Papur polisi

Gorfodaeth DVLA o dreth cerbydau, tramgwyddau cofrestru ac yswiriant

Diweddarwyd 12 October 2020

Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r orfodaeth mae DVLA yn ei gweithredu ar gyfer tramgwyddau treth, cofrestru ac yswirio cerbydau.

1. Gorfodaeth tramgwyddau treth cerbydau

Tramgwydd neu gosb Dull adnabod Camau gorfodi Cyfeirnod cyfreithiol
Bod yn geidwad cofrestredig cerbyd heb ei drethu. Mae hyn yn cael ei adnabod o gofrestr gerbydau DVLA. Mae llythyr cosb trwyddedu hwyr (LLP) yn cael ei anfon yn awtomatig. LLP wedi’i osod ar £80 wedi’i ostwng i £40 os yw’n cael ei dalu o fewn 33 diwrnod.
Os nad yw’r gosb yn cael ei thalu, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at asiantaeth gasglu dyled.
Os ydych chi’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol ac yn methu gwneud y taliad, gallai DVLA eich atal rhag defnyddio’r dull hwn o dalu yn y dyfodol.
Mae’r Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 (VERA) (fel y’i diwygiwyd) Adrannau 7A a 19B o’r Ddeddf yn gymwys.
Y Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002, Rheoliad 9A.
Defnyddio cerbyd heb ei drethu ar ffordd gyhoeddus heb HOS. Tramgwydd ‘defnyddio’ wedi ei adnabod o weld ‘ar y ffordd’. Llythyr setliad y tu allan i’r llys (OCS) yn cael ei anfon.
CS wedi’i osod ar £30 ac un a hanner gwaith y dreth gerbyd sy’n ddyledus. Os nad yw’r OCS yn cael ei dalu, fel tramgwydd troseddol gallai’r achos gael ei gynnal trwy’r llys ynadon. Mae’r gosb naill ai’n £1,000 neu’n bum gwaith y swm o dreth sydd i’w chodi, pa un bynnag yw’r mwyaf.
Gallai’r cerbyd gael ei glampio a gallai ffïoedd ychwanegol fod yn gymwys.
Mae’r Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 (VERA) (fel y’i diwygiwyd) Adran 29 ac Atodlen 2A o’r Ddeddf yn gymwys.
Rheoliadau Treth Cerbydau (Atal Symud, Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau) 1997.
Defnyddio cerbyd heb ei drethu ar ffordd gyhoeddus gyda HOS mewn grym. Tramgwydd ‘defnyddio’ wedi’i adnabod o gael ei weld ‘ar y ffordd’. Llythyr setliad y tu allan i’r llys (OCS) yn cael ei anfon.
OCS wedi’i osod ar £30 a dwy waith y dreth cerbydau sy’n ddyledus.
Os nad yw’r OCS yn cael ei dalu, fel tramgwydd troseddol gallai’r achos gael ei gynnal trwy’r llys ynadon. Mae’r gosb naill ai’n £2,500 neu’n bum gwaith swm y dreth y gellir ei chodi, pa un bynnag yw’r mwyaf.
Gallai’r cerbyd gael ei glampio a gallai ffïoedd eraill fod yn gymwys.
Y Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 (VERA) (fel y’i diwygiwyd). Mae Adran 29 ac Atodlen 2A o’r Ddeddf yn gymwys.
Rheoliadau Treth Cerbydau (Atal Symud, Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau) 1997.
Cadw cerbyd heb ei drethu. Tramgwydd ‘cadw’ wedi’i adnabod o gofnod y cerbyd. Llythyr setliad y tu allan i’r llys (OCS) yn cael ei anfon.
OCS wedi’i osod ar £30 ac unwaith a hanner y dreth cerbydau sy’n ddyledus.
Os nad yw’r OCS yn cael ei dalu, fel tramgwydd troseddol gallai’r achos gael ei gynnal trwy’r llys ynadon.
Mae’r gosb naill ai’n £1,000 neu’n bum gwaith y swm o dreth y gellir ei godi, pa un bynnag yw’r mwyaf.
Gallai’r cerbyd gael ei glampio a gallai ffïoedd ychwanegol fod yn gymwys.
Y Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 (VERA) (fel y’i diwygiwyd). Mae Adran 29 ac Atodlen 2A o’r Ddeddf yn gymwys.
Rheoliadau Treth Cerbydau (Atal Symud, Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau) 1997.

