Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2022

Cyhoeddwyd 22 June 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £211,990

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 16.2%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.2%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 155.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2022 am 9.30am dydd mercher 22 Gorffennaf 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 16.2% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, i fyny o 12.2% ym Mawrth 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 12.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.2% rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth 2021 ac Ebrill 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.5% rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 9.1% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 28.5% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022. Gwelwyd y twf cryfaf yng Ngheredigion, gan godi 23.0% i £260,000 yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022. Mewn cyferbyniad, Sir Ddinbych welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 9.2% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £195,000.

O’r holl fathau o eiddo, tai sengl ddangosodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 18.0% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022 i £327,000. Gwelwyd y twf blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 9.7% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, i’r pris cyfartalog o £133,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 16.2% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2022, i fyny o 12.2% ym Mawrth 2022.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2022 Ebrill 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £190,544 £165,090 15.4%
Blaenau Gwent £131,596 £107,218 22.7%
Bro Morgannwg £304,037 £253,366 20%
Caerdydd £254,086 £228,197 11.3%
Caerffili £175,694 £153,556 14.4%
Casnewydd £226,869 £201,570 12.6%
Castell-nedd Port Talbot £150,707 £135,367 11.3%
Ceredigion £259,724 £211,197 23%
Conwy £204,178 £183,370 11.3%
Gwynedd £204,313 £180,389 13.3%
Merthyr Tudful £147,341 £123,245 19.6%
Pen-y-bont ar Ogwr £193,297 £174,580 10.7%
Powys £238,189 £203,670 16.9%
Rhondda Cynon Taf £149,724 £133,275 12.3%
Sir Benfro £236,190 £196,958 19.9%
Sir Ddinbych £195,323 £178,791 9.2%
Sir Fynwy £346,291 £294,533 17.6%
Sir y Fflint £207,657 £184,176 12.7%
Sir Gaerfyrddin £197,079 £173,381 13.7%
Tor-faen £192,358 £164,385 17%
Wrecsam £199,555 £173,720 14.9%
Ynys Môn £237,866 £202,413 17.5%
Cymru £211,990 £182,377 16.2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ebrill 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £346,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £132,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2022 Ebrill 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £326,907 £276,995 18.0%
Tŷ pâr £205,379 £176,134 16.6%
Tŷ teras £164,838 £142,411 15.7%
Fflat neu fflat deulawr £133,082 £121,359 9.7%
Holl £211,990 £182,377 16.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Chwefror 2022 Chwefror 2021
Abertawe 208 276
Blaenau Gwent 62 71
Bro Morgannwg 98 217
Caerdydd 294 396
Caerffili 119 187
Casnewydd 140 187
Castell-nedd Port Talbot 102 134
Ceredigion 72 92
Conwy 145 156
Gwynedd 122 139
Merthyr Tudful 56 50
Pen-y-bont ar Ogwr 131 215
Powys 97 170
Rhondda Cynon Taf 227 328
Sir Benfro 114 178
Sir Ddinbych 92 133
Sir Gaerfyrddin 153 240
Sir Fynwy 78 129
Sir y Fflint 117 182
Tor-faen 73 116
Wrecsam 93 119
Ynys Môn 83 84
Cymru 2,676 3,799

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 9.1% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 7.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2018 3,276
Chwefror 2019 3,207
Chwefror 2020 3,168
Chwefror 2021 3,799
Chwefror 2022 2,676

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £310,372 5.7% 30.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £200,287 -0.4% 13.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,306 2.3% 15.8%
Cyn berchen-feddiannydd £246,945 2.1% 16.8%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £205,194 2.4% 16.2%
Morgais £215,967 2.2% 16.3%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2022
Cymru 4

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288