Cynllun Iaith Gymraeg: fersiwn 2020 yn Gymraeg
Published 6 October 2020
Rhagair
Cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 7 Ionawr 2005 a chafodd fersiwn ddiwygiedig ei chymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 16eg Fedi 2020.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Bwrdd Rheoli Asiantaeth yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG), ac Adran Amaethyddol Llywodraeth Cymru wedi cytuno arno, ac yn ei gefnogi’n llawn.
Mae staff yr Asiantaeth a’r cyhoedd wedi cael gwybod amdano.
Bwriedir iddo ddarparu gwasanaethau’r Asiantaeth mewn ffordd gadarnhaol ac effeithiol i gwsmeriaid yng Nghymru.
Gall yr Asiantaeth, o bryd i’w gilydd, gyflwyno diwygiadau i’r cynllun i Gomisiynydd y Gymraeg. Ni chaiff y Cynllun ei addasu heb i’r Comisiynydd gymeradwyo hynny.
Nid yw’r ymrwymiadau am yr iaith Gymraeg o fewn y cynllun hwn yn berthnasol i wasanaethau a ddarperir gan ATG ar ran Llywodraeth Cymru boed yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol. Mae’r gwasanaethau a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i’r safonau iaith Gymraeg a osodwyd ar Weinidogion Cymru o fewn eu hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ac a geir ar wefan y Llywodraeth
Cyflwyniad
-
1. Cafodd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ei sefydlu yn 2001 fel un o Asiantaethau Gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Hi yw’r asiantaeth dalu sy’n gyfrifol am gynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn Lloegr, cynlluniau olynol pan fydd y DU wedi gadael yr UE, a rhai cynlluniau ledled y DU.
-
2. Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am y mesurau PAC a ariennir drwy adran warantu Cronfa Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop a ddirprwyir iddo yn Lloegr ac, fel sy’n briodol, yn y DU. Mae hefyd yn darparu data hygyrch o ansawdd uchel ar statws olrhain anifeiliaid ym Mhrydain Fawr. Mae’r Asiantaeth yn dyrannu dros £2 biliwn o daliadau i ffermwyr a masnachwyr o dan amrywiaeth o gynlluniau gwahanol.
-
3. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy’n penderfynu ar bolisi cyffredinol a fframwaith ariannol yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r Asiantaeth yn gweithredu ar ran y Gweinyddiaethau Datganoledig drwy’r Cytundebau Asiantaeth priodol.
-
4. Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am reoli’r Asiantaeth o ddydd i ddydd, gyda chefnogaeth tîm o uwch-reolwyr. Mae Bwrdd Rheoli Asiantaeth, y mae’n aelod ohono, yn darparu cyfeiriad strategol a goruchwyliaeth i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig.
-
5. Ar hyn o bryd, mae’r Asiantaeth yn cyflogi tua 2,800 o staff, mewn swyddfeydd ledled Lloegr, ac mae ganddi swyddfa fechan iawn yng Nghaernarfon.
-
6. Ym mis Ebrill 2003, daeth yr Asiantaeth a Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain ynghyd. Cafodd y Gwasanaeth Symud Gwartheg ei sefydlu yn 1998 i reoli’r System Olrhain Gwartheg, a oedd â thua 12,000 o gwsmeriaid yng Nghymru yn 2019. Prif swyddogaeth y Gwasanaeth yw creu a chynnal cronfa ddata gywir o wartheg, eu lleoliad, a’u hanes symud ym Mhrydain Fawr. Ei brif gwsmeriaid yw ceidwaid gwartheg a’u hasiantiaid, arwerthwyr da byw, cymdeithasau bridiau gwartheg ac eraill yn y diwydiant cynhyrchu da byw. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weithrediadau’r Gwasanaeth yng Nghymru.
Cynllunio a darparu gwasanaethau
Polisïau a mentrau newydd
-
7. Mae polisïau a mentrau newydd fel arfer yn deillio o benderfyniadau gan Adrannau Amaethyddiaeth y DU, a chânt eu cyflwyno gan yr Asiantaeth yn ôl y gofyn. Bydd yr Asiantaeth yn asesu goblygiadau unrhyw bolisïau/mentrau newydd er mwyn sicrhau bod unrhyw rai a roddir ar waith yng Nghymru yn gyson â’r ymrwymiadau yn y Cynllun hwn. Gofynnir i staff ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg cyn cyflwyno unrhyw bolisi neu fenter newydd.
