Anerchiad

Araith olaf Helen Stephenson fel Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau

Helen Stephenson yn annerch digwyddiad gofod3.

Dame Helen Stephenson

Rwy’n falch iawn o fod gyda chi i gyd heddiw ac i fod yn mynychu gofod3 am y tro cyntaf yn bersonol. Diolch i WCVA a phawb sydd wedi chwarae rhan yn y digwyddiad hwn.

Ddwy flynedd yn ôl fe wnes i siarad yn eich gŵyl ar-lein, a oedd yn ffordd wych o gysylltu â phobl yn ystod blynyddoedd y pandemig – ond mae bod yma heddiw yn ein hatgoffa o’r gwerth enfawr sydd i weld ein gilydd wyneb yn wyneb a rhannu syniadau a mewnwelediadau.

Mae hwn yn achlysur arbennig o nodedig i mi, gan mai dyma fy nigwyddiad cyhoeddus olaf fel Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau. Ar ôl saith mlynedd, byddaf yn trosglwyddo’r baton i Brif Swyddog Gweithredol newydd cyn bo hir – ond rwy’n falch o gael y cyfle olaf hwn i rannu rhai myfyrdodau personol o’m cyfnod yn y Comisiwn.

Canllawiau’r etholiad cyffredinol

Fel y gwyddoch, rydym yn cyfarfod heddiw yng nghanol ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Er bod y Comisiwn Elusennau yn rheoleiddiwr annibynnol, rydym yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau cyn yr etholiad ar weithgarwch y gwasanaeth sifil ag sy’n berthnasol i’r llywodraeth ehangach, felly rwy’n gobeithio y byddwch yn deall y byddaf yn osgoi unrhyw beth a allai gael ei weld yn wleidyddol sensitif.

Dydw i ddim yn credo ei fod yn ddadleuol, fodd bynnag, i ddatgan bod etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i nifer o elusennau dynnu sylw at eu hachosion. Wrth wneud hynny, mae’n bwysig bod elusennau’n dilyn y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu.

Mae gan y Comisiwn ganllawiau penodol i helpu elusennau i wneud pethau’n iawn, sydd ar gael drwy ein tudalen etholiad cyffredinol ar Gov.uk – a byddwn i’n annog pob ymddiriedolwr i edrych arno’n ofalus cyn penderfynu a ddylid cymryd rhan yn yr ymgyrch etholiadol hon a sut.

Rôl y Comisiwn

Hwn fydd y 43ain etholiad cyffredinol sydd wedi digwydd ers sefydlu’r Comisiwn Elusennau ym 1853 –rywbeth sy’n ein hatgoffa o hirhoedledd rhyfeddol y Comisiwn, ac o’r system o reoleiddio annibynnol ar elusennau yng Nghymru a Lloegr.

Yn wir, mae’r Comisiwn ymhlith y rheoleiddwyr hynaf sy’n gweithredu’n barhaus unrhyw le yn y byd. Felly er fy mod yn falch o fod y Prif Weithredwr sydd wedi gwasanaethu hiraf, fe’m hatgoffir mai rhan gymharol fach o daith hir y Comisiwn yw fy neiliadaeth ac yn rhan lai fyth o hanes hir gweithredu gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan y Comisiwn yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn rôl arbennig, sydd yn ei dro yn adlewyrchu lle unigryw elusen yn ein cymdeithas. Ein rôl yw cynnal y cyfamod ymddiriedaeth sy’n bodoli rhwng y Senedd, y cyhoedd ac elusennau.

Mae gan elusennau le breintiedig mewn cymdeithas ac yn y gyfraith, sydd yn gwbl briodol. Gall y lle hwnnw gael ei gyfiawnhau dim ond os oes gan y cyhoedd ffydd a hyder yn yr hyn yw elusen. Yn ganolog i’r ymddiriedaeth a’r hyder hwnnw mae rheoleiddio annibynnol.

Pan ymunais â’r Comisiwn am y tro cyntaf, roedd hyder y cyhoedd yn y sector wedi’i siglo’n ddiweddar gan rai sgandalau proffil uchel. Rwy’n falch bod ein hymchwil, ers hynny, yn dangos bod ymddiriedaeth mewn elusennau wedi gwella i raddau helaeth - ac rwy’n ddiolchgar bod fy neiliadaeth wedi gorgyffwrdd â sawl eiliad pan rydym wedi gweld y gorau o’r sector, nid lleiaf oll yn ystod y pandemig.

Ond mae’n dal yn wir y gall gweithredoedd un elusen yn unig gael dylanwad negyddol ar ganfyddiad y cyhoedd o bob elusen arall. Mae ymddiriedaeth yn cael ei hennill yn galed ac yn hawdd ei cholli. Yn y pen draw, mae gwaith elusen yn dibynnu ar ffydd y cyhoedd ac ewyllys da - sydd yn ei dro yn dibynnu ar iddi gyflawni ei diben mewn ffordd sy’n ffyddlon i’w gwerthoedd.

