Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Blynyddol 2023 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru

Cyhoeddwyd 5 October 2023

Yn berthnasol i Gymru

Diben

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Senedd Cymru i bennu cyfradd Treth Incwm sylfaenol, uwch ac ychwanegol yng Nghymru i’w chymhwyso i incwm trethdalwyr Cymreig nad yw’n deillio o gynilion na difidendau. Defnyddiwyd y pŵer hwn gyntaf mewn perthynas â blwyddyn dreth 2019 i 2020, ac mae’r cyfraddau’n parhau i fod yr un fath â’r rheiny ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn gweithio drwy ostwng cyfradd y DU 10c fesul £1. Codir CTIC ar ben y cyfraddau gostyngol hyn, a gall fod yn is, yn uwch neu’r un fath â chyfraddau’r DU.

Mae Lwfans Personol Treth Incwm yn fater y mae Senedd y DU yn ei gadw’n ôl o hyd.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn 2022 i 2023

Bandiau Cyfraddau Incwm trethadwy
Cyfradd sylfaenol 20% £12,571 i £50,270
Cyfradd uwch 40% £50,271 i £150,000
Cyfradd ychwanegol 45% £150,001+

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gweinyddu CTIC drwy’r prosesau Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad presennol, gan gynnwys drwy ddulliau cydymffurfio a chyfathrebu presennol o ran Treth Incwm. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi gwybodaeth am weinyddiaeth CThEF o CTIC, gan gwmpasu:

  • nodi trethdalwyr Cymreig a rhoi sicrwydd
  • gweithgarwch cydymffurfiad
  • casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano
  • gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid
  • data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu
  • llywodraethu a goruchwylio CTIC
  • costau darparu CTIC, ac ailgodi’r costau hyn ar Lywodraeth Cymru

Adran 1: Nodi a sicrwydd

Pwy sy’n drethdalwr Cymreig?

Mae’n ddigon syml i’r rhan fwyaf o bobl wybod a ydynt yn drethdalwr Cymreig ai peidio mewn unrhyw flwyddyn dreth. Mae unigolion sy’n byw yng Nghymru, ac sydd â’u hunig neu brif fan preswylio yno, yn drethdalwyr Cymreig. Nid yw’r rheiny sydd â’u hunig neu brif fan preswylio wedi’u lleoli mewn man arall yn y DU yn drethdalwyr Cymreig.

Os oes gan berson fwy nag un man preswylio, lleoliad y prif fan neu fannau preswylio sy’n pennu ble mae’n talu ei Dreth Incwm. Os oes gan berson 2 neu fwy o ‘brif fannau preswylio’ mewn gwahanol rannau o’r DU, bydd yn drethdalwr Cymreig os oedd ei brif fan preswylio yng Nghymru am fwy o’r flwyddyn na mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae Aelodau Senedd Cymru sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru hefyd yn drethdalwyr Cymreig, ni waeth beth fo’u man preswylio. Gan nad ydynt yn agored i’r rheolau arferol ynghylch preswylio, rydym yn gweithredu proses ar wahân i sicrhau bod ganddynt y statws preswylio cywir ar ein system.

Gwaith nodi a sicrhau

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn datgan mai nodi trethdalwyr Cymreig yw’r her allweddol i weinyddiaeth CThEF o CTIC yn 2021 i 2022. Nid oes set ddata bendant o breswylwyr Cymru i fesur llwyddiant yn ei herbyn, ond rydym yn hyderus yn ein gallu i nodi trethdalwyr Cymreig fel y manylir isod.

Nid yw’r boblogaeth yn aros yn ei hunfan drwy’r amser, ac mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod rhyw 129,000 o bobl (na fydd pob un ohonynt yn drethdalwyr) yn symud i gyfeiriad dros y ffin bob blwyddyn. Mae oddeutu 69,000 o’r rhain yn dod i Gymru o weddill y DU ac mae oddeutu 60,000 yn mynd o Gymru i weddill y DU. Mae’r gwaith o nodi trethdalwyr Cymru yn broses barhaus, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hwn yn parhau’n gadarn.

Profi yn erbyn data trydydd parti

Mae CThEF yn gweithio gyda chyflenwr allanol i gynnal prawf yn erbyn data trydydd parti. Mae hyn yn cymharu neu’n ‘profi’ data a ddelir gan CThEF â data trydydd parti i asesu cywirdeb data cyfeiriadau CThEF o ran nodi trethdalwr Cymreig. O dan ein trefniadau presennol gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnal prawf yn erbyn data bob 2 flynedd.