-
8. Pan fydd polisïau a mentrau newydd yn cael eu cynllunio a’u gweithredu byddwn yn:
-
i) sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf a’r Mesur, er mwyn iddynt sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chyhoeddiadau newydd yn gydnaws â’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Iaith Gymraeg;
-
ii) sicrhau bod polisïau a mentrau newydd yn gyson â’n Cynllun Iaith Gymraeg ac nad ydynt yn ei danseilio.
-
Byddwn yn sicrhau bod pob aelod o staff sy’n gweithio ar bolisïau newydd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Gwneir hyn drwy hysbysiad ar draws yr Asiantaeth a gohebiaeth bellach rhwng ein Huned Iaith Gymraeg a’r rhai yn yr Asiantaeth sy’n delio’n uniongyrchol â’r cyhoedd yng Nghymru.
Darparu gwasanaethau
-
9. Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau’n ddwyieithog lle ceir siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth dwyieithog ar gyfer y System Olrhain Gwartheg ac ar gyfer System Cofrestru Cwsmeriaid a Chanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yr Asiantaeth. Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut rydym yn cymryd camau i gydymffurfio ag egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg a chanllawiau a chyngor Comisiynydd y Gymraeg. Amlinella sut rydym yn cynnig darparu a threfnu gwasanaethau gwahanol yn Gymraeg ac amserlen ar gyfer gweithredu’r Cynllun.
-
10. Byddwn yn annog pob sefydliad arall rydym yn delio ag ef i ystyried y Gymraeg. Gwnawn hyn drwy gynnwys gofyniad mewn cytundebau gweithredu a chontractau a/neu drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o’n dymuniadau. Er enghraifft, caiff ein hasiantiaid yng Nghymru ar gyfer arolygiadau adnabod gwartheg ar ffermydd eu hannog i gynnig cyfathrebu yn Gymraeg wrth ddelio â cheidwaid gwartheg, a chaiff y rhai sy’n paratoi deunydd ar gyfer y System Olrhain Gwartheg yng Nghymru mewn sefyllfa codi tâl, e.e. anfonebau ceidwaid gwartheg, eu contractio i lunio dogfennaeth ddwyieithog.
-
11. Lle y caiff gwasanaethau eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru gan sefydliadau eraill ar ein rhan, byddwn yn cynnwys cymal yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth sy’n nodi’r angen iddynt gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny.
-
12. Bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn:
-
i) darparu deunydd Cymraeg fel y bo’n briodol (mae Atodiad B yn darparu canllaw staff ar sut i asesu hyn);
-
ii) sicrhau ei bod yn cadw cofrestr o’r cwsmeriaid hynny sydd wedi nodi dewis iaith o ran y System Olrhain Gwartheg;
-
ii) sicrhau bod staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg;
-
iv) annog trydydd partïon (e.e. sefydliadau ffermwyr, marchnadoedd da byw, lladd- dai a swyddogion gorfodi) sy’n cyhoeddi canllawiau ar weithdrefnau i’r cyhoedd i wneud hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg;
-
v) cyflogi cyfieithwyr allanol proffesiynol.
-
-
13. Mewn achosion lle gall gwybodaeth gael ei throsglwyddo i sefydliadau eraill, fel yr heddlu neu Cyllid a Thollau EM, caiff manylion am ddewis iaith (lle mae’n hysbys) eu cyfleu i’r sefydliad sy’n ei derbyn drwy lythyr eglurhaol.
Safon gwasanaeth a thargedau
-
14. Mae’r Asiantaeth yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gwneir yr ymrwymiad hwn yn glir yn ei holl ddeunydd cyhoeddedig am ei gweithgareddau yng Nghymru. I’r perwyl hwn byddwn yn cyflogi cyfieithwyr allanol proffesiynol.
-
15. Bydd y targedau ar gyfer delio â gohebiaeth a galwadau ffôn yr un peth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Caiff y targedau hyn eu monitro gan yr Asiantaeth er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn cyrraedd yr un safon.
Delio â’r cyhoedd sy’n siarad cymraeg
Cyfathrebu dros y ffôn
-
16. Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn gweithredu llinell gymorth da byw ddwyieithog at ddefnydd pob ceidwad gwartheg yng Nghymru. Mae ei horiau agor yr un peth â llinell gymorth Lloegr a’r Alban ac mae’r un dangosyddion perfformiad yn gymwys.
