Violence against women and girls national statement of expectations (Welsh, accessible)
Updated 27 July 2022
Applies to England and Wales
Trais yn Erbyn Menywod a Merched
Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau
Canllawiau ar gomisiynu gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr[footnote 1] trais yn erbyn menywod a merched
Mawrth 2022
© Hawlfraint y Goron 2022
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk neu ysgrifennwch at y Wybodaeth Tîm Polisi, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi ei chael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/government/publications
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn atom yn:
Home Office
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau Trais yn Erbyn Menywod a Merched
Mae trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) yn cwmpasu ystod o droseddau annerbyniol a gofidus iawn, gan gynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, stelcian, cam-drin domestig, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ (gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a lladd ar sail ‘anrhydedd’), ‘porn dial’ ac ‘uwchsgertio’, yn ogystal â llawer eraill. Mae’r troseddau hyn yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Fodd bynnag, gall dynion a bechgyn hefyd fod yn ddioddefwyr trais a cham-drin a bydd y dulliau a nodir yn y ddogfen hon o fudd i holl ddioddefwyr a goroeswyr y mathau hyn o droseddau.
Gall y troseddau a’r ymddygiadau hyn effeithio ar ddioddefwyr o bob oed, gallu, rhywioldeb a chefndir. Maent yn digwydd ym mhob ardal ledled y DU a gallant ddigwydd o fewn perthnasoedd presennol neu flaenorol, mewn teuluoedd, ac mewn cymunedau. Mae angen i ni sicrhau bod pob ardal wedi gwreiddio seilwaith lleol sy’n codi ymwybyddiaeth o VAWG ymhlith asiantaethau a phobl leol, yn mynd ar drywydd cyflawnwyr yn gadarn, yn cefnogi adrodd gan ddioddefwyr a goroeswyr ac yn defnyddio dulliau aml-asiantaethol i ddeall a diwallu anghenion dioddefwyr, goroeswyr ac aelodau o’r teulu i gefnogi proses o adfer ac i gyflawni canlyniadau bywyd cadarnhaol. Mae’r Strategaeth Mynd i’r Afael â VAWG a’r Cynllun Cam-drin Domestig yn glir bod rhaid mai uchelgais hirdymor, sylfaenol y Llywodraeth yw lleihau nifer yr achosion o’r troseddau hyn, ac mae gan ardaloedd lleol ran allweddol i’w chwarae wrth gyflawni’r nod hwn.
Mae’r Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau (NSE) hwn yn nodi sut y dylai ardaloedd lleol gomisiynu gwasanaethau effeithiol i sicrhau bod eu hymateb system gyfan i VAWG mor gydweithredol, cadarn ac effeithiol ag y gall fod fel bod yr holl ddioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, iawn, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.[footnote 2]
Ers cyhoeddi’r NSE yn 2016, rydym wedi parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, y GIG, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) a’r sector VAWG arbenigol i sicrhau dyfodol diogel i ystod o wasanaethau VAWG gan gynnwys canolfannau cymorth trais rhywiol, llinellau cymorth cenedlaethol a llochesi. Dyrannodd Cronfa Trawsnewid Gwasanaethau VAWG 2016-2020 £17 miliwn i 41 o brosiectau i gefnogi ac ymgorffori rhaglenni i wneud newid systemig i ddarpariaeth gwasanaethau lleol ledled Cymru a Lloegr. Yn 2021-22, bydd y Llywodraeth yn darparu ychydig o dan £151 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion, gan gynnwys dros £20 miliwn ar gyfer gwasanaethau trais rhywiol a cham-drin domestig lleol, cymunedol.
Mae graddfa a chyffredinolrwydd VAWG wedi cael eu dwyn i flaen sylw’r genedl yn ddiweddar yn dilyn nifer o achosion trasig. Mae miloedd o fenywod a merched hefyd wedi rhannu eu profiadau personol o gam-drin ac aflonyddu ar-lein drwy’r wefan ‘Everyone’s
Invited’ [Gwahoddir Pawb] a chafodd Cais am Dystiolaeth ar VAWG gan y Llywodraeth fwy nag 180,000 o ymatebion. Mae adroddiadau i linellau cymorth hefyd wedi cynyddu yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. Rydym yn benderfynol o adeiladu ar yr ymwybyddiaeth a’r momentwm hwn dros newid.
Yn ogystal â phasio’r Ddeddf Cam-drin Domestig[footnote 3] nodedig yn 2021, mae ein Strategaeth VAWG a’n Cynllun Cam-drin Domestig yn glir ynghylch yr angen i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr, atal troseddu a chryfhau’r systemau sydd ar waith i fynd i’r afael â phob math o VAWG.[footnote 4]
Mae ein gweledigaeth strategol yn parhau i fod yn uchelgeisiol. Rydym yn credu, ag ymyrraeth gynharach effeithiol, cydweithio ac ymdrech i herio’r diwylliant a’r agweddau sy’n arwain at bob math o gamdriniaeth, y gellir lleihau nifer y troseddau hyn yn sylweddol. Dim ond drwy gydweithio mewn partneriaethau ystyrlon gyda chi ar y rheng flaen y byddwn yn cyflawni hyn.
Ein Cynnig Cymorth
Mae’r Llywodraeth yn darparu pecyn cymorth i helpu comisiynwyr lleol a rhanbarthol i gyflawni’r disgwyliadau hyn, sy’n cynnwys:
-
Strategaeth VAWG a Chynllun Cam-drin Domestig newydd trawslywodraethol sy’n nodi ein gweledigaeth i leihau nifer yr achosion o’r troseddau hyn a gwella’r cymorth a’r ymateb i ddioddefwyr a goroeswyr.