Mae 2 gam i’r gwaith profi yn erbyn data trydydd parti:

  • mae’r cyflenwr allanol yn cynnal y sgan cychwynnol drwy gymharu data cyfeiriadau CThEF ar gyfer unigolion ledled y DU â data a ddelir gan drydydd partïon, er enghraifft y gofrestr etholiadol ac asiantaethau gwirio credyd

  • yn dilyn y sgan cychwynnol a gynhelir gan y cyflenwr allanol, mae CThEF yn cynnal dadansoddiad o’r canlyniadau i asesu cywirdeb CThEF o ran nodi trethdalwyr Cymreig. Mae CThEF yna’n cymharu cofnodion sydd heb eu paru yn y sgan cychwynnol â’r cofnodion TWE a Hunanasesiad diweddaraf

Cynhaliwyd y sgan profi yn erbyn data trydydd parti diwethaf yn 2021. O ddadansoddi’r canlyniadau, rydym yn amcangyfrif bod y statws trethdalwr Cymreig cywir wedi’i gymhwyso mewn 98% i 99% o achosion. Nid oedd yr 1 i 2% yn weddill o reidrwydd yn anghywir, ond nid oeddent wedi’u cadarnhau.

Roedd llawer o’r achosion heb eu cadarnhau yn debygol o fod mewn perthynas ag unigolion heb ffynhonnell o incwm TWE, a dyna’r rheswm pam na chawsant eu nodi yn nata CThEF. Byddai’r unigolion hyn felly’n dod y tu allan i gwmpas Cyfraddau Treth Incwm Cymru.

Mae’r canlyniadau hyn yn gyson â’r dadansoddiad o ganlyniadau profi yn erbyn data blaenorol, ac yn awgrymu bod cywirdeb data cyfeiriadau CThEF yn parhau i fod yn uchel. Byddwn yn parhau i asesu hyn, a bydd gwaith profi yn erbyn data’n digwydd ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024.

Diweddariadau data

Mae codau post a’r eiddo o fewn iddynt yn newid o bryd i’w gilydd i adlewyrchu eiddo newydd sy’n cael eu codi ac eiddo presennol sy’n cael eu his-rannu. Mae CThEF yn cael diweddariadau chwarterol ynghylch codau post gan y SYG ac mae CThEF yn diweddaru ei brosesau ar gyfer tynnu sylw at breswyliaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau cywirdeb parhaus o ran codau post a’u statws preswylio.

Sganiau cod post

Mae CThEF yn cynnal sganiau i nodi unrhyw faterion o ran ansawdd data ac i wneud cywiriadau. Bydd wastad angen sicrhau ansawdd y data sy’n dod i’n llaw, ac nid mater sy’n benodol i CTIC yw hyn. Daw ein data cyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys unigolion, cyflogwyr ac adrannau eraill o’r llywodraeth. Nid oes unrhyw broblemau gyda’r mwyafrif helaeth o’r data cyfeiriadau a gofnodwyd ar ein systemau, fodd bynnag mae angen cywiro lleiafrif bach ohonynt.

Mae CThEF yn dibynnu ar ddata gan ffynonellau allanol i gwblhau ein cofnodion. Rydym yn defnyddio rhaglen waith i sicrhau bod unrhyw broblemau o ran data ar gyfer cofnodion trethdalwyr Cymreig yn cael eu nodi a’u cywiro, gan atal unrhyw golled mewn refeniw i Lywodraeth Cymru.

Mae’r sgan i sicrhau ansawdd ein data cyfeiriadau yn gweithredu mewn 2 ran:

  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â rhagddodiad cod post yng Nghymru, ond lle nad yw’r cod post wedi’i gofnodi ar restr CThEF o godau post yng Nghymru, sy’n fyw neu wedi’u dileu
  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â chod post gwag, ond sydd â gair allweddol yng nghorff y cyfeiriad sy’n dangos ei fod yn god post yng Nghymru, er enghraifft, Caerdydd

Canlyniadau’r sgan yn 2022 i 2023

Math o wall Cyflogaeth a phensiwn Newid o 2021 i 2022
Cod post annilys 352 -74.3%
Cod post gwag 418 -77.3%

Mae’r gostyngiad yn nifer y codau post annilys a gwag yn awgrymu bod gwelliannau wedi’u gwneud i’r data gafodd CThEF oddi wrth gyflogwyr a darparwyr pensiwn. Arweiniodd hyn at gywiro llai o gofnodion cwsmeriaid â llaw.

Cywirodd CThEF holl gofnodion cyfeiriadau oedd â chodau post annilys a gwag lle roedd gan unigolyn incwm o gyflogaeth neu bensiwn. Mae hyn yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn colli unrhyw dreth o ganlyniad i broblemau o ran ansawdd y data.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hanfodol i’n hymdrechion i nodi trethdalwyr Cymreig yn gywir. Mae CThEF wedi parhau i ddefnyddio’r sianeli cyfathrebu helaeth sy’n bodoli eisoes i atgyfnerthu negeseuon allweddol o ran WRIT at gyflogwyr ac unigolion. Cyfathrebwyd ag unigolion drwy sianeli sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar-lein, y Cyfrif Treth Personol, a’r Crynodebau Treth Blynyddol. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF pan fydd yn symud.