-
17. Pan fydd rhywun yn ffonio’r llinell gymorth ddwyieithog, gofynnir yn gyntaf a yw am siarad Cymraeg neu Saesneg;
-
i) os bydd yn dewis yr opsiwn Saesneg, fe’i hailgyfeirir i’r llinell gymorth da byw Saesneg; os bydd yn dewis yr opsiwn Cymraeg, trosglwyddir yr alwad i siaradwr Cymraeg, a all fod wedi’i leoli yn swyddfa’r Gwasanaeth yn Workington neu yn swyddfa APHA yng Nghaernarfon;
-
ii) os na fydd unrhyw siaradwr Cymraeg ar gael, ar ôl 2 funud caiff yr opsiwn i ofyn i siaradwr Cymraeg ei ffonio’n ôl neu i barhau â’r alwad yn Saesneg;
-
iii) os bydd ymholiad yn gymhleth neu’n arbenigol, gellir gofyn i’r unigolyn ei anfon yn ysgrifenedig a chaiff ymateb ysgrifenedig ei anfon ato yn Gymraeg. Dyma’r drefn arferol ar gyfer ymholiadau cymhleth yn Saesneg.
-
-
18. Os bydd siaradwr Cymraeg yn cysylltu â’r Gwasanaeth ar unrhyw linellau ffôn eraill, bydd staff di-Gymraeg yn egluro nad ydynt yn siarad Cymraeg. Os bydd yr unigolyn am siarad Cymraeg, bydd staff yn ceisio cysylltu’r alwad â rhywun sy’n siarad Cymraeg. Os na fydd unrhyw siaradwr Cymraeg ar gael ar y pryd, rhoddir yr opsiwn i siaradwr Cymraeg ei ffonio’n ôl neu i barhau â’r alwad yn Saesneg.
-
19. Caiff staff switsfwrdd arbenigol a staff eraill ganllawiau ar sut i ddelio â galwadau ffôn Cymraeg. Cedwir rhestr gyfredol o staff Cymraeg fel bod modd gwybod pwy sydd ar gael i dderbyn galwadau.
-
20. Bydd staff sy’n derbyn galwadau llinell uniongyrchol yn Gymraeg yn dilyn y gweithdrefnau uchod hefyd.
Gohebiaeth ysgrifenedig (e-bost a phost)
-
21. Mae’r Asiantaeth yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn yn sicrhau’r canlynol:
-
i) caiff llythyrau a ysgrifennir yn Gymraeg ymateb wedi’i lofnodi yn Gymraeg.
-
ii) bydd ein hamser targed ar gyfer ymateb yn Gymraeg a Saesneg yr un peth, a byddwn yn monitro pa mor dda rydym yn gwneud hyn. Pan na fydd modd ymateb o fewn terfyn amser, bydd y sawl sydd wedi cysylltu yn derbyn cydnabyddiaeth ysgrifenedig o’i ohebiaeth yn Gymraeg.
-
iii) pan fyddwn yn cysylltu â grŵp neu unigolyn sydd wedi nodi mai Cymraeg yw ei ddewis iaith, byddwn yn ysgrifennu yn yr iaith honno. Bydd hyn yn cynnwys cylchlythyrau a llythyrau safonol.
-
iv) bydd gohebiaeth yn deillio o gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu sgyrsiau ffôn yn Gymraeg hefyd yn Gymraeg, oni fydd yr unigolyn dan sylw wedi gofyn fel arall.
-
-
22. Byddwn yn rhoi canllawiau i bob aelod o staff ar y gweithdrefnau i’w dilyn o ran gohebiaeth. Gwneir trefniadau ar gyfer gwasanaeth cyfieithu effeithiol fel bod modd delio â gohebiaeth yn brydlon.
Bydd cyfarwyddiaethau yn cadw cofnodion cyfredol o’r sefydliadau a’r unigolion hynny y maent mewn cysylltiad rheolaidd â nhw sydd am ohebu yn Gymraeg.
Gwefan
-
23. Bydd yr Asiantaeth yn defnyddio ei gwefan (www.rpa.gov.uk) i sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael yn hawdd. Bydd yn sicrhau bod y canlynol o leiaf yn ymddangos ar y wefan yn Gymraeg:
-
i) cyflwyniad i’r Asiantaeth;
-
ii) Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth yn Gymraeg a Saesneg;
-
iii) rhestr o gyhoeddiadau, ffurflenni a nodiadau cyfarwyddyd sydd ar gael yn Gymraeg;
-
iv) rhestr termau Cymraeg;
-
v) datganiadau i’r wasg ar weithgareddau yng Nghymru:
-
vi) unrhyw ddogfennau a gyhoeddir ar ffurf copi caled yn Gymraeg.
