Canllawiau

Eich trefniant cynhaliaeth plant (Gallwch ei weld ar-lein)

Cyhoeddwyd 12 Awst 2019

Mae’r rhan fwyaf o blant yn elwa o gael rhieni neu warcheidwaid yn rhan o’u bywydau mewn ffordd gadarnhaol, p’un ai ydynt yn byw gyda nhw neu beidio. Gall rhieni helpu i wneud hyn drwy weithio gyda’i gilydd gyda lles hirdymor eu plentyn wrth wraidd popeth.

Mae cynhaliaeth plant yn gefnogaeth i helpu i dalu am gostau byw pob dydd eich plant pan rydych wedi gwahanu oddi wrth y rhiant arall.

Sut y gall y ffurflen yma fod yn ddefnyddiol

Gall y ffurflen drefniant yma eich helpu i weithio gyda’ch gilydd i sicrhau bod eich plant yn cael cymaint â phosibl o gymorth. Defnyddiwch i nodi beth mae’r ddau ohonoch wedi ei gytuno fel bod gennych gofnod o faint o gynhaliaeth plant y bydd un rhiant yn ei dalu.

Os ydych angen help i gyfrifo’r swm o gynhaliaeth i’w dalu, gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant ar GOV.UK.

Eich plant a beth y mae’r ddau ohonoch wedi ei gytuno

Nodwch:

  • enwau llawn eich plant
  • faint rydych wedi cytuno i’w dalu?
  • pwy fydd yn talu hyn?
  • pa mor aml y bydd taliadau’n cael eu gwneud?
  • pryd y bydd taliadau’n cael eu gwneud?
  • sut y bydd taliadau’n cael eu gwneud?
  • fydd y swm neu’r dyddiad talu yn newid i helpu gyda threuliau ychwanegol – er enghraifft, pen-blwyddi neu dripiau ysgol?
  • pryd y bydd y swm neu’r dyddiad talu yn newid

Cymorth arall mae’r ddau ohonoch wedi cytuno arno

Gallai hyn gynnwys pethau fel trefnu gofal plant, talu am wisgoedd ysgol neu weithgareddau cymdeithasol.

Nodwch:

  • beth sydd wedi’i gynnwys?
  • faint fydd yn cael ei dalu?
  • pa mor aml y bydd yn cael ei dalu?

Eich addewid

Mae’r ddau ohonoch wedi darllen y trefniant yma ac wedi cytuno arno. Drwy ei arwyddo, rydych yn addo cadw at y trefniant ar ran eich plant. Os nad yw’r naill un ohonoch yn gallu cadw at y trefniant yma, am unrhyw reswm, rydych yn cytuno i roi gwybod i’r rhiant arall yn syth.

Ydwyf, rwyf yn cytuno i’r trefniant yma.

Llofnod
Enw
Dyddiad

Ydwyf, rwyf yn cytuno i’r trefniant yma

Llofnod
Enw
Dyddiad

Nid dogfen gyfreithiol yw hon, ond mae llofnodi’r trefniant yma yn ddatganiad clir o’ch ymrwymiad i’ch plant.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Gallai pethau newid dros amser, felly efallai y byddwch am gytuno ar ddyddiad yn awr i siarad gyda’ch gilydd ac adolygu eich trefniant gyda’ch gilydd – bob 6 mis efallai.

Bydd pa mor aml y byddwch yn gwneud hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau – er enghraifft, os oes newidiadau i’ch cyflogaeth, perthnasau neu drefniadau.

Nodwch ddyddiad ar gyfer pryd rydych am adolygu’r trefniant yma.

Sut i wneud neu gael taliadau

Mae gwahanol ffyrdd o wneud a chael y taliadau – er enghraifft, archeb sefydlog o gyfrif banc, siec neu arian parod.

Mae’r rhan fwyaf o rieni yn ei chael yn ddefnyddiol i gadw cofnod o daliadau a dalwyd ac a gafwyd. Archeb sefydlog sydd orau ar gyfer sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud yn llawn ac ar amser, ac maent wedi’u cofnodi ar eich cyfriflen banc.

Cadw cofnod ysgrifenedig

Beth bynnag mae’r ddau ohonoch yn ei gytuno, mae’n bwysig eich bod yn ei nodi fel nad oes dryswch.

Mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am gostau magu eich plant, hyd yn oed os nad yw un rhiant yn eu gweld. Nid yw’r trefniant yma yn gyfreithiol rwym, ond mae ei lofnodi’n ffordd o ddangos eich ymrwymiad i’ch plant.

Os yw eich trefniant yn stopio gweithio

Os yw eich trefniadau cynhaliaeth plant yn stopio gweithio, efallai oherwydd na ellir gwneud na chael taliadau, siaradwch gyda’ch gilydd yn syth.

Gallech hefyd ofyn i gyfryngwr teuluol proffesiynol i’ch helpu. Darllenwch mwy o wybodaeth am gyfryngu teuluol.