Mae CThEF wedi cyfathrebu â chyflogwyr drwy sianeli sy’n cynnwys Bwletin y Cyflogwr, Diweddariad i Asiantau, ymgysylltiad Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid â busnesau mawr a chyrff cyhoeddus, fforymau ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr ac asiantau’r gyflogres, GOV.UK a chyfryngau cymdeithasol ar-lein. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar atgoffa cyflogwyr o’r pwysigrwydd o gymhwyso’r codau ‘C’ yn gywir, a anfonwyd atynt gan CThEF.

Sut mae cyflogwyr yn cymhwyso codau treth Cymreig

Pan fydd CThEF yn nodi bod unigolyn yn drethdalwr Cymreig at ddibenion TWE, mae cod treth yn cael ei anfon at ei gyflogwr er mwyn iddo ei weithredu. Mae pob cod treth ar gyfer trethdalwyr Cymreig yn cychwyn gyda’r rhagddodiad ‘C’. Mae’r rhan fwyaf o’r cyflogwyr yn gweithredu’r codau a anfonwyd atynt, fodd bynnag, mae lleiafrif bach yn gwneud gwallau ac yn gweithredu codau heb y rhagddodiad ‘C’.

Mae unigolion yr effeithir arnynt gan y gwallau hyn yn dal i gael eu nodi fel trethdalwyr Cymreig gan CThEF, a thelir y swm cywir o dreth i Lywodraeth Cymru. Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn colli unrhyw refeniw gan ein bod yn defnyddio ein dulliau nodi i gyfrifo alldro CTIC. Gan fod cyfraddau Cymru a gweddill y DU yr un fath am y tro, nid oes neb yn talu’r swm anghywir o dreth o ganlyniad i’r gwall hwn. Byddai hyn yn newid pe bai gwahaniaeth i’w gael yn y cyfraddau, er y byddai cysoni diwedd blwyddyn yn sicrhau bod unrhyw ordaliadau neu dandaliadau yn cael eu cywiro. Pe bai’r cyfraddau’n wahanol, byddai’n bwysig i godau gael eu cymhwyso’n gywir yn y flwyddyn er mwyn sicrhau y byddai trethdalwyr yn wynebu cyn lleied o dandaliadau neu ordaliadau erbyn y gwaith cysoni diwedd blwyddyn.

Mae CThEF yn cefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau Cymreig, a roddir iddynt, yn gywir. Rydym yn cynnal sganiau rheolaidd i fonitro cyfran y cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’.

Cyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’

Mis % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2022-23 % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2021-22 % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2020-21 % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2019-20
Ebrill 2.27% 2.59% 2.47% Amh
Gorffennaf 2.56% 2.02% Amh 1.29%
Hydref 2.44% 2.11% 2.79% 3.58%
Ionawr 2.36% 2.32% 2.77% 0.43%

Mae’r broblem o gyflogwyr yn peidio â chymhwyso’r codau a roddwyd iddynt gan CThEF yn mynd y tu hwnt i CTIC yn unig, a gall hyn adlewyrchu’r heriau ehangach y mae cyflogwyr yn eu hwynebu wrth weithredu TWE. Mewn sawl achos, mae cyflogwr yn methu â chymhwyso codau ‘C’ oherwydd gwall yn ymwneud â’r feddalwedd neu am fod angen diweddariad ohoni.

Felly, mae ein dull o fynd i’r afael â’r rhagddodiaid ‘C’ sydd ar goll yn canolbwyntio ar atgoffa, addysgu a chefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau, a roddwyd iddynt, yn gywir. Lle nad yw hyn yn digwydd, rydym yn ailanfon codau at gyflogwyr i’w hysbysu o’r gwall a, lle bo’n bosibl pan fo cyflogwyr yn cael hyn yn anghywir dro ar ôl tro, rydym yn cysylltu â’r cyflogwr i ddeall pam a’u helpu i gael pethau’n iawn.

Mae’r dull hwn wedi llwyddo i leihau cyfradd y gwallau ar gyfer cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’ o tua 10% yn 2019 i 2020 i tua 2% yn 2022 i 2023. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i sicrhau bod cyfradd y gwallau ar lefel isel.

Adran 2: Cydymffurfiad

Gwiriadau cydymffurfio i faterion treth trethdalwyr Cymreig

Mae CThEF yn rhoi gweithgareddau cydymffurfio ar sail risg ar waith wrth gasglu CTIC yn yr un modd ag y gwnaiff wrth gasglu Treth Incwm oddi wrth drethdalwyr yng ngweddill y DU. Ni ailgodir costau ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y gweithgarwch hwn.

