Polisi gorfodaeth cerbydau
Diweddarwyd 12 October 2020
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisi gorfodaeth y DVLA ar gyfer trethu a chofrestru cerbydau yn y DU. Mae’n disgrifio’r egwyddorion ac ymarferion sy’n cynorthwyo’r gweithredu a gymerir ar beidio â chydymffurfio, ac mae’n amlinellu’r tramgwyddau neu gosbau penodol sy’n gymwys. Dysgwch ragor am y tramgwyddau neu gosbau sy’n gymwys.
1. Treth cerbydau
Mae’n rhaid i’r holl gerbydau sy’n cael eu defnyddio neu’u cadw ar ffordd gyhoeddus gael eu trethu. Dysgwch am gyfraddau treth cerbydau.
Mae DVLA yn gyfrifol am gasglu treth cerbydau a chynnal cofrestr gywir o gerbydau a’u ceidwaid i gynorthwyo hyn.
2. Gofynion treth cerbydau
Cyfrifoldeb ceidwad y cerbyd yw sicrhau bod ei gerbyd wedi’i drethu’n gywir. Mae’n rhaid i geidwad y cerbyd wneud un o’r canlynol:
- sicrhau bod trwydded ddilys mewn grym
- gwneud Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol (HOS) os yw’r cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd gyhoeddus
Er mwyn helpu ceidwaid cerbydau i drethu’u cerbydau’n brydlon, mae DVLA yn anfon:
- nodyn atgoffa V11 neu V85/1 i’r ceidwad cofrestredig wedi’i gofnodi ar gofrestr cerbydau DVLA tua 3 wythnos cyn y dyddiad adnewyddu; mae hyn yn atgoffa ceidwaid bod y dreth cerbydau ar fin dod i ben ac mae’n cynnig cyngor ar sut i drethu neu wneud HOS (nid yw peidio â derbyn y nodyn atgoffa yn cael ei ystyried yn rheswm cyfiawnadwy dros fethu trethu’r cerbyd neu wneud HOS)
- nodiadau atgoffa e-bost am Ddebyd Uniongyrchol
- nodiadau atgoffa adnewyddu Debyd Uniongyrchol
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth DVLA os ydych chi wedi newid cyfeiriad. Mae’n rhaid i’r cyfeiriad ar y dystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) gael ei ddiweddaru ar wahân i gyfeiriad y drwydded yrru.
Mae ceidwaid cerbydau yn gallu gwirio a yw eu cerbydau wedi’u trethu neu wedi’u datgan oddi ar y ffordd.
Mae’r ceidwad cofrestredig yn gyfreithiol gyfrifol am drethu’r cerbyd neu wneud HOS hyd yr hysbysir DVLA am un o’r canlynol:
- mae’r cerbyd wedi cael ei werthu
- mae’r cerbyd yn cael ei drosglwyddo i gwmni yswiriant os yw wedi bod yn rhan o ddamwain ddifrifol
- mae’r cerbyd wedi cael ei werthu i’r fasnach
- mae’r cerbyd wedi cael ei sgrapio trwy gyfleuster trin awdurodedig (ATF)
- mae’r cerbyd wedi cael ei allforio
Mae’n rhaid i bob ceidwad cerbyd newydd sicrhau eu bod yn trethu’r cerbyd maen nhw wedi’i brynu cyn ei ddefnyddio ar y ffordd. Mae ceidwad newydd yn gallu trethu’i gerbyd ar-lein trwy ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 12 digid ar atodiad y ceidwad newydd (V5CW/2).
3. Cerbydau tramor yn y DU
Gallai ceidwaid cerbydau a gofrestrwyd dramor sydd ddim yn cydymffurfio â gofynion cofrestru a thrwyddedu’r DU wynebu gweithredu gorfodaeth a allai gynnwys clampio olwynion, symud ymaith a gwaredu’r cerbyd. Darllenwch ragor am ddefnyddio cerbyd wedi’i gofrestru dramor yn y DU.
4. Os nad yw’r cerbyd ym meddiant y ceidwad cofrestredig mwyach
Mae methu â hysbysu newid ceidwad neu i hysbysu gwerthiant neu drosglwyddiad i’r fasnach foduron, yswiriwr neu ddatgymalwr yn dramgwydd cofrestru a gallai arwain at ddosbarthu hysbysiad cosb. Gallai methu talu arwain at fynd â’r ceidwad cofrestredig i lys. Dysgwch sut i ddweud wrth DVLA eich bod wedi gwerthu neu drosglwyddo’ch cerbyd.
Os ydych chi’n talu’ch treth cerbyd trwy Ddebyd Uniongyrchol mae angen i chi ddweud wrth DVLA am unrhyw newidiadau. Cyn gynted â’ch bod wedi dweud wrthym nad yw’r cerbyd yn eich meddiant mwyach bydd eich Debyd Uniongyrchol yn dod i ben yn awtomatig.