-
‘Pecyn cymorth’ comisiynu wedi’i ddiweddaru sy’n sail i’r NSE ac a ddylai helpu i ddatblygu achosion busnes ar gyfer ariannu dull system gyfan ar gyfer yr holl wasanaethau VAWG.
-
Gweithredu Deddf Cam-drin Domestig 2021 (‘y Ddeddf’)1, sy’n cyflwyno mesurau newydd i gryfhau amddiffyniadau i’r rhai sydd wedi profi cam-drin, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
-
dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i ddioddefwyr cam- drin domestig a’u plant mewn llety diogel, i sicrhau bod dioddefwyr a’u plant ledled Lloegr yn gallu cyrchu’r cymorth cywir mewn llety diogel pan fydd ei angen arnynt. Mae hyn wedi’i gefnogi gan £125 miliwn o gyllid yn 2021-22 a darparwyd £6 miliwn i awdurdodau lleol drwy’r Gronfa Meithrin Gallu Cam-drin Domestig ym mis Hydref 2020 i helpu i sicrhau y gallent ymgymryd â gwaith cynllunio a pharatoi cynnar cyn rhoi’r ddyletswydd newydd ar waith. Bydd £125 miliwn arall yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn 2022-23.
-
cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain lle maent yn gweld, clywed neu brofi effeithiau cam-drin domestig. O’r herwydd, mae unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn y Ddeddf tuag at ddioddefwyr yn berthnasol i blant sy’n dod o dan y diffiniad hwn i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n briodol i ymdrin ag effeithiau profi cam-drin.
-
sefydlu swydd Comisiynydd Cam-drin Domestig ar gyfer Cymru a Lloegr o dan y gyfraith i weithredu fel llais annibynnol i ddioddefwyr a goroeswyr, er mwyn dwyn asiantaethau lleol a’r Llywodraeth i gyfrif a hyrwyddo arfer gorau.
-
-
Canllawiau Statudol Cam-drin Domestig newydd (i’w cyhoeddi yn 2022) i gefnogi sefydliadau i nodi ac ymateb i gam-drin domestig, cyfleu safonau a hyrwyddo arfer gorau.
-
Canllawiau Statudol ar Ymddygiad Rheoli neu Orfodol wedi’u Diweddaru (i’w cyhoeddi yn 2022) i gynorthwyo’r heddlu, y system cyfiawnder troseddol, ac asiantaethau eraill i ddeall y math hwn o gam-drin domestig a niwed cysylltiedig; lle bydd y drosedd yn berthnasol; sut i leihau risg i ddioddefwyr; ac ymateb yn briodol i gyflawnwyr.
-
Dogfen VAWG Trawslywodraethol Cefnogi Dioddefwyr Gwryw Troseddau, i egluro a chryfhau ein hymateb i ddioddefwyr gwryw.[footnote 5]
-
Cynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ar gyfer dioddefwyr troseddau, gan gynnwys dioddefwyr VAWG, i £185 miliwn erbyn 2024/25 a fydd, yn rhannol, yn cynyddu nifer yr ISVAs ac IDVAs a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dros 1,000.[footnote 6]
-
Cyhoeddi’r Cod Dioddefwyr[footnote 7], sy’n nodi’n glir y lefelau o gymorth y gall ac y dylai dioddefwyr a goroeswyr ei ddisgwyl gan y system cyfiawnder troseddol.
-
Datblygu Strategaeth Ariannu Dioddefwyr newydd a fydd yn gweithredu fel fframwaith i gydlynu ac alinio cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr ar draws y Llywodraeth. Bydd y strategaeth yn cyflwyno safonau comisiynu cenedlaethol, metrigau craidd a chanlyniadau.
-
Cyflwyno Bil Dioddefwyr newydd, i warantu bod dioddefwyr wrth galon y system cyfiawnder troseddol.
-
Cyhoeddi’r Cyfeiriad Strategol ar gyfer Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol a Cham- drin[footnote 8], sy’n nodi bwriad y Llywodraeth i alinio cyllid yn well i ddarparu gofal gydol oes i bawb sy’n dioddef trais neu ymosodiad rhywiol neu gam-drin a darparu cymorth amserol o ansawdd uchel iddynt.
-
Ymestyn y Gronfa Cymorth Trais hyd at fis Mawrth 2023 i sicrhau bod gan wasanaethau cymorth y sefydlogrwydd cyllid sydd ei angen arnynt i ateb y galw.
-
Parhau i ariannu llinellau cymorth cenedlaethol, gan gynnwys cefnogi dynion a dioddefwyr LHDT o gam-drin domestig a dioddefwyr porn dial, stelcian a cham-drin ar sail ‘anrhydedd’. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn comisiynu gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr trais rhywiol 24/7 yn Lloegr a Chymru.
-
Penodi Cynghorydd Annibynnol i’r Llywodraeth ar Atal VAWG.
-
Arweinydd Plismona Cenedlaethol newydd ar gyfer Mynd i’r Afael â VAWG i fwrw ymlaen â’r dull plismona a chamau gweithredu yn dilyn arolygiad 2021 gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (HMICFRS).[footnote 9]
-
Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol sef y cyntaf o’i math a gyhoeddwyd yn 2021 yn nodi uchelgais y Llywodraeth i fynd i’r afael â phob math o gam-drin plant yn rhywiol, cael gwared ar droseddu a’i hatal a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr i ailadeiladu eu bywydau.
