Yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb yn nodi ei weledigaeth hirdymor ar ddatganoli
Ysgrifennydd Cymru yn siarad yn nigwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig gan nodi ei weledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru.
Ysgrifennydd Cymru yn siarad yn nigwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig gan nodi ei weledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru.
Mae Stephen Crabb wedi pennu Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf fel dyddiad cau ar gyfer sicrhau cytundeb trawsbleidiol ar ddyfodol datganoli yng Nghymru.
Mae ei araith yn nodi’r hyn y mae’n gobeithio ei gyflawni erbyn Dydd Gŵyl Dewi a’r modd y mae’n bwriadu gwneud hynny.
Dywedodd Mr Crabb:
Bore da. Diolch i chi am eich croeso caredig.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’n trefnyddion Acuity Law a’r Sefydliad Materion Cymreig am fy ngwahodd i yma i siarad. Mae’r Sefydliad wedi gwneud cymaint ers iddo gael ei sefydlu 27 mlynedd yn ôl i hyrwyddo trafodaeth ynghylch dyfodol Cymru ac rwy’n parchu ei waith yn fawr iawn.
Mae’n bleser gen i achub ar y cyfle hwn i amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer camau nesaf datganoli yng Nghymru a’r rhaglen waith rwyf wedi’i chychwyn i wireddu’r weledigaeth hon.
Yn gyntaf, hoffwn nodi rhywfaint o gyd-destun personol.
Rwy’n hanu o Sir Benfro – yn ddaearyddol ar ymylon Cymru, yn agosach at Iwerddon nag at Gaerdydd, wedi’i rhannu’n ddiwylliannol ac yn ieithyddol, ac wedi’i hadnabod ers canrifoedd fel “Little England Beyond Wales”.
Treuliais fy mlynyddoedd ffurfiannol yn bennaf yn Hwlffordd, yng nghanol Sir Benfro, ond hefyd yn nhref iard longau Greenock ar lannau afon Clyde yn yr Alban.
Cefais fy magu i fod yn hynod falch o’m gwreiddiau Cymreig ac Albanaidd ac yn hynod falch o’r Undeb, gan ddeall o oedran ifanc fod Prydeindod yn golygu bod yn gymysgedd o’r hyn a’r llall; gwybod bod y Deyrnas Unedig yn deulu o wledydd gwahanol sydd wedi’u huno yn sgil y ffaith eu bod yn rhannu’r un ynysoedd ac am fod manteision undod yn llawer mwy na chostau rhannu; a chredu bod yr Undeb mewn sawl ffordd wedi bod yn stori lwyddiant anhygoel o ran hanes Ewrop a’r byd.
Roeddwn i – ac rwy’n parhau i fod – yn Unoliaethwr i’r carn.
Fel Dinas Caerdydd, pleidleisiodd Sir Benfro yn erbyn creu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997 mewn refferendwm cytbwys iawn. Cyfrifoldeb ein cymdogion yn Sir Gaerfyrddin oedd penderfynu ar ffawd y wlad.
Felly o ran datganoli, mae’n ddigon gwir dweud ein bod wedi cynhesu at y syniad yn hwyr.
Ac mae hynny’n wir am fy mhlaid wleidyddol i hefyd. Am resymau’n ymwneud â’n hanes a’n rhagolwg ni’n hunain, roedd datganoli’n ymddangos yn gysyniad dieithr nôl yn 1997. Felly aethom ati’n frwd i frwydro dros y status quo.
Rydyn ni i gyd yn deall erbyn hyn bod datganoli, yn hytrach na bod yn elyn i’r Undeb, yn gallu bod yn anadl einioes i’r Undeb - os caiff ei wneud yn iawn.
A dyma ein sefyllfa ni heddiw eto - sefyllfa lle bo angen ail-lunio’r Undeb er mwyn iddo oroesi drwy’r ganrif hon.