-
-
24. Mae sianel e-fusnes y System Olrhain Gwartheg, SOG Ar-lein (www.bcms.gov.uk), yn gwbl ddwyieithog.
Achosion llys
-
25. Lle byddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn rhywun yng Nghymru, llys yng Nghymru a fydd yn cynnal yr achos fel bod modd arfer hawliau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Darperir y wybodaeth yn Gymraeg lle gofynnir am hyn neu lle bydd gohebiaeth flaenorol wedi nodi bod hyn yn ofynnol.
-
26. Bydd yr Asiantaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hwyluso achos llys Cymraeg lle dymunir hynny.
Wyneb cyhoeddus yr asiantaeth taliadau gwledig
Hunaniaeth gorfforaethol
- 27. Bydd papur pennawd, slipiau cyfarch, a chardiau busnes a roddir gan yr Asiantaeth i’r cyhoedd yng Nghymru yn cynnwys enw, cyfeiriad a gwybodaeth safonol arall ddwyieithog. Byddant yn cynnwys logo dwyieithog.
Cyhoeddiadau a deunydd argraffedig
-
28. Lle y bo’n briodol, yn unol â’r matrics yn Atodiad B, bydd yr Asiantaeth yn darparu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o ddeunydd cynllun cysylltiedig. Bydd y ddwy fersiwn yn cael eu paratoi ar yr un pryd ac ar gael gyda’i gilydd.
-
29. Ar gyfer y System Olrhain Gwartheg, mae’r holl ddeunydd ar gyfer ein cwsmeriaid yng Nghymru ar gael yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg. Lle bynnag y bo modd, caiff un ddogfen ddwyieithog ei llunio.
-
30. Mewn rhai achosion, efallai na fydd modd llunio dogfen ddwyieithog am resymau technegol neu resymau eraill (e.e. hyd yr argraffu, cost, amseru, galw tebygol, gwerth am arian neu oherwydd y rhwydwaith dosbarthu a ragwelir). Yn yr achosion hyn, cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Drwy flaengynllunio, byddwn yn ceisio sicrhau bod y ddwy fersiwn ar gael ar yr un pryd, a bydd pob un yn cynnwys neges glir bod fersiwn ar gael yn yr iaith arall. Os cânt eu harddangos, caiff y ddwy fersiwn eu harddangos gyda’i gilydd. Bydd y ddwy fersiwn ar gael i’r un graddau, boed hynny dros y cownter neu drwy’r post. Os codir tâl am ddogfen, bydd pris y fersiwn Gymraeg yr un peth â’r Saesneg. Os mai dim ond ychydig o fersiynau Cymraeg sydd eu hangen, cânt eu cynhyrchu’n electronig ar yr un pryd ac yn yr un fformat â’r fersiwn Saesneg ond fe’u hargreffir ar gais.
-
31. Caiff ein staff wybod am y weithdrefn i’w dilyn wrth lunio deunydd i’w ddefnyddio yng Nghymru. Ffafrir fersiynau dwyieithog, a chaiff staff ganllawiau clir ar yr adegau pan fydd fersiynau iaith unigol yn dderbyniol. Mae Atodiad B yn darparu canllawiau ar sut i benderfynu a oes angen cyfieithu dogfen ai peidio.
Ffurflenni a deunyddiau cysylltiedig
-
32. Bydd ffurflenni a deunydd cysylltiedig ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan ddilyn y canllawiau yn Atodiad B neu ar gais.
-
33. Lle na fydd yn ymarferol llunio un ddogfen ddwyieithog efallai, caiff fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân eu llunio. Oni bai bod achosion eithriadol, fe’u cyhoeddir gyda’i gilydd.
-
34. Caiff deunyddiau a lunnir mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân eu harddangos â’r un amlygrwydd. Ar ffurflenni newydd neu ffurflenni a ail-argreffir, ychwanegir datganiad dwyieithog bod fersiwn ar gael yn yr iaith arall. Lle na fydd cwsmer yng Nghymru wedi mynegi dewis iaith, caiff gynnig dewis neu anfonir y ddwy fersiwn ato.
-
35. Bydd ffurflenni’n ymwneud â’r System Olrhain Gwartheg a anfonir at y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog. Fel arfer caiff un ddogfen ddwyieithog ei llunio, ond lle byddai un ddogfen yn rhy hir, cymhleth neu anodd ei phrosesu, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o’r un ffurflen ar gael ar yr un pryd ac fe’u cyflwynir gyda’i gilydd. Bydd pob un yn cynnwys neges glir bod y fersiwn iaith arall ar gael.