-
Trwy Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd bydd y Llywodraeth hefyd yn gosod dyletswyddau newydd ar ystod o asiantaethau i gydweithio i baratoi strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol. Wrth ddiffinio cwmpas y strategaethau hyn, bydd ardaloedd lleol yn gallu ystyried a ddylid cynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol ynghyd â mathau eraill o drais difrifol.[footnote 10]
Ein Disgwyliad
Disgwyliwn weld strategaethau a gwasanaethau lleol sy’n:
1. Rhoi’r dioddefwr/goroeswr yng nghanol gwaith cynllunio a darparu gwasanaeth;
2. Canolbwyntio’n glir ar gyflawnwyr er mwyn cadw dioddefwyr a goroeswyr yn ddiogel;
3. Cymryd ymagwedd strategol, system gyfan at gomisiynu, gan gydnabod natur VAWG;
4. Cael eu harwain yn lleol ac yn diogelu unigolion ar bob adeg;
5. Codi ymwybyddiaeth leol o’r materion a chynnwys, ymgysylltu a grymuso cymunedau i geisio, dylunio a darparu atebion i atal VAWG.
Dylai comisiynwyr hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr, sy’n nodi’n glir y lefelau o gymorth y gall ac y dylai dioddefwyr a goroeswyr ei ddisgwyl gan y system cyfiawnder troseddol.
1. Y dioddefwr/goroeswr sydd wrth wraidd cynllunio a darparu gwasanaeth: Mae pob dioddefwr/goroeswr, boed yn oedolyn neu’n blentyn, yn unigolyn â phrofiadau, ymatebion ac anghenion gwahanol. Dylai ardaloedd lleol sicrhau bod gwasanaethau’n hyblyg ac yn ymatebol i brofiad a llais y dioddefwr, gan gydnabod risg ac angen.
Er mwyn cyflawni hyn, dylai comisiynwyr:
-
cael proses ymgynghori gadarn ar gyfer nodi pa wasanaethau sydd eu hangen yn lleol a fforwm diogel, hygyrch ac agored i sicrhau bod dioddefwyr (gan gynnwys plant a phobl ifanc) a darparwyr gwasanaethau’n gallu rhannu eu barn a’u profiadau.
-
cynnal asesiad anghenion cynhwysfawr i fapio demograffeg a phrofiadau bywyd dioddefwyr yn lleol a sicrhau bod ystod eang o anghenion yn cael eu diwallu.
-
gweld dioddefwyr a goroeswyr fel rhan o rwydwaith ehangach. Dylid ystyried y teulu cyfan a materion diogelu ehangach yn eu cyfanrwydd – er enghraifft drwy wneud y cysylltiadau â strwythurau diogelu plant ac ystyried anghenion rhieni nad ydynt yn cam-drin.[footnote 11] Ystyried a yw dioddefwyr a goroeswyr, gan gynnwys plant fel ddioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, angen eu hamddiffyn rhag y teulu estynedig yn ogystal â’r cyflawnwr, neu a all teulu estynedig ddarparu cymorth ychwanegol.
-
cael digon o ddarpariaeth gwasanaeth VAWG arbenigol lleol, gan gynnwys darpariaeth a gynlluniwyd yn benodol i gefnogi dioddefwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, dioddefwyr byddar ac anabl, dioddefwyr ag anableddau dysgu, dioddefwyr gwrywaidd, dioddefwyr LHDT, dioddefwyr mudol, plant a phobl ifanc a dioddefwyr hŷn. Dylai hyn gynnwys gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol, sydd mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion a phrofiadau penodol y cymunedau y maent yn eu cefnogi.[footnote 12] Dylai Comisiynwyr hefyd ystyried buddsoddi mewn meithrin gallu ar gyfer gwasanaethau arbenigol a grwpiau sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf wrth geisio cael cymorth.
-
cydweithio a chael protocolau ag ardaloedd eraill i ganiatáu i ddioddefwyr symud yn hawdd o un ardal i’r llall (gan gynnwys mynediad i dai).
-
ystyried a allai unigolyn wynebu rhwystrau lluosog ac, os felly, pa wasanaethau sydd ar waith i gefnogi’r rhain. Mae ymchwil wedi nodi materion iechyd meddwl, dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol, tlodi a digartrefedd fel ffactorau risg posibl ym maes cam-drin domestig a thrais rhywiol.[footnote 13] Mae’n debygol y bydd dioddefwyr VAWG yn wynebu rhwystrau lluosog cyswllt â gwasanaethau a systemau eraill (fel iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu ddigartrefedd). Dylai comisiynwyr ystyried sut mae’r gwasanaethau hyn yn nodi ac yn ymateb i brofiadau menywod o VAWG, sy’n debygol o fod yn eang ymhlith eu defnyddwyr gwasanaeth, a sicrhau bod gwasanaethau’n seiliedig ar drawma.
-
asesu a chynnwys mynediad at ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer dioddefwyr pob math o VAWG. Cysylltu gwasanaethau o’r fath yn effeithiol, er enghraifft, â gwasanaethau iechyd, canolfannau cymorth trais rhywiol, gwasanaethau arbenigol ar gyfer y rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig neu gymorth i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin plant yn rhywiol i ffurfio llwybrau gofal ag adnoddau.