Yn ystod yr haf, ymwelais â’r Alban deirgwaith i ymgyrchu ochr yn ochr ag actifyddion o’r blaid Geidwadol, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i amddiffyn yr Undeb. Ond cefais f’atgoffa unwaith eto ar yr ymweliadau hynny pa mor bell i ffwrdd mae San Steffan o fywydau’r rhan fwyaf o Albanwyr.
Sefais y tu mewn i’r Senedd wag yn Holyrood un prynhawn gyda Ruth Davidson a chefais fy nharo gan y ffaith nad cysgod i Senedd San Steffan mohoni; mae’n senedd lawn ynddi’i hun; dyma ble y daw Albanwyr i chwilio am atebion i gynifer o’r materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac mae’r Senedd hon yma i aros.
A’r cynnydd hwn mewn cyfreithlondeb a chymhwysedd ac awdurdod yn ddiau yw llwybr ein Cynulliad ni - oherwydd mae’r bobl yng Nghymru wedi pennu’r tynged hwnnw.
Gadewais yr Alban ar y nos Fercher cyn y Refferendwm yn bendant na fyddai pethau byth yr un peth eto o ran ein cyfansoddiad - waeth beth fyddai’r canlyniad y noson ganlynol.
Ac felly yn sgil penderfyniad yr Alban i aros yn rhan o’r DU, cododd cyfle unigryw i ail-lunio dyfodol ein Hundeb. Gwneud i’r Deyrnas Unedig weithio i’n holl wledydd. A chyflawni dyheadau’r bobl ar yr ynysoedd hyn sydd am gael llais cryfach o ran eu materion a’u sefydliadau eu hunain.
Ac ar risiau Stryd Downing ar y bore Gwener eglurodd y Prif Weinidog ei fod am weld Cymru wrth wraidd y cam newydd hwn o feddwl a thrafod ynghylch cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.
Heddiw, hoffwn i esbonio sut y byddwn ni’n cyflawni’r addewid honno, a pha fath o Gymru yr hoffem ei gweld o ganlyniad.
Mae gan y Llywodraeth hon eisoes hanes cadarn o sicrhau datganoli i Gymru.
Yn 2011, cawsom refferendwm ar bwerau deddfu llawn ar gyfer y Cynulliad, a arweiniodd at y Cynulliad yn gallu deddfu ar draws ystod lawn ei feysydd polisi datganoledig.
Yr un flwyddyn, sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, sef Comisiwn “Silk”, i ystyried yr achos dros ddatganoli pwerau treth a benthyca i Gymru a pha un a oedd angen unrhyw newidiadau i bwerau’r Cynulliad.
Cyhoeddodd y Comisiwn hwnnw ddau adroddiad unfrydol yn argymell pwerau datganoli pellach sylweddol i Gymru, adroddiadau a lywiwyd gan ymgynghoriad cyhoeddus eang ledled Cymru a mewnbwn cynrychiolwyr gwleidyddol.
Gwnaethom gyhoeddi Bil Cymru, a fydd yn gweithredu bron bob un o argymhellion Rhan I o Gomisiwn Silk, gan ddatganoli amrywiaeth o bwerau treth a benthyca i Gymru yn cynnwys y dreth tirlenwi, y dreth stamp ar dir ac, yn amodol ar refferendwm, rhywfaint o dreth incwm.
Ers dod yn Ysgrifennydd Gwladol rwyf wedi diwygio’r Bil i ddileu’r cyfyngiad lle caiff cyfraddau eu ‘ cloi’ ar bwerau treth incwm a datganoli i’r Cynulliad y penderfyniad ar b’un a ddylid caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn y refferendwm treth.
O dan y Bil hwn, am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn atebol am gynyddu faint o arian y bydd yn ei wario. Mae’r Bil bellach yn agosáu at ddiwedd ei daith drwy’r senedd a byddwn yn disgwyl iddo gael Cydsyniad Brenhinol ddechrau’r Flwyddyn Newydd.