Dyna pam mae rôl y Comisiwn fel rheolydd annibynnol y sector mor bwysig, a pham rydym yn cymryd ymagwedd deg a chytbwys i gefnogi elusennau i wneud pethau’n iawn tra’n cymryd camau cadarn lle gwelwn ddrwgweithredu a niwed.

Felly mae pwrpas craidd y Comisiwn – sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cefnogi elusennau yn hyderus – wedi aros yr un fath drwy gydol ein hanes 170 mlynedd. Ond mae sut rydym yn cyflawni’r diben hwnnw ac yn cyflawni ein huchelgais wedi esblygu’n barhaus.

Cydbwysedd rheoleiddio

Dros amser, yn ddiamau, bu cyfnodau lle gwelwyd bod ffocws blaenoriaeth y Comisiwn yn fwy ar orfodi, ac eraill lle bu mwy ar gymorth i ymddiriedolwyr. Nid yw’r newid hwnnw’n unigryw i reoleiddio elusennau - rydym yn ei weld mewn sawl sector.

Yn fy marn i mae hwn yn ddeuoliaeth ddi-fudd, ffug. Os wyf wedi ceisio cyflawni un peth yn ystod fy nghyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol fe fu i mi gadarnhau o fewn y Comisiwn ddiwylliant sy’n cydnabod bod cymorth a gorfodi cadarn yn begynnau angenrheidiol yn ein gwaith a ddylai ddenu symiau cyfartal o egni rheoleiddiol a buddsoddiad.

Mae elusennau’n cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr gwirfoddol sydd angen ac sydd yn haeddu ein harweiniad gweithredol a’n cefnogaeth i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol a gwneud y gwaith gorau y gallant. Ac mae ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac iechyd cyffredinol y sector yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gymryd camau diysgog pan ydym yn dod ar draws camddefnydd bwriadol neu ddi-hid o elusennau.

Mae’r Comisiwn wedi gwneud llawer iawn dros y saith mlynedd diwethaf i gryfhau’r ddwy agwedd ar ein gwaith:

  • Ailwampio ein canllawiau ar-lein i ymddiriedolwyr a datblygu ymgyrchoedd effeithiol i helpu i sicrhau bod ymddiriedolwyr yn gweld ac yn cyrchu’r canllawiau hynny.
  • Buddsoddi mewn technoleg a fydd dros amser yn caniatáu I ni gael cysylltiad digidol uniongyrchol â phob ymddiriedolwr unigol.
  • Sicrhau ein bod yn defnyddio’r pwerau gorfodi y mae’r Senedd wedi’u rhoi i ni heb ofn na ffafr.
  • Dwyn yr elusennau hynny i gyfrif yn gyhoeddus lle mae pethau wedi mynd o chwith.
  • Ond hefyd bod yn glir pan fo elusennau wedi bod yn destun beirniadaeth gyhoeddus anghywir neu annheg.

Rwy’n falch o’r etifeddiaeth hon ac yn falch iawn bod strategaeth bum mlynedd newydd y Comisiwn yn cadarnhau’r cydbwysedd hwn yn sylfaen i’n gwaith yn y blynyddoedd i ddod.

Ein gwaith yng Nghymru

Rwyf hefyd yn falch mai un o fy etifeddiaethau fydd ein hôl troed gwell yng Nghymru.

Mae’r Comisiwn bob amser wedi cymryd ei gyfrifoldebau fel rheoleiddiwr dwy wlad o ddifrif, gan wasanaethu pobl Cymru a Lloegr. Ond roeddwn am I ni wneud mwy i gynyddu ein hymgysylltiad â’r sector yng Nghymru, gan gydnabod ei nodweddion unigryw.

Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf:

  • Mae ein presenoldeb yng Nghymru yn tyfu – rydym wedi cynyddu maint ein swyddfa yng Nghasnewydd ac mae gennym staff ychwanegol yn ymuno yn fuan.
  • Rydym wedi cymryd camau i wella a bod yn fwy cyson â’n harlwy Cymraeg – gan gydnabod ein cyfrifoldebau fel sefydliad dwyieithog.
  • Rydym wedi cynyddu ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol o Gymru, gan gynnwys WCVA – ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n parhau o dan arweiniad newydd yn y ddau sefydliad.
  • Rydym wedi gwneud ymdrech i fod yn fwy amlwg yng Nghymru. Mae ein Cadeirydd a minnau wedi ymweld â nifer o elusennau ledled Cymru, ac yn gynharach eleni daeth ein Bwrdd cyfan yma ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau o amgylch Caerdydd a Chasnewydd. Ddwy flynedd yn ôl roedd yn bleser gennym gynnal ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol yn yr union leoliad hwn.