-
ystyried ymyriadau arbenigol sy’n darparu rhaglen gyflawn a chyfannol o gymorth i weithwyr proffesiynol a dioddefwyr. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant a chymorth i dimau gofal iechyd adnabod arwyddion cam-drin a deall effaith trawma a llwybrau atgyfeirio syml ar gyfer eu cleifion at eiriolwyr arbenigol a gweithwyr cymorth wedi’u lleoli mewn gwasanaethau VAWG (yn unol â chanllawiau NICE).[footnote 14]
Cymorth o Fewn Dyletswyddau Llety Diogel
Er mwyn sicrhau bod holl ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant yn gallu cael cymorth mewn llety diogel, mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cynnwys dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol Haen 1, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2021. Nod y rhain yw darparu cymorth i dioddefwyr cam-drin domestig a’u plant mewn llety diogel ledled Lloegr.
Mae Canllawiau Statudol wedi’u cyhoeddi sy’n rhoi manylion am sut y dylid cyflawni’r dyletswyddau ar lawr gwlad. O dan y dyletswyddau newydd mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnull Bwrdd Partneriaeth Lleol, asesu anghenion pob dioddefwr, paratoi a chyhoeddi strategaethau i ddiwallu’r angen, comisiynu gwasanaethau cymorth yn unol â’r strategaethau, ac adrodd yn ôl i’r Llywodraeth.
Dyletswydd Trais Difrifol
Trwy Fil Yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd bydd y Llywodraeth hefyd yn gosod dyletswyddau newydd ar amrywiaeth o asiantaethau i gydweithio i baratoi strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol. Wrth ddiffinio cwmpas y strategaethau hyn, bydd ardaloedd lleol yn gallu ystyried a ddylid cynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol ynghyd â mathau eraill o drais difrifol
2. Ffocws clir ar dramgwyddwyr: Er mwyn cadw dioddefwyr a goroeswyr yn ddiogel, dylai ardaloedd lleol gynnal asesiadau o anghenion a sicrhau bod gwasanaethau cadarn, gyda sicrwydd ansawdd, yn eu lle sy’n rheoli’r risg a achosir gan gyflawnwyr ac yn cynnig cyfleoedd newid ymddygiadol priodol i’r rhai sydd yn fodlon ac yn gallu ymgysylltu â nhw, ochr yn ochr â chymorth ar wahân i unrhyw ddioddefwyr cysylltiedig.
Er mwyn cyflawni hyn, dylai comisiynwyr:
-
mabwysiadu ymagwedd ragweithiol a chadarn at gyflawnwyr, o ran y risg o niwed i ddioddefwyr ac ymyriadau effeithiol i herio a newid eu hymddygiad.
-
sicrhau bod unrhyw ymyriadau ar gyfer cyflawnwyr yn bodoli yn ogystal â chymorth ar wahân i ddioddefwyr.
-
mynd ati’n rhagweithiol i geisio cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o ymddygiadau cyflawnwyr, fel bod:
-
y tactegau a ddefnyddir gan gyflawnwyr (megis trin, lleihau, cyfiawnhau a beio eraill a/neu ffactorau allanol am eu cam-drin) yn cael eu cydnabod a’u deall;
-
staff rheng flaen yn gallu adnabod y prif gyflawnwr yn gywir ac ymateb yn briodol, gan gynnwys mewn achosion cymhleth lle nad yw’n hawdd adnabod ymosodwr cynradd;
-
y gellir mynd i’r afael â throseddu mynych a throseddu cynyddol a’i leihau;
-
y cyd-destun teuluol, cymunedol a chymdeithasol y mae cyflawnwyr yn gweithredu ynddo yn cael ei ystyried.
-
-
cael proses asesu anghenion gadarn ar gyfer nodi pa wasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu angen lleol a fforwm i sicrhau y gall dioddefwyr a darparwyr gwasanaethau rannu eu barn a’u profiadau er mwyn helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr.
-
asesu a mynd i’r afael â darpariaeth arbenigol leol[footnote 15] ac ystyried darpariaethau arbenigol amrywiol lle bo angen er mwyn cynyddu diogelwch dioddefwyr.
-
comisiynu gwasanaethau sy’n bodloni’r angen lleol. Yn benodol, dylai comisiynwyr ystyried:
-
cyflawnwyr ag anghenion cymhleth, a fydd yn dod i gysylltiad â gwasanaethau a systemau eraill (megis gwasanaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu ddigartrefedd, neu wasanaethau i bobl ag anableddau corfforol a/neu ddysgu);
-
ymateb aml-asiantaethol, megis:
-
sicrhau bod gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn cael eu hyfforddi i sylwi ar arwyddion o gam-drin a deall effaith trawma, a gwybod sut i’w adnabod, ymateb iddo ac atgyfeirio cyflawnwyr at wasanaethau priodol; a
-
cael gweithwyr arbenigol mewn timau gwasanaethau plant a all weithio gyda grwpiau amrywiol o gyflawnwyr sy’n peri risg i blant a’u rhieni, yn ogystal â phlant sy’n arddangos ymddygiadau niweidiol.
-
-
-
sicrhau bod ymyriadau’n effeithiol, effeithlon a diogel i’r dioddefwr a’u plant a’u bod yn bodloni’r Safonau gofynnol a nodir gan y Llywodraeth.[footnote 16] Yn ddelfrydol, dylai rhaglenni cyflawnwyr hefyd gael eu hachredu gan Respect[footnote 17] lle bo’n berthnasol ac ystyried rhaglenni sy’n targedu’r cyflawnwyr mwyaf cyson neu sy’n achosi’r niwed uchaf, megis Drive.[footnote 18]
-
bod yn ymwybodol y dylai rhaglenni sy’n gweithio gyda chyflawnwyr fod yn rhan o strategaethau tymor hwy i atal aildroseddu a chael cynllun clir ar gyfer dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Nid yw ymyriadau nad ydynt yn cael eu gorchymyn gan y llys yn ddewis arall yn lle cyfiawnder.