Rwyf am i Lywodraeth Cymru alw refferendwm cyn gynted â phosibl unwaith y bydd y Bil yn dod i rym, er mwyn rhoi’r pwerau treth incwm ar waith. Bydd hyn yn adnodd pwerus i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu economi Cymru i fod yn fwy deinamig. A bydd yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru.
Ond mae ymgyrch refferendwm yr Alban wedi sbarduno’r drafodaeth ymhellach ynghylch sut y dylid datblygu’r Undeb, ac yn allweddol, ynghylch y pwerau pellach y dylid eu datganoli i wledydd unigol y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n deall hynny.
Ac felly yn sgil y refferendwm, sefydlodd y Llywodraeth bwyllgor Cabinet newydd, dan gadeiryddiaeth William Hague, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, ac wrth gwrs Ysgrifennydd Gwladol Cymru gynt, i oruchwylio’r gwaith hwn ar y cyfansoddiad. Mae’r pwyllgor hwnnw, yr wyf yn aelod ohono, yn ystyried pwerau datganoledig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ynghyd â phwerau newydd i’r Alban.
Mae gennym ni yn awr gyfle unigryw i ail-lunio dyfodol ein Hundeb. O bosibl am ddegawdau i ddod. Mae yna awydd i newid. Mae pobl am gael llais cryfach dros eu materion eu hunain. Mae’n ddigamsyniol yn yr Alban. Yn ddirnadwy yn Lloegr. Ac yn gyffyrddadwy yng Nghymru. Ac mae’n deimlad na ellir ei anwybyddu, ac na fydd yn cael ei anwybyddu.
Ac rwy’n benderfynol na ddylai Cymru gael ei gadael ar ôl yn y drafodaeth bresennol ar ddatganoli. Rwyf am i ni fanteisio ar y cyfle hwn, y foment unigryw hon yn hanes ein cenedl, i ystyried yn gadarnhaol sut yr awn ati i sicrhau’r setliad datganoli gorau posibl i Gymru.
Rwyf am symud ymlaen mewn modd realistig, agored a phragmatig.
Ac ar ddiwedd hyn i gyd rwyf am gael setliad datganoli i Gymru sy’n gryfach ac yn fwy cytbwys, sy’n gweithio i bobl Cymru. Ac mae hynny’n cynnwys Llywodraeth Cymru sy’n fwy atebol i’r bobl sy’n ei hethol.
Yn fras, rwyf am gael setliad datganoli clir, cadarn a pharhaol i Gymru:
-
Setliad sy’n rhoi terfyn ar y drafodaeth gyson, flinderus ynghylch pwerau sydd wedi bod yn rhan annatod o wleidyddiaeth Cymru ers 15 mlynedd ond nad yw pleidleiswyr yng Nghymru yn gallu uniaethu â hi mwyach, ac sy’n gadael i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fwrw ati i sicrhau twf economaidd a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Gymru botensial economaidd gwych - fel y bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghasnewydd yn ei ddangos. Felly beth am roi’r gorau i’r dadlau ynghylch datganoli a chanolbwyntio ar roi hwb i economi Cymru;
-
Setliad sy’n meithrin cydweithrediad nid gwrthdaro rhwng y naill ben i’r M4;
-
A setliad sy’n gweithio i bobl Cymru, lle byddant yn deall pa benderfyniadau a gaiff eu gwneud ar lefel y DU, a pha rai a gaiff eu gwneud yma yng Nghaerdydd. A pham.
Felly sut byddwn ni’n cyflawni hyn? Fy nod i yw ceisio consensws trawsbleidiol ar setliad hirdymor sefydlog i Gymru. Yn anffodus, mae hanes datganoli yng Nghymru wedi bod yn un o anawsterau, tindroi a mantais wleidyddol. Un o ddiffyg a meddwl byrdymor.
Mae angen i ni roi terfyn ar y broses o chwarae’n barhaus â’r setliad datganoli. Beth am i ni daro’r hoelen ar ei phen o safbwynt datganoli. Yn y tymor hwy.
