Cyfarwyddyd ymarfer 42: uwchraddio dosbarth teitl
Diweddarwyd 17 Chwefror 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Pan fo teitl i ystad gyfreithiol yn cael ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF mae 7 math o deitl ar gael. Mae modd cofrestru ystadau rhydd-ddaliol a phrydlesol gydag un ai:
- teitl llwyr
- teitl meddiannol
- teitl amodol
Yn ogystal, mae modd cofrestru ystadau prydlesol gyda theitl prydlesol da. Caiff dosbarth cofrestru teitl ei ddatgan ar ddechrau’r gofrestr perchnogaeth.
2. Ystyr dosbarthiadau teitl
2.1 Llwyr
Dyma ddosbarth gorau teitlau a’r un fydd yn cael ei ddyfarnu ym mwyafrif yr achosion. Fel eithriad, fodd bynnag, efallai na fydd modd gwneud hyn, er enghraifft, lle bydd rhywfaint o dystiolaeth yn ddiffygiol neu nam yn amlwg yn y teitl, gan ei gwneud yn anniogel i Gofrestrfa Tir EF warantu’r perchennog yn llwyr rhag perygl y bydd rhywun arall yn hawlio’r tir.
Cyn 19 Mehefin 2006, ni fyddem yn rhoi teitl prydlesol llwyr o dan yr amgylchiadau canlynol ar adeg cofrestru’r brydles:
- nid oedd y ceisydd yn gallu cyflwyno caniatâd prif brydleswr os oedd y brydles i’w chofrestru yn is-brydles ac os oedd prydles y prydleswr yn cynnwys cyfyngiad ar aralliad
- nid oedd morgeisai’r prydleswr wedi rhoi caniatâd i roi’r brydles.
Ein harfer fel rheol nawr yw rhoi teitl prydlesol llwyr lle na chyflwynir y caniatâd gofynnol ond byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr i adlewyrchu’r ffaith hon.
2.2 Prydlesol da
Mae llawer o geisiadau i gofrestru ystadau prydlesol lle na chafodd teitl y landlord i ganiatáu’r brydles sy’n cael ei chofrestru ei gyflwyno i Gofrestrfa Tir EF. Mewn achosion o’r fath, ni fyddwn yn gwybod a oedd gan y landlord y pŵer llawn a digyfyngiad i wneud y grant neu os oes cyfamodau cyfyngu neu lyffetheiriau eraill yn effeithio ar yr eiddo. Felly, ar yr amod bod y teitl i’r ystad brydlesol ei hun yn foddhaol, byddwn yn dyfarnu teitl prydlesol da.
Cyn 19 Medi 2006, byddai teitl prydlesol da hefyd yn cael ei roi lle nad oedd caniatâd uwch brydleswr neu forgeisai’n cael ei gyflwyno lle’r oedd hyn yn ofynnol.
2.3 Meddiannol
Yn nodweddiadol, mae modd dyfarnu teitlau meddiannol lle bo’r perchennog yn hawlio ei fod wedi caffael y tir trwy feddiant gwrthgefn. Fel arall, gall ddigwydd lle na all y perchennog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o deitl i ystad am ryw reswm. Mae’r teitlau hyn yn anghyffredin.
2.4 Amodol
Bydd teitlau amodol yn cael eu dyfarnu lle nodwyd rhyw ddiffyg penodol a chaiff hyn ei ddatgan yn y gofrestr. Mae’r rhain yn fwy anghyffredin na theitlau meddiannol hyd yn oed.
3. Uwchraddio dosbarth teitl
3.1 Pwy sy’n gallu gwneud cais
O dan adran 62(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 dim ond y canlynol sydd â hawl i wneud cais i uwchraddio dosbarth teitl israddol i un gwell.
- y perchennog cofrestredig
- rhywun sydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog, fel cynrychiolydd personol lle bu farw’r perchennog cofrestredig neu rywun sydd newydd gwblhau prynu ystad gofrestredig
- perchennog unrhyw arwystl cofrestredig sy’n effeithio ar yr ystad
- rhywun â budd mewn ystad gofrestredig sy’n deillio o’r ystad gofrestredig sydd i gael ei huwchraddio
3.2 Pryd i wneud cais
Ar wahân i deitlau meddiannol y cyfeirir atynt yn Teitlau meddiannol wedi treigl amser gallwch wneud cais i uwchraddio dosbarth teitl ar unrhyw adeg ar ôl cofrestru’r tir gyntaf ar yr amod y gallwch fodloni Cofrestrfa Tir EF bod y rhesymau dros ddyfarnu dosbarth teitl israddol wedi cael eu cywiro. Mae manylion o sut i wneud cais gan ddefnyddio ffurflen UT1 i’w gweld yn Sut i wneud cais.
3.2.1 Teitlau meddiannol wedi treigl amser
Lle bo teitl i ystad mewn tir yn un meddiannol, pa un ai’n rhydd-ddaliol neu brydlesol, gallwch wneud cais i uwchraddio’r teitl naill ai i deitl rhydd-ddaliol llwyr neu brydlesol da unwaith i’r teitl meddiannol fod wedi ei gofrestru ers 12 mlynedd (adran 62(4) a (5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Caiff y dyddiad pryd y cofrestrwyd y teitl gyntaf ei ddatgan yn y gofrestr eiddo, wedi ei gymryd fel y dyddiad y cofrestrwyd y perchennog cyntaf.