Nid yw hyn wedi digwydd er mwyn cael cymeradwyaeth yn unig, ond mae wedi arwain at welliannau gwirioneddol yn ein gwybodaeth am y sector yng Nghymru a’n gallu i’w gefnogi.

Un enghraifft o hyn yw llwyddiant ein rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, sy’n gweithio i nodi cronfeydd elusennol sydd wedi bod yn segur - efallai oherwydd bod elusen wedi rhoi’r gorau i weithredu neu am fod y cronfeydd wedi’u hanghofio.

Diolch i’r prosiect hwn rydym wedi gallu adfywio bron i £10 miliwn o gronfeydd elusennol yng Nghymru a sicrhau bod arian yn cael ei roi tuag at achosion da.

Mewn un achos, roeddem yn gallu gweithio gydag elusen Gymreig a oedd wedi dal £1 miliwn mewn buddsoddiadau ers dros 10 mlynedd. Ymgysylltodd ein tîm â’r ymddiriedolwyr a’u helpu i roi cynlluniau ar waith i wneud defnydd o’r arian – gan arwain at rodd sylweddol i brosiect ysbyty lleol.

Ar nodyn personol, rwyf bob amser wedi mwynhau ymweld ag elusennau yng Nghymru a threulio amser gydag ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yma yn fawr. Mae llawer o elusennau yng Nghymru yn sefydliadau bach, lleol sydd wedi’u gwreiddio’n gadarn yn eu cymunedau.

Mae ymweld â’r elusennau hyn yn teimlo fel eich bod yn treulio amser yng nghanol y gymuned, gyda phobl sydd wedi rhoi llawer o’u bywydau i’w gwasanaethu. Mae wedi bod yn un o bleserau mawr fy amser yn y Comisiwn i weld enghreifftiau mor wych o’r gorau o gymdeithas sifil.

Rôl elusennau mewn cymdeithas

Drwy gydol fy amser yn y Comisiwn mae wedi bod yn amlwg bod rôl, gwerth a phwysigrwydd elusennau yn ein cymdeithas yn parhau i godi.

Mae’r gwahaniaeth y mae elusennau yn ei wneud yn ein cymunedau a’n bywydau i gyd yn anfesuradwy, ac mae’n tyfu.

Mae llawer o bwyntiau cyffwrdd cymdeithasol a diwylliannol yn ein bywydau, o’r crud i’r bedd, yn cael eu cynnig neu eu curadu gan elusen. Rydym yn gymdeithas sydd wedi’i hadeiladu ar symbiosis cryf o’r wladwriaeth, y farchnad, a’r sector elusennol. Ac – yn hollbwysig – mae hyn bellach yn ymddangos yn agwedd a dderbynnir ac yn wir a ddethlir o’n bywyd cenedlaethol. Dylem groesawu’r consensws hwn ar rôl ganolog elusennau.

Rwyf wedi bod yn ymwneud ag elusennau o bron bob safbwynt posibl ers amser maith. Fel gwirfoddolwr fel arweinydd elusen fy hun, o safbwynt y llywodraeth, fel cyllidwr, rhoddwr, ac yn ddiweddarach fel rheoleiddiwr.

Rwyf wedi gweld elusennau’n cyflawni’r amhosibl trwy eu gwaith da. Ac rwyf wedi gweld elusennau yn ei chael hi’n ddrwg iawn.

A phan wyf yn myfyrio ar yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng elusen sy’n llwyddo ac elusen sy’n mynd ar goll ar hyd y ffordd, dyma beth ydyw: elusen wych yw un y mae ei hymddiriedolwyr a’i harweinyddiaeth ehangach, dros amser, yn cael eu harwain bob amser ac yn unig gan ddibenion yr elusen.

Nid trwy fympwy, ffasiwn, neu gyllid ond trwy ymrwymiad ar y cyd i gyflawni’r dibenion a gafodd yr elusen ar y gofrestr yn y lle cyntaf.

Diweddglo

Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud am y Comisiwn a’r sector. Ond mae’n debyg mai’r peth olaf rwyf am ei ddweud yw: diolch, i bob un ohonoch sy’n rhoi eich amser, arian neu arbenigedd i elusen. I’r ymddiriedolwyr, y gwirfoddolwyr a’r staff sy’n rhan o ecosystem y sector gwirfoddol – diolch am bopeth rydych yn ei wneud dros eich elusennau, eich cymunedau a’n cymdeithas gyfan.

Gobeithio fy mod wedi gwneud fy rhan i gefnogi’ch gwaith hanfodol dros y saith mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod y bydd y Comisiwn yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu yn y blynyddoedd i ddod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 June 2024