Drwy’r broses drawsbleidiol hon, rwy’n bwriadu cyhoeddi, erbyn Dydd Gŵyl Dewis, set o ymrwymiadau, y mae’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru wedi cytuno arnynt, ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Byddai’r ymrwymiadau hynny’n sail, yn “llinell sylfaenol”, ar gyfer gweithredu ar ddatganoli yng Nghymru ar ôl yr Etholiad Cyffredinol fis Mai nesaf.
Mae hyn yn golygu y bydd pobl yng Nghymru yn gwybod, waeth pa blaid fydd yn ennill yr Etholiad Cyffredinol, y caiff set o ymrwymiadau y cytunwyd arnynt ei gweithredu yn y Senedd nesaf. Rwy’n obeithiol y byddwn ni’n gallu cytuno’n eang ar ddyfodol Cymru, a phennu’r cyfeiriad ar gyfer sicrhau bod datganoli yng Nghymru ar y trywydd iawn yn y dyfodol.
Nid yw’r broses hon yn un heb risg ynghlwm, wrth gwrs. Mae pobl wedi dweud wrthyf fod fy ngobeithion am ddull cydsyniol o weithredu yn “uchelgeisiol”. Ond rwy’n optimistaidd. Rwy’n teimlo bod yr holl bleidiau yn barod i fachu ar y cyfle; anghofio am eiliad eu bod yn anghydweld.
Mae’n anochel y bydd pynciau na fydd y pedair plaid wleidyddol yn gallu cytuno arnynt. Mae hynny’n ddigon teg yn ein democratiaeth ni. Ac mae hynny’n golygu, yn yr etholiad fis Mai nesaf, y bydd gan etholwyr ddewis rhwng y pleidiau gwleidyddol ar i ba raddau y dylid rhoi mwy o bwerau datganoli i Gymru a natur y pwerau hynny. Dewis a gaiff ei ategu gan linell sylfaen gadarn ar gyfer newid y bydd y pedair plaid yn ymrwymo iddo.
Bydd trafodaethau rhwng y pleidiau gwleidyddol yn ategu’r broses hon. Rwyf eisoes wedi dechrau’r drafodaeth honno, a chefais drafodaeth gynhyrchiol ac adeiladol iawn fis diwethaf ag arweinyddion Cymru y pleidiau gwleidyddol yn San Steffan. Byddwn yn cyfarfod eto’r wythnos nesaf i barhau â’n trafodaethau.
Ac, wrth gwrs, byddwn yn cyfarfod ag arweinyddion y pedair plaid yma yn y Cynulliad i wrando ar eu barn. Gwn fod yr arweinyddion hynny wedi bod yn trafod datganoli ar gyfer y dyfodol a, fis diwethaf, fod y Cynulliad wedi cymeradwyo cynnig trawsbleidiol a oedd yn nodi ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at drafod y blaenoriaethau hynny ag arweinyddion y pleidiau yn fuan.
Byddaf hefyd yn ceisio barn busnesau Cymru a’r gymdeithas ddinesig yng Nghymru ar ba fath o ddyfodol y maen nhw’n ei ragweld o safbwynt datganoli. Nid yw hynny’n golygu ailadrodd y gwaith ymgynghori helaeth a wnaed gan Gomisiwn Silk. Ond byddaf yn ymhelaethu ar hynny. Mae datganoli yn rhy bwysig i’w adael i’r gwleidyddion.
Mae nifer o elfennau gwahanol i’r gwaith hwn:
Fframwaith Cadw Pwerau
Yn gyntaf, mae’r cwestiwn hollbwysig sef pa fodel datganoli sy’n briodol i Gymru. Gwyddom ni i gyd am y problemau gyda’r model datganoli presennol a “gyflwynwyd” i ni. Mae’n gymhleth. Mae’n golygu bod y ffin datganoli yn amlwg yn annelwig ac yn aneglur. Ac, yn allweddol, mae wedi golygu penderfynu ar gyfreithiau, y dylid penderfynu arnynt yng Nghymru, yn y Goruchaf Lys. All hynny ddim bod yn iawn.
