Canllawiau

Gwrandawiadau llys brys ynghylch trefniadau plant (CB2)

Diweddarwyd 9 October 2024

Cyn gwneud cais i’r llys

Cyn gwneud cais i’r llys am orchymyn mewn perthynas â’ch plentyn neu blant, bydd rhaid i chi fynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (y’i gelwir yn MIAM) yn gyntaf. Ni fydd y cyfarfod hwn yn dal eich cais yn ôl am amser hir, oherwydd dylid ei gynnal o fewn 15 diwrnod busnes ar ôl i chi gysylltu â chyfryngwr.

Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr yn eich ardal drwy’r cyngor cyfryngu teuluol.

Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig efallai na fydd yn rhaid i chi fynychu MIAM cyn gwneud cais. Er enghraifft, os gallwch ddangos bod eich cais yn un brys, neu os oes gennych dystiolaeth o gam-drin domestig.

Darllenwch fwy am yr amgylchiadau pan nad yw’r gofyniad MIAM yn berthnasol.

Os yw eich achos yn un brys

Os yw eich achos yn un brys, nid oes angen i chi fynychu MIAM. Fodd bynnag, rhaid i chi allu dangos un o’r canlynol.

Bod y canlynol mewn perygl:

  • eich bywyd, rhyddid neu ddiogelwch corfforol
  • bywyd, rhyddid neu ddiogelwch corfforol eich teulu, neu eich cartref

Neu byddai unrhyw oedi a achosir o ganlyniad i fynychu MIAM yn golygu:

  • bod eich bywyd, rhyddid neu ddiogelwch corfforol mewn perygl, neu fywyd, rhyddid neu ddiogelwch corfforol eich teulu, neu eich cartref mewn perygl
  • bod risg o niwed i blentyn
  • bod risg y gellir cymryd plentyn yn anghyfreithlon o’r DU, neu fod risg y gall plentyn sydd y tu allan i Gymru neu Lloegr ar hyn o bryd gael ei gadw yn anghyfreithlon
  • bod risg sylweddol y bydd camweinyddiad cyfiawnder
  • y byddech yn dioddef caledi ariannol sylweddol
  • problemau anadferadwy wrth ddelio â’r anghydfod – gan gynnwys colled anadferadwy o dystiolaeth sylweddol
  • yn y cyfnod sydd ei angen i drefnu a mynychu MIAM, bydd achos sy’n ymwneud â’r anghydfod yn cael ei ddwyn gerbron llys mewn gwlad (neu wladwriaeth) arall, a gall llys yn y wlad arall honno wrando ar yr anghydfod a gwneud penderfyniadau cyn y llys yng Nghymru a Lloegr.

Os yw unrhyw un o’r amgylchiadau a grybwyllwyd yn berthnasol i chi, ticiwch ‘Ydy’ i gwestiwn 2c yn adran 2 y ffurflen C100, a thiciwch yr holl flychau perthnasol yn adran 3.

Os oes angen tystiolaeth ar gyfer yr esemptiad yr ydych yn ei hawlio, rhaid i chi ei darparu gyda’ch cais.

Yna, rhaid i chi roi’r ffurflen i’r staff yn y llys, a gofynnir i farnwr neu ynadon benderfynu pryd dylid cynnal gwrandawiad llys ynghylch eich cais.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn i’w ddisgwyl yn y llys yn y canllaw i rieni sydd wedi gwahanu: plant a’r llys teulu (CB7).

Rhoi rhybudd i’r unigolyn arall

Pan fyddwch eisiau gorchymyn ar frys, dylech ddweud wrth y rhiant neu’r unigolyn arall y mae’r anghydfod wedi codi â nhw (yr atebydd) eich bod yn gwneud y cais. Gallwch wneud hyn yn anffurfiol drwy:

  • ysgrifennu atynt
  • eu ffonio
  • anfon neges testun atynt
  • anfon e-bost atynt

Dim ond mewn achosion arbennig y bydd y llys yn gwrando ar gais brys heb roi rhybudd i’r unigolyn arall. Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau heb rybudd dim ond os allwch ddangos y byddai rhoi rhybudd i’r unigolyn arall yn:

  • eu galluogi i gymryd camau a fyddai’n mynd yn groes i ddibenion eich cais
  • golygu ni fyddech chi neu’r plentyn (neu blant) yn ddiogel
  • golygu mae materion brys eithriadol eraill ac nad oes amser i chi roi rhybudd

Mae bron bob amser yn bosibl i roi rhybudd anffurfiol yn un o’r ffyrdd a grybwyllwyd.

Gwneud cais brys heb rybudd

Os byddwch yn gwneud cais brys heb rybudd, rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am yr achos i’r barnwr neu’r ynadon.

Rhaid i chi ddweud wrth y barnwr neu’r ynadon am eich pryderon sydd wedi achosi i chi wneud y cais hwn. Rhaid i chi hefyd ddweud wrthynt am bopeth rydych chi’n meddwl y byddai’r unigolyn arall yn ei ddweud wrth ateb pe bai yn y llys. Gallwch gwblhau hyn yn adran 4b y ffurflen C100.

Yn gyffredinol, bydd y llys ond yn gwneud gorchymyn heb rybudd os ydych chi wedi darparu adroddiad llawn o’r dystiolaeth y byddwch yn dibynnu arni, wedi ei chadarnhau i fod yn wir, ac wedi’i llofnodi gennych chi. Gallwch gwblhau hyn yn adrannau 6a a 6b y ffurflen C100.

Os ydych am roi rhagor o wybodaeth, gallwch wneud hynny mewn datganiad ysgrifenedig. Dylai hwn hefyd gynnwys datganiad gwirionedd y mae’n rhaid i chi ei lofnodi. Yn ddelfrydol, dylid teipio unrhyw ddatganiad pellach (er nad oes rhaid iddo fod wedi’i deipio). Yn eich datganiad ysgrifenedig rhaid i chi wneud y canlynol:

  • rhoi ychydig o gefndir ar gyfer y cais
  • esbonio pam bod angen gorchymyn brys arnoch
  • disgrifio natur y gorchymyn yr ydych ei eisiau

Dod â phlant gyda chi i’r llys

Yn gyffredinol ni ddylai plant ddod i’r llys oni bai eu bod yn rhan o broses y llys. Er enghraifft, os ydynt yn dyst, neu os oes gennych apwyntiad i chi a’ch plentyn gwrdd â’r barnwr.

Os oes rhaid i chi ddod â’ch plentyn gyda chi am unrhyw reswm arall, dylech ddod â ffrind sy’n oedolyn neu aelod o’r teulu gyda chi hefyd i edrych ar eu hôl tra byddwch yn yr ystafell wrandawiadau. Ni all staff y llys ofalu am eich plentyn.