2. Tramgwydd gorfodaeth cofrestru

Tramgwydd neu gosb Dull adnabod Camau gorfodi Cyfeirnod cyfreithiol
Methiant i hysbysu newid ceidwad neu hysbysu gwerthu neu drosglwyddo i fasnachwr moduron, yswiriwr neu ddatgymalwr. Tramgwydd wedi’i adnabod o gofrestr cerbydau DVLA. Llythyr y tu allan i’r llys (OCS) yn cael ei anfon. OCS wedi’i osod ar £55 wedi’i ostwng i £35 os caiff ei dalu mewn 17 diwrnod.
Os nad yw’r OCS yn cael ei dalu, fel tramgwydd troseddol gallai’r achos gael ei gynnal trwy’r llys ynadon. Uchafswm y gosb yw £1,000.
Y Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 (fel y’i diwygiwyd) a’r Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002. Mae Adran 22 o’r Ddeddf a Rheoliad 22, 23 a 24 o Reoliadau 2002 yn gymwys. Mae’r tramgwydd o dan adran 46 a 59 o VERA.

3. Tramgwydd gorfodaeth yswirio cerbyd (dim yn gymwys i Ogledd Iwerddon)

Tramgwydd neu gosb Dull adnabod Camau gorfodi Cyfeirnod cyfreithiol
Bod yn geidwad cofrestredig cerbyd heb ei yswirio. Tramgwydd wedi’i adnabod o gofrestr cerbydau’r DVLA a Chronfa Ddata Yswiriant Moduron Biwro’r Yswirwyr Moduron (MIB). Mae hysbysiad cosb penodedig (FPN) yn cael ei anfon. Cosb wedi’i osod ar £100 wedi’i ostwng i £50 os caiff ei dalu o fewn 33 diwrnod.
Os nad yw’r gosb yn cael ei thalu, fel tramgwydd troseddol gallai’r achos gael ei gynnal trwy’r llys ynadon. Uchafswm y gosb yw £1,000.
Adrannau 144A, 144B, 144C a 144D o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Y Rheoliadau Cerbydau Modur (Gofynion Yswiriant) 2011.

4. Clampio olwynion

Mae clampio olwynion yn ddarostyngedig i’r ffïoedd gorfodol hyn:

  • ffi £100 rhyddhau o glamp (taladwy o fewn y 24 awr cyntaf o glampio olwynion neu symud y cerbyd ymaith)
  • ffi £200 rhyddhau o bownd (taladwy cyn gynted ag y symudir cerbyd ymaith i bownd cerbydau)
  • ffi storio £21 y diwrnod (yn dechrau cyn gynted â bod y cerbyd wedi cael ei symud ymaith i’r pownd cerbydau)
  • ffi £25 os yw V62W yn cael ei ddarparu i geidwad newydd

Mae ffi meichiau’n daladwy os nad yw’r ceidwad wedi trethu’i gerbyd erbyn yr adeg mae’r cerbyd yn cael ei ryddhau a gellir ei ad-dalu os yw prawf o dreth cerbyd yn cael ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod o’r taliad yn cael ei wneud. Y ffi yw:

  • £160 ar gyfer beiciau modur, cerbydau teithwyr a nwyddau ysgafn
  • £330 ar gyfer bysys, cerbydau achub, cludo a nwyddau
  • £700 ar gyfer cerbydau llwythi eithriadol a nwyddau trwm fel lori fawr neu fws

Mae’r cerbyd yn cael ei storio am gyfnod statudol o rhwng 7 ac 14 diwrnod. Os nad yw’r cerbyd yn cael ei hawlio o fewn y cyfnod hwn, gallai gael ei waredu trwy ocsiwn, dorri neu falu.