Rwyf am i ddatganoli yng Nghymru fod yn eglur. Rwyf am i bobl allu deall pwy sy’n gyfrifol am beth. Ac rwyf am i bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig benderfynu ar gyfreithiau Cymru, nid cyfreithwyr yn Llundain.
Dyna pam fy mod i wedi gofyn i’m Swyddfa weithio ar fframwaith cadw pwerau i Gymru – y model sydd ar waith yn yr Alban. Mae’n golygu dull gwahanol ar gyfer datganoli yng Nghymru. Yn lle diffinio beth sydd wedi’i ddatganoli, fel y mae’r setliad presennol yn ei wneud, byddai’n diffinio pa bwerau sydd wedi’u cadw i Senedd y DU. Tybir drwy ddiffyg felly y bydd unrhyw beth nad yw’n cael ei gadw, wedi’i ddatganoli.
Nid newid technegol syml mo hyn. Mae’n arwydd o’r ffydd a’r parch sydd gennym at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd hwn yn argymhelliad allweddol yn ail adroddiad Comisiwn Silk, ac mae cefnogaeth drawsbleidiol glir i’r newid hwn eisoes, yn San Steffan ac yn y Cynulliad.
Nid yw model cadw pwerau yn ateb yr holl gwestiynau anodd ynghylch cymhwysedd ond bydd yn darparu ffin gliriach ar gyfer datganoli yng Nghymru, a’r fframwaith priodol ar gyfer datganoli pellach.
Bydd model cadw pwerau yn sefyll prawf amser ac yn cyflawni’r setliad sefydlog a pharhaol sydd ei angen ar fyrder ar Gymru.
A dim ond model cadw pwerau fydd yn cau pen y mwdwl o ran cwestiynau datganoli afresymol yn cael eu setlo gan gyfreithwyr yn Llundain yn hytrach na chan bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig.
Erbyn 1 Mawrth byddaf yn cyhoeddi braslun o fframwaith cadw pwerau i Gymru. Bydd hynny’n sail gadarn i ddeddfu’n gynnar yn y Senedd nesaf i gyflwyno’r model i Gymru.
Datganoli Pellach
Mae gwaith ailfodelu’r setliad presennol i ddarparu sail fwy manwl, clir a sefydlog i ddatganoli yng Nghymru yn ddechrau da. Ond mae angen i ni wneud mwy byth. Mae angen i ni ofyn i’n hunain: a oes gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru y pwerau priodol i helpu i greu’r swyddi a’r twf economaidd sydd eu hangen ar Gymru. Neu a allent wneud mwy, gyda mwy?
Rwy’n deall awydd pobl yng Nghymru i gael llais cryfach dros eu materion eu hunain. Rwy’n cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio am fwy o ddatganoli bob tro y maent wedi cael cyfle i wneud hynny. Ac os caiff pwerau pellach eu datganoli, dylem fod yn glir ynghylch diben gwneud hynny; beth fyddai’r fantais i Gymru? Sut y byddai pwerau pellach yn helpu i greu swyddi a thwf economaidd?
Mae gennym ni waith heb ei orffen ar ffurf ail adroddiad Comisiwn Silk. Gwnaeth y Comisiwn 61 o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw yn nodi’r pwerau pellach a ddylai gael eu datganoli i Gymru a sut y gellir gwella’r modd y bydd Llundain a Chaerdydd yn gweithio.
Felly, yn ail, rwyf am weithio’n drawsbleidiol, gyda Llywodraeth Cymru, i nodi pa rai o’r argymhellion hynny ar gyfer datganoli pellach y gallwn gytuno arnynt.
Un o’r argymhellion hynny oedd symud i fodel cadw pwerau, ac felly mae ein hymdrech i gytuno ar fater wedi dechrau’n gadarnhaol. Rwy’n hyderus y gallwn ddod i gytundeb trawsbleidiol ar sawl mater arall hefyd.