Defnyddiwch banel 10(C) ffurflen UT1 i ddweud wrthym pwy sy’n meddiannu’r eiddo yn gorfforol. Os nad y perchennog cofrestredig yw hyn, rhaid i chi allu dangos perthynas y ceisydd â’r sawl sy’n meddiannu sydd, at ddibenion adran 131 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn golygu ei fod i gael ei drin fel yn meddiannu.
Enghraifft fyddai lle bo landlord yn berchennog cofrestredig ond bod ei denant mewn gwirionedd yn meddiannu’r eiddo.
3.2.2 Teitlau meddiannol mewn sefyllfaoedd eraill a theitlau amodol
Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg ar ôl cofrestru i uwchraddio teitl meddiannol neu amodol mewn tir, neu rent-dâl meddiannol neu amodol, trwy gyflwyno tystiolaeth ychwanegol o deitl i Gofrestrfa Tir EF fyddai’n cywiro’r rheswm dros ddyfarnu teitl meddiannol neu deitl amodol yn y lle cyntaf.
Un enghraifft yw lle daeth gweithredoedd a gollwyd i’r amlwg.
3.2.3 Prydlesol da
Gallwch wneud cais i uwchraddio teitl prydlesol da i brydlesol llwyr os gallwch gyflwyno’r dystiolaeth ganlynol i Gofrestrfa Tir EF:
- teitl y prydleswr a, lle nad ef yw’r rhydd-ddeiliad, teitl i unrhyw deitlau rifersiwn eraill hyd at ac yn cynnwys y rhydd-ddeiliad
- y teitlau rifersiwn wedi eu cofrestru gyda theitl llwyr
Lle rhoddwyd teitl prydlesol da cyn 19 Mehefin 2006 am na chyflwynwyd caniatâd morgeisai’r prydleswr neu ganiatâd prydleswr y prydleswr i roi’r brydles, gallwch wneud cais i uwchraddio i deitl prydlesol llwyr os gallwch gyflwyno’r caniatâd sydd ei angen. Fel arall, a lle bo’r caniatâd ar goll o hyd, gallwch wneud cais i uwchraddio i deitl llwyr trwy amgáu llythyr eglurhaol gyda’ch cais yn gofyn am uwchraddio ar sail arfer gyfredol Cofrestrfa Tir EF. Gwneir y cofnod/cofnodion canlynol yn y gofrestr lle na chyflwynir y caniatâd:
- lle na chyflwynwyd caniatâd yr uwch brydleswr:
“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiatâd i roi’r is-brydles hon y gallai fod ei angen yn ôl yr uwch brydles y rhoddwyd yr is-brydles ohoni,”
a/neu
- lle na chyflwynwyd caniatâd arwystlai’r prydleswr:
“Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy’n disodli neu yn amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o’r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i’r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai fod y brydles wedi’i hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”
Wrth gofrestru prydles â theitl prydlesol da yn y gorffennol, nid oedd Cofrestrfa Tir EF yn gwarantu y cafodd unrhyw hawddfreintiau a gynhwyswyd ynddi eu rhoi yn ddilys. Felly, ni fyddai’r gofrestr ar gyfer teitl o’r fath yn adlewyrchu unrhyw gyfyngiadau ar yr hawddfreintiau hynny, os oedd eu hangen. Pan fyddwn yn derbyn cais i uwchraddio teitl prydlesol da i deitl llwyr byddwn, fel mater o arfer, yn archwilio’r hawddfreintiau ac yn newid y gofrestr yn unol â hynny os ydym yn dod o hyd i unrhyw hawddfreintiau na ellir eu gwarantu (er enghraifft, os nad yw teitl caeth yn cynnwys cofnod darostyngedig cyfatebol yn y gofrestr).
Er mwyn gwarantu cofnod hawddfraint cyfyngedig wedi hynny, byddai angen cais ar ffurflen AP1 arnom o ran y teitl(au) caeth ‘tramgwyddus’, ynghyd â thystiolaeth o gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a fyddai fel arall yn atal yr hawddfraint rhag cael ei nodi. Os ydych wedi canfod nad yw teitl caeth yn ddarostyngedig i hawddfraint y cyfeirir ati yng nghofrestr y teitl yr ydych am ei huwchraddio cyn cyflwyno ffurflen UT1 (gweler Sut i wneud cais), gellir gwneud y cais AP1 ar yr un pryd â’r cais i uwchraddio. Yn y naill achos neu’r llall, mae ffi yn daladwy o dan Atodlen 3, Rhan 1(1) ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid cyflwyno rhybudd i’r perchennog(perchnogion) cofrestredig a/neu berchennog(perchnogion) unrhyw arwystlon cofrestredig.