Datganiadau newyddion
- 36. Bydd blaengynllunio yn ceisio sicrhau bod datganiadau newyddion sy’n ymwneud â gweithgareddau’r Asiantaeth ar gael yn ddwyieithog. Fodd bynnag, weithiau rhaid cyhoeddi datganiadau newyddion ar fyr rybudd ac efallai na fydd amser i gyfieithu datganiadau ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru cyn i’r fersiwn Saesneg gael ei chyhoeddi.
Hysbysebu a chyhoeddusrwydd
-
37. Byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynllunio ymgyrchoedd hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru. Caiff deunydd ei lunio’n ddwyieithog neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Lle caiff hysbysiadau swyddogol a hysbysebion eu rhoi mewn papurau newydd a chylchgronau a ddosberthir yng Nghymru’n bennaf, byddant yn ymddangos gyda’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd. Caiff y ddwy iaith eu trin yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd.
-
38. Bydd deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yng Nghymru fel fideos, tapiau sain ac ymgyrchoedd gwybodaeth ar y radio a’r teledu hefyd ar gael yn ddwyieithog.
-
39. Byddwn yn cynnal arolygon cyhoeddus yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, neu ar ffurf holiadur ysgrifenedig. Caiff ein harolwg cwsmeriaid blynyddol ei gynnal yn Gymraeg a Saesneg.
-
40. Mewn arddangosfeydd, cynadleddau a seminarau yng Nghymru, mae gan ein stondinau arddangosiadau a deunydd dwyieithog, a chânt eu staffio gan bobl a all ateb ymholiadau yn y ddwy iaith.
-
41. Pan fydd ein staff yn cynllunio ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yng Nghymru, cânt ganllawiau manwl er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
Hysbysiadau swyddogol
- 42. Caiff yr holl hysbysiadau swyddogol sy’n ymddangos yn y wasg neu gyfryngau eraill yng Nghymru eu llunio yn Gymraeg ar gyfer y wasg Gymraeg ac yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau eraill a ddosberthir yng Nghymru yn bennaf. Defnyddir Saesneg ar gyfer y wasg gyffredinol yn y DU a’r wasg arbenigol.
gweithredu’r cynllun a’i fonitro
Staff Cymraeg
-
43. Bydd ein gallu i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn dibynnu ar gael mynediad digonol at siaradwyr Cymraeg sy’n meddu ar y sgiliau priodol. Mae wedi bod yn anodd recriwtio a chadw siaradwyr Cymraeg i weithio yn Workington ac felly rydym wedi agor is-swyddfa fechan yng Nghaernarfon. Byddwn yn parhau i gyflawni egwyddor gyffredinol recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi lle mae rhuglder yn yr iaith yn elfen allweddol o’r gwaith, a’u lleoli’n briodol.
-
44. Mae Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yr Asiantaeth yn gallu darparu gwasanaeth i gwsmeriaid Cymraeg. Felly, nid oes angen siaradwyr Cymraeg ymhlith staff swyddfa eraill. Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn mynd ati i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer y llinell Gymraeg, ond ni fydd y rhain wedi’u lleoli yn Workington o reidrwydd. Mae gennym nifer o staff Cymraeg yn gweithio o swyddfa APHA yng Nghaernarfon.
-
45. Byddwn yn ei gwneud hi’n flaenoriaeth rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith ein bod yn croesawu siaradwyr Cymraeg i’r gweithlu. Pan fyddwn yn hysbysebu swyddi lle mae angen siaradwyr Cymraeg, byddwn yn nodi bod angen i ymgeiswyr gyrraedd lefel foddhaol o ruglder o fewn cyfnod cytûn. Lle yr ystyrir bod gallu ieithyddol yn hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer y swydd, nodir hyn yn y disgrifiad swydd.
Trefniadau gweinyddol
-
46. Er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt o ran ein Cynllun Iaith Gymraeg, byddwn yn dosbarthu nodiadau cyfarwyddyd ysgrifenedig ar yr amgylchiadau lle byddwn yn defnyddio’r Gymraeg a’r hyn y mae angen i staff ei wneud i gyflawni ein hymrwymiadau.
-
47. Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr yr Asiantaeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu hadrannau yn cyflawni’r agweddau ar y Cynllun y maent yn gyfrifol amdanynt.