Mae CThEF yn edrych ar risgiau cydymffurfio dros sawl blwyddyn er mwyn cymryd y camau cydymffurfio mwyaf priodol.

Mae CTIC yn parhau ar yr un lefel â chyfraddau Lloegr a Gogledd Iwerddon, felly ar hyn o bryd nid oes risg o newid yn ymddygiad trethdalwyr Cymreig.

Rhoi sicrwydd o gyfeiriadau

Mae CThEF yn monitro tueddiadau pob unigolyn, sy’n talu naill ai drwy Hunanasesiad neu TWE, o ran mudo ar draws y ffin, a hynny drwy gymharu cwsmeriaid a dadansoddi Ffurflenni Treth a newidiadau i gyfrifon treth er mwyn nodi tystiolaeth bosibl o ymatebion ymddygiadol cwsmeriaid.

Mae CThEF hefyd yn dilysu cywirdeb symudiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt a chyflawnder eu data cyfeiriadau. Bydd CThEF yn parhau â’i weithgareddau cyfathrebu â chwsmeriaid, gan atgyfnerthu angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF unwaith y bydd yn symud.

Taflu goleuni pellach

Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng CTIC a chyfraddau’r DU, felly nid yw CThEF yn disgwyl gweld newid mewn ymddygiad sy’n gysylltiedig â CTIC. Mae CThEF yn parhau i gynnal gweithgarwch cydymffurfio yn ymwneud â threthdalwyr Cymreig mewn meysydd ar wahân i CTIC. Os bydd y gwaith hwnnw’n dangos unrhyw dueddiadau o ran ymddygiad a allai hefyd fod yn berthnasol i sicrhau cydymffurfiad â CTIC, byddwn yn eu hystyried yn y dyfodol.

Unigolion cyfoethog

Mae CThEF yn parhau i ddefnyddio ei fodel presennol ar gyfer Rheoli Cydymffurfiad Cwsmeriaid a dulliau eraill o ryngweithio â chwsmeriaid cyfoethog, i godi ymwybyddiaeth, addysgu cwsmeriaid am eu hymrwymiadau CTIC ac asesu risg gydymffurfio sy’n gysylltiedig â chamliwio statws trethdalwyr Cymreig neu danddatgan incwm sy’n agored i CTIC.

Amseru

Yn ogystal â’r Adolygiadau Gwybodaeth Amser Real a gynhelir yn ystod y flwyddyn, mae rhaglen cysoni TWE diwedd blwyddyn yn gwirio’r dreth a ddidynnir yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer pob cwsmer. Mae unrhyw dandaliadau’n cael eu casglu oddi wrth y cwsmer, fel arfer drwy addasiad i god TWE y flwyddyn ddilynol, ac mae unrhyw ordaliadau’n cael eu had-dalu.

Mae angen i gwsmeriaid hunangyflogedig gyflwyno Ffurflenni Treth bob blwyddyn ac nad oedd angen cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 tan fis Ionawr 2023. Felly, byddai gwiriadau cydymffurfio ar Ffurflenni Treth 2021 i 2022 fel arfer yn dechrau yn 2023, er gall ymholiadau gael eu hagor yn gynharach ar gyfer Ffurflenni Treth a gyflwynwyd cyn y dyddiad cau.

Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o’r ymholiadau i Ffurflenni Treth 2021 i 2022 yn dechrau’n syth ar ôl cyflwyno’r Ffurflenni Treth gan fod angen cynnal asesiad risg yn gyntaf.

Adran 3: Refeniw, pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu

Ers i CTIC gael eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2019, mae CThEF yn parhau i weinyddu a chasglu Treth Incwm oddi wrth drethdalwyr Cymreig fel rhan o system dreth y DU. Mae’n talu refeniw CTIC i mewn i Gronfa Gyfunol y DU yn yr un modd ag ar gyfer pob treth arall a dderbynnir. Caiff y refeniw ei drosglwyddo wedyn i Lywodraeth Cymru, a chaiff grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ei ostwng yn unol â hynny, gan adlewyrchu ei phwerau codi refeniw.

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd CThEF Ystadegau Alldro o ran CTIC, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth a ddangosir yng nghyfrifon CThEF, dadansoddiadau pellach o CTIC a gwybodaeth gyfatebol ar gyfer trethdalwyr yng ngweddill y DU. Cyfrifir yr alldro ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, sy’n golygu bod oedi rhwng diwedd y flwyddyn dreth a chyhoeddi’r alldro ar gyfer y flwyddyn honno. Ni fydd alldro 2022 i 2023 yn cael ei gyhoeddi tan 2024.