3. Ymagwedd strategol, system gyfan at gomisiynu, gan gynnwys cydnabod natur rywiol VAWG: Mae comisiynu da bob amser yn dechrau gyda deall y mater a’r broblem yr ydych yn ceisio ei datrys.
Er mwyn cyflawni hyn, dylai comisiynwyr:
-
sicrhau eu bod yn deall dynameg VAWG a’r materion y mae angen mynd i’r afael â hwy, er enghraifft trwy fynychu hyfforddiant priodol a ddarperir gan wasanaethau arbenigol lle bo modd.
-
mabwysiadu ymateb system gyfan i VAWG (er enghraifft trwy Ymateb Cymunedol Cydgysylltiedig)[footnote 19] a thynnu ar ddysgu o gynlluniau peilot eraill[footnote 20] i annog gweithio mwy cydgysylltiedig ac ysgogi gwelliannau mewn ymyrraeth gynnar ac atal.
-
deall angen a darpariaeth yn yr ardal leol trwy gyrchu data, tystiolaeth, safonau gwasanaeth a gwybodaeth gan ddarparwyr arbenigol lleol a chenedlaethol. Casglu mewnbwn gan ddioddefwyr a goroeswyr (gan gynnwys y rhai nad ydynt erioed wedi defnyddio arbenigwr gwasanaethau), awdurdodau lleol, iechyd, yr heddlu[footnote 21], addysg, tai, y gwasanaeth prawf a’r sector VAWG (gan gynnwys gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol a allai gynnig arbenigedd penodol ar faterion sy’n effeithio ar gymunedau lleol).
-
mapio materion lleol o ddiogelu, troseddu, iechyd, tai a data sector VAWG arbenigol (gan nodi nad yw’r rhan fwyaf o achosion o VAWG yn cael eu hadrodd i asiantaethau statudol). Er enghraifft, nodi cyflawnwyr risg ‘safonol’ a datblygu cynlluniau ymyrraeth gynnar i atal rhag gwaethygu.
-
deall data troseddau lleol a data cyfiawnder arall nad yw’n droseddol am nifer yr achosion o droseddau VAWG yn yr ardal, yn ogystal ag ymchwil cenedlaethol ar nifer yr achosion tebygol o droseddau VAWG.[footnote 22]
-
anelu at gael gweithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn ysbytai a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill i nodi a chefnogi dioddefwyr a’u cyfeirio at wasanaethau.
-
meddu ar set ddata ddadgyfunedig VAWG leol gadarn a defnyddiol a datblygu protocol effeithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth sy’n cadw at ofynion ynghylch diogelu data.
-
cael strategaeth leol gryno sy’n nodi sut y caiff effaith comisiynu lleol ei mesur, a’r hyn y gall dioddefwyr a goroeswyr ei ddisgwyl gan wasanaethau, gan gynnwys pwy sy’n atebol yn lleol, sut y gellir codi pryderon a sut y caiff llwyddiant ei fesur a’i werthuso.
-
cael proses ystyrlon ar gyfer mesur boddhad dioddefwyr, gan gynnwys ymgysylltu â sefydliadau VAWG arbenigol lleol i ddeall sut y maent yn mesur boddhad dioddefwyr yn ansoddol ac yn feintiol â’r gwasanaethau a’r cymorth a gânt.
-
cydweithio a datblygu nodau ac amcanion a rennir ar draws ffiniau awdurdodau lleol a gwasanaethau i sicrhau ymateb aml-asiantaethol, gan gydnabod y gellir comisiynu gwasanaethau mewn partneriaeth neu ar lefel ranbarthol.
4. Yn cael ei arwain yn lleol ac yn diogelu unigolion ar bob pwynt: Dylai gwasanaethau a gomisiynir ddefnyddio mentrau a gwasanaethau lleol sydd eisoes yn eu lle i ddefnyddio adnoddau, rhannu arfer gorau a sicrhau bod llwybrau cymorth cydgysylltiedig.
Er mwyn cyflawni hyn, dylai comisiynwyr:
-
nodi bwrdd o hyrwyddwyr lleol neu gyfeillion beirniadol (gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau arbenigol llai o’r sector VAWG) i ysgogi her a dysgu ar faterion VAWG a chynnydd lleol, gan nodi fforymau diogel, hygyrch ac agored i ddod â phartïon perthnasol ynghyd i drafod pob math o VAWG a chytuno ar ymagwedd leol.
-
ystyried cronni cyllidebau a ffynonellau cyllid lleol a gweithio gyda darparwyr lleol i gefnogi proses gomisiynu sy’n annog cynigion consortia sydd yn cydnabod ac yn caniatáu ar gyfer darparwyr arbenigol lleol llai. Lle mae darparwyr mwy yn bwriadu gweithio gyda gwasanaethau arbenigol fel is-gontractwyr, dylai comisiynwyr gymryd camau i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn ymwybodol o’u cynnwys yn y cais. Lle dyfernir cyllid, dylent ddilyn hyn i fyny er mwyn sicrhau bod cyllid ac atgyfeiriadau yn cyrraedd arbenigwyr gwasanaethau yn ôl y disgwyl.