Byddaf yn siarad â phobl allweddol eraill hefyd. Yr wythnos nesaf, er enghraifft, byddaf yn cwrdd â Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, sydd â barn glir ar faterion fel trefniadau ac arferion gwaith y Cynulliad ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Ac rwy’n awyddus iawn i glywed y dadleuon hyn.
Comisiwn Smith
Mae gwaith yn mynd rhagddo yn yr Alban wrth gwrs i gryfhau pwerau Senedd yr Alban yn y DU. Mae comisiwn, dan arweiniad yr Arglwydd Smith o Kelvin, yn arwain proses drawsbleidiol i gytuno ar fanylion y pwerau hynny.
Ar ddiwedd y mis hwn, bydd Comisiwn Smith yn cyhoeddi set unedig o gynigion, ‘Penawdau’r Cytundeb’, gydag argymhellion ar gyfer datganoli pellach i Senedd yr Alban. Bydd y broses hon yn arwain at Lywodraeth y DU yn cyhoeddi cymalau drafft erbyn 25 Ionawr a fydd yn nodi’r pwerau pellach i’w datganoli.
Bydd hi’n bwysig i ni nodi’r cynigion sy’n deillio o Gomisiwn Smith sy’n mynnu ystyriaeth a dadansoddiad pellach i Gymru. Dyma drydedd elfen y gwaith rydyn ni’n ei gychwyn.
Dydw i bendant ddim yn dweud y bydd yr hyn sy’n iawn i’r Alban o reidrwydd yn iawn i Gymru. I’r gwrthwyneb. Credaf ei bod hi’n bwysig i bob un o’r setliadau datganoledig gael y pwerau priodol ar gyfer y wlad benodol honno.
Ond ddylwn ni ddim gadael i’r cyfle a gyflwynir gan Gomisiwn Smith ein pasio ni heb feddwl pa rai o’i gynigion y mae angen eu hystyried ymhellach yng nghyd-destun Cymru.
Cyllid
Yn bedwerydd, rwy’n cydnabod bod cwestiynau ynghylch cyllid teg i Gymru.
Gwn fod pobl yn pryderu am faint o gyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’n bryder a fynegir yn aml pan fyddaf yn siarad â busnesau a phobl ledled Cymru.
Rydyn ni i gyd wedi clywed y ffigur o £300m y flwyddyn o dangyllido a nodwyd gan yr Athro Gerry Holtham nôl yn 2010.
Mae’n wir yn ystod y deng mlynedd hyd at 2010 fod y lefelau cyllido ar gyfer gwasanaethau datganoledig yng Nghymru wedi cyrraedd yn agosach byth at y lefelau ar gyfer gwasanaethau cyfatebol yn Lloegr. Ond ers hynny mae’r gwrthwyneb wedi digwydd, fel bod y cyllid i wasanaethau cyhoeddus Cymru bellach tua 15% yn uwch na’r cyllid cyfatebol yn Lloegr. Mae hyn tua’r lefel a oedd yn dderbyniol ym marn yr Athro Holtham pan luniodd ei adolygiad.
Nôl yn 2012 cytunom ar broses gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lefelau cyllido yn cael eu hadolygu’n barhaus ac i weithio i ddod o hyd i ateb pe bai’n debygol y byddai cyllid Cymru unwaith eto yn lleihau i’r un lefelau â’r gwariant yn Lloegr. Gan adeiladu ar hyn, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno i ailystyried y trefniadau ar gyfer ystyried cyllido cymharol yn sgil y pwerau ym Mil Cymru.
Ond gadewch i mi esbonio. Ni ddylid defnyddio’r mater cyllido hwn naill ai fel rhwystr i ddatganoli pellach, neu fel esgus dros berfformiad gwael. Mae’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei drafod o ran lefelau cyffredinol y gyllideb yn fach iawn – rhwng un a dau y cant ar y mwyaf. Rwyf am weld Llywodraeth Cymru sy’n sefyll ar ei thraed yn falch ac yn dweud “Ni sy’n gyfrifol amdanoch chi yn y pendraw”.