Alldro CTIC 2021 i 2022

Ar gyfer 2021 i 2022, roedd cyfanswm refeniw Treth Incwm o drethdalwyr Cymreig yn £5.508 biliwn, gan gynnwys refeniw CTIC o £2.384 biliwn a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’r tabl cyntaf isod yn dangos cyfanswm y refeniw o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau (NSND) ar gyfer trethdalwyr Cymreig ac ar gyfer gweddill y DU (gwDU, gan gynrychioli Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn 2021 i 2022. Mae’r ail dabl isod yn dangos refeniw CTIC a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru o Dreth Incwm ar incwm NSND trethdalwyr Cymreig ac yn cymharu hyn â threthdalwyr gweddill y DU yn 2021 i 2022 (er enghraifft, 10c ar y gyfradd sylfaenol, 10c ar y gyfradd uwch, a 10c ar y gyfradd ychwanegol). Mae’r tablau hefyd yn dangos elfennau’r ffigurau.

Cyfanswm refeniw Treth Incwm o Incwm NSND Trethdalwyr Cymreig a di-Gymreig yn 2021 i 2022

NSND Cymreig (£bn) NSND gwDU (£bn) Cyfran Gymreig o holl NSND y DU
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad 2.040 111.094 1.7%
Rhwymedigaeth sefydledig TWE 3.518 76.699 4.0%
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig: Ffurflenni Treth hwyr ac incwm o gydymffurfiad 0.139 6.042 2.1%
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu (0.042) (1.496) 2.6%
Rhyddhad wrth y ffynhonnell (0.087) (2.109) 3.7%
Rhodd Cymorth (0.061) (1.351) 4.0%
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 5.508 188.878 2.6%

CTIC yn 2021 i 2022 yn erbyn Treth Incwm NSND gwDU

NSND Cymreig (£bn) NSND gwDU (£bn)
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad 0.749 33.847
Rhwymedigaeth sefydledig TWE 1.671 35.266
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig 0.057 2.103
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu (0.019) (0.634)
Rhyddhad wrth y ffynhonnell (0.043) (1.055)
Rhodd Cymorth (0.030) (0.676)
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 2.384 68.852

Mae’r oedi wrth gadarnhau swm alldro CTIC gwirioneddol ar gyfer 2021 i 2022 o ganlyniad i’r prosesau TWE a Hunanasesiad. Er mwyn gweinyddu TWE i drethdalwyr, mae CThEF yn cynnal gwaith cysoni diwedd blwyddyn i asesu a yw unigolion wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon ohoni mewn unrhyw flwyddyn dreth. Yn yr un modd, nid yw’n ofynnol i drethdalwyr gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein i CThEF tan 10 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’r rhain yn berthnasol iddynt.

Mae CThEF wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwaith cytûn. Mae hwn yn manylu ar y dadansoddi a’r data y bydd CThEF yn eu darparu i Lywodraeth Cymru i’w chefnogi yn ei gwaith dadansoddi. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod blaenoriaethau newydd yn cael eu trafod a’u hystyried yn erbyn ymrwymiadau presennol. Fel rhan o hyn, mae’r ddwy ochr wedi cytuno ar ba wybodaeth newydd a fyddai’n ddefnyddiol i’w helpu i ddarparu gwell ddealltwriaeth o alldro CTIC.

Mae CThEF yn rhoi data perthnasol i Lywodraeth Cymru am CTIC. Ar lefel y DU, cyflawnir y tasgau hyn gan ddefnyddio Arolwg o Incwm Personol (SPI).

Mae’r SPI yn cael ei lunio i ddarparu sylfaen dystiolaeth fesuradwy y gellir costio newidiadau arfaethedig i gyfraddau treth, lwfansau personol a rhyddhadau treth eraill ar gyfer Gweinidogion y Trysorlys. Fe’i defnyddir i helpu i lywio penderfyniadau polisi o fewn CThEF a Thrysorlys EF, yn ogystal ag at ddibenion modelu a rhagolygu treth.

Mae’r SPI yn seiliedig ar wybodaeth a ddelir gan CThEF am unigolion a allai fod yn agored i dreth y DU. Caiff ei gynnal yn flynyddol gan CThEF ac mae’n cwmpasu incwm sy’n agored i gael ei asesu am dreth bob blwyddyn dreth. Nid yw pob un o’r unigolion yn drethdalwyr oherwydd gall gweithredu rhyddhadau a lwfansau personol eu heithrio rhag bod yn agored i dreth. Pan fo incwm yn fwy na’r trothwy ar gyfer gweithredu TWE, mae’r arolwg yn rhoi ffynhonnell swyddogol, fwyaf cynhwysfawr a chywir y data ar incwm personol.

