio yn y dyfodol

  • gyda gallu cyfyngedig i weithio ac ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)

Darganfyddwch fwy am beth mae’r penderfyniad yn ei olygu os ydych yn cael Asesiad Gallu i Weithio

8. Sut mae eich penderfyniad WCA yn effeithio’r swm o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael

Os ydych yn cael LCW, ni fyddwch yn cael unrhyw arian ychwanegol oni bai bod y cyfan o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn derbyn Credyd Cynhwysol cyn 3 Ebrill 2017

  • cawsoch eich asesu yn flaenorol fel bod gennych LCW

Mewn rhai amgylchiadau gallwch hefyd gael LCW os ydych yn [symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol)(#symud-o-lwfans-cyflogaeth-a-chymorth-i-gredyd-cynhwysol).

Os ydych yn cael LCWRA, efallai y byddwch yn cael arian ychwanegol yn ogystal a’ch lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn rhan o gwpl ac mae’ch partner eisoes yn cael taliad LCWRA, ni fyddwch yn derbyn yr arian ychwanegol.

8.1 Os ydych yn gofalu am rywun

Os oes gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun, ac mae gennych hawl i LCW neu LCWRA, ni fyddwch yn cael y ddau swm. Byddwch yn derbyn yr uchaf o’r 2 swm hynny.

8.2 LCWRA: pryd y byddwch yn cael arian ychwanegol

Os bydd penderfyniad WCA yn LCWRA, byddwch fel arfer yn cael yr arian ychwanegol mewn 3 cyfnod asesu misol ar ôl i chi ddechrau cyflwyno tystiolaeth feddygol (fel nodiadau ffitrwydd) sy’n dangos bod eich cyflwr yn cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud. 

Mae yna achosion lle gellir ei ychwanegu ar unwaith, er enghraifft os oes gennych 12 mis neu lai i fyw neu os ydych yn symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol.

9. Efallai bod gennych 12 mis neu lai i fyw

Os oes gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod gennych 12 mis neu lai i fyw:

Os ydych yn dweud wrthym efallai bod gennych 12 mis neu lai i fyw pan rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol gofynnir i chi os hoffech gael Credyd Cynhwysol i’ch ffonio. Yn y galwad, byddwn yn esbonio mwy am:

  • sut i wneud eich cais

  • pa ddogfennau rydych eu hangen

Nid oes rhaid i chi gael galwad – gallwch ddewis cwblhau eich cais eich hunain ar-lein.

9.1 Tystiolaeth meddygol i gefnogi eich cais: ffurflen SR1W

Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth gan eich meddyg, nyrs arbenigol neu weithiwr meddygol proffesiynol arall. Gelwir hyn yn ffurflen SR1W. Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybodaeth am eich cyflwr a’ch triniaeth.

Mae’n debygol y bydd eich meddyg yn anfon y ffurflen i DWP, ond gallwch chi neu gynrychiolydd arall ei anfon. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Darllenwch pa fudd-daliadau eraill y gallwch eu cael os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallech fod â 12 mis neu lai i fyw.

10. Symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i Gredyd Cynhwysol

Os ydych wedi bod yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), ni fydd angen i chi gael WCA eto os ydych:

  • eisoes wedi cwblhau WCA ac wedi cael eich asesu tra yn hawlio ESA

  • yn symud i Gredyd Cynhwysol heb doriad

Efallai y bydd angen i chi gael WCA arall os yw eich:

  • WCA i gael adolygiad

  • cyflwr yn newid 

10.1 Os oeddech yn cael yr elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith mewn ESA

Byddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol o’r enw yr elfen LCW os:

  • roeddech yn cael yr elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith yn ESA cyn 3 Ebrill 2017

  • nid oedd unrhyw doriad rhwng eich ESA a Chredyd Cynhwysol

10.2 Os oeddech yn cael yr elfen cymorth mewn ESA

Byddwch yn cael eich talu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol a elwir yn elfen LCWRA, os:

  • oeddech yn cael yr elfen cymorth mewn ESA

  • nid oedd unrhyw doriad rhwng eich ESA a Chredyd Cynhwysol

11. Cyfnod o salwch dros dro

Os byddwch yn mynd yn sâl am gyfnod byr o amser, gellir eich trin fel rhywun sydd â chyfnod o salwch dros dro.