-
48. Mae’r Cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Dîm Gweithredol yr Asiantaeth ac mae wedi’i awdurdodi’n llawn ganddo. Bydd yr Asiantaeth yn sicrhau’r canlynol:
-
i) bod uwch-swyddog a enwir, sy’n atebol i’r Prif Weithredwr, yn gyfrifol am weithredu’r cynllun yn llwyddiannus;
-
ii) bod pob aelod o staff yn gyfarwydd â’r Cynllun, yn gwybod sut y dylai gael ei weithredu, a’r hyn a ddisgwylir ganddynt;
-
iii) bod cyfarwyddiadau a chanllawiau ysgrifenedig ar y Cynllun ar gael i’r rhai sy’n gyfrifol am ei weithredu;
-
iv) bod yr agweddau Cymraeg ar wasanaethau’r Asiantaeth wedi’u hintegreiddio o fewn ei phrosesau gweinyddol arferol;
-
v) bod y cyfieithwyr a ddefnyddir wedi’u cymhwyso’n addas ac yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel;
-
vi) caiff y Cynllun ei weithredu mewn ffordd gynhwysfawr a chyson ar draws yr Asiantaeth
Gwasanaethau a ddarperir ar ran yr Asiantaeth
-
49. Lle y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru ar ran yr Asiantaeth gan drydydd partïon, byddwn yn sicrhau’r canlynol:
-
i) os bydd gan drydydd parti Gynllun Iaith Gymraeg sydd wedi’i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, bod ei wasanaethau i ni o fewn ei gylch gwaith;
-
ii) os nad oes gan y trydydd parti Gynllun Iaith Gymraeg, pan fyddwn yn nodi’r gwasanaeth i’w ddarparu bydd yn cynnwys gofynion Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth;
-
iii) rhoddir canllawiau ysgrifenedig i staff sy’n delio ag asiantiaid a chontractwyr yng Nghymru.
-
Mae hyn hefyd yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau statudol ar ran yr Asiantaeth.
-
50. Bydd yr Asiantaeth yn monitro pa mor dda mae’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofynion hyn, ac yn cael adroddiadau rheolaidd ar berfformiad ganddo.
-
51. Byddwn yn sicrhau bod y cyfieithwyr rydym yn eu defnyddio yn gallu cynnig gwasanaeth cyfieithu o’r radd flaenaf, a’u bod yn gyfarwydd â’r termau technegol priodol. Byddwn yn monitro safonau’n barhaus.
Monitro
- 52. Yr uwch-swyddog a enwir fydd yn gyfrifol am fonitro ac adolygu’r Cynllun.
Bydd y Tîm Gweithredol yn derbyn adroddiad cydymffurfio blynyddol a fydd yn cyflawni’r nodau canlynol:
-
i) Mesur a yw’r Asiantaeth yn cydymffurfio â’r Cynllun;
-
ii) Mesur a yw’r Cynllun yn cael ei reoli’n briodol;
-
iii) Dadansoddi perfformiad yr Asiantaeth ar sail adrannol a chorfforaethol, er mwyn sicrhau cysondeb;
-
iv) Asesu ac ystyried themâu allweddol mewn perthynas â gweithredu’r cynllun;
-
v) Nodi unrhyw wendidau sylfaenol, a llunio cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys amserlen i ddelio â nhw.
Caiff copi o’r adroddiad hwn ei anfon at Gomisiynydd y Gymraeg.
-
53. Ar adeg y cytunir arni â Chomisiynydd y Gymraeg, bydd yr Asiantaeth yn paratoi adroddiad gwerthuso cynhwysfawr a fydd yn asesu ac yn gwerthuso perfformiad o ran gweithredu’r Cynllun ers ei sefydlu. Bydd yr adroddiad hwn yn:
-
i) darparu trosolwg a dadansoddiad thematig o gydymffurfiaeth a pherfformiad ers i’r cynllun gael ei gymeradwyo, o ddau safbwynt – darparu gwasanaethau a rheoli’r cynllun;
-
ii) amlinellu blaenoriaethau at y dyfodol, ynghyd ag amserlen ddiwygiedig ar gyfer rhoi’r mesurau yn y Cynllun ar waith.
Ar yr adeg hon, bydd yr Asiantaeth yn diwygio ac yn diweddaru’r Cynllun Iaith Gymraeg.
Targedau
-
54. Bydd y targedau ar gyfer delio â gohebiaeth, ymholiadau dros y ffôn ac ati yn Gymraeg yr un peth â’r rhai yn Saesneg.
-
55. Byddwn hefyd yn:
-
i) neilltuo un swyddog penodol i fonitro ac adolygu Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth;
-
ii) sicrhau bod y gwaith o fonitro’r cynllun yn broses strwythuredig a pharhaus sydd hefyd yn gymwys i gontractwyr sy’n gweithio i’r Asiantaeth yng Nghymru.