Mae CThEF yn rhoi copi diweddar o set ddata SPI i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Roedd y copi hwn union yr un fath â’r hyn a ddefnyddiwyd, at ddibenion tebyg, ar lefel y DU, ac eithrio cyfuno ychydig bach o ddata trethdalwyr ar y lefelau incwm uchaf er mwyn osgoi unrhyw doriadau posibl o gyfrinachedd y trethdalwr. Mae CThEF yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) i sicrhau bod yr wybodaeth yn bodloni eu gofynion ac yn cefnogi rhagolygon a’r gwaith o bennu cyfraddau ar gyfer Cymru.

O 2019 i 2020, wrth gyflwyno CTIC, bu gostyngiad yng ngrant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyfateb i 10 pwynt canrannol o bob cyfradd dreth o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau gan drethdalwyr Cymreig, a bod hyn wedi’i gynyddu gan ddefnyddio’r mecanwaith a nodir yn y fframwaith cyllidol y cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU arno ym mis Rhagfyr 2016.

Bob blwyddyn, bydd y derbyniadau treth a gynhyrchir a’r didyniad o’r grant bloc yn seiliedig i ddechrau ar ragolwg ac yna fe’u cysonir â derbyniadau go iawn a gasglir a ddaw yn hysbys tua 15 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol sydd dan sylw.

Mae’n rhaid i CThEF roi data digonol i Lywodraeth Cymru allu cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian sy’n gysylltiedig ag unrhyw newid rhwng symiau CTIC a ragolygwyd a’r symiau a gasglwyd. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae CThEF wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i roi ffigurau CTIC o’r data Gwybodaeth Amser Real (RTI) a gafwyd gan gyflogwyr. Dyma’r dangosydd gorau o dueddiadau mewn rhwymedigaethau Treth Incwm sydd ar gael mewn amser real, ond nid yw’n darlun cyflawn o rwymedigaethau Treth Incwm am ei fod yn eithrio treth a delir drwy Hunanasesiad (a rhai addasiadau a wneir i rwymedigaethau TWE) ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae CThEF yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn darparu’r dadansoddiad gofynnol iddynt. Cyflawnodd CThEF amrywiaeth o allbynnau dadansoddol ar CTIC i Lywodraeth Cymru yn 2022 i 2023, gan gynnwys:

Adran 4: Gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid

Mae CThEF yn gweinyddu CTIC fel rhan o system Treth Incwm y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig, felly, yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu.

Cesglir CTIC drwy brosesau TWE a Hunanasesiad presennol sydd wedi’u haddasu i adlewyrchu cyfraddau CTIC. Mae trethdalwyr Cymreig yn gallu defnyddio arweiniad a sianeli cyswllt cwsmeriaid arferol CThEF i gael cyngor a gwybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o feysydd, bydd gwasanaeth i gwsmeriaid a roddir i drethdalwyr Cymreig yn cael ei gynnwys a’i adrodd yn yr hyn y mae CThEF yn ei adrodd am wasanaethau i gwsmeriaid ar draws y DU.

Mae’r gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gefnogaeth ar gyfer trethdalwyr Cymreig, asiantau a chyflogwyr y mae CThEF wedi’u gwneud yn rhan o’i brosesau presennol yn cynnwys y canlynol:

  • darparu codau treth Cymreig i holl drethdalwyr Cymreig a’u cyflogwyr cyn dechrau’r flwyddyn dreth
  • crynodebau treth blynyddol a gyhoeddir i bob trethdalwr Cymreig
  • diweddaru cyfrifianellau ar-lein cyn dechrau’r flwyddyn dreth gyda chyfraddau CTIC a bennwyd gan y Senedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir i drethdalwyr Cymreig
  • arweiniad ar gyfer darparwyr meddalwedd gyflogres ar sut i wneud cyfraddau Cymreig yn rhan o’u cynhyrchion TWE i gyflogwyr
  • arweiniad ar sut mae penderfynu ar statws trethdalwr Cymreig a’r hyn i’w wneud os yw cwsmeriaid o’r farn bod CThEF wedi nodi eu statws yn anghywir
  • annog cwsmeriaid i ddiweddaru eu manylion personol, gan ganolbwyntio ar ddefnydd o’r Cyfrif Treth Personol
  • anfon tablau treth ar bapur, sy’n adlewyrchu cyfraddau Cymru, at gyflogwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol cyn dechrau’r flwyddyn dreth

Mae rhai agweddau ar wasanaeth cwsmeriaid yn benodol i CTIC, er enghraifft, canllawiau ar statws trethdalwyr Cymreig a’r gallu i drafod â CThEF os oes anghytuno â’r statws man preswylio Cymreig a roddwyd.

Mae’n bwysig bod CThEF yn gallu dangos bod ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y meysydd hyn yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddarparu ar draws y DU gyfan. Felly, mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo CThEF i gasglu ac adrodd am fetrigau allweddol o ran cyswllt cwsmeriaid, sy’n benodol i CTIC. Mae’r metrigau allweddol ar gyfer 2022 i 2023 wedi’u hamlinellu yn yr Atodiad o’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol.