-
sicrhau nad yw tendrau mwy yn ffafrio cynigion gan ddarparwyr mawr yn anfwriadol. Er enghraifft, bydd tendrau lle mae cais penodol am un darparwr mawr, dim digon o amser ar gyfer ffurfio consortia/partneriaeth, neu nifer fach o lotiau gwerth uchel sy’n mynnu bod cynigwyr mewn sefyllfa ariannol gref yn cyfyngu ar allu gwasanaethau arbenigol lleol i gynnig. Mae’n debygol y bydd y gwasanaethau lleol hyn wedi datblygu mewn ymateb i anghenion penodol yr ardal a bydd ganddynt wybodaeth arbenigol ac arbenigedd sy’n berthnasol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
-
asesu dulliau aml-asiantaethol newydd, gan gynnwys ffyrdd o symleiddio strwythurau a chyfarfodydd tra’n gwella rheolaeth gydgysylltiedig ar achosion.
-
nodi camau ymarferol i’w cymryd i sicrhau bod gwersi o adolygiadau ac adroddiadau arolygiaeth yn cael eu dysgu i’r eithaf, eu rhoi ar waith a’u rhannu ar draws partneriaethau VAWG lleol. Gallai’r rhain gynnwys adolygiadau o ddynladdiad domestig, adolygiadau o achosion difrifol, marwolaethau drwy hunanladdiad lle roedd gan y dioddefwr hanes o VAWG, adroddiadau HMICFRS[footnote 23], ac adroddiadau arolygiaethau eraill ar VAWG a cham-drin/camfanteisio’n rhywiol ar blant.
-
cysylltu adroddiadau HMICFRS ac arolygiaethau eraill ar ymateb yr heddlu a chynlluniau gweithredu asiantaethau lleol â strategaethau ardal leol, gan weithio mewn partneriaeth â’r PCC. Ar gyfer awdurdodau lleol, dylai hyn fod yn gysylltiedig â gwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Oedolion a chael eu llywio gan Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Diogelu Oedolion ac i Grwpiau Comisiynu Clinigol a’r Systemau Gofal Integredig newydd.
-
gwneud cysylltiadau rhagweithiol ac adeiladol gyda Chydlynwyr Cefnogi Teuluoedd (y Rhaglen Teuluoedd Cythryblus yn flaenorol) a chydlynwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol lleol i adeiladu rhwydweithiau a chapasiti lleol.
-
mewn cyd-destunau teuluol, sicrhau bod anghenion diogelu a chymorth rhieni nad ydynt yn cam-drin ochr yn ochr â phlant yn cael eu hystyried. Dylai comisiynwyr a darparwyr fod yn sensitif i’r niwed y gall cam-drin ei gael ar berthnasoedd rhiant nad yw’n cam- drin-plentyn a pheidio â rhoi’r cyfrifoldeb am gam-drin cyflawnwr ar rieni nad ydynt yn cam-drin.
-
ystyried sut y caiff hyfforddiant a ddarperir i weithwyr proffesiynol lleol (ar bob math o VAWG) ei werthuso, a sut i sicrhau ei fod yn gwneud gwahaniaeth, gan gynyddu dysgu ac ymwybyddiaeth o wasanaethau arbenigol lleol a’i fod yn cynnwys llais dioddefwyr.
-
nodi unrhyw fentrau VAWG sy’n cael eu darparu gan yr heddlu lleol gyda chyllid gan y Llywodraeth ganolog, ac a yw mentrau VAWG eraill yn cael eu darparu’n lleol gan y sector VAWG arbenigol. Gallai hyn fod, er enghraifft, drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol neu drwy ymddiriedolaethau elusennol mawr eraill neu sefydliadau sy’n dyfarnu grantiau. Os felly, ystyriwch a allant gefnogi mentrau lleol ac a oes unrhyw ddysgu i’w rannu.
5. Codi ymwybyddiaeth leol o’r materion a chynnwys, ymgysylltu ag a grymuso cymunedau i geisio, dylunio a darparu atebion. Dylai comisiynwyr weithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu amrywiaeth o fecanweithiau adrodd i alluogi dioddefwyr i ddod ymlaen a chyrchu’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt
Er mwyn cyflawni hyn, dylai comisiynwyr:
-
bod yn ymwybodol o’r cwricwlwm statudol ar gyfer addysg perthnasoedd, rhyw ac iechyd sy’n ymdrin â phynciau megis mynd ati i gyfathrebu a chydnabod caniatâd a’r cysyniadau o, a deddfau sy’n ymwneud â, chydsyniad rhywiol, camfanteisio rhywiol, cam-drin, meithrin perthynas amhriodol, gorfodi, aflonyddu, trais rhywiol, cam-drin domestig, priodas dan orfod, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ ac FGM.[footnote 24]
-
cyfeirio at becyn cymorth Cymunedau Ysgol Parchus[footnote 25] am gyngor ar greu diwylliant lle mae aflonyddu rhywiol o bob math yn cael ei ystyried yn annerbyniol. Mae’r Canllawiau Diogelu Statudol Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg[footnote 26] yn rhoi cyngor manwl ar reoli adroddiadau o gam-drin ac yn darparu dolenni i gyngor a chymorth arbenigol.