5. Gweld cerbydau heb eu trethu ar ffyrdd cyhoeddus
Gallai gweld cerbydau heb eu trethu ar y ffordd gyhoeddus gael ei adrodd i DVLA. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei darparu gan:
- swyddogion heddlu
- swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol
- camerâu Adnabod Plat Rhif yn Awtomatig (ANPR)
- contractiwr clampio olwynion DVLA
- aelodau’r cyhoedd
6. Pa orfodaeth fydd yn cael ei weithredu os nad yw cerbyd wedi’i drethu neu os nad oes ganddo HOS
6.1 Ar gyfer tramgwyddau wedi eu hadnabod o gofrestr gerbydau DVLA
Mae DVLA yn cynnal sganiau rheolaidd o’r gofrestr gerbydau i adnabod ceidwaid cofrestredig sy’n methu ag adnewyddu eu treth neu sydd heb HOS mewn grym.
Gallai gweithredu gorfodaeth ddigwydd yn un neu ragor o’r canlynol:
- mae ceidwad y cerbyd yn derbyn cosb trwyddedu hwyr (LLP)
- setliad y tu allan i’r llys (OCS)
- cais am y balans sy’n weddill o dreth cerbyd
- erlyniad
- gall dyled heb ei thalu gael ei throsglwyddo i asiantaeth gasglu dyled neu os yw’r achos yn mynd i lys gallai’r llys gymryd cyfrifoldeb dros adennill y gosb neu ddirwyon
- cerbyd yn cael clampio’i olwynion
- gallech chi gael eich atal rhag defnyddio dewis taliad Debyd Uniongyrchol DVLA os ydych chi wedi methu taliadau
6.2 Ar gyfer troseddau a gafodd eu hadnabod o gael eu gweld ar y ffordd
Lle mae cerbyd heb ei drethu yn cael ei adnabod fel un sy’n cael ei ddefnyddio neu’i gadw ar y ffordd gyhoeddus gallai’r gweithredu gorfodaeth canlynol ddigwydd:
- bydd DVLA yn anfon llythyr OCS a gallai methu talu arwain at erlyn y ceidwad
- gallai’r cerbyd gael ei glampio a’i symud i bownd cerbydau lle y gellid cael ei waredu’n ddiweddarach
- mae gan rai heddluoedd, awdurdodau lleol a chontractwyr clampio olwynion y pŵer i glampio cerbydau; bydd y gweithredu hyn yn digwydd yn sgîl gwiriad o gofrestr y DVLA yn unig
Darllenwch am ragor o fanylion am dramgwyddau penodol a’r gweithredu gorfodaeth perthnasol ar gyfer pob un.
I adfeddiannu cerbyd a gafodd ei feddiannu bydd angen i’r ceidwad cofrestredig:
- gyflwyno’r dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) neu gwblhau cais V62W am dystysgrif gofrestru yn ei lle a’r ffi priodol i gofrestru’r cerbyd yn ei enw
- gyflwyno prawf hunaniaeth ffotograffig a phrawf o gyfeiriad, fel bil cyfleustod
- ddarparu prawf fod y cerbyd wedi cael ei drethu neu dalu’r ffi meichiau
- dalu unrhyw ffïoedd powndio
7. Yswirio cerbydau
Mae’r gyfraith yn gofyn i holl fodurwyr y DU fod ag yswiriant moduro dilys. Mae’n dramgwydd i yrru cerbyd neu ei ganiatáu i gael ei yrru heb yswiriant. Y gofyniad lleiaf yw i’r gyrrwr gael yswiriant trydydd parti sy’n cwmpasu’i ddefnydd o’r cerbyd hwnnw. Darllenwch ragor o wybodaeth am yrwyr heb eu hyswirio.
Mae gorfodi yswiriant parhaus (CIE) yn ei gwneud yn dramgwydd i fod yn geidwad cofrestredig cerbyd heb ei yswirio. Mae DVLA yn gyfrifol am weithredu gorfodaeth yn erbyn y ceidwaid cofrestredig yn Lloegr, yr Alban a Chymru sydd heb bolisi yswiriant yn weithredol. Nid yw CIE yn gymwys ar hyn o bryd i Ogledd Iwerddon.
8. Gofynion yswiriant cerbydau
Mae’r ceidwad cofrestredig yn gyfrifol am:
- sicrhau bod yswiriant dilys yn weithredol
- gwneud HOS i DVLA os yw’r cerbyd heb ei drethu, heb ei yswirio ac oddi ar y ffordd gyhoeddus
9. Sut mae tramgwyddau gorfodaeth yswiriant parhaus yn cael eu hadnabod
Mae cofrestr gerbydau’r DVLA yn cael ei gwirio’n rheolaidd yn erbyn Cronfa Ddata’r Yswiriant Moduron (MID) sy’n cael ei rheoli gan Fiwro’r Yswirwyr Moduron (MIB) i adnabod cerbydau heb eu hyswirio.
10. Pa orfodaeth fydd yn cael ei weithredu am dramgwyddau CIE
Bydd y MIB yn anfon llythyr cynghori yswiriant (IAL) sy’n amlinellu pa ddewisiadau mae’n rhaid i’r ceidwad cofrestredig gymryd i gydymffurfio â CIE. Os yw ceidwad y cerbyd yn methu cydymffurfio, bydd hysbysiad cosb penodedig yn cael ei anfon a gweithredir yn y llys os nad yw’n cael ei dalu.