Gwasanaeth Cymraeg

Mae gan CThEF wasanaeth Cymraeg sydd wedi’i hen sefydlu, ers dros 30 mlynedd, ac sy’n cael ei ddarparu o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cyflogir tua 37 o staff amser llawn ar gyfer gwaith yn y Gymraeg.

Mae CThEF yn darparuʼr rhan fwyaf oʼi wasanaethau Cymraeg drwy 2 dîm penodedig o siaradwyr Cymraeg – mae un ym Mhorthmadog aʼr llall yng Nghaerdydd. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaethau cyfieithu, yn ogystal â helpu adrannau eraill yn CThEF gyda materion syʼn ymwneud âʼr Gymraeg. Yng Nghaerdydd, mae hefyd uwch-reolwr dynodedig dros yr iaith Gymraeg. Siaradwraig Gymraeg ydyw, a hithau yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn CThEF.

Cefnogir cymorth CTIC i gwsmeriaid Cymraeg gan y ddau dîm mewn amryw o ffyrdd. Mae CThEF hefyd yn cynnig opsiwn gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid o’r brif linell gymorth Treth Incwm. Mae CThEF yn cael tua 20,000 o alwadau bob blwyddyn gan gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ar draws pob un o’n gwasanaethau cwsmeriaid.

Adran 5: Llywodraethu a goruchwylio

Trefniadau llywodraethu

Mae’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith ar gyfer gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn diwallu anghenion Llywodraeth Cymru. Mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn cael ei llywodraethu ar y cyd gan CThEF a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio’n agos gyda hi i sicrhau bod digon o arolygiaeth o’n gweinyddiaeth o CTIC.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth

Mae ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth â Llywodraeth Cymru yn nodi rhwymedigaethau CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC, a’r mesurau perfformiad ar gyfer monitro hyn. Mae hyn yn sicrhau bod trethdalwyr Cymreig yn cael gwasanaeth o ansawdd cyson ac mae’n galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i fodloni eu priod gyfrifoldebau.

Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn cael ei adolygu’n flynyddol gan CThEF a Llywodraeth Cymru. Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, nodwyd ymrwymiad i CThEF roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisi CTIC.

Mae llofnodwyr y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn CThEF a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i adolygu cynnydd CThEF o ran gweinyddu CTIC.

Bwrdd CTIC

Mae Bwrdd CTIC yn cyfarfod bob chwarter i adolygu gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o CThEF a Llywodraeth Cymru. Daw’r aelodau o feysydd ar draws CThEF sydd â rhan allweddol i’w chwarae yn ein gweinyddiaeth o CTIC. Rhennir cyfrifoldebau cadeirio rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru.

Yn 2022 a 2023, trafododd Bwrdd CTIC amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Roedd hyn yn cynnwys cymeradwyo’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r alldro Cymreig ar gyfer 2021 i 2022, cymeradwyo’r costau i’w hailgodi ar Lywodraeth Cymru, cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, ac adolygu’r Cynllun Cydymffurfiaeth ar gyfer 2022 i 2023.

Yn ystod 2022 i 2023, cynhaliwyd pob cyfarfod Bwrdd CTIC yn rhithiol. O flwyddyn dreth 2022 i 2023 ymlaen, bydd cyfarfodydd hybrid Bwrdd CTIC yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Llundain am yn ail.

Gweithgor Dadansoddol Datganoledig

Mae’r Gweithgor Dadansoddol Datganoledig yn cynnwys cynrychiolwyr o CThEF, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr OBR, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban.

Mae’r gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn trafod, ymhlith pethau eraill, y fethodoleg y mae CThEF yn ei defnyddio i gyfrifo alldro CTIC, a gwaith dadansoddol arall a wneir gan CThEF i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Trefniadau ariannol

O dan y Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn ad-dalu CThEF am unrhyw gostau net ychwanegol yr eir iddynt, yn gyfan gwbl ac o anghenraid, o ganlyniad i weithredu a gweinyddu pwerau CTIC.

Mae gan CThEF broses gadarn ar waith i sicrhau ein bod yn nodi costau gweinyddu CTIC yn gywir. Rydym yn sicrhau ein bod yn darparu digon o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru fel y gall Llywodraeth Cymru fod yn sicr ynghylch cywirdeb y costau sydd i’w hailgodi.

Fel rhan o’r broses hon, mae gennym y Fframwaith Costau a Ailgodir ar waith i nodi ein dull o weithredu a’n rhwymedigaethau ar gyfer ailgodi costau ar Lywodraeth Cymru. Mae hwn wedi’i atodi i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ac yn cael ei adolygu bob blwyddyn.

Rydym yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru bob mis i sicrhau ei bod yn gweld y costau sydd i’w hailgodi – ac mae hyn yn digwydd bob chwarter. Dim ond pan fydd Bwrdd CTIC yn fodlon bod y costau’n gywir y bydd anfoneb yn cael ei chodi.