-
nodi pryd mae hyn yn cael ei addysgu mewn ysgolion a pha weithgarwch ychwanegol sy’n digwydd, gan gynnwys defnyddio deunyddiau ymgyrchu sydd ar gael yn genedlaethol megis ymgyrchoedd y Llywodraeth neu fentrau lleol sy’n codi ymwybyddiaeth o’r mythau a’r stereoteipiau sy’n ymwneud â VAWG. Annog penaethiaid a gwasanaethau arbenigol lleol i gydweithio ar y materion hyn.
-
estyn allan i brifysgolion a’u cyrff cynrychioliadol, i drafod eu gweithrediad o Ddatganiad
-
Ddisgwyliadau Swyddfa’r Myfyrwyr ar gyfer Atal a Mynd i’r Afael ag Aflonyddu a Chamymddwyn Rhywiol.[footnote 27]
-
nodi a yw’r cysylltiadau lleol cywir yn eu lle fel bod ysgolion yn gwybod ble i ofyn am gyngor arbenigol, gan gynnwys a yw plant yn cael cyfle i siarad â rhywun am eu profiadau personol. Er enghraifft, llwybrau atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ym maes cam-drin domestig neu drais rhywiol plant. Ystyried a oes mynediad i ddarpariaeth sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad rhywiol treisgar neu amhriodol, a sut mae pobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol yn cael eu cefnogi i newid eu hymddygiad.
-
mapio grwpiau cymorth VAWG lleol, gan gynnwys sefydliadau arbenigol ‘gan ac ar gyfer’ sy’n cefnogi dioddefwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, dioddefwyr gwrywaidd, dioddefwyr byddar ac anabl, dioddefwyr LHDT a dioddefwyr a goroeswyr ymylol eraill i ddarganfod pwy maent yn eu cyrraedd a pha arbenigedd sydd ganddynt fel y gellir alinio hyn â’r nodau.
-
nodi a hyrwyddo pwyntiau cyffwrdd ehangach yn eich cymuned, gan gynnwys, er enghraifft:
-
a oes gan gyflogwyr lleol bolisïau ar VAWG, neu a all y Siambr Fasnach leol eu hannog i wneud hynny, neu ymuno â Menter y Cyflogwyr ar gyfer Cam-drin Domestig.[footnote 28]
-
pa gamau y mae banciau a chymdeithasau adeiladu lleol yn eu cymryd i nodi a chefnogi dioddefwyr cam-drin ariannol ac economaidd, gan gynnwys sut y gallai hyn fod yn rhan o batrwm ehangach o gam-drin, megis ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.
-
pa gamau y mae banciau a chymdeithasau adeiladu lleol yn eu cymryd i ddarparu pwyntiau datgelu diogel i gwsmeriaid sy’n agored i niwed, gan gynnwys pobl anabl neu henoed nad ydynt efallai’n gallu mynychu cangen banc yn bersonol. Dylai hyn gynnwys cyfeirio cwsmeriaid at wasanaethau cymorth arbenigol priodol.
-
sut mae pobl byddar ac anabl a phobl ag anawsterau dysgu yn yr ardal leol yn gallu datgelu trais neu gamdriniaeth yn ddiogel i weithwyr proffesiynol, gan ystyried unrhyw anawsterau a allai fod ganddynt wrth adael y tŷ neu fynegi eu hunain i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Dylid darparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch (i gyfateb i anghenion y rhai sy’n ei dderbyn) a dylai gynnwys gwybodaeth sy’n disgrifio beth yw cam-drin, oherwydd efallai na fydd rhai pobl yn cydnabod eu bod yn ddioddefwyr a bod angen cymorth pellach arnynt i ddeall beth sy’n digwydd.
-
sicrhau bod ymwelwyr iechyd, gweithwyr proffesiynol tai ac iechyd a gofal cymdeithasol lleol yn cael eu hyfforddi i adnabod pob math o gam-drin a chymryd y camau priodol.[footnote 29]
-
mentrau lleol megis ‘Gofyn i Fi’[footnote 30], ‘Gofyn am ANI’[footnote 31], ‘Mannau Diogel’[footnote 32] a ‘Gofyn am Angela’[footnote 33], ac a allant fod yn rhan o strategaeth i ddarparu mannau diogel lle gall pobl ddatgelu cam-drin yn ystod bywyd bob dydd i rywun a fydd yn gwybod beth i’w wneud.
-
polisïau tai a digartrefedd awdurdodau lleol sy’n cynnwys VAWG.
-
rhaglenni gwylwyr trais rhywiol, a sut y gellir eu defnyddio’n lleol i godi ymwybyddiaeth a helpu i gynyddu adrodd.
-
cyfleoedd i gyrchu’r technolegau diweddaraf a dulliau ar-lein i nodi a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr a’r rhai sy’n poeni am eu hymddygiad eu hunain, gan nodi nad yw mecanweithiau ar-lein yn cymryd lle darpariaeth wyneb yn wyneb.