-
Cyhoeddi gwybodaeth
-
56. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan yn cymharu ein perfformiad â’r safonau a’r targedau yn y Cynllun hwn. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fel:
-
i) canran yr ymatebion i ohebiaeth Gymraeg a gyflawnir o fewn terfynau amser penodol;
-
ii) nifer y cyhoeddiadau dwyieithog;
-
iii) perfformiad wrth fodloni terfynau amser ar gyfer prosesu hawliadau a cheisiadau a wneir yn Gymraeg;
-
iv) canran y siaradwyr Cymraeg mewn swyddi lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
-
Os na fyddwn wedi cyflawni ein targedau, byddwn yn esbonio’r rhesymau a’r camau y bwriedir eu cymryd er mwyn unioni’r sefyllfa.
- 57. Caiff crynodeb o’r wybodaeth hon ei gynnwys mewn adroddiad blynyddol.
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun
- 58. Bydd yr Asiantaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cynllun Iaith Gymraeg yn bodoli yn ei holl lenyddiaeth sy’n ymwneud â Chymru ac wrth gysylltu â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg yn bersonol. Bydd ar gael ar gais i holl aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, yn ogystal â phob aelod o staff, ac ymgynghorwyr a chynghorwyr allanol a gyflogir gan yr Asiantaeth. Rhoddir copïau personol o’r Cynllun i’r staff hynny y mae eu gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd yng Nghymru.
Safonau
- 59. Atodir y safonau ar gyfer gweithredu’r cynllun dros y 12 mis nesaf yn Atodiad A. Rhoddir yr amserlen hon ar waith yn ffurfiol o fewn yr Asiantaeth ar ôl iddi gael ei chymeradwyo gan yr Asiantaeth a Chomisiynydd y Gymraeg.
Atodiad A
Gweithredu cynllun iaith gymraeg yr asiantaeth taliadau gwledig
Cynllunio a darparu gwasanaethau
Mesurau |
Dyddiad targed |
---|---|
Pob polisi a menter newydd i ystyried y mesurau yn y Cynllun yn llawn. Paragraff 8 |
Parhaus e.e. mae darpariaeth Gymraeg yn rhan o drefniadau system Cofrestru Cwsmeriaid a Chanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid newydd |
Canllawiau a chyfarwyddiadau gwaith i staff Paragraff 46 |
Cwblhawyd ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. |
Cyflogi cyfieithwyr allanol proffesiynol Paragraffau 47, 51 |
Contract ar waith ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. Caiff hyn ei ymestyn ar draws yr Asiantaeth. |
Gwasanaethau a ddarperir gan drydydd partïon Paragraffau 10, 49-50 |
Darpariaeth Gymraeg mewn contractau, cytundebau lefel gwasanaeth ac ati Parhaus. |
Cadw cofrestr o’r cwsmeriaid sydd am ohebu yn Gymraeg. Paragraff 12 |
Cwblhawyd ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. |
Delio â’r cyhoedd sy’n siarad cymraeg
Mesurau |
Dyddiad targed |
---|---|
Gwasanaeth Cymraeg dros y ffôn Paragraffau 16-20 |
Llinell gymorth Gymraeg Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain – parhaus. |
Gohebiaeth Gymraeg yn cael ymateb Cymraeg Paragraffau 21 a 22 |
Parhaus. |
Deunydd Cymraeg ar y wefan. Paragraff 23 |
Deunydd a nodir yn y Cynllun yn cael ei ychwanegu at wefan yr Asiantaeth o fewn 12 mis. |
Sianel e-fusnes ddwyieithog Paragraff 24 |
SOG Ar-lein – parhaus. |
Wyneb cyhoeddus yr asiantaeth taliadau gwledig
Mesurau |
Dyddiad targed |
---|---|
Hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog wrth ohebu â’r cyhoedd yng Nghymru. Paragraffau 27 |
Cwblhawyd ar gyfer deunydd ysgrifennu Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. |
Gwybodaeth gyhoeddedig gan gynnwys taflenni, ffurflenni a hysbysiadau i’w llunio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog fel sydd ei angen Paragraffau 28-35 |