Yn 2022 i 2023, y costau a ailgodwyd ar Lywodraeth Cymru gan CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC oedd:

Costau a ailgododd CThEF ar Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu CTIC yn 2022 i 2023

Chwarter 1 (£m) Chwarter 2 (£m) Chwarter 3 (£m) Chwarter 4 (£m) Blwyddyn gyfan (£m)
Costau cyflawni a gweithredu 0.09 0.09 0.11 0.13 0.42

Mae CThEF yn ailgodi costau cyflawni a chostau gweithredu CTIC. Costau cyflawni oedd costau cychwynnol sefydlu gweinyddiaeth CThEF o CTIC, a chostau gweithredu yw costau dydd i ddydd y weinyddiaeth hon.

Mae’r siartiau isod yn dangos costau hanesyddol cyflawni a gweithredu CTIC sydd wedi’u hailgodi ar Lywodraeth Cymru, a sut mae costau cyflawni wedi lleihau dros amser. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau pellach i CTIC, mae’n debygol y byddai costau cyflawni pellach.

Costau cyflawni a gweithredu CTIC a ailgodwyd ar Lywodraeth Cymru mewn blynyddoedd blaenorol

2017-18 (£m) 2018-19 (£m) 2019-20 (£m) 2020-21 (£m) 2021-22 (£m) 2022-23 (£m)
Costau cyflawni 0.29 5.44 1.77 0.19 Amh Amh
Costau gweithredu Amh Amh 0.23 0.53 0.44 0.42
Cyfanswm cost CTIC a anfonebwyd yn y flwyddyn ariannol 0.34 5.80 1.60 0.72 0.44 0.42

Sylwer: Ar gyfer ‘cyfanswm cost CTIC a anfonebwyd yn y flwyddyn ariannol’, efallai nad union swm y costau cyflawni a gweithredu yw’r ffigurau a ddangosir oherwydd amserlenni anfonebu.

Archwiliad allanol

Yn ogystal â’r strwythur llywodraethu mewnol y cytunwyd arno gan CThEF a Llywodraeth Cymru, mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC hefyd yn cael ei goruchwylio gan sawl corff allanol.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio gweinyddiaeth CThEF o CTIC bob blwyddyn. Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hadroddiad ar berfformiad CThEF yn 2021 i 2022. Gwnaeth yr adroddiad ganfod bod gan CThEF reolau a gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau bod CTIC yn cael eu hasesu a’u casglu’n briodol, a’i fod yn cydymffurfio â’r rheolau hynny.

Ni wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol unrhyw argymhellion ar gyfer gwella, ac mae ei hasesiad cadarnhaol o weinyddiaeth CThEF o CTIC yn rhoi sicrwydd i ni ein bod ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn cynnal gwasanaeth o lefel uchel i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymreig.

Disgwylir i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weinyddiaeth CThEF o CTIC yn 2022 i 2023 gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

Senedd Cymru

Mae CThEF yn gweinyddu CTIC ar ran Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn atebol i’r Senedd am ein perfformiad. Fel rhan o’r gwaith o roi CTIC ar waith, penododd CThEF Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol (SCY), sydd ar gael i roi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd. Yr SCY presennol yw Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid.

Atodiad: Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol 2022 i 2023

Cyswllt â chwsmeriaid – dros y ffôn

Mae gan CThEF lwybr ffôn CTIC o fewn llinell gymorth Treth Bersonol CThEF. Mae hyn yn rhoi negeseuon cyffredinol wedi’u recordio i gwsmeriaid ar CTIC cyn iddynt siarad ag Ymgynghorydd Cwsmeriaid CThEF. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r holl alwadau gan drethdalwyr Cymreig i CThEF.

Nifer y galwadau ffôn a gafwyd ac a atebwyd

Cyfanswm 2022 i 2023 2021 i 2022 2020 i 2021 2019 i 2020
Galwadau a gafwyd 87 92 120 3
Galwadau a atebwyd 63 70 83 3

Chwiliadau ar y we

Mae gan CThEF nifer o dudalennau gwe sy’n ymwneud â CTIC ar GOV.UK ac mae chwiliadau am y tudalennau hyn yn cael eu monitro:

Tudalen we ar GOV.UK Chwiliadau ar y we yn 2022 i 2023 Chwiliadau ar y we yn 2021 i 2022 Chwiliadau ar y we yn 2020 i 2021 Chwiliadau ar y we yn 2019 i 2020
Treth Incwm yng Nghymru 44,444 39,827 43,337 64,514
Llawlyfr mewnol: Arweiniad ar drethdalwyr Cymreig 186 178 283 612
Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol 1,307,931 1,332,067 1,530,708 1,726,539