Does dim dwywaith fod hon yn rhaglen waith uchelgeisiol. Ond mae gen i uchelgais i Gymru.
Rwyf am i ddatganoli yng Nghymru fod yn fwy clir, cryf a chytbwys. Ac rwyf am i Gymru ymfalchïo mewn Undeb ar ei newydd wedd. Gyda Llywodraeth Cymru sy’n atebol i bobl Cymru, yn glir am ei rôl a’i chyfrifoldebau ac yn canolbwyntio ar y materion sydd wir yn bwysig – twf economaidd, swyddi a gwasanaethau cyhoeddus gwell.
I gyflawni hynny, mae’n briodol bod y pleidiau gwleidyddol yn anghofio am eiliad eu bod yn anghydweld er mwyn delio â’r mater allweddol sef beth ddylai’r setliad datganoli priodol fod i Gymru.
Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ar draws pleidiau a rhwng y ddwy Lywodraeth, y gallwn ni ddangos i bobl Cymru cyn yr etholiad nesaf ein bod o ddifrif ynglŷn â chryfhau’r pwerau datganoli a gwneud i ddatganoli weithio i bawb.
Erbyn Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi canllaw, y bydd y pedair prif blaid yng Nghymru wedi cytuno arno, ar gyfer gweithredu ar ddatganoli yng Nghymru yn y Senedd nesaf.
Gall y pleidiau addo mwy byth yn eu hymrwymiadau etholiadol, ond fy addewid i i Gymru yw hyn - waeth pwy bynnag y byddwch chi’n ei ethol y flwyddyn nesaf, fe fyddwch chi’n gwybod y bydd set sylfaenol o bwerau yn dod i Gymru ac fe fyddwch chi’n gwybod beth yw model cadw pwerau.
Bydd y Senedd nesaf yn wynebu’r dasg enfawr o ail-lunio setliadau cyfansoddiadol pob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac o ran Cymru, rwy’n awyddus i fwrw iddi ar unwaith.
Yn olaf, hoffwn gyflwyno fy her i Lywodraeth Cymru. Rwyf am weld rhagor o ddatganoli i Gymru. Ond rwyf hefyd am weld datganoli yng Nghymru – o Gaerdydd i bob cwr o’n gwlad. Rwy’n ymrwymedig i leoliaeth, ac rwyf am weld penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y lefel fwyaf lleol posibl. Dylai hynny olygu bod mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol a chymunedau lleol yng Nghymru, a llai o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn ganolog, gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi ailfywiogi llywodraeth leol yn Lloegr drwy ein hagenda leoliaeth ac mae’n gwireddu gweledigaeth gyffrous o ran datganoli ar gyfer adfywio’r dinasoedd gwych yng ngogledd Lloegr – “the Northern Powerhouse” – fel canolfannau o gryfder dinesig ac economaidd go iawn. Fy neges i i Lywodraeth Cymru yw y dylid gwneud yr un peth yng Nghymru.
Bydd cyfansoddiad yr 21ain ganrif yn ymwneud â gwthio pŵer am i lawr – gwneud penderfyniadau datganoledig sydd wedi’u hategu gan bwerau economaidd ac ariannol go iawn i fynd i’r afael ag arloesedd a thwf. Gall hwn fod yn dempled cyffrous i Gymru hefyd.
Rwyf am weld oes newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru. Un sy’n golygu bod trafodaethau gwleidyddol yn datblygu o’r galw am bwerau pellach, a mwy o arian, i un sy’n canolbwyntio ar y cwestiwn canolog “sut gallwn ni ddefnyddio’r pwerau a’r adnoddau sydd gennym i sicrhau’r gorau i Gymru?”.
Dyna fy ngweledigaeth i.
Pwerau at bwrpas.
Setliad sy’n cyflawni i bobl yng Nghymru.
A Llywodraeth ddatganoledig sy’n cwympo ar ei bai am ei methiannau yn ogystal â dathlu ei llwyddiannau.
Diolch.