Yn ystod yr amser y cewch eich trin fel rhywun sydd â chyfnod o salwch dros dro nid oes rhaid i chi fod ar gael ar gyfer gwaith, neu i chwilio am waith.

Gall cyfnod o salwch dros dro barhau am hyd at 14 diwrnod. Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol o’r 8fed diwrnod o’ch salwch.

Gallwch gael eich trin fel rhywun sydd â chyfnod o salwch dros dro ddwywaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Os oes gennych fwy na 2 gyfnod o salwch dros dro, efallai y bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer, a chwilio am, waith fel y cytunwyd yn eich ymrwymiad hawlydd. Os na allwch wneud hynny, siaradwch â’ch anogwr gwaith.

Os oes gennych nodyn ffitrwydd gyda hyd o 29 diwrnod neu fwy, efallai y byddwn yn eich cyfeirio am WCA.

12. Newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i Gredyd Cynhwysol os:

  • mae eich cyflwr wedi gwella

  • mae eich cyflwr wedi gwaethygu

• mae gennych gyflwr iechyd newydd

  • mae gennych unrhyw newidiadau eraill, fel dod o hyd i swydd neu symud i mewn gyda phartner

Os nad ydych yn dweud wrth Gredyd Cynhwysol am y newidiadau hyn ar unwaith, gallech gael mwy neu lai o arian nag y dylech. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu yn ôl unrhyw arian sy’n cael ei ordalu i chi.

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif

13. Gweithio a Chredyd Cynhwysol

Os ydych yn teimlo eich bod yn gallu, gallwch weithio a hawlio Credyd Cynhwysol

Efallai y gallwch gael help gan Mynediad at Waith os nad yw’r help rydych ei angen i weithio yn cael ei gwmpasu trwy eich cyflogwr wneud addasiadau rhesymol.

Gall grant Mynediad at Waith dalu am:

  • offer arbennig, addasiadau neu wasanaethau gweithiwr cymorth i’ch helpu i wneud pethau fel ateb y ffôn neu fynd i gyfarfodydd

  • helpu i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith

14. Help gyda phresgripsiynau a chostau gofal iechyd

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y bydd gennych hawl i presgripsiynau am ddim a chostau gofal iechyd eraill, fel gofal deintyddol a phrofion golwg.

Mae gennych hawl dim ond os oedd eich enillion yn ystod eich cyfnod asesu diwethaf yn:

  • £435 neu lai

  • £935 neu lai os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys taliad ar gyfer plentyn neu allu cyfyngedig i weithio

Mae’r cyfnod asesu diwethaf yn golygu’r cyfnod asesu a ddaeth i ben yn union cyn y dyddiad y byddwch yn hawlio presgripsiynau am ddim neu gostau gofal iechyd.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl, mae’r terfyn enillion yn berthnasol i’r incwm ar y cyd y chi a’ch partner. Dangosir eich enillion ar eich datganiad fel ‘Eich cyfanswm cyflog mynd adref am y cyfnod hwn’.

Os na fyddwch chi na’ch partner yn gweithio yna bydd eich enillion yn £0.00.

15. Cymorth ariannol arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:

16. Budd-daliadau eraill y gallwch wneud cais amdanynt

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau eraill y gallech eu cael, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol os ydych yn anabl neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd (ESA).

17. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am ESA dull newydd os oes gennych nodyn ffitrwydd, rydych wedi gweithio a thalu neu gael eich credydu gyda digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Yn ddibynol ar eich amgylchiadau, gallwch  wneud cais am ESA dull newydd yn lle, neu yn ogystal â, Chredyd Cynhwysol. Os ydych yn gwneud cais am y ddau fudd-dal, bydd eich taliad ESA dull newydd yn cael ei ddidynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Gwneud gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.