Parhaus. Ar hyn o bryd, mae pasbortau gwartheg a ffurflenni cais am basbort gwartheg yn gwbl ddwyieithog. Mae ffurflenni cofrestru cwsmeriaid ar gael yn Gymraeg. Caiff ffurflenni SOG newydd eu llunio’n ddwyieithog o’r cychwyn. |
Datganiadau newyddion Cymraeg Paragraff 36 |
Parhaus fel sy’n ofynnol. |
Hysbysebion a chyhoeddusrwydd Cymraeg Paragraff 37-41 |
Parhaus fel sy’n ofynnol. |
Gweithredu’r cynllun a’i fonitro
Mesurau |
Dyddiad targed |
---|---|
Staff Cymraeg |
Staff Cymraeg yn y |
Paragraff 43-45 |
ganolfan alwadau. |
Sefydlu system fonitro Paragraffau 52-53 |
Cwblhawyd ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. |
Neilltuo swyddog penodol i fonitro’r Cynllun Iaith Gymraeg. Paragraff 55 |
Cwblhawyd ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (Uned Iaith Gymraeg ar waith). Bydd y rôl bellach yn cwmpasu gweithgarwch ar draws yr Asiantaeth. |
Adrodd i Comisiynydd y Gymraeg. Paragraff 53 |
Cwblhawyd ar gyfer Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain. |
Sefydlu gweithdrefn gwyno ar gyfer y Cynllun Iaith Gymraeg. |
Parhaus |
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun Paragraff 58 |
Defnyddio gwefan yr Asiantaeth i roi cyhoeddusrwydd i’r cynllun: parhaus. Hysbysebu’r Cynllun mewn llenyddiaeth berthnasol: parhaus wrth i gyhoeddiadau newydd gael eu llunio. Hysbysebu’r Cynllun mewn Adroddiad Blynyddol: bob blwyddyn. |
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r Cynllun a’i ddosbarthu ymhlith partïon â diddordeb Paragraff 58 |
Parhaus. |
Adolygu a diwygio’r Cynllun. |
Mewn ymgynghoriad â Comisiynydd y Gymraeg. |
Atodiad B
Siart i’w defnyddio er mwyn gweld a oes angen cyfieithu dogfen ai peidio.
Ystyriaethau |
2 bwynt |
1 pwynt |
0 pwynt |
---|---|---|---|
1. Os mai dogfen Cynllun ydyw, sawl cwsmer sydd gan y Cynllun yng Nghymru? |
50 neu fwy |
1-49 (os yw’r ffigur hwn yn cynnwys siaradwyr Cymraeg hysbys) |
0 |
2. Nifer y copïau argraffedig i gwsmeriaid yng Nghymru. |
750+ |
150-750 |
-150 |
3. Hyd (nifer y geiriau newydd) |
-5,000 |
5,000-20,000 |
20,000+ |
4. Technegol (h.y. a fyddai’n anodd i ddarllenwr lleyg ddeall y testun?) |
No |
I ryw raddau |
Yes |
5. Cynulleidfa darged |
Aelodau o’r cyhoedd neu sectorau sydd â galw hysbys am y Gymraeg |
Sectorau penodol â diddordeb anuniongyrchol i’r cyhoedd |
Arbenigwyr mewn sectorau lle mae’r galw am y Gymraeg yn isel iawn |
6. Effaith ar y defnyddiwr (a fyddai grwpiau neu unigolion dan anfantais o beidio â chyfieithu deunydd?) |
Yes |
I ryw raddau |
No |
7. A fydd y ddogfen yn effeithio ar ddeunydd dilynol e.e. a gyfeirir ati’n eang mewn deunydd yn y dyfodol? |
Yes |
I ryw raddau |
No |
8. Galw/diddordeb tebygol – yn seiliedig ar asesiad gwrthrychol neu brofiad blaenorol |
Uchel |
Canolig |
Isel |
9. Hirhoedledd (am ba mor hir fydd y ddogfen yn weithredol?) |
Mwy na 2 flynedd |
6 mis - 2 flynedd |
Dros dro (llai na 6 mis) |
10. Statws |
Uchel |
Canolig |
Isel |
11. Natur y ddogfen – a oes ongl Gymraeg amlwg? |
Yes |
I ryw raddau |
No |
12. A yw’r ddogfen yn cyfeirio at gynllun sydd â 50 o gwsmeriaid neu fwy yng Nghymru? |
Yes |
No |
Dylid adio’r pwyntiau at ei gilydd i gael statws blaenoriaeth y ddogfen.
20-13 = Bydd y dogfennau hyn yn ddwyieithog.
12-7 = Dylai’r dogfennau hyn fod yn ddwyieithog, ond bydd hyn yn dibynnu ar yr adnoddau cyfieithu ar y pryd.
6-0 = Saesneg yn unig, ond yn agored i’w hail-ddynodi.
Dylai cydweithwyr sy’n ansicr am ddynodiad dogfennau siarad â’r Uned Iaith Gymraeg a chael cyngor.