3.3 Sut i wneud cais
Rhaid i chi ddefnyddio ffurflen UT1 (rheol 124 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae hon ar gael trwy ddogfenwyr cyfreithiol neu gallwch ei llwytho i lawr yn ddi-dâl o’n gwefan. Fel arall, gallwch ei chynhyrchu mewn dull electronig at eich defnydd eich hun ar yr amod i chi gael cymeradwyaeth yr Uned Ffurflenni ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF.
Defnyddiwch banel 8 i ddweud wrthym y dosbarth teitl yr ydych yn gwneud cais i uwchraddio iddo. Er enghraifft, gyda theitl prydesol meddiannol neu amodol efallai eich bod am i ni ystyried ei uwchraddio i brydlesol da neu, fel arall, os gallwch fodloni’r gofynion yn Prydlesol da, i brydlesol llwyr. Bydd rhydd-ddaliadau meddiannol ac amodol bob amser yn cael eu hystyried ar gyfer uwchraddio i rydd-ddaliol llwyr.
Rhaid i chi ddweud wrthym ym mhanel 9 pa gymhwystra sydd gan y ceisydd i wneud cais i uwchraddio’r teitl. Os nad y ceisydd yw’r perchennog cofrestredig na chwaith yn arwystlai cofrestredig, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’i hawl i wneud cais a dylai hyn ddod gyda’r ffurflen gais. Os yw’r cais i uwchraddio teitl meddiannol ar sail bod 12 mlynedd wedi mynd heibio ers y cofrestriad cyntaf rhaid i chi gwblhau panel 10 y ffurflen.
Defnyddiwch banel 10 i ddangos sail y cais. Er enghraifft, efallai eich bod erbyn hyn yn gallu cyflwyno rhagor o dystiolaeth o deitl. Nid yw Panel 10 yn cynnwys dewis ar gyfer uwchraddio teitl prydlesol meddiannol neu amodol yn seiliedig ar dystiolaeth bellach o deitl. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai ceiswyr ddefnyddio ffurflen CS i barhau panel 10 fel y nodir yn y nodiadau esboniadol i ffurflen UT1.
Mae panel 11 yn gadarnhad na wnaed unrhyw gais gwrthwynebus i’r teitl yn rhinwedd ystad, hawl neu fudd sy’n aros yn orfodadwy o ganlyniad i’r cofnod sy’n bodoli ynghylch y dosbarth teitl. Os yw’r ffurflen yn cael ei llofnodi gan drawsgludwr y ceisydd, gellir disodli’r geiriau ‘Rwy’n cadarnhau’ gyda ‘Mae’r ceisydd yn cadarnhau’.
Cofiwch amgáu unrhyw dystiolaeth ddogfennol angenrheidiol a’r hyn sydd i’w dalu ar sail y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.
4. Cofrestrfa Tir EF yn archwilio tystiolaeth
Unwaith y caiff y cais ei wneud, byddwn yn archwilio’r dystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd. Os yw hyn yn ddigon i gywiro’r rheswm y dyfarnwyd y teitl israddol, bydd y teitl yn cael ei uwchraddio. Mae’n arbennig o bwysig dangos teitl i deitl unrhyw landlord os yw’r uwchraddio i fod i brydlesol llwyr. Mae hyn yn berthnasol hefyd i deitl unrhyw landlord uwch os nad yw teitl y landlord uniongyrchol wedi ei gofrestru gyda theitl llwyr.
5. Teitl meddiannol a gofrestrwyd cyn Ionawr 1909
Pan wneir cais i uwchraddio teitl meddiannol a gofrestrwyd yn wreiddiol cyn Ionawr 1909, dylid cyflwyno copi ardystiedig o’r trawsgludiad neu aseiniad i’r perchennog cofrestredig cyntaf, os oes modd.
6. Ffïoedd
Fel rheol mae ffi benodol yn daladwy i uwchraddio dosbarth teitl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ffi i’w thalu os yw’r cais i uwchraddio:
- yn dod â chais y mae ffi ar raddfa yn daladwy amdano
- yn cynnwys llythyr eglurhaol yn datgan bod y cais yn cael ei wneud dim ond ar y sail bod teitl prydlesol da wedi’i roi am na chyflwynwyd caniatâd yr uwch brydleswr a/neu forgeisai’r prydleswr ar adeg cofrestru’r brydles.
Os ydych yn gwneud cais i uwchraddio’r teitl ar yr un pryd â chais am ffi ar raddfa, rhaid anfon ffurflen UT1 gyda’r cais yn ogystal ag unrhyw ffurflen ar gyfer y cais honno. Gellir gwneud ymholiadau am y ffïoedd sydd i’w talu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol i’n Cymorth i Gwsmeriaid (gweler Manylion cysylltu
7. Pethau i’w cofio
Rhaid ichi
- amgáu’r dystiolaeth angenrheidiol a allai alluogi uwchraddio, megis gweithredoedd teitl
- amgáu tystiolaeth o hawl y ceisydd i wneud cais lle nad y ceisydd yw’r perchennog cofrestredig neu berchennog arwystl cofrestredig
- llenwi ffurflen UT1 ar gyfer pob rhan sy’n gymwys
- amgáu’r ffi
Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler Cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.