Guidance

Welsh: Beth mae PIP yn ei olygu i ofalwyr

Updated 6 December 2018

Eglurhad byr o sut mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn effeithio gofalwyr. Gwiriwch am y fersiwn diweddaraf ac am wybodaeth arall i addasu eich canllawiau a chyfathrebiadau. Diweddarwyd y fersiwn hon yn Ebrill 2014.

1. Sut mae PIP yn effeithio ar Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr?

Fel gyda DLA, bydd cael yr elfen Bywyd bob dydd o PIP yn caniatáu i ofalwr i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau eraill. Bydd y gyfradd safonol ac uwch o’r elfen Bywyd bob dydd o PIP yn fudd-dal cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr a Chredyd Gofalwr, yn union fel mae’r gyfradd ganol ac uchaf o’r elfen gofal o DLA o’i flaen.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Amodau Cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr ewch i ac ar gyfer Credyd Gofalwr ewch i.

2. Pwy all wneud cais am Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr?

Os ydych yn darparu o leiaf 35 awr o ofal i rywun sy’n gwneud cais am, neu yn mynd i wneud cais am yr elfen Bywyd bob dydd o PIP, yna efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Gofalwr yn amodol ar fodloni amodau cymhwyso eraill.

Ni ddylech wneud cais am Lwfans Gofalwr hyd nes bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael dyfarniad o’r elfen Bywyd bob dydd o PIP ar y naill gyfradd neu’r llall. Mae’n rhaid i chi wneud cais am Lwfans Gofalwr o fewn tri mis i’r penderfyniad PIP gael ei wneud neu gallech golli budd-dal.

Efallai y gall gofalwyr nad ydynt yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr fod yn gymwys i gael Credyd Gofalwr.

Os ydych yn darparu o leiaf 20 awr o ofal i rywun sy’n gwneud cais am, neu yn mynd i wneud cais am yr elfen Bywyd bob dydd o PIP, yna efallai y gallech gael Credyd Gofalwr. Mae hwn yn gredyd Yswiriant Gwladol sy’n helpu adeiladu hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Mae’n helpu i sicrhau nad oes unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Am ragor o wybodaeth ewch i gov.uk/carers-credit

Sut y bydd hawlwyr Lwfans Gofalwr neu hawlwyr Credyd Gofalwr presennol yn cael eu heffeithio gan PIP?

Dechreuodd Taliad Annibyniaeth Personol ddisodli DLA ar gyfer pobl anabl 16 i 64 oed o 8 mis Ebrill 2013.

Ni fydd gofalwyr yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn os oes ganddynt hawl i gael Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr oherwydd eu bod yn gofalu am rywun o dan 16 oed, neu os yw’r person y maent yn darparu gofal iddynt yn 65 oed neu drosodd ar 8 Ebrill 2013.

Ni fydd gofalwyr yn cael eu heffeithio os ydynt yn gofalu am rywun sy’n cael Lwfans Gweini.

Bydd gofalwyr yn parhau i gael eu budd-dal ar yr amod eu bod yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr a bod y person meant yn gofalu amdanynt yn parhau i gael yr elfen Bywyd bob dydd o PIP.

Nid oes unrhyw hawl awtomatig i PIP, hyd yn oed os yw’r person rydych yn gofalu amdanynt gyda dyfarniad amhenodol neu oes o DLA. Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdanynt yn gwneud cais, neu nid ydynt yn gymwys ar gyfer yr elfen Bywyd bob dydd o PIP, yna bydd DLA yn dod i ben a bydd eich Lwfans Gofalwr hefyd yn cael ei effeithio.

Bydd DWP yn ysgrifennu at hawlwyr DLA presennol ar ryw adeg o fis Hydref 2015 i roi gwybod iddynt pan fydd disgwyl i’w DLA i ddod i ben, ac egluro sut y gallant wneud cais am PIP.

Os ydych yn cael Lwfans Gofalwr nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau nawr oni bai bod eich amgylchiadau’n newid.

3. Cwestiynau cyffredin sy’n cael eu gofyn ar hyn o bryd

3.1 Pa gyfraddau o PIP fydd yn gyfraddau cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr?

Mae’r cyfraddau safonol ac uwch o’r elfen Bywyd bob dydd o PIP yn fudd-dal cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr a Chredyd Gofalwr.

Sut y bydd y person rwy’n gofalu amdanynt yn gwybod pryd a sut i wneud cais am PIP?

Bydd pob hawlydd DLA eisoes wedi derbyn llythyr yn ystod mis Chwefror neu fis Mawrth 2013 i ddweud mwy wrthynt am PIP a phryd y gallent gael eu heffeithio. Ni fydd y rhan fwyaf o hawlwyr DLA presennol yn cael eu heffeithio tan 2015 neu’n hwyrach.

3.2 Os yw’r person rwy’n gofalu amdanynt yn cael dyfarniad o PIP a fydd fy Lwfans Gofalwr neu Gredyd Gofalwr yn cael ei ôl-ddyddio i pan fyddant yn ei gael?

Gall eich Lwfans Gofalwr gael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad mae PIP yn cael ei ddyfarnu i’r person rydych yn gofalu amdanynt, ar yr amod y caiff ei hawlio o fewn tri mis i’r penderfyniad PIP a bod yr holl amodau hawlio eraill yn cael eu bodloni.

Mae gan hawlwyr Credyd Gofalwr tan ddiwedd y flwyddyn dreth yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’r gofal yn cymryd lle i gyflwyno eu cais. Gellir rhoi ystyriaeth hefyd i geisiadau a wneir y tu allan i’r terfynau amser hyn ond dim ond cyn belled yn ôl â 6 Ebrill 2010, pan gyflwynwyd Credyd Gofalwr am y tro cyntaf.

4. Sut i wneud cais am Lwfans Gofalwr ac i gael rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am PIP i hawlwyr a gofalwr ar-lein yn gov.uk/pip