-
-
At ddiben y ddogfen hon, defnyddir y termau ‘dioddefwr’ a ‘goroeswr’ yn gyfnewidiol i gyfeirio at y rhai sydd wedi profi VAWG. ↩
-
Dylid nodi nad yw’r ddogfen hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol a dylai comisiynwyr gael eu cyngor cyfreithiol eu hunain wrth gomisiynu gwasanaethau. ↩
-
Strategaeth mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched - GOV.UK (www.gov.uk), ↩
-
Datganiad sefyllfa ar ddioddefwyr gwrywaidd troseddau a ystyriwyd yn y strategaeth draws-Lywodraeth ar roi terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) (publishing.service.gov.uk) . I nodi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o’r ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi yn 2022. ↩
-
IDVA: Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig; ISVA: Cynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol ↩
-
Cod Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2020 (publishing.service.gov.uk) ↩
-
Cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau ymosodiadau a cham-drin rhywiol - Gofal gydol oes i ddioddefwyr a goroeswyr: 2018 - 2023 (england.nhs.uk) ↩
-
Arolygiad o ba mor effeithiol y mae’r heddlu yn ymgysylltu â menywod a merched: Adroddiad terfynol (justiceinspectorates.gov.uk) ↩
-
canllaw drafft - dyletswydd trais difrifol (publishing.service.gov.uk) ↩
-
Er enghraifft, gweler cynllun peilot SafeLives Beacon: Manyleb Beacon - Atodiad A_0.pdf (safelives.org.uk ↩
-
Mae gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ yn wasanaethau arbenigol sy’n cael eu harwain, eu dylunio a’u darparu gan ac ar gyfer y defnyddwyr a’r cymunedau y maent yn anelu at eu gwasanaethu (er enghraifft, goroeswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, dioddefwyr byddar ac anabl a dioddefwyr LHDT). ↩
-
Gweler Bacchus, L., Ranganathan, M., Watts, C., Devries, K., 2018. Trais partner agos diweddar yn erbyn menywod a iechyd: adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad o astudiaethau carfan. BMJ Agored, 8(7), tt. 1-20; Whittle, H., Hamilton Giachritsis, C., Beech, A., Collings, G., 2013. Adolygiad o wendidau pobl ifanc i feithrin perthynas amhriodol ar-lein. Ymosodedd ac Ymddygiad Treisgar, 18(1), tt. 135-146; Quigg, Z., Bigland, C., Hughes, K., Duch, M., Juan, M.A., 2020. Trais rhywiol a bywyd nos: adolygiad systematig o lenyddiaeth. Ymosodedd ac Ymddygiad Treisgar, 51; Cusick, L., 2002. Puteindra ieuenctid: adolygiad o lenyddiaeth. Adolygiad o Gam-drin Plant, 11(4), tt. 230-251. ↩
-
[Trosolwg Trais a cham-drin domestig: gweithio aml-asiantaethol Canllawiau NICE](https://www.nice.org.uk/guidance/ph50) -
Gallai darpariaeth arbenigol gynnwys: Rhaglenni Cyflawnwyr Cam-drin Domestig; sgrinio/adnabod arferol mewn lleoliadau iechyd; gweithwyr arbenigol o fewn timau Gwasanaethau Plant; gwell ymatebion gan yr heddlu/System Cyfiawnder Troseddol gan ddefnyddio tactegau tarfu a chasglu tystiolaeth yn well i sicrhau euogfarnau ↩
-
Yng Nghynllun Cam-drin Domestig 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bwriad i gyhoeddi set o Safonau ar gyfer ansawdd ymyriadau cyflawnwyr sydd i’w cyhoeddi yn haf 2022. ↩
-
[Safon Respect Respect](https://www.respect.uk.net/pages/respect-standard) -
Er enghraifft, [One Front Door Safelives](https://safelives.org.uk/one-front-door) -
Gweler: Plismona trais yn erbyn menywod a merched - Fframwaith cyflawni cenedlaethol: Blwyddyn 1 (npcc.police.uk) ↩
-
Gweler Troseddu yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2020 - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) ↩
-
Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi ↩
-
Addysg perthnasoedd a rhyw (RSE) ac addysg iechyd - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Teclyn Hunan-Adolygu a Chyfeirio Cymunedau Ysgolion Parchus (educateagainsthate.com) ↩
-
Mae Menter y Cyflogwyr ar gyfer Cam-drin Domestig (EIDA) yn rhwydwaith busnes sy’n grymuso cyflogwyr i gymryd camau yn erbyn cam-drin domestig, ar gyfer eu staff, a’u sectorau. ↩
-
Er enghraifft, rhaglen IRIS: Ynglŷn â rhaglen IRIS - IRISi ↩
-
Mae Cynllun Gofyn i Fi Y Newid Sy’n Parhau yn hyfforddi pobl bob dydd i ddod yn genhadon cymunedol gyda dealltwriaeth o gam-drin domestig: Gofyn i Fi - Cymorth i Fenywod ↩
-
Mae ‘Gofyn am ANI’ (Angen Cymorth Ar Unwaith) yn gynllun gair cod sy’n gweithredu mewn dros 50% o fferyllfeydd yn y DU. Mae fferyllfeydd yn ymuno â’r cynllun yn wirfoddol sy’n darparu llwybr i ddioddefwyr cam-drin domestig gysylltu â gwasanaethau cymorth drwy staff fferyllfeydd. ↩
-
Mae’r Cynllun Mannau Diogel yn darparu mannau lle gall unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig wneud galwad ffôn yn ddiogel. Mae’n cael ei hwyluso mewn nifer fawr o fferyllfeydd a banciau yn genedlaethol: Lleoliadau Mannau Diogel – MAE’R DU YN DWEUD DIM MWY ↩
-
Mae ‘Gofyn am Angela’ yn fenter ddiogelwch mewn bariau, clybiau a busnesau trwyddedig eraill lle mae pobl sy’n teimlo’n anniogel, yn agored i niwed neu dan fygythiad yn gallu ceisio cymorth yn gyfrinachol drwy fynd at staff y lleoliad a gofyn iddynt am ‘Angela’ ↩